Portmeirion Self Catering Brochure 2017

Page 1

BYTHYNNOD HUNANARLWYO PORTMEIRION www.portmeirion-village.com

SELF CATERING


CROESO Piazzas lliwgar, coedlannau hudolus a thraethau euraidd – cafodd Portmeirion ei ddylunio a’i adeiladu gan Syr Clough Williams-Ellis rhwng 1926 a 1975 ar thema pentref Eidalaidd. Mae nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu wedi’u ffilmio yma, yn cynnwys The Prisoner. Mae gan Bortmeirion 13 o fythynnod hunanarlwyo unigryw ac amrywiol gyda mynediad llawn at gyfleusterau’r gwesty, yn cynnwys pwll, sba, bwytai a bariau.

WELCOME Colourful piazzas, enchanted woodlands and white sand beaches - Portmeirion, located in Gwynedd, was designed and built by Sir Clough William-Ellis in the style of an Italian village. It’s served as the location for numerous films and cult TV shows including The Prisoner. Portmeirion has 13 individually styled cottages with full access to hotel facilities, including pool, spa, restaurants and bars.


CHANTRY Mae’r cyfuniad o ddarnau artistig ac ategolion hŷn yn rhoi naws gartrefol i’r bwthyn cyfleus a chwbl unigryw hwn. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol ar gyfer yr arlunydd Cymreig Augustus John ac mae’n cynnwys ystafell stiwdio gyda lens llygad pysgodyn sy’n edrych dros y Campanile. The combination of artistic and vintage pieces makes this well situated cottage a homey haven that’s definitely one of a kind. It was originally built for the Welsh painter Augustus John and features a studio room complete with fish eye lens overlooking the Campanile.

Cysgu / Sleeps: 8 2 Llofft ddwbl / 2 Double bedrooms // Llofft dau wely sengl / Twin room // 3 Llofft sengl / 3 Single rooms // 3 Ystafell ymolchi / 3 Bathrooms // Lolfa / Lounge // Cegin / Kitchen


CESIG GWYNION Gyda’i leoliad deniadol a’i hanes diddorol, mae’n debyg nad oes llawer o lefydd i aros yng Ngogledd Cymru a fedrai guro awyrgylch y bwthyn pysgotwr hwn o’r 18fed ganrif. Bu Patrick McGoohan yn westai yma tra’r oedd yn ffilmio The Prisoner yn 1966/7. Un arall a fu’n lletya yma oedd y llofrudd enwog o’r 19eg ganrif, yr Hwntw Mawr. Mae tu mewn y bwthyn wedi’i addurno’n chwaethus ac yn adlewyrchu lliwiau glas claear y môr.

Cysgu: 4 2 Lofft ddwbl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / Ystafell gawod / 2 Ystafell ymolchi


WHITE HORSES With its picture perfect location and fascinating backstory, this 18th century fisherman’s cottage must be one of the most atmospheric places to stay in North Wales. Patrick McGoohan was a guest here whilst filming The Prisoner in 1966/7 as was the infamous 19th century murderer Hwntw Mawr. The interiors ooze coastal cool with sea blue accents and designer accessories. Sleeps: 4 2 Double bedrooms / Lounge / Dining Room Kitchen / Shower Room / 2 Bathrooms


Y DOLFFIN Y Dolffin yw’r diweddaraf o fythynnod hunanarlwyo Portmeirion i gael ei ailwampio. Wedi’i enwi ar ôl y mamal môr sydd wedi’i gerfio ar yr adeilad, ac yn eistedd uwchben sgwâr y pentref, mae ceinder cynnil i’r adeilad rhestredig Gradd II hwn. Mae’r darluniau botanegol yn dod o gasgliad y teulu Williams-Ellis, ac mae ategolion gan Orla Kiely yn rhoi gwedd retro i’r cyfan. Cysgu: 4 Llofft dwbl / Llofft 2 wely sengl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / Ystafell Ymolchi


DOLPHIN The latest self-catering cottage to be refurbished in Portmeirion is the Dolphin, named after the unusual craved sea mammal found on the building. Artfully perched above the village square, the grade II listed building boasts muted elegance with Scandi style furniture. The botanical paintings come from the Williams-Ellis family collection, while Orla Kiely’s accessories add a retro edge to the space. Sleeps: 4 Double room / Room with two single beds / Lounge / Dining room / Kitchen / Bathroom


TY'R LLYWODRAETH Os mai bwthyn ar yr arfordir gyda cheinder artistig sydd at eich dant, dyma’r lle i chi. Wedi’i osod ar glogwyn yn edrych i lawr dros yr aber, mae Tŷ Llywodraeth yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r môr ac o sgwâr y pentref oddi tano. Cadwch eich llygaid yn agored am y ffenestr trompe l’oeil a’r wylan gopr y tu allan. Cysgu: 8 2 lofft Ddwbl / Llofft ddwbl neu dau wely / 2 lofft sengl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / Ystafell gawod / 2 ystafell ymolchi


GOVERNMENT HOUSE If you’re after a coastal cottage with artistic finesse, you’ve come to the right place. Set on a cliff top overlooking the estuary, the brightly painted Government House offers spectacular views of both the sea and village piazza below. Watch out for the cheeky trompe l’oeil window and copper seagull outside. Sleeps: 8 // 2 Double rooms / 2 Twin rooms / Zip & link room / Lounge / Dining room / Kitchen / 2 Bathrooms / Shower room


bwthyn deudraeth Mae’r cyn-ffermdy hwn o’r 19eg ganrif yng nghalon ystâd fawr Portmeirion yn le delfrydol i ddianc oddi wrth fwrlwm bywyd. Mae tirwedd naturiol o’i amgylch, sydd yn berffaith ar gyfer cerdded, beicio a hyd yn oed marchogaeth. Ar ddiwedd dydd, cewch swatio o flaen tân coed ar yr aelwyd hynafol – nefoedd. Cysgu: 5 2 Lofft ddwbl / Llofft sengl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / Ystafell ymolchi


deudraeth cottage Escape the hustle and bustle of everyday life with a trip to this former 19th century farmhouse nestled in the heart of Portmeirion’s vast estate near Deudraeth Castle. The surrounding landscape offers the perfect playground for walking, cycling and even horse riding. Then hunker down to a roaring log fire in the antique hearth – bliss. Sleeps: 5 // 2 double bedrooms / Single room / Lounge / Dining room / Kitchen / Bathroom



DORLAN GOCH Beth bynnag fo’r tywydd, y tŷ mawr hwn o’r 1930au yw’r lle perffaith i fod pan fyddwch am dreulio amser gyda grŵp mawr o deulu neu ffrindiau. Gyda phopeth o gegin agored, braf i ddigonedd o le y tu allan, bydd eich amser yma’n gwibio heibio.

Come rain or shine, this spacious 1930s house is the perfect place to be when you want to spend time with a large group of family or friends. With everything from an open plan kitchen to oodles of outdoor space, you'll find your stay here flying by.

Cysgu / Sleeps: 9 2 Lofft ddwbl / 2 Double bedrooms // 2 Lofft dau wely sengl 2 twin bedrooms // Llofft sengl / Single room // Lolfa / Lounge // Ystafell fwyta / Dining room // Cegin / Kitchen // Ystafell ymolchi / Bathroom // Ystafell gawod / Shower room


BELFEDIR Golygfeydd trawiadol; ystafelloedd helaeth; cysylltiadau ag enwogion – mae gan Belfedir y cwbl. Mae’r tŷ deulawr hwn gyda phlatfform balwstrad golygfaol wedi lletya cerddorion fel Jerry Lee Lewis. Yn ogystal â’r lleoliad, gallwch ddisgwyl awyrgylch chwaethus, yn cynnwys clociau mawr a baddonau moethus. Cysgu: 6 // Llofft ddwbl / 2 Llofft zip a linc / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / Ystafell gawod / 2 Ystafell ymolchi


BELVEDERE Amazing views? Check. Spaceous rooms? Check. Celebrity links? Check. This two storey house with balustrade viewing platform has hosted musicians such as Jerry Lee Lewis. Location aside, expect tasteful touches galore, from grandfather clocks to roll top baths. Sleeps: 6 // Double bedroom / 2 Zip & link rooms / Lounge / Dining room / Kitchen / Shower room / 2 Bathrooms


TY CLOGWYN Wedi’i adeiladu yn 1969, dyma un o gampweithiau olaf Syr Clough Williams-Ellis. Yn cynnwys rhyfeddodau pensaernïol fel y ffenestri trompe l’oeil a’r Heliwr, cerflun carreg o’r 18fed ganrif, mae’r Tŷ Clogwyn yn gyflwyniad trawiadol i’r pentref. Gallwch ddisgwyl golygfeydd syfrdanol dros yr aber a steil clasurol o fewn y pedair wal. Cysgu 5: Llofft Ddwbl / Llofft 2 wely sengl / Llofft sengl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / 2 Ystafell ymolchi / Ystafell gawod


CLIFF HOUSE Built in 1969, this is one of Sir Clough Williams-Ellis’ final masterpieces. Featuring architectural eccentricities such as the trompe l’oeil windows and 18th century stone statue known as the Huntsman outside, Cliff House is an impressive introduction to the village. Expect breathtaking views across the estuary and classic interiors. Sleeps 5: Double bedroom / Twin bedroom / Single room / Lounge / Dining room / Kitchen / 2 Bathrooms / Shower room


TWR TELFORD Cafodd yr adeilad siâp ‘L’ nodedig hwn gyda’i risiau troellog ei adeiladu’n wreiddiol i nodi dau ganmlwyddiant y peiriannwr Thomas Telford. Mae’r ystafelloedd yn cynnwys cyfuniad o steil cynllunydd a henbethau, yn cynnwys gwelyau gyda fframiau pres a drychau addurnedig. Ond y rhan gorau? Yr olygfa isod o'r pentref. Cysgu: 3 Llofft ddwbl / Llofft sengl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / Ystafell ymolchi


TELFORD'S TOWER This distinctive ‘L’ shaped building with spiral staircase was originally built to mark the engineer Thomas Telford’s bi-centenary. The rooms feature an eclectic mix of antique and designer touches, including brass framed beds and embellished mirrors. But the the pièce de résistance is the breathtaking view of the village below. Sleeps: 3 Double bedroom / Single room / Lounge / Dining room / Kitchen / Bathroom


ANGEL Yr adeilad rhestredig Gradd II hwn yw un o’r adeiladau hynaf yn y pentref, ac fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae’n cynnwys plac deniadol o negesydd nefolaidd gan Gilbert Hayes y tu allan. Mae siâp crwm anhygoel yr adeilad ynghyd â’r teils afreolaidd wedi’u dylunio i wneud i’r bwthyn edrych yn hŷn na’i dreftadaeth Art Deco. Golygfeydd hynod dros yr aber ac o Ercwlff. This grade II cottage is one of the oldest buildings in the village, and as the name suggests, features an attractive plaque of a heavenly messenger by Gilbert Hayes outside. The incredible curved design and irregular tiling was designed to make the cottage look older than its Art Deco heritage. Expect phenomenal views of the estuary and the Hercules statue. Cysgu / Sleeps: 6 Llofft ddwbl / Double bedroom // 2 Lofft ddau wely / 2 Twin rooms // Lolfa / Lounge // Ystafell fwyta / Dining room // Cegin / Kitchen // Ystafell ymolchi / Bathroom // Ystafell gawod / Shower room


gatehouse Cleverly featuring the existing rock formations it was built on, this baroque style house with random windows oozes quirkiness. The deep arch below features a ceiling mural by the artist Hans Feibusch, while the interior design was influenced by Brian Epstein, manager of the Beatles, who regularly stayed here in 1960s. Sleeps: 5 // 2 double bedrooms / Single room / Lounge / Dining room / Kitchen / 2 Bathrooms

gatws Mae steil y tŷ Baróc unigryw hwn yn cynnwys y graig a gafodd ei adeiladu arni, ac mae’r ffenestri sydd wedi’u gosod ar hap yn ychwanegu at swyn yr adeilad. Mae’r bwa dwfn oddi tano yn cynnwys murlun nenfwd gan yr arlunydd Hans Feibusch, a daeth dylanwad steil yr ystafelloedd gan Brian Epstein, rheolwr The Beatles, a fu’n aros yma’n rheolaidd yn y 60au. Cysgu 5 // 2 Llofft dwbl / Llofft sengl / Lolfa / Ystafell bwyta / Cegin / 2 Ystafell Ymolchi


TOLL Mae’r adeilad rhestredig Gradd II hwn sy’n edrych i lawr dros Sgwâr y Batri yn diferu cyfaredd ecsentrig, diolch i’r estyll du ar ei du allan a’r cerflun derw wedi’i beintio o San Pedr sydd yn sefyll fel gard ar y balconi. Mae golygfeydd trawiadol o’r môr i’w gweld o bob un o’r tri lefel.

This grade II listed building overlooking Battery Square has bucket loads of eccentric charm thanks to its black weather boarded exterior and oak painted statue of Saint Peter standing guard on the balcony. All three levels offer spectacular seascapes. Cysgu / sleeps: 6 Llofft ddwbl / Double bedroom // Lloft 2 wely sengl / Twin bedroom // 2 Lofft sengl / 2 Single rooms // Lolfa / Lounge // Ystafell fwyta / Dining room // Cegin / Kitchen // Ystafell ymolchi / Bathroom


BATTERY This is probably what you picture when you imagine a sea front retreat – weather boarded house in a cobbled square packed with antique pieces and breathtaking views of the estuary. Add to the chilled out vibe with a treatment or two in the ground floor spa. Sleeps: 5 Double bedroom / Twin room / Single room / Lounge / Dining room / Kitchen / 2 Bathrooms / Shower

BATRI Mae’n debyg mai dyma sy’n dod i’ch meddwl wrth ddychmygu encil ar lan y môr: tŷ gydag estyll pren mewn sgwâr cobls yn llawn henbethau a golygfeydd trawiadol dros yr aber. Ychwanegwch driniaeth neu ddau yn y sba i gyfannu’r profiad o lwyr ymlacio. Cysgu 5: Llofft ddwbl / Llofft 2 wely sengl / Llofft sengl / Lolfa / Ystafell fwyta / Cegin / 2 Ystafell ymolchi / Ystafell gawod


DEWCH I DEIMLO HUD ERYRI Yn eistedd ar arfordir creigiog gorllewin Cymru, mae Eryri’n llawn nodweddion trawiadol – llwybrau mynyddig garw, llwybrau arfordirol, cestyll a threnau lein fach. Dyma ardal sydd wedi’i diffinio gan ei chwedlau, ei cherddoriaeth a’i hanes. Byddwch yn rhan o’r antur drwy aros ym Mhortmeirion – y perl yn ei choron. Am ragor o wybodaeth am ein llety hunanarlwyo, cysylltwch â’n tîm llety ar 01766 772 300/01 neu anfonwch ebost at aros@portmeirion-village.com

experience the magic of snowdonia Perched on the rocky fringe of western Wales, Snowdonia packs a lot in – from rugged mountain trails and coastal paths to castles and heritage trains. This is an area defined by its legends, music and language. Be part of the action by staying in the jewel of its crown – Portmeirion. For more information about our self catering accommodation, please contact our reservations team on 01766 772 300/01 or email stay@portmeirion-village.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.