Welsh language MBA programme

Page 1

Dydd Sul 29 Medi Tin Rocket gyda Niki McCretton

Mae’r berfformwraig ddawnus hon, â’i gwaith hyfryd o fympwyol a dyfeisgar, yn dychwelyd i’n diddanu. Mae Niki McCre�on yn swynol ei hagwedd sy’n golygu bod plant ac oedolion fel ei gilydd yn gallu mwynhau ei gwaith. Mae Tin Rocket yn llawn comedi, digrifwch, gofod-deithio a sgons! Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 7.30pm Tocynnau £8/£6 o www.wego�ckets.com ac o No. 46 Wine Bar, ar agor bob dydd o 10am

Dydd Gwener 11 Hydref Rififi

Ffilm ddylanwadol Jules Dassin ynglŷn â lladrad, â strydoedd atmosfferig Paris yn y 1950au yn gefndir. Ynddi, ceir golygfa astrus torri i mewn lle nad oes unrhyw un yn siarad, sef golygfa a achosodd i’r heddlu go iawn wahardd y ffilm dros dro oherwydd eu bod nhw’n ofni y byddai pobl yn copïo’r lladrad! Ymgyrch Codi Arian i Efeillio Trefi Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm £7.50

Dydd Sadwrn 19 Hydref Albert Einstein: Relatively Speaking

gan John Hinton a Chwmni Theatr Tangram Ydych chi erioed wedi edrych ar E=mc² a meddwl… beth?! Felly dewch i ymuno ag Albert, yr athrylith y tu ôl i’r mwstas mwyaf cŵl yn y byd gwyddonol, i gael awr o ganeuon, gwiriondeb a’r jôc waethaf erioed ynglŷn â sosej, yn y sioe sy’n profi (yn ddamcaniaethol) bod Einstein = Musical Comedy Squared! Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 7.30pm Tocynnau £8/£5 o www.wego�ckets.com ac o No. 46 Wine Bar, ar agor bob dydd o 10am.

Dydd Gwener 25 Hydref Barrie Gavin - 2 Ffilms

RHODA AND THE TREE OF LIFE : ffilm ysbrydoledig ynglŷn â Rhoda Partridge SIR WILLIAM IN SEARCH OF XANADU: ffilm ynglŷn â Chasgliad Celf rhyfeddol Burrell yn Glasgow Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm Mynediad am ddim – mae MBA yn croesawu rhoddion Noddwyr: Rhoda Partridge a Barrie Gavin

3-30 Tachwedd Teyrnged i Henri Cartier-Bresson Arddangosfa o ffotograffau gan Alex Dufort Ffotograffau du a gwyn o’r 60au a’r 70au

Dydd Sadwrn 9 Tachwedd Mark Richards yn sgwrsio ag Ian Marchant

Mae’r syniad y tu cefn i’r noson hon rywbeth yn debyg i Desert Island Discs ac With Great Pleasure, gyda’r cerflunydd rhyngwladol Mark Richards yn edrych ar y pethau sydd wedi dylanwadu ar ei fywyd creadigol â’r darlledwr a’r nofelydd lleol, Ian Marchant. Bydd ei ddewis bywiol o gerddoriaeth gofiadwy, ffilmiau, llyfrau a phaen�adau, sy’n cael eu cyflwyno trwy gyfrwng recordiadau, delweddau wedi’u taflunio a’r gair llafar, heb os yn creu noson hudol. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 7.15pm – 11pm £20 yn cynnwys bwyd blasus o’r Eidal. Bar ar gael. Tocynnau o www.wego�ckets.com ac o No. 46 Wine Bar, ar agor bob dydd o 10am.

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd Olion Byw

Lucy Rivers a Dan Lawrence yn chwarae cerddoriaeth fel deuawd Olion Byw. Maen nhw’n cyfuno’r ffidl, y gitâr, y mandolin a’r llais, gan ganu’n aml yn Gymraeg. Yma ac acw rhwng eu trefniannau ffres o alawon a chaneuon traddodiadol Cymreig ceir cyfansoddiadau gwreiddiol, pob un ohonyn nhw’n deillio o’u cariad o gerddoriaeth wreiddiau, gwerin a byd. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 8pm Tocynnau £8 o www.wego�ckets.com ac o No. 46 Wine Bar

Dydd Sul 1 Rhagfyr Olwynion Gweddïo, Argraffu a Llawysgrifau Cysegredig Sgwrs ddarluniadol gan Dr Stephen Hugh-Jones ynglŷn â defnyddio technoleg ddigidol i ailgrynhoi gorffennol drylliedig Tibet. Ystafelloedd Cynnull, Llanandras 3pm £6 wrth y drws neu o No. 46 Wine Bar, ar agor bob dydd o 10am

5, 6 & 7 Rhagfyr Ffair Celf a Chrefft y Nadolig

Gwaith crefftwyr lleol: arian, pren, gwlân, crochenwaith a cherfiadau

Workshops Presteigne Quilters 2nd & 4th Monday in the month. Enquiries 01544 260356 Cwiltwyr Llanandras Yr 2il a’r 4ydd dydd Llun yn y mis. Ymholiadau 01544 260356 Bandamania Mondays 7.15pm Enquiries Sue Harris 01547 560950 Bandamania Dydd Llun 7.15pm Ymholiadau Sue Harris 01547 560950 Writers’ Circle 3rd Tuesday in the month 7.30pm Enquiries 01544 260255 Cylch Ysgrifenwyr Y 3ydd dydd Mawrth yn y mis 7.30pm Ymholiadau 01544 260255 Whitton Voices Tuesdays 8pm - 10pm Enquiries Sue Harris 01547 560950 Lleisiau Hwytyn Ar ddydd Mawrth 8pm -10pm Ymholiadau Sue Harris 01547 560950 Yoga with Marie Hudson Wednesdays 10am - 11.30am Enquiries 01544 260352 Ioga gyda Marie Hudson Ar ddydd Mercher 10am-11.30am Ymholiadau 01544 260352 Quaker Meetings 4th Wednesday in the month 11am Enquiries 01544 267903 Cyfarfodydd y Crynwyr Y 4ydd dydd Mercher yn y mis 11am Ymholiadau 01544 267903 Wing Tsun Wednesday 7pm - 9pm Enquires Adrian Jervais 01544 260656 Wing Tsun Dydd Mercher 7pm-9pm. Ymholiadau Adrian Jervais 01544 260656 T’ai Chi Thursdays 5pm - 6.30pm & 6.30pm - 8pm Enquires Josh Partridge 01544 262161 T’ai Chi Ar ddydd Iau 5pm - 6.30pm a 6.30pm - 8pm Ymholiadau Josh Partridge 01544 262161 Gather Round & Sing for Fun 2nd Saturday of the month 11am - 12.30pm Enquiries Marion Rowla� 01544 260466 Dod Ynghyd i Ganu am Hwyl Yr 2il ddydd Sadwrn yn y mis 11am-12.30pm Ymholiadau Marion Rowla� 01544 260466


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.