1 minute read
Neges gan ein Prif Weithredwr
by Ty Hafan
Croeso i rifyn y Gwanwyn/Haf 2023 cylchgrawn
Cwtch. Gobeithio eich bod chi a’ch anwyliaid wedi cael dechrau da i’r flwyddyn newydd.
Mae geiriau cân Cwpan y Byd Cymru yn ymddangos yn addas i grynhoi cyfnod heriol, ond cynhyrchiol 2022. “Ry’n ni yma o hyd”, a gan ein bod yn elusen sy’n nesáu at ein pen-blwydd yn 25 oed flwyddyn nesaf, rydym yn fwy penderfynol nag erioed.
Diolch i chi, eich haelioni a’ch ymrwymiad, ac ymroddiad fy nhîm gwych, rydym ni yma ar gyfer y plant a’r teuluoedd y mae angen gofal ein hosbis a’n gwasanaethau cymunedol arnyn nhw.
Rwyf i bob amser yn teimlo’n ddiymhongar o glywed yn uniongyrchol gymaint mae teuluoedd yn gwerthfawrogi ein cefnogaeth – a thrwy hynny, eich cefnogaeth chi – ar bob cam o’u taith. Maen nhw’n gofyn i mi gyfleu eu diolch diffuant.
Yn ddiweddar, dywedodd tad Finlay wrtha i nad ydym yn “deall y gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud trwy fod yno” a dywedodd mam Rose fod ei theulu mor ddiolchgar i gael gofal yn y ‘clwb’ hwn nad oes neb byth yn dewis perthyn iddo.
Y tymor diwethaf, gwnaethoch chi ein cefnogi trwy ddau ddigwyddiad mawr: ein hapêl 60 awr ‘When Your World Stops...’, a chyngerdd hyfryd y Nadolig yn Neuadd Dewi Sant, ein digwyddiad mawr cyntaf erioed mewn lleoliad cenedlaethol. Ar y cyd, cododd y digwyddiadau hyn bron i £370,000, sy’n arbennig o ddefnyddiol o ystyried ein biliau ynni cynyddol. Diolch, allen ni ddim ei wneud heboch chi.
Efallai eich bod chi wedi gweld rhywfaint o’r sylw yn y cyfryngau am yr heriau ychwanegol sy’n wynebu teuluoedd, yn enwedig o ystyried eu dibyniaeth sylweddol ar ynni ar gyfer yr offer arbenigol sydd ei angen ar eu plant. Rwyf wedi bod yn hynod falch o weld pawb yn tynnu at ei gilydd i’w helpu nhw, a ni, i ymdopi â’r argyfwng costau byw.
Bydd llawer ohonoch yn gwybod mai un o nodweddion unigryw ein gofal yw ei fod yn ymestyn y tu hwnt i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd i gynnwys eu brodyr a chwiorydd. Yn wyneb colli eu chwaer neu frawd, mae’r bobl ifanc hyn yn elwa’n enfawr ar therapi chwarae, cwnsela a threulio amser gyda phlant a phobl ifanc eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Gallwch ddarllen mwy yn stori Ruby ac Emily ar dudalen 15.
Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yn sgil 2023, gyda llawer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill. Gobeithio bydd rhai o’r rhain yn eich cynnwys chi ac yn rhoi cyfle i ni gwrdd. Uchafbwynt fydd coroni ein noddwr, y Brenin Siarl, ac estynnwn ein dymuniadau gorau ato.
Yn y cyfamser, ar ran pawb yn Tŷ Hafan, gobeithio y byddwch yn mwynhau ein newyddion diweddaraf.
Cymerwch ofal,
Maria Timon Samra
Prif Weithredwr, Hosbis i Blant Tŷ Hafan