8 minute read

Gadael rhodd i Tŷ Hafan yn eich ewyllys

Next Article
Hybiau Cymunedol

Hybiau Cymunedol

Yn syml, ni fyddem yn gallu cynnig safon y gofal a’r gefnogaeth yr ydym yn ei wneud bob dydd heb fod pobl yn gadael rhodd yn eu hewyllys i Tŷ Hafan.

Gyda’r galw am ein gwasanaethau yn cynyddu, mae caredigrwydd y rhai sy’n gadael rhoddion i ni yn eu hewyllys yn fwy allweddol byth.

Stori Elisabeth

Mae Elisabeth wedi cefnogi Tŷ Hafan ers amser maith. Dechreuodd chwarae ein loteri dros 20 mlynedd yn ôl ac mae hi’n chwarae ein raffl yn rheolaidd - enillodd y brif wobr yn 2010!

Yn fwy diweddar, cysylltodd Elisabeth â’n Tîm Gofal Cefnogwyr gan ei bod hi eisiau cynnwys rhodd yn ei hewyllys i gefnogi’n gwaith.

Dywedodd Elisabeth wrthym, “Roedd angen i mi newid fy ewyllys ac roedd

Tŷ Hafan yn ddewis pendant i gael ei gynnwys. Rwy’n gwybod bod rhoddion drwy ewyllysion yn bwysig i elusennau ac rwy’n falch o allu teimlo fy mod i’n gallu gadael etifeddiaeth i Tŷ Hafan.

“Roeddwn i’n Gydlynydd Anghenion

Addysgol Arbennig ac yn athro mewn ysgol uwchradd prif ffrwd tan i mi ymddeol. Rwyf i wedi bod eisiau helpu plant i gyrraedd eu potensial a bod yn hapus erioed. Rwy’n gallu gweld o’r cylchlythyrau mae Tŷ Hafan yn eu hanfon, pa mor hapus ac wedi’u cefnogi y maen nhw’n gwneud i blant a’u teuluoedd deimlo.

Mae’n rhaid bod y gefnogaeth a’r gofal y mae Tŷ Hafan yn eu rhoi i blant a theuluoedd yn amhrisiadwy yn fy nhyb i. Sut byddai eu bywydau heb Tŷ Hafan? Wiw i ni ystyried y fath beth, felly byddaf i bob amser yn gefnogwr.

Diolch yn fawr iawn, Elisabeth.

Mae eich cyfraniad parhaus at ein gwaith yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

I wybod mwy am adael rhodd yn eich ewyllys i Tŷ Hafan, cysylltwch â gofal cefnogwyr ar 02920 532 255, yn supportercare@tyhafan.org neu ewch i’n gwefan: www.tyhafan.org/support-us/leaving-a-gift-in-your-will

Wyddoch chi?

Mae’r rhoddion y mae pobl yn eu gadael i Tŷ Hafan yn eu hewyllys yn ariannu 25% o’n costau gofal.

Wyddoch chi?

Rydym yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim mewn partneriaeth â’r National Free Wills Network a Farewill.

Wyddoch chi?

Mae 3 math o rodd y gallwch eu gadael yn eich ewyllys: rhodd gweddillion (canran o’ch ystâd), rhodd benodol (e.e. stociau a chyfranddaliadau, gemwaith) neu rodd ariannol (swm penodol o arian).

Her 3 Chopa Cymru GE Aviation yn troi’n oed! 25

Ymhell yn ôl ym 1998, dechreuodd GE Aviation

Her 3 Chopa Cymru.

Mae

Her 3 Chopa

Mae Her 3 Chopa Cymru GE Aviation Cymraeg yn her enfawr. Mae timau o gerddwyr yn dringo’r Wyddfa, Cadair Idris a Pen-y-Fan gefn-wrth-gefn. Mae hynny’n daith gerdded 20.35 milltir o hyd ac esgyniad o 9,397 troedfedd mewn un diwrnod!

Dechreuodd yn dawel fach, gyda’r cyntaf o’i math yn cynnwys dau grŵp yn unig.

Yn 2023, 25 mlynedd yn ddiweddarach, nid yw her 3 Chopa Cymru GE Aviation wedi colli momentwm, ac mae wedi codi £1,841,429 i ni.

Pen-blwydd hapus i her 3 Chopa Cymru GE Aviation!

Mae gwirfoddoli yn rhan fawr o weithio yn GE Aviation. Mae gwirfoddolwyr GE ledled y byd wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol a gweithgareddau cymunedol i wneud gwahaniaeth.

Mae gweithwyr o GE Aviation Cymru, sydd wedi’i leoli yn Nantgarw, wrth eu bodd yn gwirfoddoli fel marsialiaid yn nigwyddiad her 3 Chopa Cymru ac yn cofrestru timau bob blwyddyn.

Ers i’r digwyddiad ddechrau, mae dros 1,600 o weithwyr GE Aviation wedi gwirfoddoli. Mae hynny’n gamp enfawr ac rydym wedi’n syfrdanu gan eu hymrwymiad i’r digwyddiad epig hwn ac i godi arian i ni (ac yn llawn edmygedd!).

Mae timau o deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr o bob cwr o’r wlad – a’r byd – yn cyflwyno timau ar gyfer her

3 Chopa Cymru. Mae Craig Jackson, o Knauf Insulation yng Nghwmbrân, wedi mynd i’r afael â her 3 Chopa Cymru yn 2018, 2019 a 2022.

“2022 oedd y drydedd flwyddyn yn olynol i mi gwblhau her 3 Chopa Cymru Tŷ Hafan. Gwnes i fwynhau bob tro yn fawr, ac roedd pob blwyddyn yn wahanol o ran y tywydd. Mae’n heriol iawn ac mae hyfforddiant paratoi yn angenrheidiol!

“Mae’r golygfeydd yn anhygoel ac mae’r adrenalin yn eich gwthio chi ymlaen wrth i chi wynebu pob mynydd. Rwy’n dweud wrth gydweithwyr, teulu a ffrindiau yn aml am fy mhrofiadau a byddwn i’n annog unrhyw un i gofrestru ar gyfer yr achos gwych hwn.”

Gwnaeth Sarah, ein Prif Weithredwr

Cyfryngau Cymdeithasol gwych yn

Tŷ Hafan, ymgymryd â her 3 Chopa Cymru yn 2016 ac mae’n cofrestru unwaith eto eleni.

“Fe wnes i gwblhau her 3 Chopa Cymru ac mae hi wir yn un o fy llwyddiannau rwy’n fwyaf balch ohono, roedd yn brofiad anhygoel.

“Fe wnes i’r her gyda fy chwaer, llystad, llyschwaer a fy mam fel gyrrwr, ac ni allwn i fod wedi’i gwneud heb eu cefnogaeth nhw a chefnogaeth eraill a oedd yn cymryd rhan. Rydyn ni’n dal i chwerthin ynghylch pryd dywedodd marsial ar Gadair Idris wrthym am beidio â rhuthro ac i fynd mor gyflym ag aelod arafaf ein tîm, yna trodd pawb i edrych arnaf i!

“Fe wnaethom ni godi dros £3,000 fel grŵp wrth i gyflogwr fy chwaer ychwanegu arian cyfatebol at yr arian y gwnaeth hi ei godi. Felly, nid yn unig oedd y profiad ei hun yn anhygoel, ond roedd yn teimlo’n anhygoel i godi’r swm hwn o arian ar gyfer Tŷ Hafan. Rwyf wedi cyffroi i gymryd rhan yn 2023 ar gyfer 25ain blwyddyn y digwyddiad, bydd yn ddathliad yn sicr.”

Cofrestru ar gyfer Her 3

Chopa Cymru GE yn 2023

Digwyddiad cerdded yw her 3 Chopa

Cymru GE, nid ras! Bydd gan eich tîm 15 awr i gwblhau’r her.

Bydd angen tîm o bedwar cerddwr ac un gyrrwr. Bydd y cerddwyr yn dringo’r mynyddoedd a bydd y gyrrwr yn gyrru’r cerddwyr o fynydd i fynydd.

Byddwch chi’n dechrau gyda’r Wyddfa, ac yna symud ymlaen i Gadair Idris ac yna Pen-y-Fan. Bydd marsialiaid ar y diwrnod i gadw llygad arnoch chi, ond bydd angen sgiliau darllen map arnoch i lywio.

Mae hwn yn ddigwyddiad sy’n grymuso ac mae’r cyfranogwyr yn dwlu arno, ond yn bendant mae angen hyfforddi, felly nawr yw’r amser i luchio’r llwch oddi ar eich esgidiau cerdded!

Dysgwch fwy am her 3 Chopa Cymru GE a chofrestrwch yma: www.welsh3peaks.co.uk

Mae Sam Kemlo o GE Aviation a marsial Cadair Idris yn rhannu,

“Mae gwirfoddoli ar gyfer Her 3 Chopa Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Mae ein tîm marsialiaid yn deulu o bobl o’r un anian. Yr unig bwrpas sydd gennym ar y diwrnod hwnnw yw cynorthwyo’r cystadleuwyr yn ddiogel o’r dechrau i’r diwedd.”

“Gwybod bod ein cefnogaeth yn gallu rhoi hapusrwydd ac amseroedd ystyrlon i deuluoedd yn ystod cyfnodau anodd yw’r hyn sy’n gwneud gwirfoddoli mor arbennig i mi.”

Dyddiad y digwyddiad:

Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2023

Lleoliad:

Yr Wyddfa | Cadair Idris | Pen-y-Fan

Ffi gofrestru: £25 y cerddwr

Nod noddi: £200 y cerddwr

Dyma’r adeg i fynd allan i’r awyr agored ac, yn y misoedd nesaf, mae llawer o heriau rhedeg y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw!

Gallai fod yn farathon, neu gallai fod yn 5k! Mae herio eich hun gyda digwyddiad rhedeg yn ffordd wych o wella eich ffitrwydd a’ch iechyd meddwl, gan wthio’ch ffiniau a chodi arian ar gyfer elusen.

Mae bod yn gyfforddus wrth hyfforddi ac ar ddiwrnod y ras yn brif flaenoriaeth a bydd eich dillad yn aml iawn yn dyngedfennol. Nid oes angen prynu unrhyw beth ffansi, ond bydd dewis dillad sy’n ysgafn a ddim yn rhwbio yn helpu’n fawr.

Gallai’r rhain gynnwys:

• Siorts neu legins

• Sanau o ansawdd da

• Cr ys-t/fest wedi’i wneud o ddeunydd sy’n amsugno lleithder (e.e. polyester neu neilon)

• Bra chwaraeon

• esgidiau rhedeg cyfforddus sy’n ffitio’n dda.

Awgrymiadau

Defnyddiwch ddau bâr o esgidiau rhedeg ar gyfer hyfforddi. Ar ddiwrnod y ras, dewiswch y pâr mwyaf cyfforddus.

Hyfforddi

Yn dibynnu ar ba mor bell y byddwch chi’n rhedeg, y nod ar gyfer maeth wrth hyfforddi yw dod o hyd i fwydydd a fydd yn eich helpu i aros yn llawn am gyfnod hirach – ond heb fod yn rhy llawn neu chwyddedig.

Gall bwydydd â llawer o garbohydradau a phrotein (fel ffa a ffacbys) fod yn ffrind gorau i chi ar yr adeg hon.

Pan fyddwch chi’n hyfforddi fel dechreuwr, mae’n debygol y byddwch chi’n teimlo’n fwy llwglyd nag arfer (mae rhai rhedwyr yn galw’r teimlad yma hwn yn ‘rungry’!). Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell calorïau ar-lein i ddod o hyd i’r nifer o galorïau gorau i chi.

Nawr yw’r amser i arbrofi. Dewch o hyd i’r prydau sy’n rhoi’r egni sydd ei angen arnoch.

Cyn y ras

Nid dyma’r amser i roi cynnig ar unrhyw beth newydd! Tair i bedair awr cyn y ras, bwytwch bryd o fwyd sydd â llawer o garbohydradau a lefel gymedrol o brotein. Awr cyn y ras, dewiswch fyrbryd ysgafn sydd â llawer o garbohydradau.

Yn ystod y ras

Bydd llawer o ddigwyddiadau rhedeg yn dosbarthu geliau egni. Gallwch hefyd ddod â byrbryd gyda chi yn eich poced – mae rhai rhedwyr yn hoffi cario ffrwythau sych neu jellybeans i’w bwyta yng nghanol ras.

Ar ôl y ras

Ar ôl y ras, dewiswch rywbeth â llawer o garbohydradau a phrotein. Ceisiwch fwyta o fewn awr ar ôl i chi orffen y ras.

Awgrymiadau ar gyfer diwrnod y ras

Cofiwch hydradu

Yfwch ddŵr cyn, yn ystod ac ar ôl y ras. Pan fyddwch chi’n rhedeg, ceisiwch yfed 400ml - 800ml o ddŵr bob awr, yn dibynnu ar ba mor gynnes yw hi’r diwrnod hwnnw.

Peidiwch â chanolbwyntio ar y cloc

Mae’r rhan fwyaf o redwyr yn mynd trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar ddiwrnod y ras ac mae edrych ar yr amser yn rheolaidd yn gallu ychwanegu at yr isafbwyntiau. Canolbwyntiwch ar fwynhau rhedeg a’r awyrgylch yn lle cyfrif y munudau tan y llinell derfyn.

Cysylltwch â’r dorf

Mae digwyddiadau rhedeg yn enwog am eu cefnogwyr brwd! Gall y dorf hwyliog godi eich ysbryd yn wirioneddol, felly cysylltwch â hi gymaint â phosib.

Byddai’n anhygoel pe baech yn rhedeg dros Tŷ Hafan! Pan fyddwch yn rhedeg i’n cefnogi ni, byddwn wrth law i’ch helpu drwy gydol eich taith, o’r cam cyntaf i’r llinell derfyn.

Rhedodd Steffan William, y maer blaenorol a chynghorydd presennol Bro Morgannwg, Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan.

“Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth o’r hafan wych hon ar stepen ein drws a’r angen i gynyddu ei gyllid, a gwneud rhywbeth ymarferol fel codi arian iddi,” meddai Steffan wrthym.

“Yn ogystal ag ymweld â safle Tŷ Hafan ger Y Barri a dod i adnabod rhai o’r staff, ar y diwrnod roedd Tŷ Hafan yn wirioneddol ardderchog.

“Gwnaeth pethau syml fel gallu gadael fy mhethau yn eu pabell a chael yr holl anogaeth gan y staff wahaniaeth enfawr i mi. Gwnaeth y rhedeg yn y digwyddiad yn llawer haws ac yn llai o straen.

“Wrth helpu i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan, rydych chi’n codi arian ar gyfer achos gwych sy’n gallu gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywydau plant. Mae ganddyn nhw gymaint o bethau i’w cynnig ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n rhoi cymaint ag y gallwn.

Gwnewch wahaniaethcymerwch ran a helpwch!

Beth fyddwch chi’n ei gael

• Gwahoddiad i daith o amgylch yr hosbis

• Deunyddiau a chymorth codi arian

• Canllaw hyfforddi a maeth penodol i’r digwyddiad

• Fest rhedeg Tŷ Hafan deniadol iawn

• Nwyddau am ddim ar y diwrnod ar stondin wybodaeth Tŷ Hafan.

Mae unrhyw un sy’n rhedeg drosom ni yn cael mynediad am ddim i’n grŵp Facebook ar gyfer rhedwyr. Dyma ffordd wych o rannu cyngor rhedeg a chwrdd â phobl eraill sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad.

I gael gwybod am y digwyddiadau rhedeg y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw er mwyn cefnogi Tŷ Hafan, ewch i: www.tyhafan.org/ support-us/taking-part-in-an-event

Byddem ni wrth ein bodd yn gweld lluniau o’ch hyfforddiant a diwrnod y digwyddiad. Rhannwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #runtyhafan!

Cynlluniwch eich ffordd i’r ras

Mae digwyddiadau rhedeg yn aml yn arwain at gau ffyrdd a thrafferthion teithio eraill. Os ydych chi’n byw yn bell i ffwrdd o’r ras, ystyriwch aros mewn gwesty ger y lleoliad y noson cyn diwrnod y ras.

Digwyddiadau rhedeg yn 2023

Mae digon o gyfleoedd i redeg gyda Tŷ Hafan fel eich elusen ddewisol eleni. Dyma rai o’r digwyddiadau y gallech eu hystyried:

Oedran presennol plant mewn gofal

This article is from: