1 minute read

Maes chwarae cynhwysol Tŷ Hafan

Mae rhywbeth arbennig iawn am y maes chwarae ar dir ein hosbis... mae’n gynhwysol!

I lawer o’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw, dyma’r unig faes chwarae maen nhw’n gallu ei ddefnyddio gyda’i gilydd fel teulu.

Gall rhieni a brodyr a chwiorydd chwarae’n gynhwysol yma, beth bynnag yw eu galluoedd corfforol, gan fwynhau profiad y maes chwarae yn llawn.

Y siglen cadair olwyn

Mae cadeiriau olwyn yn cael eu clipio’n ddiogel i’r siglen fel bod modd gwthio’r plentyn yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Y siglen nyth

Gall plant nad ydyn nhw’n gallu dal eu hunain yn unionsyth orwedd yn y siglen nyth a chael eu gwthio’n ysgafn gan frawd neu chwaer, ffrind, rhiant neu aelod o staff. Gall plant fynd i mewn i’r siglen hon gyda’i gilydd ar gyfer chwarae cynhwysol.

Y bont simsan

Mae’r bont simsan yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn llawer o hwyl. Pan fydd plentyn yn symud ar ei thraws yn ei gadair, mae’r bont yn symud i fyny ac i lawr, gan roi’r teimlad o gael eich bownsio!

^

Y nodwedd ddwr

Mae’r nodwedd ddŵr yn un o nodweddion mwyaf poblogaidd ein maes chwarae. Gall unrhyw un fwynhau’r chwarae â dŵr! Pan fydd y dŵr yn cael ei bwmpio i fyny ac i lawr, gall plant ei wylio neu ei deimlo’n llifo ac yn tasgu dros eu dwylo.

Y trac rasio

Mae’r trac rasio, sydd ond ychydig gamau i ffwrdd o’n hardal chwarae, wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer plant sy’n dysgu defnyddio cadair olwyn neu’n pontio rhwng cerdded a defnyddio cadair olwyn. Gallan nhw lywio’u hunain i ddysgu sut i symud. Mae’r trac hwn wedi gweld digon o rasys dros y blynyddoedd!

Y trampolîn

Nid oes rhaid i blant ddringo i fynd ar y trampolîn lefel llawr hwn! Os yw plentyn mewn cadair olwyn, gall rhiant neu aelod o staff sefyll nesaf atyn nhw ar y trampolîn a bownsio.

Offerynnau cerdd

Ar gyfer chwarae cerddorol creadigol, mae’r seiloffon, drwm a glockenspiel ar y lefel gywir i ddefnyddwyr cadair olwyn allu eu chwarae’n gyfforddus.

This article is from: