2 minute read
Hybiau Cymunedol
by Ty Hafan
Mae ein Hybiau Cymunedol yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan ddod â Tŷ Hafan at y teuluoedd hynny nad ydyn nhw’n gallu ymweld â ni’n aml.
Ni all pawb ddod i’n hosbis yn rheolaidd oherwydd ymrwymiadau gofal, gwaith a chyfyngiadau teithio.
Ac, wrth i’r galw am ein gwasanaethau dyfu ac wrth i ni barhau i adfer ar ôl pandemig COVID-19, rydym yn dal i fethu â chynnig cymaint o gyfleoedd i aros yn ein hosbis ag yr hoffem ni.
Mae ein Hybiau Cymunedol yn ddigwyddiadau cwrdd â’n gilydd sydd wedi’u cynllunio i gael hwyl ac ymlacio, cwrdd â ffrindiau newydd a chael a rhoi cefnogaeth emosiynol.
Maen nhw’n cael eu trefnu gan ein Tîm Lles Teuluoedd sy’n teithio ffyrdd Cymru droeon bob mis, gan gynnwys:
• Gweithwyr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd
• Ymarferwyr Cymorth i Deuluoedd
• Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd
• Therapyddion Ategol
• Gweithwyr Chwarae.
Mae Handcrafted yn brosiect lle mae
Penny hyfryd a’i gwirfoddolwyr yn creu crefftau cynaliadwy o gyflenwadau sydd wedi’u rhoi i ni a’u gwerth yn ein siop Etsy.
Gan fod Penny yn hen law ar bob math o grefftau, mae hi’n creu lle yn ein Hybiau Cymunedol er mwyn i deuluoedd allu bod yn greadigol – ac nid dim ond y plant!
Gall y teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi ddod draw am egwyl fach. Rydym yn cynnig therapïau ategol tawel yn yr Hybiau hyn, fel tylino ar gyfer yr oedolion a thylino stori ar gyfer y plant.
Rydym yn trefnu gemau, celf a chrefft, ein pabell synhwyraidd boblogaidd iawn a lluniaeth, ac rydym ni yno i gael hwyl gyda’r plant a siarad â theuluoedd am unrhyw beth yr hoffan nhw sôn amdano; gallai hynny fod yn sgwrs am y gyfres ddiweddaraf maen nhw’n ei gwylio ar Netflix, cefnogaeth gyda’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu neu unrhyw beth yn y canol.
Hefyd, mae staff dyfeisgar Amgueddfa Caerdydd yn dod weithiau gyda gweithgareddau hynod ddiddorol ar thema gwyddoniaeth i’r plant eu mwynhau.
Un o effeithiau mwyaf yr Hybiau hyn yw bod teuluoedd yn gallu cwrdd â phobl eraill sy’n gallu uniaethu â nhw a beth maen nhw’n ei wynebu. Yn aml, rydym yn gweld teuluoedd yn cyfnewid rhifau ac yn cwrdd â’i gilydd y tu allan i’r Hybiau, gan greu eu rhwydweithiau cymorth eu hunain yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd Carrieann, sydd â merch sy’n dod i Tŷ Hafan, wrthym,
Mae Hybiau Cymunedol yn rhoi’r gorau o Tŷ Hafan mewn lleoliad siop un stop leol i ni gyd. Cwrdd â hen ffrindiau, gwneud rhai newydd, crefftau a gemau ar thema, therapi ategol, cyngor, coffi a theisennau, a’r cyfan mewn awyrgylch hamddenol a hapus. Mae’r Hwb misol yn rhoi profiad i edrych ymlaen ato i fy merch a minnau.
“Rwy’n cyflwyno chwarae crefftau hawdd y gall pob oedran ei wneud. Rydyn ni’n gwneud breichledau enwau, yn paentio a lliwio ac rydyn ni’n creu gweithgareddau i’r plant chwarae â nhw.
Gall y plant a’r oedolion ddod draw ataf i eistedd a chymryd rhan mewn gweithgaredd crefft fel paentio a gall eu helpu yn wirioneddol i ymlacio drwy ymgolli mewn gweithgaredd syml sy’n tawelu’r meddwl.