3 minute read

Brodyr a chwiorydd gwych

Mae brodyr a chwiorydd plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yn wynebu heriau mawr. Gall gwylio eu brawd neu chwaer fynd trwy straen corfforol ac emosiynol, ac yn anffodus gofal diwedd oes, ddod â llawer o bryder, trawma a galar nad yw llawer o’u cymheiriaid yn gallu eu deall.

Sut rydym yn helpu brodyr a chwiorydd

Diolch i haelioni ein cefnogwyr, gallwn roi’r cyfle i frodyr a chwiorydd fanteisio ar gymuned lle mae eu cyfoedion yn deall yr hyn maen nhw’n mynd drwyddo. Yn wir, mae gennym ni dîm pwrpasol cyfan i fod yno ar gyfer brodyr a chwiorydd, dan arweiniad Kelly-Jo, ein Gweithiwr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd, ac wedi’i sbarduno gan ein grŵp cefnogi cyfoedion Supersibs. Yn Supersibs, mae gan frodyr a chwiorydd gyfle i ymgysylltu â brodyr a chwiorydd eraill sy’n wynebu pryderon tebyg.

Yn aml rydym yn gweld bod gan frodyr a chwiorydd plant sy’n cael eu hatgyfeirio i Tŷ Hafan lawer o bryderon a gofidion, a gall mynegi eu hemosiynau fod yn anodd iddyn nhw. Gallwn ni ddarparu cefnogaeth un-i-un a nifer o therapïau niferus i’w helpu i lywio’r emosiynau hyn a’u goresgyn, ac i ymdrin â phrofedigaeth a galar.

Mae gennym ni ddarpariaeth Therapi Chwarae, Therapi Cerdd a Therapi Ategol. Gall ein Harbenigwr Chwarae hefyd helpu’r brodyr a’r chwiorydd hynny sydd wedi dod i ofni ymyriadau meddygol oherwydd eu profiadau. Mae’r holl wasanaethau hyn yn cael eu darparu yn yr hosbis, y gymuned neu ble bynnag y mae eu hangen.

Ar ddydd Sul cyntaf bob mis, rydym yn cynnal ein grŵp Supersibs sy’n gymaint o hwyl! Mae dau grŵp: un i blant rhwng pedair ac 11 oed a’r llall ar gyfer plant 11+ oed.

Gall y bobl ifanc sy’n mynd i Supersibs bontio rhwng y ddau grŵp yn raddol yn ystod y flwyddyn maen nhw’n troi’n 11 oed fel eu bod yn gallu ymgartrefu. Mae rhai o’r bobl ifanc yn y grŵp Supersibs ar gyfer pobl ifanc yn hoffi gwirfoddoli gyda’r plant iau.

“Maen nhw i gyd yn yr un cwch. Mae ganddyn nhw ddealltwriaeth rhyngddyn nhw – cysylltiad sydd ganddyn nhw i gyd gyda’i gilydd. Maen nhw’n elwa ar fod yma gyda’i gilydd,” meddai KellyJo, ein Gweithiwr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd.

Stori Emily a Ruby

Mae Emily a Ruby, ill dau yn 14 oed, wedi bod yn dod i Supersibs ers eu bod yn ifanc. Mae chwaer Emily, Lucie, yn dod i’r hosbis a bu farw chwaer Ruby, Elizabeth, yn 2021.

Mae’r ddwy yn ffrindiau gorau erbyn hyn, ar ôl datblygu cysylltiad cryf yng nghlwb y Supersibs ddwy flynedd yn ôl.

“Roedd hi’n fis Chwefror 2020. Roedden ni yn un o’r ystafelloedd i fyny’r grisiau yn bwyta pitsa ac yn gwylio Maleficent gyda Kelly-Jo, y Gweithiwr Cymorth i Frodyr a Chwiorydd,” mae Emily yn esbonio.

“Roedd hi’r adeg pan oeddwn i’n newid i’r grŵp Supersibs hŷn,” mae Ruby yn ei ychwanegu. “Gwnaethon ni jyst clicio. Rydyn ni’n byw yn eithaf pell o’n gilydd, yn Y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr, ond rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad yn aml y tu allan i Tŷ Hafan.” am ein gwasanaethau gofal i deuluoedd www.tyhafan.org/howwe-care

Mae llawer o frodyr a chwiorydd yr ydym yn eu cefnogi yn gweld bod gallu treulio amser mewn lleoliad hamddenol gyda chyfoedion sy’n gallu deall eu profiadau eu hunain yn hynod werthfawr.

O ran yr hyn sy’n digwydd yn Supersibs, mae’n fan i frodyr a chwiorydd ymlacio, cael bod yn rhydd a bod eu hunain. Maen nhw’n cael tanau gwersylla ar y traeth, yn gwylio ffilmiau, yn cael diwrnodau chwaraeon, gemau a gweithgareddau ar themâu, teithiau diwrnod i leoedd fel yr Aqua Park a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a llawer mwy.

Rydym bob amser yn ceisio ehangu ein hamrywiaeth o weithgareddau ac mae wedi bod yn bleser cael dechrau gweithio’n agos gydag Amgueddfa Caerdydd i wella ein cynnig.

I blant sy’n methu â dod i’r hosbis yn aml, rydym yn cynnal grŵp Supersibs rhithwir ar yr un diwrnod â’r cyfarfod wyneb yn wyneb.

Hanner ffordd drwy’r mis, rydyn ni hefyd yn cynnal cyfarfod Roblox rhithwir!

Mae’r plant yn dewis y gêm Roblox yr hoffan nhw ei chwarae gyda’i gilydd, ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw weld ei gilydd bob yn ail wythnos a gwneud rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau.

Gyda’ch cymorth chi, gall brodyr a chwiorydd plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd gael cefnogaeth, beth bynnag yw eu sefyllfa.

Dysgwch fwy...

“Mae’n dda cwrdd â phobl sy’n gwybod beth rydych chi’n ei wynebu. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n wynebu’r un sefyllfa yn union, maen nhw’n dal yn gallu deall mewn ffordd wahanol i’r rhan fwyaf o bobl fy oedran i,” meddai Emily.

Dywed Ruby wrthym: Mae wedi fy helpu i ddatblygu cyfeillgarwch gyda gwahanol grwpiau oedran ac mae wedi fy helpu i ddatblygu fel person. Rydyn ni’n gallu gadael ein problemau wrth y drws a jyst cael hwyl.

“Fel arfer, rydyn ni’n cwrdd ddwywaith y mis. Rydyn ni’n mynd i’r grŵp Supersibs ar gyfer ein grŵp oedran ac yna rydyn ni’n gwirfoddoli yn y grŵp i blant iau er mwyn i ni weld ein gilydd yn fwy!”, ychwanegodd Emily.

Dywedodd Ruby: “Pan rydyn ni’n gwirfoddoli, rydyn ni’n helpu’r plant iau gydag unrhyw beth sydd ei angen arnyn nhw, gallai hynny gynnwys eu helpu nhw gyda gweithgareddau, eu helpu i glymu eu hesgidiau a chario bagiau ni yw eu gweision hongian cotiau personol!”

Rhoi

Gyda’ch rhoddion chi, gall mwy o frodyr a chwiorydd plant sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd gael cyfle i fanteisio ar gymorth emosiynol ac ymarferol heb unrhyw gost. Diolch

I roi i Tŷ Hafan heddiw: Defnyddiwch y ffurflen ar dudalen 27

Ffoniwch ni ar 02920 532 255 Ewch i www.tyhafan.org/donate

This article is from: