
1 minute read
Arwyr codi arian
by Ty Hafan
Bob dydd rydym yn cael ein syfrdanu gan ymdrechion codi arian anhygoel ein cefnogwyr. Mae cannoedd o bobl bob blwyddyn yn treulio’u hamser rhydd yn codi arian hanfodol ar gyfer ein gwasanaethau gofal. O’n safbwynt ni, maen nhw i gyd yn arwyr.
Aberthu gwallt
Mae Christopher Guy yn ffan mawr o Elvis Presley. Ei brif ddiléit oedd ei wallt du yn steil Elvis ac yn ddewr iawn, fe wnaeth eillio’r cyfan fel rhan o ddigwyddiad codi arian ehangach yng Nghlwb Ceidwadwyr Penarth i godi arian i ni!
Codwyd cyfanswm o £1,056, felly fel y byddai Elvis yn ei ddweud, diolch yn fawr iawn!
Priodas yn y gaeaf
Roedd clychau priodas yn canu ar 30 Rhagfyr a gofynnodd
Geraldine a Martin O’Sullivan am roddion i Tŷ Hafan yn lle anrhegion, gan godi £527.01 i ni. Llongyfarchiadau, Geraldine a Martin, a diolch am eich haelioni!
Codi arian ar gyfer
Tŷ Hafan
Wedi’ch ysbrydoli gan y straeon hyn? Gwych!
Mae’r byd yw eiddo i chi pan fyddwch chi’n codi arian ar gyfer Tŷ Hafan. Gallwch gynnal digwyddiad, ymgymryd â her, gwneud a gwerthu neu wneud rhywbeth hollol unigryw!
Bydd ein Tîm Gofal Cefnogwyr gyda chi bob cam o’r ffordd. Cysylltwch â nhw drwy anfon e-bost i supportercare@tyhafan.org neu ffonio 02920 532 255.




Arddangosfa Nadolig
Mae Guy Chapman yn gefnogwr Tŷ Hafan ers tro. Bob blwyddyn, mae’n gosod golygfa Nadolig y tu allan i’w dŷ yn Ninas Powys ac arddangosfa’r Geni yng Nghanolfan Arddio Pugh i godi arian ar ein cyfer. Mae wedi codi cyfanswm aruthrol o £8,191.35. Diolch am bopeth yr ydych chi wedi’i wneud drosom ni, Guy.
Cerdded trwy dân
Mae rhai o’n cefnogwyr hyd yn oed yn cerdded dros lo poeth i ni!
Fe wnaethom gynnal digwyddiad Cerdded trwy dân yn stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd, lle cerddodd codwyr arian dewr ar draws darn pum metr o golsion pren 800 gradd. A do, fe wnaethon nhw hynny’n droednoeth! Cododd y digwyddiad hwn £16,895.83, felly ‘Diolch yn fawr’ enfawr i bawb