1 minute read
Ydych chi wedi clywed am Eyegaze? Mae’n newid bywydau!
by Ty Hafan
Mae’r peiriant Eyegaze Edge yn dechnoleg gynorthwyol sy’n helpu plant â symudedd cyfyngedig i ryngweithio â’r byd.
Rydym yn dwlu ar y darn hwn o offer.
Mae’n anhygoel gweld plant yn yr hosbis sy’n methu â chyfathrebu’n hawdd yn gallu mynegi eu hunain dim ond drwy symud eu llygaid.
Gall plant symud eu llygaid i gyfathrebu penderfyniadau ‘ie’ neu ‘nage’ neu ddewis pa weithgaredd maen nhw eisiau ei wneud nesaf hyd yn oed. Efallai fod hyn yn ymddangos yn gamp fach, ond i blant sy’n methu â siarad ac sydd â symudedd cyfyngedig iawn, mae gallu gwneud penderfyniad yn hynod.
Mae bod â hunanreolaeth fel hyn yn rhoi hwb mawr i hunan-barch ac annibyniaeth y plant yr ydym yn eu cefnogi. A dim ond dechrau arni yw hynny!
Mae Eyegaze yn dod â nodwedd cynhyrchu lleferydd, gemau a gall gyrraedd gwefannau ac apiau. Mae hyn yn bwerdy cynwysoldeb a hygyrchedd gwirioneddol.
Teyrnged i SUZANNE GOODALL
Eleni, roedd 11 Ionawr yn nodi
6 mlynedd ers marwolaeth ein
Sylfaenydd a’n ffrind, Suzanne
Goodall. Mae colled fawr ar ei hôl, ond rydym yn falch bod ei hetifeddiaeth yn fyw o hyd drwy’r gwaith caled yr ydym yn parhau i’w wneud i’r rhai sydd ein hangen ni.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Suzanne yn cael ei hanrhydeddu drwy gwilt a luniwyd gan Cutting Edge Textiles. Mae’r cwilt wedi ei wneud i dynnu sylw at gyflawniadau sylweddol menywod yng Nghymru. Mae adran hyfryd Suzanne wedi ei chreu gan Carol Bartlett, artist sydd wedi paentio gerddi Tŷ Hafan.
Gwaith gwych, Cutting Edge Textiles, a diolch am anrhydeddu Suzanne
Sut mae’n gweithio?
Mae Eyegaze yn defnyddio symudiadau’r llygaid i deipio neu glicio ar sgrin. Mae’n gwneud hyn drwy ei gamera olrhain llygaid sy’n eistedd ychydig yn is na’r sgrin.
Mae’r feddalwedd prosesu delweddau yn dadansoddi delweddau’r camera 60 gwaith yr eiliad i ddarganfod lle mae’r defnyddiwr yn edrych ar y sgrin.
Pan fydd y person sy’n defnyddio’r Eyegaze yn edrych ar y sgrin, gall ddewis gwahanol allweddi (ychydig fel allweddi ar liniadur).
Dim ond tua hanner eiliad o edrych ar allwedd mae’n ei gymryd i’r defnyddiwr ei hysgogi, felly gallan nhw fynd o allwedd i allwedd yn gyflym iawn – er y gellir newid hyn i gyd-fynd orau ag anghenion y defnyddiwr.
Mae’n rhaid i ni ddiolch yn arbennig i Lifelites, elusen sy’n rhoi technoleg arloesol i’r plant sydd ei angen fwyaf, am roi Eyegaze i ni.