3 minute read

Diwrnod ym mywyd. . . Therapydd Chwarae

Mae Therapi Chwarae yn rhan allweddol o’n gwaith. Mae’n helpu plant i ddeall profiadau trawmatig ac yn eu helpu i weithio trwyddyn nhw mewn ffordd iach, sy’n addas i’w hoedran.

Felly, roedd hi’n wych bod Anna – un o’n Therapyddion Chwarae – wedi rhannu ychydig o’i hamser gyda ni i esbonio’r hyn y mae’n ei wneud a beth all diwrnod yn Tŷ Hafan ei gynnwys.

“Math o therapi seicolegol yw Therapi Chwarae sy’n defnyddio egwyddorion cwnsela sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn ffordd sy’n addas i blant. Rydym yn ei wneud oherwydd gall plant a phobl ifanc gael profiadau aeddfed iawn o ran trawma,” eglura Anna.

“Yn wahanol i oedolion, nid oes gan blant yr un fath o eirfa fel arfer, felly nid ydyn nhw’n gallu mynegi a phrosesu’r hyn maen nhw wedi’i wynebu yn yr un ffordd ag oedolyn. Dyna le rydym ni’n dechrau.

“Yn Tŷ Hafan, rydym fel arfer yn gweithio gyda thrawma yn sgil sefyllfaoedd meddygol, ond gallai fod yn unrhyw beth. Mae Therapi Chwarae dan arweiniad y plentyn i raddau helaeth. Nid yw plant byth yn cael eu gwthio i wynebu eu trawma – maen nhw’n ei wneud yn eu hamser eu hunain. Maen nhw’n defnyddio teganau a chwarae i fynegi a chyfathrebu.

“I ddechrau, mae Therapi Chwarae yn ymwneud â’r chwarae, ac yna rydym yn helpu’r plant i gysylltu’r chwarae â’u realiti. Yn ystod yr wythnosau cyntaf, rwy’n canolbwyntio ar feithrin perthynas â’r plentyn a gadael iddyn nhw archwilio’r ystafell Therapi Chwarae yn eu hamser eu hunain.

“Mae’r teganau rwy’n eu defnyddio yn cael eu dewis yn ofalus ac, ar ôl ychydig wythnosau, bydd y plentyn yn dangos yr hyn rydym ni’n ei alw’n ‘llinyn naratif’, sy’n golygu ein bod ni’n eu gweld nhw’n ailadrodd ac yn datblygu’r un stori drwy eu chwarae.

“Yn aml, mae’r hyn maen nhw wedi dewis ei wneud yn y sesiwn yn ymwneud â’u bywydau, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny. Pan fyddan nhw’n gwneud y cysylltiad hwnnw â’u realiti dros amser, maen nhw’n gallu defnyddio chwarae i fod yn fuddugol yn y sefyllfa a wnaeth eu brifo

Y rhan orau o fy swydd o bell ffordd yw bod mewn sesiwn chwarae a gweld cam mawr ymlaen.

“Gallai plentyn fod yn defnyddio chwarae esgus i actio eu trawma ac yna, yn y sesiwn nesaf, codi’r ddol yr oedden nhw’n ei defnyddio a dweud: “gall hwn fod yn fi yr wythnos hon – mae wedi bod yn fi o’r dechrau” neu “mae gan y ddoli wallt brown fel fi!”

Gyda Therapi Chwarae, gall plant archwilio eu hemosiynau mewn man diogel, dysgu sut i ymdopi â’u sefyllfa a magu eu hunanhyder. Gall helpu plant i ymdrin â phrofedigaeth, ysgariad a heriau eraill maen nhw’n eu hwynebu.

Mae Tŷ Hafan yn lle arbennig iawn i weithio. Mae gen i’r tîm gorau o fy amgylch. Cyn gynted ag i mi gamu trwy’r drysau, roeddwn i’n gwybod dyma le roeddwn i eisiau bod. Roedd yn teimlo’n gynnes.Rydym wir yn cael ein derbyn fel pwy rydym ni.

Rwy’n dwlu ar greu cysylltiadau â’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw. Mae’n fraint fawr bod mewn sefyllfa i allu eu grymuso. Maen nhw’n rhoi ffydd ynoch chi gyda’r rhannau anoddaf o’u bywyd ond yn dathlu’r amseroedd da gyda chi

Diolch am siarad â ni, Anna.

“Does dim dau ddiwrnod yr un peth i fi, ond rwy’n cadw trefn arferol. Mae Therapi Chwarae yn therapi sy’n seiliedig ar ymlyniad, felly mae angen i mi fod yn gyson a disgwyliedig yn yr ystafell therapi drwy’r amser,” meddai Anna.

“Gan gofio hynny, mae gan fy llwyth gwaith drefn arferol sylfaenol. Rwy’n gweld plant yr un amser ar yr un diwrnod bob wythnos. O amgylch hynny, gallai diwrnod i mi gynnwys unrhyw beth!

“Gallwn i fod yn mynd i gyfarfodydd, derbyn galwadau ffôn gyda rhieni, asesu cleientiaid newydd neu wneud gwaith amlddisgyblaeth fel cyfarfod â seicolegwyr i weld pwy sydd fwyaf addas i weithio gyda phlentyn penodol.

“Rwyf i hefyd yn gwneud llawer o ddarllen. Dim ond unwaith yr wythnos rwy’n gweld plentyn, ond yn y cyfamser, mae fy ymennydd yn myfyrio ar beth mae wedi ei ddweud. Felly, trwy wneud gwaith ymchwil, yn y sesiwn nesaf rwy’n gallu myfyrio’n well ar beth mae’n ceisio’i fynegi, sef beth sy’n cael ei alw eu dal nhw mewn cof.

Ymunwch â Tŷ Hafan

Mae gyrfa yn Tŷ Hafan yn ysbrydoli ac yn boddhau. Wrth weithio gyda ni, byddwch chi’n chwarae rhan fawr yn ein cenhadaeth i roi cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd rhyfeddol sydd ein hangen ledled Cymru..

Hefyd, byddwch chi’n gallu manteisio ar:

• 30 diwrnod o wyliau (+ mwy gyda gwasanaeth) a Gwyliau Banc

• Buddion rhagorol

• Cyfleoedd datblygu proffesiynol

• Amgylchedd gwaith cyfeillgar, cefnogol

Os hoffech chi weithio yn Tŷ Hafan, byddem yn dwlu ar glywed gennych!

I gael gwybod mwy am weithio yn Tŷ Hafan a gweld ein swyddi gwag diweddaraf, anfonwch e-bost atom yn careers@tyhafan.org neu ewch i: www.tyhafan.org/careers

This article is from: