1 minute read

Newyddion o’r hosbis

Mae’r tîm yn Tŷ Hafan bob amser yn brysur yn cynllunio digwyddiadau, gweithgareddau a nodweddion newydd yn yr hosbis. Dyma ychydig o’r newyddion diweddaraf...

Pantomeim gyda gwestai arbennig iawn

Wedi’i berfformio gan staff a gwesteion arbennig, roedd ein pantomeim Nadolig ar thema Encanto yn berfformiad doniol a theimladwy. Pan ddaeth y panto olaf i ben, disgynnodd

Siôn Corn ei hun mewn hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru i gwrdd â’r plant a dosbarthu anrhegion. Roedd hwn yn ddiwrnod gwirioneddol anhygoel yn Tŷ Hafan, felly diolch i bawb a’i gwnaeth yn bosibl.

Bydd Hybiau Aros a Chwarae’r Hosbis yn dychwelyd yn 2023

Hybiau Aros a Chwarae yn cael eu hailgyflwyno yn yr hosbis am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae’r Hybiau hyn yn caniatáu i blant a theuluoedd ddod atom am y diwrnod, cael cyfle i fanteisio ar ein gwasanaethau arbenigol a’n therapïau ategol, cael cymorth cymheiriaid, cael cinio a chwrdd â theuluoedd eraill. Mae tîm cyfan yr hosbis wedi cyffroi i ailgyflwyno’r digwyddiadau hyn yn 2023, felly mwy yn y man!

Ychwanegiad newydd cyffrous i’r hosbis

Erbyn hyn mae gennym ni wely Acheeva! I lawer o blant y mae siâp eu corff wedi’i newid oherwydd cyflyrau fel scoliosis neu dyndra cyhyrau, mae dod o hyd i ystum gyfforddus sydd hefyd yn ddigon cefnogol i gyfyngu ar unrhyw newidiadau eraill yn her.

Efallai fod ganddyn nhw gadair arbenigol i’w cefnogi i eistedd yn dda, ond yn gallu goddef eistedd ynddi am awr neu ddwy yn unig. Mae’r gwely Acheeva yn cynnig cefnogaeth gorwedd mewn gwahanol ystumiau, fel y gallwn ni ddod o hyd i ateb i blentyn sy’n gyfforddus ac yn cefnogi ei ystum.

Gwasanaeth gaeafol yng ngolau canhwyllau

Cynhaliwyd ein Gwasanaeth yng Ngolau Canhwyllau blynyddol ym mis Rhagfyr ac roedd yn hyfryd gweld cynifer o’r teuluoedd mewn profedigaeth yr ydym yn eu cefnogi yn bresennol. Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i deuluoedd yr hosbis mewn profedigaeth ac mae’r Gwasanaeth yng Ngolau Canhwyllau yn gyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd, canu carolau ac addurno’n coeden Nadolig gyda thagiau coffa i ddathlu bywyd eu plant. Roeddem wrth ein bodd yn croesawu côr Meibion Treorci yn ôl i’r hosbis i ganu carolau yn y digwyddiad twymgalon hwn.

Mae’n hawdd ei symud o amgylch ac mae wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio yn ystod y dydd, felly mae modd ei ddefnyddio o amgylch yr hosbis a gall y plant gymryd rhan yn ein holl weithgareddau mewn ystum sy’n gweithio iddyn nhw.

Dydd Nadolig Tŷ Hafan

Roedd Dydd Nadolig Tŷ Hafan yn arbennig iawn, ac yn canolbwyntio ar berson ifanc sy’n cael gofal diwedd oes gyda ni gan greu atgofion gwerthfawr gyda’i theulu yn yr hosbis. Dywedon nhw wrthym eu bod nhw wedi cael Nadolig hyfryd fel teulu, gyda chefnogaeth ein Tîm Gofal. Roedd hi’n gymaint o fraint cael bod yn rhan o’r diwrnod arbennig hwn.

This article is from: