2 minute read
Profiad gwisgoedd priodas yn y Fenni
by Ty Hafan
Mae gan bob un o’n 18 o siopau elusen eu naws a’u cymeriad unigol eu hunain. Ar Stryd Frogmore yn Y Fenni, mae gan Boutique
Emporium Tŷ Hafan nodwedd anarferol: adran briodas.
Mae’r adran briodas yn helaeth, gan lenwi ystafell gyfan o’r siop. Mae raciau o hen ffrogiau priodas a rhai cyfoes anhygoel a ffrogiau morynion priodas ar bob wal yr ystafell, ac maen nhw’n cael eu gwerthu am ganran fach iawn o’u prisiau gwreiddiol.
Mae’r ffrogiau, rhai ail-law a rhai newydd sbon, yn aml o safon uchel ac yn werth mwy na £2,000. Maen nhw’n cael eu rhoi i ni gan unigolion a siopau ac maen nhw i gyd mewn cyflwr gwych.
Pan fyddwch chi’n dod i mewn i edrych ar ein ffrogiau priodas, byddwch yn cael y profiad llawn, a bydd ein tîm wrth law i’ch helpu i ddewis ffrogiau, ystafell breifat wych ar gyfer eu gwisgo a chymaint o de a choffi ag yr hoffech ei yfed!
I siopa ein casgliad priodas, gallwch drefnu apwyntiad drwy ein ffonio ar 01873 855020.
Er hynny, nid gwisgoedd priodas yn unig y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn Boutique Emporium Tŷ Hafan. Mae ffrogiau dawns, ffrogiau ffurfiol a hetiau ffurfiol ac addurniadau gwallt yn cael eu gwerthu yma hefyd trwy apwyntiad.
Cefnogi Tŷ Hafan ar ddiwrnod eich priodas
Pan fyddwch chi’n priodi, gallwch ychwanegu elfen o Tŷ Hafan at eich diwrnod mawr.
Mae cael ffafrau priodas Tŷ Hafan, bocsys casglu ac amlenni yn eich brecwast priodas yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Maen nhw’n codi arian ar gyfer ein hachos ac ymwybyddiaeth ohono.
Gallwch hefyd alw heibio ar lawr gwaelod y siop ar gyfer taith siopa o ddydd Llun i ddydd Sadwrn er mwyn pori drwy’r eitemau sydd wedi’u rhoi i’n prif siop elusen yn Y Fenni.
Mae prisiau cynyddol yn effeithio ar bobl ledled y wlad, felly rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i helpu pobl i baratoi ar gyfer eu diwrnod mawr heb iddyn nhw orfod talu’r prisiau uchel arferol.
Mae’r arian o bob ffrog yn mynd yn syth i Tŷ Hafan a’n cenhadaeth o wneud yn siŵr bod plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy’n byrhau bywyd yn cael bywydau llawn, gofal arbenigol a chefnogaeth barhaus.
Byddem wrth ein bodd yn gweld lluniau o’r hyn rydych chi wedi’i brynu yn ein siopau elusen! Postiwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #shoptyhafan.
Cyfeiriad: 55 Stryd Frogmore, Y Fenni, NP7 5AR Oriau agor: 09:15 - 16:45, dydd Llun i ddydd Sadwrn
Nid yw ein ffafrau priodas yn ddrud ac maen nhw’n ffordd hyfryd o ddiolch i’ch gwesteion am ddod, a’r cyfan wrth gefnogi ein cenhadaeth
• Pecynnau o hadau cymysg
• Pensiliau hadau pabi
• Peniau
Gallwch brynu ein ffafrau priodas ar-lein yma: www.tyhafan.org/supportus/shop/wedding-favours
I gael blwch casglu Tŷ Hafan ac amlenni rhodd ar gyfer eich priodas, cysylltwch â’n Tîm Gofal Cefnogwyr ar 02920 532 255 neu yn supportercare@tyhafan.org.