Y Drych
Cylchgrawn
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhydychen
Rhifyn 2018-19
Awst 2019
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Golygyddol: Y Drych Gyda’m gyfnod fel myfyriwr yng Ngoleg y Santes Ann yn dod i ben, roedd e’n fraint cael diolch i’r gymdeithas am roi flas o Gymru oddi cartref, i mi a llu o fyfyrwyr Cymraeg eraill yn Rhydychen, trwy olygu’r drych eleni. Mae rôl y gymdeithas o fewn y brifysgol yn un pwysig; i rai myfyrwyr dyma’r un lle gellir cwrdd a chymysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, mae’r gymdeithas yn hybu dathliadau a dywilliant Cymru trwy’r noson pice a phenderyn, y gwasanaeth carolau, sŵper Gwyl Ddewi, â’r eisteddfod, traddodiad sydd wedi cael ei ail-sefydlu yn gryf erbyn hyn. Mae’r drych, felly, yn rhoi’r cyfle i ni fel cymdeithas i gofnodi hynt â helynt y flwyddyn dwethaf. Gellir canfod rhyddiaeth a cherdd buddugol eisteddfod eleni â chrynodeb o weddill y digwyddiadau yn adroddiad y Caplan a’r lluniau a cynhwysir ar ddiwedd y rhifyn yma. Mae ymrhoddiad gan siaradwyr gŵadd a bwyllgor y gymdeithas trwy rhoi o’i amser eu hun yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y gymdeithas, a diolchwn yn fawr iddynt am ei gwaith caled eleni. Mae hyn yn eithriadol o wir am llwyddiant y drych ei hyn, sy’n gwbl wirfoddol ar rhan y awduron. Braf oedd gweld unwaith yn rhagor, felly, bod nifer halaeth ohonynt yn barod i gyfrannu tuag at y rhifyn yma.
Cawn hefyd trosolwg o’r problemau sy’n pryderu pobl ifanc Cymru wrth iddynt ymgeisio i brifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt a phwysigrwydd Cymdeithas Dafydd ap Gwiliym i hanes Prydain gyda thrafodaeth o berthynas Gwynfor Evans a’r gymdeithas. Beth sy’n glir o’r erthyglau yma, serch y gwahaniaethau rhwng y pynciau a thrafodir, yw’r rôl cannolog mae Cymru a’r Gymraeg yn chwarae yn pob un ohonynt. Pwysleisir hyn bwysigrwydd lle i hybu’r Gymraeg o fewn y brifysgol, ac hynnu yn rhâd ac am ddim. Gellir ddim ond parhau i gynnig y digwyddiadau a naws cartrefol mae’r cymdeithas yn magu trwy rhoddion gan noddwyr hael. Ar diwedd y rhifyn yma, cier gwybodaeth gan ein trysorydd ynglyn a sut allwch chi gyfrannu’n ariannol tuag at weithgareddau’r gymdeithas. Wrth i mi gloi, ddiolchaf yn fawr i’r holl bobl cyfranodd i’r drych eleni, yn enwedig i Osian, am yr holl gymorth, Gwilym am ei ymrhoddiad ddifael, a Gwyndaf ac Elan am rhannu eu profiadau anhepgor o olygu’r drych yn flaenorol. Dymunaf pob llwyddiant i bwyllgor y gymdeithas blwyddyn nesaf, yn arbennig i Lois Llywelyn Williams, sydd a’r anrhydedd o olygu’r Drych. Jamie Gravell, Coleg y Santes Ann
Mae’r amryw o destynnau yn dangos yn glir y diddordebau eang sydd gan y awduron, gyda erthyglau yn amrywio o rôl y Cymry yn y byd snŵcer i gemeg biolegol.
1
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019
Cynnwys Golygyddol Jamie Gravell
Swyddogaethau 2018-2019
tud. 1
tud. 4
Adroddiad gan y Caplan Osian Prys Elis
Her disgyblion Cymru i gyrraedd Rhydychen
tud. 5
tud. 8
Lowri Howard
Mark Williams - A oes Cymry i’w ddilyn?
tud. 9
Gwyndaf Oliver
Clefydau Prion
tud. 11
Bedwyr ab Ion Thomas
Gwynfor Evans yn Rhydychen
tud. 14
Gwyilim Tudur
Cyfansoddiad Buddugol yr Eisteddfod
Lluniau’r flwyddyn
Codi Arian at Waith y Gymdeithas
tud. 18
tud. 24
tud. 28
2
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Swyddogaethau 2018-2019
Swyddogaethau 2019-2020
Y Llywydd (sef yr aelod hŷn):
Y Llywydd (sef yr aelod hŷn):
Dr Rosalind Temple
Dr Rosalind Temple
Y Coleg Newydd
Y Coleg Newydd
Y Caplan:
Y Caplan:
Osian Prys Elis
Adam Wilkinson-Hill
Coleg yr Iesu
Coleg yr Iesu
Y Trysorydd
Y Trysorydd
Gwilym Tudur
Lewys Griffiths
Neuadd Wycliffe
Coleg y Sant John
Yr Archarogldarthydd
Yr Archarogldarthydd
Steffan Williams
Lucas Watts
Coleg yr Iesu
Coleg Wadham
Y Prif-ddefodydd
Y Prif-ddefodydd
Matt Roberts
Brenig Davies
Coleg yr Iesu
Coleg yr Iesu
Yr Ysgrifennydd
Yr Ysgrifennydd
Lowri Howard
Glyn Owen
Coleg y Santes Ann
Coleg y Brifysgol
Y Swyddog TG / Cyfryngau Cymdeithasol
Y Swyddog TG / Cyfryngau Cymdeithasol
Rhys Underdown
Mared Owen
Coleg Balliol
Coleg yr Iesu
Golygydd y Drych
Golygydd y Drych
Jamie Gravell
Lois Llywelyn Williams
Coleg y Santes Ann
Coleg yr Iesu
3
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Adroddiad blynyddol Caplan Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhaid i mi ddechrau’r adroddiad blynyddol hwn trwy fynegi fy niolch mawr am y cyfle gwirioneddol amhrisiadwy o fod yn Gaplan ar Y Dafydd dros 2018/19. Dichon nad syndod i wladgarwr a myfyriwr Hanes fel fi ddweud mai braint ar ddweud y lleiaf oedd meddu arweinyddiaeth ar gymdeithas mor gyfoethog ei Chymreictod a’i gorffennol. Mae wir yn destament i wydnwch yr aelodaeth bod gwladgarwch a naws egnïol Y Dafydd yn fyw o hyd, a hynny yn rhyfeddol mewn cymdeithas sydd â’i bywyd yn pontio tair canrif. Anrhydedd oedd cyd-weithio gyda’r pwyllgor er mwyn y gymdeithas hon, ac rwyf wedi mwynhau'r profiadau i gyd, yn enwedig y cyfeillachu gyda’n haelodau hen a newydd. Braslun byr o’r atgofion melys hyn a geir yma: y cymdeithasu, y dathlu a’r cyd-fwynhau sydd mor nodweddiadol o bersonoliaeth Y Dafydd. Dechreuodd tymor Mihangel fel yr arfer gyda Ffair y Glas yn Examination Schools, wrth i’r pwyllgor genhadu enw Y Dafydd a chyfarch y myfyrwyr newydd o Gymru i’r brifysgol. Ymaelododd dros hanner cant o bobl yn newydd gyda’r gymdeithas, ac mae’n braf gen i ddweud bod y garfan hon wedi dangos brwdfrydedd mawr tuag at y digwyddiadau eleni. Fe’u croesawyd yn ffurfiol gyda noson y Pice a Phenderyn yng Ngholeg Balliol digwyddiad tipyn yn fwy cartrefol na phrysurdeb Ffair y Glas. Buan yr ysgafnhawyd yr hiraeth am Gymru gyda’r tastau Cymreig hyn! Pa syndod mai dim ond briwsion o’r pice a chwpl diferyn o’r chwisgi oedd i’w gweld ar ddiwedd y noson: roedd y cyfan yn rhad ac am ddim wedi’r cyfan. Parhaodd y gwledda gyda’r gwahoddiad i ddod i Goleg yr Iesu am y swper ffurfiol traddodiadol yng ngholeg y
Caplan. Yng nghyd â’r bwyd blasus, roedd hi’n ddiléit personol clywed sŵn y siarad Cymraeg yn llenwi’r neuadd fwyta. Roedd yr awyrgylch Gymreig hon yn gweddu’n berffaith gyda’r traddodiad cryf o Gymreictod yng Ngholeg yr Iesu. Yn dilyn y wledd, symudon ni i far y coleg gan barhau gyda’r cymdeithasu tan yn hwyr. Roedd presenoldeb Y Dafydd wedi’i farcio (yn llythrennol) y noson honno, gyda thipyn o’r aelodau yn mynd ati i blastro arwyddeiriau Cymreig (Cymru am byth, Cofiwch Dryweryn, Cymru Rydd) ar fyrddau duon y bar. Mae’n galonogol gweld bod y meddwl mawr am Gymru, Cymreictod a’r Gymraeg yn gryf heddiw yn Rhydychen. Roedd hi’n braf cyd-weithio gydag Owain James a Theo Davies-Lewis yn eu menter newydd, Rhwydwaith Darogan. Dyma ymdrech uchelgeisiol i greu dolen gyswllt rhwng cyflogwyr Cymru â graddedigion Cymreig o brifysgolion yn Lloegr. Os am Gymru lewyrchus, mae’n rhaid creu'r mecanweithiau hyn ar gyfer gwrthdroi problem y draen doniau. Yn y digwyddiad cyntaf, gwahoddwyd Ben Lake, AS Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Ceredigion, i sesiwn cwestiwn ac ateb yng Ngholeg y Drindod. Bûm yn lwcus iawn o gael cwmni y cyn-aelod o’r Dafydd, ac mi wnaeth pawb yn y gynulleidfa fwynhau'r trafod gwleidyddol am Gymru, Prydain ag Ewrop. Nid dyma’r tro olaf yn y flwyddyn i Ben Lake roi tipyn o’i amser i ddod atom. Fe ddaeth eto, yn nhymor Ilar, ar gyfer uchafbwynt y flwyddyn, y Swper Dydd Gŵyl Dewi ffurfiol. Daeth y tymor cyntaf i glo gyda’r Gwasanaeth Carolau Cymraeg traddodiadol yng nghapel Coleg yr Iesu. Cododd sawl aelod o’r Gymdeithas i’r pwlpid ar gyfer y darlleniadau a’r 4
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 gweddïau, ond i Gwilym Tudur y mae’r ddyled fwyaf: ef a draddododd bregeth y Gwasanaeth, ac roedd ei fyfyrdodau yn fwyd meddwl i bawb yn y gynulleidfa. Canom y carolau Cymraeg confensiynol, ond eleni, ymdrechom (heb ymarfer) i ganu’r Plygain: ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ oedd y dewis. Er bod y garfan o fyfyrwyr Cymreig yn fach yn Rhydychen, roedd y canu gan y Cymry y noson honno yn ddigon i dystio bod tipyn o wirionedd i’r sôn am Gymru fel ‘Gwlad y Gân’. Ar Ddydd Santes Dwynwen, cawsom aduniad o’r Gymdeithas yn nhafarn y King’s Arms er mwyn rhoi cychwyn ar ddigwyddiadur tymor Ilar. Ar gyfer cyd-wylio gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fodd bynnag, cyfarfuom ar y penwythnosau yn nhafarn Cymreig y ddinas, y Royal Blenheim. Pwy fedr anghofio cyffro mawr y gêm rhwng Cymru a Lloegr a llwyddiant Camp Lawn y tîm cenedlaethol yn y bencampwriaeth? Roedd Y Dafydd yn sicr yn lwcus o gael gwledd o chwaraeon i helpu gyda’n hymdrechion i dorri syched yn y tafarndai! Y llynedd, cafodd Y Dafydd crewdate cofiadwy gyda Chymdeithas Wyddelig y Brifysgol. Eleni fodd bynnag, tyfodd y cylch Celtaidd gyda threfnu digwyddiad tebyg, ond y tro hwn gyda’r Gymdeithas Albanaidd yn ymuno â ni. Roedd y drindod Geltaidd hon yn ddigon i droi'r argoeli am noson dda yn realiti. Ar ôl y gwledda yn Jamal’s, aethom ymlaen i’r bar yng Ngholeg yr Iesu (eto) cyn mynd allan. Rwy’n cofio’r syndod ar wynebau ein cefndryd Celtaidd o weld yr arwyddeiriau Cymreig, a’u marcwyd ar y byrddau duon gan Y Dafydd yn nhymor Mihangel, yn parhau’n drwch ar waliau’r bar. Roedd hi’n noson arbennig! Go raibh maith agaibh / tapadh leibh! Ynghyd â’r cymdeithasol, cynhaliwyd
nosweithiau cyfarfodydd
mwy deallusol a oedd yn fwy cyson gyda thraddodiad hanesyddol Y Dafydd o fod yn fforwm trafod a dadlau. Daeth Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol atom yn y drydedd wythnos er mwyn trafod y llwybrau o gynyddu defnydd y Gymraeg yn ein hastudiaethau yn Rhydychen. Yn y pumed wythnos, cysylltodd y newyddiadurwr Guto Harri – cyn-aelod o’r Dafydd – gyda’r Gymdeithas i ffilmio pennod ar gyfer y rhaglen ‘Y Byd yn ei Le’. Cafwyd trafodaeth ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr Cymreig yn eu ceisiadau am brifysgolion gorau Lloegr. Ar ddiwedd y tymor, croesawyd yr Athro Huw Pryce o Brifysgol Bangor yn ôl i’w alma mater er mwyn traddodi darlith ar y driniaeth ac ymwybyddiaeth o hanes yn llysoedd y tywysogion Cymreig. Diolch o galon i’r ymwelwyr hyn am roi o’u hamser er mwyn cyfoethogi bywyd Y Dafydd. Roedd y dathliadau Gŵyl Dewi ar ddiwedd tymor Ilar yn glo gweddus i ddigwyddiadur prysur. Dechreuodd y dathlu gyda’r Gwasanaeth Cymraeg traddodiadol yng nghapel Coleg yr Iesu. Y Parchedig Athro Jeremy Duff, o'r Athrofa Padarn Sant a draddododd y bregeth eleni. Erbyn y penwythnos, trodd y meddyliau at uchafbwynt y calendr blynyddol, sef y Swper Dydd Gŵyl Dewi ffurfiol. Mae ein dyled i Steffan Williams, ein Harcharoglddarthydd, yn un mawr: gweithiodd yn ddygn ar drefnu noson hwyliog a chofiadwy i bawb. Croesawyd Ben Lake atom eto fel gwestai gwadd y Swper ac mi wnaeth pawb fwynhau ei araith yn fawr. Mae’n rhaid diolch hefyd i Admiral am noddi’r swper, a bu’n bleser mawr cael cwmni Rhodri Charles fel cynrychiolydd o’r cwmni. Noson benigamp arall, felly! Ac yna i dymor y Drindod - tymor Eisteddfod Y Dafydd. Trefnwyd y 5
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 digwyddiad gan Math Roberts, ein Prif Ddefodydd eleni, a dwi'n siŵr bod llawer ohonoch yn cytuno â mi bod y cystadlaethau wedi bod yn go hwyliog. Agorwyd y cystadlaethau llenyddol ar gyfer disgyblion o ysgolion yng Nghymru, gyda’r beirdd Iwan Rhys a Manon Awst yn beirniadu’r gweithiau. Cafwyd teilyngdod yng nghystadlaethau’r Goron a’r Gadair, ac felly cynhaliwyd y seremonïau dathlu i’n llenyddwyr buddugol. Llongyfarchiadau enfawr i Daniel Rolles o Ysgol Gyfun Gŵyr ar ennill y Goron. Gyrraf ganmoliaeth hefyd i Esyllt Einion o Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ar ennill y Gadair. Aethom wedyn i Turf Tavern, er mwyn torri syched wedi’r holl ‘eisteddfota’… Mi hedfanodd y flwyddyn heibio! Y rheswm am hynny, dwi'n siŵr, yw'r ffaith i mi fwynhau’r gwmnïaeth cryn gymaint. Wrth feddwl yn ôl dros y flwyddyn hon, mae rheidrwydd arnaf i fynegi diolch i bawb a oedd yn gysylltiedig gyda’r Gymdeithas. Diolch i’r pwyllgor am y gefnogaeth ac am fod yn dîm mor weithgar. Diolch hefyd i’r aelodaeth am fod mor frwdfrydig trwy’r flwyddyn. Diolch i bawb am ddod at ei gilydd i greu blwyddyn mor hwyliog. Y cwbl sy’n weddill i mi ei ddweud yw pob lwc i’r pwyllgor y flwyddyn nesaf – mae gennyf bob ffydd y gwnewch chi waith da iawn. Boed Y Dafydd barhau yn gymuned glos i Gymry Rhydychen! Osian Prys Elis, Coleg yr Iesu.
6
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Her disgyblion Cymru i gyrraedd Rhydychen Yn 2013, crёwyd rôl Llysgennad Caergrawnt a Rhydychen i Gymru yn benodol ar gyfer Paul Murphy AS. Roedd Murphy yn hannu o gefndir dosbarth gweithiol yn Nhorfaen, a’r genhedlaeth cyntaf o’i deulu i fynychu prifysgol pan aeth i Goleg Oriel, Rhydychen, rhyw hanner can mlynedd yn ôl. Roedd Murphy yn pryderu am y niferoedd isel o ymgeiswyr i Rydychen a Chaergrawnt o Gymru, yn ogystal a’r niferoedd hyd yn oed yn llai oedd yn cael eu derbyn i golegau’r ddwy brifysgol. Yn ei adroddiad senyddol, yn 2014, nododd Murphy bod gan ymgeisiwyr o Gymru, yn ystadegol, siawns îs nag ymgeiswyr o weddill y DU o gael eu derbyn i Rydychen neu Caergrawnt. Cyflwynodd yr adroddiad yma her i lywodraeth, ysgolion a disgyblion Cymru; nid yn unig i gynyddu hyder ymgeiswyr o Gymru ond i ddimynu â chamsyniadau yngylch a Rydychen a Chaergrawnt. Un o’r camsyniadau mwyaf, yn ôl Murphy, oedd bod nifer o ddisgyblion a rhieni yn pryderu bod astudio yng ngholegau Rhydychen a Chaergrawnt yn drutach nag ym mhrifysgolion eraill. Dengys ffigurau ystadegol, hefyd, bod disgyblion o deddwyrain Lloegr yn flynyddol yn cael llwyddiant cyson wrth ymgeisio o’i gymharu ac ardaloedd megis Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. I ryw raddau, mae llywodraeth Cymru wedi ateb yr her yma. Ffurfiwyd Rhwydwaith Seren yn 2014 i ddarparu
cymorth ac ysbrydoliaeth i ddisgyblion disglair Cymru wrth ymgeisio i Rydychen a Chaergrawnt. Mae aelodau’r Dafydd yn gweithio’n agos gyda Rhwydwaith Seren ac hefyd yn darparu cymorth ar gyfer Ysgol Haf Coleg yr Iesu a lawnsiwyd yn 2017. Rhwng 2015 a 2018, cynyddodd yr ymgeisiadau o Gymru gan 15%. Yn ogystal â hyn, cynhyrchodd yr Ysgol Haf 10% o’r holl geisiadau o Gymru i Rydychen yn 2018. Mae’n amlwg felly bod Rhwydwaith Seren wedi bod yn llwyddiannus yn ei fwriad o gynyddu ymwybyddiaeth a hyder disgyblion Cymru wrth ymgeisio i Rhydychen a Chaergrawnt ac mae ymgais y llywodraeth yn sicr. felly, wedi bod yn llwyddianus. Serch hyn, mae sialens llywodraeth Cymru yn parhau, gan ddengys yr ystadegau swyddogol nad ydy’r nifer o ddisgyblion sydd yn cael eu derbyn i’r ddwy brifysgol wedi cynyddu. Fel dywedodd Murphy yn ei adroddiad yn 2014, nid methiant y Cymry yw hyn. Yn wir gwelwyd bod y ceisiadau o Gymru yr un mor gryf a cheisiadau o weddil y DU. Mae angen, felly, i’r brifysgolion barhau i esbonio a gwneud yn glir nodweddion y broses ymgeisio a chael gwared â’r camsyniadau cyffredin. Bydd rhodd sylweddol gan gyn-fyfyriwr i gefnogi raglen Coleg yr Iesu eleni yn siwr o helpu’r ymgyrch. Boed i lwyddiant y Cymry yn Rhydychen barhau. Lowri Howard, Coleg y Santes Ann
7
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Mark Williams - A oes Cymry i’w ddilyn? Llwyddiant y Gorffennol Yn y 1970au, Cymry oedd ar frig y byd snwcer. Enillodd Ray Reardon, Terry Griffiths a Doug Mountjoy ddeg o’r deunaw twrnamaint “coron drifflyg” (Pencampwriaeth y Byd, Pencampriaeth y DU, a’r Masters) a fu rhwng 1970 a 1979, yn cynnwys saith o’r deg pencampwriaeth byd. Bu’r tri yn dominyddu snwcer proffesiynnol am ugain mlynedd, yn enwedig Reardon a fu’n gyntaf yn y byd o 1976 i 1980 ac eto ym 1982/3, a sy’n dal i ddal recordiau am y chwaraewr hynaf i ennill pencampwriaeth y byd, a’r hynaf i ennill twrnamaint graddio. 1979 oedd y tro cyntaf i gwpan y byd gael ei gynnal ar gyfer snwcer, a gyda’r tri yma ennillodd Cymru’r teitl yn y ddwy flynedd cyntaf iddo fodoli. Pan ymddangosodd Mark Williams a Matthew Stevens yn y 90au, roedd eto gobaith o weld Cymry yn dod i’r brig. Ar ôl blynyddoedd o Steve Davis ac yna Stephen Hendry yn ennill ym mhobman, daeth 1999/2000, a’r Cymry daeth i’r brig, Williams yn ennill Pencampwriaeth y DU a Phencampwriaeth y byd, a Stevens yn ennill y Masters. Bu Williams yn gyntaf yn y byd rhwng 2000 a 2002, ond nid oedd y llwyddiant am derfynnu. Yn 2002/3 Williams oedd y trydydd person i ennill y tri twrnamaint yn yr un tymor, ac nid oes unrhyw chwaraewr wedi cwblhau’r gamp ers hynny. Yn 2003, bu mwy o lwyddiant, gan i Stevens enill Pencampwriaeth y DU. Gobaith a Siom Dyna oedd diwedd y goruchafiaeth, ni ennillodd Cymro unrhyw un o’r coron drifflyg eto nes 2018, pan fu Williams eto yn bencampwr y byd. Gyda hyn, mae’n rhaid gofyn, lle mae’r talent ifanc, pam nad oes Ray Reardon neu Mark Williams newydd yn dod i’r golwg? Do, bu llawer o
obaith am Ryan Day, ond y mae o’n 39 erbyn hyn. Jamie Jones oedd y gobaith ifanc mwyaf diweddar i ddod yn agos at y brig; bu’n 29ain yn y byd. Cyrhaeddod rownd gyn-derfynol sawl twrnamaint, ac roedd sôn y byddai’n dod yn bencampwr yn y flynyddoedd i ddod. Yna, aeth popeth o’i le. Sgandal gosod gemau, ac ataliad tra bo ymchwiliad. Gwaharddiad blwyddyn am beidio datgelu ei fod yn gwybod am y gosod, er nad oedd yn euog ei hyn, Gwaharddiad a achosodd iddo gael ei ollwng oddi ar y gylched broffesiynnol gan ei fod y tu allan i’r 64 chwaraewr uchaf yn y byd. Gwaharddiad sy’n golygu efallai na fydd yn cael ei weld byth eto yn y gem broffesiynnol, a cholled talent enfawr o Gymru. Y Dyfodol Ar hyn o bryd, does neb wedi pasio Mark Williams, Ryan Day a Matthew Stevens, sydd nawr yn 3ydd, 21ain a 44ain yn y byd, ond mae pum Cymro proffesiynnol o dan 30, a’r ddau ieuengaf yn dal i fod ar y ffordd i fyny’r safleodd. Jak Jones yn 75ain yn y byd, a Jamie Clarke yn 84ain, a’r ddau ohonynt ond yn 26 a 24 oed, felly mae gobaith yn dal i fod, ond nid ydynt yn edrych yn agos at safon yr ennillwyr ifanc yn y gorfennol - Hendry, O’Sullivan, ac yn fwy diweddar Judd Trump. Rhaid gofyn felly; beth sydd yn mynd o’i le? A oes talent yng Nghymru sydd yn cael ei fethu? Ydym ni ond yn digwydd bod mewn amser lle nad oes chwaraewr o’r safon uchel hwn? Neu a oes problem yn bodoli, sy’n sicrhau na all chwaraewyr ifanc gael yr hyfforddiant sydd ei angen, lle nad oes digon o gyfle i ieuenctid ddechrau chwarae snwcer.
8
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Byddai colli lle Cymru ar y brig mewn snwcer proffesiynnol yn siom enfawr, yn enwedig gyda’r holl chwaraewyr disglair yn y gorffennol, ond os na fydd newid yn dod yn fuan, ni fydd Cymro yn agos at y brig. Heb Mark Williams, does neb i
ieuenctid Cymru ddilyn, neb i ymdrechu ac anelu at, a gallen fod eto yn aros am flynyddoedd i ddod, cyn gweld pencampwr eto yn dal banner y ddraig. Gwyndaf Oliver, Coleg Magdalen
9
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Clefydau Prion Wedi pedair mlynedd yn Rhydychen, i’w darganfod yn gyffredin mewn pilenni rwy’n gadael gyda MChem, ac yn celloedd niwronau yn yr ymennydd. Rhaid dychwelyd i fy ninas enedigol (Caerdydd) nodi nad yw union swyddogaeth Prp yn ble byddaf yn parhau gyda’m hysbys, ond cred ei fod yn berthnasol i hastudiaethau. Rwyf wedi ennill waith y synapsau rhwng niwronnau, ac yn ysgoloriaeth ymchwil PhD Cemeg debygol o fod yn rhannol gyfrifol am Feddyginiaethol dan nawdd y Coleg fewnlifiad copr mewn i gelloedd. Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Pan fo protein prion yn camblygu, Caerdydd er mwyn datblygu therapïau am mae’n troi o fod yn brotein sydd wedi ei glefydau prion. Dyma ychydig am y greu allan o fwyafrif o helicsau-, i fod a’r clefydau hynny: rhan helaeth o’r protein yn cynnwys llenni Enseffalopathi Sbyngffurf edafedd . Gelwir y protein annormal hwn (Spongiform Encephalopathy) yn prion heintus. Wedi i’r prion yma dreiddio i gelloedd y system nerfol a Gellir rhannu’r term spongiform rhyngweithio gyda phroteinau eraill, gall encephalopathy i dri chydran; ymddwyn fel patrymlun sy’n ysgogi’r proteinau prion arferol eraill i gamblygu. i) sopngiform: rhywbeth sydd â gwedd fel Mae’r prionau annormal yma yn wrthiannol sbwng (sbyngffurf) tu hwnt tuag at proteasau, sef yr ensymau ii) encephalo: sy’n cyfeirio at yr ymennydd sydd yn torri proteinau anarferol i lawr, ac (enseffalo), ag affinedd tuag at yr ymennydd. iii) path: sy’n cyfeirio at glefyd. Felly, mae spongiform encephalopathy yn golygu clefyd sy’n peri i’r ymennydd ymdebygu i sbwng, ac i feinweoedd iach yr ymennydd yn cael eu disodli gan godennau (cysts). Y prif reswm pam fo’r clefyd yma yn datblygu yw croniad o broteinau camblygiedig o’r enw prionau. Yn fras, creir proteinau o gadwyni hir o asidau amino, sy’n gallu plygu mewn ffyrdd gwahanol i gynhyrchu, er enghraifft, helics- a llen edafedd . Mae’r ffyrdd y mae’r llenni a’r helicsau yma’n cael eu trefnu yn gyfrifol am siap cyffredinol y protein. Mae math o broteinau, a elwir yn prion (Prp), yn bodoli ac yn cael eu amgodio gan y gennyn PRNP, ac yn mesur 253 asid amino o hyd. Mae strwythr y Prp yn cynnwys nifer helaeth o helicsau-, ac
Pan fo’r prionau yma’n cronni o fewn cell (e.e. niwron), maent yn achosi apoptosis, sef proses naturiol sy’n galluogi celloedd organeb i farw ac sy’n rhan anghenrheidiol o’i thwf a’i datblygiad. Digwydda hyn gyda chymorth proteinau 14-3-3, sy’n bodoli rhwng celloedd ac yn hybu apoptosis. Wrth i niferoedd mawr o gelloedd farw, ffurfir codennau yn yr ymennydd, gan achosi ymddangosiad fel sbwng. Yn ogystal, cronna’r prionau ym mhilenni’r niwronnau gan ffurfio placiau sy’n wenwynig i feinweoedd yr ymennydd. Clefyd Creutzfeldt-Jakob (CJD) yw’r prif reswm sy’n achosi enseffalopathi sbyngffurf. Mae pedwar math gwahanol o CJD yn bodoli; CJD teuluol (fCJD), CJD amrywiadol (vCJD), CJD iatrogenig (iCJD), a CJD ysbeidiol (sCJD). Mae’r pedwar math o CJD yn achosi 10
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 enseffalopathi sbyngffurf ac yn dirywio’r cortecs cerebrol a’r cerebelwm.
llawfeddygol eu heintio â’r clefyd a’u defnyddio i drin unigolyn iach.
CJD teuluol
CJD ysbeidiol
Caiff fCJD ei achosi gan fwtaniad yn y gennyn PRNP, gyda’r mwtaniad mwyaf cyffredin yn digwydd ar y 200fed codon. Pera hyn i’r asid amino, asid glwtamig gael ei ddadleoli gan lysin, ac mae’r newid bychan yma’n ddigon i achosi’r protein cyfan i gamblygu!
Ni wyddir yn bendant sut ddaeth sCJD i’r amlwg, gan ei fod yn ymddangos mewn poblogaethau ar hap ar hyd a lled y byd. Gall fod o ganlyniad i fwtaniad digymell yn y gennyn PRNP ar y 129ain codon, sy’n disodli falin gyda methionin. Mae’n fwy tebygol i unigolion sydd â’r mwtaniad yma ddatblygu sCJD, ac yn fwy tueddol iddynt gael vCJD.
CJD amrywiadol Achosir vCJD trwy fwyta cig gwartheg sydd â phrionau ym meinweoedd cyhyrau’r fuwch. Mewn gwartheg, achosa’r prionau yma enseffalopathi sbyngffurf buchol, neu, “clefyd gwartheg gwallgof”, a phan fwydir defaid gyda chig gwartheg heintus, achosa’r prionau yma glefyd scrapie, neu, “clefyd y crafu”. Pan wnaiff person fwyta’r cigoedd heintus yma, caiff y prionau eu amsugno gan y coluddion i mewn i’r llif gwaed. Credir, wedyn, i’r prionau dreuddio drwy’r rhwystr gwaed-ymennydd ac i mewn i’r niwronau drwy broses a elwir yn endosytosis arsugnol. Mae endosytosis arsugnol yn broses lle plyga pilen blasma celloedd nerfol i mewn ar eu hunain er mwyn gallu derbyn sylweddau na fysai, yn arferol, yn gallu treuddio drwy bilen blasma’r celloedd. Yn ogystal, gan fod y prionau yng ngwaed y person sydd â vCJD, gall y clefyd gael ei drosglwyddo drwy drallwysiad gwaed i berson arall. Yn y DU, nid oes hawl gan unigolyn sydd wedi derbyn trallwysiad gwaed ers Ionawr 1980 roi gwaed am yr union reswm yma. CJD iatrogenig Gall iCJD gael ei drosglwyddo drwy weithredoedd llawfeddygol, e.e. trawsblaniad cornbilen, pan gaiff offer
Mathau eraill sbyngffurf
o
enseffalopathi
Math arall o enseffalopathi sbyngffurf yw kuru. Caiff ei drosglwyddo o ganlyniad i ganibaliaeth - drwy fwyta cnawd person sydd â’r clefyd. Cafodd y clefyd hwn ei ddarganfod mewn llwyth brodorol o Bapua Gini Newydd, lle’r roeddent yn bwyta cyrff ac ymennyddion aelodau o’u teuluoedd a fu farw. Bu hyn yn fodd i’r prionau heintys yma gael eu trosglwyddo o unigolyn i unigolyn. Gan fod symptomau kuru mor debyg i rai CJD, tybir i kuru ddechrau pan ddatblygodd un o’r bobl hyn sCJD (a chael ei fwyta ar ôl iddo farw gan ei deulu). Clefyd arall yw anhunedd deuluol angheuol (fatal familial insomnia), sydd yn datblygu o ganlyniad i fwtaniad yng ngennyn PRNP ar godon 178, lle disodlir asid asbartig gan asbaragin. Mewn anhunedd deuluol angheuol, mae’r prionau yn dueddol o gronni yn y thalamws (yr ardal o’r ymennydd sy’n rheoleiddio cwsg) sy’n groes i duedd arferol clefydau prion eraill lle caiff y cortecs cerebrol a’r cerebelwm eu heffeithio’n bennaf. Dyma ddwy enghraifft ddiddorol o glefydau sy’n deillio o fwtaniadau mewn safleoedd gwahanol yn yr un gennyn.
11
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Symptomau enseffalopathi sbyngffurf Mae’n bosib na fydd symptomau enseffalopathi sbyngffurf yn cael eu harddangos hyd at ddegawd ar ôl i brionau heintus ddod i mewn, neu cael eu ffurfio, yn y corff. Er hyn, pan daw’r symptomau i’r amlwg, maent yn datblygu’n gyflym gan arwain at farwolaeth o fewn blwyddyn. Mae symptomau cynnar CJD a kuru yn cynnwys rhai motor fel ataxia (sy’n cael ei ddiffinio fel diffyg cydweithrediad rhwng cyhyrau rheoledig), a rhai niwrolegol, fel cof gwael a newid ymddygiadol. Yn ddiweddarach, datblygir symptomau fel gwendid cyhyrau, sy’n ei gwneud hi’n anodd cerdded a sefyll, a myoclonus, sef symudiadau cyflym ac gwinglyd gan y cyhyrau. Un o’r symptomau terfynnol yw gorffwylledd (dementia), lle collir gweithrediadau meddyliol fel cof, y gallu i wneud penderfyniadau, ac ymresymu. Mewn anhunedd deuluol angheuol, symptomau cynnar yw anhunedd ac ymateb syfrdanol gormodol (exaggerated startle response). Yn y pen draw, ni all yr unigolyn gysgu o gwbl a gall brofi rhithweledigaethau neu ddrychiolaethau. Yn unol â’r clefydau prion eraill, datblygir gorffwylledd sydd yn arwain at farwolaeth yn y pen draw. Caiff enseffalopathi sbyngffurf ei ganfod drwy archwilio’r symptomau a thrwy ddarganfyddiadau MRI, gan gynnwys anafiadau yn y cortecs, ganglia gwaelodol a thalamws. Gall pigiad meingefn gael ei wneud yn ogystal er mwyn echdynnu hylif yr ymennydd (cerebrospinal fluid) er mwyn canfod a oes lefelau uwch
nag arfer o brotein 14-3-3, sy’n nodwedd o ddinistirad niwronaidd sylweddol. Caiff y diagnosis terfynol ar gyfer enseffalopathi sbyngffurf ei wneud gan fiopsi yr ymennydd. Triniaeth Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaethau ar gael er mwyn trin clefydau prion. Fodd bynnag, gall gofal lliniarol, a chynghora genetig i’r rhai sy’n dioddef o fath teuluol y clefyd, gael eu rhoi. Er mwyn atal trosglwyddo’r prion, dylid cyfyngu’r gallu i roi gwaed o berson sydd gyda’r clefyd, a thrwy ddiheintio trylwyr offer llawfeddygol. Bwriad y prosiect bydda i’n rhan ohonno yw asesu dull arloesol ar sut i ddatblygu therapïau ar gyfer clefydau prion drwy fanteisio ar dechnoleg newydd ym maes cemeg feddyginiaethol, sef techneg ‘Proteolysis Targeting Chimera’, neu ‘PROTAC’. Mae’r techneg PROTAC yn defnyddio peirianwaith y celloedd i ddinistrio proteinau (sydd yn rhan annatod o weithrediad arferol y gell). Mae’r syniad yn syml iawn: cysylltu cemegyn bach sy’n adnabod y protein prion arferol gyda chemegyn bach arall sy’n adnabod y peirianwaith diraddio proteinau. Yn ddamcaniaethol, dyna ffordd syml ac effeithiol i leihau lefelau prion arferol, ac o ganlyniad prion annormal a all arwain yn yr hir-dymor at therapi sydd yn well na’r opsiynau eraill sydd ar gael hyd yn hyn. Rwy’n edrych ymlaen at gael chwarae rhan fach yn yr ymchwil arloesol yma a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Bedwyr ab Ion, Neuadd Sant Edmwnd
12
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Gwynfor Evans yn Rhydychen Ni ellir gwadu nad cymysgedd rhyfedd o’r
a osododd y sylfaeni i genedlaetholdeb
chwerw a’r melys oedd hanner cyntaf 2019
Cymreig dyfu yng Nghymru. O dan ei
i’r cenedlaetholwr Cymreig. Ar un llaw,
arweiniad ef fel llywydd y Blaid, daeth
chwerw eithriadol oedd gweld Boris
Plaid Cymru yn blaid wleidyddol aeddfed.
Johnson yn cerdded i mewn i Rif 10,
Rhwng 1951 a 1959 tyfodd ei chanran o
Downing Street, fel Prif Weinidog newydd
bleidleisiau mewn Etholiad Cyffredinol o
Prydain. Dyma Brydeiniwr i’r carn sy’n
0.7% i 5.2%. Yna, ym 1966, llwyddodd
credu mewn Prydeindod. Ar y llaw arall,
Evans i gipio’r sedd gyntaf i’r Blaid ei
fodd bynnag, mae clywed am wyth mil o
hennill mewn Etholiad Cyffredinol yn
bobl yn gorymdeithio dros annibyniaeth
isetholiad Caerfyrddin. Heb gyfraniad a
yng Nghaernarfon a gweld Plaid Cymru yn
dylanwad
cyrraedd brig pôl opiniwn diweddar am yr
cenedlaetholdeb
etholiadau Cynulliad nesaf yn newyddion
gymaint o dir erbyn y dwthwn hwn. Yn wir,
melys sy’n codi calon y cenedlaetholwr. Er
roedd Pennar Davies yn llygaid ei le pan
mai cyfnod chwerw-felys yw’r cyfnod
ddywedodd fod enw Gwynfor ‘yn rhan
hwn,
annatod o hanes deffroad Cymru yn yr
ni
ellir
gwadu
nad
ydyw
cenedlaetholdeb Cymreig bellach yn ennill tir
yng
Nghymru.
Nid
yw’r
o’r blaen. Mae’n air sydd bellach yn cael ei glywed ar ein cyfryngau ac yn ein Senedd. Cyfnod gwahanol oedd cyfnod
dichon
Cymreig
na
fyddai
wedi
ennill
ugeinfed ganrif’.1
gair
‘annibyniaeth’ yn creu cymaint o dabŵ ag
Evans,
Ychydig o bobl heddiw, er hynny, sy’n gwybod mai un o’r cyfnodau mwyaf ffurfiannol ym mywyd Gwynfor oedd ei gyfnod yn astudio fel myfyriwr graddedig yng
Ngholeg
Sant
Ioan,
Prifysgol
Gwynfor Evans (1912-2005). Criw bach o
Rhydychen. Yn ystod ei ddwy flynedd yn
genedlaetholwyr
Rhydychen,
Cymreig
oedd
yng
cadarnhawyd
ei
Nghymru yng nghanol yr ugeinfed ganrif a
genedlaetholdeb a miniogwyd ei syniadau
chanran fechan o bleidleisiau y câi Blaid
gwleidyddol. Bwriad gweddill yr ysgrif
Genedlaethol
hon ydyw manylu ar amrywiol brofiadau
Cymru
mewn
Etholiad
Cyffredinol. Roedd datganoli—heb sôn am
Gwynfor
annibyniaeth—yn dabŵ eithriadol. Er
Rhydychen.
Evans
ym
Mhrifysgol
hynny, Gwynfor Evans, yn anad neb arall, Pennar Davies, Gwynfor Evans (Abertawe: Gwasg Tŷ John Penry, 1976), t. 8. 1
13
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Dechreuodd
yn
Yn ychwanegol at gangen Plaid
Rhydychen ym 1934 wedi iddo gwblhau
Cymru, un o’r pethau pwysicaf i Gwynfor
gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Cymru,
yn Rhydychen oedd Cymdeithas Dafydd ap
Coleg Aberystwyth. Yn y Coleg ger y Lli,
Gwilym. Yn wir, ysgrifenna Gwynfor mai
daeth Gwynfor yn genedlaetholwr wedi
‘calon Rhydychen i’r Cymro Cymraeg
iddo ddarllen cyfrol enwog D. J. Davies,
oedd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym’.6 Ef
The Economics of Welsh Self-Government2
oedd ysgrifennydd y gymdeithas hon pan
(1931)
ddathlodd ei hanner canmlwyddiant ym
a
Evans
phenderfynu
astudio
fod
polisïau
economaidd y cenedlaetholwyr yn rhai
1936.
ymarferol.3 Y peth cyntaf, felly, a wnaeth
Gwynfor
Gwynfor
gyfeillion oedd yn cyfarfod yn gyson â’i
pan
gyrhaeddodd
Brifysgol
Rhydychen ym 1934 oedd mynd ati i
Yn
ei
hunangofiant,
disgrifia
y ‘Dafydd’ fel criw glòs o
gilydd i gymdeithasu.
sefydlu cangen i Blaid Genedlaethol Cymru
Un o’r pethau mae Gwynfor yn ei
yn y brifysgol. Wedi cysylltu â chriw o
grybwyll am y ‘Dafydd’ yn y 1930au oedd
genedlaetholwyr eraill yn y ddinas, gan gynnwys
Edwin
Pryce
Jones,
ei bod yn gymdeithas agored iawn i
Harri
ddysgwyr. Sonia’n benodol am aelod o’r
Williams a Tudno Williams, daethant at ei
gymdeithas o’r enw Dafydd Jones. Er ei fod
gilydd i ffurfio cangen i Blaid Cymru yn Rhydychen.4
yn dod yn wreiddiol o Croydon ac yn aelod o deulu di-Gymraeg, roedd wedi dysgu’r
Yn ei hunangofiant, Bywyd Cymro
iaith yn Rhydychen trwy ddarllen cyfrolau
(1982), sonia Gwynfor ei fod ef ac
Welsh Made Easy.7 Yn ôl Gwynfor, gan
aelodau’r eraill y gangen yn teithio’n
nad oedd Dafydd yn nabod llawer o Gymry
fynych i ddinasoedd eraill Lloegr, gan
Cymraeg yn Rhydychen, roedd yn codi am
gynnwys Caergrawnt, i geisio ‘dyfrhau’r
bump bob bore er mwyn siarad â’r dyn
tir’
llaeth oedd digwydd bod yn Gymro
i
genedlaetholdeb.5
Roedd
gweithgarwch gwleidyddol felly’n rhan allweddol
o
fywyd
Gwynfor
Rhydychen.
Cymraeg!
yn
Roedd y ‘Dafydd’ yn ystod cyfnod Gwynfor yn Rhydychen, hefyd, yn llawn o unigolion a fyddai, yn y pen draw, yn
D. J. Davies, The Economics of Welsh SelfGovernment (Caernarfon: Swyddfa’r Blaid Genedlaethol, 1931) 3 Gwynfor Evans, Bywyd Cymro (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1982), t. 46. 2
Ibid., t. 47. Ibid. 6 Ibid. 7 Ibid. 4 5
14
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 arweinwyr byd academaidd, athronyddol a
ei ysgwydd, a galwodd yn wên
chrefyddol Cymru. Un ohonynt oedd
i gyd: "Rwy'n hapus gyda'r
Gwilym O. Williams, myfyriwr yng
afon".9
Ngholeg yr Iesu, a ddaeth yn y pen draw yn Archesgob Cymru yn 1971.8 Un arall oedd J. R. Jones, myfyriwr DPhil mewn
Melys hefyd oedd atgofion Gwynfor o eisteddfodau’r Dafydd. Enillodd Bryddest yr eisteddfod un flwyddyn wedi iddo
Athroniaeth yng Ngholeg Balliol ac Arch-
gyfansoddi ‘cân hir a choch iawn’ o dan y
arogldarthydd y Dafydd, a ddaeth yn un o
teitl ‘I’r Das Wair’.10 Cafodd ei waith ei
brif athronwyr Cymreig yr ugeinfed ganrif. Un arall eto oedd Harri Williams a ddaeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Diwinyddol y
ganmol yn eithriadol gan feirniad yr eisteddfod y flwyddyn honno, Hywel D. Lewis.
Presbyteriaid yn Aberystwyth. Nid oedd bywyd Gwynfor yn Sut brofiad, felly, oedd bod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym ym 1934? Yn ei hunangofiant, mae Gwynfor yn ysgrifennu’r sylwadau digrif hyn am ei brofiad o gyfarfodydd y Dafydd a’i fwynhad o’u teithiau haf mewn ‘ysgraffau’ (punt) i’r Cherwell Arms:
8 9
Rhydychen, serch hynny, wedi’i gyfyngu i weithgarwch y Dafydd yn unig. Roedd, fel pob
myfyriwr
arall
ym
Mhrifysgol
Rhydychen, yn unigolyn prysur. Roedd yn hoff iawn o dreulio oriau yn darllen llyfrau newydd am ddim yn siop lyfrau enwog Blackwells. Un tro, pan oedd yn crwydro
Melys iawn oedd cyrddau'r
trwy Blackwells, daeth o hyd i gasgliad o
Gymdeithas a'u teithiau yn yr
lyfrau Cymraeg yn seler y siop. Prynodd y
haf mewn 'ysgraffau', fel y
cyfrolau ar unwaith am bris eithriadol o
galwai J. R. nhw, ar hyd yr afon
resymol gan nad oedd y staff di-Gymraeg
Cherwell i giniawa yn nhafarn
yn gwybod dim am eu gwerth. Yn ogystal,
y
Wedi
fel Cristion ac Annibynnwr, mynychodd
dychwelyd o noson lawen fel
Gwynfor gapel Coleg Mansfield bob bore
hyn ryw dro yr oedd G. O.
dydd Sul. Yn ei ddyddiau ef, coleg â
[Gwilym O. Williams] yn camu
chysylltiadau cryf â’r Annibynwyr oedd
o un ysgraff i'r llall, pan
Mansfield ac roedd oedfa Gymraeg yn
ymwahanodd y ddwy ac aeth ar
dilyn yr oedfa Saesneg ar y Sul.11 Un o
ei ben i'r dŵr. Safodd â'r dŵr at
gyfeillion eraill Gwynfor yn Rhydychen
Cherwell
Arms.
Davies, Gwynfor Evans, t. 20. Evans, Bywyd Cymro, t. 48.
10 11
Ibid. Ibid., t. 49.
15
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 oedd Arfor Tegla Davies, mab y llenor a’r
oeddwn ar y pryd... Annichon
gweinidog Wesleaidd
adnabyddus, E.
oedd edrych ar Gwynfor heb ei
Tegla Davies. Roedd Tegla Davies yr
hoffi a’i edmygu. Cyfunai
ieuengaf yn aelod ffyddlon o’r gynulleidfa
urddas a rhadlonrwydd, hyder a
Wesleaidd yn Rhydychen a, thrwyddo ef,
chwrteisi, swyn a syberwyd.” 13
datblygodd Gwynfor berthynas arbennig â’r eglwys honno. Mynychodd lawer o’i hoedfaon ar y Sul ac aeth gyda’r Wesleaid ar wythnos genhadol i Sir Gaerefrog lle bu’n rhannu’r newyddion da am Iesu Grist ‘ar gorneli stryd, mewn sinemâu, ysgolion, tafarnau ac ambell gapel’.12 Yno hefyd yng Nghaerefrog, y daeth Gwynfor i wybod beth oedd pwdin Sir Gaerefrog go iawn. Roedd Gwynfor, serch hynny, yn
Unigolyn arall oedd o gwmpas Rhydychen yn y 1930au oedd yr heddychwr a’r gwleidydd, George M. Ll. Davies. Pan fyddai’n ymweld â Rhydychen, arhosai George Davies â’i gyfaill, yr Arglwydd Lindsay,
Meistr
Coleg
Balliol,
a
phregethai’n fynych yng nghyfarfodydd nos
Eglwys
St.
Mary’s,
Eglwys
y
Brifysgol.14 Er bod Gwynfor a Davies ill dau
yn
heddychwyr
Cristnogol
o
difaru na chafodd gyfle i ddod i adnabod
argyhoeddiad dwys, ni ddaethant i adnabod
ambell unigolyn yn well yn ystod ei ddwy
ei gilydd yn dda yn ystod eu dyddiau yn
flynedd yn Rhydychen. Un o’r unigolion
Rhydychen.
hyn oedd Pennar Davies a ddaeth yn ddiweddarach yn brifathro Coleg Coffa’r Annibynwyr yn Abertawe. Er nad oedd Gwynfor yn credu ei fod wedi dod i adnabod Davies yn dda yn y brifysgol, creodd ef argraff eithriadol ar Davies. Yn ei gofiant i Gwynfor a gyhoeddwyd ym 1976, ysgrifenna Davies y canlynol amdano: “Yn
Rhydychen
Yn ddi-os, roedd Gwynfor yn byw mewn oes cwbl wahanol. Ychydig o genedlaetholwyr Cymreig oedd o gwmpas a chanran fechan o bleidleisiau y câi Plaid Genedlaethol Cymru. Ond, er iddo fyw mewn oes mor wahanol, mae ei brofiadau fel myfyriwr yn Rhydychen yn eithriadol o debyg i brofiad unrhyw Gymro neu
mewn
Gymraes yn y brifysgol heddiw. Mae siop
cyfarfod o Gymdeithas Dafydd
lyfrau Blackwells, eisteddfodau’r Dafydd
ap Gwilym y gwelais Gwynfor
â’r cyfeillgarwch rhwng Cymry Cymraeg y
Evans Gyntaf. Un o bobl yr
brifysgol yn ganolog i brofiad unrhyw
ymylon yng Ngholeg Balliol Ibid. 13 Davies, Gwynfor Evans, t. 20. 12
14
Evans, Bywyd Cymro, t. 48.
16
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Gymro neu Gymraes sy’n astudio yn Rhydychen heddiw. H. Gwilym Tudur, Neuadd Wycliffe Llyfryddiaeth Davies, Pennar, Gwynfor Evans (Abertawe: Gwasg Tŷ John Penry, 1976) Evans, Gwynfor, Bywyd Cymro (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1982) Evans, Rhys, Gwynfor Evans: Rhag Pob Brad (Talybont: Y Lolfa, 2008) Griffiths, Peter Hughes (gol.), Bro a Bywyd: Gwynfor Evans (Llandybïe: Gwasg Dinefwr, 2008)
17
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019
Cyfansoddiadau Eisteddfodol Ceir blas yma o’r eisteddfod blynyddol, trwy’r cyfansoddiadau cipiodd y gadair a’r goron eleni.
Enillydd y Gadair Cofio Gwynt a heli, ar dreath Rhosili a’n gwalltiau’n nyth cacwn cyrliog wrth inni aros eiliad i roi gwên ddanheddog i’r camera ... Ydw i’n cofio hynna? Cofio casau gorfod tynnu lluniau! Rhedeg wedyn dros eangderau cynnes dan draed heb allu cyrraedd pellafoedd y môr. Pigo yma ac acw am gerrig gwynion: dawnsio ar dywod y dydd. Ac wrth i Dad geisio ein corlannu, yn ôl i gyfeiriad y picnic, roedd Mam i’w gweld o bell ‘fel craig biws’ yn ei siôl yn gorweddian a’i chwerthin lond y gwynt. O’n hôl roedd y tywod llwglyd eisoes yn llyncu olion ein traed. Cofio. Casglu. Cadw. Esyllt Einon, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
18
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019
Enillydd Y Goron Y Pabi Gwyn Crafangau milain y gwynt yn ysgwyd y ffenestr yn orffwyll yn ei ffrâm bwdr oedd yr unig sŵn a lenwai’r gegin, a hynny i gyfeiliant y glaw yn hyrddio’n fwledi ar y gwydr tenau. Ar wahan i belydrau achlysurol lamp a winciai’n wallgof i rythm anghyson y nos, goleuid yr ystafell am eiliadau ar y tro gan lif goleuadau dramatig y mellt. Dawnsiai’r cysgodion ar y waliau, gan adlewyrchu oddi ar y teils gwyn Ikea simsan. Tanlinellai’r llwydni holl graciau’r wal, a chorneli’r torredig y teils, ar hyd yr ystafell. Pentyrrwyd y platiau a’r powlenni yn swp anhrefnus yn y sinc, gan fygwth simsanu a chwalu’n gawod o gonffeti miniog gyda’r chymwth lleiaf o wynt. Cypyrddau gwag a chymalau rhydlyd yn gwichian, dŵr yn diferu ac yn casglu’n bwll ar waelod yr oergell. Doedd dim byd yn ei le, yn daclus na’n drefnus. Prin y teimlodd y brwsh yng nghornel yr ystafell goflaid dwylo cariadus ers oes. Roedd y gegin a arferai fod yn galon y tŷ, yn gonglfaen y cartref, wedi’i llwyr hanwybyddu a’i hesgeuluso. Adleisiodd clep y drws rhwng saib ym maes y gad y tu allan. Yna bolltiau a chloion yn datgloi ac agor cyn cael eu cloi, un ar y tro, drachefn. O’r duwch, straffaglodd corff trwm i’r gegin, gan wegian yn flinedig. Gwichiodd y panel o wydr electroneg, wrth iddo bwyso’i fys yn erbyn y clo, a gwasgodd ei wyneb yn ei erbyn i ddangos ei retina i’r laser coch a fflachiai’n fygythiol yn y tywyllwch. Oedodd y peiriant am eiliad, cyn gwirio ac yna cadarnhau mai ef oedd perchennog y tŷ. Bradychai’r stecs mwdlyd olion ei draed a diferai dagrau glaw o’i got drwchus gan ffurfio pyllau o ddŵr oer. Llanwyd yr ystafell ag ochenaid ac ebychiadau wrth i’r corff bwyso yn erbyn
y pentan. Tynnodd ei gwfwl gan ddatgelu llygaid llwm ac isel ei wyneb, a barf a dyfai’n wyllt fel drain. Teimlodd y gwres yn ei groesawu adref, ac wrth blygu i eistedd wrth y ford, gwingodd y gadair oddi tano. “Lle yn y byd wyt ti ‘di bod yr adeg yma o’r nos?” ymbiliodd llais pryderus o’r cysgodion cyn ymddangos wrth y drws yn sydyn. Bwrodd olwg graff tuag at y corff a ledorweddai yn y gegin. “Mas.” Ateb unsill, cwta, byr ei amynedd. “Yn neud be?” Magodd hithau mwy o blwc. “Dim o dy fusnes di!” cyfarthodd. Nid ymatebodd hi, er y daliai i syllu’n graff a chyhuddgar o ochr arall yr ystafell. Hen arfer oedd y cythruddo rhyngddyn nhw erbyn hyn, gêm a dyfodd yn gymaint o arferiad yn eu perthynas. Tawelwch llethol, cyn iddi fentro eto. “Dos dim byd nad sy’n fusnes i mi… ges di rwbeth?” cwestiynodd yn obeithiol. “Do.” Brysiodd hithau at y cypyrddau, â mymryn ysgafn o lawenydd yn ei llais. “Diolch byth, dos dim byd i’w fyta yn y lle ‘ma…” Agorodd y drysau gwichlyd un wrth un, gan ddyheu am lenwi’r gwagle. Bradychodd ei ddistawrwydd y cyfan. Trôdd hithau yn araf. Arhosodd a syllu i ddyfnder ei enaid – yr ofn a’r tristwch a’r siom yn llenwi ei llygaid. “Dim bwyd?” “Na.” Atebodd yn swrth.
19
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Yna ffrwydrodd – ni allai reoli ei theimladau mwyach. “Be?... Shwt alle ti?... sdim byd ‘da ni i fyta!” Fflachiodd mellten yn batrwm igam ogam onglog i ail oleuo’r tywyllwch dudew, ac am ennyd goleuwyd ei hwyneb, gan amlygu crychau ei chroen gwelw. Yn amlwg, roedd hi’n heneiddio cyn ei phryd, a’r gwedd lwydaidd a’r pyllau du dan ei llygaid yn arwydd o’i chyflwyr eiddil. “Ges ti foddion o leiaf?” “Naddo! Gwastraff arian. Sdim angen moddion arno ni.” Roedd her a phendantrwydd yn amlwg yn ei lais. Suddodd ysgwyddau’r fenyw mewn anobaith wrth iddi godi ei dwylo i atal llif y dagrau. Anwybyddodd y dyn grio ei wraig, gan dynnu ei got drwchus a’i thaflu’n sicr ar y ford. Daeth clec taran arall i ysgwyd y gegin. Brysiodd hithau at ei got a thwrio drwy’r pocedi ar frys. Yn sydyn cyffyrddodd ei dwylo â metel, oer, ac o ddyfder y got tynnodd wrthrych a ffitiai’n berffaith i gledrau’i llaw. Gwn plasma. Syllodd yn syn arno am eiliad, cyn ei ollwng yn glep ar lawr wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa wawrio arni. Lledodd y panig mor amlwg drwy ei llygaid, ac am eiliad methodd hithau anadlu. Brysiodd yntau i achub yr arf yn union fel petai ei fywyd yn dibynnu arno. “Be yffach ti’n meddwl ti’n neud ddynas! Ti’n treial lladd ni gyd?” Anwylodd y gwn yn ei law, fel petai’n wrthrych crefyddol, rhywbeth a allai ddod â iachawdwriaeth iddo. Rhewyd hi i’w hunfan a dechreuodd grynnu yn afreolus, ei hwyneb yn llawn arswyd, yn union fel petai wedi cwrdd â’r diafol ei hun. “Pam… pam, yn y byd, ma ‘da ti’r arf yna?” crynodd yn bryderus, ei hwyneb yn welwach nag arfer. Syllodd ei gŵr arni yn fud cyn ateb. “I’n hamddiffyn ni,” roedd pendantrwydd a gwawd ei lais yn amlwg, wrth iddo gynnig ateb cyfiawn. Gafaelodd
yng ngarddwn ei wraig a’i thynnu yn agosach ato. Anwesodd ei hwyneb yn dyner mewn ymgais i’w thawelu. Ond tynnodd hithau ei law oddi arni, gan syllu’n ffiaidd arno, fel petai’n faw ar sawdl ei hesgid. Wedi ei frifio, dechreuodd yntau ymresymu’n daer gyda hi. “Er mwyn ein hamddiffyn ni, rhag y lladron a’r treiswyr ‘na! Nes di glywed be ddigwyddodd i’r teulu lan yr hewl? Un wrth un, cafon nhw eu llusgo o’u cartref, yna’u cludo i ffwrdd mewn faniau du. ‘Sneb ‘di clywed gair oddi wrthyn nhw ers agos at bythefnos! Dwi ddim ishe i ni ddiflannu i'r tywyllwch fel ‘na!” Syllodd hithau arno yn anghrediniol, ei cheg yn agored. “Callia neu di? Roedden nhw’n yn gwbod yn union be fyddai’n digwydd iddyn nhw! Protestio ar y strydoedd mis ar ôl mis! Mae’n syndod dy fod di heb cael dy ddal eto! Ma unrhyw un sy’n gwrthod cydymffurfio yn siwr o ddiflannu y dyddie hyn,” a chliciodd hithau’i bysedd yn hynod o wawdlyd. “Ond pe bai’r teulu wedi bod â gwn yn eu meddiant, yn sicr ni fyddai bastyrds y gyfundrefn wedi eu llusgo nhw bant!” Ymatebodd yn gynddeiriog. “Ni ellir datrys trais â thrais. Dyw e ddim yn iawn, ma’r arf yna yn fwy o fygythiad i NI nag yw e i’r Gyfundrefn. Dwyt ti ddim yn gwbod sut i ddefnyddio’r peth ta p’u ni! Beth petai’r arf yn tanio’n ddamweiniol, meddylia beth allai ddigwydd i ni? Onid yw’r system larwm, y camera cudd a’r ffens drydan yn ddigon i’n hamddiffyn ni?” “Tra bod y bastyrds ‘na yn y byd, yn gallu gwneud i bobl ddiflannu, ni fydd neb yn saff. Dwi ddim ishe i’r bobl frwnt, anfoesol yna rhoi bys ar fy nheulu i!” Poerodd yn gyfiawn.
20
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 “Dyw rhyw arf truenus ddim yn mynd i neud dim blydi gwahaniaeth y ffwl gwirion! Sut wyt ti wir yn credu y gall yr arf ‘na wneud ein bywydau ni’n ddiogelach?! Os unrhywbeth, ti di’n peryglu ni! Bydd y cwn ar ein hôlau, yn enwedig â thithe wedi prynnu’r arf. Bydd dy enw ar y system!” Pregethodd yn ddibaid wrth i’w gwr grynnu â dicter. Ac fel petai’n grenêd, oedd ar fin ffrwydro, collodd ei reolaeth. Atseiniodd clec ei law wrth ei tharo ar ei boch, ar hyd muriau gwag y gegin. Syllodd yn gandryll ar ei wraig, ei ffroenai yn enfawr, a’i lygaid ar dân. Syrthiodd hi i’r llawr fel sach o datws, gan wasgu a chofleidio’i boch er mwyn lleddfu’r boen a deimlai’n llosgi’i hwyneb. Yna roedd hi’n ymateb, yn hyrddio ei dwylo yn wyllt tuag at y ffigwr a deyrnasai uwch ei phen. Anwybyddodd ef ddyrnau ei wraig yn ei daro’n giaidd; anwybyddodd ei dagrau a’i gwaeddu bloesg a gwthiodd hi i’r llawr ag eistedd arni. Ei dro ef oedd i bregethu a bod yn ganolbwynt ar lwyfan truenus y briodas hon. “Paid ti â byth fy nghyhuddo i o beryglu’r teulu ‘ma byth eto! Paid ti byth â chroesi nac amau fy ngair i eto chwaith! Mae popeth rwy’n ei wneud er eich lles chi. Yr holl gynllunio gofalus i’ch diogelu chi!” bloeddiodd ati gan boeri’i ddogma. Cropiodd hithau fel ci dioddefus i ffwrdd rhag cynddaeredd ei feistr, i gornel tywyll y gegin. Syllodd arno fel llygoden, wedi ei anffurfio gan ofn. Roedd hi’n gyfarwydd â’r sefyllfa, a’i hymateb truenus yn awgrymu nad oedd modd ennill y frwydr hon. Dechreuodd ef chwerthin yn anghrediniol, yn araf, yn filain, gan wybod y gwnai hyn i’w wraig ei ofni fwy, fwy. “Prynu’r gwn… enw ar y system wir!” Chwerthynnodd yn goeglyd ar eiriau twp ei wraig.
“Does dim syniad da ti shwt nes i gael gafael ar y gwn yma, os e? Dim syniad o’r holl drafferth ‘dwi ‘di bod trwyddo er mwyn sicrhau bod y cachwyr yna ddim yn medru olrhain yr arf na’i gysylltu gyda fi.” Taflodd ei gwestiynnau ati fel petai’n hyrddio cyllyll ati. “Na… mae’r arf yma yn bwysig, neu ni fyddai cell y duon wedi’i rhoi i mi.” Bu bron iddi hithau lewygu o glywed enw’r gell eithafol o wrthryfelwyr. Roedd eu henw nhw’n bla bellach, yn ôl y cyfryngau a hyrwyddai bropoganda’r Gyfundrefn. Fe giliodd hi yn bellach i’w chornel, wrth i gysgod ei gwr a lenwai’r ystafell droi’n anghenfil ar y muriau. Roedd hithau nawr yn chwysu, o ddeall difrifoldeb y sefyllfa. “Ti…ti… ti’n mynd i gael dy arestio… a ni fydd nesaf.” Fe lenwodd ei llygaid â phryder sydyn wrth iddi ystyried cael ei rhwygo o’i chartref gan lygaid a guddiai tu ôl i fasgau difywyd. Teimlodd grafangau braw yn cydio ei chalon, a gurai fel drwm angau. Chwerthynodd unwaith eto gan droi ei gefn arni. “Hy! Bydd yr arf yma yn sicrhau na chawn ni’n harestio,” cyhoeddodd yn falch. Yn sydyn, anelodd y gwn tuag at y ffenest ar frys wrth glywed swn anghyfarwydd. Yn y tywyllwch swatiai Brân yn hy ar y ffens, ei phlu yn adlewyrchu golau lamp y stryd yn ddisglair fel tar yng ngoleuni L.E.D y stryd. Roedd hi’n ei wawdio gan grawcio’n ymffrostgar gan ei ddychanu a’i fychanu. Gosododd y gwn yn ofalus ac yn llawn cynnwrf ar y ford, gan beri i oleuadau neon gwyrdd y gwn ddiffodd. “Pam rhoddon nhw’r gwn i ti?” Cwestiynodd yn anghrediniol, â’i gwenwyn yn llifo trwy ei geiriau. Syllodd ef arni’n syn, fel petai’n ymwybodol o
21
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 sarhad ei wraig. Bu saib am eiliad cyn iddo gynnig ateb. “Dwi… dwi wedi cynnig ‘neud ‘job’ iddyn nhw.” Sibrydiodd yn ofalus, elfen o baranoia yn ei lais, fel petai’n ofni clustiau cudd y muriau. Mynegodd hithau ei dryswch. Ailadroddodd ei ateb, yn uwch ac yn arafach fel bod ei wraig yn clywed pob sill. Agorodd ei cheg yn sydyn, ond rhewodd y geiriau yng nghorn ei gwddf. Saethodd y frân, gan holltu twll yn y clawdd a guddiai’r tŷ, o glywed bloedd o ddicter, anghyffredin, uwch ei gywair nag arfer. Nid mynegi ei dicter oedd ei harferiad hi, ond casglu ei hemosiynnau tan bod gronynyn olaf y tywod yn diferu trwy’r cloc tywod. “BETH! DOES DIM DIGON O ARIAN GENNYM NI OROESI! DIM MODDION! DIM BWYD CHWAITH! PAM YN Y BYD Y FEDDYLIAIST TI BOD HI’N SYNIAD DA DOD Â GWN NÔL I’R TŶ, I NEUD ‘JOB’ I RYW EITHAFWYR. PAM DY FO’ TI’N MYNNU FFOCYSU AR BOPETH OND EIN TEULU NI?” Poerodd pob gair o’i cheg a rhwygo agwedd hunangyfiawn ei gŵr gyda gwaniad pob cytsain. Yn awr, hi oedd yn ymosod, yn chwifio’i breichiau yn wyllt, ei hewinedd fel cyllyll. Ei hwyneb yn crychu, ei dannedd yn ei frathu. Roedd hi’n ddigon ymwybodol o ‘Job’s’ y gell eithafol, ‘Job’ na fyddai ei gŵr yn dychwelyd ohono; ‘Job’ a fyddai’n wrthryfel uniongyrchol yn erbyn y Gyfundrefn. Yn sicr, roedd hithau’n cwestiynnu eu moesau’r nhw yn ddigon aml, ond nid trais oedd yr ateb, ond doedd ef ddim am wrando arni. Arhosodd yntau yn gadarn gan ddefnyddio grym ei ffrâm dynol yn amddiffyniad rhag ymosodiad barbaraidd, gwyllt ei wraig. Fe daflodd ei fraich ati, a bwrw dant o’i cheg. Hyrddiwyd hi ar hyd y ford, gan rwygo’r lliain ymaith a chwalu’r jwg o flodau.
“Does dim hawl gennyt ti i benderfynu ffawd y teulu yma! Rwyt ti wedi chwalu’r dyfodol! Be am ein mab? Beth fydd yn digwydd iddo fe?” Roedd hithau’n ofni’r gwaethaf. “Os wna i'r ‘Job’ ‘ma, mi dynnith lygaid y diawliaid oddi ar y tŷ ‘ma! Shwt arall allai helpu’n mab i ddianc y ffawd erchyll sydd o’i flaen? Ma’ nhw’n gwylio pob symudiad, yn gwybod ein bod ni’n cefnogi’r mudiad. Ma nhw’n trin ni fel anifeiliaid. A mater o amser yw hi tan iddyn nhw ddod i gofrestru Gwyn ar gyfer byddin Ieuenctid y Gyfundrefn.” Ymatebodd ef yn swrth ac yn ddi emosiwn. “Mae’n rhaid i mi wneud hyn, ar gyfer ei ddyfodol ef. Bydd drwg yn ffynnu, os na fydd dynion da yn gweithredu.” “Athronyddol iawn! Ond pa wahaniaeth bydd dinistrio un o’i gwersylloedd hyfforddi? Ma’r Gyfundrefn yn enfawr, ‘sdim gobaith da chi i wneud niwed iddyn nhw!” Hi oedd yn chwerthin nawr, dagrau yn llifo yn debyg i’w geiriau, o’r galon. Gafaelodd ei gwr ynddi wrth ei gwddf, a’i chodi yn agosach ato. Llygaid y ddau yn goch, ond am resymau gwahanol. Yn y drws, cyrcydai ffigwr arall, a brofodd frwydr giaidd ei rhieni, tystio i rwyg derfynol y teulu. Syllodd ar ei dad oedd yn mynnu aberthu er mwyn ei ddyfodol ef, fflam ei lygaid wedi diffodd, dagrau yn gorchuddio’i wyneb. Syllodd yn syn ar ei rhieni, ac ar stad y gegin, popeth wedi torri, popeth yn wag ac wedi chwalu. Doedd dim yn y gegin i’w gynnal. Syllodd ar yr arf, a fflachiai ei belydrau laser ar y llawr. Nawr yn wastraff di-bwrpas. Taflodd olwg ar y ford oedd wyneb ei waered. Jwg o flodau wedi chwalu ar y llawr, yn gonffeti o wydr miniog. Petalau gwyn gwyn hoff flodyn ei fam wedi eu staenio’n goch gan ei gwaed bellach yn araf wywo a marw.
22
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Er gwaethaf y protestio, er gwaeth herio creulondeb sadistaidd y gyfundrefn – er gwaethaf yr ymgyrch i adfer gwareiddiad – roedd tywallt gwaed bellach yn ffordd o fyw. Daniel Rolles, Ysgol Gyfun Gwyr
23
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Lluniau o’r Flwyddyn
Noson Picau a Penderyn
Y Ffair Glas
Sŵper ffurfiol yng ngoleg yr Iesu
24
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019
Cinio Gŵyl Dewi y Dafydd
Ben Lake; siaradwr gwadd Cinio Gwyl Dewi y Dafydd
25
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019
Cinio Gŵyl Dewi y Dafydd
Gwasanaeth Carolau y Dafydd: Rhaglen (chwith) a chip-olwg ar y paratoiadau (dde)
26
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019
Daniel Rolles, enillydd y goron (chwith) a Osian Pris Elis, Caplan y Dafydd (dde)
27
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Codi Arian at waith y Gymdeithas
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw un o gymdeithasau hynaf Prifysgol Rhydychen. Pan sefydlwyd y Gymdeithas gan griw o fyfyrwyr Rhydychen ym 1886, roedd y Dafydd yn dra gwahanol i’r hyn y mae hi heddiw. Ym 1886, cymdeithas academaidd Gymraeg oedd y Dafydd a oedd yn cyfarfod i ddarllen a thrafod papurau academaidd a oedd wedi’u paratoi gan aelodau’r Dafydd. Er bod rhai elfennau yn parhau o’r gorffennol gan gynnwys ein digwyddiadau arbennig i ddathlu dydd Gŵyl Dewi a’r Eisteddfod yr ydym yn ei gynnal yn flynyddol, mae’r Dafydd wedi newid a datblygu ers iddi gael ei sefydlu ym 1886. Bellach, cymdeithas gymdeithasol Gymraeg yw’r Dafydd sy’n ceisio trefnu digwyddiadau tymhorol i ddod â myfyrwyr Cymraeg y brifysgol at ei gilydd. Mae’r digwyddiadau amrywiol hyn yn cynnwys nosweithiau Picau a Phenderyn, digwyddiadau ar y cyd â’r Gymdeithas Wyddelig ynghyd â nosweithiau Cymreig eraill. Un gwahaniaeth sylfaenol arall rhwng y Dafydd ym 1886 a heddiw ydy nad ydym mwyach yn codi tâl aelodaeth. Golyga hyn, wrth gwrs, fod holl ddigwyddiadau’r Gymdeithas am ddim. Nid ydym am i arian rhwystro neb rhag bod yn rhan o fywyd y gymdeithas a bywyd Cymreig Prifysgol Rhydychen. Er hynny, mae hyn yn golygu hefyd nad ydym yn derbyn incwm trwy’r dull yma, ac mae’n rhaid i ni fynd ati i godi arian yn flynyddol.
Er mwyn ariannu
digwyddiadau’r Dafydd, rydym bellach yn dibynnu’n llwyr ar roddion ariannol gwirfoddol gan gyfranwyr hael. Fel aelodau a chyn-aelodau o’r Dafydd - pobl sydd wedi cael y budd eithriadol o waith y Dafydd yn y gorffennol - hoffwn eich gwahodd i ystyried cyfrannu’n ariannol tuag at waith y Dafydd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Mae dwy ffordd y gallwch fynd ati i gefnogi’r Dafydd yn ariannol: 1. Os ydych yn bancio ar-lein, gallwch gysylltu â’ch banc yn uniongyrchol i drefnu creu archeb sefydlog (standing order). Enw’r cyfrif: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym; Rhif y Cyfrif: 27196468; Cod Didoli: 30-63-59. 2. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen isod er mwyn trefnu eich archeb sefydlog. I wneud hynny, bydd yn rhaid i chi fynd â’r darn gwaelod i’ch banc. Gellir canfod y ffurflen hefyd trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://goo.gl/Hzohw7 28
Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2018-19, Awst 2019 Byddai’n braf iawn, hefyd, pe baech chi’n anfon e-bost atom (dafapgwil@gmail.com) gyda’ch manylion cyswllt, er mwyn inni anfon llythyr atoch i ddiolch am y rhodd a hefyd er mwyn cadw mewn cysylltiad yn y dyfodol. Gwerthfawrogwn bob cyfraniad, boed yn fawr neu’n fach, yn fisol neu’n flynyddol. Bydd pob cyfraniad yn helpu i sicrhau y bydd gwaith y Dafydd yn parhau i’r dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe baech chi’n rhannu ein neges ag unrhyw un arall a fyddai â diddordeb cefnogi Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. H. Gwilym Tudur, Trysorydd, Neuadd Wycliffe
29