Y Drych Rhifyn 2016-17

Page 1

Y Drych

Cylchgrawn

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhydychen

Rhifyn 2016-17

Awst 2017


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Golygyddol: Y Drych

Wrth i mi ddechrau ar y dasg o greu’r cylchgrawn hwn, roeddwn i’n disgwyl iddo fod yn her cael unrhyw erthyglau, ac y byddai pawb yn rhy brysur i gyfrannu. Yn waeth na hynny, oedd y safon eithriadol o uchel o waith a gafodd ei wneud gan Ben Sadler yn y ddwy rifyn ddiwethaf. Cefais fy synnu’n llwyr wrth fynd ati i ofyn am gyfraniadau, gan i mi fod a digon am gylchgrawn llawn mewn ychydig ddyddiau yn unig. Bu rhai hyd yn oed yn diolch am gael y cyfle, ond yn awr, mae’n rhaid i mi ddiolch iddyn nhw am eu holl waith, hebddyn nhw, ni fyddai Y Drych yn bodoli, a ni fyddwn i yma yn awr yn ysgrifennu’r darn hwn. O’r diwedd, mae trefn ar yr erthyglau, heb ddarnau o waith y brifysgol yn eu canol ar fy nesg. Does dim hanner erthygl ar un ochr yr ystafell, a’r hanner arall wedi mynd ar goll yn rhywle o gwmpas y lle. Llanast llwyr ar y ddesg a fu am sawl diwrnod wrth olygu, ond fy ngobaith yw mai allan o’r llanast hwn y daw cynnyrch taclus. Ac i’r rhai a ddywed nad yw bod a llanast ar ddesg yn beth da, gadawaf eiriau yr athrylith gwyddonol, Albert Einstein. If a cluttered desk is a sign of a cluttered mind, of what, then, is an empty desk a sign? Cyflawni sawl pwrpas y mae Y Drych - nid yn unig cylchgrawn i ddiddori aelodau presennol y gymdeithas, nac ychwaith lle i’r aelodau gael gwella eu technegau ysgrifennu. Rhywbeth llawer mwy pwysig na hyn ydyw, ffordd i gyn

aelodau gadw cysylltiad, a chael cipolwg ar sut mae’r gymdeithas wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac o bosib, tarddiad ysbrydoliaeth i fyfyrwyr sydd am ddod i Rydychen yn y dyfodol. Ond i mi, mae ei fodolaeth yn bwysig gan ein bod wedi gwneud penderfyniad pwrpasol i greu rhywbeth yn y Gymraeg, i ddefnyddio ein hiaith mewn ffurf a fydd yn cael ei gadw am flynyddoedd i bawb ei weld. Nid oes unrhyw gywilydd gennym yn ei ddefnydd, ac nid oes perygl ohonom ni’n tawelu. A throesom iaith yr oesau yn iaith ein cywilydd ni. Ystyriwch, a oes dihareb a ddwed y gwirionedd hwn: Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl a’i hedd yw ei hangau hi.1 Wrth gwrs, nid yw’n bosib i un gymuned fach o Gymry yng nghanol Lloegr fodloni y raddfa o weithredu y bu Gerallt Lloyd Owen yn gofyn amdano yn ei gerddi. Yn ddiweddar bu’r iaith, yn enwedig addysg drwy’r iaith, ar draws y newyddion. Dadlau dros cael ysgol Gymraeg yng Nghymru, er fod ysgol arall yn darparu addysg yn y Saesneg yn agosach nag y bu unrhyw ysgol at rhan helaeth o’r Cymry sy’n byw yng nghefn gwlad. Er mor od y mae’r ddadl hon i mi, nid dyma sydd yn fy mhoeni. Wrth ddarllen yr erthyglau di-ri am yr helynt, sylweddolais fod lle i bobl adael eu sylwadau eu hunain, ac yn y fan honno y daw y Saeson chwerw, yn dal i fyw mewn rhyw oes Victorianaidd, lle nad oedd yr iaith i gael unrhyw statws. Yn troi ystadegau ar eu pennau i geisio dweud nad oedd pwrpas i addysg Gymraeg, na gwerth i siarad yr iaith, ac yn waeth na hynny, ceisio dweud y byddai yn rhoi diwedd i

1

Gerallt Lloyd Owen, ‘Etifeddiaeth’, yn Gerallt Lloyd Owen, Cerddi’r Cywilydd (1972)

1


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 unrhyw obaith fyddai gan y disgyblion o wneud unrhyw farc ar y byd y tu allan i Gymru. Tybiaf y byddai gweld Y Drych yn rhoi tipyn o fraw i’r bobl hyn. Cymry Cymraeg, sydd erbyn hyn yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, yn creu cylchgrawn drwy gyfrwng y Gymraeg hunllefus i ddilysrwydd eu dadl. Wedi dathlu 130 o flynyddoedd ers y cyfarfod cychwynnol y flwyddyn diwethaf, yn ôl yr aiff Y Drych i fod yn trafod ystod eang o faterion, yn amrywio o hanes canol oesol, i gemeg cyfoes. Rhywbeth at flas pawb, heb i unrhyw un fod mor arbenigol nad yw o fewn cyrraedd pawb. Wrth i mi ddod at ddiwedd fy amser fel golygydd Y Drych, rwyf yn barod yn meddwl am y danteithion a fydd ar gael flwyddyn nesaf, a dymunaf pob hwyl i Elan wrth iddi hithau fynd ati i greu’r rhifyn nesaf. Gobeithiaf y bydd yr hyn sydd ar gael eleni yn codi chwant arnoch am fwy, ac y byddwch yn edrych ymlaen yn arw at y rhifyn nesaf.

Gwyndaf Oliver Coleg Magdalen

2


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Cynnwys Golygyddol Gwyndaf Oliver

Swyddogaethau 2016-18

tud. 1

tud. 4

Adroddiad gan y Caplan Elin Havard

tud. 5

Pleidlais i fenywod: ymgyrch y Cymry Elan Llwyd

tud. 7

Gerallt Lloyd Owen a Siom y Cymry H. Gwilym Tudur

tud. 10

Dail Rhydychen Lois Llywelyn Williams

tud. 13

Owain Lawgoch: Cymro oddi Cartref Owain Caron James

tud. 14

Sut y gwyddai adar i ble maent yn mudo? Jamie Gravell

tud. 17

“Welest ti?” Llewelyn Hopwood

tud. 20

Cyfansoddaidau Eisteddfodol

tud. 23

Lluniau o’r flwyddyn

tud. 31 3


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Swyddogaethau 2016-17

Swyddogaethau 2016-17

Y Llywydd (sef yr aelod hŷn):

Y Llywydd (sef yr aelod hŷn):

Dr Rosalind Temple

Dr Rosalind Temple

Y Coleg Newydd

Y Coleg Newydd

Y Caplan:

Y Caplan:

Elin Havard

Lois Llywelyn Williams

Coleg yr Iesu

Coleg yr Iesu

Yr Is-gaplan:

Yr Is-gaplan:

Owain Caron James

Gwilym Tudur

Coleg y Drindod

Neuadd Wycliffe

Y Trysorydd

Y Trysorydd

Nia Thomas

Lowri Howard

Coleg yr Iesu

Coleg y Santes Ann

Yr Archarogldarthydd

Yr Archarogldarthydd

Sioned Press

Bedwyr ab Ion

Coleg yr Iesu

Neuadd Sant Edmwnd

Y Prif-ddefodydd

Y Prif-ddefodydd

Elan Llwyd

Gwilym Tudur

Coleg y Santes Ann

Neuadd Wycliffe

Yt Ysgrifennydd

Yt Ysgrifennydd

Josh Frost

Jamie Gravell

Coleg yr Iesu

Coleg y Santes Ann

Y Swyddog TG

Y Swyddog TG

Bedwyr ab Ion

Llewelyn Hopwood

Neuadd Sant Edmwnd

Coleg yr Iesu

Golygydd y Drych

Golygydd y Drych

Gwyndaf Oliver

Elan Llwyd

Coleg Magdalen

Coleg y Santes Ann Cyfryngau Cymdeithasol Josh Frost Coleg yr Iesu 4


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Adroddiad blynyddol Caplan Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

Braint oedd arwain Y Dafydd trwy flwyddyn hwylus a llwyddiannus arall. Mae’r pwyllgor wedi gweithio’n galed i gynnal llu o ddigwyddiadau amrywiol a phoblogaidd, hen a newydd, er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith gyfeillgar o Gymry yn Rhydychen yn parhau i ffynnu ac ehangu. Crynodeb bras o uchafbwyntiau’r flwyddyn a geir yma. Doedd dim gwell ffordd o ddenu’r glas i Goleg Magdalen ar gyfer ein cyfarfod cyntaf na thrwy gynnig arlwy o fwyd a diod Cymreig i feddalu unrhyw hiraeth! Wrth gwrs, roedd bwyd am ddim yn apelgar i gyfrifon banc y myfyrwyr, ond yn ogystal i goffrau llwm Y Dafydd, ac ry’n ni’n ddiolchgar i’r cwmniau hael oedd mor barod i roi. Rhedeg drwy’r tri thymor wnaeth y thema o fwyd, wrth i ni gynnal noson ‘Pice a Phaned’ yn nhymor Ilar, a pharti gardd yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn. Yn wir, daeth blwyddyn academaidd Y Dafydd i glo pwrpasol yno, gyda Gwyndaf yn adrodd ‘Yr Haf’ – yn wych, fel y disgwyl! Buom ni hefyd yn gwledda o dro i dro, gan ddechrau yn nhymor Mihangel. Braf oedd croesawu nifer dda o aelodau o amryw o Golegau i Goleg yr Iesu ar gyfer y swper traddodiadol yng Ngholeg y Caplan. Bwyd cegin Coleg yr Iesu fydd ar y fwydlen yn yr Hydref, eto, wrth i Lois Llywelyn Williams o Forfa Nefyn gymryd yr awenau. Llwyddiant ysgubol oedd y Swper Gŵyl Dewi, a drefnwyd yn berffaith eleni gan Sioned Press. Daeth dros ugain i’r Jam Factory i fwynhau bwyd, cwmni, ac adloniant gwych. Naws gerddorol a barddonol oedd i’r noson, wrth

i’r aml-dalentog Gwyneth Glyn a Twm Morys – y ddau â chysylltiad cryf â Rhydychen – ein diddanu. Roedd cerdd a llên yn flaengar yn nigwyddiadau’r Dafydd drwy gydol y flwyddyn. Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Carolau, yng nghwmni’r Parchedig Gwyn Williams, yng Nghapel Coleg yr Iesu. Dychwelyd yno wnaeth aelodau o amryw o Golegau ar gyfer Gwasanaeth Gŵyl Dewi y Coleg. Arddull gwahanol o gerddoriaeth oedd i’w chlywed ym mar Coleg yr Iesu yn nhymor Ilar. Fe’n diddanwyd ni gan ein swyddog TGCh, Bedwyr ab Ion, a’i fand – Hyll. Yn sicr, doedd ‘na ddim byd hyll am y sain na’r awyrgylch – roedd hi’n noson i’w chofio. Un o uchafbwyntiau’r calendr eleni oedd yr Eisteddfod ym mis Ebrill. Mae ein dyled i Elan, a weithiodd mor drylwyr i sicrhau llwyddiant y digwyddiad, yn enfawr. Y cyn-aelod a’r Prifardd Aneirin Karadog oedd â’r dasg o feirniadu’r hanner cant o geisiadau a dderbyniwyd gan ddisgyblion ysgol ledled Cymru yn y cystadleuthau llenyddol. Buddug Watcyn Roberts o Ysgol Brynrefail oedd ar frig y gystadleuaeth ryddiaith, gyda Luned Rhys o Ysgol Glan y Môr yn ennill y gadair ac Ellie Burr o Goleg Merthyr yn fuddugol yn y gystadleuaeth i ddisgyblion ail iaith. Roedd noson yr Eisteddfod yn un hwylus dros ben, a gobeithiaf y bydd y digwyddiad yn parhau i fynd o nerth i nerth. Fel y disgwyl, rydym wedi gwynebu ambell her. Gallai sefyllfa ariannol Y Dafydd fod dipyn yn well, yn rhannol am nad ydym wedi gofyn am arian yn y gorffennol. Mae hyn wedi effeithio ar ein gweledigaeth ni i ehangu ar ein gwaith. Teimlwn ddyletswydd i sicrhau bod ein Cymdeithas yn gynaliadwy ac yn parhau i 5


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 ffynnu, ac felly, rydym yn cynnig cyfle i aelodau a chyn-aelodau gyfrannu bob hyn a hyn fel na fydd angen i bwyllgorau’r dyfodol bryderu am sefyllfa ariannol Y Dafydd. Rydym hefyd wedi croesawu Swyddog Codi Arian i’r pwyllgor, a diolch i Owain Caron James, a fuodd yn IsGaplan gwych eleni, am fod mor frwd i ymgymryd â’r gwaith hwn. Swydd arall sy’n newydd ydy un Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn allweddol wrth i ni geisio codi proffil y Gymdeithas, a Josh Frost bydd yn gyfrifol amdanyn nhw. Mi benderfynon ni ychwanegu un swydd arall, er na fydd hi’n rhan o’r pwyllgor. Bydd Dan O’Driscoll yn gyfrifol am drefnu digwyddiad y tymor i apelio, nid yn unig at y Cymry Cymraeg, ond at y Cymry di-Gymraeg. Gobeithio, wir, y bydd hyn o gymorth wrth waredu’r anhawsterau sy’n parhau i fodoli ynghylch mater yr iaith. Y cwbl sy’n weddill i mi ei wneud yw diolch. Diolch am y cyfle i fod yn Gaplan ar y Gymdeithas arbennig hon. Diolch i’r pwyllgor gweithgar a dibynadwy am bob cymorth. Diolch i bob aelod a chyn-aelod am y gefnogaeth a’r brwdfrydedd. Roedd hi’n wych cael ymuno â Bob a Kati Evans yn eu cartref hardd yn Sunningwell ar gyfer eu parti gardd blynyddol, a rhaid llongyfarch Bob am ei fod yn cael ei dderbyn i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern ym mis Awst. A thra ‘mod i’n sôn am y ‘Steddfod, cofiwch ymuno â ni yn y Pentref Bwyd am hanner dydd ar y dydd Gwener ar gyfer aduniad Y Dafydd. Hir oes i Gymdeithas Dafydd ap Gwilym!

Elin Havard Coleg yr Iesu 6


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Pleidlais i fenywod: ymgyrch y Cymry

Yn 2018, dethlir canmlwyddiant pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl pan dderbyniodd y menywod cyntaf y bleidlais ym Mhrydain, diolch i waith caled y swffragetiaid milwriaethus a’r swffragwyr heddychlon ar draws Prydain. Mae’r rhan fwyaf o waith haneswyr hyd yn hyn wedi canolbwyntio yn bennaf ar y mudiadau yn Llundain, ond yn ddiweddar cafwyd astudiaethau ar y mudiadau mewn llefydd eraill ym Mhrydain, yn cynnwys Cymru. Yn ôl Kay Cook a Neil Evans, roedd ymateb y Cymry i’r mudiad i ryddfreinio menywod yn eithaf gwan. Y ddau brif fudiad cendlaethol oedd y National Union of Women’s Suffrage Societies (NUWSS) a oedd yn fudiad heddychlon a ddefnyddiai dulliau cyfansoddiadol a’r Women’s Social and Political Union (WSPU) a oedd yn fwy milwriaethus. Bu rhai canghennau o’r NUWSS yng Nghymru yn llwyddiannus iawn - yn 1912, Caerdydd oedd y gangen fwyaf o’r NUWSS tu allan i Lundain ac ehangwyd ar y mudiad tu hwnt i Gaerdydd i Fargoed, Farmers, Cydweli, Pont-y-pŵl, Rhondda Fach a Rhondda Fawr. Roedd y garfan filwriaethus yn llai llwyddiannus gyda 9 cangen o’r WSPU yng Nghymru pan oedd ar ei chryfaf. Rhwng 1903 a 1914, cafodd 20 o fenywod o Gymru ac un dyn eu carcharu yn eu hymgais i berswadio’r llywodraeth i roi pleidleisiau i fenywod. Felly, roedd yna weithredu yng Nghymru, ond mae’n deg dweud nad oedd y gweithredu hwnnw ar yr un raddfa ag yn ninasoedd Lloegr. Mae yna sawl rheswm dros y diffyg dioddordeb hwn. Ar draws Prydain, roedd swffragwyr y NUWSS yn dueddol o

fod yn fenywod dosbarth canol. Yng Nghymru, roedd y cymdeithasau hyn yn bodoli ar y cyfan yn y trefi arfordirol a threfi prifysgol, ac yn bennaf ymysg menywod o dras Seisnig. Doedd dim cymaint o ddiddordeb yn yr ardaloedd dosbarth gweithiol yn y Cymoedd. Yn rhannol, gellir beio’r wasg Gymreig a oedd yn dueddol o wrthod cyfaddef bod cefnogaeth i’r mudiad ymysg y Cymry wrth iddynt bortreadu’r swffragwyr a swffragetiaid fel dieithriaid wedi mewnfudo o Loegr. Yr argraff a gafwyd oedd mai Saeson yn bennaf oedd y swffragetiaid a’u bod yn dirmygu traddodiadau’r Cymru. Gwelwyd gwrthdystiadau ganddynt yn Eisteddfod 1909 yn Llundain a 1912 yn Wrecsam er mwyn gallu torri ar draws arweinwyr y Blaid Ryddfrydol. Roeddent yn amhoblogaidd ymysg y cyhoedd hefyd am fod y swffragetiaid yn feirniadol o arwr cendedlaethol y Cymry, Lloyd George, a’i fethiant i wthio am y bleidlais i fenywod. Enghraifft amlwg o’r agwedd hon oedd dynion Llanystumdwy yn ymosod ar swffragetiaid yn 1912 wrth iddynt amharu ar araith Lloyd George. Roedd yr ymosodiadau mor filain fel y cafodd yr achos ei ohebu yn y papurau Prydeinig megis y Daily Mail. Felly, yng Nghymru, nid oedd brwydro dros y bleidlais i fenywod yn cael ei ystyried fel rhywbeth ‘Cymreig’ iawn i’w wneud. Er hyn, mae haneswyr megis Angela V John wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymry tu allan i Gymru wedi bod yn weithgar iawn, ac mewn rhai achosion yn defnyddio eu Cymreictod i hyrwyddo eu hachos. Yn Rhydychen roedd Syr John Rhŷs, yr Athro Astudiaethau Celtaidd a Phennaeth Coleg yr Iesu, yn weithgar dros yr achos. Cadeiriodd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf o blaid rhyddfreinio menywod yn Rhydychen ac efe oedd Llywydd Oxford 7


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Women’s Suffrage Society (OWSS) o 1908 i 1915. Cymerodd ei deulu hefyd ddiddordeb yn yr achos. Roedd ei wraig y Foneddiges Elsbeth yn bwysig wrth greu cangen Rhydychen o’r Women’s Liberal Federation ac roedd eu merched, Myfanwy ac Olwen, yn aelodau blaenllaw o’r OWSS. Gwelwyd datblygiad ym mudiad swffragetiaid ymysg Cymry Llundain. Yn ystod y coroni yng Ngorffennaf 1911, trefnwyd prosesiwn y menywod ac Edith Mansell Moullin, oedd yn hanu o deulu Cymraeg, oedd arweinydd ‘adran Gymreig’ y prosesiwn. Yno, rhoddwyd pwyslais mawr ar ddangos a dathlu diwylliant Cymreig gyda hysbysiadau yn gofyn am fardd, telynores a hyd yn oed gafr Gymreig! Ceir llun ohonynt yn eu gwisgoedd Cymreig yn ystod y prosesiwn. Diolch i lwyddiant y prosesiwn hwn, ysbrydolwyd Edith Mansell Moullin i ddechrau Cymric Suffrage Union (CSU). Cawsant eu cyfarfod cyntaf ar y 10fed o Orffennaf yn 1911. Yn wahanol i ganghennau’r NUWSS a’r WSPU yng Nghymru, doedd y CSU ddim yn rhan o fudiad mwy, er eu bod yn cydymdeimlo â’r WSPU. Roeddent hefyd yn ceisio manteisio ar eu delwedd Gymreig trwy osod posteri mewn capeli Cymraeg a lobïo siopau llaeth Cymreig. Mae adroddiadau bod y gantores Gymraeg Eira Gwyn wedi cael ei gosod ar Wesminister Bridge er mwyn gallu dosbarthu papur newydd yr WSPU. Yn y gwrthdystiad yn Hyde Park yng Ngorffennaf 1912 roedd gan y CSU faneri yn darllen ‘y gwir yn erbyn y byd’. Rhoddir pwyslais ar eu hetifeddiaeth Geltaidd a’u hegwyddorion o ryddid a chydraddoldeb. Roedd ganddynt ganghennau yng Nghymru wrth iddynt geisio hybu diddordeb mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Bu’r Parchedig Ivan Davies o Landrilio yn cyfieithu

pamffledi’r mudiad er mwyn hybu’r achos. Yn 1912 daeth newid i’r mudiad wrth iddynt fabwysiadu technegau mwy milwriaethus, a throi yn erbyn dulliau addysgol o gael y bleidlais a’u hailenwi yn Forward Cymric Suffrage Union. Yn wahanol i lawer o fudiadau swffragetiaid a swffragwyr, fe lwyddodd i barhau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i ymgyrchu dros y bleidlais ac fe ddaeth y mudiad i ben wrth i Edith Mansell Moullin ymddeol oherwydd salwch. Mae perygl i’r hanesion am fudiadau rhanbarthol, tu allan i Lundain, fynd ar goll yn hanes y swffragetiaid a’r swffragwyr. Mae haneswyr megis Ryland Wallace yn ei lyfr The Women's Suffrage Movement in Wales 1866-1928 wedi agor y maes i ymchwil pellach. Mae’n bwysig dyfalbarhau gyda’r ymchwil i achos pleidlais i fenywod yng Nghymru er mwyn deall mwy am y swffragwyr a’r swffragetiaid yn ogystal ȃ Chymry’r cyfnod.

Elan Llwyd Coleg y Santes Ann

Llyfryddiaeth ANGELA V. JOHN, 1994. 'A draft of fresh air' : women\'s suffrage, the Welsh and London. Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1, COOK, K. a EVANS, N., 1991. 'The Petty Antics of the Bell-Ringing Boisterous Band'? The Women's Suffrage Movement in Wales, 1890-1918. In: A.V. JOHN, ed, Our mothers' land : chapters in Welsh women's history, 1830-1939. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. JOHN, A.V., 1994. 'Run like Blazes' The Suffragettes and Welshness. Llafur: The

8


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 journal of the Society for the Study of Welsh Labour History, 6(3) TICKNER, L., 1987. The spectacle of women : imagery of the suffrage campaign, 1907-14. London: Chatto & Windus. WALLACE, R., 2009. The women's suffrage movement in Wales, 1866-1928. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

9


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Gerallt Lloyd Owen a Siom y Cymry

Bu farw Gerallt Lloyd Owen yng Ngorffennaf 2014 ar drothwy cyfnod o benderfyniadau tyngedfennol yn hanes Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ar y 18fed o Fedi 2014, pleidleisiodd 55.30% o Albanwyr yn erbyn annibyniaeth gwleidyddol i’w cenedl. Wedi hynny, ar y 23ain o Fehefin 2016, mynegodd 51.89% o bleidleiswyr Prydain eu dymuniad i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn amddiffyn ‘sofraniaeth’ senedd San Steffan. Mae Prydeindod yn parhau yn ynysoedd Prydain. Mae’r freuddwyd am hunanreolaeth i lywodraeth Cymru a’r Alban yn ymddangos yn bell i ffwrdd. Mae siom ar ôl siom yn bygwth diffodd y freuddwyd genedlaethol am Gymru rydd a’i senedd sofran. Mewn cyfnod anobeithiol fel hyn, rhaid troi at hanes i ddarganfod goleuni. Allweddol bwysig yw cofio nad cenedlaetholwyr y genhedlaeth hon yw’r unig rai sydd wedi wynebu siom a galar. Roedd diwedd y ganrif ddiwethaf yn oes o siomedigaethau i genedlaetholwyr Cymru. Un a wynebodd y siomedigaethau hyn wyneb yn wyneb oedd y diweddar Gerallt Lloyd Owen. Bardd sy’n canu yn wyneb siom genedlaethol yw ef. Gellir ystyried barddoniaeth Gerallt Lloyd Owen fel ymateb i ddwy siomedigaeth benodol. Y cyntaf o’r rhain oedd gweld y Cymry yn dathlu Arwisgo Siarl yn ‘Dywysog’ Cymru ym 1969. Mae ei ail gyfrol o gerddi, Cerddi’r Cywilydd (1972) yn mynegi ei anniddigrwydd gyda’r Cymry am eu taeogrwydd i Loegr a’r teulu brenhinol.2 Yr ail, cafodd Gerallt a chenhedlaeth o genedlaetholwyr eu siomi gan ganlyniad Refferendwm 1979 lle pleidleisiodd 79.74% o bleidleiswyr Cymru 2

Meic Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), t. 446. 3 Dafydd Johnston, “Gerallt Lloyd Owen” yn Y Patrwm Amryliw: Cyfrol 2 Robert Rhys (gol.) (Llandybïe, 2006), tt. 168-169.

yn erbyn sefydlu llywodraeth ddatganoledig i’r genedl. Yn ei awdl ‘Cilmeri’, a enillodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1982, a’i gasgliad Cilmeri a Cherddi Eraill (1991), mynega ef ei siom a’i rwystredigaeth am ddiffyg hyder y Cymry.3 Yn wir, bardd y siomedigaethau yw Gerallt. Er hynny, trwy ddelio â realiti cignoeth y siom, llwydda Gerallt i ddatgelu fod gobaith eto i’r Cymry. Mae dau gwestiwn pwysig i’w hystyried wrth drafod gwaith y bardd hwn. Yn gyntaf, rhaid gofyn beth yw sylwedd a mêr cenedlaetholdeb Gerallt? Wedi gwneud hynny, rhaid gofyn sut mae Gerallt yn delio gyda’i siom a’i chwerwder ynghylch penderfyniadau’r Cymry? Beth felly sy’n ganolog i genedlaetholdeb Gerallt Lloyd Owen? Y cwestiwn pwysicaf i bob meddyliwr gwleidyddol a chenedlaetholwr ydy beth sy’n gwneud cenedl yn genedl? Beth sy’n gwneud Cymru yn Gymru? Cyn gallu brwydro dros achos ‘cenedl’ mae’n rhaid i’r gwladgarwr ddiffinio beth ydyw hanfod y ‘genedl’ hon. Mae’n rhaid i’r cenedlaetholwr ymwneud ag athroniaeth cyn y gall fentro i’r byd gwleidyddol. Nid bardd da yn unig yw Gerallt. Mae ef yn athronydd o’r radd flaenaf. Yn wir, mae ei gerddi yn amlinellu meddylfryd athronyddol cyflawn. Yn ei gerdd ‘Etifeddiaeth’ sydd ar gychwyn ei gasgliad Cerddi’r Cywilydd, mae’n diffinio’r hyn sydd yn gwneud cenedl yn genedl. Yn y gerdd hon, mae’n amlwg fod Gerallt yn ystyried fod tair elfen wahanol yn dod at ei gilydd i greu ‘Cymru’. Y cyntaf o’r rhain yw daearyddiaeth a thir Cymru: Cawsom wlad i’w chadw, darn o dir yn dyst ein bod wedi mynnu byw.4 4

Gerallt Lloyd Owen, Cerddi’r Cywliydd (Caernarfon, 1972), t. 11.

10


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Wedi amlinellu hynny, mae Gerallt yn ychwanegu ail elfen at ei syniad o Gymru sef ‘cenedl’: pobl a theuluoedd y Cymry o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae gan y genedl hon hanes unigryw ei hunan: Cawsom genedl o genhedlaeth i genhedlaeth ac anadlu ein hanes ni ein hunain.5 Y drydedd elfen sy’n gwneud Cymru yn Gymru ydyw ei hiaith. Yn nhyb Gerallt, heb yr iaith Gymraeg, ni all hunaniaeth genedlaethol y Cymry fod yn gyflawn: A chawsom iaith, er na cheisiem hi, oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes a’i grym anniddig ar y 6 mynyddoedd. Mae’n dra ddiddorol fod Gerallt yn cysylltu’r iaith yn uniongyrchol gyda’r tir yn hytrach na phobl y Cymry yn y gerdd hon. Ymddengys fod y Gymraeg, yn nhyb Gerallt, yn perthyn yn uniongyrchol i dir y Cymry cyn iddi berthyn i’w phobl. Yn wir, mae ‘ei hias yn y pridd eisoes’. Mae’r cyswllt hwn rhwng ‘iaith’ a ‘thir’ yn dangos dylanwad yr athronydd a’r cenedlaetholwr J. R. Jones ar farddoniaeth Gerallt.7 Yn wir, yn ôl Dafydd Johnston, cafodd ysgrifau Jones yn ei gyfrol Gwaedd yng Nghymru (1970) ddylanwad eithriadol ar gyfrol Cerddi’r Cywilydd.8 Yn ôl J. R. Jones ‘cydymdreiddiad’ rhwng tir ac iaith sy’n creu cenedl.9 Yn wir, yn ei erthygl ‘Y Syniad o Genedl’ (1961), noda Jones fod tair elfen yn creu cenedl: ‘Y cwlwm crai cyntaf yw'r cwlwm iaith; yr ail gwlwm crai yw tiriogaeth gyffredin; a'r trydydd yw’r “traddodiad diwylliannol”.’10 Yn ôl Jones, felly, iaith, tir a diwylliant yw sylfaen 5

Ibid. Ibid. 7 Johnston, “Gerallt Lloyd Owen”, t. 169. 8 Ibid. 9 Ibid., tt. 169-170. 10 J.R. Jones: 'Y Syniad o Genedl' yn Efrydiau Athronyddol, 24 (1961), t. 3. Gweler hefyd 6

cenedligrwydd y Cymry. Yr un egwyddor sydd i’w gweld yng ngwaith Gerallt er bod y pwyslais yn fwy ar y tir a’r iaith na’r diwylliant yn y cerddi a ddyfynnir yma. Yn ei gerdd ‘Hen Genedl’ yn Cerddi’r Cywilydd, mae Gerallt unwaith eto yn cysylltu’r tir a’r iaith er mwyn diffinio cenedligrwydd y Cymry: Hen genedl, cof hir; Hen gof, y gwir. Hen bridd, gwriadd saff; Hen wraidd, pren praff. Hen iaith, anadl fer; Hen anadl, her.11 Mae’n rhaid troi yn awr i ateb yr ail gwestiwn: sut mae Gerallt yn delio gyda’i siom? Dichon mai cerdd fwyaf nodweddiadol Gerallt ydyw ‘Fy Ngwlad’ sy’n cyfeirio yn benodol at ei siom o weld y Cymry yn dathlu Arwisgo’r Tywysog Siarl. Mae’r gerdd fel petai ei bod wedi ei throchi yn siomedigaeth a rhwystredigaeth y bardd. Yn y pennill cyntaf, mae’n dychmygu Llywelyn ap Gruffydd yn wylo o weld y Cymry yn plygu glin i frenhiniaeth Lloegr: ‘Wylit, wylit, Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn.’12 Wedi hynny mae’n cyfeirio at ddiffyg asgwrn cefn y Cymry a’u parodrwydd i fod yn deuog i Loegr. Yn wir, nid oes gan y genedl hon ‘ofal ond bihafio’. Lle, felly, mae gobaith Gerallt mewn sefyllfa mor anobeithiol? Ym mhennill olaf y gerdd hon, mae’n sylwi fod yn rhaid iddo ef frwydro dros achos ei wlad: ‘Fy ngwlad fy ngwlad, cei fy nghledd’. Ond nid yw ymroi yn ddigon i Gerallt, rhaid i’r unigolyn fod yn fodlon dioddef dros achos ei genedl: ‘O, gallwn, gallwn golli y gwaed hwn o’th blegid di.’ Yn hyn o beth, mae ymchwil S. R. Llwyd am drafodaeth arbennig ar athroniaeth J. R. Jones: S. R. Llwyd, ‘Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones’ (trawthawd PhD anghyhoeddedig, Prifysgol Bangor, 2011), tt. 19-20. 11 Owen, Cerddi’r Cywliydd, t. 30. 12 Ibid., t. 24. 11


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Gerallt yn ganoloeswr pybyr. Roedd ymroddiad llwyr i’r Tywysog ac agwedd arwrol hunanaberthol yn nodweddion pwysig i ganu beirdd yr Oesoedd Canol cynnar. Mewn cyfweliad ag Alan Llwyd yn Barddas (Hydref 1982), dywedodd Gerallt ei fod yn ‘ymdeimlo’n fyw iawn ag awyrgylch y cyfnod [Oesoedd Canol], yn ei ffyrnigrwydd a’i warineb’.13 Er bod Gerallt yn ymhelaethu ar dywyllwch a chywilydd y Cymry, mae gwreichion o obaith yn ei waith. Mae’r llygedyn hwn o obaith yn seiliedig ar yr hyder tawel y bydd y Cymry rhywdro yn deffro i weld eu trychineb cenedlaethol. Dichon mai’r un neges a fyddai gan Gerallt i’r Cymry yn 2017 wedi siomedigaethau’r Alban a Brexit. Yn ei gerdd ‘Ysgerbwd Milwr’ mae Gerallt yn gweld gobaith cenedl y Cymry wrth iddo fyfyrio ar hen ysgerbwd milwr mewn carreg. Mae’r ysgerbwd marw yn gwisgo cnawd byw i gynrychioli’r Cymry o’r diwedd yn deffro i wynebu’r frwydr fawr. Y frwydr wleidyddol ddi-drais dros ei hunaniaeth, ei diwylliant a’i hiaith. Yn wir, bardd y gobaith mewn siomedigaethau yw Gerallt Lloyd Owen. Do mi welais ysgerbwd milwr, Ond i mi nid ysgerbwd mwyach, oblegid drwy blygion y graig hon y mae gwewyr cenedl yn ystwytho nes y daw hithau rhyw fin nos i frwydr fan hyn.

H. Gwilym Tudur, Wycliffe Hall

13

‘Holi Bardd y Gadair, Alan Llwyd yn holi Gerallt Lloyd Owen’, Barddas, 67, tt. 1-2.

Gweler hefyd: Johnston, “Gerallt Lloyd Owen”, t. 169. 12


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Dail Rhydychen

parhau i grino. Caeaf fy llyfrau a diffoddaf fy Mac. Gadawaf y llyfrgell a throediaf y llwybr arferol. Yn wir, mae’r dail yn dal yno, yn parhau i grino wrth fy nhraed.

Wrth gerdded heibio drysau siopau Cornmarket a thai bwyta George Street, ac

Tydi stiwdant fel fi ddim yn cario arian mân i’r llyfrgell! Brysiaf heibio.

wrth frasgamu drwy’r strydoedd cefn am y llyfrgell, clywaf gwynfan y dail crin wrth fy nhraed. Mae’r deiliach disgynedig yno

Lois Llywelyn Williams

drwy’r amser, yn domen flêr o frown a gwyrdd. Twmpath sydd wedi’i ysgubo o’r

Coleg yr Iesu

neilltu; o ffordd y myfyrwyr, yr ysgolheigion a’r twristiaid, fel nad ydynt yn amharu dim arnom. Sylwaf ar y bobl sy’n pasio gan frysio heibio’r dail. Maent yn llwyr ymwybodol o’u presenoldeb ac yn gwybod bod y dail yn crino wrth eu traed. Maent yn crino, ac yn crïo. Er, fiw i’r bobl sbïo. Symudant yn eu blaenau ac enciliant yn eu hystafelloedd a’u swyddfeydd crand sy’n eu gwarchod rhag y fath gystudd a thrallod. Chwiliaf innau am loches yn y llyfrgell; ac anghofiaf am y dail, am awr neu ddwy, cyn colli stêm a synfyfyrio. Edrychaf o’m cwmpas- uwch fy mhen a phob ochr imi mae caregwaith cain, cyfoeth mawrion ac arloeswyr academia. Mae John Radcliffe yn cadw llygad arnaf. Minnau’n ymhyfrydu, er yn ymdroi, ar y patrymau ar y pared. Astudiaf y darluniau coeth yn hytrach nag athroniaeth Jean-Jacques Rousseau. Ond, yn y patrwm ar y pileri gwelaf ddail, a chofiaf eto eu bod hwythau y tu allan yn 13


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Owain Lawgoch: Cymro oddi Cartref Wedi marw Llywelyn ap Gruffudd (“Ein Llyw Olaf”), penderfynodd Rhodri, Er nad yw hanes Cymru yn cael ei

ei frawd, roi ei deyrngarwch i frenin

ddysgu digon yn ein hysgolion, mae nifer

Lloegr, gan symud i fyw i Loegr, a bu

yn gyfarwydd ag enwau rhai o’r ffigurau

farw c. 1315 yn ei faenor yn Tatsfield,

pwysicaf – pobl fel Llywelyn ein Llyw

tuag ugain milltir i’r de o Lundain. (Mae

Olaf, ac effeithiau ei farwolaeth ar 11eg

enwau Cymraeg, fel Maesmawr, i’w

Rhagfyr 1282, a oedd yn drobwynt yn

gweld yn yr ardal honno hyd heddiw).

hanes sofraniaeth Cymru, ac sydd wedi

Cafodd Rhodri fab o’r enw Syr Thomas

troi’n ffigwr o alar i’n beirdd; neu Owain

Rotherik, ac ar un olwg bu Thomas fyw fel

Glyndŵr, a’i ryfel yn erbyn coron Lloegr

unrhyw uchelwr Seisnig arall. Ac eto mae

ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, sydd

rhai pethau’n awgrymu nad oedd Thomas

erbyn hyn wedi dod yn arwr i lawer ac yn

wedi anghofio ei hunaniaeth Gymreig yn

cael ei weld fel ‘tad cenedlaetholdeb

gyfan gwbl. Ceisiodd hawlio tir yn ôl yng

Cymreig modern’. Ac eto, mae un o

Nghymru; defnyddiodd arfbais Gwynedd

ffigurau pwysicaf hanes Cymru wedi

fel ei sêl; a rhoddodd yr enw brenhinol

mynd bron yn anghof, un oedd yn byw yn

Cymraeg ‘Owain’ ar ei fab.

y cyfnod rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf ac Owain Glyndŵr ac oedd yn rhyw fath o bont rhyngddynt, sef Owain Lawgoch.

Mae bywyd cynnar Owain ychydig yn annelwig, ond gallwn fod yn sicr ei fod erbyn 1369 yng ngwasanaeth Brenin Siarl

Ond pwy oedd Owain Lawgoch?

V o Ffrainc, ac yn arwain grŵp o

Llysenw oedd y ‘Lawgoch’. Yn Ffrainc

hurfilwyr o Gymru yn erbyn y Saeson yn y

roedd Owain yn cael ei adnabod fel ‘Yvain

Rhyfel Can Mlynedd. Mae llawer o’r hyn

de Galles’, ac yn ei ddydd roedd yr enw

yr ydym yn ei wybod am Owain yn dod o

hwnnw’n adnabyddus ar gyfandir Ewrop.

ffynonellau Ffrengig, fel cronicl Jean

Ond ei enw ‘Cymreig’ oedd Owain ap

Froissart, sy’n cyfeirio ato fel Yvain de

Thomas ap Rhodri. Roedd y Rhodri

Galles. Bu’n ymladd mewn llawer o

hwnnw’n frawd i Lywelyn ein Llyw Olaf.

frwydrau, nifer ohonynt o dan frenin

Roedd Owain, felly, yn llinach tywysogion

Ffrainc, a daeth yn ymladdwr adnabyddus

Gwynedd, a Llywelyn Fawr yn hen, hen

o gwmpas Ewrop. Ond serch hyn i gyd,

dad-cu iddo. Ac mae gan Owain Lawgoch

nid anghofiodd am Gymru – er na fu yno

hanes diddorol.

erioed, o bosibl. 14


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Ar 10fed Mai 1372, cyhoeddodd

Ac eto, yr ydym ni’r Cymry bron

broclamasiwn (sydd wedi goroesi yn yr

a’i anghofio. Ar draws Ewrop mae

Archives Nationales ym Mharis) yn datgan

chwedlau a hanesion am Owain Lawgoch

ei hawl ar Gymru. Llwyddodd i gael Siarl

yn parhau hyd heddiw. Ym Mortagne-sur-

V i gefnogi ei hawl i dywysogaeth Cymru,

Gironde cafodd cofgolofn ei chodi iddo yn

a dechreuodd Owain gynllunio i oresgyn

2003. Mae hyd yn oed bwytai llewyrchus

Cymru, gyda chefnogaeth ac arian

Ffrengig wedi cael eu henwi i’w

Ffrengig. Yn wir, aeth Owain ar fwy nag

anrhydeddu. Ond yng Nghymru, o

un ymgyrch i gipio Cymru. Cyrhaeddodd

gymharu â rhai fel Llywelyn ein Llyw

mor bell ag ynys Guernsey a brwydro yno

Olaf ac Owain Glyndŵr, prin yw’r sôn

ar un achlysur, ond cafodd ei alw’n ôl gan

amdano, er ei fod yn llenwi’r bwlch rhwng

frenin Ffrainc oherwydd bod angen iddo

y ddau fel etifedd coron Llywelyn, ac

fynd i frwydro mewn man arall.

ysbrydoliaeth Owain Glyndŵr, yn enwedig wrth i hwnnw geisio cefnogaeth

Yn ôl yng Nghymru, roedd y

i’w achos o Ffrainc.

beirdd yn dechrau sôn am Owain fel y ‘Mab Darogan’, sef y meseia gwleidyddol

Ac mae Owain Lawgoch yn

a fyddai’n dod rywbryd i achub y genedl

haeddu ein sylw ni, alltudion yn

rhag gormes y Saeson. Ai Owain oedd yr

Rhydychen. Yn fy mhrofiad i, mae llawer

un a fyddai’n dod a theyrnasiad brenin

o wirionedd yn yr hen ddywediad ‘Gorau

Lloegr dros y Cymry i ben? Yn sicr, roedd

Cymro, Cymro oddi cartref’. Mae Cymry

coron Lloegr yn ei weld yn fygythiad –

yn aml yn dod yn fwy cenedlaetholgar

cymaint o fygythiad iddynt dalu dyn o’r

wrth adael y famwlad! Yn ogystal, wrth

enw John Lamb i ennill ymddiriedaeth

edrych ar hanes Cymru, gwelwn fod nifer

Owain, ac ymuno â’i fintai (a oedd yn

o’r Cymry mwyaf enwog a mwyaf

llawn Cymry alltud), er mwyn ei

dylanwadol wedi dod i’r brig y tu allan i

lofruddio. Ac felly y bu Owain farw yn

Gymru. Mewn llawer ystyr mae Owain

1378, tra yn cribo ei wallt wrth gynllunio

Lawgoch yn ffitio’r patrwm hwnnw.

ei warchae ar Mortagne-sur-Gironde yn

Efallai na fu ef erioed yng Nghymru, ac

ne-orllewin Ffrainc. Roedd llofruddio

eto roedd yn ymwybodol iawn o’i

gwleidyddol fel hyn, trwy ysbïwr, yn

hunaniaeth Gymreig. Ac yn bell o dir

dangos cymaint yr oedd coron Lloegr yn

Cymru, gwnaeth enw iddo ei hunan, a

pryderu am fygythiad Owain.

gwneud pethau mawrion. 15


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

A chredaf fod Owain Lawgoch yn esiampl i ni, alltudion, sydd wedi gadael Cymru. Roedd Owain yn dyheu am ddod i Gymru a chyfrannu’n arwyddocaol i’w bywyd a’i pharhad, a gwnaeth ymdrech i wneud hynny. Nid oedd hyn yn bosibl yn y diwedd oherwydd amgylchiadau, ond mae’r wers yn glir. Os ydych chi’n gadael Cymru, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n brwydro drosti ac yn dychwelyd iddi maes o law!

Roedd bywyd Owain Lawgoch yn un cyflym a chyffrous. I gael gwell syniad am ei fywyd ac i ddysgu amdano mewn mwy o fanylder, darllenwch lyfr safonol A. D. Carr, Owen of Wales, neu ceisiwch fynychu ei ddarlith ar Owain Lawgoch ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni (dydd Mawrth, 8 Awst 2017 am 11.30 ym Mhabell y Cymdeithasau 2).

Owain Caron James

Coleg y Drindod

16


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Sut y gwyddai adar i ble maent yn mudo?

Mae nifer enfawr o adar, gan gynnwys y Robin Ewropeaidd a cholomennod, yn mudo i hinsoddau tramor yn ystod y Gaeaf. Beth sy’n nodweddiadol o’r mudiadau hyn, yw bod yr adar yn dychwelyd i’r un lleoliad yn union flwyddyn ar ôl blwyddyn. Dros yr hanner canrif ddiwethaf, mae nifer o ddamcaniaethau wedi datblygu i esbonio sut mae adar yn mordwyo. Yn anffodus, mae’r cwestiwn hwn wedi profi yn un anodd i’w ateb yn llwyddiannus, ac mae pump grŵp yn Rhydychen yn unig yn cwblhau ymchwil ar y mecanwaith cemegol sydd yn gyrru’r mudiadau. Damcaniaeth y Cwmpawd Cemegol Y ddamcaniaeth glasurol ar gyfer sut mae adar yn medru mordwyo yw eu bod yn cyfuno medrau fel mapio daearyddol, a lleoliad yr haul a’r sêr i’w cynorthwyo. Yn ddiweddar, yr esboniad mwyaf poblogaidd yw’r syniad bod ganddynt “gwmpawd cemegol”. Y syniad yw bod casgliad o gemegion y tu mewn i’r aderyn yn cymryd rhan mewn adwaithiau sy’n cael eu heffeithio gan gyfeiriadedd yr aderyn, naill ai o ran faint o’r cemegion sy’n cael eu cynhyrchu, neu o ran cyfradd yr adwaithiau. Sut felly y mae cyfeiriadedd yr aderyn yn medru cael effaith ar yr adwaith? Pan awgrymwyd yn gyntaf mai adwaith rhwng faes magnetig y ddaear a’r aderyn sy’n gyfrifol am y cwmpawd cemegol, roedd nifer o wyddonwyr yn amheus. Y rheswm am hyn yw fod cryfder y maes magnetig yn llawer llai na’r egni

sy’n ofynnol er mwyn achosi adwaith cemegol. Yn wir, fe awgrymwyd yn 1975, gan y cemegydd ffisegol enwog Peter Atkins, fod yr arbenigedd o astudio effaith meysydd magnetig ar adweithiau cemegol yn “romping ground for charlatans”. Serch hyn, erbyn heddiw mae gwyddonwyr yn cytuno mai rhyngweithiad gyda newidiadau yng nghyfeiriad maes magnetig y ddaear ac nid newidiadau yng nghryfder y maes magnetig sydd yn gyfrifol am eu tywys. Adwaith Fagnetig Mae ymchwilwyr wedi darganfod dwy ffordd wahanol y gallai adar adweithio gyda meysydd magenetig. Y modd cyntaf yw adweithiad gyda sylwedd o fewn pig yr aderyn, a elwir yn fagnetit (Fe3O4) sydd yn ddeunydd magnetig sydd yn ymddwyn fel magnet parhaol (hynny yw mae’n ymddwyn fel magned cyffredin tebyg i’r rhai a welwch ar flaen oergell). Gall maes magnetig roi grym ar y gronynnau magnetit, sydd yn medru agor a chau’r camlesi ionic sydd yn bodoli yn y cellbilennau o fewn y pig. Bydd newidiadau yn grynodiad ionau gwahanol o fewn y celloedd yma yn anwytho signalau o fewn system nerfol y corff ac yn anfon gwybodaeth o ran cyfeiriadedd yr aderyn i’r ymennydd. Yn anffodus, pan gynhaliwyd arbrawf lle datgysylltwyd y rhan offthalmig o’r nerf sydd yn rhedeg o’r pig i’r ymenndd ni welwyd unrhyw newid yn abledd yr aderyn i fordwyo. Felly, ni all yr

17


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 adwaith yma yn unig fod yn gyfrifol am allu’r adar. Yn ffodus, yn 1978 fe gyhoeddwyd ail ddamcaniaeth sef y mecanwaith pâr radical er mwyn esbonio diffyg y therom magnetit. Yn syml, mae golau yn adweithio gydag arae o ffoto-bigmentau sy’n bodoli yn llygaid yr adar er mwyn ffurfio cemegion a elwir yn radicalau. Nodwedd arbennig cemegion radicalaidd yw fod ganddynt un electron sydd heb eu paru. Fel y mae’r enw’n awgrymu, yn ystod y mecanwaith pâr radical, fe fydd pâr o radicalau yn ffurfio. O ganlyniad i’r broses yma mae dau wahanol fath o bâr yn medru cael eu ffurfio. Medrir gwahaniaethu rhwng y ddau bâr a gynhyrchir gan fod y gyfradd y maent yn ail-gyfuno, i ailgynhyrchu’r arae wreiddiol, yn wahanol. Rhagdybiwyd felly byddai’r parau yma o radicalau yn medru cynhyrchu patrymau ar draws retina’r aderyn a fyddai’n llwyddo i anfon gwybodaeth leoliadol i’r ymenydd. Cafwyd cadarnhad o’r mecanwaith pâr radical yn 1999 pan ddangoswyd fod y Robin Ewropeaidd ond yn arddangos cyfeiriadedd magnetig os oedd golau o donfeddi arbennig yn bresennol. Felly mae’r effaith magnetig yn dangos dibyniaeth tonfeddol sy’n gyson gydag amsugniad golau gan gemegyn i ffurfio radicalau. Felly, er mwyn i’r mecanwaith yma fod yn effeithiol mae angen protein penodol sydd yn gallu gweithredu fel derbynnydd golau.

Cryptochrome Yn y flwyddyn 2000, fe awgrymwyd fod y cemegyn Cryptochrome yn gyfrifol am gynhyrchu’r radicalau. Canfyddwyd moleciwlau cryptochrome yn llygaid yr adar, ar hyd y retina, lle roeddent wedi eu lleoli yn gytbell o’i gilydd ar gyfeiriadedd penodol. Felly, bydd cynnyrch adwaith y pâr radical ar unrhyw bwynt ar hyd y retina yn dibynnu ar gyfeiriad maes magnetig y ddaear gydag echel y cryptochrome ar y pwynt hwnnw. Mae’r cryptochrome wedi ei gysylltu at nerfau yn yr aderyn (yn debyg i’r magnetit yn y pig) a thrwy’r cysylltiad hwn, gall anfon negeseuon ynglŷn â chyfeiriad yr aderyn i’r ymennydd. Fe dybir fod y signalau hyn yn cynhyrchu patrwm gweledol y mae’r aderyn yn medru ei ddilyn. Ymchwil Pellach Dros y blynyddoedd diwethaf felly, rydym wedi datblygu dealltwriaeth gymharol dda ynglyn a sut mae adar yn medru mudo i’r un man yn flynyddol. Serch hyn, nid yw’r holl fanylion yn gwbl amlwg eto. Rhagdybir bod adar yn defnyddio cyfuniad o fedrau, fel y ffactorau a disgrifir uchod, mewn gwahanol gyfrannau, i ddod o hyd i’w llwybr. Ond pa mor bwysig yw bob cydran? Pa mor ddilys yw ein casgliad mai dim ond cryptochrome sydd yn cyfrannu i’r mecanwaith pâr radical? Yn anffodus, nid yw'r rhain yn gwestiynau hawdd i’w hateb gan fod cryptochrome yn anodd iawn i’w gasglu er mwyn cynnal arbrofion - mae’n bodoli mewn crynodiad bach iawn o fewn llygaid 18


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 yr aderyn. Yn ogystal, ceir problemau o ran cynnal yr arbrofion ar dymheredd arferol gan bod cryptochrome yn dadnaturio ar dymheredd gymherol isel. Mae ymchwilwyr felly wedi penderfynu ar dacteg wahanol, ac yn lle astudio’r cryptochrome yn unig, mae nifer o arbrofion diweddar yn cael eu targedu ar systemau model. Gelwir systemau o gemegion sydd yn arddangos sensitifrwydd i faes magnetig sy’n debyg mewn cryfder i faes magnetig y ddaear yn systemau model. Fe elwir yr effaith hwn yn effaith maes isel, gan fod maes magnetig y ddaear yn wan. Cefais y fraint o weithio fel aelod o grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen am saith wythnos yn ystod yr Haf eleni er mwyn ceisio darganfod systemau o’r fath.

Byddai modd ei ddefnyddio yn lle systemau traddodiadol megis radar a lloerennu. Mi fyddai systemau o’r fath yn fanteisiol tu hwnt am eu bod yn anodd iawn i ymyrryd arnynt gan ddefnyddio dulliau electronig traddadiaol. Felly, yn sgil hyn, fe dybir fydd ymchwil ar faesydd magentic a’i heffeithiau yn cymeryd rol pwysig, nid dim ond wrth ystyried mudiad adar a pheiriannau, ond hefyd systemau cyfrifiadurol cwantwm ac effeithaiu systemau trydannol ar iechyd ym mlynyddoedd i ddod.

Jamie Gravell Coleg y Santes Ann

Y nod yn y pen draw yw gosod systemau o’r fath mewn ffilmiau neu wydrau siwgr, lle mae’r moleciwlau wedi eu dal yn eu lle (gan fod y system yn solid) yn yr un modd ag y mae’r cryptochrome wedi eu lleoli yn gytbell o’i gilydd yn retina’r aderyn. Os gellir darganfod systemau o’r fath, fe fydd yn bosib cynnal arbrofion arnynt er mwyn enghreifftio'r hyn a welir yn yr adar trwy arddangos bod yr adwaith o fewn y solid yn ddibynnol ar gyfeiriadedd y maes magnetig. Nid chwilfrydedd damcaniaethol yw’r ffenomen hon yn unig oherwydd y gobaith yw cynhyrchu cwmpawd cemegol synthetig yn y dyfodol sydd hefyd yn medru cael ei ddefnyddio ar gyfer mordwyo.

19


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 “Welest ti?” Bywyd amlieithog yn yr Andes Cymreig

Nghymru. I ddechrau, mae’r rhan o’r byd a elwir ‘Patagonia’ yn enfawr - tua maint Sweden – ac mae’n lledaenu ar draws de’r Ariannin yn ogystal â de Chile. Hynny yw,

Eleni rydw i, myfyriwr Sbaeneg a Chelteg, ar fy mlwyddyn dramor, ac fel rhan o’r flwyddyn ryfedd a rhyfeddol hon, ers mis Mawrth, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael byw yn Esquel, Patagonia.

nid pentref gwledig lle mae’r trigolion i gyd yn

siarad

Cymraeg

mewn

gwisg

draddodiadol yw ‘Patagonia’. Yn hytrach, cewch ddod o hyd i’r siaradwyr Cymraeg mewn llond llaw o drefi ar hyd yr Afon Camwy (río Chubut) yn nhalaith Chubut,

Mae Esquel yn un o drefi ‘Cymreig’ ochr yr Andes o’r Wladfa yn yr Ariannin, ac fe ges i fy mhenodi i fod yn English Language Assistant yma fel rhan o raglen y Cyngor Prydeinig.

Patagonia’r Ariannin. O ran sefyllfa’r Gymraeg a gawn yn y darlun, dadleuaf fod y realiti yn wahanol i’r hyn y clywais i amdano pan oeddwn yn blentyn. Er fod y sefyllfa ychydig yn

Ar sawl achlysur dwi wedi gorfod cymryd eiliad i brosesu mor rhyfedd yw hi fy mod i mewn hemisffer gwahanol i Gymru, dros 7,500 milltir i ffwrdd, a bod y Gymraeg i’w chlywed yma, baneri Cymru i’w gweld yma, a bara brith i’w flasu yma (wel,

y

fersiwn

Patagonaidd;

‘torta

galesa’)! Un o’r troeon hynny oedd pan gefais wybod bod dau o’r wyth athro Saesneg yn y coleg hyfforddi lle roeddwn i am weithio yn siarad Cymraeg – Cymraes o Wrecsam, a merch leol o Esquel ei hun!

Serch hynny, dros fy nghyfnod yma, rydw i wedi dod i ddeall bod rhaid i ni beidio cael ein camarwain gan y darlun o Batagonia sy’n cael ei beintio i ni yng

wahanol yn nhref Gaiman i’r dwyrain sydd â mwy o siaradwyr ac awyrgylch Gymreig, does dim Cymraeg i’w glywed ar strydoedd Esquel. Hynny yw, chewch chi ddim mynd i’r siop goffi a gofyn am capuccino yn Gymraeg. Ac yn Esquel a thref gyfagos (ac os rhywbeth, mwy Cymreig) Trevelin, mae’r Gymuned Gymreig yn un clos, ac os y’ch chi’n medru’r iaith, mae pawb yn gwybod hynny – does dim syrpreisys gyda phwy sy’n siarad Cymraeg yma. Mae’n wir fod yr iaith wedi goroesi er 1865 pan gyrhaeddodd y Cymry Chubut (1885 yn Nhrevelin, 1906 yn Esquel), ond fe wnaeth hi ddioddef triniaeth debyg i’w thriniaeth yng Nghymru, ond gan yr iaith Sbaeneg y tro hwn. Er mai Cymraeg fyddai 20


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 iaith yr aelwyd, gydag amser, Sbaeneg

Mae sawl sylw arall gen i i’w nodi

fyddai’r plant yn ei siarad gyda’u ffrindiau

am fy amser yn y Gymru fach Archentaidd

a thu allan i’r tŷ, nes bod nifer yn colli’r

hon (‘El Nuevo Gales’ fel mai un ystâd

iaith neu yn ildio i’r Sbaeneg.

newydd o dai yn Nhrevelin am gael ei alw), ond am y tro, hoffwn ganolbwyntio ar

Fel y gwelaf i, mae sefyllfa

agweddau ieithyddol fy mywyd yma.

siaradwyr Cymraeg Bro Hydref (enw ardal Esquel a Threvelin) heddiw yn syrthio

Fy swydd i, fel siaradwr ‘iaith

mewn i dri chategori. Yn gyntaf, ceir rhyw

gyntaf’, yw i helpu hyfforddi athrawon

20–30 o bobl sydd wedi bod yn siarad

Saesneg y dyfodol mewn coleg hyfforddi

Cymraeg yn rhugl o’r crud heb golli arni o

yn Esquel. O fewn y ‘stafell ddosbarth,

gwbl; yna ceir rhai oedd yn arfer siarad yr

Saesneg dwi’n ei siarad gyda’r disgyblion

iaith gyda’u rhieni, yna ei cholli yn ystod eu

gan fwyaf, a thu allan, Sbaeneg. Felly

hieuenctid, cyn mynd ati i’w hail-ddysgu

mae’n swydd ddwyieithog. A gyda’r

yn hwyrach; ac yn olaf, ceir rhai sydd wedi

Gymuned Gymreig, Cymraeg dwi’n siarad

dysgu’r iaith o’r newydd, un ai am fod

gyda phawb sy’n medru, ac felly hefyd

ganddynt waed Cymreig, neu oherwydd

gyda’r dechreuwyr am mor hir ag sy’n

diddordeb pur.

bosib, cyn troi at Sbaeneg (gan gofio bod nifer o’r siaradwyr Cymraeg yma yn

Yn wir, mae Patagonia ac Esquel yn

ddwyieithog yn Sbaeneg a Chymraeg, nid

dal i fod yn fagnet i Archentwyr dros y wlad

Saesneg). Felly, mae gen i swydd a bywyd

oherwydd ei phrydferthwch naturiol a

amlieithog, ac mae wedi bod yn agoriad

heddychlon, ac felly mae nifer yn dod o

llygad i mi ar sut mae ieithoedd yn

ddinasoedd mawr Buenos Aires a Córdoba,

rhyngweithio.

heb unrhyw gysylltiad â Chymru, ac yn dechrau dysgu’r iaith. I’r ail a fwyfwy i’r

Yng Nghymru, ry’n ni’n gyfarwydd

trydydd categori uchod mae’r rhan fwyaf o

iawn gyda’r ffaith fod ieithoedd yn plethu

siaradwyr Cymraeg ardal Bro Hydref yn

i’w

perthyn, ac mae’r nifer yn cynyddu wrth i’r

strwythurau yn ôl ac ymlaen. A dweud y

gwersi Cymraeg ddathlu 20 mlynedd o

gwir, rhyw ‘Wenglish’ yw fy iaith bob dydd

addysg, ac wrth i Ysgol y Cwm, sef ysgol

i mae’n rhaid. Yn ddi-ffael buaswn yn

gynradd ddwyieithog Cymraeg a Sbaeneg

defnyddio

Trevelin a agorwyd yn 2016, gynyddu

embarrassing” yn hytrach na “mae hynny’n

mewn nifer o ddisgyblion.

achosi cywilydd mawr i mi”, a hynny’n un

gilydd,

yn

“ma

cyfnewid

hwna’n

geiriau

a

really

21


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 esiampl allan o filoedd. Ceir stori debyg

ynghynt, bydd y dywediad yma yn

gyda ‘Spanglish’ wrth i ymadroddion fel

dderbyniol – rhywbeth y buaswn yn ei

“¡Qué heavy!” gael eu clywed. Ac i raddau,

gymeradwyo gan fy mod yn hoff iawn

mae ambell i beth Cymraeg i’w glywed yn

ohono.

Sbaeneg yr ardal hon hefyd. Nid yn unig fe’i clywir yn enwau’r llefydd (‘Trevelin’,

Ac wrth gwrs, mae yna drydedd

‘Cwm Hyfryd’, ‘Trelew’, ‘Dolavon’) ond

iaith ar waith yma yn Esquel; y Gymraeg.

yn yr un modd, caiff y gair “Nain” ei

Ac yn rhyfedd iawn, gwelir yr un

ddefnyddio fel unrhyw enw anwes arall am

ffenomenon yn digwydd yma – y Sbaeneg

‘famgu’, a hynny gan bobl nad ydynt yn

yn effeithio ar y Gymraeg. Defnyddiaf y

siarad Cymraeg: “No viene Carlos porque

gair “rhyfedd”, achos dy’n ni ddim wedi

está con su Nain”.

arfer gyda Chymraeg yn cymryd safle eilaidd i unrhyw iaith gyntaf heblaw am

Fodd bynnag, yn ddyfnach na hyn,

Saesneg, ac felly mae’r canlyniad o ganu’r

ceir esiamplau cryf yn y Saesneg a’r

Gymraeg

Gymraeg yma o’r ffenomenon a elwir

anghyffredin.

ar

dôn

Sbaeneg

yn

un

‘interference’ neu ‘ymyrraeth’, lle mai gwybodaeth o’r iaith gyntaf yn effeithio ar

Enghraifft berffaith o’r hyn sydd gen i

ffurfio brawddegau yn yr ail iaith.

mewn golwg yw’r cymal lanw “welest ti”. Yn Sbaeneg yr Ariannin, mae “viste” (yr 2il

nisgyblion

berson unigol, amser gorffennol, o’r ferf

Saesneg yn dweud “yes or yes” yn gyson

‘gweld’, “ver”) i’w glywed bob yn ail air

wrth geisio dweud “there’s no choice” neu

bron wrth i Archentwr hel rhyw stori neu

“no matter what”, yn swnio’n rhyfedd i

esbonio

ddechrau: “I would love to go to England,

supermercado ayer, y hubo un montón de

because you have to speak English, yes or

gente, viste?”. Yn y cymal hwn ceir ystyr

yes!” Ond wrth ystyried mai “sí o sí”

tebyg i “you know” yn Saesneg, “ti’n gweld

byddai’n cael ei ddweud petai’r frawddeg

(twel)” yn y de, neu “sti” yn y gogledd. Yn

honno yn Sbaeneg, daeth i’r amlwg mai

ddiddorol iawn, mae’r “viste” hwn i’w

cyfieithiad llythrennol o’r iaith gyntaf oedd

glywed yn gryf yng Nghymraeg y Wladfa

yr “yes or yes” hoffus hwn. Er mai esiampl

hefyd ond gyda’i chyfieithiad llythrennol.

o ddefnydd anghywir o iaith ydyw,

Digon posib y byddai’r frawddeg uchod

gwyddwn fod iaith yn beth cyfnewidiol, ac

wedi’i mynegi fel a ganlyn: “es i i’r

mae’n bosib o fewn cenhedlaeth os nad

archfarchnad ddoe, ac roedd llawer iawn o

Roedd

clywed

fy

rhywbeth.

E.e.

“yo

fui

al

22


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 bobl yno, welest ti?”. Yn yr un modd, mae posib clywed y defnydd o “pasiwch” wrth olygu “dewch i mewn” gan ei fod yn gyfieithiad llythrennol o’r “pase” a gaiff ei ddefnyddio yn Sbaeneg. Ychwanegwch y rhain at y pethau bach fel dymuno ‘Penblwydd Llawen’ yn hytrach nag un ‘Hapus’ a chymysgu tafodiaith y de a’r gogledd wrth ddweud “allan” a “nawr” ac fe gewch Gymraeg cyfoethog Patagonia.

Er mor ddiddorol yw astudiaeth ieithyddol o’r Saesneg a’r Gymraeg a gaiff eu defnyddio yn y dref hon, mae’r hyn sy’n ei wneud yn lle arbennig yn mynd ymhell uwchlaw ymchwil wyddonol. Mae’r croeso dwi wedi’i dderbyn gan bawb yma, o’r gymuned Gymreig, y Cymry sy’n byw yma, yr athrawon Saesneg, ac Esquelenses yn gyffredinol, wedi bod yn werthfawr ac yn rhywbeth i’w drysori. Mae’r baneri Cymru a chael siarad y Gymraeg bob dydd wedi helpu llawer, ond am y croeso cyffredinol hwn hoffwn ddiolch am fy ngwneud i deimlo’n gartrefol.

Llewelyn Hopwood

Coleg yr Iesu

23


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Cyfansoddiadau Eisteddfodol

Fel y soniwyd eisioes, cynhaliwyd Eisteddfod Cymdeithas Dafydd ap Gwilym eleni am y tro cyntaf ers ychydig flynyddoedd. Bu teilyngdod ym mhob un o’r tair cystadleuaeth, ac mae’n bleser cael cyhoeddi y gwaith buddugol.

Cystadleuaeth Y Gadair, Barddoniaeth Cymraeg Iaith Gyntaf.

Heuldro Hi oedd y Gwanwyn, Yr awel ddiffuant. Roedd gobaith yn ei llygaid A’i breuddwydion yn blethau yn ei gwallt. Teimlai ei gwên fel dechrau newydd. Hi oedd yr haf. Awyr llachar A thonnau hallt Law yn llaw drwy strydoedd dirgel. Hwyr Fehefin ganol nos. Hi oedd yr Hydref. Mewn oren ac aur Aeth heibio heb oedi Mor sydyn, ni sylwais. Bu yno’r holl amser, Yn ysbeidiau heulog rhwng corwyntoedd. Hi oedd y Gaeaf hefyd. Taenodd rew ar frigau’r coed A niwl dros y lloer Nes bod popeth yn gymylog. Gadawodd ôl traed yn yr eira A hebddi mae’n llawer rhy oer.

Luned Rhys (Don Juan)

Ysgol Glan Y Môr 24


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Rhyddiaith Cymraeg Iaith Gyntaf.

Ymsonau yn seiliedig ar chwedl Blodeuwedd.

Mi fynnaf fyw. Mae serch a byw yn un. Pan edrychaf ar wyneb Lleu, gwelaf arwr, milwr, arweinydd, penteulu, uchelwr… ond ni welaf ŵr. Gwelaf wallt tonnog, cyhyrau cadarn, llygaid craff, ond ni welaf ŵr. Ond, mi fynnaf fyw. Mae serch a byw yn un. A nawr rwy’n syllu i grombil enaid Gronw Pebr – Gronw Pebr. Mae ei enw’n hafan breuddwydion fy nghynhesu rhag ofn ac oerni y byd sydd mor ddieithr i mi. Ond Lleu yw’r un a berthyn i mi. Na, yr un a’m rhoddwyd i iddo ef. Rwyf yn perthyn iddo ef, ond rwyf yn unig, yn wag ac ar goll. Nid wyf yn ei adnabod. Mae Lleu yn fy mygu, ac ni allaf ledu fy adennydd i hedfan tra’r wyf gydag ef. Rwyf fel aderyn mewn cawell, ni allaf fyw fel hyn mwyach. Mae Lleu mor ddof a di-antur, heb flagur her a pherygl yn llifo yn ei wythiennau. Ond er ei fod ef yno i mi, gyda mi, rwy’n unig, ar fy mhen fy hun. ****************** Pan Ddaethost ataf gyntaf oll roedd dy harddwch yn fy mudo. Doedd dim geiriau i wneud cyfiawnder â thi. Roeddet yn harddach na harddwch yn dlysach na tlysni. Roedd dy groen yn wynnach na gwynder, dy wallt yn felynach na haul canol haf. Roedd dy lygaid yn deffro fflam fy enaid, a’th wefusau’n geiros coch i’w blasu. Ti oedd yr enfys yn fy myd di-liw. ****************** “Be ti wisgo heno?”

“Dwmbo sdi, chdi?” “Mini skirt newydd fi o Topshop, be ti feddwl?” “OMG Blod – osym!” “Shwr? Ti meddwl bo hwnna’n rhy ‘in your face’ ddo?” Rwyt ti’n eistedd ar dy wely rhad, yn dy ystafell wely neon. Mae’r cwilt mor swnllyd a’th bersonoliaeth, a’r llenni rhad yn syrthio’n ddiobaith dros ffenestr a guddia’r byd llwyd a negyddol tu allan. Wrth dy ymyl, lledorwedda Ella, yn trafod materion mawr y dydd. “Dw i’n hêtio fo pan dwi’m yn gwbod be i wisgo sti.” Ond rwyt ti wrthi’n brysur yn ceisio paentio’r masg y byddi’n ei roi ar dy wyneb yn ddyddiol. Masg sy’n rhoi hyder i ti. Masg sy’n gwneud i bawb sylwi arnat ti. Masg sy’n gwneud i fechgyn doddi a genethod eraill ferwi. Rwyt yn treulio cyfnod yn cuddio’r tywyllwch dan dy lygaid, y plorod ar dy ên, a rhoi haen o goch ar ymyl dy fochau er mwyn paentio gwrid ffug arnynt. Yna, gyfnod pellach yn perffeithio’r haen gyntaf o finlliw i ddeffro dy wefusau llwm. Yn raddol, try’r cyfan yn wefr o goch, lliw pwer, lliw hudo, lliw serch. Yn olaf, yn araf a pwylllog, rwyt yn troi at waith pwysicaf y noson. Y llygaid. Rwyt yn tynnu llinellau hirion o ddu ar dy aeiliau, ac enfys i amgylchynnu dy lygaid gwyrddion. ****************** Petalau blodau oedd tu ôl i dy harddwch. Blodau’r banadl, blodau gwyllt. Rhosod coch, i greu dy wefusau perffaith, meillion i greu dy groen mor llyfn a 25


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 blodyn menyn i hollti’r haul i dy wallt. A dail y gwanwyn yn nofio yn dy lygaid di. Ond tu ôl i’r darlun perffaith, doedd dim gwers i dy gusan, doedd dim haul yn ein cofleidio ni. Roedd y cyfan yn oer. Roedd dy wefus, dy sgwrs, dy lygaid, dy gofleidiau, dy gariad, roedd y cyfan yn oer. ****************** Ond, beth yw’r gwres yn fy nwylo? Pam mae fy nghalon yn curo fel gordd? Beth mae Gronw Pebr yn ei ddeffro ynof? Mae’r gaeaf oer ar ben – Gronw yw fy haf cynnes. Mae natur yn dawnsio heno a’r gaeaf unig gyda Lleu yn diflannu. Ond beth, tybed, a wel Gronw ynof fi? Ydw i’n hardd? Ydw i megis merched eraill? Mae ofn yn fy nghalon na fydd fy nghyffro’n cael ei ateb gan Gronw. Mae’n rhaid iddo ateb fy serch. Mae’n rhaid iddo deimlo’r fflam sydd ynof fi. Rwyf eisiau teimlo fy nghalon yn curo. Rwyf eisiau teimlo ofn a dieithrwch. Rwyf eisiau cael fy hudo – fel y dewin a’m creodd i. Wedi’r cyfan, cyffro a rhyddid yw fy elfennau i. A’m deddf? Chwant. ****************** “Ers pryd ti mynd efo y Llew ma ta? Pam nes di’m deutha fi?!” “Ers ages sti, ha ha oni am sti...” “Dio’n ddel llu?” Mae’r cwestiynau yn parhau. “Iawn ia, ond neith o tro tan ddaw na wbath gwell!” Gyda’r artistwaith yn gyflawn, rwyt yn troi at dy ffrind gorau yn y byd i gyd, a chwerthin fel brân ar pa mor ddoniol y mae’r sgwrs. Rwyt yn plygu

ar dy bengliniau a chwilota trwy’r llwch a bagiau creision gwag, am dy stiletos du. Pâr o sodlau du rhad a’r gwaelodion wedi gwisgo’n ddim ar ôl nosweithiau Sadwrn di-ddiwedd yn barod i sathru ar galonau hogiau’r dre. Rwyt yn gafael yn dy bwrs, dy ffôn, a’r smocs ac allan a thi a dy bartner, i’r tywyllwch... i hudo, ac i dwyllo. Mae hi’n nos. ****************** All neb fy neall i. Dydw i ddim megis merched eraill. Fi yw cerflun Gwydion, fi yw coron ei waith. Fi yw ei drysor pennaf. Mae gen i hawl i chwilio am gymar. Am dywysog. Am ŵr. Ac mae ganddo hawl i’m caru i. Gronw sy’n gwneud i’r haul wawrio. Mae Lleu yn ei fachlud. Ddoe yw Lleu a heddiw ac yfory a’i gyfaredd yw Gronw. Does gen i ddim dyfodol gyda Lleu, dim ond oerni mud a gaeaf gwag sy’n aros am byth. Gronw. Gronw yw fy haf, fy nyfodol, fy yfory, fy nghariad. Ef yw popeth i mi. Mi fynnaf fyw. Mae serch a byw yn un. ****************** Ond mae harddwch yn mynd ymhellach na lliw dy wefusau. Mae o yn ddyfnach na lliw coch dy wefus, ac yn felynach na sidan dy wallt. Mae o i fod yn dy lygaid, yn dy wên wrth fy ngweld. Ond y tu mewn, Blodeuwedd, rwyt ti’n hyll. Rwyt ti’n garreg oer, yn ddarn o rew. Does dim tân i’n cynhesu ni, dim fflam yn ein serch. Rwyt ti’n oer Blodeuwedd, ac rwyt ti oherwydd hynny’n hyll. ****************** Mae’r diodydd rhad yn llifo, a’r poteli’n bentwr blêr. Mae goleuadau 26


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 neon oer yn gwaedu pyllau’r stryd a chôr anrhefnus meddw yn gwau eu ffordd i’r nos. Yn eu canol rwyt yno’n gweiddi mwrdwr ar fachgen di-enw sy’n dal ei ben yn ei ddwylo i geisio dianc oddi wrth y don o regfeydd sy’n cael eu tywallt drosto. Mae dy ddannedd yn binc gydag olion y minlliw stel, a’r mascara “dal dŵr” yn stribedi yn gymysg gyda dy ddagrau. Ond nid yw’r bachgen yn deall y cyhuddiad. Beth mae o wedi’i wneud Dydi o ddim angen hyn. Dydi o ddim yn haeddu hyn. Beth mae o wedi’i wneud o’i le?

ni ddim yn ymddwyn fel cwpl nag oedden? Doedd dim cynhesrwydd yn ein sgwrs. Doedden ni ddim yn rhannu gwên wrth edrych yn llygaid ein gilydd. Doedd dim byd yno nag oedd Blodeuwedd? Dim ond pwll gwag di-serch. Mi faswn i wedi gallu derbyn hynny, ond roedd yn rhaid i ti fynd gam ymhellach. A mrifo fi. Dweud celwydd, cynllwynio, a mrifo fi Blodeuwedd. Roedd fy ngalon ar agor i ti, a defnyddiaist dy grafangau i’w hollti’n ddarnau mân. Rwyt ti’n hyll Blodeuwedd, yn hyll o dy gorun i dy sawdl. Rwyt ti’n hyll y tu allan, a’r tu mewn. Rwyt ti’n haeddu dy gosb.

“So, ti’n meddwl bo fo’n ok i chdi SIARAD efo honna? Efo’r hwran fach na wyt?!”

******************

Ond nid yw’r bachgen yn cael amddiffyn ei hun. Dydi o ddim yn deall beth mae o wedi’i wneud. Ti sy’n rheoli. Ti yw’r feistres. O hyd. “Sbia arna fi! SBIA ARNA FI! Pam sa chdi’n stagio ar genod erill y? SBIA be sy gyno chdi! Ti’n ddall ta be?!” Mae o’n edrych arnat ti, ond dydi o ddim yn ateb. Dydi o ddim yn dweud yr un gair. Mae o’n fud. Fel fi. Mae dy harddwch a’th berygl yn ein mudo. ****************** Doeddwn i ddim wedi meddwl dy fradychu di Blodeuwedd. Doeddwn i ddim wedi bwriadu dweud wrth Gwydion, wir i ti. Ond weithiau mae’n anodd cuddio pethau yn dydi? Mae Gwydion yn fy adnabod i. Roedd o’n gwybod fod rhywbeth yn bod. Doedd o ddim yn dwp. Mi welodd o fod rhywbedd yn bod arna i. Fod rhywbeth yn bod arnom ni. Doedden

“Sdwffia chdi ta, ti’m yn haeddu fi eniwe!” Mae’r geiriau’n poeri allan o dy geg yn gymysg â gweddillion dy finlliw brau. Rwyt yn cerdded yn dalog i lawr y stryd ddi-groeso gan adael y bachgen i foddi ei ofidiau’n y nos. Mae sŵn dy sodlau’n eco ar y cerrig oer, a mwg ei sigaret yn dy ddilyn fel neidr lwyd. Mae hi’n noson oer, ond does dim awel yn unman. Dydi’r coed ddim yn sibrwd na’r dail yn sisial. Wrth i ti gerdded try’r bachgen i edrych arnat ti, gan roi hanner gwên ddiolchgar. Fe lwyddodd i ddianc. ****************** All neb fy neall i. Dydw i ddim megis merched eraill. Fi yw cerflun Gwydion, fi yw coron ei waith. Fi yw ei drysor pennaf. Mae gen i hawl i chwilio am gymar. Am dywysog. Am ŵr. Ac mae ganddo hawl i’m caru i. Gronw sy’n gwneud i’r haul wawrio. Mae Lleu yn ei fachlud. Ddoe yw Lleu a heddiw ac yfory a’i gyfaredd yw Gronw. Does gen i ddim 27


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 dyfodol gyda Lleu, dim ond oerni mud a gaeaf gwag sy’n aros am byth. Gronw yw fy haf, fy nyfodol, fy yfory, fy nghariad. Ef yw popeth i mi. Mi fynnaf fyw. Mae serch a byw yn un. ****************** Mae’r llanc yn codi ei ffôn a chlicio’r botwm hud i dynnu llun o dy silwet yn cerdded i ffwrdd i’r nos. Ond, pan edrycha ar ei sgrin, mae’r stryd yn wag. Does dim golwg ohonot ti yn unman. I ble’r wyt ti wedi mynd? Cwyd ei olwg i chwilio amdanat yn oerni’r nos, ond nid oes ond un bluen yn chwifio yn y gwynt.

Buddug Watcyn Roberts (Blod) Ysgol Bryn yr Efail.

28


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Cystadleuaeth Cymraeg Ail Iaith

mwy achos dw i’n meddwl ei bod yn fwy bleserus.

Sgwrs gyda fi a Charlotte Church

Ellie - Mae hynny’n swnio’n anhygoel! Byddwn wrth fy modd i fod yn gallu canu. Ydy eich teulu yn dod o Gymru?

Ellie - Bore da Charlotte, sut wyt ti heddiw? Roeddwn i’n tybio pe gallech fy helpu i ysgrifennu cofiant am eich bywyd personol. Charlotte - Shwmae Ellie, da iawn diolch. Baswn i’n falch i’ch helpu chi!! Ellie - I ddechrau, ble aethoch chi i’r ysgol? Charlotte - Ces i fy ngeni yn Llandaf yng Nghaerdydd. Es i Ysgol y Gadeirlan, Llandaf cyn derbyn ysgoloriaeth lleisiol i Ysgol Howell, Llandaf. Ymunais i yn 1998. Roeddwn i’n cydbwyso perfformio a gwaith ysgol gyda chymorth fy nhiwtoriaid pan roeddwn i’n ar daith. Roeddwn i wrth fy modd gyda cherddoriaeth yn yr ysgol. Pa bynciau ydych chi’n hoffi? Ellie - Dw i’n hoffi Mathemateg a Chymraeg yn y coleg achos maen nhw’n diddorol a ddefnyddiol ar gyfer fy ngyrfa. Aethoch chi’r brifysgol ar ôl gadael y ysgol? Charlotte - Naddo. Dechreuais i ganu yn 11 mlwydd oed ac dydw i ddim wedi stopio ers hynny. I fod yn onest, roeddwn i bob amser yn awyddus i fod yn gantores a doeddwn i ddim yn hoffi’r ysgol. Pan oeddwn i’n blentyn roeddwn yn canu opera ac roeddwn i’n llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, wrth i mi fynd yn hŷn roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a dechreuais i yrfa pop. Er bod fy ngyrfa opera yn fwy llwyddiannus, rydw i’n mwynhau canu cerddoriaeth pop

Charlotte - Cymry ydy mam a dad (Maria a Stephen) ond dydn nhw ddim yn siarad Cymraeg. Rydw i erioed wedi byw yng Nghymru a dw i’n dwlu ar fyw yma! Dw i’n caru’r golygfeydd a dw i’n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd. Rwy’n byw yn y ddinas yng Nghaerdydd a pan fydd amser rhydd gyda fi, rydw i’n mynd allan i’r wlad i gerdded. Ble rydych chi’n byw? Ellie - Rydw i’n byw ym Merthyr Tudful. Rydw i’n wedi byw yma ar hyd fy oes gyda fy nheulu. Oes brawd na chwaer gyda ti Charlotte? Charlotte - Dw i’n dwlu a’r Merthyr Tudfil!! Roeddwn i’n arfer i ymweld â’r dref pan oeddwn i’n fach gyda fy mam i fynd i siopa. Oes, mae dau brawd (Andrew a Luke) ac un chwaer (Elisha) gyda fi. A chi? Ellie - Mae Merthyr yn dref hyfryd gyda llawer o hanes. Oes. Mae brawd bach gyda fi o’r enw Jack. Oes teulu gyda chi? Charlotte - Oes, mae dau blentyn gyda fi. Mae un merch gyda fi o’r enw Ruby, ac mae un mab gyda fi o’r enw Dexter. Mae fy merch yn chwech oed ac mae fy mab yn bump oed. Does dim gŵr gyda fi. Gwnes i ysgaru o Gavin Henson ym Mai 2010. Mae Gavin yn chwaraewr rygbi ac roedden ni gyda’n gilydd am chwech mlynedd. Fodd bynnag mae fy nghariad newydd, Jonathan Powell a fi, yn hapus iawn. Rydyn ni’n byw yn y Bont-faen ger Caerdydd a hoffwn i fyw yma am byth.

29


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Ellie - A fyddech chi erioed wedi ystyried symud o Gymru? Charlotte - Dydw i ddim yn gwybod, ond rydw i’n dwlu ar fyw yng Nghymru a baswn i’n drist i adael. Ellie - Yn olaf, a oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol Charlotte? Charlotte - Oes. Yn y dyfodol, hoffwn i gael mwy o blant ac efallai priodi eto. Hefyd, hoffwn i deithio a gweithio mewn gwledydd eraill. Ar hyn o bryd, dw i’n gweithio gyda llawer o elusennau fel ‘Breast Cancer Care, Appeal’ a ‘Topsy Foundation’. Yr elusen rwy’n gweithio gyda’r mwyaf ydy ‘Noah’s Ark’. Rydw i’n ymweld a’r ysbyty pob wythnos i ddarllen a chwarare gyda’r plant. Rydw i’n rhoi arian i’r ysbyty fel mae nhw’n gallu prynu teganau i’r plant. Hoffwn i gofnodi albwm opera arall yn y ddyfodol hefyd. Ellie - Gwych! Diolch yn fawr am siarad â fi Charlotte, mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn!! Charlotte - Mae wedi bod yn bleser! Hwyl fawr Ellie. Ellie - Hwyl Fawr!

Ellie Burr (Blodeuwedd) Coleg Merthyr

30


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017 Lluniau o’r Flwyddyn Lluniau Cinio Gŵyl Dewi

Twm Morys a Gwyneth Glyn yn ein diddanu yn ystod y cinio.

31


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Cinio Gwyl Dewi y Dafydd

Pawb yn mwynhau’r adloniant.

32


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Sioned Press, Gwenno Jones, Nia Thomas, Elin Havard, Lois Llywelyn Williams a Josh Frost ar ôl y cinio.

Lluniau Eisteddfod y Gymdeithas

Elin Havard (chwith) ac Elan Llwyd (canol) yn ymddangod ar ‘Heno’ gyda Mari Grug (dde) i drafod Eisteddfod Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.

33


Y Drych: Cylchgrawn Cymdeithas Dafydd ap Gwilym Rhifyn 2016-17, Awst 2017

Aneirin Karadog yn cyflwyno cadair yr Eisteddfod O’r Chwith: Elan Llwyd, Aneirin Karadog, Luned Rhys, Buddug Watcyn Roberts.

Y gynulleidfa yn mwynhau’r Eisteddfod, a’r beirniad Aneirin Karadog (Pellaf i’r dde ar y rhes flaen) yn brysur wrth ei waith. 34


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.