Rhifyn y Glas 2014

Page 1

Papur-newydd C y m r a e g Myfyrwyr Bangor

Rhifyn y Glas 2014

Am Ddim - cymerwch gopi!

@y_llef

Llef Bangor

PONTIO AR EI HÔL HI

IS-GANGHELLOR YN CAEL CYMHWYSTER CYMRAEG

DYN YN GWTHIO SBROWTS I FYNY’R WYDDFA GYDA’I DRWYN

Y FFASIWN DIWEDDARAF CYFLE I ENNILL: • COPI O TU CHWITH EWCH I DUDALEN 13

Llio Mai Ar y 3ydd o Fedi, cyhoeddwyd na fydd Theatr Bryn Terfel, yng Nghanolfan Pontio, yn barod i gael ei hagor mewn pryd i lwyfannu eu sioe gyntaf, sef cynhyrchiad o Chwalfa – addasiad llwyfan Gareth Miles o nofel T. Rowland Hughes. Roedd y sioe wedi’i threfnu i agor ar y ar y 17eg o Fedi, a nifer wedi archebu eu tocynnau’n barod. Mewn neges i’r cyhoedd dywedodd yr Athro

PRIFYSGOL BANGOR YN DOD I’R BRIG YNG NGHYMRU O RAN BODDHAD MYFYRWYR

Jerry Hunter, cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Celfyddydol Pontio a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor: ‘Rydym yn ymddiheuro yn daer i'n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig Theatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu'r siom. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad manwl gyda'r contractwr, Miller, er mwyn llunio amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr agoriad.

Manon Elwyn

Bydd y trafodaethau manwl gyda'r contractwr yn cymryd peth amser. Dim ond ar ôl i'r trafodaethau hyn gael eu cwblhau y byddwn yn cadarnhau y dyddiad agor newydd. Bydd gwersi i'w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda'r contractwr i gwblhau yr adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel.’ Am weddill y stori , ewch i dudalen 7...

Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Bangor mewn ymateb i'r Myfyrwyr, Prifysgol Bangor canlyniadau: yw'r gorau yng Nghymru, ac "Rydym yn arbennig o falch bod yr mae’r brifysgol yn y 10 uchaf o arolwg yn ein gosod mor amlwg ar brifysgolion anarbenigol y DU. y brig yng Nghymru. Yn ddiweddar Llanwyd yr arolwg gan tua hanner rydym wedi cyflwyno mentrau miliwn o fyfyrwyr, ac mae’n rhoi’r i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y adborth mwyaf cynhwysfawr am brifysgol ac mae llwyddiant ein brofiad myfyrwyr yn eu sefydliad. dull o weithredu wedi’i adlewyrchu Meddai'r Athro Oliver Turnbull, yn y canlyniadau hyn.”


2 ...Cynnwys

Golygyddol

Mae’n bleser gen i gyflwyno rhifyn cyntaf Y Llef am y flwyddyn academaidd 2014-2015. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ers adfer y papur-newydd, mae Y Llef wedi bod yn mynd o nerth i nerth, ac mae wedi bod yn bleser cael y cyfle i fod yn rhan o hynny, wrth fy mod wedi bod yn is-olygydd yr adran Adolygiadau ers fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor. Mae rhywbeth at ddant pawb yn y papur - mae’r rhifyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf am Fangor a’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y byd, y ffasiwn diweddaraf, adolygiadau amrywiol, adran i ddysgwyr, cyfres o ryddiaith a barddoniaeth yn y Gornel Greadigol, a’r diweddaraf yn y byd chwaraeon. Rydw i’n ffodus iawn fy mod wedi cael help gan y cyn-Olygydd, fy mrawd, Siôn Elwyn wrth iddo drosglwyddo’r awenau imi. Rydw i’n ddiolchgar iawn ei fod yn gefn imi pe bawn i eisiau unrhyw fath o help neu gyngor. Rydw i hefyd yn ddiolchgar i’r is-olygyddion. Mae’r tîm yn un newydd sbon eleni, ac mae pob un ohonynt wedi rhoi o’u hamser i ysgrifennu deunydd, trefnu’r tudalennau a’u dylunio, ac mae nifer ohonynt wedi bod yn gwmni da iawn i mi yn yr Undeb tra’n rhoi’r papur at ei gilydd. Cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r papur, boed yn gyfrannu, dosbarthu, hysbysebu, dylunio, tynnu lluniau, neu unrhyw beth arall, cysylltwch ar bob cyfrif! Gan obeithio y mwynhewch rhifyn cyntaf y flwyddyn. Manon Elwyn golygydd.llef@myfyrwyrbangor.com

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Cynnwys: Tudalennau: Newyddion

3-7

Cymdeithasau

7-8

Y diweddaraf ar Pontio

9-11

Y Gornel Greadigol

13-15

Cystadleuaeth

15

Yr Hadau

17-19

Adolygiadau

21-23

Ffasiwn

26-29

Chwaraeon

31-32

3 32

21 18

27 Diolchiadau... Diolch o galon, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu, trefnu a dylunio cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Mae’n bleser gen i weld y nifer mwyaf o gyfranwyr y tro hwn hefyd (19 i gyd!). Fel arfer, diolch i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media am ei gymorth parod.

Cyfranwyr: Is-olygyddion: Anna Prysor Jones Lora Lewis Siân Davenport Nonni Williams Gruffudd Antur Benjiman Angwin Iolo Roberts

Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon

Llio Mai Elin Haf Owen Mared BerthAur Ceri Elsbeth Lewis Cara Edwards Llyr Titus Elis Dafydd Alex Stribling Emma Tiernan

Caryl Bryn Hughes Gwenan Jones Guto Gwilym Siân Esmor Rees Al Hulley Owen Burton Gethin Griffiths Rhys Dilwyn Jenkins Ilan Wyn Davies

Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Bangor. Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Newyddion 3

...Newyddion

Marwolaeth Robin Williams Pigion... Caryl Bryn Hughes “You’re only given a little spark of madness. You mustn’t lose it.” Geiriau cadarnhaol gan y comedïwr, Robin Williams. Yn wir, gwnaeth y comedïwr o fri y mwyaf o’r sbarc oedd ganddo ef, a’i ddefnyddio i wneud i’r byd chwerthin. Trwy ei ffilmiau mwyaf adnabyddus byddai Robin Williams yn dod â’r hapusrwydd mwyaf i’w ddilynwyr megis Mrs Doubtfire ac i blant, Aladdin. Hefyd, roedd yn adnabyddus am gomedi ar lwyfan, ffilmiau a gyfarwyddwyd ganddo ef a’i ddyfyniadau doeth megis yr un ar ddechrau’r stori hon. Chwerthin oedd awen Robin Williams, neu dyna sut roedd hi’n ymddangos. Ar Awst 11, 2014, darganfyddwyd corff y comedïwr yn ei gartref yn

Dyn yn gwthio sbrowts i fyny’r Wyddfa gyda’i drwyn

America. Hunanladdiad oedd achos ei farwolaeth, a dyna yrrodd ias i lawr cefnau’r genedl. Ond cofiodd y genedl bod Robin Williams yn actor yn ogystal â chomedïwr, ac mae’n rhaid bod ganddo’r ddawn i guddio’i hun y tu ôl i fwgwd hapusrwydd fel mae llawer iawn o bobl yn ei wneud. Roedd yn dioddef o iselder ysbryd a serch hynny, yn diddannu’r genedl gyda’i ddawn. Efallai y bydd hyn yn sbardun i godi ymwybyddiaeth ynglyn â iechyd meddwl ac yn sicr bydd colled enfawr ar ôl un o gomedïwyr y ganrif, ond bydd ei waith a’i ddawn yn fyw a sŵn chwerthin ei ddilynwyr yn hwb i’r rhai sy’n dioddef fel y gwnaeth ef.

Anna Prysor Jones

Firws Ebola Anna Prysor Jones Yn ystod y gwyliau’r haf, nid oedd modd dianc rhag y newyddion fod achos newydd o’r firws Ebola wedi torri allan draw yng ngorllewin Affrica ym mis Mawrth 2014. Gwelwyd y ddau achos cyntaf o Ebola yn Affrica nôl yn 1976 ac mae cychwyn y salwch yn digwydd gan amlaf wrth ymyl coedwigoedd glaw trofannol. Caiff ei gyflwyno i bobl drwy gysylltiad â gwaed, organau neu hylifau corff anifeiliaid gwyllt

heintiedig ac yna ei ledu o berson i berson drwy gysylltiad agos â’i gilydd. Gan fod y symptomau dechreuol yn debyg iawn i dwymyn cyffredin mae’n anodd iawn gwneud diagnosis cyn iddo droi yn fater difrifol. Nid oes unrhyw driniaeth na brechlyn trwyddedig ar gyfer gwella Ebola. Ers Mawrth 2014, allan o oddeutu 3,500 mae 1,900 o’r dioddefwyr yng ngwledydd gorllewin Affrica wedi marw o’r firws ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhybuddio y gall y nifer o ddioddefwyr

godi i 20,000. Maent yn pryderu y gall y nifer o ddioddefwyr fod o amgylch pedair gwaith y nifer sydd wedi’u cofnodi’n swyddogol ac mae’r gweithwyr sy’n trin y dioddefwyr draw yn Affrica yn bryderus nad oes digon o gyfarpar arbenigol ar gael i’w gwella nac ychwaith i atal lledaeniad pellach o’r firws. Ar 3 Medi, cyhoeddwyd fod y Prydeiniwr cyntaf a heintiwyd â Ebola wedi gadael Ysbyty’r Royal Free, Llundain ar ôl derbyn gofal yno. Roedd

William Pooley o Sulffolk yn nyrs wirfoddol draw yn Sierra Leone pan yr heintiwyd ef, ond ar ôl dychwelyd i Brydain ar 24 Awst mae bellach wedi gwella ar ôl iddo dderbyn gofal “o’r radd flaenaf ” yn yr ysbyty yn Llundain. Dywed ef bod byd o wahaniaeth rhwng y gofal sydd ar gael i drin Ebola ym Mhrydain i gymharu ag Affrica. Er i William Pooley dderbyn triniaeth ym Mhrydain, mae arbenigwyr yn parhau i bwysleisio bod y perygl o ledaeniad Ebola yn isel iawn yma.

Un o’r atyniadau i gerddwyr sy’n mentro i fyny i gopa’r Wyddfa yn ddyddiol yw’r golygfeydd godidog o ardal Eryri, ond golygfa tra wahanol oedd yn wynebu’r rhai oedd yn cwblhau’r her o gyrraedd copa’r mynydd uchaf yng Nghymru ar 31 Gorffennaf 2014 hyd at 2 Awst 2014. Gwelwyd Stuart Kettle o Coventry yn mentro i gopa’r Wyddfa yn un o’r ffyrdd mwyaf unigryw a gwallgof a hynny ar ei bengliniau yn gwthio sbrowt fyny’r mynydd gyda’i drwyn yn unig. Er i’r orchest adael croen ei bengliniau yn ddarnau, roedd gan y gŵr 49 oed reswm teilwng dros gyrraedd copa’r mynydd yn y ffordd hon. Ei obaith oedd codi £5,000 tuag at Gofal Cancr Macmillan. Roedd eisoes wedi casglu dros £40,000 at yr elusen drwy weithgareddau megis treulio cyfnod mewn bocs a cherdded holl strydoedd Coventry ar stiltiau ond dywed ef mai hon oedd y sialens fwyaf gwallgof ohonynt i gyd. Llwyddodd i gyflawni’r sialens mewn pedwar niwrnod gyda 22 sbrowt ac mae’r holl brofiad wedi’i recordio i brofi nad oedd twyllo. Mae modd gweld y clipiau fideo ohono ar www.willthefoolmakeit.co.uk. Mae eisoes wedi pasio ei darged o £5,000 ac wedi dechrau meddwl am ei sialens nesaf yn barod.


4 ...Newyddion

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Newyddion

Isis? Is? Islamic State? Llyr Titus

gwrthwynebu dylanwad y Gorllewin ac o blaid Cyfraith Shaira. Cynigodd ymosodiad America a Phrydain Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon gyfle i al-Zarqawi a ffurfiodd y mae’r mudiad hwn yn cael ei grybwyll mudiad Al-Qaeda in Iraq (AQI) yn y newyddion yn ddyddiol, ond wedi i Saddam Hussein gael ei ddal. pwy yw’r mudiad hwn sydd yn creu’r Bwriad y mudiad hwn oedd sefyll yn erbyn y Gorllewin unwaith eto fath helynt yn y dwyrain canol? Dyma fudiad grymus sydd ond roedd cieidd-dra’r mudiad yn bellach yn honni bod ganddynt ddigon i’w gelyniaethu rhag nifer o oddeutu 10,000 o bobl yn barod i Iraqiaid a phenaethiaid Al-Quaeda. frwydro dros eu hachos a rheiny yn ôl un o’i fideos gwybodaeth wedi Tro ar fyd. dod atynt o ar draws y byd yn grwn. Yn 2006 lladdwyd al-Zarqawi gan Credir hefyd bod ganddynt afael ar daflegrau o’r awyr gan America ac ymunodd AQI gyda mudiadau $2,000,000,000 o gyllid. eithafol eraill gan ffurfio Islamic State of Iraq (ISI). Bu i’r mudiad Yn y dechreuad. Yn gynnar wedi troad y mileniwm gael ei wanhau pan aeth milwyr hwn dechreuodd Abu Musad al- Americanaidd a llwythau Sunni Zarqawi a oedd o Jordan fudiad cyflogedig at i waredu’r ardal o AQI eithafol o’r enw Tawid wa al- ond fe barhaodd y gwraidd yn y Jihad (Undod a Jihad). Roedd pridd. y mudiad hwn yn un a oedd yn Yna, daeth cyflafan Syria a’r

holl frwydro yn enw rhyddid. Bu i ISI, gyda dyn o’r enw Abu Bakr al-Baghdadi wrth y llyw- i’r adwy i gynorthwyo’r gwrthryfelwyr gan yrru arian a milwyr ynghyd a ffurfio’r Ffrynt al-Nursa. Dyma gangen o AlQaedea pan ddechreuodd ac y mae hi’n gweithredu yn Syria ac Lebanon. Cafodd y gangen hon ei disgrifio fel un o’r rhai mwyaf ymosodol a’r mwyaf llwyddiannus o’r herwydd. Bu i’r gwrthryfelwyr gondemnio gweithredoedd y mudiad hwn a bu i Al-Qaeda wrthod gwneud dim â nhw hefyd. Aeth y mudiad ati i newid eu henw i ISIS (Islamic State in Iraq and the Levant). Yn ddiweddar. Pan ddechreuodd America adael Iraq dechreuodd yr ymosodiadau gan ISIS godi a dechreuodd y mudiad gael mwy o afael. Erbyn 2014 roedd y mudiad wedi ennill tir sylweddol

yng ngorllewin Iraq ac wedi hynny dechreuasant symud tua’r gogledd a’r dwyrain. Bu iddynt oresgyn Mosul ym Mehefin a dyna pryd y bu i’r byd ddechrau sylwi arnynt a phoeni am danynt mewn difrif, yna bu iddynt ddatgan califfiaeth (neu wladwriaeth Islamaidd) ar draws Iraq a Syria a newid enw’r mudiad unwaith eto i ‘Islamic State’ y tro hwn. Bu i symud y jihadwyr orfodi miloedd o’u cymunedau i ddianc rhagddynt a’r trais a ddaeth yn eu sgil ac ym mis Awst dechreuodd America ymosod o’r awyr arnynt. Bellach mae sgwrsio am wneud mwy, gobeithio y bydd yr hanes cefndirol yma yn fudd i’n darllenwyr wrth iddynt glywed mwy am y mudiad eithafol hwn. Gyda diolch yn bennaf i wybodaeth Lucy Rodgers, Emily Maguire, Richard Bangay, Nick Davey a David Gritten.

Hacio cyfrif iCloud 101 o enwogion Llio Mai Ar y cyntaf o Fedi, daeth i’r amlwg fod haciwr anhysbys wedi llwyddo i gael mynadiad at luniau personol a phreifat ar ffonau symudol dros gant o bobl enwog, trwy iCloud – system storio ar-lein a grëwyd gan gwmni Apple. Dywedir fod y lluniau wedi ymddangos gyntaf ar fforwm AnonIB cyn eu cynnwys ar wefan o’r enw 4chan a’u hailbostio ar wefannau dirifedi yn dilyn hynny. Trosglwyddwyd yr achos i ddwylo’r heddlu, sy’n cynnal archwiliad er mwyn canfod y troseddwr, ac mae cwmni Apple wedi cadarnhau eu bod yn cyd-

weithio â nhw. Ymysg y sêr sydd ar y rhestr o’r rhai a’u targedwyd mae Jennifer Lawrence, sydd wedi cadarnháu fod y lluniau noeth ohoni yn rhai go iawn, Cara Delavigne, Kim Kardashian, Michelle Keegan, Lizzy Caplan a Rihanna. Y mae sawl un arall ar y rhestr, fel Adrianna Grande a Victoria Justice, yn honni fod y lluniau ohonynt yn rhai ffug, ac nad y nhw sydd yn y lluniau mewn gwirionedd. Y mae McKayla Maroney, y fabolgampwraig ifanc o America, yn un arall sydd wedi’i thargedu. Er ei bod yn ddeunaw oed ers mis Rhagfyr, mae Maroney yn

honni fod y lluniau ohoni sydd wedi’u dwyn gan yr haciwr wedi’u tynnu pan oedd hi o dan oed. Dywedir ei bod yn bwriadu dwyn achos cyfreithiol yn erbyn sawl gwefan bornograffi sydd, yn ôl y sôn, wedi ailbostio’r lluniau. Yn dilyn y mater, aeth gwerth cyfranddaliadau Apple yn is na’r hyn yr oeddent fis Ionawr. Mae’r achos yn amlwg yn boen meddwl i sawl un o’u cwsmeriaid, sydd bellach yn pryderu ynghylch diogelwch yr hyn sydd ganddynt wedi’i storio yn eu cyfrif iCloud. Ond mae Apple yn parhau i ddweud fod yr hacwyr wedi targedu cyfrif iCloud

y bobl enwog yn benodol, ac nad oeddent wedi torri trwy systemau diogelwch Apple i wneud hynny. Darganfuwyd darn o god cyfrifiadur ar-lein yn dilyn yr helynt, ac mae’n debyg fod y sgript yn defnyddio’r 500 o gyfrineiriau mwyaf cyffredin sy’n cael eu cymeradwyo gan Apple i geisio cael mynediad at gyfrif y defnyddwyr. Pe bai’n llwyddiannus, byddai’r haciwr yn cael mynediad llawn i’r cyfrif iCloud, gan gynnwys mynediad at luniau. Yn y byd technolegol sydd ohonni, pa mor ddiogel yw ein gwybodaeth bersonol, ac oes yna’r fath beth â phreifatrwydd bellach?


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Newyddion 5

...Newyddion

Annibyniaeth i’r Alban

Anna Prysor Jones Gyda diwrnod Refferendwm yr Alban, 18 Medi, yn prysur agosáu mae’n anodd iawn i unrhyw un osgoi’r dadlau brwd sydd wedi bod ar draws Prydain ynglŷn â dyfodol y wlad. A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol, yw’r cwestiwn allweddol caiff y wlad y cyfle ei ateb ar y diwrnod hanesyddol hwn. Mi fydd gan y pleidleiswyr ddau opsiwn i ddewis rhyngddynt sef i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig neu i dorri i ffwrdd o’r undeb a dod yn wlad annibynnol. Ers misoedd bellach mae’r ymgyrch ‘ie’ a’r ymgyrch ‘na’ dros annibyniaeth i’r Alban wedi dod yn fwyfwy amlwg, a’r ddwy ochr mor grediniol â’i gilydd mai hwy sydd yn gwybod beth sydd orau i’r Alban a’i phobl. Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban yw’r un sydd wedi gyrru’r

ymgyrch ‘ie’ dros annibyniaeth i’r Alban yn ei flaen o’r dechrau cyntaf a hynny am ei fod yn credu nad yw pleidiau San Steffan wedi gwneud dim ar hyd y blynyddoedd er lles yr Alban. Ond, beth fyddai annibyniaeth i’r Alban yn ei olygu? Mae gan yr ymgyrch ‘ie’ sawl dadl o blaid annibyniaeth ac yn gaddo am well dyfodol i’r Albanwyr petaent yn rhoi croes yn y blwch ‘ie’. Y neges barhaus gan yr ymgyrchwyr yw na all neb redeg yr Alban yn well na’r bobl sy’n byw yn yr Alban. Un o’u dadleuon yw y byddai gadael y Deyrnas Unedig yn golygu y byddai’r Alban yn cael rhyddid i ddatblygu ei diwydiant ymhellach a fyddai’n arwain at fwy o gyfleoedd gwaith. Honnir Salmond na fyddai pobl ifanc yn cael eu gorfodi i adael y wlad i ddarganfod gwaith gan y byddai digon o lwybrau gyrfaol ar gael

iddynt yno. Maent hefyd yn credu bod annibyniaeth yn hanfodol o ran amddiffyn a hyrwyddo’r egwyddor o wasanaeth iechyd gwladol cyhoeddus. Byddai mwyafrif o ‘ie’ yn y refferendwm yn amddiffyn gwasanaeth iechyd gwladol yr Alban rhag preifateiddio’r bwrdd iechyd a rhag mwy o doriadau o dan Lywodraeth San Steffan. Ar ochr arall y ddadl, caiff yr ymgyrch ‘na’, ymgyrch ‘gwell gyda’n gilydd’ (Better Together) ei harwain gan gyn Canghellor y Trysorlys, Alistar Darling. Mae’r ymgyrch ‘na’ eisiau gweld yr Alban yn aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Petai’r bleidlais ‘na’ yn dod i’r brig, mae’r ymgyrchwyr megis George Osborne yn awyddus i roi fwy o bwerau i Senedd yr Alban o ran trethu, pwerau gwario a’r wladwriaeth les. Yn ôl Pôl Piniwn You Gov ar gyfer The Sunday Times diweddar mae’n ymddangos fod y bleidlais ‘ie’ ar y blaen o 2%. Ym mis Awst, roedd 61% o’r rhai a holwyd yn erbyn annibyniaeth i’r Alban,

ond nawr mae pethau’n edrych yn fwy gobeithiol i Alex Salmond a’i ymgyrch ‘ie’ ar gyfer 18 Medi gyda 51% am bleidleisio ‘ie’. Mae’r mwyafrif hefyd yn credu mai Mr Salmond a berfformiodd orau yn y ddadl deledu allweddol ar 25 Awst, rhyngddo ef ac Alistar Darling. Roedd nifer sylweddol yn credu bod neges Mr Salmond yn glir ac yn angerddol tra bod neges Mr Darling yn fwy aneglur. Nid oes amheuaeth bod canlyniad yr arolwg wedi bod yn ergyd i’r ymgyrch ‘na’, ond gydag ychydig o ddiwrnodau yn unig ar ôl o’r ymgyrchu mae’n ymddangos bod y ras dros annibyniaeth i’r Alban mor agos ag erioed. Gyda mwy o bobl nag erioed wedi cofrestru i bleidleisio yn y refferendwm mae’n debyg bod pobl yr Alban yn ystyried y cwestiwn o ddifrif a bydd pob pleidlais yn cyfrif ar 18 Medi. Ac wrth gwrs yma yng Nghymru mae’r cwestiynau’n dechrau codi, os yw’r Alban yn llwyddiannus ar 18 Medi beth fydd hyn yn ei olygu i Gymru?

byd. Wedi cael y G8 yng Ngogledd Iwerddon, y Gemau Olympaidd yn Llundain a Gemau’r Gymanwlad yn yr Alban, daeth y llwyfan i Gymru eleni gyda’r digwyddiad mawr hwn. Ond, nid pawb oedd yn gweld hynny. Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu ar strydoedd Casnewydd ar drothwy’r uwch gynhadledd yn barod i orymdeithio. Yn gyfuniad o bleidiau gwahanol, roedd ganddynt oll un peth yn gyffredin, sef eu hawydd i wrthwynebu. Fe gafodd 31 eu dwyn i’r ddalfa, ac roedd y rheiny’n cynnwys pump am dresbasu, dau am ymosod ar heddwas, a dau am wneud galwadau ffug yn rhybuddio

rhag bomiau. Yn y cyfamser, roedd NATO yn rhoi sioe filwrol gydag awyrennau rhyfel o naw o wledydd yn hedfan uwchben Caerdydd a Chasnewydd, tanciau ar dir y Celtic Manor a llongau rhyfel wedi angora yng Nghaerdydd. Er y protestiadau, dywedodd David Cameron eu bod yn ymadael â’r gwesty wedi eu huno mewn pwrpas gyda NATO cryfach i amddiffyn y bobl. Roedd Obama yn hapus ar ei ymadawiad hefyd, a hynny am ei fod wedi cael ymweld â Chor y Cewri sef un nôd oedd ganddo, ac yn dychwelyd yn ôl i America gyda photel o Penderyn yn y goodie bag.

Cynhadledd NATO Lora Lewis Mae’n cymryd rhywbeth go fawr i gael Casnewydd yn trendio ar Twitter, a dyna ddigwyddodd yn ystod Uwch Gynhadledd NATO, y digwyddiad rhyngwladol mwyaf yn hanes Cymru. Croesawodd Carwyn Jones arweinwyr dros 60 o wledydd i’r wlad gan gynnwys David Cameron, y llywyddion Obama a Hollande a’r canghellor Merkel. Dyma’r cyfarfod diweddaraf ers y cyfarfod diwethaf yn 2012 yn Chicago, a’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig ers 1990 dan arweiniad Margaret Thatcher yn Llundain.

Roedd dros 5000 wedi ymgasglu yng ngwesty’r Celtic Manor ar gyfer y cyfarfod a aeth i’r afael â materion sy’n bygwth diogelwch cenedlaethol gwledydd NATO, o fôr-ladrad i’r wladwriaethau fregus, o derfysgaeth i ymosodiadau seiber. Roedd cynnal yr Uwch Gynhadledd yng Nghymru yn ein rhoi ni mewn goleuni byd-eang, gan dynnu sylw at ein sector fasnachol gref, o weithgynhyrchu i arloesedd. Dengys hefyd y potensial aruthrol yng Nghymru ar gyfer buddsoddi, busnes, astudio a thwristiaeth. Roedd yn gyfle gwych i Gymru hysbysebu ei hwyneb fodern ac economaidd i’r


6 ...Newyddion

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Dileu Cronfa Caledi Myfyrwyr

Anna Prysor Jones

Ar 20fed Awst 2104 a hithau yng nghanol gwyliau haf cafwyd datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu bwriad i ddileu cronfa argyfwng gwerth £2.1 miliwn y flwyddyn ar gyfer prifysgolion. Financial Contingency Fund (FCF) yw’r enw a roddir ar y gronfa a’i bwriad yw helpu myfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig megis rhai sydd mewn peryg o orfod rhoi’r gorau i’w cyrsiau addysg bellach oherwydd arian neu broblemau cyllido. Mae’r arian hyn gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu

Llio Mai Llongyfarchiadau mawr i Guto Dafydd, un o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, ar ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni, a llongyfarchiadau hefyd i Sioned Eleri Roberts, yn o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Gerddoriaeth, ar ennill Tlws y Cerddor. Daw Guto o Drefor yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli gyda’i wraig – Lisa. Ar ôl mynd i Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd. Erbyn hyn, mae’n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd. Guto enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro yn 2013, ar ôl cael sawl siom, a daeth yn agos at frig y gystadleuaeth hon yn Ninbych y llynedd. Yn 24 oed, Guto yw un o’r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron yn y Brifwyl. Bu 32 ymgais am y Goron eleni, a’r dasg oedd ysgrifennu dilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun ‘Tyfu’. Y beirniaid oedd Dylan Iorwerth, Marged Haycock a Dafydd Pritchard. Wrth draddodi’r feirniadaeth ar waith Guto (Golygfa 10), dywedodd Dylan Iorwerth: ‘Canu am Gymru heddiw trwy sôn hefyd am Gymru ddoe. Ac yn y chwarae rhwng y ddau y mae gogoniant y cerddi. Mae yna sawl math o dyfu – geni babi i’r

o amgylch 6,000 (9%) o fyfyrwyr Cymru i aros mewn addysg a hynny er gwaethaf anawsterau cyllid lle nad oedd unrhyw gymorth arall ar gael. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfiawnhau’u penderfyniad dros ddileu’r gronfa wrth honni y gall prifysgolion greu cronfeydd argyfwng eu hunain i helpu eu myfyrwyr â phroblemau ariannol o ganlyniad i gynnydd yng nghyllid sefydliadau addysg uwch. Yn ôl y Llywodraeth mae’n bosib y gall incwm Addysg Uwch godi £200m erbyn 2016 oherwydd ffioedd dysgu uwch i fyfyrwyr cartref a’r cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol. Yn

eu datganiad dywed nad oedd dileu’r gronfa argyfwng yn benderfyniad hawdd ond oherwydd y wasgfa barhaus ar gyllidebau’r Llywodraeth roedd rhaid gwneud toriadau ar gyllidebau Addysg Bellach blwyddyn academaidd 2014-2015. Syfrdanwyd undebau myfyrwyr prifysgolion Cymru ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru o glywed datganiad y Llywodraeth oherwydd nôl yn 2011 fe addawyd na fyddai’r FCF yn cael ei ddileu. Drwy ddileu’r gronfa credant y gallai gael effaith syfrdanol ar sefyllfaoedd myfyrwyr mwyaf difreintiedig prifysgolion gan achosi caledi mawr

iddynt. Credant fod y gronfa yn ‘hanfodol’ i sicrhau bod myfyrwyr yn aros mewn addysg bellach ac wrth ei ddileu maent yn pryderu y gall myfyrwyr newid eu meddyliau a rhoi’r gorau i’w cyrsiau. Y mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i gefnogi eu myfyrwyr ac yn cefnogi ymgyrch UCM Cymru i wrthwynebu’r penderfyniad. Nid oes amheuaeth fod y penderfyniad yn ergyd i sefydliadau Addysg Bellach, ond mae awgrym y gall cefnogaeth i fyfyrwyr wynebu fwy o doriadau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

byd, twf neu ddiffyg twf cenedl, is-stori am dwf perthynas rhwng dau ac, ar y diwedd, awgrym y gallwn ni dyfu y tu hwnt i’n hargyfwng presennol. ‘Meddyliwch am osod helyntion Radio Cymru ac asiantaeth EOS ochr yn ochr â’r hen gerdd am grogi’r telynor Sion Eos o dan gyfraith Lloegr. Meddyliwch am roi stormydd Aberystwyth ochr yn ochr â’r gwynt a’r glaw ym marwnad Llywelyn ein Llyw Olaf, ffordd osgoi Porthmadog efo Dafydd Nanmor a’i hiraeth am ei gariad. Drama Blodeuwedd ac Atomfa Trawsfynydd – ein greddf ddireolaeth ni a grym rhannu’r atom. ‘Wrth i’r pethau yna ddod ynghyd – ac oherwydd meistrolaeth dechnegol Golygfa Deg a’i hyder o wrth drin iaith a goslef -– mae yna rywbeth llawer mwy’n digwydd. Ffrwydrad o ystyr a’r cryniadau’n parhau ymhell bell ar ôl gorffen darllen. Mi gawson ni ein codi o’n cadeiriau i dir uchel iawn gan fardd meistrolgar. ‘Yn y diwedd, doedd y penderfyniad mawr ddim yn anodd o gwbl. Coron eleni ydi hi ac mae hi’n bendant iawn yn mynd i Golygfa Deg.’ Cyflwynwyd Tlws y Cerddor am waith i ensemble llinynnol (3 ffidil, 3 ail ffidil, 2 fiola, 2 cello ac 1 bas dwbl), mewn un symudiad neu fwy ond heb fod yn hwy na 7 munud o hyd. Cafodd y Tlws ei gynnig gan Urdd Cerddoriaeth Cymru a derbyniodd Sioned £500, sy’n rhoddedig gan Tydfil Rees Enston, er cof am ei merch, Angela Rees Enston yn ogystal ag ysgoloriaeth gwerth £2,000 i

hyrwyddo’i gyrfa, gan yr Eisteddfod. Y beirniaid oedd Lyn Davies ac Euron J Walters, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar yr 8 ymgeisydd yn y gystadleuaeth, dywedodd Lyn Davies: ‘Yn ‘Chwalfa’ gan 2.4.7. ceir yr ymgais fwyaf llwyddiannus o dipyn. Mae wedi darganfod ffordd i ddianc o rigol y dull minimal a chyflwyno rhywbeth dramatig a hudol. Mae’r teitl yn gwbl addas. O’r dechrau cawn ffigwr hyfryd cyson yn y rhannau isel, ac o gam i gam

biau’r Tlws eleni a phob clod.’ Clarinetydd yw Sioned Eleri Roberts, ac mae hi’n byw ym Mangor. Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor gyda BMus yn 2003, ac yn 2005 cafodd ysgoloriaeth i astudio cwrs perfformio ôl-radd yng Ngholeg Cerdd y Drindod, Llundain. Yn 2011 derbyniodd ysgoloriaeth KESS i astudio gradd Meistr ym Mhrifysgol Bangor ac yn ystod ei chyfnod astudio derbyniodd hyfforddiant cyfansoddi gan Pwyll ap Sion a Stephen Montague. Mae Sioned hefyd yn diwtor clarinet ym Mhrifysgol Bangor a hefyd i Wasanaeth Cerdd William Mathias. Mae hi wedi ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol (2005), ac wedi bod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth yr Unawd Chwythbrennau droeon yn y gorffennol. Dyma’r tro cyntaf iddi ymgeisio mewn cystadleuaeth gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd Dr Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: ‘Mae hyn yn glod arbennig i Sioned ac yn gydnabyddiaeth deilwng o’i dawn a’i gallu cynhenid. Fel un sy’n arbenigo ar gerddoriaeth gyfoes, ac fel un o’n tiwtoriaid clarinet yma yn yr Adran, mae’n hyfrydwch i ni gael ei llongyfarch ar ei llwyddiant ysgubol.’ Bydd Sioned yn ymuno ag oriel o gerddorion amlwg Prifysgol Bangor sydd eisoes wedi ennill Tlws y Cerddor, gan gynnwys Pwyll ap Sion, Peter Flinn, Guto Puw ac Owain Llwyd.

Coron i Guto a Thlws i Sioned

caiff ei ddatblygu mewn modd cynil iawn, nes, rhyw hanner ffordd trwy’r darn, mae’n chwalu’n deilchion o dan ymosodiad ysgytwol. Yna ceir cadenza dirdynnol gan y feiolin, cyn ceisio tynnu popeth ynghyd, gydag adlais o’r hyn a fu. Mae’r diweddglo mewn unsain herfeiddiol a chadarnhaol. ‘Mae gwaith 2.4.7. wedi apelio fwyfwy wrth ystyried ymhellach a hynny ar sail y dechneg gadarn, y sicrwydd strwythurol a’r ffresni cynnwys sy’n dal i’r dim deitl y darn, ‘Chwalfa’. Felly 2.4.7.


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Newyddion 7

Is-Ganghellor yn cael cymhwyster Cymraeg uwch ar ôl pedair blynedd

ei angerdd hefyd, wrth iddo gyrraedd safon Rhys Jenkins uchel iawn. Y mae Is-Ganghellor “Mae’r iaith Gymraeg Prifysgol Bangor, sef yr yn rhan bwysig o ethos Athro John G Hughes, Prifysgol Rwyf wedi wedi derbyn cymhwyster Bangor. Cymraeg wrth iddo mwynhau dysgu’r iaith ddysgu’r iaith. Ennillwyd gradd A yn yr arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch ganddo, sydd yn gywerth â Lefel A. Fe wnaeth hyn ar ôl pedair blynedd o astudio’r Gymraeg. Fe ddaeth yr Athro John G Hughes o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, yn fawr ac yn gobeithio ac ar ôl iddo gael ei y bydd fy mhrofiad yn benodi’n Is-Ganghellor anogaeth i ddysgwyr Prifysgol Bangor yn 2010, eraill”, meddai’r Athro mi addawodd y byddai’n John G Hughes. Cafodd dysgu’r iaith Gymraeg - ei ddysgu gan diwtoriaid ac mi addawodd ef hyn Canolfan Cymraeg i yn ei gyfweliad i fod yn Oedolion, Prifysgol Is-Ganghellor. O ennill Bangor. y cymhwyster, y mae’n Y mae’n her fawr i dangos ei waith caled ac ddysgu iaith newydd,

mae’n amlwg, ond y mae’n glir iawn ei fod ef wedi derbyn cymorth arbennig dros ben wrth iddo ddilyn y cwrs, sydd wedi cael eu clodi gan nifer o bobl. Meddai Elwyn Hughes, sef Uwch DiwtorDrefnydd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cymraeg i Oedolion: “Gall yn awr drafod amr ywiaeth eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae ganddo eirfa helaeth ac mae wedi darllen llawer o lyfrau heriol... felly dylai siaradwyr Cymraeg gofio cyfathrebu gyda’r Is-Ganghellor trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob achlysur o hyn ymlaen.”

Ap Newydd i Ddysgwyr Llio Mai Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli treialwyd ap dysgu Cymraeg, sydd wedi’i ddatblygu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ynghyd â chwmnïau Moilin ac Optimwm. Derbyniodd ymateb gwresog iawn yn yr Eisteddfod, gan brofi i fod yn llwyddiant mawr ymysg y dysgwyr a fu’n mwynhau chwarae gyda’r templedi llenwi bylchau, paru llun a gair, strwythuro deialog, ymarfer ynganu a recordio llais. Caiff yr ap ei lansio fis Medi, yn barod ar gyfer y criw newydd o ddysgwyr a fydd yn mynychu’r dosbarth, yn ogystâl â’r rhai sy’n parhau i ddysgu’r iaith. Bydd yn cynnwys 19 templed rhyngweithiol wedi’u rhannu’n 44 uned, a bydd ar gael ar gyfer dyfeisiadau Apple ac Android. Prif amcan yr ap fydd bod o gymorth i ddysgwyr wrth iddynt fynd i’r afael â’r iaith, ac i ennyn eu diddordeb mewn

gwahanol ffyrdd y tu allan i’r gwersi ffurfiol. Yr ap ar gyfer lefel mynediad fydd ar gael ddiwedd Medi, a disgwylir i’r lefel sylfaen fod ar gael erbyn mis Rhagfyr. Mae modd i chi gael gwybod am ddatblygiadau’r ap trwy ddilyn cyfrif Twitter @Learn_Cymraeg. Bydd yr ap hefyd yn rhan o ymchwil PhD Lowri Mair Jones, sy’n gweithio fel Swyddog Technolegau Newydd i’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion, dan arweiniad Dr Enlli Thomas o’r Ysgol Addysg. Bydd ei hymchwil yn edrych ar ba mor ddylanwadol yw’r gwahanol ddulliau o ddysgu electronig wrth ail-greu rhyngweithio dosbarth mewn cyd-destun Cymraeg i Oedolion. Wedi i’r ap gael ei lansio ddiwedd y mis, bydd y Ganolfan yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn yr ymchwil trwy dreialu’r ap a thechnolegau eraill. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r ymchwil anfonwch e-bost at lowri.m.jones@bangor. ac.uk

CYMDEITHASAU PRIFYSGOL BANGOR Dyma flas ar rhai o’r cymdeithasau sydd gan Brifysgol Bangor i’w cynnig...

Cymdeithas Gwnïo Crefftus Bangor

Cymdeithas Gardd Organig Garddwriaethol

Cymdeithas newydd yww Cymdeithas Gwnïo Crefftus Bangor. Rydym yn cynnal cyfarfodydd a gweithdai cyson bob dydd Mawrth. Rydym yn hoff o bob math o grefftau gan gynnwys brodwaith, gweu, crosio, gwneud cardiau, gwneud dillad a llawer mwy. Dim bwys os mai dechreuwr ydych chi eisiau trio rhywbeth newydd, neu crefftwr profiadol sydd eisiau ehangu’ch sgiliau. Eleni mae’r gymdeithas yn bwriadu cymryd rhan gydag elusennau a’r gymuned leol. Hyd yn hyn eleni byddwn yn cynnal ‘Knit-a-Thon’ 24 awr i Plant mewn Angen ac rydym yn cymryd rhan yn y ‘Big Knit Collection’ ar gyfer Age Cymru. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau Ffeirio Dillad ddwywaith y semester ac yn cymryd rhan yn y Farchnad Nadolig flynyddol. Dewch o hyd i ni yn Serendipedd ac ar BangorStudents.com

Ethos HogSoc yw bywoliaeth gynaliadwy sy’n hybu tyfiant cynnyrch organig cartref. Mae’r gymdeithas wedi tyfu bob blwyddyn ers iddi gael ei sefydlu ac enillom ni wobr Cymdeithas Amgylcheddol y Flwyddyn y llynedd yn ogystal â‘r gymdeithas a gyllidwyd orau yn yr Undeb. Rydym hefyd wedi cyfrannu’n hael at brosiectau’r Undeb megis Blacowt Cymru 2014 a Gwobr Her Gysylltiadau yr Ecolegwr. Mae’n partïon gwaith wythnosol yn cynnwys tyllu a phlannu cynnyrch, gweithio gyda glasgoed a chynnal a chadw gerddi. Gwahoddir aelodau i fynd â phlanhigion gartref gyda nhw, eu tyfu a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth lle mae cyfle i ennill gwobr. Y tu allan i’n partïon gwaith rydym hefyd yn mwynhau bod yn yr ardd trwy gynnal barbeciwiau (gan ddefnyddio’n llysiau ein hunain) a gemau. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys nosweithiau cymdeithasol ffilmiau a thafarndai, yn ogystal â phrydau tymhorol y Nadolig a’r haf. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chymdeithas sy’n gweithio’n galed ond sydd hefyd ag awyrchylch cymdeithasol hyfyw, cysylltwch â ni trwy e-bostio hogsoc@bangorstudents.com.


8 ...Cymdeithasau

Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014

CYMDEITHASAU PRIFYSGOL BANGOR ...parhad

Dyma flas ar rhai o’r cymdeithasau sydd gan Brifysgol Bangor i’w cynnig...

Cymdeithas Cerdd (MuSoc) Dewch i chwarae offeryn neu i ganu gyda Chymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor! P'un ai eich bod yn dechrau dysgu offeryn, neu'n offerynnwr gradd 8, mae'r gymdeithas yn agored i bawb ac nid oes clyweliadau. Mae gan y gymdeithas gôr a cherddorfa sy'n ymarfer pob wythnos; mae ymarferion y côr bob nos Fawrth dros y flwyddyn academaidd, ac ymarferion y gerddorfa ar nos Fercher, y ddau yn Neuadd Pritchard Jones (PJ) ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Cynhelir yr ymarferion cyntaf yn ystod Wythnos y Glas. Bydd Noson o Ragflas y Côr yn Neuadd Gerddoriaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ar nos Fawrth 23 Medi a Noson o Ragflas y Gerddorfa yn Neuadd Pritchard Jones ar nos Wener 26 Medi. Dyma'r cyfle i chi glywed y math o gerddoriaeth y byddwn yn ei chwarae a'i chanu. Mae croeso i

bawb! Mae’r Gymdeithas Gerdd yn chwarae a chanu repertoire hynod o amrywiol sy'n cynnwys darnau clasurol, caneuon poblogaidd a cherddoriaeth ffilm, a byddwn yn perfformio tair cyngerdd y flwyddyn yn ogystal â chyngherddau llai i godi arian at wahanol elusennau. Byddwn hefyd yn cynnal ein digwyddiadau ein hunain fel cymdeithas i godi arian i elusen drwy gydol y flwyddyn! Cymerwch olwg ar bumusoc.co.uk, myfyrwyrbangor. com, neu chwiliwch amdanom ar Facebook i gael mwy o fanylion a gwybodaeth! Cofiwch hefyd y byddwn yn Serendipedd - dewch i chwilio am ein stondin yn ystod yr Wythnos Groeso! Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan!

Cymdeithas Ieithoedd Modern (LangSoc) Helô! Hola! Hallo! Salut! Cymdeithas Ieithoedd Prifysgol Bangor ydym ni! Rydym ni eisiau i fyfyrwyr fwynhau ieithoedd felly rydym ni’n cynnig cyfleodd i ddysgu am ieithoedd a diwylliannau gwahanol mewn ffordd anffurfiol a hwyliog. Rydym yn denu myfyrwyr tramor bob blwyddyn ynghyd â myfyrwyr cartref newydd ac rydym yn eu rhoi at ei gilydd i greu nosweithiau cymdeithasol diddorol a llawn hwyl, ble gallwn ymarfer a chymryd mantais o’r cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr sy’n siarad eu mamiaith, sef y ieithoedd yr ydym yn eu hastudio! Rydym yn cynnal nosweithiau cymdeithasol i ddathlu amryw o wyliau Ewropeaidd megis Carnival, Eurovision Song Contest, Mardi Gras a mwy fel y gallwn dyfu’n ddiwylliannol! Felly ymunwch â ni – dydych chi byth yn gwybod, efallai y dysgwch rywbeth tra rydych yno!

Storm FM - Gorsaf Radio Myfyrwyr

Ydych chi erioed wedi meddwl be sy’n mynd ymlaen mewn gorsaf radio myfyrwyr, sut mae’n gweithio a sut y gallech chi gymryd rhan? Wel dyma’ch cyfle gyda Storm FM – eich gorsaf radio myfyrwyr ble’r ydym yn chwarae’r gerddoriaeth ddiweddaraf, ateb eich cwestiynau di-ri, rhoi cymorth a chyngor yn ogystal â chynnal amryw o sioeau siarad a chymaint mwy. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â ni ar enquiries@stormfm.com i ddarganfod sut y gellwch gymryd rhan neu tiwniwch i mewn i 87.7FM! Rydym yn chwilio am dalent a syniadau newydd yn gyson ac ar hyn o bryd mae gennym agoriad ar gyfer Swyddog Iaith Gymraeg felly peidiwch ag oedi i gysylltu â ni. Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan (stormfm.com) a Twitter (@ Storm_FM) am yr holl newyddion diweddaraf, digwyddiadau, cystadlaethau a sioeau.

Grwp Gweithredu Myfyrwyr Treborth (STAG) Mae Gardd Fotaneg Treborth wedi’i lleoli y tu allan i Fangor, heb fod ymhell o Bont Borth ac ychydig cyn i chi gyrraedd y trac athletau a’r caeau chwarae. Oherwydd hynny, mae’r safle’n berffaithar gyfer gweithgareddau awyr agored fel rhedeg traws-gwlad. Fodd bynnag, cadw, gwarchod a rheoli rhywogaethau prin yw prif nod y safle. Amrywia’r cynefinoedd o Awstralia i’r Gogarth. Rhoddir blaenoriaeth i addysg gydag adnoddau ar gyfer bod o gymorth i raglenni ysgolion coedwig a phrosiectau PhD. Ymysg yr

uchwfbwyntiau mae’r Binwydden Wollemi ac mae coedardd ar y gweill i ddangos hanes Cymru trwy’r oesoedd. Ar gyfer y gymuned

ehangach, cynhelir gweithdai rheolaidd sy’n cynnwys cyrchoedd

ffyngaidd ar y safle yn ogystal â’r gwerthiannau planhigion enwog. Gall y cyhoedd gymryd rhan yng nghynnal a chadw safle Treborth trwy gynorthwyo Cyfeillion Treborth (FTBG) a STAG trwy wirfoddoli ar ddyddiau Mercher a/neu ddyddiau Gwener. Mae Cyfeillion Treborth, sy’n cynnal a chadw’r gerddi, yn grŵp o bobl leol sydd â degawdau o brofiad mewn botaneg a garddio. Mae cymdeithas STAG o Brifysgol Bangor yn cynorthwyo gyda’r gweithdrefnau hyn. Y syniad yw y bydd y sgiliau ymarferol y mae

cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn cael eu magu a’u meithrin trwy wirfoddoli gyda STAG, ac yn cydfynd â rhaglenni gradd o’r natur hwnnw. Y tu allan i Dreborth, mae STAG yn trefnu nifer o deithiau i wahanol ffermydd cymunedol a Gerddi Botaneg eraill er mwyn cymharu technegau allanol, gan cynnig cyfleoedd i gymdeithasu ar yr un pryd. Ers ei sefydlu, mae cymuned Treborth a’i chysylltiadau wedi cryfhau’n arw ac mae’n lle gwych i gadw’n heini, gwella’ch lles amgylcheddol a chyfarfod pobl o’r un anian â chi.


...PONTIO 9

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

: y diweddaraf Datblygiad y Safle: Awst

(parhad o’r dudalen flaen) ...Cyhoeddodd Pontio y bydd Chwalfa yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd rŵan, ac y bydd y dyddiadau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y mis. Bydd y rhai sydd eisoes wedi prynu tocynnau’n gallu dewis cael eu trosglwyddo i’r perfformiad cyfatebol yn y flwyddyn newydd neu dderbyn ad-daliad llawn. Yn ogystal, fel arwydd o ewyllys da ac i geisio gwneud iawn am yr anhwylustod, mae Pontio’n cynnig taleb anrheg gwerth £5 i’r cwsmeriaid, i’w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau eraill yn y theatr... Mewn datganiad ar dudalen Facebook Theatr Genedlaethol Cymru, dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Chwalfa: ‘Rhan ganolog o weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw gweithio gyda chymunedau i greu darn o waith theatr pwerus, pwrpasol. Mae yna fisoedd o waith paratoi wedi digwydd yn barod, a nifer ohonom, yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal, wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol. Hoffwn ddiolch ar ran y cwmni i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter am eu brwdfrydedd, a’r croeso rydym wedi ei dderbyn. Mae’r

bwrlwm a’r disgwyliad yn yr ardal wedi bod yn amlwg iawn, ac mae’n siom fawr i ni na fyddwn yn llwyfannu’r cynhyrchiad yn hwyrach y mis hwn; ond rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dod yn ôl i roi’r cynhyrchiad ar lwyfan Theatr Bryn Terfel yn y Flwyddyn Newydd. Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw bod y stori arbennig hon, a’r gwaith caled hwn yn cael gweld golau dydd.’ Y bwriad yw agor Pontio mewn rhannau, gyda'r theatr yn agor gyntaf. Mewn neges a ryddhawyd ar Fedi’r 9fed, bu siomiant pellach wrth iddynt ddatgan na fydd modd agor Theatr Bryn Terfel tan Hydref y 15fed ar y cynharaf, ac felly, bydd pawb sydd wedi prynu tocyn ar gyfer perfformiadau hyd at Hydref y 14eg yn derbyn ad-daliad llawn. Roedd ‘Garw’, cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, i fod i’w lwyfannu yn y theatr ar y 7fed a’r 8fed o Hydref, a gobaith Pontio yw gallu ail-drefnu. Nid oes unrhyw newyddion am y Gala Agoriadol hyd yma – aeth y tocynnau ar werth ar Awst yr 20fed, gan werthu allan o fewn y chwarter awr gyntaf. Mae’r Gala i’w chynnal ar yr 17eg o Hydref ynghyd â gweithgareddau agoriadol eraill, ond yn y neges mae Pontio’n pryderu na fydd yr adeilad yn barod erbyn hynny chwaith ac y bydd rhaid i’r Brifysgol barhau i adolygu’r sefyllfa gyda’r contractwr adeiladu cyn gwneud cyhoeddiad arall cyn bo hir.

YDYCH CHI EISIAU GWIRFODDOLI GYDA PONTIO?

Bydd Pontio'n lle prysur, gyda channoedd o berfformiadau byw a ffilmiau bob blwyddyn. Bydd pob sioe angen tîm o wirfoddolwyr ymroddedig i groesawu cwsmeriaid, gwirio eu tocynnau a'u tywys i'w seddau. Mae'r gwirfoddolwyr wrth gwrs yn cael gweld y sioe honno am ddim! Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau pob math o ddigwyddiadau, o ddigrifwyr adnabyddus fel Seann Walsh, i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, theatr fyw gan gwmni'r Globe Shakespeare, a llawer o'r ffilmiau diweddaraf. Mae'n ffordd wych o weld cymaint o berfformiadau a ffilmiau ag y gellwch heb wario dim a chewch gyfle hefyd wrth gwrs i ddod yn rhan o dîm cyfeillgar sy'n wirioneddol hoff o'r celfyddydau. Felly, os ydych yn hoff o theatr, sinema neu gerddoriaeth fyw ac awydd ymuno â thîm gwirfoddolwyr Pontio, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Am fwy o fanylion cysylltwch â Sharon Roberts: sharon. roberts@bangor.ac.uk neu 01248 343058.

Datblygiad y Safle: Medi


10 ...PONTIO

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

10 Cwestiwn i : af ? u diweddar ia lm ffi y s o ma’n dang Fydd y sine iau ys rhai ffilm w n n y c ’n u edd aglen ffilmia d â chymysg y h g n Fe fydd y rh y , u a d d eu rhyd gaidd bydlo b o p u sydd newyd ia lm wy. celfydd, ffi ac ateb a m li o h o ffilmiau u a n y au 3D, sesi enwog, sioe

3

1

2

fysgol?

r y Bri f y f y r wy

ael i rau ar g l, e t s u e fl Brifysgo cy y y d r d y y f w raf, yf yr Beth ych i f loeg ddiwedda s w g d d adly chno adno n â’r te deithasol, penc atr ontio’n r P e d d o d m y e B ithfeydd / addysgu cym gystal â dwy th h l r a d Fydd Pontio’n parh a gyd no wr t io au i gynnal gigs C d astud , caffi a bwyty y l y campws ac d ymraeg yn gyson, e o yn cael eu cynnal yn l a d r a fel y rhai a oedd g Nghlwb Y Rheilff ghano yr w yr ordd dros y flwyddy b y Myf d Pontio yng n e d n U n ddiwethaf? byd Bydd gig 1af Pontio nema – ngor. i s a yn gig Cymraeg “s nas Ba efyll i fyny” ym mis gyda Swnami, Can galon di Tachwedd delas ag eraill. Wrt h fod ni’n dod i ad hefyd, bydd yn do nabod yr adeilad d yn gliriach pa be th sydd yn gweithio m – a fydd modd da ewn pa gofod tblygu strands new ydd o raglennu. A fydd unrhyw os tyngiadau i fyfyrwyr? Beth oedd y rheswm i Pontio gael ei sefydlu?

6

5

4

lan tu al y r o ag io ar l? t n o dP sgo A fyd or y Brify or ar ag o i t i dym on b. dd P yn i baw y f e - f ydd Bydd ydol y flw g drwy

7

A fydd cyfle

i fyfyr wyr w

Bydd. Mae’r mwya frif o’r arlwy Nifer o resymau. Bydd y Ganolfan gwerth £49 miliwn yn cynnwys theatr yn ein rhaglen yn cynnig hyblyg â 450 sedd (Theatr Bryn Terfel), sinema, stiwdio â 120 sedd a llwyfan gostyngiadau hael i fyfyrwyr. berfformio awyr agored. Cynnal ystod o ddigwyddiadau artistig rhanbarthol, Ceir mwy o wybod ae th ar ein cenedlaethol a rhyngwladol gan gyflwyno’r celfyddydau mewn ffordd newydd. tudalen Myfyrwyr ar wefan Bydd Pontio hefyd yn cynnwys cyfleusterau dylunio rhyngddisgyblaethol i greu Pontio (pontio.co. uk ) cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newyddion. Cyfuna’r adeilad trawiadol ddysgu’r celfyddydau a’r gwyddorau yn ei gyfleusterau addysgiadol gwych er budd y gymuned, busnesau lleol a myfyrwyr y Brifysgol. Cenhadaeth Pontio yw creu rhaglen artistig o’r ansawdd uchaf sy’n arloesol, uchelgeisiol ac yn berthnasol i’n cymunedau. Yn Pontio rydym yn credu yng ngrym y celfyddydau i gael effaith gadarnhaol ar ein bywydau a bod gan bob un ohonom yr hawl i brofi’r celfyddydau. irfoddoli ne

u weithio i P ontio? Bydd! Fe fyd d Pontio yn c y nnig cyfleon ac am fwy o i fyfyrwyr wir wybodaeth, fo cysylltwch â sharon.robert ddoli, i gofrestru s@bangor.ac .uk A fy d defny d myfyr w dd o’ r ade yr Prifys go ilad o Wrth ddyd l Bangor d i dd gwrs. nifer ydd? yn gallu D o dda owch am gwne r ym la ud en. A lithoedd y baned, i w r y cy eld si n dig mew oe da wy n defny lle i gym ’r Undeb dd tu few neu ffilm y – n dd ac hlysu deithasau Myfyrwy Pontio o ag bydd r fi rol o’ r stiw perfform , mae hefy s Ionawr io’r b dio a d tref r n theat r Pon ifysgol gw iant tio. neud

9

Sut fath o ddigw cael eu c y ynnal i f ddiadau fydd yn y f y r wy r yn Pont i o ? Bydd ys tod eang o ddigw gyfer m ydd yf yr w yr y n Pontio iadau ar sioeau comedi, – dramâ u, ffi cerddori aeth byd lm, dawns, gi gs, a lot mw y.

10

8

wyr? at fyfyr u l e n a u gan ysbyseb f, h i i t a yn y Lle ynd u m b e ’n s i y h b ech c y hys ddem Sut fydd wyr drw ntio felly fe fy ol. r y f y m uâ n Po ifysg mgysyllt di’i leoli o few ch y Br l y y g n y m a Am m e o e Fe fydd d Storm FM w u gwybodaeth r hefyd. str o g n a B yd he sa nn Seren, b hio’n agos i ra gylch y campw ymunwch â’n r ar t , i e o am efyd adau yn cydw bosteri igwyddi o.uk. Rydym h d m d a h m c a f w ntio.c ! ddara Edrych efan po tagram a Flickr h ddiwe t w e g a d o ’n â b s d n l I e , y wy w lr r w y ym e, Tumb bostio d cebook, YouTub Fa Twitter,


...PONTIO 11

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

1. Er mwyn i ddarllenwyr Y Llef ddod i’ch adnabod yn well, ellwch chi ddweud gair neu ddau am eich cefndir? Fy enw i ydy Tomos Moore, dw i’n 21 ac yn gweithio i Pontio fel Technegydd Theatr llawn amser. Hogyn o Bwllheli dw i, ac roeddwn yn mynychu Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli. Rydw i’n byw gyda fy nhad, fy mam a’m chwaer. Yn f ’amser rhydd dwi’n dysgu pobol i Wakeboardio a Surfio drwy gwmni Offaxis yn Abersoch. 2. Beth yw’ch swyddogaeth o ddydd i ddydd o fewn tîm technegol Pontio? Rydw i’n arbenigo mewn goleuo mewn perfformiadau. Tîm o 5 o dechnegwyr ydym ni yn Pontio, sef Gwion Llwyd - Cyfarwyddwr Technegol, Jason Jones - Uwch Dechnegydd Theatr (Sain), Richard Roberts (Dic Ben) - Technegydd Theatr (Sain), Delyth Williams - Technegydd Theatr (Goleuo) a fi Technegydd Theatr (Goleuo). Yn rhan o fy swydd o ddydd i ddydd rydw i’n sicrhau bod gofynion technegol y cwmnïau teithio sydd yn ymweld â Theatr Bryn Terfel/Stiwdio yn cael eu hateb. Hefyd bydd gofyn i'r technegwyr gynorthwyo gyda “Get In a Get Out” pob cynhyrchiad, gwneud Pre Rig dyddiau cynt i sicrhau fod pob peth yn barod ar gyfer y “Get In” a gwneud profiad y cwmnïau teithiol mor hwylus ag y gallwn fel eu bod nhw’n mwynhau'r profiad o berfformio yn Theatr Bryn Terfel. Yn ogystal â hyn i gyd, mae Theatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg ble gellwch dynnu'r cadeiriau i gyd allan, codi, gostwng ac ehangu’r llwyfan, creu theatr “yn y round” a hefyd man lle bydd “gigs” yn cael eu perfformio - mae'r posibiliadau gyda'r theatr yn ddiddiwedd. 3. Ers faint ydych chi wedi bod wrthi’n y maes technegol? Roeddwn i’n helpu gyda goleuo dramâu a pherfformiadau yn yr ysgol,

a thros y blynyddoedd cefais gyfleoedd yn Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli i weld sut oedd gwahanol gwmnïau yn gweithredu. A’r ôl gorffen yng Ngholeg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli, cefais gyfle i ymuno fel Prentis am flwyddyn gyda'r cwmni teithiol cymunedol proffesiynol - Theatr Bara Caws. Mwynheais y flwyddyn fel prentis yno yn fawr iawn ac yn ffodus, cefais gynnig i aros ymlaen yno fel Technegwr llawn amser. Ar ôl tair blynedd yn Theatr Bara Caws yn gweithio a chael profiadau technegol ar sioeau megis Llanast, Hwyliau’n Codi, a Cyfaill & Te Yn Y Grug, teimlais fy mod yn barod i symud ymlaen a chael rhagor o brofiadau yn y maes. 4. Pa heriau sy’n eich wynebu yn eich swydd? Nifer! Mae yna heriau newydd bob dydd mewn Theatr fel Theatr Bryn Terfel gan ein bod yn delio gyda chwmnïau a pherfformiadau hollol newydd bob dydd. Mae'r swydd yn heriol gyda chwmnïau’n gofyn am bethau gwahanol ond dwi’n mwynhau'r her - does dim sicrwydd o’r hyn sydd i ddŵad rownd y gongl neu beth sydd yn dŵad gyda'r perfformid nesaf!

yn cyrraedd y theatr a gosod y set. Wedyn mae ymarferion technegol yn digwydd ac yna'r perfformiadau a’r gyfer y cyhoedd. A’r ôl i bawb adael y theatr, mae'r tîm technegol a’r cwmni yn pacio’r set ac wedyn mae'r Theatr yn barod am y perfformiad / cwmni nesaf. 6. Be fydd yn denu pobl i ddod i Pontio? Dwi’n hynod obeithiol y bydd Pontio’n denu pobol a phlant o bob oedran. Gan fod Theatr a Stiwdio yn mynd i fod yno, bydd gennym drawstoriad oedran da yn dod drwy'r drysau i weld sioeau. Yn ogystal â Theatr a Stiwdio mi fydd Sinema, a fydd yn atynnu math arall o gwsmer trwy’n drysau. Ar y llawr cyntaf bydd bwyty ar agor i

bawb, a bar wrth y fynedfa. Bydd dwy ddarlithfa yno a swyddfeydd yr Undeb Myfyrwyr. Felly gobeithio bydd yr adeilad llawn bwrlwm drwy’r adeg gyda thrawstoriad da o bobl fydd yn mwynhau ymweld â Pontio 7. Be ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf unwaith y bydd yr adeilad wedi agor? Dw i’n edrych ymlaen cael fy nwylo ar yr holl dechnoleg newydd yno, dod i arfer gyda'r ddesg oleuo newydd a hefyd gweithio mewn Theatr newydd, yng nghanol Bangor. Hefyd, gweld ymateb pobol fel maent yn cerdded drwy’r drws am tro cyntaf, yn gweld yr adeilad newydd ac yn rhannu'r un cynnwrf â sydd gennym ni fel staff.

Edrych am Lyfrau? Tria Ni Gyntaf Cefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

5. Faint o waith ac amser mae’n ei gymryd i baratoi ar gyfer un c ynhyrchiad/sioe/ digwyddiad? Mae’r amser paratoi yn gwbwl wahanol i bob cwmni sydd yn dod ac yn ymweld â’r Theatr. Rhan amlaf, mae'r Theatr yn derbyn “pre rig” (gwybodaeth dechnegol) yn gyntaf, sef cynllun goleuo lle rydym ni fel Technegwyr Theatr yn gorfod ei ddilyn a rhoi y lampau i fyny yn y mannau priodol ac unrhyw beth arall gan gynnwys manylion sain. Mae hyn fel arfer yn cael ei wneud dyddiau o flaen llaw. Yna mae'r cwmni

Looking for Books? Try Us First! Support your Local Bookshop AR Y STRYD FAWR AC AR LEIN ON THE HIGH STREET AND ON LINE

palasprint.com

170 Stryd Fawr/High Street, Bangor, 01248 362676 10 Stryd y Plas, Caernarfon, 01286 674631 eirian@palasprint.com

Dod i ‘Nabod: Tomos Moore

Palas PRINT


12 ...Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

UnDEB Myfyrwyr Cymraeg Bangor Guto Gwilym Mae UMCB yn mynd o nerth i nerth o flwyddyn i flwyddyn ac eleni, mae’n argoeli i fod yn flwyddyn lewyrchus arall. Y llynedd gwelwyd digwyddiadau gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg yn dangos y dramâu enwog Bobi a Sami a Siwan, nosweithiau Meic Agored yn Nhafarn y Glôb a chôr Aelwyd JMJ yn canu mewn cyngherddau. Y flwyddyn nesaf rydym am weld nifer fwy o ddigwyddiadau gyda’r gymuned, yn rhan o galendr UMCB. Gyda chynlluniau am gyfleoedd gwirfoddoli, nosweithiau Clwb Cymru yn agored i’r gymuned ac Wythnos Gymraeg ac Ieithoedd Lleiafrifol ar ddiwedd mis Chwefror. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae UMCB wedi cael ambell lwyddiant hefyd drwy ennill yr Eisteddfod Ryngolegol unwaith eto ac yn barod i gadw’r darian pan fyddwn yn teithio i lawr i Aberystwyth y flwyddyn nesaf. Roedd tîm pêl-droed UMCB hefyd yn dathlu eleni ar ôl ennill eu lle ar dop eu cynghrair ac mi fyddent yn ôl y flwyddyn nesaf i frwydro unwaith eto am y brig. Mae yna groeso i chi ddod i gefnogi’r bechgyn ar eu hymgyrch y flwyddyn nesaf eto. Bydd yna gyfle hefyd i fyfyrwyr UMCB fynd i Gaeredin ar gyfer y daith flynyddol i weld un o gemau rygbi'r Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban. Mae hyn yn gyfle gwych i bawb gymdeithasu gyda’i gilydd a gyda nifer o fyfyrwyr o brifysgolion eraill. Ac fel dwi’n ei wybod o flynyddoedd blaenorol, mae’n siŵr y gwelwn ni ambell i un ohonoch chi yno i gefnogi. Felly cadwch lygad ar beth sydd ymlaen gyda ni a sut y gallwch chi fod yn rhan o weithgareddau UMCB drwy edrych ar ein tudalen Facebook.

DIGWYDDIADAU WYTHNOS Y GLAS UMCB Sadwrn/Sul - Noson yn Glôb Llun - Ffair Fodiwlau - Neuadd Powis

Mercher - Noson Canu yn Glôb Iau - Steddfod Dafarn* - Bysiau yn gadael yr Undeb rhwng 6.30 a 6.45 Gwener - Crôl Teircoes* - Cwrdd yn y Fenai am 7

Sadwrn - Crôl Hasbins/Diwrnod Crôl Glas* (Glas fyfyrwyr i wisgo Ffilmiau a Phyjamas glas a phawb arall i wisgo hen grys rhyngol [Rhai sbâr ar gael]) * Pawb i gwrdd yn Neuadd JMJ am Dechrau yn Tap & Spile am 7 6.30 os nad ydych yn gwybod ble i Mawrth - Crôl Teulu - Cwrdd yn fynd. neuadd JMJ am 6.30

COLOFN CACENNAU CARA Cacennau Bach Siocled gan Cara Edwards Cynhwysion: 40g Powdwr Siocled Plaen Tua 4 llwy fwrdd o ddŵr poeth 3 Wy (Maint Canolig) 175g Menyn (Heb Halen) 165g Siwgr Castor 125g Blawd Codi 1 llwy de o Bowdwr Codi

I’r Buttercream: 130g Menyn 300g Siwgr Eisin 20g Powdr Siocled Plaen

Yn Ychwanegol: 100g Siocled Gwyn (wedi’i feddalu) 75g Siocled Plaen (wedi’i gratio) Siocled i addurno megis Maltesers, Buttons, Flake a.y.y.b Sut i wneud: Rhowch y popty ar 185 gradd i gynhesu, cyn rhoi 12 o gasys papur mewn hambwrdd. Cymysgwch y powdwr siocled gyda’r dŵr poeth mewn powlen tan mae’n troi yn bâst. Mewn ail bowlen, cymysgwch y siwgr a’r menyn tan mae’n troi’n ysgafn ac wedi’i gymysgu’n gyfan. Ychwanegwch y cymysgedd menyn a siwgr at y bowlen siocled a’i gymysgu, cyn ychwanegu’r wyau, un ar y tro. Yn ofalus, ychwanegwch y blawd a chymysgwch tan mae wedi’i gymysgu’n gyfan. Llenwch bob cas papur tan maent tua dau draean yn llawn a rhowch yr hambwrdd yn y popty am tua 12 – 15 munud. I brofi os yw’r cacennau’n barod, rhowch gyllell finiog yng nghanol un o’r cacennau ac edrychwch os yw’n dod allan yn lân. Gadewch y cacennau i oeri ar fwrdd am o leiaf 20 munud. Yn y cyfamser, mae’n bosib gwneud y buttercream drwy gyfuno’r menyn, powdwr siocled a’r siwgr eisin gyda chymysgwr trydanol neu â llaw drwy eu cymysgu gyda llwy (er mae hyn yn gallu cymryd ychydig mwy o amser). Pan mae’r cacennau wedi oeri, rhowch y buttercream mewn piping bag a dewisiwch big (nozzle) o faint addas (neu os nad oes gennych chi big, torrwch ddarn bach oddi ar waelod y bag i gael agoriad siâp cylch). Yn ofalus, peipiwch yr eisin ar bob cacen, gan ddechrau o’r canol ac yna’n mynd o gwmpas. Addurnwch gyda siocled o’ch dewis, y siocled plaen wedi’i gratio a siocled gwyn wedi’i feddalu.


...Cornel Creadigol 13

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Y Gornel Greadigol Gruffudd Antur

Gofal

Croeso cynnes iawn i’r Gornel Greadigol! Y fi sydd yng ngofal y gornel eleni a dwi’n gobeithio y bydd y gornel yn llwyfan i rai o ddoniau creadigol disgleiriaf Prifysgol Bangor, gan gynnig amrywiaeth o arddulliau, o gerddi i benodau o nofelau i lên meicro – unrhyw beth, a dweud y gwir! Dyma gyfle gwych i weld eich gwaith mewn print a’i a’i gyhoeddi gerbron cyd-fyfyrwyr a darlithwyr, a gobeithio y gallwn ddod o hyd i dalentau newydd yn ogystal â chyhoeddi gwaith rhai sydd wedi hen arfer â ’sgwennu. Felly swatiwch yn nes at y tân a chysylltwch â mi ar wep20a@ bangor.ac.uk neu dros Facebook er mwyn gweld eich gwaith ar waliau’r gornel ddiddos hon!

Gwenan Jones

Prifardd Perffaith Caryl Bryn Ei anadl fel awel deg yr haf, yn barddoni, bron. Yn ias braf lawr gwddf rhywun – A wyddai y byddai ef yn brifardd yn llygaid y ferch dlysaf un? Y dlysaf un, aur ar ei orau un yn berffaith, bron. Ystwyll i’r enaid, naid i gam dan naws ei phresenoldeb hi. Yn ferch sy’n ateb i bendro bob un, sy’n bodoli. Ond bron yw ei farddoni ef, a’i pherffeithrwydd hi, ond bron. Bron ein bod yn ddall – rhag gweled y gwir. Y gwir yn y gwaed, nid y croen. Y gwir gariad, boed brifardd neu berffaith.

Mil Harddach Wyt na’r Rhosyn Gwyn Panig llwyr. Doedd hi ddim yn barod am hyn – o bell ffordd! Roedd hi’n ifanc – roedd cymaint roedd hi heb ei wneud – teithio, ysgrifennu nofel – pob math o bethau clichéd! Pam fod hyn yn brifo cymaint?! Pam na fyddai’r holl beth drosodd yn gynt?! Arswydai wrth feddwl sut olwg oedd arni – cymysgedd o chwys a dagrau a gwaed ymhobman wrth i’r boen bron ei lleddfu. Yna’n sydyn – dyna fe. Yn belen fregus, swnllyd. Perffaith. “’Ma gyda ti fab Mari – llongyfarchiadau!” Camu Traffic. Traffig diamynedd, yn llifo’n flin, heb stopio i edrych o’u cwmpas. Mam a finnau wedi’n sadio ar ddiogelwch y palmant. A wnawn ni fentro ei adael? Mae arna i angen mynd i Superdrug! Dechrau camu ymlaen yn ofalus … cyn teimlo gafael ffyrnig, angerddol am fy llaw. “Mam! Gad fynd o’n llaw i! God, ti mor embarrassing!” Ailadrodd Feddyliai Helen erioed y câi hi drydydd plentyn. Yn arbennig wedi iddi gael bachgen a merch. Un o bob un. Y gorau o’r ddau fyd, yn dwt a thaclus. Doedd dim angen mwy – er gwaethaf protestio’r plant, a’i gŵr. Serch hynny, gafaelodd ei greddf famol ynddi eto. Dychwelodd y cyfrifoldeb. Bu’n benderfynol fod y cyfnod gofalu drosodd. Ond dyma hi – yn bwydo’r un a ddibynnai arni. Yn ei gwisgo’n ofalus. A chyn ei gosod yn y gwely bob nos, sibrwd yn dyner: “Nos da, Mam. Caru chi.” Nos Sadwrn Mae Sara a fi’n cael y nosweithiau gorau gyda’n gilydd. Oedd heno’r cymysgedd perffaith o ddawnsio dwl, Jack Daniels, a bechgyn di-ri! Efallai fod y jagerbombs diwethaf wedi bod yn gamgymeriad ... o na ... o ...o, lle ’ma’r toilet?! Clawdd amdani! Ych! Wow ... pwy sy’n dal ’y ’ngwallt i nôl? O ych!! O ych a fi!! Byth ... byth yn yfed ’to! Sgidie Sara yw’r rheina? Ych!! “Na fe Lows, lan a fe! Ma un o’r staff yn dod â dŵr i ti, wedyn ewn ni adre, ie? Paid â becso, ’wy ’ma blodyn!” Paned Methai gofio’r tro diwethaf iddi deimlo mor sâl. Ei phen yn pwmpio’n ddidrugaredd, ei thrwyn fel rhaeadr, a’i thymheredd yn newid fel y gwynt. Dim ond gorwedd oedd ar ei meddwl, ond roedd cymaint i’w wneud! Reit, codi amdani! “A ble’n union wyt ti’n mynd? Cer nôl i’r gwely ’na! Ma’r plant yn barod i’r ysgol, fi ’di ffonio’r gwaith a gweud na fyddi di mewn heddi. Nawr ’te, ’ma ti Beechams a mwg o Lemsip – yfa nhw, dim cwyno! ’Ma ti baned i ti.” Mae’r baned yn oer erbyn hyn. Ond mae’n ei yfed, bob diferyn.


14 ... Y Gornel Greadigol

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Y Gornel Greadigol Porthos Llŷr Titus Lle i blant drwg oedd y chwareli, dyna fyddai’r rhieni o’r stesions ar y ffin hyd at y Ddaear yn ei ddeud. Rhybudd oedd o, bwci bo o le a fyddai’n ddigon i ddychryn plant i ufuddhau mewn oes pan nad oedd Siôn Corn yn gallu bodoli. Roedd dwy neu dair cenhedlaeth o blant wedi eu magu yng nghysgod y pylla toddi a mwg yr injys tyllu a nhwytha bellter sêr i ffwrdd. Heb ddod yn nes at y chwys a’r gwaed a’r rhegi na chyffwrdd y metal wedi’i brosesu, hwnnw a rwygwyd o gnawd rhyw blaned nad oedd dim ond rhif arni hi fel enw. Eto roedd yr ofn hwnnw wedi glynu nes yr oeddan nhw’n rhieni ac wedi glynu wrth eu plant nhw ac ymlaen nes i’r chwareli droi’n stori ac yn haniaeth yn eu meddyliau nhw.

li ychydig ddyddiau ynghynt. Mi ddylia fod yn arfar, meddyliodd, ond doedd diflaniad rwbath mor anfarth ddim yn naturiol rhywsut. Mwy nag oedd y blaned hon. Doedd yr un blaned y buodd o arni o’r gyntaf hefo’i phylla sylffwr a’r gwyrddni yn yr awyr bob nos a fyddai’n dod bob pythefnos at hon hefo’i anialwch a’r creigiau a golwg fel eu bod nhw wedi’u toddi arnyn nhw yn naturiol. Hynny ydi, doeddan nhw’m yn debyg i’r Ddaear. Roedd o’n un o’r rhei prin yn y chwareli a gafodd eu magu yno ond roedd pawb bron o Fawrth hyd at bellafoedd y ffin wedi bod yno unwaith. Roedd ’na barc a oedd yn amgueddfa hefyd i ymwelwyr hefo gwyrddni ac anifeiliaid a phobl yn gwenu a dyna oedd darlun y rhan fwyaf o ddynoliaeth o’u dechreuad. Wydden nhw ddim am y slymiau a’r diffeithdiroedd. Bob shifft gwsg yn y coridorau cysgu byddai rhyw gyw ifanc yn trafod ei gynllun i hel digon o bres yn y chwareli a symud i’r Ddaear lle’r oedd petha’n tyfu heblaw mewn pyllau hydroponig. Fe fyddai Jo yn gwenu ar y tywyllwch.

Ond fe oeddan nhw’n bodoli, yn greithiau neu’n gansar yn ymledu ar draws cyrion y gofod a oedd wedi’i gofnodi. Bellach roedd rhan o’r job o gofnodi wedi’i rhoi i’r chwarelwyr, y rheiny a oedd yn gallu teipio beth bynnag. Wedi i un blaned gael ei sbydu, byddai’r llongau cargo yn gadael, byddai’r chwarelwyr yn pacio’u caban ac yn symud at y blaned nesaf. Roedd yr hen syniad mai dim ond un lle oedd y chwareli yn hen ffasiwn bellach. Aeth rhybuddion y rhieni i wireddu’u hunain. Bellach roedd gwehilion yn diferu’n ara’ deg o’u gwirfodd i’r chwareli pan nad oedd hyd yn oed lefydd fel Arcadia yn gwrthod eu cadw nhw. Doedd dihirod ddim yn bethau prin cyn i’r plant drwg benderfynu gwireddu bygythiadau eu rhieni. Bob hyn a hyn fe fyddai criwiau o garcharorion yn gwirfoddoli yn yr un modd ag y mae rhywun hefo gwn wrth ei ben yn tueddu i gytuno hefo pob dim. Roedd eraill wedi dechrau crwydro a chael eu chwythu gan wyntoedd y sêr fel hen fagiau plastig nes iddyn nhw gyrraedd dibyn dynoliaeth ac aros yno. Dechrau ar y ceibiau letrig wnaeth Jo a gan ei fod o’n gallu ’sgwennu, ac wedi goroesi yn agos i ddeg cloddiad roedd o bellach yn un o’r criw a fyddai’n cael eu gyrru i wneud y sganiau cyntaf ar blaned newydd. Trodd ei gefn ar weddillion y ddwythaf, y cylch o greigiau yn dal mymryn o lewyrch haul y system yn hyll fel dannadd cam, a throi’n ôl at ei waith. Roedd hi’n rhyfadd braidd gweld shwrwd yn yr awyr lle’r oedd lleuad wedi bodo-

Roedd y sgan yn dangos fod yna fwy o nicel na’r arfar yn hon a gwelodd Jo, heb fawr o syndod, nad oedd arwydd o unrhyw beth byw yn y cyffiniau. Doedd yna’m hyd yn oed facteria yn y sampl llwch roedd hi wedi’i godi. Yr un peth a oedd wedi dychryn dynoliaeth wrth iddyn nhw faglu’u ffordd tuag at y sêr oedd bod ’na neb yn aros amdanyn nhw. Ar ôl yr holl lyfra a ffilmia yn darogan gwae roedd y bydysawd yn wag ac roedd hynny’n waeth na’r syniad o fygythiad rhywsut. Roedd y gwactod fymryn gwacach a’r tawelwch oesol hwnnw rhwng y sêr yn pwyso’n drymach. Doedd yna ddim olion dim chwaith ac fe fyddai’r gwyddonwyr yn gwenu’n gloff ac yn dweud bod y cosmos yn lle mawr ac yn hen iawn a’i bod yn debygol o hyd nad oedd dynoliaeth yn unigryw. Phoenodd hynny ’rioed lawar ar Jo – roedd peidio â phoeni am ddwyn mwynau dynion bach gwyrdd yn g’neud y job yn haws. Amneidiodd i’r gweddill ei dilyn, er bod modd cysylltu wrth siarad ar y rhan fwyaf o’r arf-

wisgoedd doedd fawr o neb yn sgwrsio ’di mynd a doedd dim sicrwydd y byddai sbicars pawb yn gweithio. Tynnodd Jo fymryn ar ei harfwisg lle’r oedd y tâp dros dro oesol wedi tynhau’r defnydd. Roedd y tamad hwnnw bob amsar yn fwy chwyslyd na’r gweddill. O’u blaen roedd y twll, hwnnw oedd wedi gwarantu mwy na sgan sydyn cyn gyrru’r peiriannau i ddechrau tyllu. Roedd o’n debycach i grater na thwll mewn difri er bod y graig wedi codi’n bigau ar yr ochrau. Cyrhaeddodd y dibyn – mae’n rhaid bod y crater ryw hannar milltir o un pen i’r llall a gan nad oedd yna haul call yn y cysawd hwn doedd yna’m posib gweld ei waelod o. Cyrhaeddodd y pedwar arall a throdd Jo fymryn ar ei llygaid i weld sut olwg oedd arnyn nhw. Hyd yn oed trwy’r gwydr pŵl roedd posib gweld gên farfog Carl a’r llygaid rheiny a oedd yn well na dril am fynd drw’ rywun. Gwyddai Jo ei fod o’n ei pharchu hi wedi iddi hi hannar ei sbaddu fo am drio cyflawni un o’r seremonïau croeso traddodiadol pan gyrhaeddodd hi’r Porthos. Roedd hi ymysg y lleiafrif ond roedd hanner oes o fod yn ful bach cyffuria wedi c’ledu dipyn arni hi. Wrth ei ochr o roedd Xiao, hogan glyfar, rhy blydi clyfar i fod yn chwarelydda, hi oedd yr un a fyddai’n g’neud y syms a’r hafaliadau pan fyddai’r cyfrifiaduron yn gorboethi. Roedd si ei bod hi wedi bod yn gweithio i ryw fanc ac wedi gwlychu mymryn ar ei phig yn y cafn ac wedi rhedag. Cymrodd pawb ei bod hi’n neis neis nes i rywun drio mynd i’r cwpwrdd offer a oedd yn gartra iddi hi a ffendio fod hyd yn oed genod neis neis yn gallu gosod tamad o fetal wedi’i hogi ar lastig ar uchdar botwm bol rhywun. Adrian ac Isaac oedd y ddau arall; doedd Jo ddim yn gallu meddwl am y ddau ar wahân ’di mynd. Cwpwl oedan nhw’n ôl rhai, brodyr medda eraill, y ddau wedyn oedd damcaniaeth amball un. Doedd Jo yn poeni dim am hynny, roedd y ddau yn cadw cow ar ei gilydd ac yn cydweithio heb ffraeo ac roedd isio mwy o hynny. Camodd Jo dros ochr y dibyn a llithro ar lwch ochrau’r twll tua’r gwaelod. Roedd yr ochrau’n serthach na’r disgwl ac fe aeth hi ar ei hyd a rowlio nes iddi hi ddod at dir gwastad. Shit. Mi fydda’r gweddill wedi’i gweld hi. Arhosodd ar ei chefn ac aros i bob dim beidio â throi. Gallai weld mymryn ar yr awyr a shwrwd y lleuad rhwng crafangau’r graig ar ben y crater. Er mai tri gwahanol fath o ddu oeddan nhw bellach mewn difri ond roedd du’r graig yn finiocach rhywsut. Doedd dim golwg o’r llong.


...Y Gornel Greadigol 15

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...y Gornel Greadigol Gerallt Lloyd Owen 1944 – 2014

Wrth wisgo fy hoff grys (ar ôl Rh.) Elis Dafydd

Gruffudd Antur

Rwygith hi mo’r crys ’ma Oddi amdana’ i eto A gorffwys ei phen ar fy mynwes,

Mae dau fis wedi mynd heibio er pan fu farw Gerallt Lloyd Owen. Eto i gyd, mae’n dal yn anodd amgyffred a derbyn y ffaith ei fod o wedi mynd; bod y llais ingol hwnnw wedi tewi am byth a bod lladmerydd pryderon ei genhedlaeth yn fud.

Cusanu ’ngwddw, Rhedeg ei hewinedd main Ar hyd fy nghefn, Na sbio arna’ i, a moesau’n Magwraethau ymneilltuol Yn coelcerthu yn ei llygaid. Rwygith hi mo’r crys ’ma Oddi amdana’i eto. Fe’i gwisgaf heno A mentro allan i gywain Hen drawiadau’n gerddi newydd Ac fe’i tynnaf oddi amdanaf pan ddaw’r nos i ben, Gyda llwch strae sigaréts wedi’u rhwbio i’r llewys, Mat cwrw’n ei boced, A staeniau seidr yn cosi’i benelinoedd Ond heb yr un stori garu i’w golchi o’i gotwm. Bangor Uchaf, Chwefror 2014.

Ar ôl ei farwolaeth bu pobl o bob oed ac o bob cwr o Gymru’n baglu ar draws ei gilydd i dalu teyrnged i’r bardd mawr hwn, a bu pobl yn prysuro i nodi ei fod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â rhai o feirdd mwya’r oesau, yn yr un cae â Dafydd ap Gwilym ac R. Williams Parry. Ond efallai fod hynny’n gwneud anghyfiawnder â Gerallt. Lwyddodd yr un bardd arall – erioed, efallai – i ysbrydoli cynifer o bobl drwy gyfrwng ei waith fel bardd a meuryn a chanu i ofidion pennaf ei oes mewn ffordd mor uniongyrchol a chignoeth, a dyna pam y mae cymaint o linellau o’i waith ar gof ei genedl. Roedd yn genhadwr o fardd, yn annog ei genedl i’r gad, ac yn hynny o beth roedd yn olynydd teilwng i’r beirdd hynny a fu’n darogan ac yn cynghori’r Cymry a’i harweinwyr ar hyd y canrifoedd. Ein her ni, bellach, yw rhoi geiriau a neges Gerallt ar waith. Rhoddodd inni ei faniffesto, ac mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd geiriau’r maniffesto hwnnw’n cael eu hanghofio. Er bod y llais yn fud, mae’r geiriau hynny yr un mor berthnasol ag oeddent ’nôl ym 1969, yn gwbl ddiamser o amserol, a rhaid inni ddefnyddio’r geiriau hynny fel seiliau i adeiladu’r Gymru y dymunwn ei gweld. Dyna fyddai’r deyrnged orau i Gerallt, sef cymhwyso ei rybuddion, ei ddelfrydau a’i bryderon i bob sefyllfa sy’n bygwth ac yn tanseilio ein bodolaeth ni fel cenedl.

CYSTADLEUAETH! (ar y cyd â'r Cymric)

Gorffennwch y limrig am gyfle i ennill copi o Tu Chwith (gwerth £5)!

Wrth fynd draw o'r Glob i'r Belle Vue ... Bydd cyfle i ‘sgwennu'r limrigau yn y ‘Steddfod Dafarn yn ystod Wythnos y Glas, felly gyrrwch eich cynigion i mewn i: golygydd.llef@myfyrwybangor.com


16 ...Hysbyseb

Y LLEF | Rhifyn yr Glas 2014


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Yr Hadau 17

...YR HADAU Atodiad Dwyieithog Y Llef Y Llef’s Bilingual Insert

Dod i ‘Nabod: BENJIMAN ANGWIN

Beth yw dy gefndir?

Yr ydwyf yn dod o Drehuws (Houston) yn Nhecsas. Cefais i fy magu mewn carafán ger mornant o ryw fath. Roeddwn yn hoff o bethau Celtaidd ers i mi fod yn fachgen ifanc iawn. Ac wedyn hoffais farddoniaeth! Astudiaf y Gymraeg ym Mangor, yr ydwyf wedi byw yn y JMJ ac wedi cael y cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr eraill y llynedd er ’mod i’n hen ddigon i gofio Wal Berlin yn cael ei chwalu (jyst!).

roedden nhw eisiau gweld cymhwysterau o ryw fath. Mae Bangor wedi fy mharchu i felly dwi wedi eu parchu nhw. Roedden nhw’n gyfeillgar pan ddes i fyny i’w gweld nhw. Ac mae gan Wynedd gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae gan yr Adran Gymraeg athro o America. Petaet ti eisiau astudio’r Almaeneg ac est ti i’r Almaen a gweld athro sy’n dod o Geredigion, beth fyddet ti’n ’neud? Dwi’n hoffi cerdded yn y mynyddoedd. Mae Gwynedd yn fynyddog!

Pam y dewisaist ti ddysgu Cymraeg?

Sut le ydi Bangor i fyw ynddo?

Dysgais Gymraeg gan ’mod i wedi cael f ’ysbrydoli y gallai gwlad mor fach gadw’i diwylliant a’i hiaith er gwaetha ei bod y drws nesaf i’r ymherodraethwyr mwyaf yn hanes y byd.

Wel, mae Bangor Uchaf a Chanol Bangor yn wahanol iawn. Problemau cymdeithasol sy’n creu hynny. Ni ddylen nhw fod mor wahanol o gwbl. Dw i wedi clywed myfyrwyr yn gwneud ambell jôc am bobl lleol a mae’n islif bron yn isymwybodol sydd yn agwedd gan rai nad ydy’r bobl lleol yn perthyn i’w byd nhw. Dw i’n byw yma drwy’r flwyddyn, felly dwi’n lleol a dwi ddim yn hoffi’r gwahaniaethu rhwng myfyrwyr a phobl leol. Er hynny, mae pobl

Pam y gwnes di ddewis dod i astudio ym Mangor? Yn gyntaf oll, mae’r adran Gymraeg yma wedi fy nerbyn heb amodau. Cynigiodd Aber hefyd ond

yn gyfeillgar iawn. Mae Bangor yn trechu Llundain unryw ddydd! Faint o gyfle wyt ti’n ei gael i siarad Cymraeg o ddydd i ddydd ym Mangor? Yn ystod yr haf, pan oeddwn yn byw gyda chwpl o Wlad Tsiec, roedd fy mywyd ieithyddol yn od. Rhai dyddiau, fyddwn i ddim yn clywed gair o Gymraeg o gwbl, ond roedd rhai dyddiau pan mai Tsieceg a’r Gymraeg a glywais yn unig. Ond ar ddechrau mis Medi symudais i mewn i dŷ sy’n gymysgedd o wahanol fathau o Gymry, mae un yn dod o’r Cymoedd – mae hi’n deall tameidiau ond ddim wir yn siarad Cymraeg, ac mae un arall o Fethesda sydd ddim wedi siarad Saesneg. Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato yn dy ail flwyddyn? Dw i’n hoffi fy ngradd ac edrychaf ymlaen at fy modiwlau a phethau academaidd, dwi’n eu hoffi. Ac mi fydd yn wych gweld llawer o wynebau eto!

Getting to Know: BENJIMAN ANGWIN What’s your background?

I come from Houston. I was raised in a trailer (caravan) near the coastal swamps. I’ve been a Celtophile since I was a very young boy. And later I liked poetry! I study Cymraeg (Welsh) in Bangor, I’ve in the JMJ and have had a chance to socialise with over students this last year although I’ve old enough to remember the Berlin Wall being destroyed (just!) Why did you choose to learn Welsh? I learned Welsh because I was inspired that a country so small could keep its culture and language despite being next door to the biggest imperialists in the history of the world. Why did you decide to come to Bangor to study? Firstly, the Welsh Department accepted me without conditions. Aber offered as well but they wanted to see qualifications of some kind. Bangor respected me so I respect them. They were friendly when I came up to see them. And Gwynedd has lots of communities where Welsh is the primary language. The Welsh Department has a teacher from

America. If you were to study German and you went to Germany and saw a teacher who comes from Ceredigion, what would you do? I like walking in the mountains. Gwynedd is mountainous! What kind of place is Bangor to live in?

Well, Upper Bangor and Bangor Centre are very different to each other. It’s social problems which creates this. They shouldn’t be different at all. I’ve heard students making jokes about local people not belonging to their world. I live here throughout the year, therefore I’m local and I don’t like the separation between students and local people. Despite that, people are very friendly. Bangor beats London any day! How many opportunities do you get to speak Welsh from day to day in Bangor? During the summer, when I lived with a couple from Czech Republic, my linguistic life was odd. Some days, I wouldn’t hear a word of Welsh at all, but there were some days where I only heard Czech

and Welsh. But at the beginning of September I moved into a house which is a mix of different kinds of Welsh people. One comes from the Valleys – she understands titbits but she doesn’t really speak Welsh – and there is another from Bethesda who is not used to speaking English.

What are you looking forward to in your second year? I like my degree and look forward to my modules and academic stuff, I like them. And it will be great to see so many faces again!


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

18 ...Yr Hadau

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Euthum i lawr i Lanelli ym mis Awst gydag Y Bandana (band roc) a Lids (cyn-Lywydd UMCB) mewn fan ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y daith i lawr, ac yn ôl, yn un annisgwyl i mi. Mi welais lawer o Gymru na welais erioed o’r blaen, rhai ardaloedd hyfryd a rhai o’r ardaloedd mwyaf Cymreig. I fi, bu’r daith yn fath o bererindod ar draws fy ngwlad fabwysiedig oherwydd ni welais gymaint ohoni tan hyn. Aethom ar goll yn dod yn ôl a gwelais fwy ohoni oherwydd hynny. Y mae’r Eisteddfod yn ŵyl wythnos ei hyd sydd yn dathlu popeth am yr iaith Gymraeg. Cynhelir hi mewn mannau gwahanol bob blwyddyn, sydd yn rhoi’r cyfle

i bobl weld Cymru gyfan. Y mae gwahanol feysydd yn yr Eisteddfod, megis Maes B ar gyfer bandiau, partïo a phobl ifanc, a Maes D i bobl sydd yn dysgu Cymraeg. Y mae Maes yn golygu ‘field’, neu ‘field where things happen’. Yn y babell fwyaf a mwyaf anniwylliedig ei golwg, sef y pafiliwn pinc, sydd yn edrych fel buwch odro’n gorwedd â’i dethi’n pwyntio tuag at yr haul, y cynhelir y cystadlaethau mwyaf diwylliedig, fel y Cadeirio a’r Coroni ar gyfer beirdd a Thlws y Cerddor ar gyfer cerddorion. Penderfynais yr hoffwn weld rhywun yn ennill un o’r gwobrau hyn. Eisteddais yn y pafiliwn ger fy ffrind Elis Dafydd, ac ennillodd Guto Dafydd,

brawd Elis, y Goron. Daeth pobl i’w hebrwng i lawr i’r llwyfan a symudodd Guto heibio i mi. Ces i neges destun oddi wrth ffrind ei fod wedi fy ngweld ar y teledu’n edrych yn lletchwith! Nid oes angen dweud ei fod wedi bod yn brofiad bythgofiadwy fel fy nhro cyntaf yn gwylio’r Coroni. Hoffwn longyfarch Lids (Elidyr Glyn), cyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor y llynedd, am ennill y gystadleuaeth ‘Canu cân werin hunan gyfeiliant’. Hefyd, hoffwn ddiolch i Gwilym Bowen an y jam llus yng ngharafan ei rieni!

I went down in a van to Llanelli in August with Y Bandana (a rock band) and Lids (UMCB’s previous president) for the Eisteddfod Genedlaethol. The journey down, and back, was an unexpected one for me. I saw much of Wales that I have never seen before – some beautiful areas and some of the most Welsh areas. For me, the journey was a kind of a pilgrimage across my adopted country, as I hadn’t seen much of it until now. We got lost on the way back and so I saw more of the country. The Eisteddfod is a week long festival that celebrates everything about the Welsh language. It’s situated in various parts of Wales every year, which gives people

the opportunity to see different parts of the country. There are different fields in the Eisteddfod, such as Maes B for bands, partying and young people, and Maes D for people learning the language. ‘Maes’ means ‘field’, or ‘field where things happen’. In the biggest tent, and the most uncultured in its appearance, the pink pavillion, which looks like a cow lying on its back and its teats pointing towards the sun, is where there most cultured competitions are held, such as the ‘Crown’ and the ‘Chair’ for the bards and the Musicians’ Medal for musicians. I decided that I’d like to see someone win one of these prizes. I sat in the pavillion next to my friend, Elis Dafydd,

and Guto Dafydd, Elis’ brother, who won the ‘Crown’. People came to usher him down to the stage and Guto passed me. I received a text message from my friend saying that he saw me on the television and that I looked awkward! Needless to say that it was an unforgettable experience as my first time watching the Coroni (Crowning). I’d like to congratulate Lids (Elidyr Glyn), last year’s Welsh Students Union president, for winning the ‘Canu cân werin hunan gyfeiliant’ competition. Also, I’d like to thank Gwilym Bowen for the blueberry jam in his parents caravan!

Benjiman L. Angwin

Benjiman L. Angwin


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Yr Hadau 19

Neges i Bawb

A Message For Everyone

Benjiman Angwin

Benjiman Angwin

Hoffwn i ysgrifennu hyn i bawb, y dysgwyr a’r Cymry Cymraeg. I’r dysgwyr, ysgrifennaf yr erthygl hon yn ffurfiol, oherwydd yr ydwyf yn meddwl y dylai ddysgwyr weld yr iaith safonol cyn gynted â phosib er mwyn deall strwythur yr iaith. Y llynedd, pan oeddwn yn atgyfodi Cymdeithas Llywelyn, sylweddolais nad oedd llawer o fyfyrwyr y tu allan i Neuadd John Morris-Jones (a’r rheiny sydd wedi byw yno) yn gwybod am Y Llef ac yr oedd llai yn gwybod am yr adran hon, ‘Yr Hadau’. Y mae hynny’n broblem o ystyried myfyrwyr sydd yn dysgu’r Gymraeg. Mi allai hyn fod yn adnodd amhrisiadwy iddynt. Byddwn, yn sicr, wedi gwerthfawrogi papur fel hwn pan oeddwn yn dysgu yn Lloegr ac yn yr Unol Daleithiau. Felly, gofynnaf i chi Gymry Cymraeg yn y brifysgol i ddangos nid yn unig ‘Yr Hadau’ i bobl ddiGymraeg, ond y papur cyfan; y mae gan fyfyrwyr di-Gymraeg yr hawl

diwylliannol i wybod am ddiwylliant ac iaith mor unigryw oherwydd byddai’n cyfoethogi eu profiad fel myfyrwyr Prifysgol Bangor. A hefyd, y mae angen torri muriau i lawer er mwyn dod â’r gymuned leol a myfyrwyr yn nes at ei gilydd. Gallai hyn helpu UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yn y tymor hir hefyd, gan gynyddu eu haelodaeth drwy apelio at fyfyrwyr o aelwydydd di-Gymraeg sydd eisiau dysgu’r Gymraeg. Yn olaf, hoffwn roi cyswllt Facebook ar gyfer Cymdeithas Llywelyn: Welsh Learners Society i chi i gyd, oherwydd bydd angen Cymry Cymraeg yn ogystal â phobl ddiGymraeg er mwyn llywio Cymdeithas cyn bwysiced â hon i’w safle cywir, sef â sylfeini cadarn yn y brifysgol, sylfeini cyfartal eu nerth cymdeithasol â’r Gymdeithas Tseiniaidd neu’r Clwb Gwyddbwyll er enghraifft. Dyma’r ddolen Facebook:

I would like to write this for everyone, Welsh learners and Welsh speakers alike. For the learners, I’ll write this article formally, because I think that learners should see the standard language as soon as possible to understand the structure of the language. Last year, when I resurrected Cymdeithas Llywelyn, I realised that there weren’t many students outisde of John Morris-Jones Hall (and those who have lived there) that knew about Y Llef and there were less that knew about this section, ‘Yr Hadau’. Considering students that are learning Welsh, this is a problem. This section could be invaluable for them. I’d of certainly appreciated a paper like this when I was learning Welsh in England and in the United States. Therefore, I’m asking all you Welsh speakers in the university to not only show ‘Yr Hadau’ to nonh t t p s : / / w w w. f a c e b o o k . c o m / Welsh speakers, but the whole paper; groups/734465626577071/?fref=ts non-Welsh speakers have the cultural

right to know about such a unique language and culture because it would enrich their experience as Bangor University students. Also, we need to break down walls in order to bring the local community and students closer together. This could help UMCB (the Welsh Students’ Union) in the long term as well, by increasing their membership through appealing to students from non-Welsh households that want to learn Welsh. Lastly, I would like to give Cymdeithas Llywelyn Facebook contact: Welsh Learners Society to all of you, because we’ll need Welsh speakers as well as non-Welsh speakers to steer a society as important as this one to its right place, that is with firm foundations in the university, foundations equal in their strength to societies such as the Chinese Society and the Chess Club for example. Here is the Facebook link: h t t p s : / / w w w. f a c e b o o k . c o m / groups/734465626577071/?fref=ts

Wyt ti’n astudio ...

...Hysbyseb

Llenyddiaeth a Chymdeithas?

Twm o’r Nant yw’r dyn i ti ! Canu Twm o’r Nant, gol. Dafydd Glyn Jones, £15. Twm o’r Nant: Dwy Anterliwt, gol. Adrian C. Roberts, £15.

Llenyddiaeth y Ddeunawfed Ganrif?

Llythyrau Goronwy Owen, gol. Dafydd Wyn Wiliam, £15.

Y Nofel Gymraeg?

Daniel Owen : Y Dreflan, gol. Robert Rhys, £15.

Y Ddrama Gymraeg?

Dramâu W. J. Gruffydd : Beddau’r Proffwydi a Dyrchafiad Arall i Gymro, gol. Dafydd Glyn Jones, £15.

Barddoniaeth a Beirniadaeth yr Ugeinfed Ganrif?

Beirniadaeth John Morris-Jones, gol. Dafydd Glyn Jones, £15.

Hyn oll, a rhagor, yng nghyfres CYFROLAU CENEDL Dalen Newydd Cyf., Bangor Gan eich llyfrwerthwr, neu gellir archebu o: dalennewydd@yahoo.com


20 ...Llety

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

CANLLAW I DDEWIS LLETY YN Y SECTOR BREIFAT

Gwybodaeth anghywir am dai

Bob blwyddyn mae rhai myfyrwyr yn credu gwahanol wybodaeth anghywir ynghylch tai, megis: • Mae prinder tai – Nid yw hyn yn wir. Ym Mangor mae digonedd o lety o ansawdd da. Gall hyd yn oed fyfyrwyr sy'n gadael y gwaith o chwilio am dŷ tan yr haf cyn iddynt ddychwelyd i'r Brifysgol ddod o hyd i dai da. • Mae'r llefydd gorau yn mynd gyntaf - dyna mae'r landlordiaid sydd eisiau i chi ddewis tŷ yn rhy fuan eisiau i chi feddwl! Arhoswch tan ddyddiad dechrau chwilio am lety swyddogol y brifysgol ac yna gwnewch eich penderfyniad. Y dyddiad dechrau eleni yw'r 1af o Ragfyr! • Mae pawb yn talu ffioedd llofnodi cytundeb – Nid yw'r rhan fwyaf o berchenogion sydd wedi'u cofrestru â Swyddfa Tai Myfyrwyr y brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr dalu ffioedd gweinyddu na llofnodi cytundeb. Os ydych chi eisiau talu, dewiswch landlord nad yw'n codi'r ffioedd hyn. Gellwch hidlo’ch dewisiadau chwilio i ddangos eiddo lle codir 'Dim ffioedd na ellir eu had-dalu'.

Cyn i chi ddechrau Dylech weithio allan gyda phwy yr ydych yn dymuno byw, ac edrych ar ardaloedd o Fangor i benderfynu lle yr ydych yn dymuno byw. Cofiwch weithio allan faint y gellwch ei fforddio (peidiwch ag anghofio am y trydan, nwy, rhyngrwyd ayyb) a thrafodwch y cyfleusterau yr ydych am eu cael yn yr eiddo. Mae’n syniad da cael cyngor ynghylch rhentu, megis beth yw cyfrifoldebau’ch landlord a chithau wrth rentu eiddo. Cysylltwch â’r Swyddfa Tai Myfyrwyr a gallent drafod hyn gyda chi a mynd drwy eich contract cyn i chi ei lofnodi. Cofiwch bod llofnodi contract yn eich ymrwymo'n gyfreithiol. Rhai awgrymiadau wrth chwilio am dŷ: • Peidiwch â gadael i'r dyddiad dechrau eich cynhyrfu i rentu rhywbeth nad ydych eisiau. Mae digonedd o dai ym Mangor ar hyn o bryd. Mae llety o ansawdd da ar gael drwy gydol y flwyddyn. • Peidiwch â rhentu cyn dyddiad rhyddhau'r Brifysgol oni bai eich bod yn aros gyda'ch landlord presennol. Mae’r rhai sy'n gwneud hyn yn aml yn canfod iddynt dalu mwy na'u ffrindiau a arhosodd. •

Mae dyddiad rhyddhau Swyddfa Tai'r Brifysgol yn eich galluogi i gynllunio'ch gwaith o chwilio am dŷ.

• Bydd y Swyddfa Tai Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth i chi cyn y dyddiad dechrau i'ch helpu i wneud dewisiadau cytbwys.


...Adolygiadau 21

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

THE FAULT IN OUR STARS:

...Adolygiadau

o lyfr i’r sgrin fawr

Lora Lewis

Dw i’n siŵr bod mwy nag un cariad wedi pryderu wrth glywed genod yn trafod Ryan Gosling neu Channing Tatum ar ôl eu hymddangosiad yn The Notebook a Dear John, ond wedi ei lwyddiant yn y ffilm diweddar The Fault in Our Stars, gellir rhoi Ansel Gort ar yr un rhestr. Ansel oedd yn chwarae rhan Augustus Waters yn y ffilm, a fel un sy’n mwynhau gwaith John Green, roedd y cymeriad yma wedi dwyn fy nghalon i ymhell cyn i’r nofel ffrwydro ar draws y wlad. Ro’n i’n hapus iawn o glywed bod y nofel bellach am ei throi’n ffilm ond, yn naturiol, ro’n i’n poeni sut bydda’ posib trosi geiriau cofiadwy’r awdur i’r sgrin fawr. Yn syml, dyma’r stori: merch yn ei harddegau sy’n marw o gancr yn cyfarfod bachgen sydd wedi colli ei goes yn sgîl y salwch. Cyfarfod mewn grŵp i oroeswyr cancr mae’r ddau, ac yn amlwg yn syrthio mewn cariad, ond

nid stori garu arferol ydy hon. Mae’r stori fel y Titanic, a chancr yw’r mynydd iâ rydym yn mynd i’w daro yn y pen draw. Rydan ni’n ca’l cadarnhad

WHAT IF

o hyn wrth i gyflwr y prif gymeriad, Hazel, waethygu erbyn diwedd y nofel, a hithau’n amlwg yn wynebu ei hwythnosau olaf. Ond, dan yr wyneb, mae yntau ei hun yn dioddef yn dawel hefyd. Dyma’r tro yn y gynffon - fel darllenwyr a gwylwyr rydym yn ein paratoi’n hunain ar gyfer marwolaeth Hazel Grace, ond daw rhyw oleuni newydd drosti, ac mae’n cryfhau gyda chyngor ei chariad. Daw marwolaeth Gus fel syndod felly, a hynny gan nad ydym wedi paratoi ar ei gyfer. A dyna fu, ro’n i’n gorwedd yn fy ngwely wedi gorffen y nofel gyda ’nhrwyn yn diferu, fy llygaid wedi chwyddo, ynghyd â chur yn fy mhen a phoen yn fy nghalon. Ai dyma oedd fy stâd wrth wylio’r ffilm hefyd, a hynny o flaen degau o bobl eraill? Ia. Mae cefnogwyr y llyfr yn mynd i wylio’r ffilm yn gwbl ymwybodol o beth sydd i ddod… dagrau, dagrau a mwy o ddagrau. Ac nid rhai pitw y bydda’ chi’n ei gael ar ôl pennod go drist o Emmerdale, ond dagrau mawr swnllyd. Er nad ydy’r actorion yn rhai adnabyddus iawn, mae Shailene Woodley ac Ansel Gort yn llwyddo i’n swyno ni o’r dechrau i’r diwedd gyda’u perfformiadau tyner, credadwy. I’r rhai ohonoch chi sy’n mwynhau tear-jerker, ewch yn syth i brynu’r nofel. Ac os nad ydych chi’n ddarllenwyr ond yn mwynhau ffilm yn hytrach, ewch yn syth i’w phrynu (... a chofiwch ddigon o hancesi!).

Manon Elwyn

Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer gan y ffilm yma, doedd y trailer ddim yn apelio rhyw lawer, roedd y stori o’r dechrau i’r diwedd yn rhagweladwy, ac roedd hynny’n tynnu oddi ar ramant y ffilm fel cyfanrwydd. Problem arall sydd gen i yw un o’r prif actorion, Daniel Radcliffe. Roeddwn i wrth fy modd efo fo yng nghyfres y ffilmiau Harry Potter, ond dw i’n teimlo ei fod yn dod ag egni fflat a di-lewyrch i What If. Buasai’r ffilm wedi gallu bod yn un hudolus iawn, ond roedd o’n gwneud i’r ffilm deimlo fel ei bod yn llusgo braidd, ar ben y troeon disgwyledig dros ben yn y plot! Wedi dweud hynny, gorffennodd y ffilm ar nodyn annisgwyl iawn, gan gloi yn hollol ddirybudd. Doedd dim diweddglo taclus iddi, fel y buasech yn ei ddisgwyl gan y math yma o genre. Wrth i bobl ddechrau codi i adael y sinema, daeth darluniau cartwnaidd ymlaen o’r ddau brif gymeriad, yn parhau â’r stori, gan egluro be ddigwyddodd i’r ddau wedi i’r ffilm ei hun orffen. Dw i’n teimlo bod hynny wedi bod yn ffordd rhy ddryslyd i orffen y ffilm a doeddwn i ddim yn teimlo’n fodlon wrth gerdded allan o’r sinema, gwaetha’r modd.

Let’s Be Cops

Manon Elwyn Mae’r ffilm yma’n un wych i fyfyrwyr! Tydi’r plot ddim yn anhygoel, ond mae’n hawdd anghofio am hynny wrth ddilyn hynt a helynt y ddau gymeriad hoffus ond anaeddfed, wrth iddynt ddynwared dau heddwas! Maen nhw’n mynd i bob math o drafferthion, er eu bod yn gwybod eu bod yn torri’r gyfraith yn rhacs. Comedi ysgafn yw’r ffilm, ond mae agweddau arswydus ynddi erbyn y diwedd, sy’n ychwanegu agwedd realistig iawn. Ewch i’w gweld ar unwaith!

Inbetweeners 2 Manon Elwyn

Roeddwn i wedi clywed pethau gwych am ail ffilm yr Inbetweeners, ac fel ffan mawr o’r gyfres deledu a’u ffilm cyntaf, roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr i fynd i weld Inbetweeners 2. Roeddwn i’n disgwyl yr un safon â’r ffilm gyntaf! Mae’r stori’n dechrau gyda Jay, un o’r prif gymeriadau, yn Awstralia bell. Mae’r tri arall, Simon, Will a Neil, yn cymryd y cyfle i fynd i ymweld â Jay, gan ei fod yn brolio gymaint am ei lwyddiannau yno. Wedi iddynt gyrraedd Awstralia, mae pethau’n mynd lawr allt, gyda Jay wedi ymestyn y gwir am ei waith a’i lety. Mae’r plot yn ddigri’ iawn mewn mannau, ond yn wan mewn mannau eraill, roedd ambell beth a ddigwyddodd yn y plot yn anodd ei gredu, ac yn hollol chwerthinllyd weithiau. Yn fy marn i, dylen nhw wedi aros lle roedden nhw a chario ‘mlaen gyda’u comedi arferol, ond chwarae teg iddynt am drio gwneud rhywbeth mymryn yn wahanol i’r arfer!


22 ...Adolygiadau

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Anweledig APOLYGIADAU

gan Aled Jones Williams

UNiDAYS

Llio Mai

Lora Lewis Am y tro cyntaf erioed, nid y gwaith celf yn unig a ddenodd cynulleidfa i’r Lle Celf ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych y llynedd. Cafwyd perfformiad cignoeth gan Ffion Dafis o’r fonolog Anweledig gan yr awdur a’r dramodydd amryddawn, Aled Jones Williams. Iselder a salwch meddwl oedd cefndir y darn, ac felly roedd y dewis o leoliad yn gwneud y perfformiad yn fwy dirdynol yn sgîl hanes ysbyty meddwl Dinbych ar y stepen drws. Yn dilyn y llwyddiant, daeth i sylw Cwmni’r Frân Wen bod y ddrama yn deilwng o gynulleidfa ehangach, ac felly penderfynwyd mynd ar daith o amgylch Cymru yn llwyfannu’r cynhyrchiad yn sgîl nawdd ychwanegol. Afraid dweud, roedd yn rhaid i mi ei phrofi eto eleni ac felly dyna wnes i a llond maes parcio o rai eraill ym Mhlas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Un rhan o dair o’r prosiect a gafodd ei berfformio gan yr actores Ffion Dafis y llynedd. Ni symudodd o’i chadair ryw lawer, dim ond parhau i gydio mewn albwm o luniau. Cafodd y gynulleidfa ei swyno yn syth, gyda llygaid pob un ohonom wedi’u hoelio arni rhag methu unrhyw fanylyn. Profiad dynes ganol oed yn wynebu iselder dwys a gawn, sy’n cydnabod anallu pobl i ddeall salwch meddwl. Gwelwn ymdriniaeth o’r stigma a ddaw law yn llaw ag iselder a dengys bod hyn yn ategu at wewyr yr unigolyn. Ar y daith eleni, roedd Ffion yn fwy rhydd yn mynd â ni i’w gwely priodasol, ysbyty meddwl Dinbych yn ogystal â theithio’n ôl i’w dyddiau cynnar yn blentyn llon. Yn ychwanegol ar y daith eleni cawn gerddoriaeth gefndirol ar y piano gan Lisa Jên hefyd, a gwaith celf Mirian Fflur o Nefyn yn ymhelaethu ar y set yn seiliedig ar yr un pwnc. Monolog sy’n cydio mewn ing iselder ac sy’n deall gwewyr dioddefwr fel y cymeriad Glenda i’r dim sydd o dan sylw, ac mae’n anhygoel sut y gallwn gydymdeimlo’n syth â’i hawch i wneud amdani hi ei hun. Roedd perfformiad Ffion Dafis yn werth ei weld, ac ynghyd â hynny cawn gadarnhad sicr mai bardd o fri â dawn lenyddol aruthrol yw Aled Jones Williams. Mae ei sensitifrwydd a’i brofiad ei hun yn amlwg yn y sgript anfarwol, sy’n disgrifio’r ton o deimladau a ddaw gyda’r salwch mewn modd cynnil, credadwy a chyfunai hynny gyda’i hiwmor ffraeth. Mae gen i biti mawr dros y sawl na chafodd gyfle i brofi’r fonolog hon, boed ar faes yr Eisteddfod neu dros yr haf eleni.

Dyma ap a ddylai fod ar ffôn symudol pob myfyriwr. Pam? Wel, mae’r ap hwn yn caniatáu i fyfyrwyr prifysgol gael gostyngiad mewn amryw o siopau – heb orfod prynu cerdyn NUS. Does ’na ddim proses gofrestru gymhleth a does dim angen i chi dalu ceiniog – dim ond creu cyfrif ac yna byddant yn gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif e-bost prifysgol, er mwyn cadarnhau eich bod yn fyfyriwr. A dyna ni. Mae’r gwahanol ostyngiadau sydd ar gael yn wahanol ar gyfer pob siop. Er enghraifft, mae modd cael 10% i ffwrdd yn Topshop/Topman a New Look, hyd at 15% i ffwrdd yn Apple, hyd at 20% i ffwrdd yn Currys PC World a 50% i ffwrdd wrth brynu Spotify Premium. Mae’r rhestr o siopau/cwmnïau yn tyfu bob mis, gyda Hollister a Lazy Oaf ymysg y rhai diweddaraf i ymuno ag UNiDAYS. Ceir hefyd adegau (fel dechrau’r flwyddyn academaidd!) pan mae ambell gwmni’n codi maint y gostyngiad am gyfnod. Os nad ydy eich cerdyn myfyriwr gennych, bydd yr ap yma yn gwneud y tro. Os ydych eisiau defnyddio’r gostyngiad i gael arian i ffwrdd ar-lein, bydd yr ap yn darparu côd arbennig, sy’n unigryw i chi, a gellwch ei roi yn y blwch perthnasol wrth gwblhau’ch archeb. Mae’r ap yn grêt ac yn hanfodol i unrhyw fyfyriwr (a shopaholic)! Mae o am ddim, yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn ffordd o arbed llwyth o arian. Be gewch chi well?

Elin Haf Owen

FLING

Ap tebyg i ‘Snapchat’ ydi ‘Fling’, ond yn hytrach nag ychwanegu’ch ffrindiau a gyrru lluniau a fideos atynt, mae’r lluniau a’r fideos yn cael eu gyrru at tua 50 o bobl ar hap o amgylch y byd, yna mae ganddynt ddewis eich ateb ai peidio. Dim ond tair seren ydw i wedi’i roi i’r ap, oherwydd er ei fod yn syniad da, does dim dewis at bwy ydych chi’n gyrru’r lluniau, ac mae’r syniad yn rhy debyg i’r ap poblogaidd ‘Snapchat’, ond heb allu cael sgwrs gall efo neb mewn gwirionedd!

Nike Running Mared BerthAur Ap i unigolion sy’n rhedeg yn amlwg yw’r ap, wedi’i greu gan y cwmni chwaraeon byd enwog, Nike. Pam dewis yr ap hwn? Yn gyntaf, mae’n rhad ac am ddim sydd wastad yn fonws i fyfyriwr tlawd fel finnau. Yn ail, mae’n gymhelliant gwych i gychwyn rhedeg neu i fonitro’ch perfformiad a’ch datblygiad. Sut y mae’n gwneud hynny? Yn syml oll mae’n cyfri’r nifer o galorïau yr ydych yn ei losgi, nodi’r pellter, cyfartaledd eich cyflymder a chyflwyno map o’r daith a redwyd gennych. Ac y trydydd rheswm? Y nodwedd ‘coach’ sydd ar gael. Golyga hyn fod yr ap yn cynnig hyfforddiant dyddiol ar eich cyfer i’ch paratoi at ras er enghraifft. Yr unig air i ddisgrifio’r ap: GWYCH!


...Adolygiadau 23

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Cerddoriaeth: o Green Man i Gaernarfon...

hamddenol â iddi naws indie a phaganaidd, sy’n gweddu i’r Siân Davenport a dim i’w lleoliad a’r gerddoriaeth. Gyda llu o lwyfannau, roedd Nonni Williams digon o ddewis ac amrywiaeth yma. Braf oedd cael clywed artistiaid tu hwnt i’r brif ffrwd, fel Nick Mulvey, Georgia Ruth, Daughter, Bill Callahan a First Aid Kit. Rhoddwyd anogaeth i fandiau Cymreig Wedi haf diwyd o grwydro a mwynhau, Gŵyl y Dyn Gwyrdd ifanc fel Sen Segur a 9bach; oedd yr hafan oedd ei angen! Mae’r ŵyl hon yn cynnig cyfle serch hynny, ac eithrio ambell i ymlacio yng nghwmni teulu a ffrindiau o bob oedran, ac arwydd, neu weld y Bannau yn ôl y band ifanc poblogaidd, Sen Segur, dyma’r ‘wŷl ore uwchlaw’r prif lwyfan, digon sy’ ne’. hawdd fyddai anghofio mai Os mai gŵyl wyllt, a dawnsio fel cangarŵ cynddeiriog yng Nghymru oeddech ar sydd gennych mewn golwg, adegau. cadwch draw. Gŵyl y Dyn Diolch byth, fe gadwodd Gwyrdd yw’r lle i fod yn y glaw i ffwrdd, a pha ffordd hollol rydd i wisgo a gneud be well i wynebu’r oerni canol liciwch heb i neb ddeud dim! nos, na sipian ar goffi neu de gyda mymryn o ‘gic’ iddo, Mae digonedd o stondinau yng ngwres y cwmni a’r goelcerth? Yn bendant, rhinwedd dillad, crefft a blancedi, sydd orau’r ŵyl oedd agwedd frawdol ac ystyriol y gynulleidfa. yn gwneud yr ŵyl yn un Edrychwn ymlaen at fynd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Gig: Y Ffug, Castro ac Y Cledrau Lora Lewis Heb amheuaeth, mae gigau 4a6 yn boblogaidd iawn, boed ymysg pobl ifanc neu oedolion. Mae Caernarfon wedi croesawu cerddoriaeth o bob math - o’r Bandana i Yws Gwynedd, o Arfon Wyn i Sŵnami. Ond noson tra gwahanol oedd Mehefin y 6ed, gyda thri band ifanc yn serennu. I ddechrau, cawsom wledd a hanner gan Y Cledrau o’r Bala. Er eu bod yn adnabyddus i rai yn barod, eu hymddangosiad cyntaf yn gyhoeddus oedd ar Cân i Gymru eleni, ond erbyn hyn maent wedi teithio dros Gymru a thu hwnt yn rhannu eu cerddoriaeth, yn mynd o ‘steddfoddau i drefi gwahanol yn gigio. Band sy’n cael eu gosod o fewn genre indie-roc yw’r Cledrau, sy’n cyfansoddi caneuon gwreiddiol eu hunain a hynny ym Mala yng nghartref Marged, Joseff neu Ifan, neu yn Sir Fôn, lle mae Alun, aelod

arall o’r band, yn byw. Daeth alaw adnabyddus Agor y Drws i’n swyno, ac o fewn dim roedd y gynulleidfa yn fud, yn chwifio eu breichiau ac yn canu’r geiriau teimladwy. Dywedodd Ifan eu bod “dal yn llawn cynnwrf ar ddiwedd y noson”, a’i fod bron yn ystyried y gig fel un “hanesyddol”

ym mhrofiadau’r Cledrau. “Roedden ni’n chwarae i wynebau newydd yn y gynulleidfa, ond roedd yr un hen awyrgylch gartrefol yn bodoli” meddai eto. Dim ond dau aelod oedd gan Castro o Landeilo oherwydd argaeledd y band, ond roedd safon y gerddoriaeth

yn arbennig. Ers cychwyn y band, maent wedi cystadlu ym Mrwydr y Bandiau, wedi cyhoeddi EP ac wedi ennill lle i berfformio yng Ngwyl EHZ yng ngwlad y Basg. Mae dylanwad pync y 70au hwyr yn gryf arnynt, ac mae eu caneuon megis Anifeiliaid a Ddim yn Poeni am y Bobl yn profi hynny. Yn olaf i’r llwyfan oedd Y Ffug o Sir Benfro, ac heb os nac oni bai dyma gadarnhad mai hon oedd y gig orau i mi fod ynddi. Daeth Clwb Canol Dre yn fyw, gyda phob un o’r gynulleidfa ar eu traed. Mae’r Ffug yn mynd o nerth i nerth ers ennill Brwydr y Bandiau, ac mae’r aelodau ifanc yn mwynhau pob eiliad. Yn ôl Iolo, prif leisydd y band, dyma un o’r gigiau orau iddo’i wneud. “Ges i’r buzz mwyaf wrth weld pawb yn canu ein geiriau ni, ‘odd e’n anhygoel”, dywedodd Iolo. Mae’r bechgyn yn cael eu dylanwadau’n bennaf gan fandiau megis The Cure a’r Smiths, ac

yn cael eu hadnabod fel y Datblygu newydd. “Fy mhrif ddylanwadau yw Led Zepplin a Jimmy Hendrix, felly mae cyfuno dylanwadau pob un ohono’ ni i greu cerddoriaeth hollol newydd yn brofiad anhygoel”. Maent yn tynnu sylw a chreu argraff wrth ysgrifennu geiriau gwrthryfelgar, gyda theitlau caneuon megis ‘Anghofiwch Dryweryn’. Daeth y noson i ben, a phob un wan jac o’r dorf yn awchu eisiau mwy - cadarnhad pendant bod y sîn roc Gymraeg mor fyw ag erioed. Gnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd i un o’r nosweithiau 4a6 y tymor yma - chewch chi mo’ch siomi!


24 ...Cerddoriaeth

Maes

Y LLEF | Rhifyn yr Glas 2014

B

Gethin Griffiths aeth i ganolfan yr ifainc yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ran Y Llef

Er yr ansicrwydd am y tywydd, problemau gyda’r bysus a lladrad yn y brif fynedfa, llwyddodd yr Eisteddfod i oresgyn y rhwystrau hyn gydag arlwy lwyddiannus ar gyfer yr ifanc eleni. Fel pob Eisteddfod arall, roedd yr wythnos yn argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ar gyfer y sîn roc Gymraeg, ac yn sicr cyflawnwyd y disgwyliadau hynny. Digon hawdd oedd deall pryderon rhai ynglŷn â thebygrwydd arlwy Maes B i’r hyn a gafwyd yn Ninbych yn 2013, ond cafwyd ambell syrpreis annisgwyl ar y maes Ieuenctid i brofi’r beirniaid hynny yn anghywir. Nid oedd angen arbenigwr i broffwydo y buasai perfformiadau’r bandiau mwyaf, fel Candelas, Sŵnami a’r Ods yn llwyddo i blesio’r gynulleidfa ifanc, ac er ein bod yn gwybod yn union beth i ddisgwyl, cafwyd ambell dueddiad anghyfarwydd ganddynt. Gan nad oedd y grwpiau hyn wedi rhyddhau rhyw lawer ers yr Eisteddfod ddiwethaf, roedd yn rhaid iddynt gynnig rhywbeth newydd wrth berfformio’r caneuon yr ydym wedi bod yn eu canu am y flwyddyn. Llwyddodd yr Ods, band olaf y noson gyntaf, i wneud hynny drwy berfformiad ‘trymach’ ei sŵn a’i arddull, a rhoddwyd blas newydd i’r hen ganeuon. Llwyddodd Candelas, y band o Feirionnydd, i blesio eu cefnogwyr brwd drwy

roi sioe glywedol arbennig ymlaen – un uchafbwynt yn benodol oedd eu fersiwn llinynnol o Anifail i agor set olaf y nos Wener a achosodd i’r gynulleidfa gyffroi’n lân. Nid oedd Sŵnami, a gafodd y fraint o gloi digwyddiadau Maes B, yn fodlon dod yn ailPluiddynt wrth gwrs, a chafwyd perfformiad gweledol syfrdanol trwy eu sioe oleuo a’u fideos pwrpasol a dorrodd dir newydd i’r ŵyl. Hefyd, llwyddodd y grŵp i ehangu eu set drwy gydweithio â cherddorion eraill, ac roedd eu perfformiad annisgwyl o Adar y Nefoedd gan Swci Boscawen gyda Casi Wyn yn un o uchafbwyntiau

mwyaf yr wythnos i lawer. Er hyn, i lawer o drigolion dros dro’r maes pebyll, y grwpiau llai adnabyddus, megis Y Ffug, Yr Eira ac Yr Ayes, a roddodd y syrpreis mwyaf iddynt. Cafwyd perfformiad

hynod egno ï l a chaneuon pync crafog gan Y Ffug, sydd yn prysur ddod yn enw adnabyddus yn y sîn gyda’u safbwyntiau gwleidyddol cryf a’u datganiadau heriol fel ‘Anghofiwch Dryweryn’. Crëodd yr Eira a’r Ayes, dau grŵp o ardal Bangor sydd yn rhannu rhai o’r aelodau â’u gilydd, argraff ar y gwrandawyr hefyd, gyda pherfformiad cymharol brin gan yr Ayes o set o ganeuon pop bachog a chofiadwy yn plesio’u ffrindiau a ddaeth i’w cefnogi. Nid oedd yn syndod i selogion y sîn bod set yr Eira yn un o’u goreuon eto, gyda pharhad yn eu tueddiad o wella’n sylweddol gyda phob perfformiad. I’r rhai sydd yn gwrando ar Peace, roedd yn hawdd clywed eu dylanwad ar eu cerddoriaeth, ac i unrhyw gefnogwr yr Eira, mi’r ydw i’n argymell yn fawr iddynt fynd i wrando arnyn nhw! Nid oes modd crynhoi holl orchestion Maes B mewn erthygl gryno, ac mae llawer mwy i’w glodfori am lwyddiant yr Eisteddfod unwaith eto. Mae hynny’n profi gorchest ein gŵyl ddiwylliannol fwyaf felly! Ymlaen a ni i Faldwyn!


25 ...Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Siân Esmor o Ganolfan Bedwyr wedi ei phenodi’n Diwtor Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor. Efallai bod rhai ohonoch yn ei hadnabod - mae Siân wedi bod yn gweithio fel Tiwtor Iaith yng Nghanolfan Bedwyr ers pedair blynedd, gan ddysgu ar fodiwlau i israddedigion ac ôl-raddedigion o’r cychwyn. Bu hefyd yn dysgu ac yn asesu myfyrwyr a fu’n sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhan fawr o’i gwaith o hyn ymlaen fydd paratoi myfyrwyr at sefyll arholiad y Dystysgrif. Mae’r Dystysgrif Sgiliau Iaith yn gymhwyster cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod gan dros 200 o wahanol gyflogwyr, ac yn profi gallu myfyrwyr i weithio’n gywir ac effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. “Mae unrhyw un sydd wedi ennill ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg yn mynd i orfod ymgeisio am y Dystysgrif yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol,” dywedodd Siân, “ond does dim rhaid i chi fod wedi cael ysgoloriaeth i fynd amdani – mae’n agored i unrhyw fyfyriwr sy’n cofrestru i fod yn aelod o’r Coleg. Mae’r cyfan am ddim, felly os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl, does gennych chi ddim byd i’w golli – ac rydw innau, a gweddill tîm yr Uned Gloywi Iaith, yma i helpu.”

“Mae byd gwaith wedi newid yn sylweddol ers i mi ddod i Fangor i astudio, flynyddoedd maith yn ôl. Mae’n gystadleuol tu hwnt, ac mae pob un cymhwyster y medr rhywun ei ennill yn help tuag at sicrhau swydd.” Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig modiwlau datblygu sgiliau iaith ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, yr ail a’r drydedd ac yn cynnig modiwl ôl-radd hefyd. Yn ogystal â chynnig elfennau o loywi iaith, mae’r modiwlau’n dysgu sgiliau mwy ymarferol fel crynhoi, trawsieithu a gwneud cyflwyniadau llafar. “Weithiau mae myfyrwyr yn dod atom ni’n siarad Cymraeg yn hollol rugl a hyderus, ond yn fwy ansicr ynglŷn â’u Cymraeg ysgrifenedig, yn enwedig o safbwynt termau Cymraeg eu maes,” meddai Siân. “Rydyn ni yma i’w helpu nhw i drafod eu pynciau’n fwy hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Ydych chi’n cychwyn ar eich blwyddyn gyntaf yma ym Mangor eleni? Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio rhai modiwlau o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg? Neu ydych yn dymuno astudio’ch cwrs cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg? Neu efallai y byddai’n well gennych beidio astudio unrhyw agwedd o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg? Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn cyrsiau gwahanol. Mae nifer o resymau pam fod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol i chi yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, a dyma rhai ohonynt: · Mae astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd mewn prifysgol yn agor pob math o ddrysau i chi · Mae'n bwnc deinamig ac amrywiol sy'n rhoi'r cyfle i chi ddatblygu nifer o sgiliau angenrheidiol mewn byd gwaith, ac yn eich paratoi at ystod eang o yrfaoedd. · Er bod y Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop, mae'r Gymraeg yn gyffrous o gyfoes gan fod dwyieithrwydd yn hanfodol ar gyfer y Gymru ohoni · Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn eich annog i gael mwynhad o uchafbwyntiau'r diwylliant Cymraeg cyfoethog sydd mor allweddol i hunaniaeth y genedl. · Gallwch fanteisio ar y cyfle o gael ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod eich blynyddoedd yn y brifysgol, a fydd o gymorth mawr i unrhyw un. Gall ddilyn modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg agor llu o ddrysau i chi, a gall fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod eich gyrfa yn y dyfodol. Felly os ydych chi’n frwdfrydig i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma i chi fel cefnogaeth. Pwy a ŵyr pa fanteision ddaw ohoni?


26 ...Ffasiwn

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Y DYN GWYRDD Eleni, roedd gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog yn dathlu ei ddeng mlwyddiant. Aeth Siân Davenport a Nonni Williams i’r wŷl ar ran Y Llef, a chymryd y cyfle i fusnesu ychydig be oedd pobl yn eu gwisgo. Dyma rai o’r tueddiadau amlycaf a ddaeth i’w sylw:

Y PONSIO:

Ymarferol, yn ogystal â ffasiynol! Efallai bod rhaid addasu ychydig rhwng ponsio y gwyliau a’r ponsio sy’n dderbyniol eu gwisgo ar y stryd fawr; ond wrth i’r Gaeaf agosau, disgwylir gweld llawer mwy o’r ponsio a’r clogyn hefyd.

£18, ASOS

£20, ASOS

Ffasiwn...

PAENTIO WYNEBAU:

Dros yr haf mae paent y wyneb a gemau hindŵaidd ar y talcen wedi bod yn ffasiynol yn y gwyliau. Tydi colur trwm ddim yn ymarferol tra’n aros mewn tent! Yn hytrach, colur ysgafn ac ychwanegu paent neu gem i greu sydd orau. Dilynai pobl fel Pixie Lott, Drew Barrymore a Joey Essex y duedd yma! Mae patrymau blodeuog, llwybr dotiau a sêr wedi bod ymysg y mwyaf poblogaidd.

Y SBECTOL:

Gyda naws ‘hipïaidd’ yr ŵyl, nid oedd syndod gweld y sbectol haul gron, wedi’i seilio ar sbectol yr eicon o’r 60au, yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni.

‘CHOKERS’:

Wrth i’r ffasiwn gothig ffynnu, gwelir cadwyni ‘chokers’ y 90au yn dychwelyd. Wedi ei wisgo orau mewn cyfres gyda chadwyni eraill.

£12.50, TOPSHOP

Er fod y gogwyddiadau hyn i’w gweld yn yr ŵyl, fel sawl gŵyl arall eleni, nid oedd gwisg unffurf. Un o rinweddau amlycaf yr ŵyl oedd y rhyddid i wneud, a gwisgo fel a fynnoch, a hynny’n ddi-ragfarn. Mae’n debyg ein bod ni’n rhan o’r lleiafrif yno oedd yn mynd o’n ffordd i sylwi be oedd gan eraill amdanynt... a hynny’n deimlad braf a hamddenol iawn.


...Ffasiwn 27

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014 Mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i fandiau newydd yn ogystal. Ymysg yr artistiaid a fu’n perfformio ar lwyfan ‘Greenman Rising’ eleni, oedd y pedwarawd o Gonwy - Sen Segur. Cawsant eu cyflwyno i’r gynulleidfa brynhawn Sadwrn fel “one, if not the biggest band in Wales right now”. Roeddem yn awyddus felly i gael gwybod os oedd eu gwisgoedd mor ddylanwadol â’u caneuon...

Holi Sen Segur...

A ydych yn teimlo pwysau i ddilyn ffasiwn? - Na, dim felly... jest ‘joio, a gwisgo be ‘dan ni isio. Ydych chi’n meddwl y telir digon o sylw i ffasiwn bechgyn? - Mae mwy o bwysau ar ferched – ffasiwn merched ydi pob dim dyddia ‘ma... dillad merched ‘di rhai o’r petha sy’ gennyn ni ‘mlaen ‘wan! Be ydych chi’n feddwl o’r ŵyl? - “ffantastic! Yr ŵyl ora sy’na!” O ble y cawsoch eich dyngarîs? - ASOS, o’r adran merched!

Dyngarîs: ASOS, £45

CRYSAU PATRYMOG: Mae’r crysau patrymog yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, i ferched a’r bechgyn. Fel cenhedlaeth hiraethus, ein tuedd yw dwyn ac addasau o’r gorffennol. Ar y stryd fawr, mae’r duedd hon yn amlwg, gyda gogwyddion ffasiwn gydol y ganrif ddiwethaf yn cael eu hailgylchu’n eang. O flodau’r ‘60au, i batrymau amrywiog y ‘90au; mae’r crysau patrymog yn tystio hyn. Peidiwch â bod ofn mentro.

RIVER ISLAND, £25

20% i ffwrdd yn River Island gyda chylchgrawn ELLE mis Hydref!

Siaced denim ‘l vintag evi’ e The St , £45. e Bouti llar que.

1

Am grysau mwy unigryw, pediwch a chyfyng eich hyn i’r stryd fawr yn unig. Mae’r wefan thestellarboutique.com yn rhoi sylw i ffasiwn bechgyn a merched, gan gynnig dillad vintage o ystod eang o ddegawdau. Tydi’r prisiau ddim yn afresymol ‘chwaith, gyda crysau dynion ar gael am £17 - a rheiny’n hollol unigryw, gan mai ond un sydd ar werth yn aml iawn.

Os ychydig yn swil, gellir tawelu’r patrwm, wrth ei wisgo hefo jeans tywyll a siaced denim.

2

1) TOPMAN, £32 2) ASOS, £39 3) ASOS, £25

3

‘90au


28 ...Ffasiwn

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Ffasiwn... Cwestiwn pwysig ym myd ffasiwn yr Haf hwn oedd pwy oedd yn gyfrifol am ddylunio ffrog briodas Angelina Jolie, pan briododd ei phartner, Brad Pitt, 23 Awst yn Ffrainc. Y dylunydd Eidaleg, Donatella Versace gafodd y fraint o’i chyd-ddylunio hefo Angelina. Mae Donatella yn berchen ar 20% o werth Atelier Versace ac yn brif ddylunydd i’r cwmni. Ffrog seml, osgeiddig, ifori, gyda rhan y corff yn eistedd yn daclus, strapiau tenau, ac yna’n disgyn yn draddodiadol ar ei allan. I gyd-fynd, pymps sidan gwyn. Modrwyau syml a thraddodiadol sydd gan y ddau. Roedd y llen (vail) fodd bynnag yn dra gwahanol, ac arno luniau amrywiol gan eu plant. Pob hwyl iddynt yn eu bywyd priodasol.

‘Ieit h Elen oedd i baw i m a b dos bart e’r Br ’: ifys am d hiad go a gan dim! Sgi u iaith l yn l cynn n a eir yn ehan agor ig r a h l a i en gu gor drysau lan o ff d ac w n diwy asiwn, Cyfl ill pwyn elion, a llian oga t i ch au a d dos r gy yfle h nol, bart wyedd ef fe chw h (GCB r y W yd e i iadau obr ). a n Eida leg, ith: Ff os yw M ae’r (Man rang cael S ar y darin) a baeneg eg, Alm mewn , J aene cyfl e! Bo apanëe g, T s i g e nne . chan Mante inëeg isiw ce! ch

Y Sgert Fer...

Un o ddillad mwyaf nodweddiadol yr 1960au, oedd y sgert fer, neu’r Mini skirt. Wedi ei henwi ar ôl hoff gar ei dylunwraig, daeth y sgert yn symbol o ryddid ieuenctid drwy werthu rhywioldeb, a herio’r awdurdod foesol. Cyn hynny, er i’r sgert ‘fini’ fodoli, roedd wedi ei chyfyngu i’r byd dawns neu chwaraeon; ond daeth Mary Quant a hi i’r stryd fawr. Y tymor hwn, mae’r sgert mini, a’r micio-mini, yn parhau yn lond y siopau. O batrymau amrywiol, sgertiau lleder i’r siec pletiog; mae digonedd o ddewis! Gellir chwilio am ychwanegiadau fel y toriadau anghymesurol, lês, neu hem sgolop ar ‘Twiggy’ - coesau waelod y sgertiau, er mwyn dennu sylw ychwanegol at goesau main!

Mary Quant

main y ‘60au

Er iddi gael ei geni a’i magu yn Llundain, Cymry oedd ei rhieni, ac wedi symud i Lundain fel athrawon. Cafodd Mary yrfa hynod lwyddianus fel dylunwraig, gan gymryd clod hefyd am yr ‘hotpants’ a’r teits lliw, cyn symyd ymlaen at y byd cosmetig yn ddiweddarach. Cafodd ei hurddo gan Elisabeth II am ei chyfraniad i ffasiwn, a rhoddodd un o ohebwyr ffasiwn amlycaf y ‘50au a’r ‘60au- Ernestine Carter, yn yr un dosbarth a Channel a Dior!


...Ffasiwn 29

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

£20, ASOS

... Y sSgert Fer

£40, TOPSHOP

£17.99, New Look

£38, Urban Outfitters

£35, Miss Selfridge

Pan ddaw’r tywydd yn rhy oer i fentro’n goesnoeth allan mewn sgert; gyda chôt gynnes a siwmper, nid oes angen cadw’r sgert fer eto...

1

Mewn tywydd mor annarogan, cawodydd trymion, a’r gwres yn parhau’n uchel; da yw gweld y cotiau glaw ysgafn yn dod yn ôl yn ffasiwn. Perffaith ar gyfer tymor yr Hydref.

3

4

2

3

y‘TRENCH COAT’.

1) ASOS, £35 2) ASOS, 35 3) TOPSHOP, £52 4) NEW LOOK, £19.99

Alexa Chung yn gwisgo’r gôt Burberry, £1,195. NET-A-PORTER

£39.99, H&M Ym mis Awst eleni, bu farw un o fawrion ôl-ryfel Hollywood, Lauren Bacall, yn 89 mlwydd oed. Daeth yn un o brif iconau ffasiwn yr Ugeinfed Ganrif, ac iddi hi mae’r diolch am boblogeiddio’r gôt ffos, neu’r ‘Trench Coat’ fel eitem ffasiwn fenywaidd. Ganrif wedi dechrau’r Rhyfel Mawr, er iddi newid ysgwyddau o swyddogion uchaf y fyddin, i ysgwyddau main y catwalk, mae’r gôt dal o gwmpas. Yn glasur ffasiwn a welir yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gellir ei phrynu’n ddi-edifar, gan wybod y bydd yr un mor ffasiynol am Aeafau i ddod.


30 ...Arbennig

Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014

TAITH WIRFODDOL CERI Ceri Lewis Yn ystod gwyliau’r haf eleni bues i ddigon lwcus i deithio draw i Ghana i dreulio mis yn dysgu mewn ysgolion cynradd. Gan fy mod yn hyfforddi i fod yn athrawes ac ar fin cychwyn ar fy mlwyddyn olaf, roedd yn gyfle da i mi gael gwneud yr hyn yr ydw in ei fwynhau tra hefyd yn cael gweld ychydig mwy ar y byd. Gwlad wedi ei lleoli yng ngorllewin Affrica ydi Ghana ac mae iddi boblogaeth o tua 27 miliwn. Pob blwyddyn mae oddeutu 70,000 o brydeinwyr yn ymweld â’r wlad, ac ym mis Mehefin, roeddwn i a fy ffrind Rachel yn ddwy Gymraes fach yng nghanol y ffigwr mawr hwnnw. Penderfynais fynd i Ghana yn dilyn profiad arbennig yn Uganda yn 2012, tra’n ffilmio rhaglen ddogfen ‘newid byd’ gydag s4c. Treuliom dair wythnos brysur yn gwirfoddoli law yn llaw a nifer o elusennau gwerth chweil megis Child of Hope, Size of Wales a Pont, yn un o ardaloedd tlotaf y wlad sef Slum Namatala yn Mbale. O brofi’r tlodi enbyd a’r dioddefaint diangen, a sylweddoli breuder bywyd y bobl leol y tro hwnnw, roeddwn i, a Rachel, yn benderfynol na fyddwn yn anghofio’r tristwch a welsom ac a deimlom, ac yn sicr ein bod am ddychwelyd i Affrica yn y dyfodol agos er mwyn cael cynnig help llaw unwaith eto. Yr un golygfeudd yn union a oedd yn fy nisgwyl wrth gyrraedd Ghana ac yr oedd pan cyrhaeddais Uganda – plant bach heb esgidiau ar eu traed yn chwilota mewn tomen sbwriel gyfagos am damaid i fwyta, merched

yn cerdded o gwmpas gyda basgedi ffrwythau ar eu pennau yn ceisio ennill ceiniog neu ddwy, aelwydydd wedi eu creu o fwd a phren , a llwch oren ymhobman. Ond er nad dyma fy mhrofiad cyntaf o weld y fath dlodi, fe darodd mi i’r byw unwaith eto, a theimlais yr un hen gnoi yn fy mol wrth ei chael hi’n anodd i dderbyn bod y ffasiwn le yn bodoli yn y byd , yn wir, roedd rhaid i mi ysgwyd fy hun er mwyn dygymod â’r ffaith nad set deledu i ffilm drist oedd f ’amgylch, ond yn hytrach, gwlad a chartref i filoedd o blant a phobl. Dysgu oedd fy her i am y bedair wythnos tra bod Rachel yn nyrsio mewn ysbyty cyfagos. Roeddem yn byw yn ardal Mpraeso yn ystod ein cyfnod, mewn tŷ sylfaenol heb ddŵr rhededog , na chawod na thoiled. Yn wir, roedd ymolchi yn Ghana fel cyflawni’r ‘ice bucket challenge’ yn ddyddiol, ond ar ôl ambell ddiwrnod, daeth y bwced o ddŵr oer a oeddem yn ei ofni yn un o’n moethau mwyaf. Roedd yr haul yn danbaid, yr aer yn boeth ac awel yn beth prin iawn.

Roedd dysgu yn yr ysgolion lleol yn brofiad cyffrous iawn, ond ar yr un pryd, yn heriol. Rydym ni yma yng Nghymru yn ddigon ffodus i gael stôr o adnoddau a cymorthyddion dysgu gwerth chweil sydd yn ysgogi ac yn cyfoethogi gwersi, mae gennym fynediad i’r we ac mae technoleg yn datblygu yn gyflym iawn; doedd dim o hyn yn Ghana. Prin iawn oedd gweld papur neu bensil, ambell lyfr oedd o gwmpas y dosbarth, a meinciau pren wedi’u gwneud â llaw a bwrdd du oedd yr unig ddodrefn yn bresennol. Roedd y dysgu’n

draddodiadol tu hwnt, gyda’r ffocws i gyd ar yr athro â’r disgyblion yn gwrando. Roedd disgyblaeth yn cael ei reoli â chansen, rhywbeth sydd erbyn hyn yn llwyr annerbyniol yma i ni. Gyda chefnogaeth teulu a ffrindiau roeddwn wedi casglu toman o adnoddau i gyfrannu i’r ysgolion, ac roedd gweld y plant yn cael modd i fyw wrth arbrofi a chwarae gyda’r ddarpariaeth yn fendigedig.

Roedd cael mynd i’r ysgol yn fraint ac nid yn boen i’r plant yn Ghana, a bob un am y gorau i gael arddangos eu cyffro ynglŷn â’u gwaith, a hynny er eu bod wedi cerdded milltiroedd i gyrraedd y dosbarth, wedi codi ers oriau mân y bore er mwyn helpu adref, neu’n teimlo’n sâl ac yn brwydro â malaria. Roedd stori pob un yn wahanol , a’r stori honno yn amlach na pheidio yn fy syfrdanu ac yn gwneud i mi sylweddoli, dro ar ôl tro, ein bod ni’n ei chael hi’n braf iawn, ac yn hynod o ffodus o fod mor freintiedig. Er fy mod wedi derbyn llawer o gefnogaeth a dymuniadau da cyn cychwyn ar fy nhaith, nid pawb oedd mor gadarnhaol gan gwestiynu i be oedd angen mynd i Ghana i wirfoddoli pan mae plant a phobl ifanc yn dioddef yn llawer iawn nes at adref. Fel un sy’n gwirfoddoli gyda GMB, Cruse a Childline, rydw i o blaid cefnogi o fewn ein milltir sgwâr ein hunain , ond o fyw yng nghanol y tlodi yn Uganda yn 2012 a Ghana eleni, anodd iawn ydi hi i mi weld lygaid yn llygaid ag unrhyw un a fyddai’n gwadu ceisio ysgafnu ychydig ar angen y trydydd byd, gan fod yr angen hwnnw tu hwnt i unrhyw fath o angen yr ydym ni’n gyfarwydd ag o.


Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

...Chwaraeon 31

Taith Feicio Lwyddianus Ilan

Iolo Roberts

Fel mae myfyrwyr yr 2il a’r 3ydd flwyddyn yn gwybod yn barod ers llynedd, roedd Ilan Wyn Davies yn paratoi at daith feic er cof am ei Dad Bryan Yogi Davies er mwyn codi arian tuag at Glwb Rygbi’r Bala. Fe gwblhawyd y daith honno ddiwedd Gorffennaf gyda’r criw yn cyrraedd Llanelli ar yr 2il o Awst sef diwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol. Ychydig wythnosau yn ôl cefais sgwrs gyda Ilan er mwyn cael clywed ei sylwadau ynglŷn â’r daith honno. Dyma ddywedodd ef “Fe wnaethom ni gychwyn y daith ar Ddydd Mercher y 30ain o Orffennaf gan seiclo o Gaergybi i Borthmadog. Fe gafwyd stop ym Methel ar y ffordd lawr er mwyn i rai cael ychydig o orffwys ac er mwyn cael rhywbeth i fwyta. Roeddem ym Mhorthmadog yn fuan gyda’r nos ac ar ôl gwledd Asiaidd i fwyta fe aeth pobl ati i fwynhau’r noson. Y bore wedyn a gyda rhai pennau’n brifo cychwynnwyd lawr o Borthmadog gyda’r bwriad o gyrraedd Aberystwyth. Cafwyd cinio yng Nghlwb Rygbi Dolgellau er mwyn cael egni am weddill y beicio’r diwrnod hwnnw.

Cyrhaeddwyd Clwb Rygbi Aberystwyth tuag amser swper gyda barbeciw wedi ei drefnu i gefnogi’r digwyddiad. Roedd Dydd Gwener yn mynd a ni o Glwb Rygbi Aberystwyth i Glwb Rygbi Crymych gyda stop yng Nghlwb Rygbi Aberaeron. Fe wnaeth Rhys Williams sef cyn cefnwr Cymru ymuno gyda ni am y rhan yma o’r daith. Cafwyd adloniant gan Glwb Rygbi Crymych i gwblhau’r noson ynghyd a gwledd arall. Dydd Sadwrn oedd rhan olaf y daith o Grymych i Lanelli gyda rhai o chwaraewyr y Scarlets sef Phil John, Kirby Myhill, Adam Warren ac Aaron Warren yn ymuno gyda ni am filltiroedd olaf y daith i gaeau’r Eisteddfod. Roedd pawb wedi mwynhau’r profiad ond yn falch o gael gorffen a chael rhywbeth cryf i yfed”. Syniad Tad Ilan oedd hyn ac roedd wedi bwriadu gwneud y daith yn ei gadair olwyn cyn iddo farw’r llynedd. Penderfynodd Clwb Rygbi’r Bala barhau gyda’r syniad gyda’r arian a gasglwyd yn mynd tuag at yr Yogi Foundation ac i gael estyniad i Glwb Rygbi’r Bala sef rhywbeth oedd yn agos at galon Yogi. Hoffai Ilan ddweud pa mor ddiolchgar ydy o i bawb wnaeth gyfrannu ddiwedd blwyddyn ddiwethaf tuag at y daith noddedig yma.

Dadlau yn dod i ben

Iolo Roberts

Ar ôl bron i ddwy flynedd mae’r dadlau rhwng rhanbarthau Cymru ac Undeb Rygbi Cymru wedi dod i ben gyda chytundeb newydd gwerth £60 miliwn wedi ei arwyddo ddiwedd mis Awst. Roedd y rhanbarthau yn anhapus gyda’r cyllid oedd yn cael ei ddarparu ar eu cyfer gan yr Undeb gan arwain at gyfnod o wrthdaro ymhlith rygbi Cymru. Mae’r cytundeb newydd yn golygu bod o leiaf 6 chwaraewr rhyngwladol ar gytundeb deuol gyda’u rhanbarth ac Undeb Rygbi Cymru. Yn ogystal mae’n golygu bod

chwaraewyr yng Nghymru yn cael eu ffafrio pan yw’n dod i ddewis y tim rhyngwladol. Fe fydd y rhanbarthau yn derbyn mwy o arian a bydd tim A Chymru yn dychwelyd yn 2015 ar ôl absenoldeb o 13 mlynedd. Y gobaith rŵan ydi y gellir rhoi’r dadlau yma y tu cefn iddynt gan adael i’r chwaraewyr ganolbwyntio ar eu rhanbarthau ar ddechrau’r tymor cyn iddynt hwy ymuno gyda’r tim rhyngwladol ar gyfer Cyfres yr Hydref. Gyda Chwpan Rygbi’r Byd ar y gorwel y flwyddyn nesaf mae’n bwysig bod y chwaraewyr yn gallu canolbwyntio ar faterion ar y cae fel bod gennym ni’r cyfle gorau i fod yn llwyddiannus yn 2015.

Rygbi yng Ngogledd Cymru ar i fyny Iolo Roberts Mae rygbi yng Ngogledd Cymru ar i fyny gyda Rygbi Gogledd Cymru yn gobeithio adeiladu ar orffen yn drydydd yn eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth drwy gael tymor da eto eleni. Mae’r ffaith bod gemau dan 20ain Cymru wedi eu cynnal ym Mharc Eirias dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod Undeb Rygbi Cymru yn gweld gwerth i rygbi yn y Gogledd a gobeithio bydd hyn yn parhau yn y dyfodol. Gyda rhai o chwaraewyr Rygbi Gogledd Cymru wedi bod yn rhan o garfan Cymru dan 20ain yn ystod y Chwe Gwlad a Chwpan Ieuenctid y Byd mae rhai ohonynt wedi arwyddo i’r Gweilch. Y gobaith yw y bydd rhai o’r chwaraewyr yn cael cyfle ar lefel rhanbarthol ac efallai’n genedlaethol er mwyn sicrhau bod dyfodol disglair i rygbi yng Ngogledd Cymru.

Yr Undeb Athletau Iolo Roberts Fe gafodd Undeb Athletau Prifysgol Bangor flwyddyn lwyddiannus y llynedd. Yn ystod wythnos y Glas bydd cyfle i chi ymuno gyda Chlybiau gwahanol yn ystod Serendipedd ynghyd a meddwl am ymuno gyda’r timau o fewn yr Undeb Athletau fel tim Pêl Droed, Pêl Rwyd neu Hoci'r Brifysgol. Drwy ymuno gyda’r timau gwahanol yma fe fydd cyfle i chi gynrychioli’r Brifysgol mewn nifer o gampau gwahanol yn erbyn Prifysgolion eraill gyda’r rhain yn cymryd lle ar brynhawn Mercher fel arfer. Hefyd fe fydd yn gyfle i chi ddod i adnabod pobl sydd ddim yn rhan o’r Gymdeithas Gymraeg ym Mangor. Fe fu nifer o unigolion o’r 2il ar 3ydd flwyddyn gynrychioli’r Brifysgol y llynedd drwy fod yn rhan o dimau o fewn yr Undeb Athletau. Os oes diddordeb gyda chi i ymuno gyda thîm penodol, yna cerwch amdani ac efallai y cewch chi lwyddiant fel cafodd rhai unigolion y flwyddyn ddiwethaf.


32 ...Chwaraeon

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Llwyddiant i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Iolo Roberts

Llwyddod Cymru i gael llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad a gynhaliwyd yng Nglasgow rhwng Gorffennaf 23ain ar 3ydd o Awst. Er hyn, doedd y paratoadau cyn y Gemau ddim heb ei phroblemau a’i dadleuon. Ar ôl i’r Pencampwyr Becky James, Non Stanford a Helen Jenkins dynnu allan oherwydd anafiadau fe aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Cymry. Cafodd y rhedwr Gareth Warburton ei gyhuddo o dorri rheolau “antidoping” tra methodd yr is-gapten Rhys Williams brawf cyffuriau. Yr ergyd olaf oedd bod y bocsiwr Frêd Evans yn methu a chymryd rhan oherwydd ei euogfarn am ymosod ar rywun yn gynharach yn 2014. Cyn y problemau yma’r targed oedd 27 medal gan geisio curo’r 20fed a enillwyd yn Delhi yn 2010. Y gymnastwraig Francesca Jones oedd yn gyfrifol am gludo’r

HOLI einion

...Chwaraeon

Tîm Pêl Droed UMCB

Ddraig Goch yn y Seremoni Agoriadol a’r seiclwr Geraint Thomas yn y Seremoni Gloi. Er gwaetha’r p ro b l e m a u yn ystod y paratoadau fe lwyddodd Cymru i ennill 36 medal, cyfanswm oedd yn record i ni fel gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad. Y rhai serennodd i Gymru yn y Gemau oedd Francesca Jones a enillodd 6 medal mewn Gymnasteg ynghyd a Gwobr David Dixon am y cyfraniad gorau gan unrhyw athletwr. Hefyd Jazz Carlin a enillodd 3 medal yn y pwll nofio a Geraint Thomas a enillodd 2 fedal yn y Seiclo a hynny ychydig ddiwrnodiau ar ôl cystadlu yn y Tour de France am dair wythnos. Y gobaith rŵan yw bod y rhain yn parhau gyda’r safon yma er mwyn bod yn llwyddiannus yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016 gan gymryd y byddent yn cael eu dewis.

1. Enw llawn Einion ap Llŷr Edwards 2. O ble wyt ti’n dod? Llanuwchllyn

Iolo Roberts Yn dilyn tymor llwyddiannus y llynedd a welodd Dîm Pêl Droed UMCB yn gorffen yn ail yn y gynghrair ac yn cipio Cwpan yr Adran Gyntaf mae’r hogiau yn barod i roi tro arall ar bethau eleni. Gyda nifer o chwaraewyr y llynedd wedi graddio mae’r hogiau sy'n weddill yn bwriadu parhau gyda phobl o’r ail a’r drydedd flwyddyn yn chwarae er mwyn sicrhau bod nifer safonol o chwaraewyr ar gael i’r tîm. Mae croeso i unrhyw un o’r flwyddyn gyntaf sydd gan ddiddordeb mewn chwarae i ymuno a bydd cyfarfod ynglŷn â hyn yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos y Glas. Einion Edwards o’r drydedd flwyddyn fydd capten y tîm eleni gyda Steffan Jackson o’r 2il flwyddyn yn is-gapten.

Cymro yng Nghwpan Ryder

Iolo Roberts Mae’r Cymro Jamie Donaldson wedi llwyddo i gyrraedd tim Ewrop yng Nghwpan Ryder a fydd yn cael ei gynnal ar gwrs Gleneagles yn yr Alban rhwng yr 22ain ar 24ain o Fedi. Ef yw’r Cymro cyntaf i sicrhau ei le yng Nghwpan Ryder ers i Phillip Price chwarae yn nhim llwyddiannus Ewrop o 2002. Pob lwc iddo ef a gweddill tîm Ewrop wrth iddynt geisio parhau a’i record ardderchog yn erbyn Unol Dalieithau America’r ganrif yma sef curo 5 a cholli 1. Gobeithio y caiff ef lwyddiant fel mae Cymry eraill wedi ei gael mewn campau gwahanol eleni.

6. I ba dîm wyt ti’n perthyn? Clwb Pêl Droed Llanuwchllyn

7. Beth ydi dy brofiad gorau yn y gamp? Ennill Cwpan Amsterdam gyda 3. Pa gwrs wyt ti’n ei astudio ym thîm Academi’r Bala Mangor? 8. Beth yw dy lwyddiant mwyaf yn Hanes a Newyddiaduraeth y gamp? 4. Beth ydi dy gamp? Ennill y Gwpan fel yng nghwestiwn Pêl Droed 7 5. Pa safle? Amddiffynnwr Canol neu Ganol Cae

Nyatanga wrth gwrs! 10. Oes rhywbeth neu rywun wedi dy ysbrydoli? Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2004 yn colli yn erbyn Rwsia yn y gemau ail gyfle. 11. Oes gen ti ofergoelion cyn chwarae? Nagoes.

12. Gobeithion am y tymor gyda UMCB? 9. Pwy ydi dy arwr? Gwneud yn dda yn y gynghrair fel Amryw ohonynt sef Ryan Giggs, llynedd a byddai gorffen y tymor Gary Speed, Mark Hughes, Gareth mewn ffeinal yn wych hefyd. Bale, Aaron Ramsey a Lewin


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.