Papur-newydd C y m r a e g Myfyrwyr Bangor
Rhifyn y Gwanwyn 2015
Am Ddim - cymerwch gopi !
CYNULLIAD Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
CANLYNIADAU’R EISTEDDFOD RYNG-GOLEGOL
PROJECT NEWYDD PONTIO
CYFLE I ENNILL: • TAITH DYWYS I DDAU O AMGYLCH SAFLE PONTIO EWCH I DUDALEN 25
Llef Bangor
@y_llef
LLONGYFARCHIADAU I’N LLYWYDD! MANON ELWYN Ar Chwefror 23, cynhaliwyd etholiad er mwyn pennu pwy fydd Llywydd nesaf yr Undeb Cymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor yn ystod y flwyddyn academaidd 2015-2016. Cafwyd ymgyrch frwd rhwng Einir Jones ac Ifan James yn ystod yr etholiad, gyda’r ddau’n cyflwyno araith angerddol yn ystod y noson. A e l o d a u ’ r Undeb Cymraeg yn unig a gafodd y cyfle i bleidleisio, gyda’r dewis i bleidleisio’n ystod y noson ar lein neu yn yr etholiad ei hun. Enillodd Ifan James yr etholiad o saith pleidlais, ac yn ei faniffesto, mae’n addo rhoi cefnogaeth i glybiau a chymdeithasau Cymraeg, cynnal statws y Gymraeg yn y Brifysgol, trefnu digwyddiadau pwysig yng nghalendar yr Undeb Cymraeg yn
effeithiol, sicrhau bod y myfyrwyr Cymraeg yn cael y defnydd mwyaf haeddiannol a theg o adnoddau ac offer Pontio, ac ehangu aelodaeth UMCB er mwyn sicrhau tegwch i bawb. Siaradodd gydag Y Llef wedi’r etholiad, ac meddai: “Rydw i’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, a phob her fydd yn dod yn ei sail. Mae hi wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor eleni, mae’r aelwyd wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Côr Cymru, ac er na enillom yr Eisteddfod Ryng-Golegol, mi wnaethon ni faeddu Prifysgol Aberystwyth yn y cystadlaethau Eisteddfodol, sydd yn hen ddigon i mi! Rydw i’n gobeithio am yr un math o lwyddiant y flwyddyn nesaf, a gwnaf bopeth allaf i gyflawni hyn. Pob lwc i bawb gyda’u harholiadau, a gwelaf chi i gyd ym mis
Medi.” Yn ogystal â phenodiad Ifan, cafwyd Etholiad Cyffredinol o fewn y Brifysgol i bennu Llywydd ac Islywyddion yr Undeb. Mae’n destun balchder cyhoeddi mai myfyrwraig Gymraeg, Fflur Elin, a gipiodd swydd y Llywydd ar gyfer 2015-2016.
Bydd hi’n cymryd drosodd gan Rhys Taylor, felly mae’n braf gweld y bydd Llywydd dwyieithog arall yn cymryd yr awenau fis Medi. L long yfarchiadau i Ifan, ac i Fflur, a phob lwc iddynt yn eu swyddi newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
2...Cynnwys
Golygyddol Dyma gyflwyno trydydd rhifyn Y Llef, rhifyn y Gwanwyn! Yn y rhifyn hwn, mae’r newyddion diweddaraf yn ogystal ag adolygiadau amrywiol a’r adran ddwyieithog - Yr Hadau, canlyniadau cyflawyn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Aberystwyth, a chyfle i chi ennill gwobr arbennig! Mae hi’n gyfnod anodd i bob un ohonom ar hyn o bryd - mae baich gwaith yn trymhau a therfynau amser traethodau ac asesiadau yn dynn. Efallai fy mod i’n gwybod hynny’n fwy na neb, gwaetha’r modd, a finnau ar ganol ysgrifennu fy nhraethawd hir, ymysg ambell beth arall! Mae’n syndod, felly, fod cynifer o fyfyrwyr wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu i’r rhifyn, ac yn wir, mae’r papur yn mynd o nerth i nerth, diolch i chi gyfranwyr. Diolch i bob un ohonoch, ac wrth gwrs, i’r is-olygyddion sydd wedi fy nghynorthwyo i roi’r rhifyn at ei gilydd. Cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r papur, boed yn gyfrannu, dosbarthu, hysbysebu, dylunio, tynnu lluniau, neu unrhyw beth arall, cysylltwch ar bob cyfrif! Gan obeithio y mwynhewch drydydd rhifyn y flwyddyn, mwynhewch wyliau’r Pasg, gan fawr obeithio bod y tywydd garw wedi mynd am flwyddyn arall! Manon Elwyn Golygydd golygydd.llef@myfyrwyrbangor.com
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Cynnwys: Tudalennau: Newyddion
3-7
Etholiadau
10
Y Gornel Greadigol
12-13
Cerddoriaeth
14
Yr Hadau
16-19
Yr Eisteddfod Ryng-golegol
20-21
Adolygiadau
22-24
Ffasiwn
26-29
Chwaraeon
31-32
4 32
22 29
7
18 27 14 Diolchiadau...
Diolch o galon, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu, trefnu a dylunio cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Diolch hefyd i’r cyfranwyr. Fel arfer, diolch i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media am ei gymorth parod.
Is-olygyddion: Anna Prysor Jones Lora Lewis Siân Davenport Nonni Williams Gruffudd Antur Benjiman Angwin Iolo Roberts
Cyfranwyr:
Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon
Aled Bybs Alun Ffred Jones AC Bethany Lewis Cara Edwards Caryl Bryn Hughes Dion Davies Elin Haf Gruffydd Elin Wyn Hughes
Elis Dafydd Gethin Griffiths Huw Harvey Hywel Williams AS Kimberley Roberts Llio Mai Mared Williams Rhiannon Lloyd Williams
Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Bangor. Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Newyddion... 3
NEWYDDION Cynulliad y Cyhoeddi Pwerau Newydd i Gymru
Llio Mai
Ar Chwefror 27, croeso cymysg a gafwyd gan bleidiau gwleidyddol Cymru i gyhoeddiadau David Cameron a Nick Clegg ar ddatganoli mwy o bwerau i Fae Caerdydd. Bydd Cymru’n cael y grym i benderfynu ar brosiectau ynni mawr, ffracio a threfniadau etholiadau – gan gynnwys pleidleisiau i bobol ifanc 16 oed. Disgrifiwyd y cynlluniau newydd i drosglwyddo pwerau ychwanegol i’r Cynulliad fel un o’r “datblygiadau mwyaf yn hanes datganoli Cymreig”. Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: “Mae’n golygu mwy o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ac y bydd mwy o benderfyniadau’n cael eu cymryd yma. “Dyma yw’r cam diweddaraf i ddod o hyd i setliad parhaol ar draws y wlad i wneud y Deyrnas Unedig yn gryfach a thecach”. “Rydym yn awyddus i gyflwyno
pwerau newydd i Gymru fel bod mwy o benderfyniadau’n cael eu cymryd yn agosach at y bobl a rhoi mwy o gyfrifoldeb i’r Cynulliad Cenedlaethol – sy’n golygu bod y rhai sy’n gwario arian trethdalwyr yn fwy cyfrifol am ei godi.” Yn ogystal â’r pwerau ychwanegol hyn, cyhoeddwyd y bydd cynlluniau ariannol hefyd yn cynnwys gosod isafswm a fyddai’n gwarantu na fyddai cyllid Cymru yn disgyn o dan lefel benodol o’i gymharu â rhannau eraill o Ynysoedd Prydain. Ond er bod y penderfyniadau hyn yn newyddion da i Gymru, siom a gafwyd ar y cyfan. Mae’r cynigion yn parhau i fod yn llai nag oedd wedi ei argymell gan ail ran Comisiwn Silk ac yn llawer llai na’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban. Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, ei fod yn croesawu’r cyhoeddiadau mewn rhai “meysydd penodol”, ond ei fod yn anhapus nad
oedden nhw’n mynd mor bell â rhai Llafur mewn meysydd eraill: “Dyw’r cynlluniau yma ddim ond yn mynd rhan o’r ffordd tuag at gyrraedd cynnig datganoli Llafur y mae Ed Miliband wedi ei gyflwyno, ond dydyn nhw ddim yn mynd ddigon pell mewn rhai meysydd allweddol – fel yr heddlu.” Ychwanegodd y dylai Cymru “gael ei thrin gyda’r un parch â’r Alban”. Dyma ymateb Leanne Wood i’r cyhoeddiadau: “Am resymau nas esboniwyd yn foddhaol [...] mynnodd San Steffan fod pobl Cymru yn ymfodloni ar becyn o bwerau sy’n hynod brin o’r gyfradd ddatganoli gyfredol yn y Deyrnas Gyfunol. Er ein bod yn croesawu rhai elfennau a gynhwyswyd, megis datganoli pwerau dros ffracio, mae’r papur gorchymyn hwn yn ddiffygiol iawn o’r pwerau all ein helpu i gryfhau ein cymunedau. “Ac nid yw’n mynd yn agos at gael y setliad cyllido sy’n ddyledus i
Gymru wedi degawdau o anfantais.” Daeth y cyhoeddiad hwn ar bwerau ychwanegol i’r Cynulliad o ganlyniad i ymgais Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, i gael cytundeb rhwng y pleidiau ar y pwnc. Ond oherwydd y siom a gafwyd ar Chwefror 27, mynnodd grŵp ymgyrchu YesCymru y dylai Stephen Crabb ymddiswyddo, am nad oedd y cynlluniau yn gweithredu rhai o argymhellion Comisiwn Silk ar faterion fel budddaliadau, darlledu, a phlismona. Meddai Iestyn Rhobert, llefarydd ar ran y grŵp pwyso: “Mae’n bell iawn tu ôl i’r farn gyhoeddus. Mi ddylai Stephen Crabb ymddiswyddo am fethu gwneud cyfiawnder â Chymru a’i phobl unwaith eto.” Ar Fawrth 3, anfonodd Prif Weinidog Cymru lythyr beirniadol at Stephen Crabb a oedd yn datgan ei siom ac yn cyhuddo Crabb o beidio “cefnogi gwir anghenion Cymru”.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor
Caryl Bryn Ar Fawrth 3, cynhaliwyd Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yma ym Mhrifysgol Bangor. Roedd hwn yn achlysur arbennig gyda nifer o wynebau cyfarwydd yr ardal yn cymryd rhan. Urddwyd Gwyn Thomas yn Gymrodor er Anrhydedd
y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Dr Llion Jones. Urddwyd ef, ynghyd â Catrin Stevens a Heini Gruffudd, am eu gwasanaeth i’r iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Cyflwynwyd Gwobr Norah Isaac i Manon Elwyn Hughes am ennill y marciau uchaf yn arholiadau ysgrifenedig a llafar Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2014. Meddai Manon: “Roedd yn fraint cael derbyn Gwobr Norah Isaac gan yr Athro Gwyn Thomas yn y Cynulliad, ac rydw i’n teimlo’n hynod o lwcus fy mod wedi ennill y wobr, mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth.”
Cyhuddiadau o elitiaeth ymysg siaradwyr Cymraeg
Anna Prysor Jones
Yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Prydain, mae angen i siaradwyr rhugl y Gymraeg fod yn fwy “goddefgar a chefnogol” i ddysgwyr yr iaith. Mewn araith yng Nghaerdydd yn ddiweddar, dywedodd Alun Cairns, Aelod Seneddol y Ceidwadwyr ar ran Bro Morgannwg, bod rhai agweddau o elitaeth yn gysylltiedig â’r iaith Gymraeg. Yn ogystal, dadleuodd yn erbyn y syniad o ddefnyddio mwy o ddeddfwriaethau wedi’u hanelu at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Dywedodd y dylai pobl gael eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol. Yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru, mae angen i bawb wneud mwy i annog dysgwyr yr iaith a hefyd i fod yn fwy parod i’w cefnogi, yn
enwedig mewn cymunedau di-Gymraeg. Creda Alun Cairns fod llawer iawn o rai sydd wedi astudio’r Gymraeg yn gadael yr ysgol yn un ar bymtheg oed ac yn teimlo nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg, nac yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i ffiniau’r ysgol. 19% yn unig o bobl Cymru sy’n siarad y Gymraeg yn rhugl yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011, ac mae hyn yn destun pryder i rai sy’n angerddol dros yr iaith Gymraeg ac yn gweld yr angen i weithredu i gynyddu’r niferoedd o siaradwyr sydd yng Nghymru. Ond ym marn Mr Cairns, nid deddfu bywyd yn ôl i’r Gymraeg yw’r ffordd orau i wneud hynny. Creda y byddai rheoli defnydd y Gymraeg yn amharu ar ymdrechion hyrwyddo defnydd yr iaith mewn cymunedau.
Ei amcan yw annog defnydd y Gymraeg ar lefel llawr gwlad, ac i sicrhau bod yr iaith yn dod yn iaith gymunedol, fyw sy’n ffynnu. Gyda niferoedd o siaradwyr Cymraeg mor isel yng Nghyfrifiad 2011, dywedodd Mr Cairns bod sicrhau hyn yn mynd i fod yn her enfawr. Ond nid pawb sydd o’r un farn â Mr Cairns nad deddfwriaeth yw’r ffordd i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yng Nghymru. Dywedodd unigolyn ar ran Llywodraeth Cymru fod deddfwriaeth yn hanfodol i atgyfnerthu safle’r Gymraeg yng Nghymru a byddai rhoi safon newydd arni yn ei gosod yn uwch ar agenda’r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Newyddion...4
Colli Cewri Cymru Anna Prysor Jones Ym mis Chwefror eleni, daeth ergyd enfawr i Gymru fel cenedl, pan gollwyd Merêd a John Rowlands o fewn diwrnodau i’w gilydd, a hynny ond wythnos yn dilyn marwolaeth yr hanesydd, John Davies. Dyma dri gŵr a osododd seiliau cadarn i Gymreictod yn eu meysydd eu hunain yn eu cyfnod, a bydd eu colled yn amlwg ar draws Cymru gyfan. Yn wreiddiol o Danygrisiau, Blaenau Ffestiniog gadawodd Meredydd Evans, neu Merêd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed i fynd i weithio i’r Co-Op. Er iddo adael yr ysgol yn ifanc, ni rwystrodd hyn ef rhag mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Harlech cyn dod yn fyfyriwr mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd i raddio â gradd dosbarth cyntaf yn 1945 yno. Ym Mhrifysgol Bangor daeth ei dalentau i’r amlwg am y tro cyntaf fel aelod o Driawd y Coleg, grŵp canu poblogaidd ar lwyfan a radio yn yr 1940au a’r 1950au. Canodd y triawd ganeuon wedi’u hysgrifennu’n bennaf gan Merêd ei hun ac nid oes syndod bod Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
wedi’i alw’n “seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg.” Aeth Merêd ymlaen i ddarlithio mewn athroniaeth yn yr Unol Daleithiau cyn dod yn ôl i Gymru a chael ei benodi yn Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru. Ym marn Hywel Gwynfryn, Merêd a osododd y seiliau ar gyfer sefydlu S4C drwy ei waith yn y BBC yn yr 1960au a’r 1970au. Ef oedd y cyntaf i gyflwyno adloniant proffesiynol Cymraeg ar y teledu i gynulleidfaoedd drwy sefydlu Adran Adloniant Ysgafn y BBC yng Nghymru yn 1963. Gwelodd yr angen i greu yn y Gymraeg beth oedd pobl eisoes yn ei gael yn y Saesneg. Drwy raglenni fel Hob y Deri Dando a Disc a Dawn, rhoddodd lwyfan cenedlaethol i rai o dalentau enwocaf Cymru fel Ryan Davies, Heather Jones, Geraint Jarman a Meic Stevens. Roedd hefyd yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg. Yn 1979, roedd yn un o dri a dorrodd i mewn i adeilad mast teledu ym Mhencarreg, Llanybydder fel protest dros benderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio â chael sianel deledu Gymraeg. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1986, Abergwaun lleisiodd ei bryderon
bod mewnlifiad o newyddddyfodiaid i Gymru yn niweidio’r Gymraeg a fe’i beirniadwyd yn hallt. Symudodd o Gaerdydd i Gwm Ystwyth oherwydd gwelodd ei ddyletswydd i geisio adfywio a diogelu’r Gymraeg yn yr ardal. Roedd Merêd hefyd yn ddylanwad mawr ar ddiwylliant gwerin yng Nghymru ac yn ysbrydoliaeth i rai oedd yn ymddiddori ynddo. Tra’n byw yn America, recordiodd albwm o ganeuon gwerin Cymraeg a chyrhaeddodd siart deuddeg uchaf y flwyddyn y New York Times. Roedd ei lais canu’n gwbl unigryw a chaiff ei gofio’n bennaf fel un a gasglodd alawon gwerin Cymreig. Cyd-weithiodd ag arbenigwyr eraill fel Roy Saer, Daniel Huws a Sally Harper. Hyd ddiwedd ei oes, daliodd ati i ganu ac ymgyrchu dros Gymru a’r Gymraeg. Gwelodd dyletswydd i gofnodi popeth a wyddai lawr ar bapur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac roedd bob amser yn barod i rannu ei wybodaeth, llyfrau a gwaith ysgrifenedig ag eraill. Roedd ei gyfraniad a’i ddylanwad yn amhrisiadwy i Gymru. Mab ffarm o Drawsfynydd, Meirionnydd oedd John Rowlands. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, cyn mynd ymlaen i Goleg Iesu, Rhydychen. Dafydd ap Gwilym oedd ei bwnc ymchwil ac ef oedd golygydd y gyfrol Dafydd ap Gwilym a Chanu Serch yr Oesoedd Canol yn 1977. Cyn dod yn Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth fe fu’n darlithio yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Prifysgol Llanbedr-
Pont-Steffan. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth cafodd Gadair y Gymraeg yno a dylanwadodd ar nifer o gyw-lenorion Cymraeg fel Mihangel Morgan, Robin Llywelyn, Gerwyn Williams, Elin Llwyd Morgan, Martin Davies, Owen Martell a William Owen Roberts. Roedd yn ddarlithydd hoffus ac yn hynod gefnogol o rai oedd yn barod i ymestyn y ffiniau yn eu gweithiau. Bu’n cydolygu’r cylchgrawn llenyddol Taliesin am gyfnod ac ,ers 1995, bu’n golygu’r gyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig. Cyhoeddod saith nofel - y gyntaf, Lle Bo’r Gwenwyn yn 1960 a’r olaf Tician Tician yn 1978. Caiff ei gofio fel nofelydd dadleuol ei gyfnod a hynny am ei ddisgrifiadau cignoeth o olygfeydd yn ymwneud â rhyw. I’r nofelydd William Owen Roberts, John Rowlands oedd tad y “dadeni rhyddiaith.” Caiff ei gofio’n bennaf fel beirniad llenyddol - yn feirniad profiadol ac eang iawn. Mae sawl un fel Gwyn Thomas wedi sôn am ei sicrwydd a’i bendantrwydd barn, ac er ei swildod a gwyleidddra, roedd ganddo ddygnwch a chadernid barn. Yn ôl Menna Elfyn, roedd ei farn bob amser yn gytbwys a doeth, a’i gyngor bob amser yn hael. Nid oedd ofn arno fod yn wahanol i’r farn gyffredin ac “fe roddodd i len ac i feirniadaeth lenyddol liwgarwch o’i ddeallusrwydd miniog.” Fel Merêd, ysbrydolodd a dylanwadodd John Rowlands genedlaethau’r dyfodol ac o’r herwydd, caiff y ddau le amlwg yn hanes eu gwlad am byth.
Newyddion...5
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
...NEWYDDION BANGOR
Pythefnos Masnach Deg Prifysgol Bangor 2015 Mared Williams
gwerthu cynnyrch Masnach Deg yn ei adrannau arlwyo o amgylch Dangosodd Prifysgol Bangor y campws. Mae bod yn brifysgol masnach deg yn cydredeg hefyd gefnogaeth i Fasnach Deg dros y gyda swyddogaeth arall y brifysgol o pythefnos diwethaf wrth gynnal pythefnos Masnach Deg ar y cyd â fod yn gynaliadwy. Grŵp Masnach Deg Cymunedol Prif amcan yr holl ddigwyddiadau oedd amlygu nad Bangor ar dir y Brifysgol. Amcan y pythefnos oedd dysgu myfyrwyr a yw’n anodd cefnogi Masnach Deg ac yn bwysicach na hynny, nad staff bod dewis cynnyrch Masnach yw cymdeithas bellach yn fodlon Deg yn creu newid dramatig ym mywydau’r gwerthwyr. Nid yn dioddef annhegwch. Mae’r brifysgol unig hyn ond bod prynu cynnyrch yn rhannu’r neges nad ydynt am i Masnach Deg hefyd yn cael effaith fasnachwyr na’r amgylchedd gael mae ganddynt statws Masnach eu trin yn wahanol er mwyn i ni fel gadarnhaol ar y byd o’n cwmpas. Mae Prifysgol Bangor wedi Deg ac yn dilyn Polisi Masnach cymdeithas fodern gael ein nwyddau ymrwymo i Fasnach Deg yn barod, Deg sy’n golygu bod y brifysgol yn yn rhatach; maent yn barod i wneud
Cefnogi Awr Daear WWF Caryl Bryn Bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi’r ymgyrch ‘Awr Daear WWF’ er mwyn sicrhau dyfodol llawer disgleiriach ac felly bydd y Brifysgol yn diffodd ei goleuadau er mwyn tynnu sylw’r byd at yr angen i warchod ein byd. Mae’r digwyddiad yn un byd-eang erbyn hyn gyda channoedd o filiynau o bobloedd yn cymryd rhan bob blwyddyn. Amcangyfrifir bod 400,000 o bobl wedi cymryd rhan yng Nghymru’r llynedd gan gyhoeddi neges unedig o gefnogaeth. Adeiladau amlwg a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn y llynedd oedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a’r Senedd ym Mae Caerdydd. Roedd y ddau adeilad hyn ymysg 200 o adeiladau a strwythurau mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig a dywyllwyd megis Big Ben a Chastell Caeredin.
Ynghyd â miloedd o adeiladau a strwythurau eraill ledled y byd megis Times Square, Efro newydd, bydd y Brifysgol yn dangos eu cefnogaeth i’r digwyddiad drwy ddiffodd y llifoleuadau ar Brif Adeilad y Brifysgol am 8:30yh ar y 28ain o Fawrth am awr. Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru, “Rydym wrth ein bodd y bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i gymryd rhan hefyd. Drwy gymryd un cam syml, sef diffodd eich goleuadau, byddwch yn ymuno â miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn y dathliad arbennig hwn.” Mae modd i bawb gofrestru a chyfrannu ar gyfer yr Awr Daear WWF 2015. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i wwf.org.uk/ earthhour.
y cam ychwanegol i amddiffyn eu hawliau. Yr oedd y pythefnos yn dechrau ar 24 Chwefror lle rhoddwyd bri i Fasnach Deg drwy’r dydd yn Siop Safle Ffriddoedd ac yn siop Academi. Yn rhan o hyn yr oeddech yn gallu newid hen hwdi Masnach Deg Bangor am un newydd a chael gostyngiad o 10% yn y pris. Cafwyd Rygbi Masnach Deg a rhannwyd danteithion Masnach Deg yn ystod gêm rygbi’r Chwe Gwlad rhwng Ffrainc â Chymru. Yn ogystal cafwyd Ffair Masnach Deg a chwis cyn gorffen gyda chystadleuaeth Pobi Masnach Deg a Bore Coffi.
Newyddion...6
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Gweld yr angen i godi safonau addysg yng Nghymru Elin Gruffydd Wrth i’r etholiad cyffredinol nesáu, mae’r ddadl dros addysg yng Nghymru yn poethi rhwng y Blaid Lafur a Cheidwadwyr Cymru ynghylch sut i wella safonau’r wlad. Mae profion PISA, sefydliad rhyngwladol sy’n asesu myfyrwyr ysgolion uwchradd ar draws y byd, wedi bod yn cael eu cynnal ym Mhrydain ers troad y ganrif. Cânt eu cynnal bob tair blynedd ac maent yn monitro safonau disgyblion pymtheg oed. Yn 2012 y cynhaliwyd y profion diwethaf, a bu’r canlyniadau’n siomedig i Lywodraeth Cymru wrth iddynt gael eu sgôr isaf ers i’r profion cyntaf gael eu cynnal, ac wrth i weddill gwledydd Prydain sgorio’n uwch na Chymru ym mhob pwnc. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi ymosod ar Lywodraeth Lafur Cymru gan ddatgan bod addysg Cymru yn ‘waeth na Dwyrain Ewrop’, a bod canlyniadau TGAU a nifer y ceisiadau a wneir i brifysgolion gorau Prydain megis Rhydychen a Chaergrawnt gan fyfyrwyr Cymru
yn dioddef. Gwelwyd o ganlyniadau PISA bod Cymru ar yr un lefel â gwledydd megis Groeg, ac er bod Cymru ar y cyfan yn rhan dlawd o’r Deyrnas Unedig, dadleua Pennaeth Profion Rhyngwladol PISA, Andreas Schleicher, nad oes ‘dim rheswm’ am hynny. Dywedodd hefyd wrth drafod addysg yng Nghymru: “Mae disgwyliadau ar gyfer y plant sy’n mynd drwy system addysg Cymru yn llawer is nag ydyn nhw mewn systemau sy’n perfformio’n dda ... Mewn llawer o wledydd, fydden ni ddim yn gweld yr un math o fodloni gyda pherfformiad gwael ag yr ydyn ni wedi ei weld yng Nghymru.” Er hynny, dywedodd ei fod yn “obeithiol” am ddyfodol disgyblion Cymru. Mae Schleicher wedi bod yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a gobeithir y bydd canlyniadau’r profion PISA eleni yn dangos cynnydd sylweddol. Meddai:
“Rwy’n obeithiol. Mae Cymru wedi newid llawer o bethau ers cyhoeddi’r canlyniadau diwethaf. Mae Cymru yn edrych allan - nid yn unig at Loegr a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ond at systemau addysg mwyaf blaengar y byd. Rwy’n obeithiol iawn y bydd y newidiadau hyn yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol.” Cytuna’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, y bydd canlyniadau gwell yn y profion eleni, gan honni: “Rydyn ni’n gweld momentwm yn y cyfeiriad cywir yn y system addysg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ganlyniadau TGAU eleni. Rwy’n hyderus y bydd y rhain yn dangos bod gwelliant yn parhau.” Dywedodd hefyd bod cynnydd amlwg yng Nghymru, a bod y dulliau a ddefnyddir wedi ‘cael eu canmol gan fusnesau a phrifysgolion gorau’r DU’. Ond wrth i’r etholiad agosáu, mae’r dadleuon rhwng y coch a’r glas yn dod yn
Cyflwyno safonau iaith i’r Cynulliad Huw Harvey
Yn ddiweddar cyflwynwyd safonau iaith i’r Cynulliad, gyda Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r rheolau newydd fel rhai “hanesyddol.” Awdurdodau lleol, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru fydd canolbwynt y gyfres gyntaf o Safonau’r Gymraeg. Hawliau iaith newydd fydd yn cael eu creu gyda’r gyfres. Creda Llywodraeth Cymru y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi “sylfaen gadarn i’r iaith yn y sefydliadau hynny y bydd gofyn iddynt gydymffurfio â safonau”. Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, mai bwriad y safonau yw annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyffredin gan obeithio y bydd hyn yn cynyddu hyder y siaradwyr. Yn ogystal â hynny, mynnodd ei fod am sicrhau gwasanaethau o safon uwch yn y Gymraeg, fel nad yw’r rheiny sy’n dymuno cael gwasanaeth trwy’r Gymraeg yn derbyn gwasanaeth israddol. Dywedodd Carwyn Jones ynglŷn
â’r safonau “Byddant yn fodd o sicrhau y cynigir y gwasanaethau hynny mewn ffordd ragweithiol, eu bod yn cael eu hyrwyddo’n dda, a’u bod o ansawdd sy’n golygu nad yw unigolion yn teimlo eu bod yn cael gwasanaethau o ansawdd is na’r rheini sy’n cael gwasanaethau Saesneg,” Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, fydd yn gyfrifol am hysbysu’r sefydliadau a fydd yn ganolbwynt i’r ddeddfwriaeth newydd. Mae ganddi hefyd gyfrifoldeb i sicrhau y bydd y sefydliadau hyn yn cydymffurfio. Ceisio cynnal y bleidlais i gymeradwyo’r cylch cyntaf o safonau iaith erbyn 24ain o Fawrth yw bwriad Carwyn Jones, a’r gobaith yw gweld y safonau’n datblygu erbyn diwedd y mis Y cam nesaf yw penderfynu’r dyddiad y bydd yn rhaid i’r sefydliadau hyn gydymffurfio â’r safonau newydd. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan Hysbysiadau Cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg. Cyn dechrau ar ymchwiliad y trydydd cylch, disgwylir i’r Comisiynydd gyflwyno adroddiad ar ymchwiliad ail gylch y safonau erbyn Mai 2015. Golyga hynny y bydd rhaid mynd i’r afael â’r sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, ynghyd â sefydliadau preifat a thrydydd sector. Mae gwelliant wedi bod ers rheoliadau drafft y Llywodraeth. O’r chwe phrif bwynt a roddwyd mewn llythyr i’r Prif Weinidog gan y gwrthbleidiau yn ystod yr ymgynghoriad, bu ateb
amlycach. Bu’r Gweinidog Addysg yn lladd ar agweddau Ceidwadwyr Cymru tuag at y gwaith a wnaed gan y Blaid Lafur, gan honni eu bod yn gwneud cyhuddiadau heb ystyried y gwaith sydd wedi’i wneud eisoes. Dywedodd: “Maen nhw naill ai wedi eu datgysylltu’n llwyr o’r agenda addysg yng Nghymru ac yn gwybod dim am y gwelliannau aruthrol rydyn ni wedi eu gweld o ran yr hyn mae ein disgyblion yn cyflawni neu, ac mae hyn yn fwy tebygol yn fy marn i, maen nhw’n darllen sgript sydd wedi ei pharatoi ar eu cyfer nhw gan Swyddfa Ganolog y Ceidwadwyr yn Llundain.” Gyda’r profion PISA ar y gorwel, gobeithir y bydd cynnydd i’w weld yn y safonau yng Nghymru o ganlyniad i’r dulliau newydd a sefydlwyd ers canlyniadau siomedig 2012. Ond, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad fis Mai, mae’n debyg y bydd yn rhaid gweithio’n ddiflino i wella’r addysg yng Nghymru er mwyn herio’r safonau rhyngwladol.
positif gan y llywodraeth i bedwar ohonynt. “Ond rydym ni’n dal yn ansicr sut y bydd safonau iaith yn cael eu gweithredu gan gontractwyr neu wrth roi grantiau i gyrff eraill. Bydd Plaid Cymru nawr yn gofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog a chraffu’n fanylach ar y safonau iaith yma.” Dyna oedd gan Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg i’w ddweud ynglŷn â’r mater. Mewn cyfweliad yn ddiweddar, dywedodd Manon Elin, is-gadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r rheoliadau hyn ymhell o fod yr hawliau clir a dealladwy rydyn ni wedi galw amdanyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod y Llywodraeth wedi gwrando ar rai o’n pryderon. Mae nifer o wendidau’n dal yno: bydd rhaid mynd i’r afael â nhw wrth i’r broses symud yn ei blaen. “Does dim digon o gefnogaeth statudol ar gyfer cyrff sydd am weithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, er enghraifft, ac mae diffyg symud cyrff ymlaen o ran cynllunio’r gweithlu. “Yn sicr, dydyn nhw ddim wedi gwneud digon i helpu cyrff symud ymlaen i normaleiddio’r iaith, nac i sicrhau mai’r Gymraeg yw’r ddarpariaeth ddiofyn yn hytrach na rhywbeth ychwanegol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd gwleidyddion a’r Comisiynydd yn gweithio’n galed, gyda’i gilydd, er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn newydd yn gweithio.”
Newyddion...7
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Prifysgol Bangor ymysg goreuon y HYWEL WILLIAMS AS byd
Anna Prysor Jones
Yn ddiweddar roedd Prifysgol Bangor ymysg cant o brifysgolion uchaf y byd mewn tabl newydd a gyhoeddwyd gan y Times Higher. Dyma dabl oedd yn rhestru’r prifysgolion mwyaf rhyngwladol eu golygon yn fyd-eang o ran eu ffordd o feddwl a’u gweithredu. Rhoddwyd Prifysgol Bangor yn safle 90 yn y tabl, sy’n arwyddocaol mai hi oedd yr unig brifysgol Gymreig i gyrraedd y 100 uchaf ac na lwyddodd i gyrraedd y tabl y llynedd. Seiliwyd canlyniadau’r tabl ar y niferoedd o fyfyrwyr ac academyddion rhyngwladol sydd ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal ag edrych ar gydweithrediad y brifysgol â phartneriaid rhyngwladol. Felly mae’r tabl hwn yn adlewyrchiad o natur fyd-eang y brifysgol, ac yn dangos ei hapêl fel lle i ddod i astudio a gweithio i fyfyrwyr a staff rhyngwladol. Un o’r rhaglenni a sicrhaodd le’r brifysgol yn y tabl oedd Rhaglen Llysgnennad Myfyrwyr a sefydlwyd yn 2008. Dyma raglen sy’n cynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol i ymgartrefu ym Mangor ac ymgynefino gyda diwylliant,
amgylchoedd ac ieithoedd newydd. Dywed Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor, fod myfyrwyr yn cael eu denu i Fangor oherwydd ei phroffil rhyngwladol. Yn ôl Turnbull, mae’r brifysgol yn denu myfyrwyr o bob rhan o’r byd, yn recriwtio ei academyddion yn rhyngwladol ac yn creu partneriaethau a chydweithio ag eraill yn fyd-eang. Ym marn yr Athro John Hughes, Is- ganghellor Prifysgol Bangor, mae myfyrwyr yn gweld Bangor fel cyrchfan genedlaethol ddeniadol sy’n enwog fel gweithle i rai o ymchwilwyr a darlithwyr gorau’r byd. Y mae canlyniad y tabl yn dangos cynnydd Prifysgol Bangor, yn rhyngwladol hefyd. Caiff llwyddiant gweithgaredd ymchwil y brifysgol ei gadarnhau yng nghanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth 2014. Daeth y brifysgol yn y deg uchaf ym Mhrydain a’r uchaf yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr mewn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015 ac yn y 50 uchaf o brifysgolion Prydain yn y Good University Guide 2015 y Times a’r Sunday Times.
Bwydydd hyll ar werth ym Mangor
Caryl Bryn
O Fawrth 5 ymlaen bydd ‘Siop Bwydydd Hyll’ yn agored gyda’r bwriad o werthu’r holl lysiau a ffrwythau y gwrthodwyd lle iddynt ar silffoedd y siopau mawrion am nad oeddent yn ddigon hardd eu golwg i’w gwerthu ond eto’n hollol iawn i’w bwyta. Bydd y siop yng Nghanolfan Siopa Deiniol yn agored bob ddydd Iau, Gwener a Sadwrn drwy gydol mis Mawrth er mwyn ceisio atal y bwydydd hyn rhag mynd yn wastraff. Amcan y ‘Siop Bwydydd Hyll’ yw achub y bwydydd hyn rhag y domen sbwriel a dathlu prydferthwch mewnol y bwydydd er eu bod yn hyll ar y tu allan. Bydd cyfle i chi brynu’r bwydydd hyll mewn bocsys sy’n cynnwys yr
holl gynhwysion sydd ei angen mewn cawl cartref neu lobsgóws. Yn ogystal, bydd sudd, cawl a smwddis ar werth yn y siop a’r amrywiaeth o’r bwydydd hyn i gyd ar gael am bris rhesymol Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru y Brifysgol yn cymryd rhan yn y digwyddiad er mwyn dangos ei bod o blaid y cysyniad. Cysyniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor yw’r fenter newydd hon. Meddai aelod o brosiect Byddwch Fentrus, y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Lowri Owen: “Mae Prifysgol Bangor yn annog ei myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd ac ystyried y dewis o fod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain. Er na fyddant
i gyd yn mynd i’r maes diwydiant adwerthu, mae cymryd rhan yn y project hwn yn rhoi blas iddynt o redeg eu busnes eu hunain a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau cyflogadwyedd mae cyflogwyr eisiau eu gweld. Hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas Bangor am roi’r cyfle i ni ddefnyddio’r siop dros dro.” Mae Gwyn Hughes, Clerc Cyngor Dinas Bangor, hefyd yn gefnogol o’r fenter newydd hon ac yn falch o gydweithio â Phrifysgol Bangor er mwyn cynnig profiadau newydd i siopwyr yng nghanolfan y dref. Gwêl y Clerc fod y fenter yn ffordd unigryw o adfywio’r Stryd Fawr.
Aelod Seneddol Arfon sy’n trafod gwleidyddiaeth...
Fel pob anorac gwleidyddol arall mae fy meddwl yn troi fwyfwy at etholiad cyffredinol Mai 7. Hyd yn oed os nad oes gennych diddordeb gwleidyddol, bydd etholiad fis Mai yn hynod o bwysig. Oherwydd bydd hwn, ac mae hwn, yn etholiad gwahanol i bob un arall ers degawdau. Yn bersonol, cymerais ddiddordeb yn gyntaf mewn gwleidyddiaeth yn bell yn ôl yn y ganrif ddiwethaf, a dechrau ymgyrchu go iawn i Blaid Cymru yng Nghwm Cynon yn etholiad Chwerfror 28 1974. Galwyd hwn ar adeg o argyfwng i wladwriaeth Prydain. Bu’r glöwyr ar streic eithriadol o effeithiol. Yn nhrymder y gaeaf bu tywyllwch ac oerni oherwydd toriadau i’r cyflenwad trydan. Roedd ysbwriel yn hel yn y strydoedd. Rhoddwyd pawb ar wythnos waith o dri diwrnod. Bloeddiai’r papurau newydd adain dde mai’r undebau llafur bellach oedd y meistri go iawn (does fawr yn newid, nac oes!). Yn y diwedd, galwodd y Prif Weinidog etholiad, gan osod y cwestiwn ‘Who rules Britain?’ A chafwyd ateb gan y bobl, ‘Nid chdi, mêt!’ I Gymru, y canlyniad mwyaf arwyddocaol, dybiwn i, oedd ethol dau Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, Dafydd Elis Thomas i Feirionnydd a Dafydd Wigley i Gaernarfon. Y noson honno roeddwn yn gwrando ar y canlyniadau ar y radio o dan y cwrlid mewn tŷ myfyrwyr yng Nghaerdydd. O glywed y newyddion neidiais o’r gwely gan weiddi a rhuthro i lawr ac i fyny’r grisiau a deffro’r Saeson oedd yn cyd-letya gyda mi. Taflodd y rheini esgidiau ataf a mynd yn ôl i’w gwlâu efo ’Crazy Welshman!’. Ydi hyn o bwys heddiw yn 2015? Wel, yn fy marn i, mae etholiad eleni yn cynnig y math o gyfle i newid yr hen drefn ac a gafwyd yn 1974. Bryd hynny, daeth llywodraeth Lafur i mewn efo mwyafrif simsan. Cafwyd etholiad arall yn yr hydref a chanlyniad ychydig cadarnach. Ac i ni, ailetholwyd Gwynfor Evans yn AS ar ran Plaid Cymru i Sir Gâr, gan ymuno â’r ddau Ddafydd. Ond yr hyn a gafwyd wedyn oedd cynnwrf ddiddiwedd wrth i Lafur gloffi at etholiad 1979, ethol Margaret Thatcher, a’r holl erchyllterau a ddaeth yn sgîl hynny, ac sydd yn ein llethu hyd heddiw. Erbyn 1979 roedd Llafur wedi colli sawl is-etholiad ac yn gorfod bargeinio efo Plaid Cymru ac eraill i gynnal eu mwyafrif seneddol. Enillodd y Blaid lawer iawn i Gymru o hyn, gan gynnwys sefydlu S4C a chynllun i roi iawndal a chyfiawnder i chawarelwyr yn dioddef effeithiau ciaidd llwch llechi ar yr ysgyfaint. Ond collwyd y refferendwm ar gynllun Llafur i sefydlu Cynulliad yng Nghaerdydd, gan ein gadael ar drugaredd llywodraethau milain Llundain am ddegawdau. Felly, a fydd etholiad 2015 yn dod â gwell bargen i Gymru, gwell na chynni, gwrthdaro, llywodraeth adain dde yn creu cyfoeth a hawddfyd i griw bachan ar y brig ar sail gwasgu ar y mwyaf bregus? Bellach mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi hen golli’r gefnogaeth ddigwestiwn oedd yn arwain at fwyafrifau seneddol o gannoedd. Gyda’i gilydd, ni allant ond sicrhau 60% o’r gefnogaeth yn y polau. Mae hyn yn debygol o arwain at senedd grog. Ar ran Plaid Cymru byddwn yn defnyddio unrhyw rym fydd gennym mewn senedd grog er sicrhau’r gorau i’n gwlad. Gobeithio y bydd pobl heddiw yn teinlo’r un cyffro a deimlais i tra’n fyfyriwr. Bydd pleidiau eraill yn gwneud addewidion, ond gennych chi mae’r dewis. Mae’r dyfodol yn eich dwylio chi. I gael pleidlais mae’n rhaid cofrestru fel etholwr. Gellwch wneud hyn ar lein https://www.gov.uk/ cofrestru-i-bleidleisio.
Hysbyseb... 8
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Undeb Myfyrwyr Bangor...9
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
UnDEB Myfyrwyr Bangor YMADAWIAD CYFARWYDDWR YR UNDEB
COLOFN CACENNAU CARA
Mae Rhys Dart, Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor, wedi hysbysu Bwrdd yr Ymddiriedolwyr o'i benodiad diweddar fel Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn Ne Cymru a bydd yn gadael Bangor ddiwedd mis Mai. Mae Rhys wedi bod yn ei swydd bresennol ers mis Medi 2010 ac wedi arwain y sefydliad drwy gyfnod o newid, wedi goruchwylio eu cofrestriad fel elusen a gweithrediad eu cynllun strategol sefydliadol cyntaf, sydd wedi ffocysu'r Undeb ar eu prif amcanion o gynrychiolaeth academaidd effeithiol a chyflwyno ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr, gan gynnwys clybiau a chymdeithas am ddim i bob myfyriwr ym Mangor. Cynhwysion Dywedodd Rhys, "Er bod fy nheulu a minnau'n edrych ymlaen yn fawr at ddilyn cyfleoedd newydd yn Ne Cymru, byddaf yn bendant yn colli Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol yma ym Mangor. Hoffwn ddiolch i'r holl staff, yr ymddiriedolwyr a'r swyddogion rwyf wedi gweithio gyda hwynt dros y bum mlynedd ddiwethaf ac rwy'n teimlo'n hynod o falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd. Fel 'Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn' cyfredol UCM Cymru mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn ddi-os yn un o'r undebau gorau yng Nghymru ac yn cael effaith fawr ar ei aelodau drwy ddarparu cefnogaeth ragorol a chynrychiolaeth a chyfleoedd o ansawdd. Rwy'n dymuno'r gorau i'r sefydliad ar gyfer y dyfodol ac yn teimlo'n ddiolchgar iawn o fod wedi cael y cyfle i weithio yma.” Dywedodd Rhys Taylor, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, "Mae ein Hundeb Myfyrwyr wedi gweddnewid dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae Rhys wedi bod yn greiddiol o ran rhoi cyfeiriad strategol i'r Undeb a'n gosod wrth galon gwella profiadau myfyrwyr Bangor. Rydym i gyd yn dymuno'r gorau i Rhys yn ei swydd newydd ac yn diolch iddo am ei waith dros y bum mlynedd ddiwethaf yn gwneud Undeb Myfyrwyr Bangor yn Undeb y gallwn fod yn falch ohono."
Etholiad Cyffredinol 2015 Ar 7 Mai bydd miliynau o bobl yn bwrw eu pleidlais i benderfynu pwy fydd yn llywodraethu Prydain am y bum mlynedd nesaf. Ond eto i gyd ar 7 Mai 2015, ni fydd llawer o bobl ifanc yn defnyddio eu pleidlais. Ni chaiff ein lleisiau eu clywed gan system sy'n parhau i'n siomi. Yn 2010 dim ond 44% o bobl o dan 25 mlwydd oed a wnaeth bleidleisio. Yn 2015, dim ond 1 ym mhob 8 o bobl o dan 25 mlwydd oed sy'n bwriadu bwrw eu pleidlais. Mae hynny'n golygu ein bod yn cael llywodraeth nad ydym ei eisiau, sy'n gwneud penderfyniadau nad ydym yn cytuno â nhw, a hynny am fod gwleidyddion yn gallu anwybyddu
demograffeg gyfan yn llwyr, gan wybod yn hyderus na fydd gennym unrhyw ddylanwad mewn etholiad. Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymroddedig i sicrhau eu bod yn cofrestru myfyrwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015, yn eu hysbysu amdano ac yn eu grymuso i bleidleisio, ac yn gwneud lleisiau myfyrwyr a phobl ifanc yn rhy uchel i'w hanwybyddu. Mae'n gydgyfrifoldeb arnynt i sicrhau bod pobl ifanc yn cofrestru i bleidleisio ac yn cael eu sbarduno i bleidleisio, a chreu troedle iddynt yn y system wleidyddol. Ennill dros bobl ifanc. Gyda'n gilydd gallwn greu bargen newydd i'r genhedlaeth nesaf.
Cacennau Bach Lemwn Cymreig gan Cara Edwards
Ar gyfer y cacennau: • 125g menyn (heb halen) • 125g siwgr aur castor • 2 wy • 125g blawd codi • Tua un neu ddwy llwy fwrdd o lefrith • 1 lemwn
I’r buttercream • 140g menyn • 300g siwgr eisin • 1 lemwn • Lliwiau bwyd gwyrdd a coch (dewisol) • Addurniadau megis cenin pedr wedi’i wneud o eisin, neu sprinkles melyn a gwyn (dewisol)
Sut i wneud: Rhowch y popty ar 185 gradd i gynhesu, cyn rhoi 12 o gasys papur mewn hambwrdd. Mewn powlen fawr, cymysgwch y menyn a’r siwgr nes y bydd yr holl gynhwysion wedi troi’n bâst. Ychwanegwch un wy ar y tro, cyn cymysgu nes nad oes unrhyw lympiau yn y gymysgedd. Hanerwch y lemwn, a’i wasgu nes y bydd y sudd wedi’i gymysgu â gweddill y cynhwysion. Defnyddiwch gyllell fach finiog neu grafell gaws ar groen y lemwn i ychwanegu blas. Yn ofalus, ychwanegwch y blawd a’i gymysgu. Llenwch pob cas bapur tan maent tua dau draean yn llawn, cyn rhoi’r hambwrdd yn y popty am tua 12 – 15 munud. I brofi a yw’r cacennau yn barod, rhowch gyllell finiog yng nghanol un ohonyn nhw ac edrychwch i weld os yw’n dod allan yn lân. Gadewch y cacennau i oeri ar fwrdd am o leiaf 20 munud. Yn y cyfamser, mae’n bosib gwneud y buttercream drwy gyfuno’r menyn, sudd, croen y lemwn a siwgr eisin gyda chymysgwr trydan neu â llaw drwy eu cymysgu â llwy (er bod hyn yn gallu cymryd ychydig mwy o amser). Pan fo’r cacennau wedi oeri, rhowch y lliw bwyd coch a gwyrdd ar ddwy gyllell fach, ac yn ofalus, rhowch linell o’r ddau liw y tu fewn i ‘ch bag peipio. Yna, llenwch y bag peipio gyda’r buttercream a dewisiwch big (nozzle) o faint addas (neu os nad oes gennych big, torrwch ddarn bach oddi ar waelod y bag i gael agoriad siâp cylch). Yn ofalus, peipiwch yr eisin ar bob cacen, gan ddechrau o’r tu allan a rhoi chwildroad (swirl) tuag at y canol. Addurnwch gydag addurniadau o’ch dewis, megis sprinkles gwyn a melyn, neu cenin pedr bwytadwy.
Etholiadau...10
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
ETHOLIADAU 2015 Rhwng Chwefror 23 a 25, cynhaliwyd etholiad sabothol Undeb y Myfyrwyr. Roedd pedwar safle i’w lenwi, a bu cystadlu brwd ar eu cyfer. Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel myfyrwyr yn mynd ati i bleidleisio ar gyfer yr etholiad hwn, gan mai’r rhai sy’n cael eu hethol fydd yn ein
Fflur Elin Llywydd
cynrychioli am y flwyddyn academaidd nesaf. Ynghyd â Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (sydd eto i’w bennu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf), y rhain sy’n dod at ei gilydd i greu y Tîm Sabothol. Byddant yn cymryd blwyddyn allan o’u cwrs ac yn rhedeg
Undeb y Myfyrwyr ac yn ein cynrychioli ni – y myfyrwyr. Eu swydd yw gwneud yn siŵr bod yr hyn sy’n cael ei wneud gan yr Undeb yn bodloni ein hanghenion a’n dymuniadau yn ystod ein cyfnod yn y Brifysgol. Mae gan bob aelod o’r tîm ei faes penodol, ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau ei hun a
byddant hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn cael ein cynrychioli’n deg yn y Brifysgol, yn y gymuned leol, a thu hwnt. Llongyfarchiadau gwresog i Fflur Elin, a Becca Kent am gael eu hethol, ac i Mark Stanley a Lydia Richardson am gael eu hail ethol eleni!
“Dw i wir yn edrych ymlaen at fod yn Llywydd y flwyddyn nesaf ac at yr her o geisio llenwi esgidiau Rhys! Un o’r polisïau dw i wir am geisio ei weithredu cyn gynted â phosib yw cael y llyfrgell i ymrwymo i gyfradd myfyrwyr-i-lyfrau gwell gan fy mod i’n teimlo nad yw darpariaeth y llyfrgell ar hyn o bryd yn ddigonol, a bod hyn yn gallu bod yn rhwystredig i fyfyrwyr. Un bwriad arall sydd gen i yw cynyddu pesenoldeb Undeb y Myfyrwyr o fewn cymuned y myfyrwyr fel bod pawb yn ymywbodol o’r hyn rydym yn ei wneud ond hefyd o beth allwn ni ei newid gyda’n gilydd trwy ddefnyddio llais y myfyrwyr. Un peth arall yr hoffwn ei wneud yw gwella’r ddarpariaeth o ddigwyddiadau sydd ar gael i fyfyrwyr megis gigiau. O ran gigiau, dw i wir am geisio cyfuno bandiau cyfrwng Cymraeg a Saesneg gan fy mod yn credu ei fod yn bwysig i fyfyrwyr di-Gymraeg allu gweld pa mor fywiog yw’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.”
“Flwyddyn nesaf, hoffwn weithio’n agosach gydag UMCB i annog mwy o fyfyrwyr iaith Gymraeg i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel Nawdd Nos. Mae Nawdd Nos yn wasanaeth gwrando di-enw sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr rhwng 8yb ac 8yh. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw siaradwyr Cymraeg yn gwirfoddoli gyda Nawdd Nos sy’n golygu nad yw’r gwasanaeth ar gael ar gyfer myfyrwyr a hoffai siarad yn Gymraeg gyda rhywun. Mae’r un fath yn wir am StormFM, gorsaf radio myfyrwyr sy’n cael ei ddarlledu ar lein ond sydd hefyd ar gael ar 87.7FM ar draws campws Ffriddoedd. Nid oes unrhyw myfyrwyr Cymraeg eisiau gwneud rhaglen Gymraeg ar gyfer myfyrwyr, sy’n golygu nad yw’r orsaf radio’n darparu gwasanaeth Cymraeg ar gyfer miloedd o fyfyrwyr sydd eisiau profi’r iaith.”
Mark Stanley IL Cymdeithasau a’r Gymuned
“Eleni byddaf yn edrych ar sut mae staff yn cyfathrebu gyda chi fel myfyrwyr, i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n mynd ymlaen bob amser. Byddaf hefyd yn sicrhau cyfathrebu parhaol o ran adborth yr ydych ei angen er mwyn datblygu o fewn eich gradd. Yn ogystal â hyn, rydw i eisiau parhau i wneud eich gwybodaeth am dai yn flaenoriaeth gan redeg tai agored, cyfleoedd i chwilio am ble’r hoffech fyw y flwyddyn nesaf a mwy! Dyma ambell beth yn unig o beth yr hoffwn ei wneud y flwyddyn nesaf, ond yn bwysicaf, rydw i eisiau rhedeg ymgyrchoedd wedi’u harwain gan fyfyrwyr i wella’ch addysg a lles cyfredinol, felly cysylltwch â mi!” Lydia Richardson IL Addysg a Lles
“Dros y blynyddoedd o fod yn fyfyriwr ym Mangor, rydw i wedi cael cymaint o brofiadau o’r Undeb Athletau ac rydw I eisiau gwthio pob myfyriwr i gael yr un fath. Rydw i’n angerddol dros gynorthwyo pobl i ddod o hyd i’w maes nhw mewn chwaraeon a gwella’r profiad i fyfyrwyr drwy gyfrwng chwaraeon a byw’n iach. Byddaf yn gwrando ar anghenion cymdeithasau, a hoffwn wneud ymarfer corff yn fwy hygyrch drwy fynediad hawdd i Ganolfan Brailsford a Chwaraeon Campws. Rydw i’n anelu i fod yn lais i chi’r myfyrwyr ac i’ch cynrychioli chi.”
Becca Kent IL Chwaraeon a Byw’n Iach
Hysbyseb... 11
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
12...Y Gornel Greadigol
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
...y
gornel
Greadigol
Mis creulon oedd Chwefror eleni. Collasom dri o Gymry amlycaf eu cenhedlaeth – John Davies, Meredydd Evans a John Rowlands – o fewn ychydig ddyddiau i’w gilydd, ac anodd fyddai dychmygu colledion mwy enbydus i Gymru gan ehanged oedd eu cyfraniad i’n diwylliant ac i’n dealltwriaeth o’n Cymreictod. Dichon mai dyma’r flwyddyn drymaf i Gymru er 1985, pan gollwyd – ymysg eraill – fawrion fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Thomas Parry, gan adael ar eu holau fwlch anodd, os nad amhosib, ei gau. Hawdd fyddai anobeithio a chanu’n bruddglwyfus am y Gymru amddifad sydd ohoni. Ond llawer rhagorach teyrnged i’r tri chawr hyn fyddai parhau â’u delfrydau, ymgyrraedd at eu safonau ac at eu gwerthoedd hwy yn y gobaith y llenwir y bwlch, ryw ddydd, â lleisiau newydd. Gruffudd Antur
Hirnos
Huw Harvey
Pa obaith sgen i? Toes neb am ’y ffeindio i’n fan ’ma. Dim ffôn, dim bwyd, dim byd. Dwi ar goll ym mynwent y ddaear. Dyma lle daw Satan ei hun i fwydo ar dristwch, rhwystredigaeth a chasineb. A minnau wedi fy nal yng nghanol ei gynllun dieflig. Sgena’ i’m syniad ble ’dwi, ac wrth i dywyllwch y nos lifo drwy’r goedwig, y gobaith o gyrraedd cynhesrwydd a chwmni fy nheulu yw’r unig gysur i ’nghalon. Wrth i’r eiliadau droi’n funudau, a’r munudau droi’n oriau, fe ddisgynna diferion o ’ngobaith ar y llawr. Rhaid i mi ei dderbyn; ni chaf fyth eto weld y dydd yn gwawrio o ’mlaen na theimlo’r haul yn cusanu fy nghroen. “Mynd allan i gerdded – fydda i’n ôl erbyn te”. Dyna oedd y geiria a adewais ar y bwrdd cyn i mi ddianc i le chwarae’r diafol. Mae’r geiriau’n unig yn ddigon i demtio’r duwiau ac wrth edrych yn ôl, fedra i’m helpu ond meddwl bod yr holl beth wedi bod yn anochel ac mai’r grymoedd arallfydol sy ’di fy arwain i yma. Daw naïfrwydd fy mod yn gostus unwaith eto. Beth sydd yna i’w wneud ŵan, heblaw am ddisgwyl i ffawd berfformio â’i ffyrdd sinistr? Mi fedra’ i deimlo’r nos yn cau amdanaf yn barod, yn cryfhau ei grafangau arnaf. Does ganddo ddim trugaredd yn ei gyfansoddiad – buasai cydymdeimlo yn wendid iddo. Wrth i ddiferion y glaw lithro oddi ar y dail a llwybreiddio i lawr fy moch mi fedra’ i deimlo’r dagrau yn gwthio drwy’n llygada. Ond fiw i mi grio; gwell i mi fynd allan gydag urddas nag ildio heb unrhyw fath o frwydr yn fy nghorff. Fiw i mi ildio! Fedra’ i’m ei orffen o fel hyn, mae’n rhaid mi ddianc, sgenai’m dewis. Efallai fod gobaith wedi’r cwbl. Efallai y daw yfory i’m cwrdd unwaith eto a chaf aildanio f ’angerdd am fywyd! Os oes ’na Dduw, a wnei di plis wrando? Dwi’n deall fy mod i ’di gwneud camgymeriadau gwirion ar hyd fy oes, a ’di gwneud penderfyniadau heb feddwl ddwywaith ond ŵan dwi’n barod i ailafael ynddi a dwi’n gaddo gwrando ar d’orchmynion. Be sy’n bod arna’ i – dwi’n troi at grefydd mewn coedwig yn y nos?! Dwi’n trio siarad efo boi sydd ddim hyd yn oed yn bodoli. Pa fath o les wnaiff hynny i mi? Efallai mai dyma’r arwydd cyntaf fy mod i’n ei cholli hi. Yn enwedig gan fy mod i’n teimlo rhyw gysylltiad rhyfedd â’r lleuad wrth i mi syllu’n awchus i’r nefoedd. Fedra i drio argyhoeddi fod paradwys yn cuddio tu ôl i’r tywyllwch? Ond y gwirionedd yw ’mod i’n garcharor yn nwylo’r diafol. Credir fod bywyd yn cael ei reoli gan y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud, ond tybed ai rhywbeth arall sy’n dyfeisio ein dyfodol? Tybed a yw popeth wedi’i dynghedu i ddigwydd? Er bod y flanced o sêr uwch ein pennau yn ddarlun o ddisgleirdeb a phrydferthwch, ni ddylem gael ein twyllo ganddynt. Llygaid bach sinistr sy’n gwylio drosom ydi pob un ohonynt. Ac maen nhw’n dewis eu dioddefwyr yn ofalus. Maen nhw wedi fy nghroesawu i’m hunllef.
John Davies, Merêd a John Rowlands Elis Dafydd
O awyr sy’n ddu mwyach, yn dywyll Fel diwedd cyfeddach, Yn bwyllog, mae’n hiaith, bellach Yn hel sêr yn ôl i sach.
Dr John Davies Gruffudd Antur
Yng nghornel fach, fach ei fyd – anwesai bob hanesyn llychlyd yn ei gof, a’u ffeilio i gyd yn hofel ei ben hefyd.
Y Gornel Greadigol...13
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
...y
gornel
Greadigol
Sgidia hŵr a Sali Mali Caryl Bryn
Mae hi’n haws newid arddodiad mewn brawddeg na newid ffordd o fyw. Rhyfadd ydi byta i ddau yn lle byta am ddau. Byta cibabs seimllyd er mwyn sobri am ddau o’r gloch y bore, yn chwil ar sgertia byrion Bangor Ucha’n fflio yn y gwynt budr, yn meddwi ar leisiau bas hogia dre ac yn chwil ar gyfrif banc gwag stiwdant. A rŵan, gwylio Jac y Jwc drwy fy llygaiduffernoloflinedig a byta’r llwyaid gynta o dy fwyd babi blasus i frecwast ydi fy mywyd i, fy maban tlws i. 06/12/16, 15:47 yh – Diweddaru statws Facebook Newydd ffonio mam yn gofyn iddi ddod â fy sodla cochion i mi er mwyn i mi eu gwisgo nhw i fynd allan heno, ac mae hi acshyli wedi gwrthod dod â nhw imi am ei bod hi’n meddwl mai sgidia hŵr ydi sodla cochion. Dwi’n hollol siriys hogia... Do’n i’m angen i mam ddod â fy sodla cochion imi. Doeddwn i’m angen y sgidia hŵr. Dyna oeddwn i. A dyna ydw i, hŵr … A diolch byth am hynny, fy maban tlws i. 08/12/16, 17:04 yh – Diweddaru statws Facebook Dydw i byth isho gweld Vodka eto. 08/12/16, 17:19 yh – Sgwrs ar Twitter @melerigwyn: Ei ei. Rhywun yn sâl heddiw ’ma ta?! Rhywun ’di “joio mas draw”! Ges di fachiad efo’r boi ’na ta malu cachu oedd Elliw? @lliocelyn2: O ffoc off Llio. Odda chditha ’di meddwi’n racs ’fyd, y jadan. A naddo, ’nes i ddim bachu neb diolch yn fowr, Elliw! Basdads! ‘D’amser di ydi hwn. Y cyfnod o fod yn Coleg ydi’r amser gora gei di!’ … Heb hynny, ’swn i ’rioed ’di cael clywed dy draed bach di’n gerddoriaeth ar yr aelwyd. ’Swn i heb gael gweld dy ddannedd bach di’n cuddio tu ôl i dy wefus grio-gam ar ôl gweld Sali Mali’n colli plat ar llawr. ’Swn i’m ’di cael ogleuo’r pwdr babi oedd yn gwneud iti dishan mor ddoniol, mor dirion. ’Swn i’m ’di cael teimlo’r cynhesrwydd cariadus ’na, fel tatan trwy’i chroen newydd ddod o bopdy yn Sbaen. Be ’di gwerth darllen llyfr o gymharu â’r hyn medra I ei ddarllen yn dy wena di? Ti werth y byd, fy maban tlws i.
Y Llun Rhiannon Lloyd Williams Roedd y distawrwydd yn fyddarol. Er bod pedwar wyneb dieithr o’m blaen yn syllu arnaf, doedd neb am dorri ar draws tician di-dor y cloc gyda’i lais. Eisteddai’r pedwarawd, dwy ferch ifanc, menyw a dyn oedd wedi cyrraedd eu hanner cant yn gyfforddus, mewn cylch. Deuai pelydrau cryf yr haul trwy ffenest yr ystafell fyw gan greu cysgodion dros y cyrff llonydd. Syllais arnynt yn eu tro, heibio’r dagrau oedd yn powlio lawr eu hwynebau, gan synnu pa mor debyg yr oeddent yn edrych i’m gŵr. O’r diwedd symudais yn lletchwith yn fy nghadair, ac er i mi ystyried galw am fy ngŵr rhag ofn eu bod yn berthnasau o bell iddo, roedd rhywbeth yn fy atal. “Sori, ond ydw i’n eich nabod chi?” Daeth yr ateb ar ffurf llun. Pasiodd y fenyw lun du a gwyn â’i gorneli wedi’i droi i’m llaw. Gollyngais y llun ar unwaith wrth i’r atgofion lifo’n ôl a’r cywilydd yn dilyn. Roedd fy nghof wedi atgyfodi ar ôl gweld teulu’n gwenu’n ôl arnaf, fy nheulu i. Roedd fersiwn ieuanc a llawen o’r fenyw o’m blaen yn y llun hwnnw o’r diwrnod bythgofiadwy hynny ar lan y môr. “Tegwen.” Ymatebodd hithau ag ochenaid o ryddhad. Roedd ei mam yn ei hadnabod unwaith eto. O fewn eiliadau yr unigolion o bobl dieithr oedd y bobl fwyaf pwysig i mi. Ond wrth i un atgof frigo doedd dim modd rhwystro’r gweddill, gan gynnwys marwolaeth fy ngŵr. Wrth i mi syllu bob yn ail ar fy nheulu a’r fodrwy briodas roeddwn yn dal i’w gwisgo, meddyliais pa mor hir y byddai nes y byddwn yn eu hanghofio unwaith eto.
Englyn Coch a ysgrifennwyd ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Aberystwyth, Mawrth 2015. Dion Lloyd Davies Yr Hen Lew, torchant lewys – gyda peint ânt yn pŵpd yn ddilys, Y diben yw’r pen poenus, Ddoe’n werth chweil, heddiw’n werth chwys.
Cerddoriaeth...14
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Yr Aelwyd yn aberystwyth gan Gethin Griffiths
Côr Hŷn Glanaethwy, Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr y Cwm. Tri enw sy’n gyfarwydd iawn i ni yma yng Nghymru, fel tri chôr safonol, profiadol, sydd yn bleser eu clywed mewn unrhyw gystadleuaeth. Nid yw’n sioc, felly, fod y tri wedi cyrraedd rownd gynderfynol Côr Cymru eleni. Cafwyd rhaglenni medrus a graenus tu hwnt gan y tri, a rhoddwyd perfformiad hyderus ganddynt i gyd, felly ni chafwyd sioc ar y noson chwaith. Hynny yw, os nad ydym ni am sôn am gôr bach arall a sleifiodd i mewn i’r gystadleuaeth. Ein côr ni, y côr cymunedol hwnnw, sydd yn canu ambell gân yn Neuadd JMJ bob nos Fercher, fu’n ddigon lwcus i gymryd lle y pedwerydd côr y noson honno. Nid oes blynyddoedd o brofiad corawl gan bob aelod, ac nid oes cannoedd o ymarferion wedi cael eu cynnal â’r aelodau presennol, ond rywsut, roedd môr coch o fyfyrwyr yn bloeddio canu y noson honno yn Aberystwyth. Er y sioc o dderbyn y newyddion fod Aelwyd JMJ yn un o gorau’r gystadleuaeth, aeth pob un aelod o’r côr i lawr i wlad y gelyn (a ninnau yn nhymor yr Eisteddfod Ryng-Golegol) yn benderfynol o roi Bangor ar y map corawl. Nid oeddem ni am dderbyn ein lle fel yr underdogs felly! Gyda bwrlwm y cyfryngau yn ddigon i wneud unrhyw un yn nerfus, roedd y criw wrth eu boddau ymhlith y sêr. Cafwyd ambell gyfweliad yma ac acw (ambell un yn well na’i gilydd), ac ambell wên gawslyd at y camera fel petai’r côr wedi hen arfer â’r clod. Daeth ein criw ni ag elfen o hwyl ac ysgafnder i’r gystadleuaeth, gyda’r bar yn brysur ar ôl i ni ganu, wrth gwrs! Syndod oedd clywed eu bod yn gorfod ein ffilmio ni’n cerdded ar y llwyfan eto ar y diwedd!! Fel arweinydd y côr, neges o ddiolch sydd gen i i
bob unigolyn a roddodd oriau o waith i sicrhau ein llwyddiant. Er mai fi oedd o’u blaenau y noson honno, ni fuasai’r côr wedi rhoi’r un droed yn Aberystwyth heb gefnogaeth ffyddlon y pwyllgor, yr holl aelodau, a’r cyfeilydd. Roedd yr holl alwadau ffôn a’r ffurflenni lu a gawsom drwy’r post yn ddigon i godi cur pen ar unrhyw un, ond roedd cymorth cyson y pwyllgor yn sicrhau nad oedd unrhyw fater gweinyddol yn mynd i’n hatal! Diolch yn enwedig i Ceris James y cadeirydd, ac i Dion Davies am ei gymorth â’r repertoire, ac am gynnal ambell ymarfer. Heb os nac oni bai, ni fuasai’r côr wedi gallu gofyn am gyfeilydd na chyfaill gwell na Manon Gwynedd, gyda’i chefnogaeth a’i ffyddlondeb yn graidd i’n llwyddiant. Hyd yn oed y tu hwnt i’w hyblygrwydd cerddorol, roedd ei phresenoldeb hwyliog yn hawlio lle iddi fel myfyrwraig anhrydeddus yn ein plith! Yn olaf, hoffwn ddiolch yn FAWR i’r HOLL aelodau a roddodd yr anrhydedd i mi weithio â nhw wrth baratoi at y gystadleuaeth. Bu’n wefr cael bod gyda chi o’r ymarfer cyntaf, hyd at y perfformiad bythgofiadwy hwnnw. Yn bennaf oll, i ni fel myfyrwyr, roedd y gystadleuaeth yn ymarfer da at yr Eisteddfod Ryng-Golegol, a gynhaliwyd yn yr un ganolfan. Cafodd pawb benwythnos a hanner wrth frwydro’n erbyn yr hen elyn, fel arfer! Yn sicr, roedd ein hyder fel côr yn amlwg, a chafwyd perfformiadau unigol hynod safonol hefyd. Yr uchafbwynt, wrth gwrs, oedd dawnsio disgo’r hogia’, a oedd yn agoriad llygad a dweud y lleia’! Diolch i chi i gyd am benwythnos i’w gofio!
ALUN FFRED JONES AC
sy’n trafod ffioedd myfyrwyr...
Wrth i etholiadau San Steffan agosáu, byddai’n llesol i wleidyddion o bob plaid wrando ar gân gyda’r teitl I’m Sorry a ddenodd filiynau o wylwyr ar Youtube. Byddai’n ein hatgoffa i gyd o beryglon gwneud addewidion byrbwyll na allwn eu cadw. Y canwr, ar ôl tipyn o glyfrwch digidol, yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. Parodi yw’r gân ar ymddiheuriad Mr Clegg am addo, cyn etholiad 2010, y byddai ei blaid yn gwrthwynebu unrhyw godiad mewn ffioedd myfyrwyr. Chwe mis wedyn, ac yntau’n Ddirprwy Brif Weinidog, cododd y ffioedd i £9000 y flwyddyn. O ran egwyddor, dylai addysg uwch fod ar gael am ddim i bawb a all elwa arno, beth bynnag fo’u cefndir a’u modd. Yr unig grŵp yn y sefyllfa honno yw myfyrwyr sy’n byw ac astudio yn yr Alban, heb orfod talu unrhyw ffi. Yn y wasgfa sydd ohoni, rhaid cydnabod na allwn wireddu’r ddelfryd honno yng Nghymru dros nos. Ond dyna’r nod, ac mae myfyrwyr o Gymru’n well allan na rhai sy’n byw yn Lloegr. Roeddwn i’n falch o fod yn aelod o Lywodraeth Cymru’n Un yng Nghaerdydd a gytunodd i dalu cyfan ond y £3000 cyntaf o ffioedd myfyrwyr sy’n byw yma. Cam ymarferol ymlaen fyddai i’r Llywodraeth dargedu rhai myfyrwyr ar gyfer cymorth ychwanegol, oherwydd eu pwysigrwydd i economi neu wasanaethau cyhoeddus Cymru. Un enghraifft yw myfyrwyr meddygol, y gellid eu gwobrwyo’n ariannol am weithio mewn ardaloedd lle mae’r gwasanaeth iechyd yn gwegian oherwydd prinder meddygon. Ar hyn o bryd mae cymorth Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at ffioedd myfyrwyr sy’n byw yma ac yn astudio dros y ffin. Mae penaethiaid prifysgolion Cymru, sy’n wynebu toriadau llym yn eu hincwm, yn cwyno fod hyn yn annheg, a bod arian o Gymru’n sybsideiddio prifysgolion Lloegr. Y perygl ar hyn o bryd yw bod ffioedd myfyrwyr ar fin codi’n uwch eto. Rhaid glynu at yr egwyddor ganolog fod addysg prifysgol yn hawl sylfaenol i bawb ac na ddylai fod yn faen melin ar ysgwyddau graddedigion am flynyddoedd o’u hoes.
15...Llety
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Rhai awgrymiadau wrth chwilio am dŷ: • Peidiwch â gadael i unrhyw un eich rhuthro i rentu rhywbeth nad ydych ei eisiau. Mae digonedd o dai ym Mangor ar hyn o bryd. Mae llety o ansawdd da ar gael drwy gydol y flwyddyn. • Bydd y Swyddfa Tai Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth i chi ar unrhyw adeg o’r wythnos i’ch helpu i wneud dewisiadau doeth a gwybodus. • I gael cynghorion a newyddion, ewch i dudalen newydd y Swyddfa Tai Myfyrwyr ar Facebook! Gellwch hefyd ofyn am gyngor yno.
Pethau i’w hystyried cyn mynd i chwilio am dŷ: Dylech benderfynu gyda phwy yr ydych yn dymuno byw, ac edrych ar ardaloedd o Fangor i benderfynu lle yr ydych eisiau byw. Cofiwch weithio allan faint y gellwch ei fforddio (peidiwch ag anghofio am y trydan, nwy, rhyngrwyd etc) a thrafodwch y cyfleusterau yr ydych eisiau eu cael yn yr eiddo. Mae’n syniad da cael cyngor ynghylch rhentu, fel beth yw cyfrifoldebau eich landlord a chithau wrth rentu eiddo. Cysylltwch â’r Swyddfa Tai Myfyrwyr a gallent drafod hyn gyda chi a mynd drwy eich contract cyn i chi ei lofnodi. Cofiwch fod llofnodi contract yn eich ymrwymo’n gyfreithiol. Bob blwyddyn mae rhai myfyrwyr yn credu’r gwahanol wybodaeth anghywir ynghylch tai, fel: • Mae prinder tai – Nid yw hyn yn wir o gwbl. Ym Mangor mae digonedd o lety o ansawdd da i’w gael. Gall hyd yn oed myfyrwyr sy’n gadael y gwaith o chwilio am dŷ tan yr haf cyn iddynt ddychwelyd i’r Brifysgol ddod o hyd i dai da. • Mae pob un o’r lleoedd gorau yn mynd yn gyntaf - dyna mae’r landlordiaid sydd am i chi roi’ch enw i lawr ar gyfer tai yn rhy gynnar eisiau i chi feddwl! Arhoswch am ddyddiad swyddogol y Brifysgol i ddechrau chwilio am dŷ, ac yna penderfynwch. • Mae pawb yn talu ffioedd llofnodi cytundeb – Nid yw’r rhan fwyaf o berchnogion sydd wedi’u cofrestru â Swyddfa Tai Myfyrwyr y brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr dalu ffioedd gweinyddu na llofnodi cytundeb. Os nad ydych eisiau talu, dewiswch landlord nad yw’n codi’r ffioedd hyn. Gellwch ffiltro’ch chwilio i ddangos eiddo lle codir ‘Dim ffioedd na ellir eu had-dalu’. Gofynnwch am beth mae’r ffioedd hyn!
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Yr Hadau ...16
...YR HADAU
Atodiad Dwyieithog Y Llef Y Llef’s Bilingual Insert Benjiman Angwin Ar ddechrau’r ffilm, deffry llanc yn ei arddegau a chaiff ei arwain allan gan ffigwr mewn gwisg cwningen erchyll, sy’n ei gyflwyno’i hun fel ‘Frank’. Dywed Frank y daw’r byd i ben mewn 28 diwrnod, 6 awr, 42 munud a 12 eiliad. Dychwela Donni, y llanc, adref gyda’r wawr i ffeindio bod awyren wedi dryllio’i ’stafell wely. Mae’r plot yn dod yn fwyfwy niwlog o hyn ymlaen, ond mae gan y ffilm naws ryfeddol o gelfydd a thrac sain heb ei ail ac offerynnau fel iwcalelis, piano, seilophon a melotron arno. Yn wir, rhan o’r rheswm fod y ffilm wedi cyrraedd statws ffilm cwlt o fewn llai na 15 mlynedd yw’r trac sain gwreiddiol. Mae’r ffilm wedi cael ei gosod yn 1988, er ei bod wedi ei chyhoeddi yn 2002, a defnyddiwyd technoleg ffilmio a thechnoleg recordio sain o’r 80au mewn ymdrech i 80au-eiddio. Gyda phob ymweliad gan Frank, sef y ffigwr yn y gwisg cwningen erchyll, mae’r ffilm yn awgrymu marwolaeth mewn ffordd swynol bron, a gwelir gwrthgyferbyniad â hyn ym mron pob rhan arall o’r ffilm, sy’n dathlu bywyd yn sgil nesád diwedd erchylltra, fel ffordd i goleddu byrhoedledd. Rydw i’n gweld y ffilm fel trosiad ar gyfer caru byw a charu bod yn fyw, a da o beth o ystyried yr holl ddifaterwch sydd ar gael yn y byd weithiau. Erbyn y diwedd, o dan ddylanwad Frank, mae Doni’n dechrau gweld pethau a chamddeall y gwahaniaeth rhwng y byd hwn a beth bynnag sydd ar ddod o fyd Frank. Nid yw’r gynulleidfa’n gwybod ar ei gwylio cyntaf os ydy’r gweledigaethau’n real ai peidio, a dyna ran allweddol o’r ffilm: dehongli’r pethau hyn wrth weld y ffilm am yr ail dro a gweld y cyfan mewn golau hollol newydd wrth ystyried cyd-destun yr holl arwyddion isymwybodol o ochr Doni Penddu mewn cyswllt â Frank a’r awyren ar ddechrau’r ffilm.
DONNIE DARKO
Benjiman Angwin At the beginning of the film, a teenager’s awoken and led outside by a figure in a horrific bunny costume, who introduces himself as Frank. Frank says that end of the world whill come in 28 days, 6 hours, 42 minutes and 12 seconds. Donnie, the youth, returns home at about dawn to find that an airplane has crashed into his bedroom. The plot becomes more and more unclear from here on, but the film has a nuance which is astoundingly artistic and a soundtrack second to none with instruments like ukaleles, piano, xylophon and mellotron on it. Indeed, part of the reason why the film has reached cult film status in less than 15 years is its original sound track. The film is set in 1988, though it was released in the year 2002. Filming technology and sound recording technology from the 80s were used in an attempt to 80s-ise. With every appearance from Frank, the figure in the horrid bunny costume, the film is suggesting death in a way which is almost charming and a contrast with this is seen in virtually every other part of the film, which celebrates life in wake of the approach of an ugly end, as a way of cherishing the shortness of life. I see the film as a metaphore for loving living and loving being alive, and that’s great considering the amount of apathy in the world sometimes. By the end, under the influence of Frank, Donnie begins hallucinating and misunderstanding the difference between this world and whatever which is cmoing from Frank’s world. The audience doesn’t know on the first watch if the visions are real or not, and that’s a key part of the film: interpreting these things while watching the film for the second time and seeing the whole in an entirely new light while considering the context of all the subconcious signs from the side of Donnie Darko in conection with Frank and the airplane at the start of the film.
Yr Hadau...17
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Ymadroddion Defnyddiol / Useful Phrases Hoffwn i gael
- I would like to have
Ga’ i...?
- May I have... ?
Diolch
- Thank you
Os gwelwch yn dda
- Please
S’mae?
- How are you?
Hwyl
- Bye
Faint?
- How much?
Beth yw (x) yn Gymraeg
- What is (x) in Welsh?
Wela i di wedyn
- I’ll see you later
Iawn?
- Okay?
Paid!
- Don’t!
Ble mae....?
- Where is... ?
Fy enw yw
- My name is
Arian
- Money
Be’ sy’n bod?
- What’s wrong?
Faint o’r gloch ydy hi?
- What time is it?
Wyt ti eisiau?
- Do you want?
Ble mae’r tŷ bach?
- Where’s the toilet?
Ar agor
- Open
18...Yr Hadau
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Cerddoriaeth fodern y Gymraeg / Modern music in Welsh
gan Benjiman Angwin Un peth sy’n fy nharo’n aml yw diffyg gwybodaeth o’r ochr ddiGymraeg ynglŷn â cherddoriaeth Gymreig. Yn wir, y Gymraeg yw’r unig iaith Geltaidd a all gynnig y fath amrywiaeth gerddorol a dylem fod yn ymalchïo yn hynny a dangos i gynifer o bobl â phosib beth sydd ar gael yn y Gymraeg yn gerddorol. Dyma ddeg cerddor/band cyfoes i gael blas ar gerddoriaeth fodern yn y Gymraeg, ac yn answyddogol, fy 10 artist gorau:
1:
Sŵnami – mae’r band yma o Ddolgellau’n haeddu lle arbennig yma ym Mangor o ystyried yr holl waith maen nhw wedi’i wneud â gigiau ac maen nhw’n fawr ymhlith myfwyr Bangor hefyd. Maen nhw’n dod i’r brig!
2: Kizzy Crawford – pwy sy’n dweud nad yw cerddoriaeth Gymraeg yn amlethnig a dinesig? Dyma artist ifanc llawn enaid â dylanwadau amlddiwyllianol. Awgrymaf ‘Enfys yn y Glaw’ ar Soundcloud.
3: Plu – Dyma fand teulol sy’n lleol i’r ardal. Maen nhw’n alawol a hawdd iawn ar y glust ac wedi bod yn gigio yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
4: Yws Gwynedd – Dyma grŵp ysgafn a llawn hwyl gyda sŵn sy’n fy atgoffa am Bedouin Soundclash. Os hoffech wrando ar rywbeth ysgafn nad yw’n rhy galed, mae trysorau cerddorol yma.
5:
Y Reu – Dyma grŵp da iawn o Benygroes. Maen nhw’n cyfuno blŵs â roc Cymraeg mewn ffordd arbennig ac unigryw.
6: Y Ffug – Mae’n rhaid cynrychioli pob rhan o Gymru a dyma fand roc o’r de-orllewin. Maen nhw’n chwarae caneuon â churiad cyflym.
One thing which strikes me often is the lack of information on the side of non-Welsh speakers concerning Welsh-language music. Indeed, Welsh is the only Celtic language which can offer such musical variation and we should take pride in that and show as many people as possible what’s available in Welsh musically. So here are 10 contemporary musicians/bands to get a taste of what’s available in Welsh, an unofficially, my top 10 contemporary artists:
1: Sŵnami – this band from Dolgellau deserves a special place here in Bangor considering all the work they’ve done with gigs and thy are a favorite amongst Bangor students as well. They get the top slot!
2:
Kizzy Crawford – who says that Welsh language music isn’t multi-ethnic and urban? Here is a young artist full of soul with multi-cultural influence. I suggest ‘Enfys yn y Glas’ on Soundcloud.
3: Plu – here is a family band which is local to the area. They are melodig and very easy on the ears and have been doing gigs in Cardiff recently.
4: Yws Gwynedd – Here is a light-hearted group which is full of fun which reminds me of Bedouin Soundclash. If you need something light that’s not too hard, here is a musical treasure.
5: Y Reu – Here’s a good group from Penygroes. They combine blues and Welsh rock in a special and unique way.
6: Y Ffug – Every part of Wales must be respresented and here is a rock band from the southwest. They play upbeat music.
Yr Hadau...19
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
7:
Y Candelas – Dyma fand sydd wedi bod ar gynnydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ac am reswm da hefyd; mae ganddyn nhw sŵn da. Os ydych yn hoffi The Strokes neu Kings of Leon, byddwn i’n bendant yn gwrando arnyn nhw.
8:
Yr Ods – Mae’r Ods wedi gwerthu llawer o recordiau oherwydd maen nhw’n canu pop da, ond ar yr un pryd, nid oes sŵn sy’n debyg iddyn nhw; maen nhw’n rhan o unrhyw restr o gerddoriaeth Gymreig cyfoes.
9: Adran D – er fod y grŵp yma’n werinol, mae’n gyfoes ac yn dda ac mae’n haeddu lle ar y rhestr fel grŵp newydd
10: Sen Segur – Da o beth clywed roc seicodelig yn y Gymraeg. Mae Sigur Ros a’r Grateful Dead yn dod i’m meddwl wrth wrando ar y band gwych hwn.
7:
Y Candelas – Here’s a band which has been coming up for the last couple years, and for good reason; they sound good. If you like The Strokes of Kings of Leon, I’d definitely listen to them.
8:
Yr Ods – Yr Ods have sold lots of records because they sing good pop, but at the same time, there’s no sound quite like them; they’re part of any list of contempory Welsh-language music.
9:
Adran D – Although this group plays folk, it’s contemporary and good and it deserves a place on the list as a new group.
10: Sen Segur – It’s great to hear psychodelic rock in Welsh. Sigur Ros and the Grateful Dead come to my mind while listening to this great band.
...HYSBYSEB
20... Yr Eisteddfod Ryng-golegol
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Yr Eisteddfod Ryng-golegol Dyma gyfle i chi ddal i fyny gyda holl ganlyniadau’r Eisteddfod Ryng-golegol, Mawrth 7, Aberystwyth.
Cystadlaethau Llwyfan: Cystadleuaeth Ensemble lleisiol Unawd Merched Grŵp Llefaru Unawd Bechgyn Unawd Cerdd Dant Unawd Sioe Gerdd Unawd Piano Ensemble Offerynnol Llefaru Unigol Côr Bechgyn Dawns Glocsio Unigol Unawd Alaw Werin Deuawd Ddoniol Grŵp Dawnsio Gwerin Grŵp Dawnsio Creadigol / Disgo Meimio i unrhyw gân Gymraeg Côr Sioe Gerdd
Safle 2il 3ydd 1af 2il 1af 1af 2il 1af 2il 2il 2il 3ydd 2il 1af 1af 1af 1af
Côr Cymysg Rhuban Glas Offerynnol Rhuban Glas Lleisiol Côr Merched Sgets Bing Bong Deuawd Agored/Cerdd Dant Unawd Offerynnol Stepio i ddau neu fwy Cyflwyniad Theatrig Digrif
2il 1af 1af 1af 1af 1af 2il 2il 2il 1af
Yr Eisteddfod Ryng-golegol...21
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Cystadlaethau Gwaith Cartref: Cystadleuaeth: Y Gadair Parodi Englyn Coch Cerdd Ddychan Limrig Y Goron Stori Fer Blog Ymson Dyddiadur Brawddeg Stori Fer (Adran y Dysgwyr) Cerdyn Post (Adran y Dysgwyr) Ffotograffiaeth Y Fedal Ddrama Tlws y Cerddor
Safle: 3ydd - Llio Mai 1af - Mirain Llwyd 2il a 3ydd - Dion Davies 1af - Gethin Griffiths 3ydd - Aled Bybs 3ydd - Elen Huws 3ydd - Gethin Griffiths 2il - Lora Lewis 1af - Elen Huws, 2il - Ceris Mair James 2il - Mared Davies, 3ydd - Ruth Jones 3ydd - Heledd Besent 1af - Rhys Dilwyn Jenkins 1af - Jennie Coppard Evans, 2il - Megan Elias 1af - Elain Elis, 3ydd - Meleri Jones 3ydd - Dion Davies 1af - Siwan Tudur, 2il - Rebekah Wilkes, 3ydd - Manon Elwyn
Gala Chwaraeon: Cystadleuaeth: Pêl-droed bechgyn Pêl-droed merched Rygbi Bechgyn Rygbi Merched
Safle: 3ydd 2il 2il 2il
Canlyniadau Terfynol yr Eisteddfod: Prifysgol Abertawe:
10
Prifysgol Aberystwyth
1446
Prifysgol Bangor
1312
Prifysgol Caerdydd Prifysgol y Drindod Dewi Sant
209 6
u a d a i h c r a f y g n o l L d o d d m a r o g n a F i yn ail!
Adolygiadau...22
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
...Adolygiadau
Y TŴR Bethany Lewis I’r rhan fwyaf o gyfarwyddwyr a pherfformwyr, mae’r syniad o lwyfannu drama sydd heb gael ei pherfformio ers bron i ugain mlynedd yn un arswydus, yn enwedig os yw’r ddrama honno hefyd wedi bod ar faes llafur ysgolion uwchradd am flynyddoedd. Ar ben hynny, byddai’r rhan fwyaf o berfformwyr yn canfod y dasg o gyflwyno theatr Gymraeg i Lundain yn heriol a mentrus iawn; ond nid felly i Aled Pedrick, a’r cwmni theatr Invertigo. Cyflwynwyd eu perfformiad o ‘Y Tŵr’ gan Gwenlyn Parry yn Galeri, Caernarfon, ar y trydydd o Chwefror. Dehonglwyd y ddau gymeriad yn y ddrama, sef gŵr a gwraig, gan Steffan Donnelly a Catherine Ayres. Mae’r ddrama yn dilyn hanes y ddau wrth iddynt gamu trwy gyfnodau gwahanol o’u bywydau gan ddringo’n uwch ac yn uwch i fyny’r tŵr, ble maent yn byw. Prif thema’r ddrama, yn syml, yw; beth sy’n digwydd wedi i’r ddau gymeriad gyrraedd top y tŵr? Drama yw hon sydd yn cyflwyno holl rwystredigaethau bywyd mewn ffordd emosiynol a doniol mewn mannau. Defnyddiwyd y theatr glòs fel modd o dynnu’r gynulleidfa i mewn i’r perfformiad yn llwyr. Unodd Aled Pedrick y tair act yn un, heb egwyl, i sicrhau bod emosiynau’r gynulleidfa yn dilyn union lwybr yr actorion ar y llwyfan, heb gyfle i fyfyrio nac i gwestiynu. Roedd yn berfformiad bywiog iawn, a symudodd y ddeialog yn gyflym o gam i gam. Serch hynny, nid oedd y deialog wedi’i rhuthro, sydd yn gamp fawr o safbwynt y cynhyrchiad. O ganlyniad i’r penderfyniad i adael y ddrama’n un act, roedd y cynhyrchiad yn un minimalistaidd iawn. Cynrychiolodd y cast oed y cymeriadau trwy newidiadau syml yn eu gwisg. Er enghraifft, i gyfleu hen bobl, cynrychiolwyd eu hoed trwy sliperi a chwistrelliad o baent gwyn yn eu gwallt. Fel rhywun nad yw erioed wedi darllen neu weld y ddrama, roedd y penderfyniadau yma’n llwyddiannus
gan Gwenlyn Parry
ac yn effeithiol wrth wneud i’r gynulleidfa ganolbwyntio mwy ar ddoniau’r actorion gwych ar lwyfan. Yn hytrach na chyflwyno grisiau crand ac enfawr, fel y ceid mewn nifer o’u cynyrchiadau blaenorol, yn y dehongliad yma, cawn nifer o focsys gwynion sydd yn cael eu defnyddio fel amryw o bethau: sinc, bocs dillad, sedd, cwpwrdd. Yna, mae’r bocsys yn cael eu pentyrru ar bennau ei gilydd i greu’r grisiau tuag at y llawr nesaf. Mae’r penderfyniad yma’n un llwyddiannus iawn yn fy marn i gan fod y grisiau yn cael eu cyfleu fel symbol fwy chwareus; roedd y cymeriadau’n dringo arnynt ac yn chwarae rhyngddynt, yn eu hail osod ac yn eu symud, felly mewn mannau, mae’n bosib anghofio’i ystyr, sef marwolaeth. Roeddwn i’n hoff iawn o benderfyniad y cwmni i gynnwys is-deitlau Saesneg. Nid yn unig bod y penderfyniad yma o gymorth i gyflwyno dramâu gorau Cymru i’r trigolion diGymraeg, ond hefyd i gynulleidfa Lloegr. Mae taith y ddrama yn dod i ben ar lwyfan yr Arcola yn Llundain. Dyma benderfyniad beiddgar gan y cwmni, ond wrth edrych ar lwyddiant eu cynhyrchiad o ‘Saer Doliau’, drama arall gan Gwenlyn Parry, ar lwyfan y Finsborough Theatre yn Llundain, mae’r penderfyniad yn un buddiol iawn. Dyma gynhyrchiad pleserus iawn sydd yn dangos dyfodol addawol tu hwnt i’r cwmni hwn. Edrychaf ymlaen yn fawr at weld nifer o gynyrchiadau gan y cwmni yn y dyfodol.
LLANW... Nofel hudolus newydd Manon Steffan Ros Lora Lewis
Dyma anrheg Nadolig gwerth chweil gan fy chwaer eleni, a dyma fi bellach wedi cael amser i’w darllen. Annheg fyddai cymharu’r nofel hon gyda Blasu, chwip o nofel arall gan yr awdures, ond roedd hi’n anodd peidio! Mae stori neu chwedl ym mhob pennod ac, i ddechrau, ailadrodd straeon gan ei Nain mae’r cymeriad Llanw, sy’n ymddangos fel dim byd mwy na dychymyg plentyn. Ond daw’r straeon yn bwysicach wrth i’r nofel fynd yn ei blaen, a rheiny’n symbol o’r ffin rhwng realiti Llanw a’i dychymyg. Rydym ni i gyd yn cofio pethau yn wahanol - ai dyma sydd yma felly? Bywyd ‘go iawn’ Llanw, sef y realiti yn cael ei weld drwy ei llygaid, a’r chwedlau fel fersiynau eraill, dychmygol (efallai?) ohonyn nhw.
Mae Llanw yn stori ddifyr (hirwyntog ar brydiau, efallai, ond mae’n hawdd anwybyddu hynny), sy’n portreadu ardal Tywyn, bron nes bod yr ardal yn gymeriad ei hun yn y nofel. I mi, roedd enwau’r cymeriadau yn torri ar lif y stori - Llanw a Gorwel - gan fy mod i yn darllen tra’n gysglyd weithiau, ac yn anghofio mai cymeriadau oeddynt! Nid oedd yr enwau yn gwneud y darllen yn hawdd bob amser, ond ni ellir dadlau nad yw hon eto yn nofel i’w thrysori gan un o awduron gorau Cymru ar hyn o bryd. Mae dawn ddisgrifio Manon Steffan Ros yn anhygoel yma, ac er nad yw hon yn nofel y byddwn i fel arfer yn mynd amdani, fe wnes i ei mwynhau. Tydw i ddim eisiau datgelu gormod – ewch i’w darllen, ac efallai ei hail-ddarllen er mwyn ei gwerthfawrogi eto.
Adolygiadau...23
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Y diweddaraf ar y sgrîn fawr... KINGSMAN: THE SECRET SERVICE
yr hud, lledrith na’r dreigiau. Gary ‘Eggsy’ Unwin (Taran Egerton) a awgrymwyd gan yr asiant suave Harry Hart (Colin Firth). Yn wahanol i’r ymgeiswyr Lora Lewis dosbarth uwch eraill, mae ‘Eggsy’ yn hogyn Wedi ei sefydlu ar gomics yr ysgrifennydd dosbarth gweithiol sydd yn byw gyda’i fam a’i Mark Millar, “The Secret Service” (na, dw i lysdad blin a chreulon. Pwynt pwysig - roedd tad ddim wedi’u darllen nhw chwaith), dyma ffilm biolegol ‘Eggsy’ yn asiant cyn iddo’i aberthu’i wedi’i chyfarwyddo gan Mathew Vaughn (sydd hun i achub Harry Hart, ac felly, teimlai Harry ei hefyd wedi cyfarwyddo ffilmiau megis Kick fod yn haeddu’r cyfle. Ass, X-men First Class), a fydd yn sicr yn eich Tra bod y broses hynod heriol hon yn digwydd, diddori yn fwy na’r ffilm James Bond nesaf fydd mae Valentine (Samuel L Jackson) yn cynllunio allan cyn bo hir. Fel Kick Ass, mae’r ffilm yn sut i achub y byd drwy leihau’r boblogaeth. Gan wledd o regi, trais a mannau a fydd yn gwneud i chi dagu ar eich popcorn. Yn dilyn llofruddiaeth aelod o’r Kingsmen (ystyriwch nhw fel MI6 ond yn ‘annibynnol’ o agenda’r lywodraeth), mae angen i adran Adnoddau Dynol y mudiad ddarganfod aelod addawol newydd. Yn sgîl awgrymiadau gwahanol gan aelodau cyfredol y Kingsmen, roedd angen i’r holl ymgeiswyr fynd ati i fod dynolryw yn niweidio’r byd, yr unig ddewis gyflawni tasgau yw dechrau eto heb ddim ond grŵp bach yn a oedd yn cael goroesi. A yw wedi darllen gormod ar profi’u nerth, maniffesto’r Parti Gwyrdd? Dyma megalomaniac d e w r d e r , y ffilm; athrylith technoleg sydd yn berchen ar cymeriad ac fwy o bres na moes. (Tybed a yw wedi’i selio y m e n n y d d - ar Apple?). Fel sy’n gyffredin mewn pastiche, r h y w b e t h dyma’r cymeriad doniolaf, er ei ddymuniadau tebyg i’r tasgau brawychus. A fydd ei gynllun yn llwyddiant neu ar gyfer y a fydd y Kingsmen a’r aelod newydd yn gallu ei T r i w i z a r d danseilio? Tournament yn Tra bod cyfnod yr Oscars yn rhoi’r cyfle i wylio un o ffilmiau’r ffilmiau ‘dwys’ a ‘phwysig’, dyma brofiad sydd yn gyfres Harry ddihangfa lwyr. Potter, ond heb
50 SHADES OF GREY Caryl Bryn Heb os, dyma oedd hot topic y byd ffilm ar ddiwedd 2014, ac yn sicr ar ddechrau 2015. Mi oedd y rheiny oedd wedi darllen y llyfr wedi gwirioni wrth glywed bod ffilm yn seiliedig ar y llyfr yn cael ei rhyddhau, ond mi oedd y rheiny nad oedd wedi’i ddarllen a dim ond wedi clywed am ei gynnwys wedi gwirioni’n fwy fyth. Yn amlwg, nid damwain oedd rhyddhau y ffilm noson cyn ddydd Sant Ffolant. Rydw i’n sicr bod pob tocyn wedi cael ei werthu a rhai merched wedi prynu mwy nag un a’u cariadon yn cymryd y cyfle mewn gobaith o gael noson fythgofiadwy wedi gadael y sinema. Dw i 100% sicr nad oes yr un ddynes na fyddai’n mwynhau bod yn nghwmni Christian Grey am ryw awran, hyd yn oed os mai dim ond drwy gyfrwng sgrin y sinema fyddai hynny. Ceir perthynas wahanol dros ben rhwng Christian Grey a’r fyfyrwraig Ana Steele; wedi ei seilio ar gyfweliad byr a lletchwith. Heb fynd i ormod o fanylder, ceir golygfeydd o natur rywiol sydd yn hollol anweddus i blant, ond yn hollol wych i oedolion. Diolch byth nad hon yw’r unig ffilm a bod dwy arall i ddod, oherwydd dwi’n meddwl archebu seddi yn y sinema agosaf ar gyfer y ddwy ffilm nesaf yn barod.
The Theory of Everything
Lora Lewis Hanes bywyd Stephen Hawking a gawn yn y ffilm hon, gyda pherfformiadau anhygoel a enwebwyd am Oscar gan Eddie Redmayne a Felicity Jones. Addasiad o nofel hynod ei gyn-wraig, Jane, yw’r ffilm, sy’n dilyn hanes bywyd Stephen drwy ei ddyddiau coleg a’i garwriaethau, a dengys sut mae’r clefyd yn effeithio ar y nodweddion hyn yn ei fywyd. Ffisegwr damcaniaethol, cosmolegydd ac awdur llyfrau ar seryddiaeth a gwyddoniaeth yw Stephen William Hawking; awdur y gyfrol ddylanwadol: A Brief History of Time. Mae’n dioddef o glefyd motor niwron sydd wedi gwaethygu dros amser ac mae bellach wedi’i barlysu bron yn llwyr. Eddie Redmayne oedd yn portreadu’r cymeriad, a gwnaeth hynny yn llwyddiannus iawn: cipiodd
Oscar ‘Actor Gorau’ am ei berfformiad yn y ffilm. Mae myfyriwr yn cyrraedd parti, yn edrych ar draws yr ystafell ac yn gweld merch ifanc, hardd. Wedi iddo fagu hyder i siarad â hi, mae’n nerfus a phrin yn gallu edrych arni. Mae’n cyfnewid rhif ffôn â hi wrth i’w hyder godi wrth i’r noson fynd yn ei blaen, ond ymhen dim, gwelwn y cariad yn datblygu. Dyma ddechrau ar eu perthynas, ac yn y ffilm cawn weld sut y datblygwyd y berthynas honno. Mae The Theory of Everything yn ticio pob un bocs i mi, er nad yw hi’n codi i’r entrychion yn llwyr. Mae testun gwreiddiol Jane Hawking yn darparu cipolwg brwd i ramant a bywyd y ddau. Mae’r ffilm yn gofyn cwestiwn oesol - faint fyddech chi’n ei aberthu i’r un yr ydych yn ei garu? Yn hytrach na rhoi ateb wedi’i drwytho mewn gormodiaith, drwy arddull tylwyth teg - cawn ateb dilys yma. Mae’r ffilm yn dangos yn anad dim pa mor anodd oedd pethau i Jane. Nid stori garu gyffredin sydd yma, ond un sy’n cyffwrdd pob un ohonom ni a aeth yn ddewr i wylio’r ffilm yn gyhoeddus. Ffilm sy’n ennyn dagrau, yn eich cysuro ac yn eich deffro. Hyd yn oed os nad ydych chi’n wyddonwyr, sicrhewch eich bod yn ei gwylio.
Adolygiadau...24
Huw Harvey
CODI’N FORE, BROMAS
Dyma albwm newydd gan fand sydd wedi tyfu mewn hyder a statws dros y blynyddoedd diwethaf ac mae eu dawn gerddorol yn amlwg wedi datblygu’n sylweddol. Mae’r albwm yn seiliedig ar fywyd pobl ifanc yn y byd modern a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys ein hanturiaethau ar Facebook, problemau gyda pherthnasau yn ogystal â chyffwrdd ar faterion hollbwysig i hogiau yn eu harddegau; Merched Mumbai. Os ydych yn hoff o bop-roc, Bromas yw’r band i chi. Egyr yr albwm gyda’r teitl-trac “Codi’n Fore” ac fel y mae’r teitl yn awgrymu, mae’r gân yn ein deffro o’r dechreuad. Gyda defnydd effeithiol o glip o sgwrs radio ar ddechrau’r trac, mae’r sŵn yn ffrwydro gyda’r holl offerynnau yn dod yn fyw, yn enwedig gyda’r synths yn chwarae alaw fachog. Sonia’r gân am y cyfle sydd ar ddechrau pob diwrnod i drio rhywbeth newydd, “Dyma’r cyfle i wireddu’r ysfa fawr”. Mae pob un aelod o’r band yn feistr ar ei offeryn, a gwelwn enghraifft o hyn ar ddiwedd y gân pan glywn solo gan y brif gitâr sy’n ein gorfodi i eistedd, gwrando a gwerthfawrogi. Mae natur hwyliog ac ifanc y gân yn gosod naws ar gyfer gweddill yr albwm. Mae’r ail gân, “Fersiwn o fi” yn crybwyll mater cyfoes iawn sef ein defnydd o Facebook a sut rydym yn creu darlun ffug o’n hunain ar y we. Mae hon yn gyferbyniad llwyr â’r gân gyntaf, gyda’r tempo wedi arafu a’r naws yn fwy hamddenol. Riff y bas sy’n cynnal y trac gan osod sylfaen cryf iddo. Mae amrediad llais y prif leisydd yn cael ei brofi yn y gân, ac mae’n llwyddo i’n diddanu gyda’i nodau hynod uchel. Mae’r caneuon “Huw” a “Merched Mumbai” yn haeddu clod am fod yn hollol unigryw eu naws a’u hawyrgylch. Mae’r cydbwysedd rhwng y prif lais a’r lleisiau cefndirol yn “Huw” yn berffaith ac mae’r defnydd o’r arddull galw ac ateb yn effeithiol. Mae stori’r gân yn hollol glir ac mae’r gerddoriaeth yn gweddu i’w chynnwys. Erys y geiriau “Huw, beth wyt ti’n ‘neud?” yn ein cof. Mae’r defnydd o synnau Indiaidd yn “Merched Mumbai” yn rhywbeth nad ydym erioed wedi’i glywed yn y Sîn Roc Gymraeg o’r blaen. Defnydd effeithiol o’r synths yw hyn, ac mae’r riff bachog gan lais y gitâr yn ychwanegu at y naws ddwyreiniol. Yn fy marn i, “Gofyn a Joia” sy’n hawlio teitl y gân orau. Mae’r gytgan yn cyffwrdd ar elfennau anthemig. Yn wreiddiol, cyfansoddwyd y caneuon hyn ar gyfer sioe gerdd, ac mae hynny’n dod yn amlwg yn y gân hon. Mae’r middle 8 yn gyffrous, egnïol ac yn llawn brwdfrydedd; fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn sioe gerdd. Mae’n debyg mai uchafbwynt yr albwm yw cytgan olaf y gân hon, lle mae’r prif leisydd yn arddangos ei ddawn leisiol trwy gyrraedd y nodau uchel trwy gyfrwng y dechneg falsetto. Mae lle hefyd i werthfawrogi’r lleisiau cefndirol benywaidd ym mhob cân, sy’n ychwanegu at y cydbwysedd lleisiol perffaith. Os nad ydych wedi cael y cyfle i wrando ar Bromas, rwy’n eich argymell i brynu’r albwm oddi ar iTunes, neu mewn siopau Cymraeg ar hyd y wlad, oherwydd mae’n werth ei glywed. Mae’r band wedi llwyddo i gynnwys popeth; riffs bachog, solos i’r gitar a’r piano, amrywiaeth o leisiau a geiriau gwych. Cyrhaeddodd yr albwm restr fer y categori “Record hir orau” yng Ngwobrau’r Selar eleni ac yn fy marn i, mae’n llwyr deilwng o’r enwebiad.
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
APOLYGIADAU Kim Kardashian: Hollywood Lora Lewis
Nid yw enw’r ap wir yn cyfiawnhau’r defnydd ohono gan ei fod yn swnio fel gêm i blant o dan 12. Amser maith yn ôl, roedd gan Paris Hilton ei gêm symudol ei hun, a sawl blwyddyn yn ddiweddarach, dyma Kim Kardashian yn gwneud yr un fath. Pwrpas y gêm yw ceisio bod yn enwog, wrth grwydro o gwmpas Los Angeles a mynychu ambell barti, a chyfarfod i Kim ei hun yn achlysurol. Mewn gwirionedd, mae’n dipyn o hwyl, ond yn wastraff amser llwyr. Ond, os dyma yw’r nod, dyma gêm ysgafn, ddoniol sydd yn eich diddanu am oriau (a thynnu eich meddyliau oddi wrth waith coleg!). Sori hogia, gêm i ferched ydy hon dw i’n tybio!
Nutrino Lora Lewis Mae’r ap hwn yn berffaith ar gyfer y cyfnod diflas o geisio dilyn deiet ar ôl y Nadolig. Mae’r ap yn creu bwydlen bersonol ar eich cyfer, gan gymryd i ystyriaeth faint o galorïau y dylech eu bwyta bob dydd i gyrraedd eich nod. Rhaid nodi eich hoff brydau bwyd, ac mae hyd yn oed yn gwneud rhestr siopa ar eich cyfer chi! Os ydych yn dewis rhannu ‘ch cynnydd, gellwch rannu eich cynlluniau bwyd drwy gyfrwng cymdeithasol yn syth o’r ap, neu ei gadw’n rhywbeth personol. Yn bendant, dyma ap i’w ystyried os ydych angen help am ddim!
Zig Zag Caryl Bryn Os oedd Flappy Bird yn gêm amhosib i stopio’i chwarae, mae hon yn rhywbeth arall. Roeddwn i wrthi am beth amser yn ceisio gweithio allan sut oedd chwarae hon cyn rhoi’r ffidil yn y to ond, ar daith hir ar fws llawn plant yn sgrechian, dyma oedd fy unig obaith am ychydig o dawelwch meddwl. Wedi mynd heibio’r anhawster o ddeall y gêm, amhosib oedd rhoi fy ffôn i lawr a chyn dim, roedd bron i ddwy awr wedi mynd heibio ac roedd fy matri bron yn hollol fflat. Mae hon yn un dda, ac yn rhad ac am ddim! Ewch amdani.
Pontio...25
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Profi a Fi Gwelais hysbyseb yn hyrwyddo cyfle i wirfoddoli ar broject o’r enw Profi, o dan faner Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio. Doeddwn i ddim yn sicr yn union beth oedd gofynion y rôl, tu hwnt i’r ffaith bod yna gyfle i weithio gyda phobl ifanc ar broject cymunedol. Ond roedd hi’n edrych ychydig yn wahanol i’r arfer, felly penderfynais ymgeisio amdani. Credaf fod cael cyfleoedd fel Profi yn gyfle arbennig i ni fel myfyrwyr ymestyn ein profiad tu hwnt i’r gwaith gradd yn unig. Mae’r project yn herio timau o bobl ifanc o Sir Fôn i edrych ar broblemau sy’n wynebu eu cymuned ac i feddwl am ateb i fynd i’r afael a’r broblem. Ein rôl ni fel Profysgwyr (yr enw a roddir ar y gwirfoddolwyr) yw hwyluso’r broses, gan gefnogi’r bobl ifanc i ddatblygu hyder, ymarfer sgiliau cyflogadwyedd ac ehangu gorwelion. Yn ogystal mae’n rhoi cyfle i ni godi hyder, dysgu sut i weithio o fewn maes proffesiynol a gweithio mewn tîm ac yn annibynnol. Fel myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol mae gen i ddiddordeb mewn materion cyfoes, ac roeddwn yn awyddus i roi fy nealltwriaeth o’r pwnc ar waith er mwyn gwneud gwahaniaeth mewn cymuned leol. Gwn hefyd y buasai’r profiad yn cyfrannu tuag at Wobr Cyflogadwyedd Bangor ac yn gyfle i minnau ddatblygu sgiliau newydd hefyd. Cafwyd dwy sesiwn hyfforddiant dan arweiniad arbenigwr dysgu drwy brofiad a hwyluso, sef Chris Walker. Roedd yn sesiwn hwyliog ac ymarferol
a’r hyn oedd yn aros yn y cof oedd ‘Rhowch eich ffydd yn y broses!’ Roedd hwn yn gyfle gwych i ddod i adnabod y myfyrwyr eraill a oedd yn cymryd rhan yn Profi a chreu perthynas da er mwyn gweithio’n fwy effeithiol yn yr ysgolion. Deuthum i ddeall ystyr a phwysigrwydd y geiriau hyn wrth i mi hwyluso gweithdai wythnosol gyda grŵp o bobl ifanc yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. O bryd i’w gilydd, roedd gofynion y project yn profi fy sgiliau i’r eithaf – ond gan gofio cyngor Chris, fe wnes i ddal ati. Roeddwn i mor falch o weld fy nhîm i yn cyflwyno eu project i banel o feirniaid (a’r Is-ganghellor!) yn Neuadd Reichel ar ddiwedd y project. Ar ôl sylweddoli bod yna brinder gweithgareddau at ddant pobl ifanc yn Amlwch, roedd y criw yn awyddus i sefydlu clwb o’r enw'r Hwb, a fuasai’n rhoi rhywle i bobl ifanc gyfarfod a chynnal gweithgareddau. Yn anffodus, nid fy nhîm i a enillodd – ond gwn eu bod nhw wedi cael llawer o fudd o’r profiad ac wedi mwynhau’n arw. Dwi’n falch iawn fy mod i wedi cymryd y cyfle i wirfoddoli ar y project hwn. Mae wedi cynnig profiadau newydd i mi, a dwi’n sicr yn fwy hyderus o sylweddoli fy ngallu i hwyluso gweithgareddau gyda phobl ifanc. Nid yw’r project yn cymryd llawer o amser hamdden ac mae digon o amser ar ôl i ganolbwyntio ar waith gradd. Roeddwn yn gweld y project hwn yn un hwyliog ac yn rhywbeth roeddwn yn edrych ymlaen at fynd
iddo’n wythnosol. Byddwn i’n sicr yn annog unrhyw un sy’n ystyried rhoi cynnig arni i fynd amdani! Dyma hanes Kimberley Roberts, myfyriwr trydedd flwyddyn a wirfoddolodd dros gyfnod o 12 wythnos ar broject Profi yn 2014/15, o dan faner Pontio – Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor. Rydym yn recriwtio yn awr ar gyfer 2015/16. I gael mwy o wybodaeth, neu i ddatgan eich diddordeb, cysylltwch gydag Elen Bonner, Rheolwr y Project: e.bonner@bangor.ac.uk / 01248 382813 Mae Profi wedi’i seilio ar raglen dysgu drwy brofiad i israddedigion Prifysgol Bangor, sef ‘Menter trwy Ddylunio’, a chaiff Profi ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Esm.e Fairbairn gyda chefnogaeth hael Pŵer Niwclear Horizon, Santander, trwy Isadran Fyd-eang Prifysgolion Santander, a Magnox. Cyd-gynhyrchwyd y gweithgareddau gan Pontio, Chris Walker - People Systems International, myfyrwyr Prifysgol Bangor a disgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni.
CYSTADLEUAETH!
Am gyfle i ennill TAITH O AMGYLCH SAFLE PONTIO, atebwch y cwestiwn canlynol: Pwy fydd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yn y flwyddyn 2015-2016? A) Fflur Elin B) Guto Gwilym C) Ifan James
I roi cynnig ar y gystadleuaeth, y cwbl sydd rhaid i chi ei wneud yw e-bostio golygydd.llef@ myfyrwyrbangor.com gyda’ch ateb. Gellwch hefyd anfon neges bersonol ar ein tudalen Facebook (Llef Bangor) ERBYN EBRILL 1.
Ffasiwn...26
ffasiwn
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
70au
Siaced Swed: £125, ASOS
Er mai’r 1960au sydd wedi derbyn y rhan fwyaf o sylw ffasiwn tan yn ddiweddar, mae’'r 1970au yn brysur dwyn y sylw hwnw. Felly paratowch i weld y swed rhideniog (fringed suede), denim a’r printiau blodeuog yn ol yn ffenestri'’r stryd fawr. Mae’r steil wedi ymddangos ar y rhedfa hefyd, gyda thopiau tyn, gwaelodion llac, a swed yn parhau’n amlwg gan rai o brif ddylunwyr y byd ffasiwn. Canol uchod: Katie Eary Chwith a’r dde uchod: Saint Laurent
Dilynwch ol traed y modelau uchod gyda’r ‘dessert boots’ yma- addas iawn wrth i’r tywydd gynhesu: Chwith (brown) : £45, Superdry Isod (llwyd): £40, Asos
Asos, £25
Crys denim paisley: £35, River Island
5 am £23, ASOS
Y Gornel Dywyll...
Wrth i’r tywydd gynhesu hefyd, daw’r amser i gadw’r siwmperi gwlanog; ond nid yw’n Haf eto... felly pam ddim defnyddio crys, yn hytrach na siaced, dros grys-t? Yn dryw i ddychweliad steil y ‘70au, mae’r crysau denim eto’n ol...
Achlysur arbennig? Does dim angen troi at y lliwiau hafaidd eto... Diolch i un dyn, mae’r trend wedi’w osod, ac mae’r siopau’n ei ddilyn. Am ddim ond £10 y tei, mentrwch i Topman, neu Burton, lle cewch dei o bob arlliw llwyd...
Ffasiwn...27
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Cipolwg gan Elin ar golur... Elin- myfyrwraig o’r ail flwyddyn
Debhanams: £8
Wedi’i ddefnyddio ar redfa’r wythnos ffasiwn yn Llundain, a gan rai o wynebau mwyaf cyfarwydd y carped coch - mae dylanwad y llygaid tywyll o Baris yn ôl unwaith yn rhagor. Bu Elin Wyn Hughes - ein Pat McGrath ein hunain - yn rhannu ei chamau hi tuag at y ‘smokey eyes’ perffaith:
CAM 1: ‘PRIMER’ I wneud yn siŵr na fydd eich gwaith yn mynd yn ofer, a bod y powdr yn aros yn ei le heibio’r dafarn gynta’n unig- cofiwch ddefnyddio primer! Byddai’n defnyddio primer urban decay.
CAM 2: lliw golau Byddaf yn defnyddio brwsh tew i roi lliw eithaf golau a naturiol dros yr amrant i gyd yn gyntaf hyd at yr ael. Cam 3: gwyn Byddaf yn rhoi lliw goleuach, agosach at wyn, os rhywbeth, tua chornel fewnol y llygaid wrth y trwyn, a hefyd o dan yr ael. Bydd hyn yn denu sylw at yr aeliau, ac yn gwneud i’r llygaid edrych yn fwy.
dyn i e w u a d 5: du h frwsh ten du, ar hy m a C diwc llaf, os nad gad. Yna, d y n f lly ach De wy y w y t e h d c w i y n l r roi y l allanol a c ychydig y l sh corne diwch frw gilydd. d ’i defny lliwiau efo Cam 6: Yn olaf, r i asio’ gydag ychydig o liquid eyeliner a mascara- bydd yr olwg wedi’i orffenmor syml â hynny!
£6, ASOS Crimpio’r ffordd hawdd: Plethwch rhan ucha’r gwallt yn denau a thynn, yna defnyddiwch sythwr gwallt i’w wasgu/crimpio
Cam 4: lliwiau tywyll Gan ddenyddio brwsh canolig yn gyntaf, gweithio’r lliwiau golau yn raddol i mewn i rai tywyllach o ganol y llygaid at y gornel allanol. Byddaf yn defnyddio tua 3 lliw gwahanol i wneud hyn, ond mae’n bosib defnyddio llai.
Wythnos Ffasiwn Llundain: Fel y gwelwch o’r llun yn y gornel dde uchod, bu’r arlunydd colur, Pat McGrath, yn defnyddio’r ‘smokey eyes’ yn ystod wythnos ffasiwn Llundain. Ymysg y tueddiadau eraill a welwyd yno oedd: - llygaid pastil, gan Dior, i roi lliw ysgafn i’r Gwanwyn - aeliau mawr, gan Cara Delevingne, ar gyfer Saint Laurent - rhaniad canol i’r gwallt (middle parting), steil y ‘70au unwaith eto -Gwallt wedi’i grimpio, gan Stella McCartney.
Ffasiwn...28
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Sgertiau’r ail Semester.
Y tymor hwn, sgertiau siâp A-line sy’n hedfan oddi ar yr hongwyr gan eu bod yn diffinio amlinelliad eich corff yn fwy nag unrhyw fath arall o sgert. Os ydych chi eisiau i’ch gwasg/ canol ymddangos yn deneuach fyth ewch am y math yma o sgert. Dyma gasgliad o sgertiau Topshop a New Look i chi gymysgu gyda bŵts a sodlau gwahanol.
SGERT Y NOSON: Defnydd gwaedog gyda les rownd y gwaelod. £36.00 – Topshop.
ACHLYSUR ARBENNIG: Sip a phocedi. (Lliwiau ychwanegol: brown tywyll a brown golau). £17.99 – New Look. (Fersiwn chepach o un Topshop).
SGERT Y DIWRNOD: Cord felfed gyda poppers ar ei blaen. £30 – Topshop. (Fersiwn chepach o un Urban Outfitters.)
BARGEN Y SEMESTER. £9.99 – New Look. Does dim esgus gennych chi i beidio ychwanegu’r perl rhad hwn at eich cwpwrdd dillad. Neith y patrwm paisley arni ddim eich siomi.
10 Eiliad o Ysbrydoliaeth! Mae un o’r cyfryngau cymdeithasol enwocaf a mwyaf poblogaidd yn cael ei ddefnyddio i ddal cynulleidfa ehangach, mae’r Snapchat Stories Live yn cynnal cymysgfa o ‘streuon’ o wythnos ffasiwn, yn cyfri wythnos Llundain, Milan a Paris! Dyma’r eithriad gorau i’r rheol ‘dim screenshots’!
TORRI’R BANC. £42.00 – Topshop. Does dim syndod bod y sgert silc yma mor ddrud ond mae’r patrwm blodeuog a’r manylion arni mor bert fi’n siŵr neith eich rhieni deall pan fydde chi ychydig yn brin o arian.
Ffasiwn...29
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Wythnosau ffasiwn ar draws y byd... Mae wythnos ffasiwn wedi cael eu cynnal yn Llundain, Milan a Pharis yn ystod y misoedd diweddar. Hefo 250 o ddarlunwyr yn rhoi eu gwaith newydd mewn sioe i ddangos i bawb. Yn nangosfa Hydref i Aeaf 2015, bydd hi’n ben-blwydd ar Wythnos Ffasiwn Llundain yn 61 mlwydd oed. Rhywbeth allweddol eleni oedd bod modd gwylio’r wythnos ffasiwn yn fyw ar y we, os nad oeddech ddigon lwcus i fod yno. Un o’r sioeau mwyaf cofiadwy yn ystod wythnos ffasiwn Milan oedd Dolce a Gabbana, gan iddynt gynnal sioe yn llawn ffrogiau a dillad merched yn canolbwyntio ar y fam. Gyda modelau yn cerdded y redfa gyda phlant, rhai gyda’u plant eu hunain a hefyd model a oedd yn feichiog.
Ar ol edrych ar y ffrogiau anhygoel a unigryw...dyma ei rhestr hi o’r ffrogiau gore yn y BRITS 2015: Ffrog syml, osgeiddig ddu hefo’r rhan uchaf yn dangos yr ysgwyddau gan ei gadw’n glasurol efo’r strap rownd yr wddf sydd gan Rosamund Pike.
Dilyn esiampl Belle o Beauty and the Beast mae Lea Seydoux wedi ei wneud yn ei ffrog felen, gan roi elfen fodern o’r cut outs i ddangos ei chorff, a’r gwallt yn fframio’i hwyneb wrth ychwanegu’r elfen dywysogesaidd.
Mae Laura Haddock wedi mynd am yr edrychiad tywysogesaidd hefyd gyda’r ffrog sy’n draddodiadol fel ffrog dywysoges a’i gwallt i fyny’n daclus mewn bwn, a gemwaith crand.
Mae Monica Bellucci - Alaia mewn ffrog ddu hyd at y llawr sy’n cydio am ei chorff gan ddangos prydferthwch y corff sydd ganddi a wedyn y rhan olaf yn hedfan allan i bwysleisio siâp.
Mae Laura Bailey wedi mynd am ffrog sy’n sefyll allan, ffrog ddu i gyd sydd at yr wddf, ac yn rhoi stamp unigryw.
Yr orau oll yw Jennifer Aniston yn ei ffrog sydd yn cydio’n ei chorff ac yn lliw croen, gyda’r manylion disgynedig ar y ffrog yn cyfleu ei siâp, a thop siâp calon yn ei wneud yn ferchetaidd a del.
Hysbyseb... 30
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Chwaraeon...31
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Y Chwe Gwlad
Yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad, collodd Cymru yn erbyn Lloegr. Ar ôl hanner cyntaf cyffrous, llwyddodd Rhys Webb i gael cais dros Gymru ac Anthony Watson i Loegr. Fe drosodd Leigh Halfpenny y cais ynghyd â chicio tair gôl gosb, gyda George Ford yn ychwanegu cic gosb i Loegr. Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf oedd 16-8 i Loegr. Cafwyd gêm gwbl wahanol yn yr ail hanner, gyda Cymru fel pe baent wedi aros yn yr ystafell newid! Dominyddodd Lloegr yn llwyr gan sgorio ail gais gan Jonathan Joseph gyda Ford yn trosi a chicio dwy gôl gosb yn ychwanegol. Y sgôr terfynol oedd Cymru 16-21 Lloegr. Roedd hwn yn ddechrau siomedig i’r Cymry ac roedd angen perfformiadau gwell os am gael cyfle i ennill y bencampwriaeth. Wythnos yn ddiweddarach, taith i Gaeredin i herio’r Alban oedd yn wynebu’r Cymry. Ar ôl cychwyn araf gyda Stuart Hogg yn croesi i’r Albanwyr fe drodd y gêm yn dilyn cerdyn melyn i Finn Russell o’r Alban ar ôl tua hanner awr. Manteisiodd Cymru ar y dyn o fantais gyda Rhys Webb yn croesi am gais gyda gweddill pwyntiau Cymru’n dod o giciau Leigh Halfpenny. Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf oedd 16-10 i Gymru. Ar ôl dwy
...Chwaraeon
gic gosb arall i’r ddau dîm, cafwyd ton ar ôl ton o ymosodiadau gan Gymru gyda’r pwysau’n dweud yn y diwedd gyda chais Jonathan Davies yn rhoi Cymru 10 pwynt ar y blaen. Fe sgoriodd Gordon Reid ail gais i’r Alban gyda symudiad olaf y gêm ond roedd y Cymry wedi gwneud digon i gael y fuddugoliaeth. Y sgôr terfynol oedd 26-23 i Gymru. Ar ôl wythnos rydd, gêm nesaf y Cymry oedd ym Mharis yn erbyn y Ffrancwyr. Roedd yr hanner cyntaf yn ddi-fflach gyda phrinder o gyfleoedd i’r ddwy wlad gyda sgoriau’r hanner yn dod drwy Camille Lopez gydag un gic gosb i Ffrainc a Leigh Halfpenny gyda dwy gic gosb i Gymru. Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf oedd 6-3 i Gymru. Ciciodd Morgan Parra gic gosb i ddod â Ffrainc yn gyfartal cyn i Halfpenny roi Cymru yn ôl ar y blaen. Yna daeth chwarae gorau Cymru yn y gêm a arweiniodd at gais i Dan Biggar. Daeth Ffrainc yn ôl i’r gêm gyda chais i Bruce Dulin cyn i gic gosb arall gan Halfpenny ymestyn mantais y Cymry. Y sgôr terfynol oedd 13-20 i Gymru. Y gobaith mawr yw parhau gyda’r perfformiadau am y ddwy gêm olaf i gael cyfle i ennill y bencampwriaeth unwaith yn rhagor a chael momentwm wrth feddwl am Gwpan y Byd ym mis Medi.
Tîm Pêl-Droed UMCB
Mae hi wedi bod yn ychydig fisoedd caled iawn i dîm pêl droed UMCB. Ar ôl curo Gwalchmai ganol Tachwedd, mae’r tîm wedi bod ar rediad ofnadwy o ran canlyniadau. Y gêm nesaf oedd yn erbyn Arriva Bethesda a chyda mwyafrif y tîm ddim yn ôl o’r Ddawns Ryng-golegol tan tua 4 o’r gloch y bore, roedd llawer o guriau pen erbyn y gic gyntaf. Colli a wnaeth y tîm o 6-1 gyda Rhodri Williams yn sgorio. Gêm gwpan oedd y gêm nesaf yn erbyn North Wales Inn o’r Rhyl gyda’r hogiau’n cael cweir go iawn o 9-1 gyda Rhodri yn sgorio eto. Ar ôl un Sul rhydd ddechrau Rhagfyr, gêm oddi cartref yn erbyn Treetops Benllech oedd nesaf i’r hogiau. Cafwyd brwydr ffyrnig yng nghanol y gwynt a’r glaw gydag UMCB yn colli o 4 gôl i 2 gyda Huw yn sgorio ddwywaith. Ar ôl toriad dros y Nadolig, gêm gyntaf yr hogiau yn 2015 oedd gartref yn erbyn Kings
Arms o Gaergybi. Roedd prinder chwaraewyr gyda dim ond saith yn troi i fyny i chwarae. Er colli’r gêm 8-3, rhaid cymeradwyo’r hogiau am eu hymdrech a’u hymroddiad, yn enwedig gyda phedwar dyn ar goll. Wythnos yn ddiweddarach, roedd cymal cyntaf gêm gwpan gartref yn erbyn Arriva Bethesda a llwyddodd UMCB i gael tîm llawn y tro hwn. Er hynny, colli a wnaeth yr hogiau o 5 gôl i 1 gyda Huw yn sgorio. Yr wythnos ganlynol, roedd gêm gartref arall gan yr hogiau yn erbyn Treetops Benllech. Er y perfformiad da, ildiodd UMCB ddwy gôl hwyr i golli o 4 gôl i 2 gyda Rhodri a Kyle yn sgorio. Ail gymal y gêm gwpan yn erbyn Arriva Bethesda oedd y gêm nesaf a chafwyd cweir go iawn ganddynt wrth i UMCB golli o 12 gôl i 2 gyda Huw yn sgorio ddwywaith. Gyda mwyafrif y tîm yng Nghaeredin ar gyfer y rygbi, roedd rhaid arwyddo
nifer o Wyddelod ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Adelphi Amlwch. Gwaetha’r modd, yr un hen stori oedd y canlyniad wrth i UMCB golli o 9 gôl i 0. Wythnos yn ddiweddarach, roedd yr hogiau’n ôl gyda gêm oddi cartref yn erbyn Victoria Tregarth yn wynebu’r hogiau. Dim ond 9 chwaraewr oedd gan Victoria ac er y perfformiad da iawn yn yr hanner cyntaf, colli eto a wnaeth UMCB o 5 gôl i 2 gyda, Huw a Tom Roberts yn sgorio. Y gêm ddiwethaf i’r hogiau ei chwarae oedd y gêm gartref yn erbyn Victoria Tregarth ac er y perfformiad addawol, colli unwaith eto oedd hanes yr hogiau wrth i Victoria ennill o 3 gôl i 1 gyda Rhodri yn sgorio. Mae wedi bod yn dymor anodd i’r hogiau heb gysondeb o ran y tîm yn wythnosol. Y gobaith nawr yw bod yr hogiau’n parhau i drio eu gorau am y 5 gêm sy’n weddill yn ystod y tymor.
Chwaraeon...32
Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2015
Chwaraeon yr Eisteddfod Ryng-golegol Fore Gwener Mawrth 6, aeth bws o Fangor i lawr i’r Eisteddfod Rynggolegol yn Aberystwyth gyda’r mwyafrif o’r criw yn cystadlu yn y chwaraeon yn y prynhawn ar gaeau Blaendolau. Gêm rygbi 7 bob ochr y merched rhwng Bangor ac Aberystwyth oedd gyntaf ac, er ei bod yn gêm agos Aberystwyth oedd yn fuddugol. Yna, tro’r bechgyn yn y bêl-droed wrth iddynt hwy hefyd wynebu Aberystwyth. Cafwyd gêm gynderfynol agos ond prin oedd y cyfleoedd i’r ddau dîm gydag Aber yn fuddugol o gol i ddim. Gêm am y 3ydd neu’r 4ydd safle yn erbyn Abertawe oedd nesaf a chafwyd hanner cyntaf sâl iawn gydag Abertawe ar y blaen o gôl i ddim. Fe wellhaodd pethau gryn
dipyn yn yr ail hanner gyda 2 gôl gan Gruff John, 1 gan Guto Griffiths ac 1 gan Guto Howells yn golygu bod Bangor yn fuddugol o 4 gôl i 1. Tro’r merched yn y bêl-droed oedd hi nesaf a chafwyd gêm hynod o gyffrous yn Aberystwyth gyda nifer o gyfleoedd i’r ddau dîm ennill y gêm. Er hynny, gêm gyfartal ddi sgôr oedd hi yn y diwedd. Gêm nesaf y merched oedd yn erbyn Caerdydd a chafwyd gêm gyffrous unwaith yn rhagor wrth i Fangor ennill o 4 gôl i 2 gyda Lois yn sgorio’r pedair gôl. Er mwyn penderfynu ar enillydd cafwyd gêm arall yn erbyn Aberystwyth ac yn dilyn penderfyniad dadleuol, colli oedd hanes Bangor o 2 gôl i 1 gyda Grisial yn sgorio. Yn olaf tro’r bechgyn yn y rygbi oedd hi a gêm yn erbyn Aberystwyth oedd gyntaf i’r hogiau. Cafwyd gêm
...Chwaraeon
agos a chyffrous gydag Aber yn fuddugol. Gêm yn erbyn Abertawe oedd nesaf a rhoddwyd cweir iawn iddynt wrth i’r hogiau chwarae’n wych ym mhob agwedd o’r gêm. Yn olaf roedd gem yn erbyn Caerdydd ond nid oedd ganddynt ddigon o chwaraewyr felly fe gafodd Bangor y fuddugoliaeth. Er hynny fe benderfynwyd chwarae rhan o gêm am ychydig o hwyl. Prynhawn llwyddiannus i’r Brifysgol ar y caeau chwaraeon felly gyda nifer o unigolion yn serennu yn un o’r campau.
Yr Undeb Athletau
Fis diwethaf cynhaliodd yr Undeb Athletau, ddigwyddiadau dan y teitl FeBRAry, am y drydedd flwyddyn yn olynol. Ymgais yw hon rhwng y Brifysgol a’r Undeb Athletau i godi arian ac ymwybyddiaeth o gancr y fron a hynny yn ystod mis Chwefror. Cynhaliwyd twrnamaint pêl rwyd gyda £247.80 yn cael ei godi naill ai roi arian eu hunain neu brynu crysau. Bu pobl yn nofio hefyd gan gasglu £195 arall i’r achos teilwng. Ar nos Fercher olaf y mis hwn, cynhaliwyd noson yr Undeb Athletau gyda phobl yn talu £5 am grysau gyda’r elw i gyd yn mynd tuag at Gancr y Fron. Gobeithio y gellir cynnal rhagor o ddigwyddiadau o’r fath dros y blynyddoedd er mwyn casglu mwy o arian tuag at achos teilwng fel Cancr y Fron.
HOLI ALED... 1. Enw llawn Aled Wynn Jones. 2. O ble’r wyt ti’n dod? Bethel, ger Caernarfon. 3. Pa gwrs wyt ti’n ei astudio ym Mangor? Chwaraeon. 4. Beth yw dy gamp? Rygbi.
6. Beth yw dy brofiad gorau yn y gamp? Curo plât Gogledd Cymru gyda Chlwb Rygbi Caernarfon ym Mharc Eirias. 7. Beth yw dy lwyddiant mwyaf yn y gamp? Ennill y plât fel yng nghwestiwn chwech.
8. Pwy ydi dy arwr? 5. Wyt ti’n perthyn i unrhyw Stephen Jones. dîm? 9. Oes rhywbeth neu rywun Clwb Rygbi Caernarfon.
wedi dy ysbrydoli? Cymru yn ennill Camp Lawn 2005. 10. Oes gen ti ofergoelion cyn chwarae? Rhoi dau dap ar arwydd Clwb Rygbi Caernarfon cyn mynd ar y cae. 11. Gobeithion am y dyfodol? Bod yn rhan gyflawn o dîm cyntaf Caernarfon a pharhau i fod yn rhan o’r tîm cyntaf am nifer o flynyddoedd.