Rhifyn y Nadolig

Page 1

Papur-newydd C y m r a e g Myfyrwyr Bangor

Rhifyn y Nadolig 2014

Am Ddim - cymerwch gopi!

@y_llef

Llef Bangor

GOHIRIO STREIC FARCIO

HAWL I’R GYMRAEG YN LIDL?

NEWID I ORIAU AGOR LLYFRGELLOED Y BRIFYSGOL

RHEDEG MARATHON I GODI ARIAN CYSTADLEUAETH! TUDALEN 11 CYFLE I ENNILL TOCYNNAU, A MWY!

Anna Prysor Jones Ar ddechrau mis Tachwedd pleidleisiodd aelodau Undeb Prifysgolion a’r Colegau bleidleisio o blaid ‘gweithredu diwydiannol’ yn erbyn y bwriad i wneud newidiadau i gynllun pensiwn yr USS. Y mae gan yr USS lai o arian, ac yn ei chael hi’n anodd cwrdd â’u haddewidion i aelodau ei chynllun. Penderfynwyd y byddai boicot marcio ac asesu yn dechrau ar Tachwedd 6, a golygai hyn na fyddai myfyrwyr yn cael yr adborth perthnasol i wella’u gwaith a pharhau gyda gweddill eu projectau. Pan ddaeth y penderfyniad

hwn i’r amlwg, roedd nifer o fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy’n dod at ddiwedd eu cyrsiau academaidd yn y brifysgol, yn bryderus ynghylch y sefyllfa ac yn credu y byddai’r boicot yn cael effaith ar safon eu gwaith. Roedd Undeb Myfyrwyr Bangor, er yn poeni am effaith y boicot ar eu myfyrwyr, hefyd yn gefnogol i’r streic ac yn “galw am system addysg uwch sy’n cael ei hariannu’n deg ac mewn ffordd gynaliadwy ar draws Prydain.” Roeddent hefyd eisiau sicrhau y byddai’r boicot yn cael cyn lleied o effaith ar eu myfyrwyr â phosib ac eisiau diogelu cynnydd a

Creu Geiriadur Bangor Manon Elwyn

Yn ddiweddar, tynnodd y BBC eu geiriadur oddi ar eu gwefan. Achosodd hyn gryn stŵr oherwydd roedd llawer o bobl yn ei ddefnyddio o ddydd i ddydd, a hynny oherwydd ei ryngwyneb syml a oedd

yn hawdd i’w ddefnyddio, a’i eirfa eang. Aeth llunwyr gwreiddiol y Geiriadur, Dewi Bryn Jones a Gruffydd Prys, ati i adfer y geiriadur yn yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, gyda’r

graddio myfyrwyr yn ystod y streic. Serch hynny, ar Tachwedd 20, cafwyd cyhoeddiad bod streic farcio’r UCU wedi’i gohirio a hynny nes cynnal trafodaethau pellach i geisio datrys y sefyllfa. Mi fydd y ddwy ochr yn cyfarfod ar Ionawr 15 gyda’r gobaith y byddant yn gallu datrys yr anghydfod. Mae’r ddwy ochr yn obeithiol na fydd rhaid ailafael yn y boicot wedi’r trafodaethau hyn, ond pe bai rhaid gweithredu, amcan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr yw gweithredu’n ddiwydiannol heb orfod effeithio ar fyfyrwyr ond yn hytrach ar y weinyddiaeth.

bwriad i’w gyhoeddi ar wefan y brifysgol. Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: “Mewn cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru, cynllunwyr iaith a charedigion y Gymraeg yn gytûn fod angen pwyslais

ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg, yn gymdeithasol a phroffesiynol, rydym yn gobeithio fod cyhoeddi’r geiriadur hwn yn gyfraniad bach ymarferol at y nod hwnnw.” Mae Geiriadur Bangor - ei enw newydd - ar gael o hyn ymlaen ar http://bangor.ac.uk.


2...Cynnwys

Golygyddol Dyma gyflwyno ail rifyn Y Llef, rhifyn y Nadolig! Yn y rhifyn hwn, mae’r newyddion diweddaraf yn ogystal ag adolygiadau amrywiol, adran ddwyieithog - Yr Hadau, adran arbennig ar y Nadolig, a chyfle i chi ennill gwobrau! Rydw i’n teimlo ein bod ni fel tîm wedi dod i hwyl pethau yn esmwythach yn y rhifyn hwn wedi i bawb ddod i arfer â defnyddio’r rhaglen i ddylunio’u tudalennau eu hunain. Fel bob amser, rydw i’n ffodus iawn o fod ag is-olygyddion mor ddibynadwy a gweithgar, sydd yn barod iawn i’m cynorthwyo bob amser. Diolch iddynt am roi o’u hamser i ysgrifennu deunydd, trefnu’r tudalennau a’u dylunio. Yn y rhifyn hwn hefyd rydym wedi cael y nifer mwyaf o gyfranwyr ers tro, os nad erioed, ac rydw i’n hynod ddiolchgar i’r cyfranwyr hynny am fod mor frwdfrydig i ysgrifennu ar gyfer y papur. Heb ein cyfranwyr, ni fyddai’r papur o’r un safon na’r un swmp, felly mae fy niolch yn fawr iddynt. Cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r papur, boed yn gyfrannu, dosbarthu, hysbysebu, dylunio, tynnu lluniau, neu unrhyw beth arall, cysylltwch ar bob cyfrif! Gan obeithio y mwynhewch ail rifyn y flwyddyn, a mwynhewch y gwyliau. Manon Elwyn Golygydd golygydd.llef@myfyrwyrbangor.com

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Cynnwys: Tudalennau: Newyddion

3-7

Cystadleuaeth

11

Y Gornel Greadigol

12-13

Yr Hadau

16-18

Cerddoriaeth

19

Adolygiadau

20-23

Y Nadolig

24-25

Ffasiwn

26-29

Chwaraeon

30-32

20

3 10

32

27

22

25 Diolchiadau... Diolch o galon, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu, trefnu a dylunio cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Diolch hefyd i’r cyfranwyr. Fel arfer, diolch i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media am ei gymorth parod.

Is-olygyddion: Anna Prysor Jones Elin Haf Gruffydd Lora Lewis Siân Davenport Nonni Williams Gruffudd Antur Benjiman Angwin Iolo Roberts

Cyfranwyr:

Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon

Elis Dafydd Dion Davies Cara Edwards Elis Edwards Gethin Griffiths Huw Harvey Caryl Bryn Hughes Daniel Johnson Dr Aled Llion Jones Charley Jones

Lowri Maxwell Elena Milner Gwenllian Roberts Rhys Taylor Meryl Thomas Elin Bryn Williams Gwenno Williams Hywel Williams AS Mared Williams Rhiannon Lloyd Williams

Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Bangor. Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

3...Newyddion

Dyfodol yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd Caryl Bryn

Mae menter iaith yng Ngwynedd yn lansio strategaeth iaith heddiw, sy’n anelu at gael 5% yn fwy o bobl y sir yn siarad Cymraeg erbyn 2021. Mae 65% o drigolion Gwynedd yn gallu siarad yr iaith Gymraeg, yn ôl cyfrifiad 2011, sy’n gynnydd o 4% ar y ffigwr a gyhoeddwyd yng nghyfrifiad 2001 – o 77,000 i 77,846. Cyhoeddwyd bod menter iaith Gwynedd am lansio’r strategaeth iaith ar ôl i ‘Hunaniaith’, sef y corff sy’n gweithredu fel menter iaith yng Ngwynedd, gael £83,000 gan Lywodraeth Cymru i lansio’r strategaeth. Prif nod y strategaeth hon yw cryfhau Cymraeg ar yr aelwyd, yn yr ysgol, yn y gymuned ac yn unrhyw le sy’n bosib. “Nid gwaith

hawdd yw cynllunio ieithyddol yn y tymor hir,” meddai’r canwr Dafydd Iwan, cadeirydd grŵp strategol Hunaniaith, “ond bydd pwyslais ar weithio gyda chymunedau ac unigolion er mwyn hybu’r Gymraeg a sicrhau’r cynnydd yn hollbwysig.” Dywedodd y canwr ei bod yn hanfodol bwysig “cael pobol ifanc i weld y Gymraeg fel rhywbeth cŵl, ffasiynol a da.” Mae’n credu y dylai enwogion sy’n gallu siarad Cymraeg “Dy George Norths a dy Nigel Owens a dy Aaron Ramseys di” - fod yn rhan flaenllaw o’r ymgyrch i hybu’r iaith ymysg pobl ifanc. Ategodd hynny gan ddatgan mai “ennill pobol ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ydy’r dasg fwya’ sydd o’n blaenau ni – os ydan

ni’n colli’r frwydr yna, mae hi’n mynd i fod yn anodd iawn.” Wrth glywed am lansiad strategaeth menter iaith Gwynedd, ymatebodd Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd ac Ynys Môn, gan ddweud: “Er ein bod yn croesawu cyhoeddi’r Strategaeth, yn arbennig y Meysydd Strategol o geisio gweld defnydd y Gymraeg yn cynyddu ymysg plant a phobol ifanc, rydym yn bryderus y bydd polisïau cynllunio’r Cyngor yn tanseilio’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5%. Credwn fod cysylltiad amlwg yn bodoli rhwng cynllunio anghynaliadwy a dirywiad ieithyddol mewn cymunedau. Yn fuan yn y flwyddyn newydd bydd y cyngor yn mynd rhagddi i gyhoeddi rhestr o

... NEWYDDION

diroedd a fydd yn agored i ddatblygiadau tai yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Er mwyn i unrhyw strategaeth weithio, ac yn bwysicach iddo lwyddo, mae’n hanfodol bod ystyriaeth lawn yn cael ei osod yn y strategaeth iaith er mwyn ceisio deall effaith datblygu tai ar y Gymraeg. Mae’n ddisynnwyr ystyried ‘dyfodol y Gymraeg’ mewn un bocs, heb ystyried polisïau eraill a fydd yn cael effaith anghynaladwy ar y Gymraeg.” Yc hw an e go d d llefarydd ar ran Hunaniaith bod y targed yn “heriol” a’r bwriad i gael 5% yn fwy yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd erbyn 2021 yn “dasg enfawr”, ond tasg enfawr ai peidio, mae menter iaith Gwynedd am fynd amdani.

Newid i Gofrestru Etholiadol

Anna Prysor Jones

Ar 7 Mai 2015, bydd miliynau o bobl yn mynd ati i bleidleisio er mwyn penderfynu pwy a fydd yn llywodraethu’r wlad am y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, mae cofrestru etholiadol wedi newid ym Mhrydain a bellach, cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau eu bod ar y gofrestr etholiadol drwy ddefnyddio system newydd. Yn 2010, 44% o bobl o dan 25 mlwydd oed a bleidleisiodd yn yr Etholiad Cyffredinol ac mae’n debyg mai 1 allan o bob 8 o rai o dan 25 mlwydd oed sy’n bwriadu pleidleisio yn 2015. Amcan y newid cofrestru etholiadol yw ceisio annog mwy o bobl i ddangos diddordeb yn nemocratiaeth eu gwlad. Pryder nifer o bobl yw na fydd llawer o bobl yn mynd ati i gofrestru, gan adael sawl un heb lais, a allai gael effaith fawr ar ddyfodol y wlad. Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn ceisio annog eu myfyrwyr i sicrhau eu bod ar y gofrestr etholiadol er mwyn gwneud yn siŵr bod llais pob unigolyn yn cael ei glywed. Ceir manylion pellach ynglŷn â’r newidiadau cenedlaethol i drefn cofrestru etholiadol ar wefan y Llywodraeth.

‘Dyletswydd ar S4C i gynnig is-deitlau Cymraeg’

Meryl Thomas “Rydyn ni’n teimlo fod S4C angen gwella ei gwasanaeth a sicrhau mynediad cyfartal i’w holl wylwyr” honnai Richard Williams, Cyfarwyddwr Action For Hearing Loss Cymru. Yn ôl cyfrifiad

2011, drwy beidio â darparu is-deitlau yn y Gymraeg, caiff tua 92,000 o bobl fyddar eu hatal rhag gwylio rhaglenni S4C yn y Gymraeg. Eu “cau allan” yw’r term defnyddiodd y gymuned fyddar. “Byddai’n braf gweld is-deitlau Cymraeg ar sianeli Saesneg hefyd, ond pa obaith sydd os nad yw S4C yn gwneud llawer drwy’r Gymraeg?” amheuai Dr Wayne Morris. Fel darlithiwr ym Mhrifysgol Caer sy’n

arbenigo mewn iaith arwyddo, cred Dr Wayne Morris fod dyletswydd ar sianel genedlaethol Cymru i ddarparu is-deitlau Cymraeg. Cefnogwyd yr achos yn gryf gan yr elusen Action For Hearing Loss Cymru. O’r 115 awr o raglenni a gynigai’r sianel, dim ond 15 awr sy’n cael eu darlledu gydag is-deitlau Cymraeg bob wythnos. “Heb is-deitlau Cymraeg ar S4C, ni fyddai gan ganran fawr o Gymry sydd â thrafferthion

clywed fynediad at deledu o gwbl – ar yr union adeg yn eu bywydau pan maen nhw ei angen yn fwy nag erioed” ymatebodd aelod hŷn o’r cyhoedd. Dywedodd ambell i wyliwr eu bod yn falch o gael is-deitlau Saesneg er mwyn gallu gwylio teledu Cymraeg gyda’u cyfeillion Cymraeg. Ond nid yw hyn yn cefnogi achos dysgwr yn ôl Dr Wayne Morris, mae yn hytrach yn fater o oresgyniad yr iaith yn ei dyb ef. Dywedodd bod is-deitlau

Saesneg yn achosi dysgwyr i ganolbwyntio ar y rheiny yn unig, gan anwybyddu’r Gymraeg. “Eiddgar” yw agwedd S4C tuag at yr achos yn ôl y Dirprwy Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu, a bod sicrhau mynediad i gynulleidfa eang yn “bwysig” iddynt. Mae Canolfan Bedwyr wrthi’n datblygu technoleg adnabod lleferydd yn y Gymraeg ac mae S4C yn cefnogi’r gwaith a fydd yn “anelu at oresgyn y broblem hon.”


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

4...Newyddion

Lori Coca-Cola yn dod i Gaernarfon

Beth ydy’r peth cyntaf sy’n dod i’ch meddwl wrth feddwl am y Nadolig? Twrci? Siôn Corn? Anrhegion? Teulu? Ia, efallai, ond i ambell un, lori eiconig Coca-Cola yw’r arwydd cyntaf bod y Nadolig ar ei ffordd. Ers 1995 mae’r lori goch wedi tyfu i fod yn un o brif ddelweddau’r ŵyl. Mae’n ddelwedd fyd-enwog sydd wedi’i chreu gan asiantaeth W. B. Doner a’i datblygu gan gwmnïau sy’n arbenigo mewn creu effeithiau arbennig mewn ffilmiau, megis y gyfrol Star Wars. Ar ochr y tryciau mae darluniau amrywiol o Siôn Corn

wedi’u creu gan Haddon Sundblom, artist enwog o’r Unol Daleithiau. Felly pam fod hyn yn bwysig i ni yng Nghymru fach? Eleni am y tro cyntaf erioed mae cyfle i chi weld yr eicon byd-enwog yma; a byddwch yn gallu dweud wrth eich wyrion a’ch wyresau eich bod chi wedi gweld y lori goch enwog! Bydd y lori yn cyrraedd Caernarfon ar Ragfyr y 4ydd a bydd modd ei gweld ar y Maes rhwng 12 ac 8 o’r gloch cyn iddi wneud ei ffordd i Wrecsam erbyn Rhagfyr y 5ed, i’r Drenewydd erbyn y 6ed, i Abertawe erbyn y 7fed a gorffen ei thaith yng Nghaerdydd ar y 9fed.

Ffliw Adar yn dychwelyd i Brydain Mared Williams Mae Lizz Truss, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, wedi sicrhau prynwyr fod twrci, hwyaid ac adar eraill yn ddiogel i’w bwyta ar ôl i ffliw adar ddychwelyd i Brydain am y tro cyntaf ers chwe blynedd. Mae’r ffliw wedi ei ganfod ar fferm hwyaid yn Nwyrain Swydd Efrog ac mae’r hwyaid bellach yn cael eu difa wrth i ymchwilwyr geisio deall sut ddaeth y ffliw i Brydain. Mae Lizz Truss wedi datgan nad yw’r straen penodol hwn o ffliw adar, H5N8, yn niweidiol i fodau dynol, o’i gymharu â’r straen H5N1. Mae straen arall o’r ffliw arswydus H5N1 yn gallu bod yn angheuol i fodau dynol ac roedd yn gyfrifol am farwolaeth bron i 400 o bobl a miliynau o ieir ar ôl iddo ymledu o Asia i Ewrop ac Affrica yn 2005-6. Ond ym Mhrydain, ar hyn o bryd, mae’r perygl, hyd yn oed i’r rhai sy’n delio â’r adar heintiedig, yn isel iawn. Mae ffliw o’r un straen â’r un sydd ym Mhrydain wedi ei ddarganfod yn India’r wythnos hon. Cyhoeddodd Sefydliad y Byd ar gyfer

Iechyd Anifeiliaid fod awdurdodau yn India wedi gorfod gyrru 200,000 o adar i’w difa gan fod ffliw adar eithriadol o heintus wedi ymledu yn Kerala. Lladdodd y firws 15,000 o hwyaid heintiedig yn Kottayam a 500 ychwanegol gerllaw yn Alappuzha. Mae’r Almaen a’r Iseldiroedd yn dioddef o’r un ffliw â’r un sydd wedi niweidio preiddiau yn Ne Corea yn bennaf, yn gynharach eleni ond nid yw wedi amharu ar bobl hyd yma. Yn ôl Cyfarwyddwr Sefydliad y Byd ar gyfer Iechyd Anifeiliaid: “nid yw hyn yn ddigwyddiad prin, mae India yn cael achosion o fathau o ffliw adar mewn adar domestig a gwyllt yn eithaf rheolaidd.” Mae ymgyrch gwyliadwriaeth ddwys bellach wedi’i chreu o fewn ardal o 10 cilometr i sicrhau nad yw’r firws yn ymledu ymhellach yn India. Diheintio lorïau ac unrhyw beth sy’n mynd i mewn neu allan o’r ffermydd adar yw’r camau nesaf a fydd yn cael eu cymryd ym Mhrydain.

Edrych am Lyfrau? Tria Ni Gyntaf Cefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

Looking for Books? Try Us First! Support your Local Bookshop AR Y STRYD FAWR AC AR LEIN ON THE HIGH STREET AND ON LINE

palasprint.com

170 Stryd Fawr/High Street, Bangor, 01248 362676 10 Stryd y Plas, Caernarfon, 01286 674631 eirian@palasprint.com

Gwenno Williams

Palas PRINT


Newyddion...5

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Croeso i’r Gymraeg yn Lidl Elin Gruffydd

Bu un o brif archfarchnadoedd Prydain, Lidl, yn y newyddion yn ddiweddar o ganlyniad i gyhuddiadau o feddu ar bolisi iaith hiliol. Yn ôl y sôn, roedd polisi iaith yr archfarchnad yn datgan na ddylai gweithwyr siarad unrhyw iaith oni bai am y Saesneg gyda’i gilydd. Daeth hyn i’r amlwg ar ôl i ddau aelod o staff gael eu rhybuddio y gallent golli eu swyddi am sgwrsio mewn Pwyleg yn ystod egwyl mewn cangen o’r archfarchnad yn yr Alban. Mae hyn, wrth gwrs, yn anghyfreithlon a daeth i sylw mudiad Dyfodol i’r Iaith y byddai hyn yn berthnasol i’r Gymraeg hefyd. Mae dros dair blynedd bellach ers pasio Mesur y Gymraeg yn 2011, sy’n rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru ac yn gwahardd sefydliadau rhag atal gweithwyr rhag siarad Cymraeg yn y gweithle. Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Does dim modd i gwmni preifat wahardd iaith swyddogol gwlad.” “Mae’r achos yma’n ei gwneud yn glir bod angen i’r Ddeddf Iaith a phwerau’r Comisiynydd Iaith gwmpasu’r sector preifat.” Ers y cyhuddiad, mae Lidl wedi cael eu cwestiynu’n chwyrn ynghylch eu polisi iaith

gan fudiad Dyfodol i’r Iaith ac maent bellach wedi datgan mai iaith swyddogol y cwmni yw Saesneg, ond eu bod yn ymwybodol bod ieithoedd eraill yn cael eu siarad yn y Deyrnas Unedig ac na fyddent yn gwahardd yr ieithoedd hyn yn eu harchfarchnadoedd. Mae Lidl wedi ymateb i’r ymholiadau niferus a gawsant ac wedi ymddiheuro gan ddatgan eu bod yn parchu hawliau eu gweithwyr i siarad eu hiaith eu hunain gyda’i gilydd a chyda cwsmeriaid. Dywedodd

Bu cyfarfod llwyddiannus a chadarnhaol rhwng Comisiynydd yr Iaith a Rheolwr Gyfarwyddwr Lidl ac mae’r cwmni wedi cadarnhau y byddant yn diweddaru eu polisi staff yng Nghymru yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg 2011 er mwyn sicrhau nad oes amwysedd ynghylch hawliau gweithwyr a chwsmeriaid ar sail y Gymraeg. Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae’r cwmni wedi cadarnhau eu bod yn ystyried y Gymraeg fel sgil yn y gweithle.” Dengys hyn fod cwmnïau mawrion yn fodlon cydweithredu â’r Comisiynydd ac addasu eu polisïau ond efallai nad oes digon o gwmnïau yn y sector breifat yn ymwybodol o’r Mesur, yn ôl Manon Elin James, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith: “Ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel bod gwaith y Comisiynydd gyda Lidl wedi dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, er ei bod bron bedair blynedd ers pasio’r Mesur Iaith, mae’n amlwg nad yw cwmnïau sy’n gweithredu yng Nghymru llefarydd ar ran Lidl UK: wedi cael y neges.” Ys gwn i beth fydd ymateb trigolion “Hoffwn sicrhau ein gweithwyr, cwsmeriaid a’r cyhoedd ein bod yn adolygu ein polisïau yn Bangor wrth i’r archfarchnad ailagor ei drysau gyson, ac yn ystyried yr holl ymatebion sydd ar ei newydd wedd ar y stryd fawr. wedi’n cyrraedd.”

Ched Evans ddim yn dychwelyd i Sheffield Utd Elin Gruffydd Mae clwb pêl-droed Sheffield United wedi bod dan y lach yn ddiweddar am gynnig ei le yn y tîm yn ôl i’r blaenwr, Ched Evans, a gafodd ei ryddhau o’r carchar ar ôl apelio’n erbyn y cyhuddiad ei fod wedi treisio merch 19 oed yn 2011. Achosodd y penderfyniad dadleuol hwn i rai o noddwyr y clwb gan gynnwys y gyflwynwraig, Charlie Webster a’r canwr Dave Berry adael y clwb oherwydd y cynlluniau i’r pêl-droediwr ddychwelyd i’r clwb. Bu Evans yn hyfforddi â’r tîm ychydig dros fis ar ôl cael ei ryddhau a bygythiodd yr athletwraig, Jessica Ennis-Hill dynnu ei henw oddi ar eisteddle yn stadiwm y clwb yn Bramall Lane o

ganlyniad i hyn. Yn ôl y dirprwy brif weinidog, Nick Clegg, Aelod Seneddol ardal Sheffield Halam, mae gan bêl-droedwyr “gyfrifoldeb cyhoeddus i ddangos esiampl” i eraill. Arwyddwyd deiseb gan 157,000 o bobl yn erbyn y penderfyniad i wahodd y blaenwr yn ôl i’r clwb a’r effaith fyddai hynny’n ei gael ar y cyhoedd. Ar ôl pwysau aruthrol gan unigolion a’r cyfryngau, mae Sheffield United wedi penderfynu tynnu’r cynnig yn ei ôl. Mae Evans yn parhau i wadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae bellach wedi rhoi apêl ger bron y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol er mwyn ceisio adennill ei enw da.


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Newyddion...6

...NEWYDDION BANGOR Oriau Agor Project Cymunedol Undeb Newydd i Myfyrwyr Bangor Lyfrgelloedd 1 o 10 a ddewiswyd yn genedlaethol y Brifysgol ymgyrchoedd yn lleol rhwng pobl ar draws Bangor.

Rhys Taylor Mae Undeb Myfyrwyr Bangor unwaith eto wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) i lansio Partneriaeth Gymunedol Caru Bangor eleni. Rydym yn un o ddeg Undeb Myfyrwyr ledled y DU sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid a chefnogaeth, a dyma’r ail flwyddyn i Fangor fod yn bartner ffurfiol yng ngwaith ac ymgyrchoedd mwyaf blaenllaw UCM. Bydd Caru Bangor yn arwain at lansio chwe phroject dros ei flwyddyn gyntaf, gan gynnwys Gwobrau’r Landlordiaid a lansiwyd yn 2013/14. Dyma’r prosiectau;

6. Gwobrau’r Landlordiaid - yn gwobrwyo landlordiaid gorau Bangor, gan greu cystadleuaeth ym Mangor a gwella safonau ac arferion. Byddwn hefyd yn cyflogi dau intern sy’n fyfyrwyr ar Gyflog Byw i gefnogi’r prosiectau a’r Bartneriaeth ehangach yn ystod ei chamau cychwynnol (mwy o wybodaeth yn fuan). Caru Bangor yw’r Bartneriaeth Gymunedol gyntaf o’i math, yn datganoli grym o fudiadau ac arweinwyr traddodiadol, gan ddod â phobl ynghyd i ddefnyddio eu grym torfol i gyflawni newid er gwell. Mae’r Bartneriaeth wedi’i seilio ar dactegau trefnu cymunedol ac mae’n canolbwyntio ar themâu craidd a bennwyd yn dilyn trafod a gwrando ar breswylwyr a myfyrwyr. Themâu craidd y Bartneriaeth yw;

Cynaliadwyedd 1. Cymorth Cartref - yn cefnogi myfyrwyr i ddod 1. 2. Gwastraff ac Ailgylchu o hyd i lety yn y sector rhentu preifat ym Mangor. 3. Tai a’u Hymddangosiad Dinasyddiaeth a Democratiaeth 2. Wardeiniaid Cymuned - yn cefnogi cydweithio 4. lleol a chydberthynas dda rhwng myfyrwyr a 5. Sŵn phreswylwyr eraill. Bydd y Bartneriaeth yn cynnig cyfrwng a llwyfan 3. Gwefan Gymunedol - adnodd ar-lein i bawb i bobl allu dod ynghyd i ddylanwadu ar y newid y ym Mangor ar faterion a gwasanaethau cymunedol. dymunant ei weld yn eu cymunedau, yn gweithio’n gyfunol yn hytrach nac fel mudiadau sy’n gweithio ar 4. Fforwm Tenantiaid - bydd y Fforwm, a gaiff ei ran pobl. Bydd y tactegau trefnu cymunedol sy’n sail i’r gynnal yn rheolaidd dros y flwyddyn, yn dod â phobl Bartneriaeth hefyd yn siapio’r ffordd y bydd Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr a chymunedau ynghyd i ymgyrchu dros newid ym maes tai. i sicrhau newid, a thros y tair blynedd nesaf y newid 5. Fforwm y Gymuned - bydd y Fforwm yn tyngedfennol fydd gwneud llais myfyrwyr yn rhy hyrwyddo cydberthynas, trafodaethau, prosiectau ac uchel i unrhyw wleidydd ei anwybyddu.

Anna Prysor Jones Wedi brwydr Undeb Myfyrwyr Bangor i geisio gweld newidiadau yn oriau agor llyfrgelloedd y Brifysgol, maent wedi llwyddo i ymestyn yr oriau ymhellach. Cafwyd cyfnodau arbrofol i gadw’r Brif Lyfrgell a Llyfrgell Deiniol ar agor am 24 awr ond gwrthodwyd yr oriau hyn gan y Brifysgol. Pan ddaeth y cyfnodau arbrofol hyn i ben ar 31 Mai 2014 caewyd Llyfrgell Deiniol am hanner nos tra bu’r Brif Lyfrgell ar agor am 24 awr ar ôl mis Tachwedd, ond ar gau yn ystod Gwyliau’r Pasg. Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr ar yr oriau agor hyn, cyhoeddodd Rhys Taylor, Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor ar 17 Tachwedd y byddai sawl newid i oriau’r Llyfrgelloedd. Cyhoeddwyd y bydd Llyfrgell Deiniol yn llyfrgell 24 awr yn ystod tymor Haf 2015, a fydd o fudd mawr i fyfyrwyr sy’n byw ym Mangor Isaf. Yn ogystal, bydd Prif Lyfrgell y Celfyddydau ar agor yn ystod Gwyliau’r Pasg ond ni fydd yn wasanaeth 24 awr. Ceir newidiadau i oriau agor Llyfrgell Safle’r Normal hefyd, a fydd yn agor a chau yn hwyrach ac a fydd ar agor yn ystod y penwythnos. Er bod yr Undeb yn hapus gyda’r newidiadau hyd yn hyn, maent yn frwdfrydig i weld newidiadau pellach i lyfrgelloedd y Brifysgol megis cael gwasanaeth 24 awr o ddechrau’r flwyddyn academaidd er mwyn helpu myfyrwyr i gwblhau aseiniadau cynnar.


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Newyddion ...7

Llunio portread gonest o fywydau pobl ifanc ym Mhrifysgol Bangor. Caryl Bryn Cafodd cyfle gwych ei gynnig i un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn ddiweddar, y cyfle i lunio portread gonest o fywydau pobl ifanc Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfres deledu ar gyfer S4C. Graddiodd Shân Pritchards gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac mae hi nawr wedi cael y cyfle i weithio ar gyfres o raglenni efo Cwmni Da fel rhan o’i gradd MA. ‘Dyma Fi’ yw enw’r project, ac mae’n broject sydd yn datgelu canlyniadau holiaduron a ddosbarthwyd i bobl ifanc o bob cwr o Gymru. Roedd nifer mawr o gwestiynau yn yr holiadur yn ymdrin gyda phynciau megis diddordebau, profiadau ac yn arbennig eu harferion technolegol, sydd o ddiddodeb mawr i Shân. Yr amcan yw rhoi pwyslais ar ddinistrio ystrydebau negyddol a hyrwyddo delwedd gadarnhaol o’n Cymry ifanc. Pan ofynwyd i Shân am ei phrofiad o weithio gyda Cwmni Da, dyma oedd ei hymateb: “Dwi wedi bod yn hynod o ffodus o gael y profiad gwych hwn o weithio mewn maes mor gyffrous. Roedd yn gyfle gwych i allu gweithredu dulliau ymchwil y gwyddorau cymdeithas mewn modd ymarferol a phwrpasol o fewn byd gwaith.”

Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn lansio llyfr i gyfeiliant cerddorfa lysiau Manon Elwyn

Mae Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr gyda Chwmni Da yn dweud: “Cefais y syniad am raglen deledu o geisio darganfod pwy ydi Cymry ifanc heddiw trwy greu holiadur anferth iddyn nhw yn holi eu barn, ond roedd hyn yn golygu cael cymorth arbenigwyr, felly dyma droi at Brifysgol Bangor. Shân Pritchard, myfyrwraig ymchwil gyda’r Brifysgol, drwy gynllun KESS a ddadansoddodd data'r holiaduron a ddaeth i law yn sgil ymateb i dros 1,000 o atebion disgyblion ysgolion uwchradd amrywiol dros Gymru. ‘Doeddwn i ddim yn eiddigeddus o waith Shân, ond roedd yn rhan hanfodol o’r rhaglen gan mai hi ddadansoddodd y canlyniadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn, a welir o fewn y gyfres.” Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o ‘Dyma Fi’, mae modd i chi wneud hynny os ydych rhwng pymtheg a deunaw oed. Fe allwch wneud hyn drwy ymweld â ‘www.dymafi.tv’.

Mae Angie Roberts, awdures y gyfres deledu ‘Jini Mê’ wedi ysgrifennu e-lyfr newydd rhyngweithiol i blant o’r enw ‘Arnie Williams yn siarad â Llysiau!’ Treuliodd Angie gyfnod ym Mhrifysgol Bangor fel myfyriwr yn ddiweddar fel rhan o broject dysgu’n seiliedig ar waith Elevate. Meddai Angie: “Mynychais gyrsiau marchnata a chyfryngau cymdeithasol a’m cynorthwyodd gyda marchnata’r llyfr newydd hwn. Mae marchnad lyfrau plant yn gystadleuol iawn felly roedd y cynghorion a ddysgais wrth astudio ar brosiect Elevate wedi fy helpu’n fawr a bûm yn defnyddio’r aseiniadau i gynhyrchu cynlluniau marchnata a chynlluniau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer lansio’r llyfr.” Bydd lansiad yr e-lyfr, ar 2 Rhagfyr, yn arddangos doniau cerddorol disgyblion Ysgol Gynradd Nant y Coed. Er, nid eu doniau cerddorol yn unig a fydd yn cael eu harddangos ar y noson. Mae’r disgyblion hefyd wedi creu’r offerynnau a fydd yn cael eu chwarae yn ystod y noson. Mae hyn yn cynnwys bongos melon, ysgydwyr pupr, ffidlau cennin a chasŵau moron! Mae “Arnie Williams yn siarad â Llysiau!’ ar gael o Siop iBooks am bris arbennig o £2.99. Pob hwyl i Angie Roberts a disgyblion Ysgol Gynradd Nant y Coed ar lansiad y llyfr, ac ar berfformiad sy’n sicr o fod yn un unigryw!

Athro’r Brifysgol yn derbyn gwobr y ‘Ben Jonson Journal’ Caryl Bryn Enillodd yr Athro Andrew Hiscock o Ysgol Lenyddiaeth Saesneg, Prifysgol Bangor wobr Ben Jonson am ei erthygl ymchwil o’r enw “O, Tom Thumb! Tom Thumb! Wherefore art thou Tom Thumb?’: Early Modern Drama and the Eighteenth-century Writer – Henry Fielding and Fanny Burney”. Mae’r Athro Hiscock yn un o dri academydd rhyngwladol i dderbyn y wobr. Cyhoeddwyd yr erthygl yn y Ben

Jonson Journal yn wreiddiol. Dyma erthygl sy’n ymdrin â’r newidiadau mewn agweddau at Shakespeare a’i gyd-ddramodwyr ym myd newyddiaduraeth a drama, bron ganrif ar ôl eu marwolaeth. Pan ofynnwyd i Hiscock sut yr aeth ati i ddechrau ymchwilio i’r maes hwn, dywedodd: “Daeth yn amlwg yn fuan bod yna faes cyfoethog i ymchwilio iddo yma. O ystyried bod Fielding wedi byw drwy hanner cyntaf y ganrif a bod Burney ond yn ddyflwydd pan

fu Fielding farw yn 1754 (bu farw hithau mewn oedran teg yn 1840), mae ymchwil i fywydau a gweithiau’r ddau ffigwr adnabyddus yma’n datgelu cyfoeth o ddeunyddiau ar arferion mynd i’r theatr, y dirywiad cyflym mewn gwybodaeth am Loegr oes Elisabeth, a chreu bardd cenedlaethol wrth i’r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen. Cyflwynwyd yr ymchwil hon yn wreiddiol mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Montpellier mewn anerchiad i Gynhadledd Flynyddol Astudiaethau’r Dadeni yn

2011, a noddwyd gan y Society for Renaissance Studies ac Université Paul Valéry. Mae wedi bod yn brofiad gwych cwblhau’r project a derbyn y wobr yma i gydnabod y gwaith.” Enillwyr y ddwy wobr arall a ddyfarnwyd gan y Ben Jonson Journal yn 2014 oedd Brian Vickers gyda’i erthygl ‘Ben Jonson’s Classicism Revisited’ a David Loewenstein gyda’i erthygl ‘Paradise Lost and Political Image Wars’. Derbyniodd Hiscock wobr o $500 am y ‘Ben Jonson Discoveries Award’.


8 ...Undeb Myfyrwyr Bangor

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

UnDEB Myfyrwyr Bangor

COLOFN CACENNAU CARA

Dyma'r negeseuon diweddaraf gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, Rhys Taylor...

Cacennau Bach Sinsir gan Cara Edwards Cynhwysion

Dros y tair blyn edd ddiwethaf rydym wedi cyn ein cynorthwyo nal arolwg o'r h â’n gwaith yn oll fyfyrwyr er m Undeb y Myfyr llechen Kindle F wyn wyr, ac eleni ry ire yn wobrau i dym yn rhoi p rai o'r myfyr wyr um a fydd yn ei gw blhau. Byddwch hefyd yn eich helpu ei ch hun a'ch cyd arolwg! -fyfyr wyr drwy gymryd rhan yn yr Mae'r arolwg w edi ein helpu i wella bywyd m o ffyrdd, fel si yfyr wyr yn y B crhau gwasanae rifysgol mewn th llyfrgell 24 prynhawniau M nifer aw r yn ystod am ercher yn rhydd ser tymor, cad i bob myfyriwr am ddim i bob w a sicrhau clybia myfyriwr. u a chymdeithas au Bydd pob ymat eb a gawn yn ei gwneud yn haw ydych chi am eu s i ni weithio d gweld yn eich b ros y newidiadau ywyd. yr Ewch ar wefan myfyr wybangor. com i gwblhau’r llechen Kindle F arolwg er mwyn ire! cael y cyfle i enn ill

Y Datganiad

fwyaf yw’r gwaith yr ydym yr w yr yf M ol dd ny Bly

balch ohono.

iad ond yn syml, adrodd , an ef gw n ei ar u n datganiada ch profiad chi wrthym am ei Gellwch ddarllen ei ch so ed yw dd a n yr hy adurol, i adborth ar ifi fr cy ai ydyw yn seiliedig ar rd bo la i , au o’r silffoedd academaidd. O lyfr isiadau modiwlau. eich gwaith i ddew sy’n a lleihau’r rhwystrau d, oe yn d hy dd ye gyflogadw Rydym yn edrych ar . mynediad at addysg el ca ag rh dw ca ch ei ar sut y ar yr argymhellion du re th ei w i ol sg ify d gyda’r br sgol i ffurfio’r fford ify br ’r Rydym yn gweithio da gy th ae ri profiad io mewn partne ydd a sut mae eich medrwch chi weith nn cy ud ne gw yn sut ydych y, felly ni’r y cewch eich dysgu, arbenigwyr ar hynn ’r yw i ch a , yw yd i dysg ch fyniadau. yn edrych. Eich ad lanwadu ar bender dy yn d fo ai yl dd yr myfyr w yr Undeb. ol 2013-14 ar wefan dd ny ly B ad ni ga at Gweler D

I’r buttercream 150g menyn 300g siwgr eisin 1 llwy de powdwr sinsir

Ar gyfer y cacennau: 175g menyn (heb halen) 175g siwgr aur castor 2 ŵy 175g blawd codi 1 llwy de o bowdwr codi 1 llwy de o sbeis sinsir Hanner llwy de o sbeis sinamon 1 llwy de o sbeis cymysg Dewisiol: ffrwyth sych megis cyrainj neu gnau wedi’u torri’n fân. Yn Ychwanegol: Pinsiad o sprinkles aur 12 o ddynion bach sinsir neu fisgedi sinsir wedi’u torri’n fân Sut i wneud: Rhowch y popty ar 185 gradd i gynhesu, cyn rhoi 12 o gasys papur mewn hambwrdd. Mewn powlen fawr, cymysgwch y menyn a’r siwgr nes y bydd yr holl gynhwysion wedi cymysgu. Ychwanegwch yr wyau i’r bowlen, un ar y tro, cyn cymysgu nes nad oes unrhyw lympiau yn y gymysgedd. Yn ofalus, ychwanegwch y blawd, powdwr codi, sinsir, sinamon a’r sbeis cymysg, a chymysgwch tan i’r holl gynhwysion fod wedi cymysgu â’i gilydd yn drwyadl (peidiwch â gor-gymysgu!). Yn ddewisiol, ychwanegwch ffrwyth sych neu gnau i’r cymysgedd. Llenwch pob cas bapur tan maent tua dau draean yn llawn, cyn rhoi’r hambwrdd yn y popty am tua 12 – 15 munud. I brofi a yw’r cacennau yn barod, rhowch gyllell finiog yng nghanol un ohonyn nhw ac edrychwch i weld os yw’n dod allan yn lân. Gadewch y cacennau i oeri ar fwrdd am o leiaf 20 munud. Yn y cyfamser, mae’n bosib gwneud y buttercream drwy gyfuno’r menyn, siwgr eisin a’r sinsir gyda chymysgwr trydan neu â llaw drwy eu cymysgu â llwy (er bod hyn yn gallu cymryd ychydig mwy o amser). Pan fo’r cacennau wedi oeri, rhowch y buttercream mewn piping bag a dewisiwch big (nozzle) o faint addas (neu os nad oes gennych big, torrwch ddarn bach oddi ar waelod y bag i gael agoriad siâp cylch). Yn ofalus, peipiwch yr eisin ar bob cacen, gan ddechrau o’r tu allan a rhoi chwildroad (swirl) tuag at y canol. Addurnwch gyda sprinkles lliw aur a dyn bach sinsir ar y top (neu fisgedi sinsir wedi’u torri’n fân).


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Hysbyseb... 9


10...Undeb Gristnogol

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

UNDEB GRISTNOGOL BANGOR Elin Bryn Williams Fel Undeb Gristnogol Prifysgol Bangor, daethom ynghyd a phenderfynu ein bod am wneud holiadur yn gofyn: 1. 2.

Ydych chi’n credu yn Nuw a pham/pham ddim? Pe buasech yn gallu gofyn un cwestiwn i Dduw, beth fyddai’r cwestiwn hwnnw?

Pwrpas yr holiadur oedd darganfod beth oedd mwyafrif o fyfyrwyr Bangor yn ei gredu ynglŷn â’r athroniaeth o Fod goruwchnaturiol. Dengys yr holiadur i ni fod lle bach fel Bangor yn cynnwys amrywiaeth o gredöau gwahanol. Roedd amrediad yr atebion yn cynnwys traddodiadau Cristnogol, Islam, Iddewig ynghyd â thraddodiadau llai adnabyddus. Canlyniadau darllen yr holiaduron ydoedd cael cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o drafodaethau: rhai yn gyffredinol, eraill yn ddwys iawn ond i gyd yn ddifyr ac yn adlewyrchiad felly o’r amrediad crefyddol eang sydd ymhlith myfyrwyr Prifysgol Bangor. Dyma siart o ganlyniadau i’r cwestiwn ‘Ydych chi’n credu yn Nuw?’:

Ddim yn siŵr 166 o bobl

Ydw 229 o bobl

Nac ydw 242 o bobl

Wrth edrych ar ganlyniadau’r cwestiwn cyntaf, gwelwn bod y rhaniadau'n glós iawn rhwng y rhai a oedd bendant yn credu neu ddim yn credu, dim ond 2.1% oedd rhyngddynt. Er, yn bersonol, roedd yn ddiddorol gweld bod canran mor uchel â 26.1% yn ateb nad oeddent yn siŵr o gwbl. Roedd ymateb eang iawn i ran olaf y cwestiwn ‘pam/pam ddim?’ hefyd. Roedd rhai yn neidio i ateb yn syth, tra oedd y mwyafrif yn cymryd amser i ystyried eu hatebion yn ofalus yn gyntaf. Yn ateb i’r ail gwestiwn cafwyd eto nifer helaeth o wahanol atebion, yn eu mysg yr oedd y canlynol: • Pam mae rheolau mor ddu a gwyn a dim lle i'r llwyd? • Pam mae dioddefaint yn y byd? • Pam mae pobl dda yn dioddef? • Oes rheswm i bethau drwg ac a ydynt yn rhan o gynllun goruwch? • Pam na wnei di dy ddatgelu dy hun? • Pam y creaist ti bobl mor hunanol? • Beth yw pwrpas bywyd? Ein hymateb fel Undeb Gristnogol i’r cwestiynau yma, a llawer mwy oedd mynd ati i drefnu Lunchbars o’r enw ‘Hot Potato’ yn cyflwyno atebion Cristnogol i gwestiynau’r myfyrwyr. Dyma deitlau neu destunau rhai o'r cyfarfodydd hyn:“If there is a God? Why is there suffering?”, “Life. What’s the point?”, “Silent, distant and detached? Why doesn’t God make himself clearer?” Rydym yn cynnal y cinio am ddim a sgwrs bob dydd Mercher yn y 'Belle Vue' rhwng 1 a 2 yn y prynhawn. Yn ogystal, rydym yn cynnal nosweithiau Cymraeg yn y 'Greek' bob nos Fawrth am 8 o dan yr enw ‘Datgelu’. Cyfarfod yw hwn sy'n cyflwyno’r Ffydd Gristnogol. Mae’r gweithgareddau yn agored i bawb.

HYWEL WILLIAMS AS Aelod Seneddol Arfon sy’n trafod myfyrwyr tramor... Roeddwn yn fyfyriwr ôl-radd ym Mangor ac yna ar y staff yn yr 80au a’r 90au. Yn amlwg mae’r lle wedi newid ers hynny, nid yn lleiaf gan mai prifysgol ydy Bangor bellach, nid coleg o Brifysgol Cymru (amser maith yn ôl, at fy ngradd, roeddwn yn fyfyriwr yn ‘The University College of South East Wales and Monmouthshire’. Beth ar y ddaear, felly, oedd UCSEWaM? Wel, Prifysgol Caerdydd bellach). Un o’r newidiadau mwyaf amlwg ydy’r nifer mawr o fyfyrwyr tramor o bob cwr o’r byd sy’n astudio acw. I mi, mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu’n fawr iawn, yn dod ag arbenigedd academaidd, brwdfrydedd ac amrywiaeth o brofiadau, ieithoedd a diwylliannau i ddinas a allai fel arall fod yn anniddorol unffurf â threfi o’r un maint unrhywle ym Mhrydain. Maent hefyd yn dod ag incwm arwyddocaol i’r Brifysgol (‘not tw bi snuffd at’, fel fyddai mam yn ei ddweud!) Ond o edrych ar fy rhestr cymorthfeydd byddech yn tybio nad felly y gwêl ein llywodraeth bethau. Oherwydd bron pob tro rwy’n gorfod ymateb i un, dau, tri neu fwy o ‘achosion mewnfudo’, ble mae myfyriwr tramor neu’r teulu yn profi anawsterau garw (iawn) o ran eu hawl i ddod i‘r wlad neu i aros yma. Heb fynd i fanylu a thorri cyfrinach, cefais achosion o rhywun oedd dan orchymyn i adael rhai wythnosau cyn graddio; myfyriwr disglair sydd wedi talu degau o filoedd mewn ffioedd ond sydd mewn perygl o gael ei hel o’r wlad oherwydd camgymeriad technegol gan ei banc; un arall sydd, oherwydd agwedd yr awdurdodau, yn ystyried dychwelyd gyda’i deulu ifanc i wlad ble mae rhyfel cartref tra pheryglus ar ei anterth. Ysywaeth, mae mwy. (Wna i ddim manylu ’chwaith ar achos y deintydd oedd am weithio’n lleol, yn yr ysbyty, y brifysgol a’r gwasanaeth iechyd, yn ymateb i’r galw enfawr am driniaeth, ond a wrthodwyd yr hawl i wneud hynny. Doedd o ddim yn siarad fawr o Saesneg. Roedd ganddo gymhwyster iaith gwerthfawr iawn - ond doedd hynny’n cyfri dim. Yn Batagoniad, roedd o’n rhugl ei Gymraeg.) I mi mae’n amlwg y dylai ein prifysgol gadw golwg ar y byd ac ar ennill ein lle yno. Mae hi cystal (a gwell, mentraf!) na sefydliadau eraill o’i bath. Ac o ran hynny dyna hefyd ddylai fod agwedd ein gwlad. Prin fyddech yn synnu clywed AS Plaid Cymru yn dweud hyn, ond mae’n hen bryd i ni ddiosg plwyfoldeb a chulni prydeindod. A gwych fyddai taflu’r trefniadau drwgdybus, gelyniaethus a chosbol o ran myfyrwyr tramor i’r drol faw hefyd.


Cystadleuaeth...11

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

CYSTADLEUAETH! Dyma ni wedi cyrraedd ail rifyn Y Llef a chyfle i chi’r darllenwyr roi cynnig ar gystadleuaeth arall! Gellwch ennill: • Dau docyn i fynd i wylio Crouch, Touch, Pause, Engage gan National Theatre Wales fis Mawrth, yn rhoddedig gan Pontio. • Copi o ‘Tu Chwith’ I roi cynnig ar y gystadleuaeth, y cwbl sydd rhaid i chi ei wneud yw e-bostio golygydd. llef@myfyrwyrbangor.com gyda’r gair sydd yn y rhestr isod ond NAD yw’n ymddangos yn y chwilair. Gellwch hefyd anfon neges bersonol ar ein tudalen Facebook (Llef Bangor). DYDDIAD CAU: Oherwydd y gwyliau Nadolig, bydd rhaid i bob cais fod i mewn cyn 5 o’r gloch, 18 Rhagfyr, 2014 er mwyn gallu gwobrwyo’r buddugol.

D A R L I T H F R T Y E L

F S H I D W F L I H L E U

G F J U Y R P P J F D T N

P J M R C Y M R I C F U D

R Y J Y H U L Y C G T I E

S O C D F W A Y T P J G B

T W I T A O S A I O N B H

D M E R H I S D M H M S G

L L W N J L D L N E D P O

R B A A U N N G U O F R E I T Y A R F J G H M S P F

B D W S R E P W U I L F D

DARLITH BANGOR JMJ CYMRIC PRIFYSGOL UNDEB


12...Y Gornel Greadigol

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

...y

gornel

Greadigol

Gruffudd Antur Croeso cynnes i’r Gornel Greadigol! Yn llechu yn y gornel y tro hwn ceir gweithiau gan dri myfyriwr o’r flwyddyn gyntaf – Rhiannon Lloyd Williams, Huw Harvey a Caryl Bryn – ynghyd â darn gan Manon Elwyn o’r drydedd flwyddyn a cherdd gan Elis Dafydd, myfyriwr ôl-radd yn Ysgol y Gymraeg. Gobeithio y bydd darllen y gweithiau yn eich ysgogi chi i gyfrannu darn ar gyfer y rhifyn nesa’ – gyrrwch nhw ata’ i ar wep20a@bangor.ac.uk neu dros Facebook. Mi wnes i sôn y tro diwetha’ am y ‘Cwtsh Cynganeddu’, sef y gwersi y bwriedid eu cynnal yn Pontio y tymor hwn. Yn anffodus, bu raid eu gohirio am resymau amlwg, ond byddant yn cael eu cynnal unwaith y bydd Pontio wedi’i gwblhau. Cewch ragor o wybodaeth maes o law.

Y cwestiwn Rhiannon Lloyd Williams

Synhwyrais y cwestiwn cyn iddo gael ei ofyn. Roedd y cyfuniad perffaith o’r haul crasboeth, y ffurfafen glir a’r môr darluniadol wedi estyn gwahoddiad i drigolion Abercynon dreulio eu prynhawn dydd Sadwrn ar y traeth, gan fy nghynnwys i a’m ci. Rowliai chwerthiniad ffug y pâr priod, cerddoriaeth sgrechlyd y fan hufen iâ, bygythiadau’r môr-leidr chwe blwydd oed a su hypnotig y môr mewn i un sŵn byddarol. Ni safai neb yn llonydd, ar wahân i mi. Synhwyrais bopeth o fy encilfa, o’r cariadon ifanc oedd ar eu dêt cyntaf i’r ferch a oedd yn hedfan y barcud a gafodd ar ôl llwgrwobrwyo ei thad. Roedd yr awyr las wedi’i britho gan rubanau a balwnau yn blasu rhyddid, oddi wrth eu perchnogion pwdlyd, am y tro cyntaf. Ni sylwodd neb ar y clogwyni, bob ochr i’r traeth, yn gwarchod eu gwesteion rhag y gwylanod maleisus a’u tueddiadau hy’ i ddwyn ’sglodion o ddwylo blonegog bechgyn bach. “Mami, ma’r aderyn ’na newydd ddwyn fy sglodion!” gwaeddodd y môr-leidr ar ôl i un wylan dew lwyddo i ddianc rhag cysgod y clogwyni. Disgleiriai’r môr o dan ddylanwad pelydrau cryf yr haul wrth i’r tywod gynhesu o dan fy nwylo. Chwythai’r gwynt yn ysgafn dros y traeth, gan ychwanegu gronynnau tywod at frechdanau jam yr hen fenyw ar y chwith i mi, cyn dawnsio â’r fflagiau wrth ymyl y prom. Chwaraeai’r cysgodion ar hyd fy nhywel a thywelion y rhai nad oedd wedi dianc i lonyddwch y môr neu i giw aflonydd y fan ‘sglodion am yr ail dro. Roedd y ciw ar fin derbyn môr-leidr ato pan drodd y bachgen a gofyn, “Be’ sy’n bod ar y dyn Mami?” Gwthiodd y fam ei mab yn ei flaen heb yngan gair, hwyrach allan o gywilydd, er, roeddwn i’n ddigon parod i esbonio’r sbectol dywyll a’r ffon wen iddo. Cydiais yn dynn yn fy nghyfaill, fy llygaid ar y byd, y byd perffaith na chaf fyth ei weld yn iawn eto.

Colli

Huw Harvey

Y rhyfelwr hael a aeth ymaith heb wybod na fyddai’n dychwelyd ar ei daith. Mab i’w fro a’i febyd a cheinder ei gynefin yn nefoedd wen. Llewyrchai gloywder ei fraint ar ei frest, balchder ei dad, edifeirwch ei fam. Llanc â’i dranc yn drobwll; malais a thrais a thywyllwch fu’n grafangau tynn am ei fod. Wedi’r ’dolig, ffarweliai â thynerwch â chariad i gamu ar drywydd ei dynged gan ddilyn ôl y llwybr dyrys du. Llifai gwaed y rhyfelwr hael trwy’i gorff ar fwrlwm. Ond nid gwaed oer yn ysu am ladd. Na, gwaed ei galon gwaed ei deulu gwaed ei wlad. Cynhesrwydd parhaol mewn angau. Y rhyfelwr hael a aeth ymaith,. gŵyr nawr y caiff huno mewn hedd ar ddiwedd ei daith.


Y Gornel Greadigol...13

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

...y Bro ymennydd

Caryl Bryn

Teyrnas o hen wyrddni ac arogl hanes arno sydd. Yma, mae presenoldeb Priodasferch y Person Hardd â’i chluniau yn cofleidio’r niwl, y niwl hwn sy’n llwydlas. Yma, breichiau cynnes yr haul yn ymestyn ataf gyda gwres a golau’r presennol yn ei ddwylo yn fy ngorfodi i ddeffro o drymgwsg. Yng ngharchar du f ’amrannau teimlaf yr holl hanes, düwch llwch y chwarel, düwch tywyllwch y chwarel, düwch teimladau. Cau fy llygaid yw’r unig ateb. Dim ond am bymtheg munud, chwarter awr fer yr wyf wedi bod yn eistedd yma er bod y teimlad o fod yma’n ddiddiwedd, diddiwedd, diddiwedd. Dim ond chwarter awr o dragwyddoldeb chwitchwat ac rwyf yn gallu ogleuo tybaco, ei flasu: blas mawn, mwg a chwerthin. Bron fy mod yn clywed yr awel yn sibrwd. A daw’r awen, daw. Teithia rhwng muriau fy ngwythiennau nes cartrefu yn fy enaid. Ceisiaf greu cynghanedd rhwng y gair ‘Caraf ’ a ‘Cartref ’, a sylweddoli bod cynghanedd rhwng y ddau yn barod, yn fy nghalon. Sŵn a swyn yr awel sy’n gysur i’r galon yng ngolau’r haul, y sŵn sy’n arswyd yng nghanol düwch y nos a phob düwch arall. Agoraf fy llygaid. Ymestynnaf fy ngolwg at ddwylo’r haul unwaith yn rhagor, agoraf fy nghorff i groesawu dylanwad Eryri. Bron mai salwch yw’r düwch – cuddia ei hun yn yr holl lenyddiaeth o ’mlaen. Daw cysur awen cyndeidiau a chyndadau yn ôl a’m llenwi, nadu’r düwch. Mae’r pŵer i roi pensel ar bapur, creu darlun drwy eiriau, i chwerthin drwy eiriau, i grïo drwy eiriau, yn ôl. Nid oes terfyn ar y wybren uwchben bellach. Yma hoffwn fod yn dragwyddol. Â’r cuddliw. Ag Eryri. Myfi yw Brenhines yr Wyddfa, rwyf yn sbecian dros lyn Llanberis a gweld y morgrug dwristiaid, nhwythau’n gweld fy nhir i drwy lens eu camerâu. Dymunaf, ryw ddydd, droi fy mhen oddi wrth hyn. Ond am nawr mae’r ddaear yn chwerthin, yn chwerthin nes bod blodau lliwgar yn tyfu ohoni. Yn guddfan gadarn i wenyn yr ardal i ddod i fusnesu. Ond daw’r düwch yn ôl hefyd. Y gwenyn yn dod â’u gwenwyn gyda nhw. Teimlaf nhw. Clywaf nhw. Yn pigo f ’ymennydd. Cartref. Y man gwyn nad ydyw bob tro’n wyn ond yn hytrach yn gymysg grymus o wyrddni a düwch. Cartref. Enw ar ddarn yn y cerebrwm lle mae pob dim yn gudd. Ond mae’r awel â’i hawen. Mae’n hudo’r teimladau cudd allan. Ei sisial yn dwyn geiriau ohonof. Dônt, dônt, ar lafar, ar bapur, ar yr awel.

gornel

Greadigol

Colli’r wawr Elis Dafydd Fe ddaeth y wawr o nunlle, Heibio i’r tafarndai gwag a’r tai teras, A heibio’r heddwas oedd i fod I gadw gwyliadwraeth yn ei gar A’i dal cyn iddi groesi ffiniau’r ddinas. Fe ddaw eto fory fel y daeth hi ddoe, A sleifio i ffwrdd heb ffarwelio, A ninnau’m yn sylwi fod y bys eiliad yn troi, A bod gweddill ein diwrnod, a’n dyddiau, yn ffoi.

Gweledigaeth Manon Elwyn

Caeaf fy llygaid a chyrhaeddaf fy hoff le. Gallaf fod yn unrhyw le yn y byd, dim ond imi gau fy llygaid, er imi efallai fod yn sefyll mewn stryd ddi-nod, anghyfarwydd. Medraf fynd i’r llefydd sy’n dal fy holl atgofion melysaf – gwledydd pell fel yr Ariannin neu Ffrainc neu ardaloedd cyfarwydd fel fy nghynefin. Mae fy nghof yn bydew du, yn amsugno’r holl hwyl a’r chwerthin ar wahanol adegau yn fy mywyd. Yr ymweliad mwyaf poblogaidd sydd wedi aros yn fy meddwl yw Patagonia. Dychmygaf fy mod yn ôl yn rhannu diwylliant estron, sydd eto’n gyfarwydd, a hynny ar gyfandir diarth. Mae cofio’r cyfeillgarwch clòs rhwng y brodorion brwdfrydig yn brifo’r cof, ac yn cythru am gyfle i gael ail-fyw’r profiadau bythgofiadwy, amhrisiadwy. Mae record sy’n para pythefnos yn cael ei hailchwarae’n barhaus yn nyfnderoedd fy meddwl, yn llenwi fy ffroenau ag arogl cacennau ac yn dallu fy llygaid efo golygfeydd o’r Andes. Caeaf fy llygaid unwaith yn rhagor. Safaf ar y Metro yng nghrombil Paris. Dyma’r ffordd orau o deithio. Teimlaf yr ysgwyd anesmwyth, a llygaid dieithriaid yn edrych arnaf a’m ffrindiau yn amheus oherwydd nad oedd ein hiaith, efallai, yn swnio’n annhebyg i’w clustiau estron nhw, i eiddo’r Almaenwyr. Aroglaf chwys ych-afi o’m cwmpas yn ymosod ar fy ffroenau, a chlywaf sŵn parablu Ffrengig. Gwrandawaf yn astud gan obeithio bachu ar un neu ddau o eiriau. Wedi dod oddi ar y Metro, siaradaf yn chwithig mewn Ffrangeg efo gweithiwr siop wrth y Tŵr Eiffel, a cherddaf i fyny ac i lawr y cawr yn yr heulwen gynnes. Mae mynd i unrhyw le’n bosib. Mae cau fy llygaid fel breuddwyd. Os teimlaf yn unig, caeaf fy llygaid. Cofiaf am yr amseroedd da. Bob tro yr ymwelaf ag unrhyw hoff le, mae’r tyllau du yn fy nghof yn dyfnhau ac yn dyfnhau, yn atgyfodi. Gallaf dreulio amser diddiwedd yn y pydew, heb neb i darfu arnaf i. Teimlaf ganmil gwell yn nhywyllwch canhwyllau fy llygaid fy hun.


14...Menter Iaith Bangor

Y LLEF | Rhifyn y Glas 2014

Annwyl Ddarllenwyr Y Llef, Yma yng Ngwynedd rydym yn ffodus iawn o gael Menter Iaith Bangor a sefydlwyd yn 2013 gyda phrif nod a phwrpas i hyrwyddo ac ehangu defnydd o'r iaith Gymraeg ar lefel gymunedol ar draws y ddinas. Drwy weithio ar y cyd mae partneriaeth glós rhwng y fenter a Hunainiaith, sef menter iaith Gwynedd. Gyda'n gilydd mae arnom eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog a hollol naturiol o fywyd pob dydd ar hyd a lled y ddinas, i lawr y stryd fawr, yn y siopau, ymhobman. Mae gwaith da yn mynd yn ei flaen eisoes i gefnogi cymdeithasau, partneriaid, sefydliadau a chymunedau ym Mangor, oll yn gweithio i gynyddu statws yr iaith yn y ddinas gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o weithgareddau ac yn iaith y byddwch yn ei chlywed yn naturiol ymhobman. Gyda chymorth a chydweithrediad pobl Bangor, yn deuluoedd, ysgolion, myfyrwyr, perchenogion busnes a gweithwyr a'r gymuned gyfan, mae modd mynd i'r afael â chynnal a hyrwyddo gweithgareddau ar y cyd gyda phartneriaid allweddol yn y ddinas sydd yn dangos gwerth a manteision y Gymraeg yn y ddinas fel iaith gwaith, iaith yr aelwyd a iaith y gymuned, sydd yn cyfoethogi ac o fantias i bawb sydd yn ei siarad, ei gwerthfawrogi ac yn ymwybodol o'i phwysigrwydd.

Gofynnwn felly i rai sydd eisiau bod yn rhan o waith Menter Iaith Bangor a chydweithio gyda Hunaniaith i ledaenu'r neges am y Gymraeg. Cefnogwch weithgareddau cyfrwng Cymraeg sydd yn dod â chynulleidfoeodd newydd ynghyd i werthfawrogi a chynyddu defnydd o'r iaith ac agor y drysau i'r rhai sydd eisiau dechrau dysgu neu ddysgu mwy. Ymunwch i hyrwyddo gwerth yr iaith fel sgil a mantais a dechreuwch sgwrs yn Gymraeg. cefnogwch ymgyrchoedd fel #pethaubychain sydd yn annog defnyddio pethau bob dydd yn Gymraeg - gosodiadau eich ffôn, cyfryngau cymdeithasol, codi arian o'r banc, prynu peint o lefrith, llenwi ffurflen, neu wisgo'r bathodyn Cymraeg - gall pawb wneud rhywbeth. Cefnogwch Menter Iaith Bangor a Hunaniaith, chwiliwch amdanom ar Facebook a Twitter am wybodaeth am ein gweithgareddau nawr a thros y flwyddyn sydd wedi bod, a thros y misoedd cyffrous nesaf. Byddwch yn rhan o'r bwrlwm a rhannwch y neges. Cofion, Gwenllian Roberts Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd Hunaniaith a Menter Iaith Bangor

Wyt ti’n astudio ... Llenyddiaeth a Chymdeithas? Twm o’r Nant yw’r dyn i ti! Canu Twm o’r Nant, gol. Dafydd Glyn Jones, £15. Twm o’r Nant: Dwy Anterliwt, gol. Adrian C. Roberts, £15. Llenyddiaeth y Ddeunawfed Ganrif? Llythyrau Goronwy Owen, gol. Dafydd Wyn Wiliam, £15. Y Nofel Gymraeg? Daniel Owen: Y Dreflan, gol. Robert Rhys, £15. Y Ddrama Gymraeg? Dramâu W. J. Gruffydd: Beddau’r Proffwydi a Dyrchafiad Arall i Gymro, gol. Dafydd Glyn Jones, £15.

Barddoniaeth a Beirniadaeth yr Ugeinfed Ganrif? Beirniadaeth John Morris-Jones, gol. Dafydd Glyn Jones, £15.

Hyn oll, a rhagor, yng nghyfres CYFROLAU CENEDL Dalen Newydd Cyf., Bangor

Gan eich llyfrwerthwr, neu gellir archebu o: dalennewydd@yahoo.com


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Hysbyseb... 15


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

16...Yr Hadau

...YR HADAU

Atodiad Dwyieithog Y Llef Y Llef’s Bilingual Insert Benjiman Angwin Ar Hydref 15 cynhaliwyd digwyddiadau ar draws Cymru i ddathlu’r iaith Gymraeg ac nid oedd Bangor yn eithriad. Roedd sesiwn blasu yn y Belle Vue a chwis yn Nhafarn y Delyn. Daeth tua 20 o bobl at ei gilydd, drwy Gymdeithas Llywelyn a Chymraeg i Oedolion. Mae Chris, sy’n dod o Loegr ac yn berchen ar y Belle Vue wedi dysgu ychydig o Gymraeg erbyn hyn ac roedd yn hapus i gael grŵp mawr o bobl i mewn yn ystod amser cinio am fymryn o hwyl a dysgu’r wyddor yn y Gymraeg a sut i’w hynganu. Roedd yn amser da. Roedd pobl o bob lliw a llun yno gan gynnwys myfyrwyr o’r Almaen a phobl leol ac roedd yn wych clywed Almaenwr yn dweud bod rhai o seiniau’r Gymraeg bron yr un fath yn yr Almaeneg ac nid oedd

Benjiman Angwin Events were held across Wales on the 15th of October to celebrate the Welsh language and Bangor was not an exception. There were taster sessions in the Belle Vue available and a pub quiz in the Harp. Over 20 people came together, there Cymdeithas Llywelyn and Welsh for Adults. Chris, who comes from England and now owns the Belle Vue, has learned a bit of Welsh by now and was happy to have a large group of people come in about noon and have a bit of fun and learn the Welsh alphabet and how to pronounce it. It was a good time. There were all kinds of people there, including students from Germany and local people and it was cool hearing a German saying that some of the sounds in Welsh were almost identical to German and that they were not so difficult as he expected them to be. I went down to the quiz with my friend Dylan. Dylan does not speak Welsh but because I speak Welsh to him constantly and bring him along with

mor anodd ag yr oeddent yn ei ddisgwyl. Es i i’r cwis gyda fy nghyfaill Dylan. Dyw Dylan ddim yn siarad Cymraeg ond oherwydd ’mod i’n siarad ag ef yn gyson yn Gymraeg a dod ag ef i mewn i grwpiau Cymreig, mae’n dechrau deall brawddegau syml. Mae’r gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth! Cafodd Dylan brofiad annisgwyl hefyd. Er na allai ddeall y cwis yn Nhafarn y Delyn, rhywsut, enillodd ein tîm ac roedd yn ddoniol iawn gweld wyneb Dylan yn newid o ddrysni i wenu a chwerthin. Mae Diwrnod Shwmae/Sumae’n hyrwyddo’r Gymraeg drwy annog pobl i ddweud ‘Sumae!’ wrth bawb a phrynu coffi yn y Gymraeg. Roedd digwyddiadau ar draws Cymru ac roedd yr ymgyrch yn fwy eleni na’r llynedd. Os oes gennych ddiddordeb, dyma’r ddolen: http:// www.shwmae.org. Gyda llaw, mae ‘Sumae!’ yn gyfarchiad cyfeillgar sy’n golygu ‘helo’!

my Welsh speaking friends, he’s starting to understand a few simple sentences. The work’s starting to pay off ! And Dylan got something unexpected too. Although he couldn’t understand the quiz in the Harp, our team won the quiz somehow and it was hilarious seeing Dylan’s face go from confusion and perplexing to smiling and laughing. Diwrnod Shwmae/Sumae Day promotes Welsh through encouraging people to say ‘Sumae!’ to everyone and buy coffee through the medium of Welsh. There were events across Wales and there were more this year than last year. If you are interested, there the link and you can join in and there would be very welcomed. http://www. shwmae.org. By the way, ‘Sumae!’ is a way of saying ‘hello’!


Yr Hadau...17

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Yr Wydd�r Gymra�g - Th� Welsh Alph�bet Llythyren/Letter

Yn swnio fel hyn yn Saesneg/Sounds like in English

Gair Cymraeg/Welsh word

B

Breaking Bad

Bara (bah-rah) - bread

C

Cup

Cwpan (coo-pan) - cup Byth yn feddal fel yn ‘peace’/never soft like in ‘ peace’

Ch

Similar to the Scottish ‘loch’.

Bach (bah-ch) - small

D

Dog

Dosbarth (dohs-barth) - class

Dd

Other

Gwedd (gweh-th) - appearance

E

End

Helo (heh-lo) - hello

F

Love

Araf (ar-ahv) - slow. 1 ‘f ’ = V

Ff

Giraffe

Jiraff (jeer-aff ) - giraffe. 2 ‘f ’ (ff ) = F

G

Mug

Gwin (gween) - wine. Wastad yn galed, byth yn feddal fel ‘sage’/always hard, never soft like ‘sage’.

Ng

Sing

Ing (eeng) - anguish

H

Hot

Hyfryd (huh-vrid) - lovely

I

Bee

Nith (neeth) - niece

A

America

Mewn geiriau benthyg yn bennaf/mainly in loan words like ‘jam’ and ‘jiraff ’.

J L Ll

Afal (ah-vahl) - apple

Always

Melys (mehl-ees) - sweet

Dim cyfatebiaeth Seasneg/no English equivalent. Dechreuwch ynganu’r gair ‘lamp’ a phan y mae’ch tafod yn cyffwrdd â tho eich ceg, chwythwch allan o gwmpas eich tafod cyn ynganu’r llythyren ‘a’. Start to pronounce the word ‘lamp’ and while your tongue is touching the roof of your mouth, blow out around your tongue before you pronounce the letter ‘a’.

M

Mercy

Mam (mahm) - mother

N

No

Enw (eh-n-oo) - name

O

Hope

Oren (oh-r-eh-n) - orange

P

Pope

Poced (poh-cehd) - pocket

Ph

Off

Ei phen (eh-ffehn) - her head

R

Roll

Ras (rohl-yo) - race. Rydym yn tueddu i rolio ‘R’ yn y Gymraeg/we tend to roll our ‘R’ in Welsh.

Rh

Fel ‘R’/like ‘R’, ond gyda mymryn o aer ar ei ben sydd yn rhoi sŵn ‘h’ arno/but with a bit of air on top of it which gives an ‘h’ sound.

Rhwng (rh-oong) between

S

Sunny

Seren (seh-rehn) - star

T

Tattoo

Tatws (tah-toos) - potatoes

Th

With

Athro (ah-throh) - teacher. Byth fel yn ‘this’ a ‘that’/never like in ‘this’ and ‘that’.

U

Hint

Dihuno (dee-hee-noh) - to wake up

W

Moon

Cwrw (coo-roo) - beer. Mae ‘W’ yn llafariad yn y Gymraeg/‘W’ is a vowel in Welsh.

Y

Nun

Ynys (uh-nees) - island


18...Yr Hadau

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

as’ n Thom la y D d Frien ffoni rfa sym ŵyl ‘My o G d rd h e t g e y a ef 29, d rdd unigryw gan arlledu’n fyw ar r d y H r A ge dd ynt, da chyn ydd wedi cael ei ando arn h r w g n s i ben gy i’ u gefais uniait hol Cymr ynhad a yn hollol w n genedlaet m o r b ’r io u bobl esbon aniada arhaus i s ’n y n BBC. Cyn weud bod y datg n d hy dd teimlo bo n i’ n hoffwn i w d d d o ac roe ymysged g n y Saesneg, yntaf glasurol rmiad c oriaeth o d f f rd r yr ardal. e e . h p c d i’r dim ia Roedd y og ‘Fern Hill’ a m r o f f r w y pe h a gerdd en ynheais s oddgrwt g w â M i. n eiriau’r n y r d odern a , daeth gyfan a â blas m r ail berfformiad d y gerddorfa ar y l menyn lethod e h f p , d a y Ar gyfer r f y . Ac iodd s olo ddal a h yn wych J P pherfform yfans oddiad me y d d c eg Neua d telyn fawr yn t s w c a ef mewn dd os od t. Mi oe ymddang oddgrwth. , d ia fy nhôs m r h o d perff gyda’r s u’n uniait a d ia n a g i’r trydyd asio’n fendigedig at n c roedd y d anai eiriau Dyla h cefndir a echrau’r ail ran, c n llwyfan a orfa ac roedd y Ar dd r i’ n y d th rdd gerdd eto. Dae wr i ffw n oriaeth y a d c rd e y h Saesneg c h f, aet a oedd ynghyd â han nesa oddiad newydd r Thomas y n f, Y iawn. gyfans iad nesa m a r f o r f o f r d e ddawnus rd p ge Ar y yn y uodd y lodïaidd. byrddau e a m t a dechre y y , w is f Gymraeg . Hoffa ac yn h h it c ia a n r f y a yn brudd ysg at edd edd yn yg parch rfformiadau . Ro f if d r ac mi o i’ i ddweud r wahân us iawn â’r pe a f , a ll n a a g f y c hap g a us wn yn yn enwo nulleidfa yn hap d rd a b mi oedd y ’r wy o ol y g iadau â i weld m frif lleth a f y a y cysyllt ll w a m g io y us bod . Gobeith PJ! d yn hyder ia m r o f perf add iawn â’r au tebyg yn Neu iad berfform

Benjiman

Angwin

Dylan Thomas Festival: The BBC National Orchestra of Wales Concert

Gŵyl Dylan Thomas: Cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ben jim

an Ang win The the first p with famo erform u perf a m s poe ance w o m a cam orman dern t ‘Fer s a m ce. a e n s with the For te to Hill’ ixture o of an it. love rches a lar the tra sec I tho d cla words ge ly on com c ro aco s in from u pos ter tw ello an d per ughly sical ition perf stics ined m f d e o o with he pe rmanc njoyed usic alive orman f Neu , like r e, f h c add but a m the ter im in ormed just while e, a P J a a l m a Tom a mom elting rge h were melting very s olo a n a n s men Laz el ent b into th rp in fantas on t oft a d e l o t n e t f a t i w d c. F ore he st. ce ho ni gh ioned t in the is stud a sho llo. The backg or the The ro r the n f y mus riendly ing mu t brea the b und c third At ann k. I ic ea am sic c o cam uncem the s school hoir w and I saw mt liven e e h tar acr s t toge e on ents oss ich me aid he y frie d, nd of t llo t et w fr very her w he sta ere the om Ca s ever and h i E t g y h n tale the sec nolfa Frid e the e and glish n e n o t m nd only Bed ay sun bar orches ed. In usic wy p g aton a t a o it w e. I ra beg the n f the Dylan gain. r t, t r. e h from as li gh like the an a xt pa orches Thom A m e ter a a r c t t, t dru s’ w n ra om th lang a uag e lac nd m ms in t positio he sin and he ords k o con o n w e, I ger wa n f r re me he nex I ca ection was ve lodic t pe hich w left a s esp ect nd ry h s w . a rf peo n con sho On th orman s mor ple fide ith the appy e ce, wit wn t e wh we that nt f I ca re ver ly say amous h the oward ole, a and perf y h n s the par t tha po a ee o Wel mor ppy w t a s et we rman sh c r h e p erfo ith the eer m e obvi es. Th ou e rma a nce perfor jority s and ma s in of th Neu nce. I ho e add p e PJ !


Cerddoriaeth...19

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Chwant am Gerdd Dant GAN GETHIN GRIFFITHS

Nid oedd digwyddiadau cerddorol yn brin dros fisoedd cyntaf tymor yr Hydref eleni. O ŵyl bwysicaf y byd cerdd dant, i un o gigs roc pwysicaf y tymor, roedd arlwy amrywiol o gerddoriaeth i’w mwynhau ar gyfer myfyrwyr ein prifysgol. Gydag ambell noson Meic Agored yn y Glôb rywle yn y canol, denodd y digwyddiadau hyn ddiddordeb a chefnogaeth galonogol tu hwnt – er eu bod ar begynau gwahanol i’r byd cerddorol. Aeth criw da o’r Aelwyd am drip hwyliog i Rosllannerchrugog ar brynhawn dydd Sul oer, a rhwng rhai yn dysgu eu rhannau y munud olaf (a rhai yn dilyn y gêm rygbi rhwng Cymru ac Awstralia yn ddeddfol), roedd awyrgylch o gyffro i’w deimlo. Boed y cyffro hwnnw o ganlyniad i’n nerfusrwydd ai peidio, Duw a ŵyr, ond nid hawdd oedd ymlwybro tuag at ddigwyddiad pwysicaf yng nghalendr y byd cerdd dant. Dim ond ‘criw o fyfyrwyr’ oeddem ni, cofiwch. Er mai ‘myfyrwyr’ oeddem ni – nid perfformiad amaturaidd a welwyd gan y gynulleidfa o gwbl. Er nad oeddem ni hanner mor brofiadol â chôr Llangwm na chôr Leah Owen, rhoddwyd perfformiad gwych a ddangosodd iddynt bod dyfodol i’r grefft ymysg yr ifanc. Nid profi pwynt yn unig oedd pwrpas Aelwyd JMJ yn yr Ŵyl, chwaith, gan i’r parti

merched dderbyn y drydedd wobr – allan o saith côr. Un ô’r chwe chôr arall, oedd parti bechgyn JMJ – tro nesa’ genod, tro nesa’! Llongyfarchiadau felly i Dion Davies, arweinydd y côr hwnnw, ar ei lwyddiant. I’r gwrthwyneb, ar begwn arall ein traddodiad cerddorol, cafwyd gig i’w chofio yn Rascals, Bangor Ucha’, nos Wener y seithfed o Dachwedd. Gyda wynebau cyfarwydd Sŵnami a’r Eira yn cynrychioli’r Selar y tro hwn, roedd môr o griw hynod ifanc y tu allan i Rascals i’w croesawu ar ôl eu perfformiad. Gan fod ystafell uchaf Rascals yn gyfyng ar y gorau, nid oedd lle i droi wrth i’r cefnogwyr ifanc fwynhau cerddoriaeth gyfoes, arloesol Gymraeg. Roedd cyfle i Fangor ddangos i’r trefnwyr pa mor fuddiol yw trefnu gig yma – gobeithio eu bod wedi derbyn y neges! Roedd cyfle hefyd i’r rhai di-Gymraeg a oedd â diddordeb mewn artistiaid Cymraeg i fwynhau cerddoriaeth ddawns orau’r wlad yn y Greeks, ddiwedd mis Hydref. Dim ond un peth oedd yn rhaid i chi ei wneud i gael mynediad – dod â hen declyn trydan hefo chi. Dim tâl, felly? Na! Menter amgylcheddol oedd y tu ôl i’r syniad, gan ddefnyddio’r gig i godi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd, a hybu gwerth ailgylchu. Mae’n ddigon posib credu, felly, nad oedd yr artistiaid mor

safonol, ond credwch neu beidio, dyma’r gig ddawns fwyaf safonol a gafwyd ers amser hir yma ym Mangor. Rhwng set swynol, ambient Gwenno, a rhythmau diddorol a chyfoes Ifan Dafydd, roedd arlwy orau’r byd dawns Cymreig i’w glywed yma ym Mangor Uchaf y noson h o n n o. Siom oedd sylwi nad o e d d llawer o’r myfyrwyr Cymraeg w e d i mentro yno, gyda’r mwyafrif o’r ar tistiaid, trefnwyr a’r criw sain yn Gymry Cymraeg. Er hyn, cafodd y criw bach ohonom a aeth noson o fwynhad pur. Efallai mai’r ffaith ei bod noson cyn Clwb Cymru oedd y rheswm dros hyn! Felly, cofiwch fynd i gymaint ag y gellwch chi o ddigwyddiadau cerddorol yma ym Mangor! Gwnewch yn fawr o’r cyfleoedd prin hyn i ddangos i drefnwyr y sîn ein bod yn gefnogwyr brwd. Os ydych chi wedi colli’r digwyddiadau hyn – na phoener! Mae yna gig Nadoligaidd yn y Greeks ar Rhagfyr 12, sydd yn cynnwys syrpreis neu ddwy! Hefyd, cofiwch ddod i nosweithiau Meic Agored yn y Glôb – byddant yn siŵr o gynhesu’ch lleisiau cyn y Nadolig! A chofiwch – does dim byd yn bod mewn cael chwant am gerdd dant!


20...Adolygiadau

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

...Adolygiadau

GARW gan Siôn Eirian Lora Angharad Lewis Drama wedi ei lleoli yn Nyffryn Aman yw hon, sy’n trafod y cyfnod anodd wedi streic y glöwyr a’r effaith ysgubol a gafodd yr hanes ar deulu nodweddiadol Gymreig. Roedd hi’n ddrama syml - 4 cymeriad, Llew, y tad, Sara, y fam, Lowri eu merch a’i chariad newydd hithau, Jeremy, sy’n ymddangos tua diwedd y ddrama. Set ddigon syml oedd i’r ddrama, heb ddim ond ambell wrthrych i gyfleu’r cartref a’r graig yn gefndir. Roedd hi’n amlwg felly mai dyma oedd y nod, set syml ond yn adlewyrchu hanes y cyfnod allweddol hwn. Mynd â ni yn ôl i 1986 mae’r ddrama, yn ôl i’r flwyddyn lle newidiodd y byd o fod yn fyd diw ydiannol i fod yn ôlddiwydiannol. Canolbwyntio ar yr hanes yma mae Siôn Eirian, ac yn dangos sut wnaeth yr hanes effeithio ar deulu Llew. Cyfnod byr ym mywyd y teulu yw Garw, ac mae’r ddrama yn dilyn y newid sylweddol yn eu bywydau personol a chymdeithasol yn ystod y cyfnod. Mae’r dramodydd yn defnyddio dwylo fel delwedd i atgyfnerthu’r neges - dwylo garw yn gorfod ildio eu lle i ddwylo glân. Gwelwn

fod y gweithiwyr llaw, glo a dur yn y lleiafrif a bod y dynion efo’r dwylo garw ar gyfeiliorn. Dyn fel hyn ydy Llew, wedi bod yn chwysu gwaed mewn pwll glo cyn iddo ef a’i griw sylweddoli eu bod bellach yn ddi-waith a bod eu cledrau cadarn wedi eu cyfnewid am fysedd bach prysur y merched. Mae’n amhosib peidio â chydymdeimlo gyda Llew ac yntau wedi colli ei waith yn y pwll glo ac yn wynebu rhwystrau lu a siom ar ôl siom. Egyr y ddrama gyda monolog gan Sara sy’n deffro’r gynulleidfa gyda’i chlebran carlamus. Gwraig a mam gyffredin yw Sara, sy’n hapus ac yn hynod falch o gael swydd syml yn glanhau, tra bod ei gŵr yn ddi-waith. Cawn ein denu yn syth ganddi wrth iddi adrodd hanes atgofion melys y ddau ohonynt ym mlodau eu rhamant - mae egni’r actores yma i’w gymeradwyo. Rhwng y ddau mae Lowri, cannwyll eu llygaid. Wrth i’r ferch adael yr ysgol ac yna’r coleg, mae’n gadael am fywyd gwell gyda’i chariad Jeremy, sy’n amlwg o deulu nad yw’n wynebu trafferthion. Mae cymeriad Lowri yn atgyfnerthu’r syniad o’r weledigaeth a dyhead am rywbeth gwell, a bod rhaid weithiau edrych y tu hwnt i’r graig am fywyd. Mae Sara yn cael cyfle arbennig drwy Jeremy wrth dderbyn swydd gan ei dad, a dylai Llew ymfalchïo yn hynny a hwythau yn cael mwy o bres i’r tŷ, ond gwanhau eto mae yntau gan iddo deimlo ei fod yn colli gafael ar ei statws fel dyn y tŷ. Mae’r pyllau glo wedi cau a phethau newydd yn dod yn eu lle. Ai merched yw’r dyfodol felly? Cawn ychydig o’r hanes drwy gyfrwng monologau, gyda rhai cymeriadau yn fwy llwyddiannus na’i gilydd. Roedd yr actio yn dda iawn ar y cyfan, ond profais rai munudau

chwithig. Roedd pob cymeriad yn gredadwy, ond nid bob amser byddai’r sefyllfa yr un fath. Herio Duw oedd Llew mewn un fonolog, yn gofyn iddo gyfiawnhau pam mae dyn fel fo yn y fath sefyllfa. Aeth yr herio bron fel gornest focsio, a arweiniodd at drosi sefyllfa gymhleth, ddwys yn ddoniol. Roeddwn i o’r farn bod golygfeydd diangen yn cymryd drosodd ar adegau ac yn herio amynedd y gynulleidfa, gyda’r actio yn mynd fymryn yn undonog a’r stori braidd yn hirwyntog.

Ar noson oer, wyntog ym mis Hydref, mentrais wylio’r ddrama, ond wrth gerdded o’r neuadd roeddwn i’n fud, a hynny ddim am y rhesymau mwyaf cadarnhaol. Daeth y golygfeydd rhywiol fel sioc braidd, ac roeddwn i’n teimlo cywilydd llwyr wedi gwylio caru y ddau ifanc a’r sefyllfa lletchwith gyda Llew. Ydy, mae hon yn ddrama gwerth ei gweld, ond mentrwch gyda ffrind neu ddau yn hytrach na rhiant neu nain a taid, efallai?


...Adolygiadau 21

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Dr Aled Jones sy’n rhoi ei farn ar gasgliad diweddaraf gwasg Dalen Newydd, Yr Hen Lyfrau Bach... Dr Aled Jones

Ym mis medi 2010 dechreuodd Dalen Newydd ailgyhoeddi cyfres o glasuron o lenyddiaeth Gymraeg: dechreuwyd â cherddi Twm o’r Nant cyn troi at fawrion eraill megis Pantycelyn, W.J. Gruffudd, John Morris-Jones a Goronwy Owen. Llyfrau swmpus yw’r rhain, cyfres Cyfrolau Cenedl. ‘Chwaer gyfres’ i Cyfrolau Cenedl yw Yr Hen Lyfrau Bach, a hwythau’n ‘[o]lygiadau newydd cryno o bethau a ddylai fod ar gael.’ Dyma ddisgrifiad digon hwylus a chywir hefyd: tua maint cledr llaw yw’r llyfrau o ryw 60-80 o dudalennau yr un, rhai hwylus i’w rhoi mewn poced, felly, am dro i’r maes neu i’r dafarn – ac mae’r testunau’n rhai y mae’n annhebyg y byddai unrhyw ddarllenydd yn difaru talu pris peint amdanynt (£3 yr un yw’r Llyfrau Bach, neu £10 am y pedwar). Dafydd Glyn Jones (gol.), Y Bardd Cocos gyda Rhagymadrodd gan Alaw Ceris; Dawi Griffith (gol.), Eben Fardd; Dafydd Glyn Jones (gol.), Daniel Owen: Dewis Blaenoriaid; Dafydd Glyn Jones (gol), Cerddi’r Bardd Cwsg Diau bod enwau’r llenorion hyn i gyd yn hysbys i ddarllenwyr Y Llef – a rhywfaint o weithiau pob un hefyd. Eto, sawl un ohonom a fedrodd neilltuo awr gyfan i fwynhau cwmni’r Archfardd Cocosaidd Tywysogol o Borthaethwy, a luniodd yr

‘englyn’ byrfyfyr hwn i gyfarch llywydd Eisteddfod Caergybi? ‘Morgan Lloyd, yn ddioed,/ Ddaeth o Lundain ar ei ddau droed/ Bob cam.’ Byddwch mae’n siŵr yn gyfarwydd â’i bennill enwog i lewod Pont Brittania: ‘Pedwar llew tew/ Heb ddim blew/ Dau’r ochr yma, a dau’r ochr drew’, ond a dreiddioch ymhellach, i’w gerddi hir a’i ryddiaith? Gwnewch hynny: y mae’r hiwmor hyfryd sydd yma yn ysgafn ac eto’n grafog, a dawn dweud a chyfoeth geiriol yr archfardd diaddysg yn rhoi pleser pur. Hyfryd yw gweld ailgyhoeddi yma ragair ardderchog Alaw Ceris o 1923, sy’n rhoi portread tyner a lliwgar o’r Cocosfardd, a thrwy hynny o’r cyfnod a’r diwylliant y symudai mor rhwydd ac mor unigryw ynddynt. Y mae’r rhageiriau i’r cyfrolau eraill hefyd yn ardderchog, gan lwyddo mewn byr o waith i roi cryn gyd-destun. Lle bo angen, llwyddir i gynnwys nodiadau a geirfa dethol i hwyluso a chyfoethogi’r darllen. Gwelir hyn yn effeithiol yn achos cerddi a rhyddiaith (dyddiaduron a llythyron) Eben Fardd, ‘y gorau o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg’. Eto, mae’r gweithiau wedi eu dethol mor ofalus na cheir anhawster o gwbl i’w darllen a’u mwynhau. Yn wir, gan ystyried yr enw drwg sydd i gynnyrch y ganrif honno yn gyffredinol,

diau y caiff sawl un gryn syndod wrth sylweddoli amrywiaeth a thynerwch y canu – o awdlau, cywyddau ac englynion i ganeuon plygain, carolau ac emynau. Gwelir efallai’r gwrthwynebiad mwyaf trawiadol i’r awdlau goreiriog ystrydebol mewn telynegion megis ‘Y Morwr Bach’ enwog: ‘Fe aeth o’r tŷ gan gau y ddôr/ A throi ei olwg tua’r môr,/ Do, do, fe aeth o gam i gam,/ At fwrdd y llong, o dŷ ei fam.’ Gellid, yn sicr, feirnadu cerddi fel hyn am fod yn ‘gynnyrch eu hoes’ mewn ffordd ddigon amlwg, a Moderniaeth eto’n bell o Glynnog, ond ni raid bod dim o’i le ar hynny, ychwaith! Ffresni, gyda lwc, a wêl y darllenydd yn y cyfrolau hyn bob un; hynny yw, ffresni hen weithiau nas darllenwyd ers tro, a rhai felly a gafodd gyfle i grynhoi egni i gyffroi o’r newydd. Yn newydd sbon i bron bawb, yn sicr, fydd y rhan fwyaf o gerddi’r Bardd Cwsg – yn enwedig y rhai anghyhoeddedig a gyweiniwyd o lawysgrifau. Fel y stori fer o waith Daniel Owen (a ddisgrifiwyd gan Saunders Lewis fel ‘y peth perffeithiaf a sgrifennodd ef ’), gall yr Hen Lyfrau Bach hyn weithio fel amuse bouche i godi chwant y darllenydd i ymestyn am brif cwrs y gweithiau mwy. Dyma berlau bach o lenyddiaeth a ddylai fod ar gael ac y dylid eu darllen. Gellwch gael gafael ar gopi gan eich llyfrwerthwr lleol, neu archebwch drwy e-bostio:

Y Dreflan: Ei Phobl a’i Phethau Daniel Owen (golygwyd gan Robert Rhys)

‘Dyma’r argraffiad newydd cyntaf o’r Dreflan ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg’ yn ôl rhagymadrodd Robert Rhys i’r gyfrol – cyfrol y mae o wedi cyfrannu nodiadau a geirfa iddi, – ac wrth feddwl am fenter Dalen Newydd yn cyhoeddi argraffiad newydd ohoni, mae rhywun, er ei waetha’i hun, yn cael ei demtio i feddwl: be oedd y pwynt? ‘Sgwn i pryd oedd y tro diwethaf i rywun ddarllen Y Dreflan yn llwyr o ran pleser? Onid ei darllen o ran diddordeb academaidd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud y dyddiau hyn, os ydyn nhw’n ei darllen o gwbl? Efallai mai’r rheswm pam nad yw Y Dreflan mor boblogaidd ag y bu ar lawr gwlad yw’r ffaith mai dim ond hen gopïau hen-ffasiwn sydd ar gael bellach. Efallai nad yw pobl yn ei gweld fel nofel i’w darllen ond fel cyfrol wedi’i rhwymo’n retro sy’n edrych yn dda ar silff lyfrau yng nghanol môr o rai sy’n edrych yn union yr un fath. Ac rŵan, mae gennym argraffiad newydd, hardd ei ddiwyg wedi’i olygu’n ddeheuig a chyda nodiadau a geirfa gynhwysfawr a difyr gan Robert Rhys. Mae’n bwysig pwysleisio’i gyfraniad ef – y nofel ei hun fydd yn cael y sylw mwyaf gan ei darllenwyr ond gwnaeth Robert Rhys hi’n bosib i’r profiad o’i darllen fod yn un esmwyth a didramgwydd. Mae’r

dalennewydd@yahoo.com

gyfrol yn edrych yn gyfoes ac efallai y bydd hynny’n denu darllenwyr newydd, mwy lleyg o bosib, a bydd eu profiad nhw o’i darllen yn dangos nad perthnasol i’w oes ei hun yn unig yr oedd Daniel Owen, ac y caiff mwy o bobl eu temtio i droi at y gyfrol o’r newydd, a’i darllen er mwynhad ac addysg.Mae gennym fynydd o lenyddiaeth yn y Gymraeg a da gweld nad yw’r llyfr hwn ond yn un o’r hen weithiau sy’n cael eu hatgyfodi gan Dalen Newydd. Diolch amdani, a diolch i Dalen Newydd am ddal y gannwyll.


22...Adolygiadau

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Adolygu Darlith Flynyddol y Gymdeithas Ddrama Gymraeg, Prifysgol Bangor Manon Elwyn Ymunodd Mr Dafydd Glyn Jones â rhai o aelodau’r Gymdeithas Ddrama Gymraeg i draddodi darlith flynyddol y Gymdeithas yn neuadd JP ar Hydref 22. Darlith ar ‘Ddramâu Dyddiau Fu: Cip ar Hanes y Gymdeithas Ddrama’ oedd gan gyn-Ddarllenydd Ysgol y Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, gyda pherfformiadau ar yr ail gan aelodau presennol y Gymdeithas. Mae Mr Dafydd Glyn Jones yn awdurdod cydnabyddedig ar y ddrama Gymraeg, ac roedd hynny’n amlwg wrth i ni gael ein tywys ganddo o ddrama i ddrama gan daflu goleuni ar rai o anturiaethau’r Gymdeithas ers

Benjiman L. Angwin

ei sefydlu’n swyddogol ym 1923 o dan lywyddiaeth R. Williams Parry. Yn ogystal â’r dramâu a gynhwyswyd ar y noson, sgwrsiodd Dafydd Glyn hefyd am ddramâu Cymraeg eraill megis Y Brodyr gan John Gwilym Jones, a Gwalia Bach gan Wil Sam. Yn wir, roedd y sgwrs hwyliog yn addysgiadol iawn mewn ffordd adloniannol wrth i Dafydd Glyn draethu rhwng perfformiadau. Cefais fy siomi ar yr ochr orau wrth weld cynifer o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn cymryd rhan yn y noson. At ei gilydd, roedd deuddeg o berfformwyr ifainc ar y llwyfan, ond roedd saith o’r rheini’n fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Roedd yn braf iawn rhannu’u cwmni yn ystod eu perfformiadau gan feddwl mai ers cwta deufis yn unig yr oedd y myfyrwyr hyn wedi ymgartrefu ym Mangor. Roedd y perfformiadau’n gryno ond yn gynhwysfawr ac yn effeithiol gan wneud cyfiawnhad â’r dramâu fel cyfanweithiau, a hynny dan gyfarwyddyd Manon Wyn Williams. Roedd amrywiaeth o themâu yn y perfformiadau, gyda dwy fonolog (Lladd Wrth yr Allor a Llywelyn Fawr), sgwrs gomedi (Y Fainc) a phytiau difrifiolach (Hanes Rhyw Gymro). Mwynheais ddatganiadau pob un ohonynt yn arw iawn. Roedd y noson yn llwyddiant aruthrol i’r Gymdeithas Ddrama, gyda nifer helaeth o bobl wedi troi i mewn er mwyn cael gwrando ar straeon difyr Mr Dafydd Glyn Jones a chael blas o’r hyn sydd gan aelodau’r Gymdeithas i’w gynnig. Bydd gweithdy ymarferol yn cael ei gynnal Rhagfyr 11 gan Theatr Genedlaethol Cymru, os oes gennych ddiddordeb cofiwch bod croeso i bawb ymuno. Ar ôl dechreuad penigamp i flwyddyn academaidd y Gymdeithas, rydw i’n edrych ymlaen at ei llwyfaniad nesaf yn y flwyddyn newydd!

Cerddoriaeth Geiriau... Leonardo Cicala. Dyna oedd y cyfansoddiad a enillodd hefyd, a chwarae teg iddo; daeth yr holl ffordd o’r Eidal i gystadlu. Roedd teimlad arswydus mewn llawer o’r cyfansoddiadau electronig a oedd yn araf eu

o ddelweddau anghysylltiedig â seiniau anesmwyth. Gorffennwyd un cyfansoddiad Fel rhan o Ŵyl Dylan Thomas, cynhaliwyd â’r geiriau enwog gan Dylan Thomas, ‘Do not go gently into that good night’ ac roeddwn yn digwyddiad cerddoriaeth arbrofol a hapus eu clywed. Ond ar y cyfan, nid oedd y gymysgodd eiriau Dylan Thomas gyda digwyddiad yn ymwneud rhyw lawer â Dylan cherddoriaeth. Roedd dwy ran i’r rhes o Thomas ar wahân i’r geiriau enwog hynny, gyfansoddiadau gyda chystadleuaeth yn y rhan gyntaf rhwng 3 chyfansoddiad ynghyd â ac roedd yn siom oherwydd pan oeddwn yn dechrau dysgu’r Gymraeg yn America, 4 o rai eraill nad oeddynt yn cystadlu. cysylltwn â Chymru drwy Dylan Thomas. Gyda’r waliau wedi eu haddurno â goleuadau Yn hytrach, cafwyd cymysgedd o eiriau’n a oedd yn hunan-newidiol eu lliwiau, hedfan o gwmpas y sgrîn mewn un dechreuodd y perfformiad arbrofol â darn cyfansoddiad wrth dorri’n llythrennau mân cyflwyniadol a swniai fel radio’n symud anghysylltiedig, a’u troi’n bryfed wrth rhwng sianeli mewn twnel cyn symud ymlaen at sŵn teipiadur. Hwn oedd y cyfansoddiad neidio’n ôl ac ymlaen wrth ailadrodd y geiriau flies a lifes a my problem a words are cyntaf o’r tri chystadleuol. Roedd yr ail like leaves. Nid ydwyf yn rhoi beirniadaeth gyfansoddiad yn fwy hylifol gyda seiniau negyddol yn hawdd, ond ni allwn ddeall y offerynnol meddal ond roedd yr olaf yn gymysedd o seiniau dŵr go iawn a geiriau tempo â seiniau dryllio’n awr ac yn y man, cyfansoddiadau arbrofol hyn ac ni allaf weld a hedfanai o gwmpas yr ystafell o seinydd i felly roeddwn yn falch o weld yr ail ran yn eu cysylltiad â Dylan Thomas. seinydd wrth adrodd brawddegau’n ddiystyr. dechrau â delweddau troi tudalen mewn Pleidleisiais am yr ail, Dai Sospiri gan llyfr ar y sgrîn fawr. Trôdd hyn yn gymysgedd


Adolygiadau...23

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

GONE GIRL: y llyfr a’r ffilm... Lora Angharad Lewis Mae’n iawn i fod yn bryderus - dyna ein greddf cyntaf pan gaiff nofel sy’n annwyl i ni ei droi yn ffilm. Y peth cyntaf a wnawn yw rhestru’r holl bethau a all fynd o’i le, ond nid dyma a fu gyda addasiad ffilm o nofel gyffrous Gillian Flynn. Dau haf yn ôl, roeddwn i’n gwylio fy chwaer yn darllen Gone Girl yn yr haul ar wyliau teuluol, ac yn pendroni pam ei bod hi’n gwneud dim byd ond darllen ar ddiwrnod mor boeth, a ninnau hefyd mewn gwlad dramor. Roedd hynny oherwydd bod llyfrau cyffrous, gafaelgar wedi dod yn bethau prin bellach, ond llwyddodd y nofel hon i greu argraff ar sawl un. Darllenais y nofel, a’i mwynhau yn arw. Adrodd hanes cymhlethdodau priodas Nick ac Amy Dunne mae’r stori, gyda hanner cyntaf y nofel yn cael ei adrodd yn y person cyntaf, bob yn ail gan y ddau. Daw persbectif Nick o’r presennol ac Amy o’r gorffennol drwy gyfrwng cofnodion dyddiadur. Dwy stori wahanol iawn sydd o dan sylw, gydag Amy yn cynnwys darlun ymosodol,

anodd o Nick ac yntau yn datgan yr un fath yn y presennol amdani hithau. Ar ben-blwydd priodas y ddau, mae Amy yn diflannu, a’r cyntaf o dan amheuaeth yw ei gŵr, a pham hynny? Am fod ganddo wraig gwallgof. Mae Amy yn ei fframio am ei llofruddiaeth drwy ysgrifennu tudalen ar ôl tudalen o gelwyddau, yn ffugio ei marwolaeth, a chaiff Nick ei wneud i edrych yn euog. Anodd

Interstellar Dion Davies

Dyma ffilm bwerus, egnïol a byrlymus sydd yn cadw’r gwylwyr yn effro drwy gydol y ffilm, gan gofio ei bod hi’n para’n agos at dair awr. Dyma ffilm mwyaf diweddar Nolan, ac y mae hi’n bendant yn un o’i weithiau gorau. Y mae hi’n ffuglen wyddonol mawr sydd yn dilyn helynt y peilot Cooper (Mathew McConaughey) wrth iddo deithio trwy’r gofod yn trio darganfod byd cynaliadwy arall er mwyn symud poblogaeth y Ddaear iddi, gan fod y Ddaear yn dirywio. Y mae hi’n ffilm glyfar iawn gydag actio gwych, plot anhygoel ac effeithiau arbennig gwych. Dyma ffilm sydd yn deilwng o’r sêr!

The Best of Me... Charley Jones ac Elena Milner

yw trafod ffilm fel Gone Girl felly heb ddatgelu gormod. (Mae’n rhaid bod ambell berson heb ei ddarllen o eto, dw i’n siŵr…) Yn debyg i’r nofel, cawn gip-lun o gariad modern sy’n troi’n wenwynig, a phriodas sy’n troi’n sur. Mae sawl digwyddiad yn amlygu erbyn diwedd y ffilm - mae Amy’n llofruddio ei chyn-gariad, yn cydnabod bod Nick yn ddi-euog ond yr hyn sy’n syndod i rhan fwyaf o’r gynulleidfa yw ei beichiogrwydd, ac mae hyn i gyd yn amwys. Mae’r ffilm yn gofyn i ni: Faint oedd Nick yn ei wybod am ei wraig? Ond, go iawn, dyma’r cwestiwn: Faint ydym ni’n ei wybod am ein rhieni? Mae diweddglo’r ffilm yn wahanol i’r nofel, ac i’r rhai sydd yn feirniadol o ormod o newid, peidiwch â phoeni. Er bod rhai pethau gwahanol rhwng y nofel a’r ffilm, mae’r newidiadau bychain hyn i’w cymeradwyo yn bendant. Os am wylio’r ffilm, paratowch eich hun i gwestiynu popeth, ac i eistedd hyd yn oed yn bellach ar ymyl eich sedd yn y dyfodol.

APOLYGIAD: Duolingo

Gwenno Williams

Yn y byd ohoni mae oddeutu 6,500 o ieithoedd yn bodoli. Yndan – rydan ni’n ffodus o fod yn ddwyieithiog ond be sy’n digwydd i’r rhai ohonom ni sydd eisiau mentro, ac sydd â diddoredeb mewn dysgu ieithoedd newydd? Oes rhaid mynychu gwersi nos? Dim o reidrwydd bellach. Anodd iawn dyddiau yma yw creu ap sy’n denu diddordeb ac sy’n addysgiadol, dyna mae crëwyr Duolingo wedi llwyddo i’w wneud yn llwyddiannus. Mae Duolingo yn ap syml a hawdd i’w ddefnyddio, sy’n rhoi’r cyfle i’r defnyddiwr ddysgu pryd bynnag a ble bynnag. Ma’r ap yn cynnwys ugain o ieithoedd yn amrywio o Sbaeneg i Rwsieg – cyfle gwych i ehangu’ch gorwelion! Bonne chance (Cyfle i chi ddechrau ar eich Ffrangeg..)

uwchradd yn ail-danio’u mae’r ffilm yn symud rhwng Luke Bracey a Liana Liberato perthynas 20 mlynedd yn y presennol a’r gorffennol sy’n portreadu’r cariadon ddiweddarch, ar ôl ifainc. Ffawd O’r funud mae’r ffilm yn marwolaeth eu ffrind sydd wedi’u cadw ar wahân, dechrau gyda’r olygfa o annwyl. Mae’r prif ond, fel mae fachlud haul dros y llyn, gymeriadau, Amanda rydych yn ymwybodol iawn a Dawson, yn cael eu pawb sydd wedi eich bod yn gwylio ffilm chwarae gan James gwylio ffilmiau sydd wedi ei haddasu o un Marsden a Michelle Nicholas Sparks yn ei wybod, o nofelau'r enwog Nicholas Monaghan. Yn debyg Sparks. Mae’r ffilm yn adrodd i ffilm arall Nicholas cariad yw’r grym cryfaf, ac mae’r hanes cyn-gariadon ysgol Sparks - The Notebook,

cariad rhwng y ddau hyd yn oed ar ôl 20 mlynedd yn hollol amlwg, ac felly daw ffawd unwaith eto gydag hapusrwydd y tro hwn a’u tynnu at ei gilydd. Ar y cyfan, er bod diweddglo'r ffilm fymryn yn rhagweladwy, mae dal yn ffilm sydd werth ei gwylio.


24...Nadolig

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

...NADOLIG Ydych chi’n hoff o ganeuon Nadolig? Dyma rai o ffefrynnau darllenwyr Y Llef... Gwenno Williams

Rhiannon Lloyd Williams

Dwi'n hoffi ‘Fairytale of New York’ gan Y Pogues oherwydd mae'n gyfle i fi ymarfer acenion gwahanol (dw i’n hoffi meddwl fy mod i'n gallu gwneud acenion pan mae’n amlwg nad ydw i’n gallu!) ac mae hi’n gân y mae pawb yn ei chyd-ganu bob tro, sy'n creu awyrgylch da lle bynnag ydych chi!

canwr o Ganada sy'n dynodi y nadolig i mi. michael buble a'i albwm "christmas" yw fy ffefryn, mae’n amhosib i mi ddewis dim ond un o’i ganeuon o’r albwm oherwydd rydw i wrth fy modd yn gwrando ar ei lais angylaidd yn creu awyrgylch heddychlon ymhob un o’i ganeuon.

Caryl Bryn

Lowri Maxwell

'Let it Snow' gan Dean Martin ydy fy hoff gân Nadolig i. Mae hi'n gwneud imi feddwl am be' ydy'r Nadolig imi sef y teulu o flaen y tân, y goeden yn wincio goleuada'n y gornel a phopeth yn berffaith y tu mewn tra bo'r tywydd garw y tu allan. A'r geiria' "Let it Snow" r’un fath â dweud "Dim ots am ddim byd, ‘joiwch y Nadolig".

Fy hoff gân Nadoligaidd yw ‘Frosty the Snowman’. Mae’r stori am ddyn eira sy’n fyw drwy hud a lledrith, a dim ond plant sy’n coelio bod y dyn eira yn fyw. Mae’n dangos fod yr adeg yma o’r flwyddyn yn hudol ac yn arbennig!

Sut i Wneud: Coctel Sut i Wneud: Mins peis! Gwin Cynnes! Cynhwysion: 100g/4 owns o siwgr crai 1 goeden anis 1 ffon sinamon 4 clofs 150ml o ddŵr 1 lemon 2 clementein 150ml Cointreau 750ml/chwarter potel o win coch

CAM 1: I wneud y crwst, rwbiwch 225g o’r menyn i mewn i’r 350g o flawd plaen, yna cymysgwch gyda 100g o siwgr mân a phinsiad o halen. Trowch y crwst yn bêl - peidiwch ag ychwanegu hylif - a thylinwch yn ysgafn. Gellwch ddefnyddio’r crwst yn syth, neu oerwch ar gyfer nes ymlaen.

CAM 1: Rhowch 100g o siwgr crai mewn padell gydag un goeden anis, un ffon sinamon, pedwar clofs a 150ml o ddŵr. Gadewch i’r gymysgedd ffrwtian am ddau funud, gan droelli i doddi’r siwgr. CAM 2: Tolltwch y cymysgedd i mewn i jar mawr a gadewch iddo oeri. Ychwanegwch un lemon a dau clementein, y ddau wedi’u sleisio’n denau, ynghyd â 150ml o Cointreau a 750ml o win coch. Troellwch yn drylwyr, yna gadewch iddo oeri am o leiaf 2 awr neu dros nos os fedrwch chi.

CAM 2: Cynheswch y popty ar wres 200C. Rhowch feintiau bychain o grwst mewn hambwrdd gyda thyllau ar gyfer pobi cacennau unigol. Rhowch 280g o gigfriw (mincemeat) ymhob pei.

Cynhwysion: 225g o fenyn oer, wedi’i ddeisio 350g o flawd plaen 100g o siwgr mân 280g o friwgig 1 wy bach Siwgr eisin

CAM 3: Cymerwch feintiau bach eraill o grwst i wneud caeadau i bob pei, rhowch nhw ar ben bob pei a’u cau gan bwyso’n ysgfan o amgylch yr ochrau. CAM 4: Curwch 1 wy bach a brwsiwch ef ar dopiau’r peis. Pobwch am 20 munud. Gadewch iddyn nhw oeri ar yr hambwrdd am 5 munud. I orffen, rhowch ychydig o siwgr eisin ar ben bob pei.


Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Digwyddiadur... 25

  PRYD?

DIGWYDDIAD?

Rhagfyr 4

Gwasanaeth Carolau yr Undeb Gristnogol

Rhagfyr 6

LLE?

 AMSER?

Cadeirlan Bangor

7yh

Taith i Farchnad Nadolig Manceinion

Cyfarfod yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr

12yh

Rhagfyr 7

Cyngerdd Nadolig Band Pres a Band Cyngerdd Prifysgol Bangor

Neuadd PJ

Rhagfyr 10

Gloddest

Rhagfyr 11

Gweithdy gyda Theatr Genedlaethol Cymru gan y Gymdeithas Ddrama

Gwesty’r Celt, Caernarfon

Rhagfyr 12

Delw ac UMCB yn cyflwyno gig Yws Gwynedd, Y Cledrau, Prenna ac eraill

Neuadd JP

2.30yh 6yh 7.30yh

Tafarn y Greek

9yh

7yh

Rhagfyr 12

Pryd o fwyd Nadolig Cymdeithas Endeavour

Tafarn y Delyn

Rhagfyr 14

Sioe Adloniant Nadolig Cymdeithas SODA

Neuadd Powis

7.30yh

Rhagfyr 14

Cyngerdd Nadolig y Gymdeithas Gerdd

Neuadd PJ

7.30yh

Rhagfyr 16

Cyngerdd Nadolig y Gerddorfa Linynnol

Neuadd Powis

7yh

Rhagfyr 16

Clwb Cymru y Nadolig

Academi

9yh


26...Ffasiwn

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Ffasiwn... Mae’r amser wedi cyrraedd i dyrchu unwaith eto am y siwmperi ‘Dolig! Os nad oes gennych un eisoes, eich blaenoriaeth y tymor hwn fydd ei wneud yn hanfod! Cyn i chi frysio lawr i’r stryd fawr, dyma gipolwg o’r hyn sydd ar gael:

River Island, £25 Asos, £30 Burton, £20 Burton, £20 Asos, £36 New Look, £24.99 Asos, £25

n y drydedd flwyddyn yn gy ch fe o au dd a m Dy : g. Chwith mperi, a’u hetiau gwlano siw eu yn yl, ŵ yr s w na u croesaw da, a het o Primark As o r pe m siw f: lla pe ith Chw n a het o Primark rto Bu o r pe m siw : hr oc Wrth ei

Achub y Plant Wrth inni baratoi at ddathlu pen-blwydd baban go arbennig, rhaid peidio anghofio am y rhai bychain llai ffodus yn ogystal. Eto eleni, ar dydd Gwener Rhagfyr 12, cawn y cyfle i ddangos a brolio ein siwmperi Nadoligaidd, gan gymryd cysur bod hynny yn mynd at achos da. Mae’r elusen ‘Achub y Plant’, mewn partneriaeth â’r cwmni John Lewis, yn cynnal diwrnod cenedlaethol o wisgo siwmperi Nadoligaidd yn flynyddol, ers dwy flynedd bellach, i godi ymwybyddiaeth ac arian at blant anghenus ym Mhrydain a thu hwnt. Mae gofyn i gyfranogwyr y diwrnod roi lleiafswm o £1 i’r achos am wisgo’u siwmperi, gan gofio bod 88c o hynny yn mynd yn uniongyrchol tuag at y plentyn mewn angen, 11c tuag at godi’r £1 nesaf, a ceiniog at gostau llywodraethol.

Rha g f yr 12

“Give someone the Christmas they’ve been dreaming of ”


Ffasiwn... 27

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig

O’r ‘Catwalk’ i’r Stryd Fawr... Eleni, mae’r hen ffefrynnau gaeafol, y brithwe (tartan) a’r ffwr, yn dychwelyd unwaith yn rhagor. A’r redfa wythnos ffasiwn Paris, gwelwyd defnydd o’r brithwe ar ffurf clogyn drwy waith y dylunydd Salvatore Feragamo, Saint Laurent (chwith).

6 £ , k o o L New River Island, £35 T EN

T

N AI

S

Peacocks, £6

UR A L IS

Booh

R PA

NewLook, £6

oo,£

Bu Ralph Lauren a Fendi (uchod), yn defnyddio ffwr yn eu casgliadau Hydref/ Gaeaf eleni. Gall cyfwisgoedd River Island, £35ffwr ffug y stryd fawr fod yn ffordd rhad ac effeithiol i ychwanegu steil at unrhyw wisg!

£1,408

Y Clogyn... Er y gallai roi problemau wrth ddewis pa fag i’w wisgo hefo’r clogyn, mae’n ddatganiad ffasiwn amlwg, ac yn weddol ddidrafferth! Gellir cyfuno â ffwr i ddenu sylw arbennig at y clogyn. Chwith: Jaques Vert Fur Trim Cape—£249.00, neu £199 yn John Lewis a Debenhams.

35

s l g Jin k,

o NewLo

t’:

e racel b d e g ‘Frin , £440 é Chlo

£3.99

Booh

0 oo, £6

aur: Trionglau rent Saint Lau

ASOS, £12


...Ffasiwn 28

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Amser dathlu... Gan bod amser yma’r flwyddyn wedi cyrraedd llawer cynt na disgwilwyd neb…. Mae hi’n amser meddwl am y ffrogiau Nadoligaidd i’r holl bartïon sydd ar y gorwel. Mae pob mathau o steiliau gwahanol o ffrogiau ar gael ond dyma ychydig o syniadau i chi gnoi cil arnynt. Mae’r ffrog i’r chwith, o Asos am £27, yn enghraifft dda o ffasiwn sy’n amlygu’r amser yma o’r flwyddyn….lês du. Mae’n osgeiddig ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i ffrog blaen ddu. Ar y dde mae enghreifftiau o ffrogiau sydd wedi cael eu harddangos ar y carped coch gan enwogion, ac yna ffrogiau fforddiadwy sy’n dilyn y steil.

Jenifer Aniston yn gwisgo Zuhari Murad yn Los Angeles, ond gallwch gael ffrog ddigon tebyg o New Look am £27.99. Elisabeth Banks yn gwisgo Saint Laurent yn Berlin, os nad ydi hwn yn tynnu’ch sylw…. beth am ffrog o Very am £59?

Peidiwch ag ofni’r secwin!

Fel y gwyddoch mae secwin yn nodweddiadol o amser y Nadolig ac felly… peidiwch â meddwl ddwywaith cyn dewis ffrog fflach! Mae’r ffrog cyntaf o’r chwith yn costio £15 o Miss Selfridge ac yn rhoi ychydig o liw a phatrwm mewn bywyd. Yna, yn yr ail o’r chwith mae Beyonce yn gwisgo ffrog o Topshop y gallwch chi ei brynnu am £68! Tydy o’n dda gweld enwogion yn gwisgo dillad fforddiadwy! Mae Kendall Jenner wedi bod yn siopa ar y stryd fawr hefyd, gan gael ei gweld yn gwisgo siwmper o H&M i wylio gêm bêl-fasged! Y Trydydd o’r chwith, dyma ffrog sy’n dipyn o hwyl o Topshop am £65 sy’n cydfynd yn dda efo steil Keira Knightley Los Angeles Tachwedd 2014, sy’n dangos i ni y gellwch edrych fel yr enwogion heb orfod cael morgais!


...Ffasiwn 29

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

O’r stryd fawr i’r Brifysgol... Enw : Tra cy Cwrs: Cy frifo arian nol O ble ma e’r eitem: All Hefyd mae cô Saints t Tracy nodwedd iad yn aeaf 2014 ol o ffasiwn dros /2015. M ae ddigon te byg ar y s llawer o rhai t ryd fawr. un o H& Dyma M sydd d digon teb Tracy am y g i un £34.99

Enw : Cwr Cara s: Y Gyfr O bl a e Look mae’r e ith item Mae : Ne w c esia ôt a sg mpl arf f o’r p sy’n Cara a h siop ynod b trymau yn o a s y ‘ca u’r stry blogaid iec d d t Ferr walk’ fe fawr ac yn agam l Sal ar gôt o’r u a Chan vatore n e gwa hano steil on l. Dyma d Look li hefy chi o N lliw ew d am £39. 99

Enw: Ben Cwrs: fFilm O ble mae’r eitem: Burton Fel Cara mae Ben hefyd yn gwisgo siec. Wedi ei roi hefo jins tynn, du a ‘sgidiau swêd. Gallwch ailgreu y steil yma wrth bicio i H&M a gwario ’chydig llai na £60: crys £7.99, jins £19.99, a ‘sgidiau am £29.99.

, u o y e v o l “I o t t n a w and ” u o y h t i w be Mae llythyrau caru, Marilyn Monroe yn cael eu gwerthu ar ocsiwn yn Beverly Hills ar y 5ed a 6ed o fis Rhagfyr. Mae’r holl lythyrau i’w gweld i bawb am bedwar diwrnod cyn i’r ocswn fod yn galeri Beverly Hills. Mae’r llythyrau yn cynnwys y llythyrau rhwng Marilyn Monroe a Joe DiMaggio, mae dyfyniad o lythyr i Marilyn gan DiMaggio yn y llun uchod.. Hefyd mae llythyrau gan Clark Gable, Cary Grant a Jane Russell. Mae’n debyg bod y llythyrau am werthu am y pris anhygoel o $1 miliwn, neu fwy! Bu Marilyn yn ffigwr eiconig ym myd ffasiwn yn y 50’au, ac ers ei marwolaeth yn 1962 mae ei heiddo hi wedi bod o werth anferthol, megis y ffrog enwog wen,o’r film The Seven Year Itch a gafodd ei gwerthu ym Mehefin 2011 am $£2.8 miliwn!


Chwaraeon ...30

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Dechrau Da i Gymru!

Daniel Johnson Os byddwch yn gofyn i gefnogwyr Cymru sut maen nhw’n meddwl y mae’r ymgyrch i chwarae yn Ewro 2016 yn mynd, fe gewch un teimlad penodol. Optimistiaeth. Er nad ydym wedi rhoi’r byd pêl-droed ar dân, rydym wedi chwarae’n dda. Am unwaith, nid ydym yn ymddangos ein bod yn taflu’r siawns i ffwrdd. Cychwynnodd dynion Chris Coleman gyda gêm oddi cartref, yn Andorra. Tîm gwanaf y grŵp, o bell ffordd. Yr union math o gêm y mae Cymru, fel arfer, yn canfod ffordd o’i cholli. Ac ar ôl 6 munud, dyna beth oedd yn digwydd. Cic o’r

sbotyn ar ôl i Neil Taylor dynnu crys yr ymosodwr. Dyma ni’n mynd eto. Buasem wedi colli’r gêm hon bum mlynedd yn ôl. Ond, doedd gennym ni ddim un o gewri byd y bêl gron bryd hynny. Diolch byth am Gareth Bale. Dwy gôl fan yma, yr ail un yn gic rydd wych. 2-1 yn y diwedd, ar un o’r caeau gwaethaf y mae posib i unrhyw un o chwaraewyr Cymru erioed gamu arno. Nesaf oedd Bosnia yng Nghaerdydd. Ac am unwaith, daeth cefnogwyr yn eu miloedd i gefnogi’r cochion. Ar ôl 90 munud o frwydro, 0-0 oedd y sgôr terfynol. Llwyddodd Wayne Hennessey, gôl-geidwad Cymru, i atal nifer o ymdrechion gan Edin

Dzeko, a byddai Bale wedi medru’i hennill hi yn y diwedd gydag ergyd anlwcus tu hwnt. Ymlaen i Gyprus felly, gêm gartref arall. Cychwynnodd hi’n dda. 1-0 bron yn syth, gyda’r asgellwr David Cotterill yn rhoi croesiad a aeth, rhywsut, yr holl ffordd i mewn. Wedyn, gwnaeth Hal Robson-Kanu hi’n ddwy ar ôl symudiad gwych gan y tîm, gyda Bale yn ei ganol. Ond am Gymru’r ydym ni’n sôn, cofiwch. Roedd hyn yn rhy hawdd. Sgoriodd Cyprus. Yna cafodd y chwaraewr canol-cae, Andy King ei hel o’r cae am dacl uchel, ond ni effeithiodd hyn ar y tîm. Gorffennodd y gêm gyda sgôr

Tim Rygbi a Phêl-Rwyd Merched UMCB

2-1. Yna, daeth Gwlad Belg. Y tîm cryfaf yn y grŵp. Tîm a gyrhaeddodd wyth olaf Cwpan y Byd, cyn colli i’r Ariannin o un gôl i ddim. Er bod Gwlad Belg yn ein herio, llwyddom ni i gadw’r Belgiaid ar sgôr o 0-0. Gwnaeth yr amddiffynnwyr waith campus o atal y Belgiaid rhag sgorio. Dyma’r ail waith mewn 27 o gemau iddyn nhw beidio sgorio. A phan chwythodd y canolwr ei chwiban, bloeddiodd Bale mewn angerdd. Pwynt yng Ngwlad Belg. Y gêm anoddaf yn y grŵp. Ail yn y grŵp. 6 gem i fynd. Mae’r freuddwyd yn parhau.

Yn ystod mis Hydref fe sefydlwyd tîm rygbi a phêlrwyd merched UMCB. Y bwriad y tu ôl i hyn oedd sicrhau bod gan ferched UMCB dimau cystadleuol yn hytrach na thimau bechgyn yn unig. Mae’r tîm rygbi yn ymarfer bob nos Lun rhwng 6:30 a 7:30 dan arweiniad Aled Jones, Ilan Davies, Rhodri Gruffydd Williams a Mac Jones. Mae’r tîm pêlrwyd yn ymarfer ar nos Sul rhwng 7 ac 8 ym Maes Glas ac wedi bod yn gwneud hynny ers tua mis bellach. Os oes rhywun yn dymuno ymuno ag un o’r timau mae grŵp ar Facebook o’r enw ‘Tîm Rygbi a Phêl-rwyd Merched UMCB’.Pob lwc i chi genod!


Chwaraeon... 31

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Gemau Rygbi’r Hydref

Llwyddiant Iwan yn y Brifddinas

Iolo Roberts Colli wnaeth Cymru yng ngêm agoriadol gemau’r hydref yn erbyn Awstralia ar Tachwedd 8. Cafwyd hanner cyntaf hynod o gyffrous a oedd yn llawn rhedeg gyda chwarae ymosodol gwych gan y ddau dîm, hyd yn oed os nad oedd yr amddiffyn yn y ddau ddim yr un safon. Sgorwyr ceisiau y Cymry oedd Rhys Webb, Alex Cuthbert ac Alun Wyn Jones gyda Leigh Halfpenny yn trosi ddwywaith a Dan Biggar unwaith gan adael y sgôr yn gyfartal ar yr hanner amser. Roedd yr ail hanner yn ddifflach ac i’r gwrthwyneb o’r hanner cyntaf gyda’r ymosodiadau yn brin. Llwyddodd Cymru i dderbyn cais cosb drwy waith da’r blaenwyr cyn i droed Bernard Foley sicrhau’r fuddugoliaeth i Awstralia. Y sgôr terfynol oedd Cymru 28-33 Awstralia. Cafwyd perfformiad da iawn gan y Cymry a ddylai fod wedi arwain at fuddugoliaeth ond colli o lai na 7 pwynt am y chweched tro yn olynol yn erbyn Awstralia oedd ein hanes, gwaetha’r modd. Ail gêm Cymru oedd yn erbyn Fiji Tachwedd 15. Ar ôl i Warren Gatland wneud wyth newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Awstralia wythnos ynghynt nid oedd y perfformiad o’r un safon o gymharu â’r wythnos flaenorol. Sgorwyr ceisiau’r Cymry oedd George North, Alex Cuthbert a chais cosb. Y sgôr ar yr hanner oedd Cymru 17-6 Fiji. Roedd yr ail hanner yn salach fyth gyda Chymru’n methu manteisio ar gerdyn coch i brop Fiji ar ôl 50 munud. Llwyddodd Fiji i gael rhyng-gipiad yn y munudau olaf, ond y sgôr terfynol oedd Cymru 17-13 Fiji. Cafwyd buddugoliaeth ond nid oedd yn berfformiad y byddai pobl wedi ei ddisgwyl ar ddechrau’r prynhawn.

Iolo Roberts Ddechrau fis Hydref rhedodd Iwan Evans o’r ail flwyddyn a Siwan Parry ei gariad, hanner marathon Caerdydd er mwyn codi arian i Muscular Dystrophy, sef afiechyd cyhyrol sy’n gwanhau’r system gyhyrsgerbydol. Roedd yna reswm personol dros redeg gan fod dau aelod o deulu Siwan yn dioddef o’r afiechyd a dau arall wedi marw wedi cael yr afiechyd. Penderfynwyd rhedeg i gasglu arian at achos teilwng ynghyd â dangos cefnogaeth i bawb sy’n dioddef o’r afiechyd. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonoch chi ar orffen y ras ynghyd â phawb arall oedd yn rhedeg dros achosion gwahanol. Dwi’n siwr bod swm da o arian wedi ei gasglu at nifer o achosion haeddiannol er mwyn sicrhau bod y gofal gorau posib ar gael i unrhyw un sy’n dioddef o afiechyd.

Yr Undeb Athletau Iolo Roberts Mae Undeb Athletau Prifysgol Bangor yn ceisio cael mwy o lwyddiant eleni, yn dilyn blwyddyn lewyrchus iawn y llynedd. Braf yw gweld rhai o aelodau UMCB yn rhan o dimau gwahanol eto eleni boed hynny’r tîm hoci neu’r tim pêldroed gydag un o’r rheiny, Llio Meleri, yn gapten ar un o’r timau hoci. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno gyda thîm penodol a heb wneud hynny yn ystod Serendipedd, yna ewch amdani ac efallai y byddwch chi’n rhan o un o’r timau llwyddiannus hyn. Pob lwc!


32... Chwaraeon

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2014

Tîm Pêl-Droed UMCB

Iolo Roberts Mae hi wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor i UMCB eleni wrth geisio efelychu llwyddiant y llynedd. Ar ôl curo Hirael 2-1 yn y gêm gyntaf gyda Rhodri ac Einion yn sgorio fe aeth pethau o chwith yn y gemau canlynol. I ddechrau fe dynnodd Hirael allan o’r gynghrair gan olygu bod tri phwynt UMCB o’r gêm yno’n cael ei gymryd oddi wrth y tîm. Ar ôl cael trafferth yn dod o hyd i’r cae yng Nghaergybi

cyn dechrau’r gêm fe gollodd UMCB 8-2 yn erbyn Albert Caergybi gyda Rhodri yn sgorio ddwywaith. Colli fu hanes y tîm yn y gêm nesaf hefyd wrth golli gartref yn erbyn Penbont Celts o 6 gôl i 3 gydag Einion, Tom Owen a Rhodri yn sgorio. Yn y gêm nesaf cafwyd cweir o 10 gôl i 0 gan Fryngwran gyda Steff yn y gôl yn atal y sgôr rhag gwaethygu. Colli wnaeth y tîm yn Fali yn y gêm wedyn hefyd ac er y cafwyd perfformiad da yn yr hanner cyntaf, 5 i 1 i Fali oedd y sgôr terfynol gyda Rhodri

1. Enw llawn Elis Edwards

HOLI ELIS

yn sgorio unwaith eto. Wythnos yn ddiweddarach chwaraewyd y gêm gartref yn erbyn Bryngwran. Colli unwaith eto oedd yr hanes ond o 4 i 0 y tro yma gyda Steff yn atal y sgôr rhag bod mewn ffigyrau dwbl unwaith eto. Ar Tachwedd 16 enillodd UMCB eu 3 phwynt swyddogol cyntaf y tymor yn erbyn Gwalch ar ôl curo 5-4. Ar ôl bod ar ei hôl hi o 3 gôl i 0 fe ddangosodd yr hogiau gymhelliant i ennill gyda Rhodri Gruffydd Williams (2), Einion Edwrads, Geraint Roberts a Tomos Bull yn sgorio. Ni wnaeth

Gwalch helpu’u hunain chwaith ar ôl derbyn tri cherdyn coch. Mae perfformiadau’r tîm wedi gwella yn yr wythnosau diwethaf er nad yw’r canlyniadau wedi adlewyrchu hynny bob tro. Os ydych am ddod i gefnogi mae’r gemau cartref ar ddydd Sul yn Ffordd y Traeth gyda’r gic gyntaf am 11yb. Mae ymarfer yn cael ei gynnal bob nos Lun ar gae 3G Bangor rhwng 5 a 6 ac mae gan Einion Edwards neu Ben Garrett ffurflenni os oes rhywun yn dymuno arwyddo.

Cystadlu yn un o sioeau enwocaf Mae gweld cystadlaethau neidio Prydain, sef Hickstead poblogaidd fel yn y Gemau Olympaidd yn f ’ysbrydoli i weithio’n galteach er 2. O ble wyt ti’n dod? 7. Beth yw dy lwyddiant mwyaf yn mwyn cyrraedd lefel uwch. Rhuthun, Sir Ddinbych y gamp? Rydw i wedi cael llawer o lwyddiant 10. Oes gen ti ofergoelion cyn 3. Pa gwrs wyt ti’n ei astudio ym gyda’r ceffyl cyntaf a brynais o’r neidio? Mangor? Iseldiroedd. Rydw i wedi ennill mewn Nagoes. Cadwraeth Amgylcheddol cystadleuaeth ar hyd a lled Prydain gyda’r ceffyl hwnnw, ond rydw i wedi 11. Gobeithion am y dyfodol o ran 4. Beth yw dy gamp? ei werthu’n ddiweddar gwaetha’r neidio ceffylau? Neidio Ceffylau Hoffwn gyrraedd y safon uchaf posib. modd. Ceffylau ifanc di-brofiad sydd gennyf 5. Wyt ti’n perthyn i unrhyw dîm? 8. Pwy ydi dy arwr? ar hyn o bryd ond mae ganddynt Na, cystadlu’n unigol yn unig. Marcus Ehning botensial mawr o ran neidio. Gyda gwaith caled a dyfal barhad credaf yr 6. Beth yw dy brofiad gorau yn y 9. Oes rhywbeth neu rywun wedi dy awn yn bell. gamp? ysbrydoli?


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.