Cynnwys:
3
Tudalennau:
Golygyddol Dyma ni, wedi cyrraedd rhifyn olaf Y Llef ym mlwyddyn academaidd 20132014. Mae’n deimlad rhyfedd iawn gwybod mai dyma’r golofn olygyddol olaf y byddaf yn ei hysgrifennu i’r Llef ac mae’n anodd ei roi mewn geiriau sut deimlad ydi hynny. Cymysgedd, am wn i, o dristwch ac o ryddhad: tristwch am na fyddaf yn rhan o dîm anhygoel y Papur hwn mwyach, ond rhyddhad y byddaf yn gweld fy ngwely cyn 3 o’r gloch y bore ar ddiwrnod yr argraffu o hyn allan! Ga’ i gymryd y gofod hwn i ddiolch o waelod calon i bawb, yn gyd-fyfyrwyr ac yn staff yr Undeb a’r Brifysgol, sydd wedi bod o gymorth i mi wrth roi’r rhifynnau diwethaf hyn at ei gilydd. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i mi’n bersonol, a gobeithiaf y bu’n brofiad cyffelyb i’r rheiny a fu’n gweithio ar y Papur gyda mi. Mae’n deimlad rhyfedd iawn trosglwyddo’r awenau, ond mae’r ffaith mai fy chwaer fydd y Golygydd newydd yn gwneud hynny chydig yn haws. Caf o leiaf rannu peth o’r straeon am y flwyddyn i ddod! Ond, digon amdanaf i. Fel bob amser, rydw i’n hynod o ddiolchgar i bawb a gyfrannodd ddeunydd i’r Papur, ac mae’n bleser mawr gweld cymaint mwy o gyfranwyr y tro hwn. Cofiwch mai’ch papurnewydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly rhowch bob cefnogaeth iddi hi ac i’r Papur yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’r profiad wedi bod yn arbennig i mi, a dw i’n siŵr y bydd yr un yn wir i Manon, y tîm newydd o Isolygyddion ac unrhyw un ynghlwm â’r Llef yn y dyfodol. Gan obeithio y mwynhewch y rhifyn olaf. Siôn Elwyn golygydd.llef@myfyrwyrbangor.com
Newyddion
3-8
Etholiadau UMCB
10
Ffasiwn
12-14
Yr Hadau
15-17
Cystadleuaeth
19
Y Gornel Greadigol
20-22
Adolygiadau
24-27
Arbennig: Yr Haf
28
Chwaraeon
29-32
14
32
25 Gair gan y darpar-Olygydd Rydw i wedi bod yn aelod o bwyllgor Y Llef, ac yn is-olygydd yr adran adolygiadau ers imi gyrraedd Prifysgol Bangor yn las-fyfyriwr ym mis Medi, 2013. Mae cael bod yn rhan o dîm Y Llef wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, ac mae ysgrifennu deunydd a dylunio tudalennau ar gyfer pob rhifyn yn waith cyffrous iawn. Rydw i’n falch iawn bod papur-newydd Cymraeg Prifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, yn enwedig yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf. Mae gennym gynulleidfa lawer ehangach erbyn hyn, yn ymestyn y tu hwnt i’r brifysgol yn unig. Mae’n bapur-newydd y gallwn ni i gyd, fel cyd-fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, fod yn falch ohono. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn uned gref iawn o fewn pwyllgor y papur-newydd, ac wedi derbyn cyfraniadau helaeth gan fyfyrwyr. Rydym yn ddibynnol ar gefnogaeth gref a chyfraniad myfyrwyr Bangor. Dylwn bwysleisio felly bod nifer o lefydd ar gael ar y pwyllgor y flwyddyn academaidd nesaf, ac rydym
yn chwilio am unrhyw un sydd yn frwdfrydig i ymuno â’r papur. Rydym yn chwilio am ysgrifenwyr, hysbysebwyr, dosbarthwyr, technegwyr, dylunwyr, neu unrhywbeth arall yr ydych yn teimlo bod gennych i’w gynnig i Y Llef. Cysylltwch efo fi neu Siôn, y golygydd presennol, am fwy o wybodaeth neu i roi eich enw ymlaen ar gyfer y tymor nesaf. Hoffwn orffen gyda gair o ddiolch i Siôn Elwyn (fy mrawd!), Golygydd y papur eleni. Gwn ei fod wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i sicrhau bod papur-newydd Cymraeg Prifysgol Bangor
yn mynd o nerth i nerth, ac mae’n sicr i hynny ddigwydd. Mae wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau llwyddiant i Y Llef, ac rydw i’n gobeithio y gallaf gael cystal hwyl arni y flwyddyn academaidd nesaf. Wrth gwrs, mae’n braf gwybod y gallaf droi ato pe bawn i angen cymorth. Diolch am dy holl waith caled, Siôn. Dyma obeithio, felly, am flwyddyn lewyrchus arall yn hanes papur-newydd Cymraeg myfyrwyr Bangor! Tan y rhifyn nesaf, Manon Elwyn
Diolchiadau... Diolch o galon, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu a threfnu cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Mae hynny’n enwedig yn wir y tro hwn, a hithau’n gyfnod mor brysur i bawb. Mae’n bleser gen i weld y nifer mwyaf o gyfranwyr y tro hwn hefyd, (17 i gyd) sy’n galonogol iawn wrth i mi basio’r awenau ymlaen i dîm newydd. Ni ddaeth y rhifyn hwn heb ei broblemau technegol ond, diolch i’r nefoedd, datryswyd y rheiny yn syth, a diolch i Mrs Bethan Wyn Jones yn hynny o beth. Fel arfer, diolch i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media am ei gymorth parod.
Is-olygyddion: Llio Mai Carys Tudor Manon Elwyn Holly Gierke Fflur Williams Elis Dafydd Rhys Dilwyn Jenkins Carwen Richards Gethin Lewis Green
Is-olygydd Cyffredinol Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon Is-olygydd Chwaraeon
Cyfranwyr:
Gruffudd Antur Erin Bryn Antony Butcher Ilan Wyn Williams Leusa Dwyfor Elidyr Glyn Gethin Griffiths Elin Gwenllian Ceren Hughes
Ceris James Alaw Jones Bethany Lewis Llio Meleri Rhys Taylor Llyr Titus Ffion Haf Williams Gwenno Williams
Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Bangor. Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.
Looking for Books? Try Us First! Support your Local Bookshop AR Y STRYD FAWR AC AR LEIN ON THE HIGH STREET AND ON LINE
palasprint.com
170 Stryd Fawr/High Street, Bangor, 01248 362676 10 Stryd y Plas, Caernarfon, 01286 674631 eirian@palasprint.com
Edrych am Lyfrau? Tria Ni Gyntaf Cefnoga dy Siop Lyfrau Lleol
Palas PRINT
6 Newyddion...
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Y C’lomennod gwirion!
Llio Mai Fore Mawrth y 13eg o Fai, bu cryn helbul yn ystod yr arholiadau a gynhaliwyd yn Neuadd Pritchard Jones. Yr oedd dwy golomen wedi ymgartrefu yno, ac oherwydd eu sŵn bu rhaid i’r myfyrwyr roi’r gorau iddi o fewn 40 munud i ddechrau’r arholiad. Arholiadau’r Gyfraith ac Ieithoedd Modern oedd yn cael eu cynnal, ac mae’n debyg fod y colomennod yno cyn i’r myfyrwyr ddechrau eu harholiad am 08:55yb, ond ni wnaed unrhyw benderfyniad i ohirio tan oddeutu 09:35yb. Mae’r digwyddiad hwn yn amlwg yn un sydd wedi achosi poen meddwl i ambell fyfyriwr. Er bod posib cynnal rhai o’r arholiadau
mewn ystafell arall y prynhawn hwnnw (gan mai nifer fechan o fyfyrwyr oedd yn eu sefyll), roedd nifer o fyfyrwyr eraill yn disgwyl i gael clywed beth fyddai’n digwydd nesaf. Rhoddwyd gwybod i’r myfyrwyr rheini y byddai modd iddynt ailsefyll yr arholiad ar ddiwrnod arall, ond wrth gwrs, roedd problemau eraill yn deillio o hyn. Gan eu bod wedi gweld y papur arholiad yn barod cred nifer oedd y byddant yn cael eu marcio’n fwy llym oherwydd hynny, ond mae’r Brifysgol wedi’u sicrhau nad dyna’r achos. Roedd ambell fyfyriwr wedi sefyll yr arholiad mewn ystafell arall oherwydd salwch, ac felly nid oeddent yn siŵr os byddai rhaid iddynt hwythau ailsefyll yr arholiad
hefyd.
Y mae’n debyg fod yr arholiadau wedi’u hail-drefnu ar gyfer y 30ain o Fai, ond mae aildrefnu’r arholiadau yn drefniant sy’n achosi cyn drafferth i fyfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud trefniadau i ddychwelyd adref, yn enwedig myfyrwyr o dramor. Y mae’r sefyllfa yn un anodd ond mae’n amlwg fod y Brifysgol yn ceisio eu gorau i sicrhau bod y broblem yn cael ei datrys, a’r cyngor a roddir i’r myfyrwyr sy’n meddwl na fydd yn bosib iddynt sefyll yr arholiad ar y 30ain yw i gysylltu â’u hadran cyn gynted â phosib. Meddai llefarydd ar ran y Brifysgol: “Bu raid i Brifysgol Bangor
ail-drefnu arholiad y Gyfraith i 224 o fyfyrwyr wedi i ddwy golomen ddod i mewn i Neuadd PJ fore Mawrth. “Myfyrwyr o’r flwyddyn gyntaf a’r drydedd flwyddyn oedd y rhai gafodd eu heffeithio yn bennaf. Mae’r Brifysgol wedi ymddiheuro i’r myfyrwyr a effeithiwyd, wedi aildrefnu'r arholiadau, ac wedi rhoi sicrwydd i’r myfyrwyr na fyddant yn dioddef yn anffafriol o ganlyniad i’r tarfu. “Roedd modd symud rhai myfyrwyr oedd yn sefyll arholiadau eraill yn y neuadd fore hwnnw i leoliad arall er mwyn iddynt barhau a’u harholiad. “Gadawodd y colomennod y neuadd cyn arholiadau’r prynhawn.”
Bangor ymysg 20 uchaf Prydain
Mae uwch-staff Prifysgol Bangor wedi croesawu canlyniadau Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education, sy’n gosod y Brifysgol ymysg 20 prifysgol orau gwledydd Prydain o ran boddhad myfyrwyr. “Mae’r profiad gwych y mae myfyrwyr yn ei gael, ynghyd â’r gofal y maent yn ei dderbyn ym Mangor, wedi bod yn atyniadau allweddol i’r Brifysgol ers cenedlaethau, ac mae’n glir bod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi’r profiad o astudio
yma yn ei gyfanrwydd,” meddai’r Athro John G. Hughes, IsGanghellor y
Brifysgol. Mae’r arolwg yn dangos bod myfyrwyr Bangor yn uchel eu canmoliaeth o staff y Brifysgol am eu diddordeb a’u cymorth, am ansawdd uchel y cyrsiau, a’r ymdeimlad o gymuned wych sydd i’r Brifysgol. Un elfen sydd wedi sgorio’n uchel yw safon uchel y gweithgareddau a chlybiau allgyrsiol. Gyda dros 100 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau pynciol a diddordebau hamdden, Prifysgol Bangor yw’r unig Brifysgol
gyhoeddus ym Mhrydain sydd yn sicrhau bod yr holl glybiau a chymdeithasau ar gael am ddim i’w myfyrwyr. Dyma ddywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor dros Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor: “Mae arolygon annibynnol i gyd yn tynnu sylw at enw da a llwyddiant gwych Bangor yn hyn o beth. Gosodwyd clybiau a chymdeithasau’r Brifysgol yn 6ed ym Mhrydain gan wefan ‘WhatUni’ yr wythnos hon. Gosodwyd ansawdd ein llety myfyrwyr hefyd yn y 6ed safle ym Mhrydain, a’n cyrsiau a’n darlithwyr o fewn y deg uchaf.” Ar hyn o bryd mae Bangor
yn buddsoddi miliynau mewn nifer o ddatblygiadau newydd, gan gynnwys Canolfan Pontio newydd gwerth £48m, a fydd yn cynnwys darlithfeydd newydd, mannau dysgu cymdeithasol, theatr, sinema, adran arloesi a chartref newydd i Undeb y Myfyrwyr. Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn datblygu llety newydd gwerth £30m i fyfyrwyr, ac yn ailddatblygu adnoddau chwaraeon y Brifysgol. Mae cynlluniau pellach i fuddsoddi mewn cyfleusterau gwyddonol hefyd ar y gweill gan y Brifysgol wedi cyhoeddiad y byddant yn derbyn benthyciad tymor hir o £45m o’r European Investment Bank.
10 Tudalen yr Undeb...
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
ETHOLIADAU PWYLLGOR UMCB 2014/2015 Aelodau Y Cymric 2014-2015: Sian Davenport Dion Davies Einion Edwards Einir Jones Golygydd y Llef 2014-2015: Manon Elwyn Golygyddion y Ddraenen 2014-2015: Eluned Mair Davies a Gwenno Pari Huws Llywydd JCR JMJ 2014-2015: Rhodri Gruffudd Williams Cynrychiolydd y drydedd flwyddyn 2014-2015: Mared BerthAur Cynrychiolydd yr ail flwyddyn 2014-2015: Melen Lloyd
Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2014
Mari Wiliam (yr Adran Hanes): Athrawes y Flwyddyn
Rhys Taylor Daeth dros 200 o aelodau staff, myfyrwyr a chynrychiolwyr cwrs ynghyd i ddathlu Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2014 a Gwobrau'r Cynrychiolwyr Cwrs. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Neuadd PJ ac roedd yn brofiad pleserus iawn i bawb a oedd yno. Daeth rhai o aelodau panel myfyrwyr y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad
Myfyrwyr i'r llwyfan i ymuno â Rhys Taylor, yr Is-Lywydd Addysg a Lles i gyflwyno'r Gwobrau i'r enillwyr ac i'r staff a gyrhaeddodd y rhestrau byr. Llongyfarchodd Rhys Taylor yr holl staff a dderbyniodd enwebiadau eleni - roedd y safon yn llawer uwch eleni nac (Llun: Seren) erioed o'r blaen. Meddai: “Mae’n wych gweld cymaint o enwau gwahanol yn codi blwyddyn ar ôl blwyddyn a gweld mor angerddol yw myfyrwyr am eu profiadau addysgu a dysgu. Mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddigwyddiad sydd wedi sefydlu ei hun yn gyflym iawn ar galendr y Brifysgol ac mae UM yn hynod o awyddus i sicrhau bod y project hwn yn parhau i dyfu. Llongyfarchiadau
i’r holl enillwyr a diolch enfawr i banel myfyrwyr y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr; ni allem fod wedi cynnal y Gwobrau hebddynt.” Enillwyr Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2014 yw: Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol: Sian Pierce, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg: Peredur WebbDavies, Ieithyddiaeth Goruchwylydd Traethawd Hir/ Thesis y Flwyddyn: Martina Feilzer, Gwyddorau Cymdeithas Gwobr Adborth Ardderchog: Gwyn Ellis, Addysg Gwobr Arloesi: Lynda Yorke, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Gwobr Ryngwladol: Monalisa Odibo, Warden a Chanolfan Addysg
Ryngwladol Athro Newydd y Flwyddyn: Farhaan Wali, Athroniaeth Gwobr Agored: Gavan Cooke, Gwyddorau Biolegol Athro Ôl-radd y Flwyddyn: Sarah Cooper, Ieithyddiaeth Gwobr Adrannau Gwasanaeth i Fyfyrwyr: Gwasanaeth Cwnsela Aelod o Staff/Tîm Cefnogi’r Flwyddyn: Sian Lewis, Seicoleg Gwobr Meddwl yn Gynaliadwy: Helen Gittins, James Walmsley a Nicola Owen, Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Athro/Athrawes y Flwyddyn: Mari Wiliam, Hanes Bydd mwy o wybodaeth am ymateb staff a myfyrwyr ar y noson yn dilyn yn fuan. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad a llongyfarchiadau i'r holl gynrychiolwyr cwrs a'r staff a enwebwyd ac i bawb a enillodd wobr. Da iawn chi!
...Tudalen yr Undeb 11
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
DIWEDD CYFNOD I DDAU
s d i L Llun
Bobl bach. Mae’r ddwy flynedd ddwytha’ wedi hedfan heibio, ac fedra i’m credu y bydd y bennod anhygoel yma o fy mywyd ar ben mewn cwta wythnosau. Dw i’n teimlo’n hynod o freintiedig fy mod wedi bod yn Llywydd arnoch chi i gyd, ac mae wedi bod yn bleser dod i adnabod cymaint o fyfyrwyr ysbrydoledig. Efo’n gilydd, rydan ni wedi gweithio efo’r Brifysgol ac wedi ennill ambell frwydr enfawr – gan fynnu parhad ym muddsoddiad y Brifysgol yn y gweithgareddau dan ofal myfyrwyr, twf ein prosiectau gwirfoddoli, cyflwyno’r Arwyr, o! – a llyfrgell 24 awr, unrhyw un? Ni fyddai’r rhain (a mwy o lawer) wedi bod yn bosib heb fyfyrwyr, heb staff arbennig Undeb Myfyrwyr Bangor, a heb y staff ym Mhrifysgol Bangor, sy’n poeni cymaint amdanon ni i gyd. Diolch i bawb! Dros yr haf, byddaf yn ymuno â miloedd o fyfyrwyr
eraill sy’n gadael Bangor gydag atgofion melys a ffrindiau am oes. Os ydach chi’n gadael llongyfarchiadau ar bopeth rydach chi wedi’i gyflawni, a phob lwc i’r dyfodol. Os ydach chi’n aros - parhewch i gymryd rhan, a pharhewch i fwynhau a chael hwyl! Ond, fel rydan ni’n gadael, bydd myfyrwyr newydd yn cyrraedd, a bydd y rhod yn troi unwaith eto. Mae’r Undeb mewn dwylo diogel iawn ar gyfer y flwyddyn nesa’ - mae Rhys wedi bod yn Is-Lywydd Addysg a Lles ysbrydoledig tu hwnt, ac mae Nicola wedi gwneud gwaith arbennig wrth weithio gyda’r UA. Ochr yn ochr â Lydia, Mark a Guto fe wnawn nhw dîm gwych, ac fedra i’m disgwyl i weld beth fyddan nhw’n ei gyflawni. Fel myfyrwyr, rydan ni’n lwcus iawn mewn sawl ffordd – rydan ni wedi bod mewn Prifysgol, wedi cael to uwch ein pennau, a dŵr
Gobeithio bod y cyfnod arholiadau wedi mynd yn dda i chi fyfyrwyr clyfar Bangor, a dw i’n siwr eich bod yn edrych ymlaen i ddathlu diwedd y flwyddyn. Mae digonedd o ddigwyddiadau gwych ar ôl i’w mwynhau cyn i’r flwyddyn academaidd hon ddod i ben. Mi fydd yn gyfnod byrlymus yn bendant, ond hefyd yn un emosiynol i lawer, yn enwedig i’r rhai sy’n gadael. Mae hi’n hollbwysig bod yr unigolion sydd yn gadael yn cael eu cefnogi a’u cysuro yn ystod y cyfnod tywyll hwn, felly byddwch yn glust i lawer i fwydryn meddwol cyn eu hargyhoeddi nad yw eu bywyd drosodd o bell ffordd. Mae dyfodol disglair o’n blaenau ni i gyd, ond cyn hynny, glân, hyd yn oed, yn rhedeg o’r tapiau. Er hynny, tydi’n cymdeithas ni ddim heb ei beiau, ac mae’r annhegwch a’r diffyg cydraddoldeb cynyddol yr ydan ni’n ei weld - yn y DU ac yn rhyngwladol - yn debygol o fod yn un o heriau mwyaf ein ffordd o fyw erioed. Mae pobl yn dweud wrtha’ i’n aml mai myfyrwyr heddiw ydi’r dyfodol - ond rydan ni’n fwy na hynny, ni ydi’r presennol. Ein cyfrifoldeb ni ydi sefyll dros yr hyn a gredwn sy’n iawn, ac nid edrych o’r ochrau’n dawel. Gyda’n gilydd, gallwn newid y byd. O.N. – rhag ofn nad ydach wedi clywed, rydw i ar fin beicio 1000 o filltiroedd i elusen. Darllennwch am y daith ar www. antonyjcbutcher.wordpress. com/10000challenge/ a noddwch fi wrth fynd i www.justgiving.com/ antonybutcher.
Ant
hwn yw’r amser delfrydol i edrych yn ôl mewn llawenydd a diolchgarwch. Mae hi wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor; yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, a hefyd yn gystadleuol. Yr ydym fel Undeb wedi ennill yr Eisteddfod Ryng-Golegol (sydd heb ddigwydd yn aml iawn yn y blynyddoedd diweddar) diolch i ymroddiad anhygoel nifer o’n haelodau. Dw i’n obeithiol y bydd hyn yn troi’n arferiad drwy’r blynyddoedd sydd i ddod. Hefyd mae angen canu clôd i’r Tîm Pêl-droed am eu hymroddiad a arweiniodd at fuddugoliaeth drwy ennill y Cwpan. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos yn glir ein potensial
fel Undeb, a thra bo’r cyfle gennym mae’n bwysig adeiladu ar y momentwm hwn drwy’r blynyddoedd sydd i ddod. Felly, cofiwch am ein llwyddiant eleni er mwyn rhoi cyd-destun i’n dathlu yn ystod yr wythnosau sydd o’n blaenau. Er hyn, mae hi’n amlwg mai’r prif reswm sydd gennym i ddathlu yw’r gymdeithas ei hun, sydd wastad yn creu awyrgylch arbennig o gyfeillgar, angerddol a chlos. Mae’n rhaid cofio bod hyn mewn gwirionedd yn werth mwy na unrhyw fuddugoliaeth dros dro, a dyma’n gwir reswm dros ddathlu. Diolch i bob un ohonoch am eich cyfraniad i’r gymdeithas anfarwol hon. Cymru am byth!
Lids
...Ffasiwn 13
...Ffasiwn
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
TOPSHOP
£36
£68
£48
Miss Selfridge
£60
£84
Warehouse
£40
14 Ffasiwn...
SBECTOL HAUL
T
Y DEWIS
M
GORAU SYDD AR GAEL AR Y STRYD FAWR...
O BOB LLIW A LLUN...
...Ffasiwn
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
...Ffasiwn
14 Ffasiwn ...
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Ffasiwn yr Haf i ysbrydoli… ...pha bynnag yr wyl neu achlysur…
Lliwiau pasteli a gwyn sy’n tynnu sylw’r llygad yr ha’ ’ma. Yn ogystal, mae p a t r y m a u blodeuog, hetiau haul a darnau addurniedig i’r gwallt i gyd yn boblogaidd iawn!
16 ...Yr Hadau
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
mae safon fy Nghymraeg wedi gwella cymaint ers imi gychwyn fy astudiaethau yma.
“
mhrofiad y f e n Y ma di bod y e w n y h ... hyd yn anhygoel d ia f o r b
Des i Fangor o Bort Talbot, ger Abertawe, yn 2012, fel myfyriwr ail iaith. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhywun, a doeddwn i ddim yn gyfarwydd â’r ddinas yn dda iawn chwaith. O ddod yma ar fy mhen fy hun, fel petai, yr wyf wedi cael amser arbennig yma hyd yn hyn.
“
Mi ddewisais JMJ er mwyn imi gael y cyfle i siarad yn Gymraeg bob dydd – ac y mae’r ddinas ei hun wedi cyfrannu at hwn hefyd. Y mae’n braf cael siarad yn Gymraeg o gwmpas y lle – sydd yn wahanol iawn i Bort Talbot. Prin iawn yw’r Gymraeg
Yr oedd byw yn Neuadd JMJ, y neuaddau cyfrwng Cymraeg, yn ddewis da a dweud y gwir. Y
yn ôl ym Mhort Talbot, felly y mae’n neis iawn cael defnyddio iaith arall i’w siarad ynddi. Y mae’r gymdeithas sy’n bodoli yn Neuadd JMJ yn gymdeithas glos iawn. Y mae pawb mor gyfeillgar, ac yn gwneud popeth gyda’i gilydd. Y maent yn cynnal nosweithiau mas, a hyd yn oed yn cynnal côr, sef Aelwyd JMJ, sydd yn ymuno â phawb.
iawn, ac yn gwneud imi fwynhau’r cwrs yn fwy.
“
Yr wyf wedi mwynhau fy nghwrs hefyd, sydd yn diddorol iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i eisiau gwneud y Gymraeg fel gradd pan oeddwn yn yr ysgol, ond ar ôl bod ym Mangor ers dwy flynedd, rwy’n gweld nawr fy mod i wedi gwneud y cwrs cywir. Y mae’r staff a fy nghyd-fyfyrwyr yn gyfeillgar
Y mae gennyf un flwyddyn ar ôl yn astudio ym Mangor yn awr, ac dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a’r profiadau mae gen i wrth ddod yma! Mae’r ddwy flwyddyn diwethaf wedi bod yn wych, ac dw i’n disgwyl am drydedd flwyddyn arbennig!
’r Y mae oli sy’n bod n JMJ y glos
as gymdeith dd yn Neua as gymdeith iawn ...
“
Dyna ni! Dw i wedi gorffen fy ail flwyddyn yma ym Mangor, yn astudio’r Gymraeg. Y mae fy mhrofiad hyd yn hyn wedi bod yn brofiad anhygoel, a dw i methu credu bod fy amser yma ym Mangor bron wedi dod i ben.
Rhys Jenkins: My Experience experience so far has been amazing, and I can’t believe
have the chance to speak Welsh every day – and the city itself has added to this too. It’s lovely being able to speak Welsh everywhere – which is very eing able different to It’s lovely b h ls e W Port Talbot. The k a spe to Welsh is scarce . everywhere .. there, so it’s nice being able to use another my time here in language to Bangor is nearly speak in. over. The community I came to Bangor that exists in from Port Talbot, JMJ is a close near Swansea, as one. Everyone a second language is so friendly, student. I didn’t and they do know anyone, and I wasn’t familiar e v e r y t h i n g with the city very well either. together. They From coming here, basically on hold frequent my own, I’ve had a wonderful nights out time. Living in Neuadd JMJ, together, and the Welsh-language halls, was a have even great decision to tell the truth. established a The standard of my Welsh choir, Aelwyd has increased since I started JMJ, which studying here. joins everyone together. I decided to live in JMJ in order to I have enjoyed
“
“
“
that y t i mmun J is a o c M The in J ... s t one exis close
“
That’s it! I’ve finished my second year here in Bangor, studying Welsh. My
the course too, which is very interesting. I wasn’t sure if I wanted to do a degree in Welsh when I was in school, but after being in Bangor for two years, I can now see that I am doing the right degree scheme. The staff and students in the Welsh Department are very friendly, and make me enjoy the course more. I have only one year left studying in Bangor now, and I’m very thankful for the chances and experiences I have from coming here. The last two years have been amazing, and I’m expecting a fantastic third year!
...Yr Hadau 17
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Rhestr Fer Dysgwr y Flwyddyn Shortlist Learner of the Year Rhys Dilwyn Jenkins
Wlad yr Haf pan oedd yn ddwy oed, Cafodd pedwar person eu dewis o Gaerfyrddin. Cafodd ei magu a’i ar ôl cystadlu yn y Gerddi Botaneg haddysgu yn Lloegr. Cafodd swydd Cenedlaethol yn Llanarthne ar Fai 3: yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, lle y dechreuodd ddysgu’r Gymraeg, ac y Nigel Annet – Daw o Ogledd mae hi’n byw yn Sir Benfro bellach. Iwerddon yn wreiddiol, ond yn byw yn Aberyscir rhwng Aberhonddu Joella Price – Daw o Bort Talbot yn a Phontsenni. Yr oedd yn rheolwr wreiddiol, ac ar ôl byw yn America, gyfarwyddwr i Dŵr Cymru, ac Awstralia (a nifer o wledydd eraill) yn rhedwr llwyddiannus yn ei ers blynyddoedd, dechreuodd ieuenctid. Ymddengys yn y ffilm ddysgu’r Gymraeg wrth iddi symud Chariots of Fire fel un o’r rhedwyr ar i Gaerdydd dim ond dwy flynedd y traeth! yn ôl. Gweithia yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ac Susan Carey – Daw o Lundain yn y mae hi’n manteisio ar bob cyfle i wreiddiol, ond yn awr yn byw yn siarad yn y Gymraeg gyda chlefion. Nhrefdraeth, Sir Benfro. Mae hi’n ysgrifennydd ei changen leol o Mi fydd rownd derfynol y Ferched y Wawr, ac yn ysgrifennu gystadleuaeth yn Llanelli, ar Faes colofn fisol i’w phapur bro, sef yr Eisteddfod, ddydd Mercher, Clebran. Awst 6. Bydd seremoni arbennig i wobrwyo’r enillydd hefyd y noson Holly Cross – Symudodd ei theulu i honno ym Mharc y Scarlets.
Rhys Dilwyn Jenkins
Somerset when she was two years old, from Carmarthen. She was Four people were chosen for the raised and educated in England. shortlist after competing in the She started a job in the university National Botanic Gardens in in Cardiff, where she began to Llanarthney on May 3rd: learn Welsh, and now lives in Pembrokeshire. Nigel Annet – Comes from Northern Ireland, but lives in Joella Price – She comes from Port Aberyscir between Aberhonddu Talbot, and after living in America, and Sennybridge. He was the Australia (and a lot of other managing director of Dŵr Cymru, countries) for years, she started and a successful runner in his to learn Welsh after moving to youth. He is shown in the film Cardiff just two years ago. She Chariots of Fire as one of the works in the intensive care unit in runners on the beach! the University of Wales Hospital, and jumps on every chance to chat Susan Carey – She comes from in Welsh with patients. London originally, but now lives in Trefdraeth, Pembrokeshire. The final round ofthe competition She’s the secretary for her branch will be in Llanelli, at the Eisteddfod, of the Merched y Wawr, and writes Wednesday, August 6th. There will a monthly column for her local be a special ceremony awarding paper, Clebran. the winner too, on the same night in Scarlets Park. Holly Cross – Her family moved to
...Noder
Cystadleuaeth Newydd i Newyddiadurwyr Ifanc Oes gen ti ddiddordeb mewn newyddiaduraeth? Wyt ti rhwng 16 a 21oed? Wyt ti’n bwriadu mynd i Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd wythnos nesa’ (26-31 Mai, 2014)? Ddydd Gwener, 30 Mai, 2014, ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe fydd cystadleuaeth newydd sbon yn cael ei lansio gan S4C, ITV Cymru, Prifysgol Caerdydd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fe fydd yr enillydd neu’r enillwyr yn ymchwilwyr gyda thîm Hacio a newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar yn ITV Cymru ar gyfer S4C. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei lansio am 12pm ar stondin S4C gyda sesiwn arbennig o Hacio’n Holi. Yna am 2:30pm ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wyr Hacio ac arbenigwyr eraill yn y maes.
-
18 Cerddoriaeth...
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Tua’r Gorwel... Gethin Griffiths yn taro golwg ar gerddoriaeth Gymraeg ar ran Y Llef
Mae blwyddyn arall wedi dod i ben yma yn y Brifysgol, ac mae’n graddedigion newydd yn prysur drefnu eu dyfodol. Mae’n amser iddynt deithio tua’r gorwel mewn pennod newydd yn eu bywydau, ac mae hynny’n hynod gyffrous. Nid y graddedigion yn unig sy’n edrych i’r un cyfeiriad, fodd bynnag, gan fod sefydliad darlledu’r wladwriaeth wedi addo gwneud hynny hefyd. Mae BBC Cymru wedi cynllunio prosiect y flwyddyn hon sydd am sicrhau bod cerddoriaeth Gymraeg yn derbyn sylw digonol dros y flwyddyn sydd i ddod, ac enw’r cynllun yw ‘Gorwelion’. Ymgeisiodd dros 300 o gerddorion a grwpiau cerddorol am y cymorth hwn gan y BBC a oedd yn addo codi ymwybyddiaeth
cynulleidfa Cymru amdanynt, yn ogystal â chynnig cyfleoedd perfformio gwerthfawr. Er bod gwefan swyddogol y cynllun yn ei gyflwyno fel un i gerddorion newydd, daeth yn amlwg o’r rhestr fer fod y BBC wedi dewis artistiaid profiadol yn hytrach na hynny. Y chwe grŵp Cymraeg Plu a ddewiswyd fel llysgenhadon ein sîn roc yw Candelas, Casi Wyn, Chris Jones, Kizzy Crawford, Plu, a Sŵnami. Nid yw’n anarferol i rifyn o’r Llef sôn am Sŵnami - grŵp sy’n cynnwys un o fyfyrwyr yr Ysgol Gerdd, Ifan Davies. Pob lwc iddyn
nhw wrth gynrychioli cerddoriaeth flaengar Gymraeg ymhlith yr artistiaid breintiedig hyn. Y mae brodor o’r ardal, Gwilym Rhys, aelod o’r band teuluol, Plu, hefyd yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r cynllun. Dywed fod y fenter yn un wych i godi ymwybyddiaeth ac ehangu cynulleidfa cerddoriaeth werin, ei brif ddiddordeb erbyn hyn. Cymerodd ran yn ddiweddar yn nigwyddiadau Deg Mewn Bws a Cylch Canu yn ei ymgais i ehangu ei orwelion cerddorol ei hun, ac mae ei gynnwys yn y prosiect hwn yn binacl ei brofiadau amrywiol y flwyddyn
Hogia’ Bangor yn 4a6
werthu ymlaen llaw. Nid cydddigwyddiad oedd hynny, a’r ffaith bod y gig yn un o rai prin y grŵp o Arfon, Y Bandana, yn ddiweddar. Roedd hefyd yn gyfle gwych i ddau grŵp ifanc, sef Yr Eira a Fleur De Lys, ddangos eu doniau o flaen y gynulleidfa fawr. Grŵp roc indie sy’n cynnwys Ifan Davies a Guto Howells o’r ail flwyddyn ym Mangor ydi Yr Eira, ond efallai nad yw rhai ohonoch wedi clywed am Fleur de Lys eto. Eu prif leisydd yw Rhys Edwards o Langefni, sy’n ei flwyddyn gyntaf yma Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr ym Mangor. Mae’r grŵp yn mynd o at weld beth oedd gan y bandiau i’w nerth i nerth yn ddiweddar, gyda’u gynnig yng Nghlwb Canol Dre’ ar y rhestr o gigs yn tyfu’n sydyn. Cafodd 17eg o Ebrill. Roedd yn argoeli i fod y gynulleidfa ieuengaf eu swyno gan yn gig i’w gofio, gan i’r tocynnau i gyd eu cerddoriaeth ysgafn, hwyliog, a
oedd yn ymylu ar gerddoriaeth bop, i gyferbynnu â sŵn ‘indie’ yr Eira. Roedd ymdrech Rhys i gyfathrebu â’r gynulleidfa hefyd yn dal ein sylw, ac mae’n siŵr y caiff lawer o gyfleoedd i ddatblygu hynny yn y perfformiadau dros yr haf. Dechrau hwyliog a diddorol oedd Fleur de Lys i’r noson felly, cyn i’r Eira ddod ymlaen ac arddangos eu profiad. Mae’r Eira yn sicr yn gwella gyda phob perfformiad, ac erbyn hyn mae’r gynulleidfa Gymraeg yn gyfarwydd iawn â’u caneuon mwyaf poblogaidd. Mae cytgan ‘Elin’ yn un o hoff gytganau’r genedl, a phrofwyd hynny wrth i’r gynulleidfa gyfan floeddio’r alaw fachog honno. Mae eu cerddoriaeth yn atgoffa rhywun o weadau cerddorol Peace, ac os ydych yn ffan o’r Eira, buasai’n syniad da i chi fynd i chwilio am eu caneuon
hon.
Lawnsiwyd y cynllun yn fyw ar y radio yng ngŵyl Focus Wales, yn Wrecsam, ac roedd cyfle i un neu ddau o’r artistiaid berfformio yn eu perfformiad cyntaf fel artistiaid Gorwelion. Mae BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, felly, drwy gydol 2014 a 2015, yn mynd i chwarae cerddoriaeth gan yr artistiaid hyn, yn ogystal â rhoi cyfleoedd perfformio iddynt o gwmpas y wlad mewn gwyliau cerddorol cyffrous. Does dim allwn ni ei wneud ond disgwyl am fwy o ddigwyddiadau newydd gan Gorwelion, sy’n sicr yn gynllun hynod gyffrous i gerddoriaeth Gymraeg. Pob lwc i’r artistiaid i gyd yn eu hymgyrchoedd, cawn weld beth fydd wedi ei gyflawni ymhen dwy flynedd!
nhw!
Cafwyd yn union beth yr oeddem yn ei ddisgwyl gan y Bandana – egni, hwyl a pherfformiad trawiadol. Gyda’r gynulleidfa o fy nghwmpas yn bloeddio canu ‘Heno yn yr Anglesey’, mewn cyweirnodau diddorol a gwahanol, cefais fy syfrdannu gan allu’r band i gipio sylw cynulleidfa. Roedd y mwyafrif yn y blaen yn dawnsio erbyn hyn cyfle gwych i Gwilym gyfathrebu â hwy yn ei natur arferol. Cafwyd noson i’w chofio yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon, y noson honno. Edrychaf ymlaen i weld beth fydd cynlluniau Fleur de Lys yn y misoedd nesaf, yn ogystal â datblygiad cerddorol yr Eira wrth iddynt gyflwyno mwy o ganeuon newydd. Bangor bia’r sîn roc Gymraeg!
...Cystadleuaeth 19
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
CYSTADLEUAETH!
Wel, dyma ni wedi dod at gystadleuaeth olaf Y Llef am y flwyddyn academaidd hon! Dyma’ch cyfle olaf i roi cynnig am wobr arbennig, felly gwnewch yn fawr ohono! Mae cyfle i ennill: > Tocyn Llyfr gwerth £25 i’w ddefnyddio yn Palas Print > Potel o win yn rhoddedig gan Y Glôb
1
Fe welwch isod bum llun agos o lefydd cyfarwydd ar gampws Prifysgol Bangor, a’r cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud ydi dweud ymhle’n union y tynnwyd y lluniau, e.e. Llun 6 - Undeb y Myfyrwyr. (Ceisiwch fod mor benodol â phosib!) Anfonwch eich atebion a’ch enw at golygydd.llef@myfyrwyrbangor.com. DYDDIAD CAU: Dydd Mercher, Mehefin 4 am 5 o’r gloch.
2
3 4
5
20 Cornel Greadigol...
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Diolch yn fawr iawn, fel arfer, i bawb sydd wedi cytuno i gyhoeddi eu gwaith yn y rhifyn hwn. Braf iawn y tro yma ydi gweld gwaith gan rai o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf – arnoch chi fydd Y Llef yn dibynnu yn y blynyddoedd nesaf, a dw i’n siŵr y cytunwch chi fod yna wefr i’w chael wrth weld eich gwaith mewn print. Diolch arbennig hefyd i Carwen Richards am ei chymorth wrth hel deunydd ar gyfer y rhifyn hwn. Dyma rifyn ola’r Llef cyn diwedd y flwyddyn academaidd a chyn gwyliau’r haf. Dyma hefyd y rhifyn ola’ lle bydda’ i’n gyfrifol am y Gornel Greadigol. Mae hi wedi dod yn amser i basio’r awenau ymlaen i rywun iau! Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyhoeddi eu gwaith yn y Gornel dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a diolch o waelod calon i Katharine Young am y cyfle i ddod yn Is-olygydd ar y gornel ddwy flynedd yn ôl ac am y pleser gefais i wrth gydweithio â hi, a diolch i Siôn am y pleser o gydweithio gydag yntau hefyd. Nos da, Fienna, Elis
Abertawe yng nghanol y nos
Yn y dydd mae Abertawe yn lle hollol ddeniadol. Yn enwedig pryd mae’r haul yn tywynnu ac yn sgleinio ar y ffynnon yng nghanol gerddi’r castell. Ond yn y nos, mae’n lle hollol, hollol wahanol. Gyda’r nos daw’r meddwon, partiwyr, yr hen ddynion sydd eisiau ail-fyw eu hieuenctid. Dydy’r lle ddim yn ddeniadol o gwbwl, ond serch hyn, mae’r hen Wind Street yn dal yn llawn dop bob nos Fercher. Mae’r rhesi a rhesi o bobl mewn braidd unrhyw ddillad yn llithro allan o’r clybiau. Merched yn gofyn i ddynion dieithr am eu cotiau gan eu bod nhw’n crynu’n ddi-baid, a’r dynion yn rhoi chwinciad slei i’w gilydd gan benderfynu efo pwy maen nhw eisiau treulio’r noson. Mae’n brofiad anhygoel i gerdded i lawr y stryd a chael cymysgfa o gerddoriaeth o bob clwb neu far ar y ffordd. Abba, Jay-Z, Arctic Monkeys, hyd yn oed Mozart mewn rhai mannau. Mae yna rhywle i bawb cael fwynhau. Mae’r aroglau’n cymysgu hefyd. Gwynt chips yn dod o McDonalds, kebab, cwrw, cyw iâr, alcohol, pizza, chwd... Cerdda’r heddlu i fyny ac i lawr y stryd, yn codi merched oddi ar y llawr, yn tynnu dynion oddi ar ferched, yn atal ambell frwydr tu allan i McDonalds (Dyna ydy’r lle orau i ymladd mae’n debyg. Mae’n ddigon o drafferth i gael bwyd ar ôl noson allan beth bynnag, heb sôn am orfod gwthio’ch ffordd trwy frwydr sydd yn digwydd wrth ymyl y drws ar y ffordd allan.) Cyfle da i gael cwrdd â phobl yw’r ciw anferth o hyd i gael tacsi. Gewch chi bobl sydd yn cynnig arian i bobl os ydynt yn neidio i mewn i’r ffynnon... yn noeth. Merched sydd ddim efo digon o arian i gyrraedd adre yn ymbil ar y dynion tacsi, ac wrth gwrs, cyfle i ganu’r un hen ganeuon dro ar ôl tro, er nad ydynt yn gallu canu, a does dim llais ganddyn nhw ar ôl noson hir allan wedi’r cyfan. Bethany Lewis
Cyfranwyr y Gornel Greadigol hon
Carwen Richards
Ceris Mair James
Bethany Lewis
Elin Gwenllian
Ceren Hughes
Erin Bryn
Ffion Haf Williams
...Cornel Greadigol 21
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
“The Welsh language Mynwent a gets right on my Chapel Brynaerau f****** nerves.” Dacw gapel bychan Llyfni a beddi plaen hogiau’r gad. Mynwent lad yn llawn atgofion. Nid oedd yr un bed yn rhad.
(Wedi i ddwy ferch ifanc gyfathrebu â’i gilydd yn Gymraeg yn siop ddillad Hobo’s yng Nghaerdydd postiodd gweithiwr yr uchod ar ei dudalen Facebook. Gwelwyd llawer o Gymry ifanc yn dangos cynddaredd ar dudalennau gwefannau cymdeithasol yn sgil hyn.) Dwy ferch ifanc yn browlan – sgwrs bersonol. Cyfathrebu mewn mamiaith gan boeri tafodiaith. Bobby Womack yn bloeddio gan fyddaru dros seinyddion. Rhythmau geiriau a cherdd yn asio. Yn wead clos. Gan adeiladu’n gresiendo. Datganiad gweithiwr siop ddillad. Barn yn bla ar donfeddi gwefan cymdeithasol. Cynddaredd yn bla. Tap tapian bysedd yn bwrw bysellfwrdd. Gan gyrraedd forte. Harmoni’n hysbysu. Tôn yn trydar. “Gwarthus.” “Haerllug” “Diawledig.”
Cerrig beddau yn difethau, hyn a ddaw a deigryn trist. Wrth eu hymyl gapel unig Safle sanctaidd Iesu Grist. Ceren Hughes
Er fy ngwaetha’ (er cof am 2010-2011)
Ambell i enw, ambell i gân, Ambell i ffag sydd yn chwilio am dân, Ambell i gysgod yn llygad hen ffrind, Ambell un dw i’m di’i charu tan ei bod hi ’di mynd. Ambell belydryn sy’n boeth ar fy ngwar, Ambell un o’r hen wynebau yn y drych uwchben y bar. Ambell i bnawn mewn maes parcio gwag Efo merch o Frynrefail sydd am ddianc i Prâg. Ambell i foi yn y gornel ei hun Sydd yn yfed i iechyd bob bore dydd Llun. Tra bydd y rhain, mi fydda’ i’n slaf I bob un o’r gwenoliaid rhwng rŵan a’r haf.
Digwyddiad clywedol yn newyddion gweledol. Eiliadau ffrwydrol mewn byd technegol.
Bangor 05.03.14
Ceris Mair James
Elis Dafydd
22 Cornel Greadigol...
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Pedwar mis a diwrnod
(Er cof am Logan, mab arbennig Ffion, a hunodd 4 mis wedi ei eni [17/04/13]) Fflach glas a sain seiren yn gwahodd eu gwasanaeth.
Cynnesfeddal ei groen llyfn a’i feddwl diniwed. Anrheg ar ôl anrheg. Collir cwsg a chollir deigryn, Codir gwên a chodir blewyn.
Sgrech a chwys a brych, Gwaed a gwaedd a gwên, Poen, cyffro a rhyddhâd Balchder y dadorchuddiad yn baent coch o glust i glust ar wyneb sych y meddyg â’i fenig plastig pan ddatgelir rhyw a lliw a maint bywyd bach, bregus... “Bachgen bach”.
Bygythiad y fflach glas a’r seiren yn atseinio drwy’r cwm, yn brathu’n calonnau’n fyddarol. Panig y proffesiynol a phryder y perthynol. Y cyd-elfen anymwybodol yn gawl o chwys a dagrau a diheintydd. Y paent coch ar eu hwynebau yn dadorchuddio ac yn adrodd cyfrolau Sigla’r meddyg ei ben fel si-so wyneb i waered.
Carden ar ôl carden, Anrheg ar ôl anrheg. Cannwyll llygad ei deulu, Carant ef mewn ffordd na charant erioed o’r blaen.
“Sori, wnaethon ni bopeth allen ni”.
Penillion Cwpwl yn cwrdd ganol Gaea’ Hogan a’i gruddiau yn ddagra’ Yntau yn gadael am adra’ Gwelir ôl traed mewn eira. Yn y pellter mae sŵn rhuo, Tân y ffrwydriadau yn clwyfo, Bygwth, y gelyn yn mudo, Creithiau pob rhyfel yn brifo. Elin Gwenllian
Car heb olwyn, Ci heb asgwrn, Boneddiges dlawd -
Salome Beth oedd yn dy feddwl Wrth i ti ddawnsio’r saith llen? Ai malais, wrth blesio’r brenin a’th gorff? Ai gwenwyn, wrth ofyn am ben y bedydd? Ynteu falchder, wrth lwyddo cynlluniau dy fam? Nid oeddet ond gwystl i’w gêm. Ac o’i dymuniad hi fe ddest yn Hudwraig y canrifoedd. Dwy filenia yn demtwraig, A’r gwaed ar dy ddwylo Yn gofeb i’r gwaed ar dy blât; Oll o ewyllys dy fam. Ffion Haf Williams
dau a i fran yd y y c eich th ar h m a e lch efnoga dyn! o i D c yd flw a’ch
Alarch mewn afon o alar. Blas y diflastod yn chwerw, yn creithio o gyffwrdd corff oer, garw ei newydd-anedig. Tawelwch byddarol, gwacter a thywyllwch mud yn cadw cwmni i Catherine o Aragon yn ei diffeithdra diliw, wedi ei diswyddo. Cysur a charden ar ôl carden. Datgelir angel bach. Anfonwyd Ef at Dduw sy’n wên o glust i glust. Carwen Richards
Darlith Ddiflas Syllaf ymlaen, ond ni wrandaf Llaw ar ‘nghalon ni ddiogaf Anodd gwrando, stwff mor ddiflas Hoffaf fod mewn gwely cynnas Mwydro mae o, dwi’m yn gwrando Dwi’m yn cofio gair ddywedo Dwi’m yn bell, mae’n wir, o grio O! Ma ’mrên i wedi ffrio! Erin Bryn
I wel d eich gw yng N ghorn aith yn ym el Gre ddan anf Golyg onwch eic adigol Y L gos ydd u h nrhyw gwaith a lef, ty bryd mis M c golyg y n dec edi ydd.ll hrau ef@m 2014, at yfyrw yrban gor.co m
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
...Hysbyseb 23
...Adolygiadau 25
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
APOLYGIADAU
Dros y Top Wn i ddim os oedd Dros y Top yn fy math i o brofiad theatrig. Dw i’n lecio Horrible Histories ac mi nes i fwynhau cynhyrchiad blaenorol y criw Codi Hwyliau ond doedd Dros y Top ddim yn taro deuddeg yn yr un modd rywsut. Efallai fod y gor-actio yn rhannol gyfrifol am hynny, ac er fy mod i’n derbyn bod naws bantomeimaidd yn rhan o bwrpas y cynhyrchiad, roeddwn i’n ‘crinjo’ yn achlysurol wrth weld yr actorion yn mynd drwy eu pethau. Gwion Aled oedd y pechadur mwyaf ond fe lwyddodd o i gyfleu milwr ifanc yn crio am ei fam yn effeithiol tua diwedd y ddrama. Cafwyd rhyw fath o sgwrs gan Angharad Tomos, Karen Owen a John Dilwyn rhwng y ddau hanner ac er ei fod yn ddifyr iawn ac yn fodd o ddangos effaith y rhyfel ar gymuned benodol, doeddwn i ddim yn siwr iawn beth i’w wneud ohoni. Roedd hi fel petai’r tri yn rhyw hanner actio, hanner sgwrsio a doedd hi ddim yn eglur os mai actio cymeriadau oedden nhw
Frozen: Free Fall
neu ddim. Roeddan nhw’n ymddangos braidd yn stiff ac anghyfforddus ar brydiau ac roedd hynny’n biti garw. Er mai set ddigon syml oedd gan y cynhyrchiad (a hynny’n fwriadol), gwnaethpwyd defnydd effeithiol iawn ohoni, gyda’r bocsys yn cael eu defnyddio i adeiladu gwahanol bethau - o gar i fwrdd cegin. Roedd y defnydd o ddelweddau’n glyfar iawn, yn enwedig y syniad gwych o ysgrifennu y nifer o filwyr a laddwyd ar fwrdd du rhwng golygfeydd. Ac fel yn Codi Hwyliau roedd yna ganu da iawn ac roedd yr harmoneiddio’n iasol, bron, tua’r diwedd. Fe wnes i fwynhau rhai rhannau o’r perfformaid ac fe ddysgais dipyn o bethau am y Rhyfel Mawr, ond mae’n rhaid cyfaddef na fuaswn i’n annog unrhyw un i fynd i’w weld tasa nhw’n holi am fy marn i.
Llyr Titus
Bad Neighbours Zac Efron, Seth Rogen a Rose Byrne yw prif sêr y ffilm hon. Dw i wrth fy modd efo Seth Rogen yn y ffilmiau Superbad a Knocked Up, felly ro’n i’n gwybod y byddwn i’n mwynhau’r ffilm hon. A dweud y gwir, mae’r ffilm yn debyg iawn i ffilmiau blaenorol Seth Rogen. Dw i’m yn meddwl imi stopio chwerthin yn iawn drwy gydol y ffilm! Mae hi’n ffilm llawn anffawd i’r cwpl priod
sydd yn eu tri degau (Seth Rogen a Rose Byrne) sydd wedi prynu eu tŷ cyntaf - tŷ sydd yn ddelfrydol i fagu eu babi newydd. Ond ar ôl amser byr yno, symudodd eu cymdogion newydd i’r tŷ drws nesaf. Teddy (Zac Efron) sy’n symud yno gyda’i frawdoliaeth o’r coleg. Mae’n amlwg fod y cwpl ifanc priod yn awchu am fod yn rhan o’r partïon diddiwedd sy’n digwydd yn y tŷ drws nesaf byth a beunydd, ond mae ganddynt fabi i ofalu amdano, ac mae pethau’n troi’n sur un noson pan maent yn galw’r heddlu
er mwyn atal parti gwyllt rhag parhau tan oriau mân y bore yn y tŷ swnllyd, ac mae Teddy’n darganfod mai nhw wnaeth. O hynny ymlaen, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth. Mae’r ddau dŷ yn ceisio cael y gorau o’r naill a’r llall, ac mae’r pethau y maent yn eu gwneud i’w gilydd yn wirion bost ar brydiau, ond fedrwn i ddim stopio chwerthin! Hiwmor ‘slapstic’ sydd yn y ffilm yma, ac mae’n fy atgoffa i o’r hiwmor sydd yn y ffilm Anchorman. Mae hi werth ei gweld, chewch chi mo’ch siomi! Manon Elwyn
Rydw i wrth fy modd efo’r ffilm Frozen (fel imi bwysleisio mewn adolygiad yn y rhifyn diwethaf!), a darganfyddais yn ddiweddar fod gêm ar gael sydd yn cyd-fynd â’r ffilm. Mae’r gêm wedi’i chreu gan Disney, ac os oeddech chi’n chwarae’r gêm ‘Candy Crush’, gwnewch sylweddoli’n syth fod y gêm yma’n debyg iawn. Amcan y gêm ‘Frozen: Free Fall’ yw dringo o lefel i lefel, ac mae cymeriadau fel Anna, Elsa ac Olaf yn ymuno efo chi ar hyd y ffordd! Mae’n ‘addicting’ iawn, a dim ond 5 bywyd yr ydych yn ei gael ar y tro cyn gorfod disgwyl hanner awr am un newydd wedyn, sydd yn rhwystredig iawn ar brydiau! Os oeddech yn hoffi ‘Candy Crush’, byddwn yn argymell i chi lawrlwytho’r gêm, ond mae hon yn gêm un mor rhwystredig, gwaetha’r modd! Manon Elwyn
Depop Mae pawb yn gyfarwydd efo gwerthu a phrynu nwyddau ail law dros y we, a’r wefan eBay yw’r wefan fwyaf cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom. Gyda thechnoleg yn datblygu ar raddfa gyflym iawn, mae rhai wedi mynd ati i greu ‘ap’ gwerthu a phrynu nwyddau ail law, o’r enw ‘Depop’. Mae’r ap wedi’i anelu at ferched ifanc sydd eisiau cael gwared o’r dillad nad ydynt yn eu gwisgo mwyach. Fel un sydd wrth fy modd yn mynd i siopa, roeddwn i wedi gwirioni efo’r ap yn syth! Wrth glicio ar enw person, cewch fynd ar eu proffil a gweld yr hyn y maent yn eu gwerthu. Dillad a cholur yw’r eitemau mwyaf poblogaidd sy’n cael eu gwerthu, ond yn wahanol i eBay, gellwch ffeirio nwyddau hefyd! Mae’n ddigon hawdd gyrru neges i’r gwerthwr (mae’r system yn debyg iawn i Instagram a Facebook) a gofyn os ydynt yn fodlon ffeirio rhywbeth o’u heiddo am rywbeth o’u dewis sydd gennych chi ar werth. Mae rhai yn gwrthod, ond i’r rhai sydd yn mynd ati i werthu eu pethau er mwyn gwneud lle ar gyfer mwy o bethau (yn enwedig dillad!), mae gwneud hyn yn ffordd wych o fynd ati i gael gwared o hen bethau a chael rhai newydd yn eu lle heb iddo gostio dim. Mae’r ap yn ffordd gyfleus iawn o gael gwared ar bethau nad ydych eu hangen mwyach. Does dim ocsiwn, rydych chi fel gwerthwr yn rhoi pris delfrydol ar eich nwyddau, ac yna gall unrhyw un fynd ati i’w prynu, a bydd nifer o werthwyr yn ceisio gostwng eich prisiau er mwyn cael y pris gorau, ond gennych chi mae’r gair olaf!
Manon Elwyn
26 Adolygiadau
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Pleserau’r Plismon Mae’r cyfnod hwn o’r flwyddyn yn golygu un peth ac un peth yn unig i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr: arholiadau. Law yn llaw â hynny, wrth gwrs, mae darllen llyfrau a phapurau rif y gwlith wrth baratoi ar gyfer y profion pwysig. Ond, â’r cyfnod hwnnw’n prysur ddod i ben, dyma gynnig ffordd rwydd o ymlacio dros gyfnod yr ha’. Awdur Pleserau’r Plismon ydi John Alwyn Griffiths, cyn-blismon a physgotwr brwd (sy’n egluro llun y pysgodyn sydd ar y clawr), a fu’n gweithio yng ngogledd Cymru am oddeutu 32 o flynyddoedd, gan ddringo i swydd Arolygwr erbyn diwedd ei gyfnod yn y swydd. Yn y llyfr hwn cawn ei hanes yn dechrau fel cadét ym 1966 hyd ei ymddeoliad ym 1998 yn Bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r llyfr wedi’i rannu’n 11 o benodau, a phob un yn adrodd hanes cyfnod gwahanol yn ei yrfa. Un peth sy’n dod yn amlwg wedi darllen y llyfr ydi cymaint y mae plismona wedi newid ers cyfnod John Griffiths yn gwnsabl ar strydoedd
Conwy a Dolgellau ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Sonnir yn aml trwy’r llyfr am yr hwyl a gawsai’r plismyn gyda’u cydweithwyr, gan chwarae triciau ar ei gilydd yn aml. Rhywbeth arall sy’n amlwg ydi nad oedd plismyn yn y chwe degau a’r saith degau’n poeni’n ormodol am gael diferyn neu ddau o’r ddiod gadarn i’w yfed, a hynny yn ystod eu shifft. Mae’r awdur ei hun yn dweud na fyddai plismyn heddiw’n gwneud dim o’r fath, ond dyna danlinellu cymaint o newid sydd wedi bod yn agwedd a phroffesiynoldeb yr heddlu mewn
cwta chwarter canrif. Serch hynny, nid llyfr yn portreadu plismyn meddw ar ddyletswydd ydi’r llyfr hwn o gwbl, ac mae rhai o’r straeon yn ddigon arwrol ar brydiau. Dyma lyfr sy’n berffaith ar gyfer darllen er hamdden – mae ynddo gymeriadau a hanesion hynod o ddifyr ac, o lyfr sy’n sôn am waith yr heddlu, prin iawn ydi’r straeon am ochr dywyll plismona. Yn hytrach, mae rhai tudalennau sy’n sicr o ddenu chwerthiniad, ac er bod ambell hanesyn sy’n ymddangos yn rhy gyfleus i fod yn wir, mae 211 o dudalennau yn darllen yn rhwydd a diymdrech tu hwnt. Felly, taflwch y llyfrau academaidd o’r neilltu a chodwch Pleserau’r Plismon a darllennwch, yn wir, er pleser am unwaith!
Siôn Elwyn
Storm ar Wyneb yr Haul - The Crimson Field Llŷr Gwyn Lewis Mae Llŷr Gwyn wedi bod ‘o gwmpas’ ers blynyddoedd – yn enw cyfarwydd mewn stomp a thalwrn ac eisteddfod. A dyma gyhoeddi’i gyfrol gyntaf lle rhoddir ei enwogrwydd cymharol ar brawf. Ac mae o’n llwyddo. Mae yma gerddi gwleidyddol, oes, ac un ohonynt – ‘Philomela’ – o bosib y gerdd orau yn y gyfrol. Ond profi mae’r cerddi gwleidyddol fod gan Llŷr feddwl aeddfed, bod ei feddwl wedi’i fapio a’i fod o wedi edrych ar y byd a phendroni a phenderfynu beth sydd yn gyfiawn. Asgwrn cefn y gyfrol hon, a’r hyn sy’n rhoi iddi’i phrydferthwch, ydi’r cerddi hynny sydd yn ‘gofnod o gyfnod penodol’ ym mywyd Llŷr. Cofnod o brofiadau sy’n berthnasol i bob un ohonom sy’n fyfyrwyr: treulio amser gyda ffrindiau a’r chwithdod pan fydd pobl yn mynd eu ffyrdd eu hunain, ennill cariad, colli cariad, a’r myfyrio dwys sydd ynghlwm â phethau felly. Profiadau sy’n gallu bod yn rhai poenus yw’r rhain, ond, ‘Os yw’r mynegiant mor hyfryd fel ei fod yn lladd y boen sydd yn y profiad, mae’r peth yn gelfyddyd’ meddai John Gwilym Jones, a dyna’n union a wna Llŷr. Mae o’n troi profiadau bywyd yn rhai hardd eithriadol, ac yn gwneud i ninnau fod eisiau cael y profiadau hynny: Mae’r gyfrol hon yn ein cymell i fyw.
Elis Dafydd
Drama gyfres wedi’i lleoli yn Ffrainc yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ddrama’n dilyn hynt a helynt y nyrsys a’r doctoriaid sy’n byw a gweithio mewn ysbyty ar gae – a’r rheiny’n trin cleifion y rhyfela a’r brwydro. Roedd yn ddiddorol gwylio perthynas y cymeriadau’n datblygu – nid oedd pawb yn ymddangos fel petaen nhw’n cyd-dynnu ar ddechrau’r gyfres. Roedd yn amlwg bod y cymeriadau i gyd yna am resymau gwahanol, a bod motif gwahanol gan bob un ohonynt. Er bod y set, straeon a’r cymeriadu’n dal gafael, roeddwn yn teimlo bod ambell wall hanesyddol yn y stori. Teimlaf na fyddai ysbyty ar gae yng ngogledd Ffrainc wedi bod cyn laned â’r un a welwyd ar y sgrîn, yn ogystal roeddwn yn amheus o’r bennod lle’r aeth gwraig Maj. Edward Crecy i’r ffrynt i gysuro’i gŵr wedi iddo gael ei anafu – a fyddai hynny wedi digwydd yn y Rhyfel mewn gwirionedd? Yn y gyfres, gwnaed i’r
sefyllfa hon ymddangos fel petai’n digwydd yn aml, ond beth am yr holl fenywod oedd wedi gorfod aros ym Mhrydain yn gobeithio am unrhyw newyddion gan eu gwŷr? Y drafferth fwyaf gyda’r gyfres hon yw y gwnaeth hi ganolbwyntio’n ormodol ar orffennol y menywod a’r straeon a ddaeth gyda hwy. Credaf bod y gyfres wedi creu’r argraff taw un rhamant fawr oedd y Rhyfel Byd Cyntaf, nid yw’n clodfori’n ddigonol yr holl waith caled a wnaed gan y menywod a oedd yn gweithio yn yr ysbytai yn ystod y cyfnod.
Carys Tudor
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
...Adolygiadau 27
Y Negesydd (Caryl Lewis) ‘Peth neis ydi tawelwch annifyr, ’de?’. Dyna linell o ddrama fer gan Llyr Titus a lwyfanwyd yn Galeri nos Sadwrn ddiwethaf yn rhan o gynllun Brain Cwmni’r Frân Wen (mae mwy i’w weld am y ddrama honno a thair arall ar dudalen 24). Ond os tawelwch oedd un o nodweddion y ddrama honno, lleisiau a synau oedd prif nodwedd Y Negesydd heb os nac oni bai. Dechreuodd y ddrama gyda’r llwyfan yn dywyll ac roedd synau’n cyfleu awyrgylch ofnus yn chwarae o gwmpas y theatr. O’r tywyllwch cerddodd merch ifanc o un ochr i’r llwyfan i’r llall yn gwisgo gŵn nos wen ac yn cario cannwyll yn ei llaw – golygfa go frawychus ac od a osododd dôn y ddrama i bob pwrpas. Gan geisio atal rhag datgelu gormod o’r stori i’r rhai sydd eto i weld y ddrama, dilynnir merch o’r enw Elsi o’i phlentyndod cynnar hyd ei chyfnod yn oedolyn, wrth iddi geisio ymdopi â nifer fawr o gymhlethdodau a phroblemau yn ei bywyd. Mae un broblem yn ei llethu, a’i gallu i glywed y meirw yw honno. Roedd y technegau a ddefnyddiwyd gan y gyfarwyddwraig, Ffion Dafis, yn hynod o glyfar ac effeithiol – taflwyd lleisiau o gwmpas seinyddion ar bob ochr a’r tu ôl i’r gynulleidfa, a oedd yn gwneud i bawb deimlo’n anghyfforddus ac fel petai’r gynulleidfa yn rhan annatod, ac anghynnes, o feddyliau dychrynllyd Elsi. Yn wir, ar ddiwedd yr hanner cyntaf trawiadol ac
Drama wedi’i chyfieithu o’r Saesneg oedd hon. Fe seiliwyd y gwreiddiol yn Iwerddon ond fe addaswyd y fersiwn hon i gael ei seilio yn Ynys Môn. Teimlaf nad oedd yr addasiad hwn yn ddigon cryf i gario stori na neges y ddrama – yr wyf yn dal yn ansicr o’r rhain! Trafferth fwya’r addasiad hwn oedd y ffaith nad oedd e’n ddigon cyson – gŵr
effeithiol hwnnw, clywais fwy nag un ochenaid o ollyngdod a rhyddhad gan sawl un a oedd yn siŵr o fod yn falch o gael dianc o brofiad emosiynol yr act gyntaf. Yn bersonol, teimlais y gallwn ymlacio ychydig mwy yn yr ail hanner, ond nid felly Elsi gan iddi ddod ar draws mwy o broblemau i orfod dygymod â hwy. Daw’r gorffennol yn ôl fel hunllef a gorffennir yn uniol fel ag y dechreuwyd – gyda’r ferch fach yn dod i lawr y llwyfan a’i channwyll yn ei llaw. Mae mwy i’r diwedd na hynny, wrth gwrs, ond byddai datgelu hynny yn gwneud cam ag unrhyw un sydd am ei weld. Y cyfan a ddywedaf yw y byddwch yn gadael y theatr yn teimlo fel petaech newydd fod ar daith yn Alton Towers. Mae’n rhaid dweud gair sydyn am y set cyn gorffen – set hynod o effeithiol a oedd yn gweddu’n addas iawn i’r sgript ac i’r lleoliad. Trawsdoriad o dŷ deulawr oedd yma gydag un ystafell ar bob llawr – ystafell fyw ac ystafell wely – a grisiau’n cysylltu’r ddwy. Ar bob ochr i’r tŷ roedd lle gwag a ddefnyddiwyd i gynrychioli unrhyw le a oedd y tu allan i’r tŷ. Defnyddiwyd y gofod yn bwrpasol ac nid oedd gwastraff lle i’w weld yn unman. Roedd y set mor effeithiol fel na welwyd yr actorion yn diflannu oddi ar y llwyfan unwaith oni bai eu bod am inni eu gweld. Rhaid canmol y technegwyr goleuo yn hyn o beth gan i’r defnydd o oleuo, a thywyllu’r llwyfan fod yn hanfodol i lwyddiant y ddrama.
wedi’i eni ar Ynys Môn oedd y tafarnwr, ei dad o Iwerddon a’i fam o Gymru, ond acen Wyddeleg gref oedd gan y dyn hwn, nid un Cymreig. Nid oedd ychwaith yn siarad llawer o Gymraeg er ei fod yn cymryd rhan yn yr holl sgwrsio Cymraeg. Teimlaf fod y diffyg cysondeb wedi gadael y ddrama a’i hactorion i lawr ac y byddai wedi
Un peth a’m trawodd yn od (heblaw natur y ddrama ei hun, wrth gwrs) – oedd bod y ddau brif gymeriad yn gwisgo ar gyfer yr olygfa nesaf yn gyhoeddus, nid gefn llwyfan. Roedd y newid dillad yn angenrheidiol i ddangos newid cyfnod ac oedran y cymeriadau, ond cefais y ffaith ein bod yn eu gweld yn newid yn rhyfedd i ddechrau. Serch hynny, sylweddolais mai dyna union fwriad y newid cyhoeddus – i ni’r gynulleidfa eu gweld yn newid (yn llythrennol ac fel arall) a hefyd i’n gwneud ni’n rhan o’r broses honno. Mae Y Negesydd yn siŵr o ennyn ymateb a barn wahanol ymysg gwahanol bobl ac roedd hynny’n amlwg i’w weld yn dilyn y ddrama. Yn bersonol, teimlais ei bod yn gampwaith o ddrama gan Caryl Lewis (yn wir, ei drama gyntaf) wedi’i chyfarwyddo’n arbennig gan Ffion Dafis (a oedd, hithau, yn cyfarwyddo’i drama gyntaf). Nid yw’n ddrama y byddwn yn mynd i’w gweld er pleser, yn sicr, ac ni fyddwn yn dymuno mynd i’w gweld eto ar frys, ond nid oherwydd ei bod yn ddrama sâl mo hynny, ond am ei bod yn heriol yn feddyliol – a dyna’i bwriad, wrth gwrs. Anogwn i chi fynd i’w gweld, yn enwedig os ydych yn astudio neu’n hoff o ddramâu tywyll sy’n procio’r meddwl.
Siôn Elwyn
bod yn gynhyrchiad lawer gwell petai hynny wedi taro’n iawn. Er hynny, mae’n rhaid i mi glodfori defnydd Theatr Fach o set a llwyfan – roedd naws hen dafarn dawel ar Ynys Môn bendant yn llwyddo i gyfleu straeon iasol y cymeriadau.
Carys Tudor
Llun trwy ganiatâd Theatr Fach Llangefni
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
...Chwaraeon 29
Caerdydd ac Abertawe - tymor i’w anghofio
Gethin Lewis Green Roedd y tymor 2013/2014 yn un enwog ac unigriw dros ben i UwchGynghrair Lloegr. Hon oedd y gyntaf heb Sir Alex, daeth Mourinho yn ol i Chelsea ac ymysg y holl newidiadau, roedd yna ddau glwb Cymraeg yn cystadlu yn y gyngrhair am y tro cyntaf. Ar ol i Gaerdydd enill y ‘’Championship’’ tymor diwethaf, ddaru nhw sicrhau ei lle yn yr Uwch-Gynghrair efo Abertawe a oedd eisoes yno ac wedi cael tymor llwyddianus eu hunain drwy enill y
Cwpan Carling a cymwyso i’r Europa League. Er hynny, roedd hi’n anodd i’r Elyrch o ddechrau’r tymor oherwydd eu garfan bychan. Doedd colli chwaraewyr fel Michu a Neil Taylor ddim yn help, yn enwedig o feddwl bod y clwb angen cystadlu yn Ewrop hefyd, felly doedd hi fawr o syndod i Michael Laudrup golli ei swydd fel rheolwr i un o arwyr y clwb, Gary Monk. Yn fuan ar ol ei apwyntiad ym mis Chwefror, fe gollodd yr Elyrch yn erbyn Napoli a cael eu dileu o’r gystadleuaeth, ac roedd eu rhediad diweddar yn y gyngrhair yn wael.
Probables vs Possibles
Mai y 30ain eleni fydd y tro cyntaf i Undeb Rygbi Cymru gynnal gêm brawf
Golygai hyn eu bod nhw yn mynd i fewn i wythnosau olaf y tymor efo siawns o gael eu diraddio o’r UwchGyngrhair. Yn ffodus i Abertawe, fe ddaru nhw wella ar yr amser iawn drwy gymeryd 9 phwynt o’u pedwar gem olaf, ac chadarnhau eu safle y tymor nesaf drwy orffen y tymor yn 12fed (42 pwynt). Yn anffodus i Gaerdydd fe gafodd nhw eu diraddio yn ol i’r Championship ar ol gorffen yn olaf yn yr Uwch-Gyngrhair efo dim ond 30 o bwyntiau. Dechreuodd y tymor yn addawol i’r Prif-ddinaswyr o dan reolaeth Malky Mackay, y rheolwr
a ddaeth a’r clwb i fynny i’r Uwch-Gyngrhair. Ond fe gollod o ei swydd hanner ffordd drwy’r tymor wed iddo gael ei ddiswyddo gan berchenog y clwb, Vincent Tan. Tan eisoes yn ffigwr amhoblogaidd i gefnogwyr Caerdydd ar ol iddo newid lliw traddodiadol y clwb o las i goch (am resymau masnachol), ddaru o ddim helpu ei achos drwy ddiswyddo Mackay a oedd yn boblogaidd iawn efo’r cefnogwyr a oedd yn teimlo dylai Mackay wedi cael mwy o amser yn y clwb. Hen arwr Manchester United, Ole Gunnar Solskjaer oedd y dyn i gymeryd lle Mackay fel rheolwr, ac anffodus ni ddaru’r canlyniadau ar y cae chwarae wella o gwbwl wedi’r apwyntiad. Er iddynt guro i ffwrdd yn Southampton i rhoi cyfle i’w hunain i aros yn y gynghrair, dim ond un pwynt (yn erbyn Stoke) gafodd nhw yn eu pedwar gem olaf, ac efo timau erill o waelod y tabl yn curo dipyn o gemau, fe orffenodd Gaerdydd yn olaf yn y gyngrhair. Er i’r tim chwarae pel-droed gwael drwy rhanfwyaf o’r tymor, yn enwedig ar ol apwyntiad Solskjaer, teimlai’r cefnogwyr fod y bai i gyd ar Tan wedi iddo ddiswyddo Mackay.
cyn eu halldaith i Dde Affrica. Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Liberty, Abertawe lle bydd 52 o chwaraewyr (12 heb gap dros eu gwlad) yn ymladd am le yn y garfan. Bydd y ‘Probables’ yn cael eu capteinio gan Alun Wyn Jones, a’r ‘Possibles’ gan Matthew Rees.
Carfan y Probables Carfan y POSSIBLES Hyfforddwr: Rob Howley
Blaenwyr: Gethin Jenkins (y Gleision), Owen Evans (Dreigiau), Rhys Gill (Saracens), Ken Owens (Sgarlets), Scott Baldwin (Ospreys), Adam Jones (Ospreys), Samson Lee (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Ospreys) (Capten), Luke Charteris (Perpignan), Jake Ball (Scarlets),
Ryan Jones (Bristol), Aaron Shingler (Sgarlets), Josh Navidi (Gleision), Dan Lydiate (Racing Metro), Taulupe Faletau (Dreigiau). Cefnwyr: Rhodri Williams (Sgarlets), Mike Phillips (Racing Metro),
Dan Biggar (Ospreys), Sam Davies (Ospreys), Jon Davies (Sgarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), Gavin Henson (Bath), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton), Hallam Amos (Dreigiau), Liam Williams (Sgarlets).
Hyfforddwr: Robin McBryde
Blaenwyr: Paul James (Bath), Phil Price (Dreigiau), Rob Evans (Sgarlets), Matthew Rees (Gleision [Gl.]), Kristian Dacey (Gl.), Rhodri Jones (Sgarlets), Scott Andrews (Gl.), Aaron Jarvis (Ospreys), Bradley Davies (Gl.), Andrew Coombs (Dreigiau),
Ian Evans (Ospreys), Macauley Cook (Gl.), Josh Turnbull (Sgarlets), James Davies (Sgarlets), Dan Baker (Ospreys). Cefnwyr: Gareth Davies (Sgarlets), Lloyd Williams (Gl.), James Hook (Perpignan),
Matthew Morgan (Ospreys), Harry Robinson (Gl.), Owen Williams (Leicester), Steven Shingler (Sgarlets), Cory Allen (Gl.), Jonathan Spratt (Ospreys), Tom Prydie (Dreigiau), Jordan Williams (Sgarlets).
30 ...Chwaraeon
Y LLEF | Rhifyn yr Haf 2014
Baton Gemau’r Gymanwlad Llio Meleri Jones Mae baton y Frenhines yn draddodiad cysegredig Gemau’r Gymanwlad. Mae’n symboleiddio’r ffordd y mae holl genhedloedd a thiriogaethau’r gymanwlad yn dod ynghyd, ac yn digwydd er mwyn paratoi at yr ŵyl o chwaraeon a diwylliant sy’n idgwydd bob pedair blynedd. Parhâ taith y baton dros gyfnod o 288 diwrnod, a bydd yn ymweld â 70 cenedl, gan deithio dros 190,000 o gilometrau. Bydd y baton yn cyrraedd traean o boblogaeth y gymanwlad. Hwn ydyw relay mwyaf deniadol y byd - miloedd o bobl trwy’r gymanwlad sy’n gyfrifol am gludo’r baton o’r dechrau i’r diwedd, a phob
unigolyn yn cael ei anrhydeddu gan wrth gyfranogi yn y traddodiad eu gwledydd, gan ddod â bri iddynt unigryw hwn.
Mae’r daith yn cynnwys ymweliadau â Phont Harbwr Sydney, coedwig Rwanda, yr ynysoedd tawel a mynyddoedd creigiog Canada cyn cyrraedd y llinell derfyn yn yr Alban. Dechreuodd taith y baton ar y 9fed o Hydref, 2013. Bydd yn dychwelyd i’r Alban ar y 14eg o Fehefin, 2014, 9 mis yn ddiweddarach. Dros gyfnod o 40 diwrnod, bydd y baton wedi cyffwrdd â 400 o gymuedau trwy law 4,000 o gludwyr. Bydd y baton yn cyrraedd Cymru ar y 24ain o Fai, ym maes awyr Caerdydd, cyn cychwyn ar ei daith 7 diwrnod drwy wlad y gân. Ar y 26ain o Fai mi fydd yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala!
Noson Wobrwyo’r UA
Mac Jones Carwen Richards Lluniau: Jodie Williams Productions
Carwen Richards
Robin McBryde
Cynhaliwyd noson wobrwyo Undeb Athletau Bangor ar y 26ain o Ebrill yn Neuadd
Rhys Jenkins
Robin McBryde, Rhys Taylor (darparLywydd Undeb Bangor), a chriw UMCB
Pritchard Jones yn y Brifysgol. Cafwyd gwledd o fwyd a siaradwyr gwadd i’n hysbrydoli ac ymhlith y rheiny roedd un o hyffordwyr tîm rygbi Cymru a cheidwad Cledd yr Eisteddfod
Genedlaethol, Robin McBryde . Braf yw adrodd bod 3 aelod o UMCB wedi casglu gwobrau am eu gwaith gyda’r Undeb Athletau eleni - llongyfarchiadau iddynt.
Y CANLYNIADAU’N LLAWN Rhys Dilwyn Jenkins,½ lliwiau – Cymdeithas Ddawns Prifysgol Bangor Mac Jones, ½ lliwiau – Clwb Rygbi Menywod Prifysgol Bangor (hyfforddi) a ½ lliwiau – Clwb Rygbi Dynion Prifysgol Bangor Carwen Richards, lliwiau llawn – Clwb Hoci Menywod Prifysgol Bangor Tîm y flwyddyn: Tîm 1af Pêl-droed Dynion
Chwaraewr y flwyddyn: Josh Stadnicki Tîm Varsity y flwyddyn: Athletau Gwobr Llywydd yr UA: Jodie Williams (ffotograffydd) Glas y flwyddyn (dynion): Tetende Showniwa
Clwb y flwyddyn: Trampolinio
Glas y flwyddyn (menywod): Lauren McCormick
Chwaraewraig y flwyddyn: Sam Hemming
Ysbryd yr UA: Y Bonllefwyr
32 ...Chwaraeon
Y LLEF | Rhifyn r Haf 2014
Cwpan i dîm UMCB
...Chwaraeon
Carfan fuddugol CPD UMCB Gwenno Williams I unrhyw fyfyriwr gwerth ei halen, mae dydd Sul yn ddiwrnod gorffwys, cyfle i ddal i fyny gyda chwsg, gwneud dim byd neu nyrsio clwyfau’r noson flaenorol, ond i griw o hogiau UMCB dros yr wythnosau diwethaf, mae hi wedi bod yn stori wahanol. Mae’r fudduogoliaeth a gafwyd ddydd Sul yr 11fed o Fai, 2014, yn un hanesyddol i’r clwb pêl-droed gan iddo fod y tro cyntaf
Holi:
i dîm 11-bob-ochr UMCB ennill cwpan. Wedi cystadlu brwd yn erbyn amryw o dimau ar draws y gynghrair, gan gynnwys Bro Lleu a Valley, braf oedd cael dod â chwpan y Gynghrair yn ôl i’r Glôb, lle gallwch fentro bu hen ddathlu wedi’r gêm. Wedi gemau heriol yn erbyn Bro Lleu – curo’r cymal cyntaf yn gyfforddus o bedair gôl i ddim a cholli’r ail gymal o saith gôl i dair, ac yna curo Valley trwy giciau o’r smotyn – cafwyd buddugoliaeth
(t.31)
ffrindiau yn rhywbeth i’w drysori a’i gofio am byth. Braf hefyd oedd gweld cefnogwyr o UMCB yng nghae Bodedern yn cefnogi’r tîm, ac er bod y nifer yn is na’r disgwyl, weithiau mae’r anogaeth ychwanegol yn ddigon i gario’r tîm ymlaen ac yn hwb ychwanegol at fuddugoliaeth. Eu nod nawr yw parhau gyda’u gwaith caled eleni ac ail sefydlu tîm gyda chwaraewyr newydd fis Medi. Mae dyfodol clwb pêl-droed UMCB yn edrych yn ddisglair iawn.
Cofis yn curo Carwen Richards
Leusa
gyfforddus yn y rownd derfynol, gyda’r tîm yn curo o bum gôl i ddim yn erbyn tîm pêl-droed profiadol Treetops – tîm adnabyddus o Benllech. Y sgorwyr oedd Gethin Green gyda dwy gôl; Dion Roberts gyda dwy arall; a Guto Ifan gydag un gôl. Wedi dilyn y tîm ar eu taith ar hyd y tymor, hawdd yw dweud bod y fuddugoliaeth yn un haeddiannol ac yn profi bod gwaith caled yn talu, a bod y cyfle i chwarae ac ennill gyda
Bu brwydr ffyrnig ar Barc Eirias, Bae Colwyn dros blât rygbi Gogledd Cymru ar y trydydd o Fai, 2014. Enillwyd yr ormes gan Glwb Rygbi Caernarfon, wrth iddynt faeddu Clwb Rygbi Bethesda o 20 i 7. Sgorwyr Caernarfon oedd: Iolo Hughes (cais); Rob
Farrer (cais); Kelvin Morris (2 gic gosb a 2 trosgais). Y sgorwyr i Fethesda oedd: Paul Thomas (cais); Rhys Jones (trosgais). Rhys Evans, capten Caernarfon a enwyd yn chwaraewr y gêm. Roedd Aled Jones, sy’n aelod amlwg o UMCB, yn ran o garfan Clwb Rygbi Caernarfon.
Rhys Evans (gyda’r cwpan) yn dathlu gyda’i dîm