Rhifyn y Nadolig 2013

Page 1

Papur-newydd Cymraeg Myfyrwyr Bangor Am ddim Rhifyn y Nadolig 2013

@y_llef

Llef Bangor

PENODIAD NEWYDD: Yr Athro Jerry Hunter yn Ddirprwy Is-Ganghellor

YMLADD DROS DDYFODOL: Y diweddaraf am sefyllfa Neuadd Pantycelyn

EDWARD H. DAFIS: Golwg yn ôl ar gig ola’r band enwog

GEMAU’R HYDREF: Adroddiad a dadansoddiad ar y gemau i gyd

Yr Arglwydd Seb Coe yn ymweld â Bangor Carys Tudor

boliticaidd Seb Coe – fe fuodd yn Aelod Seneddol ar ardal o Gernyw am ychydig flynyddoedd. Fe holodd Daeth yr Arglwydd Sebastian Coe i siarad yn Neuadd Mervyn Davies am ei broffil mwy diweddar – ei holl PJ ddydd Llun, y 25ain o Dachwedd. Cafodd Neuadd waith yn helpu trefnu gemau Olympaidd Llundain. PJ ei arddurno’n arbennig ar gyfer y siaradwr gwadd. Cafodd dwy fyfyrwraig, Mari Morgan (sy’n Cyfweliad o fath oedd y noson, yr Arglwydd Mervyn astudio at radd MA mewn Cerddoriaeth yma ym Davies yn holi Seb Coe am ei brofiadau trwy’i fywyd. Mangor) a minnau wahoddiad i chwarae fel rhan o Mae nifer fawr ohonom yn ymwybodol o yrfa Seb Coe driawd yn canu alawon Cymreig i gloi’r noson. Roedd fel athletwr trwy’r papurau newydd, y teledu – ei fywyd yn brofiad gwych ac fe gawsom ni gyfle i gwrdd â’r dyn trwy lygad y cyfryngau. Diddorol oedd clywed ei ei hun. hanes ef, yn ei eiriau ei hun. Roedd llawer o ffeithiau a Yn ystod y prynhawn, bu Seb Coe yn ymweld adroddodd ef yn hollol anhybys i mi tan y noson honno, â Safle Ffriddoedd, lle agorodd y Dôm newydd sydd agweddau ar fywyd olympiad nad oeddwn i wedi’u ynghlwm ag Adeilad Maes Glas. Daeth cannoedd o hystyried. Roedd hi’n ddiddorol clywed sut effaith blant lleol i weld yr agoriad. Mae cysylltiad â gŵr enwog gafodd y Rhyfel Oer ar y gemau ym 1980 ym Moscow. ac adnabyddus fel y gŵr hwn yn siŵr o ddyrchafu Doeddwn i chwaith ddim yn gwybod llawer am yrfa statws cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Bangor.

CYSTADLEUAETH!

Trowch i dudalen 23 am fwy o wybodaeth!



Cynnwys:

8

Tudalennau:

Newyddion 4-11 Tudalen yr Undeb

13

Colofnau Arbennig

14-15

Yr Hadau 16-17 Cerddoriaeth 18-19 Adolygiadau 20-22 Cystadleuaeth 23

Golygyddol Helo bawb! Dyma gyflwyno Rhifyn y Nadolig o’r Llef i chi. Yn y rhifyn hwn cewch amrywiaeth o gynnwys, o’r adrannau a’r erthyglau arferol i golofnau arbennig a thair tudalen wedi’u clustnodi’n arbennig ar gyfer y ’Dolig! Yn dilyn ymgynghori â’r argraffwyr a chymryd cyngor gan un neu ddau profiadol arall yn y maes newyddiadura, bu newid bach yn y system o roi’r Llef at ei gilydd, gyda phob Is-olygydd yn cael dylunio’i dudalen ei hun y tro hwn. Yna byddai’r cyfan yn cael ei brawfddarllen a’i gysoni gan y Golygydd cyn ei anfon i gael ei argraffu. Mae’n broses sy’n rhoi mwy o ryddid creadigol i bawb, tra’n lleihau pwysau gwaith ar nifer o’r tîm dylunio hefyd. Diolch i bawb a fu ynghlwm â’r broses newydd hon ac am eu hamynedd wrth ymdrin â ffordd newydd o weithio! Unwaith eto, cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly mae croeso i chi gyfrannu ato. Os oes gennych ddawn ysgrifennu, awydd bod yn newyddiadurwr neu os ydych yn awyddus i’n helpu mewn unrhyw ffordd arall (gall hynny fod yn ddylunio neu gynnal gwefan, trefnu hysbysebion a.y.y.b), cysylltwch efo fi neu aelod o dîm Y Llef i fynegi diddordeb! Fel y gwelwch, mae’r papur yn helaethach o lawer y tro hwn - 32 o dudalennau o gymharu â 24 yn rhifyn y Glas. Newyddion da iawn! Mwynhewch y rhifyn! Siôn Elwyn

Cornel Greadigol 24-25

15

Ffasiwn 25-26 Dalennau’r ‘Dolig 27-30 Chwaraeon 31-32

10

18

20

Is-olygyddion:

Llio Mai Carys Tudor Manon Elwyn Holly Gierke Fflur Williams Elis Dafydd Rhys Dilwyn Jenkins Carwen Richards Gethin Lewis Green

Is-olygydd Cyffredinol Is-olygydd Newyddion Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon Is-olygydd Chwaraeon

Cyfranwyr: Rhys Taylor Gruffudd Antur Anna Prysor Jones Gethin Griffiths Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o Elidyr Glyn angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol Llio Meleri Bangor. Tomos Jones Gruffydd John Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.

Diolchiadau... Mae fy niolch yn fawr, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion a’r cyfranwyr sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu a threfnu cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Hebddyn nhw, ni fyddai Papur-newydd, felly diolch i chi i gyd am eich gwaith. Yn wahanol i Rifyn y Glas, bu rhoi’r Papur at ei gilydd yn broses llawer rhwyddach y tro hwn, er i mi gael ambell broblem - yn bennaf rhai technegol - ar hyd y ffordd. Yn hynny o beth, diolchaf yn fawr i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media, am fy rhoi ar ben ffordd sawl tro.




Looking for Books? Try Us First! Support your Local Bookshop AR Y STRYD FAWR AC AR LEIN ON THE HIGH STREET AND ON LINE

palasprint.com

170 Stryd Fawr/High Street, Bangor, 01248 362676 10 Stryd y Plas, Caernarfon, 01286 674631 eirian@palasprint.com

Edrych am Lyfrau? Tria Ni Gyntaf Cefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

Palas PRINT






...Newyddion 11

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

Damwain Hofrennydd yn Glasgow Siôn Elwyn Hughes Yn hwyr nos Wener, Tachwedd 29, 2013, tarawodd hofrennydd yr heddlu do’r Clutha Vaults, tafarn brysur ar lan yr afon Clyde yng nghanol Glasgow. Bu farw’r tri a oedd ar fwrdd yr hofrennydd – y peilot, David Trail, 51 oed (Is-Gapten a chyn-hyfforddwr Chinook gyda’r Awyrlu Brenhinol), PC Kirsty Nelis, 36 oed, a PC Tony Collins, 43 oed. Bu farw chwech arall a oedd yn y dafarn ar pan dorrodd yr hofrennydd trwy’r to. Erbyn hyn, mae’r Heddlu wedi rhyddhau enwau’r meirw i gyd: Robert Jenkins, 61 oed, Mark O’Prey, 44 oed, Colin Gibson, 33 oed, John McGarrigle, 57 oed, Samuel McGhee, 56 oed a Gary Arthur, 48 oed. Mae 11 o’r 32 a anafwyd yn dal yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Nid yw’n hysbys eto sut digwyddodd y ddamwain. Cludwyd gweddillion yr hofrennydd ymaith ar lori i bencadlys Air Accidents Investigation Branch (AAIB) yn Farnborough, Hampshire. Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys funudau’n unig wedi i’r galwadau 999 ddechrau llifo i

mewn, gan ennill canmoliaeth gan y cyhoedd ac uwch-swyddogion yr awdurdodau. Dywedodd Alisdair Hay, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub yr Alban ei fod yn falch iawn o’i staff am ymateb mor gyflym ac mewn modd mor broffesiynol. Bu’r gwasanaethau brys yn chwilio’r safle yn gyson ers i’r ddamwain ddigwydd, ond wedi archwiliad â chrib fân o’r safle, cadarnhaodd swyddogion eu bod bellach wedi cwblhau’r gwaith hwnnw. Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd yr Alban, Alistair Carmichael y bydd adroddiad dros dro ar achos y ddamwain yn cael ei ryddhau cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, dywedodd hefyd na fyddai modd pennu union ddyddiad cyhoeddi’r ddogfen. Yn y cyfamser, bydd yr AAIB yn archwilio gweddillion yr hofrennydd yn Farnborough. Yn eu hôl nhw, ni wnaeth peilot yr hofrennydd alwad am gymorth brys cyn i’r hofrennydd blymio i mewn i’r dafarn. Yn ogystal â hynny, dyweddodd yr AAIB nad oedd rhannau o’r hofrennydd wedi

Dyfodol y Sîn Roc Gymraeg? Gethin Griffiths Pwnc trafod, yn sicr, yw diffyg cefnogaeth i gigs y sîn dros y blynyddoedd, ond ni ellir anwybyddu llwyddiant Maes B i godi diddordeb newydd ynddi. Yno y bu Sŵnami’n treulio eu hamser i ymlacio yn ystod eu wythnos brysur, ac roedd eu perfformiad yn un i’w gofio ar lwyfan y maes ieuenctid hefyd. Gwir oedd hyn gan y mwyafrif o fandiau, a dweud y gwir, gan i grwpiau fel Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana a Candelas godi to’r babell gyda’u perfformiadau cywrain a chyffrous. Roedd pawb, yn yr un modd ag Edward

H., yn cydganu pob cytgan fachog wrth fwynhau coctels rhew o’r bar. Ni ellir anwybyddu llwyddiant “Caffi Maes B” ar y maes hefyd. Roedd cyfle i ymlacio a mwynhau cerddoriaeth acwstig hyfryd mewn tipi cynnes. Syniad syml, ond effeithiol, gan roi hwb ychwanegol i gerddorion newydd, a chyfle i ymarfer cyn eu gig yn y nos. Coron oedd Maes B ar haf a oedd yn llawn gwyliau cerddorol lwyddiannus, felly. Er mai tebyg iawn oedd y rhestr o fandiau a oedd yn chwarae ym mhob un ohonynt, cafwyd cynnydd mewn cynulleidfa yn sicr. Roedd Gŵyl Gardd Goll er ei newydd wedd yn gyfuniad perf-

dod yn rhydd cyn y ddamwain. Yn ôl Richard Westcott, gohebydd trafnidiaeth y BBC, mae’r wybodaeth uchod yn arwain rhywun i gredu bod taith yr hofrennydd eiliadau cyn y ddamwain wedi mynd o chwith, a hynny’n gyflym iawn. Mae ef yn rhagweld y bydd canlyniad yr archwiliad i achos y ddamwain yn cymryd amser hir i’w gwblhau. Nid oedd ‘bocs du’ wedi’i osod ar yr hofrennydd chwaith – rhywbeth a fyddai wedi helpu’r ymchwiliad yn fawr. Mae’r ymchwiliad yn parhau.

faith o gerddoriaeth o Gymru a thu hwnt, gyda’r bandiau Saesneg yn denu cynulleidfa wahanol. Roedd hefyd yn gyfle i’r Cymry syfrdanu’r estroniaid â pha mor fyw ydy’r sîn. Ar ôl taith lwyddiannus gyda Candelas a Hud, mae Ifan Sŵnami yn canmol y twf diweddar ym mhoblogrwydd y sîn, a dywedodd ei fod yn braf cael chwarae i gynulleidfa brysur bob nos. Efallai mai rhamantu fyddai galw’r oes bresennol yn “oes aur”, ond mae’n siŵr fod pawb yn cytuno fod pethau’n edrych yn gyffrous – a hynny yn ddiolch mawr i Eisteddfod Dinbych, ac wrth gwrs, i Edward H. Dafis.




Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

14 ...Arbennig: Golwg ar dafarnau

Colofnau Arbennig

Ym mar y Glôb y mae rhai gwlybion…

Y Glôb (ail hanner y saithdegau a dechrau’r wythdegau) gan Mr Robat Trefor

mynych, câi’r mynd a’r dod ei Gŵr dieithr yw yfory a gwledyblismona’n gaeth ar y drws hwndd pell iawn yw pob ddoe ac ers nw gan Wil a Mags, y tafarnwr a’i talwm. Mae hi bron cyn anodded wraig, rhag iddi lenwi gormod. mynd yn ôl yn y meddwl ag oedd hi inni ddychmygu beth a ddeuai Cyrchfan a llawer o fynd iddi, fel neu na ddeuai o’n breuddwydion y gwelwch. Cyrchfan i fyfyrwyr y gynt. Fel hyn y mae’r henwr can- Brifysgol a’r Coleg Normal, dau ol oed ifanc yn ymson uwchben sefydliad oedd ar wahân tan y ei beint hanner llawn ar ei ben nawdegau, ac i nifer o fyfyrwyr y ei hun yng nghornel yr offis. A ddau goleg diwinyddol, Bala Bandyma ni yno. gor a Choleg y Bedyddwyr, y daeth eu hoes hwythau i ben erbyn Oedd, roedd yr offis yno fel mae hyn. Cyrchfan hefyd i ddarlledhi heddiw, a chynllun tu mewn tŷ wyr ac actorion a sêr y canu pop, tafarn y Glôb bron yn union yr un enwogion o fri yn eu dydd. Roedd fath ag y mae o hyd. Y gornel a el- gan y BBC a HTV swyddfeydd ym wid gynt yn Gornel y Plant rhwng Mangor bryd hynny, ac yma hefyd yr offis a’r drws, y grisiau gyda’r yr oedd cartref yr hen Gwmni golofn yn y canol yn arwain at y Theatr Cymru a chartref Theatr rhan uchaf, a thai bach y dynion Gwynedd, lle llwyfennid cynyra’r merched yn yr un llefydd, a’r chiadau’r Gymdeithas Ddrama un arwyddion arnynt. Y gwahani- gan y myfyrwyr yn ogystal â’r araeth pennaf oedd lleoliad y bar ei lwy broffesiynol. Cyrchfan i rai o hun, a arferai fod yn erbyn y wal staff y Brifysgol yn ogystal. Coffa bellaf, yn cau’r grisiau drwodd i’r da am gael cwmni Tomos Roberts, hyn sy’n ystafell chwaraeon hedyr archifydd, a chryn ysgolhaig, diw. Siop offleisens fechan oedd wrth iddo alw heibio’n bur aml yn y fan honno, yr âi’r cwsmeriaid ddechrau gyda’r nos i wlychu pig iddi drwy’r drws allan uchaf yn hefo rhai ohonom ni’r myfyrwyr unig. Ychwanegiad mwy diwedcyn ei throi hi am ei fws neu’i dar wedyn na’r newidiadau hynny drên adref am Drefdraeth, Môn. yw’r drws canol, wedi ei orfodi gan reolau tân callach, heb os. Yn Cyrchfan Gymraeg uwchlaw’r yr hen ddyddiau, felly, y drws isaf cwbl, wrth gwrs, un a dynnai o oedd yr unig ffordd i mewn ac bell ac agos, o Fôn ac Arfon, o Lŷn allan, ac ar y nosweithiau prysur ac Eifionydd, o Ddyffryn Clwyd

ac Edeirnion. Deuai’r deheuwyr hwythau heibio ar eu rhawd. Cofiwch ei fod yn fyd Cymraeg gwahanol iawn, lle roedd ymgyrchu torcyfraith yn dal yn rhan o’n bywydau o wythynos i wythynos a bod protestiadau a ralïau yn tynnu pobl yn rheolaidd i rannau gwahanol o Gymru lawn gymaint â nosweithiau Edward H. Dafis. Roedd dadleuon Adfer a Chymdeithas yr Iaith yn symud o’r brwd i’r chwerw ac i’r chwerwach, ac felly hefyd y gwrthdaro gyda’r awdurdodau yng Ngholeg Bangor ei hun. Yma y deuai llawer ohonom ni i gyfri’r gost a llyfu’r clwyfau, i benfwydro uwchlaw cynllwynio pellach, ac i foddi gofidiau’r dydd yn feddw fawr. “Cyrchfan Gymraeg uwchlaw’r cwbl...a dynnai o bell ac agos” Er ei fod yn fyd lle nad oedd Radio Cymru ond megis cropian a bod S4C heb ei geni, a lle nad oedd gan Gyngor Gwynedd hyd yn oed ddim polisi gweinyddu mewnol Cymraeg, a bod yr holl arwyddion y tu allan i’r Glôb yn Saesneg, roedd yna ym Mangor Uchaf lawer mwy o frodorion Cymraeg eu hiaith bryd hynny, a rhaid crybwyll enwau rhai o’r selogion o’r hen do. Dyna ichi Bil Jones, a weithiai yn Siop Tilberi, ac a oedd wedi herio Syr Thomas Parry ei hun yn y siop a wyddai hwnnw beth oedd radish yn Gymraeg. Dyna Ned y growndsmon a’i wyneb fel tân, a dyna Elwyn Mwnci a gyflwynai ei hun fel ‘proffesyr drai rot’ y Coleg. Bob nos Sadwrn cyn amser cau, deuai Tomi, dyn yn ei saithdegau mewn blesyr a choler a thei, i ganu ‘Roheid’ i gymeradwyaeth myfyrwyr chwil iawn erbyn hynny. Ac yna dyna ichi’r anfarwol Surul gyda’i

gyfarchiad triphlyg ‘Helô-sumâipa hwyl?’ Roedd yn byw dan yr un to ‘â’r hen sglyfaeth Miss Cox’ honno a byddai’n rhyw hofran yng nghyffiniau’r bar yn y gobaith y prynai rhywun hanner iddo, cyn i Wil ei hel am y lôn rhyw ddiwrnod am grachboeri ar lawr. “Lle da am fwyd...” Ar ddydd Sadwrn ola’r flwyddyn academaidd yn y Glôb y cynhelid diwrnod Clwb Cwrw Cymru, pryd yr arwisgid myfyriwr gwlypaf y flwyddyn gyntaf fel ‘rafin’ y flwyddyn. Wel, cynhelid y seremoni mewn fflat neu dŷ rhwng tri o’r gloch a hanner awr wedi pump am fod y tai tafarnau bryd hynny i gyd yn cau yn y prynhawniau, ac roeddent yn gaead bob dydd Sul yn ogystal. Roedd ysbryd Clwb Cwrw Cymru yn un o ryw frafado anystywallt anaeddfed coegwrthryfelgar yn wyneb hen dwt-twtian y Gymru anghydffurfiol gul a oedd yn prysur dynnu’i thraed ati. Mae’r cyfan, fel y morio canu emynau yn y Glôb, wedi hen fynd. Ond cofiwch fod yna ganu mawr ar alawon gwerin a chaneuon eraill yno hefyd,. Un

nodwedd olaf. Roedd y Glôb ar awr ginio yn yr amser gynt yn lle da am fwyd, ac roedd mynd ar y ‘tostis’ a ‘lobsgóws Mags.’ A dyna’r unig adeg y gwelid rhai o staff mwy parchus y Brifysgol yn galw heibio. Mae’r henwr canol oed ifanc yn yr offis wedi dadebru o’i synfyfyrio. Wrth godi a’i hanelu hi am allan, mae’n dda iawn ganddo ei fod yn byw mewn Cymru sy’n ceisio ei llywodraethu ei hun ac sydd, yn hwyr iawn y dydd, yn dechrau deall mai ofer pob statws i’r Gymraeg heb gymunedau sy’n ei siarad. Mae’n ei goleuo hi drwy’r drws heb edrych yn ei ôl.




Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

...Yr Hadau 17

Rhys yn holi...

Fel yr wyf yn siŵr eich bod chi gyd yn ymwybodol yn barod, fe gystadlodd tîm Prifysgol Bangor ar y teledu ar y rhaglen University Challenge. Yr oedd Catriona Coutts, Owain Wyn Jones, Daisy Le Helloco ac Anna Johnson yn dîm anhygoel o dda, wedi iddynt guro Aberystwyth 230-110 ym mis Hydref. Yr oedd hi’n bleser i ddarganfod mai dysgwraig yw un aelod o’r tîm, sef Daisy Le Helloco. Ces i’r cyfle i siarad â hi am ei phrofiadau: 1.

Pryd dechreuoch chi ddysgu’r iaith Gymraeg? A pham?

2.

Pa fath o brofiad oedd o? A oedd o’n anodd neu’n rhwydd?

Oedd e’n brofiad anodd iawn, i fod yn onest! On i’n teimlo dan lot o straen pan o’n i wedi bod yn ffilmio. Ond oedd e’n neis pan oedd y rhaglenni ar y teledu achos roedd fy holl ffrindiau a fy nheulu yn cysylltu â fi i ’weud eu bod nhw wedi mwynhau ei wylio fe. 5.

A oedd o’n deimlad da cynrychioli eich Prifysgol?

O’n i’n teimlo’n falch i gynrychioli’r Brifysgol, ac yn arbennig yr Ysgol Nes i ddechrau dysgu Cymraeg ychydig cyn symud i Fangor, dair blynedd yn Saesneg – oedd pawb yn yr Ysgol yn falch iawn o gael 2 fyfyriwr ar y tîm! ôl. O’n i mo’yn dysgu’r iaith achos mae diddordeb mawr ’da fi mewn dysgu ieithoedd ers amser hir, a dwi’n ffeindio’r ffaith fod cymuned fyw nad yw’n siarad Saesneg yn y DU yn gyffrous iawn.

Oedd hi’n eithaf rhwydd. Dwi’n dysgu gyda safle Say Something In Welsh. Rwy wedi ffeindio fe’n ddefnyddiol iawn oherwydd y pwyslais ar siarad a defnyddio’r geiriau ti’n eu gwybod yn barod i wneud lot o frawddegau gwahanol. Fodd bynnag, dwi’n dal i fod yn eithaf nerfus pan dwi’n siarad gyda phobl ddieithr. A nawr dwi’n fwy rhugl dwi’n ffeindio fe’n rhwystredig pan dwi’n siarad a dwi ffili cofio’r gair dwi mo’yn. 3.

A fyddech yn annog pobl i ddysgu’r iaith Gymraeg?

Byddwn! Mae’n grêt gallu siarad yn Gymraeg gyda fy ffrindiau yn y dafarn. Dwi’n teimlo fel rhan o gymuned, a dwi wedi cyfarfod lot o bobl ddiddorol gan ddechrau sgwrs yn Gymraeg pan dwi mas! Hefyd, mae lot o gerddoriaeth a llenyddiaeth ardderchog yn yr iaith Gymraeg. 4.

Pa fath o brofiad oedd University Challenge?

Asking the questions...

As I’m sure you are all aware already, Bangor University’s team competed on the television for University Challenge. Catriona Coutts, Owain Wyn Jones, Daisy Le Helloco, and Anna Johnson were a fantastic team, as the beat Aberystwyth University 230-111 in October. It was a pleasure to find out that one of the team members, Daisy Le Helloco, was a learner of the Welsh Language. I had the chance to speak to her about her experiences: 1.

When did you start learning Welsh? Why?

I started learning Welsh just before I moved to Bangor, 3 years ago. I wanted to learn the language because I’ve had a massive interest in learning languages for a long time, and I find the fact that there is a lively community who don’t speak English in the UK as something very exciting. 2.

What kind of experience was it? Was it difficult or easy?

It was quite easy. I’m learning with the Say Something In Welsh company. I’ve found it very useful because of the emphasis on speaking and using words you already know to make lots of different sentences. However, I’m still quite nervous when I speak with new people. And now that I’m more fluent, I find it frustrating when I’m speaking and can’t remember the word that I want. 3.

Would you encourage people to learn the Welsh language?

I would! It’s great to be able to speak Welsh with my friends in the pub. I feel

like part of a community, and I have met so many interesting people through starting a conversation in Welsh when I’m out! Also, there’s a lot of fantastic music and literature in Welsh. 4.

What kind of experience was University Challenge?

It was a very difficult experience, to be honest! I felt under a lot of pressure when we were filming. But it was nice when the programmes were on the television because all of my friends and family contacted me saying they enjoyed watching it. 5.

Was it a good feeling to be representing your University?

I felt proud to represent the University, and especially the School of English – everyone in the school was very proud to have 2 students on the team!


18 ...Cerddoriaeth

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

“Y Stones Cymraeg”: Edward H. a’r SRG GETHIN GRIFFITHS sy’n edrych yn ôl ar gig bythgofiadwy Edward H. Dafis yn Eisteddfod Dinbych eleni

Daeth y llwyfan perfformio mor fyw ag erioed.

Gyda thair cenhedlaeth yn disgwyl yn eiddgar am y Stones Cymraeg, roedd ysbryd trydanol yn yr aer. O’r plant lleiaf i’r neiniau a’r teidiau,

roedd yr un wefr i’w theimlo o’r bar gwyrdd i’r fan hufen iâ. Daeth y llwyfan perfformio mor fyw ag erioed. Drwy ryw ryfedd wyrth, roedd yn edrych mor bwysig â phrif lwyfan Glastonbury wrth i’r dorf ddisgwyl am dduwiau’r SRG. Roedd y faner enfawr uwchben y drymiau’n ychwanegu rhyw bwysigrwydd i’r sefyllfa: “Edward H. Dafis.. 19732013” ar ffurf carreg fedd. Wrth i’r pump arwain eu haelodau ychwanegol ar y llwyfan, rhwygodd yr awyr gyda gwaedd nostalgic, fel petai 1973 ddim ond ddoe. Dyna fel roedd hi drwy eu set a dweud y gwir, gyda’r dorf yn disgwyl yn eiddgar am y gân nesaf er mwyn canu gyda hi. Ar yr olwg gyntaf, mae’n siŵr fod ffans

Glastonbury wedi sylwi tebygrwydd rhyngddynt a’r Rolling Stones – a oedd fel 'sgerbydau llwydion byw ar y Pyramid. Er hyn, daeth i’r amlwg yn eitha’ sydyn fod hyder Cleif Harpwood a hiwmor Dewi Pws mor fyw ag erioed, ac er eu gwalltiau gwyn (neu ddiffyg gwallt!) – roeddent yr un Edward H. â’r Edward H. a syrthiodd y genedl mewn cariad gyda hwy. Gyda chymorth hanfodol gan y cerddorion sesiwn, cafwyd atsain o roc y 70au gyda chyffyrddiadau newydd, ffres. Wrth gwrs, roedd caneuon fel Ysbryd y Nos a Pishyn yn sicr o godi canu, a doedd dim syndod fod pawb yn cofio’r geiriau. Roedd yn drawiadol sylweddoli mai’r pump yma oedd yn gyfrifol am nifer helaeth o ganeuon y repertoire roc Cymraeg.

Roedd hefyd yn drawiadol, am y tro cyntaf erioed, pa mor anodd oedd dod o hyd i’ch ffrindiau a’ch teulu mewn gig Cymraeg! Cyngerdd chwedlonol felly? Dim amheuaeth am hynny! Roedd hynny, mewn gwirionedd, diolch i’r miloedd o Gymry Cymraeg a oedd yno i’w cefnogi. Teyrnged wych iddynt ac i lwyddiant cerddoriaeth Gymraeg.

Roedd yn bendant yn un o gigs gorau’r SRG ers oes

Pafiliwn Corwen. 1973. Canu cloch? I unrhyw ffan o’r Sîn Roc Gymraeg (SRG), dyma ddigwyddiad chwyldroadol yn ei hanes. Mae’r digwyddiad hwnnw’n dal i fyrlymu yng nghof unrhyw un a fentrodd yno ar y noson hanesyddol honno yn ystod wythnos danllyd o Eisteddfota yn Rhuthun. Mae’r diolch, wrth gwrs, i ymddangosiad cyntaf syfrdanol Edward H Dafis. Mae’n debyg fod 1973 yn ddigon pell yn ôl i gael ei galw’n “hanesyddol”, ac addas iawn yw’r gair hwnnw i ddisgrifio pwysigrwydd sefydliad y supergroup roc Cymraeg cynta’, Edward H Dafis. Ond beth am fis Awst 2013? A fydd hynny’n canu cloch mewn deugain mlynedd? O weld ymateb y dorf o filoedd a oedd ar gae’r Eisteddfod yn Ninbych, mae hynny’n eitha’ tebygol. Gyda bwrlwm Corwen ’73 yn yr aer, aeth 5,000 o bobl mewn un haid i wylio perfformiad olaf y meistri roc. Gobeithion uchel iawn, felly! Ers cyhoeddi mai llwyfan perfformio Eisteddfod Genedlaethol Dinbych oedd cartref un o gyngherddau pwysicaf y Sîn Gymraeg erioed, roedd yn amlwg nad oedd yr Eisteddfod am fod yn un gyffredin. Roedd sibrydion ymhell cyn y digwyddiad fod disgwyl i filoedd fentro i’r maes ar y nos Wener, a hynny’n cynnwys y rhai oedd yn mynd i’r cyngerdd yn unig – heb sôn am y rhai oedd wedi bod yn crwydro’r maes drwy’r dydd! Hyd yn oed i griw preswyl Maes B, doedd dim modd colli allan!

Cyn i unrhyw un ddadlau mai arwydd o fethiant y sîn heddiw o gymharu â llwyddiant hen grwpiau yw hyn, nid perfformiad Edward H. oedd unig lwyddiant yr Eisteddfod. Roedd yr wyth mil ar hugain o Eisteddfotwyr a brynodd docyn i’r maes ar y dydd Gwener yn brawf o hynny. Er enghraifft, ni ellir anwybyddu ymdrechion yr Eisteddfod i gynhesu’r dorf cyn y prif act gyda’r band ifanc, Sŵnami. Er y pwysau anhygoel a oedd arnynt i gynhesu cynulleidfa Edward H., fe wnaethant gryn argraff ar bawb. Wrth edrych yn ôl, nid gan Edward H. y cafwyd pob riff bachog, na phob cytgan hwyliog y noson honno. Dywedodd Ifan Davies, prif leisydd Sŵnami a myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ei bod yn fraint cael chwarae cyn un o fandiau mwyaf yn hanes y sîn – a chael cyfle i chwarae o flaen miloedd o bobl yn sgîl hynny! “Roedd perfformiad Edward H. yn bendant yn un o gigs gorau'r SRG ers oes, ac roedd gweld cymaint o bobl yno’n codi calon rhywun sy'n chware gigs yn wythnosol i’r un wynebau bob tro”.


...Adolygiad arbennig 19

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

Gŵyl Sŵn 2013

Adolygiad arbennig gan CARYS TUDOR

Dydd Sadwrn 19.1013 Syth i dafarn O’Neills i wrando ar Peasant’s King. Band ifanc o Bontypridd sydd ar fin dod i’r brig yw hwn – perfformio yng ngŵyl Reading a Leeds a Radio 1.Roedd yr egni a’r nwyd yn amlwg yno. Stop nesaf: Clwb Ifor Bach i weld ychydig o set Stars and Flights. Band swnllyd iawn o Nedd yw’r rhain! Doeddwn i ddim yn orhoff o’r rhain yn bersonol, bach yn rhy drwm os fydda i’n hollol onest, ond mi oedd na ddigon o bobl yn mwynhau ‘headbangio’ yn y dorf! Ymlaen i’r bandstand oedd ar yr Ayes i weld Masters in France. Roedd y bandstand yn rhad ac am ddim ar gyfer y cyhoedd felly roedd hi’n gyfle da i’r ŵyl ledaenu’i chynulleidfa. Nesaf ar y rhestr oedd Gwdihŵ i wylio Violas a Sen Segur.

i orffen tymor y festivals. Mae gigs wedi’u hamserlennu mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas, Clwb Ifor Bach, Tafarn Dempsey’s, Moon Club, Gwesty’r Angel, Gwdihw, Chapter, Jacob’s Antiques, Tafarn O’Neill’s, a mwy. Roedd digon o lefydd i weld gwahanol fandie ac artistiaid yn chware a pherfformio. Ond yn amlwg, roedd rhaid stopio yn Caroline St ar y ffordd a mynd i Dorothy’s i brynu chips! Mae’n rhaid i mi gyfaddef, doeddwn i erioed wedi bod yn Gwdihŵ cyn y penwythnos hwnnw. Lle cartrefol iawn yw’r cafébar yma. Lle reit quirky yn llawn fairy lights a chwrw tramor. Roedd set Violas yn ddiddorol, ond roedd y crowd yno i wylio Sen Segur a Cowbois Rhos Botwnnog. Pan ddechreuodd Sen Segur eu set, roedd hi fel petai’r dorf wedi’i hudo. Gyda’u cerddoriaeth seicadelig, roedd hi’n amlwg bod y band yn gyfforddus yn y lleoliad. Fe olygodd hynny ei bod hi’n amlwg bod y bois yn mwynhau chwarae gyda’i gilydd. Ni arhosom ni i weld Cowbois (roeddwn i’n mynd i’w gweld nhw ar y dydd Sul ta beth!) ac aethom ymlaen i Jacob’s Market i wylio Y Pencadlys.

Dydd Sul 20.10.13 Cyfle i fynd i Chapter yn Canton. Hwn oedd fy hoff niwrnod o’r penwythnos cyfan. Gwydred o win coch yn fy llaw, cerddais i mewn i Stiwdio Chapter i wylio ychydig o DNA Folk. Mam a merch – Delyth ac Angharad (‘D’ n ‘A’ + y ffaith eu bod nhw’n perthyn = DNA Folk!). Deuawd gwerin o Abertawe, Delyth ar y delyn Geltaidd ac Angharad ar y ffidil. Roedd perthynas gerddorol y ddwy yn amlwg ac yn dangos eu doniau a’u technegau amrywiol. Roeddwn yn hoff iawn o’u dehongliad o ‘Sosban Fach’. Ar ôl gwrando ar DNA Folk, es i lan i Theatr Chapter lle gwelais gerddorion hynod o ddiddorol yn perfformio – Neil Yates’ Five Countries Trio. Trio yn perfformio cerddoriaeth jazz oedd y rhain - cit drymiau, gitâr acwstig a thrwmpedwr (oedd hefyd yn chwarae gitâr fas ar adegau). Fy hoff gân ganddyn nhw oedd ‘Seagull’. Darn hynod o glyfar oedd hwn – Neil Yates y trwmpedwr yn canu’r trwmped mewn i feic

Nos Wener 18.10.13 Roedd y noson yng Ngwesty’r Angel wedi’i thargedu at gerddoriaeth Gymreig a Chymraeg. Roeddwn i wedi gorfodi fy ffrindie i wrando ar ychydig o gerddoriaeth Candelas, ac roeddwn i’n awyddus iddyn nhw glywed y band yn fyw. Aethom i weld Lowri Evans yn canu yna’n gyntaf. Llais mwyn iawn oedd gan y fenyw ifanc o Sir Benfro. Mae cyffyrddiadau ar jazz, gwerin a phop yn elfennau yn ei cherddoriaeth – ac mae’n amrywio iaith ei chaneuon, Cymraeg a Saesneg. Gallwn i fod wedi gwrando ar hon drwy’r nos. Llais Lowri, gitarydd acwstig a drwm Cajon – dyna’r oll oedd angen i greu cerddoriaeth oedd yn ymlacio rhywun yr holl ffordd i’w enaid. Ar ôl perfformiad melys Lowri Evans, daeth Candelas ar y llwyfan i herio’r dorf ychydig, i ddechre’r parti! Fe wnaethon nhw hynny’n wych, fel yr arfer. Rydw i wrth fy modd gyda’r band hwn ac yn mwynhau bob tro rwy’n eu gweld yn perfformio’n fyw. Er hynny, roedd rhywbeth gwell fyth ar y ffordd – Geraint Jarman. Nid yw’r hen Jarman wedi colli’i ffordd ers y dechre. Mae’n ddyn clyfar gyda’i eiriau, ac yn creu sioe gwerth ei gweld bob tro y mae’n perfformio’n fyw. Y peth gore am y perfformiad hwnnw? Y ffaith fod ganddo dorf mor amrywiol. Pobl yn eu 60au, pobl ganol oed, a llawer iawn o bobl ifanc Cymraeg yn mwynhau ar yr un pryd. Ac roedd pawb yn dawnsio!

ac yna’n rhoi’r ‘loop pedal’ ymlaen i greu sŵn gwylanod. Roedd sŵn y gwylanod yn y cefndir yr holl ffordd drwy’r darn. Yna, nôl a fi i’r Stiwdio i wylio set Cowbois – syfrdanol unwaith eto. Roedd y dorf yn amlwg yn dwlu ar y band. Emosiynol iawn oedd eu perfformiad, yn anfon nifer o’r dorf i ddagrau wrth iddynt ganu. Ar ddiwedd y set, fe wnaeth Iwan, y prif ganwr, berfformio’i ddehongliad ef o ‘Gerfydd Fy Nwylo Gwyn’. Anhygoel. Jest anhygoel. Ar ôl Cowbois daeth 10 Mewn Bws ymlaen i gloi’r noson, ac i gloi fy mhenwythnos yng Ngŵyl Sŵn eleni. 10 o gerddorion talentog iawn! Y criw yn perfformio’u dehongliadau nhw o hen alawon gwerin traddodiadol ac yn perfformio rhai y gwnaethon nhw gyfansoddi. Gwych oedd gweld cerddorion o gefndiroedd amrywiol yn rhannu llwyfan i greu cerddoriaeth up-beat a modern trwy ddefnyddio hen glasuron Cymreig. Fy hoff gân? ‘Wel Bachgen Ifanc Ydwyf ’. Perfformiwyd honno gan Gwilym Bowen Rhys – sydd fwyaf enwog am fod yn brif ganwr yn Y Bandana.

Y penwythnos hwnnw, cefais gyfle i weld rhannau o’r ddinas nad oeddwn wedi bod iddynt o’r blaen. Cefais gyfle i ddal lan gyda hen ffrindie. Cefais gyfle i weld bandie newydd. Cefais gyfle i wneud rhywbeth gwahanol.

“ Diolch Sŵann.i! d

m 2014 a

Trip gartre oedd hwn i mi mewn gwirionedd. A’r cyfle i gwrdd â ffrindie o’r ysgol. Roedd cwpl ohonom wedi penderfynu y byddai’n syniad mynd i’r ŵyl eleni, a ninne’n byw mor agos. Roedd dau o’m ffrindie wedi bod o’r blaen ond nid fi. Gŵyl Sŵn yw gŵyl gerddorol yn ninas Caerdydd ar benwythnos ym mis Hydref – festival


...Adolygiadau 20

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

...Adolygiadau

Albert Einstein: Relativitively Speaking

Llŷr Titus Dwi’n ffan o wyddoniaeth. Dwi hefyd yn ffan o ddramâu. Mi oeddwn i felly yn reit hapus fy mod i wedi cael cynnig mynd i weld drama am un o wyddonwyr enwocaf y cyfnod modern diweddar. Dilyn hanes gyrfa Einstein oedd y cynhyrchiad, a hynny mewn modd hwyliog a chydag ambell gân bob hyn a hyn. Roedd y caneuon yn dda ar y cyfan ond weithiau roedd hi’n anodd deall y geiriau gan fod y tempo’n sydyn iawn ar brydiau. Dim ond dau actor oedd yn chwarae rhan y pedwar cymeriad. John Hinton oedd yn chwarae rhan Einstein, a Jo Eagle yn chwarae rhan ei fam, ei gyn-wraig a’i wraig, ac roedd hithau’n canu’r piano hefyd. Dechreuodd y perfformiad gydag Einstein yn annerch cynulleidfa ym Mhrifysgol Princeton wedi iddo adael yr Almaen gan fod bygythiad y Natsïaid yn cryfhau. Erbyn diwedd y perfformiad roedden ni wedi cael blas ar ei orffennol a’i fywyd hyd at ei farwolaeth. Fe gawson ni gip arno fo ar ôl

ei farwolaeth hefyd mewn golygfa swreal lle'r oedd gan Einstein byped ar ffurf ei ymennydd ar ei law, ac aeth ati wedyn i sgwrsio ag o. Mi oedd gan yr ymennydd fwstas hefyd... (mi oedd o’n gwneud synnwyr o fath ar y pryd.) Er mai perfformiad Berkoffaidd hwyliog oedd hwn mewn difrif, roedd isblot tywyllach hefyd wrth i ni gael dysgu am gyfraniad Einstein at adeiladu’r bom atomig. Roedd y darnau lleddf yn gwrthgyferbynnu’n dda efo’r pyliau hwyliog ac mi fuasai mwy ohonyn nhw wedi bod yn braf. Roedd rhediad y perfformiad yn hectig ar brydiau er bod hynny, wrth gwrs, yn hollol fwriadol. Wrth i ni gyrraedd, roedd Einstein yno i’n croesawu. Nid perfformiad arferol lle arhosai’r actorion ar y llwyfan oedd hwn. Piti garw. Prif gimig y perfformiad oedd cyfranogiad cynulleidfa neu, o’i lafareiddio, tynnu pobol o’u seddi a’u gorfodi nhw i gymryd rhan yn y ddrama. Dydw i ddim yn orhoff o’r busnes yma os nad oes yna bwrpas iddo fo, fel yn Pridd gan Aled Jones Williams. Holl bwrpas yr ymgais i dynnu pobl o’u seddi yn y ddrama hon-

no oedd i’w gwneud nhw i deimlo’n anghyfforddus. Dyna oedd yr effaith a gafwyd yn Relativitively Speaking hefyd, er nad oedd hynny’n fwriadol. Roedd o i fod yn “hwyl” ond doedd y creaduriad a gafodd eu llusgo i gogio bod yn gariadon ar y llwyfan ddim i weld fel petaen nhw wrth eu bodd. Yn enwedig gan i Einstein gymryd eu bod nhw efo'i gilydd go-iawn gan orfodi i un ohonyn nhw esbonio mai “jest ffrindiau” oedden nhw, gydag awgrym fod trafodaeth ar hynny wedi bod rhyw ben! Roedd rhywun yn teimlo’n annifyr braidd a dwi’n siŵr nad fi oedd yr unig un a oedd yn croesi’i fysedd ac yn gweddïo am lonydd. Mi wnes i ddysgu tipyn mae’n rhaid cyfaddef, ac mi roedd hynny’n haws am fy mod i’n chwerthin ac yn mwynhau’r perfformiad. Roedd o’n hwyliog, ac yn llwyddo i roi llawer iawn o wybodaeth heb lethu. Fe oedd yna ambell “iniwendo” hefyd ac mae hynny’n help bob amser. Roedd hi’n werth mynd i weld Relativitvely Speaking, fe wnes i a fy nghyfaill fwynhau yn arw.

Sue: The Second Coming Carys Tudor Sioe gomedi ar ffurf sioe gerdd oedd hon. Dyn wedi gwisgo fel menyw o’r enw Sue yw prif gymeriad y sioe a hithau’n fenyw anarferol, braidd yn rhyfedd. Yn y sioe mae Sue yn trafod y Nadolig – ei harferion hi erbyn heddiw ar ddydd Nadolig, ei Nadolig yn y gorffennol a hithau’n edrych i’r Nadolig yn y dyfodol. Yna mae Sue yn symud ymlaen i drafod prif nod y sioe – ‘The Second Coming’.

Y Messeia’n dod i’r ddaear unwaith eto, a hithau’n rhoi genedigaeth iddo! Roedd yna driawd yn chwarae cerddoriaeth y sioe – ffidil, cello a drymiau – yn ogystal â’r bianyddes ei hun, Sue. Roedd hi’n glyfar yn y ffordd taw ail-drefnu llawer o alawon Nadolig oedd gwreiddiau’r gerddoriaeth – The Snowman, 12 Days of Christmas, All I Want For Christmas (Mariah Carey). Roedd gofyn hefyd i’r gynulleidfa gymryd rhan yn y sioe,

actio rhai elfennau a chanu ar brydiau. Ar ddiwedd y noson, roedd adborth y gynulleidfa’n addawol iawn. Er hynny, yn anffodus, nid oedd y sioe at fy chwaeth i. Wrth edrych ar y gynulleidfa, sylwais fod y rhan fwyaf yn bobl hŷn, a phrin oedd y bobl ifanc yn y gynulleidfa. Mae arna’ i ofn fy mod wedi teimlo braidd yn anghyfforddus yn eistedd yn y gynulleidfa. Ond wedi dweud hynny, dwi’n credu taw dyna oedd y bwriad.

Doedd y gynulleidfa ddim i fod i deimlo’n gyfforddus yng nghwmni Sue. Dyma sioe wedi’i chynhyrchu’n dda iawn, ac yn ddelfrydol os ydych chi’n ffan o hiwmor ecsentrig a thechnegau gwahanol! Fodd bynnag, credaf y byddai’r gynulleidfa hŷn (hŷn nag oedran myfyriwr cyffredin) yn mwynhau a gwerthfawrogi’r perfformiad, fel yr oeddwn yn dyst iddo ar ddiwedd y sioe, ychydig yn fwy nag y gwnes i, efallai.


...Adolygiadau 21

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

Dramâu

Cyfaill a Te yn y Grug Pridd gan Aled Jones Williams Ers cychwyn fy nghyfnod fel myfyrwraig, rwy’n hoff iawn o fargen, a dyma beth yw bargen – dwy ddrama am bris un! Wedi clywed canmol mawr ac wedi sawl wythnos o edrych ymlaen yn arw, o’r diwedd, cefais gyfle i fynd i wylio Cyfaill a Te yn y Grug a gynhyrchwyd gan Theatr Bara Caws yn Neuadd JP, Bangor. Cyfaill oedd drama gyntaf y noson. Drama gan Francesca Rhydderch yw hon wedi’i seilio ar gyfnod penodol ym mywyd Kate Roberts (a chwaraewyd gan Morfudd Hughes), sef y cyfnod yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Morris Williams ym 1946. Wrth geisio anghofio ei galar, ymgollodd Kate yn llwyr yn ei gwaith yng Ngwasg Gee ac fel golygydd Y Faner. Roedd hi’n ysgrifennu rhag teimlo. Aeth ati hefyd i helpu teulu anghenus yn Budapest, ac wrth i lythyrau gael eu hanfon rhwng Kate a Lilla Wagner (Carys Gwilym), buan iawn y mae perthynas agos yn ffurfio rhwng y ddwy. Wrth glywed am hanes bywyd Lilla mae Kate yn cael ei hysbrydoli i ail-afael yn ei ’sgrifennu. Ceir newid yn y gerddoriaeth i ddangos bod cyfnod newydd ar fin cychwyn. Cafwyd perfformiad gwych o Frenhines ein Llên gan Morfudd Hughes. Llwyddodd i gyfleu galar Kate yn arbennig o deimladwy, a chyfleu’r gwahaniaeth hwnnw rhwng Kate y weithwraig a Kate y wraig. Dychwelodd yr actorion (gan gynnwys Rhodri Siôn a Manon Wilkinson) i ymuno â Fflur Medi Owen i berf-

formio addasiad Manon Wyn Williams o Te yn y Grug. Stori yw hon am blentyndod, neu am ddiwedd plentyndod. Cafodd y gynulleidfa eu tynnu i mewn i fyd o ddiniweidrwydd gan Begw, a rhaid canmol perfformiad gwych a chomig Fflur Medi Owen ohoni. Fel sy’n nodweddiadol o blentyn, mae hi’n holi a holi o hyd ac yn coelio pob dim y mae’n ei glywed. Roedd digon o hiwmor i’w gael hefyd, ond buan y mae realiti creulon bywyd yn dod i darfu ar yr hwyl. Yn ystod y ddrama, down i adnabod cymeriad cryf Wini Ffini Hadog. Roedd portread Manon Wilkinson ohoni’n un penigamp, ac fe gawson ein tywys ar daith emosiynol wrth iddi droi o fod yn blentyn direidus i fod yn oedolyn cydwybodol. Mae ei gonestrwydd yn destun arswyd i rai mor ddiniwed â Begw a Mair, ond mae hefyd yn elfen sy’n gwneud i ni fel cynulleidfa glosio ati a chydymdeimlo â hi ar sawl achlysur. Mae perthynas Begw â hi yn un sy’n darlunio byd syml plentyn, byd heb boenau, a byd lle mae gwireddu eich breuddwydion yn bosib. Dyma ddarlun gwych o gyfeillgarwch. Cefais noson werth chweil! Roedd y ffaith fod y ddwy ddrama yn cael eu perfformio ar ôl ei gilydd yn ychwanegu at y noson. Cafwyd cipolwg ar ddau gyfnod gwahanol ym mywyd Kate Roberts, a’r naill yn ddibynnol ar y llall. Llio Mai

Prin iawn oedd y seddi gwag ar gyfer y perfformiad cyntaf o ddau gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Galeri, Caernarfon. Roeddwn wedi darllen nifer o sylwadau da am y cynhyrchiad, ac felly roedd fy nisgwyliadau’n uchel iawn. Braf yw cael dweud na chefais fy siomi. Roedd y set ei hun yn ennyn diddordeb y gynulleidfa o’r cychwyn cyntaf. Ystafell fyw flêr, ychydig hen gelfi wedi’u gorchuddio gan bridd, a’r llenni ffoil llachar yn gefndir. Daeth Handi Al, y clown (Owen Arwyn) ar y llwyfan, ac roedd y defnydd o ddistawrwydd wrth iddo gyflwyno’i driciau niferus yn hynod effeithiol er mwyn gosod naws swreal. Roedd y gerddoriaeth hefyd yn ychwanegu at y naws, yn ogystal â’r goleuo a’r dechneg o gynnwys y gynulleidfa yn y ddrama. Llwyddodd y gyfarwyddwraig, Sara Lloyd, i greu profiad theatrig arbennig. O’r cychwyn cyntaf mae’r thema o alcoholiaeth yn amlwg, wrth i Handi Al jyglo â photeli gwag o wisgi a gwirodydd. Trwy gydol y ddrama cawn wybod am broblemau niferus y clown Cymraeg canol oed a cheir awgrym cryf o salwch meddwl. Daeth yn glown ar ôl penderfynu newid gyrfa o fod yn ffitiwr ceginau, am ei fod yn ‘licio gneud i bobl grio’. Ond er y newid gyrfa, mae Al dal ar goll, ac yn dewis cuddio y tu ôl i golur Handi Al. Down i wybod am ei affêrs niferus. Nid yw’r alcoholig anghofus yn cofio’n union pwy sydd yn ei gwmni, ai ‘Mam Catrin’, ‘Mam Dyfrig’, ynteu un o’r tadau. Daw’n amlwg ei fod wedi colli gafael ar ei fywyd. Mae’n hel atgofion am amser hapusach, sef y diwrnod y priododd ei wraig, Gwenda. Â ati i ail-greu’r ddawns gyntaf, a chawn gip o’r tynerwch a

fu unwaith yn rhan o’i fywyd. Ond o ganlyniad i’w odineb a sawl ffactor arall, ni fu’n briodas hapus iawn. ‘Pryd nath gair tlws fel grudd droi’n air hyll fel boch?’ – ai trosiad o’u priodas sydd yma? Mae’r iaith Gymraeg yn thema eithaf amlwg yn y ddrama. Wedi helynt gyda peithon mewn parti pen-blwydd yn festri’r capel, dywed Al, ‘os wt ti’n dalld Cymraeg ti’n bownd o ddalld’. Awgryma fod ei iaith neu ei wreiddiau yn elfen sy’n cyfrannu at ei broblemau. Ar adegau, gall y ddrama fod yn anodd ei dilyn, gan fod Handi Al yn symud o un stori i’r llall yn reit sydyn. Nid yw bob amser yn glir gyda phwy mae o’n siarad chwaith. Ond gall hyn wrth gwrs fod yn adlewyrchiad o feddyliau Al, sy’n amlwg ar chwâl. Yn ystod yr awr ceir sawl cliw yn sgript wych Aled Jones Williams am dynged Handi Al. Yr olygfa chwareus efo’r gwn, a’r eironi nad ‘tanio blancs’ wnaeth Al yn y diwedd. Llwyddodd i greu drama oedd yn cynnwys y balans cywir o hiwmor a thristwch. Dyma ddrama werth ei gwylio! Llio Mai


22 ...Adolygiadau

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

Craciau gan Bet Jones

Gig y Ddawns Ryng-golegol I ddechrau, mae’n rhaid i mi bwysleisio pa mor wych oedd lein-yp gig y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth eleni! Y bandiau a oedd yn chwarae oedd Yr Eira, Kizzy Crawford, Jessop a’r Sgweiri, Geraint Løvgreen a’r Enw Da ac Y Bandana. Agorodd y gig efo Yr Eira, ac roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau – roedd y caneuon yn fywiog a phrofiad yn amlwg gan yr aelodau, er eu bod nhw’n fand newydd. Dyma’r tro cyntaf i mi weld Kizzy Crawford yn perfformio, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oedd hi’n beth oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl. Roedd hi’n unigryw, gan newid offeryn ar ôl y rhan fwyaf o’i chaneuon, gan amrywio o gitâr acwstig, i ffidil, i gitâr trydan. Wedi dweud hynny, roedd hi’n siarad efo’r technegy-

dd sain yn aml rhwng penillion, yn cwyno nad oedd y balans sain yn iawn, ac roedd hynny’n tynnu oddi ar naws y perfformiad. I fi, uchafbwynt y gig oedd Jessop a’r Sgweiri. Dyma act hollol wahanol i mi erioed ei weld o’r blaen. Yn eu siwtiau smart, roeddwn i’n teimlo fel fy mod wedi camu’n ôl i’r chwedegau, ac yn gwylio rhyw fath o ‘The Beatles’ Cymraeg. Roedd egni’r prif leisydd (Rhys Gwynfor) yn wych, ac roedd o’n ychwanegu rhyw swyn hollol unigryw i’r band. Roedd eu gwylio nhw fel chwa o awyr iach, ac yn lot o hwyl! Glywais i fod tships yn cael eu gwerthu y tu allan i’r neuadd, felly gwaetha’r modd, mi gollais i Geraint Løvgreen yn gyfan gwbl! Mae Y Bandana yn ad-

nabyddus am wneud pethau ychydig yn wahanol yn eu gigs, ac wrth gwrs, roedd rhaid gwneud rhywbeth ar gyfer y gig yma! Agorwyd y set efo ‘Siwgwr Candi Mêl’ ond wrth edrych ar y llwyfan, sylweddolais fod Gwilym wrth y drymiau, Robin ar y gitâr fas, ac yna Siôn yn chwarae’r gitâr drydan a chanu! Roedd gwylio’r band yn eu safleodd newydd yn hollol bizzare, ac roedd yn argoeli fel set dda iawn. Biti ei bod hi’n amser i fysiau Prifysgol Bangor adael bryd hynny, ar ôl clywed un gân yn unig! Manon Elwyn

APOLYGIAD: Magic Piano Mae’r ‘ap’ hwn yn debyg iawn i Guitar Hero, ond mae Magic Piano ar gael ar eich ffôn neu’ch iPad! Mae’n rhad ac am ddim, ac yn cynnwys nifer fawr o ganeuon, o Mozart i Justin Bieber! Beth bynnag yw eich chwaeth personol chi, mi fydd rhywbeth i’ch gweddu yma, a chyn hir, byddwch yn gallu chwarae’r gân efo’ch llygaid wedi cau ar Magic Piano. Mae tair graddfa ar gael i chwarae’r caneuon, sef ‘Hawdd’, ‘Canolig’, ac ‘Anodd’. Y gorau’r ydych chi, y mwyaf o sêr y cewch chi yn y raddfa honno. Gall y gêm fod yn addictive iawn ar adegau, gan fod lefelau yn rhan ohoni, ac yr uchaf eich lefel, y mwyaf o ganeuon sydd ar gael! Manon Elwyn

Ar ganiad y ffanffer yn Seremoni’r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gwraig o’r enw Bet Jones, o Rhiwlas ger Bangor, a gododd ar ei thraed a chipio’r wobr am ei nofel dywyll, Craciau. Stori drychineb yw Craciau sy’n dilyn hanes trigolion ardal Llangefni, Ynys Môn, â’r broses ddadleuol, “ffracio”, yn gefndir i’r cyfan. Dechreua’r nofel ddyddiadurol fore Sul, Mawrth 29 (ni nodir blwyddyn) gydag Ifor a Mair. O un i un, cyflwynir y prif gymeriadau, bob un â’u llinyn storïol cymhleth eu hunain. Fodd bynnag, gwelwn yn raddol y cymeriadau’n dod at ei gilydd wrth i’r stori fynd rhagddi ac, â cheisio peidio â rhoi’r gêm i ffwrdd i’r rheiny sydd eto i ddarllen y nofel, gwelir pob is-blot yn dod at ei gilydd a’r naill gymeriad yn dod ar draws a’r llall. O ganlyniad i’r ffracio mae daeargryn yn taro’r Ynys, sy’n cael effaith ar bob cwr ohoni yn raddol. Pryder yr awdurdodau yw’r Atomfa, sydd mewn perygl o ffrwydro. Mae hynny, yn ogystal â’r holl ôl-gryniadau a deimlir yn ddigon i’r awdurdodau orchymyn pob un adael Ynys Môn. Mae’r stori’n symud yn gyflym iawn (mae’r holl stori’n digwydd dros gyfnod o dridiau’n unig), ac mae’r penodau byrion (pob un â’i amser penodol) yn effeithiol iawn trwy roi synnwyr i’r sawl sy’n darllen o dempo cyflym y digwyddiadau. Mae gan y teitl ddau ystyr, sef craciau llythrennol wrth i’r ddaear gael ei hollti gan y broses ffracio, a’r craciau haniaethol a ymddengys mewn cymdeithas a pherthynas wrth i’r cymeriadau orfod dygymod â sefyllfa o ddinistr a phanig eithriadol. Mae’n stori sy’n dychryn rhywun wrth ei darllen, o ystyried bod gwir bosiblrwydd y bydd ffracio yn digwydd (nid, efallai, ar Ynys Môn ond mewn man arall) ac mai daeargrynfeydd a dinistr fyddai canlyniad hynny. Dyma nofel, felly, sy’n cadw’r darllenydd ar flaenau ei draed drwyddi. Beirniadwyd hi gan rai am fod yn rhy ystrydebol ei chymeriadau, a’i stori’n rhy rhagweladwy. Serch hynny, mwynheais i ei darllen yn fawr, a methais â’i rhoi i lawr sawl tro, sy’n arwydd o lyfr da i mi bob tro. Byddwn yn annog unrhyw un i’w darllen, oni fyddai am ddawn dweud stori’r awdur yn unig. Siôn Elwyn Hughes



24 ...Cornel Creadigol

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

...Cornel Greadigol Cornel greadigol sylweddol arall - diolch i bawb y mae eu gwaith nhw’n ymddangos yma. Cofiwch ein bod ni wastad yn chwilio am fwy o bobl i gyfrannu felly anfonwch unrhyw beth creadigol at weue0f@bangor.ac.uk.

Eira

Yr Ysgwrn

Daethost yn dawel un noson gan baentio’r holl wlad yn wyn, dan dy glogyn fe guddiaist bob mynydd, pob afon, pob coeden, pob llyn.

Lle bu’r mieri yn lleibio’r muriau, gwynnu o hyd a wna’r hen, hen gnydau, ac wrth weld ystôr yr ysguboriau a’r llwyni irion mor llawn o eiriau, fe wn y gwelaf finnau – draw acw ryw un hen arwr yn trin ei erwau.

Gyda’th dlysni daeth distawrwydd, yn rhyfedd, llonyddodd y byd, yna daeth sŵn a miri’r plant yn prysur fwynhau eu gwynfyd.

Gruffudd Antur

Chwipiodd y gwynt yn ddi-baid, chwyrliodd dy blu i bob man, fe dyfaist fesul modfedd, gan rewi’r wlad â’th gusan. Fe drodd yr hwyl yn adfyd, newidiaist ein byd mewn amrant, rhoddaist rwystr i bob cerbyd a’n caethiwo’n dy ogoniant. Er clyfrwch ein technoleg ni lwyddodd neb hyd hyn, i dewi stŵr y bobl, ond ti, yn dy wisg o wyn. Llio Mai

Nid myfi Paid â ’ngorfodi i ymhelaethu Ar bwy o’n i cyn dod i’r fan hyn. Gad i’r cyfrinacha ddiflannu’r Tu hwnt i’r cymyla gwyn. A gad inni yfed un arall, Un sydyn – cyn i’r bar gau, Wedyn gad inni ddawnsio’n feddw Ar y Sgwâr am hanner ’di dau. A paid â phoeni am bwy ydw-i. Paid â phoeni am bwy dwi ’di bod – Am mod i’n gwybod yn bendant, cariad: Yn gwybod pwy dwi isio bod. Elis Dafydd

A feddo gof / Paradwys ffŵl #2 Fe anghofiwn amdanat pe gallwn: Dad-gerdded hen lwybrau A hau hadau glaswellt wrth ’mi fynd; Ll’nau ôl ein teiars oddi ar y lôn, Cyn llosgi’r llythyra a’r gusan ola’, A chladdu’r atgofion ar waelod yr ardd. Fe laddwn y defnyn olaf o’r cariad Sydd gen i ar ôl atat ti, Ac fe dalwn brifardd i’w farwnadu’n iawn. Fe awn i’r dafarn wedyn, i yfed dŵr A dweud ffarwel, A throi o gwmpas dipyn i wneud yn siŵr Fod y gwydrau fu’n dal Ein llwncdestunau ni Wedi’u hel. Pe gallwn wneud hynny, Efallai y gallai Fy meddyliau dy osgoi, Ond mae’r drws at Aberhenfelen Yn gwrthod cloi. Elis Dafydd


...Cornel Creadigol... 25

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

...Cornel Greadigol Mwya’r brys, mwya’r rhwystr Blwyddyn Damia! Un arall! Pam fod tractors yn teimlo’r angan i fod ar y lôn ar adega’ gwiriona’ a phrysura’r d’wrnod? Neu pam fod ffermwyr yn teimlo’r angen i yrru tractors ar adega’ gwiriona’ a phrysura’r d’wrnod? ’Mond chwartar i naw ’di hi, a ma’n nhw’n meddwl mai nhw bia’r ffordd! Wel … tydan nhw’m yn dallt fod gen i fab neu ferch ar y ffordd i’r byd ’ma unrhyw funud, ac fy mod i’n debygol IAWN o golli Heulwen yn rhoi genedigaeth os na wneith y crinc dynnu i un ochr, neu droi yn y troead nesa’. Ty’d ’laen, ’nei di! Dw i ar biga’ drain isio cyrra’dd y ’sbyty, ac ar biga’ drain i w’bod sut ma’ Heulwen - a’r babi! Ydyn nhw’n iawn, tybad? Gobeithio wir bod y nyrsys ’na’n edrych ar eu hola’ nhw’n iawn. Ma’ ’na bob matha’ o straeon yn y papura’ newydd dyddia ’ma … na, dwi’m am feddwl am betha’ fel ’na. Dim tan dwi’n g’wbod eu bod nhw’n iawn be’ bynnag, a fy mod inna’ wrth eu hymla’ nhw’n edrych ar eu hola’ nhw’n iawn. Be os mai hogyn fydd o? Gwion? Eilir? Dyfan? Ella y dyla’ Heuls a fi fod ’di meddwl fwy am enw call iddo fo, neu hi, cyn heddiw … be am hogan? Catrin? Elin? Delyth? Dim clem o gwbl. Ma’ mam ’di sôn y bysa’ hi’n licio’r enw Tegid ar hogyn, a Nel ar hogan. Ond ddudish i wrthi fod Tegid rhy hen ffasiwn a Nel yn swnio fatha enw ma’ pobol yn rhoi ar gi dyddia’ ma. Do’dd hi’m yn amused. Ond ’na ni de, fel ’na fuodd mam ’rioed. Un anodd i’w phlesio. Unllygeidiog ar y naw. Dw i’n cym’yd dim sylw ohoni erbyn hyn.

newydd

***

Tyfodd y bachgen o bentref y Rhos Yn ddyn yn ymladd gefn trymedd nos

Diolch byth! Ar ôl sylweddoli fod na res HIR o geir tu ôl iddo fo, ma’r tractor o’r diwadd ’di tynnu i’r ochr. Awê. Be di speed limit fa’ma? Di’o otch? Am heddiw lly … unrhyw eiliad a fydd y bych yma! Fedra i’m colli hyn. Pam fod rhaid i mi fod yn gwaith pan ges i’r alwad? Pum milltir o’r ’sbyty, neu fwy ella. Dw i’m yn hollol sicr, dwi ’rioed ’di ystyriad pa mor bell di’o, dw i ’rioed ‘di bod angan mynd yna ar frys oblaen, diolch byth. Lle ma fy ffôn i? O, dyma fo. Ar y dashboard. Ydw i am feiddio sbio arno fo? Gan fy mod i’n g’neud ymhell dros y speed limit o chwe deg … chwe deg pump, saith deg, wyth deg … rhaid i fi sbio arno fo, be os o’s ’na r’wbath ’di digwydd? R’wbath ’di mynd o’i le? Pa mor bell ydw i ’wan? Dau, dri munud? Ydw i am allu disgw’l? *** O! Wela i’r ’sbyty o bell. Fydd rhaid i mi roi ’nhroed lawr, jyst tan dw i’n ’gosach. Metra’ i ffwrdd ’dw i ’wan. Dal heb sbio ar fy ffôn. Dwn i’m be ’na’i os di Heuls ’di cal y babi … crio mewn llawenydd o ga’l bod yn rhan o deulu newydd, ta crio mewn tristwch fy mod i ’di colli’r enedigaeth? Dyma ni, ’di ffeindio’r lle agosa’ i barcio at y brif fynedfa, dwi’n meddwl. Neu … ydi’r car ’na’n fanna’n mynd allan? Damia, newydd fynd yna mae o. Crinc. Dw i jyst am ddiffodd yr injan a rhedag am fy mywyd. Manon Elwyn

Y Tymhorau

Y byd yn deffro, a’r blodau yn teyrnasu, nes cysgu eto.

Haul crasboeth, cynnes, a hufen iâ blasus, oer, yn bwll ar y llawr.

Coed yn drwm gan fes, a’r wiwer yn prysur hel, cyn oerni yfory.

Plu eira’n dawnsio, dafnau o atgofion haf yn rhewi’n galed. Llio Mai

Eisteddai’r henwr, rywbryd tua saith Yn ei gadair freichiau, ac aeth ar daith: Dychwelodd i fro ei febyd gynt — I’r fro lle dechreuodd ar ei hynt. Cyrhaeddodd adref un nos Galan oer, A llowciodd ei fwyd dan olau’r lloer. Ond fore trannoeth, heb rybudd na chliw, newidwyd ei fywyd: ‘Your country needs you!’

Dros ei ‘wlad’, dros ei ‘bobl’, dros dd’fodol ei blant, Ond sylwodd fod milwr yn un o blith cant. Gwyddai heno, wrth edrych drwy’r glaw Ar atgof o’r ffosydd, y llaid a’r baw, Fod teulu’n ei ddisgwyl ar ben draw’r ffôn Neu gyfaill neu ddau i fyny’r lôn. Ond un o’r rhai lwcus, yn wir, ydyw ef: Collwyd ei ffrindiau heb ddim, dim ond llef. Ac wrth i’r lliwiau ffrwydro dros y byd, Cofiodd y rheiny sy’n gorwedd yn fud. Siôn Elwyn Hughes

Tywod (i B.M.) Oer yw sgrechian gwylanod. – Oer yw’n tro Ar ein traeth diddarfod. Maen nhw’n dweud fod mynd a dod Yn tewi yn y tywod. Elis Dafydd


...Ffasiwn

26 Ffasiwn ...

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

Ffrogiau Gloddest... Gyda’r Gloddest yn agosáu, mae hi’n amser meddwl am wisg sy’n mynd i blesio ar y noson! Dyma ddetholiad o’r ffrogiau sydd ar gael ar y Stryd Fawr dros dymor y Nadolig:

Topshop

Ffrog Felfed Lliw: Pewter £ 38

Ffrog Midi Lliw: Aur £ 36 Ffrog melfed gyda gleiniau Lliw: Aml-liw £ 68

Ffrog wen ddisglair Lliw: Gwyn ac Aur £65 Miss Selfridge

Gan Holly Gierke a Fflur Williams

Ffrog goch gyda gleiniau Lliw: Coch £50 ASOS

Siopau Eraill Ffrog unlliw gydag ychydig o fanylder Lliw: Nude £40 Warehouse


agor ddydd Llun i ddydd L O O K A C H U Ar Mercher rhwng 11-5:30!

Os nad ydych wedi bod yno yn barod , pam na ewch i fusnesu yn siop ‘Lookachu’ tro nesaf y byddwch ar eich teithiau o gwmpas Bangor? Wedi ei leoli yn dwt rhwng Mikes Bites a thafarn y Greek , digon hawdd yw mynd heibio’r siop fechan heb roi fawr o sylw iddi , ond cewch eich plesio gan amrywiaeth fendigedig o ddillad a dodrefn retro gwreiddiol , am brisiau rhesymol dros ben , gyda disgownt o 10% i fyfyrwyr! Yn gwerthu brandiau adnabyddus gan gynnwys Levi’s, Dr. Martens a Pop Boutique .

Estyniadau gwallt plu ar gael .

Dathlu ei phen-blwydd yn un oed ar y 1af o Ragfyr.

...Ffasiwn

Ffasiwn ... 27

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013





...Chwaraeon 31

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

Rhyng-gol: Y Geltaidd v Y Cymric Er y pennau mawr ac ambell feddwyn, llwyddodd merched Y Cymric a merched Y Geltaidd chwarae gêm rygbi 7 bob ochr safonol iawn i dorf fawr a ddaeth i’w cefnogi ar yr 2il o Dachwedd yn Aberystwyth. Roedd y gêm yn agos iawn gydag un neu ddau o unigolion yn serennu. Sgwad Y Cymric: Elin Royle (c), Catrin Manon Jones, Awen Mair, Grisial Môn Pugh, Mari Jones, Llio Meleri Jones, Ruth Jones, Carwen Richards, Betsan Williams. Rhoddodd Mac Jones, hyfforddwr Y Cymric, dîm cryf a chyflym ar y cae. Y Geltaidd

sgoriodd gyntaf, gyda rhediad hyd hanner y cae. Ar ôl y sgôr cynnar hwn ’doedd ond un dewis i dîm Y Cymric, sef i godi'r tempo. Sgoriodd Y Cymric eu cais cyntaf wrth gychwyn o’u llinell 22m eu hunain, gan ledu'r bêl i’r asgell at Llio Meleri a lwyddodd i dirio'r bêl o dan y pyst. Wrth dderbyn y gic i ail ddechrau'r chwarae, llwyddodd Catrin i ddal pêl uchel ac dadlwythodd i Bestan. Cadwodd y tîm eu pennau, gan lwyddo i adeiladu platfform da i’w hunain. Ar ôl cwpl o gymalau rhoddodd Carwen bas wych i Elin a sgoriodd ar yr asgell chwith. Cychwynodd Carwen yr ail hanner gyda chic hyfryd wedi ei mesur yn berffaith. Ni chafodd

Y Geltaidd lawer o feddiant wedi derbyn y gic wrth i’r Cymric eu wynebu’n syth yn amddiffyn! Ar ôl holl ymdrech merched Y Geltaidd i ddod allan o’u 22m, cafwyd rhyng-gipiad gan Ruth a thiriodd y bêl o dan y pyst. Erbyn hyn, roedd y gêm yn hynod unochrog, gyda’r sgôr yn cyrraedd 15-5. I rhwbio halen i’r briw, rhedodd Elin yn wych o’i llinell gais ei hun at linell gais Y Geltaidd gan sgorio cais unigol. Sgoriodd Y Cymric unwaith eto, ond gorffennodd y gêm gyda chais gysur i’r Geltaidd, a wnaeth y sgôr terfynol yn 25-10. Yn y pen draw, Y Cymric oedd â’r tîm cryfaf a hynny heb os nac oni bai. Buddugoliaeth haeddiannol i Fangor!

Gêm 1: Cymru 15 24 De Affrica Sgorwyr Cymru: L Halfpenny (5P) Wrth wynebu’r ail dîm gorau’r byd, doedd Cymru ddim i weld fel petaent yn barod ar gyfer cyfres yr Hydref. Bu’r gêm hon yn araf a gwallus. De Affrica oedd yr unig dîm a sgoriodd gais, a’r Cymry’n methu â chadw meddiant. Rhoddwyd eu ffydd i gyd unwaith yn rhagor yn nhroed dde Leigh Halfpenny. I waethygu pethau, cafwyd sawl anaf a derbyniodd Gethin Jenkins garden felen. Gêm 2: Cymru 40 6 Yr Ariannin. Sgorwyr Cymru: L Halfpenny (4P, 4C), G North (1T), T Faletau (1T), K Owens (1T) Erbyn yr wythnos hon, roedd Cymru wedi deffro ac yn barod i ymladd. Er iddynt golli ambell chwaraewr allweddol, llwyddodd Cymru i sgorio cais ar ôl cais, gyda Halfpenny yn dal i gicio’r pwyntiau drosodd. Chwaraeodd Yr Ariannin gêm galed

yng nghanol cae, a phrofodd hyn Allen, a oedd yn dathlu ei gap cyntaf, i’r eithaf. Gwnaeth yn wych i ymdopi â’r pwysau. Yn ogystal â dathlu sgôr Cymru, roedd y dorf a’r garfan yn dathlu llwyddiant Gethin Jenkins ar gyrraedd ei 100fed cap. Fe yw’r pedwerydd chwaraewr i wneud hyn dros Gymru. Gêm 3: Cymru 17 7 Tonga. Sgorwyr Cymru: L Halfpenny (2C, 1P), O Williams (1T), A Beck (1T) Cerddodd tîm ifanc a dibrofiad Warren Gatland allan i’r cae gyda theimlad o hyder ers eu buddugoliaeth yr wythnos gynt. Efallai eu bod nhw ychydig yn orhyderus. Nid oedd y perfformiad yn un gwych ond buon ni’n ddigon lwcus i ddianc gyda’r fuddugoliaeth. Cafodd nifer o gapiau newydd eu hennill yn y gêm hon, gan Owen Williams, Hallam Amos a Rhodri Williams. Gêm 4: Cymru 26 30 Awstralia. Sgorwyr Cymru: L Halfpenny (1C, 2P),

D Biggar (1C, 1P), G North (2T), Rh Priestland (1P) Er y sgôr anffodus, does dim dwywaith mai hwn oedd perfformiad gorau Cymru drwy gydol y gyfres. Cafwyd ambell benderfyniad anghywir gan y chwaraewyr ac ambell benderfyniad gwirion gan y dyfarnwr, ac efallai mai dyna gollodd y gêm i ni - pwy â ŵyr? Mae’n deg dweud fod pob un o’r Cymry’n gwybod yn iawn fod y bás yna ymlaen..! Roedd hi’n gêm agos a chyffrous ac er mai colli oedd ein hanes, mae’r sgôr yn profi bod Cymru’n cryfhau ac yn barod i ddringo’r rhengoedd ac, o bosib, maeddu Seland Newydd yn y gemau i ddod yn y dyfodol. Enwyd hyfforddwr Cymru a’r Llewod, Warren Gatland yn Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Hyfforddi’r DU 2013.

Tomos Jones

Parhad o’r dudalen gefn...

Holi Heledd

1. Enw llawn? Heledd Angell Davies 2. O ble wyt ti’n dod? Aberangell 3. Pa gamp wyt ti’n chwarae? Pêlrwyd 4. Beth wyt ti’n ei astudio ym Mhrifysgol Bangor? Sport, Health and Exercise Science 5. I ba dîm wyt ti’n perthyn? Tîm Prifysgol Bangor / Machynlleth 6. Safle? WD (Wing Defence) / GA

Pigion... Clwb Pêl-droed UMCB gan Gethin Lewis Green

Eleni, mae Clwb Pêl-droed UMCB yn cystadlu yn y gynghrair Sul leol, ac mae’r myfyrwyr wedi dechrau’r tymor ar dân! Hyd yn hyn, maent wedi chwarae 6 gêm, gan ennill 5 ohonynt. Bu’r tîm yn anlwcus o golli un gêm i ffwrdd yn erbyn Valley FC, sydd ar frig y gynghrair a heb golli gêm y tymor hwn, hyd yn hyn. Gêm gwpan oedd her gyntaf y tîm, i ffwrdd yn erbyn Adelphi (Amlwch). Enillwyd y gêm hon 0-1. Ers hynny, mae’r bechgyn wedi cael rhediad da yn y gynghrair ac wedi trechu Tregarth ddwywaith (0-5 a 7-2) cyn maeddu Bro Lleu (Penygroes) 7-1 ac ennill 2-3 yn erbyn Victoria Bethesda mewn gêm agos a chyffrous. Yr unig beth negyddol oedd colli gêm 4-2 yn erbyn Valley. Serch hynny, dangosodd dîm UMCB ddigon o gymeriad yn y gêm hon, a bu’n yn anlwcus i fethu cael o leiaf bwynt yn eu herbyn. Braf yw gweld y tîm yn gwneud yn dda ac yn ymarfer mor galed - mae’r canlyniadau yn profi hynny. Rwyf wedi pwysleisio ers dechrau’r tymor mai agwedd a chymeriad fydd y nodweddion pwysicaf i’r tîm y tymor hwn er mwyn bod yn llwyddiannus. Gobeithiwn barhau yn yr un modd drwy gydol y tymor. Mae gan UMCB ddwy gêm arall cyn egwyl y Nadolig, sef y gêm gwpan adref yn erbyn Bro Lleu a’r gêm gynghrair i ffwrdd yn erbyn Treetops (Benllech).

Y Cymry’n cyfranogi gan Carwen Richards

Braf yw gweld cynifer o aelodau UMCB yn cymryd rhan yn gyson mewn clybiau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol. Dylid talu sylw’n benodol i’r merched hoci, sydd eleni yn ffurfio 1/5 o garfan Clwb Hoci Prifysgol Bangor. Mae’r tîm yn chwarae yng Nghynghrair Menywod Gogledd Cymru ar Sadyrnau ac yng Nghynghrair BUCS bob Dydd Mercher. Ymfalchïwn yn eu llwyddiant hyd yma.

(Goal Attack) 7. Dywediad? If a job’s worth doing, it’s worth doing well! 8. Pwy oedd eich ysbrydoliaeth i gymryd rhan yn y gamp? Fy hyfforddwr/ Athrawes pan oeddwn yn yr ysgol 9. Dy arwr(es)? Jessica Ennis 10. Oes unrhyw arferion (habits) Uchod: Lowri, Llio, Carwen, Mared a Sioned gennych cyn chwarae? gyda’u cyd-chwaraewyr. Yn absennol mae: Leusa, Clicio bysedd! Rhiannon, Chloe, Beca a Ceris.


32 ...Chwaraeon

Y LLEF | Rhifyn y Nadolig 2013

...Chwaraeon

GEMAU RHYNGWLADOL YR HYDREF Tomos Jones

yr Hydref hwn. Eleni, wynebodd Warren Gatland o chwaraewyr newydd ennill eu capiau cyntaf ac dipyn o her drwy gydol y gemau gydag anafiadau i ddangos eu doniau. Hanes y tîm yr Hydref yma Ac eithrio colli sawl chwaraewr profiadol, cafodd lu yn ei rwystro wrth ddewis y tîm. Ond, daw eto oedd ennill dau, colli dau. tîm rygbi Cymru gyfres galed ond llwyddiannus haul ar fryn a rhoddodd hyn gyfle i un neu ddau Parhad ar dudalen 31...

Ar flaen y gad! Gruffydd John Williams Mae llwyddiant dau fachgen o Gymru sydd erbyn hyn yn fyd enwog, Gareth Bale ac Aaron Ramsey, yn rhywbeth heb ei ail. Erbyn heddiw, Bale yw un o’r chwaraewyr pêl-droed mwyaf enwog yn y byd ac mae e’n cael ei dalu bron i £300,000 yr wythnos. Wedi gweithio ei hun i fyny o dîm i dîm, mae e nawr yn chwarae i un o dimau enwocaf a buddugoliaethus y byd, sef Real Madrid. Dylid talu sylw hefyd i Aaron Ramsey sydd nawr yn chwarae i Arsenal.

Cafodd ei brynu gan Arsenal o Gaerdydd yn ddiweddar, ac erbyn hyn fe yw un o chwaraewyr mwyaf disglair y gynghrair. Ramsey yw’r chwaraewr ieuengaf i fod yn gapten ar ei wlad, ac mae’n parhau i fod yn gapten cadarn sydd yn ysbrydoli chwaraewyr ifanc eisiau gwneud yr un peth. Mae’r ddau dal yn ifanc iawn ac mae llawer o fechgyn a merched ifanc wedi cael eu hysbrydoli ganddynt i fod yn fyd enwog ac i sicrhau bod y byd yn adnabod y Cymry, a hynny am resymau da!

Arolwg 2013 ar Chwaraeon Ysgol Llio Meleri Jones Cafodd canlyniadau'r Ystadegau Swyddogol diweddaraf a gynhyrchwyd gan fudiad Chwaraeon Cymru eu rhyddhau ddydd Mercher, 9fed o Hydref, 2013. Y prif bwyntiau a gafodd eu trafod oedd pa ganran o ddisgyblion sydd yn cymryd rhan o fewn chwaraeon ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â faint o amser a dreuliwyd mewn gwersi chwaraeon o fewn yr ysgolion. Yn sgîl hyn, daeth i’r amlwg fod 40% o ddisgyblion wedi ‘gwirioni â chwaraeon’ ac yn cymryd rhan fwy na theirgwaith yr wythnos. Ond, o fewn y ganran hon, y bechgyn ddaeth

i’r brig gyda 44% ohonynt yn fwy tebygol o fod wedi gwirioni â chwaraeon, o gymharu â 36% o ferched. Cawn wybod bod ysgolion yng Nghymru’n darparu cyfartaledd o 101 o funudau o Addysg Gorfforol Gwricwlaidd yr wythnos ar draws pob un o flynyddoedd yr ysgol. Nodwyd fod disgyblion Cyfnod Allweddol 2 â chyfartaledd o 106 o funudau'r wythnos, tra bod disgyblion Cyfnod allweddol 3 gyda chyfartaledd o 109 o funudau’r wythnos. Sylwir bod y munudau yma wedi gostwng yn sylweddol erbyn Cyfnod Allweddol 4 i 73

o funudau. A yw’n deg fod plant sydd yng nghanol eu TGAU yn cael llai o lawer o wersi ymarferol? Ydy hyn yn rhesymol gan eu bod â llawer o waith i’w wneud, yntau oes angen mwy o funudau ar gyfer y disgyblion hyn gan eu bod o dan straen a bod amser hamdden yn hanfodol i’w llwyddiant? Yn gyffredinol, mae 92% o ddisgyblion yn mwynhau Addysg Gorfforol, a 60% o ddisgyblion yn datgan eu bod yn mwynhau chwaraeon ‘llawer’. Dengys hyn fod llawer o ddisgyblion yn cymryd rhan ac yn wirioneddol mwynhau'r hyn maent yn ei wneud. Ond, yn sicr gallwn godi’r canran o’r rhai hynny sydd yn mwynhau chwaraeon yn ‘fawr’, ac annog pawb i gymryd rhan hyd yn oed mwy.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.