Rhifyn y Glas 2013

Page 1

Papur-newydd Cymraeg Myfyrwyr Bangor

Am ddim Rhifyn y Glas 2013

@y_llef

Llef Bangor

CYSTADLEUAETH!

Trowch i dudalen 16 i roi cynnig ar ein cystadleuaeth arbennig am gyfle i ennill dau docyn i weld sioe, a llyfr o farddoniaeth gyfoes!

DIWEDD CYFNOD: Wyn Thomas yn dychwelyd i ddarlithio

BUDDUGOL: Buddugoliaeth Plaid Cymru ym Môn

Cyllid i fyfyrwyr Cymru dan fygythiad

Pwy ’di pwy?: Dewch i ’nabod eich cynrychiolwyr yn yr Undeb!

Llio Mai

CYMRU’N ei cholli?: A ydi’r tîm cenedlaethol yn wedi colli’u tân?

Ers codi ffioedd dysgu prifysgolion i £9,000 ar draws Cymru a Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau na fydd hyn yn effeithio myfyrwyr Cymru. Ond a yw’n deg talu hyd at £5,500 o ffioedd dysgu myfyrwyr sy’n penderfynu mynd i astudio y tu allan i Gymru? Mae dadl deg o

blaid ac yn erbyn. Credai rhai mai prif bwrpas lleihau’r ffioedd dysgu i fyfyrwyr Cymraeg yw eu hannog i astudio yng Nghymru fel eu bod yn fwy tebygol o aros yma i gael swydd , ac o ganlyniad, ceisio gwella economi’r wlad. Ond caiff yr arian hwn hefyd ei roi i fyfyrwyr Cymraeg sy’n mynd i astudio

dros y ffin yn Lloegr. Mae myfyrwyr ar hyn o bryd yn talu oddeutu £3,500 y flwyddyn o ffioedd dysgu, a’r Llywodraeth yn talu’r gweddill. Yn sgil hyn mae cryn bryder ynghylch y swm o arian o eiddo Llywodraeth Cymru sy’n cael ei golli i brifysgolion yn Lloegr. Parhâd ar dudalen 5


Golygyddol Mae’n bleser gen i gyflwyno rhifyn cyntaf tymor 2013-2014 Y Llef i’ch dwylo. Mae’r Rhifyn y Glas hwn yn llawn newyddion (o bethau a ddigwyddodd dros yr haf i straeon diweddarach, ac o straeon lleol i straeon dros y byd). Roedd y llynedd yn flwyddyn bwysig ac arwyddocaol yn hanes Y Llef - wedi cyfnod byr o fod yn segur, cododd Katharine Young Y Llef yn ôl ar ei draed, a dw i’n gobeithio y bydda’ i’n parhau â’r gwaith da y rhoddodd Katharine ddechrau arno. Hoffwn groesawu’r rhai ohonoch sy’n dychwelyd i Fangor i’r ail a’r drydedd (... a’r bedwaredd flwyddyn i rai!) a phob dymuniad da ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Hoffwn hefyd estyn croeso cynnes i’r Glas-fyfyrwyr, gan obeithio y bydd eich cyfnod ym mhrifysgol orau’r byd yn gyfnod llewyrchus a hapus! (Dw i’n siŵr y bydd yr ail a’r drydedd yn falch o’ch helpu yn hyn o beth!) Cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef - caiff ei gynllunio, ei ysgrifennu a’i ddylunio gan fyfyrwyr y Brifysgol, ac felly mae croeso i chi gyfrannu ato. Os oes gennych ddawn ysgrifennu, awydd bod yn newyddiadurwr neu os ydych yn awyddus i’n helpu mewn unrhyw ffordd arall (gall hynny fod yn trefnu hysbysebion, dylunio a chynnal y wefan a.y.y.b), cysylltwch efo fi neu aelod o dîm Y Llef i fynegi diddordeb. Byddem yn falch iawn o glywed gynncoh chi! Cyn gorffen, mae’n rhaid i mi ymddiheuro nad oedd modd cynnwys pob un o’r deunyddiau a baratowyd gan ein cyfranwyr a’n His-olygyddion oherwydd cyfyngder lle, ond mae’r arwyddion yn dda ar gyfer rhifyn 2 cynhwysfawr a helaeth tu hwnt! Mwynhewch, a chofion gorau!

Siôn Is-olygyddion: Is-olygydd cyffredinol Is-olygydd cyffredinol Is-olygydd Adolygiadau Is-olygydd Ffasiwn Is-olygydd y Gornel Greadigol Is-olygydd Yr Hadau Is-olygydd Chwaraeon Is-olygydd Chwaraeon

Diolchiadau... Dyma adran bwysig iawn i mi y tro hwn, gan i mi dderbyn cymorth gan gymaint o bobl gyda’m rhifyn cyntaf. Diolch i Katharine (y Cyn-Olygydd) ac i Trefor Alun (cyn-Olygydd arall) am eu cymorth parod yn fy rhoi ar ben ffordd. Diolch yn enwedig i’r cyfranwyr a’r is-olygyddion a fu’n fy helpu gyda rhoi’r Papur at ei gilydd (proses a gymerodd 13 awr yn y pen draw!). Dw i mor ddiolchgar iddynt am aros i helpu am gyhyd!

Cynnwys: Newyddion tud. 3-7 • • • • •

Theatr newydd Pontio (tud.3) Menter Iaith newydd Bangor (tud. 4) Cyllid myfyrwyr Cymru (tud. 1 a 5) Rhun ap Iorwerth (tud. 6) Amazon vs Y Lolfa (tud. 7)

Pecyn y Glas tt. 8-90 Yr Hadau tud.12-13 • •

Profiad Jennie Coppard Yr Archdderwydd Christine James

Adolygiadau tt. 15-16 Ffasiwn tt. 18-19 Cornel Creadigol tud. 20-21 Chwaraeon tud. 23-24

...Newyddion

Helo!

Carys Tudor Llio Mai Manon Elwyn Holly Gierke Elis Dafydd Rhys Dilwyn Jenkins Gethin Lewis Green Carwen Richards

...Newyddion 3

...Newyddion 2

Marathon Môn

Llŷr Titus Ar y nawfed ar hugain o fis Awst, rhedodd oddeutu pum cant o redwyr mewn marathon arbennig iawn ar Ynys Môn. Nid marathon cyffredin mohono chwaith, ond ultra-marathon. Mae hynny’n golygu rhedeg 135 milltir ar hyd llwybr arfordirol Môn dros gyfnod o dridiau, sy’n gyfystyr â rhedeg dros bum marathon cyffredin. Mae’r llwybr yn cynnwys tirwedd amrywiol, o dar-mac i draethau, ac er bod Môn yn enwog am fod yn ardal wastad, mae’r llwybr arfordirol yn fwy serth mewn mannau na llwybr marathon cyffredin sy’n her ychwanegol i’r rhedwyr. Mae’r marathon hwn yn cynnig her unigryw i unrhyw redwr ac mae’n her na ddylid ei hymgeisio heb brofiad helaeth o redeg. Gan fod y nifer o ymgeiswyr yn cael ei gyfyngu i bum cant i atal erydu’r llwybrau, gellwch fentro mai dim ond y rhedwyr gorau a oedd yn troedio’r llwybrau. Man cychwyn y marathon, neu’r Ring O’ Fire i roi’r enw lled-amherthnasol sydd gan greawdwr y marathon, James Bingham, iddo, oedd Caergybi. Y nod i’r rhedwyr oedd cyrraedd Amlwch erbyn diwedd y diwrnod cyntaf ac Aberffraw erbyn diwedd yr

ail, cyn cyrraedd Caergybi drachefn ar y trydydd diwrnod. Llwyddodd enillydd y marathon, Richard Ashton, i wneud hynny trwy redeg am 22 awr a 56 munud, gryn awr yn fwy nag enillydd y marathon yn 2012. Daeth Lowri Morgan, rhedwraig brofiadol a chyflwynydd teledu ar S4/C bob hyn a hyn, yn ail ymysg y rhedwyr benywaidd ac yn ddeuddegfed ymysg pawb. Cafwyd sypreis neis ar ffurf ymweliad gan Mr a Mrs William a Kate Windsor hefyd, er nad oedd y babi newydd yno i bawb gael syllu arno, mwya’r piti. Treuliodd y ddau awr ddifyr yn sgwrsio gyda gwirfoddolwyr, gwylwyr a’r rhedwyr, chwara’ teg iddyn nhw. Cred rhai mai dyma un o ymddangosiadau cyhoeddus olaf y ddau cyn iddynt adael Môn – trasiedi enbyd yn ôl bob tebyg. Bu’r marathon yn llwyddiant ac mae disgwyl iddo gael ei redeg y flwyddyn nesaf, ac er nad oes ffigyrau penodol ar gael, cred nifer y bu’r digwyddiad yn hwb i’r economi leol. Y gobaith yw y bydd y marathon yn dod yn gymaint o ran o galendr digywddiadau Môn â’r Sioe neu’r marathon arferol dros y bont.

Cyfranwyr: Tudur Dylan Jones Gruffudd Antur Llŷr Titus Lois Angharad Dion Davies Gethin Griffiths Jennie Coppard Elidyr Glyn Ash Kierans Nicola Pye Antony Butcher Rhys Taylor

Dadl am enw theatr newydd Pontio

Siôn Elwyn Hughes Mae Prifysgol Bangor yn dechrau dewis enwau ar gyfer rhannau o adeilad newydd Pontio yn barod am yr agoriad swyddogol yn hydref 2014. Er mai dim ond cynigion sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac mai cyfrifoldeb Cyngor y Brifysgol fydd gwneud y penderfyniad terfynol, mae un enw wedi achosi stŵr yn barod. Y brif theatr sydd wrth graidd y dadlau, gyda gwahanol garfannau o bobl yn pledio achos dau enw gwahanol. Mae’r actores enwog, Gaynor Morgan Rees, a llefarydd Cyfeillion Theatr Gwynedd, Ann Jones, yn brwydro i gael enw sylfaenydd Theatr Gwynedd (y theatr a oedd yn sefyll ble mae Pontio’n cael ei adeiladu heddiw) yn enw’r theatr. Theatr Wilbert Lloyd Roberts yw’r cynnig y rhydd y ddwy, gan roi cydnabyddiaeth i’w gyfraniad i fyd y theatr yng Ngwynedd, ac yng Nghymru. Dywedodd Ann Jones, ‘Oni bai am Wilbert Lloyd Roberts, fysa yna ddim Theatr Gwynedd. Fo ddaru gychwyn Cwmni Theatr Cymru a hyfforddi llu o actorion gan gynnwys Gaynor Morgan Rees, Cefin Roberts a Dyfan

Roberts. Mi fyswn ni’n siomedig iawn, iawn petai nhw ddim yn enwi’r theatr ar ôl Wilbert Lloyd Roberts. Mae Cyfeillion Theatr Gwynedd wedi bod yn brysur yn casglu enwau ar gyfer deiseb sy’n galw ar y Brifysgol i enwi’r theatr yn “Theatr Wilbert Lloyd Roberts”. Mae 100 o enwau ar y ddeiseb eisoes, a hynny wedi un diwrnod o ymgyrchu yn unig. Mae llythyrau wedi’u hanfon at y Brifysgol hefyd i geisio dwyn perswâd ar y Cyngor. Ffafrio Bryn Terfel

ac ym myd arloesi yng Nghymru gan gynnwys Wilbert Lloyd Roberts, a bydd y Brifysgol yn ystyried sut y gall y cyfraniadau hynny gael eu cydnabod, yn ogystal â chyfraniad ein harianwyr a’n noddwyr.” Theatr aml-bwrpas Yn ôl Pontio, bydd y theatr dan sylw yn theatr aml-bwrpas, ganolig ei maint ac yn gallu ‘cynnal dramâu yn Gymraeg ac yn Saesneg, syrcas, comedi, dawns, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth byd, gigs a llawer mwy’.

Yr enw mae Prifysgol Bangor yn ei ffafrio yw “Theatr Bryn Terfel”. ‘Mae’r seren opera o Wynedd, sydd yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor, yn enw mawr rhyngwladol yn y celfyddydau, ac mae eisoes wedi lleisio ei gefnogaeth i Pontio’, meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes. Ychwanegoddd yr Athro Hughes, “Mae’r Brifysgol yn cydnabod fod yna unigolion eraill sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y celfyddydau

Diwedd cyfnod i Wyn Thomas Llanast Ariannol yr Eist. Gen. Manon Elwyn Ers yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych fis Awst, mae cryn dipyn o ddryswch wedi bod rhwng pobl ifainc Cymru, wrth iddynt sylweddoli bod arian wedi cael ei dynnu allan o’u cyfrifon banc a’i roi yng nghyfrif stondinwr o’r Bala o’r enw Iola Edwards, yna gweld yr arian yn dychwelyd i’w cyfrifon gan yr un ddynes ddirgel, a chael yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun wedyn yn tynnu’r arian o’r holl gyfrifon banc unwaith eto. Dim ond y rhai a dalodd â cherdyn i fynychu Maes B a gafodd eu heffeithio, ac mae rhai yn poeni am y ffaith fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi gallu tynnu arian fel y mynnent o gyfrifon cannoedd o bobl heb orfod gofyn caniatâd, na hyd yn oed rhoi rhybudd.

Llŷr Titus Wedi bron i dair blynedd fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae Wyn Thomas yn rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn mynd yn ôl i ddarlithio yn yr adran Gerddoriaeth. Mae’n wyneb cyfarwydd i’r trwch o fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor gan ei fod wedi bod yn aelod blaenllaw o’r tîm a oedd yn ceisio, ac yn llwyddo, i’n denu yma i’r Brifysgol yn ystod diwrnodau agored. Ym mhob un o’i areithiau, a oedd yn canmol y Brifysgol a’i rhinweddau, roedd safle’r Gymraeg yn ganolog ac yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Yn sicr, o wrando arno’n siarad, yr oedd modd i unrhyw un weld a theimlo’i fod yn angerddol ynglŷn â’i swydd, ac nad

mater o gyflawni’r hyn a oedd ar ei swydd-ddisgrifiad oedd bod yno’n ei olygu iddo. Daeth i Fangor yn wreiddiol fel myfyriwr, ac wedi iddo raddio a threulio cyfnod fel Cynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Cymru, dychwelodd yma ym 1981 i ddarlithio yn yr adran Gerddoriaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n datblygu ac ehangu nifer y cyrsiau Cerddoriaeth a oedd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Aeth ati hefyd i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr a oedd yn astudio Cerddoriaeth fel rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O 2007 hyd 2010 bu’n Bennaeth Dysgu ac Addysgu Coleg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau. Yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-Gang-

hellor bu ar flaen y gad wrth sicrhau bod cyfleoedd ar gael i astudio drwy gyfrwng ein mamiaith. Bu’n hybu dwyieithrwydd ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol, ac ef oedd Pennaeth Strategaethau’r Brifysgol ar feithrin y Gymraeg a sut i’w hybu hi. Cafodd lwyddiant hefyd wrth ddatblygu perthynas y Brifysgol â’r gymuned a chwmnïau lleol. Yn wir mae’n hen law ar hynny wedi iddo gynnig cymorth gan yr adran Gerddoriaeth i fusnesau lleol yn y gorffennol. Arweiniodd hynny at y bartneriaeth gyntaf o’i math ym Mhrydain. Cafodd yr agweddau hyn o’i swydd eu crynhoi mewn un man gyda datblygiad Pontio ac nid yw’n fawr o syndod iddo ef fod yn rhan flaenllaw o’r prosiect hwnnw. Er ei fod yn ymddiswyddo

fel Dirprwy Is-Ganghellor bydd Wyn Thomas yn dal ati fel darlithydd yn yr adran Gerddoriaeth. Yn ôl llefarydd ar ran y Brifysgol ‘rhesymau personol’ sydd yn gyfrifol am yr ymddiswyddiad, ac aethant ati i ategu eu bod yn ‘hynod ddiolchgar iddo am ei gyfraniad sylweddol i’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-Ganghellor.’ Wrth gwrs mae ambell si ynglŷn â phwy fydd ei olynydd ond nid oes modd cadarnhau’r un ohonynt. Arhoswn yn eiddgar felly i weld pwy fydd y Dirprwy Is-Ganghellor nesaf, gan obeithio y bydd yn cadw’r safon ragorol y mae’i ragflaenydd wedi’i osod.


4 ...Newyddion

...Newyddion 5

Menter Iaith Newydd ym Mangor? Llio Mai

Yn sgil y Siarter Iaith a gyhoeddwyd eleni a ffigyrau’r Cyfrifiad diweddar oedd yn dangos bod y nifer sy’n siarad Cymraeg ym Mangor wedi syrthio 10% mewn degawd, o 45% yn 2001 i 35% erbyn 2011, mae bwriad o geisio sefydlu Menter Iaith ym Mangor. Pwrpas y Fenter Iaith fydd hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth a defnydd o’r iaith Gymraeg, yn ogystal ag ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Y nod yw creu rhwydweithiau a chydweithio gydag eraill i hybu’r Gymraeg, gan ystyried nodweddion unigryw y ddinas am fod natur ieithyddol a diwylliannol Bangor yn wahanol i weddill Gwynedd. Yn gorff cwbl anwleidyddol, dwy o gynghorwyr Plaid Cymru yn ninas Bangor sydd wedi bod yn

gweithio ar y cysyniad dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chymorth unigolion eraill. Mae gwaith ymchwil a thrafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda nifer o sefydliadau, sectorau a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ffurf gweithdy yng Nghlwb Pêl Droed Bangor am 7:00, nos Fawrth, 24 o Fedi 2013 i drafod y gwaith ymchwil a’r cynlluniau hyd yma. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ystod y noson ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr di-Gymraeg. Mae’r ddau gynghorydd Mair Rowlands (Ward Menai) ac Elin Walker Jones (Ward Glyder) yn awyddus i wahodd cymaint o bobl â phosib, cynrychiolwyr cymdeithasau a busnesau a sefydliadau lleol i’r cyfarfod. Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones: “Ry-

New ydd sbon o’r Lolfa

dyn ni’n awyddus i bwysleisio o’r dechrau mai cyfarfod cwbl anwleidyddol fydd hwn, a bod gwahoddiad i unrhyw un o ardal Bangor sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg i’r cyfarfod ar y 24 o Fedi. “Fel rhan o’r noson, bydd gofyn i bobl ffurfio grwpiau llai i drafod ar ffurf gweithdai, gan edrych sut y gellir hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn sectorau gwahanol megis addysg, swyddi, yr economi, bywyd teuluol, cyfleoedd cymdeithasol ac ati. Bydd Dafydd Iwan, Cadeirydd Hunaniaith yn annerch y cyfarfod ac yn cynnig cyflwyniad byr. “Ein gweledigaeth yw bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd bob dydd ym Mangor a bod pob dinesydd yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei dyfodol a’i ffyniant. Mae angen i’r Gymraeg ddod yn iaith gymdeithasol, naturiol fel bod y genhedlaeth

nesaf yn arddel balchder tuag ati i’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Walker Jones. nesaf yn arddel balchder tuag ati i’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Walker Jones. Yn ôl Y Cynghorydd Mair Rowlands: “Mae ein trafodaethau cynnar gyda Phrifysgol Bangor, gan gynnwys Canolfan Bedwyr, Urdd Gobaith Cymru, Grŵp Cymunedol Pobl Bangor, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, Pontio a’r Ganolfan Gydol oes wedi bod yn gadarnhaol. Rydyn ni’n awyddus i adeiladu rhwydweithiau a sicrhau cefnogaeth ariannol gan gydweithio ag eraill i hybu’r Gymraeg, gan ystyried nodweddion unigryw y ddinas.

£8.95

£8.95

£8.95

“Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith – boed yn siaradwyr Cymraeg, dysgwyr, siaradwyr di-Gymraeg, pobl ifanc, ymuno â ni. Bydd croeso gwresog i bawb sy’n mynychu Clwb Pêl Droed Bangor am 7:00, nos Fawrth, 24 o Fedi 2013,” meddai’r Cynghorydd Rowlands. Mae hwn yn gyfle gwych i gael lleisio eich barn am y Gymraeg yn eich ardal chi, ac i helpu i wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol.

£19.95

clawr meddal

D yd di ad ur on

Desg A4 £6.95 Addysg A5 £5.95 Poced £3.95 Ffeiloffaith £6.95

Gwasg fywiocaf Cymru!

Poster

(480 x 680mm)

£4.95

www.ylolfa.com Y Cynghorydd Mair Rowlands Y Cynghorydd Elin Walker Jones

Tanciau i’r Meddwon nid Tancardiau Carys Tudor Mae prif swyddogion yr heddlu yn galw am siambrau sobri (drunk tanks) i atal aflonyddwch sy’n cael ei achosi gan alcohol. Y syniad yw gosod meddwon sy’n achosi trafferth mewn celloedd i sobri ac yna’u gorfodi i dalu am gostau’r gofal. Dywed Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu fod problemau yfed yn cynyddu. Mae’r ymgyrch yn cael ei lawnsio i gyd-fynd ag wythnosau glas prifysgolion. Y gobaith yw y bydd cwmnïau preifat yn talu am gelloedd arbennig a gofal ar gyfer y bobl stwrllyd. Yna bydd y bobl hynny’n talu am eu gofal, ac nid y trethdalwr. Bydd y tanciau’n golygu bod mwy o gelloedd rhydd mewn gorsafoedd heddlu ar gyfer trafferthion eraill, ac nid pobl sy’n rhy feddw i edrych ar ôl eu hunain. Nid yw’r celloedd mewn gorsafoedd heddlu’n addas ar gyfer pobl feddw a phobl heb reolaeth drostynt eu

hunain. Byddai celloedd gan gwmnïau preifat yn golygu bod pobl feddw’n derbyn y driniaeth a’r gofal cywir, yn hytrach na gorfod sobri heb gymorth. Bydd y bobl feddw wedyn yn gorfod talu dirwy, yn ogystal â thalu am y cymorth a’r gofal maent wedi’i dderbyn. Bydd siambrau fel hyn i bobl feddw yn golygu y bydd llai o straen ar heddweision a gorsafoedd heddlu i ofalu am y bobl hynny, a mwy o siawns iddynt ddelio â materion pwysig eraill. Nid oes modd i heddwas gerdded i ffwrdd oddi wrth rywun sy’n rhy feddw i sefyll gan fod ganddynt ddyletswydd i ofalu am bobl. Er hynny, nid yw rhoi cymorth i rywun meddw yn ddefnydd gwych o wasanaethau’r heddlu. Byddai’r tanciau’n rhyddhau amser a chyfleoedd i heddweision daclo problemau eraill a sicrhau eu bod yn fwy actif yn y gymuned. Bydd y bobl feddw’n cael eu rhannu i gategorïau gwahanol – y rhai sydd wedi troseddu yn mynd i gell mewn gorsaf heddlu, y rhai sâl yn mynd i’r ysbyty a’r rhai sy’n

berygl iddynt eu hunain yn mynd i’r siambrau sobri. Mae siambrau sobri’n weithredol yn America ar hyn o bryd, yng Nghaliffornia. Mae’n debyg bod gwaith y ganolfan wedi bod yn andros o help i’r heddlu. Gadael y bobl feddw gyda’r cwmni y mae’r heddlu’n ei wneud, a’r cwmni’n cymryd drosodd wedyn – gwneud gwaith papur, gwaith gofal, a glanhau pan fo angen. Petai’r heddlu’n mynd â’r bobl hynny i gell yn yr orsaf, byddai’n cymryd dros awr a hanner i lenwi’r gwaith papur. Y ffordd hyn, mae modd i’r heddlu fod yn ôl yn actif o fewn pum deng munud. Mae alcoholiaeth yn broblem enfawr yn y Deyrnas Unedig. Mwy a mwy o bobl yn yfed yn drwm, ac alcoholiaeth yn creu problemau. Boed yn y cartref, mewn perthynas neu ar y stryd, mae alcohol ac alcoholiaeth yn effeithio ar lawer ohonom. Mae’r heddlu’n gobeithio y bydd y fenter hon yn helpu i leihau’r frwydr yn erbyn damweiniau, a phroblemau sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Cyllid myfyrwyr Cymru O’r dudalen flaen Llio Mai Yn ôl y sôn, roedd Llywodraeth Cymru wedi meddwl mai £7,000 fyddai cyfartaledd y ffioedd dysgu ar draws Cymru a Lloegr, cyn i’r mwyafrif o brifysgolion Lloegr, yn ogystal â Bangor, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Morgannwg gyhoeddi y bydden nhw’n codi’r £9,000 llawn. Roeddent hefyd wedi cyfrifo y byddai toriad o 35% yng nghyllid y prifysgolion yn talu am yr holl beth. Yn ôl ffigyrau a ganfuwyd gan Geidwadwyr Cymru, mae hyd at £15.3 miliwn yn cael ei roi i’r pum Prifysgol fwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr Cymraeg yn Lloegr (Caerfaddon, Bryste, Caerwysg, Caer a Lerpwl ), heb sôn am brifysgolion eraill. Hefyd, o ganlyniad i’r toriadau a wnaed i gyllid y prifysgolion dywedir fod torriadau wedi’u gwneud i grantiau dysgu, sy’n golygu fod rhaid i’r myfyrwyr rheini dalu mwy am eu cwrs. Oni ellir defnyddio’r £15.3 miliwn hwn i helpu prifysgolion ac economi Cymru yn hytrach na’i gynnig ar blât i brifysgolion Lloegr? Ers i’r polisi hwn gael ei roi ar waith mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n mynd i astudio y tu allan i Gymru wedi cynyddu, gyda chyfanswm o oddeutu 2,778 o fyfyrwyr israddedig o Gymru wedi cofrestru rhwng y pum prifysgol y soniwyd amdanynt uchod. Gan fod y ffigwr hwn wedi codi’n eithaf sylweddol ers dechrau’r polisi, oni ddylid ail-edrych arno i weld os yw’n cael ei weithredu yn y

ffordd fwyaf effeithiol. Mae hefyd wedi’i amcangyfrif yn y gorffennol bod cymaint â £50 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru wedi mynd i brifysgolion yn Lloegr, arian a fyddai fel rheol yn cael ei wario ar brifysgolion ac addysg uwch yng Nghymru. Oes modd cyfiawnhau polisi sy’n gadael prifysgolion Cymru dan anfantais tra’n defnyddio arian Llywodraeth ein gwlad i wneud elw i brifysgolion Lloegr? Wrth gwrs, nid oes modd i bob myfyriwr astudio’r pwnc sydd ganddynt mewn golwg yng Nghymru, ac felly mae’n rhaid iddynt fynd i brifysgol dros y ffin. Efallai bod hyn yn rhywbeth y dylai’r Llywodraeth a’r prifysgolion ei ystyried. Beth am gyfyngu’r cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n aros i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn unig, a defnyddio’r arian a fyddai fel arall wedi’i roi i brifysgolion Lloegr i helpu i ddarparu cyrsiau newydd yma yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, opsiwn arall fyddai lleihau’r swm o arian sy’n cael ei roi i fyfyrwyr sy’n mynd i astudio y tu allan i Gymru. Gall Llywodraeth Cymru leihau’r swm y byddent yn ei dalu i £3,500 gan adael £5,500 yn weddill i’r myfyrwyr eu hunain ei dalu. Am bob 3,000 o fyfyrwyr fyddai’n mynd i brifysgolion yn Lloegr byddai’r Llywodraeth yn arbed oddeutu £6 miliwn petai hyn yn cael ei weithredu. Mae £9,000 yn swm na all nifer o deuluoedd fforddio i’w dalu’n flynyddol, ac felly mae’r cymorth ariannol gan Lywodraeth

Cymru yn help mawr, ond unwaith eto, oes angen i gymaint o arian gael ei roi i brifysgolion Lloegr tra bo angen yr arian ar brifysgolion Cymru? Wrth gwrs, mae ochr arall i’r geiniog a dadl o blaid rhoi’r arian i fyfyrwyr waeth i ba brifysgol maent yn penderfynu ei mynychu. Byddai rhoi’r arian i rai myfyrwyr o Gymru a pheidio rhoi i rai eraill yn eithaf annheg. Os yw myfyriwr o Gymru’n penderfynu mynd i astudio i Loegr, mae dal yn fyfyriwr o Gymru, ac felly’n haeddu cael yr un cymorth ariannol gan y Llywodraeth â myfyriwr sy’n aros yma i astudio. Mae £9,000 yn swm mawr i’w dalu bob blwyddyn, ac o gofio’r amgylchiadau economaidd diweddaraf, oes angen creu mwy o ddyled i bob ifanc a’u teuluoedd? Byddai sawl teulu’n methu talu’r swm hwnnw allan o’u poced eu hunain ac felly byddai’n rhaid i’r myfyriwr gael benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Ond oes unrhyw un eisiau gorffen eu cyfnod yn y brifysgol yn gwybod bod ganddynt o leiaf £27,000 i’w dalu’n ôl? Rhaid cofio hefyd y bydd angen i nifer gael benthyciad cynhaliaeth yn ogystal â’r benthyciad ffioedd dysgu. Mae hyn yn ddigon i wneud i unrhyw un ail feddwl mynd i brifysgol o gwbl, ac nid yw’n deg bod amgylchiadau ariannol person deunaw oed yn gallu effeithio cymaint ar eu dyfodol. Dylai person gael mynd i brifysgol ar sail eu gallu academaidd ac nid oherwydd arian. Rhaid cofio hefyd nad yw’n bosib astudio rhai cyrsiau yng

Nghymru. Ydy hi’n deg gwneud i fyfyriwr o Gymru dalu £5,500 yn fwy am ei ffioedd dysgu oherwydd amgylchiadau na all ei reoli? Mae’n fyfyriwr Cymraeg ac yn haeddu cael yr un driniaeth â phob myfyriwr Cymraeg arall. Pan roddwyd y polisi ffioedd dysgu ar waith fe sicrhaodd y Llywodraeth fod ganddynt ddigon o arian i’w gyllido tan o leiaf 2016, a teg byddai cadw at hynny. Credai rhai ei fod yn annheg bod rhan o’r arian sy’n cael ei ddefnyddio i gyllido’r polisi hwn yn dod o dorriadau i gyllid addysgu uwch a phrifysgolion Cymru. Ond yn sgil hyn, rhaid cofio bod myfyrwyr sy’n dod i astudio i Gymru o Loegr yn gorfod talu’r £9,000 llawn, yn ogystal â myfyrwyr o dramor, sy’n golygu bod cryn dipyn o arian yn dod i’r prifysgolion gan y myfyrwyr hyn. Nid yw’r torriadau’n cael eu gwneud heb ystyried bod arian yn dod o rywle i wneud yn iawn am hynny. Mae hon yn sefyllfa gymhleth ac mae pob dadl yn dal dŵr. Ar un llaw, dylai pob myfyriwr o Gymru gael ei drin yr un fath a chael cymorth i gael addysg, ond wedyn rhaid cofio bod swm enfawr o arian Llywodraeth Cymru’n mynd yn syth i Loegr. Teg yw dweud bod angen edrych eto ar y polisi hwn gan ystyried yr hyn sydd wedi newid ers ei roi ar waith. Am ragor o wybodaeth am gyllid a ffioedd dysgu, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk


6 ...Newyddion

...Manion o’r Newyddion 7

Rhun ydi’r un i Sir Fôn

Gruffudd Antur Ar nos Iau Awst 1 eleni, ychydig wythnosau yn dilyn cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones ei fod yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, cafodd Plaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol. Llwyddodd ymgeisydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, i drechu ymgeiswyr y pleidiau eraill, a hynny gyda mwyafrif llethol. Derbyniodd Rhun 12,601 o bleidleisiau, sef 58% o’r bleidlais; bron bedair gwaith y nifer o bleidleisiau a dderbyniodd ymgeisydd y Blaid Lafur, Tal Michael, sef 3,435. O fewn trwch blewyn i’r Blaid Lafur yn y trydydd safle roedd UKIP, gyda 3,099 o bleidleisiau, a diau y bydd hyn yn destun pryder mawr i Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen. Bu cryn ddyfalu ynghylch pwy fyddai ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y sedd wag. Roedd Heledd Fychan, sy’n wreiddiol o’r ynys, eisoes wedi ymrwymo ychydig wythnosau ynghynt i’r isetholiad yn Arfon yn dilyn cyhoeddiad Alun Ffred Jones na fyddai’n sefyll yn yr etholiad nesaf, gan olygu brwydr am enwebiad y Blaid rhyngddi hi a Siân Gwenllian, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd. Ond pan ddaeth cyhoeddiad annisgwyl Ieuan Wyn Jones ganol Mehefin ei fod yn gadael ei swydd yn syth, tynnodd ei henw’n ôl o’r frwydr am enwebiad y blaid yn Arfon er mwyn ymgiprys am yr enwebiad am sedd wag Môn. Roedd si ar led fod Rhun ap Iorwerth yn bwriadu brwydro am enwebiad y Blaid, ac er i rai o bobl y Blaid, megis Dyfrig Jones, cynghorydd ward Gerlan ar Gyngor Gwynedd, wfftio’r sïon fel siarad gwag, cyhoeddodd Rhun ei fwriad i sefyll ar Mehefin 23, gan adael ei swydd fel newyddiadurwr gyda'r BBC yn syth. Yn dilyn hystings rhwng y tri ymgeisydd, Rhun ap Iorwerth, Heledd Fychan ac Ann Griffith, enwebwyd Rhun i sefyll yn enw’r Blaid, a hynny gyda mwyafrif sylweddol

yn ôl y sôn. Cyhoeddwyd y cynhelid yr isetholiad ar y cyntaf o Awst 1, a golygai hynny y byddai gan y pleidiau bedair wythnos i geisio ennyn pleidleisiau trigolion Môn. Ni bu’n ymgyrch heb ei helbulon, gan i ambell unigolyn geisio lladd ar ymgyrch Plaid Cymru drwy godi cwestiynau ynghylch cymhwysedd Rhun i sefyll yn enw’r blaid ag yntau heb fod yn aelod o’r blaid oherwydd amodau ei swydd gyda’r BBC. Cafwyd peth helynt ynghylch enwebiad y Blaid Lafur yn ogystal, gan fod John Chorlton, cyn-arweinydd Cyngor Môn, wedi’i anwybyddu, gan arwain at enwebu Tal Michael, mab cyn-Brif Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael. Daeth rhagor o enghreifftiau o chwarae budr i’r golwg pan ymddangosodd erthygl ar Wales Online a gynhwysai ddyfyniad gan ffynhonnell ddienw o’r Blaid Lafur yn mynnu na fedrai mwyafrif pobl Cymru ynganu enw Rhun ap Iorwerth, ac y byddai hynny’n niweidiol i ymgyrch y blaid yng nghymoedd y de. Ar ben hyn, cyhuddwyd cyfrif trydar answyddogol yr ymgyrch, @Labour4ynysmon, o fod yn negyddol, gan fwrw sen dros ymgyrch y pleidiau eraill er mwyn ceisio hybu gobeithion yr ymgeisydd Llafur. Un pwynt a oedd yn ganolog i’r ymgyrch oedd Wylfa B, a chyhuddwyd Rhun ap Iorwerth o fynd yn groes i bolisi cenedlaethol gwrth-niwclear y Blaid, yn enwedig yn wyneb y gefnogaeth frwd y mae’r Blaid Lafur yn ei dangos i’r cynlluniau ar gyfer gorsaf niwclear newydd yng ngogledd yr ynys, er gwaetha’r ffaith nad ydyw’n fater datganoledig i’r Cynulliad ar hyn o bryd. Hawliodd yr isetholiad sylw Cymru gyfan, a thyrrodd pobl o bob cwr o’r wlad i’r ynys i ymladd achos y gwahanol bleidiau. Penllanw’r ymgyrch oedd y cyfrif ym Mhlas Arthur, Llangefni, ar nos Iau Awst 1. Daeth yn amlwg yn gynnar iawn nad oedd unrhyw amheuaeth ynghylch y canlyniad. Pan ddaeth y cyfrif i ben oddeutu 1 o’r gloch y bore, roedd y canlyniadau fel a ganlyn: Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru): 12,601 (58.24%) Tal Michael (Llafur): 3,435 (15.88%) Nathan Gill (UKIP): 3,099 (14.32%) Neil Fairlamb (Ceidwadwyr): 1,843 (8.52%) Katherine Jones (Llafur Sosialaidd): 348 (1.61%) Steve Churchman (Democratiaid Rhyddfrydol): 309 (1.43%) Cyhoeddwyd y canlyniad gan y swyddog etholiad, Richard Parry Jones, i fanllefau o lawenydd gan gefnogwyr Plaid Cymru. Disgrifiwyd y canlyniad

fel un “ysgubol” i Blaid Cymru a “thrychinebus” i’r pleidiau eraill gan y sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones, yn enwedig gan mai Llafurwr sy’n cynrychioli’r ynys yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae hyn yn adlewyrchu’r duedd yn Ynys Môn o bleidleisio i’r ymgeisydd yn hytrach nag i’r blaid; mae’n ffaith weddol adnabyddus fod pob un o’r prif bleidiau wedi bod yn fuddugol yn Ynys Môn yn y gorffennol. Mae’n debyg fod hyn o fantais i Rhun ap Iorwerth gan fod ganddo gysylltiadau cryfion â’r ynys ac yn wyneb adnabyddus o ganlyniad i’w yrfa ddisglair gyda’r BBC. Yr unig blaid heblaw Plaid Cymru a allai ystyried y noson yn llwyddiant oedd UKIP, gan iddynt ddod o fewn trwch blewyn i guro’r Blaid Lafur ac ennill 6% yn fwy o bleidleisiau na’r Torïaid. Dyma ganlyniad hynod o arwyddocaol o ystyried y rhwyg o fewn y Blaid Geidwadol ar hyn o bryd. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn siomedig dros ben gyda’r canlyniad, a hwythau ond wedi ennill ychydig dros 1% o’r bleidlais, a bydd y Blaid Lafur yn siomedig iddynt fethu dod yn nes at ennill yr un sedd hanfodol honno sydd ei hangen arnynt er mwyn cael mwyafrif clir yn y Senedd. Siomedig ym marn nifer oedd y sylw a roddwyd gan y cyfryngau i’r isetholiad. Nid yn aml y ceir isetholiad ar gyfer y Cynulliad, a’r unig sylwebaeth fyw a gafwyd oedd blog byw gan wefan Golwg360. Ond nid oedd hyn am ladd ysbryd cefnogwyr Plaid Cymru. Er mai Plaid Cymru oedd y ffefryn i ennill yr isetholiad o’r cychwyn cyntaf, ni fyddai neb wedi meiddio awgrymu y byddai’r blaid yn ennill gyda’r fath fwyafrif, sef y mwyafrif mwyaf i’r blaid ei ennill yn Ynys Môn erioed. Roedd y cyffro a’r canu ym Mhlas Arthur y noson honno yn adlewyrchu’r ffydd a roddwyd gan bobl Môn yn Rhun ap Iorwerth, ac amser a ddengys sut y bydd yn gweithio er lles yr ynys gyda’r mandad clir a roddwyd iddo.

Dadl Cath a Llygoden Carys Tudor Darlun ar eich cyfer: Cath fawr ddu, a llygoden yn hongian o’i cheg. Y gath yn gollwng y llygoden i chwarae gyda hi, cyn ei dal unwaith yn rhagor. Yna yn sydyn, mae’r llygoden yn dianc. Yn gwibio i ffwrdd, ffarwelio â’r gath fawr ddu a chael estyniad einioes unwaith yn rhagor. Y gath yn mynd yn ôl i’w basged i bwdu. Pwy yw’r gath a phwy yw’r llygoden tybed? Mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi ennill brwydr enfawr yn erbyn y cwmni adwerthu Amazon. Maent o’r diwedd wedi llwyddo i sicrhau bod llyfrau cyfrwng Cymraeg ar gael ar y e-ddarllenwr, y Kindle. Yn ôl ym mis Ebrill, lansiodd Y Lolfa ymgyrch i berswadio’r cawr adwerthu arlein i alluogi i llyfrau cyfrwng Cym-

raeg for ar gael i’w prynu ar gyfer y darllenydd e-lyfr mwyaf llwyddiannus – y Kindle. Teimlodd Y Lolfa bod rhaid iddynt ymgyrchu ar ôl i Amazon wrthod rhestru llyfrau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Kindle, gan ddweud bod y Gymraeg yn iaith nad yw’n cael ei chefnogi gan y cwmni. Roedd Amazon hefyd wedi stopio Y Lolfa rhag gyhoeddi llyfrau cyfrwng Cymraeg trwy’u rhestru’n weithiau Saesneg. Mae Y Lolfa’n croesawu’r newid penderfyniad hwn gan Amazon. Gan fod yr alwad am e-lyfrau mor gryf gan ddarllenwyr Cymraeg, mae’r cwmni bychan o orllewin Cymru wedi penderfynu cyhoeddi rhai o’u nofelau Cymraeg mwyaf poblogaidd ar y Kindle eleni. Mae Y Lolfa’n gobeithio y gall pobl sy’n byw y tu allan i ddalgylch siopau llyfrau Cymraeg brynu llyfrau cyfrwng Cymraeg

Marwolaeth arwr Llio Mai Ar y 29ain o Awst bu farw un o enwogion byd rygbi Cymru – Clifford Isaac Morgan, yn 83 mlwydd oed. Ganed Cliff ar y 7fed o Ebrill 1930, yn Nhrebanog, y Rhondda. Roedd yn chwaraewr rygbi’r undeb a fu’n chwarae i dîm Caerdydd (Cardiff RFC) ers iddo adael Ysgol Ramadeg Tonyrefail ym 1949. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru mewn gêm yn erbyn Iwerddon ym 1951. Rhwng 1951 a 1958 enillodd 29 cap i Gymru a bu’n gapten ei wlad ei hun yn ogystal â chapten y Llewod Prydeinig. Roedd hefyd yn rhan flaenllaw o lwyddiant ysgubol Cymru yng Nghamp Lawn 1952. Caiff Cliff Morgan ei gofio fel un o’r maswyr mwyaf talentog yn hanes rygbi’r undeb. Wedi ymddeol o chwarae rygbi ym 1958 daeth o hyd i yrfa newydd yn y byd darlledu. Cafodd swydd fel sylwebydd gemau rygbi, a dywedir bod ei sylwebaeth ar gêm y Barbariaid yn erbyn y Crysau Duon ym 1973 yn hanesyddol. Bu hefyd yn gweithio i’r BBC yng Nghaerdydd fel Trefnydd Chwaraeon, yn ogystal â chynhyrchu a golygu rhagleni chwaraeon megis Grandstand a Sportsnight with Coleman. Daeth yn ffigwr amlwg ar y teledu, a daeth hefyd yn gapten unwaith eto, ond y tro hwn yn gapten tîm ar y rhaglen gwis, A Question of Sport. O 1976 – 1987 ef oedd Pennaeth Darllediadau Allanol a Chwaraeon Teledu’r BBC, a bu’n gyfrifol am sylwebaeth sawl digwyddiad pwysig iawn, megis Cwpan y Byd, y Gemau Olympaidd

a phriodas y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana. Yn ogystal â’r teledu, fe dreuliodd Cliff gyfnod yn cyflwyno i BBC Radio 2 ac wedi iddo ymddeol o’i swydd weithredol ym myd teledu’r BBC fe ddychwelodd at fyd y radio, yn bennaf at BBC Radio 4. Daeth dros sawl gwaeledd yn ystod ei fywyd – cafodd strôc pan oedd yn 41 mlwydd oed, a gorfu iddo dynnu’i laryncs o ganlyniad i ganser ar dannau’r llais, a barodd niwed i’w leferydd yn ystod ei ymddeoliad. Er hynny, parhaodd yn ffigwr amlwg iawn ym myd chwaraeon Cymru, ar y cae ac ar y teledu trwy gydol ei fywyd. Cafodd ei dalent a’i waith caled ei gydnabod pan roddwyd ef ymysg rhai o oreuon byd rygbi yn Oriel Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol ac yn Oriel Anfarwolion y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. Gwobrwywyd ef hefyd gydag OBE a CVO. Mae’n gwbl amlwg iddo ennill calonau cenedl gyfan o Gymry yn ogystal â phobl o’r tu hwnt, a bydd ei farwolaeth yn golled enfawr, i’w deulu a’i gefnogwyr.

VS yn electronig. Maent am geisio cynnig mwy o ddewis ymhen ychydig fisoedd. Y gobaith yw creu cynulleidfa ehangach ar gyfer llyfrau cyfrwng Cymraeg, yn enwedig ar gyfer siaradwyr y Gymraeg yn Lloegr, yr Alban a thramor. Mae Y Lolfa wedi cyhoeddi e-lyfrau ar eu gwefan ers oddeutu pedair mlynedd ond tan nawr, nid yw Amazon wedi bodloni’r syniad – yn datgan nad iaith sy’n cael ei chydnabod yw’r iaith Gymraeg. Roedd Y Lolfa wedi brwydro’n erbyn y syniad hwn, roedd ieithoedd lleiafrifol eraill yn cael eu cyhoeddi ar gyfer y Kindle – Galiseg, Catalan a Basg. Pam ddim y Gymraeg? Sefyllfa ryfedd iawn! A’r peth mwyaf eironig yn hyn oll? Mae gan Amazon warws dosbarthu mawr yn Abertawe a gafodd ei adeiladu gyda chymhorthdaliadau gan Lywodraeth Cymru. Ers dechrau’r ymgyrch ym mis Ebrill,

mae Y Lolfa wedi cael dros 3,000 o lofnodion ac mae’r cwmni hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan nifer o wleidyddion yn y Senedd. Amcangyfrifir y bydd Amazon yn llwyddo i werthu gwerth $4.5 biliwn o e-ddarllenwyr Kindle eleni. Mae’n rhaid bod gan y cwmni ddigon o arian i gefnogi cyhoeddi ychydig o lyfrau Cymraeg ar gyfer ei holl gwsmeriaid? Yr iaith Gymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, ac mae Cymru’n wlad llawn traddodiad ysgrifennu a chyfansoddi, boed ar ffurf cerddi neu ryddiaith. Mae’n rhaid i ni herio cwmnïau mawr fel Amazon o hyd ac o hyd er mwyn cael tegwch i’r iaith. Diolch i gwmnïau fel Y Lolfa sy’n herio’r cewri mawr hyn y bydd y Gymraeg yn ennill statws cryfach yn fyd-eang. Pwy yw’r gath nesa fydd rhaid ei herio tybed...


8 ... PECYN Y GLAS

... PECYN Y GLAS 9

Helo bawb! Antony Butcher ydw i, Llywydd Udeb Myfyrwyr Bangor. Croeso i Gymru, croeso i Fangor, a chroeso i Undeb Myfyrwyr Bangor! Undeb Myfyrwyr Bangor ydi’ch Undeb Myfyrwyr chi. Rydym yn hollol annibynnol ar y Brifysgol, sy’n golygu y gallwn ymgyrchu a lobïo am newid ar eich rhan. Boed chi’n fyfyriwr israddedig o’r flwyddyn gyntaf, myfyriwr

ôl-radd yn ei flwyddyn olaf, myfyriwr rhyngwladol neu fyfyriwr yn astudio o bellter, mae nifer o ffyrdd y gellwch ymuno a lleisio’ch barn. Pam na ddowch draw i’n CC wythnos nesa’? Y llynedd, mi gafon ni lawer o enillon mawr – gan gynnwys cael llyfrgell sy’n agored trwy’r dydd, bob dydd, a blaenoriaethu £1miliwn i’w wario ar fynediad i’r anabl. Ein swydd – fy swydd i – ydi gweithio gyda chi i sicrhau’ch

NICOLA PYE , IS-LYHelo! Nicola Pye ydw WYDD CHWARAEON i, eich Is-Lywydd Chwaraeon

a Byw’n Iach. Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r tîm pêl-droed gwyddelig, tîm pêl-law a chlwb pêl-droed y merched yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyng-neuaddol a bod yn swyddog BUCS yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Helo bawb! Ash Kierans ydw i, eich Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned am y flwyddyn nesaf, a dyma’r ail flwyddyn i mi yn y swydd.

Dw i’n ffan mawr o rygbi / chwaraeon yn gyffredinol felly peidiwch â synnu os gwelwch chi fi o gwmpas y dre neu’n cymryd rhan mewn amryw o gymdeithasau fel mae’r flwyddyn yn mynd rhagddi. A dweud y gwir,

RHYS TAYLOR, IS-LYWYDD ADDYSG A LLES Helo, Rhys Taylor ydw i,

saib am dair wythnos cyn i’r hwyl barhau. Mae digonedd o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn i’ch diddori. Bydd llawer o rhain yn gyfarwydd, a rhai yn newydd. Bydd yr ychwanegiad o gerddoriaeth byw Clwb Cymru i’r agenda misol yn siwr o greu bwrlwm a chyffro, a cewch flas ar hyn yn ystod y gig cyntaf ar nos fercher Wythnos y Glas, lle bydd Y Candelas, Y Cledrau a DJ Iolo Gwilym yn chwarae. Dwi yn falch o ddeall bod dipyn mwy o fyfyrwyr Cymraeg eu iaith wedi dewis byw yn Neuadd JMJ eleni, mae hi’n edrych fel petai hi am fod yn flwyddyn anhygoel. Oherwydd hyn, mae hi’n bwysig i ni sylwi fod angen felly strwythr dipyn mwy trefnus y tu ol i’r llyw o fewn UMCB. Dyma’r rheswm pam dwi yn benderfynnol o sefydlu pwyllgor gref i UMCB a fydd yn cyfarfod yn aml er mwyn gallu eich cynrychioli chi ein aelodau yn

bod yn cael yr amser gorau ym Mangor. Eleni rydan ni’n mynd i fod yn ceisio gwelliannau ar gyfer ein Myfyrwyr Cyd-Anrhydedd, gwella’r gefnogaeth a gewch wrth ysgrifennu’ch traethawd hir, a llawer iawn mwy o brosiectau gwych. Os oes gennych syniadau, ewch i’n gwefan a gadael i ni wybod! Mae’r Undeb hefyd yn cynnig llwyth o glybiau chwaraeon, cymdeithasau, a phrosiectau gwir-

Ychydig o’r pethau rwy’n edrych ymlaen atynt eleni yw cynnal mwy o gystadlu rhyng-neuaddol gydag ychydig o chwaraeon newydd yn ogsytal â dechrau cystadleuaeth newydd yn erbyn prifysgol Glyndŵr. Hefyd, rwy’n edrych ymlaen at y cystadleuthau rhyng-golegol eleni gyda’r gobaith o gael mwy o glybiau i gymryd rhan. Rwy’n gwybod y

dewch i ddweud helo! Fy mhrif amcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf ydi creu mwy o weithgareddau’n seiliedig ar y Gymuned, sefydlu cymdeithas academaidd ar gyfer pob adran, cynyddu’r nifer o fusnesau sydd ynghlwm â’r cynllun Caru Bangor, helpu cymdeithasau i’w marchnata a’u hysbysebu’u hunain yn well ynghyd â sefydlu rhaglen hyfforddi fwy cyson

Is-Lywydd Addysg a Lles eich Undeb Myfyrwyr ar gyfer 2013-14, ac yn falch o ddweud hefyd fy mod i’n gyn-aelod o UMCB! Dyma neges gyflym i ddymuno'r gorau i chi yn ystod eich blwyddyn a hefyd i'ch atgoffa am y nifer o gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â’r

Undeb Myfyrwyr Cymraeg (UMCB). Clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli, democratiaeth, cyfle i newid eich profiad academaidd, a phrofiad academaidd i’r darpar fyfyrwyr, mae cyfleoedd di-ri i chi ymuno a gwella'ch sgiliau, er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i swydd ar ôl graddio. Ar ben hynny, mae popeth i gyd yn gwbl rhad ac am ddim!

well. Drwy hyn dwi yn sicr y bydd pawb yn cael y teimlad o arwain UMCB gyda’u gilydd i greu dyfodol sefydlog. Er ei bod hi’n gyfnod cyffrous i UMCB a’i dyfodol i’w weld yn un disglair, yn anffodus efallai na allwn ddweud yr un peth am ein chwaer sefydliad; Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mi fydd o bosib yn flwyddyn bryderus iddi, gyda’r Brifysgol yn Aber yn bygwth symyd Neuadd Pantycelyn heb ystyried unrhyw delerau gan sydd gan UMCA mewn golwg. Gallai y symyd yma gael effaith negyddol iawn ar gryfder y gymdeithas Gymraeg yn Aber a fyddai’n cael ei deimlo drwy gymdeithasau’r Prifysgolion ar draws Cymru. Mae hi felly yn bwysig ein bod fel Cymry yn cefnogi ein ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan eu cynorthwyo i sicrhau dyfodol disglair iddynt hwythau hefyd. Er hyn, ni bia Aber :P.

foddoli i’ch diddanu a’ch cadw’n actif. Mi fedrwch chi roi cynnig ar bethau newydd, o gomedi i ail-greadau hynafol, o bêl-droed Gwyddelig i bêl-llaw, ac o ddysgu Cymraeg i chwarae Quidditch. Mae ymuno yn y gweithgareddau newydd hyn yn ffordd grêt o drio pethau newydd, ennill sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd, a’ch gwneud eich hun yn fwy cyflogadwy, a hyn i gyd wrth gael amser anhygoel!

gallwn ennill eleni! Dewch ‘laen Tîm Bangor! Ar ôl Wythnos y Glas rydym yn dechrau ar weithgaredd i godi arian tuag at yr RNLI yn ogystal â’r gobaith o godi arian tuag at ysgolion lleol gyda’r syniad o ddiwrnod mabolgampau ar thema benodol yn ystod ein wythnos byw’n iach. Yn yr wythnos honno rydym hefyd yn bwriadu cynnwys yr OTC. Hefyd, rydym yn

rhesymegol; dulliau asesu gwell a ffordd newydd sbon o werthuso a chyflwyno adborth ar eich modiwlau dyma rai o’r pethau mae Cynrychiolwyr Cwrs wedi helpu i’w cyflwyno dros y Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal arolwg newydd ar-lein ar flwyddyn academaidd ddiwethaf. Bydd eich ysgol yn gofyn i fyfyrwyr sydd gyfer prosiect ymchwil i ymddygiad rhywiol, iechyd rhywiol ac agwedd â diddordeb i gynnig eu hunain fel Cynrychiolydd Cwrs o fewn y bythefnos tuag at waith rhyw mewn myfyrwyr. Yn ystod Serendipedd, Medi nesaf. Nid oes angen unrhyw 25 a 26, bydd stondin Arolwg Rhyw brofiad blaenorol arnoch, bydd Undeb y Myfyrwyr yn annog holl fyfyrwyr Myfyrwyr yn eich hyfforddi a’ch Prifysgol Bangor i gymryd rhan yn cefnogi chi bob cam o’r ffordd. eu harolwg lle bydd cwestiynau am Felly peidiwch ag oedi! iechyd rhywiol, profiadau rhywiol, Dysgwch fwy am y rôl ar wefan UM ffordd o fyw, a defnydd y gwasanae(myfyrwyrbangor.com/coursereps) neu thu cefnogi yn ogystal ag agweddau a phrofiadau adloniant i oedolion a cysylltwch â ni ar coursereps@myfyrgwaith rhyw. wyrbangor.com / 01248 383651. Yna, Dim ond 20-25 munud o’ch pan fyddwch chi’n barod, gadewch i’ch amser sydd ei angen i gwblhau’r arolysgol wybod a chynnig eich hun ar wg, ac wrth lwyddo i wneud hynny, gyfer etholiad - pob lwc!

Edrych am Lyfrau? Tria Ni Gyntaf Cefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

gobeithio sefydlu partneriaeth â chyfleoedd chwaraeon lleol i bobl anabl, a gweithio gyda Cheltiaid Caernarfon i geisio gwella’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Gobeithio y cewch chi flwyddyn wych, a chofiwch gymryd rhan! Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr neu Ebostio: n.pye@bangor.ac.uk

ac effeithiol, gweithio ar bresenoldeb ar-lein yr Undeb (felly disgwyliwch weld mwy ar ein Facebook, Twitter, Gwefan yr Undeb a chyfryngau cymdeithasol eraill!) Ond wrth gwrs os ydach chi isio gwybod mwy, cofiwch gysylltu efo fi: @ashk90 ash.kierans@myfyrwyrbangor.com

O fewn yr Undeb Myfyrwyr mae gennym Uned Gynrychiolaeth Academaidd, y gyntaf yng Nghymru! Dwi’n deall bod hynny, o bosibl, yn golygu dim i chi yn y flwyddyn gyntaf, nac, o bosibl, i’r rhai ohonoch yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, chwaith. Mae’r Uned Gynrychiolaeth Academaidd yn sicrhau’ch bod yn cael mynediad at gymorth academaidd annib-

Antony Butcher, LLYWYDD UMB

Etholiadau Cynrychiolwyr Cwrs - pwy sy’n rheoli eich addysg? Oeddech chi’n gwybod fod llu o Gynrychiolwyr Cwrs yn cael eu hethol gan fyfyrwyr bob blwyddyn i gynrychioli barn myfyrwyr am eu profiad dysgu? Gall unrhyw fath o fyfyriwr fod yn Gynrychiolydd Cwrs: myfyriwr israddedig, blwyddyn gyntaf, ôl-radd neu ymchwil. Gall fod yn ddeunaw mlwydd oed neu’n bedwar ugain, yn hanu o Faesgeirchen neu o Tsieina! Un peth sydd gan bob Cynrychiolydd Cwrs yn gyffredin: maent i gyd yn awyddus i gael y profiad academaidd gorau posibl, ac i helpu eu cyd-fyfyrwyr a chydweithwyr gael y profiad gorau hefyd. Mae Cynrychiolwyr Cwrs wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ym Mangor dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mwy o lyfrau yn y llyfrgell; cyfrifiaduron cynt; rhwydwaith WiFi cynt; amserlennu

ynnol pan fo angen - rhywbeth na chewch fynediad ato o hyd yn y brifysgol. Rydym yn cynnig cymorth gyda llu o broblemau academaidd gwahanol, gyda chefnogaeth dros 400 o wirfoddolwyr (y Cynrychiolwyr Cwrs) y tu ôl i ni yn rhannu problemau ac yn gweithio o fewn eich ysgolion i ddatrys pethau bach sy’n achosi poen. Gan fy mod i hefyd yn gyfrifol am les myfyr-

ASH KIERANS

wyr, dw i’n falch o gyhoeddi y bydd Wythnos Iechyd Meddwl ar ddechrau’r tymor, Gwobrau Landlordiaid, Wythnos Byw’n Iach, a llawer mwy i ddod. Gobeithio y gwela’ i chi’n fuan yn ystod yr wythnosau croeso, a phob lwc – dw i’n siŵr y bydd cymdeithas UMCB yn eich croesawu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Looking for Books? Try Us First! Support your Local Bookshop AR Y STRYD FAWR AC AR LEIN ON THE HIGH STREET AND ON LINE

palasprint.com

170 Stryd Fawr/High Street, Bangor, 01248 362676 10 Stryd y Plas, Caernarfon, 01286 674631 eirian@palasprint.com

ELIDYR GLYN, LLYWYDD UMCB

Helo, Elidyr (Lids) ydw i, eich Llywydd am y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Fy swydd yw i sefyll dros eich buddiannau o fewn pob agwedd o’ch profiad o fewn Prifysgol Bangor. Os ar unrhyw adeg yr ydych angen lleisio eich barn, neu angen unrhyw wybodaeth ynglyn a beth sydd ar gael i chi, cofiwch ddod i ngweld yn fy swyddfa yn unai Neuadd John Morris Jones neu adeilad Undeb y Myfyrwyr. Croeso nol i’r rhai ohonoch sy’n dychwelyd i’r ail neu’r drydedd flwyddyn, a chroeso am y tro cyntaf i’r glas. Gallaf sicrhau fod y flwyddyn o’n blaen am fod yn un llwyddiannus a llawn cyffro i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. Dwi’n gobeithio yn arw eich bod wedi defnyddio eich amser dros yr haf i ymlacio a chysgu, achos unwaith mae Wythnos y Glas yn dechrau, bydd dim diwedd i’r miri…. hyd nes gwyliau’r Nadolig lle bydd

Etholiadau Cynrychiolwyr Cwrs

IS-LYWYDD CYMDEITHASAU

Dewch i nabod eich Swyddogion Sabothol!

Palas PRINT

cewch y cyfle i ennill condoms a thalebau Tesco - ‘every little helps’, fel petae! Mae’r arolwg yn anhysbys felly mae’ch holl atebion yn cael eu cadw’n gyfrinachol, er efallai y bydd rhai o’ch geiriau’n cael eu defnyddio fel rhan o gasgliad ar y wefan wedi i’r arolwg ddod i ben. Diben yr arolwg yw rhoi darlun manwl gywir o agweddau a barn myfyrwyr o oedolion yn y byd gwaith rhyw ac adloniant i

oedolion. Dr Tracey Sagar yw’r prif ymchwilydd, a dywedodd hi, ‘Mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu deall safbwyntiau myfyrwyr ar faterion o gwmpas rhyw, iechyd rhywiol a gwaith rhyw. Bydd eu safbwyntiau yn addysgiadol i’n hymchwil ac yn ein helpu i ddatblygu ein gwybodaeth iechyd rhywiol ar-lein ymhellach.’ Pe baech angen mwy o wybodaeth, gellwch gysylltu â hwy yn gyfrinachol wrth ymweld â www. thestudentsexworkproject.co.uk, neu am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi ymweld â’u Twitter: @TSSWP, neu ymuno â’u grwp ar Facebook: facebook.com/thestudentsexworkproject. Cofiwch hefyd bod ganddynt stondin yn Serendipedd Prifysgol Bangor ar Ddydd Mercher a Dydd Iau, Medi 25ain a 26ain am fwy o wybodaeth neu unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Byw’n Wyrddach

Mae UCM Cymru, mewn partneriaeth â TYF, wedi derbyn cytundeb werth £68,000 sydd wedi cael ei ariannu i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru a’i reoli drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer Byw’n Wyrddach – prosiect 12 mis sy’n gosod myfyrywr yng Nghymru wrth galon yr agenda gynaliadwyedd. Bydd UCMC yn cynnal y mentrau gwyrddio canlynol, sydd ymhlith y gorau yn y sector: Effaith Gwyrdd – Cynllun achredu a gwobrwyo amgylcheddol, sy’n dod â staff a myfyrwyr at ei gilydd, ynghyd â’u cymunedau ehangach, i greu newidiadau cadarnhaol mewn arferion amgylcheddol. Myfyrwyr yn Diffodd – Ymgyrch sy’n annog myfyrwyr i weithredu ar newid hinsawdd; mae’n gystadleuaeth arbed ynni mewn neuaddau preswyl. Diffodd Popeth – Prosiect gwirfoddoli myfyrwyr lle mae UCM yn darparu myfyrwyr â hyfforddiant i gynnal archwiliad ynni ar y campws a diffodd cyfarpar nad yw’n hanfodol sy’n cael ei adael ymlaen dros-nos ac ar benwythnosau. Lanlwythwch Lun – Mae hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr dynnu lluniau o oleuadau sy’n cael eu gadael

ymlaen yn ddiangen, gan deimlo’n rhan o’r ateb i wastraffu ynni. Bydd y mentrau hyn nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth y gellir ei fesur mewn sefydliadau, i fyfyrwyr a’r amgylchedd, bydd hefyd yn arbed arian i Brifysgolion ac Undebau Myfyrwyr, mae’n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy, ac yn ymgysylltu mwy o fyfyrwyr â gweithgareddau eu hundebau. Y Swyddog Prosiect Cynaliadwyedd (Cymru) sydd wedi cael ei benodi i redeg Byw’n Wyrddach yw Stuart Jones. Cymryd Rhan ym Mangor Mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn rhaglen Byw’n Wyrddach, a bydd mwy o wybodaeth ar gael o stondin gynaliadwyedd y Brifysgol a stondin Myfyrwyr yn Diffodd UCM yn Ffair y Glas Bangor ar 25ain / 26ain Medi. Yn y cyfamser, gall myfyrwyr ymuno â thudalen Facebook Myfyrwyr yn Diffodd fan yma: https://www.facebook.com/ BangorSSO neu am ragor o wybodaeth am gynaliadwyedd ym Mangor, ewch i www.bangor.ac.uk/sustainabilty a chysylltwch â Mair Rowlands ar m.rowlands@bangor.ac.uk.


10 ...Hysbyseb

Posau 11

Darlith ffug ddoniol Comic spoof-lecture Mercher 16 Hydref, 7.30pm Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Wednesday 16 October, 7.30pm Main Arts Lecture Theatre, Bangor University

ÂŁ8 / ÂŁ5 gostyngiadau: + Cynnig Methu mynd heno? Dim problemo!

ÂŁ8/ÂŁ5 concessions: plus No show? No worries! offer

Y 2 yn syth o’u dangosiadau 1af yn ‘Fringe’ Caeredin Both straight from Edinburgh Fringe premieres

MAE CYMRO, ALBANWR, SAIS A GWYDDEL YN CAMU I STIWDIO RECORDIO‌

A WELSHMAN, A SCOTSMAN, AN ENGLISHMAN AND AN IRISHMAN WALK INTO A RECORDING STUDIO‌

Sadwrn 28 a Sul 29 Medi, 6.45pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor

Saturday 28 & Sunday 29 September, 6.45pm John Phillips Hall, Bangor University

ÂŁ8/ÂŁ5 gostyngiadau: + Cynnig Methu mynd heno, dim problemo! Bar arian parod ar agor o 6pm

ÂŁ8/ÂŁ5 concessions: plus No Show, No worries offer Cash-only bar open from 6pm

TIm price

I’m With The Band

Albert Einstein: Relativitively Speaking

ÂŁ23

CYSTADLEUAETH!

Amser am gystadleuaeth gyntaf Y Llef y tymor hwn!

Mae cyfle i ennill: • Dau docyn i weld Relativitively Speaking - sioe cyfrwng Saesneg sy’n cael ei llwyfannu gan Pontio Hydref 16 • Llyfr barddoniaeth diweddaraf y Prifardd Llion Jones, Trydar Mewn Trawiadau

FFILM

19.10.13, 7.30pm Prichard-Jones Hall Neuadd Prichard-Jones

...POSAU

I ymgeisio am y gwobrau, y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud ydi cwblhau’r chwilair isod, a dod o hyd i’r gair sydd yn y rhestr eiriau ond NAD yw wedi’i gynnwys yn y grid. Anfonwch ebost gyda’r gair coll, eich enw a’ch rhif ffôn at llef@myfyrwyrbangor.com. DYDDIAD CAU: Dydd Mercher, Hydref 9 am 5 o’r gloch.

Nos Wener a Sul

ACADEMI

Fridays and Sundays

ARWEINWYR CYFOED

Gweler www.pontio.co.uk am y rhaglen llawn Check out www.pontio.co.uk for the full programme

BODIES IN URBAN SPACES Willi Dorner

Gwener 4 Hydref, 11am a 3pm Sadwrn 5 Hydref, 11am a 3pm, Dechrau: Capel Penrallt, Bangor Uchaf Am ddim

Friday 4 October, 11am & 3pm Saturday 5 October, 11am & 3pm, Start: Penrallt Chapel, Upper Bangor Free

Sadwrn 12 Hydref, 8pm Clwb Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston, Bangor

Saturday 12 October, 8pm Bangor Railway Club, Euston Road, Bangor

Cynnig Codwr Cynnar: ÂŁ7 cyn Gwener 11 Hydref

Early Bird Offer: ÂŁ7 before Friday 11 October

FFRIDDOEDD

Alejandro Toledo & The Magic Tombolinos

GLOB HWYL JMJ

Gwener 4 Hydref, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor

Friday 4 October, 7.30pm Powis Hall, Bangor University

ÂŁ12/ÂŁ10 gostyngiadau

ÂŁ12/ÂŁ10 concessions

Bar arian parod o 7pm.

AL LEWIS & BAND + GILDAS

DARLITH

Ymunwch â rhestr bostio Pontio yn ystod SERENDIPEDD 2013 am gyfle i

ennill

PEINT

Cash-only bar open from 7pm.

UNDEB

Join Pontio’s mailing list at SERENDIPITY 2013 for a chance to

Y LLEF

win

iPAD MINI!

Cofrestrwch i gael gwybod am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig.

Hawdd

Sign up to receive updates about events, news and special offers.

ÂŁ10/ÂŁ8

a llawer, llawer mwy and much, much more

Bangor

01248 382828 www.pontio.co.uk

PontioSeren_Medi13 259x340.indd 1

LLYFRGELL

Pontio Shop 2013-09-12 1:52 PM

Anodd

Dot i ddot ... i’r rhai ohonoch

sydd ddim yn barod at fywyd myfyriwr eto!


12 ...Yr Hadau

...Yr Hadau 13

...Yr HADAU Cylchgrawn Dwyieithog Y Llef Y Llef’s Bilingual Magazine Gair gan yr Is-olygydd Rhys Jenkins Helo! Fy enw i yw Rhys Jenkins, a bydda’ i’n Is-olygydd Yr Hadau ar gyfer papur-newydd Y Llef eleni. Rwyf yn fy ail flwyddyn yn astudio gradd yn y Gymraeg, ac yn byw yn Neuadd JMJ. Hoffwn gymryd yr amser i drafod Cymdeithas Llywelyn, a fydd yn cael ei hail-sefydlu eleni. Mae Cymdeithas Llywelyn yn bodoli er mwyn annog dysgwyr yr iaith Gymraeg (o bobl nad ydyn nhw wedi siarad yr iaith Gymraeg o’r blaen, at y rheiny sydd wedi dysgu Cymraeg fel eu hail-iaith, fel fi!) i siarad y tu allan i’w darlithoedd. Prif amcan Cymdeithas Llywelyn yw rhoi hyder i ddysgwyr mewn lleoliad anffurfiol, ac i helpu eu sgiliau ieithy-

ddol i ddatblygu trwy gyfathrebu a chymdeithasu gyda dysgwyr eraill, a hyd yn oed siaradwyr Cymraeg rhugl sydd eisiau helpu a bod yn rhan o’r cynllun hwn. Hoffwn annog cymaint o bobl ag y medraf i ymuno a helpu gyda’r Gymdeithas. Bydd cyfarfod cyntaf Cymdeithas Llywelyn yn cael ei gynnal nos Fawrth, Hydref 1af yn Nhafarn y Glôb am 8:00yh. Rwy’n gobeithio gweld nifer ohonoch chi yno!

A word from the Sub-editor Rhys Jenkins Hello! My name is Rhys Jenkins, and I will be the Sub-editor of Yr Hadau for the Welsh-language newspaper Y Llef this year. I am in my second year studying towards a degree in Welsh, and am living in the JMJ Halls of Residence. I would like to take this time to discuss Cymdeithas Llywelyn, which will be re-established this year. Cymdeithas Llywelyn exists in order to encour-

age learners of the Welsh language (people who haven’t spoken the Welsh language before to those who have learned Welsh as their second language, like me!) to speak Welsh outside their lectures. The main aim of Cymdeithas Llywelyn is to give confidence to learners in an informal location, and to help their linguistic skills to develop through communicating and socialising with other learners, and even fluent Welsh speakers who want to help, and be part of this scheme. I would like to encourage as many people as I can to join and help out with Cymdeithas Llywelyn.

Jennie Coppard’s Experience

Jennie Coppard yn trafod ei theimladau fel myfyriwr ail-iaith newydd eleni

Jennie Coppard talking about becoming a new second language student this year

yn breuddwydio i fyw yn y Gymraeg. Fel I am about to begin my first year at myfyriwr ail-iaith, prin oedd y cyfleoedd Bangor University, studing Welsh BA i wneud hyn, ond yr oedd fy ysgol yn Hons. I am feeling a mix of emotions gefnogol iawn, ac es ar deithiau gyda nhw at the moment, having got over being i lefydd fel Glan Llyn a Llangrannog. completely excited when i got my room Yr oedd fy mhrofiad cyntaf go-iawn o’r number. It is beginning to sink in that as Gogledd oedd ar ddechrau fy nghwrs of move in day i am completely responsiLefel-A. Arhosais yn Nant Gwrtheyrn ble for myself. I am utterly terrified. But gyda fy nosbarth. Aethon i drefydd megis i am still excited at the prospet of making Conwy, Caernarfon, Beaumaris, a Llan- so many new friends, and finally living in fairpwll. Yr oedd y golygfeydd yn hyfryd, North Wales. yn ogystal â hanes y llefydd yma. Pan It seems like just yesterday that i first visitddysgais mwy am y cwrs, yr oeddwn yn ed the University for the first time, and sicr taw y Gymraeg odd beth yr oeddwn now in just a few days i will be studying eisiau gwneud. Y mae’r modiwlau Lleny- here, at last. There was never a doubt in ddiaeth yn sefyll mas imi yn benodol, yn my mind that i wanted to study Welsh, ogystal â’r modiwlau yn yr ail a’r drydedd since my first lesson in year 7, i had a flwyddyn. Ni alla’ i aros i ddechrau’r cwrs, huge interest and wanted to learn more ac (wrth gwrs) i fwynhau’r Wythnos and more. As my interest grew, so did my passion, and i dreamt of being able to live Groeso!

Rhys Jenkins Fel y mae nifer ohonoch yn ymwybodol, eleni gwelodd yr Eisteddfod, a gafwyd ei chynnal yn Sir Ddinbych, ddau beth newydd. Daeth Christine James yn Archdderwydd; y ferch gyntaf i wneud hyn, yn ogystal â’r ddysgwraig gyntaf hefyd. A hi oedd yr unig berson a gafodd ei enwebu am y teitl. Mae’r Archdderwydd, sy’n cael ei ethol am 3 mlynedd, yn bennaeth yr Orsedd, ac yn arwain y prif seremonïau a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol bob mis Awst. Dywedodd y cyn-Archdderwydd, Jim Parc Nest, “Hi yw’r ferch gyntaf i gael ei hethol yn Archdderwydd, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi hynny heddiw.” Dywedodd hefyd mai hi yw’r ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu, ac felly, roedd rheswm inni ddathlu fel cenedl. Daw Christine James o Donypandy, yng Nghwm Rhonnda, yn wreiddiol, a chafodd ei magu mewn teulu cyfrwng Saesneg, a derbyniodd addysg gyfrwng Saesneg hefyd. Dysgodd y Gymraeg mewn ysgol ym Mhorth, ac wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn awr, mae hi’n uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn byw yng Nghaerdydd. Dywed ei bod hi’n bwriadu gwneud daioni i’r Eisteddfod, ac yn benodol i’r iaith Gymrae a diwylliant Cymraeg. Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri yn 2005 am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a gafodd ei ysbrydoli gan gelf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cymerodd reolaeth yn ei rôl newydd ym mis Mehefin 2013, mewn seremoni ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol 2014.

Cymdeithas Llywelyn’s first meeting will be held on Tuesday, October 1st in Y Glôb pub at 8:00pm. I hope to see a lot of you there!

Profiad Jennie Coppard Yr wy’n mynd i ddechrau fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor; yn astudio gradd yn y Gymraeg. Yr wy’n teimlo nifer o emosiynau ar hyn o bryd, wedi imi gyffro ar ôl ffeindio mas rhif fy ystafell ar gyfer y flwyddyn nesaf yn JMJ. Y mae hi’n dechrau dod yn fwy real y bydd rhaid imi edrych ar ôl fy hunan. Yr wy’n ofnus! Ond ‘dw i dal yn gyffrous i gwrdd â nifer o ffrindiau newydd, ac i fyw yng Ngogledd Cymru (o’r diwedd!) Mae’r amser wedi hedfan o fy ymweliad cyntaf â’r brifysgol, a bydda’ i’n astudio yna mewn ychydig o ddiwrnodau. Yr oeddwn yn sicr fy mod i eisiau astudio’r Gymraeg ar ôl fy ngwers Gymraeg gyntaf ym mlwyddyn 7. Yr oedd gennyf ddiddordeb mawr ynddi, ac yr oeddwn eisiau dysgu mwy. Wedi i fy niddordeb tyfu, tyfodd fy angerdd hefyd, ac yr oeddwn

Yr Archdderwydd Christine James

my life through the medium of Welsh. As a second language student, there were few opportunities for me to do this, but luckily my school were hugely supportive and often took us on trips to places such as Glan Llyn and Llangrannog. My first proper experience of North Wales was at the start of my A-Level course, when i stayed at Nant Gwrtheyrn with my class.We visited towns such as Conwy, Caernarfon, Beaumaris and Llanfair Pwll. I was in awe of the beautiful scenery and captivated by the history this wonderful place had to offer. When i learnt more about the course, i knew it was what i wanted to do. The literature modules in particular stand out to me, as do many of the modules in years 2 and 3. I cannot wait to begin my course, and of course get stuck into Fresher’s Week!

Archdruid Christine James Rhys Jenkins Fel y mae nifer ohonoch yn ymwybodol, eleni gwelodd yr Eisteddfod, a gafwyd ei chynnal yn Sir Ddinbych, ddau beth newydd. Daeth Christine James yn Archdderwydd; y ferch gyntaf i wneud hyn, yn ogystal â’r ddysgwraig gyntaf hefyd. A hi oedd yr unig berson a gafodd ei enwebu am y teitl. Mae’r Archdderwydd, sy’n cael ei ethol am 3 mlynedd, yn bennaeth yr Orsedd, ac yn arwain y prif seremonïau a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol bob mis Awst. Dywedodd y cyn-Archdderwydd, Jim Parc Nest, “Hi yw’r ferch gyntaf i gael ei hethol yn Archdderwydd, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi hynny heddiw.” Dywedodd hefyd mai hi yw’r ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu, ac felly, roedd rheswm inni ddathlu fel cenedl. Daw Christine James o Donypandy, yng Nghwm Rhonnda, yn wreiddiol, a chafodd ei magu mewn teulu cyfrwng Saesneg, a derbyniodd addysg gyfrwng Saesneg hefyd. Dysgodd y Gymraeg mewn ysgol ym Mhorth, ac wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn awr, mae hi’n uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn byw yng Nghaerdydd. Dywed ei bod hi’n bwriadu gwneud daioni i’r Eisteddfod, ac yn benodol i’r iaith Gymrae a diwylliant Cymraeg. Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri yn 2005 am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a gafodd ei ysbrydoli gan gelf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cymerodd reolaeth yn ei rôl newydd ym mis Mehefin 2013, mewn seremoni ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol 2014.


...Adolygiadau 15

14 ...Trychineb Senghennydd

Amser i gofio...

...Adolygiadau

Cyngerdd: Ymestyn am y Sêr

Erthygl arbennig yn nodi ac archwilio trychineb pentref Senghennydd gan mlynedd yn ddiweddarach gan CARYS TUDOR

1913. Mis Hydref. Dydd Mawrth y 14eg. Wyth y bore. Diwrnod tyngedfennol yn hanes Pentref Senghennydd, gan mlynedd yn ôl. Pentref bychan yn Sir Gaerffili a chymuned dawel, arferol o’r oes. Ar y bore hwnnw, digwyddodd rhywbeth fyddai’n newid gwedd y pentref am byth. Ar y bore Mawrth hwnnw aeth oddeutu 950 o ddynion i lawr i’w gwaith yn y pwll glo – Pwll Glo Cyffredinol Senghennydd. Diwrnod digon arferol. Codi’n gynnar, bwyta brecwast, rhoi cusan fechan ar foch eu gwragedd, dweud hwyl fawr wrth y plant, camu mas trwy’r drws a cherdded lawr tuag at y pwll glo. Yn anffodus dyna oedd y tro olaf i bron i hanner ohonynt weld golau dydd. O’r 950 o ddynion aeth dan y ddaear y bore hwnnw, buodd 439 ohonynt farw yn y drychineb. Am wyth y bore roedd yna ffrwydrad enfawr dan y ddaear. Taniad bychan a achoswyd gan fecaniaith signalu electrig dan y ddaear oedd wrth wraidd y ffrwydrad. Y canlyniad oedd llosgnwy. Lledaenodd hwnnw ar draws y pwll. O ganlyniad i’r ffrwydrad, cododd llwch glofaol, taniodd hwnnw gan greu ffrwydrad a thân erchyll. Rhuthrodd gweithwyr achub o bob gwr o dde ddwyrain Cymru at y safle. Aeth cannoedd ohonynt i mewn i’r pwll er mwyn ceisio achub y dynion. Roeddynt yn aberthu’u bywydau er mwyn ceisio helpu pentref mewn argyfwng. Daeth dynion o Aberdâr, Crumlin, Porth a Chwm Rhymni i gynnig help yn yr oriau a’r dyddiau wedi’r drychineb. Er hynny, nid oedd modd achub llawer o fywydau. Roedd eu hymdrechion yn fwy na chlodwiw, ond yn anffodus nid oedd modd achub pawb. Nid oedd llawer o lwyddiant wrth geisio darganfod glowyr oedd yn dal i fod yn fyw. Yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Mawr roedd y galw am lo yn enfawr. Glo o gymoedd de Cymru oedd y glo o’r ansawdd gorau. Er

hynny, y glowyr a’u teuluoedd dalodd y pris uchaf hefyd. Yn amlach na pheidio, roedd yr amodau gwaith o’r safon isaf. Roedd perchenogion y gweithfeydd glo yn esgeulus o ran safonau gweithio ac o ganlyniad fe ddioddefodd y gweithwyr. Yn achos Pwll Glo Senghennydd roedd y perchenogion, aelodau o Lewis Merthyr Consolidated Collieries Ltd. wedi bod yn hynod o esgeulus. Yn yr ymchwiliad wedi’r drychineb, canfwyd bod y perchenogion wedi osgoi dilyn y cyfarwyddiadau a’r rheolau y dylai fod yn bresennol mewn gweithfeydd glo. Condemiwyd y llys pan benderfynwyd taw talu dirwy o £24 yn unig oedd rhaid i’r cwmni wneud. Daeth canlyniad erchyll i wragedd y glowyr wedi’r ymchwiliad hefyd – tâl o un swllt ac un ar ddeg ceiniog am bob corff y’i collwyd, gwerth chwe cheiniog mewn arian cyfoes. Roedd nifer o’r menywod hynny wedyn yn gorfod dibynnu ar bensiwn gweddw. Menywod nad oedd yn gweithio’i hunain. Amcangyfrifwyd bod 1500 o bobl wedi’u gadael heb eu henillwr cyflog, heb fwyd ar eu platiau, heb arian. Mae’n debyg bod pob tŷ yn Senghennydd wedi’i effeithio gan y drychineb naill ai’n uniongyrchol neu ryw ffordd arall. Un o’r pethau gwaethaf am yr hanes yw bod trychineb arall wedi digwydd deuddeg mlynedd ynghynt yn yr un pwll, ym 1901. Ffrwydrad oedd wrth wraidd y drychineb hon hefyd. Fe ddigwyddodd ar ddiwedd sifft nos, wrth lwc ar ôl i’r rhan fwyaf o lowyr fynd yn ôl i’r wyneb. Yn anffodus roedd 82 o’r gweithwyr yn dal i fod dan ddaear. Un dyn yn unig a oroesodd y ffrwydrad. Fe ddarganfuwyd bod y pwll yn beryglus, gyda thymhereddau oedd yn rhy uchel, gormod o lwch glofaol, dim digon o ddŵr a diffyg gwyntylliad. Yr un trafferthion a achosodd yr ail ffrwydrad ym 1913. Y tristwch mwyaf yw na ddysgodd yr awdurdodau o’r drychineb gyntaf ym 1901. I gofio hanes y Cwm, mae

yna ganolfan dreftadaeth yn Senghennydd. Mae’r ystafell fechan yn llawn lluniau, ffotograffau, dogfennaeth a gwybodaeth am y ddau drasiedi. Gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y ganolfan ac maent yn fwy na pharod i agor drysau’r ganolfan i unrhyw un. Mae ymwelwyr o Gymru, Lloegr, America, Awstralia, Canada a phellach wedi ymweld â’r ganolfan ac o ganlyniad wedi helpu’r hanes i deithio’n bell. Mae fy nhad-cu’n dod o bentref Senghennydd, ac rydw i wedi ymddiddori yn yr hanes erioed. Bu farw fy hen hen ewythr (ewythr fy nhad-cu) yn y drychineb. Roedd Alfred Tudor yn bedair mlwydd ar ddeg oed yn mynd i lawr i’r pwll y diwrnod hwnnw. Collodd tad a mam fachgen ifanc iawn yn y drychineb honno. Pan oeddwn yn y ganolfan dreftadaeth yn Senghennydd, fe’m trawais gan stori un fenyw o’r pentref. Bu farw ei gŵr yn y drychineb ym 1913, a’i gadael yn wraig weddw gyda chwech o blant ifanc. Yn ogystal i farwolaeth ei gŵr, cafodd y wraig ei tharo gan dristwch arall – marwolaeth ei brawd. Roedd ei brawd eisoes yn ŵr gweddw a ganddo saith o blant. Aeth ei blant ef i fyw gyda hithau a’i phlant yn un o’r tai teras yn y pentref. Hyhi a thri phlentyn ar ddeg, yn byw ar bensiwn gweddwraig yn unig. Un o’r straeon truenus yn unig oedd hon. Holltwyd calon y gymuned ond daeth y pentrefwyr at ei gilydd i sefyll yn gryf a chadarn. Cymuned agos oedd Senghennydd erioed. Serch hynny, ers y drychineb mae’r bobl wedi edrych ar ôl ei gilydd. Roedd pawb yn yr un sefyllfa gan mlynedd yn ôl ac mae’r gymuned glos yn dal yn amlwg hyd heddiw. Eleni, er mwyn cofio’r rhai fuodd farw yn y ddwy drychineb, fe fydd cofeb yn cael ei chodi yn Senghennydd. Y bwriad yw cael wythnos o weithgareddau, gwasanaethau a chyngherddau i gofio’r rhai y collodd eu bywydau yn y pwll glo. Fe fydd y

gofeb yn un genedlaethol, i goffáu’r holl lowyr sydd wedi colli eu bywydau dros y canrifoedd o ganlyniad i’r diwydiant. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y gofeb ac fe fydd hi’n hollbwysig yn hanes y diwydiant glo yng Nghymru. Fe fydd y gofeb wedi’i gwneud o efydd ac fe fydd hi’n rhan o ardd gofeb yn y pentref. Bydd y gofeb o ddau löwr, a gafodd ei ddewis gan aelodau’r gymuned, yn edrych lawr ar hen safle’r pwll. Yn ôl ym mis Mawrth 2012, diolch i ffrind agos, cefais y fraint o gael cwrdd â Myrddin ap Dafydd. Fe ofynnodd i mi am fy nghysylltiadau â phentref Senghennydd, fe esboniais a dweud wrtho taw dyna oedd pentref genedigol fy nhad-cu. Roedd Myrddin ap Dafydd wrthi’n ysgrifennu cyfrol am hanes y pentref ac yn awyddus i glywed mwy. Dywedais wrtho y byddai modd iddo ddod o hyd i Tad-cu ym mhentref Abertridwr (y pentref nesaf yn y cwm) ac y byddai e’n fwy na bodlon siarad am y drychineb. Nid oedd y ddau ohonom yn ymwybodol bod dyn sy’n gyfrifol am y ganolfan dreftadaeth hefyd yn bwriadu rhoi manylion cyswllt fy nhad-cu a’m mam-gu iddo. Felly, daeth Myrddin ap Dafydd i dŷ mam-gu a tad-cu i gael sgwrs gyda’r tri ohonom. Roedd yn awyddus i weld cysylltiadau’r cenedlaethau. Yn ôl ym mis Mehefin eleni, derbyniais wahoddiad i fynd i lawnsiad y gyfrol newydd honno gan Myrddin ap Dafydd ar yr 11eg o Orffennaf. Enw’r gyfrol newydd hon yw ‘Senghennydd’ – rhan o gyfres Llyfrau Llafar Gwlad. Mae’r gyfrol yn sôn am hanes y pentref a’r drychineb, gyda golwg arbennig o safbwynt gogleddwyr a symudodd lawr i’r cwm i geisio gwaith yn y diwydiant. Mae’r gyfrol yn ddiddorol gan ei bod yn canolbwyntio ar straeon yr unigolion, ac yn cynnwys cerddi am y diwydiant a’r drychineb. Hanes hollbwysig yn hanes y pentref, y diwydiant glo a’r wlad yw hwn. Mae’n rhaid i ni gofio.

Manon Elwyn

Roedd y cyngerdd yn gyfle gwych i gantorion ifainc a thalentog rhwng 16 a 25 mlwydd oed Cyngerdd Ymestyn am y Sêr: John Owen-Jones ac rannu llwyfan â’r seren. Cynhaliwyd clyweliadau yn Ysgol Glanaethwy ystod y diwrnod hwnnw, gyda John Owen-Jones Cychwynodd Pontio dymor byrlymus a yn rhan o’r panel beirniadu. Yn ôl y sôn, roedd yr llond trol o ddigwyddiadau ar y gweill gyda’r cynholl glyweliadau o safon uchel, ond daeth Eiry Price gerdd hwn yn Neuadd Prichard Jones ym Mangor. ac Erin Gwyn i’r brig, gan ennill lle ar y llwyfan Bwriad y llu o ddigwyddiadau yw paratoi tuag at mawreddog. Cafwyd unawdau safonol, hyderus a agor eu adeilad newydd sbon yng nghanol y ddinas cherddorol gan y ddwy. ym Medi 2014. Rhwng caneuon, cafwyd ein diddanu gan Roedd y neuadd yn orlawn, a cherddostraeon digrif John Owen-Jones, ac ambell jôc ffrariaeth ymlaciol yn chwarae yn y cefndir i osod eth. Cafodd y neuadd ei llenwi gyda swn chwerthin naws i’r noson. Mari Lövgreen oedd yn cyflwyno drwy gydol y noson hwyliog. Ymysg y ffefrynnau yn ei ffordd hwyliog arferol, gan groesawu Ysgol gen i oedd Anthem allan o’r sioe gerdd Chess, Till Glanaethwy i’r llwyfan i agor y cyngerdd. Cafwyd I Hear you Sing allan o Love Never Dies, ac wrth unawd teimladwy gan Erin Gwyn o Rwy’n dy Weld gwrs, yr enwog Bring Him Home sydd allan o Les yn Sefyll, a ddilynwyd gan Rhythm y Ddawns ac Misérables. Adiemus gan y côr cyfan. Cafwyd yr hen ffefrynnau gan Ysgol Gla Mae John Owen-Jones yn enwog am chwar- naethwy, gan gynnwys All That Jazz, Try a Little ae’r prif ran yn y sioeau cerdd Les Misérables a Tenderness, Yr Hedydd ac Eryr Pengwern. Roedd Phantom of the Opera, felly roedd yn addas iawn eu perfformiadau i gyd yn wych. Elen Keane oedd iddo fod yn canu ffefrynnau’r byd sioe gerdd yn y yn cyfeilio i’r côr ar y noson, ond siomedig oedd cyngerdd. Canodd dair cân i ddechrau, sef Kiss of clywed ‘backing track’ i rai caneuon, a oedd yn the Spiderwoman, Music of the Night, a Tell My achosi i’r côr swnio fel eu bod yn meimio ar adegau. Father. Roedd ei bresenoldeb ar y llwyfan yn ar Safodd y dorf i gymeradwyo John Owbennig, ac yn gyrru ias i lawr fy nghefn wrth iddo en-Jones ar ddiwedd y cyngerdd, a cafwyd encore o ganu. Bui Doi allan o Miss Saigon. Manon Elwyn

io. Mae hefyd ddewis i gadw’r lleoliad er mwyn hwylusdod, Eleni, lansiodd S4C ap newyneu newid lleoliad i unrhyw dd dwyieithiog sy’n hysbysu ardal arall drwy roi enw’r lle ei ddefnyddwyr o’r tywydd ar neu gôd post. yr union adeg honno, sydd â Yn ogystal â hynny, mae manylion y tymheredd, canran posib taro golwg ar y tywydd y glaw sy’n disgyn a pha mor fesul awr am y 24 awr nesaf, gyflym y mae’r gwynt yn trafeil- a hyd yn oed am y pymtheg

diwrnod nesaf. Dyma ap hwylus iawn, sydd â’r fantais o fod yn Gymraeg. Ar ben hynny, dyma’r ap mwyaf manwl gywir i mi ei ddefnyddio er mwyn cael gwybodaeth am y tywydd erioed, felly gellir dibynnu arno’n fawr.

Dywedodd John Owen-Jones: ‘My first experience in Bangor was brilliant. The audience were very friendly and the acoustics were fantasic in this beautiful building. It was a joy and a pleasure to perform here.’ Ar wahân i orfod symud yn ystod yr egwyl o’r balconi i rai o’r seddi yn y gwaelod oherwydd y goleuadau llachar a oedd yn ein dallu hyd at syrffed, gwnes fwynhau yn arw iawn, a braf oedd gweld cyngerdd mor hwyliog, ond eto proffesiynol. Roedd y naws yn berffaith, a phawb i weld wedi mwynhau!

APOLYGIAD: TYWYDD S4C


Hysbyseb ...Newyddion 17

16 ...Adolygiadau

TELEDU Adolygiad Carys Tudor o raglen ddogfen Blackfish Y Morfil Danheddog. Un o’r anifeiliaid harddaf yn y byd gwyllt. Un o anifeiliaid mwyaf y byd gwyllt. Un o straeon tristaf y byd gwyllt. Yr wythnos ddiwethaf, penderfynais wylio’r rhaglen ddogfen Blackfish. Rhyddhawyd y rhaglen, sy’n sôn am hanes Morfilod Danheddog caethglud yn gynharach eleni. Mae’r ffilm yn sôn yn bennaf am Tilikum, Morfil Danheddog sydd wedi lladd tri pherson erbyn hyn, y diwethaf yn 2010. Yn ôl yn y 1970au, penderfynodd glwstr bychan o Americanwyr y byddai modd dal Morfilod Danheddog, eu caethiwo mewn parciau ‘Seaworld’ a chreu sioe ohonynt. Y syniad oedd y byddai modd eu hyfforddi i wneud triciau er mwyn diddanu cynulleidfa. Roedd pysgotwyr yn mynd allan i’r môr, gwahanu Morfil Danheddog ifanc o’i deulu, ei ddal a’i anfon i gaethiwed. Mae’r rhaglen ddogfen hynod bwysig hon yn trin a thrafod barn a ffeithiau yr oeddwn i’n anymwybodol ohonynt cyn hyn. Yn ystod y rhaglen, mae gwyddonwyr, cyn-hyfforddwyr a llygad-dystion yn lleisio’u barnau a’u profiadau ynghylch Morfilod Danheddog. Roeddwn i wedi synnu’n fawr wrth yr hyn roeddwn i’n ei weld a’i glywed. Roeddwn yn ymwybodol o’r driniaeth annheg ond nid oeddwn i’n sylweddoli difrifoldeb yr achos. Anifail gwyllt yw’r Morfil Danheddog. Ni ddylai unrhyw anifail orfod cael ei gaethiwo a’i orfodi i wneud triciau ddydd ar ôl dydd. Fe wnaeth y rhaglen ddogfen hon fy nhristáu’n fawr. Roedd hi’n drist bod yr anifeiliaid hardd yma wedi cael eu dal, yn cael eu caethiwo mewn pwll nofio, yn cael eu gorfodi i ddiddanu, yn unig. Roedd hi hefyd yn drist bod yr hyfforddwyr wedi colli’u bywydau o ganlyniad i ymosodiadau Tilikum. Er hynny, y peth tristaf i mi o’r holl beth oedd anwybodaeth y bobl. Y ffaith nad oedd yr hyfforddwyr yn ymwybodol o beryglon Tilikum, ei fod wedi lladd ac ymosod yn y gorffennol. Y ffaith nad oeddynt yn sylweddoli tristwch y diwydiant. Y ffaith nad yw ‘Seaworld’ yn creu darlun gwir o fywydau Morfilod Danheddog – maent yn bwydo’r cyhoedd gydag anwireddau a ffeithiau anghywir. Y ffaith bod bodau dynol yn meddwl bod ganddynt yr hawl i drin yr anifeiliaid gwyllt hyn fel petaent yn berchen arnynt. Rhaglen ddifrifol yw hon ond un hollbwysig o ran addysg. Argymell ei gwylio’n fawr! Os ydych eisiau gwylio’r rhaglen, ewch i www.blackfishmovie.com

Adolygiad Llio Mai o’r rhaglen Come Dine With Me Nos Wener y 13eg o Fedi roedd cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, Catrin Mair Roberts, yn cymryd rhan ar raglen ‘Come Dine with Me’. Mae Catrin yn byw yn Nhregarth, ac yn athrawes ysgol gynradd. Roedd pedwar person yn cymryd rhan a phob un yn ei dro yn coginio pryd tri chwrs i’r gweddill. Y person oedd wedi derbyn y sgôr uchaf gan weddill y cystadleuwyr oedd yn ennill gwobr o £1,000. Dale Gough, Roxanne Harrison a Gareth Wyn Jones oedd y tri oedd yn cystadlu yn erbyn Catrin. Roedd gan Dale fwydlen Thai, Roxanne wedi mynd am fwydlen Mecsicanaidd ac Americanaidd, a Gareth a Catrin wedi dewis bwydlen fwy Cymreig. Mae’n rhaid i mi ddweud mai hon yw un o bennodau mwyaf doniol ‘Come Dine with Me’ i mi ei gwylio erioed. Doedd dim cymaint o gecru a ffraeo â rhai o bennodau eraill y rhaglen, ac felly roedd yr awyrgylch yn un mwy hwyliog ac ysgafn gan ei gwneud yn fwy pleserus i’w gwylio. Cafwyd sawl jôc a sylw doniol gan Gareth ond seren y sioe oedd Catrin ei hun. Rwy’n siŵr ei bod wedi llwyddo i wneud i bob gwyliwr chwerthin wrth fethu a dweud y gair ‘magnificent’, ac erbyn hyn mae fideo o’r clip i’w gael ar YouTube! I’r rhai ohonoch wnaeth fethu’r rhaglen, dyma’r linc - http://www.youtube. com/watch?v=n2Kp-7Tl9jY. Rhoddwyd Cymru ar y map gan Catrin a Gareth, gyda Gareth yn coginio cig oen oedd wedi’i fagu ar ei fferm ei hun, a Catrin yn diddanu’r criw gyda chôr meibion Hogia’r Ddwylan. Rhywbeth arall oedd yn ychwaegu at hiwmor y rhaglen oedd sylwebaeth Dave Lamb, sy’n llwyddo bob tro i wneud i’r gwylwyr chwerthin gyda’i sylwadau sydyn a bachog. Roedd hi’n rhaglen gwerth ei gwylio rhwng y bwydlenni diddorol, y sgyrsiau difyr a’r hiwmor ysgafn.

LLYFRAU

Adolygiad Manon Elwyn o’r nofel Caersaint, Angharad Price Ar ôl darllen y nofel afaelgar, O! Tyn y Gorchudd, gan Angharad Price, roedd rhaid i mi fynd i’r afael â’r nofel a gyhoeddod wedyn, sef Caersaint. Roeddwn wedi edrych ymlaen at gael yr amser i ddarllen y nofel swmpus hon, felly es ati i’w darllen dros yr haf. Fel un sy’n byw ychydig filltiroedd o Gaernarfon, sef y dref ble mae’r nofel wedi cael ei seilio oherwydd cariad yr awdur at yr ardal, roeddwn yn teimlo’n gartrefol iawn wrth gael fy nhywys o gwmpas waliau’r dref hanesyddol, ac ar hyd y strydoedd cyfarwydd. Mewn gwirionedd, nofel wleidyddol ydi Caersaint, sy’n canolbwyntio ar un cymeriad yn benodol, sef Jaman Jones – dyn ifanc sy’n dychwelyd i’w dref enedigol wrth iddo etifeddu tŷ ei fodryb. Mae Jaman yn mynd ar daith bersonol i ganfod ei hun wrth iddo gael ei drochi gan hen atgofion cymeriadau unigryw y dref, fel Arfonia Bugbird, Tonwen Bold a Babs Inc., ond mae llawer o rwystrau ar hyd y ffordd. Roeddwn i’n arbennig o hoff o’i gymdogion amlochrog, sy’n fusneslyd a phowld ar adegau, ond yn ofalgar a sensitif ar adegau eraill. Mae gallu Angharad Price i wneud i ni’r darllenwyr chwerthin a chydymdeimlo ar yn ail yn benigamp. Cawn yma bortread o dref Gymreig a’i chymeriadau a thafodiaith unigryw o fewn y nofel realaidd hon. Mae’r arddull yn syml, ond mae’r holl haenau gwahanol yn llwyddo i drafod tensiynau diwylliannol a gwleidyddol ehanagach y Gymry gyfoes.

FFILM Adolygiad Manon Elwyn o’r ffilm We are the Millers

Un prynhawn glawog, cefais drip i’r sinema i wylio We’re The Millers. Doeddwn i ddim wedi clywed rhyw lawer am y ffilm yma, heblaw gweld poster fan hyn a fan draw, ond does dim llawer o hysbysebu wedi bod iddi. Ar ôl gwylio’r ffilm, dw i’n deall pam. Mae ganddi blot unigryw iawn, sef gwerthwr cyffuriau yn cael ei yrru i Mexico er mwyn casglu cyffuriau a dychwelyd i America efo’r parseli, sy’n gallu bod yn anodd wrth groesi’r ffin. Cafodd y cymeriad syniad gwych o fynd fel teulu mewn cerbyd anferth er mwyn tynnu llai o sylw ato’i hun. Yr unig broblem – doedd ganddo ddim teulu i fynd efo fo. Felly, daeth o hyd i “wraig” sydd yn dawnsio’n erotig fel bywoliaeth, “mab”, sef hogyn yn ei arddegau sydd yn nerfus o gwmpas merched ifainc, a “merch” sy’n goth styfnig, ddigartref. Doedd dim problem wrth groesi’r ffin i Mexico, ond mae’r problemau’n dechrau wedi iddynt gasglu’r cyffuriau. Mae’r daith i ddychwelyd i America yn antur a hanner, a wnaeth i mi chwerthin yn ddi-stop! Maent yn cwrdd â theulu confensiynol, sy’n awyddus i wneud ffrindiau, ac mae pethau’n mynd o chwith i’r teulu ffug wrth iddynt gael eu gorfodi i dreulio amser efo nhw. Dw i’n falch iawn fy mod i wedi mynd i wylio’r ffilm yma, roedd hi’n well na’r disgwyl ac yn ddoniol tu hwnt!

Beth ydi Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)?

What is the Bangor Employability Award (BEA)?

DY GYFLE DI I SEFYLL ALLAN!

YOUR CHANCE TO STAND OUT FROM THE CROWD!

Mae GCB yn gynllun sy’n cynnig gweithgareddau i ehangu dy gyflogadwyedd a chydnabyddiaeth ffurfiol o dy lwyddiannau all-gyrsiol.

The BEA is a scheme that offers free employability-enhancing activities and formal recognition of your extracurricular achievements.

Beth sydd gan GCB i’w gynnig i ti?

What can the BEA offer you?

• Gweithdai a help i ysgrifennu dy CV, gwneud ceisiadau am swyddi, a darparu ar gyfer cyfweliadau lefel graddedig

• Workshops and assistance with writing your CV or job application forms, and preparing for interviews at graduate level

• Cyfleoedd i gael interniaeth broffesiynol (gyda chyflog) o fewn y Brifysgol

Gweithdai hyfforddiant proffesiynol rhad ac am ddim yn cael eu harwain gan arbenigwyr yn eu maes Mynediad rhad ac am ddim i feddalwedd proffilio personoliaeth, meddalwedd proffilio gyrfa ac ymarferion profion dawn A llawer mwy...

Pam fod GCB yn werthfawr i ti? Oherwydd ei fod yn werthfawr i gyflogwyr! Pwy fyddai ddim eisiau ymgeisydd sydd: • Yn arddangos ymrwymiad i’w datblygiad personol a phroffesiynol? • Yn gallu dangos tystiolaeth o sgiliau lefel uwch a sut y datblygwyd y rhain?

• Wedi cael eu gweithgareddau wedi eu gwirio gan sefydliad swyddogol, felly does dim angen iddynt gadarnhau dy CV? • Efo CV rhagorol, portffolio eang o sgiliau, a sgiliau cyflwyno?

Pa weithgareddau sy’n rhan o GCB? • • • • • •

Gwaith Rhan Amser Cynrychiolwyr Cwrs Arweinwyr Cyfoed Gwirfoddoli Swyddi Haf Lleoliadau/Interniaethau

• Opportunities to get paid, professional internships alongside your studies

• Free professional training workshops run by experts in their field • Free access to online personality profiling software, career profiling software, and aptitude tests to practice • And much more...

Why is the BEA valuable to you? Because it’s valuable to employers! Who wouldn’t want a job-applicant who: • Demonstrates commitment to personal and professional development? • Has evidence of higher level skills and how you’ve developed them?

• Has all their activities verified by an official institution, so they don’t doubt your credentials? • Has an excellently developed CV, skills portfolio and presentation skills?

What activities can I include in the BEA? • • • • •

Clybiau a Chymdeithasau Hyfforddiant Proffesiynol Darlithoedd Gwadd Trwydded Yrru A llawer mwy...

• • • • • •

Part Time Work Course Reps Peer Guiding Volunteering Summer Jobs Placements/Internships

• • • • •

Clubs and Societies Professional Training Guest Lectures Driving Licence And many more...

Sut ydw’i yn cymryd rhan?

How do I start?

Rwyt angen mewngofnodi i “Hwb GCB” i ddechrau recordio dy weithgareddau, neu cysyllta’ efo ni ar CYFLOGADWYEDD@BANGOR.AC.UK am fwy o wybodaeth!

Log onto the “BEA Hub” to start recording your activities, or contact us on EMPLOYABILITY@BANGOR.AC.UK for more information.

cyflogadwyedd@bangor.ac.uk employability@bangor.ac.uk Tîm GCB BEA Team

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Careers and Employability Service

www.bangor.ac.uk/cyflogadwyedd www.bangor.ac.uk/employability

Prifysgol Bangor | Bangor University, 2il Lawr Neuadd Rathbone | 2nd Floor Rathbone Hall Ffordd y Coleg | College Road, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF


Ffasiwn ... 19

...Ffasiwn

18 ...Ffasiwn

Ffasiwn

BAROC A RÔL Dyma arbrofi a chyferbynnu rhwng dau gyfnod. Parwch batrymau urddasol a gemwaith cameo’r cyfnod Baróc gyda lledr cras, denim a thartan, gan greu ymdeimlad moethus gydag apêl seren roc.

Mae’n dymor newydd, ac felly’n amser rhoi adfywiad i’ch wardrob gyda digon o ysbryd hydrefol! Arbrofwch gyda haenau o brintiau siec, llaes a lledr, wrth gymysgu a chyferbynnu’r cyfuniadau mwyaf annisgwyl o batrymau a gweadau i greu ensemblau unigryw â digon o liw tra bo’r tywydd yn oeri! Holly x

Primark £17

New Look £59.99

Ffrog – ASOS £29

Y Got Aeaf Hanfodol

River Island £12

Buddsoddwch mewn côt aeaf brwpasol er mwyn cadw’n gynnes mewn steil. Dyma ddetholiad o rai o oreuon y stryd fawr, i gyd am lai na £100.

River Island £60 Debenhams £70

Emma Watson

Topshop £79.99

Missguided £3

0

Miss Selfridge £42

Topshop £18

ASOS £28

Miss Selfridge £75 Warehouse £59.99

Coast £85


20 ...Cornel Creadigol

...Cornel Creadigol 21

...Cornel Greadigol

...Cornel Greadigol

Croeso i gornel greadigol y Llef. Gobeithio y cawn ni flwyddyn gystal â’r llynedd. Diolch i bawb sydd wedi cytuno i gyhoeddi eu gwaith yn y rhifyn hwn. Dyma début Gruffudd Antur, enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd 2012 a chadeiriau Eisteddfodau Rhyng-golegol 2011, 2012 a 2013, wrth iddo fo ymuno ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ar ôl graddio mewn Ffiseg yn Aberystwyth eleni. Un peth rydw i’n gobeithio’i wneud yn rhifynnau’r Llef eleni ydi cynnwys cerddi gan feirdd enwog fu yn y brifysgol neu’r Coleg Normal ym Mangor. Diolch i Tudur Dylan Jones, enillydd cadeiriau Eisteddfodau Cenedlaethol 1995 a 2005 a choron Eisteddfod Genedlaethol 2007, am anfon y gerdd hon i ni, sy’n ‘sôn yn benodol am fynd ar hyd ffordd Penrhos, a gweld Eryri yn y pellter’. Rydym wastad yn chwilio am ragor o bobl i gyfrannu felly os oes gennych chi unrhyw beth llenyddol – straeon byrion, llen meicro, ymsonau, cerddi o unrhyw fath – anfonwch o ataf i ar elis.dafydd@btinternet.com.

RHWNG PENRHOS A PHENCHWINTAN

Y Cyfan

heibio i stori a miri Coed Mawr, heibio i eiliad a munud ac awr,

Mae ogla hiraeth ar yr haul yn Nyffryn Nantlla A’r gawod sêr ym Mangor Ucha’. Ond deud i mi, ti’n cofio’n gwalltia’n Socian wlyb dan gawod eira? A Duw ei hun yn nhraed ei sana’n Bendithio gwres y noson gynta Wrth inni swigio gin o botal fodca. Ac wedyn? Cyffro’r misoedd cynta’n Wefr ac ias am yn ail â dagra A dechra sylweddoli’n ara’n Bod ni’n hidio gormod am wendida A bod ’na gur tu mewn i’r geiria Sydd yng nghlustia dau wrth ddawnsio’n ara. Y briwsion baco ar hen lythyra’n Chwd ar lawr y trên olaf adra. A’r myfyrio dwys, yr athroniaetha’n Siarad gwag uwch peint o Stella. A thra ’dan ni ein dau yn ffraeo’n fa’ma Mae bar y Glôb ’di cau ers oria’ A thrugaredd sy’n tollti’r gwin i’r gwydra Mewn stafell fudur ym Mangor Ucha’. Mi gawn dreulio fory’n hangofera. Mi gei sbïo arna’ i. Mi ga’ i sbïo arna chditha A’n calonna ni’n rhacs ym mhocedi’n jîns. A’r cyfan, Fy nghariad, Ar ben. Elis Dafydd

Y GLAW

Rhwng Penrhos a Phenchwintan un hwyr o Fai, rhwng heddiw a fory, a rhwng dwy res o dai, mae’r car yn aros... i’r llygaid gael troi tua’r mynyddoedd, ac i’r enaid ffoi

“Dim gair, ocê?”

Cofiodd y rhamant, y nerfau, y teimladau llethol a’r nwyd. Y ddau ohonynt yn ifanc, ac yn byw i’r funud. Y ddau yn chwerthin yn afreolus heb boeni am ddim. Cofiodd amdanynt yn rhedeg trwy’r glaw o’r pier y noson honno, ac yntau’n gafael ynddi a’i chusanu’n frwd nes oeddent yn wlyb at eu croen. Heno, mae hi’n cofio. Heno ar y pier mae ei dagrau’n gymysg efo’r glaw.

aros i gerdded y llwybrau maith a dringo, heb gerdded na dringo chwaith,

Llio Mai

Rhwng dwy res o dai mae’r alwad yn dod i’r lle nad yw dyn nac amser yn bod,

Gadael Aber Gwn, pan fydd y dydd yn dod – i adael a'r munudau'n darfod, y caf gofio eto fod Aber yn fy adnabod. Cyrraedd Bangor Er bod Aber, ebe rhai, - yn nefoedd, mi af ar fy siwrnai tua'r waun lle nad oes trai i'r gwin ar fin y Fenai. Gruffudd Antur

Y FORWYN Alla’i ddim anghofio’r tro cyntaf. Roedd ei ddwylo budr o’n anwesu fy ngwyneb i a’i lygaid gwyllt yn brawf o’i bŵer. Ei anadl oedd y peth gwaethaf. Roedd o’n sefyll tu ôl i mi ac yn sibrwd y geiriau a fyddai’n dod yn rhy gyfarwydd, gan ryddhau ogla aniseed ofnadwy. Rhedodd ei fysedd trwy fy ngwallt i cyn ei dynnu’n ôl a rhoi ei rybudd:

dyheu am gael bod ar lan Ffynnon y Gwas, neu nôl gyda’r wawr wrth y llyn yng Nghwm Glas, neu ddilyn yr afon yn y Ceunant bach mewn bwlch rhwng dau fynydd yr awyr iach.

Llaciodd ei afael a fy nhroi i’w wynebu, ei lygaid awchus yn archwilio pob rhan o’m corff wrth iddo fo lafoerio fel hen bulldog barus. Dwi’n cofio’r ias ’ma’n mynd trwydda’i wrth iddo fo gydio yn fy mreichiau a nhaflu i ar y gwely cyn i’w ddwylo fo ddechrau crwydro wrth iddo gusanu fy ngwddf i’n galed. Dwi’n cofio cau fy llygaid yn dynn dynn a thrio canu Iesu Tirion yn uchel yn fy mhen.

ac fe ddwed yr enaid yn dawel, ‘Pam lai,’ rhwng Penrhos a Phenchwintan un hwyr o Fai.

Mae o’n dweud mai fy mai i ydy hyn i gyd. Mae o’n dweud na wnaiff neb fy nghoelio i os dduda’ i wrthyn nhw. Dwi ’di dod at y llyn i feddwl. Hoff le Mam oedd fan hyn, cyn iddi fynd yn sâl a’n gadael ni efo fo. Ar ddiwrnod braf fel heddiw mae’n braf cael rhoi fy nhraed yn y dŵr, a mynd yn bellach ac yn bellach i ffwrdd o wres yr haul.

Tudur Dylan Jones

Llio Mai

GORWEL Aethant dros y dŵr, mewn gobaith am ddyfodol gwell. Hwyliasant yn ddewr drwy’r storm, gan golli, ac ennill yn erbyn y tonnau tymestlog a chyrraedd y tir newydd. Ond wedi’r brwydro i gyrraedd pen eu taith, roedd rhwystrau eraill i’w hwynebu. Buan iawn y sylweddolasant nad oedd pen i’r daith a bod y gorwel mor bell ag erioed. LlM

Y NHW A NI Dwi wedi bod yn eu gwylio nhw ers amser maith. Y nhw, draw yn fan ’cw. Ac maen nhw’n gwybod yn iawn mod i yma. O ydyn, maen nhw’n gwybod. Ac er mod i’n ymwybodol mod i wedi bod yn gyfrifol am sawl marwolaeth cyn heddiw, wnes i ’rioed wneud hynny’n fwriadol. Dwi’n addo. Mae o yn fy natur i, yn rhan annatod ohona i. Fedrwch chi’m cyhuddo rhywun am wneud rhywbeth sy’n rhan o’i natur nhw. Na fedrwch? Ond dwi hefyd yn gyfrifol am filoedd ar filoedd o fywydau, am adael iddyn nhw fyw. Hebdda i, wel, fasa na’m bywyd yma. A dyna pam fedra’ i’m deall. Does na neb o fama yn mynd ac yn dympio petha yn fana, felly pam bo nhw’n gwneud i ni? Rhoi bywydau mewn perygl, ac i be? Mae’r byd yma mewn digon o stad yn barod. Fedra nhw’m fforddio fy ninistrio i. LLM


...Chwaraeon 23

22 ... Hysbyseb

...Chwaraeon O’r dudalen ôl ... Fel hyn bydd y posibilrwydd o orffen y grŵp yn drydydd yn uchel iawn, ac er bod ail, a’r siawns o fynd ymlaen i Gwpan y Byd 2014 ym Mrasil yn amhosib wrth ystyried cyfanswm pwyntiau Croatia a Gwlad Belg, roedd hi’n dal yn fathemategol bosib! O ystyried bod cymaint o chwaraewyr Cymru bellach yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair (9 allan o’r 11 a ddechreuodd y gêm yn erbyn Macedonia), a chwaraewr drytaf y byd, Gareth Bale, bellach efo Real Madrid yn La Liga ac ymysg dawn orau’r byd, roedd y ffaith bod Cymru wedi colli’r ddwy gêm, a cholli’r siawns o gymhwyso i’r rownd nesaf yn hollol warthus! Fe gollodd Cymru oddi cartref ym Macedonia o ddwy gôl i un, a cholli’r ail gêm gartref i Serbia o dair gôl i ddim. Roedd Cymru’n anlwcus i golli’r gêm gyntaf, a bod yn deg. Bellamy’n taro’r postyn a Jonathan Williams a Sam Rickets yn cael anafiadau a sicrhaodd noson ddrwg o’r cychwyn. Ond i berson sy’n fwy beirniadol, mae hi’n anodd deall sut ddaru tîm â chwaraewyr mor ddawnus ac ifanc golli yn erbyn tîm o safon mor isel, a bod yn hollol onest. Roedd yr ail gêm yn stori wahanol, fe gawsom ni wers gan dim profiadol o safon uwch. Ond wedi dweud hyny, roedd dewisiad Chris Coleman o’r tîm dechreuol yn amheus dros ben. Roedd ambell chwaraewr a fyddai fel arfer yn dechrau, fel David Vaughan a Jack Collison, ar y fainc, ac roedd rhai o’r chwaraewyr a oedd yn dechrau yn chwarae mewn safleoedd gwahanol i’r arfer. Y benbleth fwyaf oedd y ffaith bod Gareth Bale wedi chwrae llai nag ugain munud yn erbyn Serbia, a heb chwarae o gwbwl yn erbyn Macedonia, er ei fod ar y fainc ac ar gael i chwarae. Dadl Coleman oedd fod Bale yn cario “anaf ”, a heb chwarae pêl-droed cystadleuol ers wyth wythnos. Yn y pen draw, mae Bale yn athletwr proffesiynol, a dylai wedi bod yn ddigon da i ddod ar y cae fel eilydd, o leiaf, ym Macedonia, ac yn sicir dylai fod wedi cael yr ail hanner yn erbyn Serbia am ein bod yn colli 2-0 ar hanner

amser. Os nad oedd Bale yn ddigon da i gymryd rhan, beth odd y pwynt gofyn iddo ymuno â’r garfan o gwbwl? Nawr, mae Cymru ar waelod eu grŵp, ac mae gorffen yn drydydd yn edrych fel tasg anobeithiol yn enwedig o gofio bod un o’n dwy gemau sydd ar ôl yn erbyn y Gwlad Belg. Mae’n bwysig ein bod yn gorffen mor uchel â phosib, fel ein bod yn cael grŵp gwell a haws yn y gemau rhagbrofol i Euro 2016. Er yr amheuon yn erbyn Chris Coleman fel rheolwr ein gwlad, mae’r FAW wedi penderfynu ei gadw am ddwy flynedd arall. A bod yn deg â Coleman, pan mae chwaraewyr gorau Cymru i gyd wedi bod yn heini, mae’r canlyniadau wei bod yn llawer gwell, gobeithiwn felly bydd sêr y tîm yn cadw rhag anafiadau drwy gydol yr ymgyrch nesaf i Euro 2016, fel

bod Cymru’n gallu cymhwyso i’r twrnament rhyngwadol cyntaf ers Cwpan y Byd 1958. Efo gymaint o chwaraewyr ifanc ac addawol, mae’r dyfodol yn edrych yn bositif i’r tîm cenedlaethol, yn enwedig os gallem gadw chwaraewyr profiadol fel Craig Bellamy. Fel cefnogwr ffydlon pêl-droed Cymru, y boen waethaf i mi ydi’r prinder o gefnogwyr sy’n gwylio gemau Cymru. Rydw i’n cofio cyfnod llwyddianus Marc Hughes fel rheolwr Cymru, a choeliwch neu beidio, gan y Cymry oedd y cefnogwyr cenedlaethol gorau yn Ewrop yn ystod y cyfnod hwnnw! Erbyn hyn, fyddwn i ddim yn synnu mai ni ydi’r gwaethaf! I mi mae agwedd y cefnogwr yng Nghymru angen newid. Os nad yw’r tîm pêl-droed yn ennill, tydi’r cefnogwyr ddim am dalu i wylio’r tîm. Deallaf hyn i raddau, yn amlwg does ‘na neb yn hoffi

gwastraffu pres i wylio tîm yn chwarae’n sâl a cholli. Mae cefnogwyr sydd o ddifrif yn cefnogi eu tîm beth bynnag fo’r canlyniad, fel cefnogwyr y tîm rygbi cenedlaethol. Wedi dweud hynny, dwi’n sicr y byddai’r chwaraewyr pêl-droed yn denu mwy o gefnogwyr hefyd os byddant yn newid rhai pethau eu hunain, fel dysgu a chanu’r anthem genedlaethol! Mae hi’n bechod mawr yn fy marn i nad yw’r tîm pêl-droed yn cael yr un gefnogaeth â’r tîm rygbi. Dylien ni fel Cymry ddilyn esiampl y gwledydd celtaidd eraill. Mae cefnogwyr rygbi a phêl-droed yr Alban ac Iwerddon yn llenwi eu stadiymau cenedlaethol i’r ddau fath o chwaraeon, ennill neu golli! Beth bynnag fo’r math o chwaraeon, os yw’r cystadleuwr yn gwisgo crys coch ein gwlad, mae hi’n ddyletswydd arnom ni i’w cefnogi!

Clwb Pêl-Droed UMCB yn barod am dymor newydd Gethin Lewis Green Ar ôl ychydig dros flwyddyn o baratoi a disgwyl, mae tîm pêl-droed UMCB o’r diwedd yn cael cystadlu mewn cyngrhair gystadleuol. Eleni mi fydd y myfyrwyr Cymraeg yn ymgyrchu yn y gyngrhair Sul leol (Gogledd Gwynedd a Môn, ‘Division 1’) ac yn cystadlu yn erbyn 6 thîm arall am y gyngrhair. Mae’r bechgyn yn barod wedi cael profiad o chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr o’r Gyngrhair Sul wedi iddynt chwarae Penbont Celts ddwywaith y llynedd, curo’r gêm gyntaf 3-0, a cholli’r ail 3-2. Fel mae’r canlyniadau’n ei awgrymu, roedd UMCB yn gallu cystadlu’n dda yn erbyn tîm sydd yn chwarae mewn

cynghrair uwch, felly gobeithion UMCB eleni fydd herio am y gyngrhair. Mi fydd hon yn her anodd i’r tîm – mae yna dimau da a chwaraewyr o safon uchel yn y gyngrhair, felly mi fydd y gwaith caled sydd wedi cael ei ddangos gan y myfyrwyr angen parhau trwy gydol y tymor er mwyn llwyddo. I lawer o chwaraewyr y tîm, hon fydd eu blwyddyn olaf yn y brifysgol, a’r unig gyfle iddynt gynrychioli UMCB ar y cae chwarae. Gobeithio y bydd hyn yn ychwanegu at ymdrechion y bechgyn i gael rhyw fath o lwyddiant eleni. Y llynedd, roedd y tîm yn chwarae gemau cyfeillgar drwy gydol y tymor yn erbyn neuaddau a

chymdeithasau y brifysgol, yn ogystal â thimau lleol fel Penbont. Yn yr amser hwnnw mae UMCB wedi gallu sefydlu eu carfan, sydd bellach yn cynnwys 24 o chwaraewyr, rhai ohonynt heb chwarae pêl-droed ar lefel oedolion o gwbwl, a rhai wedi chwarae mewn amryw o gyngrheiriau ar hyd a lled Cymru. Fe hoffwn ddiolch i Mared Jones am ei chymorth fel Llywydd UMCB y llynedd i sefydlu’r tîm, ac i Elidyr Glyn, sef y Llywydd newydd am iddo barhau i helpu’r tim. Eto eleni, mae Tafarn Y Glôb yn noddi’r tim, felly diolch iddyn nhw hefyd am eu cefnogaeth. Pob lwc i’r clwb pêl-droed yn eu hymgyrch eleni – edrychaf ymlaen at yr her!


24 ...Chwaraeon

...Chwaraeon

Carfan Cymru Gethin Lewis Green Ddydd Gwener y 6ed o Fedi, roedd y tîm pêl-droed Cenedlaethol yn bedwerydd yn eu grŵp rhagbrofol, gyda Serbia a Croatia o’u blaenau, a Gwlad

Gorau Chwarae ... Methu Chwarae ?

Belg ar y brig. Sefyllfa eithaf parchus ar y cyfan, o ystyried bod y gwledydd uwch ein pennau’n well timau, a bod Serbia’n ddim ond un pwynt o’n blaenau yn drydydd. Felly, â gêm yn erbyn

Macedonia (y tîm ar waelod y grwp) oddi cartref, a Serbia gartref fel ein gemau nesaf, a Serbia i chwarae Croatia, nod Cymru oedd cael oleiaf 4 pwynt allan o’r ddwy gêm, os nad 6 phwynt. Parhâd ar dudalen 23

Nid ‘Beth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig i mi?’ Llongyfarchiadau i Steffan! ond ‘Beth sydd gennyf i i’w gynnig i’r Brifysgol?’... Carwen Richards O’r 12fed i’r 15fed o Fedi cynhaliwyd Gemau Ysgolion Sainsbury’s yn Sheffield. Y deuddeg camp a gynnigwyd yn ystod y penwythnos oedd Athletau, Badminton, Seiclo, Ffensio, Gymnasteg, Hoci, Jiwdo, Rygbi 7 bob ochr, Nofio, Tenis Bwrdd, Pêl Foli a Phêl-Fasged Cadair Olwyn. Llongyfarchiadau i unrhyw un ag unrhyw gysylltiad â’r Gemau, boed yn gystadleuwyr neu’n wirfoddolwyr. Cynnigir llawer mwy na deuddeg camp ym Mhrifysgol Bangor! Mae’r Undeb Athletau eisoes wedi cofrestru 39 tîm yng nghyngrair BUCS (British Universities and Colleges Sport) ar gyfer 2013-2014 ac yn brolio dros 55 o glybiau chwaraeon, sy’n amry-

wio o bêl droed i fynydda i ‘Octopush’! Heb os nac oni bai, mae UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yn gymdeithas heb ei hail. Er hynny, mae’n bwysig sylweddoli fod gan bywyd Prifysgol fwy i’w gynnig nag UMCB yn unig. Ceir sawl cymdeithas a chlwb arall gwerth eu halen o dan adain Prifysgol Bangor. Felly, beth fyddwch chi’n ei wneud ddydd Mercher (126yh) a dydd Iau (10yb-3yh) yr Wythnos Groeso, sef y 25ain a’r 26ain o Fedi? Ar yr adegau o dan sylw bydd ffair cymdeithasau a chlybiau chwaraeon yn cael ei chynnal ym Mhrif Adeilad y Celfeddydau. Enwir y digwyddiad yn Serendipedd, lle cewch y cyfle i siarad â chynrychiolwyr o bob clwb chwaraeon a chymdeithas a

geir yma ym Mangor. Boed ar fin dechrau’ch blwyddyn gyntaf neu’n gwneud eich doethuriaeth, ewch draw, da chi, a cheisiwch rywbeth newydd! Am air o gyngor gyda’r profiadol, dyma lond llaw o bobl sydd eisoes yn ymddiddori mewn clybiau/ cymdeithasau eraill oni bai am UMCB, sydd i gyd yn gwestŷa yn Neuadd JMJ.... • HOCI - Llio Meleri Jones a Carwen Richards • DAWNSIO - Rhys Dilwyn Jenkins • OPERA - Heledd Besent • RYGBI - Brychan ap Geraint • GMB (Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor) Carwen Richards

• PERFFORMIO - Dion Davies a Rhys Dilwyn Jenkins. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyflawnodd y ‘Great North Run’ ar y 16eg o Fedi a phob lwc i unrhyw un sy’n cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar y 6ed o Hydref!

Gethin Lewis Green Ar Medi 1af, fe aeth Steffan Owen, myfyriwr lleol o Langefni ac aelod ffyddlon o UMCB, at i’w herio’i hun ac i drechu’r ras feicio newydd, ‘Tour de Mon’. Er bod dewis i gymryd rhan mewn ras “ganolig” o 75 milltir, neu ras “fychan” o 40 milltir, fe aeth Steff am y ras “fawr” – 106 o filltiroedd! Roedd y ras yn mynd ar hyd yr Ynys i gyd, ac fe gymerodd hi wyth awr i’r beiciwr profiadol ei chwblhau. Mae Steffan wedi bod yn feiciwr awyddus ers blynyddoedd, ac wedi cymryd rhan mewn amryw o rasys o amgylch y wlad, fel y Bencampwriaeth Gymreig. Yn amlwg, roedd rhaid iddo ymarfer yn galed ar gyfer y Tour, a beicio am 50 milltir ar y tro oedd ei brif ddull o ymarfer, ac roedd ‘y gweddill yn cael ei wneud yn Glôb’ yn ôl Steff! Llongyfarchiadau i ti, a phob lwc efo unrhyw gystadlaethau eraill yn y dyfodol!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.