Straeon Gwych Ar Gyfer Arwyr Arian! (Money Heroes KS2 Chapter Book in Welsh)

Page 1

norry Darluniwyd gan Iris Amaya 3 stori yn 1 Cael ddysguwrthhwyl amARiAn!
Gwych ar gyfer
Arwyr Arian E.L.
Straeon

Arwyr Arian

norry
E.L.
Darluniwyd gan Iris Amaya
3 stori yn 1 Straeon Gwych ar gyfer

Supported by Cefnogwyd gan

Mae Arwyr Arian yn rhaglen gan Young Money, a gefnogir gan HSBC y DU.

Mae Young Money yn rhan o Young Enterprise, elusen gofrestredig (rhif elusen: 313697)

Cyhoeddwyd yn y DU gan Scholastic, 2021

1 London Bridge, London, SE1 9BG

Scholastic Ireland, 89E Lagan Road, Dublin Industrial Estate, Glasnevin, Dulyn, D11 HP5F

Mae SCHOLASTIC a logos cysylltiedig yn nodau masnach a/neu nodau masnach cofrestredig Scholastic Inc.

Testun © E. L. Norry, 2021 Darluniadau gan Iris Amaya © Scholastic, 2021

Darlun ar y clawr gan Iris Amaya Darluniwyd gan Plum5 Limited

Mae hawl E. L. Norry i gael ei hadnabod fel awdur y gwaith hwn wedi’i ddatgan o dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

ISBN 978-1-7396622-8-8

Mae cofnod catalog CIP ar gyfer y llyfr hwn ar gael o'r Llyfrgell Brydeinig.

Cedwir pob hawl.

Gwerthir y llyfr hwn ar yr amod na fydd, fel masnach neu fel arall, yn cael ei fenthyg, ei logi na'i gylchredeg mewn unrhyw ffurf o rwymiad neu glawr ac eithrio'r un y'i cyhoeddir ynddo. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i storio mewn system adalw, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffurf na thrwy unrhyw fodd arall (electronig, mecanyddol, llungopïo, recordio neu fel arall) heb ganiatâd ysgrifenedig Scholastic Limited o flaen llaw.

Ffuglen yw’r gwaith hwn. Mae enwau, cymeriadau, lleoedd, digwyddiadau a deialogau yn gynnyrch dychymyg yr awdur neu’n cael eu defnyddio fel ffuglen. Mae unrhyw debygrwydd i bobl wirioneddol, byw neu farw, digwyddiadau neu fannau yn gydddigwyddiad llwyr.

www.scholastic.co.uk

1 3 5 7 9 10 8 6 4 2
Cynnwys Ddim yn Syniad Da 5 Suki a Susannah 25 Achub y Nadolig Siop Gyfnewid 43

Ddim yn Syniad Da

Eisteddodd Jess a'i ffrindiau gorau, Manit ac Ashley, ar y gwair yn bwyta eu byrbryd amser egwyl. Roeddent yn gwylio grŵp o Flwyddyn 5 yn bownsio pêl â streipiau enfys at ei gilydd. Cnoiodd Jess i mewn i'w hafal a theimlodd rhywbeth yn symud.

“Ow!”

“Beth sy’n bod?” gofynnodd Manit.

Rhoddodd Jess ei bysedd yn ei cheg a siglodd ddant. “Mae fy nant yn siglo!”

“O, ga i weld?” Aeth Ashley yn agos ati ac agorodd Jess ei cheg yn llydan. “Tynna fe allan!”

“Oes gwaed?” Caeodd Manit ei lygaid yn dynn. “Dw i ddim eisiau gweld.”

Ysgydwodd Jess ei phen. “Na, ddim eto. Rwy’n

5

gallu teimlo croen er hynny.” Siglodd ei dant yn ôl ac ymlaen gyda’i thafod.

“Cilddant yw hwnna,” dywedodd Ashley.

“Pan syrthiodd fy nghilddant cyntaf allan, ces i arian ychwanegol gan y dylwythen deg.”

“A fi,” ychwanegodd Manit.

“Gest ti? Faint?" gofynnodd Jess.

Gorffennodd Ashley gnoi ei thorth frag. “Fel arfer mae’r dylwythen deg yn dod â phunt, ond am fy nghilddant, ces i ddwy bunt.”

“Syrthiodd dau o’m dannedd i allan gyda’i gilydd a ches i bum punt,” meddai Manit.

“Pum punt! Wow!” Roedd Jess mor gyffrousgallai brynu llawer o losin gyda phum punt! * * *

Yn ôl yn y dosbarth, roedd y tri ffrind yn gweithio

gyda'i gilydd ar eu llawysgrifen. Tynnodd Ashley gas

pensiliau newydd allan; roedd yn betryal hir ac yn binc a phorffor a lelog gyda chwyrliadau gwyrddlas.

Syllodd Jess arno – y peth mwyaf perffaith

welodd hi erioed. “Cas pensiliau hyfryd!”

Gwenodd Ashley. “Ie. Mae'n wych - edrycha!"

Agorodd y clasbyn magnetig a thynnu allan rhan

gyfrinachol, oedd â drôr bach gyda chyfrifiannell fach hyfryd ynddo. Edrychodd Jess ar ei chas

pensiliau oedd wedi gwisgo: roedd beiro wedi gollwng

6

ac roedd un ochr bellach yn las. Gwthiodd y cas pensiliau i un ochr. “Pryd gest ti’r cas pensiliau?”

“Penwythnos diwethaf yn y dref,” meddai Ashley.

Siglodd Jess ei dant drwy'r dydd. Efallai pe bai… pe bai’r dylwythen deg yn dod… Byddai’n gallu gofyn i’w Mam fynd â hi i siopa am gas pensiliau fel un Ashley dros y Sul!

PREN MESUR DEFNYDDIOL CLASBYN MAGNETIG FFLACH LAMP LED
PEDAIR RHAN GYFRINACHOL
* * *

Ddiwedd y diwrnod ysgol, arhosodd mam Jess wrth gatiau’r ysgol gyda brawd bach Jess oedd yn gwneud pob ymdrech i ddod allan o’r bygi. Pwysodd Jess i mewn i’r bygi a siglo’i thafod; chwarddodd Bobby.

Trodd Jess at ei mam. “Mae fy nant yn siglo’n ofnadwy, dw i’n siwr y bydd yn syrthio allan heno.”

Ar y ffordd fer yn ôl i’w fflat, dywedodd Jess wrth ei mam am gas pensiliau newydd anhygoel Ashley. “Mae ganddo bedair rhan gudd, dalwyr pennau ysgrifennu a phren mesur cynwysedig!”

“Wel, mae’n swnio fel rhywbeth i gynilo amdano,” meddai Mam.

Dechreuodd Jess wthio'r bygi. “Alla i wneud tasgau o gwmpas y tŷ i gael mwy o arian?”

Chwarddodd Mam. “Ydw i'n cael fy nhalu am beth dw i’n ei wneud o gwmpas y tŷ? Coginio, glanhau, golchi dillad?”

Ysgydwodd Jess ei phen.

“Nac wyt. Wel, dyna ni.”

Pan gyrhaeddon nhw adref, roedd Jess yn parhau i feddwl am y cas pensiliau ac yn tybied sut y gallai gael un.

“Cafodd Manit bum punt gan y dylwythen deg pan ddaeth dau ddant allan.”

“O’n nhw wedi’u gwneud o aur?” chwarddodd ei Mam, gan dynnu Bobby o’i fygi a'i roi i Jess.

8

“Fedri di newid ei gewyn i mi, cariad? Pi-pi yn unig yw e. Gwna i weini’r pastai bugail.”

Cwynodd Jess, “Dw i ddim yn hoffi pastai bugail.”

“Jessica! Mae’n flin gyda fi, ond dyma'r unig ffordd y bydd Bobby’n bwyta'r llysiau. Rwyt ti’n gwybod nad oes gan rai pobl ddigon i'w fwyta hyd yn oed. Rwyt ti’n ferch lwcus iawn."

Nid oedd Jess yn cael arian poced fel ei ffrindiau ac nid oedd tad ganddi’n byw gyda nhw… felly weithiau nid oedd yn teimlo'n lwcus iawn.

Ond aeth Jess â Bobby i'r ystafell fyw, tynnu'r mat newid a'r bag cewyn allan.

“Arhosa tan bod dy ddannedd yn dod trwodd!”

meddai Jess, wrth iddi ei newid, gan chwythu sws ar fol Bobby. Chwarddodd y ddau.

9

Yn y gegin, rhoddodd Mam Bobby’n y gadair uchel a rhoi bib arno. Gwichiodd a churodd ei lwy blastig.

“Wyt ti eisiau ei fwydo?” gofynnodd Mam i Jess.

Llwythodd Jess y llwy gyda phastai bugail, gwnaeth sŵn awyren a’i hofran drwy’r awyr.

Bwydo Bobby oedd un o hoff bethau Jess i’w wneud. Meddyliodd eto am ei dant. “Felly pam gafodd Manit gymaint o arian am ei ddannedd?” gofynnodd i’w Mam.

Trwy lond ceg o fwyd, dywedodd Mam, “Wel... mae ei fam yn ddeintydd, on’d yw hi? A fe yw'r ffrind does dim hawl gyda fe gael diodydd pefriog na losin, cywir? Felly, efallai bod ei ddannedd yn berffaith ac yn golygu ei fod yn derbyn mwy o arian.”

Roedd Mam siŵr o fod yn gywir.

Ochneidiodd Jess a thynnu’r moron a’r pys o bastai’r bugail, gan fwyta’r briwgig a’r stwnsh. Rheddodd ei thafod ar draws ei dau lenwad ei hun - efallai bod angen iddi ofalu am ei dannedd ei hun ychydig yn well.

“Mae cas pensiliau Ash mooor wych. Mae gyda fe’r—”

Cwympodd fforc Mam yn swnllyd ar ei phlât. “Does dim byd o le ar y cas pensiliau brynon ni’r llynedd. Efallai dy fod eisiau un newydd, ond nid oes angen un newydd arnat.”

Doedd hi heb weld y marc inc… meddyliodd Jess.

Tynnodd Jess ei thafod ar Bobby – a saethodd ei dant oedd yn siglo yn syth ar hambwrdd cadair uchel Bobby! Gwichiodd, a chipiodd Jess ei dant cyn iddo geisio’i fwyta.

“Dy ddiwrnod lwcus felly!” dywedodd ei Mam, gan wenu. “Paid ag anghofio rhoi dy ddant o dan dy glustog fel bod y dylwythen deg yn gwybod bod eisiau iddi alw.”

Yn y bore, teimloddd Jess o dan ei chlustog. Faint o arian byddai’n cael am ei childdant cyntaf?

Cyffyrddodd ei bysedd â darn arian. Punt – dyna i gyd? Gwisgodd Jess, cribodd ei gwallt cyrliog a stompio i lawr y grisiau.

Roedd Bobby’n crio, yn ysgwyd ei ben ac yn gwrthod bwyta’i frecwast. “Mae ei ddannedd yn cymryd amser i ddod trwyddo,” cwynodd ei Mam, gan ddylyfu gên. “Cadwodd e fi ar ddihun am hanner y nos.”

“Mam…” dechreuodd Jess, ond yr eiliad hwnnw trawodd Bobby ei hambwrdd gyda’i law a throdd ei fowlen drosodd. Aeth uwd i bob man.

"O na!" ebychodd Mam, gan sychu talp o uwd allan o'i gwallt. “Jess, mae'n bryd i ti fynd. Mwynha dy ddiwrnod, cariad.”

Roedd Jess eisiau dweud wrth ei Mam pa mor siomedig oedd hi, ond yn lle hynny, cydiodd mewn darn o dost, rhoi ei bag ysgol dros ei hysgwydd a mynd allan.

Yr eiliad gadawodd Jess y tŷ, dechreuodd fwrw glaw. Rhoddodd ei hwd i fyny. Diferodd glaw i mewn i’w hesgidiau wrth iddi redeg drwy gatiau'r ysgol wrth iddynt gael eu cau. Am ddiwrnod diflastarodd y glaw yn erbyn ffenestri'r ysgol drwy'r bore.

Amser egwyl, dywedodd Miss Burnett, “Mae'n ddrwg gyda fi ddosbarth, ond mae'n llawer rhy

* * *
12

wlyb i fynd allan.” Cerddodd o amgylch yr ystafell ddosbarth, gan osod pensiliau lliw a phapur ar bob bwrdd.

“Edrychwch ar hwn!” Tynnodd Ashley ei gas pensiliau allan. “Weloch chi ddim y rhan hon ddoe!” Dangosodd ben ysgrifennu cynwysedig gyda fflachlamp fach.

“Daeth fy nant i allan neithiwr. Ydych chi eisiau gweld? Gallet ddefnyddio dy fflachlamp!” Agorodd Jess ei cheg i ddangos y bwlch i Manit ac Ashley roedd ei dant wedi’i adael.

“Faint gest ti?” gofynnodd Manit.

“Yr un peth ag arfer, punt.”

13

“O,” meddai Ashley, “r’on i’n meddwl byddet wedi derbyn mwy o bosibl!”

Gwgodd Jess. “A fi.”

Roedd Diego wrth y bwrdd o'u blaenau, yn brysur yn lliwio. Trodd o amgylch. “Ydych chi'n cael arian am ddannedd sy’n siglo yma? Rydych chi’n lwcus! Yn ôl yn Sbaen, Ratoncito Pérez, y llygoden fach sy’n ymweld, ond nid yw’n gadael arian i ni.”

“Llygoden?” Chwarddodd Jess. “Cŵl! Ydy hi’n dod â chaws?”

Gwenodd Diego. “Nac ydy! Rydym yn gadael ein dannedd mewn gwydraid o ddŵr. Yn y bore, mae’r dŵr wedi diflannu ac mae Ratoncito wedi gadael losin yn y gwydr.”

Dywedodd Manit, “Mae hynny'n swnio'n iawn.”

“Dw i’n dwlu ar losin, felly mae’n iawn gen i!”

Chwarddodd Diego.

Ond nid oedd hynny’n swnio’n deg i Jess – bod pobl yn Sbaen yn derbyn losin, ond roedd plant yn y DU yn derbyn gwahanol symiau o arian.

Testun eu dosbarth y tymor hwnnw oedd y swffragetiaid. Roeddent wedi dysgu am ferched yn gwneud cais i bleidleisio yn y 1920au. Roedd y merched hynny – y swffragetiaid – wedi creu ac arwyddo deisebau i wneud y deddfau pleidleisio’n deg i ferched yn ogystal â dynion.

Cafodd Jess syniad.

“Dylem ddechrau deiseb! I roi i'r dylwythen deg. Gallem ofyn fod pawb yn derbyn yr un swm o arian am eu dannedd a dweud… nes i hynny ddigwydd, ni ddylai neb roi eu dannedd i ffwrdd!”

Gwgodd Diego. “Ond rwy’n hoffi cael losin!”

“Ie.” Ysgwydodd Manit ei ben. “Dydy hynny ddim yn swnio fel … Syniad Da Iawn!”

Chwarddodd e a Diego nerth eu pennau.

* * *

Gartref, dywedodd Jess wrth ei mam nad oedd un o’i ffrindiau’n cytuno â’i syniad am gychwyn deiseb.

“Wel, dw i ddim yn siŵr mai cael rhestr o lofnodion yn dal y dylwythen deg yn wystl yw’r peth gorau i’w wneud mewn gwirionedd,” meddai Mam.

“Mae arian yn mynd a dod i bawb, gan ddibynnu ar

15

eu gwahanol amgylchiadau. Efallai bod yr un peth yn wir yng ngwlad y Tylwyth Teg?”

“Os na fyddai’n ysgrifennu deiseb, beth arall galla i wneud?” cwynodd Jess.

“Pam na wnei di ysgrifennu llythyr? Mynega dy deimladau ac yna gweld beth mae'r dylwythen deg yn ddweud, ie?” awgrymodd ei Mam. “Nawr, cer i lanhau dy ddannedd, plîs. Bydd yn ofalus o gwmpas y bwlch a phaid â phoeni os byddi di’n gweld tipyn bach o waed. Bydda i’n dod i roi sws nos da i ti ar ôl i mi dawelu Bobby.”

Yn gysurus yn ei gwely, ysgrifennodd Jess lythyr hir at y dylwythen deg, gan nodi ei phryderon. Cofiodd gadw’i llawysgrifen yn daclus a defnyddio ‘plîs’ a ‘diolch’. Gan blygu ei phapur glas yn hanner,

16

rhoddodd y darn papur o dan ei chlustog. Nid oedd yn gallu aros i weld ymateb y dylwythen deg! Yn y bore, daeth Jess o hyd i nodyn o dan ei chlustog. “Mam!” Llamodd Jess i lawr y grisiau gan chwifio’r llythyr. “Mae wedi ymateb!” Rhuthrodd Jess i mewn i’r gegin.

“Gwych.” Trodd mam sosban o uwd ar y tân. “Beth ddywedodd hi?”

Darllenodd Jess yn uchel.

“Annwyl Jessica

Braf clywed gennyt, er nad yw derbyn gohebiaeth y tu allan i ACD (amser casglu dannedd) yn rhwybeth sy’n digwydd yn aml. Fodd bynnag, gan fod dy lawysgrifen mor wych a dy fod mor gwrtais, roeddwn yn meddwl y byddwn yn ateb dy ymholiadau. Rwy’n gwerthfawrogi dy fod yn siomedig o bosib i beidio â derbyn swm ychwanegol o arian am dy gilddant cyntaf, ond nid yw’r hinsawdd ariannol bresennol yn caniatáu i ni gynyddu’r cyfraddau ar gyfer dannedd.”

“Sw-m... beth? Gwgodd Jess ar ei Mam. Dw i ddim yn deall... Beth sydd gan y tywydd i’w wneud gyda’m dannedd?”

Chwarddodd Mam. “Mae’n deall dy fod yn siomedig na chest ti lawer o arian ond mae’n dweud, oherwydd sefyllfa eu byd nhw ar hyn o bryd, na all fforddio codi’r swm o arian. Darllena ymlaen!”

“Yn ogystal â gwirfoddoli ar Gyngor y Tylwyth Teg, dw i hefyd yn gweithio fel y Prif Llinynydd Mwclis ac nid

17

oes gennym ddigon o staff ar hyn o bryd. Byddaf yn gofyn i'm huwch swyddogion a allaf sôn am dy bryderon yn ein cyfarfod cyffredinol nesaf. Wyt ti erioed wedi gwirfoddoli ar gyfer unrhyw beth? Byddwn wrth fy modd i glywed sut rwyt yn cefnogi dy gymuned dy hun. Cadwa i frwsio dy ddannedd!”

Crafodd Mam yr uwd i mewn i fowlen. “Mae dy dylwythen deg yn swnio'n gall iawn, Jess.”

* * *

Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, yn ystod Amser Aur, gofynnodd Miss Burnett i'r dosbarth pwy oedd â syniadau ar gyfer pa elusen y gallai'r ysgol ei chefnogi nesaf. Cofiodd Jess am y dylwythen deg yn sôn ei bod hi’n gwirfoddoli, a beth roedd ei Mam wedi’i ddweud y diwrnod o’r blaen am bobl nad oedd â digon o fwyd i’w fwyta.

Cododd Jess ei llaw. “Beth am fanc bwyd?”

“Diolch. Syniad gwych, Jess. Mae angen ffrwythau a llysiau ar bawb i fod yn iach, ond ni fydd bwyd ffres yn cadw’n hir iawn y tu allan i oergell. Pa eitemau ydych chi’n meddwl allai fod yn dda i’w rhoi?”

Cododd Manit ei law. Nodiodd Miss Burnett ei phen tuag ato.

“Tuniau a stwff sy’n cadw am oesoedd fel reis a phasta?” dywedodd.

“Ie, yn union.” Ysgrifennodd Miss Burnett

18

restr hir o fwydydd ar y bwrdd. “Os oes unrhyw un o’r eitemau hyn gydag unrhyw un yn sbâr yn eu cypyrddau, dewch â nhw i mewn. Bydda i’n gosod bin rhoddion yn y dderbynfa. Nawr, byddwn yn creu posteri yn hysbysebu diwrnod rhoddion y banc bwyd, a dydd Gwener byddaf yn rhoi gwobrau ar gyfer y tri phoster mwyaf lliwgar gorau.”

Allwn ni liwio ein hun ni gyda'n gilydd?”

gofynnodd Ashley, gan ddod â'i chas pensiliau newydd allan. Nodiodd Jess ei phen.

19
* * *

Ar ôl yr ysgol, aeth Jess yn syth i’r gegin a mynd trwy'r holl gypyrddau.

“Beth wyt ti’n wneud?” gofynnodd ei Mam, gan roi’r bygi yn ei le. “Mynd i nôl snac?”

“Mae’r ysgol yn gofyn am roddion ar gyfer y banc bwyd. Ar ôl beth ddywedodd y dylwythen deg am helpu’r gymuned… Oes unrhyw beth gyda ni?”

“Wel…” agorodd Mam y cypyrddau uchaf.

“Prynais i basta a reis i Bobby, ond dyw e ddim yn eu hoffi, felly gallem ddechrau gyda'r rheiny. O, a dyw e ddim yn hoffi cwstard mwyach chwaith.”

dywedodd Jess, “Ond dyw’r rheiny ddim yn arbennig... iawn.” Cododd jar ffansi o olewydd oedd wedi bod yn eistedd yno ers oesoedd. “Beth am hwn?”

“Iawn.” Cododd Mam ei hysgwyddau.

Rhoddodd Jess y pecynnau, y tuniau a'r jar ffansi mewn bag plastig. Llusgodd Bobby ei hun draw, gan geisio dringo i mewn i’r bag hefyd.

“O, Bobby!” Chwarddodd Jess, gan ei godi.

* * *

Amser gwely, ysgrifennodd Jess yn ôl at y dylwythen deg, yn dweud wrthi am y banc bwyd. Efallai nawr

byddai wedi gwneud cymaint o argraff arni byddai'n cynnig mwy o arian i Jess? Roedd gweithredoedd da bob amser yn cael eu gwobrwyo. Mae'n siŵr nad oedd ei chas pensiliau arbennig ei hun yn bell i ffwrdd nawr.

21

Yn y bore, roedd ymateb arall yn aros am Jess. Rhedodd i lawr y grisiau.

“Annwyl Jessica,” darllenodd Jess yn uchel i’w Mam dros frecwast. “Da iawn am helpu banc bwyd dy ysgol.

Mae’n drist iawn nad oes gan rai pobl ddigon o fwyd i'w fwyta! Cawsom ein Cyfarfod Cyffredinol ond mae arnaf ofn na fydd y prisiau a roddir am ddannedd yn cynyddu. Oherwydd y cynnydd yn y cyfanswm o blant sy’n yfed diodydd pefriog a losin, nid yw dannedd yn ein cyrraedd mewn cyflwr da iawn y dyddiau hyn. Mae hyn yn golygu roedd rhaid i ni fuddsoddi mewn cyfleusterau glanhau a malu dwys; rydym yn malu dannedd i bowdr, a'r powdr yw'r hyn a ddefnyddir i bweru Gwlad y tylwyth teg. Hefyd, cyn bo hir bydd angen newid ein hechdynnydd carthion gyda’r OoopScoop500 – mae plant yn dal i lyncu neu ollwng eu dannedd i lawr y tŷ bach!”

* * *

“Waw,” meddai Mam, lle roedd hi'n golchi llestri wrth y sinc, pan oedd Jess wedi gorffen. “Pwy fyddai wedi meddwl, hmm?”

“Dw i’n gwybod,” atebodd Jess, gan ysgwyd ei phen. “Does dim ffordd y gall hi fforddio rhoi mwy o arian i mi nawr. Doedd dim syniad gyda fi bod gan Wlad y tylwyth teg gymaint o gostau. Wnes i ddim meddwl am yr holl dasgau y gallai fod angen iddi eu gwneud.”

Ochneidiodd Jess a gwyliodd ei Mam yn sychu'r llestri. “A dweud y gwir, Mam, oes angen help arnat ti gydag unrhyw beth cyn i mi fynd?”

"Byddai hynny'n wych.” Gwenodd ei Mam.

“Mae angen i mi roi golch arall ymlaen cyn mynd â

Bobby i’r feithrinfa, felly pe byddet yn gallu tynnu’r dillad sych oddi ar y rheiddiaduron, byddai hynny’n help mawr.”

* * *

Ddydd Gwener, gofynnodd Miss Burnett i'r dosbarth gyflwyno'r posteri roeddent wedi bod yn gweithio arnynt ar gyfer y banc bwyd.

“Da iawn, bawb!” meddai. “Jessica, mae dy un di mor lliwgar. Hoffwn roi'r drydedd wobr i ti. Hoffet ti ddod i'r blaen a dewis rhywbeth o'r drôr gwobrau?”

Cerddodd Jess i flaen y dosbarth a syllu i mewn i drysorfa Miss Burnett: beiros pefriog, llyfrau lliwio a phosau bach - hyd yn oed fersiwn llai o gas pensiliau oedd yn debyg i un Ashley. Dychmygodd Jess

23

ddewis hwnnw… ond ar gyfer un unigolyn yn unig oedd y wobr honno. Roedd Ashley wedi ei helpu i liwio ei phoster, ac roedd Mam yn gywir – roedd

cas pensiliau Jess yn iawn am y tro. Gallai nodi cas pensiliau ar ei rhestr pen-blwydd.

Oedd unrhyw beth yn y drôr a fyddai'n hwyl iddi hi a'i ffrindiau chwarae ag ef? Yn fuan gwelodd y peth perffaith: pêl sboncio lliw enfys. Dewisodd y bêl.

“O Jess, mae’n fach iawn - cymera hwn hefyd.”

Rhoddodd Miss Burnett feiro pefriog iddi gyda phompom blewog ar y pen.

Am ddechrau gwych - beiro hardd ar gyfer y cas pensiliau perffaith, pryd bynnag y byddai’n cyrraedd.

Suki a Susannah yn Achub y Nadolig

Cerddodd Suki a Suzannah i dŷ eu mam-gu a oedd dwy stryd yn unig i ffwrdd o’u hysgol. Roedd yr efeilliaid yn mynd yno bob dydd nes bod eu rhieni’n cyrraedd gartref o'r gwaith.

Wrth iddynt gerdded, gofynnodd Susannah i’w chwaer, “Felly pa elusen wyt ti’n mynd i bleidleisio drosti?”

Roedd y ddwy ym Mlwyddyn 5 ac roedd eu dosbarth yn ymchwilio i elusennau. Gwaith cartref yr wythnos oedd ystyried pa elusen y byddent yn dewis ei chefnogi ar gyfer trafodaeth ddosbarth, ynghyd â rhesymau pam.

Dywedodd Suki, “Does dim gwellhad llwyr ar gyfer canser eto, felly byddai unrhyw arian sy’n cael ei godi i helpu i ddod o hyd i wellhad llwyr yn dda. A dw i’n gwybod dy fod yn dwlu ar anifeiliaid, ond nid ydynt mor bwysig â bodau dynol.”

25

“Sut allet ddweud hynny!” llefodd Susannah. “Roedd Buddy’n well na rhai bodau dynol!”

Pan oeddent wedi symud i'w fflat newydd i fod yn nes at Mam-gu, roedd angen iddynt ailgartrefu eu ci Labrador, Buddy. Roedd y fflat yn rhy fach, a gyda Mam yn mynd yn ôl i’r gwaith, nid oedd neb gartref i fynd ag ef am dro. Roedd y merched yn gweld eisiau Buddy’n fawr iawn, a'u gardd fawr hefyd.

Dywedodd Susannah, yn angerddol, “Rwy'n ei golli shwd gymaint! Weithiau rwy’n dymuno na fyddem wedi symud i’r fflat gwirion hwn.”

Gwasgodd Suki law ei chwaer. “Dw i’n gwybod,” dywedodd. “Fi hefyd. Hynny yw, mae'n hwyl rhannu ystafell wely gyda ti, ond r’on i wir yn hoffi cael fy ystafell fy hun."

“Beth bynnag, nid yw bodau dynol yn bwysicach. All anifeiliaid ddim siarad drostynt eu hunain,” parhaodd Susannah. “Dyw hi ddim yn deg sut maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer arbrofion a cholur a phethau.”

Dw i’n dal i feddwl y dylai gofalu am bobl ddod yn gyntaf,” meddai Suki, gan ganu cloch drws Mamgu. “Mae angen i fodau dynol fod yn iach i ofalu am anifeiliaid.”

Shw’mae ferched, diwrnod da?” gofynnodd Mam-gu, gan agor y drws. Rhoddodd Suki a Susannah gwtsh iddi, rhoi eu bagiau cefn ar y llawr a mynd i mewn i'r gegin. Roedd yr arwynebau gwaith wedi’u gorchuddio gyda ffrwythau cymysg,

26

lemonau, orennau a siwgr. Roedd ffedog mam-gu wedi'i gorchuddio â blawd; roedd hi’n gwneud ei chacen Nadolig enwog ddau fis cyn y Nadolig - fel bob amser.

“Mae'n arogli'n hyfryd yma!” meddai Suki, gan gau ei llygaid ac anadlu'n ddwfn.

“Dim byd fel pobi i wneud i le deimlo’n gartrefol,” meddai Mam-gu, gan wenu. Sychodd ei dwylo ar ei ffedog.

Dw i’n methu aros am y Nadolig,” ochneidiodd Susannah, gan eistedd ar stôl ger y bar brecwast. Dw i mor gyffrous. Dw i wedi ysgrifennu fy rhestr yn barod.”

“Fi hefyd!” chwarddodd Suki.

“Ar fy rhestr mae gya fi feic newydd, esgidiau rholio, tabled…”

Arllwysodd Mam-gu'r cytew i ddau dun cacen. “Unrhyw un am y rhan orau?” Gwthiodd y powlenni cymysgu tuag atynt, gan wenu. Cydiodd Suki a

27

Susannah yn un yr un a rhedeg eu bysedd o amgylch yr ymyl, gan lyfu cymysgedd y gacen oedd â blas sinsir a sinamon.

“Ferched,” meddai Mam-gu’n dyner. “Mae'n swnio fel rhestr hir. Ond, chi’n gwybod… efallai bydd y Nadolig ychydig… yn wahanol eleni.”

“Gwahanol?” gofynnodd Susannah, gan gulhau ei llygaid. “Beth wyt ti’n feddwl 'gwahanol'?”

“Oherwydd nad ydym yn y tŷ mwyach?” ychwanegodd Suki” “Rwy’n tybio na fyddwn yn gallu cael coeden enfawr fel sy’n digwydd fel arfer.”

“Wel ie, mae hynny’n rhan ohono. Ond, roedd rhaid i’ch rhieni roi’r car newydd yn ôl, ac mae

swydd newydd Mam yn brysur iawn. Mae gennym gyfle i ganolbwyntio ar wir ystyr y Nadolig. Efallai heb gymaint o bwyslais ar y pethau materol.”

Wyt ti’n dweud na fyddwn yn cael unrhyw anrhegion?” llefodd Suki.

Chwarddodd Mam-gu a siglo’i phen. “Nid dim anrhegion, ond efallai llai nag ydych wedi arfer â nhw. Ni fydd yn gwneud unrhyw niwed i feddwl am beth mae’r Nadolig wir yn ei olygu, a beth sy’n creu’r atgofion gorau.”

“Mae hynny'n hawdd,” meddai Susannah. “Bwyta, chwarae gemau, gwylio ffilmiau Nadolig a bod gyda’n gilydd.”

Gwenodd Mam-gu o glust i glust. “Yn union, cariad.”

28

“A dyw'r pethau hynny ddim yn costio’r byd, ydyn nhw?” dywedodd Suki.

“Dydyn nhw

ddim yn sicr!”

* * *

Yn ôl gartref, yn y cyntedd clywodd Suki a Susannah eu rhieni yn cweryla yn yr ystafell fyw.

Rhoddodd Suki ei chlust yn erbyn y drws a dal ei bys i fyny. “Shh,” sibrydodd wrth Susannah. “Rwy’n ceisio gwrando.”

“Nid yw’n iawn i glustfeinio!” dywedodd Susannah.

“Ond dw i’n meddwl…” gwgodd Suki a throi at Susannah. “Dywedodd Dad bod angen i ni ‘gyfyngu ar wario’. Beth mae hynny'n ei olygu?"

Cododd Susannah ei hysgwyddau. Rwy’n tybio... peidio â gwario cymaint o arian?”

“Ond mae hi bron yn Nadolig!” sibrydodd Suki, gan ledaenu’i llygaid. Wyt ti’n meddwl mai dyna oedd Mam-gu’n ei olygu? Ein bod heb arian?”

29

Dw i ddim yn credu. Mae gan Mam a Dad swyddi nawr.”

“Ond doedd Mam ddim yn gweithio am hydoedd ac rydym newydd symud. Llogon nhw’r fan fawr honno a phopeth…”

I fyny'r grisiau, rhoddon nhw eu bagiau ysgol ar eu gwelyau. Eisteddodd Suki gyda’i choesau wedi croesi ar ei gwely a gorweddodd Susannah ar ei un hi.

Dywedodd Suki, “Nid wyf wedi dangos fy rhestr i unrhyw un eto, ond mae’n eithaf hir.”

“Fy un i hefyd.” Nodiodd Susannah. “Efallai ddylen ni ddim cynnwys cymaint o bethau ar y rhestr? Does dim angen cymaint o bethau arnom. A beth am feddwl am ffyrdd y gallem arbed arian? Rhoi syrpreis i Mam a Dad.”

“Dyna syniad da! Iawn, dyna’n bwriad – arbed arian ac achub y Nadolig!”

* * *

Wrth i Dad rhoi’r llestri i gadw o’r bwrdd cinio, gofynnodd Mam, “Lwyddoch chi i orffen eich holl waith cartref yn nhŷ Mam-gu?”

“Bron i gyd,” meddai Suki. “Ond mae gennym un dasg arall - cynllunio arian. Nid yw mam-gu yn defnyddio bancio ar-lein felly r’on ni’n meddwl gallech esbonio rhai pethau i ni."

Edrychodd Mam ar Dad, a gododd ei ysgwyddau.

“Dw i’n tybio nad yw fyth yn rhy gynnar i ddysgu am ofalu am eich arian,” meddai.

Rhoddodd mam yr hen liniadur ymlaen a mewngofnodi i'w chyfrif banc. Pwyntiodd at y sgrin.

“Mae gwybodaeth ariannol yn wybodaeth sydd wedi’i gwarchod a dylid ei chadw’n breifat, felly peidiwch â dweud wrth eich ffrindiau beth dw i ar fin ei rannu gyda chi, iawn, ferched?”

Edrychodd Suki a Susannah ar ei gilydd a nodio. Ar y sgrin roedd rhestr hir o rifau, rhai gydag arwyddion minws wrth eu hymyl.

“Edrychwch, dyma sut rwy’n cadw golwg ar ein cyflog; dyna ein hincwm ac rydym yn galw beth rydym yn ei wario yn daliadau allan. Dw i’n ei wirio bob dydd, ac yn sicrhau fy mod yn cadw fy nerbynebau hefyd. Yna dw i’n ei baru â chyllideb ein teulu.”

“Ond beth yn union yw cyllideb?” gofynnodd Susannah, gan bwyso'n agosach at y sgrin.

“Cyllido yw gweld beth sy'n dod i mewn, beth sy'n mynd allan a beth sydd gennych yn weddill. Ydych chi’n gweld ein cyflog yno?” Pwyntiodd mam

Gwenodd Suki a rhoi pwt i Susannah. “Mae hynny'n edrych yn iawn.”

Chwarddodd Mam. “Wel, byddai’n wych – pe na fyddai’n rhaid i ni dalu unrhyw beth allan!”

“Beth mae’n rhaid i ni –chi – dalu amdano ‘te?”

Edrychodd mam yn ei bag llaw a daeth â'i dyddiadur allan. Aeth yn gyflym drwyddo.

“Gadewch i ni weld… Dyma lle dw i’n cadw fy nerbynebau a biliau.

Mae'n rhaid i ni dalu rhent

am y fflat. Mae angen i ni dalu swm penodol bob mis

32

os ydym am barhau i fyw yma. Yna mae’n rhaid talu biliau: nwy, trydan a dŵr. Y rhyngrwyd, ffôn, trwydded deledu, treth y cyngor.”

Torrodd Dad ar draws, “Dyna pam dw i’n eich atgoffa i gau’r drysau i gadw’r gwres i mewn ac i ddiffodd y goleuadau! A pheidio â threulio oesoedd yn y gawod.”

Dywedodd Suki, “Beth yw treth y cyngor?”

Esboniodd Dad. “Rydym yn talu bob mis am yr heddlu, y frigâd dân a mynediad i’n gwasanaeth iechyd, y GIG.”

Gofynnodd Susannah, “Dyna’r cyfan?”

Gwenodd ei Mam. “O na. Mae gennym ni gostau eraill bob mis hefyd: ein tocynnau bws a nwyddau. Rydym hefyd yn hoffi rhoi rhywfaint o’r neilltu ar gyfer argyfyngau, fel y llynedd pan fu’n rhaid i Dad fynd yn ôl i India am gyfnod, a chynilo ar gyfer eich dyfodol hefyd.”

Dywedodd Suki, “Felly beth sy’n digwydd i’r arian sy’n weddill, os oes unrhyw beth?”

“Wel, pan fyddwn wedi gofalu am ein holl anghenion: bwyd, dillad a tho uwch ein pennauyna gallwn feddwl am bethau rydym yn dymuno eu cael. Y pethau sy’n llawn hwyl.”

Y pethau sy’n llawn hwyl Nid oedden nhw wedi gwneud pethau oedd yn llawn hwyl ers amser hir, meddyliodd yr efeilliaid. Ai’r cyllido yma yw’r rheswm pam nad oedden nhw’n gallu mynd i’r sinema neu fowlio fis diwethaf?

33

Dywedodd Susannah, “Felly mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr bod anghenion pawb yn cael eu bodloni cyn gwario unrhyw beth arall?”

Nodiodd Mam. “Iawn. Rydym yn cyfrifo beth sydd gyda ni’n weddill. Rhai misoedd efallai byddem yn dewis mynd i nofio neu gael pryd ar glud.”

Ychwanegodd Dad, “Weithiau mae pethau sy’n codi unwaith yn unig yn digwydd hefyd: mae’r peiriant golchi neu’r hwfer yn torri, neu, fel y mis diwethaf pan ffrwydrodd boeler Mam-gu – pethau felly.”

“Beth sy'n digwydd os nad oes arian ar ôl?” gofynnodd Suki, gan boeni.

Dywedodd Susannah, “Maent yn cael mwy o'r banc, rydych yn gallu benthyg arian gyda nhw.”

Dywedodd Dad, “Nawr, arhoswch eiliad ferched… Weithiau bydd angen benthyg arian gan y banc o bosib ar gyfer pethau mawr fel prynu tŷ, ond fel arfer mae’n syniad da gwario beth rydych yn gallu’i fforddio’n unig. Gall y banc helpu ond nid ydyn nhw’n rhoi arian am ddim! Maen nhw’n codi ffi arnoch i fenthyg arian. Mae’r ffi’n cael ei alw’n ‘llog’, felly’n ddelfrydol mae angen i chi ddysgu sut i gyllido a chynilo, ac os bydd angen i chi fenthyg arian yna mae’n rhaid i chi bwyso a mesur y risgiau’n ofalus iawn.”

* * *

Y bore wedyn, ar eu ffordd i’r ysgol, cerddodd Suki a Susannah heibio i’r siop bapurau newydd.

34

Arhoson nhw i ddarllen y cardiau post yn y ffenestr. Darllenodd Suki un neu ddau’n uchel – roedd rhai’n cynnwys ‘Angen Help’ arnynt.

“Edrycha, mae’r wraig ‘ma ynn chwilio am rywun i fynd â’i chi am dro ar ddydd Sul tra ei bod yn siopa. On’d yw hwnna lawr y stryd?”

Pwysodd Susannah ei thrwyn yn erbyn y gwydr i ddarllen un arall. “Ac mae’r dyn yma angen rhywun i ysgubo a chlirio dail.”

Trodd y merched at ei gilydd yn gyffrous, y ddwy’n meddwl yn union yr un peth. “Gallen ni wneud y pethau hynny!”

Agorodd Suki ei bag cefn ac ysgrifennodd y rhifau ffôn mewn llyfr nodiadau. “Gallen ni ennill arian ychwanegol a’i roi i Mam tuag at y Nadolig. Byddwn yn gofyn iddi amdano yn nes ymlaen.”

35

Ond, ar ôl yr ysgol, pan ddywedodd y merched wrth eu Mam am y cardiau post oedd yn hysbysebu’r swyddi, ysgydwodd ei phen.

“Mae’n flin gyda fi ferched. Rwy'n deall ei bod yn rhwystredig i beidio â derbyn arian poced fel rhai o'ch ffrindiau, ond rwy'n ofni nad ydych yn ddigon hen i wneud mân swyddi tebyg i’r rhai hynny. Mae angen i chi fod o leiaf yn bedair ar ddeg cyn y byddwn yn teimlo'n hyderus i ganiatáu i chi wneud rhywbeth tebyg. Rydym yn newydd i’r ardal, ydych chi’n cofio?”

Edrychodd y merched ar ei gilydd. Nid oedden nhw am ddweud wrth eu mam nad oedden nhw’n ceisio ennill arian poced.

Y diwrnod canlynol, ar y maes chwarae amser egwyl, meddyliodd y merched am wahanol ffyrdd gallent godi arian ychwanegol.

“Does dim llawer gyda ni i’w werthu, cafodd popeth ei glirio pan symudon ni,” meddai Suki. Meddyliodd Susannah am hyn am ychydig ac yna dywedodd, “Oes gyda ni unrhyw arian ein hunain?”

Aeth Suki draw at ei chist ddillad a gwagio’u blwch arian. Cyfrifodd y darnau arian. “A dweud y gwir, o’n pen-blwydd mae gennym bum punt a phedwar deg ceiniog yn weddill.”

“Hmm,” meddai Susannah. “Fydd hwnna ddim yn prynu tabled! Felly os allwn ni ddim codi llawer

* * *
36

o arian, beth am wario llai? Ac efallai y gallem … wneud rhai anrhegion Nadolig? Wedyn fyddai dim angen i Mam brynu pethau newydd.”

Gwgodd Suki. “Ond beth allen ni wneud?”

“Rwyt yn dda am beintio. Yn lle prynu cardiau, gallen ni wneud ein rhai ein hunain.”

“O ie!” Roedd Suki’n hoffi’r syniad hwn. Gallwn ddefnyddio’r dyfrliwiau hynny dw i prin wedi’u cyffwrdd. Rwyt yn dda am gyda chrefftau; gallen ni wneud llyfrnodau i Mam a Dad? Efallai gofyn i Mamgu am rai o'i thoriadau gardd a gweld oes unrhyw botiau sbâr gyda hi. Gallen ni eu haddurno a’u rhoi i’n Modrybedd?”

Ar ôl yr ysgol, yn nhŷ Mam-gu, dywedon nhw wrthi am eu cynlluniau ar gyfer gwneud anrhegion i’w rhieni a’u modrybedd a’u hewythrod. “Dyna syniad gwych!” dywedodd Mam-gu. “Wir? Mae anrhegion cartref gyda chymaint o gariad a meddwl wedi’u rhoi ynddynt. Mae llais hyfryd gyda’ch tad; gallech ei recordio yn canu ac yn canu’i gitâr. Byddai Ewythr Abhishek wrth ei fodd â hynny, yn enwedig gan y bydd ym Mwmbai ar gyfer y Nadolig. * * *

Yn ôl gartref, ychydig cyn mynd i'r gwely, gofynnodd y merched i Dad fynd i nôl ei gitâr a chanu eu hoff ganeuon pan oedden nhw’n iau. Recordiodd Suki ef ar ffôn Dad ac yna ei lanlwytho i'r gliniadur. Byddent yn ei e-bostio at Uncle Abhishek.

* * *

Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod siopa bwyd. Roedd mam yn gweithio shifft ychwanegol, felly aeth y merched gyda Dad ar y bws i'r archfarchnad.

Roedd gan Dad restr hir o eitemau i'w prynu.

Yn yr eil grawnfwyd, gwgodd ar yr arddangosfa o'i flaen. “P’un ydych chi’n fwyta? Mae llawer o ddewis yma,” dywedodd.

“Pyffion sinamon crensiog,” dywedodd Suki, gan ddal ymlaen i’r troli.

“A dw i’n bwyta’r miwsli di-wenith arbennig yna,” meddai Susannah.

Roedd Dad ar fin rhoi'r pecynnau o rawnfwyd yn y troli pan roddodd Suki ei llaw ar ei fraich.

“Aros,” cydiodd mewn pecyn o rawnfwyd brand yr archfarchnad oddi ar y silff - dau am un - a syllodd ar Susannah. “Mae’r rhain yn edrych yn iawn.”

Cododd ei hysgwyddau. “Ceirch ydynt, nid gwenith. Gallen ni roi cynnig ar y rhain am newid?

“Wir?” gofynnodd Dad, yn syn.

Nodiodd Susannah. “Yn bendant!”

Cymerodd Dad y pecynnau gan Suki a'u hychwanegu at y troli.

Dywedodd Suki, “A dweud y gwir Dad, gallet roi’r rhestr i ni – gwnawn ni ddod o hyd i bopeth.

Mae Mam-gu bob amser yn dweud sut y dylen ni fod yn fwy annibynnol. Byddwn yn defnyddio'r hunan-sganiwr; mae’n llawer o hwyl ac yn dda i’n mathemateg.”

Gwgodd Dad. “Ydych chi’n siŵr?”

39

“Ydyn, ac rydym yn gwybod ble mae popeth oherwydd ein bod yn dod yma gyda Mam.”

Ychwanegodd Susannah, “Gallet aros amdanom yn y caffi ger y fynedfa.”

Gwenodd Dad. “Wel, iawn. Byddai hynny'n wych oherwydd bod angen i mi wneud un neu ddwy o alwadau. Bydda i’n cwrdd â chi ger til pedwar mewn pymtheg munud ‘te. Cofiwch ofyn i’r cynorthwywyr siop mewn iwnifform gyda’u bathodynnau enw, neu dewch i fy nôl, os oes angen unrhyw help arnoch, iawn?”

Er eu bod yn llwythog gyda'r siopa ar y bws, roedd Dad mewn hwyliau gwych yr holl ffordd adref.

“Gwnaethoch chi ferched waith gwych! Edrychodd ar y dderbynneb. “Bydd Mam yn falch iawn; rydych wedi arbed llwyth o arian i ni."

Ar ôl cinio a gorffen ei gwaith cartref, cyrliodd Suki i fyny ar ei gwely a thynnu llyfr nodiadau allan.

“Beth wyt ti'n ysgrifennu?” gofynnodd Susannah, wrth iddi newid i'w pyjamas.

“Cyllideb! Dw i’n ysgrifennu beth rydym yn ei wneud fel pethau arbennig, ond nad ydynt yn ‘anghenion’, y ffordd roedd Mam yn siarad amdanyn nhw. Y sinema? Gallem gael ein noson ffilm ein hunain gartref, allen ni ddim? Hyd yn oed gyda phopgorn a losin, byddai’n dal yn rhatach na mynd i’r sinema. Nawr ein bod wedi symud, rydyn ni'n agos iawn at y llyfrgell. Dylem ymuno eto, byddai hynny'n arbed llwyth o arian ac mae gyda nhw gyfrifiaduron gallem eu defnyddio neu wneud ein gwaith cartref hefyd. Dw i wedi ymchwilio i ffyrdd eraill gallem arbed arian - mae llawer gallem ei wneud. Prynu bylbiau golau arbed ynni am un peth, er eu bod yn costio mwy ymlaen llaw, rydych yn arbed arian yn y pen draw.”

* * *
* * *
41

“Ti’n wych! Mae’r rheiny’n syniadau gwych,” dywedodd Susannah. “Allwn ni ddechrau gwneud y cardiau Nadolig nawr?”

Nodiodd Suki a thynnodd Susannah gerdyn, dyfrliwiau, gliter a glud allan o'u bocs celf. * * *

Ddydd Gwener yn y dosbarth, gofynnodd Mrs Burrows i’r merched pa elusen roeddent wedi dewis siarad amdani. Cododd Suki a Susannah ar eu traed a gwenu ar ei gilydd.

Dywedodd Susannah, “Rydym wedi dewis elusen i’r ddigartref fel un rydym yn meddwl dylai ein dosbarth ei chefnogi y tymor hwn.”

“Allech chi esbonio pam i’r dosbarth?”

gofynnodd Mrs Burrows. “Y tro diwethaf i ni siarad – roeddech yn anghytuno!”

“Mae’n elusen sy’n helpu pobl nad oes gyda nhw gartref,” esboniodd Suki wrth y dosbarth. “Ond, rydym yn credu dylai pawb gael yr hawl i gartref.

Mae’n fwy nag adeilad yn unig neu’r pethau ynddo.”

“Bod gyda'n gilydd,” ychwanegodd Susannah..

“Gyda'r bobl rydych yn eu caru ac sy'n eich caru chi.”

Gwenodd yr efeilliaid ar ei gilydd. Roedd hwn yn mynd i fod y Nadolig gorau erioed – roeddent wedi meddwl am ffyrdd i helpu Mam a Dad i arbed arian, yn ogystal â’r ffaith bod ganddynt anrhegion cartref bendigedig i’w rhoi i’r teulu cyfan.

42

Y Siop Gyfnewid

“Felly, 6B,” meddai Mr Wilson fore Gwener wrth iddo sychu’r bwrdd gwyn yn lân, “dyna rai o’r perchnogion busnes mwyaf dylanwadol - sy’n cael eu hadnabod fel arall yn entrepreneuriaid - yr unfed ganrif ar hugain.”

Trwy’r wythnos roedd y dosbarth wedi bod yn dysgu am bobl fusnes lwyddiannus a’r gwahanol ffyrdd roeddent wedi gwneud arian. Roedd Kwame eisoes yn gwybod am Steve Jobs a Bill Gates, ond roedd clywed am bobl ifanc yn eu harddegau fel Fraser Doherty, a sefydlodd ei fusnes jam ei hun yn bedair ar ddeg oed yn unig, yn gwneud i Kwame gyffroi. Pa mor cŵl fyddai i feddwl am syniad gwneud arian a fyddai’n llwyddiannus? I gael eich cwmni eich hun a bod yn fos arnoch chi eich hun?

“Rydym yn symud ymlaen at ein pwnc Menter ein hunain nawr,” dywedodd Mr Wilson. “Byddwn yn rhannu’n grwpiau a bydd pob grŵp yn meddwl am

43

syniad ar gyfer stondin yn y ffair haf. Efallai byddwch yn dewis canolbwyntio ar wasanaeth i'w ddarparu, neu gynnyrch y gallwch ei werthu. Bydd yr ysgol yn

cyfrannu deg punt i bob grŵp ar gyfer deunyddiau. Gallech wario’r arian hwnnw ar hyrwyddo neu

wobrau neu hysbysebu – beth bynnag mae eich grŵp yn ei benderfynu sydd orau. Pa stondin bynnag fydd yn gwneud yr elw mwyaf fydd ein henillydd.”

“A beth fydd yr enillydd yn ei gael?” gwaeddodd Kwame, yn gyffrous.

Chwarddodd Mr Wilson. “Wel, gall yr enillwyr

ddewis gweithgaredd arbennig i'r dosbarth gymryd rhan ynddo. Nawr, amser egwyl. Ewch i redeg o gwmpas - llosgwch ychydig o egni!” * * *

Yn y maes chwarae, dechreuodd Kwame a'i ffrindiau gorau, Alya, Wasim a Malika, i gyd siarad yn frwdfrydig am y stondin.

“Beth ddylen ni wneud?” gofynnodd Malika.

“Gadewch i ni wneud gêm,” meddai Wasim. “Rhywbeth y byddech yn dod o hyd iddi mewn ffair.”

“Beth am daflu pêli basged – gallem ddefnyddio’r cylchyn yn y maes chwarae?” awgrymodd Alya.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai pêli basged yn bownsio o gwmpas y lle’n ddiogel iawn,” meddai Malika. “Gallai pobl faglu drostynt o bosibl.”

“Ac mae pobl yn hoffi rhywbeth gallant ei gadw,” ychwanegodd Kwame. “Os byddwch yn chwarae gêm, unwaith i chi ei chwarae, mae'ch arian wedi diflannu, on’d yw e?"

Cododd Wasim ei ysgwyddau. “Ydy, mae hynny’n wir.”

“Dewch i fy nhŷ i ddydd Sul a byddwn yn penderfynu ar y syniad cywir bryd hwnnw.”

Cerddodd Owen, gwrthwynebydd Kwame –roedd y ddau’n meddwl mai nhw oedd y pêl-droediwr gorau yn eu blwyddyn – yn hamddenol draw atynt.

Glaswenodd ar Kwame. “Dylen ni gael cystadleuaeth a gweld pa stondin sy’n cynhyrchu’r arain mwyaf.”

Edrychodd Kwame ar ei ffrindiau; nodion nhw. “Iawn,” dywedodd. “Bargen! Bydd pwy bynnag sy’n ennill yn cael chwarae ar y cae pêl-droed am yr wythnos.”

“Bargen!” Cerddodd Owen i ffwrdd, gan chwerthin.

* * *

Roedd y diwrnod nesaf yn ddydd Sadwrn gwell na’r arferol oherwydd bod Kwame yn dathlu’i benblwydd yn un ar ddeg oed. Yr unig beth roedd wedi bod yn siarad amdano ers wythnosau oedd y gêm fideo newydd Rocket Stormz II.

Wrth fwrdd y gegin, gyda Dad a Thad-cu yn edrych arno, rhwygodd Kwame ei anrhegion ar agor: llyfr cofnodion y byd, pâr o glustffonau Bluetooth a hwdi. Dim Rocket Stormz II. Ceisiodd guddio’i siom. Ers damwain beic modur Dad, roedd arian wedi bod yn brin. Daeth Dad draw yn ei gadair olwyn at Kwame a rhoi ei fraich o amgylch ei ysgwydd.

“Edrycha, dw i'n gwybod dy fod wedi gosod dy galon ar y gêm gyfrifiadurol honno, ond mae'n ddrwg ‘da fi - allwn ni ddim ei fforddio ar hyn o bryd. Efallai rho hi ar dy restr Nadolig, bydd wedi gostwng mewn pris erbyn hynny.”

46

Torrodd Tad-cu ar draws, “Pan o’n i’n fachgen, ro’n i a’m ffrindiau’n arfer cyfnewid teganau. Bob amser, roedd gan rywun rhywbeth ro’ch chi eisiau ac felly roedd pawb yn cael tro.”

Nid oedd gan Kwame y galon i egluro bod gan ei holl ffrindiau wahanol gonsolau, felly hyd yn oed

47

os oedd ganddynt y gêm roedd ei heisiau, ni fyddai'n addas.

Gan feddwl, cnoiodd lond ceg o grempog, gyda surop masarn yn diferu i lawr ei ên. “Dad … allwn i werthu fy hen bethau ar y wefan honno rwyt yn ei defnyddio i werthu dy hen recordiau arni?”

“Kwame!” Chwarddodd Dad. “Mae gan hanner dy deganau ddarnau ar goll neu fatris wedi rhydu. Cofio’r drôn wnest ti ei yrru mewn i wal y Nadolig diwethaf? Ar ôl i'r adain ddisgyn i ffwrdd, wnest ti ddim chwarae ag ef eto.”

“Neu’r robot hwnnw oedd yn poeri disgiau sbwng,” ychwanegodd Tad-cu. “Aeth y disgiau hynny’n sownd a wnest ti ddim chwarae â hwnnw chwaith.”

Doedd hynny ddim yn deg! Croesodd Kwame ei freichiau. “Roeddwn yn iau bryd hynny a doeddwn i ddim yn gofalu am bethau’n dda iawn, ond dw i’n gwneud nawr. Mae’r consol gemau wedi bod gyda fi i ers pum mlynedd ac mae’n dal i weithio.”

Rhoddodd Tad-cu y platiau brecwast i gadw. “Dyw gwerthu pethau ar-lein ddim yn hawdd, K. Rwyt wedi fy ngweld yn helpu dy dad. Mae'n rhaid i ni lunio disgrifiad ar-lein, tynnu lluniau, pacio pethau a thalu i’w postio. Mae gwerthu ar-lein yn werth chweil yn unig os ydynt yn eitemau prin, neu grysau T wedi’u teilwra fel y rhai mae dy dad yn gwneud.”

Rhedodd ei Dad ei fysedd trwy wallt cyrliog

48

Kwame. “Paid â bod yn rhy siomedig, iawn? Rydym yn cael pysgod a sglodion i ginio, ac mae Tad-cu wedi dweud bydd yn gwneud ei lemonêd melon-dŵr arbennig roedd yn arfer ei yfed pan oedd yn fachgen.”

Tynnodd tad-cu jwg wydr fawr allan o dan y sinc. “Bydd, bydd yn flasus iawn yn y tywydd poeth yma ac yn mynd yn dda gyda dy gacen pen-blwydd.”

Ddydd Sul, eisteddodd Kwame a'i ffrindiau o gwmpas yn gweiddi'n hapus wrth gymryd eu tro yn chwarae gêm fideo pêl-droed.

“Pasia’r bêl!” gwaeddodd Alya.

“Unrhyw syniadau am ein stondin felly?”

gofynnodd Kwame, gan wasgu'r botymau ar y rheolydd. “Dim ond wythnos sydd gennym.”

“Beth am gêm can tun, gan eu taro i lawr?” gofynnodd Wasim.

Ysgwydodd Kwame ei ben. “Dw i ddim yn meddwl y bydd pobl eisiau chwarae’r gêm honno… byddai’n gwneud gormod o sŵn.”

“Mae angen i ni feddwl beth sy'n gwerthu. Breichledi cyfeillgarwch?” dywedodd Malika. “Pwy sy’n gallu eu gwneud?”

Dywedodd Wasim, “Fy chwaer. Mae bob amser yn gadael edafedd o gwmpas y lle.”

“Ond all hi ddim gwneud cannoedd erbyn dydd Sadwrn nesaf, all hi?” cwynodd Alya.

* * *
49

“Beth am sleim?” ebychodd Wasim. “Mae pawb yn y blynyddoedd iau yn dwlu ar sleim.”

“Dyw hwnna ddim yn syniad drwg,” dywedodd Kwame. Roedd wedi gweld potiau o sleim yn gwerthu am bum punt neu fwy, felly cyn belled â bod eu rhai

nhw’n rhatach na’r sleim roedd pobl yn ei brynu yn y siopau…

Nodiodd Malika. “Mae’r cynhwysion yn rhad.

50

Dim ond glud, lliw bwyd yw e a rhywbeth i’w ddal at ei gilydd…”

Gwenodd Kwame. “Iawn, sleim amdani!”

Rhoddodd bawen lawen i’w ffrindiau ac aethant yn ôl i gicio’r bêl o amgylch y cae a thaclo’i gilydd.

“K,” gwaeddodd Alya, yn frwdfrydig wrth iddi sgorio cic rydd. “Ie! Rwyt wedi codi i lefel uwch. Gelli gael yr ymosodwr hwnnw nawr.” Pwysodd Alya tuag at Kwame a chymryd ei reolydd. “Edrycha, cer yma –i ‘opsiynau’ a dod â’r ddewislen ‘ychwanegol’ i fyny.”

Ychydig o gliciau yn ddiweddarach, cafodd

Kwame yr ymosodwr diweddaraf a churodd y gweddill ohonynt 3-0! * * *

Fore dydd Llun, roedd tad Kwame yn eistedd wrth fwrdd y gegin, yn syllu ar ei liniadur, gan edrych yn ddryslyd.

“Kwame, dere ‘ma.”

Rhoddodd Kwame ei focs bwyd yn ei fag cefn. “Mae’n rhaid i mi fynd, neu bydda i’n hwyr.”

“Aros eiliad.” Pwyntiodd Dad at y sgrin. “Edrycha ar hwnna?”

Dilynodd llygaid Kwame fys ei Dad. Darllenodd yn uchel: “Pryniant Game network.” Llowciodd.

Culhaodd llygaid Dad. Brynaist ti rywbeth arlein ar gyfer un o'th gemau?”

“Naddo. Wel, ro’n ... Wn i ddim! Ddim ar bwrpas.

51

Dywedodd Alya wrthyf y gallwn gael yr ymosodwr rhad ac am ddim hwn pe bawn yn clicio ar hwn—”

Ochneidiodd Dad yn uchel a rhwbio’i ddwylo ar draws ei wyneb. “Gwranda. Mae fy manylion banc wedi'u storio ar y consol gemau pan fyddwn yn prynu ffilmiau. Doedd yr ymosodwr hwnnw ddim am ddim! Roedd wedi costio pum punt mewn gwirionedd.”

Doedd dim syniad gan Kwame! Syllodd ar y llawr. Mae’n flin ‘da fi, Dad.”

Ysgwydodd ei Dad ei ben. “Gwranda, os oes rhywbeth ar-lein fel hwnna’n edrych yn rhy dda i fod yn wir - yna mae'n debygol ei fod. Paid fyth â chlicio ar ‘Prynu Nawr’ neu ‘Gynnig Am Ddim’ heb

wirio gyda mi yn gyntaf, iawn? Er mai ar y sgrin yn unig mae’n bodoli, mae eitemau’n dal i gael eu prynu

gydag arian go iawn. ”

“Do’n i ddim yn gwybod.”

“Mae’n iawn.” Aeth Dad i roi cwtsh iddo.

“Mae’n hawdd iawn gwneud y camgymeriadau hyn; mae Tad-cu hyd yn oed wedi gwneud yr un peth! Ond, dylet fod yn gwybod am y pethau hyn erbyn nawr. Bydd angen i ti wneud rhai tasgau ychwanegol o gwmpas y tŷ i fy nhalu nôl, iawn?" * * *

Ar ôl yr ysgol, gwasgodd Kwame a'i ffrindiau i mewn i ystafell ymolchi Kwame. Wrth greu gwahanol

ryseitiau sleim wrth wylio fideos ar-lein, yn fuan iawn, roedd yr ystafell ymolchi’n edrych fel bod bom wedi ffrwydro ynddi. Roedd gan bob un ohonynt bowlen o'u blaenau ar dywel ac roeddent wedi’u hamgylchu gyda chapsiwlau golchi llestri, hydoddiant lensys cyffwrdd, powdr pobi, olew babi, glud a sebon.

“Mae’r un yma’n ludiog,” meddai Malika, gan ddal llwy bren i fyny. Diferodd slwtsh pinc oddi arni.

Ochneidiodd Kwame. “A’r lleill?” Syllodd i mewn i’r powlenni eraill, gan ysgwyd ei ben ar yr holl lanast slwtsh.

“Beth ydyn ni’n mynd i'w wneud?” llefodd Alya.

“Allwn ni ddim gwario mwy o arian! Mae angen y pum punt arall arnon ni ar gyfer losin i ddenu’r cwsmeriaid.”

53

“Efallai nad oes rhaid i ni wario pum punt ar losin?” dywedodd Wasin. “Mae angen i ni feddwl am syniad arall sy’n rhad neu am ddim. Mae’r ffair mewn dau ddiwrnod.”

Cofiodd Kwame am rywbeth roedd ei dad-cu wedi’i ddweud. “Mae gyda phob un ohonoch frodyr a chwiorydd iau, on’d oes? Allech chi weld oes ganddynt unrhyw hen deganau nad ydyn nhw’n eu defnyddio mwyach - gallem eu gwerthu?"

Crychodd Alya ei drwyn. “Mae fy chwaer yn driblo ar bopeth. Fyddai neb yn talu arian am ei llyfrau defnydd cnöedig.”

“Ond does dim miloedd o’r pethau Sylvanian Family hynny gyda hi?”

“Oes. Dyw hi ddim yn chwarae â nhw bellach,” dywedodd Alya.

“Dyna’n union beth fydd pobl eisiau!” llefodd Kwame. “A Malika, on’d yw dy chwaer yn dwlu ar Star Wars?

“Roedd hi,” dywedodd Malika. “Doctor Who mae’n dwlu arno nawr, ond gallwn i ddod â rhai o’i hen flwyddlyfrau i’r stondin. Ddim yn siŵr y bydd hi'n fodlon eu rhoi am ddim er hynny.”

Dywedodd Kwame, “Gallwn eu cyfnewid am bethau mae gyda hi ddiddordeb ynddy nhw nawr.”

Ysgydwodd Malika ei phen. “Ond sut rydym yn gwneud unrhyw arian felly?”

Meddyliodd Kwame am y peth. “Efallai gallai pobl dalu ffi i ymuno?”

54

“Fel sut mae campfeydd yn codi ffi aelodaeth ac yna’n gadael i chi ddefnyddio’r offer!” Gwenodd

Wasim. “Ac, efallai gallem, sefydlu ein busnes ein hunain - cael diwrnod cyfnewid unwaith y mis neu rywbeth?”

* * *

Ar ôl i'w ffrindiau fynd adref, edrychodd Kwame trwy ei gypyrddau ei hun am eitemau i'w rhoi ar eu

stondin cyfnewid. Roeddent i gyd wedi cytuno i ddod

55

â hen deganau a gemau neu byddai dim byd ar y stondin. Yn fuan, roedd wedi llenwi bag plastig gyda theganau meddal, blociau stacio, brics adeiladu heb gyfarwyddiadau, a llyfrau lluniau. Dim byd newydd, ond roeddent yn ddigon da i chwarae â nhw o hyd. * * *

Daeth bore dydd Sadwrn - y ffair haf. Roedd yr awyr yn glir ac yn ddisglair. Am 10 o'r gloch y bore agorodd y gatiau, ac roedd y maes chwarae’n brysur iawn mewn dim amser. Roedd castell neidio a stondin toesenni drws nesaf i’w gilydd. Mae hynny'n gofyn am drwbwl, meddyliodd Kwame. * * *

Gosodwyd y stondinau a oedd yn cael eu rhedeg gan 6B o amgylch ymyl y cae chwarae. Roeddent yn lliwgar ac yn amrywiol: cacennau ar werth, gêm cylchyn poteli plastig, tatŵs dros dro a phaentio wynebau. Roedd gan wrthwynebydd Kwame – grŵp

Owen – gêm ‘Taflu Sbwng Gwlyb at yr Athro’. Roedd hynny'n edrych yn hwyl; pwy fyddai ddim yn dwlu ar daflu sbwng llawn dŵr at athro! Roedd y ciw’n fawr iawn. Llyncodd Kwame – doedd dim ffordd y byddai’u Siop Gyfnewid fyth yn curo hynny. * * *

Edrychodd Kwame ar eu stondin, yn obeithiol. Er bod y rhan fwyaf ohoni wedi’i rhoi at ei gilydd ar y funud olaf, nid oedd yn edrych yn rhy wag. Roedd pawb wedi dod â rhywbeth. Er bod 75 y cant o’r stondin yn deganau meddal, roedd posau, llyfrau, pethau meddal a DVDs yno hefyd.

“Beth yw hwn ‘te?” gofynnodd gwraig, gan siglo babi oedd yn driblo.

“Siop gyfnewid,” dywedodd Malika. “Rydych yn talu hanner can ceiniog i fod yn aelod ac yna byddwch yn gallu benthyg beth bynnag rydych eisiau am wythnos.”

“Hmm.” Daliodd y babi ar ongl, a tharodd yn erbyn y teganau meddal.

“Ond sut dw i’n dychwelyd beth dw i wedi'i fenthyg?” meddai, gan edrych yn ddryslyd.

Cododd Alya a Wasim eu hysgwyddau. Cymerodd y wraig arth losin o'r bowlen losin rhad ac am ddim ac yn fuan crwydrodd i ffwrdd i stondin oedd yn gwerthu cacennau eisin.

Dylen ni fod wedi gwneud y rheiny ar gyfer aelodau’n unig,” cwynodd Wasim, gan daro’i law i’w dalcen. * * *

Arhosodd Mr Wilson wrth y stondin. “Dywedwch wrthyf am eich stondin ‘te. Beth wnaeth i chi benderfynu ar y syniad hwn?”

Llyncodd Kwame. Sut i ateb? Roedd y wraig yn iawn; doedd e heb feddwl hyn drwyddo mewn gwirionedd. Os oedden nhw yma heddiw yn unig, fyddai neb yn gallu cyfnewid dim byd, byddent ond yn gallu benthyg a sut fyddent yn dychwelyd pethau? Beth oedd y pwynt? Efallai y gallent newid syniadau ac yn lle hynny gwerthu popeth?

Diferodd y chwys i lawr ei gefn wrth i Mr Wilson syllu arno, gan aros.

“Roedden ni ... eisiau dangos ... does dim angen i chi gadw i brynu teganau a phethau newydd. Efallai bod sbwriel rhywun yn drysor i rywun arall, wyddoch chi?” Gwenodd, gan hoffi’r syniad. “Mae'n dda i'r blaned hefyd, cywir? Mae gyda ni rywfaint o arian ar ôl hyd yn oed, dim llawer ond punt neu ddwy.”

58

Gwenodd Mr Wilson. “Dw i’n hoffi hynny, Kwame. Felly, bydda i’n cofrestru. Mae fy merch wedi bod eisiau un o’r anifeiliaid anwes micro hynny ers oesoedd, ond maent wedi rhoi’r gorau i’w gwneud nawr a does dim ffordd byddwn i’n talu’r prisiau gwallgof sy’n cael eu hysbysebu ar-lein.”

59

Ar ôl i Mr Wilson adael, edrychodd Kwame o gwmpas y maes chwarae. Doedd dim cwmwl yn yr

awr, a nawr, am 11a.m., roedd yn boeth iawn. Roedd pobl yn torchi’u llewysau ac yn casglu yn y mannau lle roedd cysgod o dan gynfasau’r ystafell ddosbarth.

Roedd gan y stondin diodydd arwydd ‘Wedi Gwerthu

Allan’, a chasglodd ciw mawr wrth yr unig ffynnon

ddŵr.

*
* *
*
* *

Meddyliodd Kwame byddai gwydryn o lemonêd melon dŵr oer hyfryd Tad-cu yn cael ei werthfawrogi’n fawr ar hyn o bryd. Wrth iddo feddwl am hynny, yn sydyn cafodd syniad. “Mae gennym dair punt ar ôl, cywir?” Trodd at Wasim. “Alla i fenthyg dy ffôn?”

* * *

Ddeg munud yn ddiweddarach, daeth tad-cu Kwame i’r stondin gyda thair llond jwg o lemonêd melon dŵr oer.

“Shw’mae!” Gwaeddodd Owen dros y maes chwarae. “Mae gofyn i dy dad-cu ddod â diodydd i’w gwerthu’n dwyllo!”

“Na, dyw e ddim!” gwaeddodd Kwame yn ôl. “Talon ni am y lemwn a’r melon dŵr o’r gyllideb oedd yn weddill, diolch yn fawr!”

Cwynodd Alya, “Dylai beidio â busnesu...”

Dechreuodd Malika a Wasim arllwys lemonêd i mewn i gwpanau plastig.

“Lemonêd! Lemonêd!” gwaeddodd Alya’n uchel. “Aelodaeth i'r Siop Gyfnewid yn hanner can ceiniog yn unig ac yn cynnwys gwydriad AM DDIM o’r lemonêd cartref hyfryd hwn. * * *

Yn ddigon buan, roedd gan eu stondin giw hir o bobl. Ysgrifennodd Alya e-bost neu rif ffôn symudol pawb yn y cyfriflyfr. Rhwygodd Malika y tocyn raffl a oedd yn gweithredu fel eu cerdyn aelodaeth

61

ac ar y cefn ysgrifennodd y teganau roeddent wedi'u benthyg a'r dyddiad roeddent i’w dychwelyd. Am y tro, roeddent wedi penderfynu ar ddydd Gwener nesaf, ar ôl yr ysgol.

“Da iawn!” dywedodd Mr Wilson, gan nodio’n llawn edmygedd tuag at eu ciw hir. “Ar ôl dechrau araf, mae’n edrych fel bod eich lemonêd wedi denu’r cwsmeriaid!”

Gofynnodd Kwame, “Ydyn ni wedi ennill felly? Ai ni oedd wedi gwneud y fwyaf o arian?”

*
* *

Ysgydwodd Mr Wilson ei ben. “Nage, mae’n ddrwg gennyf, rwy’n siŵr mai stondin Owen sydd â’r elw mwyaf hyd yn hyn. Ond mae gyda’r syniad hwn o siop gyfnewid wreiddiau mewn gwirionedd.”

“Beth, Syr?” gofynnodd Malika’n synn.

“Dyma’r union fath o beth y byddai’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn ystyried ei wneud ar ôl yr ysgol yn rheolaidd. Mae wir yn annog lleihau gwastraff. Yn y wers nesaf, byddwn yn trafod sut i ysgrifennu cynllun busnes. Gwaith ardderchog!” * * *

Cododd Kwame gwpanaid plastig o lemonêd a gwnaeth, Alya, Wasim a Malika lwnc destun i'w gilydd. “I ni, tîm Entrepreneuriaid y Siop Gyfnewid!”

64

Eisiau dysgu sut i ofalu am eich arian?

Mae'r straeon hwyliog hyn yn sO ^ n am

drafod arian.

ddim yn Syniad Da

Mynnwch flas ar y stori hon am y dylwythen deg a’i chyngor arian hudol.

Suki a Susannah yn Achub y nadolig

Pan fydd dwy ferch ddeallus yn

gweithio gyda’i gilydd, mae’r cynilion a’r chwaeroliaeth yn cyrraedd y brig.

Y Siop Gyfnewid

Mae her yr ysgol yn rhoi’r cyfle i grw ^ p o ffrindiau fod yn llwyddiannus yn ariannol.

ISBN 978-1-7396622-8-8

MH-SS-WELSH

byCefnogwyd gan
Mae Arwyr Arian yn rhaglen gan Young Money, a gefnogir gan HSBC y DU. Mae Young Money yn rhan o Young Enterprise, elusen gofrestredig (rhif elusen: 313697)
Scholastic.co.uk Supported

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.