Y Gloran Mai 2012

Page 1

y gloran

12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 1

papur bro blaenau’r rhondda fawr

20c

rhifyn 271 2il gyfrol

mai 12

LLWYDDIANT I FUSNESAU TREORCI

Mewn Cinio a Chyfarfod Gwobrwyo Arbenniga drefnwyd gan Glwb Busnes Rhondda Cynon Taf yng ngwesty Maenor Meisgyn, nos Wener, 27 Ebrill, profodd dau o fusnesau stryd fawr Treorci lwyddiant mawr. Cipiwyd y wobr am Fusnes Amgylcheddol y Flwyddyn gan Undeb Credyd Dragonsavers, Stryd Bute. Christina Stoneman, Cymraes Gymraeg sy'n hanu o Sir Benfro ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghwmparc, Roedd dydd Iau, 3 Mai Yn y llun: Shelley-Ann Rees bleidlais yn erbyn y llif. yw Rheolwraig GyffrediOwen, Leanne Wood yn ddiwrnod o lawen Yma enillodd Plaid nol yr Undeb yn yr ardal. (Arweinydd Plaid Cymru), chwedl i'r Blaid Lafur Cymru 3 sedd oddi ar Yn ogystal, cipiwyd Maureen Weaver, Irene Pearce, Emyr Webster ac wrth iddi ysgubo ei Lafur, 2 yn Nhon Pentre gwobr Manwerthwr Anyn eistedd y Cyngynghorydd nibynnol y Flwyddyn gan gwrthwynebwyr o'r a'r Pentre a'r llall yn Ted Hancock Louise Evans, neilltu trwy Loegr a Nhreherbert. Bellach perchennog Sparkilihynny yn ôl y disgwyl Chymru. Cafodd bydd tair merch newydd cious, busnes sydd wedi polisiau cwtogi'r Toriaid wrth i'r etholwyr ddefny- yn ein cynrychioli, sef ymsefydlu yn y Stryd ddio eu pleidlais i roi cic Maureen Weaver a'r a'r Democratiaid RhyFawr. Yn y llun, gwelir i lywodraeth San StefLouise yn derbyn ei ddfrydol eu gwrthod yn gwobr ac wrth ei hochr gyffredinol a dioddefodd fan. Fodd bynnag, yn Parhad ar dudalen 3 mae Ashley Crowther, un ardal Y Gloran aeth y Plaid Cymru yn sgil o ohebwyr chwaraeon BBC Cymru, oedd yn Louise yn derbyn ei gwobr cyflwyno'r noson. Y siaradwr gwadd oedd Colin Jackson, y cyn-athletwr enwog. Llongyfarchiadau calonnog i'r ddau gwmni o Dreorci ar eu llwyddiant. Y llynedd Wonderstuff, eto o stryd fawr Treorci, a gipiodd un o'r prif wobrau. Ar adeg pan yw'n anodd ar fusnesau'n gyffredinol, da yw gweld bod stryd fawr Treorci'n dal i ffynnu. Hir y parhaed!

YR ETHOLIADAU LLEOL


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 2

golygyddol

y gloran

E-bost: ygloran@hotmail.com

Ddydd Sadwrn, 26 Mai bydd y Fflam Olympaidd yn cyrraedd Cwm Rhondda ac yn cael ei chludo trwy ardal Y Gloran. Bydd yn cyrraedd Stryd Abertonllwyd, Treherbert am 1.04 p.m. ac yn cael ei chludo i lawr trwy Stryd Bute, Stryd Baglan nes cyrraedd Stryd Bute, Treorci gan Danielle Russell (Merthyr), Bronte Bowen (Treharris) a Gwyn Lein (Caerdydd). Mark Thomas, 47 oed o Donypandy sy'n cael yr an-

rhydedd o'i chario trwy Ynyswen cyn ei throsglwyddo i Ady Lewis (Y Coedduon), Kathryn Obria (Caerdydd) a Michael Shears (Porthcawl) a fydd yn gyfrifol amdani trwy Treorci ar hyd Stryd Bute, Y Stryd Fawr a Heol yr Orsaf cyn iddi groesi'r Bwlch i Gwm Ogwr. Mae hi'n siomedig nad yw pobl leol yn cael y fraint o dywys y ffam trwy'r ardal ond deellir y bydd Jeffrey Cowland o Donypandy yn ei chludo trwy Fryncethin yn ddiweddarach ar y daith. Sefydlodd Jeffrey grŵp yn ei ganolfan ddydd lle mae 22 oedolyn yn tyfu miloedd o blanhigion ac yn creu basgedi crog llawn blodau i'w hongian ar byst lamp ar hyd y cwm Yn ogystal â gwneud hyn, mae Jef-

Όχι, μπορείτε να εκτελέσετε το χάσμα!!!

y gloran

mai 2012

YN Y RHIFYN HWN

Etholiadau lleol/ Llwyddiant i fusnesau Treorci -1 Golygyddol-2 CIG yn 50 -3 Y Rhondda yn Noddfa -4

NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD Cwis/Côr y Garth - 5-6-7-8-9

Ysgolion/Prifysgolion -10-11-12

frey'n gofalu am ei rieni oedrannus. Pobl eraill o'r Rhondda a fydd yn cludo'r fflam yw Alun Davies, 80 oed (trwy Nantymoel), Rhys Jones, 17 oed o Donypandy (trwy Lansawel / Britton Ferry) a Tara Lewis o Ferndale (trwy Fargam). Mae'n siwr y bydd llawer yn mwynhau hwyl yr achlysur ond roedd hi'n drist nodi taw prin iawn yw'r cyfleoedd i fasnachwyr lleol fanteisio ar yr achlysur. Cyn i'r fflam ddechrau ar ei thaith, rhybuddiwyd pawb nad oedd

ganddynt hawl i ddefnyddio emblem y pum cylch Olympaidd ar unrhyw gynnyrch na hyd yn oed rhif y flwyddyn 2012! Roedd hawlfraint y rhain gan bwyllgor y Gemau a rhoddwyd yr hawl i hysbysebu ond i'r prif noddwyr. O ganlyniad, bydd holl sbloet hysbysebu cwmniau bydeang fel MacDonald a Coca-Cola yn rhagflaenu'r fflam ei hun trwy ein pentrefi gan wthio mentrau lleol i'r ymylon. Yn y cyfnod cyn y gemau, collodd nifer o elusennau lleol nawdd gan y Loteri Fawr a chafodd cwmniau o Gymru fawr o lwyddiant wrth gynnig am rai o'r cytundebau mawr oedd ar gael. Er y bydd rhai o'r campau ymylol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, ychydig o elw a ddaw i Gymru yn y pen draw. Mae eironi yn y ffaith taw deddwyrain Lloegr, rhanbarth mwyaf llewyrchus yr ynysoedd hyn, fydd yn elwa o'r Gemau ar draul rhai o'r ardaloedd tlotaf. Yn ddiau, caiff y fflam groeso ar ei thaith ond i lawer ohonom bydd yn sumbol o gyfle euraidd a gollwyd i hybu ein heconomi leol. Golygydd

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

Na, ti syʼn rhedeg dros y Bwlch!!!

2


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Llythyr CIG yn 50

Annwyl ddarllenwyr, Mae’n siŵr y bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ffaith bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Bydd rhai ohonoch hefyd wedi clywed am ŵyl gerddorol arbennig, ‘50’, sy’n cael ei chynnal fel rhan o’r dathliadau hanner canmlwyddiant, a hynny yn y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid ar 13-14 Gorffennaf (mwy o wybodaeth ar y wefan hannercant.com). Bydd 50 o grwpiau ac artistiaid unigol cerddorol yn cymryd rhan yn y gig arbennig yma, a bydd nifer o weithgareddau ymylol hefyd yn cyfrannu at yr hyn sy’n siŵr o fod yn ddigwyddiad cofiadwy. Un o’r gweithgareddau ymylol hynny fydd arddangosfa arbennig yn dathlu perthynas agos y Gymdeithas â’r sin gerddoriaeth Gymraeg, ac rydym yn lansio apêl am eitemau a allai fod yn ddefnyddiol wrth baratoi'r arddangosfa hon. Bydd yr arddangosfa’n rhoi sylw i weithgaredd cerddorol y Gymdeithas dros y pum degawd diwethaf ac rydym yn

Page 3

chwilio am bob math o eitemau, boed yn bosteri gigs, lluniau o ddigwyddiadau, crysau T, ffansins neu unrhyw memorabilia arall. Rydym hefyd yn awyddus iawn i glywed atgofion arbennig pobl o gigs a digwyddiadau adloniadol y Gymdeithas dros y blynyddoedd. Oes yna ddigwyddiadau yn aros yn y cof? Fu i chi gwrdd ag unrhyw un arbennig yn un o’r gigs? Pa fandiau ddaethoch chi ar eu traws gyntaf fyn un o gigs y Gymdeithas? Os oes gennych unrhyw eitemau fyddai’n ddefnyddiol i ni greu’r arddangosfa arbennig yma, neu atgofion yr hoffech anfon i ni yna gallwch wneud hynny trwy e-bostio arddangosfa@hannercant.com. Os nad oes modd anfon eitem yn electronig yna gallwch ffonio swyddfa’r Gymdeithas ar 01970 624 501 i wneud trefniadau eraill. Rydym yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad i’r arddangosfa a gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni ym mis Gorffennaf i ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol perthynas Cymdeithas yr Iaith â’r sin gerddoriaeth Gymraeg. Yn gywir iawn, Toni Schiavone

Etholiadau lleol parhad

actores Shelley Rees-Owen yn y Ton ac Irene Pearce yn Nhreherbert. Cadwodd Geraint Davies ei sedd yn Nhreherbert ac ymunodd aelod newydd, Emyr Webster, â Sera Evans-Fear a Cennard Davies yn Nhreorci. Roedd Emyr yn cymryd lle Edward Hancock oedd yn ymddeol ar ôl dal y sedd dros Blaid Cymru er 1999. Cadwodd John Watts a Paul Cannon seddau'r Blaid Lafur yn Ystrad Rhondda. Dyma'r canlyniadau'n llawn: Y Pentre Elaine Barnett [Llafur] 741; Kris Evans [Llafur] 724; Leigh Martin Evas [Y Blaid Werdd] 87; Linda Evas [Y Blaid Werdd] 82; Shelley Rees-Owen [Plaid] 867; Maureen Weaver [Plaid] 789. Treherbert Luke Bouchard [Llafur] 835; Geraint Rhys Davies [Plaid] 1081]; Irene Elizabeth Pearce [Plaid] 978; Paul Russell [Llafur] 726. Treorci Cennard Davies [Plaid] 1252; Dr Hardev Singh Singh [Llafur] 1081; Sêra Evans-Fear [Plaid]1247; Ron Jones [Llafur] 1096; Graham Thomas [Llafur] 1099; Emyr John Webster [Plaid] 1140. Ystrad Rhondda Paul Cannon [Llafur] 979; Angharad Bethan Jones [Rhyddfrydwr] 121; Larraine Jones [Plaid] 591; Esther Ruth Nagle [Plaid] 536; Malcolm John Watts [Llafur] 804

A dyma’r tair merch newydd..

Shelley a Maureen yn Y Pentre

ac Irene yn Nhreherbert

Llongyfarch -iadau iʼn cynghorwyr i gyd !!!

3


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 4

Y Rhondda'n Noddfa rhag y Natsiaid

Heini Gruffudd gyda chopi oʼi gyfrol newydd Yr Erlid

Yn ddiweddar yn Abertawe lansiwyd cyfrol sy’n adrodd hanes ysgytwol un teulu yng nghyfnod twf Natsïaeth yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf a chyfnod yr Ail Ryfel Byd. Mae Yr Erlid yn berthnasol i’r Rhondda gan i un o’r teulu sef Kate Bosse-

Griffiths symud i’r Rhondda a dod yn llenor Cymraeg. Heini Gruffudd, ei mab, yw awdur y gyfrol. Llwyddodd KateBosse-Griffiths i ffoi o’r Almaen i wledydd Prydain yn 1937. Caru, priodi, cychwyn llenydda yng Nghymru a sefydlu

Kate Bosse Griffiths a Gwyn Griffiths

4

Cylch Cadwgan yn y Rhondda oedd ei hanes pan droes y Natsïaid fywyd pobl yr Almaen ac Ewrop yn uffern. Ymgartrefodd yn St Stephen's Avenue, Y Pentre gyda'i gŵr Gwyn oedd yn aelod o staff Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y Porth. Erlidigaeth Draw yn yr Almaen cafodd ei theulu ei erlid yn annhrugarog. Ceisiodd rhai fod yn rhan o’r system, roedd eraill yn ymdrechu i fyw er gwaetha’r system, ac eraill yn ei gwrthwynebu’n hunanaberthol. Ni fyddai’r stori yn bosib ei hadrodd oni bai am y mil a mwy o ddalennau a gadwyd ym meddiant y teulu, yn llythyrau a dyddiaduron, yn ysgrifau a dogfennau. Soniant am ymosodiadau Kristallnacht, bywyd o dan y drefn wallgof, manylion gwersylloedd carchar, ffoi i Shanghai, hunanladdiad, carcharu a lladd. Mae yma hanes o garu a

chasáu, gwarchod ac erlid, dyheu a dychryn yn y cyfnod mwyaf dinistriol a welodd Ewrop. Ceir hanes llofruddiaeth mam Kate Bosse-Griffiths, hunanladdiad ei modryb ac erlid y teulu i bob cwr o’r byd. Ar ôl ffoi i Brydain i fyw, priododd Kate a symud i Gymru gan fyw yn y Rhondda, y Bala ac Abertawe. Daeth yn adnabyddus am ei nofelau a’i storïau, yn ogystal ag am ei diddordeb mewn archaeoleg ac Eifftoleg, a magodd ddau o blant yn Gymry pybyr. Trafodwyd peth o’r hanes yn y rhaglen ddogfen, Y Trên i Ravensbruck a enillodd ddwy o wobrau BAFTA Cymru. Mae Heini Gruffudd yn awdur toreth o lyfrau, yn ymgyrchydd dros addysg Gymraeg ac yn awdurdod ar gymdeithaseg iaith. Ei frawd yw Robat Gruffudd, sefydlydd Gwasg Y Lolfa.


newyddion lleol

12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 5

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT Daeth nifer fawr o westeion ynghyd i Glwb Cymdeithasol Blaenrhondda i ddathlu priodas Richard Jenkins a Cari Mellor. Priododd y pâr fis yn ôl yn Jamaca ond roedden nhw’n awyddus i gael parti gyda’u ffrindiau a’r teulu nad oedd yn bresennol yn y seremoni. Mae Richard a Cari eisioes wedi ymgatrefu yn Ross Rise Trehebert. Pob lwc i’r ddau i'r dyfodol. Cynhaliwyd gwasanaeth sefydlu'r Capten Ralph Upton yn weinidog ar Eglwys Blaenycwm Trehebert. ar 28 Ebrill 2012. Daeth nifer sylweddol i’r cyfarfod a oedd yn llawn gobaith a hyder am y dyfodol. Roedd y gwasanaeth dan ofal y Parchedig Dafydd Henri Edwards, Ainon, Ynyshir, Arolygydd Cymanfa Dwyrain Morgannwg. Y pregethwr gwadd oedd y Parchedig Julian Richards o eglwys wreiddol.Cornastone Abertawe. Un o uchafbwyntiau'r cyfarfod oedd cyfarchion gan y Parchedig Denis Young, cyn weinidog yr eglwys. Cafodd Mr Young ei ordeinio yn y capel ym 1954 ac roedd e a’i wraig wedi teithio yr holl ffordd

o Llanfair PG, Ynys Mon i fod yn bresennol, Daeth y noson i ben gyda chymdeithasu dros baned o de a lluniaeth ysgafn yn ystafell newydd y capel. Dymunwn wellhad a phob cysur i’r Parchedig D J Long o Taff St sy gartref o Ysbyty Treforus. Mae Mr Long wedi bod yn weithgar yn yr ardal am ddegawdau ac mae pawb yn dymuno gwellhad buan iddo. Llongyfarchiadau i Irene Pearce a gafodd ei hethol yn gynghorydd dros ward Treherbert..Mae Irene sy'n wreiddiol o’r Alban, wedi byw yn Nhreherbert am dros 40 mlynedd ac eisioes wedi ei mabwsiadu fel Cymraes! Bydd y Cyngorwr Pearce yn ymuno ar Cynghorwr Geraint Davies i gynrychiolu’r ardal ar Gyngor RhCT. Pob lwc iddynt.

Ar ol cystudd hir bu farw Doreen Lee o Stryd Miskin yn Ysbyty George Thomas y mis diwethaf. Roedd Mrs Lee yn addnabyddus fel cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau cyn eiymddeoliad. Fel darlunydd talentog roedd ei lluniau wastad yn boblogaidd yn Sioe Celf Blynyddol Ystradafodwg. Cydymdeimlwn a’r teulu

yn ei colled. Mae'n flin cofnodi marwolaeth Ron Jones o Dumfries St ar ôl cystudd hir. Roedd Mr Jones yn gweithio ar y reilffyrdd cyn ei ymddeholiad. Roedd yn ddrwg gan bawb glywed hefyd am farwolaeth sydyn Phillip Webber ( Chaz) o Hendreselsig Treherbert. Cydymdeinlwn â’r teuleoedd hyn oll yn eu profedigaeth TREORCI Cafodd pawb a ddaeth i fwynhau noson o 'Poems & Pints' yng Nghlwb Rygbi Treorci fodd i fyw yn gwrando ar gyfraniadau nifer o dalentau'r ardal. Ymhlith y rhai a gymerodd ran oedd Kathleen Evans, Christine Tucket, Sêra Evans-Fear, Kelly Rees, Caroline Bowen, Pat Wright, Wayne Thomas a'r Dr Tony lloyd. Arweiniwyd y noson gan Mr Selwyn Jones ac aeth yr holl elw at Glybiau bechgyn a Merched yr ardal. Roedd yn ddrwg gan bawb glywed bod Mrs Eirlys Davies, Stryd Luton wedi dioddef cwymp yn ei chartref ac ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinl Morgannwg.

EICH GOHEBWYR LLEOL :

Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD

Treorci MARY PRICE

Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Mae pawb yn dymuno iddi adferiad llwyr a buan. Mae'n dda gan bawb glywed bod Mrs Marion Jones, Stryd Dumfries allan o'r ysbyty ac yn gwella ar ôl derbyn llawdriniaeth. Pob dymuniad da, Marion, am adferiad llwyr a buan. Mae aelodau Hermon a'i chymdogion yn Stryd Dumfries yn dymuno pob cysur ia bendith i Mrs May Thomas, Stryd Dumfries sydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ôl cwympo yn ei chartref yn ddiweddar. Roedd yn ddrwg gan

5


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 6

bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Vivienne Morris, merch y diweddar Ddr. Islwyn Morris a Mrs Morris, Heol Glyncoli, yn San Francisco lle y bu'n byw ers nifer o flynyddoedd. Cydymdeilwn â'r teulu yn eu colled. Cafodd aelodau cangen Treorci o'r WI sgwrs ddiddorol iawn yn eu cyfarfod misol yn Ebrill gan Mr Steven Jones, un o swyddogion Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn dibynnu yn llwyr ar gyfraniadau gan Gymry i'w gynnal.

boblogaidd gan bawb. Cydymdeimlwn â'i hunig ferch, Janice a'i gŵr Tony a fu'n fawr eu gofal drosti a hefyd ei hwyrion, Daniel a Tomos. Bydd Sefydliad y Merched yn cynnal cyngerdd yn Neuadd y Dderwen ar 23 Mai am 7 pm i ddathu Jiwbili'r Frenhines. Croeso i bawb. Llongyfarchiadau i Anna Brown, Stryd Regent ar ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth flynyddol a gynhelir gan Sefydliad y Merched, Ton Pentre er cof am Gwyneth Jarman. Y gamp eleni Pob dymuniad da i Mr Barry Grin- oedd cyfansoddi cerdd am Gwm stead, Stryd Clark sydd adre erbyn Rhondda. hyn ar ôl derbyn triniaeth yn Ys- Llongyfarchiadau i dîm cyntaf byty Brenhinol Morgannwg. Clwb Rygbi Treorci ar gwblhau Roedd yn ddrwg gan bawb dder- tymor llwyddiannus yn Adran 1 byn y newyddion am farwolaeth Undeb Rygbi Cymru. Gan fod y Mrs Gwennie Evans, Stryd Rebechgyn yn gwbl amatur ac yn gent, gweddw'r diweddar John ifanc iawn, doedd dim disgwyl idStanley Evans. Roedd Gwennie'n dynt wneud cystal. Gyda phrofiad gymdoges gymwynasgar ac yn eleni'n gefn iddynt, edrychwn ym-

laen at ragor o lwyddiant y tymor nesaf. Cynhaliwyd noson yn y Clwb Rygbi i godi arian i helpu eu cynchwaraewr, Paul Knight sy'n gaeth i gadair olwynion. Roedd nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn bresennol, gan gynnwys JPR Williams a J J Williams.

Cynhaliwyd noson yng Nghlwb Rygbi Treorci, nos Fawrth, 8 Mai i ddathlu llwyddiant ei hymgeiswyr yn yr etholiadau diweddar a hefyd i dalu teyrnged i Edward Hancock oedd wedi cynrychioli'r ardal yn gydwybodol ar Gyngor Rhondda Cynon Taf er 1999. Cyflwynwyd anrheg fach i Edward i nodi'r achlysur ac fe'i gwnaed yn Llywydd Anrhydeddus y gangen. Talwyd teyrnged iddo gan nifer o'r aelodau a chadeiriwyd y cyfarfod gan Huw Davies, Ynyswen.

CARPETS ʻNʼ CARPETS

117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349

6

Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.

Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop

50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian

Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 7

cwis cwis cwis Graham Davies John

ar ein cyfer y mis hwm. Yr her a osodir gan ein cwisfeistr sefydlog y mis hwn yw adnabod gw킹r a gwragedd enwog Cymru. Pam na rowch chi gynnig arni?

1. Ble mae Shirley Bassey yn byw ar hyn o bryd?

2. Pwy yw gohebydd tramor y BBC yr oedd ei dad yn ohebydd ar Radio Wales?

5. Ble ganed Gwynfor Evans?

6. Pwy enilloddd Pencampwriaeth Embassy'r Byd yn 1979? 7. Pwy oedd Sandra yng nghyfres lwyddiannus y BBC 'The Liver Birds'? 8. Dros ba etholaeth y bu Neil Kinnock yn Aelod Seneddol?

3. Pwy sy'n cael ei alw'n 'Tywysog Chwerthin Cymru'?

9. Pa gantores sy'n byw mewn t킹 helaeth sydd 창 golygfeydd eang ar draws Bae Abertawe?

4. Beth yw enw iawn yr Arglwydd Crickhowell?

10. Pwy enillodd cystadleuaeth golff Meistri America yn 1991?

11. Enwch Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. 12. Pwy yw'r gohebydd tramor yn y BBC a faged ym Manceinion [Manchester] ac sy'n siarad Cymraeg?

Atebion:

Cwestiynau am Gymru sydd gan ein cwisfeistr sefydlog,

gloran

1. Monte Carlo 2. Jeremy Bowen 3. Wyn Calvin 4. Nicholas Edwards 5. Y Barri 6. Terry Griffiths 7. Nerys Hughes 8. Islwyn 9. Bonny Tyler 10. Ian Woosnam 11. James Griffiths 12. Wyre Davies

y

????????????

7


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

CWMPARC Trist yw cofnodi marw Sue Moses, un o athrawesau Ysgol Gynradd Cwmparc am bron y cwbl o’i gyrfa. Yr oedd yn boblogaidd iawn gyda’r plant a phawb a daeth i gysylltiad a’r ysgol ac yn frwd iawn gyda chwaraeon. Mae bwlch mawr iawn o’i cholli a chydymdeilir â’i theulu yn eu colled. Yr oedd y gwasanaeth angladd yn eglwys St Siôr a oedd yn llawn i’r ymylon.

Cydymdeimlir hefyd â Sybil Bevan a’i theulu , Heol y Parc ym marwolaeth ei gŵr Steve.

Hefyd ond ychydig wythnosau ar ôl marw ei wraig Enid Nutt (Millward gynt) bu farw Eric Nutt a chydymdeimlir â’r teulu yn eu colled trist.

Bu farw Bernice Leonie Everett priod Ron Everett, Heol y Parc. Yr oedd yn gogyddes yng nghartref Ystradfechan cyn ymddeol. Yr oedd yr angladd yn y Barri o le yr oedd yn wreiddiol.

Ar Mercher 6ed o Fehefin bydd bore Goffi yn Neuadd Gymuned Cwmparc i ddathlu Jubili Diamwnt y Frenhines rhwng 10 a 12 o’r gloch ac hefyd Gweithgareddau Crefft o 10 i 12 yn y Neuadd. Cynhelir Job Clwb bob Llun a Iau o 11 i 5 o’r gloch. Croeso i bawb i

8

Page 8

ymuno. Ffoniwch 776920 am wybodaeth am y cynllun. Y PENTRE Croeso yn ôl i'n gohebydd Dr Anne Brooke, sydd wedi bod gartre gyda'i theulu yn Norfolk, Virginia am beth amser yn dilyn damwain a gafodd yma yn y Pentre. Mawr yw ein diolch i Tesni Powell am gymryd ei lle mor effeithiol. Bydd Tesni yn gallu mwynhau hoe am ddau fis o leiaf cyn ailafael yn yr awenau. Gol.

Fe lenwyd bwlch mawr yn ein cymuned ddydd Calan mai pan agorwyd ein siop bapurau newydd 'Morgan's News' ar Stryd llywelyn, gyferbyn ag Eglwys San Pedr. Merch o'r Pentref yw perchennog y siop, Nicola Morgan a enillodd radd BSc ym Mhrifysgol Morgannwg y llynedd ond penderfynu wedyn agor ei busnes ei hun gan nad oedd swyddi ar gael yn ei maes. Bydd y siop, sy'n gwerthu losin a chardiau yn ogystal â phapurau ar agor rhwng 5.30 am 5.30 pm yn ystod yr wythnos, rhwng 7am 2pm ddydd Sadwrn a 7am - 12 p ddydd Sul. Bydd y siop hefyd yn dosbarthu papurau i gartrefi'r ardal rhwng 7 8am. Croeso mawr i chi, Nicola a phb llwyddiant ichi yn eich menter

newydd.

Mae sesiynau Clwb Crefftau Lemon Blues a arianwyd yn rhannol gan y Co-op eleni, newydd ddod i ben. Prosiect olaf y grŵp oedd cynhyrchu pedwar llyfr mawr a wnaethpwyd o ffabrig o bob lliw a llun ar gyfer plant Ysgol Arbennig y Rhondda. Adnodd dysgu cyffrous a gogoneddus. Bydd rhaglen haf Lemon Blues yn cynnwys cyfres o weithdai misol rhwng mis Mai a mis Awst. Sesiwn dwy awr 'Tirluniau mewn Edau' yw'r cyntaf a fydd yn costio £6. Rhaid sicrhau lle ymlaen llaw. Gallwch wneud hynny trwy ffonio Melissa Warren [0443] 422266 / 438939 neu trwy alw yn y siop. Y fantais o wneud yr olaf yw cael cyfle i weld y ddau dirlun rhyfeddol sy'n cael eu harddangos yn y ffenest!

Llongyfarchiadau i Shirley Jones, Heol yr Ystrad, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 60 oed ar 15 Mai. Bydd dathlaiadau'r teulu cyfan yn dilyn wythnos hamddenol gyda'i chwaer, Wendy, yn haul (gobeithio!) Ynys Cyprus ffordd hyfryd o ddechrau ar ddegawd newydd!

Mae Mrs Margaret Morris, un o breswylwyr Tŷ Siloh, newydd roi mainc bren yn yr ardd yno er cof am ei gŵr, Gwyn a

hanai o Stanleytown a'u mab, John, a fu farw ill dau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hi a'r preswylwyr eraill yn falch o groesawu'r Major Wrstgate, Byddin yr Iachawdwriaeth, i'w harwain mewn seremoni a weddai i'r achlysur. Yn anffodus, ar hyn o bryd mae pedair o breswylwyr Tŷ Siloh yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sef Lily Sheppard, Phoebe Roberts, Margaret Mumford a Joan Rossiter. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan a gobeithio y byddwch chi nôl yn holliach yn y Llys cyn bo hir.

Mae pawb yn Llys Siloh yn edrych ymlaen yn eiddgar at barti a gynhelir 1 Mehefin i nodi Jiwbili'r Frenhines ac yn mawr obeithio y bydd pawb sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn ôl i gyfranogi o'r dathlu. Gwahoddir plant 3 - 11 oed i ymuno â Chlwb Plant y Trailblazers sy'n cwrdd bob nos Wener rhwng 6 - 7 o'r gloch yng nghapel Pentecostaidd Oasis. Yn ôl y sôn, mae'r aelodau yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael iddynt yno. Pen-blwydd Hapus i ddau o Dŷ'r Pentre sy'n ddigon ffodus i fod yn dathlu eu pen-blwydd y mis hwm, sef Dorothy Williams a Griffith Griffiths.


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 9

ei bortread o Joseph, y brif ran a chreodd y llefarydd, Lucy Elson, ac Arwel Harris oedd yn chwarae Jacob a Potiphar argraff arbennig ar bawb. Cyfarwyddwyd y sioe gan Rhys Williams a'r Cyfarwyddwr Cerdd oedd Peter Radmore. Mae pawb yn awr yn edrych ymlaen at y cynhyrchiad nesaf ym mis Awst, sef 'Evita' gan Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber. Cafodd Cymdeithas Cameo golled fawr yn ddiweddar ym marwolaeth Mrs Betty Hayter a fu'n drysorydd i'r gymdeithas am y deuddeng mlynedd diLlongyfarchiadau i Fand wethaf. Talwyd teyrnged Pres Cory ar ennill y wobr gyntaf unwaith yn arbennig iddi yng nghyfarfod mis Mawrth a rhagor eleni ym mhenpharchwyd ei choffadcampwriaeth y bandiau wriaeth ag ysbaid o pres. Dymunwn wellhad buan i dawelwch. Daeth nifer o Mr Steve Canale, Maindy ffrindiau a pherthnasau Grove ar ôl iddo dreulio ynghyd i'w gwasanaeth angladdol a gynhaliwyd cyfnod yn yr ysbyty yn yn Hebron. ddiweddar. TON PENTRE Mae'n dda gweld bod ein gohebydd lleol Graham Davies John yn well ar ôl iddo gael ei daro'n wael tra ar ei wyliau yng nghanolbarth Lloegr. Bu am ychydig yn yr ysbyty yng Nghaerlŷr ond mae'n dda ei gael yn ôl yn Nhŷ Ddewi erbyn hyn. Bellach, mae e'n rhoi'r gorau i'w swydd yn Ysgrifennydd Eglwys y Plwyf ar ôl cyflawni ei ddyletswyddau ynoyn gydwybodol am flynyddoedd lawer. Diolchwn iddo am ei ymroddiad a'i lafur a dymuno'n dda iddo i'r dyfodol. Gol.

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Brenda Fitzpatrick, Heol Avondale. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i theulu yn eu profedigaeth.

Roedd pawb a fu'n ddigon ffodus i weld cynhyrchiad diweddaraf Grŵp Thaetr Ieuenctid Act 1 o 'Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat' yn uchel eu canmoliaeth. Roedd hi'n amlwg bod y gerddoriaeth, yr actio, y gwisgoedd a'r llwyfannu wrth eu bodd. Roedd James Owen, Ynyswen, cynddisgybl yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda yn haeddu clod arbennig am

ddyfarnu Rownd Derfynol Cwpan Lloegr ynghyd â Chwpan Ewrop a Chwpan y Byd. Pan ofynnwyd iddo pwy oedd y peldroediwr gorau y daeth e ar ei draws yn ystod ei yrfa, atebodd yn ddibetrus, George Best!

Mae aelodau Eglwys Sant Ioan i gyd am anfon eu dymuniadau gorau at un o'r ffyddloniaid, sef Mrs Doris Edwards sydd ar hyn o bryd yn dod dros gwymp yn ei chartref yn Ysbyty Dewi Sant. Brysiwch i wella!

Côr Merched y Garth

Wedi’n agos i 35 mlynedd o ganu, cystadlu a chymdeithasu mae Côr Merched y Garth yn dod i ben. Bu’n gyfnod eithriadol o lewyrchus a chyfrannodd y Côr yn fawr at fywyd diwylliannol y de-ddwyrain a Chymru gyfan o dan bump o arweinyddion dawnus – Meinir Heulyn, Alwena Roberts, Menna Thomas, Llinos Swain a Gavin Ashcroft. Enillwyd gwobrau uchaf yr Ŵyl Gerdd Dant, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl BanGeltaidd, perfformiwyd ledled Cymru, gan gynnwys yn y gwasanaeth i agor y Cynulliad Cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a chafwyd teithiau i wahanol rannau o Loegr ac i Ffrainc, Iwerddon a Phatagonia bell. Mae’r pwyllgor yn trefnu dau ddigwyddiad i ddathlu llwyddiannau’r Côr. Y cyntaf fydd noson anffurfiol yng nghwmni Merched y Garth, disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg ac Aelwyd Porth-cawl, i’w chynnal yng Nghanolfan Gartholwg ar Fai 24ain am 7 or gloch. Bydd croeso i bawb i’r noson hon. Swper ffarwelio – gwahoddiad i gyn-aelodau Mae'n ddrwg gennym Yr ail ddigwyddiad fydd swper ffarwelio yng nghefyd gofnodi marwesty’r Heritage Park, y Rhondda NOS WENER wolaeth dau o drigolion GORFFENAF 6ED. Mae’r côr yn gobeithio y hynaf Tŷ Ddewi, Mrs bydd criw mawr o gyn-aelodau’n medru ymuno Glenys a Mrs Irene Woods. Er bod Glenys yn â’r aelodau presennol yn y noson hon. Dros y blynyddoedd bu cryn fynd a dod, ac mae rhai o’n hanu o'r Gelli, bu hi a'i cyn-aelodau i’w cael ym mhob cwr o Gymru belgŵr, ðave, yn byw am lach, ac nid hawdd yw cysylltu â nhw i gyd! Ond flynyddoedd yn Luton. Cydymdeimlwn yn gywir os ydych yn gyn-aelod ac yn darllen hwn, byddem iawn â'r teuluoedd hyn yn wrth ein bodd pe gallech ddod. Cost y bwffe fydd £10 a bydd y côr yn cyfrannu gweddill y gost. eu profedigaeth. Os hoffech ddod i’r swper ffarwelio, gofynnir ichi Y siaradwr yng nghyfar- anfon eich enwau, ynghyd â’r tâl, erbyn 1 fod olaf y tymor o Fraw- Mehefin. Anfonwch y siec am £10 os gwelwch yn dda at Avril Pickard, 15 Ffordd y Gollen, Tonteg doliaeth Eglwys Sant Pontypridd, CF38 1TA (ffôn symudol Ioan oedd y cyn-ddy07906889169), neu at Efiona Hewitt , 35 Pen-yfarnwr pêl-droed o waun, Efail Isaf Pontypridd, CF38 1AY (ffôn Dreorci, Clive Thomas symudol 07792798093). sy'n adnabyddus fel dyOs hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â’r ysfarnwr lliwgar a dadleuol. grifenyddes, Eleri Roberts drwy e-bost – Bu'n dyfarnu ym mhrif eleriproberts@hotmail.com gynghrair Lloegr ac yn gyfrifol yn ogystal am

9


Annwyl bawb

10/5/12

23:58

Page 10

Newid Byd Telesgop E.thos Heol y Brenin Abertawe SA1 8AS newidbyd@telesgop.co.uk 01792 824567

Ysgrifennaf atoch iʼch hysbysu am gyfle anhygoel allai wynebu rhai o bobl ifanc eich ardal. Yn sgil llwyddiant y gyfres gyntaf o NEWID BYD ar S4C, mae Cwmni Telesgop cyfres fydd yn cynnig y cyfle i 6 person ifanc rhwng 17-18 oed ymweld â gwlad tramor am dair wythnos dros yr haf i gyflawni gwaith gwirfoddol, dan ofal arweinydd profiadol. Rydym yn chwilio am bobl ifanc addas ac felly, os ydych chiʼn adnabod rhywun fyddai â diddordeb, a wnewch chi dynnuʼu sylw at y cyfle, os gwelwch yn dda? Mae Newid Byd yn ôl am ail gyfres!

Maeʼr newyddion yn llawn o straeon am ryfeddodau a thrychinebauʼr byd - tlodi, newyn, llifogydd, sychder fforestydd glaw wediʼu dinistrio ac anifeiliaid gwyllt yn prinhau. Mae llawer o bobl ifanc yn poeni nad oes ganddyn nhwʼr pwêr i newid pethau ac yn ysu i helpu. Wel, dymaʼu cyfle i wneud gwahaniaeth mewn rhan fach oʼr byd. Mi fydd y gyfres Newid Byd yn cynnig y cyfle i 6 person ifanc rhwng 17-18 oed ymweld â gwlad tramor am dair wythnos i gyflawni gwaith gwirfoddol pwysig. Y Prosiectau:

Bydd y criw yn gweithio ar 4 prosiect traʼn y wlad. Fe fydd y prosiectau penodol yn helpuʼr bobl a/neuʼr byd natur yn y rhan honno oʼr byd, ac fe fydd yn cynnig her bythgofiadwy. Llynedd, fe aeth un criw i Malawi i helpu adeiladu ysgol uwchradd i ferched a gweithio mewn canolfan bywyd gwyllt. Fe aeth criw arall i Gambodia i helpu mewn cartref i blant amddifad ac i weithio ar brosiect eco-dwristiaeth mewn coedwig law.

Beth bynnag foʼr prosiect y tro hwn, maeʼn sicr o fod yn un iʼw gofio ac mi fydd y teimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth gwerthchweil ar ddiwedd y daith yn anhygoel. Pwy fydd y 6?

Bydd y 6 yn bobl ifanc hyderus sy'n gallu mynegu eu teimladau a'u hargraffiadau. Byddan nhw yn gallu cydweithio'n dda ag eraill, yn gallu cael hwyl a chwerthin ar un llaw ond yn ddigon aeddfed i sylweddoli sensitifrwydd rhai sefyllfaoedd ac ymateb yn synhwyrol. Bydd 2 berson arall yn cael eu dewis i fod ar y rhestr wrth-gefn. Mae'n bosib y bydd yr unigolion eisoes yn gwirfoddoli, yn codi arian, er enghraifft, i elusen neu'n cyfrannu mewn rhyw ffordd at eu cymuned leol neu yn eu hysgolion. Diddordeb?

Felly, os ydech chiʼn adnabod rhywun addas fyddai â diddordeb, mae manylion llawn am y gyfres, amseroedd y daith, y termau aʼr rheolau i gyd ar y wefan www.s4c.co.uk/newidbyd neu ebostiwch newidbyd@telesgop.co.uk. Bydd ffurflen gais iʼw llenwi aʼi dychwelyd cyn y 14eg o Fai 2012. Yn gywir Miss Mererid Wigley Cynhyrchydd, Newid Byd, Cwmni Teledu Telesgop

10

NEWYDDION YSGOL GYFUN

CYMER RHONDDA

Dros y Pasg aeth hi gyda thim Cymru i'r Almaen am wythnos o ymarfer, tua 30 awr Ar y noson olaf mewn seremoni gwofrwyo, cafodd hi gwobr chwaraewraig sydd we Mae hi'n chwarae safle setter, hi sydd yn pasio'r pel at yr ymosodwyr, tebyg at safle Dyma ail tro iddi mynd i'r gemau hyn.

CAMP CHLOE Bellach mae'r nofwraig dalentog, Chloe Tutton, no l yn yr ysgol ac yn paratoi ar gyfer ei harholiadau TGAU ymhen rhai wythnosau. Dyma lun ohoni ar gychwyn ras yn Yn y lluniau: nhreialon nofio Prydain Llun 1 - Chloe Tutton ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llun 2 - Tîm Pêl Foli Llundain. Rydym yn falch iawn ohonot Chloe, ac yn dymuno'n dda i ti yn dy yrfa nofio - ac yn d'arholiadau TGAU!

NEWYDDION YSGOL GYFUN

CYMER RHONDDA

ysgolion a phrifysgolion

12maigloran:Layout 1

KELSEY'N CYNRYCHIOLI CYMRU PEL FOLI Dymunwn yn dda i Kelsey Johns o Flwyddyn 10 wrth iddi deithio i Lundain i gynrychioli Cymru yn gemau Sainsbury's yr wythnos nesaf. Mae Kelsey, s'yn aelod o diXm pe -foli l Cymru, eisoes gwyliau'r Pasg er mwyn ymarfer gyda'r garfan. Dyma'r ail dro i Kelsey fynychu'r ge Mae Kesley yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Sainsburys School Games yn

NEWYDDION YSGOL GYFUN

CYMER RHONDDA


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 11

11


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

NEWYDDION YSGOL GG

Page 12

Hoffwn i briodi ac chael plant pan fyddaf yn hun. Byddaf yn hoffi cael plant oherwydd byddaf yn ddarn arallo fy mywyd ac bydd phlant newydd Fy nymuniadau ar gyfer yn yr teulu. Hoffaf i gael tŷ yng nghymru, ac mynd y dyfodol! Hoffwn i fod yn ganwr, ar wyliau i yr Aift, Dubai, dawnsrau ac actoress yn Spain, Tenerife, a lleoedd arall! y ‘westend’, oherwydd Rydw’n edrych ymlaen at rwyn mwynhau fo ac yr hyn fydd yn diwydd oherwydd dwi eisiau yn y dyfodol! mynd trwyr brofiad o beth ydyn ni fod wneud i gan Ellie Smith 11 wella. Os na gallwn i gyrraedd fy nod hoffwn i fod yn athrawes . Byddaf Fy nymuniadau ar gyfer y dyfodol yn hapus i fod yn athrawes oherwydd rwyn Hoffwn i fynd i ysgol Gyfyn Cymer. Ac arhosaf eisiau helpu plant, ac am y ddwy blynnydd rhannu fy nhalent! Gobeithiaf byddaf yn ll- ychwanegol. Gobeithiaf wyddo yn fy T.G.A.U ac mynd i goleg a chael marciau uchel i gael fy lefalau A, os ydwi’n aross yn yr ysgol wedyn jobyn da. gobeithiaf fod mynd i Goleg. Edrychaf i rydw’n cael digon o sgiliau i wneud yr holl ymlaen at aros rhywle arall or ty, pan fyddaf yn beth yma. Hefyd gobeithiaf i wneud fy T.G.A.U. fynd i goleg! Hoffaf i hefyd codi arian Hoffwn gwned ffrindiau newydd yn y Cymer a am elusen. Hoffwn i gwneud hyny oherwydd coleg. Os bydd gennym dyle pawb yn y byd cael digon o farciau gobeithiaf bod yn athrawes. yr un cyfle! Gobeithiaf Edrychaf ymlaen at gael car a gobeithio llwyddo fod yn athrawes i blant yn fy nhrwydded gyrru! meithryn. Y rheswn am hyn yw rwyn hoffi blant. Hoffwn i gael car i yrri Cyn rydw i’n gallu lleoedd dydw i erioed wneud hyn byddaf angen wedi bod i. bod yn athrawes Edrychaf i ymlaem at cyflenwy o gwympas y lwyddo yn arholiad yn gymnasteg .hefyd gallaf i ysgolion cymraeg yn y ddechrau mynd i’r gym. Rhondda. Ond cyn bod yn athrawes hoffwn cael car. Hoffwn I fyw yn Rhondda Cynnon Taf. Hoffwn byw ar fferm a chael llawer o geffylau . y rheswnm am hyn yw rwy’n caru ceffy-

BRONLLWYN

NEWYDDION YSGOL GG

BRONLLWYN 12

lau ac anifeiliaid. Byddaf hefyd eisiau teithio y byd gyda fy nheulu. Hefyd hoffen fynd I Sharm el shahke yn yr Aift. Gobeithiaf bod gallu marchogaeth ceffylau yn dda oherwydd rydw i yn caru ceffylau. Hefyd gobeithiaf bod yn dda ar chwarae y corned. Y rheswm yw mae gennyf ddiddordeb yn y corned. Pan ffyddaf yn hen hoffwn priodi a chael plant. Oherwydd rydw i yn hoffi plant. Edrychaf ymlaen at yr hyn sydd yn y dyfodol. Gan: Abbie Snooks 11

Fy nymuniadau ar gyfer y dyfodol Byddaf yn cymryd drama yn yr ysgol ac os dwi ddim yn cyrraedd y nod actoress , hoffwn i bod yn patholegydd. Hoffwn i cymryd 13 TGAU I gael swydd da. Chwaraeaf pel-rwydd I cael hwyl ac i enill llawer o tlysau.Byddaf yn hoffi cael llawer o ffrindiau da hefyd. Gallaf hyffoddwr ardderchog i dysgu mi sut i yrru. Prynaf i SAB a gyrru o gwmpas yn gyflym iawn . Wrth gwrs cyn i mi brynu car byddaf yn mynachu i goleg a dysgu i bod yn actores proffesiynol. Hoffaf i mynd teithio dros y byd i lleoedd tlawd i helpu pobl a prynnu nhw dwr. Hoffwn i actio yn ffilmiau yn Hollywood. Byddaf yn helpu pobl tlawd i ffeindio lle i nhw byw .

Bwytaf llawer o bresych a llysiau a yfed llawer o dwr. Cerddaf am elusenau gwahanol a rhedig. Hoffwn i fod yn iach ac mae ganddynt gorff yn heini ac yn edrych ar ôl fy hun a fy teulu. Hoffwn i fyw mewn tŷ mawr yn y ynysoedd Caribî gyda phedwar o blant a briod â dyn neis. Hoffaf priodi pan dwi’n 30 mlwydd oed. Byddaf yn cael ci bach chuwawa a 2 cwningen. Brydie Stephans 11

Fy nymuniadau ar gyfer y dyfodol Hoffwn I fod yn athrawes gynradd pan fyddaf yn tyfu lan.Edrychaf ymlaen at ddysgu addysg I plant . Gobeithio byddaf yn mwynhau fy ngwaith . Gobeithio byddaf yn cael ddau plenty un ferch un fachgen . Hoffwn I briodi a symud I dŷ fawr Edrychaf ymlaen at Ysgol y Cymer . Gobeithaf fyddaf yn gwneud y dda yn fy ngwaith ac cyflawny fy TGAU . Byddaf yn enill lle yn y coleg ac ngorffen fy lefalau A . Hoffwn I fynd ar gwch enfawr am un blwyddyn ac mynd I bob wlad , ac cwrddo teulu dydw I byth wedi cwrddo o blaen . Gobeithaf byddaf yn byw ti fewn I tŷ enfawr yng Nghymru . Hoffwn I gael pwll nofio a byw yng agos I fy nheulu . Gan Mia Dayment Jones 11


12maigloran:Layout 1

10/5/12

23:58

Page 16


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.