Yglormawebri 2018

Page 1

y gloran

20c

O GWMPARC I RWANDA PROFIADAU DWY ATHRAWES LEOL

Ers blynyddoedd lawer bu Helga Lewis a Sharon Potter yn gweithio yn Ysgol y Parc, Cwmparc. Fodd bynnag, ym mis Chwefror treuliodd y ddwy wythnos o ddysgu tra gwahanol, ar ôl iddynt gael eu gwahodd i weithio mewn ysgol yn Rwanda. Noddwyd y daith gan Gyngor Prydain gyda’r nod o ddod â’r ddau ddiwylliant at ei gilydd, rhannu arddullau dysgu a chreu partneriaeth rhwng yr ysgolion. Lleolwyd yr athrawon o Gymru ym

Mro Muhanga, sy’n ardal dlawd iawn gyda phentrefi bychain a thai gwael. Gwelwyd ond nifer fach o geir, ond llawer o feiciau modur a beiciau ar y ffyrdd, gyda'r menywod yn eistedd ar un ochr o'r cyfrwy. Gwelwyd hefyd bobl yn cerdded am filltiroedd er mwyn casglu dŵr o afonydd brwnt.. Roedd y ddwy yn gweithio yn Ysgol Gynradd Mushubati, lle mae 13 o athrawon yn gyfrifol am

drosodd


ddysgu 612 o blant. Yn ystod yr wythnos, gweithion nhw ar sgiliau llythrenedd a rhifedd a datblygu dealltwriaeth y plant. Yn yr ysgol, mae dwy sifft. Mae un grwp yn mynychu’r ysgol o 7:20 – 12:30, a grwp arall o 1:30 – 5:00. Dysgir 12 gwers y dydd, ac mae pob gwers yn para 40 munud. Dysgodd Miss Lewis a Miss Potter 10 gwers y dydd yn ystod yr wythnos, ac er eu bod wedi blino, codwyd eu calonnau gan ymateb positif y plant.

Tlawd ond Hapus “Yn yr ysgol mae’r bechgyn yn gwisgo dillad melyn, a’r merched yn gwisgo dillad glas”, dywedodd Miss Lewis. “Mae eu dillad yn frwnt, ond yr unig beth y sylwon ni arno oedd hapusrwydd y plant. Roedd eu hymddygiad heb ei ail, ac roedden nhw yn mwynhau’r ysgol. Byddai ymateb eiddgar i unrhyw weithgaredd neu achlysur chwarae-rôl, oedd yn rhywbeth newydd iddynt.” Aeth ymlaen i ddweud. “O ran yr athrawon, roedd ganddynt agwedd unffurf, a chwricwlwm tynn. Serch hynny, roedd y plant yn eu parchu. I ddenu sylw’r athrawon, byddai’r plant yn clecian eu bysedd a gweiddi ‘Teach! Teach!’ Siaradon nhw gymaint o Saesneg â phosib, gan ei bod yn rhan fawr o’r cwricwlwm.

2

Byddai pob cyfarchiad yn ystod y dydd yn Saesneg. (Gwnaeth hyn i fi deimlo’n euog am yr ychydig Gymraeg gyfyngedig y rydw i’n gwneud yn ein hysgol ni.)”

Newid Trefn Ysgogi’r plant i weithio gyda’i gilydd oedd prif nod yr holl ddigwyddiau yn ystod yr wythnos. Roedd pwyslais ar drafod a siarad â'i gilydd. Ysgogwyd y plant i adael eu seddi a gweithio mewn grwpiau i greu ‘mapiau meddwl’, oedd yn rhywbeth hollol wahanol iddynt. Gwerthfawrogwyd hyn yn fawr iawn gan y plant, sydd fel arfer yn aros yn eu seddi trwy gydol y dydd. Yn ol Miss Lewis y gwahaiaeth mwyaf rhwng y plant yn Rwanda a phlant Cymru oedd sut mae’r plant yn Rwanda yn gwerthfawrogi popeth. Ni fyddent yn cwyno, byddent yn rhoi cynnig ar bethau newydd a gwerthfawrogi pob dim sydd ganddynt. Roedd llawenydd enfawr pan daflwyd balwn yn yr awyr, ac roeddent wrth eu boddau â’r bel-droed a wnaethon nhw o fagiau plastig. Roedd rhoi sticer yn eu llyfrau cystal â rhoi bar o aur iddynt. Gadawodd hyn argraff gryf ar y ddwy athrawes.

drosodd


“Roedd hi’n anodd iawn gadael y plant”, cyfaddefodd Miss Lewis. “Byddwn yn parhau i ddatblygu’r bartneriaeth rhwng ein hysgolion, a cheisio codi arian i’w cefnogi. Mae’n bwysig bod ein plant ni’n cydnabod bywydau caled y plant yn Rwanda, er mwyn iddynt ddod yn fwy gwerthfawrogol o'r manteision sydd ganddynt. Mae Miss Potter a fi’n gweld eisiau’r plant yn fawr, a bydd y profiad yn aros gyda ni am byth.”

Parhad o dudalen 2

Helga a Sharon gyda phlant yr ysgol ac un o’r athrawesau

3


A. D. HUGHES, SAER CERBYDAU Yn ddiweddar, derbyniodd Mike Ash, sy'n gyfrifol am wefan hanes Pentre, y lluniau hyn gan Paul Ingram sy'n orŵyr i A.D.Hughes a sefydlodd fusnes adeiladu cerbydau gyferbyn â thafarn y Woodfield gynt yn Heol Ystrad, Pentre ar droad yr 20fed ganrif. Rydyn ni'n sôn am y cyfnod cyn bod moduron yn gyffredin yn y cwm, a'r ceffyl yn dal yn ei fri. Stephen Timothy oedd y ffotograffydd, ac ym marn Mike Ash, fel gŵr busnescraff, roedd e wedi bod wrthi'n perswadio masnachwyr yr ardal i ddefnyddio ei luniau wrth hysbysebu eu nwyddau yn y modd hwn gan fod enghreifftiau tebyg eraill ar gael. Ei gefndir Wrth ymchwilio i'w hanes, dywed Mike Ash taw gŵr o Swydd Henffordd [Herefordshire] oedd A.D.Hughes. Cafodd ei eni yn Peterchurch tua 1857. Erbyn 1888 roeddbe wedi symud i Ferthyr lle y gweithiai fel saer olwynion [wheelwright]. Yno, priododd â'i wraig, Mary yn 1891 a symud maes o law i'r Rhondda lle roedd y boblogaeth yn prysur gynyddu a chyflogau dipyn yn uwch nag yn yr hen ardaloedd diwydiannol traddodiadol. I ddechrau roedd e'n byw yn Stryd Mary, Ton Pentre ac erbyn 1901 roedd e wedi sefydlu busnes fel gwneuthurwr cerbydau, gwagenni a cherti yn y Pentre. A barnu wrth nifer y gweithwyr yn y llun, roedd yn fenter lwyddiannus. Erbyn hyn, roedd gan Hughes a'i wraig wyth o blant a symudon nhw i fyw i 30 Queen St, Ton. Ond roedd yr hen

4

fyd yn newid a'r modur yn graddol ddisodli'r ceffyl ar ein strydoedd. Mae'n ymddangos fod llai o alw am grefftwyr fel A.D.Hughes ac erbyn 1911 roedd wedi symud yn ôl i'w sir enedigol ac yn byw yn Acre Farm yn Ewyas-Harold. Nid yw'n glir pa mor hir yr arhosodd yno yn ffermio, ond roedd rhyw dynfa yn ôl i de Cymru - rhai o'i blant yn dal yma, o bosib - ac yn yr ardal hon y bu farw yn 1931. Mae'n dda bod Stephen Timothy wedi llwyddo i roi ar glawr gofnod o grefft a chrefftwr a oddiweddwyd gan ddatblygiadau technolegol a rhaid diolch i Mike Ash am sicrhau bod y dystiolaeth yn dal ar gael inni heddiw.


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre:

TREHERBERT

Ar ôl ymgyrch hir gan gymunedau pen uchaf Treherbert, cytunodd y Cyngor i adeiladu pont newydd yn Nhynewydd. Mae’r gwaith cynllunio yn mynd ymlaen ar hyn o bryd a bydd y gwaith o adeiladu pont newydd St. Albans yn dilyn yn yr hydref. Amcangyfrif bydd cost y project yn £1.78 miliwn. Cafodd Colin Moody o Ynysefio Avenue ei ddewis i ymuno a grŵp o bobl dros 60 mlwydd oed i wneud “Sky Dive” er mwyn codi arian at Gymorth Chwaraeon Cymru. Arweinydd y grŵp yw Gareth (Alfie) Thomas

sy’n bwriadu dangos nad yw oedran yn rhwystro pobl rhag gwneud pethau. Roedd y “naid” i fod i ddigwydd ar y 4ydd o Fawrth ond achos y tywydd drwg cafodd ei gohirio. Mae Colin eisoes wedi codi dros £1,000 o bunnoedd at yr achos. Pob lwc iddo. Dangosir y digwyddiad ar ddiwrnod Sports Relief ar BBC Cymru. Daeth Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn A.C. i Dreherbert ar y 15 Chwefror i agor yn swyddogol brosiect dwfr-trydan Treherbert sy’n dan reolaeth “Croeso i’n Coedwig”.

Mae’r prosiect yn casglu dŵr ym masn Cwm Saebren ac mae’r dwr yn rhedeg trwy biben i safle ger yr hen fragdy ar bwys yr orsaf. Ar hyn o bryd trosglwyddir y trydan i’r grid cenedlaethol ond gobeithio yn y dyfodol bydd y prosiect yn cynhyrchu trydan i fusnesau ac elusennau lleol. Llongyfarchiadau mawr i Rachel Stephens o Eileen Place am gyrraedd y rownd derfynol o “All Together Now” ar BBC1. Er nad oedd Rachel wedi ennill roedd ei pherfformiad yn wych. Pob lwc iddi yn y dyfodol. Mae’n flin iawn cofn-

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

odi marwolaeth Cristan Nicholas o Castleton Avenue. Roedd Cristan dim ond yn 18 mlwydd oed ac wedi bod i mewn a ma's o’r ysbyty trwy gydol ei fywyd byr. Roedd yr amlosgfa yn Llwydgoed yn gorlifo â phobl gyda llawer o rai ifanc wedi gwisgo fel “superheros”. Traddodwyd teyrnged dwymgalon gan ei fam-gu Mrs Julie Spiller. Er bod Cristan mor ifanc yn marw, roedd ei ddewrder a’i gariad at fywyd yn ysbrydoli pawb oedd yn cwrdd â fe. Cydymdeimlwn â’i

PARHAD ar dudalen 8

5


BYD BOB

A ninnau newydd dathlu Dydd Gŵyl Dew,i, y mis hwn mae Bob Eynon yn trafod agweddau ar wladgarwch

Rwy'n hoff iawn o'r llinell yn yr anthem genedlaethol, 'Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad...' Er 'mod i ddim yn rhyfelwr o gwbl, rwy'n teimlo fy nghalon yn chwyddo gan falchder pan fo'r geiriau 'na ar fy ngwefusau. A dweud y gwir, mae'r

teimlad yn gryfach byth pan rwy'n cael fy hun y tu allan i Gymru. Rwy'n cofio mynd i Twickenham gyda chlwb rygbi Caerwynt i weld gêm rhwng lloegr a Chymru. Roedden nhw i gyd yn Saeson ac eithrio bachgen o Benarth a minnau, ond rwy'n siwr y canon ni'n fwy uchel (neu'n fwy swnllyd, efallai), na'r gweddill i gyd. Rwy'n ceisio bod o blaid Cymru heb fod yn erbyn gwledydd eraill. Dydw i ddim fel fy ffrind, Wynford ~Davies, sy'n dweud, "rwy'n cefnogi Cymru bob tro a hefyd unrhyw dîm sy'n chwarae yn erbyn y Saeson!" Ond chwarae teg i Wynford, pan fydd e mewn hwyl, mae e'n canu caneuon Iwerddon a'r Alban yn dda, er bod ei sêl weithiau'n fwy sylweddol na'i lais e. Er bod Cymru'n wlad fach, mae 'Hen Wlad fy

golygyddol

'Am y tywydd, gorau tewi' yw cyngor yr hen ddihareb, ond fe'i hanwybyddwyd yn llwyr gan y mwyafrif o bobl gan taw'r tywydd fu'r prif bwnc ar ein gwefusau y mis hwn. Profwyd cywirdeb dihareb arall, 'Eira mân, eira mawr' wrth i'r lluwchfeydd ein haraf gaethiwo i'n cartrefi. Llysenwyd y gwynt a gafodd y bai yn 'Dihiryn o'r Dwyrain' neu 'Beast from the East', a haeddai'r enw hwnnw'n llwyr. Wnaeth y newyddion a ddaeth yn sgil yr eira bod Rwsia, o bosib, yn gyfrifol am geisio llofruddio dau o'i gelynion yng nghanol dinas waraidd Caersallog [Salisbury] ddim i gynhesu ein teimladau tuag at y wlad honno chwaith, ond tynnodd y tywydd garw ein sylw at nifer o bethau sy'n llywio ein bywydau pob dydd rydym yn dueddol o'u hanghofio.

Nhadau'n" fyd-enwog.. Rwy'n cofio Paul Cosh, cyn-arweinydd band pres y Parc a'r Dâr yn gofyn i fi ysgrifennu geiriau'r anthem i lawr iddo un prynhawn pan oedden ni'n eistedd wrth fwrdd yn nhafarn y Prince of Wales yn Nhreorci. Roedd e'n awyddus i ddysgu sut i ynganu pob gair hefyd. Roedd e eisiau bod yn rhan o'r band, nid yn unig yn ystod y perfformiad ond yn gymdeithasol hefyd. Fe gwrddais i â Paul rai misoedd yn ddiweddarach. Dywedodd e fod Cymro ifanc wedi dod i siarad fe ar ddiwedd cyngerdd yn rhywle yn Lloegr. "Byddai'n well 'da fi," meddai'r llanc "weld band o Gymru'n cael ei arwain gan Gymro." "wel," meddai Paul, " rwy'n ceisio ffitio i mewn i gymdeithas Cymru Beth am i'r ddau ohonon ni ganu'r anthem

Yn gyntaf, cawsom ein hatgoffa cymaint y dibynnwn ar ein ffyrdd a'n heolydd. Er gwaethaf ymdrechion arwrol gweithwyr y Cyngor, o un i un fe gaewyd ein hewlydd mynydd - y Bwlch, y Rhigos ac wedyn Mynydd y Maerdy, gan ein cyfyngu i ffyrdd gwaelod y cwm. Gyda chymaint o brinder swyddi ym mlaenau'r Rhondda, mae cannoedd yn dibynnu ar yr hewlydd hyn i gyrraedd gwaith ac mae eu cau yn cael effaith ddrwg nid yn unig ar economi Cymru ond hefyd ar enillion ein pobl. Rhaid talu teyrnged i'n cyndadau a adeiladodd y ffyrdd hyn yng nghaol holl gyni'r dauddegau i'n galluogi i deithio ma's o'r cwm i ennill bywoliaeth ac ar deithiau pleser. Ar y llaw arall, mae colli eu defnydd yn ein hatgoffa mor bwysig yn y pen draw yw

genedlaethol gyda'n gilydd i roi sioc i'r bobol o'n cwmpas ni?" Aeth y llanc yn ddistaw. Doedd e ddim yn gwybod y geiriau, felly fe ganodd Paul ar ei ben ei hun. Ar y diwedd, fe ymddiheuriodd y llanc iddo fe. Roedd Paul wedi ennill y dydd. Wrth sôn am wladgarwch, rwy'n cofio hen stori am filwr o Brydain yn teithio adref ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Roedd clerc mewn swyddfa fach ar ddociau Alecsandria yn y Aifft yn dosbarth u tocynnau rhad i'r milwyr. Roedd rhaid i bob milwr ddweud wrtho leoliad pen ei daith Birmingham, Llundain, Caeredin, Belfast... Yna, dywedodd llais Cymraeg yn uchel, "Cwmtwrch!' Cododd yr Arab ei lygaid ac edrych ar y Cymro. "P'un?" gofynnodd, "Uchaf neu Isaf?"

ceisio sicrhau gwaith o fewn y Rhondda ei hun. Ond nid oedd effaith y tywydd yn ddrwg i gyd. Pan oedd gwaith ar gael i bawb o fewn yr ardal, mawr fyddai'r sôn am agosatrwydd a chymwynasgarwch ein gwahanol gymunedau. Y ffaith nad oedd angen teithio'n bell i chwilio am waith oedd yn gyfrifol am hyn, ac wrth i'r eira ein cyfyngu i'n milltir sgwâr, daeth elfennau o'r rhinweddau hynny i'r amlwg eto. Clywsom gyfeiriadu lu at bobl yn poeni am les cymdogion hŷn, cynigion i siopa drostynt a sicrhau na welent eisiau. Roedd hynny yn adfer ein ffydd yn y natur ddynol. Yn hytrach na thewi am y tywydd, efallai y dylem ymbwyllo i ystyried ei wersi - y da a'r drwg.


JAYDEN BUTLER-ROACH

Mae sawl mis wedi cilio ers i fachgen Treorci, Jayden Butler-Roach, golli ei frwydr yn erbyn cancr pan oedd yn 7 mlwydd oed. Hoffai Mam Jayden, Eve Roach, rannu rhai atgofion o’i mab annwyl. Dilynir ei theyrnged personol gan deyrnged oddi wrth Cerian Roberts, prifathrawes Jayden yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. “Bachgen mor gariadlon a gofalgar oedd Jayden, a gyfforddodd lawer o galonnau. Fodd bynnag, roedd hefyd ochr ddireidus a drygionus iddo fe, y roedden yn dwli arni! Cyfeillion mynwesol oedd ef a’i frawd iau Jacob, er nad oedden nhw bob amser yn gweld lygad yn llygad! Nid dim ond brodyr oedden nhw, ond ffrindiau gorau. Byddai unrhywun oedd yn nabod Jayden yn nabod ei

angerdd dros Lego. Os byddai rhywun yn gofyn a fyddai fe eisiau rhywbeth yn y siop, byddwn i gyd yn gwybod taw “Lego!” fyddai’r ateb! Byddai fe hefyd yn mwynhau chwarae pel-droed a gwylio gemau rygbi. Byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau am byth, ond arhosa fe yn ein calonnau am byth.” * * * * * * “Mae alaw pan ddistawo Yn mynnu canu’n y co’” “Cymeriad a hanner oedd Jayden Butler-Roach! Roedd yn fachgen hapus, egnïol a direidus. Roedd gan Jayden frawd bach Jacob, cefndryd a llawer o ffrindiau ffyddlon oedd yn mwynhau chwarae ar yr iard gyda’i gilydd. Mwynhaodd chwarae o amgylch y goeden, adeiladu Lego a choginio yn y dosbarth. Fe fydd “Titanium” ac “Everything is Awsome”, ei hoff ganeuon, yn atseinio trwy ein hysgol am amser hir. Bachgen cwrtais oedd Jayden a oedd yn gwerthfawrogi pob dim o’i gwmpas. Roedd ochr addfwyn, sensitif a chariadus iddo hefyd. Mwynhaodd giniawau, amser euraidd a gwts gydag aelodau o staff. Er gwaethaf yr amser ysgol a gollodd tra’n cael ei driniaeth, roedd yn fachgen llawn potensial oedd wedi parhau i gwblhau darnau o waith da fel amryw o batrymau cymesuredd mewn gliter ac ysgrifennu hunanbortread hyfryd am ei hunain. Ar y diwrnod olaf a lwyddodd i ddod i’r ysgol, roedd ganddo wên arbennig oedd yn codi calon pawb o’i gwmpas. Lledaenodd ei hapusrwydd trwy’r cwm hefyd ac yn ystod yr wythnosau ar ol ei golli, daeth y gymuned ynghyd yn ein tristwch gan oleuo’r lliw gwyrdd er mwyn dangos parch i Jayden. Rydym yn falch iawn ei fod wedi llwyddo i gyrraedd Blwyddyn 3 ac wedi llwyddo i fynd nofio gyda’i ddosbarth ar ei ddiwrnod olaf. Dathlom ni benblwydd Jayden yn 2016 a chynnal gweithdy pêldroed. Paratôdd Jayden ei ddiwrnod mawr gan fynnu bod pob plentyn yn gwisgo glas (Cardiff City) ac yn bwyta sglodion a chicken nuggets! Parhaodd yr ysgol ddathlu ei ben-blwydd ar y 21ain o Dachwedd 2017, er cof Jayden. Roedd ei ddewrder, ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Ar Ddydd Gwener y 6ed o Hydref, nid plentyn collodd Ynyswen ond archarwr, ac mae pob aelod o gymuned Ynyswen yn gweld ei eisiau. Ers dydd Gwener y 6ed o Hydref 2017, mae gan Ynyswen bellach 267 o ddisgyblion anhygoel ac un seren ddisglair.”


rhieni, Ceri a Lisa, a’r holl deulu. Trist yw cofnodi marwolaeth Ray Rees o “Erw’r Glo” Treherbert. Roedd Ray wedi adeiladu’r tŷ hyfryd yma tu ôl i Stryd Bute ei hunan. Bu'n gweithio mewn llywodraeth leol ac yn dal swyddi cyfrifol o fewn Cyngor RhCT. Roedd Ray yn briod â Pauline, cyn-ddirprwy pennaeth Ysgol Gymraeg Ynyswen. Cydymdeimlwn â Pauline a’r mab, Christopher yn eu colled.

TREORCI

Tristwch i bawb yn yr ardal oedd derbyn y

8

newyddion am farwolaeth Mr Paul Young, un o sylfaenwyr Cwmni Young & Phillips yn Stryd Bute, yn dilyn cystudd anodd. Er bod Paul yn byw ym Mhenygraig, roedd yn adnabyddus iawn yn Nhreorci. Cyfranai â'i ddoniau mewn sawl cylch - mewn cwmniau drama fel Players Anonymous, Clwb Pêldroed Ton Pentre, Eglwys Sant Andrew, Toypandy a bu'n gefn i nifer o achosion da. Roedd e'n barod iawn ei gymwynas, yn uchel ei barch a gwelir ei eisiau'n fawr iawn. Cydymdeimlwn â'i weddw a'i blant yn eu colled. Oherwydd yr eira, bu rhaid gohirio darlith

David Maddocks i Gymdeithas Ddinesig y Rhondda ar 'Rhondda Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf' ond gobeithir yr aildrefnir y cyfarfod yn fuan. Y siaradwr yn y Cyfarfod Cyffredinol eleni fydd Phillip George, Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau sy'n frodor o Dreorci. Ei bwnc fydd, 'Y Celfyddydau i Bawb'. Pob dymuniad da i Holly, merch David a Louise Thomas, Stryd Herbert ac wyres i Mal ac Eileen Thomas, Carpets & Carpets wrth iddi agor busnes newydd yn Stryd Bute. Da yw gweld cymaint o bobl ifainc yn mentr fel hyn ac yn dod â bywyd newydd i'n stryd fawr.

Yn 87 oed, bu farw Mrs Betty Luscombe, Stryd Rees. Yn wraig hynaws a chymwynasgar, gwelir ei heisiau.n fawr. Cydymdeimwn â'i merched a'r teulu oll yn eu colled. Cynhaliodd Cangen Treorci o Blaid Cymru noson gymdeithasol i aelodau canghennau eraill y Rhondda, nos Iau, 8 Mawrth yn y Clwb Rygbi. Daeth nifer ynghyd i fwynhau cwis a gwahanol gystadleuthau a chodwyd arian at elusen Marie Curie. Ddydd Gwener y Groglith, 30 Mawrth, bydd Côr Meibion Treorci a Band y Parc â'r Dâr yn cynnal eu cyngerdd blynyddol yn y


Parc a'r Dâr am 7pm. Eleni bydd y band yn datlu 125 mlynedd ers cael ei sefydlu. Tocynnau £13 a £11 ar gael yn y theatr. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Mr Ron Barrett, Stryd Dumfries, sydd wedi dod adre ar ôl derbyn triniaeth yn yr ysbyty'n ddiweddar.

CWMPARC

Pob dymuniad da i ddosbarthwr Y Gloran yng Nghwmparc, Mrs Julie Godfrey, Stryd Tallis sydd newydd ddod adre o'r ysbyty lle y cafodd lawdriniaeth. Brysia i wella, Julie! Yn Ebrill 1941, adeg yr Ail Ryfel Byd, bomiwyd Cwmparc a lladdwyd 27 o bobl. Cyfeirir o hyd at y man sydd dan laswellt erbyn hyn fel 'Y Tai a Fomiwyd'. Yn ddiweddar,, cyfarfu nifer o drigolion Cwmparc ac eraill a aned yno neu sydd â chysylltiadau agos â'r pentre i drafod codi cofeb i'r rhai a gollodd eu bywydau yn y Blitz. Gobaith y grŵp yw cydweithio â'r Cyngor i gael xaniatad cynllunio, chwilio am ffynonellau ariannu a chofrestru fel elusen. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr Ian Price, Cwrt Stanley ac yntau'n ŵr cymharol ifanc. Fe'i maged yn Nhreorci a bu'n bostmon am gyfnod. Hoffai sgrifennu llythyron i'r wasg ac ymddangosai ei sylwadau'n gyson yn y Rhondda Leader a'r Western Mail. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i Rieni, Viv a Jean Jones, Stryd Dumfries, Treorci.

PENTRE

Croesawodd Byddin yr Iachawdwriaeth ei swyddogion newydd ar 25 Chwefror, sef Major Gethyn a Pearl Thomas. Mae'r ddau yn edrych ymlaen at bennod newydd yn eu hanes. Croeso a phob dymuniad da iddynt. Bydd Canolfan Pentre yn cynnal Ffair Pag, ddydd Sadwrn, 24 Mawrt gan ddechrau am 11am. Croeso i bawb. Cynhaliwyd Bore Coffi llwyddiannus iawn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 9 Mawrth. Datblygiad newydd yn y Ganolfan yw sefydlu dosbarth cadw'n heini, Fit Butties. Cost y sesiynau yw £2 a gallwch gael rhagor o fanylion gan Lynne neu Maggy yn y Ganolfan. Yn gwbl annisgwyl, bu rhai i Darryl Morgan, perchennog Caffi Bully's fynd i'r ysbyty'n ddiweddar. mae'n dda dweud ei fod wedi dod adre erbyn hyn ac yn gwella. Pob dymuniad da iddo. Cynhaliwyd bore coffi yn Eglwys San Pedr, fore Gwener, 16 Mawrth i godi arian at yr eglwys. Hefyd, gellir mwynhau dysglaid o goffi bob bore Gwener yng nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, Stryd Carne. Croeso i bawb.

TON PENTRE A’R GELLI

Bu rhaid gohirio dathliadau Gŵyl Dewi Capel Hope oherwydd yr eira, ond llwyddwyd i aildrefnu ar gyfer nos Fercher, 7 Mawrth. Daeth cynulliad da ynghyd i fwynhau noson gawl ac adloniant Cymreig a chafodd pawb amser da.

CARTŴN Y MIS GAN SIÔN TOMOS OWEN

9


Parch Petr Noble gyda Natasha Roberts a’i mab, Harvey

Ann Lord a Sharon Rees

10


YMWELD Â PHEN-RHYS AC EGLWYS LLANFAIR Yn ddiweddar, roedd hi'n braf cael ymweld ag Eglwys Llanfair, yr eglwys sydd wedi gwasanaethu cymuned Penrhys er 1986. Bore Mercher oedd hi, a Peter Noble, y gweinidog, yn cynnal gwasanaeth cymun yng nghwmni rhai o'r staff a'r gwirfoddolwyr gan gynnwys y Swyddog Addysg, Sharon Rees a'r Gofalwr, Paul Harrison sydd wedi bod yn rhan o'r fenter o'r dechrau un, gan iddo gael ei fagu ar yr ystad. Roedd eraill wedi galw heibio, fel Ann Lord a Natasha a Michael Roberts a'u mab, Harvey. Un arall sy'n cyfrannu'n fawr i waith y gymuned yw Rebecca Lalbiaksangi o'r India a'i gŵr o gyfreithiwr Miara o Fadagasgar. Maen nhw, a'u plant, Hannah a Seren wedi hen ymgartrefu yn y Rhondda ac yn hapus i'w galw'n gartref bellach. Mae'n amlwg bod yr eglwys wedi teithio'n bell oddi ar 1986 pan ddaeth John Morgans a'i wraig, Nora i weinidogaethu i'r ystad oedd â llu o broblemau o bob math. Eu canolfan ddechreuol oedd un ystafell drws nesaf i'r siop fetio! Ond daeth tro ar fyd wrth i'r tîm ymroddedig fynd i'r afael ag anghenion ysbrydol a materol y boblogaeth. Yn naturiol, mae'r eglwys yn cynnal gwasanaethau ar y Sul ac

yn yr wythnos, ond sylweddolwyd yn gynnar yn ei hanes bod rhaid ymateb mewn ffordd ymarferol i anghenion sylfaenol y gymdeithas yn ogystal â'i hangenion ysbrydol. Yn Rhan o'r Gymuned O ganlyniad, mae Sharon Rees, er enghraifft, yn trefnu Clwb Gwaith Cartref ddwywaith yr wythnos ar gyfer y plant gan roi iddynt yr help proffesiynol nad yw ar gael, efallai, yn y cartref. Un o'r pethau anarferol y dyddiau hyn yw'r berthynas agos rhwng yr eglwys a'r ysgol leol. Bob dydd Llun bydd dosbarth yn ymweld â'r eglwys ac yn cyfranogi o weithgaredd yno. Trwy hyn, mae sawl cenhedlaeth o blant Penrhys yn ymwybodol o bwysigrwydd yr eglwys i'w hardal ac i'w datblygiad personol. Rhaid wrth gyfleusterau arbennig i gynnig y math hwn o wasanaeth ac mae Eglwys Llanfair wedi neilltuo ystafelloedd ar gyfer gwaith celf a cherddoriaeth ac mae ganddi hefyd lyfrgell bwrpasol ar gyfer y plant. Yn ddiweddar, cawsant rodd o gasgliad o lyfrau gan sylfaenwyr yr eglwys, John a Nora Morgans a'r gobaith yw y bydd y llyfrau hynny ar gael i'r aelodau a'r cyhoedd yn fuan. Fel pob gymuned arall yn y Rhondda, mae

pocedi o dlodi ar Bendodiad a holl nod yr rhys ac agorwyd siop aelodau yw uno a chynsy'n gwerthu dillad ailnwys pawb beth bynnag law mewn cyflwr da i y bo eu cefndir, eu hiaith ateb y gofyn. Menter neu eu traddodiad. arall oedd sefydlu launMewn dyddiau lle mae drette lle y gall pobl dod cymaint o sôn am rannu â'u golch am bris rhesya rhwygo, mae'n dda monl iawn. Man poblogweld sefydliad sy'n brgaidd arall yw'r caffi sy'n wydro'n effeithiol yn agor ddydd Mawrth a erbyn y tueddiadau hyn. dydd Iau lle y daw pobl Mae'r gwaith a wneir ar o bob oed i gymdeithasu Ben-rhys yn ysbrydoa rhoi'r byd yn ei le. liaeth. Galwch heibio ac Gwasaaethau yw'r rhain rwy'n siwr y cewch yr un sy'n ymateb i alwadau croeso ag y derbyniais i. materol ac yn rhoi cyfle [CD] i'r eglwys weithredu ei galwedigaeth ddyngarol. Parchu Traddodiadau Mae Sharon Rees, y Swyddog Addysg, yn frodor o'r Allt-wen yng Nghwm Tawe ac un o'r datblygiadau diweddar sy'n ei phlesio yw'r dosYN Y RHIFYN HWN.. barth Cymraeg o dan Rwanda...1/2/3 ofal Mrs Davina Saer Cerbydau..4 Williams, Ton Pentre. Newyddion Lleol..5 Mae Ann Lord, un o'r ...ac 8-9 gwirfoddolion selog ar Byd Bob/Jayden/ Golygyddol.6-7 Ben-rhys hefyd wedi Newyddion/Cartwn...9 dysgu'r iaith ac mae'n Penrhys ac Eglwys dda gweld y Gymraeg yn Llanfair..10-11 cael ei lle ym mywyd y Cantores o Dreherbert12. gymuned. Yn ogystal â bod yn eglwys unedig, mae Llanfair yn eglwys sy'n uno. Caiff ei chynnal gan wyth o enwadau crefyddol Cymru ac yn ei haddoliad a'i Ariennir yn rhannol staff cyfunir sawl traddo- gan Lywodraeth Cymru diad. Dangosir parch Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison at bob trad- gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 11

y gloran

MAWRTHEBRILL 2018


LLWYDDIANT CANTORES O DREHERBERT

Yn dilyn llwyddiant Lloyd Macey ar 'X Factor', cafodd cantores arall o'r Rhondda, Rachel Stephens, lwyddiant ar sioe BBC1, 'All Together Now' ddiwedd Chwefror, pan gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth. I wneud hynny, enillodd gefogaeth y mwyafrif helaeth o'r panel oedd yn cynnwys 100 o berfformwyr proffesiynol. Un o'r rhai mwyaf brwd ei chanmoliaeth oedd y cyn-Spice Girl, Geri Horner a ddywedodd, "Rydych chi'n un o'm ffefrynnau. Ar y noson, dewisodd Rachel ganu un o glasuron Jennifer Hudson, "You're Gonna Love Me' oedd yn dipyn o her. Dechreuodd Rachel ganu o ddifrif pan ymunodd yn 15 oed â chôr ei hysgol, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda [Ysgol Gyfun Cwm Rhondda nawr]. O'r ysgol honno, aeth ymlaen i Brifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a thra oedd hi yno arferai ennill arian i'w chynnal ei hun trwy dalu teyrnged i'r gantores, Adele gan berfformio ei chaneuon mewn clybiau, tafarnau a phriodasau. Dywedodd Rachel, "Er bod yr arian yn ddefnyddiol iawn ar y pryd, rhois i'r gorau i wneud hynny, yn bennaf am fod Adele wedi colli pwysau a minnau'n amharod i aberthu fy mwyd!"

Mynd Amdani Trefn cystadleuaeth "All Together Now' yw bod pob un o'r 100 beirniad yn gallu rhoi 1 pwynt i unrhyw act. Ond gan fod y panel yn grŵp mor gymysg o ran oedran, cefndir a chwaeth, mae'n dipyn o gamp i'w denu i ymuno yn y canu. Dywedodd Rachel. "Pan gyrhaeddais i'r llwyfan, roedd distawrwydd llethol ond unwaith y dechreuais i ganu a gweld ymateb y gynulleidfa, ymlaciais. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, fy mod i ychydig yn nerfus gan ei bod hi'n gân mor heriol ond sylweddolais fod rhaid imi fynd amdani. Roeddwn i uwchben fy nigon pan gododd Geri Horner ar ei thraed." Yn ogystal, creodd Rachel argraff ar Kiki, un arall o'r beirniaid a ddywedodd, "I fi, roedd popeth yn berffaith ac fel un ferch fawr i un arall, rwy'n falch iawn ohonoch." Bydd Rachel nawr yn cystadlu am y wobr sylweddol o £50,000. Mae Rachel, sy'n chwaer i gynghorydd Ystrad a'r Gelli, Elyn Stephens, yn weithgar iawn gyda changen newydd Treherbert o Urdd Gobaith Cymru ac roedd yr holl aelodau yno yn dymuno pob lwc iddi wrth iddi ymgiprys am y wobr fawr. Er nad enillodd h'r gystadleuaeth yn y pen draw, tipyn o gamp oedd cyrraedd y ffeinal a bydd hynny yn sicr yn help iddi ddatblygu ei gyrfa fel cantores.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.