y gloran
20c LLUNIAU: Stryd Treharne a Heol y Parc ar ôl y bomio ar noson 29-30 Ebrill 1941. Heddiw - Heol y Parc a’r coed lle oedd y tai
COFIO BLITZ CWMPARC
Leighton Davies C.F., y Cadeirydd, sy'n esbonio amcanion grŵp newydd a sefydlwyd yng Nghwmparc.
Yn ystod nos 29 / 30 Ebrill 1941, tua diwedd ymgyrch bomio ffyrnig Hitler yn erbyn Prydain, sef y 'Blitz', trawyd pen-
tre glofaol Cwmparc gan gyrch a laddodd 29 o wŷr, gwragedd a phlant. Roedd yr ymosodiad yn gwbl annisgwyl, heb
rybudd gan siren nag unrhyw beth arall. Er bod cymoedd glo de Cymruyn hanfodol i ymgyrch rhyfel Prydain, doedd cyrchoedd awyr yr Almaen heb geisio eu targedu mewn ffordd drefnus. Y prif dargedau oedd y porthladdoedd glan môr a chanolfannau diwydiannol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, ynghyd â safle'r Llu Awyr yn Sain Tathan. Meddyliai'r llywodraeth fod y cymoedd yn fannau diogel, ac yn wir, un o agweddau tristaf y cyrch ar Gwmparc oedd bod tri o'r plant a laddwyd yn ffoaduriaid neu efaciwîs o Loegr a gafodd loches yn y pentre a ystyrid yn gwl ddiogel. Mae hi bron y sicr nad oedd bomio Cwmparc wedi ei gynllunio rhag blaen. Y tebygolrwydd, fel yr esbonnir, yw taw awyren Almeinig unigol oedd wedi methu cyrraedd neu ddod o hyd i'w darged ar yr arfordir oedd yn gyfrifol. Yr Parhad ar dudalen 4
golygyddol
Y FFORDD OSGOI ETO
Nawr, fodd bynnag, mae si ar led bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried atgyfod'r cynllun. Beth amser yn ôl bellach, Does dim amheuaeth bod cyflwynwyd cynlluniau i teithio i mewn ac allan o'r adeiladu ffordd osgoi ar Rhondda ar oriau brig yn gyfer pen uchaf y hunllef a bod y broblem Rhondda Fawr. Bu llawer wedi gwaethygu dros y o drafod ar y pryd am blynyddoedd diwethaf. lwybr y ffordd a fyddai'n Gan nad oes digon o osgoi canol pentrefi'r waith ar gael yn lleol, Gelli, Ton Pentre, Pentre, mae'n ofynnol i lawer deiTreorci a Threherbert, ond thio er mwyn ennill byyn y diwedd ddigwydwoliaeth a gwneud hynny dodd dim a chynllun ar ar hyd ffyrdd sy'n gwbl bapur yn unig ydoedd.
2
Cynllun gan High Street Media
annigonol i dderbyn y traffig presennol. Canlyniad hyn yw bod llawer o bobl yn symud allan o flaenau'r cymoedd a'n bod yn colli teuluoedd ifanc sydd mor bwysig i ddyfodol ein cymunedau. Mae cyflwr ein ffyrdd hefyd yn rhwystro cwmniau rhag ystyried sefydu busnesau yma. Ar yr wyneb, mae'r ddadl o blaid ffordd osgoi'n ddidroi-nôl, ond rhaid cydnabod bod llawer yn
golygyddol gwrthwynebu'r syniad. Y lleisiau mwyaf gwrthwynebus yw rhai'r sector busnes sy'n dadlau y byddai ffordd osgoi yn yn dargyfeirio siopwyr o ganol ein trefi ac y byddai masnach leol yn dioddef. Yn aml, cyfeiriant at gyflwr Tonypandy, ac i raddau llai, y Porth fel enghreifftiau o'r drwg y gall ffyrdd osgoi ei wneud i ganolfannau siopa a fu gynt yn llewyrchus. Ond a yw hi'n anorfod y bydd dyfodiad ffordd osgoi yn
newyddion drwg i ganol ein trefi? Cyn bo hir, mae'n bosib y bydd rhaid i bob un ohonon ni ddewis ac felly mae'n bwysig ein bod yn dechrau ystyried yr holl oblygiadau i'n cymunedau nawr er mwyn dod o hyd i'r ateb gorau. Golygydd
Y FFORDD OSGOI ETO
2018
y gloran
YN Y RHIFYN HWN .Cofio Blitz Cwmparc...1
Golygyddol...2/3 Cofio Blitz/ ...4/
Newyddion Lleol ...5 ac-8-9-10 Byd Bob/Ymweliad Teulu Nodedig ...6-7 Y Sgwrs...11 Ysgolion -Recordio Ein Byd...12
3
COFIO BLITZ CWMPARC
arfer, o dan y fath amgylchiadau oedd i griwiau awyr gael gwared ar eu llwythi o fomiau ffrwydrol a rhai llosgi rywsut rhywsut er mwyn cyflymu eu taith yn ôl i'w gorsafoedd yn Ffrainc, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd oedd o dan reolaeth y Natsiaid. Yn anffodus, gorweddai'r cymoedd glofaol yn union o dan y llwybr awyr o dde Cymru i'r gorsafoedd hyn. Gellir dweud, felly, bod yr ymosodiad ar Gwmparc yn ddigwyddiad trychinebus, damweiniol. Pe bai'r awyren honno wedi gwaredu ei llwyth ychydig fudau'n ddiweddarach nag a wnaeth, byddai ei bomiau wedi disgyn ar dir mynyddig agored heb iddynt ladd neu anafu unrhyw un.
Caerdydd oedd y Targed Yn ddiddorol iawn, dengys cofnodion y Weinyddiaeth Amddiffyn [MOD] fod cyrch ar
4
Gaerdydd ar noson 29/30 Ebrill gan ddwy sgwadron o awyrennau Heinkel 111 yr Almaen. Nid ymosodwyd ar unrhyw fan arall yn ne Cymru'r noson honno. Mae'n deg casglu, felly, fod yr awyren a ollyngodd ei bomiau dros Gwmparc, am ryw reswm, heb lwyddo yn ei bwriad i fomio Caerdydd a'i bod ar y ffordd yn ôl i'r Cyfandir. Byddai'r daith wedi golygu dod at Gwmparc o'r de-orllewin a chylchu tua'r dwyrain wrth iddi groesi'r pentref. Cefnogir y farn hon gan leoliad y mannau yn ac o gwmpas y pentref lle y disgynnodd y bomiau a ffrwydro. Digwyddodd y ffrwydriadau hynny yn rhan uchaf y pentref gyda rhannau o Stryd Treharne a Heol y Parc yn dioddef waethaf. Dinistrwyd rhan o dai teras Heol y Parc yn llwyr ac nid ailgodwyd y tai a safai yno hyd y heddiw.
Mae'n para i fod yn safle dan borfa a chyfeirir ato gan bawb yn y gymuned fel 'Y Tai a Fomiwyd'.
Dim i Gofio'r Drychineb Mae'n drist ac yn anesboniadwy, er bod bron 77 mlynedd wedi mynd heibio ers y noson ofnadwy o frawychus honno yn Ebrill 1941, nad oes cofeb gyhoeddus i'r rhai a laddwyd yn y pentref. Yr un mor anesboniadwy a thrist yw nad oes cofeb yn y pentref i gofio'r aelodau o'r lluoedd arfog a aberthodd eu bywydau yn y ddwy Ryfel Byd a brwydrau eraill. Yn ddiweddar, sefydlwyd Cymdeithas gan grŵp ymroddgar o bobl sy'n byw yng Nghwmparc, a aned yno neu sydd â chysylltiadau agos â'r pentref. Nod y Gymdeithas, sydd wedi cwrdd sawl gwaith yn barod yn Neuadd y Parc, yw codi cofadail ar y safle'r 'Tai a Fomiwyd'. Bydd hwn yn cynnwys enwau'r rhai a laddwyd yn y cyrch. Bydd hefyd yn cyn-
nwys arysgrif gyffredinol yn anrhydeddu aelodau o'r lluoedd arfog o'r pentref a aberthodd eu bywydau dros eu gwlad mewn rhyfeloedd. Enw'r Gymdeithas yw 'Prosiect Cofio Blitz Cwmparc'. Mabwysiadodd gyfansoddiad ffurfiol, penodi swyddogion (Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd) ac agor Cyfrif Cymunedol ym manc Barclays. Cafwyd trafodaethau cadarnhaol a gobeithiol yn barod gyda Chyngor RhCT, perchenogion y safle, er mwyn cael caniatâd i godi cofadail. Dechreuwyd gwneud ymholiadau gyda nifer o gyrff cyllido er mwyn gwneud ceisiadau am grantiau a bu'r ymateb yn galonogol. Rhagwelir hefyd y bydd arian yn dod o gyfraniadau gan unigolion a gweithgareddau codi arian. Maes o law bydd y Gymdeithas yn ceisio cofrestru fel Elusen. Teimlwn fel Cymdeithas fod y prosiect hwn o werth hanesyddol, amgylcheddol, cymunedol, addysgol a chymdeithasol a gobeithiwn y bydd yn ennyn cefnogaeth sylweddol. Cyhoeddir manylion cysylltu â'r Gymdeithas yn fuan ond yn y cyfamser, os bydd ar unrhyw un angen gwybodaeth neu am wneud unrhyw sylw, gallwch e=bostio'r Cadeirydd: leightondaviesqc@msn.com
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Mae caffi CF42 yn Nhreherbert yn cynnal Y Sgwrs bob dydd Mercher o 5-8. Cyfle i siaradwyr Cymraeg ddod i gymdeithasu yw hwn ac mae'n gyfle gwych i ddysgwyr a phobl sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg hefyd. Pam na alwch chi heibio? Croeso i bawb. Gyda llifiau enfawr mae gweithwyr ar Dwnnel y Rhondda wedi bwrw trwy 2 fedr o goncret ar ochr Blaengwynfi, i adael golau dydd i mewn i’r Twnnel am y tro cyntaf mewn 40 o flynyddoedd. Mae peirianwyr o Balfour Beatty nawr yn barod i archwilio cyflwr y twnnel. “Highways England” sy biau’r twnnel ar hyn o bryd ond gobeithir ei drosglwyddo naill ai i Lywodraeth Cymru neu i’r awdurdodau lleol, sef Rhondda Cynon Tâf a Chastell Nedd Port Talbot. Os bydd hyn yn digwydd bydd Cymdeithas y Twnnel yn gallu gwneud cais am gyllid i drawsffurfio’r twnnel. Amcan y Gymdeithas yw agor y Twnnel i gerddwyr a beicwyr.Yn ystod y gwaith, darganfuwyd hen wrthrychau - offer o’r di-
wydiant glo a hen boteli gwydr Mae’n dda gweld “Aelwyd” yn dechrau yng Ngwm Rhondda. Maen nhw’n cwrdd yn Caffi CF42 yn Baglan St, Treherbert bob nos Sul am 5 o’r gloch lle maen nhw’n prysur baratoi ar gyfer sawl cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Awst. Gall unrhyw un sy eisiau ymaelodi â nhw gysylltu â Seren Macmillan o Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Pob lwc iddynt.
Llongyfarchiadau i Glwb Pêl Droed Blaenrhondda sy wedi ennill y gynghrair heb golli un gêm. Y flwyddyn nesaf byddan nhw’n chwarae yn y Gynghrair gyntaf (Alliance De Cymru). Dyma’r ail flwyddyn yn ganlynol iddyn nhw gael dyrchafiad. Gêm olaf y tymor fydd rownd derfynol o gwpan Alliance De Cymru sy’n cael ei chwarae ar Mai 23 ar faes y Cambrian yng Nghlydach yn erbyn Penydaran. Mae'n flin genym gofnodi marwolaeth Malcolm Llewellyn o Brook St Blaenrhondda. Roedd Malcolm yn flaenllaw yn
y gymuned am flynyddoedd maith ac yn weithgar iawn gyda chymdeithas rhieni Ysgol Gymraeg Ynyswen. Roedd e’n aelod ffyddlon yng Nghapel Carmel. Gwaith Malcolm oedd cynrychioli cwmni Proctor and Gamble ond ar ôl ymddeol roedd e’n dal i weithio dros elusen Marie Curie. Cydymdeimlwn a’i wraig, Morwen, ei fab John a’r holl deulu. Trist yw weld bod siop grefft a gwnio “ A Mother’s Love” ar Bute St. wedi cae. Ond y newyddion da yw bod y perchenogion Glenys Williams a Jo-ann Banner yn mynd i barhau gyda'u busnes ar lein www.amotherslovecrafts.com Pob lwc iddynt Dymunwn wellhad llwyr i Alun Griffiths o Wyndham St sydd ar hyn o bryd yn ysbyty Cwm Rhondda.
TREORCI
Ddydd Sadwrn, 24 Mawrth daeth llond bws o aelodau Merched y Wawr, Capel Newydd, Sir Benfro ar ymweliad â'r Rhondda o dan
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre:
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
arweiniad Mrs Anita Parry, cyn-aelod o staff Ysgol Gyfun Treorci. Cawson nhw gyfle i alw yn y Parc a'r Dâr lle roedd Eisteddfod Sir yr Urdd yn cael ei chynnal, cyn mynd ymlaen i'r Parc Treftadaeth yn y Porth. Trist oedd gweld bod siop lysiau Pro Bono ar y Stryd Fawr wedi cau ar ôl gwasanaethu'r ardal am dros 80 mlynedd. Y rhesymau am y penderfyniad, mae'n debyg, oedd cystadleuaeth archfarchnadoedd, afiechyd y perchennog a
PARHAD ar dudalen 8
5
BYD BOB
siartiau gyda'r gân a'r gân..." Wrtg gwrs, mae rhesymau eraill am Cerddoriaeth yw pwnc gofio rhywbeth, ond trafod Bob Eynon y mis mae cerddoriaeth yn hwn. cymryd rhan bwysig Rydw i wedi bod yn ym mhob noson gwis meddwl am y cysylltiad lle mae'r cystadleuwyr rhwng cerddoriaeth a yn bobl gyffredin heb digwyddiadau fy fod yn athrylithoedd. mywyd. Rwy'n mynd i Pan rwy'n edrych yn ôl gwis bob nos Iau yng ar fy mywyd, rwyn sylnghlwb 'Y BIZ' gyferweddoli fy mod wedi byn â siop feiciau Phil bod yn lwcus iawn. Jones yn Nhreorci. Bob Mae cerddoriaeth wedi wythnos mae cwestiybod yn fwy dylanwadol nau'n codi am ddyddiad arna' i na rhyfel. Fyddai rhyw ddigwyddiadau yn fy rhieni ddim yn gallu y gorffennol. Yn aml dweud yr un peth. iawn, bydd aelod o'm Roedd rhaid iddyn nhw tîm yn dweud, "O,rwy'n fagu plentyn (minnau) cofio hynny oherwydd yn ystod yr ail ryfel ar y dyddiad a'r dyddiad byd. Roedd eu rhieni roedd y Beatles ar ben y nhw wedi byw drwy
dau ryfel byd. Ond rwyf wedi cael bywyd eithaf tawel. Rwy'n cofio gwrando ar y radio gyda fy rhieni a chlywed Vera Lyn yn canu am glogwyni gwyn Dofr. Rwy'n cofio'r ci yn y ffenest hefyd, a bod ei gwt yn siglo. Ond faint oedd y ci, a phwy oedd yn canu amdano? Dim syniad, sorri! Ar ôl miwsig diniwed y pedwardegau fe glywais i jazz traddodiadol am y tro cyntaf mewn tŷ yn Blaenrhondda Road lle roedd Terry Clatworthy'n cadw casgliad o recordiau gan Humphrey Littleton a Chris Barber. Roeddwn i yn y pumed dosbarth yn yr ysgol pan ffrwydrodd Roc a Rôl fel bom. Roedd y miwsig newydd yn llawn cyffro ac roedd y cantorion yn rebeliaid. Roedd yr Americanwyr yn arwain y mudiad am ddeng mlynedd, ond yna digwyddodd rhyw-
CARTWN Y MIS GAN SION OWEN
6
beth oedd yn llawer mwy ffyrnig na Roc a Rôl, sef rhyfel ofnadwy Fietnam. Yna, dechreuodd cerddoriaeth brotest yn erbyn y rhyfel ac yn erbyn y polisiau gwleidyddol a dynnodd America i mewn i'r rhyfel. Mewn ffordd daeth miwsig poblogaidd yn wleidyddol hefyd. Y dydd o'r blaen fe glywais i Quentin Letts,, sy'n ysgrifennu colofn wleidyddol yn y Daily Mail yn dweud wrth John Humphrys, sy'n cyflwyno 'Today' ar Radio 4, ei fod yn mynd i wrando ar fiwsig Classic FM o hyn ymlaen yn hytrach na 'Today' am fod testun Brexit yn cael ei drafod yn ddibaid bob bore. Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn fiwsig i glustiau rhywun fel Quentin Letts, ond mae'n rhaid newid y tiwn o bryd i'w gilydd...
YMWELIAD TEULU NODEDIG
Yn ddiweddar, daeth teulu arbennig iawn yn ôl i'r Rhondda i ymweld â mannau oedd yn gysylltiedig â'u hynafiaid. Y cyntaf o deulu Griffiths i gyrraedd y cwm oedd Robert Griffiths, brodor o'r Ponciau, Wrecsam, a ddaeth yn weinidog i'r Porth i ddechrau cyn symud i Moriah, Pentre yn 1914. Bu yno tan 1941 pan fu farw yn sydyn ar ôl traddodi pregeth o bulpud Moriah. Mab iddo ef a'i wraig, Jemimah oedd yr Athro John Gwyn Griffiths a dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Pentre ac Ysgol Sir y Porth. Yn 1928, enillodd ysgoloriaeth wladol a mynd i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd lle y cafodd yrfa academaidd ddisglair. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn Lladin yn 1932 a mynd ymlaen i ennill gradd ddosbarth cyntaf arall mewn Groeg y flwyddyn ganlynol. Bu'n fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru a
Rhydychen gan ennill nifer o raddau uwch a datblygu ei ddiddordeb yn hanes ac iaith yr hen Aifft. "Nôl i'r Pentre Tra oedd yn Rhydychen, cyfarfu Gwyn ag Almaenes o dras Iddewig o'r enw Kaethe Bosse. Roedd hi wedi ffoi o'r Almaen rhag y Natsïaid ddiwedd 1936 ac yn gweithio yng Ngholeg Somerville. Yn ôl eu mab, Heini, "Bu carwriaeth lawn angerdd a phriodasant ar frys, 13 Medi, 1939, fel na fyddai rhaid i Kaethe gael ei chaethiwo gan yr awdurdodau adeg y rhyfel." Erbyn hynny roedd Gwyn yn athro cynorthwyol yn y clasuron yn ei hen ysgol yn y Porth a rhedeg i ffwrdd i briodi ym Mhontypridd wnaethon nhw, heb yn wybod i'r teulu. Ymgartrefodd y ddau yn St Stephen's Avenue, Pentre lle y sefydlon nhw Gylch Cadwgan, cylch trafod llenyddol oedd yn cynnwys nifer o feirdd ac awduron a ddaeth yn
adnabyddus iawn ymhen amser. Yn eu plith roedd Pennar Davies, Rhydwen Williams, Kitchener Davies a Gareth Alban Davies. Yn ôl Heini Gruffydd, "Roedden nhw'n ystyried eu hunain yn flaengar iawn ac yn eangfrydig eu syniadau, ond roedd y Gymraeg, heddychiaeth a Christnogaeth yn angor iddynt." Er gwaethaf holl atgasedd y rhyfel, cafodd Kaethe groeso gan bobl y Rhondda ac er taw cwta bedair blynedd y buon nhw'n byw yma, bu'n gyfnod pwysig iawn ym mywydau'r ddau. Ar ôl treulio ychydig flynyddoedd yn athro yn y Bala, cafodd Gwyn ei benodi'n ddarlithydd yn y Clasuron yng Nholeg y Brifysgol, Abertawe ac yno y treuliodd weddill ei oes, gan dderbyn cadair bersonol ac ennill bri academaidd rhyngwladol. Hyrwyddo'r Pethe Mae sêl y teulu dros y Gymraeg, ei llenyddiaeth a lles cyffredinol y wlad yn dal i gael ei chynnal
gan y meibion, gyda Robat yn awdur ac yn berchen ar wasg fywiog Y Lolfa. Bu Heini, ei frawd, yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyhoeddi defnyddiau ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, ac ef yw awdur "Yr Erlid', cyfrol sy'n olrhain hanes ei deulu yn yr Almaen, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn. Mae eu plant hwythau'n parhau i gyfrannu'n nodedig yn yr un meysydd. Daeth dros 20 ohonynt i fwrw'r Sul yn y Rhondda, gan aros yn Nhreherbert ac ymweld â nifer o fannau gan gynnwys Treorci, Pentre, Pen-rhys, Trealaw a'r Parc Treftadaeth. Ar y nos Sadwrn daeth pawb ynghyd i fwynhau swper yng nghaffi'r 'Social', Treorci - diweddglo cymdeithasol teilwng i benwythnos diddorol. [Rydyn ni'n ddyledus i Heini Gruffydd am lawer o wybodaeth am y teulu]
chyrraedd oed ymddeol. Diolchwn i Keith, y perchen, a'i staff a dymuno'n dda iddynt i'r dyfodol. Y siaradwr yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas Ddinesig y Rhondda ym mis Mai oedd Phil George, gynt o Dreorci, sydd wedi ei benodi'n gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Pob dymuniad da i Mr Graham Cole, Clos Tremle a dderbyniodd lawdriniaeth yn Bournmouth tra yno ar ei wyliau'n ddiweddar. Daeth rhai o'r ymwelwyr cyson â Chlwb Jazz y Rhondda, sef Band Keith Little, yn ôl i'r Clwb Rygbi, 24 Ebrill i ddifyrru cynulleidfa werthfawrogol gyda'u perf-
8
formio bywiog arferol. Newyddion da i blant Treorci yw gwybod y bydd y pwll padlo ar agor yn y parc am 4 wythnos ym is Awst eleni. Mae hefyd offer newydd yno ar gyfer y plant. Os ydych chi am gefnogi'r grŵp o rieni ifanc sy'n gweithio i wella'r parc, gallwch ddod yn Gyfaill Parc Treorci am £10. Cynhelir Gŵyl Treorci, sef cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol rhwng 25-30 Mehefin mewn nifer o fannau yn y dref. Yr Ysgol Gyfun a gwahanol grwpiau lleol sy'n gyfrifol am y trefniadau. Ddydd Sadwrn, 16 Mehefin bydd band y Gwarchodlu Brenhinol
Cymreig yn gorymdeithio trwy Dreorci i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yr orymdaith yn dechrau am 3pm wrth y Cardiff Arms ac yn y nos bydd y band enwog hwn yn ymno â band y Parc a'r Dâr a thriawd My Favourite Things mewn cyngerdd yn y theatr. Cyn bo hir byddwn yn cael toiledau cyhoeddus newydd yn Nhreorci. Lleolir y cyfleusterau newydd y mae eu mawr angen yn y Llyfrgell. Bydd mynediad ar wahân a gobeithir dechrau ar y gwaith addasu'n fuan. Mae grŵp newydd wedi ei ffurfio i gefnogi cleifion sy'n dioddef o dementia a'u
gofalwyr. Bydd yn cwrdd yn neuadd Eglwys San Matthew rhwng 11am - 2.30pm bob pythefnos. Y dyddiadau nesaf yw 21 Mai a 7 ac 18 Mehefin. Os ydych am helpu, cysylltwch â'r Tad Phillip ar 773303. Llongyfarchiadau calonnog i Mr Stan Wilshire, Glan yr Afon a ddathlodd ei benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Nos Iau, 17 Mai cynhaliodd Pwyllgor Cancr UK Treorci noson gymdeithasol yn Neuadd Eglwys San Matthew yng nghwmni'r gantores o Dreherbert, Rachel Stephens. Bydd Players Anonymous yn cyflwyno drama enwog
Hwyr i’r ysgol?
Tennessee Williams, 'Te Glass Menagerie' yn Neuadd y Dderwen ddiwedd y mis hwn. Pob dymuniad da i Mr Douglas Wilkins, Y Stryd Fawr, sydd wedi mynd i mewn i gartref gofal Tŷ'r Porth yn ddiweddar. Dymunwn iddo bob cysur a diddanwch.
CWMPARC
Roedd tipyn o gyffro yng Nghwmparc yn ddiweddar pan fu rhaid i hofrennydd lanio ar iard yr ysgol oherwydd diffyg ar ei injan. Chafodd neb niwed ond cafodd ffotograffwyr yr ardal fodd i fyw! Diolch i haelioni teulu Steve a Julia Demaid, Pen-y-lan, perchnogion South Wales
Metal Finishing, bydd diffibriliwr ar gael y tu allan i Neuadd y Parc i helpu pobl sy'n dioddef trawiad ar y galon. Gwerthfawrogir y rhodd ymarferol hon yn fawr gan bawb yn yr ardal. Roedd yn ddrwg gennym dderbyn y newddion am farwolaeth un o gyn-drigolon Cwmparc, Mr Mel Dunsford, Trimsaran. Er ei fod wedi gadael yr ardal ers tro, cadwodd mewn cysylltiad a mynnai dderbyn Y Gloran drwy'r post bob mis. Cydymdeimlwn â'i wraig, Delyth a fu'n aelod o staff Ysgol Gyfun Treorci a'i fab Llŷr yn eu profedigaeth. Cyn bo hir. bydd gwelliannau i'r gwasanaeth bysys
rhwng Cwmparc a Threorci. Darperir bysiau llai fydd yn gallu teithio'n haws trwy'r strydoedd cefn a bydd yr amserlen yn cael ei addasu i gydasio ag amserlen y trenau. Cafodd yr ardal golled arall ym marwolaeth Dr Michael Sheppard, Heol Chepstow yn dilyn cystudd hir. Cydymdeimlwn yn gywir iawn a'i weddw, Kay yn ei phrofedigaeth. Bu farw Mair Cambourne, Heol Chepstow, yn 93 oed. Bydd llawer o drigolion yr ardal yn cofio Mair fel perchennog y Pencelli, ynghyd â’i gwr cyntaf, Emlyn. Cydymdeimlwn â Janet, Glyn a’r teulu. O fewn wythnosau i farwolaeth Mrs Cam-
bourne, clywsom newyddion trist am farwolaeth ei ffrind Mrs Elizabeth Bowen, Parc Crescent. Gwelwyd Mair a Liz gyda’i gilydd yn aml, yn teithio ar y bws rhwng Cwmparc a Threorci. Dathlodd Mrs Bowen ei 94 penblwydd ym mis Chwefror, a pharhaodd yn weithgar hyd ei diwrnodau olaf. Gwilrfoddolodd Liz yn siop elusen Tenovus yn Nhreorci am dros ugain mlynedd, a buodd yn aelod ffyddlon o eglwys San Sior ers degawdau. Teimlir ei cholled gan ei ffrindiau i gyd. Cydymdeimladau â’r teulu a'i ffrindiau i gyd. Ar 22 Ebrill, bu farw Muriel Parry, yn gynt
9
o St. John’s Place, Stryd y Castell, Cwmparc, yn 85 oed. Roedd hi wedi dioddef o Alzheimer’s ers dros ddeng mlynedd, ac ers nifer o flynyddoedd roedd hi wedi bod yng nghartref Greenhill Manor, Pentrebach, Merthyr, lle derbyniodd ofal heb ei ail gan y staff. Cydymdeimlwn â Gareth a Martin a’r teulu.
Cynhelir Gwasanaeth Coffa yn Ysgol y Parc ar 19 Mehefin (dydd Mawrth) am 1:30pm. Cynhelir y gwasanaeth hwn bob blwyddyn er mwyn cofio’r rhai hynny y collwyd eu bywydau pan gafodd Cwmparc ei fomio yn Ebrill 1941. Bydd croeso cynnes i rieni ac aelodau’r gymuned ehangach. Darperir lluniaeth ysgafn ar ôl y gwasanaeth.
PENTRE
Bu farw Mr David Ellis, Stryd Albert. Roedd David yn frodor o Dreherbert a chyn ymddeol, bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w wraig, Sheila yn ei hiraeth. Nos Sadwrn, 31 Mawrth, cynhaliwyd noson yn dathlu cerddoriaeth boblogaidd y 70au a'r 80au yn neuadd y Lleng Bry10
deinig. Cynhaliwyd Ffair Eglwys San Pedr, ddydd Sadwrn 12 Mai. Roedd yno amrywiaeth o stondinau a raffl fawr gyda gwobr gyntaf o £50. Roedd yr elw'n mynd at gronfa'r eglwys. Mae Canolfan Pentre bellach yn cynnal sesiynau Iechyd Meddwl ar ran Hafal y gymdeithas sy'n hyrwyddo lles meddwl. Cysylltwch â'r Ganolfan am ragor o wybodaeth. Datblygiadau newydd yn y Ganolfan yw dosbarth Tai Chi ac mae'r Clwb Crefftau nawr yn agored i bobl o bob oed. Croeso i bawb.
TON PENTRE
Llongyfarchiadau i un o'n gohebwyr yn y Ton, sef Graham Davies John, Tŷ Ddewi, oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar 17 Ebrill. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol. [Gol.]* Cydydeimlwn â theulu Mrs Lilwen Davies a fu farw'n ddiweddar yn 99 oed. Symudodd Lilwen, oedd yn dod o'r Rhondda Fach, i Dŷ Ddewi beth amser yn ôl. Roedd yn berson cymdeithasol, cyfeillgar a daeth yn boblogaidd iawn ymhlith ei chyd-breswylwyr. Wrth i'w hiechyd ddirywio, bu'n rhaid iddi symud i Dŷ Pentre ac
wedyn i gartref gofal Pentwyn, Gwelir ei heisiau'n fawr gan drigolion Tŷ Ddewi. Anfonwn ein dymuniadau gorau at Mr Stephen Pumford sydd wedi bod yn dost yn ddiweddar. Gobeithiwn ei weld yn ôl yn holliach yn Eglwys Ioan Fedyddiwr lle mae'n warden gweithgar a phoblogaidd. O ddydd Iau, 8 Mehefin bydd Siema'r Ffenics yn dangos 'Edie', ffilm wych gyda Sheila Hancock yn serennu yn y brif ran. Mae grŵp ifanc Act 1 yn dathlu ei ddegfed blwyddyn fel cwmni cerdd a drama ac yn nodi'r achlysur gyda chinio a dawns yng nghlwb pêldroed Ton Pentre. llongyfarchiadau iddynt i gyd, yn arweinydd, pwyllgor a pherfformwyr ifainc sy wedi gweithio mor galed i'n diddanu dros y blynyddoedd. Bydd cwmni Act 1 yn cyflwyno sioe Disney, 'The Little Mermaid' yn Theatr y Ffenics ddydd Gwener, 29 Mehefin am 1pm a 4pm. Tocynnau £8. Mae'r cwmni'n gweithio gyda rheolwyr y theatr i wella'r seddau ym mlaen y llawr ac mae'n nhw'n chwilio am help ariannol i wneud hyn. Mae modd cyfrannu ar-lein. Yn anffodus, rhaid cofnodi bod Hebron, capel y Bedyddwyr Cymraeg, wedi cynnal ei
wasanaeth olaf. Roedd rhaid gwneud y penderfyniad trist hwn oherwydd henaint a salwch y 5 aelod olaf oedd yn weddill. Sefydlwyd yr elwys gan fod Nebo, Ystrad yn orlawn. Yna yn yr 80au, oherwydd dirywiad yr adeilad, symudwyd i'r festri lle y cynhaliwyd y gwasanaethau ers hynny. Dymunwn wellhad llwyr a buan i Mrs Lucy Davies, sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Roedd Lucy yn aelod ffyddlon yng nghapel Hebron lle bu'n organyddes ac mae hi hefyd yn canu'r organ yn y Capel Cynulleidfaol Saesneg. Cofiwn hefyd am Janet, merch Christine a Colin Tuckett ar ôl iddi hi dderbyn triniaeth lawfeddygol yn Bournmouth. Yn ystod mis Ebrill, cynhaliwyd gwasanaethau arbennig bob nos Sul i ddathlu'r Pasg. Yn ddiweddar, cynhaliwyd noson o adloniant yng Nghlwb Pêl Droes Ton o dan ofal y Cyng. Shelley Rees Owen gyda'r holl elw yn mynd at achos TENOVUS. * Carwn ddiolch yn fawr i aelodau Eglwys Sant Ioan a ddaeth ynghyd i ddathlu fy mhen-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar a hefyd preswylwyr Tŷ Ddewi a drefnodd dathliad tebyg. Diolch i bawb am eu cardiau a'u dymuniadau gorau. [GDJ]
LLYTHYR Annwyl Olygydd,
Siop goffi bach yw’r CF42 yn Nhreherbert, Rhondda Cynon Taf. Yn ddiweddar rydym wedi cychwyn menter newydd o’r enw ‘Y Sgwrs’. Ein bwriad yw ymgorffori'r iaith Gymraeg ym mhopeth rydym yn ei wneud ac yna ymgorffori’r gymuned yn ‘Y Sgwrs’. Ein gweledigaeth yw bod bob cwsmer sy’n galw mewn i’r CF42 yn gadael yn gwybod o leiaf un gair Cymraeg neu yn gallu archebu'r coffi nesaf yn Gymraeg. Bwriad ‘Y Sgwrs’ yw i'r Gymraeg ddod yn rhan o fywyd bob dydd, os yn rhugl yn ddysgwr neu yn ddi-gymraeg. Mae’r datganiad i’r wasg a atodir yn manylu sut gychwynnodd ‘Y Sgwrs’ yn dilyn sylwadau cyffredinol, ble ydyn bellach gyda ‘Y Sgwrs’ a sut hoffwn weld ‘Y Sgwrs’ yn datblygu yn y dyfodol.
Rydym yn angerddol am ‘Y Sgwrs’ ac yn obeithiol eich bod yn cydnabod hyn ac ymuno a ni i ddathlu'r iaith Gymraeg a chefnogi ‘Y Sgwrs’ yn Y CF42.
Yn Gywir Glenn Jones a Matthew Mortimore Perchnogion Y CF42
Y S gwrs Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
11
Yn y parc, lan y mynydd neu ar y traeth ar eich gwyliau nawr yw’r amser i ddod maes gyda’ch camera neu lyfr darluniau er mwyn recordio ein byd anhygol o bert.
YSGOLION
Lluniau gan Rosa Baik
12