Glo gorffennaf 2018

Page 1

y gloran

20c

CADAIR I GAERDYDD O’R RHONDDA

Eleni, cyflwynir y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hirach na 250 o linellau o dan y teitl Porth. Y beirniaid yw Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth. Noddir y Gadair gan Amgueddfa Cymru i dathlu pen blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed. Roedd yr Amgueddfa’n awyddus i weld cynllun oedd yn cysylltu gyda Sain Ffagan, a dyma oedd yr her i Chris Williams, cerflynydd, sy’n byw yn Ystrad Rhondda ac yn gweithio yn Ynyshir. Cafodd Chris ei eni yn Nottingham ond daeth i fyw i Gaerdydd yn 6 oed.

Llun y gadair gan Huwdale Photography

Parhad ar dud 3


golygyddol

Mae canlyniadau arolwg diweddar a gynhaliwyd ar gais Chris Bryant AS yn destun gofid. Amcan yr ymarfer oedd canfod agwedd pobl ifanc y Rhondda at y cwm a ble roedden nhw'n gweld eu dyfodol. Roedd hi'n galonogol deall bod 80% o'r 300 o bobl ifanc rhwng 16 - 18 a holwyd yn teimlo'n falch eu bod yn dod o'r Rhondda. Dyma rai o'r geiriau a ddewiswyd ganddynt i ddisgrifio'r lle - prydferth, cyfeillgar, cartrefol, ardderchog. Ond er gwaethaf hyn, roedd 63% yn dweud na fydden nhw'n aros yma ar ôl cwblhau eu haddysg. Mae dylifiad ein pobl

2

ifanc o'r cymoedd yn hen broblem sydd wedi gwaethygu ar ôl inni golli'r diwydiant glo, asgwrn cefn ein heconomi ac mae ffyrdd sy'n annigonol i ddenu diwydiant i flaenau'r Rhondda yn golygu bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn gorfod teithio'n ddyddiol i'w gwaith. Er bod rhai o'r bobl a holwyd yn dweud eu bod am adael am resymau positif fel awydd i weld y byd, neu er mwyn cyflawni eu huchelgais, honnai eraill y byddan nhw'n mynd am fod yma ddiffyg cyfle, bod dim i'w wneud a bod prinder swyddi addas. Mae gan y cyfryngau rôl

bwysig i'w chwarae wrth ddarlunio ein cymunedau ac yn rhy aml byddant yn rhoi sylw i straeon negyddol gan anwybyddu llawer o'r pethau da sy'n digwydd yn ein plith. Faint o sylw, er enghraifft, gafodd llwyddiant rhai o'n pobl ifanc wrth iddynt sefydlu busnesau a chreu swyddi. Mae nifer o enghreifftiau felly yn yr ardal a allai fod yn ysbrydoliaeth i eraill, ond prin yw'r sylw a gânt yn y wasg ac ar y teledu. Mae'n bwysig hefyd bod ein hysgolion yn meithrin agwedd bositif at y cwm a bod hanes a diwylliant lleol yn cael lle teilwng yn y cwriwlwm. I wneud hyn rhaid i athrawon wybod am y pethau hyn, ond gan nad yw llawer ohonynt yn

byw yn yr ardal nac yn dod ohoni, mae'r dasg yn fwy anodd. Ac eto dyma'r gwerthoedd sy'n ein clymu wrth fro, yn ein hangori a rhoi inni'r awydd i fyw yma a chyfrannu at ddatblygu'r gymdeithas. Hefyd, pan fydd pobl sy mewn swyddi allweddol yn y Rhondda'n dewis byw y tu allan iddi, effeithir yn negyddol ar agweddau pobl ifainc. Faint o brif swyddogion y Cyngor, er enghraifft sy'n byw yn y sir, heb sôn am y cwm? Er bod rhai o ganlyniadau'r arolwg yn siomedig, rhaid diolch amdano. Allwn ni ddim anwybyddu ei gasgliadau. Dylent fod yn her i weithredu. Oni wnawn, bydd y dyfodol yn dywyll iawn.

Golygydd


CADAIR I GAERDYDD O’R RHONDDA

Yno y derbyniodd ei addysg gynnar cyn ymrestru'n fyfyriwr ym Mhrifysgol High Wycombe lle y graddiodd mewn Cynllunio a Chrefftwaith. Wedi graddio, bu'n crwydro'r byd am dipyn cyn dod i fyw i'r Rhondda a sefydlu oriel a gweithdy yn hen lyfrgell Ynyshir a gaewyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Yr enw a roed ar y ganolfan oedd Oriel y Gweithwyr gan fod Chris am bwysleisio taw crefftwr yw'r arlunydd a'r cherflunydd fel pob crefftwr arall a bod modd gwneud bywoliaeth trwy weithio yn y meysydd hynny.Yr hyn a sbardunodd Chris i weithio gyda choed i ddechrau oedd cwrdd â'r cerflunydd David Nash pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Howardian,

Caerdydd.Ysbrydolwyd ef hefyd gan ffurf y cadeiriau coedyn yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac un gadair yn arbennig a wnaed yn Nhrealaw, nid nepell o’i weithdy. Mae'r gadair goedyn yn draddodiadol Gymreig ac roedd e am geisio ei chyfuno â phatrymau crefft y gwehydd sy hefyd yn unigryw i Gymru.

Y Gadair Meddai Chris, “Mae fy nyluniad wedi’i ysbrydoli gan nifer o wahanol gadeiriau y bûm yn ymchwilio iddynt yng nghasgliad Sain Ffagan. Mae’r dyluniad yn fodern gyda chyffyrddiadau traddodiadol, ond eto mae iddi bresenoldeb cadair seremonïol, diolch i elfennau megis sedd lydan a throm, breichiau agored a chefn uchel.” Dewisodd greu cadair â

sedd a chefn o bren llwyfen gyda choesau a breichiau o bren onnen. Mae’r sedd a’r cefn wedi’u hengrafu yn ysgafn â phatrwm gwlân traddodiadol sy’n seiliedig ar garthen yng nghasgliad Sain Ffagan, ac a wehyddwyd ym Melin Wlân Esgair Moel, un o’r adeiladau cyntaf i gael ei ail-godi yn yr Amgueddfa Werin ym 1952. Llwyddwyd i gyfuno elfennau traddodiadol â thechnoleg newydd wrth greu’r Gadair. Cafodd nifer o’r darnau eu creu â llaw gan ddefnyddio offer traddodiadol, tra bod y patrwm ar y sedd a’r cefn wedi eu hengrafu ar beiriant laser. Cafodd darnau o’r Gadair eu creu yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru mewn adeilad pwrpasol –

Gweithdy. Mae Gweithdy yn adeilad cynaliadwy newydd sbon sy’n llwyfan i sgiliau crefftwyr ddoe a heddiw, a man lle gall ymwelwyr o bob oed gael profiad uniongyrchol o sgiliau traddodiadol. Yn Gweithdy, bu Chris yn arddangos ac yn rhannu’r broses o greu’r Gadair gydag ymwelwyr i’r Amgueddfa – rhywbeth newydd yn hanes creu Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Wrth gwrs, yn Ynyshir mae gweithdy beunyddiol Chris ac yno mae'n gweithio i hyrwyddo gwaith artistiaid sy'n gweithio mewn sawl cyfrwng. Pam na alwch heibio i weld yr arddangosfa amrywiol a chefnogi menter gwirioneddol gwerth chweil?

DAVID DAVIES YR OCEAN

Mae Cwm Rhondda'n fydenwog am gynhyrchu glo a ffurfiwyd y 'stryd hir' sy'n nodweddu'r cwm wrth i'r clystrau o dai a ymffurfiodd o gwmpas y pyllau glo unigol graddol ymuno â'i gilydd. Ton Pentre yw fy mhentre genedigol ac yn y pumdegau roedd ei gysylltiad hanesyddol â'r diwydiant glo yn amlwg. Er nad oedd pwll lleol y Maendy'n cynhyrchu glo, roedd yn cael ei ddefnyddio i awyru a draenio pyllau cyfagos oedd yn dal i weithio. Safai'r gêr ben pwll, yr adeiladau a'r simnai fawr yno o hyd, yn greiriau o oes a fu.

Codwyd tomen slag yn ymyl y pwll fel cornwyd anferth yn gysgod dros y pentref, ei hochrau'n rhy serth i ganiatâu i unrhyw beth dyfu arnynt. Safai tip arall o ludw coch o fwylerdy'r pwll uwchben pen uchaf Parry Street lle roeddwn i'n byw. drosodd

3


DAVID DAVIES YR OCEAN

Roedd y rheilffyrdd a gludai gwagenni llawn glo i'r iardiau ger yr afon yn dal i fodoli. Rhedai'r hewl fawr drwy'r pentref dros bont groca fel petai'n caniatàu gwagenni glo rhithiol i symud odditani. Gorweddai olion o'r gorffennol diwydiannol ar wasgar ar y llechweddau a llifai'r afon yn ddu ac yn ludiog oherwydd llwch y glo. Ond mae'r byd a Thon Pentre wedi newid.

Yn ddiweddar, es i â'm hwyrion i chwarae ar ochr y bryn yn ymyl fy nghartref. Wrth inni droi am adre, roedden nhw'r rhedeg drwy'r llwyni pan waeddodd un ohonyn nhw, 'Beth yw hwn, Dad-cu?' Rhedodd pawb i weld beth oedd yno. Yno, ma's o'r golwg roedd tŵr carreg yn dwyn plac yn dweud, 'Pwll Glo'r Maendy 1864 - 1948' Edrychai'r plant arno'n syn. Cyfeiria fy wyrion at yr ardal hon fel 'tu ôl i'r pwll' er ei bodyn amlwg nad ydyn nhw'n ymwybodol o arwyddocâd y geiriau. Pan oeddwn i'n fachgen roedd eu hystyr yn glir am eu bod yn disgrifio'r lle fel yr oedd. Bellach dim ond y tŵr coffa sydd yno i nodi bod hwn unwaith yn safle diwydiannol o bwys. Ledled y cwm, dilewyd 4

olion ein gorffennol diwydiannol bron yn llwyr ac mae natur yn adennill peth o'r gogoniant cynddiwydiannol y dechreuodd Ton Pentre ei golli yn y 1860au. Dyna pryd y prynodd gŵr o'r enw David Davies les ar dir er mwyn cloddio am lo - yr aur du oedd yn ffynhonnell cyfoeth anferth. Mab ydoedd i ffermwr denant yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, yr hynaf o naw o blant. Fe'i magwyd mewn bwthyn bach di-nod yn y pentref a gadawodd yr ysgol yn 11 oed. Ac yntau'n dod o deulu tlawd, gweithiodd yn galed a maes o law fe brynodd fferm oedd wedi ei leoli mewn man a ddioddefai'n gyson o lifogydd. Gyda phenderfyniad nodweddiadol ohono, creodd system ddraenio i wella hyn a gwnaeth hyn gymaint o argraff ar Syrfewr Sir Drefaldwyn nes iddo ofyn i Davies godi pont ar draws Afon Hafren. Saif y bont honno yno hyd heddiw.

Addasodd David Davies ei sgiliau peirianneg newydd at ddiwydiant oedd yn tyfu ar garlam yn y cyfnod hwn, sef y rheilffyrdd. Roedd e gyda'r cyntaf i ddatblygu rheilffyrdd Cymru. O fewn 15 mlynedd, bu'n gyfrifol am osod 145 milltir o drac rhwng gogledd a chanolbarth Cymru. Roedd e eisoes yn ŵr cefnog pan

parhad gyrhaeddodd Ton Pentre i gloddio am lo yn 45 oed. Yn y lle cyntaf, dechreuwyd suddo siafft ar ddarn o dir y tu ôl i safle'r hen lyfrgell sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i gadw carafannau. Ofer fu'r ymdrech hon a phenderfynwyd lenwi'r siafft a dechrau unwaith eto mewn man lai na chwartre milltir i ffwrdd.. Lleolwyd y siafft newydd hon ar ben y Dinam Parc Avenue bresennol. Cloddiodd gweithwyr Davies am 15 mis heb ddod o hyd i lo a gan fod ei arian yn dod i ben penderfynodd roi'r ffidil yn y to. Roedd e wedi gwario ffortiwn gwerth £38,000, ond nawr roedd y coffrau'n wag. Galwodd ei weithlu ynghyd a thalu eu cyflog terfynol. Gan roi ei law yn ei boced, fe dynnodd hanner coron ma's a dweud, "Dyna'r cwbl sy gen i ar ôl." gwaeddodd rhywun o'r dorf, "Fe gymerwn i honna hefyd." a thaflodd Davies ei ddarn arian olaf i'r dorf. Gwnaeth hyn argraff ar y cloddwyr a gan synhwyro eu bod ar fin dod o hyd i haen o lo, gwirfoddolon nhw i weithio heb gyflog am wythnos arall. Ar y seithfed diwrnod daethon nhw o hyd i haen anferth o lo stêm o'r diwedd roedd yr 'aur du' wedi ei ddarganfod. Adferwyd cyfoeth David

Davies a dyma ddechrau pwll glo'r Maendy a Thon Pentre wrth i'r pwll glo dwfn cyntaf yn y Rhondda gael ei sefydlu. Gan fod llawer o'r glo stêm yn cael ei ddefnyddio'n danwydd ar longau ager a dramwyai'r cefnfor, galwodd Davies ei gwmni yn 'Ocean Coal Company' a châi ef e ei hun ei adnabod fel David Davies yr Ocean. Daeth ffyniant i bwll glo'r Maendy ac yn 1896 gweithiai 1155 o ddynion yno gan gynnwys fy nau hen dad-cu, un dad-cu a saith o'i frodyr a'i frodyr yng nghyfraith, Tyfodd yr Ocean i fod yn un un o'r cwmniau glo mwyaf ym Mhrydain, yn cyflogi y y pen draw dros 5,000 o ddynion. Dyma felly ychydig o hanes David Davies, yr Ocean, y gellir ei ystyried yn sylfaenydd ein Ton Pentre bresennol. Mae llawer mwy i'w ddweud amdano na hyn ond mae'n debyg taw'r hanesion mwyaf diddorol yw'r rheiny am y bobl a ddaeth i'r Rhondda i weithio iddo ef a pherchnogion pyllau eraill. Hanes yw hwn am y frwydr yn erbyn adfyd, dewrder yn wyneb perygl a thrugaredd yn ei holl agweddau. Dyna hanes ein cyndadau. Er bod eu diwydiant wedi diflannu, erys eu haberth a'u harwriaeth.

Geoff Morgan

Gweler llun Cofeb Pwll y Maindy ar dud 11


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

ffafriol BBQ yn yr ardd Eleni mae capel Blaen- tu ôl i’r capel. Mae capel Carmel yn y-cwm yn dathlu 150 edrych yn hardd ar ôl mlynedd ers ei sefydlu yn 1868 a chynhaliwyd cael ei pheintio tu allan. dau wasanaeth arbennig Tu mewn mae carpedi i nodi’r achlysur.Ar nos newydd wedi eu gosod a defnydd cyfforddus Sul y 24 o Fehefin roedd y gwasanaeth dan newydd newydd ar y seddau. ofal Eglwys Coreaidd Flin gofnodi marCaerdydd lle'r oedd wolaeth y dramodydd lleisiau cyfoethog yr ac actor Frank Vickery. unawdwyr a’r côr yn creu awyrgylch hyfryd. Ganwyd Frank yn Blaencwm a daeth e’n Ar y 27ain cynhaliwyd adnabyddus trwy’r wlad cyfarfod pregethu arbennig gyda chyfieithu am ei ddramâu a pantomimes arbennig. ar y pryd a braf oedd gweld y capel yn llawn. Bydd colled fawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn a’i Darllenwyd o’r ysgryholl deulu. thur gan Davina Pob lwc i aelodau AelWilliams, rhoddwyd wyd y Rhondda fydd yn hanes yr achos gan cystadlu yn Eisteddfod Merril Davies a thraddodwyd y bregeth gan y Genedlaethol Caerdydd am y tro cyntaf eleni. Parchedig Dr Huw Ewch amdani! Mathews, Caerdydd. Cyflwynwyd ffiol o flo- Mae clwb rygbi Treherbert wedi derbyn dau sidan hyfryd i’r capel gan aelodau Capel grant o £20,000 oddi wrth Gronfa GyCarmel, Treherbert. munedol Pen y CyRoedd y gwasanaeth moedd i ddatplygu safle dan ofal y Parchedig ar Barc Tynewydd ar Phill Vickery. Cynhelir Gŵyl Haf yng gyfer hyfforddi ac ymafer. Bydd y “CabNghapel Blaen-y-cwm bage Patch” sydd nesaf ar yr 21ain o Fedi. Bydd gweithgareddau o at fordd y Rhigos yn cael ei ddatplygu er lles bob math ar gael ac os y gymuned. Llongybydd y tywydd yn

farchiadau i’r clwb. Mae Croeso i’n Coedwig yn cynnal gweithgareddau wythnosol trwy gydol yr haf. Bob bore Mercher mae taith cerdded yn dechrau am 10.30 o High St Social Treorci CF42 6AT. Mae'r teithiau o gwmpas Treherbert a Treorci yn para tuag awr a hanner. Bob dydd Sadwrn o 10 tan 2, dros y cledrau wrth orsaf Treherbert, mae nifer o weithgareddau yn digwydd yn cynnwys teithiau "Hydroelectric" a gwaith coed. Bob dydd Iau mae gwirfoddolwyr yn cwrdd i weithio yn y rhandir wrth Castleton Avenue a Bleancwm Terrace. Mae hyfforddiant ar gael ynglŷn â sut i dyfu llysiau.

TREORCI

Llongyfarchiadau i Elfed a Betty Hughes, Heol y Fynwent ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt yn ddiweddar. Ymhlith y cyfar-

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre:

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

chion a'r anrhegion a dderbyniwyd, roedd carden oddi wrth y Frenhines. Pob dymuniad da iddynt i'r dyfodol. Al ôl brwydro am dros 10 mlynedd, mae Radio Rhondda, sy'n darlledu o Glwb y Bechgyn a'r Merched, wedi clywed eu bod wedi ennill yr hawl i ddarlledu ar FM. Bydd hyn yn dechrau 29 Gorffennaf. Cofiwch wrando ar raglen Gymraeg Gaynor Webster bob prynhawn Sul rhwn 2 - 4 pm. Mae Côr Meibion Treorci yn chwilio am aelodau newydd. Os oes

PARHAD ar dudalen 8

5


BYD BOB

Y mis hwn mae Bob Eynon yn trafod talent a phobl ddawnus. Rydw i wastad wedi edmygu pobl dalentog. Dydw i ddim yn sôn am bobl sydd yn dda yn eu gwaith ond y rhai sydd â thalent neu dalentau ychwanegol ganddyn nhw. A dweud y gwir, os ydych chi'n clywed rhywun yn ymffrostio eu bod yn disgleirio mewn rhyw ffordd, mae hi

bron yn sicr nad oes talent gyda nhw o gwbl. Fel arfer, rydych chi'n darganfod eich bod yn siarad â pherson dawnus bron ar hap. Yn y saithdegau a'r wythdegau roeddwn i'n ymweld ag ysgolion Morgannwg a Gwent fel rhan o'm gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddwn yn galw i mewn i swyddfa ysgrifenyddes y prifathro / brifathrawes a gofyn am ganiatâd i siarad â myfyrwyr y brifysgol oedd yn cael eu hyfforddi yno. Ar un achlysur, fe glywais i fod prifathro'r ysgol yn dioddef o firws yn ei glust a'i fod e'n dost iawn. "Ond mae e'n edrych yn ffit iawn," dywedais i. "Ydy," meddai'r ysgrifenyddes. "mae e'n aelod o dîm pysgota Cymru. Ond ar hyn o bryd dyw e ddim yn gallu gweithio na phys-

gota." Wrth lwc, fe wellodd y prifathro. ond pe bai e ddim wedi mynd yn sâl fyddwn i ddim wedi clywed ei fod e'n pysgota mor dda achos doedd e erioed wedi sôn wrth o i am ei dalent o gwbl. Yn y brifysgol roedd ffrind arbennig 'da fi oedd yn ddarlithydd mewn Hanes. Roedd ei wraig, Marion yn dysgu Saesneg mewn ysgol gyfun yng Nghaerdydd. Un prynhawn, fe ymwelais i â'u cartref nhw yn yr Eglwys Newydd. Yn y lolfa fe sylwais ar biano du hyfryd. "Pwy sy'n canu'r piano?", gofynnais i. "David," atebodd Marian "Ydy e'n dda?", gofynnais i eto. "Wel, mae e wedi ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol!" meddai hi. Fe edrychais i o gwmpas waliau'r lolfa. Roedd darlu-

niau bendigedig yn hongian yno. "Ai ti sy wedi paentio'r rheiny, Dave?" holais dan wenu. "Nage, Marion ydy'r arlunydd yma," atebodd David. "hi sy wedi peintio pob un ohonyn nhw." Yn anffodus, dydw i ddim yn dalentog o gwbl, ond flynyddoedd yn ôl fe ges i gyfle i freuddwydio am sbel bach. Roeddwn i'n rhannu tŷ gyda llanciau eraill yng Nghaerwynt, ger Southampton. Roedd un ohonyn nhw'n canu'r gitâr ac yn ysgrifennu caneuon. Roedd e eisiau anfon tâp i ffwrdd i gwmni recordiau yn Llundain Fe ofynnodd i fi ganu ar y tâp, ac roeddwn i'n hapus i'w helpu. Bythefnos yn ddiweddarach fe ddaeth neges yn ôl drwy'r post. "Mae'r gerddoriaeth yn dda iawn. Newidiwch y canwr...!"


FRANK VICKERY YN MARW

Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Frank Vickery, y dramodydd poblogaidd o’r Rhondda, yn 67 oed yn dilyn cystudd byr. Fe ganed ym Mlaen-y-cwm yn 1951. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Treorci ond gadawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol i weithio mewn ffatri ac wedyn ar y bysys. Ymddiddorai mewn drama amatur a bu’n actio mewn sawl cwmni cyn dechrau ysgrifennu. Yn 21 oed, cafodd lwyddiant gyda i

ddrama un act, After I’ve Gonea enillodd iddo Wobr Howard de Walden am y ddrama un act gorau ym Mhrydain. Un o’i brif rinweddau oedd ei allu i atgynhyrchu miwsig a rhythm yr iaith lafar leol a bu hyn, i raddau helaeth, yn gyfrinach ei lwyddiant. Dywedodd mewn cyfweliad yn 2006. Does dim byd yn rhoi mwy o wefr imi na bod yn rhan o gynulleidfa yn un o fy nramâu, neu wrth actio ynddynt, aa chlywed y chwerthin. Mae e fel cyffur." Gweld ein hunain Roedd hyn yn wir am ei gynulleidfaoedd hefyd, a phrofiad arbennig oedd gwylio un o’i ddramâu, fel One O’clock from the House; neu Family Planning yn rhan o

HEDDLU ARBENNIG TREORCI

gynulleidfa leol yn Theatr y Parc a’r Dâr. Gwelwn a chlywn ein hunain ar y llwyfan a mwynhau’r cyfle i chwerthin am ein pennau ein hunain mewn sefyllfaoedd oedd yn ddoniol heb fod yn faleisus mewn unrhyw ffordd.

Ysgrifennodd Frank dros 30 o ddramâu a sawl pantomeim llwyddiannus lle y câi hwyl arbennig yn cymryd rhan y Dame. Gweithiodd gyda chwmni’r Parc a Dâr ac wedyn y Sherman, Caerdydd cyn sefydlu Grassroots, ei gwmni ei hun. Fel actor cafodd brofiad helaeth gan gynnwys tymor yn Llwydlo [Ludlow] yn actio Syr Andrew yn Twelvthe Night a Philario yn Cymbeline gan William Shakespeare o dan gyfarwyddyd yr enwog Michael Bogdanov. Teyrnged ffrind Dyma a ddywedodd un o’i ffrindiau agosaf, Mari Arnold, Ton Pentre, amdano.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd gan yr Heddlu Arbennig rôl bwysig i'w chwarae yn lleol. Anfonwyd y llun hwn atom gan Mrs Tegwen Jones Stryd Bute, Treorci, sef llun o arolygwyr Cangen Treorci yn 1945. Mae ei thad yng nghyfraith, Tom Jones y Barber yn eistedd yr ail o'r dde yn y rhes flaen. Ar ei ochr dde mae Mr Fred Evans, Stryd Stuart. Rhowch wybod inni os ydych chi'n 'nabod eraill yn y llun.

Tristwch mawr oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Frank Vickery, un o ddramodwyr gorau Cymru. Roedd ganddo athrylith i sgrifennu comedi a’r gallu i’n goglais yn ddi-ffael. Roedd yn perthyn i’r dosbarth gweithiol a chrwydrodd e erioed yn bell o’r gwreiddiau roedd e mor falch ohonynt. Meddai ar y gallu hefyd i newid cywair a thrafod pynciau difrifol gyda rhai yn ei gymharu ag Alan Bennett oherwydd ei ddawn i greu cymeriadau cofiadwy a llunio sefyllfaoedd cymhleth. Welwn ni mo’ debyg eto. Heddwch i’w lwch!


gennych ddiddordeb, mae croeso ichi alw heibio yn yr Ysgol Gynradd, Heol Glyncoli unrhyw nos Fewrth neu nos Iau rhwng 7-9pm. Bydd Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg yn cynnal ei harddangosfa flynyddol rhwng 4-12 Awst yn neuadd 'Too Good To Waste', sef yr hen ysgol gynradd gynt. Mynediad am ddim. Pob dymuniad da i Mrs Betty Rees, Stryd Regent sydd yn ôl yn yr ysbyty. Mae Betty wedi dioddef o afiechyd difrifol ers rhai blynyddoedd ac mae ei ffrindiau'n dymuno iddi bob cysur ac adferiad buan. Nos Iau, 5 Gorff. clywodd aelodau WI Treorci ddarlith ddid-

8

dorol ar Ruth Ellis, y wraig olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain. Ar ddydd Llun cynta'r mis bu aelodau Henoed Treorci ar daith i Weston Super Mare. Mawr yw eu diolch i Eira Richards a wnaeth y trefniadau. Yn ystod Gŵyl Treorci, bu disgyblion sy'n dilyn cyrsiau Perfformio Creadigol yn yr Ysgol Gyfun yn cyflwyno sioe 'Dance Back to Broadway' yn y Parc a'r Dâr. Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio a chefnogaeth ardderchog gan fand pres a cherddorfa'r ysgol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.

CWMPARC Llongyfarchiadau calonnog i'n gohebydd lleol, Nerys Bowen ar ennill gradd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg Proffesiynol ac Addysg ym Mhrifysgol De Cymru. Pob llwyddiant i'r dyfodol. [Gol.] Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol y Parc am ddod yn ail yn y gala nofio yn ddiweddar, ac am ddod yn ail yn nhwrnament pêlrwyd y Rhondda.

at glywed am eich llwyddiant ar ol gwyliau'r haf.

Mae Cyngor Eco Ysgol y Parc wedi bod yn brysur yn ystod tymor yr haf. Ymwelon nhw ag Ysgol Gyfun Treorci i ddysgu am effaith plastig yn ein cefnforoedd. Rhannon nhw'r wybodaeth gyda gweddill eu hysgol, yn ogystal ag ymweld ag Ysgol Hen Felin, a gweithio ar brosiect ailgylchu plastig gyda nhw. Mae'r ysgol Pob lwc i'r ddisgy- wedi cael ei henwebu am wobr 'Bro blion a safodd eu harholiadau corned. Garwyr Tra Mad' gan Edrychwn ymlaen


Cadwch Gymru'n Daclus. Pob lwc bawb!

PENTRE

Aeth aelodau Ysgol Sul Byddin yr Iachawdwriaeth ar eu gwibdaith flynyddol ddydd Sadwrn, 16 Mehefin a chael amser da ar lan y môr. Wedyn, ar y Sul aeth nifer o'r aelodau i gartref gofal Pentwyn i gan emynau yng nghwmni'r preswylwyr. Gwerthfawrogwyd hyn y fawr iawn gan bawb yno. Da yw gweld bod Alan Curtis, gynt o Stryd Margaret, wedi ei benodi'n Rheolwr Cynorth-

gyflwyno adloniant o safon inni dros y cyfnod hwn. Cynhaliwyd Garddwest Eglwys Ioan Fedyddiwr ddydd Sadwrn, 23 Mehefin mewn tywydd delfrydol. Denodd nifer fawr iawn o bobl a ddaeth allan i fwynhau'r prynhawn heulog. Un o'r atyniadau mwyaf oedd perfformiad Band Pres Rhondda Uchaf o TON PENTRE A’R dan arweiniad Jayne Thomas yn chwarae GELLI Cafwyd gwledd o ganu amrywiaeth o'r hen ffea dawnsio yn Theatr y frynnau. Chwaraeon nhw 'Pen Blwydd Ffenics yn ddiweddar Hapus' i Mrs Gwyneth pan berfformiwyd y sioe 'The Little MerHarry oedd yn digwydd maid' gan gwmni bod yn dathlu ar y diieuenctid Act 1. Eleni wrnod. Mae'r Tad mae'r cwmni'n dathlu Haydn am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth. 10 mlynedd ers iddo Tristwch oedd derbyn y gael ei sefydlu a mawr yw ein diolch iddynt am newyddion am farwyol gan glwb pêldroed Abertawe. Alan yw un o wasanaethwyr ffyddlonaf y clwb a da yw gweld ei gyfraniad yn cael ei gydnabod gan y rheolwr newydd. Pob lwc iddo wrth i'r 'Swans' frwydro am ddyrchafiad yn syth yn ôl i'r Uwchadran.

wolaeth Mr Graham Thomas, Heol Maendy yn dilyn cystudd byr. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu profedigaeth. Pob dymuniad da i Mr Gordon Richardson o Dŷ Ddewi sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gobeithio ei weld yn ôl ymhlith ei ffrindiau'n fuan. Bydd adloniant yn cael ei drefnu bob nos Fawrth yn nhafarn y Windsor yn ystod misoedd yr haf. Croeso i bawb.

9


Y Fawr a'r Fach Straeon o'r Rhondda

Brynhawn Gwener, 28 Gorff. yn Llyfrgell Treorci, lansiwyd cyfrol newydd Siôn Tomos Owen i ddysgwyr Cymraeg, 'Y Fawr a'r Fach Straeon o'r Rhondda' yng nghwmni'r AC lleol, Leanne Wood. Siôn ysgrifennodd y storïau ac ef a dynnodd yr holl luniau yn ogystal. Cafodd ei holi gan Leanne am sefyllfa'r Gymraeg yn Nhreorci ac wedyn darllenodd e ddwy o'r storïau, y naill am y sgiw yn Ysgol Ynyswen a'r llall wedi ei lleoli ym Mhenygraig. Cyhoeddir y gyfrol gan Wysg y Lolfa, pris £5.99.

GWYL GELF Y RHONDDA Yn rhan o Ŵyl Gelf y Rhondda, cafwyd darlith â lluniau hynod ddiddorol gan yr hanesydd celf, Peter Lord, yn High St Social, Treorci. Ei fwriad oedd olrhain hanes celfyddyd yng Nghymru trwy gyfrwng 13 o ddarluniau. Dechreuodd yn y Canol Oesoedd cynnar a dilyn dylanwad uchelwyr, y dosbarth canol a'r werin weithiol yn eu tro cyn troi at dwf cenedlaetholdeb a ffeministiaeth. Mewn darlith heriol galwodd ar Gymru i sefydlu oriel a fyddai'n adrodd ei stori unigryw ei hun trwy lygaid artistiaid pob oes. Roedd yn braf cael cyfle i fwyta, cymdeithasu â thrafod celfyddyd yn awyrgylch cydnaws High St Social.

10


y gloran

2018

Cofeb Pwll y Maindy

DATHLU LLWYDDIANT JASMINE Llongyfarchiadau gwresog iawn i Jsamine Allsion o Fl 11, sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ei chais i fynychu cwrs preswyl 'Datblygu Peirianneg' yng Nghaergrawnt yn ystod gwyliau'r Haf. Bwriad y cwrs yw ysbrydoli merched i ddilyn gyrfa ym maes Peirianneg a'r Gwyddorau. Camp arbennig iawn Jasmine - llongyfarchiadau a phob dymuniad da i ti yng Nghaergrawnt!

YSGOL CYMER RHONDDA

YN Y RHIFYN HWN..

Cadair Caerdydd...1/3 Golygyddol..2 David Davies..4 Newyddion Lleol..5 ...ac 8-9 Byd Bob/ Frank Vicary yn marw/ 6-7 Heddlu Treorci 9 Gwyl Celf y Rhondda..10Ysgolion..11 Helynt y Meini12.

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

LLONGYFARCHIADAU I TAYLOR Llongyfarchiadau gwresog i Taylor Griffiths o Flwyddyn 8 ar ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth 'Cogurdd' Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon. Bydd Taylor yn cynrychioli'r rhanbarth yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd mis nesaf. Da iawn ti Taylor! 11


HELYNT MEINI'R ORSEDD

Pan gafodd Davies Homes ganiatâd cynllunio i godi tai yn ymyl meini'r orsedd ger Heol Pentwyn, Treorci dywedwyd taw nhw fyddai'n gyfrifol am dorri'r glaswellt a chadw'r safle'n daclus. Derbyniwyd yr amod hon gan y cwmni i ddechrau, ond wedyn dechreuon nhw esgeuluso'r

safle a bu rhaid i drigolion y stryd dalu'n breifat i wneud y gwaith. Oherwydd pwysau gan y cynghorwyr lleol, ymgymerodd Cyngor RhCT â'r dasg am rai blynyddoedd er nad oedd y safle wedi ei fabwysiadu ganddynt. Gyda'r cwtogi llym a ddaeth yn sgil polisïau'r llywodraeth

yn Llundain, roedd llai o arian ar gael gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd i'w rannu rhwng yr awdurdodau lleol, O ganlyniad, penderfynodd RhCT na allai barhau â'r trefniant ac unwaith eto eleni perchnogion y tai sy wedi gorfod mynd i'w pocedi. Y Meini

Codwyd y cylch o feini ar gyfer unig ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r Rhondda yn 1928. Ers hynny bu'n un o nodweddion amlycaf Treorci ac yn gyrchfan i ymwelwyr â'r ardal. Oherwydd helyntion Eisteddfod Treorci a'r beirdd, llenorion a gwleidyddion amlwg a gysylltir â'r achlysur, mae'r safle wedi denu ymwelwyr yn gyson. Eleni yn barod, gwyddom fod cymdeithasau o Sir Benfro, Caerdydd a Cheredigion wedi galw heibio ac yn sicr mae'r safle'n rhan bwysig o dreftadaeth y cwm. Teimlir felly y dylid sicrhau bod y safle'n cael ei gadw mewn cyflwr derbyniol yn hytrach na bod yn destun cywilydd i drigolion lleol a'r Cyngor. Y cwestiwn yw pwy a ddylai dalu, ai preswylwyr y stryd, Cyngor RhCT neu Davies Homes? Os oes cytundeb â'r adeiladwyr, nhw yn sicr sy'n gyfrifol a dyletswydd y Cyngor yw rhoi pwysau cyfreithiol arnynt i gyflawni'r gwaith. Byddai hyn yn deg â thrigolion y tai ac yn sicrhau nad yw cyflwr gwael y safle'n adlewyrchu'n anffafriol ar Gyngor RhCT sydd, yn anorfod, yn mynd i gael ei feio am esgeuluso safle hanesyddol pwysig. Rhaid gobeithio y bydd gweithredu'n fuan, ond yn y cyfamser rhaid diolch i drigolion y stryd am arddangos gradd o falchder dinesig fel y gwelir yn y lluniau. Diolchwn am eu haelioni. ond ni ddylid gorfod dibynnu ar eu caredigrwydd i gynnal un o henebion pwysicaf yr ardal.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.