y gloran
20c
Dechrau Canu Dechrau Canmol Bydd wynebau newydd a chyfarwydd yn dod ynghyd i gyflwyno un o gyfresi hynaf S4C ar ei newydd wedd nos Sul, 4 Chwefror ar S4C.
Mae’r gyfres grefyddol Dechrau Canu Dechrau Canu wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C ers 1989, ond o hyn ymlaen bydd pump cyflwynydd newydd yn ymuno âr rhaglen.
Yn eu plith mae cyflwynydd BBC News at Ten, Huw Edwards, a’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens sydd wedi dweud yn y gorffennol mai’r emyn ‘Mor Fawr Wyt Ti’ yw’r gân olaf mae’n gwrando arni cyn camu ar y cae.
Y cyflwynydd Lisa Gwilym, yr actor a cherddor Ryland Teifi a’r cyflwynydd Nia Roberts, sydd wedi cyflwyno’r gyfres yn y gorffennol, sy’n cwblhau’r rhestr.
Mae’r gyfres yn cynnwys canu mawl mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru a chyfweliadau gyda phobl am eu ffydd a chredoau. Bydd rhaglenni arbennig yn ystod y flwyddyn yn nodi’r dyddiadau pwysig yn y calendr crefyddol ac achlysuron cenedlaethol.
Mi fydd rhaglen gynta’r gyfres yn dilyn y thema rygbi i gyd-fynd a
Phencampwriaeth y Chwe Gwlad 2018. Owain Arwel Hughes fydd yn arwain y canu cynulleidfaol sy’n dod o Eglwys Dewi Sant, Castell Nedd. Bydd sgyrsiau gyda’r sylwebydd rygbi Alun Wyn Bevan ac arweinydd Côr y Gleision, Richard Vaughan yn ogystal â chyfweliad gyda Manon a Gwenan Gravell, merched y diweddar Ray Gravell. Meddai Amanda Rees, Cyfarwydd Creadigol Cynnwys S4C, “Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn un o gonglfeini gwasanaeth S4C ar nos Sul. Mae’n
gyfle i ddathlu’r traddodiad mawl a chanu arbennig sy’n ein nod weddu ni fel gwlad, yn ogystal â chyfle i gael sgyrsiau difyr gydag amrywiaeth o bobl am eu profiadau ysbrydol a’r gwerth oedd moesol sy’n bwysig iddyn nhw. Mi fydd hi’n braf iawn cael gweld y cyflwynwyr newydd ar y sgrin ym mis Chwefror, gyda phob un ohonyn nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol a chyffrous i’r gyfres.”
AELWYD YR URDD TREHERBERT Gweler Tudalen 6
Bu dechrau'r flwyddyn yn adeg bryderus i nifer o deuluoedd yn yr ardal wrth i Fwrdd Iechyd Bro Taf gyhoeddi ei fod yn mynd i gwtogi nifer y lleoedd sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o dementia yn Ysbyty George Thomas, Treorci. Eisoes mae llawer o gleifion wedi gorfod symud o'r ysbyty wrth i ddwy ward gau, Ward Dinas yn haf 2016 a Ward
2
Fernhill ym mis Rhagfyr y llynedd. Cyhoeddir nawr y bydd Ward Cambrian, lle y gofelir am 14 o gleifion ar hyn o bryd, yn eu dilyn yn ystod y chwe mis nesaf. Dywedodd swyddogion y Bwrdd eu bod yn cydweithio'n agos â theuluoedd y cleifion hyn er mwyn gweld pa fath o gefnogaeth fydd ei hangen arnynt i ddarparu ar gyfer y
Cynllun gan High Street Media
golygyddol
cleifion. Darparu gofal yn y cartref a'r gymuned yw nod y Bwrdd yn y pen draw ac i'w galluogi i wneud hyn byddant yn penodi rhagor o arbenigwyr yng nghlefydau'r meddwl gan gynnwys ymgynghorwyr dementia a nyrsys y gobeithir eu lleoli yn syrjeris ein meddygon teulu. Gyda'r hep hwn, gobeithir y bydd llawer o ddioddefwyr dementia'n
gallu derbyn gofal gan eu teuluoedd. Dadleuir y byddant yn hapusach yn eu cynefin yn derbyn gofal gan bobl sy'n gyfarwydd iddynt. Ar bapur, mae hyn yn ymddangos yn rhesymol, ond mae unrhyw un sy wedi cael profiad o ofalu am berthynas sy'n dioddef o dementia'n gwybod ei fod yn waith anodd. Wrth i gyflwr cleifon waethygu, gall eu natur newid yn
sylfaenol gan beri iddynt droi'n ymosodol neu ddechrau crwydro. Yn Ysbyty George Thomas roedd modd eu cyfyngu i'r adeilad ac roedd staff arbenigol wrth law i ddelio ag unrhyw argyfwng a godai. Y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn yw a fydd y cymorth hwn ar gael ar yr adeg y mae ei angen i ofalwyr yn eu cartrefi. Oes adnoddau digonol ar gael i ymateb i'r annisgwyl? Rhaid i'r Bwrdd Iechyd
egluro'n fanwl sut y byddant yn ymateb i'r llu o broblemau ymarferol sy'n siwr o godi Yn anffodus, wrth ofyn i deuluoedd gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu perthnasau, rhaid cydnabod bod llai o gefnogaeth ymarferol ar gael yn ein cymunedau nag oedd tan yn gymharol ddiweddar wrth i ganolfannau dydd gau. Roedd y rhain yn darparu gweithgareddau oedd yn rhoi cyfle i ofalwyr
gael seibiant a chynnig cyfle i'r cleifion gael awr neu ddwy o adloniant y tu fa's i'w cartrefi. Dyw'r cyfleoedd hynny bellach ddim yn bod. Rhaid hefyd ofyn, gyda holl brinder arian y Gwasanaeth Iechyd, sut y bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn cael ei ariannu heb beri i adrannau eraill o'r gwasanaeth ddioddef? Mae llawer o gwestiynau i'w hateb ac mae'r cyhoedd yn disgwyl atebion. Golygydd
2018
y gloran
YN Y RHIFYN HWN .
Dechrau Canu...1 Golygyddol...2/3 Ar Drywydd Pysgod ...4/7/9 Newyddion Lleol ...5 a 7-8-9 Byd Bob/ Aelwyd yr Urdd...6-7 Tai Bach Treorci...10 Ysgolion...11 ...12
3
AR DRYWYDD Y PYSGOD MAWR parhad ar dudalen 7
Islwyn Jones yn parhau hanes ei daith bysgota i Ganada Wedi pysgota am samwn pinc am ein tri diwrnod cynta ar Afon Fraser, a chael cryn dipyn o lwyddiant, penderfynnodd Istvan y byddem yn mynd ar ôl pysgod tra gwahanol drannoeth-fe fyddem yn pysgota am stwrsiwn(sturgeon). Fel y crybwyllais y tro dwethaf roedd tua 40,000-50,000 ohonynt yn y Fraser. Mae’r stwrsiwn yn bysgodyn cyntefig iawn - pysgodyn cartilagenous, heb esgyrn. Mae’r stwrsiwn yn gallu byw am ganrif a hanner, tyfu hyd at 10 troedfedd o hyd a chyrraedd pwysau o dros 4
600 pwys. Anghenfil yng ngwir ystyr y gair! Yn Rwsia mae’n nhw’n cael eu pysgota’n ddidrugaredd ar gyfer eu hwyau, sef cafiar sy’n cael eu gwerthu am grocbris. Mae’r stori’n wahanol yng Nghanada lle daw miloedd o bysgotwyr o bob cwr o’r byd i’w dal a’u rhoi yn ôl i’r afon heb eu niweidio. Mae’r stwrsiwn wedi’i ddiogelu gan gyfraith gwlad ac mae cosb lem i unrhywun sy’n eu niweidio. Sut ar y ddaear mae dal yr anghenfilod yma? Roedd 'da Istvan sawl gwahanol abwyd i’w temptio. Yng nghefn y bad roedd pedair gwialen hynod o gryf. tua 8 troedfedd o
hyd, rîl fawr a llinyn cryf â dros 500 pwys o straen arni. Wedyn, blaenllinyn cryf iawn, bachyn mawr a phwysau plwm rhyw 3 troedfedd o’r bachyn. Mae’r stwrsiwn yn bwydo ar eogiaid-byw a marw. Ar y bachyn,fel abwyd dodid naill ai wyau'r eog wedi’u lapio mewn mwslin i’w cadw ar y bachyn, pen eog ffres ac yn olaf, beth a elwid yn 'stink bait' cnawd pwdwr eog. Galla' i ddweud wthych fod yr enw stink bait yn ei gyfleu i’r dim. Am ddrewdod!! Dodid y stink bait ar y bachyn trwy ddefnyddio menyg rwber i’w gosod. Felly, dyna’r amrywiaeth o ddanteithion oedd ar gael
i’r stwrsiwn petaem yn digwydd dod ar eu traws. Mae’r stwrsiwn yn bwydo ar waelod yr afon, weithiau mewn dyfnder hyd at 60 troedfedd.Felly, gyda help peirant sonar ar y bad a’i wybodath o’r afon, fe wyddai Istvan lle i fynd er mwyn eu dal. Gêm hollol wahanol oedd hon. Y frwydr fawr Rhaid oedd cael amynedd pygotwr. i Istvan â’r bad i fan lle y tybiai fod y pysgod, lluchio’r abwyd ynghlwm â’r pwysau i’w gadw ar y gwaelod, gadael iddo suddo-ac wedyn doedd dim i’w wneud ond aros yn
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Roedd croeso mawr unwaith eto yn aros ein ffrindiau o Stobswell ger Dundee pan arhoson nhw yn Nhreherbert ar gyfer gêm ryngwladol Cymru yn erbyn yr Alban. Ar y nos Wener cyn y gêm chwaraeodd Treherbert yn erbyn tîm o Stobswell gyda Threherbert yn ennill 28 i 24. Dyma’r 47fed tro i’r gêm gael ei chwarae, Yn dilyn y gêm cynhaliwyd noson gymdeithasol yng nghlwb Rygbi Treherbert gydag aelodau Côr Meibion Treorci yn arwain y canu.
Mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu 32 o dai tu ôl i Delwyn Terrace, Blaenycwm. Dyma’r datblygiad mwyaf ym mhen uchaf y Rhondda am nifer o flynyddoedd. Mae’r datblygiad yn cynnwys tai teras a thai unigol gyda dwy, tair neu bedair o ystafelloedd gwely.
Llongyfarchiadau i gynaelod o Glwb Bechgyn a Merched Treherbert ,Tomas Williams sydd wedi ei gynnwys yng ngharfan tîm Rygbi Cymru. Ar hyn o bryd mae
Tomas yn chwarae fel mewnwr i’r Gleision. Mae Tomas, sy'n athletwr penigamp , eisoes wedi cael cap rhyngwladol wrth chwarae pêl rhwyd dros Gymru yn ei arddegau. Gobeithio y bydd yn ennill ei gap rhyngwladol rygbi cyn bo hir.
Cofiwch wylio ‘All Together Now‘ ar BBC 1 ar nos Sadwrn ar 7.15 lle mae Rachel Stephens o Eileen Place yn cystadlu. Mae Rachel yn gantores arbennig ac mae pawb yn dymuno pob lwc iddi. Yn dilyn ei llwyddiant wrth gyrraedd yr 8 olaf yn yng nghystadleuaeth Dartiau’r Byd mae’r Maer, y Cynghorydd Margaret Tegg wedi gwahodd Wayne Warren i dderbyniad arbennig ym mharlwr y Maer.
Cynhelir gwasanaeth Cwrdd Gweddi Merched Byd Eang yng nghapel y Wesleaid, Treherbert ar 2 Mawrth am 2.30 yn y prynhawn. Y siaradwr fydd Dorothy White o Gwmparc . Croeso cynnes i bawb. Cynhelir Noson Gymreig yng Nghapel y
Wesleaidd am 7 o’r gloch ar 22 Chwefror i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r tocynnau yn £5 ac yn cynnwys adloniant, cawl a theisennau. Tocynnau ar gael ar 772375
Mae'n flin cofnodi marwolaeth y cyn-Gynghorwr Jeff Williams o westy’r Baglan. Roedd Jeff yn gweithio fel cyfrifydd ac yn gynghorwr ar Gyngor Rhondda Cynon Tâf o 2004 i 2008. Yn y blynyddoedd diwethaf roedd e’n cadw Gwesty’r Baglan - tafarn sydd wedi perthyn i’r teulu am nifer fawr o flynyddoedd. Cydymdeimlwn â'r teulu i gyd yn ei golled.
Hefyd, bu farw un o gewri Clwb Rygbi Treherbert, Victor Townsend o Rheidol Close. Roedd Vic wedi treulio ei yrfa weithiol yn y diwydiannau glo a dur ond fel chwaraewr rygbi roedd e’n ysbrydoli cenhedlaethau o fechgyn. Roedd Vic yn fachwr i dîm cyntaf Treherbert am nifer fawr o flynyddoedd ac fe oedd Llywydd presennol y clwb. Cydymdeimlwn â’i
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre:
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
wraig Marilyn a’r plant Meryl a Dean a'r holl deulu yn eu profedigaeth Ar ôl cystudd byr, bu farw Cheryl Roberts o Stryd Dumfries Treherbert. Roedd Cheryl yn adnabyddus yn y gymuned a bydd colled fawr ar ei hôl. Cydymdeimlwn â'i gŵr Allan a’i phlant Claire, Michelle a Jamie yn eu colled.
TREORCI
Bu bawb.Cynhaliwyd cyfarfod, nos Lun 5 Chwefror gan Ffrindiau Parc Treorci gyda'r bwriad o ddenu gwirfoddolwyr er
PARHAD ar dudalen 8
5
Weithiau mae'r camera'n dal i ffilmio hyd yn oed yn y gell lle maen nhw'n mynd i dreulio'r nos.
BYD BOB
Mae Bob yn hoff iawn o gŵn, ond y tro hwn profodd i fod yn ddrud iawn iddo!
6
Rwy'n treulio awr neu ddwy o flaen y teledu bron bob nos. Yn y bore, mae'n well 'da fi fod allan yn yr awyr agored yn cerdded gyda chi bach sy'n perthyn i ffrindiau. Rwy'n mynd â'r ci adref tuag un o'r gloch ac yna rwy'n mynd i gael pryd o fwyd mewn caffi lleol ar y stryd fawr yn Nhreorci. Yn y prynhawn, rwy'n hoffi treulio amser yn y llyfrgell yn gwrando ar fiwsig clasurol, jazz neu 'pop' ar 'Youtube'. Ar ddiwedd y prynhawn rwy'n siopa ar fy ffordd adref, ac yna rwy'n setlo lawr mewn cadair freichiau i ddarllen llyfr am ddwy neu dair awr cyn swper. Felrydych chi'n gweld, mae fy mywyd yn eithaf tawel. Dyna pam, efallai, rwy'n dewis gwylio rhaglenni cyf-
frous ar y teledu. Un o fy ffefrynnau yw 'Police Interceptors' sy'n ymddangos ar Sianel 5 unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Mae'r ceir heddlu'n cario camera, felly rwy'n gallu dychmygu fy mod i'n dilyn troseddwyr gyda'r pismyn. Rywsut, mae tîm camera'n dilyn yr helfa ac yn recordio'r troseddwyr yn cael eu dal a'u resio os ydy pethau'n mynd yn dda. Wrth gwrs, dydy'r heddlu ddim yn ennill y dydd bob tro. Weithiau mae'r troseddwyr yn llwyddo i gyrraedd ardal sy'n gyfarwydd iawn iddyn nhw. Yna, maen nhw'n neidio o'r car a diflannu i mewn i dywyllwch coed neu lôn gefn.
Wrth gwrs, rwy'n arfer gweld pob digwyddiad o safbwynt y cyhoedd. Dydw i ddim yn treulio fy mywyd yn torri'r gyfraith, ac felly dydw i ddim yn ofni gweld car heddlu wedi ei barcio yn fy stryd neu'n gyrru y tu ôl i fi pan dw i allan am dro yn y car. Hefyd, dydw i ddim yn deall pan fydd troseddwr ond yn cael rhybudd am gario arfau yn ei gerbyd neu'n rasio'n beryglus drwy ddinas lawn o bobl.
Ond yn ddiweddar mae fy sefyllfa wedi newid dipyn. Y dydd o'r blaen, fe ges i ddirwy o ganpunt gan Gyngor RhCT. Ches i ddim rhybudd am fod fy nhrosedd yn rhy ddifrifol. Roeddwn i wedi cerdded gyda chihuahua bach heb dennyn ym mynwent Trealaw. Rwy'n gweld y gwahaniaeth ynof i'n Mae popeth yn y rhabarod. Rwy'n dechrau glenni yn fy niddori i meddwl fel John gweld sut mae'r trosedDillinger ac mae Lady, dwyr yn cuddio cyffuy chihuahua, yn edrych riau ac arfau mewn car, fwyfwy fel bull terrier cegin neu atig; sut maen Bill Sykes bob dydd! nhw'n ymddwyn pan gânt eu restio ac wedyn yn swyddfa'r heddlu os ydy'r achos yn ddifrifol.
AELWYD YR
URDD
TREHERBERT
Newydd ei sefydlu mae Aelwyd Cwm Rhondda ym mhen ucha'r cwm. Sefydlwyd yr aelwyd ym mis Ionawr eleni gyda'r bwriad o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Dim ond tua 8 o aelodau sydd ar hyn o bryd ond ein gobaith yw ehangu ar gyfer y flwyddyn nesaf fel ein bod yn gallu cystadlu mewn nifer o gystadlaethau grŵp gwahanol. Ar hyn o bryd, fel grŵp, rydym am gystadlu yn yr ensemble lleisiol a'r parti llefaru. Dyma'r swyddogion Cadeirydd - Seren Hâf MacMillan Is-Gadeirydd - Rachel Stephens Ysgrifennydd- Taylah James Trysorydd - Thomas Tudor Jones Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol - Dylan Davies. Rydym yn cwrdd bob nos Iau yn y CF42 (caffi yn Nhreherbert) lle rydym yn derbyn croeso cynnes iawn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n wych bod cyfle gyda ni i siarad Cymraeg yn gymdeithasol.
AR DRYWYDD Y PYSGOD MAWR parhad
amyneddgar. Roedd y pedair gwialen gyda’i hamrywiaeth o abwydydd wedi’u gosod mewn rhes wrth gefn y bad, a'r rheini’n gorffwys mewn rod holders arbennig. Byddai un o’r pedwar pysgotwr yn cymryd tro i afael yn y wialen petai stwrsiwn yn digwydd cael ei ddenu. Doedd dim rhaid aros yn rhy hir cyn y cymerwyd yr yr abwyd ar un o’r gwialennod. Gwelwyd blaen y wialen yn symyd fymryn, yna clwid clic y ril wrth i’r stwrsiwn gymeryd yr abwyd a throi gydag e. Bryd hynny roedd yn ofynnol i’r pysgotwr ruthro at y wialen, ei chodi’n sydyn-y streic a rilio’n gyflym er mwyn gosod y bachyn yng ngheg y pysgodyn. Anton, un o’n criw oedd y cyntaf i gael tro, a phan blygodd y wialen drwchus fel brwynen wrth iddo ymladd â'r anghenfil ar y pen arall, roedden ni’n gwybod bod na frwydr i ddilyn. Clymodd Istvan wregus o gylch Anton, a lle yng nghanol y gwregus i ddodi gwaelod dolen y wialen ynddo (Fighting Harness).Rhaid oedd plygu’n galed er mwyn ymladd yn erbyn y pysgodyn a’i flino. Haws dweud na gwneud. Aeth y pysgodyn ar ruthr a gwelsom ef yn dod i’r wyneb rhyw ganllath o’r bad. Roedd e'n rhyw 5 troedfedd a hanner o
hyd.
Dechreuodd Istvan beiriant y cwch er mwyn dilyn y pysgodyn.Wedi ugain munud o frwydro caled deuwyd â’r stwrsiwn i ochr y bad, ei ddadfachu a’i adael yn rhydd i dyfu’n fwy. Roedd Anton yn crynu ac yn chwys diferu ar ôl y frwydr.Y pysgodyn mwyaf a ddaliwyd oedd un 6!8” o hyd a 300pwys.J ohn ddaliodd hwnnw gyda thipyn o help gan bawb gan i’r pysgodyn ymladd mor galed. Aethon ni â’r bad i mewn i ddwr bas ar ôl dros hanner awr o frwydro, tynnu llun, a’i ddodi nôl yn nyfroedd y Fraser i fyw am hanner can mlynedd arall. Fel y crybwyllais, mae’r stwrsiwn yn perthyn i’r un teul;u â’r siarc gyda sgerbwd cartlag. Mae ei geg ar ochr isaf ei ben. Maent yn dibynnu ar arogl er mwyn canfod eu hysglyfaeth, ac yn bwydo yn y dyfnderoedd. Doedd yr un ohonom wedi profi pysgota fel hyn o’r blaen.
Cylch Natur Wrth inni bysgota am y stwrsiwn ac wrth i’r wythnos fynd yn ei flaen, fe sylwon ni ar fwy a mwy o samwn marw a hanner marw yn yr afon. Mae pob samwn pasiffig yn marw ar ôl deor. Roedd adar ac anifeiliaid yn manteisio ar y cyfle i fwydo ar y wledd
a ddarperid.Trist oedd gweld y pysgod hardd yma’n marw wedi deor, ond mae hyn yn rhan hanfodol o gylchrediad natur yn y rhan yma o’r byd. Roedd llawer o anifeliaid yn dibynnu ar y wledd hon i’w galluogi i oroesi’r gaeaf caled pan fyddai bwyd o unrhyw fath yn brin iawn. Gellid gweld eryrod yn ymgynnull yn y coed o gwmpas yr afon. Byddent yn manteisio ar y cyfle i ddisgyn i lan yr afon er mwyn gwledda ar y pysgod marw.Profiad arbennig oedd gweld yr adar yma’n ymgynnull yn eu niferoedd. Soniodd John na welodd arth erioed yn yr holl amser y bu draw yng Nghanada. Serch hynny,un diwrnod wrth inni bysgota oddi ar y lan, siarsopdd Istvan inni fod yn wyliadwrus wrth bysgota, gan fod teulu o eirth wedi’i weld yn y coed y tu ôl inni-ryw ugain llath o’r fan lle y pysgotem. Darbwyllodd Istvan ni trwy ddweud taw eirth du oedd y rhain ac na fydden nhw'n unrhyw fygythiad inni. Stori hollol wahanol fyddai petaen nhw di bod yn grizzlies. Mae'r rheini’n gallu bod yn hynod o beryglus. Yng Nghanada mae na bobol yn cael eu lladd ganddynt bob blwyddyn. Fel mae’n digwydd, welson ni ddim eirth, ond roedd digon o arwyddion o’u presenoldeb mewn llawer i fan.Cyrff pysgod
a’r cnawd wedi’i gymeryd yn llwyr oddi ar yr esgyrn. Pen,cwt ac asgwrn cefn hollol lan yn cysylltu’r ddau. Fe fyddai wedi bod yn dda cael gweld eirth, ond mewn ffordd, o’n i’n falch na cheson ni’r profiad.!
Indiaid Cochion
Wrth bysgota ar y diwrnod cyntaf fe welson ni – ryw ddau can llath i ffwrdd, gwch yn mynd allan i ganol yr afon a dynion ar y lan yn tynnu rhwyd. Wrth inni holi Istvan, esboniodd taw pobol gynhenid yr ardal y ‘First Nation‘ Indiaid cochion oedden nhw. Câi'r rhain yr hawl i bysgota ac i ladd yr eogiaid a’u gwerthu. Byddent ond yn gallu pysgota ar ddydd Sadwrn a Sul. Roedd hefyd hawl ‘da nhw i hela eirth a cheirw. Nhw oedd yr unig rhai allai ladd eogiaid afon Fraser. Dwedodd Istvan eu bod yn cymryd yr eogiaid benywaidd ac yn gwerthu eu hwyau fel math o caviar i’r Siapaneaid am lawer o arian. Wel, chware teg iddyn nhw, ar ôl cymaint o erlid yn eu hanes, da oedd gweld y llywodrath yn rhoi hawliau cyfreithiol iddyn nhw i barhau i fyw oddi ar y goedwig a’r afon fel eu cyndeidiau. Bu llai o ymladd yn erbyn y dyn gwyn gyda’r Parhad o hanes Islwyn ar waelod tudalen 9
mwyn agor y pwll padlo yn y parc. Os ydych yn barod i helpu, cewch ragor o fanylion ar https://docs.google.co m/forms/d/e/1FAIpQL SfyZhTkdlHnLBFIdTZl-w8Z7oZ4RdPqdUQSKinJfTUnT0 S-Qw/viewform
Croeso adre i Gwyn a Val Evans, Stryd Stuart, sy wedi bod yn trulio rhai wythnosau'n ymweld â'u mab uc a'r teulu yn Awstralia.
Bu farw Jeremy Bebb, Stryd Fawr ddiwedd Ionawr. Am rai blynyddoedd cyn ymddeol, bu'n gweithio yn warws Peacock ar y Cae Mawr. Ar un adeg bu'n weithgar yn y
8
Blaid Lafur ac yn cyfrannu colofn i'r papur hwn. Cydymdeimlwn â'i ffrindiau yn eu colled.
Pob llwyddiant i sioe flynyddol Ysgol Gyfun Treorci a gynhelir yn y Parc a Dâr, 13 - 15 Chwefror. Eleni perfformir sioe gerdd Cole Porter, 'Anything Goes'.
Cydymdeimlwn â Mrs Beti Williams, Stryd Fawr sydd wedi colli ei gŵr, Emrys a'i brawd John, oedd yn byw yn Newbury, o fewn ychydig amser i'w gilydd. Cydymdeimlwn â Beti a'i mab, Gareth yn eu colled. Trist yw cofnodi mar-
wolaeth David Harcombe, Stryd Dumfries. Fe'i magwyd yn Ynyshir, ond bu'n byw yn Nhreorci ers blynyddoedd. Roedd yn flaenor ym Methlehem ac yn weithgar hefyd gyda Victim Support. Cydymdeimlwn â'i blant yn eu profedigaeth.
Cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil Cancr UK cwis yn nhafarn y RAFA nos Lun, 19 Chwefror. Y cwisfeistr oedd Noel Henry a'r elw i gyd yn mynd at yr achos da hwn. Llongyfarchiadau i'n cartwnydd, Siôn Tomos Owen ar ei gyfraniadau i sioe rygbi 'Jonathan' a'i gyflwyniadau wyth-
nosol yn y gyfres 'Cynefin' ar S4C.
Cyflwynwyd addasiad o gyfres deledu Alan Bennett, 'Talking Heads' gan Players Anonymous yn y Parc a'r Dâr rhwng 6 - 9 Chwefror.
Mae ei ffrindiau yn Nhreorci'n anfon pob dymuniad da at Mr Paul Young, gynt o Young & Phillips [Cyfrifyddion], Stryd Bute sydd bellach gartref ar ôl derbyn llawdriniaeth a hefyd i Mr Graham Thomas, Stryd Regent, sydd ddim wedi bod yn hwylus yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i Tomos Williams, Stryd Colum, ar gael
ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Chwefror oedd Mr Allan Trowel a siaradodd am rai o'i brofiadau tra ar wyliau yn Nepal. Da oedd gweld Mrs Pauline Worman yn ôl wrth y llyw yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty yn derbyn llawdriniaeth. Y siaradwr yng NGhymdeithas Gymraeg Treorci, nos Iau 15 Chwefror, oedd y newyddiadurwr a darlledwr adnabyddus Alun Wyn Bevan.
Dathlwyd Dydd Sant Ffolant gan ddisgyblion Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Treorci trwy gynnal disgo.
CWMPARC
Parc Crescent a fydd yn 94 mlwydd oed ar 24ain mis Chwefror.
PENTRE
Nos Sul, 25 Chwefror bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yn Eglwys San Pedr i ddathlu Gŵyl Dewi gyda Shelley Rees Owen yn arwain. Bydd nifer o artistiaid yn cymryd rhan gan gynnwys Mike Doyle, Band Mawr DB, Claire Hingott a Lee Gilbert. Bydd yr elw yn mynd at gronfa'r eglwys.
TON PENTRE
Bydd Grŵp Theatr y Rhondda'n perfformio'r pantomeim 'Robin's Red Riding Hood' yn Theatr y Ffenics dros wythnos hanner tymor rhwng 21 23 Chwefror. Tocynnau ar gael yn y theatr £12.50 / £10.
Penblwydd hapus i Mrs Elizabeth Bowen,
Llongyfarchiadau hefyd i gwmni Act 1, o dan gy-
Indiaid cochion yng Nghanada a chafodd hyn ganlyniad positif yn y pen draw. Galluogodd hyn i’r llwythau yma gael dylanwad ar ddiwylliant Canada tra’n cadw peth o’i hunaniaeth.Dywedir bod yn
agos at i filiwn o bobl yng Nghanada o dras yr Indiaid Cochion, a bron hanner ohonynt dan 25 oed. Yn anffodus,roedd y mwyafrif llethol wedi colli’u hiaith fel canlyniad i ymgeision y gorffennol i’w ‘gwareiddio’.
farwyddyd Mr Rhys Williams, wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 10 oed. Mae'r cwmni hwn yn arbennig gan fod yr aelodau i gyd yn bobl ifainc rhwng 7 - 17 oed. Ers ei sefydlu mae'r cwmni talentog hwn wedi perfformio sioeau fel 'Les Miserables' a 'Grease' ac eleni eto maen nhw wedi diddanu cynulleidfaoedd yn Theatr y Ffenics gyda'u perfformiad o 'Dick Whittington'. Da yw gweld bod Mrs Margaret Jones, Maindy Grove, allan o'r ysbyty. Dymunwn wellhad llwyr a buan iddi hi a hefyd i Mr Ray Wilshire o'r un stryd.
Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf y Clwb Cameo yn nhafarn y Windsor gyda Rita'n cadeirio. Y siaradwr gwadd oedd y bliswraig gymunedol leol, Melanie Carpenter a siaradodd am ddiogelu'r cartref. Bydd y cyfarfod nesaf yn yr Eglwys Annibynnol
AR DRYWYDD Y PYSGOD MAWR parhad
Ond,bu tro ar fyd, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae 'na ymgais ar lawer llaw i hybu’r ieithoedd brodorol ymysg y llwythi. Nid yn unig ni’r Cymry sy’n brwydro tros ein hiaith. Daeth yr wythnos o
Saesneg ar 28 Chwefror pan ddisgwylir côr Ysgol Gynradd Ton Pentre i ganu detholiad o ganeuon Cymraeg ar gyfer Gŵyl Dewi. Bydd Cynthia Jones yn ymddeol o'i dyletswyddau gweinyddol yn Eglwys San Ioan ar 1 Ebrill. Ers 10 mlynedd Cyntia sydd wedi bod yn gyfrifol am osod y neuadd, ei hagor a'i chau ac mae pawb o'r aelodau'n ddiolchgar iddi am ei gwasanaeth dros y cyfnod hwn. Cyhoeddwyd y bydd cwmni Theatr Act 1 yn sefydlu grŵp newydd, Act 1 Iau a fydd yn darparu ar gyfer darpar actorion ifainc o 7 i 14 oed. Dymunwn bob llwyddiant i'r fenter newydd. Gofynnir i rieni sydd am ymrestru eu plant i ffonio Sue ar 01443 433164 neu ebostio ar info@act1 theatregroup.co.uk
bysgota i ben yn rhy gyflym o lawer, ond wrth adael Vancouver ar yr awyren roedd na ddigon o atgofion melys gen i wrth ddychwelyd i Gymru.
9
Tai Bach Treorci Newyddion Da
Bydd dros £110,000 yn cael ei fuddsoddi cyn bo hir yn Nhreorci er mwyn symud y tai bach cyhoeddus presennol, a'u gwella. Bydd y buddsoddiad yn cynnwys symud y tai bach i ddynion a
10
merched i'r llyfrgell gyferbyn. Bydd y rhain yn gwella amodau i'r cyhoedd, gan gynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer newid cewynnau yn nhai bach y dynion a'r menywod, toiled i bobl anabl, toiledau
gwblhau, bydd mynediad i'r cyfleusterau newydd ar wahân i'r fynedfa i'r llyfrgell. Bydd y cyfleusterau newydd ar agor rhwng 9am a 5pm ar ddydd Llun a dydd Sadwrn, a rhwng 9am a 5.30pm rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener. Byddant yn cael eu diogelu bob dydd trwy system cloi awtomatig ac yn cael eu harchwilio'n gyson gan Garfan Gofal Strydoedd y Cyngor. newydd (gan gynnwys Dros y blynyddoedd dicloriau newydd), sinwethaf, bu nifer yr ciau newydd, peiriant achosion o ymddwyn sychu dwylo a man ym- gwrthgymdeithasol bincio, lloriau newydd a mewn cyfleusterau cywaliau wedi'u rendro. hoeddus, a'u camdYn ystod y cynllun, defnyddio, ar gynnydd. sydd i ddechrau fis Mae'r Cyngor yn annog Ebrill, fydd dim rhaid i trigolion i'w hysbysu drigolion sy'n cael eu am unrhyw achosion o'r dal mewn eisiau, boeni, fath fel y gall swyddogan y bydd y tai bach gion fynd i'r afael â presennol yn parhau ar nhw cyn gynted â agor yn ôl yr arfer. Un- phosibl. waith i'r gwaith gael ei
Hijo Chang Lee, Corea ac A. Huiskes o’r Iseldiroedd yn cystadlu yn Chwaraeon Olympaidd y Gaeaf 1948 yn St Moritz y Swistir. Y Chwaraeon cyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chyn y Rhyfel yng Nghorea 1950-1953 oedd yn rhannu Corea.
YSGOLION Lloyd Macey
Ar ôl ei lwyddiant ar X Factor, fe gafodd Lloyd Macey groeso tywysogaidd yn ôl yn ei hen ysgol, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Yno y cafodd y cyfle i
Iestyn Harris
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
ymddangos ei ddawn fel canwr ac actor cyn mynd ymlaen i’r coleg. Pob dymuniad da iddo yn ei yrfa!
Llongyfarchiadau i Iestyn Harris, un o gyn-ddisgyblion Y.G. Cwm Rhondda, ar gael ei ddewis i gynrychioli tîm dan 20 rygbi Cymru ac am fod yn rhan o’r tîm a gurodd yr Alban.Mae Iestyn, sy’n fachwr, yn chwarae dros glwb Gleision Caerdydd gan ddilyn un arall o gyn-ddisgyblion yr ysgol, McCauley Cook.
11
YSGOLION Ellie Smith
Llwyddodd Ellie Smith, un o ddisgyblion Bl. 12 godi swm sylweddol o arian dros Tenovus
trwy drefnu ‘Diwrnod Gwisgo Pinc’ yn yr ysgol. Trwy ddefnyddio cynlluniau Cymorth
YSGOLION 12
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Rhodd / Gift Aid a Chyllid Cyfatebol / Match Funding, fe lwyddwyd i godi £1869.75 - ymdrech
ardderchog ar ran yr ysgol.