Gloranmehefin18

Page 1

y gloran

20c

Yn ddiweddar, soniodd ffrind wrthyf fod oriau agor Syrjeri Tynewydd yn cael eu cwtogi. Mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol mae newidiadau o'r fath, er eu bod yn creu amawsterau i rai pobl, bellach yn rhan o fywyd beunyddiol.

Dw i ddim yn byw yn Nhynewydd, ac felly fydd y newidiadau ddim yn effeithio arnaf, ond o glywed y newyddion aeth fy meddwl yn ôl yn syth i'm bachgendod, bron 60 mlynedd yn ôl. Yr adeg honno, gweithiai fy nhad fel cigydd yn Nhynewydd mewn cangen o Co-op Ton Pentre gyferbyn â chapel Ebenezer. Dyw'r siop, oedd yn un o bum cigydd yn Nhynewydd ar y pryd, ddim yn bod erbyn hyn, a phob un o'r pump, ond un, wedi cau. Arferwn fod wrth fy modd yn 'helpu' fy nhad yn y siop gan ddosbarthu cig ar gefn beic mawr, simsan i gwsmeriaid ym Mlaencwm a Blaenrhondda, yn ogystal â Thynewydd a Threherbert.

Mae gennyf atgofion melys o'r cyfnod hwnnw a chof byw o un cwsmer, er bod ei henw wedi mynd yn angof. A minnau'n fachgen, fe'i hystyriwn hi'n hen, hen iawn yn hynafol a dweud y gwir, er ei bod, yn ôl pob tebyg, yr un oed â minnau nawr neu yn iau. Galwai yn y siop bob bore Sadwrn, ond ar ôl y cyfarchion arferol troai'r sgwrs yn fwy bywiog a diddorol wrth iddi hi a 'Nhad drafod cyfres deledu fer wedi ei seilio ar nofel 'The Citadel'. Awdur y nofel oedd A.J.Cronin, awdur o fri a sgrifennodd nifer fawr o nofelau gan gynnwys rhai a ddaeth yn sail i'r gyfres deledu 'Doctor Finlay's Casebook' a ddarlledwyd gyntaf yn y 60au a'r 70au ac a adferwyd yn y 90au. Casgliad o storïau trist, doniol ac annwyl oedd hwn, yn adrodd profiadau meddyg mewn ardal wledig. Hanes meddyg oedd yn 'The Citadel' hefyd ond roedd yn hollol wahanol o ran natur. Cyfeiriai'r teitl at y sefydliad meddygol ar y pryd a ymddangosai i Cronin fel caer anorchfygol yr oedd mawr angen ei diwygio.

‘THE CITADEL’ A.J.CRONIN A’R RHONDDA

Dinoethodd y llyfr y diffygion, methiannau a llygredd oedd yn gynhenid i'r proffesiwn meddygol ar y pryd.. Pan ymddangosodd gyntaf yn 1937, Parhad ar dudalen 4


golygyddol Un o heriau mwyaf cymdogaethau blaenau'r cymoedd yw cadw eu poblogaeth. Ers cau'r pyllau glo a'n methiant i ddenu diwydiannau mawr, bu rhaid teithio neu ymadael â'r ardal i chwilio am waith. Wrth i'r ardaloedd hyn adennill eu prydferthwch naturiol daeth datblygu'r y diwydiant twristiaeth yn bosibilrwydd ac un o obeithion mwyaf y Rhondda Fawr yw gweld llwyddiant cynllun Twnnel y Rhondda. Sefydlwyd Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn 2014 gyda'r

2

Cynllun gan High Street Media

bwriad o ailagor y twnnel, 3148m o hyd, sy'n cysylltu Cwm Rhondda a Chwm Afan. Os llwyddir i wneud hyn, hwn fydd y twnnel hiraf ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn Ewrop. Pan gyhoeddwyd y bwriad i agor y twnnel a gaewyd yn 1970, teimlai llawer taw breuddwyd gwrach oedd y cynllun ond yn ddiweddar codwyd gobeithion aelodau'r Gymdeithas yn sylweddol wrth i arolwg o'r twnnel gan gwmni Balfour Beatty ddarganfod ei fod mewn cyflwr rhyfeddol o

dda - 95% cyflawn o'i stad wreiddiol. Mae'r newyddion hyn wedi rhoi hwb sylweddol i'r ymgyrchwyr sy'n sicrach nag erioed y gallan nhw gyrraedd eu nod. Yn ddiweddar, daeth rhagor o newyddion da pan gyhoeddwyd bod Northern Powerhouse Developments wedi prynu 450 erw o dir yng Nghwm Afan er mwyn datblygu Canolfan Gwyliau Antur Cwm Afan. Y bwriad yw creu menter fydd yn galluogi pobl i gyfranogi o weithgareddau corfforol heriol o bob math a rennir


golygyddol yn bedair adran a leolir ar y bryniau, yn y goedwig, hyd y llwybrau a heriau eithafol Xtreme. Cynigir sgio, beicio, campau dŵr ynghyd â heriau nerth a stamina o bob math. Mae'r cynllun yn cynnwys Plaza Canolog moethus gyda siopau, bariau, bwytai a bydd llety ar gael mewn 450 chalet a gwesty 100 stafell, gwych. Bydd yr anturiwr enwog Baer Grylls yn sefydlu Academi Oroesi yno yn ogystal. Mae'r newyddion yn hwb ychwanegol i Gymdeithas y Twnnel, oherwydd os gwireddir y freuddwyd, bydd cysylltiad uniongyr-

chol ar gael rhwng y Rhondda Fawr a Chwm Afan a bydd y ddau gwm yn elwa ar y datblygiad. Pan oedd Rheilffordd Dyffryn Taf mewn bodolaeth, roedd yn bosib teithio o Gaerdydd i Abertawe drwy'r Rhondda. Y gobaith yw sefydlu llwybr beicio ar hyd yr un ffordd, ond ar y funud does dim un ar gael trwy'r Rhondda Fawr. Mae'n bwysig bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn mynd i'r afael â hyn mewn da bryd er mwyn manteisio'n llawn ar y datblygiadau cyffrous sydd ar ddigwydd

Golygydd

2018

Mehefin

y gloran

YN Y RHIFYN HWN .

The Citadel A J Cronin...1 Golygyddol...2/3 Cronin ...4/

Newyddion Lleol ...5 ac-8-9-10 Byd Bob/ Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed...6-7 Gwyl Cwm Rhondda Treorci, Gardd,Cwis y Gloran ...11 Ysgolion ...12

3


tramgwyddodd ei gynnwys syfrdanol y proffesiwn meddygo a brawychwyd y cyhoedd gan fod yr hanes yn dangos er bod diddordebau meddygon a chleifion yn gorgyffwrdd, doedden nhw ddim bob amser yn cyd-daro. Cafodd y nofel effaith ddramatig yn syth ar y farn gyhoeddus, gan godi ymwybyddiaeth o system gofal iechyd amgen a pharatoi'r tir ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol Aneurin Bevan. Mae'n werth ei ddarllen. Llwyddais i brynu copi o Amazon am 1c - er bod rhaid imi dalu £2.80 am gludiad post!

Er ei bod yn amlwg fod gan fy nhad a'r hen wraig ddiddordeb yn y gwasanaeth iechyd, ond roedd eu diddordeb yn y gyfres deledu'n ddyfnach na hynny. Cyn troi'n awdur roedd Cronin wedi sefydlu practis meddygol hynod lwyddiannus yn Llundain. Cyn hyn roedd e wedi ei benodi'n Arolygydd Meddygol Pyllau Glo Prydain yn dilyn cyfnod pan fu'n gweithio yn Ysbyty Lleol Tredegar. Yma byddai wedi dod i gysylltiad ag Aneurin Bevan a dod i wybod am weledigaeth glowyr de Cymru am ofal iechyd a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach gan Bevan fel model ar gyfer ei Wasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Ond hyn yn oed yn gynharach yn ei yrfa, roedd Cronin wedi gweithio fel 4

‘THE CITADEL’ A.J.CRONIN A’R RHONDDA

meddyg cynorthwyol yn Nhynewydd.

Er nad oedd 'The Citadel' yn hunangofiant, roedd ynddi elfennau hunangofiannol amlwg. Cafodd lawer o brofiadau Cronin yn ystod ei yrfa ran yn y nofel a ddilynodd hynt a helynt y prif gymeriad, Dr Manson a seiliwyd yn fras ar Cronin ei hunan. Disgrifir Manson yn cyrraedd Drineffy (Treherbert / Tynewydd) ac yn cwrdd â Dr Denny, meddyg cynorthwyol mewn practis lleol arall, â ganddo broblem yfed. Hawliai'r hen wraig a brynai gig gan fy Nhad fod cymeriad Dr Denny wedi ei seilio ar feddyg oedd â syrjeri ym Mlaen-y-cwm ac a oedd yn dipyn o dderyn. Roedd hi wedi gweithio fel derbynnydd dros y meddyg yma. Does dim rhyfedd eu bod yn trafod y gyfres deledu mor frwd!Pan ddaw Dr Manson gyntaf i Drineffy mae e'n cwrdd â nifer o gleifion sy'n dioddef o'r un symp-

tomau. Er nad yw'n gwybod beth sy'n bod, mae Denny yn ei roi ar y llwybr iawn a daw i'r casgliad bod teiffoid endemig yn yr ardal. Denny hefyd sy'n dangos iddo sut y gellir datrys y broblem sy'n deillio o garthffos yn gollwng i mewn i'r cyflenwad dŵr lleol. Awgrym Denny yw cael hyd i ffrwydron yn answyddogol o'r pwll glo lleol, eu gollwng i arnofio ar hyd y garthffos gan amseru'r arnynt tanwyr yn y fath fodd a fydd yn sicrhau bod hyd sylweddol o'r garthffos yn cael ei ddinistrio. llwydda Denny a Manson i gael help glöwr lleol i ffrwydro'r garthffos ond mae'r awdurdodau lleol yn credu bod hyn ganlyniad i ddamwain wrth i nwyon naturiol ymgasglu. Anwybyddwyd y broblem am flynyddoedd, ond nawr rhaid iddynt atgyweirio'r garthffos.

Mynnai cwsmer fy nhad bod hyn mewn gwirionedd wedi digwydd yn Nhynewydd. Teimlais gyffro wrth glywed yr hen wraig yn sôn am hyn ac rwyf wedi cofio'r rhan hon o'r nofel ers hynny. Credwn fod hyn yn wir er bod yr unig gyfeiriad

parhad

y des i ar ei draws yn awgrymu bod yr hanes yn y nofel wedi ei seilio ar ddigwyddiad oedd yn hysbys i Cronin, ond a ddigwyddodd yn Aberdâr.

Beth bynnag yw'r gwirionedd am yr hanesyn arbennig hwn, mae'n sicr bod llawer o ran gyntaf 'The Citadel' wedi'i seilio ar gyfnod Cronin yn gweithio yn Nhynewydd yn cynorthwyo Dr William Cathcart Hyde oedd yn byw yn Fferm Tynewydd. Arhosodd Cronin yn y fferm gydag ef a bu rhaid iddo ymgymryd â'r rhan fwyaf, os nad y cwbl o'r gwaith gan fod Dr Hyde yn ddifrifol wael. Bu farw Dr Hyde yn 1922 yn 54 oed ac mae ei fedd ym mynwent Treorci. Mae'n bosib bod syrgeri presennol Tynewydd wedi tyfu o'r un lle y gweithiai Dr Cronin yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Dyma'r syrjeri a roddodd iddo ddeunydd ar gyfer rhan gyntaf ei nofel a fu'n gymaint o sbardun i sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd. Ys gwn i beth fyddai barn Dr Manson am y newidiadau posib y soniodd fy ffrind wrthyf amdanynt?

Geoff Morgan


NEWYDDION LLEOL

DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT Ar noson hafaidd ar ddiwedd Mai cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan W J Owen. Roedd y ddau dîm sef Blaenrhondda a Penydarren heb golli'r un gêm trwy gydol y tymor a daeth dros 500 o gefnogwyr i Barc Cambrian Cwm Clydach yn disgwyl gem gystadleuol . Cafon nhw ddim eu siomi. Yn yr hanner cyntaf cafodd Phenydarren sawl cyfle i sgori ond trwy berfformiad gwych y gol geidwad Blaenrhondda Luke Evans roedd y sgôr yn gyfartal ar 0-0 ar yr egwyl. Dechreuodd yr ail hanner gyda Blaenrhondda yn llawer mwy bywiog ac ymhen 15 myned sgoriwyd goliau gan Steve Jones a Huw Botell. Cafodd Blaenrhondda cyfle i ymestyn ei mantais pan roddwyd cic o’r smotyn ond arbedwyd gan y gol geidwad. Yn syth wedyn sgoriodd Penydarren , a than ddiwedd y gêm roedd amddiffyn Blaenrhondda dan warchae. Cododd tymheredd y gêm a rhoddwyd cerdyn coch i ddau chwaraewr un o bob tîm. Roedd ymdrechion Penydarren yn aflwyddiannus ac aeth y cwpan i Flaenrhondda.

Roedd y gêm cyffroes yma yn coroni tymor bendigedig i Flaenrhondda lle maent wedi sicrhau dyrchafiad heb golli un gêm. Llongyfarchiadau iddynt.

Tua 40 o bobl daeth draw o Madagasgar i Gymru i ddathlu 200 flwyddyn ers i’r efengyl gyrraedd yr ynys trwy law dau Gymro sef David Jones a David Griffiths. Maen nhw’n aros yn y coleg yng Ngaerfyrddyn ac yn mynd o gwmpas Cymru yn rhoi cyngherddau. Ar yr ail o Fehefin daethant i gapel Carmel yn Nhreherbert lle cafodd cynulleidfa dda eu swyno gan eu canu bendigedig. Ar ôl 43 o flynyddoedd Mae Geraint Davies wedi ymddeol o’i fferyllfa yn Nhreherbert. Y perchennog newydd yw Hetal Panchmatia o Gaerdydd a bydd y staff i gyd yn aros yn eu swyddi. Daeth weithwyr o Ddŵr Cymru a’i gontractwr y cwmni Skanska i Gapel Blaen-y-cwm i dreulio diwrnod yn gweithio yn yr Ardd Dawel tu ôl i’r capel. Roeddent yn tacluso’r ardd, torri’r glaswellt ac yn gwneud yn siŵr fod yr ardd gy-

munedol yn edrych ar ei orau am yr haf. Mae’r gwaith hyn yn rhan o gyfraniad y Cwmnïau i’r gymuned yn sgil yr holl waeth adeiladi orsaf trin dŵr newydd wrth gronfa dwr Tynywaun. Mae’r cynlyn sydd yn costi £9miliwn wedi bod ar y gweill am ddwy flynedd ac mae erfyn i gwblhau yn yr hydref. Mae gwirfoddolwyr lleol yn cwrdd bod prynhawn Iau i weithio yn yr ardd ac mae Maria Marchl sy’n arwain y project ar ran y capel ar y rhestr fer i dderbyn gwobr “ Caru Eich Cymuned” oddi wrth y cyngor. Mae croeso i unrhyw un a diddordeb i ymuno a nhw.

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre:

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

taw dyma'r cap cyntaf o lawer i gyn-chwaraewr Clwb Rygbi Treorci. Croeso i'w cartref newydd, Anwylfan, Woodland Vale i Owain a Julie MacMllan sydd wedi symud yma o TREORCI Dreherbert i dŷ newydd Llongyfarchiadau i sbon. Pob dymuniad da Tomos Williams, Stryd iddyn nhw, Seren Haf, Colum, mewnwr GleiRlis a rhieni Julie yn eu sion Caerdydd, ar ennill cartref newydd. ei gap cyntaf dros Mae'n flin gennym gofnGymru yn y gêm yn odi marwolaeth Mr erbyn De'r Affrig a David Fellingham, Y chwaraewyd yn WashStryd Fawr. Roedd ington, UDA. Ef oedd David yn ŵr hynaws a seren y gêm ac i goroni'r chymdeithasol y gwelir cyfan sgoriodd gais a ei eisiau gan ei gymdochreu un arall trwy ei gion oll. Cydymdeimlwn ddyfalbarhad. Mae hyn â'i deulu yn eu colled. yn wobr deilwng yn Tristwch i bawb oedd dilyn tymor llwyddianclywed am farwolaeth nus iawn yn chwarae Mrs Rena Davies, Y dros ei glwb. Gobeithio Stryd Fawr. Roedd hi a'i PARHAD ar dudalen 8 5


BYD BOB

Pan oeddwn i'n un deg wyth mlwydd oed, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol llundain, fe es i dreulio tymor olaf fy mlwyddyn gyntaf yn Salamanca er mwyn dilyn cwrs Sbaeneg i dramorwyr yn hen brifysgol y ddinas, byw gyda theulu lleol a dysgu mwy am fywyd dyddiol y Sbaenwyr. Roeddwn i'n lwcus o'r dechrau gan fod ffrind o Bontygwaith wedi gwneud yr un peth y flwyddyn gynt ac fe ddilynais ei gamre a chael fy nghroesawu gan ei ffrindiau heb ormod o ymdrech. Ar yr adeg honno roedd y Sbaenwyr yn dwli ar

6

ddau beth - pêl-droed ac ymladd teirw. Ar ddechrau'r chwedegau, pan gyrhaeddais i Salamanca, roedd tîm pêldroed Real madrid yn rheoli Ewrop. Roedd y tîm yn cynnwys chwaraewyr lleol, fel yr asgellwr Gento, a hefyd dramorwyr fel Pwskas o Hwngari a Di Stefano o Dde America. Fe aeth y tîm yna ymlaen i ennill Cwpan Ewrop bum gwaith yn olynol, os ydw i'n cofio'n iawn. Ym myd ymladd teirw roedd matadoriaid fel Antonio Ordonez a Paco Camino yn gwneud ffortiwn mewn gwlad oedd yn dlawd iawn. Roedd pobl heb ddigon i'w fwyta yn llwyddo i ddod o hyd i'r

arian i brynu tocyn i'r ymladdfa deirw pan oedd fiesta yn y dref neu'r pentref. Roeddwn i'n awyddus i ddysgu am fyd ymladd teirw hefyd. Gwelais i ornestau rhwng matadoriaid a theirw yn Salamanca, Madrid, lloret de Mar, a fiesta fydenwog Sa Fermines ym Mhamplona yng Ngwlad y Basg. Rydw i wedi gweld teirw'n dioddef ar bob achlysur, ond hefyd matadoriaid a phicadoriaid yn cael eu hanafu'n ddifrifol gan y tarw. Pan ddaw'r tarw i mewn i'r arena, dydy e ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Yna, mae dynion sy oi flaen e'n dechrau ei bryfocio gyda dartiau a phicelau. Mae'r tarw'n meddwl ac yn symud yn araf, ond mae un syniad gyda fe, sef dianc trwy'r iât lle y daeth e i mewn. Mae ar y tarw "querencia" neu hiraeth am fynd yn ôl i'r caeau ac at y gyr lle mae e wedi tyfu'n hapus. Ond mae'r matador yn sefyll o

fwriad rhwng rhwng y tarw a'r querencia, a dyna pan mae'r anifail yn ymosod yn ffyrnig ac mae cyffro'r dyrfa'n codi. Pan fydd y tarw'n derbyn y trawiad marwol, mae e'n cymryd rhai camau i gyfeiriad y querencia gyda'r gwaed yn llifo o'i geg a'i anafiadau. Yna mae'r ceffyl yn tynnu ei gorff allan o'r arena ac mae dynion yn glanhau'r gwaed dipyn rhag ofn i'r matador lithro yn yr ornest nesaf. Peth amser yn ôl, fe glywais am wraig yn Llundain oedd wedi mynd i lanhau gwaed o'r palmant yn agos i'w chartref. Roedd y gwaed yn perthyn i'w mab hi oedd wedi cael ei saeth mewn parc lleol. Roedd dau giang wedi bod yn ymladd ac roedd bwled wedi ei daro ar hap. Fe geisiodd e gyrraedd ei fam a'i gartref, ond bu afwr ar y ffordd yn dilyn ei querencia. Mae byd teirw yn galed, a byd dynion hefyd.


EISTEDDFOD YR URDD BRYCHEINIOG A MAESYFED

Llongyfarchiadau i'r cystadleuwyr o'r Rhondda a gafodd lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar. Daeth dwy wobr yn y prif gystadleuthau corawl yn ôl i'r Rhondda gydag Ysgol Gymraeg llwyncelyn yn cipio'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth corau ysgolion cynradd a chôr merched Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Y Cymer, yn fuddugol yn y gystadleuaeth i gorau Bl.13 a Iau. Cyflawnodd Carys Woolley hefyd o

Ysgol Gyfun Cwm Rhondda gryn gamp wrth ennill y gystadleuaeth Llefaru Unigol o dan 19 oed a braf oedd gweld Aelwyd Cwm Rhondda, oedd yn cystadlu am y tro cyntaf, yn cael ail wobr yn yr adran i aelwydydd dan 25 oed. Mae'r aelwyd yn cwrdd yng nghaffi CF42, Treherbert ac mae'r aelodau hefyd yn paratoi ar hyn o bryd at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Maen nhw'n croesawu aelodau newydd. Llongyfarchiadau i ddis-

gyblion Ysgol Gyfun Treorci ar ennill gwobrau mewn nifer o gystagleuthau gan gynnwys: Carys Lewis [2il Unawd Pres], 3ydd Dawns Greadigol dan 19. Cafodd yr ysgol lwyddiant hefyd yn y cystadleuthau Celf a Chrefft gyda Xander Evans yn cyflawni camp wrth gipio tair gwobr - 1af Graffeg Cyfrifiadurol dan 19 oed; 2il Cyfres o Brintiau Lliw Bl.10; 2il Pyped dan 19 oed. Cafodd Llew Thomas, Ysgol Gyfun Cwm

Rhondda'r ail wobr am Gyfres o Brintiau Lliw, Bl.10. Cafwyd eisteddfod lwyddiannus iawn gyda'r haul yn tywynnu trwy gydol yr wythnos. Mae'n ddigwyddiad sy'n cynnig cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau o bob math a da yw gweld disgyblion y Rhondda'n manteisio ar hyn. Llongyfarchiadau i'r enillwyr ac i bawb a gymerodd ran. Llun gan Branwen Cennard


diweddar ŵr, Peter, yn arfer cadw tafarn y Stag a bu am gyfnod yn aelod o Bwyllgor Ymchwil Cansar Treorci. Bydd llawer yn gweld eisiau gwraig hynaws a charedig. Cydymdeimlwn â'i phlant yn eu colled. Band Mawr Pen-y-bont o dan arweiniad eu trwmpedwr, Dai Davies ynghyd ag unawdwyr, fydd yn perfformio yn y Clwb Jazz yng Nghlwb Rygbi Treorci, nos Fawrth, 19 Mehefin. Bu farw Mr David Bowen, Stryd Tynybedw yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Yn gyn-löwr, roedd David yn adnabyddus yn Nhreorci fel cynberchennog y siop bapurau newydd ar y Stryd Fawr. Yn ŵr hynaws a charedig, fe welir ei

8

eisiau mewn sawl cylch, ond yn enwedig gan ei deulu. Cydymdeimlwn â'i wraig Mair a'i blant yn eu colled. Ddydd Sadwrn, 16 Mehefin, cofiwyd diwedd y rhyfel Byd Cyntaf wrth i fand y Gatrawd Gymreig orymdeithio trwy ganol y dref gan ddechrau o'r Cardiff Arms am 3pm. Yn dilyn, ymunodd y band â seindorf y Parc a'r Dâr i gynnal cyngerdd yn y theatr ynghyd a'r grŵp poblogaidd 'My Favourite Things'. Cyflwynwyd y noson gan Shelley Rees-Owen. Pob dymuniad da i Mair Searle, Prospect Place a Miss Brenda Summerhill, Stryd Fawr, sydd ill dwy gartref ar ôl bod yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth ac i Mr Ivor Phillips, River Terrace a

gafodd ddamwain gas yn ddiweddar. Ddiwedd mis Mai aeth aelodau Clwb yr Henoed ar daith addysgol i Dŷ Tredegar, Casnewydd ac wedyn i mewn i'r dre. Cafodd pawb amser da. Y siaradwr y mis hwn yn y WI oedd Mr Steve Brewer a siaradodd am y cyrchoedd awyr ar dde Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan gynnwys y cyrch ar Gwmparc yn 1941. CWMPARC Cydymdeimlwn â dosbarthwr Y Gloran yng Nghwmparc, Julie Godfrey a gollodd ei mam yn ddiweddar. Cofiwn hefyd am y teulu oll yn ei brofedigaeth. Ar 23 Mai, mynychodd 40 disgybl o Ysgol y Parc Ŵyl Tag Rygbi ym

Mharc yr Arfau, Caerdydd. Cystadlodd pedwar tîm o’r ysgol, bob un yn chwarae’n fedrus, ac yn mwynhau’r profiad. Ar 25 Mai cynhaliwyd Chwaraeon y Clwstwr ym Mharc y Pentre. Serch y tywydd, dangosodd y plant benderfyniad a daeth yr ysgol yn 4ydd.

Mae Ysgol y Parc yn falch o ddadorchuddio coflech i’w harddangos yn gyfochr ag olwyn troelli o bwll y Dâr a osodwyd yn yr iard. Daeth yr olwyn i’r golwg ar ôl cael ei chanfod mewn gardd yng Nghwmparc, ac yn awr, bydd yn gofeb i'r diwydiant a roddodd fod i'r pentref. Hoffai’r ysgol ddiolch i Dewi Reynolds a’i Feibion am lunio a chyflwyno’r goflech wenithfaen yn


rhodd.

Cynhelir Gwasanaeth Goffa yn Ysgol y Parc ar 19 Mehefin (dydd Mawrth) am 1:30yp. Mae’r ysgol yn cynnal gwasanaeth bob blwyddyn er mwyn cofio’r rhai hynny y collwyd eu bywydau pan gafodd Cwmparc ei fomio yn Ebrill 1941. Bydd croeso cynnes i rieni ac aelodau’r gymuned ehangach. Darperir lluniaeth ysgafn ar ôl y gwasanaeth. Bydd hefyd gyfle i weld olwyn troelli pwll y Dâr a’r goflech newydd. PENTRE Pob dymuniad da i Mrs Sheila Ellis, Stryd Albert sydd yng nghartref gofal Cwrt Clydach, Trealaw ar hyn o bryd. Llongyfarchiadau i un o drigolion Pentre, Chris Williams ar gael ei ddewis i lunio'r gadair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Cawn fwy o'i hanes y mis nesaf. Mae Canolfan Pentre wedi sefydlu clwb ieuen-

crid ar gyfer pobl ifanc awtistig 11-19 oed mewn perthynas â'r Gymdeithas Awtistaidd Genedlaethol. Cynhelir y clwb nos Lun rhwng 6.30 8pm.

Ddydd Sadwrn, 8 Mehefin, cynhaliwyd cinio yng nghlwb y Lleng Brydeinig gyda'r elw yn mynd at Rygbi Ysgolion y Rhondda. Y siaradwr gwadd oedd Jonathan Davies.

Os oes gennych blant dan oed ysgol, mae croeso ichi ymuno â'r grŵp Mam a Phram sy'n cwrdd bob bore Llun rhwng 9.15 - 11am.

TON PENTRE A'R GELLI Mae'n drist cofnodi bod un o gapeli hynaf yr ardal, Hebron, wedi cau ei ddrysau am y tro olaf. Cyhoeddodd ysgrifennydd yr eglwys, Gwynfryn Evans nad oedd modd cario ymlaen gan fod cyn lleied yn mynychur cyfarfodydd. Yn sgil y newyddion

hyn, da yw adrodd bod capel Hope, Y Gelli'n mynd o nerth i nerth. Mae'r drysau ar agor bron pob dydd o'r wythnos a chynhelir dwy oedfa ar y Sul o dan arweiniad dawnus y gweinidog, Parch David Morgan. Fore Llun cynhelir grŵp 'Little Sparks'. Ceir dosbarth i fabanod fore Mawrth gyda chlwb coffi'n dilyn yn y prynhawn. Dyna hefyd pryd y dosberthir cynnyrch y Banc Bwyd. Nos Fawrth mae cwrdd gweddi a dosbarth Beiblaidd. Yn ystod dydd Iau trefnir Cymdeithas y Merched a hefyd Clwb Ieuenctid sy'n cwrdd gyda'r nos. Anfonwn ein dymuniadau gorau i Nigel Mullins o Dŷ Ddewi sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae aelodau Eglwys Ioan Fedyddiwr yn gobeithio y bydd y tywydd teg presennol yn para ar gyfer eu Ffair Haf a gynhelir ddydd Sadwrn, 23 mehefin am 1 o'r gloch. Bydd yno stondinau o bob math yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau

gan gynnwys llawer o gynnyrch cartref. Bu eglwysi'r ardal wrthi'n ddyfal yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol yn dosbarthu amlenni ar hyd y strydoedd. maen nhw am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth. Llongyfarchiadau i Delyth Coleman a Martin Lewis oedd yn dathlu eu priodas yn ddiweddar, Syrpreis hyfryd i'r cwpl oedd bod tad Delyth wedi ei ryddhau o'r ysbyty i fod yn bresennol yng nghapel Hope ar gyfer seremoni bendithio'r briodas. Byddant yn ymgartrefu yn y Pentre. Os ydych yn awyddus i golli pwysau, pam nad ewch draw i neuadd yr Eglwys lle y cynhelir sesiynau gan 'Slimming World'. maen nhw'n cwrdd nos Lun rhwng 4.30 - 9pm a fore Gwener rhwng 8.30 11am. Mae Mr Roger Mitchel yn cynnal dosbarth Tai Chi yn y neuadd ddydd Mercher rhwng 11.30am 2.30pm.

GWYL CWM RHONDDA, TREORCI Allison Chapman, un o gynghorwyr Treorci, sy'n adrodd hanes menter newydd sydd ar fin digwydd.

Cynhelir Gŵyl Gelf Cwm Rhondda [RAFT] mewn gwahanol leoliadau yn Nhreorci rhwng 26 - 30 Mehefin. Amcan y fenter yw i ddathlu gweithgareddau creadigol yn y Rhondda. Bydd yn cynnwys comedi, drama, barddoniaeth, celfyddyd, dawns a

nifer o arddangosfeydd gan dalent leol. Datblygwyd y syniad gan grŵp o wirfoddolion o Ysgol Gyfun Treorci a benderfynodd drefnu gŵyl i ddathlu 50fed pen-blwydd sefydlu'r ysgol. Daeth yr aelod seneddol Chris Bryant a chynghorwyr lleol yn rhan o'r fenter a thyfodd y syniad yn Ŵyl y gobeithir ei chynnal yn flynyddol. Parhad drosodd ar dud 10

9


GARDD

Tri o aelodau Capel Blaencwm, Brian Summers, Geraint Davies a Maria Marchel ynghyd â gweithwyr Dŵr Cymru yn gweithio yng ngardd y capel. Llawer o ddiolch i Ddŵr Cymru am eu cefnogaeth i’r fenter. Gweler Newyddion Lleol Treherbert am fwy o fanylion

GWYL CWM RHONDDA, TREORCI

Cafodd y Pwyllgor gefnogaeth gan fferm wynt Pen y Cymoedd a llwyddodd theatr y Parc a'r Dâr i drefnu adloniant gan unigolion a grwpiau amlwg gan gynnwys Jools Holland, Only Men Allowed a'r soprano Lesley Garrett gyda'r Cwmni Opera Cenedlaethol. Gobeithir y bydd yr 'ewau mawr' hyn yn denu pobl i ymweld â Threorci a'r ardaloedd cyfagos. Cynhelir Ffair Gelf a Chrefft ar y dydd Sadwrn yn yr Ysgol Gyfun ynghyd ag adloniant, arddangosfeydd a Hwb Iechyd a drefnir gan gan y Gwasanaeth Iechyd a fydd yn trefnu gweithdai ac yn rhoi cyngor ar fate10

PARHAD

rion iechyd a lles. Rydyn ni, aelodau'r pwyllgor, am ddiolch i bawb sydd wedi ymroi i drefnu'r Ŵyl gyntaf, gan gynnwys y gwirfoddolwyr a'r rheiny sy'n rhoi o'u hamser i'r hyrwyddo. Gobeithiwn weld yr Ŵyl yn llwyddo ac yn tyfu'n flynyddol i gynnwys rhannau eraill o'r cwm. Cewch ragor o wybodaeth trwy ymweld â www.RAFT.cymru neu gan Allison yn Wonder Stuff, Treorci ar 07814 636565.


CWIS Y GLORAN

Profi ein gwybodaeh am ffilmiau sydd â chysylltiad â Chymru mae Graham John y mis yma 1. Ym mha ffilm cymerodd Ray Miland, yr actor o Gastell Nedd, ran alcoholig? 2. Enwch ddwy ffilm Hollywood a leolwyd yng Nghymru sydd â'r un lliw yn eu teitlau. 3. Pa bentref yn ne Cymru oedd yr ysbrydoliaeth i un o'r ffilmiau hyn? 4. Pa ffilm a gyfarwyddwyd gan Stanley Baker a leolwyd yn Ne Affrica yn ystod Rhyfel y Boer? 5. Pa seren deledu gymerodd ran milwr yn y

ffilm ac a arweiniodd y canu? 6. Pa actor o Gymru bortreadodd gerddor crwydrol yn 'Run for your Money'? 7. Pa ran chwaraeodd yr un actor mewn ffilm am drip rygbi i Baris? 8. Pa actor o Gymro gymerodd un o'r prif rannau yn 'The Last Days of Dolwyn' a 'Night Must Fall'? 9. Pa ganwr o America gymerodd ran glöwr yn 'The Proud Valley'? 10. Enwch y tair ffilm James Bond y canodd Shirley Bassey ynddynt.

YSGOLION

Atebion: 1. 'Lost Weekend' 2. 'The Corn is Green' a 'How Green was my Valley' 3. Gilfach Goch 4. 'Zulu' 5. Ivor Emannuel 6. Huw Griffith 7. 'Grand Slam' 8. Emlyn Williams 9. Paul Robeson 10. 'Goldfinger', 'Diamonds are Forever’ a ‘Moonraker-.

YSGOL GYFUN GYMRAEG CWM RHONDDA

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

LLONGYFARCHIADAU SHANNAN

Medal Arian ar ddiwedd twrnament cic-bocsio Ewropeaidd – gwych! Llongyfarchiadau i Shannan Butcher o Fl 7. 11


YSGOL GYNRADD Y PARC

Lluniau: 1. Mr David Williams, prifathro Ysgol y Parc yn adrodd hanes y pyllau glo wrth ddau o'i ddisgyblion, Spike George (Chwith) a Dewi Thomas.Â

2. Er cof am y Byllau Glo

3. Yr olwyn

12

YSGOLION


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.