y gloran
20c
AR DRYWYDD PYSGOD YNG NGHANADA Ym mis Medi eleni, aeth ISLWYN JONES, Blaenrhondda gynt, ar daith bysgota i orllewin Canada. Yma, mae'n adrodd yr hanes Mae wedi bod yn freuddwyd 'da fi am flynyd-
doedd i gael mynd i Ganada i bysgota am eogiaid y Môr Tawel (Pacific Salmon). Felly, pan ges i wahoddiad oddi wrth fy nghymydog John i ymuno gydag e a dau ffrind ar drip pys-
gota i Ganada, doedd dim angen gofyn dwywaith. Ar ôl derbyn bendith Judith, o’n i’n barod i fynd. Ganol mis Medi, bant â ni i Gatwick ac ar ôl taith o naw awr dros
Begwn y Gogledd fe lanion ni yn Vancouver ar arfordir gorllewinol Canada. O’r maes awyr, teithion ni awr a hanner o’r ddinas i Chillawack. Tref o ryw 20,000 o drigolion yw Chillawack parhad ar dud 3
Eleni bydd Y Gloran yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed. Mae e'n un o'r trigain a mwy o bapurau bro sy'n cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru i wasanaethu eu cymunedau. Amrywiant o ran maint a chynnwys ond eu nod yw adlewyrchu bywyd eu hardaloedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid cyfaddef fod papurau print yn gyffredinol yn dioddef ar hyn o bryd gyda llai a llai o gartrefi'n derbyn papur dyddiol a mwy o bobl yn troi at y we a'r teledu am
eu newyddion. Mae'r wasg leol wedi dioddef yn arbennig gyda llai o ohebwyr yn gorfod gwasanaethu ardaloedd ehangach. O ganlyniad mae llai o newyddion lleol a phrin iawn yw'r craffu a'r dadansoddi a geir o lywodraeth leol. O ganlyniad, mae democratiaeth yn dioddef a chymunedau'n tyfu'n llai ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas. Yn achos Cymru, yn wahanol i'r Alban, derbynia'r rhan fwyaf o'r boblogaeth eu newyddion o ffynonellau Saesneg. Y Mirror a'r Daily Mail yw'r papurau a ddarllenir
golygyddol
2
Cynllun gan High Street Media
fwyaf, nid y Western Mail a'r Daily Post, ac o ganlyniad rydyn ni'n gweld ein byd trwy lygaid pobl eraill yn hytrach na'n llygaid ein hunain. Ymgais i newid hyn oedd sefydlu'r papurau bro - ymgais i weld ein cymuedau trwy lygaid y trigolion lleol ac adlewyrchu eu gweithgareddau a'u diddordebau, eu helyntion a'u llwyddiannau a rhoi llais i'w pryderon yn ogystal. Yn amlwg ymhlith sefydlwyr Y Gloran roedd athrawon ac addysgwyr oedd yn awyddus i weld mwy o bobl yn darllen Cymraeg a rhoi cyfle i ddisgyblion ein hysgolion Cymraeg a'r rheiny
oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i sgrifennu a gweld eu gwaith mewn print. Wrth i natur cymdeithas y Rhondda newid, roedden nhw hefyd yn awyddus i addysgu pobl am eu hanes lleol a rhoi sylw i ddigwyddiadau cyfoes. Dros y blynyddoedd, cafodd nifer gyfle yn y papur hwn i adrodd hanes eu bywydau a dwyn ar gof rhai o'r digwyddiadau a'r cymeriadau sydd wedi ffurfio ein cymunedau. Gyda materion lleol yn cael llai o sylw, mae i'r papur bro swyddogaeth bwysig wrth helpu i ddod â phobol yn nes at ei gilydd a'u cymell i gymryd mwy o ddid-
dordeb yn yr ardal lle maen nhw'n byw. Wrth
i dechnoleg ac arferion darllen newid, does dim dwywaith na fydd rhaid i'r papurau newid ac addasu, ond mae prif bwrpas eu sefydlu yn y lle cyntaf yn aros, ac os rhywbeth yn dod yn bwysicach bob dydd. Wrth ddathlu ein bodolaeth am ddeugain mlynedd, rhaid edrych ymlaen i'r dyfodol a sicrhau bod ein stori ni, pobl Cwm Rhondda, cael ei hadrodd a'n buddiannau ni'n cael eu gwarchod. Golygydd
2018
y gloran
YN Y RHIFYN HWN
Ar Drywydd Pysgod..1/3 Golygyddol...2 Ar Drywydd Pysgod...3/4 ...4 Newyddion Lleol ...5 a 7-8-9 Byd Bob/Cartwn/ Cymdeithas Gymraeg Treorci/Y Tad Brian Taylor...6-7 Larraine...10 Ysgolion...11 ...12
Geraint Davies (Fferyllydd) BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB
59 Stryd Gwendoline, Treherbert
AR DRYWYDD PYSGOD YNG NGHANADA
ar lan afon Frazer. Rwy’n ei alw’n afon – ond, fel popeth arall yng Nghanada, roedd yn ENFAWR.yn bur wahanol i unrhyw afon arall a bysgotais o’r blaen. Rwyf wedi pysgota rhai o afonydd mawrion yr Alban ac Iwerddon ( Tay, Spey a Blackwater) Mae’r Frazer GYMAINT yn fwy.Mae hi dros filltir o led mewn mannau. Sut mae pysgota’r fath afon. Esboniodd John (a fu yno deirgwaith o’r blaen) y byddem yn cael ein gosod ar ynysoedd a bariau grafel (gravel bars) yng nghanol yr afon. Byddai bad yn ein tywys yno.Wedyn, ar ôl glanio, byddem yn pysgota oddi ar y graean am yr eogiaid wrth iddyn nhw esgyn yr afon. Ro’n i’n pryderu rywfaint, taw nad ni fyddai’r unig rai yn pysgota - yn enwedig ar ôl gweld y rhaglenni teledu fu arno’n ddiweddar - ac y bydden ni’n
cael cwmni eirth! Darbwyllodd John fi pan ddwedodd nad oedd e 'di gweld yr un arth yn agos i'r lle pan fuodd e’n pysgota yno. Felly, wedi clywed hynny ro’n i’n teimlo’n esmwythach fy meddwl. Afon Frazer Roedden ni’n falch cyrraedd y gwesty (Y Coast Hotel) Ar ôl pryd da o fwyd, cawsom wely cynnar i baratoi at gyffro’r bore canlynol.Toc am saith, ar ôl brecwast cynnar, daeth ein ‘Guide’ i gwrdd â ni.Tynnodd ‘Jeep’ mawr, gyda bad mawr ynghlwm ag e, tu fa's i’r gwesty. Gwr o Hwngari oedd Istvan, ein tywysydd. Dyn tua deugain oed. Cyn- bencampwr pysgota plu Hwngari. Bu’n gweithio fel guide ar Afon Frazer ers wyth mlynedd. Roedd yn ddyn gwybodus iawn ar bob agwedd o bysgota. Aeth â ni ryw filltir tu fas i Chillawack i ganol y goedwig wrth
ochr Afon Frazer.Yno roedd glanfa gychod gyda dwsenni o gychod yn cael eu lawnsio ar yr afon. Roedd ein hoffer, gwialennod a phob dim, wedi’u paratoi a’u dodi ar y bad.o O fewn chwinciad roedd Istvan ‘di datgymalu’r bad o’r trailer a’i ddodi yn yr afon. Roedd yr olygfa o’n cwmpas yn eithriadol. Mynyddoedd uchel a chreigiog yn disgyn hyd at ymyl yr afon fawr. Coedydd pîn hardd ym mhobman. Natur ar ei gorau. Roedd yn ddiwrnod hyfryd gydag awyr las a braidd dim gwynt. Roedd John wedi’n siarso i fynd â digon o ddillad twym gyda ni ar y daith, ond ar y diwrnod cyntaf hwnnw pysgota’n ein crysau fydden ni, ac eli haul ar ein hwynebau a’n breichiau. Roedd yr offer pysgota ar y bad yn debyg i’r hyn yr oedden ni’n gyfarwydd ag drosodd 3
AR DRYWYDD PYSGOD YNG NGHANADA parhad
e adre. Gwialen ffeibr carbwn o naw troedfedd o hyd. Lein fflei, blaenllinyn tuag ugain pwys.Ynghlwm â’r blaenllinyn roedd pluen binc ar fachyn heb adfach - ‘barbless’.Rhaid imi gyfadde na ddefnyddiais bluen binc erioed o’r blaen. Dwedodd Istvan taw hwn oedd y lliw roedd y samwn yn ei ffafrio - fe oedd yn gwybod.Taniodd Istvan beiriant pwerus y bad ac aethom ar frys i fyny’r afon am ryw filltir nes glanio ar fanc o raean gyda choedwig trwchus i'r tu cefn. Neidion ni ma's o’r bad a sefyll ar y lan er mwyn gwrando ar yr hyn oedd da Istvan i’w ddweud cyn dechre pysgota. Esboniodd y bydden ni'n pysgota’n bennaf am y ‘pinks’. Rheini oedd y math o samwn Pasiffig oedd yn yr afon ganol Mis Medi. Esboniodd fod y ‘Pinks’yn esgyn yr afon o’r môr i ddeor (spawn) bob yn ail flwyddyn. Hyn oedd uchafbwynt y rhediad,sy’n para o ddechrau mis Medi am ryw dair wythnos yn unig. Wedi i’r pysgod ddeor, mae pob un ohonynt yn marw. Mae hyn yn wahanol i’r eogiaid yn ein gwlad ni (eogiaid Iwerydd / Atlantic salmon), lle mae canran yn goroesi i ddychwelyd a deor eto i’w hafonydd genedigol. Roedd rhediad y Pinks eleni yn un siomedig- Dim ond tair miliwn o bysgod! Mewn 4
tymor da gall hyd at ddeng miliwn ohonynt ddychwelyd i’r afon. Mae na rediadau o samwn eraill ar wahanol adegau.’fel Sockeye’(mis Mehefin) ‘Coho’(Gorffennaf),’Ch ums’(Hydref ).’Kings’ (Medi a Hydref). Mae 'na wahaniaeth yn eu maint hefyd. Y ‘Pinks’rhwng 8a10 pwys, y Kings hyd at 60 pwys a’r lleill hyd at 30pwys.Roedden ni’n pysgota am bysgod cymharol fach - dim ond hyd at 10 pwys!! Ac ystyried bod y run yn siomedig eleni, roedd pysgod i’w gweld ym mhobman .Yn neidio’n glir o’r dŵr bob yn hyn a hyn a thorri’r wyneb ym mhobman o’n cwmpas.Y peth oedd yn fy synnu oedd bod y pysgod yn symud ond rhyw ychydig lathenni o’r lan. Er ein bod i gyd yn gwisgo waders, doedd dim angen mentro’n rhy ddwfn i’r dwr er mwyn dodi’ch pluen dros bysgodyn.
Pysgod, Pysgod, Pysgod! O fewn ugain munud roedd pobun wedi dal pysgodyn. Adre gallech bysgota am eogiaid am ddiwrnodau heb fachu eog.Yma gallech fachu un pob ugain munud. Daeth sawl un a fachwyd yn rhydd am ein bod yn defnyddio bachau barbless er mwyn sicrhau na fyddai’r pysgod yn cael eu niweidio wrth eu rhy-
ddhau er mwyn deor.Felly byddai canran - hyd at hanner y pysgod yn dianc cyn dod at y rhwyd a’u glanio. Ond, ta waeth, roedd na gymaint ohonyn nhw, doedd neb yn becso! Y diwrnod cyntaf hwnnw fe lanion ni hanner cant o eogiaid braf a cholli tua’r un nifer. Dyna bysgota y tu hwnt i’n breuddwydion. Roedd tipyn o wahaniaeth rhwng yr eogiaid gwryw a benyw yma. Gelwid y rhai gwryw yn ‘Humpies’oherwydd siap eu cyrff. Roedd da’r gwrywod gefn a chrwmp arno tra bod y benywod yn fwy siapus. O ran lliw, roeddent yn gymysgedd prydferth o arian, cefnau llwyd, a lliw pinc ar eu hochrau.Debyg mai dyna sut eu hadnabu fel ‘pinks’ Yn ogystal â’r eogiaid a drigau yn yr afon, roedd na hefyd stwrsiwn (sturgeon). Pysgod hynafol aq chyntefig o’r un telu â’r siarc (Cartilagenous
fish) Trigai rhyw hanner can mil ohonynt yn yr afon. Roedd rhai yn byw yno gydol y flwyddyn, eraill yn dilyn yr eogiaid i fyny’r afon o’r Môr Tawel. Yn byw ar bysgod byw a marw, ac weithiau'n hela rhai byw gwnâi’r rhain. Dwedodd Istvan eu bod yn tyfu hyd at 10’ o hyd, pwyso hyd at 600pwys a byw hyd at ddau gan mlynedd!! Yng Nghanada, yn wahanol i Rwsia lle mae’n nhw’n cael eu lladd er mwyn bwyta’r wyau fel caviar, rhaid dodi pob un sy’n cael ei ddal yn ôl yn yr afon. Dwedodd Istvan y byddem yn treulio un diwrnod o’r trip yn pysgota am y pysgod unigryw yma. Byddai hynny yn brofiad newydd a chyffrous inni i gyd.
Islwyn ag eog braf
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Cydymdeimlwn â theuluoedd Mr David John Dodd, Stryd Dumfries a Ruth Jones, gynt o dafarn y Castle a fu farw'n ddiweddar. Mae’r fferyllydd Michael Ward sydd wedi gweithio gyda Geraint Davies am bron deugain mlynedd wedi ymddeol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae e wedi gweithio yn fferyllfa Treherbert ond cyn hynny roedd yn rheolwr yn y fferyllfa wrth y Cardiff Arms yn Nhreorci. Mae Mike wedi rhoi gwasanaeth gloyw i'n cymunedau dros y blynyddoedd a bydd colled fawr ar ei ôl ym myd fferylliaeth. Dymunwn ymddeoliad hir ac iach iddo fe a'i wraig Hilary. Llongyfarchiadau i Wayne Warren o Stryd Margaret Tynewydd ar ei berfformiad ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd. Mae Wayne wedi maeddu dau ddetholyn i gyrraedd yr wyth olaf mewn cystadleuaeth a gynhelir yn Lakeside Lloegr. Mae Wayne, sy'n chwarae i dîm darts Clwb Rygbi Treherbert, yn bendant wedi rhoi
Tynewydd ar y map rhyngwladol, Pob lwc iddo. Ar yr wythnos olaf ym 2017 cynhaliwyd diwrnod o hwyl a sbri yng nghlwb cymdeithasol Blaenrhondda i godi arian at glwb bechgyn a merched Treherbert. Codwyd swm sylweddol a chafodd pawb amser da. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Barbara Eynon o Stryd Dunraven, un o gymeriadau mwyaf hoffus yr ardal. Cyn symud i Dynewydd roedd Mrs Eynon a’i gwr yn cadw siop groser yn Brook St Blaenrhondda. Cydymdeimlwn â'r teulu i gyd yn eu galar. Mae'n drist cofnodi marwolaeth Mr Steven Welch o Stryd Baglan. Bu farw Stephen yn ddisymwth yn 45 mlwydd oed. Cydymdeimlwn a’i bartner Caroline a’i rhieni Graham a Margaret Welch, Treorci yn eu profedigaeth. Yn drychinebus bu farw Alison Fletcher o Stryd Eleanor. Cydymdeimlwn â'i rhieni Mair a Dennis a'i holl deulu.
TREORCI
Bu farw Mrs Doris Merriman, Stryd Hermon Gynt. yn 101 oed ddiwedd Rhagfyr. Er gwaethaf ei hoedran fawr, roedd Doris yn effro’n feddyliol ac yn mwynhau cymdeithasu bron hyd y diwedd. Roedd hi’n gallu gweu yn arbennig o dda ac am flynyddoedd gwnâi hynny i gwmni o’r Alban oedd yn gwerthu ei gwaith dros y byd. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â’i phlant, Betty a Phillip a’r teulu oll yn eu colled. Cynhaliddd Sefydliad y Merched [W.I.] eu gwasanaeth o ddarlleniadau a charolau yn Eglwys San Matthew, nos Fawrth, 19 Rhagfyr o dan ofal y ficer, Parch Phillip Leyshon. Yn dilya y gwasanaeth, mwynhaodd pawb mins peis a choffi yn y neuadd. Bob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Sheila Phelps, Clos Glyncoli a gafodd ddamwain with baratoi eglwys San Matthew ar gofer gwasanaeth carolau’r W.I. Mae’n dda
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre:
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
adrodd ei bod yn gwella gartre ar hyn o bryd. Mae aelodau’r W.I. hefyd yn anfon pob dymuniad da i’w llywydd, Mrs Pauline Worman sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Waun, Caerdydd. Mae’n fin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Vilma Jones, Stryd Caerdydd a hynny’n fuan ar ôl iddi golli ei chwaer Mrs Josie Williams. Un arall o’r un stryd a gollwyd yn ddiweddar yw Mrs Vera Skym, gweddw’r diweddar Harold Skym. Cydymdeimlwn â’r ddau deulu yn eu profedi-
PARHAD ar dudalen 8
5
BYD BOB
Edrych yn ôl ar y blynyddoedd a aeth heibio y mae BOB EYNON y mis hwn ac yn bedyddio'r ganrif bresennol yn 'Ganrif y Celwydd'. Mae blwyddyn newydd wedi dechrau, ond rwy'n dal i feddwl am bethau sy wedi digwydd ers y mileniwm. Pe baswn i eisiau rhoi enw ar y ganrifhn hyd yn hyn, fe fyddwn i'n dewis y term 'Canrif y Celwydd'. Ar ddechrau'r ganrif, cyhoeddodd lly-
wodraethau Prydain ac America fod gan Saddam Hussein arfau oedd yn gallu cyrraedd a dinistrio gwledydd eraill mewn munudau. Er bod lloerennau'n hedfan uwchben Irac, ac y ffotograffio'r wlad i gyd bob dydd heb gofnodi dim byd o'i le, roedd partneriaeth Vaudeville Bush a Blair yn adrodd yr un celwydd wrth bawb. Roedd pobl Prydain ac America'n credu'r stori. Wrth gwrs, roedd pobl onest (yn y BBC, er enghraifft) yn ceisio dweud y gwir, ond yn y diwedd fe gol-
lon nhw eu swyddi, tra aeth B a B ymlaen i wneud ffortiwn y tu allan i wleidyddiaeth. Pwy a ŵyr faint o bobl sy wedi colli eu bywydau ( ac yn dal i golli eu bywydau) oherwydd y celwydd enfawr yna? Yn fwy diweddar, roedd y Brexiteers yn addo rhoi cannoedd o filiynau o bunnau bob wythnos i'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol pe bai Prydain yn tynnu allan o'r Gymuned Ewropeaidd. Roedd yr addewid yna, siwr o fod yn ddylanwad pwysig ar y pleidleiswyr yn y refferendwm. Ond hyd yn oed tra oedd y Brexiteers yn dal i ddathlu eu buddugoliaeth, roedd Boris Johnson yn cyfaddef bod yr addewid yn ddiwerth. Yn fwy na thebyg, bydd llai o arian ar gael ar gyfer yr ysbytai o hyn ymlaen os na fydd Prydain yn ll-
EIN CARTWN Y MIS GAN SIÔN TOMOS OWEN
6
wyddo i ddod o hyd i farchnadoedd economaidd newydd yn gyflym iawn. Y trydydd celwydd yw'r mesurydd 'smart' sy'n mynd i arbed nwy a thrydan, yn ôl y cwmnïau egni. Mae gennym ni switchys ym mhob tŷ, a nhw sy'n rheoli'r defnydd o egni ac nid y mesuryddion smart. Gyda llaw, cyn y refferendwm roedd fy ffrindiau i gyd yn y tafarnau lleol yn dweud wrtho i y bydden nhw'n pleidleisio dros dynnu allan o Ewrop. Doeddwn i ddim yn eu credu nhw, ond yn anffodus roedden nhw'n dweud y gwir am unwaith!
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI HERMON, TREORCI 7.15pm RHAGLEN 2018
25 Ionawr ELIN JONES AC Noson yng nghwmni Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 22 Chwefror ALUN WYN BEVAN Sgwrs gan y darlledwr a’r gohebydd chwaraeon adnabydd 29 Mawrth ANN LEWIS ‘Ben Bowen - Bardd Treorci’
CROESO I BAWB
Y Tad Brian Taylor - Er Cof
Roedd y Tad Brian Taylor yn ficer Eglwys Sant Siôr, Cwmparc rhwng 1997 - 2013. Yn ystod y blynyddoedd hynny rhoddodd inni lawer o bleser gyda’i ddoniau cerddorol ac yntau’n organydd talentog ac yn meddu ar lais tenor swynol. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yma, cynhaliai wasanaethau wythnosol yn Ysbyty George Thomas, gwasanaethau misol yn Ystradfechan a chiniawau misol i bobl y plwyf. Bu gan Eglwys San Siôr bob amser enw da am gynnal ffeiriau codi arian ac roedd y Tad Brian wasted ar gael yn y gegin yn helpu gyda’r te a’r lluniaeth ac yn troi’r tombola ar gyfer y raffl! Y Tad Brian Taylor, Denise Smith (Warden yr Eglwys), Parhad ar dud 9 Yr Archesgob Dr. Barry Morgan
gaeth. Roedd yn fin gan bawb glywed am farwolaeth annisgwyl Steven, mab Margaret a Graham Welch, Stryd Clarke ac yntau’n ŵr ifanc. Cofiwn am y teulu oll yn eu hiraeth. Mae ei ffrindiau i gyd yn dymuno gwellhad buan i Elizabeth Evans, Heol Ynyswen sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bu farw Mr Cliff Rees, Stryd Fawr yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Roedd Cliff yn dysgu yng Ngholeg Celf Caerdydd cyn ymddeol. Cydymdeimlwn yn ddiffuant â'i wraig
8
Sybil a'r plant yn eu hiraeth
Y canwr poblogaidd Jeff Hooper fydd yn difyrru aelodau'r Clwb Jas yng Nghlwb Rygbi Treorci nos Fawrth, 23 Ionawr. Croeso i bawb.
TON PENTRE
Bu farw dwy o wragedd yr ardal yn ddiweddar, sef Mrs Margaret Beavan, Stryd Parry a Mrs Moira Jones, Heol yr Eglwys. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd y ddwy yn eu hiraeth. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Mrs Marilyn Jordan, gynt o Heol
Gelli oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar. Dymunwn iddi iechyd a phob hapusrwydd i’r dyfodol. Mae llawer o bobl yn yr ardal am ddweud diolch yn fawr wrth aelodau o Gôr Meibion Treorci a fu’n difyrru preswylwyr sawl cartref yn yr ardal adeg y Nadolig gan gynnwys Bronllwyn a Thŷ Ddewi. Cafodd pawb fodd i fyw yn gwrando arnynt yn canu caneuon poblogaidd a charolau gan ddod â llawenydd yr Ŵyl i bawb. Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Stephen Addison, Tŷ Ddewi, yn 61 oed. Roedd Stephen yn wreiddiol o Bontygwaith ond wedi ymgartrefu yn Nhŷ Ddewi ers rhai blynyd-
doedd lle roedd yn aelod poblogaidd o’r gymuned ac yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol y cartref. Gwelir ei eisiau’n fawr a chydymdeimlwn yn gywir iawn â’i deulu yn eu colled. Pob dymuniad da am welled llwyr a buan i aelod arall o gymuned Tŷ Ddewi, sef Mr Michael Roberts sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ôl torri ei glun yn dilyn cwymp yn ei fflat. Gobeithiwn ei weld yn ôl yn ein plith yn fuan. ‘Dic Whittington’ fydd y pantomeim a berfformir gan Act 1 yn Theatre y Ffenics bob nos rhwng 24 - 26 Ionawr am 7pm gyda matinee brynhawn Sadwrn am 2pm. Pris y tocynnau yw £10.
Y Tad Brian Taylor, Yr Esgob David Thomas, Y Tad Haydn England Simon
Dros y blynyddoedd, trefnodd nifer o wyliau ar gyfer ei blwyfolion. Roedd e’n hoff iawn o’r Eidal ac unwaith aeth e â grŵp ar daith yno gyda mordaith yn dilyn ar ei diwedd. Dro arall, aeth â ni i Lyn Como gan drefnu bod holl fanylion
y daith wrth fodd pawb ac wrth gwrs, trefnai'r bererindod flynyddol i Walsingham yn Swydd Norfolk. Byddai’r Tad Brian bob amber yn gyrru’r bws mini ac rydyn ni i gyd yn cofio’r tro pan gymerodd yr allanfa anghywir o draf-
fordd Birmingham a gyrru ymlaen nes inni weld arwyddion am Blackpool a awgrymai ein bod wedi mynd ar gyfeiliorn. Trodd taith pedair awr a hanner yn farathon wyth awr! Tyfodd ei bartïon Blwyddyn Newydd yn
enwog gyda’i holl blwyfolion yn derbyn gwahoddiad i’r achlysuron arbennig hyn. Roedd y Tad Brian yn berson cymdeithasol iawn a’i ddrws bob amser yn agored i bawb. Ei gyfeillion cyson oedd ei dair cath a mawr oedd ei ofid am yr un fwyaf oedd yn dioddef o sawl afiechyd. Bydd llawer o deuluoedd yng Nghwmparc fydd yn drwm yn nyled y Tad Brian am ei gefnogaeth a’i garedigrwydd. Daeth yn gyfaill i lawer a byddwn yn dal i gofio’r ames y bu gyda ni. Yn ôl Tracy Grenter, warden, ‘Mae Cwmparc wedi colli ffrind mawr i’r gymuned ond wedi ennill angel arall i wylio drosom.
Denise Smith
LARRAINE JONES -
CANTORES, CYNGHORYDD AC ARLUNYDD
Doedd dechrau bywyd Larraine Jones, cynghorydd Ystrad a'r Gelli, ddim yn addawol iawn wrth i afiechyd ei chyfyngu i'r ysbyty am flwyddyn gyfan ar adeg bwysig yn ei haddysg. Ers hyny, mae hi wedi gwneud pob ymdrech i wneud yn iawn am hynny mewn sawl maes. Fe'i maged yng Nghwm Clydach, ac yno y cafodd ei haddysg yn yr ysgolion cynradd a modern. Bu Valmai Jones, a ddysgai gerddoraeth a chelf yn yr ysgol fodern yn ddylanwad pwysig arni wrth feithrin ynddi ddiddordeb mawr yn y ddau faes oedd i chwarae rhan bwysig yn ei bywyd yn nes ymlaen. Sweet Rain O'r ysgol, aeth ymlaen i ddilyn cwrs nyrsio yng ngholeg Llwynypia a'r adeg honno cyfarfu â Susan Jones [ysgrifenyd9
LARRAINE
10
des Ysgol Gymraeg Ynyswen wedyn] a grŵp o ferched o'r Rhondda Fach oedd yn cael eu hyfforddi i ganu gan Mrs Hawys James, Ferndale. Trwy'r cyfeillgarwch hwnnw y ffurfiwyd y grŵp 'Sweet Rain' a gafodd wahoddiad toc i ymddangos ar raglen deledu Gymraeg boblogaidd Tony ac Aloma. Yn rhyfedd iawn, ddechrau Ionawr eleni ar raglen 'Cerys Matthews a'r Goeden Faled', dangoswyd clip o'r merched yn canu 'Pererin Wyf' ar dôn 'Amazing Grace', gydag Iris Williams, cân a ddaeth yn fuan yn ffefryn mawr ledled Cymru. Yn stiwdio Pebble Mill, Birmingham y recordiwd cyfres Tony ac Aloma a bu rhaid i Larraine a'r merched aros yno am wythnosau lawer wrth recordio. Roedd y profiad hwn wedi rhoi iddi flas ar berfformio ac aeth ymlaen i berfformio ar ei phen ei hun gan ganu mewn clybiau ledled y de-ddwyrain.profodd hyn yn llwyddiant. Yn wir, dywedodd iddi lwyddo i glirio'r morgais ar ei chartref o'i henillion! Dysgu Cymraeg a Gwleidydda Yn ogystal â meithrin cariad at ganu, cafodd y ffaith ei bod wedi gorfod canu yn Gymraeg yn unig ar raglenni Tony ac Aloma effaith fawr arni hefyd. Penderfynodd fynd ati i ddysgu'r iaith gan ymuno â'r cwrs dwys ym Mholitechnig Cymru, Trefforest yn 1981 a sicrhau yn sgil hynny bod ei meibion yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Datblygodd ddiddordeb hefyd mewn gwleidyddiaeth ac yn y nawdegau cynnar cafodd ei hethol yn gynghorydd ar hen Gyngor y Rhondda, yn aelod o
grŵp Plaid Cymru oedd ar y pryd yn cynnwys Geraint Davies, Dorian Rees a Jill Evans a aeth ymlaen i fod yn aelod o Senedd Ewrop. Pan gipiodd Plaid Cymru awennau cyngor newydd Rhondda Cynon Taf yn 1999, gwyddai y deuai rhagor o gyfrifoldeb i'w rhan ac yn 2001-2 dewiswyd Larraine yn Faer Rhondda Cynon Taf. Doedd hwn ddim yn gyfnod hawdd, gan fod ei gŵr, Mike, yn ddifrifol wael, ond er gwaethaf popeth, llwyddodd i gyflawni ei dyletswyddau yn ystod y flwyddyn a chodi llawer o arian at achosion da. Ar ôl cynrychioli Pentre am nifer o flynyddoedd, collodd ei sedd, ond rhoddodd hyn gyfle iddi ddatblygu un o'i diddordebau cynnar, sef arlunio. Ymunodd a Chymdeithas Gelf Ystradyfodwg a dechrau arlunio mewn olew a dyfrliw. Mae Larraine wrth ei bodd gyda'r gwaith hwn a bellach mae hi'n gwerthu llawer o'i darluniau ac yn derbyn comisiynau cyson. Yn 2017, cafodd ei hethol yn gynghorydd unwaith eto, y tro hwn dros Gelli ac Ystrad a chafodd ei hun unwaith eto'n aelod o Gyngor RhCT. Er yr holl alwadau arni o sawl cyfeiriad, mae hi'n dal i wneud llawer o waith gwirfoddol a chael pleser arbennig yn cynnal sesiynau canu i bobl sy'n dioddef o glefyd Alzheimer. Mae bywyd Larraine yn un llawn iawn wrth iddi ganu, gwleidydda neu arlunio, Fodd bynnag, mae'n cyfaddef ei bod yn mwynhau pob munud. Os oedd ei dechreuadau drafferthus, gwnaeth y gorau o'i chyfle pan ddaeth a llwyddo i wneud ei marc mewn sawl maes.
YSGOLION
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Rhodd o git rygbi i Ysgol Gynradd Gymraeg BODRINGALLT gan ND Addysg Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cymryd rhan yng Ngŵyl Ysgolion y Rhondda Ganol ers sawl blwyddyn. Mae gan y tîm Rygbi hanes o lwyddiant – gan ddal y record am ennill y gystadleuaeth wyth o weithiau. Roedd plant YGG Bondringallt yn mwynhau cymryd rhan yn y twrnamaint; ond roedden nhw’n teimlo nad oedd eu dillad rygbi yn gwneud cyfiawnder
â nhw. Pan glywodd New Directions Education, sydd wedi gweithio’n agos â’r ysgol, am helynt y plant, eu hymateb oedd rhoi addewid i brynu dillad rygbi newydd sbon. Aeth Dafydd Henry, Rheolwr Cyfrif yn New Directions Education i’r ysgol i gyflwyno’r dillad newydd i’r ysgol. Dywedodd Dafydd, “Pan glywais i fod yr ysgol yn ceisio codi
arian i brynu dillad rygbi newydd, roedd ein tîm ni’n teimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth. I ni fel cwmni, mae’r gymuned yn un o’n gwerthoedd craidd. Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi ymrwymo i gefnogi’n cymunedau lleol. Dwi’n gobeithio y bydd y tîm yn mynd o nerth i nerth gyda’u dillad newydd.” Ychwanegodd Marc James, Athro blwyddyn 3 yn yr ysgol, “mae dil-
lad y tîm wedi cael llawer o ddefnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac o ganlyniad, maent wedi gwisgo at yr edau. Mae rhieni’r plant hefyd wedi dweud yr hoffent i’r tîm edrych cystal ag y maent yn chwarae. Mae’r ysgol gyfan yn llawn edmygedd o’r dillad newydd ac fe hoffem ddiolch i New Directions Education am eu cefnogaeth a’u haelioni.”
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
11
YSGOL GYNRADD GYMRAEG
BRONLLWYN
Parti Pyjamas Mwyaf yn y Byd
12
Ym mis Mai y llynedd helpodd y plant yma o Ysgol Bronllwyn MYM i dorri’r record am y Parti Pyjamas Mwyaf yn y Byd.