y gloran
20c
Lluniau gan Adrian Emmett o barti Menter Rhondda Cynon Taf yn Lion, Treorci, ddydd Sul, 3 Rhagfyr Diolch i Adrian am ei luniau - mae rhagor ohonynt yn nhudalennau’r papur.
NADOLIG LLAWEN I’N
DARLLENWYR
TWRBEINI GWYNT ETO GOLYGYDDOL
Yn dilyn y bleidlais a gynhaliwyd yn ddiweddar, clywodd Y Gloran ein bod wedi derbyn grant o £1000 gan Gronfa Wynt Treorci. Rydym yn ddiolchgar i'r Gronfa am ei chefnogaeth a hefyd i ddarllenwyr y papur hwn am eu cefnogaeth unwaith yn rhagor. Rhaid cofio mai cyfran fach o elw'r ffermydd a ddaw yn ôl i'r gymuned leol ac mae'r pris a delir yn fawr o gofio effaith y twrbeini ar olwg ein tirwedd. Er gwaethaf bygythiad cynhesu byd-eang a phwysigrwydd ynni gwyrdd, rhaid cydnabod bod y rheolaeth sydd gennym ar y mentrau hyn yn ddiffygiol iawn. Yn y lle cyntaf, cwmnïau o'r tu allan i Gymru yw'r perchnogion. Ychydig
2
iawn o swyddi a greir ganddynt i'r boblogaeth leol. Cynhyrchir twrbeini eu hunain dramor ac mae'r egni a gynhyrchir ganddynt yn fach o ran maint ac yn ddibynnol ar fympwy'r gwynt sy'n chwythu pryd a lle y myn. Ni sydd ar fai am adael i ddieithriaid achub y blaen arnom wrth sefydlu mentrau fel hyn. Mae'r ychydig gymunedau sydd wedi datblygu eu ffermydd eu hunain yn gallu hawlio'r holl elw a rheoli datblygiadau yn llawer mwy effeithiol na ni - ond mae'r dŵr hwnnw wedi hen lifo o dan y bont! Er gwaethaf hyn i gyd, rydyn ni'n cefnogi ynni gwyrdd ac yn cydnabod ei bwysigrwydd. Ar yr un pryd, teimlwn ein bod ni ym mlaenau'r cymoedd wedi cyfrannu
mwy na'n siâr i'r achos ac mae'n bryd inni ymbwyllo cyn derbyn rhagor o dwrbeini. Y rheswm y codir hyn nawr yw bod cwmni o Swydd Hertford yn paratoi cais i godi wyth twrbein ar ben Bwlch y Clawdd. Cynhaliwyd arddangosfa yn Neuadd y Parc, Cwmparc yn ddiweddar yn esbonio'r cynllun ond ychydig iawn o bobl leol a ymwelodd â hi am fod y cyhoeddusrwydd mor wael a'r oriau agor 10am - 2pm - yn anghyfleus i bobl sy'n gweithio. Bwriedir lleoli'r twrbeini yn union uwchben Cwmparc yng nghyffiniau Craig Fawr a Chraig Fach, y ddau fasn neu gwm sydd mor amlwg ac a ffurfiwyd yn ystod Oes yr Iâ. Dyma'r enghreifftiau mwyaf deheuol ym Mhrydain o'r nodwedd ddaearyddol bwysig hon ac mae'n bwysig eu bod yn cael eu
hamddiffyn. Claddwyd planhigion prin ar waelod y ddau fasn pan benderfynodd Cyngor y Rhondda symud y tipiau ym mhen uchaf Cwmparc ac nawr mae'r olygfa wych i gyfeiriad y Bwlch hefyd o dan fygythiad. Galwn ar gynghorau RCT a Phen-y-bont i wrthod y cynllun gan fod gennym fwy na digon o felinau gwynt yn barod, ond os daw i'r gwaethaf rhaid sicrhau na fydd y twrbeini'n cael eu lleoli mewn mannau amlwg ger ymyl y ddau gwm neu 'corrie'. Bydd arddangosfa fwy cynhwysfawr yn y flwyddyn newydd. Da chi, cofiwch ymweld â hi a mynegi eich barn. Yn y cyfamser, dymunwn NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA i’n holl ddarllenwyr.
y gloran
rhagfyr 2017
YN Y RHIFYN HWN..
Parti Nadolig...1 Golygyddol/Twrbeini...2 Parti Nadolig..3 Ein Gwleidyddion..4 Newyddion Lleol..5 ...ac 8-9 Byd Bob/Cymdeithas Ddinesig/Yr Almaen..6-7 Newyddion/Cartwn...9 Yr Almaen.10-11 NadoligLlawenBawb12.
Parti Menter Rhondda Cynon Taf yn Lion Treorci
Llwyddiant Parti Nadolig Treorci 2017
Ar Ddydd Sul y 3ydd o Ragfyr yn nhafarn y Lion, Treorci daeth pawb ynghyd i ddathlu’r Nadolig gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Diwrnod llawn bwrlwm Nadoligaidd i deuluoedd yr ardal â phob dim yn Ariennir yn rhannol y Gymraeg! gan Lywodraeth Cymru Roedd yn brynhawn Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison hyfryd gyda gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN chyfle i’r
plant ymweld â groto Sïon Corn, gweithgareddau celf a chrefft Nadoligaidd a stondinau Cymraeg. Doedd dim rhaid poeni am y tywydd oer â’r barbeciw Nadolig a’r croeso cynnes yn cadw pawb yn hapus. Ar ran y Fenter hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Lion yn Nhreorci am y croeso arbennig, yr holl ymwelwyr daeth o bob cornel
o’r sir, radio GTFM ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen am y perfformiadau ardderchog.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda oddiwrth Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Welwn ni chi blwyddyn nesaf!
Catrin Reynolds
3
CYFARCHION
Y TYMOR
4
LEANNE
JILL
leanne.wood@cynulliad. cymru 01443 681420
campaigns@jillevans.net 01443 441395
YMA I’CH HELPU CHI
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Cynhaliwyd cyngerdd yng nghapel Carmel, nos Wener, 1 Rhagfyr gyda chôr WI Treorci ac Ysgol Gymraeg Ynyswen yng nghwmni dau unawdydd, sef Rachel Stephens a Sydney Richards. Roedd yr holl elw yn mynd at apêl LATCH. Ar ol derbyn £1.2 miliwn o’r loteri mae “Croeso i’n Coedwigoedd” wedi mynd o nerth i nerh. Mae nhw wedi sefydlu sawl grwp yn cynnwys grwp cerdded, goginio cymreig prosiectau busnes a wedi cymryd dros sawl rhandir. Mae’r prosiect hydr-electrig yng Nghwm Saebren bron wedi cwblhau. Yn y cyfarfod ola’r blwyddyn roedd y cadeirydd Calum Macintosh wedi ymddeol ac mae Simone Davinid o Gymdeithas Tai y Rhondda wedi cymryd dros yr awenau. Roedd croeso mawr i blant Ysgol Gymraeg Ynyswen pan ganwyd y cor yng ngwasanaeth carolau yng nghapel Blaenycwm. Roedd y gwasanaeth yng ngolau canwyllau a dan ofal y parchedig Phil Vicery a Ralph Upton.
Cynhaliwyd cinio Nadolig PACT yng nglwb rygbi Treherbert ar y 4ydd o Rhagfyr. Roedd Natasha Forster y CPSO yn diolch yr aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y blwyddyn. Cyflwynwyd dystysgrifau i Sally Williams a Suzanne Davies oddiwrth y brif arolygwr heddlu i gydnabod eu
gwaith i sefydlu gardd cymenedol ar stad Brynhenllan.
Ar y 10fed o Rhagfyr cynhaliwyd marchnad Nadolig ym maes parcio Eleanor Street. Roedd nifer o stondinau gwahanol yn gwerthu nwyddau Nadoligaudd a darparwyd y bwyd a diodydd gan y cafe gyferbyn sef CF42
Cynhaliwyd ffair Nadolig yng nglwb cymdeithasol Blaenrhondda i godi arian dros Glwb Merched a Bechgyn Treherbert. Yn ddilyn y ffair roedd disgo llwyddianus.
Ar yr 16ain o Rhagfyr cynhelir ffair Nadolig yng nghapel Blaenycwm o 11 tan 4. Bydd gweithgareddau a stondinau o bob math ac wrth gwrs bydd Sion Corn yn galw draw. Croeso cynnes i bawb
Flin cofnodi marwolaeth Mrs Sally Evans oedd yn byw yn y byngalo tu ol Wyndham St. Roedd Mrs Evans yn 98 mlwydd oed ac yn adnabyddus yn y cymuned. Cydymdeimlwn a’i merch Annette a’r teulu i gyd.
TREORCI
Mae tri o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci wedi eu penodi'n ymddiriedolwyr i Gronfa Goffa Dr Islwyn Morris, sef Rachel Morris (Ysgrifennydd), Darren Norton (Trysorydd), Sara
Bailey ac Emyr Webster. Sefydlwyd y gronfa yn 1973 gyda'r bwriad o wobrwyo disgybl teilwng o Ysgol Gyfun Treorci'n flynyddol. Y ddau ymddiriedolwr arall yw Mrs Margaret Davies a Cennard Davies.
Nos Iau, 30 Tachwedd y siaradwr yn y Gymdeithas Gymraeg oedd y darlledwr adnabyddus, Richard Rees. Testun ei sgwrs oedd 'Yr Antarctic', sef hanes ei ymweliad yno wrth wneud y gyfres deledu 'Ar y Lein'. Dangosodd luniau o'i daith ef a'r gyflwynwraig, Bethan Gwanas i fannau diddorol, fel caban y Capten Scott a'r pegwn ei hun. Gan fod diddordeb mawr gan Richard Rees mewn tynnu lluniau bywyd gwyllt, cafodd pawb fwynhd o weld adar ac anifeiliaid y rhan hon o'r byd. Ar ddiwedd y ddarlith, cafodd pawb gyfle i holi'r siaradwr. Cadeiriwyd gan Gwyn Evans. Bydd y cyfarfod nesaf nos Iau, 25 Ionawr pan fydd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones yn ymweld â'r Gymdeithas. Croeso i bawb.
Bydd Côr WI Treorci o dan arweiniad Mary Price yn cynnal eu gwasanaeth carolau blynyddol yn Eglwys San Matthew, nos Fawrth 19 Rhagfyr am 7pm. Cafodd yr aelodau gyfle i fwynhau cinio Nadolig yng nghwni ei gilydd yng Nghlwb Golff Penrhys ar 7 Rhagfyr. Rhwng 16 - 24 Rhagfyr
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre:
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN bydd cwmni Frank Vickery yn perfformio pantomeim 'Aladdin' yn y Parc a'r Dâr.
Ddydd Iau 7 Rhagfyr cynhaliodd Pinewood House [Noddfa gynt] Ffair Grefftau i godi arian at y ganolfa. Roedd yno stondinau crefftau ac anrhegion, losin a theisiennod o bob math. Mae 'Gogoniant y Nadolig' wedi dod yn achlysur blynyddol i Fand y Parc a'r Dâr. Fe'i cynhaliwyd eleni ar 8 Rhag. yng nghwmni Cantorion Richard Williams a chorau Ysgol Gyfun Treorci a'r Ysgol Gynradd.
Cynheuwyd goleuadau'r Nadolig yng nghanol Treorci, ddydd Sadwrn, 9 Rhagfyr gyda llu o stondinau yng Nghlwb y Bechgyn a'r Merched a Siôn Corn wedi cyrraedd
PARHAD ar dudalen 8
5
Flynyddoedd yn ôl, fe es i am dro i Rimini gyda ffrind o Wrecsam. Roedd fy ffrind newydd gael ysgariad ac roedd e eisiau mwynhau newid golygfa am sbel. Roeddwn i'n hapus i fynd gyda fe am fy mod yn hoff o fwyd yr Eidal ac ar y pryd roeddwn i'n siarad a deall yr iaith Eidaleg yn eitha' da. Rwy'n cofio'r noson gyntaf yn iawn. Roedd ein gwesty ar lan y môr ac roedd yr olygfa'n fendigedig. Ond ar ôl cerdded yn ôl ac
ymlaen ar y promenâd yn edrych ar y merched pert, fe benderfynon ni fentro i mewn i hen ardal y dre' a dod o hyd i far lle roedd y bobl leol yn cwrdd â'i gilydd yn bell o oleuadau disglair y promenâd. A dweud y gwir, roedd llawer o fariau yn yr hen ardal, ond roedden nhw i gyd yn wag. Roedd eu cwsmeriaid arferol, siwr o fod wedi penderfynu treulio'r noson ym mariau ffasiynol glan y môr. Ond yna, fe droeon ni gornel a gweld teras caffi oedd yn llawn o bobl ryw ganllath i ffwrdd ben arall y stryd. Fel Eidalwyr da, roedden nhw i gyd yn taflu eu breichiau i'r awyr yn gyffrous. "Steve," dywedais i, " gadewch inni fynd yno, mae'n edrych yn fywiog ac yn mwynhau eu hunain."
Ond pan gyrhaeddon ni'r bar fe gawson ni sioc. Doedd y bobl yma ddim yn gwneud sŵn o gwbl. Clwb oedd e i bobl fud a byddar! Fe droeon ni nôl. Doedden ni ddim yn gallu siarad â nhw o gwbl - roedd yn drist. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, rwyn cofio ymweld â fy hen athro Sbaeneg, George Rochat. Roedd e'n byw ar ei ben ei hun ar ôl i'w wraig farw. Bu farw George yn ei nawdegau ac aeth e'n ddall tua diwedd ei fywyd. Roeddwn i'n hoffi ymweld ag ef am ei fod yn ddyn doeth a deallus. Ar un achlysur, dywedodd e wrtho i, "Rwy'n ddiolchgar fy mod i wedi mynd yn ddall yn hytrach nac yn fyddar, Bob. Ti'n gweld, alla' i ddim dy weld di, ond rwy'n gallu siarad â
ti ac â ffrindiau eraill wyneb yn wyneb neu ar y ffôn. Hefyd, rwy'n gallu gwrando ar fy recordiau clasurol, ac maen nhw'n rhoi llawer o gysur i fi. Rwy'n gwerthfawrogi fy nghlustiau yn fwy na fy llygaid. Os ydw i'n gallu clywed, dydw i ddim ar fy mhen fy hun." Y noson o'r blaen, roeddwn i mewn tafarn yn Nhreorci yn gwrando ar fand roc. Roedd y miwsig yn swllyd iawn ac felly roeddwn i wedi rhoi gwlân cotwm yn fy nghlustiau. Fe ddechreuodd un o fy ffrindiau ifanc dynnu fy nghoes. "Rwyt ti'n mynd yn hen," dywedodd e. "Ydw," atebais i dan wenu, "ond dydw i ddim yn mynd yn fyddar..."
Cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas nos Fercher, 22 Tachwedd yn Neuadd y dderwen, Treorci pan draddododd Dean Powell ddarlith ar 'Treorci a Gwlad y Gân'. Er gwaethaf y tywydd
gwael daeth rhyw 40 ynghyd i ddathlu hanes corau meibion Cymru. Clywsom am ddylanwad anghydffurfiaeth a thwf y diwydiant glo ar ddatblygiad y corau a chymaint oedd pwysigrwydd corau
meibion yn Oes Fictoria. Hefyd, cyhoeddwyd yn y cyfarfod bod y Gymdeithas wedi adnewyddu'r casgenni blodau ger y Parc a'r Dâr an ddefnyddio grant o'r fferm wynt a chyfraniadau
aelodau a'i bod hefyd yn mynd i adnewyddu'r casgenni yn ymyl cerflun teulu'r glöwr yn Llwynypia. Ann Barrett
BYD BOB
CYMDEITHAS DDINESIG Y RHONDDA
YR ALMAEN - DROS Y DIBYN? WEL BRON!
Mae Laurance Thomas yn cofio Nadolig gwyn ar y cyfandir ac yn adrodd am antur bythgofiadwy o frawychus yn yr eira!
Roedd Nadolig 1978 yn brofiad i’w gofio. Roeddwn i wedi cyflawni fy nhymor cyntaf fel athro Saesneg yn yr Almaen ac wedi dychwelyd adre i nôl fy ngwraig, Maureen oedd yn cyflawni ei thymor olaf yn Ysgol y Maerdy cyn gyrru i'n cartref newydd mewn tref bach yn Westffalia, gogledd yr Almaen. Felly, bant â ni mewn Simca bach llawn dop gyda chist fawr a charped ar y resel ben to. Roedd y daith i'r fferi yn Dover yn eithaf diddigwyddiad, er
gwaetha'r oerfel a'r amodau gaeafol. Erbyn i ni gyrraedd Sir Gaint roedd eira'n dechrau disgyn, felly nid dyna oedd y tywydd gorau i groesi‘r Sianel. Unwaith roedden ni yn Ostend, fodd bynnag, roedd popeth yn hollol wahanol. Roedd y dirwedd gyfan yng Ngwlad Belg wedi ei gorchuddio gan eira trwchus. Roedd y ffordd o'r porthladd i'r autoroute yn glir ond roedd yr autoroute ei hun yn dawel iawn iawn. Roedd fel anialwch, nid o dywod ond o eira. Roedd popeth yn disgleirio dan olau'r lleuad ac adlewyrchiad yr eira. Unwaith ar yr autoroute doedd dim opsiwn ond parhau. Doedd dim ond
un trywydd ar gael gyda cheir gwag wedi eu gadael ar ddwy ochr y ffordd. Beth oedd o'n blaen ni? Sut roedd yr amodau yn yr Iseldiroedd a'r Almaen ei hun? Heb ragolygon y tywydd, doedd y radio ddim yn helpu o gwbwl. Doedd dim dwywaith amdani ond cario ymlaen yn araf iawn, iawn. Dyfal donc! Ar ôl tua dwy awr, gwelon ni arwydd i Antwerpen. Roedd yn amser gwneud penderfyniad a chydbwyso'r risg o aros ar y autoroute a mynd yn sownd mewn eira trymach neu droi i Antwerp a thrio ffeindio gwesty oedd ag ystafell ar gael. Roedd cyffiniau Antwerp yn dawel iawn. Roedd popeth ar gau ar
wahân a un adeilad yn y pellter oedd wedi ei oleuo, diolch byth. Daeth ein Simca bach trwyddi, yn llwyddo’n orchestol lle roedd ambell Mercedes mawr yn aros yn sownd ar yr autoroute.Hanner awr yn hwyrach, eisteddon ni mewn café cynnes yn yfed cawl poeth, Ar ben hynny roedd un ystafell ar gael. Byddem yn treulio'r diwrnod nesaf yn gyrru trwy’r Iseldiroedd i’n cartref newydd yn yr Almaen lle oedd yr eira yn cyrraedd ffenestri'r llofft. Roedd y tymherydd yn -20 gradd.
Ymgartrefu Cerddais i'r ysgol drannoeth am hanner awr
Parhad ar dudalen 10
ei ogof. Da oedd gweld y ceirw yno yn sicrhau bod Santa'n cyrraedd mewn da bryd.
Mae/n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Ruth Bowen, Stryd Crosswood. Roedd Ruth, gweddw'r diweddar John Bowen, yn nyrs ardal uchel iawn ei pharch am nifer o flynyddoedd. Cydymdeilwn â'i mab, Lloyd a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
CWMPARC
Cynhaliwyd Ffair Nadolig Eglwys San Siôr ddydd Gwener, 1 Rhagfyr. Roedd pawb yn gyffrous i weld Siôn Corn yn ymddangos am y tro cyntaf eleni yn yr ardal a chafodd pawb hwyl yn prynu o'r stondinau amrywiol.
Bydd y canwr a'r digrifwr, Rob James yn ymddangos, nos Fawrth 26 Rhagfyr yn y legion. Dewh am noson o hwyl
8
drannaeth y Nadolig.
Llongyfarchiadau i dim pel-droed Ysgol y Parcb a enillodd gystadleuaeth RhCT yn y Sports Yard ar 6ed Rhagfyr. Mae’r ysgol yn falch iawn o’ch sgiliau a’ch agwedd trwy gydol y gystadleuaeth.
Cofnodwyd yn rhifyn diwethaf Y Gloran am lwyddiant Cyngor Eco Ysgol y Parc, a dderbyniodd eu baner wyrdd am y trydydd dro. Mae eu hathro, Miss Helga Lewis, wedi datgelu bod yr aseswr wedi mynd ag eu ‘Ffeil Eco’, i ddangos i ysgolion eraill fel enghraifft o arfer da. Dywedodd e nad oedd argymelliadau i’w wneud, sydd bron byth yn digwydd. Da iawn bawb! Bydd gwasanaethau a chygherddau yn Eglwys San Sior yn ystod mis Rhagfyr. Dydd Sul, 10 Rhagfyr, 4:30yh – Gwasanaeth Goleuadau Cariad. Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr, 5:30yh –
Gwasanaeth Christingle, gydag aelodau’r Beavers. Dydd Llun, 18 Rhagfyr, 10:00yb Gwasanaeth Christingle, gyda disgyblion Ysgol y Parc. Dydd Mercher, 20 Rhagfyr, 6:00yh - Cyngerdd Nadolig, gyda disgyblion Ysgol y Parc. Dydd Sul, 24 Rhagfyr, 10:00yb gweddiau boreol, a 10:00yh, cymun cyntaf y Nadolig. Dydd Llun, 25 Rhagfyr, 10:00yb - y cymun. Dydd Mawrth, 26 Rhagfyr, 10:30yb - y cymun. Dydd Iau, 28 Rhagfyr, 10:00yb - y cymun. Dydd Sul, 31 Rhagfyr, 10:45yb - y cymun.
Y PENTRE
Bu Eglwys San Pedr yn brysur iawn yn ystod y mis. Nos Iau, 7 Rhagfyr, daeth Côr Meibion Treorci a Band y Cory ynghyd i gynnal cyngerdd ac wedyn cafwyd cyngerdd nos Sul y 17fe ar drothwy'r Nadolig gyda nifer o artistiaid blaenllaw yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau i
Melissa Warren, gynt o Lemon Blues, Stryd Llywellyn ar gael
ei henwebu'n un o 100 gwraig fusnes amlycaf Cymru yn ddiweddar. Mae hi a John bellach wedi symud i fyw i Gapel Iwan, Sir Gaerfyrddin. Pob dymuniad da iddi hi a'i busnes tecstilau yn ei chynefin newydd.
Llongyfarchiadau i Fyddin yr Iachawdwriaeth sydd newydd dderbyn £1500 gan Gronfa Wynt Treorci at brynu bordydd a chadeiriau newydd ar gyfer y neuadd ynghyd â system PA newydd.
Cynhaliwyd cyngherdda carolau yn eglwys San Pedr ar 14 Rhagfyr ac yn Citadel Byddin yr Iachawdwriaeth ar 10 a 17 Rhagfyr
TON PENTRE A GELLI
Cyflwynwyd sioe Nadolig, 'Elf Jr' gan gwmni theatr Act 1 yn y Ffenics rhwng 6 - 9 Rhagfyr. Roedd pawb yn canmol cynhyrchiad lliwgar a chyffrous arall gan y cwmni talentog hwn o bobl ifainc.
Cynhaliwyd ffair Nadolig Canolfan Gelli a Ton Pentre ddydd Sadwrn, 9 Rhagfyr. Roedd yno amrywiaeth o stondinau a galwodd Siôn Corn heibio yn ogystal, er mawr foddhad i'r plant.
Cynhelir Gwasanaeth Carolau Eglwys Sant Ioan, ddydd Sul, 17 Rhagfyr am 3pm. Bydd lluniaeth ysgafn ar ôl yr oedfa ac mae croeso i bawb ymuno yn y dathliad. Bydd y gwasanaethau wythnosol yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer. Cynhaliwyd aduiad
blynyddol Clwb Bechgyn Treorci ac Ystrad ar 1 Rhagfyr yn y Clwb Pêl-droed. Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd Ken Scane, John Cook a Graham John ynghyd â Clive Owens a Phil Ivens o Benygraig. Roedd pawb yn gweld eisiau John Loney a fu farw yn ystod y flwyddyn.
Cynhaliodd grŵp Can Du Tŷ Ddewi eu parti Nadolig ar 29 Tachwedd. Diolch yn fawr i'r trefnwyr, Jan Derrett, Billie Favlado, Dee Thorne (Tŷ Ddewi) a Glennys Vanderwolk. Arôl mwynhau
pryd ardderchog, dangoswyd ffilm, canwyd carolau a chafwyd cwis. Yn bresennol hefyd, roedd aelodau o glwb can du Oak Meadow Court, Llaneirwg (St Mellons). Dechreuodd hwyl y Nadolig yn gynnar i aelodau Cameo eleni pan ddaeth côr Ysgol Gynradd Ton Pentre o dan arweiniad Norah Barnard i ganu carolau ar 29 Hydref. Roedd y grŵp yn dathlu eu cinio Nadolig yn nhafrn y Windsor ar 6 Rhagfyr.
Côr Meibion Cwm Rhondda yn difyrru'r gynulleidfa yn Noson Goffi Canser UK yn neuadd San Matthew, Treorci
CARTŴN Y MIS GAN SIÔN TOMOS OWEN
9
wedi chwech (dechreuai'r wers gyntaf am 7.45) a gwneud hynny trwy’r holl dymor nesaf. Cyrhaeddai llawer o blant ar sgïau. Teimlai rheolwyr yr ysgol yn awyddus iawn i roi croeso cynnes i Maureen, yn arbennig i'w helpu i ddysgu Almaeneg. Roedd damcaniaeth ers llawer dydd taw'r dull gorau o ddysgu ieithoedd oedd trwy ddefnyddio'r iaith yn gyfrwng i ddysgu sgil newydd. Felly, ar ôl newydd gyrraedd gwlad ddieithr, corfrestrwyd Maureen ar gwrs coginio. Doedd dim gair o Almaeneg gyda hi, na ddim Saesneg gyda'r athrawes chwaith. Doedd yr athrawes ddim yn hapus o gwbl ar ôl i fi gyflwyno fy ngwraig ar ddechrau’r wers gyntaf a'i gadael yn yr ystafell
10
ddosbarth. A dydy Maureen ddim wedi fy maddau byth! Roedd ein cymdogion yn athrawon chwaraeon ac roedden nhw hefyd eisiau ein helpu i ymgartrefu. Felly, perswadi-
wyd hi i ymuno â thîm pêl fasged menywod. Criw o fenywod oedd yn chwarae yn galed ar y cwrt ac wedyn yn y tafarn! Gweithiodd yr arbrawf yn hynod o dda. Ar ôl rhai misoedd,
credai pobol taw Hollannderin oedd Maureen, sef menyw o Isel diroedd. O ran datblygiad proffesiynol i fi, roedd y profiad yn un positif dros ben. Dw i’n cofio fy noson rieni
gyntaf o hyd. Dechreuodd y cyfarfod gyda holl rieni’r dosbarth am wyth o’r gloch ac eisteddais i lawr am 10 o’r gloch ar ôl ateb cwestiynau o’r gynulleidfa yngylŷn â’r cwricwlwm, dullau o brofi, system o farcio ac yn y blaen. Roedd pob manylyn mor bwysig iddyn nhw achos roedd y pwnc mor bwysig, neu yn hytrach y canlyniadau. Os, ar ddiwedd y flwyddyn na lwyddai myfyrwyr i gael gradd ddigonol, byddai rhaid iddyn nhw ailadrodd y flwyddyn gyfan. Roedd pwnc fel Saesneg yn bwysig iawn i’r cwricwlwm am ei fod mor bywsig ym mywyd economaidd y wlad. Roedd pwysau yn bendant ar fyfyrwyr a theuluoedd, ond ar athrawon yn ogystal.
Diddordebau Hamdden Ond doedd popeth ddim yn waith i gyd - a dim chwarae. Roedden ni’n byw mewn ardal hyfryd - Arnsberger Wald ger y Moehnesee, un o’r argaeau oedd wedi cael ei fomio gan y RAF (portreadwyd hyn yn ffilm y 'Dambusters'). Oherwydd y tymherydd eithafol, roedden ni’n gallu mwynhau BBQs ar wyneb y llyn enwog. Roedd wedi ei rewi at 20 gradd minus am fisoedd. Roedd yr ardal yn fynyddig a sgïo yn weithgaredd poblogaidd. Derbynion ni wahoddiad gan gydweithwyr i fynd i sgïo. Doedden ni ar a pryd ddim wedi sgïo o gwbwl. Ond fyddai hi ddim yn broblem o gwbwl achos doedden nhw ddim yn sgïo yn gyson chwaith, ac nid oedd y safon yn uchel. Beth bynnag, doedd dim rhaid i ni allu gwneud
Abfahrt (lawr rhiw) achos y cynllun oedd i wneud Langlauf (traws gwlad). Roedd y profiad yn fwy fel 'ski mountaineering' na thraws gwlad achos ar ôl nifer o oriau yn sgïo, cyrrhaeddon ni gopa un o’r mynyddoedd ar ôl dilyn y cyfuchlineddau i fyny. Ar ôl cymryd pedair awr i gyrraedd y copa, doedd dim amser i gadw,at y cynllun gwreiddiol a dychwelyd ar hyd yr un route. Roedd hi’n dechrau nosi hefyd, felly roedd y penderfyniad wedi ei wneud i sgïo i lawr y mynydd ar y piste. Problem fawr i ni achos mae’n cymryd mwy o sgil i sgïo i lawr gyda sgïau Langlauf (sef sïiau traws gwlad) na sgïau Abfahrt go iawn achos does dim cefnogaeth sawdl ar sgïau Langlauf. er mwyn dal y sawdl yn sownd ar y sgi. Yn ffordus, roedd lifft sgi ar a copa, felly gallai Maureen a minnau ddal y lifft a byddai'r Almaenwyr yn sgïo i lawr. Problem wedi'i datrys! Felly bant a ni.! Dechrau Gofidiau Roedd y lifft sgïo yn un o'r hen system gadeiriau (chair lift), Dyw’r system byth ar stop oni bai bod gwyntoedd cryfion pan arhosai popeth tan i’r gwynt ostwng. Mae’n mynd i fyny i gario sgiwyr go iawn i'r copa er mwyn sgïo i lawr. Fel arfer mae’r lifft yn dychwelyd i lawr yn wag. Felly mae’r system wedi’i chynllunio'n bennaf i gario pobol i fyny’r mynnydd. Prun bynnag, roedd rhaid i ni ddefnyddio’r peth o chwith, fel petai. Felly sefais i ar y blaen yn aros am y gadair nesaf i lawr. Fe gawn i fy nghodi lan a fy nghario dros y dibyn i ffwrdd o’r copa . Ar yr un pryd byddai gofalwr
yn taflu bar diogelwch dros fy mhen i'm cadw yn y gadair. Fodd bynnag, pan ges i fy sgubo i fyny doeddwn i ddim yn eistedd yn iawn yn y gadair achos roedd rucksack ar fy nghefn a doedd dim digon o le i eistedd ar y gadair. Achos doeddwn i ddim yn gallu eistedd yn iawn ar y gadair, doedd y bar diogelwch ddim yn cyrraedd dros fy nghorff, ond adlamodd yn ôl uwch fy mhen. Roeddwn i’n clwydo ar ymyl y gadair heb far diogelwch gyda risg mawr o lithro oddi arni a chwympo 60 troedfedd i lawr. Roedd dau bâr o sgïau yn fy llaw dde. Doeddwn i ddim yn gallu ei defnyddio i gydio yn y gadair. Roedd rhaid i fi beidio mynd i banic ond anadlu yn araf ac osgoi gwneud unrhyw symudiad. Osgoais y demptasiwn i edrych i lawr i waelod y mynydd. Ar ôl cwpl o funudau stopodd yr holl system oherwydd cryfder y gwynt. Roeddwn i’n hongian ar fin y gadair oedd nawr yn dechrau siglo yn y gwynt. Ro’n i'n canolbwyntio ar edrych yn syth ymlaen ac yn gallu gweld trwy gil fy llygad bobol eraill yn dod i fyny yn gweiddi gan bwyntio at y ffwlcyn oedd yn disgyn heb far diogelwch ac yn pendilio ar fin y sedd. “Guck mal hin..Der Verrueckte. Idiot.” gweiddent gyda thipyn bach o Schadenfreude. Roedd fy llaw yn rhewi a doeddwn i ddim yn teimlo fy llaw chwith o gwbwl oherwydd yr oerfel. Felly, allwn i ddim cydio yn y gadair, er llwyddais i fachu fy mys bawd trwy'r styllod cefn. Ni fyddai'n ddigon i fy achub rhag cwympo pe byddai’r gwynt yn gwaethygu, ond efallai
byddai hi’n help i gadw cydbwysedd, a gyda lwc, i allu aros ar fin y gadair tan imi gyrraedd y gwaelod. Roedd Maureen yn y gadair y tu cefn i fi yn gwylio popeth a phawb arall oedd wedi sgïo i lawr yn gwylio ein disgyniad o’r gwaelod yn hynod ofnus. Ar ôl dathlu cyrraedd yn ddiogel, cyfaddefodd y criw eu bod nhw wedi bod yn sgïo ers chwe blwydd oed ac un ohonyn nhw ers pedair blwydd oed. Ond braidd eu bod yn sgïo yn dda. Roedd sgïo yn rhan hanfodol o'u bywydau nes eu bod nhw’n cymryd yn ganiataol bod pawb yn gallu sgïo i raddau. Roedd y syniad o ddechreuwr pur yn gwbl estron iddynt. Arhoson ni am ddwy flynedd yn yr Almaen ac mae rhaid i fi ddweud bod y profiad proffesiynol wedi bod yn un gwych. Rhoddai'r athrawon a'r trigolion eraill groeso cynnes iawn i ni i ddod yn rhan o'r gymuned. Roedd hi’n gyfnod pwysig iawn yn ein bywydau a rydyn ni wedi cadw cysylltiad clos gyda ffrindiau trwy’r blynyddoedd. Cafodd ein merch gyntaf, Rhwena, ei geni yn y dref fach amaethyddol honno, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach aeth hi i Brifysgol Hamburg. Ar yr un adeg treuliodd ei chwaer, Sian, flwyddyn yn yr Oberstufe (dosbarth chwech) mewn ysgol yn Bafaria. Mae gyda ni lawer o atgofion o'n hamser yno ond yr un sy’n codi pob hyd yn hyn, yw ein profiad cyntaf o sgïo.
Laurance Thomas
11
NADOLIG LLAWEN BAWB!