y gloran
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
19:06
Page 1
papur bro blaenau’r rhondda fawr
20c
rhifyn 270 2il gyfrol
mawrth-ebrill 12
Geraint a Ralph gyda rhai o bobl y prosiect
Y GLORAN AR WASGAR CYNGHORYDD TREHERBERT AR DAITH DDYNGAROL Yn ddiweddar aeth y
Cyng. Geraint Davies
ar daith ddyngarol i Ethiopia ar gyfandir Affrica yng nghwmni'r Parch Ralph Upton, gweinidog Capel Blaenycwm.
“Fydda i byth yn cwynio am gyflwr heolydd y Rhonndda eto. Dyna beth a feddyliais wrth drafaelu mewn 4x4 ar y ffordd o Addis Ababa i dre o’r enw Nekemte yn Ethiopia. Roedd y daith o 220milltir yn cymryd 12 awr! Roeddwn i’n ymweld ag
Ethiopia gyda gweinidog Capel Blaenycwm, Capten Ralph Upton, i oruchwylio prosiectau ei elusen, Cymoedd Gobaith .
Mae Ethiopia yn wlad dlawd a gwelwch lawer o gardota ar y strydoedd. Mae HIV Aids yn broblem enfawr ac mae un o’r prosiectau wedi creu cronfa lle mae pobol sy’n barod i fagu plant amddifad (yn aml oherwydd Aids) yn gallu benthyg arian i sefydlu busnesau bach. Y
llynedd sefydlwyd 50 o fusnesau ac eleni bydd 40 ychwanegol yn cael eu dechrau twy ailgylchu'r arian gwreiddiol. Nawr mae bron 100 o blant wedi eu mabwsaiadu dan y cynllun.
Y Carchardai a'r Economi Cyn dod i Dreherbert roedd Capten Upton yn gaplan mewn carchar yn Lerpwl a thrwy hynny ymwelodd â charchardai Eithiopia. Mae amodau y carcharorion yn dorcalonnus gyda 200 o
ddynion yn cysgu mewn unystafell. Yng ngharchar y menywod mae’r plant yn aros gyda’u mamau tan eu8fed penblwydd. Mae’r elusen yn trefnu adeiladu dau bloc cysgunewydd yng ngharchar Nekemt (un i fenywod a phlant ac un i ddynion). Bydden nhw’n cael eu cwblhau yn y misoedd nesaf. Mae’r elusen hefyd yn gweithio gyda llwyth yr Affar yn nwyrain y wlad. Mae economi y llwyth hwn yn dibynnu i
drosodd
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
19:06
Page 2
golygyddol
y gloran
E-bost: ygloran@hotmail.com
DIOGELU EIN TREFTADAETH I'R DYFODOL
Yn 1921, poblogaeth y Rhondda oedd 162,729. Erbyn 2001 doedd ond 72,443 ohonom yn byw yma - gostyngiad o dros 90,000. Mae'r gostyngiad enbyd hwn wedi effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau, ond yn arbennig ar yr adeiladau o'n cwmpas. Fel yn achos person tew sy'n colli llawer o bwysau'n sydyn a chael bod ei ddillad i gyd yn rhy fawr, sylweddolwn fod yr adeiladau a etifeddwyd gennym bellach yn rhy fawr o lawer i ateb gofynion y boblogaeth. bresennol Gwelwn hyn yn arbennig yn achos neuaddau gweithwyr, clybiau, tafarndai, capeli ac eglwysi. Mae'r holl sefydliadau hyn wedi chwarae rhan bwysig yn ein hanes, ac mae i rai ohonynt werth pensaerniol. Fodd bynnag, oherwydd eu maint, aethon nhw'n anodd eu cynnal. Gwelwyd rhai yn cael eu tynnu i lawr yn llwyr, eraill yn cael eu defnyddio at bwrpas gwahanol ac eraill yn cael eu haddasu at ddibenion oes newydd.
2
Ym mhob cyfarfod bron o Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor daw cais gerbron sy'n ymwneud â'r mathau hyn o adeiladau. Pan yw un o'r rhain yn adeilad rhestredig, rhaid cadw cofnod ffotograffig o'r tu fewn a'r tu fa's, ond pan nad oes unrhyw arbenigrwydd neilltuol yn perthyn i'r adeilad, nid yw'n ofynnol i hyn ddigwydd. O ganlyniad, diflannodd nifer o adeiladau heb adael unrhyw dystiolaeth o'u bodolaeth ac mae hyn yn golled i bawb. Mae'n bwysig bod ein plant a'u plant hwythau yn cael gwybod hanes eu cymunedau gan fod hynny'n help iddynt ddeall eu hanes a thyfu i barchu eu hetifeddiaeth. Mae'n dda deall felly bod y Cyngor yn ystyried gorfodi pawb sydd am ddymchwel neu addasu adeilad o bwys drosglwyddo cofnod ffotgraffig iddynt er mwyn ei ddiogelu mewn llyfrgell neu ar wefan. Mae hyn, yn sicr, i'w groesawu er mwyn cadw i'r oesoedd a ddêl y glendid a fu. Golygydd
y gloran
mawrth-ebrill 2012 YN Y RHIFYN HWN
Cynghorydd ar Daith -1 Golygyddol/ -2 Cyngh. ar Daith -3 Sparkilicious -4 NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD - 5-6-7-8 Station Cafe-9 Ysgolion/Prifysgolion -10-11-12
CYNGHORYDD TREHERBERT AR DAITH DDYNGAROL parhad o dud 1
raddau helaeth ar eifr. Yn draddodiadol, cerddai gwraig y teulu 10 milltir ddwy waith yr wythnos gyda 3 neu 4
gafr i'w gwerthu yn y farchnad er mwyn prynu nwyddau angenreidiol. Ar ôl i’r elusen adeiladu stordy, roedd e’n bosib trefnu rota i fynd i’r farchnad gyda digon o eifr i brynu bwyd am fis. Nawr, pan mae eisiau bwyd neu nwyddau, gall y gwragedd alw yn y stordy yn hytrach na cherdded yr holl ffordd i’r farchnad. Mae’r prosiect bach yma wedi cael effaith fawr ar ansawdd bywyd y menywod. Mae mwy o amser ganddynt i ofalu am eu teuluoedd, a mwy o arian i dalu am wasanaethau fel iechyd ac addysg. Mae’r prosiect wedi bod mor llwyddianus nes iddo gael ei ymledu i ardaloedd eraill. Mentrau Newydd Ail bwrpas y daith oedd
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru
drosodd
Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
i edrych am brosiectau newydd. Aethom i ymweld ag ysgol gyda llyfrgell newydd a adeiladwyd gan elusen o Sweden. Yn anffodus doedd bron dim llyfrau yn yr adeilad! Yn lle prynu llyfrau rydyn yn edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi mewn
19:06
Page 3
cyfrifiadurion lle gallir dadlwytho adnoddau dysgu o’r we. Does dim trydan yn yr ysgol, felly rydyn ni’n gobeithio gosod paneli solar ar y safle. Mae digonedd o haul yn Ethiopia!
Un prosiect uchelgeisiol sy ar y gweill yw sefydlu ysgol, clinic a chartref i blant amddifad. Bydd y cynllun hwn yn sialens mawr i’r elusen a bydd rhaid cael llawer o gydweithrediad â’r bobol leol i sicrhau fod y fenter yn gynaladwy
Roedd fy ymweliad ag Ethiopia yn brofiad bythgofiadwy. Gobeithiaf ddychwelyd cyn bo hir i weld ydy ein hymdrechion bach ni wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol a phlant mewn sefyllfaoedd mor anodd.
3
9/3/12
19:06
Page 4
SPARKILICIOUS -TREORCI
12mawebrillgloran:Layout 1
Mae Sparkilicious ar y Stryd Fawr yn Nhreorci yn dathlu ei benblwydd yn flwydd oed yr wythnos hon. Mae'r siop yn gwerthu anrhegion, "bath bombs", gemwaith a nwyddau i’r cartref. Yn ddiweddar, mae'r siop wedi dechrau gwerthu nwyddau Cymreig gan gynnwys cardiau, nwyddau i'r gegin, bagiau, llwyau gariad seramig a mygiau. Dywedodd perchennog y siop, Louise Evans: "Fe wnes i sylweddoli bod yna brinder o lefydd sydd yn gwerthu pethau Cymreig ac fe benderfynnais i i fuddsoddi mewn sampl o stoc. Fe werthodd y stoc yn syth ac roedd hi'n amlwg bod yna lot o ddiddordeb mewn pethau o Gymru a phethau Cymreig. Ers hynny, yr wyf wedi mynd ati i ffeindio mwy o bethau. Rydw i'n disgwl mwy o bethau
4
newydd i gyrraedd o fewn yr wythnosau nesaf." Mae Louise Evans, yn wreiddiol o Llwynypia ond sydd nawr yn byw yn Nhreorci, yn hynod o falch i weld pethau o'r siop yn cael ei anfon led-led y byd. Mae ei chwsmeriad wedi postio pethau mor bell ag Awstralia, Canada a Bosnia. Roedd agor siop ei hun
wedi bod yn freuddwyd i Louise ac wedi iddi gael y syniad aeth ati i wneud cwrs busnes gyda "business in focus". Ar ôl lot o ymchwil a thrafod gydag arbenigwyr aeth ati i chwilio am yr adeilad a lleoliad iawn. "Mae'r safle yng nghanol Treorci yn berffaith i mi ac rydw i'n ddiolchgar iawn am yr
holl gefnogaeth gan bawb yn fy mlwyddyn gyntaf." I ddathlu'r penblwydd, mae Louise wedi ail addurno'r siop a phrynu dodrefn a chelfi newydd. "Mae'r flwyddyn gyntaf wedi hedfan" meddai, "ac edrychaf ymlaen at nifer fwy!". Pob lwc iddi! Mae'n haeddu llwyddo! Shelley Rees-Owen
newyddion lleol
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
19:07
Page 5
DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT Cynhaliwyd cwrs dau ddiwrnod “cymorth cyntaf iechyd meddwl”yn nghapel Blaenycwm ar ddiwedd mis Chwefror. Mae problemau'r meddwl yn gyffredin iawn a phwrpas y cwrs oedd dysgu sut i ymateb yn addas ac i helpu pobl â phroblemau meddwl. Yr hyfforddwraig oedd Mrs Marina Ballinger o Gaerdydd a threfnwyd y cwrs gan CwmNi Cyflwynodd Geraint Davies ddeiseb iGyngor Rhondda Cynon Tâf yn gofyn am symud yr orsaf bleidleisio o’r safle angyfleus presennol yn Ysgol Penyrenglyn i le mwy canolog. Station Terrace yw’r stryd olaf yn Nhreherbert i gael ei adnewyddu dan gynllun Ardal Adnewyddu Gymunedol (NRA) Byddy gwaith yn dechrau ar ôl cwblhau’r gwaith yn Stryd Abertonllwyd. Llongyfarchiadau i Herbert a Nesta Hunt o Stryd Eileen ar eu priodas ddiamwnt. Roedd y ddau yn dathlu’r achlysur gyda pharti yng ngwmni euteulu. Cyn ymddeol roedd Herbert yn adeiladwr adnabyddus yn yr ardal ac mae ei ddau fab, Vivian a
Howard yn dal i weithio yn y busnes Cydymdeimlwn â theulu Alwyn Eynon, 89 mlwydd oed, o Stryd Dumfries a fu farw o ganlyniad i ddamwain ar Sgwâr y Bute. Trosglwyddwyd Mr Evans i Ysbyty'r Waun gan hofrennydd ambiwlans ond, yn anffodus, bu farw wythnos wedyn. Dymunwn wellhad buan i Mrs Margaret Jones o gatref nyrsio Tŷ Ross sydd ar hyn o bryd yn ysbyty Brenhinol Morgannwg.
TREORCI Bob dydd Llun a dydd Iau rhwng 11.00 - 2.00 p.m. mae Desg Gymorth yr Heddlu nawr ar agor yng Nghanolfan 1 bob UN Treorci, Llyfrgell Treorci, heol yr Orsaf. Mae cyfle i bawb i alw heibio a chael sgwrs gyda'u Swyddog Cymuned, Susanne Casey (07805301072}. Cewch ganddi gyngor ar atal troseddau, cymorth ar faterion personol perthnasol a chyfle i gofnodi eiddo coll. Croeso i bawb. Yn dilyn cwynion gan drigolion Stryd Dyfodwg a Stryd Illtyd, bydd Cyngor Rh.C.T yn gosod rhybudd 'Cadwch yn Glir'
ar yr heol wrth y fynedfa i'r stryd yn ymyl y Parc a'r Dâr. Gobeithir y bydd hyn yn galluogi gyrwyr i ddod i mewn i'r stryd hyd yn oed os bydd cwt o geir yn cael eu hatal gan oleuadau Sgwâr y Stag. Nos Lun, 13 Chwefror, cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil i Ganser Treorci gwis llwyddiannus yn nhafarn y RAFA. Y cwisfeist oedd Mr Noel Henry, Ynyswen a mawr yw diolch pawb iddo am roi o'i amser mor hael. Llwyddwyd i godi £312 at gronfa Cancer UK. Digwyddiad nesaf y pwyllgor yw Noson Gaws a Gwin ar 17 Mai pryd y bydd sesiwn o fingo a'r adloniant yng ngofal Christine Tucket. Y prgethwr yng ngwasanaeth undebol eglwysi Cymraeg Treorci am 2 o'r gloch ar ddydd Gwener y Groglith, sef 6 Ebrill, fydd y Parch Ddr. R. Alun Evans, Caerdydd. Croeso i bawb. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Sheila Davies, Heol Gethin, gweddw'r diweddar Bernard Davies. Roedd hi'n wraig boblogaidd yn yr ardal, yn gynathrawes a hanai o Ystrad Rhondda. Cafodd gys-
EICH GOHEBWYR LLEOL :
Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN
Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD
Treorci MARY PRICE
Y Pentre: TESNI POWELL
Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN tudd hir yn Ysbyty George Thomas lle y bu'r staff yn hynod garedig iddi. Cydymdeimlwn âi dau fab a'u teuluoedd yn eu profedigaeth. Cynhaliwyd cyfarfod Gweddi Chwiorydd y Byd eglwysi Cymraeg Treorci ym Methlehem, ddydd Gwener, 2 Mawrth. Y siaradwraig wadd oedd Mrs Elenid Jones, Pentyrch, cynddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth ac wedi hynny'n aelod o staff Cymorth Cristnogol. Llywyddwyd gan Mrs Mary Price, Hermon. Pob dymuniad da am
5
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
19:07
wellhad llwyr a buan i Mrs Iris Thomas, Stryd Dumfries a Mr Fred Luscombe, Stryd Rees sydd ill dau yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Dathlwyd Gŵyl Dewi gan aelodau W.I. Treorci trwy gynnal swper arbennig yn Neuadd Eglwys San Matthew. Cafodd y merched amser da yng nghwni ei gilydd. Llongyfarchiadau i Tomos Reeves, Stryd Regent, ar ddathlu ei benblwydd yn 18 oed. Mae Tomos ar hyn o bryd yn dilyn cwrs mewn chwaraeon yng Ngholeg Pencoed. Pob llwyddiant iddo i'r dyfodol.
Page 6
colled. Hefyd bu farw Mrs Brenda Chamberlain Stryd Tallis ar ôl bod mewn gofal am beth amser. Cydymdeilir â’i mab Derek a’r teulu yn eu colled. Hefyd bu farw Ray Evans (Lampy - gynt o Stryd Treharne). Daeth nifer fawr i’r gwasanaeth yn eglwys St Siôr a chydymdeimlir â’i deulu yn eu colled. Caniatawyd cais i ddymchwel Capel Bethel, Heol y Parc a chodi tai ar y safle gan Bwyllgor Cynllunio Rhondda Cynon Taf.
wreiddiol o Gwmparc ac estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w theulu a'i ffrindiau yn eu profedigaeth. Mae Mabel Matthews, un arall o breswylwyr Tŷ'r Pentre, yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Anfonwn iddi ein dymuniadau gorau am wellhad buan. Bydd Tŷ'r Pentre yn ddiamau yn gweld eisiau un a fu'n gweithio yno am dros 20 mlynedd, sef Meryl Mallin sydd wedi cyrraedd oed ymddeol. Roedd pawb yn werthfawrogol o'i chyfraniad cydwybodol i fywyd y cartref ac yn dymuno pob bendith iddi i'r dyCWMPARC Y PENTRE fodol. Cynhaliwyd gwasanaeth dathlu yn Yn eglwys San Pedr, Y Pentre y Cafodd Hilary, sy'n byw yn y Bareglwys St Siôr ar ddydd Gwyl cynhaliwyd gwasanaeth Diwrnod ics, anrheg arbennig yn ddiweddar Dewi eleni gyda te, teisen yn dilyn Gweddi Chwiorydd yr ardal eleni, ar ffurf ŵyr. Cyrhaeddodd Ollie ar y gwasanaeth. a hynny ddydd Gwener, 2 Mawrth. 22 Chwefror. Llongyfarchiadau i Trist yw cofnodi marwolaeth Enid Mae'n flin gennym gofnodi mar- Hilary a chroeso mawr i Ollie Nutt o’r Gelli, Enid Millward, 84 wolaeth un o breswylwyr Tŷ'r bach! Stryd Tallis cyn priodi a chyPentre, sef Mrs Rachel Chamber- Croeso hefyd i denant newydd dymdeimlir â’i theulu yn eu lain. Roedd Rachel yn dod yn sydd wedi ymgartrefu'n ddiweddar
CARPETS ʻNʼ CARPETS
117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349
6
Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.
Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop
50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian
Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
19:07
Page 7
cwis cwis cwis Cwestiynau am Gymru sydd gan ein cwisfeistr sefydlog,
Graham Davies John
ar ein cyfer y mis hwm. Rhowch gynnig arni!
1. Ym mha fis mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd?
2. Ble mae Bryn Terfel yn arfer cynnal ei Ŵyl Gerdd?
3. Ymhle yng Nghymru y cynhelir 'proms' yn y parc?
4. Ym mha fis y cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen?
5. Ble yng Nghymru mae Theatr y Coliseum? 6. Ym mha flwyddyn y codwyd Theatr y Parc a'r Dâr?
gloran
7.Ysbrydolwyd y gân boblogaidd 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech' gan warchae hir ym mha ryfel?
8. Pa gangen o Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd yn Nyffryn Teifi?
9. Beth gafodd ei ddarganfod gan Tommy a Jeff Morgan yn 1912 sydd erbyn heddiw yn gyrchfan twristiaid? 10 Pa ynys yng Nghymru sy'n cynhyrchu ac yn gwerthu siocled a phersawr?
11. Mae dau Constitution Hill yng Nghyru, ond ymhle?
12. Ymhle drws nesaf i'w gilydd y byddech chi'n dod o hyd i ddwy siop yn dwyn yr enwau,
'Gwalia Supply Co.' a 'General Ironmongery'?
13. Cyn ei ordeinio'n Archesgob Caergaint (Canterbury] ble roedd Rowan Williams yn esgob? 14. Pa Gymro adnabyddus a'i wraig a gafodd eu claddu yn Eglwys Sant Marc, Talacharn?
Atebion: 1. Awst 2. Ystad y Faenol ger Caernarfon. 3. Parc Singleton, Abertawe 4. mis Gorffennaf 5. Aberdâr 6. 1913 7. Rhyfeloedd y Rhosynnau 8. Yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol 9. Ogofau Dan-yr-ogof yng Nghwm Tawe 10. Ynys Byr [Caldy] 11. Aberystwyth ac Abertawe 12. Amgueddfa Werin Cymru, San Ffagan 13. Esgob Mynwy 14. Dylan a Caitlin Thomas
y
????????????
7
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
yn llys Siloh. Mae Diane Collinson yn dod yn wreiddiol o Stryd Gwendoline, Treherbert. Dymunwn yn dda iddi yn ei chartref newydd gan deimlo'n hyderus y bydd yn hapus ymhlith ei chymdogion yn y Llys. Anfonwn ein dymuniadau gorau i Diane Wakeford, warden Llys Siloh, sydd ddim yn dda iawn ar hyn o bryd. Mawr obeithiwn y bydd yn teimlo'n well yn fuan. TON PENTRE Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Jeffrey Barrington Morris, Heol Maindy yn 67 oed yn dilyn cystudd byr. Roedd yn unig fab y diweddar Dr a Mrs Gwyn Morris. Maendy Croft. Cydymdeimlwn â'r teulu a'i ffrindiau yn eu colled. Fel arfer, bu
8
19:07
Page 8
capeli'r ardal yn cynnal boeau coffi ac yn darparu cawl a bara amser cinio bob dydd Gwener yn ystod cyfnod y Grawys. Bydd yr elw i gyd yn mynd at Gymorth Cristnogol. Yn y llun mae rhai o'r merched oedd yn perfformio ym mhantomeim 'Jack and the Beanstalk' yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar. Bu nifer o deuluoedd y Ton a'r Gelli mewn profedigaeth yn ddiweddar. Estynnwn ein cy-
dymdeimlad cywiraf i deuluoedd y canlynol: Mr Lance Davies, Shady Rd; Mr David Walker, Heol y Gelli; Mr Hywel Watkins, Stryd Wyndham; Mr Roy Evans, Stryd Whitfield; Mrs Enid Nutt, Heol Gelli a Mrs Gwenda Epton, Heol Avondale. Coffa da amdanynt oll. Eleni, ddydd Sul, 24 Mehefin, bydd Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn dathlu ei 25ain. penblwydd ers codi'r adeilad newydd. I nodi'r achlysur, cynhelir offeren a fydd yng ngofal Archesgob Cymru, y Parch. Ddr. Barry Morgan. Yn dilyn y gwasanaeth bydd cinio arbennig Daeth aelodau'r Clwb
Cameo ynghyd fel arfer eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Darparwyd yr adloniant gan gôr Ysgol Gynradd y Ton o dan arweiniad Miss Jones gyda Mr Roberts wrth y piano. Cafodd pawb bleser mawr yn eu cwmni. Te'r Gwanwyn fydd achlysur nesaf Cameo, a hwnnw'n cael ei gynnal yn nhafarn Fagin, 28 Mawrth am 2p.m. a bydd y wibdaith flynyddol yn dilyn ym mis Ebrill. Y mis hwn, yn Theatr y Ffenics, mae Grŵp Theatr Act 1 yn cyflwyno sioe gerdd Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber, 'Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat'. Gobeithir cynnal tri pherfformiad - am 7.30 nos Iau a nos Wener a dwywaith ar ddydd Sadwrn, 30 Mawrth am 1p.m. a 4p.m. Bydd tocynnau yn £9 gyda gostyngiad i £8 i henoed, y di-waith a phlant.
Rhai oʼr plant oedd yn cymryd rhan ym mhantomeim ʻJack and the Beanstalkʼ
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
Ymddangosodd yr erthygl hon gan Emyr Young yn rhifyn Chwefror o'r cylchgrawn BARN. Diolchwn i'r Cyd-olygydd, Vaughan Hughes, am ganiatâd i'w hatgynhyrchu yn Y Gloran. Mae Barn [£2.99] yn ymddangos yn fisol a bob amser yn werth ei ddarllen. Yn laslanc, fe dreuliais oriau mewn sawl caffi ledled Cymru yn smocio, yfed coffi a gwrando ar gerddoriaeth, a rhai blynyddoedd yn ôl fe ddes ar draws caffi oedd yn dwyn atgofion byw am y dyddiau hynny. Chredech chi byth ond mae'r Station Cafe yn Nhreorci nid nepell o'r orsaf rheilffordd, gyferbyn â theatr lewyrchus y Parc a'r Dâr a cham a naid o ganol y dref. Lle delfrydol i gaffi sy wedi bod yn rhan o wead cymdeithas Treorci ers degawdau ac yn ddiweddar lleoliad golygfa yn y ffilm Patagonia. Mae'r caffi'n perthyn i draddodiad y caffis Eidalaidd a ddechreuodd pan ddaeth Eidalwyr llawn menter i gymoedd de Cymru i ddechrau busnesau yn niwedd y 19g. a dechrau'r 20g. Sefydlwyd y caffis gan deuluoedd fel y Resteghiniaid, y Lusardiaid, y Sidoliaid, y Carpaniniaid a'r Bracchiaid i enwi ond rhai. Daeth y mwyafrif o ardal Bardi yng ngogledd yr Eidal, gan ddod â'u coffi, eu hufen iâ a chlindarddach eu
19:07
Page 9
peiriannau ager i swyno pobol y cymoedd. Cynnal Traddodiad Y mae'r Station Cafe wedi bod yn nwylo yr un teulu Eidalaidd, sef y teulu Balastrazzi, ers 1935 ac yn ôl rhai o'r cwsmeriaid does dim wedi newid ers hynny.. Yn sicr, mae cip ar y Juke Box yn ategu'r honiad; rhyddhawyd 'Albatross' gan Fleetwood Mac yn 1969 a'r gân sentimental 'If I could see the Rhondda one more time' gan David Alexander yn 1971. Dom, Virginia ei wraig a'u mab Marco sydd wrth y llyw ac erbyn hyn dim ond coffi, te a byrbrydau sydd ar y fwydlen. Ond dyma'r unig gaffi yn y cwm sy'n gwerthu pastai wedi ei choginio â stêm ac yn ôl athronydd y Station Caffi, Mike {mae gan bob caffi ei athronydd, dybiwn i}, 'Dwyt ti heb fyw tan bo' ti 'di byta pastai stêm." "Gyda llaw...," ychwanega Mike dan ei anadl, "Ma' Virginia yn gwneud gwell coffi na Dom." Trin a Thrafod Ar fy ymweliad diweddaraf roedd hi'n amser cinio, felly rhaid oedd blasu'r arlwy wrth drafod gwleidyddiaeth, bywyd a sefyllfa
STATION CAFE TREORCI rygbi Cymru gyda'r cynbeiriannydd sifil. Roedd y cyfuniad yn ddifyr pastai stêm flasus, pice ar y ma'n blas sinamon, dishgled o goffi cryf Virginia a threiddgarwch barn Mike ar y byd a'i boenau. Ymhen tipyn daeth llu o blant swnllyd Ysgol Gyfun Treorci i mewn i brynu losin a chreision a chysgodi rhag y glaw mân. Roedd yn bryd i Mike a minnau adael i wneud lle i'r genhedlaeth iau, ond gan gy-
tuno i gwrdd dros goffi yn y dyfodol agos. Da gwybod bod traddodiad hynod y caffi Eidalaidd yn parhau yn fyw ac yn iach yng Nghwm Rhondda. Heb os, mae'r Station Cafe yn rhan ganolog o'r traddodiad hwnnw. Does unlle gwell i fwynhau cwmni difyr, i drin a thrafod dros ddisgled o goffi ac ie, i hel atgofio rhamantus am yr hyn a fu.
9
9/3/12
1
Parhad o Newyddion Lleol
Newyddion Treorci
Llongyfarchiadau i Alun a Margaret Davies, Stryd Dyfodwg ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt y mis hwn Cyn ymddeol, roedd Alun yn aelod o staff Ysgol Gyfun Treorci a Margaret yn DdirprwyBrifathrawes yn Ysgol Gynradd Treorci. Dymunwn iddynt iechyd a phob hapusrwydd i'r dyfodol.
10
19:07
Page 10
DIWRNOD Y LLYFR A DATHLU GWYL DDEWI
Cafodd ddisgyblion Blwyddyn 7 hwyl yn dathlu dydd ein nawddsant a Diwrnod y Llyfr eleni. Dyma 7R yn mwynhau yn yr haul! 1
LLWYDDIANT PÊL-RWYD
ysgolion a phrifysgolion
12mawebrillgloran:Layout 1
Llongyfarchiadau mawr i Isabelle Davies o Flwyddyn 10 ar gynrychioli’r Sir ym Mhencampwriaeth Ryng-Siriol Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Wrecsam. Cipiodd Isabelle a’r tîm talentog y drydedd wobr yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau mawr Isabelle! 2
YMWELD AG YSGOL LLWYNCELYN
Cafodd griw o’r Cymer wahoddiad i ymuno yn Eisteddfod Ysgol Gynradd Llwyncelyn yr wythnos hon wrth gymryd rhan yn Nefod y Cadeirio a’r Coroni. Dymuna Evie, Carys, Teigan a Macy ddiolch am y croeso cynnes ac estyn llongyfarchiadau mawr i Seren Farrup ar ennill y Goron, a Libby Cripps ar ennill y Gadair. 3
NEWYDDION YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
19:07
Page 11
2
3
11
12mawebrillgloran:Layout 1
9/3/12
TREORCI
12
Page 12
HwylasbriynLlangrannog
NEWYDDION YSGOL GYFUN
19:07
Cafodd ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 Ysgol Gyfun Treorci wledd o anturiaethau eleni eto yng ngwersyll Llangrannog. Aethon ni ar yr 20fed o fis Ionawr gyda chant pedwar deg wyth o ddisgyblion brwd ac un ar bymtheg o staff cyffrous. Roedd digon o fwrlwm i’w glywed dros y gwersyll drwy’r penwythnos. Yn ogystal a'r amrywiaeth helaeth o weithgareddau arferol, roedd gweithgaredd newydd eleni sef y cwrs rhaffau uchel a phrofodd hwn yn boblogaidd iawn ymysg pawb. Cafwyd tipyn o hwyl a helynt yn yr Eisteddfod a’r disgo ar y nos Sadwrn hefyd. (Roedd y staff i weld yn mwynhau cymaint a’r plant!!!) Braf oedd gweld y plant yn ymuno ac yn llwyr ymroi i’r holl gystadleuthau yn yr Eisteddfod a gwelwyd digon o dalent dawnsio yn y disgo i beri cryn ofid i gystadleuwyr ‘Stricly Come dancing’! Diolch calonnog i’r staff am roi o’u hamser hamdden mor barod i fynychu’r penwythnos. Diolch hefyd i’r disgyblion am fod mor gwrtais a ddi ffwdan. Pleser oedd cael bod yn eu cwmni.