y gloran
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 1
papur bro blaenau’r rhondda fawr
NEWID BUDD-DALIADAU
Bydd cynllun y Llywodraeth i newid trefn budd-daliadau yn cael llawer o effaith arnom i gyd yn Rhondda Cynon Taf. Amcan y newidiadau yw symleiddio'r system, cymell mwy o bobl i weithio ac arbed £7 biliwn o bunnau'r flwyddyn i'r llywodraeth. O hyn allan, un taliad cyffredinol a geir yn lle'r amrywiol ffynonellau sydd ar gael ar hyn o bryd ac ni fydd yr un teulu yn derbyn mwy na £500 yr wythnos. Bydd y cynllun newydd yn dechrau yn 2013 ac mewn grym yn
llwyr erbyn 2017. Dywedir na fydd y trefniadau hyn yn effeithio ar gymorth at Dreth y Cyngor ond gan y bydd cynghorau'n derbyn 10% yn llai gan y Llywodraeth, mae hynny'n rhwym o ddigwydd. Yn wahanol i'r drefn bresennol, y tenant ac nid perchen y tŷ fydd yn derbyn y tâl rhent, ffaith a fydd yn sicr yn esgor ar fwy o broblemau dyled.
Bydd y system newydd yn effeithio ar 30,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd ar hyn o bryd yn derbyn £86 miliwn y
flwyddyn rhwng budddaliadau Tai a Threth y Cyngor. Ar hyn o bryd dyw 23,000 o'r rhain ddim yn talu na rhent na threth y Cyngor, ond bydd hyn yn newid a disgwylir cynnydd yn y ddyled i'r Cyngor pan ddisgwylir iddynt gyfrannu. Er bod £26,000 efallai'n ymddangos yn swm mawr, mae'n amlwg na fydd yn ddigonol mewn ardaloedd lle mae rhenti'n uchel, megis deddwyrain Lloegr. Y gofid yw y bydd teuluoedd yn gorfod symud ma's o'r ardaloedd hynny
20c
rhifyn 269 2il gyfrol
CHWEFROR 12
i ardaloedd llai llewyrchus. Y cynghorau yn yr ardaloedd tlawd hynny wedyn fydd yn gorfod datrys eu problemau. Yn lleol, bydd yn ofynnol i'r Cyngor asesu rhai o'n teuluoedd mwyaf bregus a bydd hyn yn arwain at fwyfwy o bwysau ar y gwasanaethau cynghori a chynnal, yn enwedig o gofio nad oes swyddi yn yr ardal i gyfeirio'r bobl hyn iddynt. Mae'r niferoedd dan sylw'n fawr. Er enghraifft, amcangyfrifir yr effeithir ar 11,000 gan y newidiadau yn y Rhaglen Waith; 13,700 pan newidir y Budd-daliadau Anabledd; 3,200 gan newidiadau i'r Lwfans Cynnal Cyflogaeth; 3,430 o rieni sengl sy'n derbyn Cefnogaeth Incwm; tua 23,800 sy'n derbyn Lwfans Byw Anabledd. Bydd hyn oll yn golygu gostyngiad o £30 miliwn i'r economi leol gyda chanlyniadau brawychus i'n siopau a busnesau. Dadleua'r llywodraeth asgell dde bresennol fod derbyn £26,000 yn eich llaw yn gyfwerth ag ennill £35,000 y flwyddyn, cyflog sy'n fwy nag y derbynnir gan y mwyafrif o deuluoedd yr
drosodd
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 2
golygyddol
y gloran
E-bost: ygloran@hotmail.com
Newid budd-daliadau
ardal hon. Yn ddiamau, mae hyn yn wir, ond wrth geisio creu gwrthdaro rhwng y di-waith a theuluoedd gweithwyr ar gyflog isel, efallai eu bod am dynnu sylw oddi ar ben arall y spectrwm, sef y rheini a achosodd y cawlach economaidd presennol ond sy'n dal i dderbyn cyflogau a thaliadau bonws anferth. Oes, mae angen poeni am weithwyr ar gyflog
isel, ond efallai yn lle rhefru am fod y di-waith yn gallu derbyn £26,000 y flwyddyn, dylem droi ein sylw at y bancwyr a achosodd y cawl yn y lle cyntaf ond sydd nawr yn cael eu gwobrwyo â thaliadau bonws anferth! Hynny sy'n wirioneddol anfoesol. Oes, mae angen cosbi'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau'n anghyfreithlon, ond dylid gwneud hynny heb niweidio'r gwir anghennus.
Golygydd
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI
Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Chwefror y Gymdeithas oedd Iolo ap Dafydd, gohebydd amgylchedd BBC Cymru. Cafwyd ganddo gipolwg hynod ddiddorol ar waith newyddiadurwyr a sut mae wedi newid yn sylfaenol yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd datblygiadau ym maes technoleg. Soniodd am ei brofiadau'n gweithio yn y Dwyrain Canol a'r modd roedd y dechnoleg newydd wedi galluogi gwrthryfelwyr Libia ac Irac i ddangos i'r byd beth yn union oedd y sefyllfa er gwaethaf ymdrechion yr awdurdodau
2
y gloran
chwefror 2012 YN Y RHIFYN HWN
Newid budd-daliadau -1 Golygyddol/Cymdeithas Gymraeg -2 Tudor Jenkins/ Brynfab -3 Norman Harris -4 NEWYDDION TREHERBERT TREORCI CWMPARC Y PENTRE TON PENTRE/ Y GELLI/YSTRAD - 5-6-7-8-9-10 Ysgolion/Prifysgolion -10-11-12
Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd yn 1990 ac yna'n ddarllenydd mewn ffiseg yn 2007. Fe'i cydnabyddid yn athro penigamp ac yn 2005 cyflwynodd y Brifysgol iddo Wobr am Ragoriaeth Addysgu.
Ganed Tudor yn 1949, yn fab i Morgan a Violet Jenkins ac ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn Nhreherbert ac Ysgol y Bechgyn, Y Porth, enillodd ysgoloriaeth agored i Goleg Corpus Cristi,
PRIFYSGOL YN ANRHYDEDDU GWYDDONYDD O DREHERBERT
Rhydychen. Wedi graddio, gweithiodd ynLabordy Clarendon a derbyn gradd D.Phil. yno cyn symud am gyfnod byr i Brifysgol Caerdydd cyn cael ei benodi yn ddarlithydd ym Mhrifysgol St Andrew yn yr Alban yn 1973. Oddi yno ymunodd â staff Aberystwyth yn 1983 ac ymgartrefu ym mhentref Bow St.
Ddiwedd y flwyddyn i'w rhwystro. Aeth Iolo enwyd labordy newydd ymlaen i sôn am newyd- yn Sefydliad Ffiseg a diadura ymchwiliadol Mathemateg Prifysgol gan drafod achos yr ys- Aberystwyth er cof am biwr o Sir Fôn a lofrud- wyddonydd a hanai o diwyd yn ei fflat yn Dreherbert. Ac yntau Llundain a hefyd ei wedi cael gyrfa acadebrofiadau yn dilyn y 'con-man' o Gaernarfon, maidd ddisglair iawn, ymunodd Dr Tudor Ken Jones, ar draws Datblygodd Tudor ddulEwrop. Roedd y sgwrs Jenkins â staff Prifysgol liau newydd o astudio ar ei hyd yn ddiddorol ac Aberystwyth yn 1983. nodweddion yn ddadlennol a chafodd drosodd yr aelodau gyfle i godi nifer o gwestiynau ar y Argraffwyd Y GLORAN gan J & P DAVISON diwedd. Yr archaeolegyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru gydd o Amgueddfa Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN Cymru, Ken Brasil, fydd y siaradwr ar 23 Chwefror pan fydd y Gymdeithas yn cwrdd nesaf yn festri Hermon, Treorci am 7.15pm.
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 3
PRIFYSGOL YN ANRHYDEDDU THOMAS WILLIAMS GWYDDONYDD O DREHERBERTparhad
[BRYNFAB] 1848-1927 BARDD, ATHRO A LLENOR
Y labordy newydd yn Adran Mathemateg a Ffiseg Aberystwyth
O'r chwith: Athro Manuel Grande [Pennaeth Adran], Athro April McMahon [Is-Ganghellor Aberystwyth], Mrs Susan Jenkins, Morgan a Meurig Jenkins (meibion)
electronig solidau ac ennill enw iddo'i hun fel athro ysbrydoledig. Ond nid gŵr academaidd encilgar mohono'n unig oherwydd chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd y dre yn ogystal. Am 26 blynedd bu'n aelod o Fand Arian Aberystwyth gan chwarae'r tiwba. Roedd ganddo gariad mawr at gerddoriaeth ac yn ogystal ag offerynnau pres gallai chwarae'r liwt, y gitâr, y piano a'r organ. Chwaraeai badminton yn selog yn ei oriau hamdden ac roedd
ganddo ddiddordeb mawr mewn Karate. Yn anffodus, bu farw'n sydyn ym mis Tachwedd 2009, yn 60 oed, yn dilyn cystudd byr. Gadawodd weddw, Susan a thri o blant, Bethan, Meurig a Morgan. Mae'n dda gweld bod Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod ei gyfraniad nodedig trwy agor y labordy hwn a fydd yn coffau enw un arall o feibion disglair Cwm Rhondda.
Tua diwedd ei oes, cyhoeddwyd bod Thomas Williams, neu Brynfab fel ei adnabyddid gan bawb, i dderbyn pensiwn brenhinol o £50 y flwyddyn gan y llywodraeth am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg. Er nad yw'r swm yn ymddangos yn fawr iawn heddiw, ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd yn arian sylweddol iawn a'r swm yn arwydd o'r parch enfawr at gyfraniad y ffermwr cyffredin hwn a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar ar Fferm Fforch Orchwy, Treorci.
Ganed Thomas Williams ar 8 Medi, 1848 yn fab i Thomas a Gwenllian Williams a ffermiai Fforch Aman, Cwmaman, Aberdâr, ond pan oedd yn ifanc iawn symudodd y teulu i fferm y Fforch, Treorci ac yno y bu'n byw tan oedd yn 25 oed. Yn Nhreorci y cafodd ei addysg ac yno, mae'n debyg, y dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth. Cwm y Fforch yw'r unig gwmwd sy'n canghennu i'r dwyrain yn y Rhondda Fawr ac mae ffermdy gwreiddiol yno yn perthyn i'r ail ganrif ar bymtheg. Ym mlynyddoedd cynnar y 19 ganrif dechreuwyd codi glo o lefel yn y cwmwd ac erbyn 1863 roedd J.H.Insole wedi suddo pwll Abergorci. Fe'i prynwyd yn 1874 gan Burnyeat, Brown a'u Cwmni, grŵp o ddiwydianwyr o Lerpwl a Whitehaven ac erbyn 1875 roedd y pwll, a oedd wedi ei ddyfnhau eto, yn cynhyrchu 220,786 tunnell o lo. Newid Byd Symudodd Brynfab o'r Fforch yn 1873 ac yntau'n 25 oed ac ymsefydlu yn yr Hendre, Eglwysilian ar y llethr uwchben Trefforest. Yn ddiamau, roedd e wedi gweld newidiadau mawr yng nghwm y Fforch, gyda phwll Abergorci'n ffinio ei dir a ffermio o'r herwydd yn mynd yn fwy anodd. Yn 1912 cyhoeddodd nofelig, 'Pan Oedd Rhondda'n Bur' yn darlunio'r cwm yn y cyfnod cyn-ddiwydiannol. Ynddi, cawn gwrdd â rhai o hen gymeriadau'r ardal fel Walter Edwards, y porthmon o fferm Abergorci, Gweni Pencelli a Cyrnol Edwards, Tynewydd. Fel yr awgryma'r teitl, gresynu diflaniad yr hen arferion a'r hen gymeriadau a wna'r awdur gan feio diwydiant am y dirywiad. Ond mae'r gwaith yn rhoi inni ddarlun gwerthfawr o hen ffordd o fyw gwŷr a gwragedd y Gloran.
parhad ar dudalen 8
3
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 4
ei orfodi i ymddeol yn gynnar. Y tu allan i'r ysgol, nid oedd pall ar ei weithgarwch, yn enwedig ym maes canu corawl a'r cymdeithasau opera lleol. Bu am gyfnod yn arweinydd Côr Cymysg Treorci ac yn gyfarwyddwr cerdd yn eu tro ar gymdeithasau opera'r Selsig, Spotlight a Llandaf. Am flynyddoedd, bu'n gyfrifol am gynhyrchu a chyflwyno rhaglen o gerddoriaeth ar radio Ysbyty'r Waun [Heath], Cardydd, sefydliad y teimlai'n ddyledus iddo am y gofal ardderchog a gafodd ganddynt ar hyd y blynyddoedd.
NORMAN HARRIS 1946 - 2012
Daeth cynulleidfa fawr ynghyd yng nghapel Bethlehem, Treorci, ddydd Mawrth, 24 Ionawr ar gyfer gwasanaeth angladdol Norman Harris, organydd y capel ac un a gyfrannodd yn helaeth i fywyd cerddorol yr ardal hon a thu hwnt. Talwyd teyrnged iddo gan Miss Rhian Ellis, prifathrawes Ysgol Gyfun y Cymer a'r Parch Cyril Llewellyn a chafwyd eitemau gan Gôr Meibion Cwmaman, y côr y bu Norman yn ei arwain. Er iddo ddioddef o hemoffilia er
4
yn blentyn a gorfod treulio blynyddoedd ei blentyndod a'i ieuenctid mewn cadair olwynion, ni adawodd Norman i'w anabledd ei rwystro rhag byw bywyd i'r ymylon. Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Gynradd Treorci ac Ysgol Ramadeg Ferndale aeth ymlaen i ymgymhwyso'n athro yng Ngholeg Addysg Caerllion, Gwent.
Dechreuodd ei yrfa'n athro yn Ysgol Gynradd y Pentre cyn ymuno ag adran gerdd Ysgol Gyfun y Maerdy lle y bu'n aelod gweithgar o'r staff nes i afiechyd
Roedd Norman yn Gymro i'r carn ac yn gwneud poeth yn ei allu i hyrwyddo addysg gyfrwng Cymraeg fel llywodraethwr yn Ysgol Ynyswen ac Ysgol Gyfun y Cymer. Cafodd ei wneud yn flaenor yn ei gapel ym Methlehem a gwasanaethai hefyd ar bwyllgor cerdd Henaduriaeth y Presbyteriaid. Roedd hefyd yn arweinydd cymanfaoedd poblogaidd.
Ymddiddorai Norman yn fawr mewn pob math o ddyfeisiadau technegol yn enwedig ym myd cerdd a hoffai grwydro gyda'i deulu yn eu carafan adeg gwyliau. Roedd ei hoffter o geir yn ddiarhebol ond yn ddiweddar mentrodd oddi ar dir sych a phrynu rhan o gwch a gadwyd ym Mae Caerdydd! Doedd dim pall ar ei fenter na'i awydd i fyw bywyd i'r eithaf. Gwelir ei eisiau mewn sawl cylch ond yn bennaf cydymdeimlwn â'i deulu yn ei hiraeth. Roedd yn dad ac yn dad-cu balch. Coffa da amdano.
newyddion lleol
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 5
DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT Ar ôl gwrthod cais i godi nifer fawr o dai ar y safle ar waelod ffordd y Rhigos, newidiodd Pwyllgor Cynllunio Rh.C.T. ei feddwl pan ailystyriwyd y mater. O ganlyniad, bydd y tai nawr yn cael eu codi er gwaethaf gofidiau ynglŷn â diogelwch, draeniad a'r cynnydd cyffredinol yn y traffig. Dewiswyd Cwm Saebren yn Ardal Goedwigaeth Arbennig gan y Comisiwn Coedwigaeth. Pedair coedwig yn unig gafodd eu dewis i gael blaenoriaeth ym Mlaenau'r Cymoedd. Daeth y cynllun o Uned economaidd llywodraeth Cymru pan oedd Ieuan Wyn Jones yn weinidog gyda'r bwriad o ddefnyddio coedwigoedd lleol i adnewyddu'r cymdogaethau cyfagos a hybu twritiaeth. Ym mis Ionawr, sefydlwyd pwyllgor lleol ac ar hyn o bryd maen nhw'n ystyried syniadau fel creu llwybr beiciau i gysylltu Treherbert a Glyncorrwg, creu llwybrau marchogaeth a datblygu hen safle'r argae yn ardal hamddena. Mae'n dda gweld bod y llywodraeth yn fodlon buddsoddi o'r diwedd yn yr amgylchedd prydferth ym mlaenau'r Rhondda.
Llongyfarchiadau i Daniel Morris, Tynewydd a Calum Phillips a Garin Daniels, ill dau o Flaenrhondda, sydd wedi eu dewis i gynrychioli Clybiau Bechgyn Cymru mewn rygbi. Bydd eu gêm gyntaf yn erbyn Gwlad Belg yn ystod gwyliau'r Pasg. pob llwyddiant iddynt. Cynheliwyd prynhawn o weithgareddau storiau a chrefftau i blant yn llyfrgell Treherbert, 7 Chwefror am 2.30p.m. Mae siop bapurau David Rutledge yn Stryd Bute wedi cau tra bod yr adeilad yn cael ei adnewyddu. Gobeithio y bydd yn ailagor cyn bo hir gan fod llawer yn gweld ei heisiau.
mlynedd fel fferyllydd o'i siop yn Stryd Wyndham yn Nhynewydd. Ar ôl ymddeol, bu'n gweithio ar brydiau fel locwm yn fferyllfa Geraint Davies. Roedd yn aelod ffyddlon iawn yng Ngharmel lle bu'n ddiacon ac yn drysorydd. Bydd bwlch mawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn â'i fab, Roland a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
Yn dilyn cystudd hir, bu farw Rene Jones, Stryd Corbett oedd wedi ymgartrefu yn Nhŷ Ross ers peth amser. Cyn ei gwaeledd, bu'n weithgar yn y gymdogaeth, yn enwedig fel cynrychiolydd tenantiaid Treherbert a'r cylch. Cofiwn am ei merch, Jane a'r holl deulu Da yw deall bod Howard yn eu hiraeth. Williams, Blaenrhondda Cafodd pawb sioc wrth Rd. ma's o'r ysbyty ar dderbyn y newyddion am hyn o bryd ac yn aros farwolaeth Ernest Jones, dros dro yng Nghartref Stryd Gwendoline, yn Nyrsio Tŷ Ross. Dydilyn damwain yn ei munwn wellhad buan gartref. Cofiwn am ei iddo. wraig, Margaret a'r teulu oll ar yr adeg drist hon yn Mae'n flin gennym gofn- eu hanes acestynnwn idodi marwolaeth ddisyfyd dynt ein cydymdeimlad Mr Huw Alun George, cywiraf. Stryd Dumfries. Roedd Mr George yn un o drigolion mwyaf adnabyddus yr ardal gan ei fod wedi TREORCI Roedd yn flin gennym gwasanaethu'r gymdodderbyn y newyddion am gaeth am dros 30 farwolaeth Mr Keith
EICH GOHEBWYR LLEOL :
Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN
Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: D.G.LLOYD
Treorci MARY PRICE
Y Pentre: TESNI POWELL
Ton Pentre a'r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Woods, Stryd Treasure ar ôl dioddef cystudd hir. Roedd Mr Woods yn adnabyddus yn yr ardal fel cyfrifydd ac yn aelod blaenllaw o'r Clwb Busnes a Chlwb Rygbi Treorci. Cofiwn am ei weddw a'r teulu oll yn eu hiraeth.
Gwrthododd Pwyllgor Cynllunio Rh.C.T. gais i godi tri thŷ tu ôl i'r Red Cow oherwydd prinder llefydd parcio yn y cyffiniau. Y bwriad oedd dymchwel rhan gefn y tafarn er mwyn codi'r tai. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd Mr
5
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 6
Donald Vaughan, Stryd Dyfodwg a Mrs Betty Taylor, Stryd Illtyd a fu farw'n ddiweddar. Pob dymuniad da i Mr Fred Mears, Y Stryd Fawr sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bu nifer o bobl yr ardal yn dathlu eu pen-blwyddi yn ddiweddar. Roedd Mrs Gweneira Lawthom yn 85 ddiwedd Ionawr, Mrs Gladys Gray, Stryd Tynybedw yn 95 a Mrs May Thomas, Stryd Dumfries yn 97. Llongyfarchiadau calonnog i'r tair a phob dymuniad da iddynt i'r dyfodol.
Mae ffrindiau a chymdogion Mrs Gwennie Evans, Stryd Regent i gyd yn dymuno adferiad buan iddi, a hithau wedi bod yn dost yn ei chartref ers peth amser. Y mis hwn bydd Côr Merched WI Treorci yn ailddechrau eu hymarferion wythnosol y mis hwn. maen nhw'n croesawu aelodau newydd.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â'r arweinydd, Mrs Mary Price ar 773395. Y siaradwr yng nghyfarfod misol y WI ddechrau Chwefror oedd Cennard Davies a soniodd am rai o gymeriadau lliwgar Rhondda Uchaf. Llywyddwyd gan Pauline Worman. Pob dymuniad da i Milwyn Pearce, Heol Ynyswen, ar ei hymddeoliad ar ôl bod yn gweithio am 35 mlynedd yn dderbynwraig yn Syrjeri Calfaria. Dymunwn iddi ymddeoliad hir a hapus.
Heol Conwy dechrau mis Chwefror. Cydymdeimlir â’r ddau deulu yma yn eu colled. Cynhelir sesiwn bob mis yn y ganolfan gymuned gan yr heddlu i’r cyhoedd cael trafod unrhyw broblem. Mae hyn ar Fawrth 7fed ac Ebrill 11eg rhwng 2 a 4 y prynhawn. Hefyd bydd Job Club yn cael ei cynnal bob dydd Llun a Ddydd mawrth ac mae croeso i bawb rhwng 11y b a 5 y prynhawn. Ffoniwch 01443 776920.
Dymuniadau gorau i David MorCWMPARC gan Vicarage Terrace ar ôl iddo Trist yw cofnodi marwolaeth Mrs gwympo yn Nhreorci. Aed ag ef Ann Davies (Everett gynt) priod i’r ysbyty ond mae e gartref yn John ar ôl salwch byr diwedd Ion- awr a rhywfraint yn well. awr. Llongyfarchiadau i Lou Reed, Hefyd bu farw Mrs Eunice Blow, Heol y Parc, ar gael ei ddewis yn
CARPETS ʻNʼ CARPETS
117 STRYD BUTE, TREORCI Ffôn 772349
6
Ydych chiʼn ystyried prynu carped newydd/neu lawr feiny? Wel, dewch iʼn gweld ni a dewis y liwiau, ffasiynau a chynlluniau diweddaraf. Carpedi gwlan Axminster, Wilton, Berber neu Twist o bob lliw a llun. Carpedi drud a rhad o bob math ar gael. Cewch groeso cynnes a chyngor parod. Dewiswch chi oʼn dewis ni. Chewch chi byth eich siomi. Dewiswch nawr a bydd ar eich llawr ar union.
Mesur cynllunio a phrisio am ddim Storio a chludiant am ddim Gosod yn rhad ac am ddim fel arfer Credydd ar gael. Derbynnir Access a Visa Credydd parod at £1,000 Gosodir eich carpet gan arbenigwy Gwarantir ansawdd Ol-wasanaeth am ddim Cyngor a chymorth ar gael bob amser Dewiswch eich carped yn eich cartref Gellir prynu a gosod yr un diwrnod Gosod unrhyw bryd Gwerthwyr iʼr Awdurdod Lleol Carpedi llydan at 10ʼ5” Unrhyw garped ar gael gydaʼr troad Y dewis mwyaf yn yr ardal Trefnwn gar oʼch tŷ iʼr siop
50 RHOLYN o GARPED a 50 RHOLYN o GLUSTOGLAWR AR GAEL NAWR MILOEDD o BATRYMAU a CHYNLLUNIAU yn ein HARDDANGOSFA DDEULAWR Dewch yma-Cewch werth eich arian
Dewch aʼr hysbyseb hon iʼr siop os am fargen arbennig CARPETS ʻNʼ CARPETS Ar agor 6 diwrnod 8.30-5.30 Hefyd amser cinio ddydd Sul
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
rhan o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae Lou, sy'n chwarae yn yr ail reng, yn aelod o dîm Scarlets Llanelli. Pob dymuniad da iddo yn y rhewgell yng Ngwlad Pŵyl a mawr obeithiwn y caiff ei ddewis i'r garfan derfynol!
Bob dydd Llun a dydd Iau rhwng 11-5pm mae help ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Neuadd y Parc i'r rheiny sy'n chwilio am waith. Cewch wybod pa swyddi sydd ar gael, sut i lunio CV a chymorth i ysgrifennu llythyron. Cofiwch alw heibio. Y PENTRE Daeth newyddion o'r Unol Daleithiau nad
Page 7
oedd angen llawdriniaeth ar arddwrn Dr Anne Brooke wedi'r cyfan. Ar ôl gweld ei harbenigwr yn Norfolk, Virginia penderfynwyd bod yr arddwrn yn gwella o ran ei hun. Pob dymuniad da iddi a gobeithio y bydd yn ôl yn y Rhondda cyn bo hir.
Mae pobl hirhoedlog iawn yn Nhŷ'r Pentre, ffaith syn brawf o'r gofal arbennig a gân nhw yno. Y mis hwn bydd dwy o'r preswylwyr yn dathlu penblwyddi - Phyllis Thomas yn 91 ar 2 Chwefror a bydd Ceridwen Davies yn cyrraedd 90 ar yr 8fed. Llongyfarchiadau hefyd i Dennis Parlour sydd hefyd yn dathlu. Deallwn fod Jean Rossitter, Llys Siloh yn
dal yn Ysbyty Dewi Sant. Mae pawb yn ei hannog i frysio i wella er mwyn iddi ddod adre'n fuan. Mae pawb yn y Llys yn gweld eich eisiau, Jean! Croeso i faban newydd Emma Tusan, gyn o Stryd Llewellyn a'i phartner Cyrhaeddodd y baban ar ddiwrnod cyntaf Chwefror yn pwyso 8.9 pwys. Pob dymuniad da i'r dyfodol i'r teulu bach.
Os oes dathlu penblwyddi yn Nhŷ'r Pentre, dyw preswylwyr Llys Siloh ddim yn bell ar eu hôl. Pob dymuniad da a phen-blwydd hapus iawn i'r canlynol sy'n ychwanegu blwydd at eu hoed y mis hwn: Phoebe Roberts [14 Chwef.], Frank Rabbaiotti [21 Chwef.]. Llongyfarchi-
adau i'r ddau a hefyd i Carina Holley, Stryd Robert sy'n cynorthwyo yn y Llys a fydd yn torri ei theisen ar 28 Chwefror. Ar 3 Chwef., i roi pen ar y mwdwl, roedd Ann, sy'n casglu rhenti'r Llys, yn dathlu. Pob hapusrwydd a rhwyddineb i'r rhain oll yn ystod 2012! TON PENTRE Llongyfarchiadau i Rhys, Mab Mr a Mrs Alan Gill, Parc Tyntyla, ar gael ei ddewis yn rhan o garfan tîm rygbi Cymru ac i'r tîm cenedlaethol yn erbyn Iwerddon. Cafodd Rhys gêm ardderchog yn y fuddugoliaeth wych. Dyma, mae'n siwr, yr ail o nifer fawr o gapiau i'r prop pen rhydd sy'n gyn-ddis-
7
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
gybl o Ysgol y Cymer ac sy'n chwarae dros y Saraseniaid yn Lloegr. Ynghyd â Gethin Jenkins a Matthew Rees mae e'n aelod o reng flaen sydd i gyd wedi chwarae dros Dreorci. Pan ychwanegwch yr ail reng Lou Reed, o Gwmparc, gwelir y bydd tipyn o ddylanwad gan Gwm Rhondda ar garfan Cymru eleni.
Page 8
dathlu Gŵyl Ddewi, eleni ar 29 Chwefror. Côr Ysgol Gynradd Ton Pentre fydd yn darparu'r adlonian a dilynir eu heitemau gan de a phicau ar y maen.
Yn ddiweddar bu farw Mrs Glenys Stowe, Stryd Kennard a Mr Francis Pugh, Ystad Nebo. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'u teuluoedd yn eu colled. Croeso adre i Mr Dave Woods, Tŷ Ddewi, sydd wedi bod yn yr ysbyty. Yn anffodus, mae ei wraig, Irene yn dal i fod yn Ysbyty Dewi Sant. Mawr obeithiwn y bydd hi hefyd yn dychwelyd i'n plith yn y dyfodol agos.
Cafwyd hwyl a sbri yn Neuadd y Ffenics wrth i gwmni o bobl ifainc Act 1 berfformio'r sioe 'Jack and the Beanstalk' yn ddiweddar. Da yw gweld y bobl ifainc hyn yn meithrin eu doniau o dan gyfarwyddyd Rhys Williams a gweddill ei gwmni. Roedd pawb a welodd y sioe wtrh eu Daeth Shelley Rees bodd, nid yn unig gyda'r Owen i siarad â Chylch perfformiadau unigol Cymraeg Tŷ Ddewi yn ond hefyd gyda'r gwisddiweddar. Mae'r acgoedd lliwgar a'r holl tores, a fu'n rhan o gast gynhyrchiad. llongyPobl y Cwm, yn byw yn farchiadau arbennig i y Ton a chafwyd hwyl Lydia Howells a yn ei chwmni wrth gymerodd y brif ran, drafod rhai o gymeriLucy Elson a adau Pobl y Cwm a rhai chwaraeodd Jill, Peter o hen gymeriadau'r ardal Padmore, heb anghofio hon. Edrychwn ymlaen Daisy'r fuwch! at ei chroesawu yn ôl Daeth cynulleidfa dda cyn bo hir. ynghyd ar gyfer cyfarfod mis Ionawr Cymdei- Roedd yn chwith iawn thas Cameo. Y gan breswylwyr Tŷ siaradwraig wadd oedd Ddewi dderbyn y Menna James o newyddion am farwasanaeth llyfrgelloedd wolaeth Mr Albert Rhondda Cynon Taf a Dawes yn dilyn cystudd siaradodd am ymchwilio byr iawn. Gwelir ei eisii hanes y teulu. Cafodd au'n fawr a chofiwn am pawb fwynhad a gwybo- ei deulu a'i ffrindiau yn daeth o'i sgwrs ddideu profedigaeth. dorol a ategwyd â sleidiau. Fel arfer bydd aelodau Cameo yn
8
THOMAS WILLIAMS parhad o dud 3 [BRYNFAB] 1848-1927 BARDD, ATHRO A LLENOR
Clic y Bont Ar ôl symud i ardal Pontypridd bu Brynfab yn aelod brwd o Glic y Bont, grŵp hwyliog o feirdd a llenorion yn cynnwys Glanffrwd, hanesydd Llanwonno, y bardd Carnelian a Dewi Alaw a fyddai'n cwrdd yn nhafarndai ardal Pontypridd. Erbyn heddiw, ychydig o waith Brynfab a gedwir ar gof, ar wahân efalai i'w englyn rhagorol i 'Cymru'. O wlad fach, cofleidiaf hi. - Angoraf llong fy nghariad wrthi; Boed i foroedd byd frewi, Nefoedd o'i mewn fydd i mi.
Er na ellir ei ystyried yn fardd mawr, roedd yn athro beirdd o bwys ac yntau'n gyfrifol am y golofn farddol yn Tarian y Gweithwyr, y papur Cymraeg dosbarth gweithiol a gyhoeddid yn wythnosol yn Aberdâr. Bu hefyd yn gystadleuydd brwd mewn eisteddfodau lleol gan eu gweld yn gyfrwng ychwanegu swllt neu ddau at ei drosodd
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 9
AFALAU'N TROI'N SUR -
CWMNI'R FRÂN WEN YN ADDASU NOFEL SAESNEG Am y tro cyntaf erioed mae gwaith Rachel Tresize, y nofelydd o Gwmparc, wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg... (Diolch i Olygydd y cylchgrawn Golwg am ganiatâd i gyhoeddi’r erthygl hon.) enillion prin fel amaethwr. Cystadleuaeth boblogaidd yn eisteddfodau dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd sgrifennu marwnadau i aelodau amlwg o'r gymdeithas oedd wedi marw yn ystod y flwyddyn. Er mwyn rhoi ychydig o efdir yr ymadawedig byddai ysgrifennydd yr eisteddfod yn anfon crynodeb o'i hanes. Mewn eisteddfod a gynhaliwyd ym Melin Ifan Ddu yng Nghwm Ogwr, roedd tri gŵr wedi marw yn yr ardal yn ystod y flwyddyn ac roedd modd dewis rhyngddynt. Anfonodd Brynfab am fanylion dau ohonynt a chael cymaint o hwyl yn sgrifennu teyrngedau iddynt nes iddo benderfynu rhoi cynnig ar y trydydd yn ogstal. Wedi'r cyfan, roedd tair gwobr o 5 gini, 3 gini a 2 gini. Yn anffodus, doedd dim amser i anfon am y manylion angenrheidiol ond fe benderfynodd roi cynnig arni beth bynnag.
Ar ddiwrnod yr eisteddfod roedd e uwchben ei ddigon wrth glywed y beirniad yn cyhoeddi taw ef oedd wedi cipio'r wobr gyntaf a'r ail. Roedd y beirniad wedi bod mewn tipyn o gyfyng gyngor ynglŷn â'r drydedd wobr, ond pan gyhoeddodd fod 'Cadwgan' yn deilwng, sylweddolodd Brynfab ei fod wedi cipio'r wobr honno hefyd! Fodd bynnag, pan aeth i dderbyn ei wobrau, dyma'r beirniad yn cael gair yn ei glust yn ei rybuddio rhag cyhoeddi'r drydedd gerdd. "Pam na ddylwn i?" gofynnodd Brynfab. "Wel," atebodd y beirniad 'ar ddiwedd y gerdd rych chi'n sôn am yr olygfa ar lan y bedd yn disgrifio'r plant yn llefain ar ôl eu tad." "Do, beth sydd o'i le ar hynny?" holodd y bardd. "Nag o'ch chi'n gwybod ei fod yn hen lanc?"
Yn sicr, roedd Thomas Williams yn gymeriad lliwgar a gyfrannodd yn helaeth i'n diwylliant. Ar ôl ymddeol aeth i fyw i'r Hendre Wen yn Sant Athan ac yno y bu farw ar 18 Ionawr 1927. Mae ei fedd ym mynwent Eglwysilian.
Fala Surion yw enw addasiad llwyfan Cwmni'r Frân Wen o nofel Rachel Tresize, Fresh Apples, a enillodd wobr Dylan Thomas yn 2006. Mae'r nofel eisoes wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd. "Mae'n wych ei bod hi'n Gymraeg," meddai Rachel Tresize a gyhoeddodd ei nofel gyntaf 'In and Out of the Goldfish Bowl' pan oedd hi'n dal yn y coleg. 'Mae wedi ei chyfieithu i ieithoedd eraill, felly mae'n beth braf ei bod hi'n cael ei chyfieithu i'r Gymraeg. Am ei fod yn llyfr Cymreig drwyddi draw, siwr o fod."
Straeon cignoeth am fywyd pobol ifanc y Cymoedd yw 'Fresh Apples', wedi'u sgrifennu mewn arddull di-lol, onest a digon anghysurus ar brydiau. Realiti'r Rhondda heddiw sydd yma, o gyffuriau caled a ffatrioedd unnos sy'n cynnig fawr o ddyfodol i'r bobol ifanc. "Mae'r llyfr yn reit dywyll," meddai'r nofelydd. "Prif gynulleidfa Cwmni'r Frân Wen yw pobol ifanc, felly maen nhw wedi gorfod cymryd llawer o bynciau'r llyfr allan a chanolbwyntio ar yr hiwmor, sef yr hyn mae'r rhan fwyaf o bobol yn dwlu arno beth bynnag. Mae yna gydbwysedd yn y llyfr o elfennau tywyll a golau - dim ots pa mor wael drosodd
9
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
Page 10
AFALAU'N TROI'N SUR parhad o dudalen 9
mae pethau'n mynd, mae yna wastad obaith. Dyna oedd neges y llyfr. Mi wnaeth llawer o bobol ei cholli. Dw i'n gobeithio bod hynny'n dod ma's ar y llwyfan hefyd."
Bydd y ddrama sydd wedi'i chyfieithu gan Catrin Dafydd yn teithio i rai o brif theatrau Cymru tan ddiwedd Mawrth. Mae'r stori gyntaf, 'Fresh Apples' - "which is the grittiest", yn 么l yr awdur - wedi symud o'r Cymoedd i stad gyngor yng Nghaernarfon. "Mae'n anodd i mi," meddai "achos dw i ddim yn siarad Cymraeg. Dw i'n deall ychydig wrth i mi wylio'r ddrama, ond yr unig beth alla'i wneud yw rhoi cyngor ymarferol ar rai pethau nad oedd yn benodol yn y stori."
O'r Afal Mawr i Donypandy Mae nofel ddiweddaraf Rachel Tresize wedi'i lleoli yn Efrog Newydd. Does dim enw swyddogol ar y llyfr sydd yn nwylo ei chyhoeddwyr Harper-Collns ers tro byd. Mae'r awdur yn cyfeirio ati fel, "The Whore's Hustler", "ond maen nhw'n si诺r o'i newid,"
10
meddai. Stori yw hi am Iddew Uniongred yn Brooklyn yn syrthio mewn cariad gyda phutain yn ei harddegau sydd wedi ffoi o'i chynefin yn y 'South". "Maen nhw o gefndiroedd hollol wahanol," meddai'r awdur. "Stori garu yw hi mewn gwirionedd."
Dyma'r tro cyntaf iddi gamu o'i chynefin yn ne Cymru ar gyfer llyfr a threuliodd dri mis yn America yn ymchwilio i'r gwahanol gyfnodau. "dw i ddim wedi cael fy nghyhoeddi yn America eto," meddai "gobeithio y caf i nawr, gyda'r llyfr yma. Mi faswn yn dwlu cael mynd n么l." Ond yn y Rhondda - a Thonypandy - y mae ei drama newydd sbon ar gyfer National Theatre Wales. Drama am berthynas rhwng mam a merch yw Tonypandemonium. a'r gobaith yw ei chynhyrchu yn 2013. Mae'n cael blas ar weithio gyda'r Cyfarwyddwr Artistig John McGrath. "Mae'n dda. Dw i'n mwynhau, mae'n brofiad gwahanol i sgrifennu llyfrau. Mae'n her hefyd."
12/2/12
11:40
Page 11
ysgolion a phrifysgolion
CHWE12:Layout 1
NEWYDDION YSGOL GYFUN
CYMER YN CIPIO'R WOBR GYNTAF ETO! Llongyfarchiadau mawr i dîm siarad cyhoeddus Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ar ennill y wobr gyntaf yn rownd y Rhondda o gystadleuaeth ' Youth Speaks' y Rotari am yr wythfed tro yn olynnol. Mae'r tîm eisoes wedi cipio'r wobr gyntaf Yn y lluniau: yn rownd derfynol y gystadleuaeth Gymraeg. Llwyddodd y tîm, sef Sarah Tîm Siarad Cyhoeddus Louise Jones, Daniel Davies a Lloyd Macey i gyrraedd rownd derfynol y gysy Cymer - Daniel tadleuaeth Brydeinig y llynedd, a dymunwn yn dda iddynt wrth iddyn nhw gysDavies, Sarah Louise tadlu yn ail rownd y gystadleuath yr wythnos nesaf.
CYMER RHONDDA
Jones a Lloyd Macey
CENHADON CHWARAEON
Cenhadon Chwaraeon - Llongyfarchiadau mawr i ddau ddisgybl ar gael eu dewis i hyfforddi yn GenIsabelle Davies a Garyn hadon Arian i Fudiad Chwaraeon yr Ifanc. Mae'r mudiad yn cefnogi pobl ifanc Daniel i fod yn genhadon ac yn arweinwyr ym maes chwaraeon, a gwn y bydd Isabelle drosodd: Cantorion y Cymer gyda Peter Karrie
Davies, Blwyddyn 10 a Garyn Daniel Bl 13 yn genhadon gwych - nid yn unig i'r mudiad, ond i'r Cymer hefyd.
NEWYDDION YSGOL GYFUN
CYMER RHONDDA
11
CHWE12:Layout 1
12/2/12
11:40
GWEITHDY CERDDORIAETH GYDA PETER KARRIE
Cafodd griw o gantorion dawnus y Cymer y cyfle i fynychu gweithdy gyda’r canwr enwog Peter Karrie yr wythnos hon. Yn ogystal â chyfle gwych i ddysgu o’i grefft, bydd y disgyblion hefyd yn rhannu llwyfan gyda Peter mewn cyngerdd arbennig yng Nghaerdydd, lle byddant yn perfformio detholiad o ganeuon sioeau cerdd ‘Broadway’ a’r ‘West End’. Diolch yn fawr i Mrs Williams o’r Adran Gerddoriaeth am y cyfle ac i Peter am roi o’i amser ac am y cyngor gwerthfawr.
Cwis i chi
12
Page 12
ONLY CONNECT Y GLORAN Jean Valjean
911
Sierra Nevada
Beijing
K2
Fagin
Blue
Don Quixote
A1
Eryri
Athens
Mont Blanc
Sydney
East 17
Atlanta
Y Phantom
Dyma reolauʼr gêm: Rhaid i chi ail-drefnuʼr blociau mewn 4 rhes o 4 lle mae bob un testun yn cysylltiedig mewn rhyw ffordd âʼr 3 testun arall yn yr un rhes ar draws. Bydd angen pensil neu bin a phapur arnoch chi.