y gloran
TAIR DINAS TAIR PRIFYSGOL
Seisnig nodweddiadol o ran y diwylliant. Mae'r dylanwad Gweddelig yn enfawr ac mae'r cysylltiadau gyda Gogledd Cymru yn arwyddocaol hefyd. Cynhalwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 1884, 1900 a 1929. A ganwyd Saunders Lewis yn Birkenhead. Bu llawer o fyfyrwyr y saithdegau yn ystyried taw Lerpwl oedd eu Pridddinas yn hytrach na Chaerdydd. Roedd Lerpwl yn y saithdegau mewn cyfnod o drawsnewid. Roedd y gweddillion hanes morwrol yn dal yno ar ddechrau’r degawd ond ni fyddai pethau yn para. Crair oedd ‘Ma Boyle’s Oyster Bar’ ger y Corn Exchange, lle byddai broceriaid yswiriant llongau yn derbyn risgiau am gargoau gwerth miliynau o binnau ar ddarnau bach o bapur. “My word is Yn fyfyriwr, bu Laurance Thomas, Blaenrhondda gynt (ond Llwynypia nawr) yn my bond”. Dim ond wystrys mynychu prifysgolion mewn tair gwlad. Yma, oedd ar y fwydlan. Doeddwn i ddim yn gallu fforddio wystrys mae'n sôn am rai o'i brofiadau. ond roedd y Guinness yn arbennig o dda. Roedd llawer o arian yn Ler1. LERPWL Roedd Lerpwl y saithdegau’n ddinas gyffrous pwl, ond llawer o tlodi hefyd. iawn i fyfyrwyr a phobl ifanc o bob arlliw. Yn Ar y naill law roedd y garfan sgil llwyddiant aruthrol y Beatles, roedd Clwb ‘pin stripes ac Oysters’ yn gadael y ddinas mewn Rolls y Cavern ar ei anterth yn cynnig cyfleoedd i neu Bentley i’w cartrefi gerddorion ‘pop’arloesol. Roedd dylanwad y moethus yn Aintree ac ar a llaw Beatles o gwmpas y ddinas mewn enwau lleol arall byddai gweithwyr y dofel Penny Lane a Strawberry Fields. ciau yn mynd sha thre i Ond roedd Lerpwl yn llawn gwrthddywediardaloedd gorlawn yn Toxteth a adau, paradocs llwyr yn economaidd a Croxteth. chymdeithasol. Adeiladwyd y ddinas ar gefn Ond beth sy wedi aros yn gryf yr Ymerodraeth Brydeinig a'r fasnach gaethyn fy nghof yw nid y bensaerweision fel rhan o Driongl gaeth a gludai niaeth neu hanes y dref ond nwyddau i Affrica, caethion i'r golwg merched yn seiclo i’r Carolinas a chotwm i Lerpwl a melinau Coleg Hyfforddi Addysg trwy cotwm Swydd Gaerhirfryn. Yn ystod y rhyfel Penny Lane a Strawberry cartref Americanaidd roedd y perchenogion melinau o blaid y Taleithiau Cydffedral. Yn yd Fields. Byddwn i am briodi un ohonyn nhw ychydig o deunawfed ganrif daeth Lerpwl yn ail ddinas flynyddoedd yn ddiweddarach. Prydain ar ôl Llyndain ac mae pensaerniaeth yddinas yn dal i adlewyrchu hyn. Tro nesa: 2. CAEN Er gwaethaf ei safle ar arfordir gogledd-orllewin Lloegr, dyw Lerpwl ddim yn ddinas
20c
GEORGE MAITLAND LLOYD DAVIES 1880 - 1949
Un a chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd Cwm Rhondda adeg y dirwasgiad yn y tridegau oedd George M. Ll. Davies. Yma, mae
Vivian Thomas
(Porthcawl ond gynt o'r Rhondda) yn olrhain ei hanes. Cafodd George Davies ei eni a'i fagu yn Lerpwl, yn ŵyr i'r Parch John Jones, Tal-y-sarn, un o regetheyr mwya'r ganrif cyn diwethaf. Pan oedd yn 28 oed, fe'i penodwyd yn rheolwr Banc Martins yn Wrecsam, ond ymhen blwyddyn wedyn, ymunodd â'r fyddin ac o fewn dwy flynedd codi i fod yn gapten. Sut bynnag, erbyn 1913 roedd e wedi troi'n heddychwr a chefnodd yn llwyr ar y lluoedd arfog. Yn 1914 cafodd ei benodi'n is-ysgrifennydd di-dâl Cymdeithas y Cymod [Fellowship of Reconcilparhad ar dud 3
Yn ôl yr hen gân 'Defaid William Morgan', 'Mae rhywbeth bach yn poeni pawb' ac roedd cytundeb cyffredinol adeg yr etholiadau lleol eleni taw un o brif ofidiau etholwyr Rhondda Uchaf oedd baw cŵn. Roedd pob un o'r pleidiau yn gytûn bod angen gwneud rhywbeth i ateb y broblem a dyma'r prif bwnc a drafodwyd yng nghyfarfod cyntaf Cabinet newydd RhCT. Yn y cyfarfod, trafodwyd canlyniadau arolwg a gynhaliwyd ym mis Mawrth ac Ebrill eleni, gan gynnwys y cynnig i gyflwyno Gorchymun Diogelu Mannau Cyhoeddus. Ymddengys fod 90% o'r 542 o bobl a ymatebodd i'r
golygyddol
2
Cynllun gan High Street Media
ymgynghoriad ar lein yn cytuno â chynigion y Cyngor. Roedd 97% yn cytuno â chynnig, a awgrymwyd yn gyntaf ym maniffesto Plaid Cymru, sef y dylai fod yn ofynnol i berchnogion gael eu gorfodi i gario bagiau addas ar gyfer codi baw cŵn. Yn ogystal, ar 1 Hydref 2017 gweithredir Gorchymun Diogelu Mannau Cyhoeddus a fydd yn golygu ei bod yn ofynnol i: * Gadw cŵn ar denyn bob amser mewn mynwentydd o eiddo'r Cyngor. * Gario bagiau i waredu baw cŵn. * Ufuddhau i orchymun Swyddogion Cŵn i roi ci ar
’
BAW CWN
denyn mewn man cyhoeddus os barna'r swyddog fod hynny'n ddymunol. *Wahardd cŵn o ysgolion, mannau chwarae a meysydd chwarae o eiddo'r Cyngor. Ni fydd disgwyl i ddeillion a phobl anabl sy'n analluog i godi baw cŵn gadw at y rheolau hyn. Dywedodd Ann Crimmins, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Hamdden a'r Amgylchedd, "Mae RhCT yn casglu dros 110 tunnell o faw cŵn bob blwyddyn o finiau a strydoedd ac yn darparu dros 1,000 o finiau ar hyd llwybrau cerdded cŵn er mwyn galluogi perchnogion i weithredu'n gyfrifol. Rydyn ni hefyd yn darparu bagiau baw cŵn yn rhad ac am
Y CYNGOR YN GWEITHREDU
ddim mewn dros 100 o leoliadau ar hyd a lled y sir. Mae'n siwr y bydd pawb yn croesawu'r penderfyniad hwn gan fod baw cŵn nid yn unig yn difwyno ein strydoedd a'n llwybrau cerdded, ond hefyd yn hynod beryglus. Un sy'n cefnogi'r penderfyniad i'r carn yw Colin Smith o Gwm Rhondda a dorrodd ei goes yn ddrwg iawnwrth chwara rygbi yn 1979. Yn anffodus iddo, heintiwyd y clwyf gan faw cŵn oedd digwydd bod ar y cae chwarae, ac oherwydd hynny, bu raid torri ei goes i ffwrdd. Wrth groesawu'r mesurau hyn, rhaid ond gobeithio y cânt eu gweithredu yn effeithiol ac y bydd y rhai sy'n eu hanwybyddu'n cael eu cosbi'n llym.
GEORGE MAITLAND LLOYD DAVIES parhad
2017
y gloran
YN Y RHIFYN HWN
Tair Dinas - Tair Prifysgol George M Lloyd Davies..1/3 Golygyddol...2 George Davies parhad....4
Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Byd Bob/.Cartwn...6-7 Ysgolion...9-12
iation] a dywedodd yr ysgrifennydd ar y pryd taw George Davies oedd y dyn mwya' hynod yn y Gymdeithas. Achos ei fod e wedi gwrthod ymuno â'r lluoedd arfog, fe'i carcharwyd am dair blynedd. Ar ôl y rhyfel, teithiodd yn eang ar y cyfandir a daeth yn adnabyddus yn Iwerddon. Fe oedd yn gyfrifol am drefnu'r cyfarfod rhwng Lloyd George a de Valera pan oedd y berthynas rhwng y ddwy wlad ar ei gwaethaf.
Gwrthododd wahoddiad i fod yn Warden Coleg Harlech ac yn 1933 ddewis dod i weithio ymhlith y dynion a'r menywod yn y Gymru ddiwydiannol, bobl oedd yn cael eu gorthrymu gan dlodi a diweithdra yn ystod dirwasgiad y tridegau. Dyna pryd y symudodd i Faes-yr-haf, Trealaw, sefydliad addysgol y Crynwyr i geisio helpu i leddfu effeithiau diweithdra yn y maes glo. Tŷ solet o garreg, yn sefyll mewn dwy erw o dir, a godwyd yn y 19 ganrif yw I'r Senedd Maes-yr-haf. Cafodd ei agor yn 1927 Yn 1923 etholwyd ef yn Aelod Sened- gyda William ac Emma Noble yn ardol i gynrychioli Prifysgol Cymru fel weinyddion. Yn ystod y gaeaf cyntaf heddychwr Cristnogol, yr unig heddy- daeth dau ddarlithydd brwdrydig yno i chwr i lwyddo i wneud hyn. Ymunodd weithio gyda nhw, sef Dorothy Emmet â'r garfan Lafur yn y Senedd, ond col- a Henry Brooke. Yn nes ymlaen, daeth lodd ei sedd yn yr etholiad nesaf. Yn Dorothy Emmet yn Athro Athroniaeth 1926 fe'i hordeiniwyd yn weinidog gy- ym Manceinion a chafodd Henry da'r Methodistiaid Calfinaidd a thrwy Brooke ei wneud yn Ysgrifennydd gydol ei fywyd bu'n awdur cynhyrCartref ac yn Weinidog dros Faterion chiol, yn ysgrifennu llyfrau, llyfrynnau Cymreig. Cafodd amser caled yn y a chanoedd o erthyglau. Drwy ei ymddwy swydd, yn enwedig yng drechion, arbedwyd papurau newydd Y Nghymru pan gafodd Cwm Tryweryn Darian a'r Dinesydd a chafodd wahod- ei foddi er mwyn creu cronfa ddŵr i diad i olygu'r Welsh Outlook. ddinas Lerpwl. drosodd i dud.4 3
Cyfnod y Rhondda Arhosodd George Davies yn y Rhondda tan 1945 yn cyfoethogi bywydau'r teuluoedd di-waith, yr 'Ynysoedd Gobaith' fel y mynnai eu galw. Roedd y glowyr a'u gwragedd yn gallu mynychu'r ganolfan i gymdeithasu â'i gilydd a dysgu sut i wneud esgidiau, celfi, dillad ac yn y blaen. Bydden nhw hefyd yn cynnal cyngherddau a chynhyrchu dramâu gan fod neuadd a llwyfan ar gael yno. Erbyn 1939 roedd 35 o'r clybiau hyn yn y Rhondda gyda 2,650 o aelodau. Yn wir, roedden nhw mor boblogaidd nes bod rhaid cyfyngu'r aelodaeth yn maint yr ystafell oedd ar gael. Pan oedd George M. Ll yn gweithio yn Nhrealaw, roedd e'n byw mewn un ystafell fach ac yn derbyn cyflog o £1 yr wythnos. Un arall o fentrau George Davies oedd sefydlu gwersyll i ddynion di-waith yn Y Wig [Wick], ger Pen-ybont ar Ogwr. Yn ystod un tymor roedd 1500 o ddynion yn aros yno gan gynnwys ewythr imi oedd yn ddi-waith am wyth mlynedd. Byddai George yn gwahodd pobl o bob statws i dreulio penwythnos yn byw gyda'r dynion am ei fod e eisiau i bobl ddod i adnabod y glowyr a'u deall nhw a'u problemau. Creodd gymuned hapus o bobl oedd yn mwynhau cerdded, siarad, chwarae, nofio, gweithio a thrafod gyda'i gilydd.
4
Randolph Hearst Yn y tridegau, mewn cyfarfod yn Y Wig, awgrymodd Emma Noble yn gellweirus y dylen nhw fynd draw i Gastell Sain Dunawd a chanu i'r perchennog, yr Americanwr cefnog, Randolph Hearst er mwyn codi arian at y gwersyll. Er ei bod yn 10.30pm, cerddodd y dynion y pedair milltir i'r castell lle y cawson nhw groeso gan Randolph Hearst ei hunan. Fe ganon nhw yn y castell o flaen Mr Hearst a'i westeion a derbyn 250 doler ganddo at eu hachos. Yn ddiweddarach, anfonodd siec ychwanegol am 750 doler. Roedd hyn yn ddigon i dalu am wres ganolog yn y gwersyll ac yn wobr am aros ar eu traed mor hwyr, gan na chyrhaeddon nhw nôl i'r gwersyll tan 2.30 yn y bore. Yn ôl y bobl oedd yn cydweithio â George M. Ll. Davies, fe wnaeth argraff barhaol ar ei gyfoeswyr. Roedd yn ddyn talentog, nodedig a'i gyfraniad yn arwyddocaol. Roedd fy ewythr yn ei edmygu'n fawr iawn ac yn uchel ei glod iddo. Mae'r Athro Bobi Jones yn cofio George Davies yn dod i Gaerdydd i annerch myfyrwyr y Brifysgol a dywedodd wrthyf ei fod wedi gwneud argraff enfawr ar ei gynulleidfa. Yn 1946 symudodd i fyw i Ddolwyddelan lle y bu farw yn 1949. Dyna ddiwedd stori gŵr a haeddai dderbyn mwy o anrhydedd nag a gafodd ac yn enwedig am ei gyfraniad enfawr i fywyd Cwm Rhondda ar adeg drist yn ein hanes.
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Cynhaliodd Eglwys y Wesleaid Treherbert ei Gŵyl Flodau flynyddol dros y penwythnos cyntaf ym mis Gorffennaf. Fel arfer roedd yr arddangosfa o flodau yn yr eglwys yn wych. Ar y dydd Sadwrn cynhaliwyd bore coffi, ar y dydd Sul roedd gwasanaeth o fawl a gorffennwyd y dathlu gyda chyngerdd arbennig ar y nos Lun. Llongyfarchiadau i bawb. Llongyfarchiadau i Seren Haf MacMillan ar ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym mhrifysgol Aberystwyth. Dymunwn iddi bob llwyddiant i'r dyfodol Cynhelir Ffêt yng ngardd capel Blaen-ycwm ar 15 Gorffennaf o 11 y bore tan 4 y prynhawn. Bydd pob math o weithgareddau ac adloniant. Croeso cynnes i bawb. Cynhaliwyd noson wobrwyo tîm pêl droed Blaenrhondda yn y New Inn Treherbert ar ddiwedd mis Mehefin. Mae’r rheolwr presennol yn mynd i chwarae yn y
tîm y tymor nesaf a bydd Lee Williams o glwb pêl droed y Cambrian yn cymryd drosodd fel rheolwr . Gobeithio bydd y tymor nesaf mor llwyddiannus ag eleni. Ar ôl cystudd hir bu farw Brian Lewis o Drem y Glyn, Blaenrhondda. Trwy gydol ei oes roedd Brian yn gweithio yn y diwydiant glo ac yn bennu fel swyddog tân ym mwll glo Fernhill. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng nghapel Blaenycwm dan arweiniad y Parchedig Cyril Llewelyn. Cydymdeimlwn gyda'i wraig Elinor (gynt o Elegance Treorci) a’i fab Neifion Rhys.
TREORCI
Llongyfarchiadau i Gill a Garwyn Davies, Stryd Stuart ar enedigaeth eu hŵyr cyntaf, Llywelyn Morgan, yn fab i Cerian a Rhodri. Da oedd gweld bod Nia, chwaer Cerian, wedi cael cyfle i ddod nôl o Seland Newydd, lle mae'n gweithio fel meddyg ar hyn o bryd, i weld ei nai newydd.
Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth sydyn Mr Brian Beauchamp, Heol Glyncoli, yn dilyn cyfnod hir o afiechyd. Ganed Brian yn Nhreorci ac ar ôl derbyn ei addysg yn yr ysgol gynradd yno ac wedyn yn Ysgol y Bechgyn, Y Porth, cyflawnodd ei wasanaeth milwrol yn y Llu Awyr. Trwy gydol ei yrfa broffesiynol bu'n gweithio ym maes addysg fel swyddog gweinyddol o dan Gyngor y Rhondda ac wedyn Morgannwg Ganol. Yn chwaraewr rygbi brwd, bu'n gapten ar ail dîm Treorci ac yn gefnogwr brwd o'r gamp ar hyd ei oes. Roedd hefyd ynaelod ffyddlon o Eglwys San Matthew lle gwelir ei eisiau'n fawr. Collodd ei wraig, Margaret lai na blwyddyn yn ôl, ond derbyniodd ofal gan ei ferch, Elizabeth. Cydymdeimlwn â hi a'i frawd Clive, ynghyd â'r teulu oll yn eu colled. Rhwng 27-29 Mehefin bu cwmni theatr Players Anonymous yn
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN cyflwyno'rddrama 'Steel Magnolia' yn y Parc a'r Dâr. Rhaid canmol y cwmni lleol hwn ar ei lwyddiant yn cyflwyno dramâu safonol inni bob blwyddyn. Tristwch yw cofnodi marwolaeth sydyn Mr Zeno Parry, Stryd Crosswood. Roedd Zeno yn fab i Ron a Vera Parry oedd yn arfer cadw siop yn y Stryd Fawr gyferbyn â'r Red Cow ac yn berchen ar fusnes hufen iâ, Cresta Ices. Collodd ei wraig, Margaret beth amser yn ôl a hefyd ei unig fab, Carlo a oedd yn joci addawol iawn. Cy-
PARHAD ar dudalen 7
5
EIN CARTŴN Y MIS gan SIÔN TOMOS OWEN
BYD BOB
Rydw i wastad yn synnu faint o bobl sy'n ofni pethau goruwchnaturiol. Er enghraifft, rwy'n adnabod tafarnwr lleol sy'n gwrthod rhoi ffilmiau paranormal ar ei deledu. Yn ei dafarn mae'r cwsmeriaid yn gall gwylio pobl yn cael eu saethu, eu llosgi, eu tagu a'u claddu'n fyw, ond os ydych am weld bwgan bach, ewch i rywle arall. Pan oeddwn i'n astudio yn Llundain, roeddwn i'n rhannu ystafell gyda bachgen o Gwm Rhondda fel fi. Doedd 6
dim swits ar wal yr ystafell. Roedd rhaid inni sefyll ar gadair i ddiffodd y golau. Un noson, fe adewais i'r gadair yng nghanol yr ystafell. "Paid â gadael y gadair yno." meddai fy ffrind. "Pam?" gofynnais i. "Dyw hi ddim yn y ffordd." "Symuda hi," meddai'n grac, ac roedd rhaid i fi adael fy ngwely eto a symud y gadair. Rai dyddiau'n ddiweddarach, e esboniodd e'r broblem i fi. "Pe bawn i'n deffro yn y nos a gweld rhywbeth yn sefyll yno yn y tywyllwch,
fe fyddwn i'n meddwl taw'r Cownt Draciwla oedd e!" Fe aeth ymlaen i esbonio. Yn ei arddegau, roedd e wedi mynd ar ei ben ei hun i weld y ffilm 'Draciwla' mewn sinema fawr yng Nghaerdydd. Fe aeth i eistedd mewn sedd lan llofft yn y sinema. Ffilm liw oedd hi a chyn hir roedd y gwaed coch ar wefusau Christopher Lee ac ar yddfau ei ddioddefwragedd yn ormod i fy ffrind. Fe geisiodd adael y sinema'n gyflym. Yn anffodus, fe lewygodd a chwympo i lawr y grisiau. Doedd e erioed wedi anghofio'r noson honno. Ar ôl ymadael â'r brifysgol, fe ymunodd fy ffrind â'r Gwasanaeth Llysgenhadol. Fel diplomat, fe weithiodd e yn Caracas, Helsinci ac Israel. Yn y cyfamser, roedd e'n dringo'r ysgol trydydd ysgrifennydd, ail ysgrifennydd, prif ys-
grifennydd. Roeddwn i'n cadw cysylltiad â fe trwy lythyrau a thrwy ei fam oedd yn dal i fyw yng Nghwm Rhondda. O'r diwedd, fe gyrhaeddodd e ben ei broffesiwn a dod yn llysgennad yn y Dwyrain Canol. Ynystod ei wythnosau cyntaf yn ei swydd newydd, fe glywais fy ffrind yn siarad ar y radio. Roedd terfysgwr newydd daflu bom i mewn i ardd y llysgengadaeth lle roedd e a'i wraig yn byw. Roedd rhaid i fi edmygu ei 'sang froid'. "Roedden i allan am y noson," meddai. "Felly, dim problem!" Weithiau rwy'n meddwl am ei agwedd ddewr. Ond rwy'n meddwl hefyd, sut byddai fy ffrind wedi ymateb pe bai famir wedi glanio yn ei ardd yn lle bom terfysgwr...?
dymdeimlwn â'i chwaer Zenda yn ei phrofedigaeth. Band Mawr Pen-ybont oedd yn perfformio yng Nghlwb Jazz y Rhondda yn eu cyfarfod ar 27 Mehefin yn y Clwb Rygbi. Mae'r Clwb yn llwyddo i ddenu amrywiaeth o berfformwyr medrus o fis i fis ac mae croeso i bawb yn eu cyfarfodydd. Rhwng 8-16 Gorffennaf bydd Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg yn cynnal ei harddangosfa yn yr hen ysgol gynradd - sydd bellach yn eiddo i Too Good to Waste. Mynediad am ddim rhwng 10am - 7pm. Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Treorci ar ennil Gwobr Ysbrydoli [Inspire Award] yn ddiweddar am ei rhaglen addysgu ar gyfer rhieni a disgyblion. Bum mlynedd yn ôl, sefydlodd yr ysgol Ystafell Deulu i hyrwyddo addysgu rhwng rhieni a'u plant. Cynigir cyrsiau llythrennedd a niferedd yn ogystal â phynciau megis coginio, cymorth cyntaf a hylendid bwyd. Yn ddiweddar,daeth teuluoedd at ei gilydd i sgrifennu stori am jiraff ac arth sy bellach wedi cael ei chyhoeddi ond a oedd tynnu sylw plant a'u
rhieni at bwysigrwydd darllen yn y cartref. Llongyfarchiadau i'r Ysgol Gynradd hefyd ar ennill mabolgampau ysgolion y Rhondda Uchaf yn ddiweddar a phob dymuniad da iddynt wrth iddynt ddathlu pen blwydd yn ysgol yn 150 oed. Nodir yr achlysur trwy gynnal cyngerdd yn y Parc a'r Dâr ar 13 Gorffennaf. Roedd canmol mawr ar gynhyrchiad disgyblion yr Ysgol Gyfun o'r sioe gerdd 'Back to Broadway' oedd yn cynnal safon sioeau'r gorffennol. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn gysylltedig â'r cyflwyniad' Yn sydyn iawn, bu farw Mrs Lesly Davies, Teras Troedyrhiw a hithau'n wraig gymharol ifanc. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i gŵr, Graham yn ei brofedigaeth. Hefyd, roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Bob Eynon, Stryd Bte gynt, ond bellach o Gartref Gofal Ystradfechan. Am flynyddoedd bu Bob, oedd yn gymeriad lliwgar, yn gweithio ar lorïau sbwriel yr awdurdod lleol Cydymdeimlwn â'i fab, Glen a'r teulu oll yn eu profedigaeth. COfiwn hefyd am deulu Joyce Mears, Stryd Fawr a fu farw
ddiwedd Mehefin. Roedd Joyce oedd yn wraig i'r diweddar Freddie Mears wedi dioddef cystudd hir. Os ydych yn chwilio am randir / allotment, rydyn ni'n deall bod rhai ar gael gan Gymdeithas Arddio Glyncoli. Am ragor o fanylion, ffoniwch Phil Davies 07854966714.
CWMPARC
Gwasanaethwyd cwsmeriaid am y tro olaf yn Swyddfa’r Post, Cwmparc ar ddydd Llun, 19 Mehefin. Y bore canlynol, agorwyd y gangen newydd yn siop 'Premier' , Parc Road, dan ofal
Mr Balwinder Singh Dhaliwal a’i deulu. Symudodd teulu Dhaliwal o Bedfont, Feltham, i Gwmparc i redeg y siop (yr hen Co-op) ym mis Medi 2012. Mae’r perchennog newydd yn edrych ymlaen at ddarparu gwasanaethau i’r gymuned sy’n cynnwys oriau agor estynedig, o 8:00am – 9:00pm. Mae’r Swyddfa Bost newydd yn cynnig yr un gwasanaethau â’r hen gangen, gyda rhai eithriadau. O hyn ymlaen, ni fyddan nhw’n derbyn sieciau nac yn ymgymryd â gweithrediadau Transcash. O ran cau yr hen gangen, hoffai'r cyn-bostfeistr Jay Langford ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r Swyddfa Bost dros y blynyddoedd. Cytunodd ei gyd-weithwraig, Kay Vincent, a ddywedodd “Dwi wastad wedi teimlo fy mod wedi bod yn gwasanaethu ffrindiau, yn hytrach na
chwsmeriaid.” Bydd Jay a Kay yn symud i Swyddfa Bost Tynewydd, tra bod eu cyd-weithwraig Lisa Bloodworth yn cymryd swydd lawn amser yn Swyddfa’r Post, Treorci, lle roedd hi’n gweithio'n rhan amser yn gynt. Ar ei ddiwrnod olaf yng Nghwmparc, dywedodd Mr Langford bod ganddynt deganau ac addurnau ar ôl ar y silffoedd a hoffai e roi'r rhain i Eglwys San Siôr, ar gyfer ei Ffair Haf.
Bydd y Ffair Haf yn cael ei chynnal yn neuadd Eglwys San Siôr, ddydd Gwener 7 Gorffenaf, 3:00 – 5:00. Bydd lluniaeth a nifer o stondinau.
Cynhelir Te Mefus yn neuadd Eglwys San Siôr,
8
ddydd Mercher 19 Gorffenaf, 3:00 – 5:00, i godi arian at Breast Cancer Wales. Bydd amrywiaeth o gacennau, treiffl, hufen ia, ac wrth gwrs, mefus! Croeso cynnes i bawb. Mae Capel y Parc ar werth am £50,000 gyda'r arwerthwyr yn awgrymu y gellir ei addasu at sawl pwrpas. Mae'n drist gweld capeli'n cau, ond gobeithio y bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio yn lle mynd â'i ben iddo. (Lluniau gan Nerys Bowen)
Y PENTRE
Ddydd Sul, 25 Mehefin daeth côr Eglwys Sant Hilari o Fro Morgannwg i gynnal gwasanaeth gosber [evensong] yn
Eglwys San Pedr. Cafwyd amrywiaeth o gerddoriaeth ganddynt gan gynnwys nifer o gyfansoddwyr modern. Fel nifer o dafarnau eraill yn yr ardal, mae'r Griffin wedi cau. Y newyddion da yw bod Heinnekin, y perchnogion, yn chwilio am denant newydd. Bob bore Gwener ym mhencadlys Byddin yr Iachawdwriaeth yn Stryd Carne, cynhelir bore coffi gyda'r elw'n mynd at waith elusennol y Fyddin. Dewch unrhyw bryd rhwng 10.30 12.30. Croeso cynnes i bawb.
TON PENTRE
Nos Fercher 19 Gorff. am 7.15pm bydd Band Pes Rhondda Uchaf a
Chôr Meibion Cwm Rhondda yn cynnal cyngerdd ar y cyd yn y Clwb Pêl Droed. Tocynnau £3. Mae ffrindiau Mrs Gwyneth Harry, Stryd Bailey yn anfon eu dymuniadau gorau ati wrth iddi ddathlu ei phenblwydd yn 83 oed yn ddiweddar. Mae Gwyneth yn aelod ffyddlon iawn o'r eglwys ac yn uchel ei pharch yno. Mae pawb yn Nhŷ Ddewi yn gobeithio y bydd Mrs Lilwen Davies yn ôl yn eu plith cyn bo hir ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty. Mae Lilwen yn aelod ffyddlon y Hebron a gwelir ei heisiau yn fawr yno hefyd.
YSGOLION BODRINGALLT
9
10
BODRINGALLT
BODRINGALLT
11
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
CROESO BLWYDDYN 6
Roeddem yn falch iawn i groesawu Blwyddyn 6 atom ar gyfer diwrnod pontio arall yr wythnos hon! Roedd yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd a chael blâs arall ar fywyd Y Cymer!
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12
SEREN Y PWLL NOFIO!!
Llongyfarchiadau mawr i Seren Haf Jones o Flwyddyn 7 ar gynrychioli Clwb Nofio Dinas Caerdydd mewn gala nofio ryngwladol yn Stuttgart yn ddiweddar. Ardderchog Seren!