y gloran
FFRAINC A'R ALMAEN LauranceThomas
2 Caen
Treiliwyd yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caen yn Normandi, Ffrainc. Mae hen gastell gormesol Gwilym Goncwerwr yn eistedd ar y bryn ac yn edrych dros y dref. Roedd y Brifysgol wrth ochr y Castell ac roedd hi’n hyfryd iawn i gyrraedd bob dydd a meddwl am arwyddocâd yr adeiliad drws nesa, lle y cynlluniwyd goresgyniad Lloegr. Nid yw Caen yn bwysig
yn unig fel man geni Gwilym Goncwerwr a holl hanes brwydr fuddugoliaethus Haistings yn 1066 a goruchafiaeth y Normanaidd dros Loegr a Chymru. Mae Caen yn bwysig hefyd fel canolbwynt goresgyniad Normandi a rhyddhad Ffrainc o feddiant Natsiaid.
Roedd y cwrs yn gret. Mynychais ddarlithoedd diddorol dros ben am ddiwylliant a hanes Normand ers goresgyniad y Llychlynwyr. Ces i lety
20c
Ar ôl dechrau ei yrfa academaidd ym mhrifysgol Lerpwl, cafodd Laurance Thomas (Llwynypia) gyfle i fynd ymlaen i astudio yn Ffranc a'r Almaen. Yma mae'n sôn am rai o'i brofiadau yn y ddwy wlad.
gyda darlithydd o'r Brifysgol a dw i’n dal yn cofio sjwrnai i ymweld â’i deulu yn Llydaw. Siwrnai o bedair awr ar hyd heolydd cefn gwlad mewn car eiconig 2 CV (Deux Chevaux), to ar agor dan haul llethol yr haf. Clywais i Lydaweg am y tro cyntaf a blasu ‘eau de vie’ lleol, diod wedi ei gwneud o afalau yn seidr cadarn, math o seidr Cognac. Roedd y bywyd cymdeithasol yn hyfryd iawn hefyd. Roedd y Ffrancwyr yn awyddus iawn i warhodd
marched newydd i’w partis bob wythnos ac roedd rhestr o fyfyrwyr newydd yn cael ei chyhoeddi ar yr hysbysfwrdd yn y swyddfa gyffredinol. Roeddwn i wrth fy modd. Laurance ydy’r ffurf fenywaidd yn Ffrangeg (Laurent ydy’r gwrwaidd); felly ces i llawer o wahorddiadau bob penwythnos dros gyfnod hyfryd iawn yn Ffrainc. Rhaid i fi dweud bod y Ffrancwyr yn dangos bod ganddynt synnwyr digrifwch pan sylweddolon hhw eu bod wedi estyn croeso i fachgen o Gymro yn lle merch Ffrengig I’w partis. Mwynheuais drafod y bel hirgron gyda nhw hefyd. Roedd y merched yn hyfryd hefyd. Hyfryd iawn.
Daeth fy nghariad o Lerpwl i ymweld â mi ym mis Awst a dw i’n cofio trip i borthladd hyfryd dros ben Honfleur. Doedden ni ddim yn gallu fforddio restaurants ar y pryd, felly caethon ni bicnic mewn cae ar y bryn uwchben Honfleur gydag hen asen chwilfrydig yn gwmni a bwyta brechdanau cig moch a reis tiwna sy’n dal yn parhad ar dud 3
Y CYFRYNGAU A'R GYMRAEG ! ! ! ! ! !
Un o'r pethau a gododd wrychyn llawer o Gymry yn ystod y mis diwethaf oedd eitem ar 'Newsnight' yn trafod yr iaith Gymraeg . Ynddi, gofynnwyd y cwestiwn a oedd y Gymraeg yn help neu yn rhwystr i'r genedl a thrafodwyd hyn gan ddau berson di-Gymraeg. Roedd yr ymateb i'r rhaglen yn chwyrn gyda'r gweinidog â chyfrifoldeb am yr iaith, Alun Davies yn dweud bod newyddiaduriaeth News-
night "yn ddiog ac yn eilradd". Galwodd eraill ar i olygydd y rhaglen, Ian Katz, gael ei ddiswyddo. Canlyniad hyn oll oedd i Newsnight orfod ymddiheuro a chyfaddef fod i'r eitem ddiffygion amlwg.
Nid rhywbeth newydd yw hyn. Mae'r cyfryngau wedi troi'n fwyfwy'n Lloegr-ganolog, heb wneud llawer o ymdrech i ddeall natur wahanol y gymdeithas yng Nghymru,
golygyddol
2
Cynllun gan High Street Media
Yr Alban ac Iwerddon. Gynt, bu gan y Times a'r Guardian ohebwyr sefydlog yng Nghymru, ond peidiodd hynny â bod ers tro byd. O ganlyniad, maen nhw'n gweld yr iaith Gymraeg yn rhywbeth ymylol, dibwys yn hytrach nag yn sylfaen ein harwahanrwydd a'n hunaniaeth fel cenedl. Rydym o dan anfantais bellach oherwydd nad oes gennym bapurau newyddion annibynnol fel sydd gan yr Alban ac Iwerddon. O ganlyniad barn y Sun, y Mirror a'r
Daily Mail a ddarllenir gan drwch y boblogaeth yn hytrach na newyddiaduriaeth sy'n gweld y byd o safbwynt Cymru. Dylai'r BBC fod yn wahanol gan ei bod yn gorffiraeth sy'n honni ei bod yn cynrychioli Prydain gyfan. Ond nid felly y mae, ac unwaith eto mae lleisiau'n codi gan ddweud y dylai'r Cynulliad gael cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru. Gorau po gyntaf y digwydd hynny, yn enwedig gyda Brexit ar y gorwel.
Colled bellach ddechrau'r haf oedd clywed bod ein hunig bapur wythnosol Cymraeg cenedlaethol, Y Cymro wedi peidio â bod. Roedd yn bapur bywiog a chanddo dîm o ohebwyr a edrychai ar y byd trwy lygaid Cymry. Mae sôn am y posibilrwydd o ail-lawnsio'r papur, a mawr obeithiwn y digwydd hynny'n fuan. Mae ar bob cenedl angen cyfryngau sy'n trafod ei phroblemau o'i safbwynt hi ei hun yn hytrach nag o safbwynt cenedl arall.
hoff bryd i fi nawr.
Aethon ni hefyd i Bayeux lle darluniwyd stori brwydr Haistings yn Tapestri Bayeux. Dywedir ei fod wedi ei wnio gan Matilde, gwraig Gwilym. Chwedl ramantus yw hon achos mewn gwirionedd cyflawnwyd y gwaith gan mlynnedd ar ôl y frwydr. Mae nifer o gastellau yn dystiolaeth i’r dylanwad Normanaidd yng Nghymru ond mae Castell Dover yn werth sôn amdano. Adeiladwyd Castell Gwilym yn Caen o faen melyn lleol sy’n wahanol wrth gwrs i’r maen sy’n ar gael yn Lloegr a Chymru. Er mwyn pwysleisio ei oruchafiaeth ar ôl y rwydr mewnforiodd Gwilym meini melin o chwareli Normandi dros y sjanel i Dover. Ni ddylen ni siarad am Normandi heb siarad am fwyd. Mae’r cynnyrch
2017
y gloran
Laurance adeg ei hanes
llaeth yn bwysig iawn i’r economi Normanaidd ac maen nhw’n defnyddio talpiau o hufen a pheth wmbredd o menyn pan maen nhw’n coginio. Camembert yw’r caws nodweddiadol lleol, wrth
Castell Gwilym Goncwerwr
gwrs. A hanner ffordd trwy’r pryd maen nhw’n galw “trou Norman” (twll Normanaidd) sef un Calvados. Ond roedd un arbenigedd na allwn i byth ei fwyta, sef ‘treip a la mode de Caen.
parhad drosodd
YN Y RHIFYN HWN Laurance Thomas..1/3 Golygyddol...2 Laurance Thomas..3/4 Newyddion Lleol ...5 ac 7-8 Byd Bob/Cartwn/ Cymdeithas Gymraeg...6-7 Clwb Rygbi Treorci...8-9 DysgwyrColeg Llwynypia/Newyddion Da i Dreherbert...10-11 Ysgolion...12
3
3 Hamburg
Ffenest Yr Almaen i’r byd' yw llysenw Hamburg. Mae'n un o'r dinasoedd Hansa sy’n hanu o’r Oesoedd Canol. Casgliad o borthladdoedd oedd y Cynghrair Hansa -rhagredegydd EFTA a'r Farchnad Gyffredin. Porthladd yw Hamburg, fel Lerpwl ond dyna le mae unrhyw gymhariaeth yn dod i ben. Roedd Hambwrg y saithdegau yn bedair gwaith maint Lerpwl. Roedd Hamburg y saithdegau yn llawn optimistiaeth a gobaith am y dyfodol. Yn Lerpwl roedd streiciau'r dociau a’r wythnos tri diwrnod ar y gweill. 4
Roedd creithiau yr Ail Rhyfel Byd yn weladwy. Yn Hambwrg, diolch i’r Cynllun Marshall, ailadeladwyd y ddinas yn llwyr a chrewyd dinas fodern, lan a chyffrous.
Mae tirwedd gogledd Yr Almaen yn fwy fel Yr Iseldiroedd na gweddill Yr Almaen. Mae’r tir yn wastad a llawn morgloddiau, gwlypdiroedd ac mae niwl yn glynu i’r arfordir i greu awyrgylch o ddirgelwch. Mae’r werin yn ofergoelus iawn ac mae eu llenyddiaeth yn llawn chwedlau dirgel.
Bues i'n profi perygl y môr o lygad y ffynnon.
Roedd criw ohonon ni'n treulio wythnos ar ynys heb neb yn byw arni yng nghanol Afon Elbe, afon enfawr sy’n arwain i borthladd Hambwrg. Hanner ffordd trwy’r wythnos roedd y cwrw wedi dod i ben. Felly gwirfyddolodd dau ohonon ni i ddychweld i’r tir mawr i brynu cwrw. Y modd o gludiant oedd canŵ Canadaidd (dug-out). Roedd y tywydd yn braf ac roedd llawer o amser cyn i'r llanw newid. Roedd y siwrnai i’r arfordir yn iawn. Ar y trip yn ôl gyda'r canŵ'n llawn cwrw roedd y canw yn eistedd yn is yn y dwr ac roedd popeth yn llawer mwy caled. Roedden ni’n colli amser ac roedden ni’n padlo yn
Aber Elbe
erbyn y llif. Roedd y gwynt yn codi a chreu tonnau yn yr afon. Hefyd roedd hi’n dechrau nosi ac roedd ofn arnyn ni bod y llongau mawr sy’n hwylio o Fôr y Gogledd hyd at yr Elbe i Hambwrg ddim yn gallu ein gweld ni. Pan welen ni long, bydden ni’n padlo fel cath i gythraul. Hefyd roedd y llanw yn dechrau mynd ma's a bwron ni fanc tywod. Doedd dim amser i badlo o’i gwmpas achos roedd hi’n tywyllu yn gyflym nawr. Doedd dim dwywaith amdani, roedd rhaid i ni lusgo’r canw dros y banc tywod. Roedd un yn tynnu o’r blaen a'r llall yn pwyso o'r tu cefn. Bydden ni’n
parhad ar 7
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Nos Iau, 28 Medi bydd fferm wynt Pen y Cymoedd yn cael ei hagor yn swyddogol gan brif weithredwr Vattenfall, y cwmni sy'n gyfrifol am y fenter. Hon yw'r fferm wynt fwyaf ym Mhrydain.
Penblwydd Hapus i Mrs Eira Bundock, Stryd Bute, a fydd yn 99 mlwydd oed ar 1 Hydref. Bydd hi’n dathlu gyda’i theulu, sy’n cynnwys 6 phlentyn, 11 ŵyr ac wyres ac 8 gor-ŵyr a gorwyres. Mae’r teulu i gyd yn edrych ymlaen at weld ei mab John, a fydd yn ymweld â Chymru o Canberra, Awstralia, gyda’i wraig Anthea.
Llongyfarchiadau i Elis Macmillan sy wedi cael canlyniadau ardderchog yn arholiadau Lefel A. Cafodd Elis, a oedd Prif Swyddog yn Ysgol Gyfun Y Cymer, dwy A serennog a dwy A. Mae e’n mynd i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Manceinion. Pob lwc iddo. Hefyd
i'w chwaer, Seren Haf ar ennill gradd Dosbarth 1 yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi nawr yn gwneud ei hymarfer dysgu yn y Cymer, ei hen ysgol. Pob dymuniad da iddi. Cynhaliwyd yr Arddwest flynyddol yng Nghapel Blaen-y-cwm ar ddiwedd mis Gorffennaf. Er y tywydd siomedig, daeth dros 100 o bobl i’r capel i fwynhau diwrnod o hwyl a sbri.
Daeth trigolion Ystad Brynhenllan, Blaenrhondda at ei gilydd ar ddiwedd mis Gorffennhaf i gynnal parti i agor yr ardd gymunedol. Diolch i ‘Cadw Cymru’n Daclus’ am osod y meinciau , byrddau a blychau blodau ar y safle.
Mae'n flin cofnodi marwolaeth Mrs Eleanor Jones o Tyn- y Waun Stores Tynewydd yn 101 oed. Yn enedigol o Abercwmboi, roedd Eleanor wedi byw yn Nhynewydd ers iddi briodi ei gŵr, Len. Yn
y blynyddoedd diwethaf roedd hi wedi ymgartrefu yng nghartref nyrsio Mill View, Ystrad. Roedd Eleanor wedi gweithio fel nyrs, yn ei siop groser ac yn amgueddfa Saint Fagan. Trwy gydol ei bywyd roedd hi’n aelod o eglwys y Bedyddwyr - yn gyntaf yn Abercwmboi ac wedyn ym Mlaeny-cwm, lle'r oedd hi’n ddi acon ac arolygwr yr ysgol Sul. Roedd llais alto bendigedig gyda hi ac roedd hi’n aml yn canu deuawdau. Cydymdeimlwn ag Alun a Marianne, Martin a Huw, ei hwyrion, gorwyrion a gôr-gôr-wyrion. Cydymdeimlwn â'r cyn-gynghorwr Irene Pearce sy wedi colli ei brawd, Dermot Walsh yn ddisymwth. Cynhaliwyd angladd werdd yn Llanffestiniog lle'r oedd e’n byw.
Flin gofnodi marwolaeth Robert Evans o Station St. Treherbert. Roedd Robert yn adnabyddus yn yr ardal - yn cadw ceffylau ar y tir tu ôl i'r
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN orsaf reilffordd a chreu man cyfarfod - y ‘Nags Head’ yno. Cydymdeimlwn â’i wraig ,Denise a’r holl deulu.
TREORCI
Cynhaliodd Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg ei harddangosfa flynyddol rhwng 1014 Gorff. Roedd yn cynnwys 114 o ddarluniau mewn sawl cyfrwng gan 29 o artistiaid lleol. Cafwyd gwaith o safon uchel a gwerthwyd nifer fawr o'r darluniau. Ddydd Sul, 16 Gorff, daeth llond bws o
PARHAD ar dudalen 8
5
EIN CARTWN Y MIS GAN SIÔN TOMOS OWEN
BYD BOB
Y mis hwn, pobl, digwyddiadau a lleoedd sy wedi aros yn y cof yw pwnc Bob Eynon.
Weithiau gyda'r nos pan dw i'n eistedd mewn cadair freichiau yn gwrando ar fiwsig clasurol ar y radio. mae fy meddwl yn crwydro yn ôl at bobl,lleoedda digwyddiadau'r gorffennol. Yn ddiweddar, ar ôl gwylio rhaglen deledu am deulu Kennedy, fe gofiais i sefyll mewn cegin fach yn Bedford.
6
Roeddwn i'n golchi llestri cyn mynd allan i ddosbarth jiwdo ben arall y dref. Roedd fy radio transistor ymlaen, ond yn sydyn, fe stopiodd y miwsig a dywedodd llais, "Ymhen pum muud fe fydd cyhoeddiad pwysig. Peidiwch â diffodd y radio." Fe dreuliais i bum munud anesmwyth iawn; roeddwn i'n siwr bod rhyfel niwclear wedi dechrau. Pan gyhoeddwyd y newyddion bod yr Arlywydd Kennedy wedi cael ei saethu yn Dallas, roedd braidd yn siomedig i fi.
Yr wythnos o'r blaen, roeddwn i'n cedded gyda'r ci ar lan afon Taf rhwng Aberfan a Throedyrhiw. Yn sydyn, fe feddyliais i am brynhawn arall dair blynedd yn ddiweddarach pan oeddwn i'n gorwedd yn fy ngwely mewn neuadd yn Lille, gogledd Ffrainc. Roeddwn i'n cywiro gwaith cartref disgyblion o'r ysgol lle roeddwn i'n dysgu Saesneg ar y pryd. Yn sydyn, fe glywais i rywun yn curo ar y drws, yna fe ruthrodd dau fyfyriwr i mewn yn sôn am rywle o'r enw Aber-fan yng Nghymru lle roedd rhyw drychineb ofnadwy newydd ddigwydd. Doeddwn i ddim wedi clywed yr enw Aber-fan o'r blaen, ond rwy'n cofio emosiwn y ddau Ffrancwr yn glir a hefyd sut doedden nhw ddim yn gallu credu bod Cwm Rhondda ac Aberfan mor agos ar y map heb i fi nabod y lle o gwbl.
Mae'r cof am y dydd hwnnw yn aros gyda fi o hyd.
O bryd i'w gilydd, rydw i wedi mynd yn ôl i rai o'r hen leoedd lle rydw i wedi byw. Rydw i wedi ymweld â nhw gyda ffrindiau neu ar fy mhen fy hun, Mae'n dda mynd gyda ffrindiau a sôn sôn wrthyn nhw am yr hen ddyddiau, ond hefyd mae'n dda bod ar eich pen eich hun a blasu'r awyrgylch a'ch atgofion personol. Ond a dweud y gwir, pleser cymysg ydy e hefyd. Rydw i wedi mynd i mewn i far neu faes chwarae lle roeddwn i'n arfer bod yn hapus yn y gorffennol, ond yn y presennol yn teimlo'n unig ac yn anghyfforddus. Dydy'r bobl roeddwn i'n eu hadnabod ddim yno nawr. Yna, rwy'n sylweddoli bod pobl yn fwy pwysig na lleoedd a digwyddiadau.
3 Hamburg parhad newid lle gyda’n gilydd achos roedd bod ar y blaen yn fwy peryglus. Bob cam o'r ffordd bydden ni’n suddo bron i’n pengliniau yn y mwd. Wel pan gyrhaeddon ni
ochr arall y banc tywod roedd hi'n dywyll fel bol buwch ond o leia roedden ni unwaith eto yn gallu esgyn i’r canw a phadlo. Problem nawr oedd pa gyfeiriad! Yn
Mae rhaglen y Gymdeithas am y tymor nesaf yn argoeli i fod yn un ddiddorol. ynhelir y cyfarfodydd ar y nos Iau olaf o'r mis am 7.15pm yn festri Hermon, Treorci ac agorir y tymor ddiwedd Medi gydag ymweliad y sgrifennwr a'r beirniad bwyd, Lowri Cooke. Ar hyn o bryd mae hi'n bwrw golwg ar fwytai'r de-ddwyrain ac mae'n bosib taw dyna fydd ei ames trafod. Yn
ei dilyn ym mis Hydref bydd Robat Powell [Abertawe] y dysgwr Cymraeg cyntaf i ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae gan Robat brofiad helaeth ym myd addysg a diddordeb mawr mewn chwaraeon. Gan y bydd y gaeaf yn cyrraedd ym mis Tachwedd, mae'n addas taw 'Antartica' fydd pwnc y darlledwr, Richard Rees y mis hwnnw. Ei sgwrs ef fydd
ffodus, cyneuodd gweddill y criw dân i greu golau er mwyn i ni weld yr ynys. Gwenai’r Duwiau arnom ni y dirnod hwn.Y pethau rydyn ni’n gwneud am gwrw! Nid oedd gweddill yr arhosiad mor gyffrous. Penderfynais i
gyfyngu fy mrofiadau morwrol i chwedlau gan awduron lleol o ddiogelwch fy ystafell. Pan oedd arna i eisiau gwydryaid o gwrw, byddwn i’n cerdded ar dir sych i’r dafarn.
yn cloi hanner cyntaf y tymor.
Nedd] ac i gloi'r rhaglen cawn sgwrs ar fywyd a gwaith y bardd lleol, Ben Bowen gan Ann Lewis, Caerfyrddin, sydd â chysylltiadau agos â Threorci.
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI Cawsom ymweliadau gan aelodau'r Cynulliad yn y gorffennol, gan gynnwys Rhodri Morgan a Dafydd Elis Thomas, ond tro'r Llywydd presennol, Elin Jones, fydd hi i annerch ym mis Ionawr. Yn Chwefror, y gwestai fydd y cyn-ddyfarwr rygbi a'r darlledwrnewyddiadurwr, Alun Wyn Bevan [Castell
Fel arfer, y tâl aelodaeth am y tymor fydd £5 a gellir cael tocynnau gan Ceri Llewelyn (01443 773151) neu Cennard Davies (01443 435563)
Llun uwchben Aberfan
aelodau capel Bethania, Tymbl ar ymweliad â Threorci. Ar ôl cynnal gwasanaeth yn Hermon a mynd am dro o gwmpas y dre, aeth y grŵp ymlaen i Benrhys i weld gwaith yr eglwys gyd-enwadol yno. Llongyfarchiadau i Kate Hopkins, Stryd Stuart, ar ennill gradd M.A. - Athro mewn Ymarfer Addysgol o Brifysgol Caerdydd. Mae Kate yn aelod o staff Ysgol Gyfun y Cymer. Nos Iau, 11 Hydref bydd Côr Meibion Treorci'n cynnal cyngerdd yn y Parc a'r Dâr ar y cyd â chôr Ysgol Gyfun Treorci.
8
Tocynnau ar gael yn y neuadd.
Llongyfarchiadau i Mr Meurig Hughes, Stryd Tynybedw, ar ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar. Bu Meurig, sy'n gynaelod o staff Ysgol Gyfun Treorci, yn dathlu'r achlysur yng nghwmni ei ffrindiau a'i deulu. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol.
Ddydd Sadwrn, 22 Mehefn cynhaliodd Cyfeillion Parc Treorci Picnic Tedis yn y parc a'r elw'n mynd atgronfa gwella cyfleusterau yn y parc ei hun.
Roedd pawb yn flin i dderbyn y newyddion
am farwolaeth David Davies, Stryd Illtyd yn 81 oed. Bu David yn weithgar iawn yn yr ardal mewn sawl maes. Yn Ynad Heddwch, yn ddiacon ym Methlehem, yn ddirprwy drysrydd pwyllgor Cancer UK Treorci ac yn aelod amlwg o sawl côr, rhoddodd yn hael o'i amser a'i ddoniau. Cydymdeimlwn â'i blant, Rhiannon ac Iwan a'r teulu oll yn eu colled.
Bu farw Mrs Marilyn Davies, Heol Cadwgan yn 83 oed. Yb frodor o Dreorci bu Marilyn yn athrawes ymarfer corff cyn cael ei phenodi'n drfnydd ymarfer corff gan Gyngor Morgannwg Ganol. Roedd yn aelod
o gapel Hermon ac yn adnabyddus drwy'r ardal. Cydymdeimlwn â'i mab, Robert a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
Bydd Grŵp Cymorth Dementia yn dechrau yn neuadd Eglwys San Matthew yn fuan. Mae angen gwirfoddolwyr, felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Tracy Grenter: 773262. Darperir hyfforddiant llawn. Rhwng 7- 8pm bob nos Lun mae croeso ichi fynd i neuadd Eglwys San Matthew i ymarfer dawnsio lein. Y tâl a ymuno yw £3.50. Yng nghyfarfod misol
diweddarf Pensiynwyr Treorci cafwyd sgwrs ddiddoro ar hanes y Rhondda gan Tony Melville.
Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am Steven Evans, Stryd Illtyd. Roedd Steven yn aelod o deulu Ifansiaid Caxton Press ac yn y wasg honno yng nghwmni ei dad-cu a'i dad y bwrodd ei brentisiaeth fel argraffydd. Cydymdeimlwn â'i frawd, Roger a'r teulu oll yn eu profedigaeth.
Bydd Pwyllgor Cansar UK Treorci yn cynnal cwis o dan arweiniad Noel Henry yng Nghlwb Rygbi Treorci, nos Lun,25 Medi am 7 0'r gloch. Tocynnau ar gael gan aelodau'r pwyllgor, pris £2.
Perchennog newydd y Cardiff Arms yw Lena van Wieren. Mae ganddi gynlluniau cyffrous ar gyfer y tafarn sy'n cynnwys cynnig Gwely a Brecwast a hefyd agor becws a bragdy ar y cyd â Rhondda Ales aydd ar hyn o bryd wedi ei leoli ar fferm Y Fforch. Dymunwn bob llwyddiant i'r fenter.
CWMPARC
Llongyfarchiadau i Megan a Lindsey Foxall, Heol y Parc, a ddathodd 58 mlynedd o fywyd priodasol ym mis Awst a phob dymuniad da iddynt i'r dyfodol.
Croeso cynnes i Miss Olivia Castree, athrawes newydd Ysgol y Parc. Bu hi’n gweithio yn Ysgol Fabanod Ton Pentre am 2 flynedd, ac nawr bydd hi’n dysgu Blwyddyn 3 yng Nghwmparc.
Mae’r cinio misol yn dechrau’n ôl yn eglwys San Siôr. Bydd cinio ar gael ddydd Mercher cyntaf y mis yn neuadd yr eglwys, 12:00 – 1:30. Am ragor a fanylion, neu i fwcio lle, ffoniwch Tracy Grenter: 773262.
Y PENTRE
Pob dymuniad da i Melissa Warren wrth iddi symud r'r ardal i ymsefydlu yn Sir Gâr. Gwelir eisiau ei siop liwgar ar Stryd Llywelyn a'i brwdfrydedd wrth hyrwyddo pob math o weithgareddau ym maes crefft. Roedd yn grefftwraig dalentog a brwd a chanddi'r brwdfrydedd a'r gallu i danio eraill i ymmddiddori mewn creu. Gwelwn ei heisiau'n fawr, ond ein colled ni fydd ennill Sir Gâr.
Trwy gydol mis Medi bydd cyfres o nosweithiau'n cael eu cynnal yn eglwys San Pedr gyda chlerigwyr a berthyn i'r Eglwys yng Nghymru'n trafod gwahanol agweddau ar y ffydd Gristnogol. Cynhelir y cyfarfodydd yn yr eglwys ar nos Lun 4, 11 a 18 Medi am 7 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb
TON PENTRE
Cyn bo hir bydd un o dafarnau'r Ton yn adfer ei hen enw. Bydd bar a thŷ bwyta Fagin's ar gau rhwng 2-20 Hydref er mwyn cael ei adnewyddu, ond pan gaiff ei ailagor ei enw newydd fydd 'The Windsor Arms', sef ei hen enw. Croeso nôl!
Roedd Cwmni Theatr Act 1 yn cyflwyno'r sioe gerdd 'Oliver' yn Theatr y Ffenics rhwng 20 - 23 Medi. Fel arfer, cafwyd gwledd o ganu ac o ddawnsio a rhaid canmol y bobl ifainc hyn ar lwyddo i gyflwyno cynhyrchiadau graenus i'n diddanu'n gyson.
dymuno adferiad buan iddynt.
Dros yr haf, profodd nifer o deuluoedd yr ardal brofedigaethau. Cofiwn yn arbennig am deuluoedd y diweddar JOhn Davies, Maindy Rd, Mrs Wendy Vaughan, Smith St a Mr Jeffrey Williams, Ynys Park Cottages. Cyflwynwn iddynt ein cydymdeimlad cywiraf.
Blin gennym hefyd gofnodi marwolaeth, Brian Jones, un o drigolion mwyaf adnabyddus Ton Pentre, ar 23 Awst yn 70 oed. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w weddw, Vivienne, i'w feibion, Neil a Craig ac i aelodau eraill y teulu. Cynhaliwyd y gwasanaeth coffa yn Rglwys Sant Ioan ar 4 Medi o dan arweiniad y Tad Haydn. Mae'n dda gennym adrodd bod Lilwen Davies, un o breswylwyr hynaf Tŷ Ddewi, wedi ymgartrefu'n dda erbyn hyn yng nghartref gofal Pentwyn. Roedd Lilwen, sy'n 99 oed, yn aelod ffyddlon yng nghapel Hebron. Pob dymuniad da iddi.
Ar hyn o bryd mae Mr John Weston, Stryd Parry a Mrs Betty Evans, Stryd St David yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Cofiwn amdanynt a 9
TYMOR NEWYDD CLWB RYGBI TREORCI
Ar ddechrau tymor newydd mae Ceri Llewelyn yn pwyso a mesur y rhagolygon.
Cafwyd gêm gyffrous ar Sadwrn cyntaf y tymor ar Y Cae Mawr yn Nhreorci. Chwaraeodd Treorci a Chrwydriaid Morgannwg rygbi gwefreiddiol ar adegau. Enillodd y tîm cartref o 56 pwynt i 31. Sgoriodd Treorci saith cais i gyd. Dau gan yr asgellwr Peter Hutchins ac un yr un gan Owen Williams, Curtis Hughes, Jacob Lloyd, Callum Phillips a Matthew Evans. Ciciodd y capten a’r maswr, Jordan Lloyd, 21 pwynt. 10
Ar ôl dau fis o ymarfer caled mae tîm hyfforddi Treorci wedi sicrhau bod y chwaraewyr wedi dechrau’r tymor newydd fel y perfformiodd y tîm yn ystod y tymor diwethaf. Llwyddodd y clwb i gadw’r un tîm hyfforddi a’r llynedd. Roedd yn amlwg i bawb a welodd y tîm yn chwarae bod ôl paratoi manwl, proffesiynol gan Andrew Bishop, Ian Evans a Kevin Jones ym mhob gêm.
Llwyddodd y clwb i gadw’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr a chwaraeodd mor dda yn ystod y tymor. Er hynny, trist oedd clywed bod yr ail rheng Ben Williams
wedi penderfynnu ymddeol. Mae’r clwb yn dymuno pob lwc iddo yn y dyfodol. Bydd y tîm yn colli ei gyflymdra o amgylch y cae yn cario’r bêl a’i waith diflino yn yr agweddau tyn. Ymunodd Robert Jones â chlwb Cross Keys, a Garin Daniels a Kieran Jenkins â Phenybont yn yr Uwch Gynghrair. Aeth Tristan Lazarus, Gavin Lazarus a Damon Filmer i ymuno â’r cymdogion yn Nhreherbert. Mae’r clwb yn ffodus bod nifer o chwaraewyr o’r tîm ieuenctid, oedd mor llwyddiannus y tymor diwethaf, wedi ymuno â’r garfan gyntaf.
Tasg anodd bydd ennill y
gynghrair unwaith eto yn yr un modd â’r tymor diwethaf. Mae’r Crwydriaid wedi ymuno ar ôl colli eu lle yn y Bencampwriaeth, a Dinas Powys a Llantrisant wedi esgyn o’r Ail Adran. Bydd y gemau lleol yn erbyn Ystrad Rhondda a Porth yn gyffrous a chaled , a bydd tîmau Caerdydd yn gystadleuol fel arfer yn y brif ddinas. Uchelgais Treorci fydd chwarae gêm agored, bymtheg dyn. Os gwneir hyn yn llwyddiannus byddant yn sicr o herio’r tîmau gorau ar frig y gynghair unwaith eto.
NEWYDDION DA I DREHERBERT Mae ‘Croeso i’n Coedwigoedd’ wedi derbyn grant enfawr o’r Loteri Cenedlaethol sef £1.2 miliwn dros y 7 mlynedd nesaf am brosiect ‘Pobl yn Cefnogi Pobl'. Roedd dydd Gwener, 1 Medi yn nodi dechrau'r prosiect a fydd yn para am y 7 mlynedd a chafwyd diwrnod o sbort a hwyl i nodi'r achlysur.
dod â phobl at ei gilydd i ddefnyddio a datblygu tiriogaeth hyfryd pen uchaf y Rhondda. Bwriedir gwella bywyd ac iechyd y trigolion trwy wella mynediad i’r coedwigoedd a datblygu adnoddau hamdden ac adloniant ac wrth greu mwy o weithgareddau yn yr awyr agored. Yr amcan yw datblygu sgiliau'r bobl leol, rhoi hyfforddiant iddynt a chreu
swyddi.
Grŵp o ddysgwyr yn mwynhau ymweliad Tomos, rheolwr theatr Parc a Dâr.
ond ffrindiau ar y daith i fod yn rhugl yn y Gymraeg, ac maen nhw wedi dod i nabod ei gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw wir wedi mwynhau’r daith, ac yn edrych ymlaen at gael mwy o hwyl yn y dosbarth. Mae cefndIr gwahanol gan bob un o’r dysgwyr hyn, ond maen nhw wedi closio at ei gilydd yn ei-
thriadol trwy rannu profiadau. Byddan nhw’n parhau gyda’u dysgu pan fydd y tymor newydd yn dechrau ar ddiwedd mis Medi.
Amcan y prosiect yw
Mae’r bobl yn y llun yma wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda’i gilydd yng ngholeg Llwynypia ers chwe blynedd a mwy, a’r rhan fwya wedi dechrau o’r dechrau: “Bore da!”. Erbyn hyn nid dosbarth ydyn nhw
Mae’r prosiect yn edrych i ddefnyddi'r goedwig a'i chynnyrch, cynhyrchu bwyd, a chreu egni adnewyddol i'w werthu i bobl a busnesau lleol. Wrth ddod ynghyd i lansio'r prosiect crëwyd Pyramid Pobl i symbol-
Bydd croeso mawr yn aros i bob un sydd eisiau ymuno â nhw, neu i unrhywun sydd eisiau dechrau dysgu’r iaith. Dewch i gael hwyl yn y dosbarth Cymraeg –
eiddio nod y fenter, sef Pobl Leol yn Cefnogi Pobl Leol a thrwy hynny sicrhau gwell dyfodol iddyn nhw eu hunain ac i'r amgylchedd lleol.. I dderbyn mwy o wybodaeth am weithgareddau yn yr awyr agored yn yr ardal, cysylltwch ag Ian Thomas trwy e-bost ar welcometoourwoods@h otmail.com
does dim byd gwell! Mae dosbarthiadau ar gael ar bob lefel o gwmpas y Rhondda, yn y llyfrgelloedd, yng ngholeg y Cymoedd Llwynypia yn ogystal ag ambell i le arall. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Cymraeg i Oedolion, Prifysgol De Cymru 01443 483600 /ww.learnwelsh.cymru. 11
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Disgyblion Y Cymer gyda’u canlyniadau arholiad.
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com