Gloran mehefin17

Page 1

y gloran

DAN GYSGOD PEN-PYCH

Ganed a maged LAURANCE THOMAS ym Mlaenrhondda lle y cadwai ei rieni siop, ond yn sgil ei waith, bu'n byw mewn sawl gwlad

cyn dychwelyd maes o law i Lwynypia. Caiff sôn am ei brofiadau yn rhifynnau nesaf y Gloran, ond rhaid dechrau yn y dechrau...

Dyna braf oedd gweld erthygl Bob Eynon yn sôn am Ian McCleod a Haydn Stradling, dau dw i'n eu cofio o'm plentyndod. Er gwaethaf

20c

treulio'r rhan fwya' o'i fywyd ym Mlaenrhondda, chollodd tad Ian, sef Jock McCleol erioed mo'i acen gref o Ynys Skye. Aeth Ian parhad ar dud 3


golygyddol

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL

Dywedodd Harold Wilson unwaith fod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Roedd hynny, yn sicr, yn wir i'r Blaid Lafur ac i Theresa May y tro hwn. Dros gyfnod yr etholiad aeth Mrs May o fod yn enillydd sicr i fod yn gollwr tra bod ei gwrthwynebydd, Jeremy Corbyn wedi symud i'r cyfeiriad gwrthwyneb. Adlewyrchwyd y symudiad dramatig a gwrthgyferbyniol yn ffawd y

2

ddau gan y canlyniad yma yn y Rhondda. Teimlad pawb yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gan gynnwys y Blaid

Cynllun gan High Street Media

2017

y gloran

YN Y RHIFYN HWN Dan Gysgod Pen-Pych..1/3 Golygyddol...2 Miss Tillie John....4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Byd Bob/Byddin yr Iachawduriaeth..6-7 ...9 Edward Shurey...10 Christian George-11 Ysgolion...-12

Lafur, oedd y byddai hi'n ornest glos rhyngddyn nhw a Phlaid Cymru o gofio beth ddigwyddodd yn etholiad y Cynulliad a'r etholiadau lleol, ond

ddigwyddodd hynny ddim, gyda Chris Bryant yn cynyddu ei fwyafrif yn sylweddol. Dyma'r canlyniad: Chris Bryant [Llafur] 21,096 Branwen Cennard [Plaid Cymru] 7,350 Virginia Crosby [Ceidwadwyr] 3,333 Janet Kenricj [UKIP] 880 Karen Roberts [Rhyddfrydwyr] 277 Cafodd y Torïaid ymgyrch drychinebus wrth i'w harweinydd newid ei meddwl ar bolisïau allweddol a llwyddo i gythruddo'r henoed, sef ei chefnogwyr pennaf. Er i Corbyn a Diane Abbott hwythau gael rhai cyfweliadau y


DAN GYSGOD PEN-PYCH

YR ETHOLIAD CYFFREDINOL

byddai'n well ganddynt eu hanghofio, trawodd negeseuon y Blaid Lafur dant positif yn Lloegr, yn enwedig ymhlith yr ifanc. Yma yng Nghymru, pwysleisiwyd arwahanrwydd ac annibyniaeth Llafur Cymru, a Carwyn Jones, nid Corbyn, oedd ar flaen y gad. Roedd yn dda gweld pwyslais Cymreig, yn nhraddodiad Cledwyn Hughes, Jim Griffiths ac S.O.Davies, yn dod i'r brig ond bydd yn ddiddorol gweld i ba raddau y bydd rhai o'r aelodau seneddol yn barod i'w arddal ar ôl yr etholiad. Mae'n bwysig eu bod nhw, am fod gan Gymru lawer mwy i'w golli o gael Brexit caled na Lloegr. Bydd gofyn i bleidiau'r chwith gydfrwydro'n galed i sicrhau bod ein

diwydiant a'n hamaethyddiaeth yn cael chwarae teg a'n bod hefyd yn derbyn yr un maint o gymorthdaliadau o Lundain ag oedd yn dod o Frwsel. Ar lefel leol, awgrymodd Chris Bryant yn ei araith ar ddiwedd y cyfrif y byddai'n croesawu cyfarfodydd rheolaidd rhyngddo ef a'r Aelod Cynulliad, Leanne Wood i weld beth ellir ei wneud rhyngddynt i hyrwyddo buddiannau'r Rhondda. Credwn fod hwn yn syniad i'w ystyried o ddifrif gan y bydd angen i bawb gyddynnu i sicrhau bod yr etholaeth hon yn cael chwarae teg yng Nghaerdydd a San Steffan

yn ystod y blynyddoedd anodd nesaf sy'n ein hwynebu.

parhad

ymlaen i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y fyddin ac aeth Haydn i ddysgu ym Mhrifysgol Bancock yng Ngwlad Tai. Tua phob yn ail fis, byddai Haydn yn ffonio ein tŷ ni lle roedd ei dad yn aros am yr alwad. Roedd magwriaeth ym Mlaenrhondda yn y pumdegau yn brofiad hyfryd iawn. Roedd pawb yn nabod ei gilydd a bydden ni'n treulio oriau yn chwarae ar Benpych neu ar Fynydd Rhigos. Yn aml, byddaf yn cofio sŵn hwter pwll glo Fernhill am chwech o'r gloch y bore a chlywed 'clipydiclop' ceffylau mawr yn trotian heibio i'r tŷ yn mynd sha'r pwll. Sut mae pethau wedi newid! Roedd ond un car ym Mlaenrhondda ar y pryd ac roedd hyd yn oed y llaeth yn cael ei delifro o gan llaeth (neu 'llêth', fel y dywedid.) gan geffyl a chart o fferm Tŷ-draw, Ymweld â'r'brifddinas' Y brifddinas hyn, wrth gwrs, oedd Treorci, ac ar ôl marwolaeth fy nhad pan o'n i'n 10 oed, roedd rhaid i fi a fy chwaer helpu fy mam yn y siop. Roedd un dasg fawr gen i, sef mynd â'r 'takings' i'r banc yn Nhreorci. Nid ar fws Rhondda Transport y gwnawn hyn, ond byddai bws y coliars yn aros tu fa's i'r siop, mynd â fi i Dreorci a stopio yn union y tu fa's i'r Midland Bank gan aros tan o'n i'n saff y tu fewn i'r

banc gyda'r arian cyn parhau ar ei ffordd. Roedd hyn i gyd cyn cyfnod 'Pit head baths' ac rwy'n dal i allu gweld wynebau du a chyfarwydd coliars Fernhill. Doedd dim rhai i fi fynd i'r banc bob dydd, wrth gwrs, ac felly roedd system stopio'r bws yn bwysig iawn. Ar y dyddiau perthnasol, byddai Blod, neu Bopa Blodwen Morgan, yn sefyll yng nganol yr heol, codi llaw, a byddai'r bws dwbl-decar yn aros. Byddai Blod yn rhoi cyfarwyddiadau i'r' gaffer haliwr, a byddai popeth yn rhedeg yn iawn. Tacsi mawr, coch i Dreorci! Unwaith yn Nhreorci, wrth gwrs, rhaid oedd cnocio drysau ac ymweld ag antis ac wedyn yn Nhreherbert ar y ffordd adre ar ôl cael fy ngorlenwi â theisien a phice ar y ma'n a 'thruppunny bit' o Yncl Ieuan yn llosgi yn fy mhoced. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Wncwl Gwyn, cefnder Mam, nôl o Golorado gyda'i deulu i ymweld â'r Hen Wlad.Ymhlith yr anrhegion y daeth â nhw roedd het Davey Crocket a llyfr diddorol dros ben am frodorion gwreiddiol America gydag enghreifftiau o'u hieithoedd gwahanol. Roeddwn i wedyn yn falch iawn o gyfarch trigolion Blaenrhondda mewn sawl un o ieithoedd brodorol cyfandir America. Ddedrosodd i dud.4

3


DAN GYSGOD PEN-PYCH parhad

Miss Tillie John 1912 - 2017

Bu farw Miss Tillie John, Treorci yng nghartref gofal Ystradfechan ar drothwy cyrraedd ei phenblwydd yn 106 oed. Hi, mae'n debyg. oedd y person hynaf yn y Rhondda Uchaf a than iddi gyrraedd ei 100 oed, llwyddodd i fyw ar ei phen ei hun yn ei chartref yn Stryd Dumfries. Fodd bynnag, wrth i'w golwg waethygu, penderfynodd symud i Ystradfechan lle y derbyniodd ofal arbennig a phob caredigrwydd gan y staff. A hithau wedi ymddiddori ym myd canu a'r theatr ar hyd ei hoes, un o'i phleserau mwyaf hyd y diwedd oedd gwrando ar gerddoriaeth glasurol ar Classic FM. Am flynyddoedd bu'n gweithio fel 4

goruchwyliwr yn ffatri Policoff lle roedd yn aelod brwd o gôr y sefydliad hwnnw. Roedd ganddi lais contralto cyfoethog a bu'n aelod gweithgar o gorau eraill yn yr ardal gan gynnwys Cymdeithas Gorawl Treorci. Fel gweddill y teulu, roedd yn aelod ffyddlon yng nghapel Ramah cyn ymuno wedyn â Bethania ac yna

gawd yn ddiweddarach, byddwn yn ffeindio fy hun yn Lerpwl yn astudio ieithoedd modern ac yn mynychu prifysgolion yn Ffrainc (Universitee de Caen, Normandy) a'r Almaen (Universitaet Hamburg). Dilynwyd hyn gan yrfa mewn gwledydd tramor, yn estyn dros dri chyfandir. Dechreuodd popeth dan gysgod Pen-pych efallai gyda llyfr Wncwl Gwyn.Hwyl tan y tro nesa'.gawd yn ddiwed-

Hermon. Bu hefyd yn actio mewn cwmni a gyfarwyddid gan ei brawd yng nghyfraith, Cecil Edwards a chai hi bleser mawr yn hel atgofion am ei phrofiadau wrth ganu ac actio.. Roedd hi bob amser yn bleser cael sgwrs â Tillie gan fod ei chof yn glir hyd y diwedd a byddai wrth ei bodd yn sôn am y gymdeithas yn Nhre-

darach, byddwn yn ffeindio fy hun yn Lerpwl yn astudio ieithoedd modern ac yn mynychu prifysgolion yn Ffrainc (Universitee de Caen, Normandy) a'r Almaen (Universitaet Hamburg). Dilynwyd hyn gan yrfa mewn gwledydd tramor, yn estyn dros dri chyfandir. Dechreuodd popeth dan gysgod Penpych efallai gyda llyfr Wncwl Gwyn.Hwyl tan y tro nesa'.

orci ers llawer dydd. Gwelodd newidiadau mawr ym mywyd yr ardal yn ystod ei hoes a gresynai weld natur glos, gymdogol Treorci'n graddol ymddatod o'i chymharu â'r hyn oedd. Yn ystod ei blynyddoedd olaf cafodd gefnogaeth gyson gan ei nai Meirion a'i wraig Diane a fu'n ymweld â hi'n ffyddlon yn ei chartref ac wedyn yn Ystradfechan. Estynnwn iddyn nhw a'r teulu oll ein cydymdeimlad cywiraf yn eu profedigaeth a diolchwn am gael cwmni cwmni a chyfraniad Tilly i fywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal am dros ganrif o amser.


newyddion lleol

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT

Roedd heol y Rhigos ar gau am 6 diwrnod ar ddiwedd mis Mai a dechrau Mehefin er mwyn adnewyddu’r heol ar ochr Hirwaun. Roedd yr holl waith yn costio £290,000

Ar y 6ed o Fai cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel Blaenycwm i drafod cynllun y loteri “Creu Lle Eich Hunan” Daeth swyddogion o Lywodraeth Cymru i drafod tlodi a myfyrwyr o Brifysgol Oxford Brooks i helpu sefydlu busnesau bychain a chreu cynlluniau busnes. Paratowyd cinio iddynt gan y Parchedig Phill Vickery sy’n gogydd proffesiynol Ar y 4ydd o Fehefin cynhaliwyd cyfarfod PACT Treherbert yn yr Hendrewen Blaencwm lle cafodd adroddiad gan PCSO Natasha Forster ynglŷn â phroblemau’r ardal ei drafod. Ar ôl y cyfarfod roedd pawb yn mwynhau'r Cinio Haf blynyddol.

Croeso’n ôl i Rob Idris, y fet o o Ynys

Môn, sy wedi dod lawr i’r Rhondda er mwyn helpu yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Mae’r cyngor wedi derbyn adroddiad sy’n cynnwys tystiolaeth bod dwrgwn yn byw yn nant Selsig ym Mlaencwm. Does neb wedi gweld dwrgi ym mhen uchaf y Rhondda am bron 100 mlynedd.

Llongyfarchiadau i Glwb Pêl Droed Blaenrhondda sy wedi cael dyrchafiad o Cynghrair Y Rhondda i Gyngrair Alliance De Cymru. Mae Blaenrhondda wedi cael tymor hynod o lwyddianus eleni heb golli un gêm yn y gynghrair. Sicrhwyd y dyrchafiad wrth ennill . “play off” yn erbyn STM Old Boys o Gaerdydd.

Llongyfarchiadau i gwmni Selsig am ei gynhyrchiad “The Producers” oedd yn rhedeg am 5 diwrnod yn y Parc a Dâr ar ddechrau Mai. Roedd Glen Bowen (gynt o Tynewydd) , Daniel

Stagg a Harmony Miller yn wych yn y prif rannau.

Dymunwn wellhad buan i Geoff Lloyd o Miskin St sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd

Mae'nl flin cofnodi marwolaeth Gwynedd Thomas, yn enedigol o'r Maerdy ond wedi byw yn Alcester, yn agos i Gaerwrangon, am flynyddoedd maith. Daeth ei merch, Jane Brownnutt, i’r Rhondda pan gafodd ei gwr y Parchedig David Brownnutt ei sefydlu fel gweinidog yma. Roedden nhw’n ymgartrefi yn Nhreherbert ac roedd Jane yn dysgu cerddoriaeth yn yr ysgolion lleol. Mae Jane wedi dysgu Cymraeg ac roedd hi’n hoffi siarad Cymraeg a’i mam oedd yn ymwelydd cyson â Threherbert. Cydymdeimlwn gyda’r teulu i gyd. Mae'n flin cofnodi marwolaeth un o’r trigolion henaf Treherbert ,Mrs Meryl Evans o Eleanor St. Cyn ymddeol roedd

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN hi’n chwaraewr piano proffesiynol. Cydymdeimlwn â’i holl deulu

Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Betty Howells o Scott St. un o drigolion mwyaf adnabyddus Tynewydd. Roedd hi a’i gŵr yn rhedeg siopau yn strydoedd Scott a Wyndham am flynyddoedd. Cydymdeimlwn â’i gŵr Russell, ei merch Julie a’r teulu i gyd.

Yn 85 oed, bu farw David Rhys Williams, Fferm Tylefforest, yn

PARHAD ar dudalen 8

5


Capel Byddin yr Iachawduriaeth Pentre heddiw

BYD BOB

[Edrych ar ein hagwedd at y broses o heneiddio a'n hagwedd ati mae Bob Eynon y mis hwn.]

6

Ydych chi'n cofio'r hen fferyllfeydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd? Byddai eu ffenestri a'u silffoedd yn llawn poteli oedd yn dal pwdwr neu hylif lliwgar. Roeddech chi'n gallu gweld poteli tebyg ym meddygfa eich doctor lleol. Byddai ystafell ddirgel y tu ôl i'r ystafell

aros lle byddai fferyllydd bach (neu fawr, efallai) yn cymysgu moddion i chi yn unol â chyfarwyddiadau eich meddyg. Sut mae pethau wedi newid ers pryd hynny! Y dyddiau hyn, does dim rhaid i fferyllydd gymysgu dim byd.Mae pob meddyginiaeth yn dod yn syth o'r ffatri mewn tiwb neu flwch. Mae'n siwr bod gwaith fferyllydd yn bwysig o hyd ond mae e wedi colli'r hen garisma, ac rydyn ni'n tueddu i ystyried fferyllydd fel perchennog siop yn hytrach nag arbenigwr meddygol. A dweud y gwir, os ydych chi'n mynd i mewn i fferyllfa fawr fel Boots, rydych chi'n ei chael yn anodd dod o

hyd i'r moddion ymysg y potel siampŵ, y raseri trydan a'r persawrau sy'n llenwi'r silffoedd achos bod yn well gan y wraig fodern (a'r dyn modern hefyd) edrych yn olygus ac yn ifanc yn hytrach na bod yn iach Mae'n well gan rai ohonon ni farw o newyn nac edrych yn dew. Mae'r papurau newydd a'r cylchgronau'n sôn yn ddi-baid am sut i gadw'n ifanc trwy gydol eich bywyd, ac mae pobl gyfoethog yn gwario miloedd o bunnau mewn clinigau preifat tra bo pobl dlawd yn gobeithio cael yr un canlyniadau wrth brynu tun o hufen Nivea yn yr archfarchnad leol. Yn bersonol, rwy'n meddwl bod eich dull o fyw yn bwysicach nag un-

rhyw driniaeth neu glinig. Rydw i wedi bod yn aelod o dîm pŵl ers blynyddoedd. Mae gêm pŵl yn apelio at bobl o bob oedran, ac mae'n bosibl chwarae yn yr un tîm â phobl ugain oed neu wyth deg oed. Weithiau, pan rwy'n chwarae gyda, neu yn erbyn, pobl sy'n llawer ifancach na fi, ac maen nhw'n fy nerbyn fel un ohonyn nhw, rwy'n anghofio fy mod i'n saith deg pump oed. Rwy'n meddwl fel nhw, rwy'n siarad fel nhw. Ond os oes drych ar wal y dafarn, rwy'n mynd heibio iddo heb edrych arno. Achos, rydych chi'n gweld, dydy drychau ddim yn dweud celwyddau!


PWT O HANES BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH, PENTRE

Daeth y llun diddorol hwn o fand Byddin yr Iachawdwriaeth oddi wrth Mr Mike Ash, Pentre sydd wedi creu gwefan ddiddorol yn cynnwys llawer o hen luniau o'r ardal honno.

Codwyd y Barics yn Stryd Carne, Pentre - y Citadel erbyn hyn - yn 1887 pan osododd yr enwog Gadfridog Booth y garreg sylfaen, ond roedd y Fyddin yn weithgar yn yr ardal ymhell cyn hynny oherwydd daeth Mike Ash ar draws cyfeiriadau at achosion o'r band yn cael ei gyhuddo o achosi rhwystr ar sgwâr y Bridgend.

Ynghyd â'r llun cafwyd adroddiad o'r Rhondda Leader, 12 Rhagfyr 1903 sy'n sôn am Mabon yn cyflwyno offerynnau newydd i'r band. 'Ddydd Llun, ym Marics Byddin yr Iachawdwriaeth, cynhaliwyd te bendigedig ar gyfer tua 400 o bob. Yn dilyn y te, gorymdeithiodd y band trwy'r prif strydoedd gan chwarae'r gerddoriaeth filwrol "On the Battlefield" Llywydd y gwasanaeth dan do oedd Mr W. Abraham MP [Mabon] a gyflwynodd set newydd o offerynnau pres gwerth £150 i'r band sydd â 25 o aelodau. O'r dechrau deg, roedd y cyfarfod yn un brwd, gyda Mr Abraham mewn

hwyliau arbennig o dda, a'r aelodau yn dangos eu gwerthfawrogiad o'i bresenoldeb trwy danio nifer o ergydion gwn a churo dwylo. Roedd hyn yn arbennig o wir pan gyhoeddodd ei fod wedi cytuno i bregethu ym Marics y Pentre ar Sul olaf mis Rhagfyr.Cafwyd gwahanol ddatganiadau cerddorol ac unawdau priodol ac ar ôl y diolchiadau gorffenwyd y cyfarfod trwy ganu 'All Hail the Power'. Bu ymweliad Capten Staff Adby a'i gwmni o sipsiwn â'r barics ddydd Sadwrn yn llwyddiant mawr, gyda llawer yn bresennol, yn enwedig ar nos Sul pan oedd y

neuadd fawr dan ei sang gan gynulleidfa werthfawrogol iawn. Cafwyd cerddoriaeth yn bennaf yn rhan gyntaf y gwasanaeth ond wedyn gafwyd neges efengylaidd daer gan y Capten Barrett o Bontypridd. Ar ddiwedd y gwasanaeth cyntaf, arhosodd torf fawr ar gyfer y cyfarfod gweddi. Yn ystod y penwythnos cafwyd cyfraniad teilwng gan y Band Pres â'u offerynnau newydd."


dilyn cyfnod hir o afiechyd. Perthynai Davis i un o deuluoedd cysefin y Rhondda - roedd e'n wir Gloran. Yn ogystal â ffermio, bu'n gweithio o dan ddaear ac roedd yn adnabyddus yn ardal Treherbert. Gofalwyd amdano yn ystod ei gystudd olaf gan ei bartner, Aldyth a chydymdeimlwn yn gywir iawn â hi a hefyd â'i blant, Andrew, Beverly ac Adrian a'r teulu oll yn eu hiraeth.

Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i wasanaeth coffa yng nghapel Carmel ar 13 Mehefin o dan ofal y Parch Cyril

8

Llewelyn.

TREORCI

Roedd yn ddrwg gennym dderbyn y newyddion am farwolaeth Miss Barbara Hickerton, Stryd Stuart yn dilyn cyfnod o afiechyd. Roedd Barbara wedi byw yn Stryd Stuart ar hyd ei hoes ac yn aelod brwd o Gymdeithas Gelf Ystradyfodwg. Cyn ymddeol, gweithiai yn y gwasanaeth sifil.Yn arlunydd dalentog, byddai'n arddangos ei gwaith yn gyson yn sioeau'r Gymdeithas. Roedd hi hefyd yn aelod yng nghapel Hermon lle y bu'n ffyddlon hyd nes i afiechyd ei rhwystro

rhag mynychu'r oedfaon.

Cafodd Pwyllgor Ymchwil i Gancr Treorci noson gymdeithasol arbennig o lwyddiannus yn neuadd Eglwys San Matthew, nos Iau, 25 Mai pan lwyddwyd i godi dros £700 at yr achos teilwng hwn. Cafodd y gynulleidfa fawr fodd i fyw yn gwrando ar y canwr a'r cerddor lleol, Keiron Bailey a ddarparodd yr adloniant. Mae e a'i deulu yn gefnogol iawn i'r achos hwn a rhoddodd o'i dalentau yn rhad ac am ddim. mawr yw diolch y pwyllgor iddo. Diolch hefyd i aelodau Bethlehem, Hermon ac Eglwys San

Matthew am eu cyfraniadau i Wythnos Cymorth Cristnogol. Llwyddwyd i godi swm sylweddol at yr achos ac mae'r eglwysi'n ddiolchgar iawn i'w haelodau ac i bobl yr ardal am eu haelioni.

Bydd yr arian yn mynd at roi help ymarferol i bobl dlawd yn y Trydydd Byd. Llongyfarchiadau i Alison Chapman, Sêra Evans-Fear ac Emyr Webster ar eu llwyddiant yn yr etholiadau lleol a phob hwyl iddynt ar ddechrau tymor arall ar Gyngor RhCT. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Maureen Evans,


Stryd Tynybedw. Cydymdeimlwn â'i gŵr, ®onnie, ei mab, Mark a'i merched, Sarah ac Elizabeth yn eu profedigaeth.

Ar nos Iau, i Mehefin, cafodd aelodau Sefydliad y Merched [WI] noson ddiddorol iawn yng nghwmni Mr Mike Jones oedd yn dangos hen ffilmiau.

Nos Iau, 15 Mehefin, cynhaliwyd cyngerdd yn y Parc a'r Dâr gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Treorci i ddathlu pen-blwydd yr ysgol yn 150 oed.

Cynhaliwyd cwis gan aelodau'r WI yn nhafarn y RAFA, nod Fercher 14 Mehefin gyda gwahoddiad i aelodau canghennau eraill y mudiad.

Mae Mr David Howell, Stryd Howard wedi mynd i mewn i gartref gofal Ystradfechan dros dro wrth iddo ddod dros gyfnod yn yr ysbyty ar ôl torri ei asgwrn clun. Pob dymuniad da iddo oddi wrth ei gyd-aelodau yn Hermon.

Dymuniadau gorau i Mr David Davies, Stryd Illtyd sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd lle y cafodd lawdriniaeth yn ddiweddar ac i Mr Alwyn Phillips, Teras

Tynybedw sydd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr. Cafodd Mrs Ellen Hughes ddamwain pan gwympodd ar y stryd a thorri ei braich yn ddiweddar. Dymunwn iddi wellhad llwyr a buan.

CWMPARC

(Gweler erthygl am Ysgol y Parc.)

Y PENTRE

Mae croeso cynnes i bawb ymuno yn y boreuau coffi a gynhelir yn rheolaidd yn eglwys San Pedr. Galwch heibio i fwynhau coffi a theisennod yn ogystal â sgwrs y tro nesaf, sef ddydd Gwener, 16 Mehefin. Croeso i bawb.

Mae croeso i bawb yng nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, Stryd Carne gyda gwahanol ddigwyddiadau yn cael eu trefnu trwy gydol yr wythnos. Mae oedfa fore Sul am 10.15am gyda'r Ysgol Sul yn dilyn am 11 o'r gloch. Am 4.30 cynhelir cyfarfod prynhawn. Os ydych yn hoffi canu, mae ymarfer côr am 6 nos Lun ac mae'r Songsters yn cwrdd am 7. Croeso ichi ddod i'n bore coffi rhwng 10.30 12 fore Iau neu os oes

gennych blant ifanc, cynhelir sesiwn 'Mam a Phram' fore Llun rhwng 9.15 11am. Mae digon i'w wneud a digon o groeso. Galwch heibio i'n gweld!

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, cynhaliwyd cyfarfod yn Eglwys San Pedr pan fu'r actor Hugh Grant yn sgwrsio â Chris Bryant.

TON PENTRE

Yn anffodus, daeth y tywydd i amharu ar Ffair Haf Eglwys Ioan Fedyddiwr a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 10 Mehefin ond er gwaethaf hynny cafodd pawb amser da a llwyddwyd i godi swm teilwng o arian at yr eglwys. Mae'n drist cofnodi marwolaeth un o drigolion uchel ei pharch yn yr ardal, sef Mrs Irene Parlour oedd yn 89 oed. Derbyniodd hyfforddiant i fod yn nyrs a bu'n gweithio yn Llundain cyn dychwelyd i Ben-ybont ar Ogwr. Ar ôl symud i Dŷ Ddewi i fyw trefnodd nifer o ddigwyddiadau i godi arian at Dŷ Hafan. Gadewir bwlch mawr ar ei hôl ac estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w nith, Sheila a gweddill y teulu yn eu colled.

fod mis Mai o'r Clwb Cameo oedd Mr Steven Jones sydd wedi bod yn bostmon am 18 mlynedd. Yn ei sgwrs ddiddorol disgrifiodd fel y mae llythyron personol wedi lleihau oherwydd e-bost a'r rhyngrwyd ond dywedodd bod cynnydd aruthrol wedi bod mewn deunydd hysbysebu a sgrwtsh sydd wedi ei gadw mewn gwaith! Mae Miss Carol Treebee o Dŷ Ddewi ar hyn o bryd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr. Mae ei chymdogion yn anfon eu dymuniadau gorau am wellhad llwyr a buan.

Pob dymuniad da hefyd i Miss Sylvia Griffiths sy wedi ymgartrefu yn Nhŷ Ddewi yn ddiweddar. Dymunwn iddi bob hapusrwydd.

Cafwyd noson lwyddiannus yn theatr y Ffenics yn ddiweddar pan gynhaliwyd cyngerdd o ganeuon o'r sioeau gan gwmni Theatr Max. Llongyfarchiadau iddynt ar gyflwyno noson o adloniant pur gan dalentau lleol.

Y siaradwr yng nghyfar-

9


EDWARD SHUREY, YSTRAD RHONDDA

Edward fel plismôn gyda’i Dad Harry Edward yn y fyddin

10

[Ymunodd cannoedd o fechgyn y Rhondda â'r lluoedd arfog adeg y Rhyfel Fawr. Cafwyd llawer o golledion a llawer o straeon am droeon creulon ffawd. Diolchwn i LEN SHUREY, o Gaerffili bellach, ond gynt o Ystrad Rhondda, am yr hanes hwn am un aelod o'i deulu.] Ym mynwent filwrol y Curragh yng ngogledd Iwerddon mae bedd gŵr o Ystrad Rhondda, Edward Shurey a aned yn 1891. Fel y rhan fwyaf o'i gyfoeswyr aeth yn syth o'r ysgol i weithio yn y pwll glo ond ychydig cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf penderfynodd ymuno â Heddlu Morgannwg ac erbyn 1914 roedd e'n gweithio fel plismon yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ond roedd y Rhyfel Fawr wedi dechrau ac un o nodweddion y cyfnod oedd codi carfannau o filwyr o'r un dre, dinas neu ardal gan dybio y byddai'r bechgyn yn fwy cartrefol yn ymladd yng nghwmni cyfoedion oedd yn gyfarwydd iddynt. Ymunodd Edward â Bataliwn Dinas Caerdydd ac erbyn 1916 roedd yn brwydro ar dir Ffrainc. Fel llawer o rai eraill, cafodd ei anafu ond ddim yn ddigon drwg i roi'r gorau'n llwyr i'w yrfa newydd. Yn hytrach, fe'i hanfonwyd i ogledd Iwerddon i weithio i'r fyddin fel hyfforddwr bomio. Priododd yn 1917 ac roedd e siwr o fod yn edrych ymlaen at ddechrau teulu. Ond os bu'n lwcus i ddychwelyd yn fyw o Ffrainc, trodd ffawd yn ei erbyn yn Iwerddon. Wrth ddilyn ei waith, ffrwydrodd bom yn ddirybudd a chafodd ei ladd, gan adael gweddw ar ôl bod yn briod am lai na blwyddyn.


ANRHYDEDD I AELOD O STAFF YSGOL Y PARC

Yn 2015 ysgrifennais am benodiad Christian George i swydd Swyddog Cyswllt Teulu yn Ysgol y Parc. Ers hynny, mae e wedi datblygu prosiectau newydd a blaengar yn yr ysgol, er budd y plant a’u teuluoedd. Canmolwyd y rhain gan Estyn yn adroddiad diweddaraf yr ysgol. Yn sgil ei gyflawniadau, enwebais e am wobr yng Ngwobrau Addysg Cymru. Cynhaliwyd seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 7Mai, lle enillod Mr. George y wobr Hyrwyddo Lles Disgyblion a Chynhwysiant.

Aeth Mr George i’r seremoni yng nghwmni pennaeth yr ysgol, David Williams a chyd-weithwyr, a oedd wrth eu boddau gyda’i lwyddiant. Dywedodd Mr Williams “Rwyf wrth fy modd bod Mr George wedi ennill y wobr hon. Rwyf yn falch iawn o’r staff yn ein hysgol, ac rwyf yn hapus dros ben bod Mr George wedi cael ei gydnabod am ei waith ardderchog.”

Un arall oedd yn bresennol yn y seremoni oedd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Parc, Sêra Evans-Fear. Dywedodd “Rydw i mor falch o Mr George. Mae'n chwarae rhan hynod bwysig ym mywyd bob dydd Parc Primary - mae'n cyfrannu gymaint o ran ei egni, ei frwdfrydedd a'i bersonoliaeth dwymgalon er mwyn helpu disgyblion a rhieni'r ysgol. Mae'r wobr hon yn crisialu ei waith gwerthfawr. Rydyn ni, fel Bwrdd Llywodraethu, yn ddiolchgar iddo am ei ymroddiad a'i gyfraniad.” Cyflwynwyd y wobr iddo gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg llywodraeth Cymru. Sefydlodd hi'r gwobrau i ddiolch i athrawon a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yng Nghymru, ac i gydnabod yr arweinyddiaeth a'r dysgu gorau ledled Cymru. Wrth dderbyn ei wobr, roedd Mr George eisiau pwysleisio taw tîm yw’r ysgol, ac yn ogystal â pherthyn iddo ef, mae’r wobr yn perthyn i’r staff, y plant a’r teuluoedd sy’n cyfrannu cymaint at fywyd a llwyddiant yr ysgol.

Nerys Bowen Lluniau:

Christian George gyda Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru

Christian gyda’i wobr

11


YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA MEGAN Y

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

NEWYDDIADURWRAIG

Cafodd Megan Hanney o Flwyddyn 8 gyfle euraidd yn ddiweddar wedi iddi dderbyn gwahoddiad i gyflwyno eitem newyddion ar gyfer 'First News'. Bu Megan yn adrodd ar waith y cwmni dillad 'Sea Salt'. Gallwch wylio'i hadroddiad https://live.firstnews.co.uk/justthe-job/technology/fashion-designer/

Cafodd ein disgyblion gyfle gwych i ymweld â safle ail-gylchu Trident yn ddiweddar i ddysgu am brosesau ail-gylchu Rhondda Cynon Tâf.

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12

YSGOLION


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.