y gloran
LORI YN SOWND YN Y TROAD I HEOL CHEPSTOW -
LLYTHYRON
Cymru ar fin colli cymar Celtaidd?
Cymraes wedi fy magu yn Ninbych ydw i, ond yn hanner Llydawes ac yn siarad Llydaweg gyda Mam bob diwrnod. Oherwydd hynny, mae clywed am y gwarth a’r annhegwch o du draw i’r dŵr wedi fy nychryn.
Rhanbarth yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Llydaw ond fe fu hi unwaith yn wlad gyda’i hawliau ei hun. Mae treftadaeth Llydaw a’r balchder sydd gan y bobl yn dal yn bodoli yno; ond heddiw mae hunaniaeth 4.5 miliwn o Lydäwyr yn y fantol. Mae Llywodraeth loerig
Ffrainc wedi penderfynu ailwampio’r wlad, sy’n golygu y bydd y ‘départements’ yn diflannu’n gyfan gwbl erbyn 2025. I Lydaw bydd hyn yn drychineb oesol gan mai’r bwriad yw ymuno Llydaw ag ardal arall o Ffrainc sef rhanbarth Pays-de-Loire gan greu’r “Grand-
20c
Ouest” - ‘Y Gorllewin Mawr’. Does dim dwywaith y bydd hyn yn lladd y wlad, yr iaith ac unrhyw ymdrech sydd wedi bod yn y gorffennol i amddiffyn hanes ac etifeddiaeth Llydaw. Cyhoeddwyd drafft cyntaf y llywodraeth yn-
parhad ar dudalen 3
golygyddol l
Mae diwedd tymor fel arfer yn achlysur hapus yn ein hysgolion wrth i ddisgyblion ac athrawon edrych ymlaen at gael hoe a mwynhau gwyliau'r haf. Ond eleni, teimladau cymysg fydd gan bawb sydd ac a fu'n gysylltiedig ag Ysgol Ynyswen wrth i'r drysau gau am y tro olaf. Yn anffodus, daeth digwyddiadau o'r fath yn llawer rhy gyfarwydd inni ym mlaenau'r Rhondda fawr wrth i ysgol ar ôl ysgol orfod cau. Ysgolion Blaenrhondda, Blaen-ycwm, Dunraven, Ysgol Fabanod Treherbert a'r flwyddyn nesaf, Y Pentre, i gyd yn diflannu yn eu tro gan adael bwlch mawr yn ein cymunedau. Pan oedd ein Haelod Cynulliad. Leighton Andrews, yn gyfrifol am addysg, anfonodd gyfarwyddyd i bob awdurdod 2
y gloran
gorffennaf 2014
YN Y RHIFYN HWN
Lori yn sownd/ Llythyron...1-3 Golygyddol Llythyron...-2 Rhys/Llythyron...-4 Atgof o’r Rhyfel Byd Cyntaf...4
addysg o safon uchel i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant. Yn y blynyddoedd olaf enillodd glod am ddarparu addysg i blant ag anghenion arbennig ac elwodd Newyddion Lleol gweddill y disgyblion o ...5-10 gael y profiad o dderbyn eu haddysg yng nghwmCymraeg yn Ewrop/ ni'r plant hyn. Ddiwedd Byd Bob...-6 Mehefin, trefnwyd ardRoger Price...-7 dangosfa yn yr ysgol a daeth llawer o gyn-ddisaddysg yng Nghymru yn gyblion i weld hen ludweud wrthynt fod rhaid niau ac archwilio Ysgolion...11 iddynt gael gwared ar dogfennau, megis cofreGwaith Bodringallt..12 leoedd gwag mewn ysstri, oedd yn cynnwys eu golion, ac ymateb i'r wŷs henwau. Teimlai pawb honno mae Rhondda yn ddiolchgar am y Cynon Taf, fel pawb profiadau a gawsant yn arall. Mae'r lleoedd yr ysgol ac am y sylfeini gwag hyn yn ganlyniad cadarn a osodwyd yno anorfod i'r gostyngiad af- cyn iddynt fentro ma's i'r gwasanaeth gwerthfawr fwysol ym mhoblogaeth 'byd mawr'. Wrth golli yr ardal hon gyda phobl ysgol, nid colli sefydliad i'r ardal. ifainc yn symud ma's addysgol yn unig a oherwydd diffyg gwaith. wneir, ond collir canolGolygydd Mae'r cwymp ym mhobl- fan gymdeithasol i'r gygaeth Cwm Rhondda o muned gyfan. Dyna 162,00 i lai na 70,000 ddagrau'r sefyllfa, ond heddiw yn syfrdanol ac wrth i ddrysau Ysgol yn warth. O gofio'r holl Ynyswen gau am y tro gyfoeth a gynhyrchwyd olaf y mis hwn, rhaid diyma yn y gorffennol, olch i'r brifathrawes, Mrs mae'r diffyg rhagweld a Rowlands a'i staff, ynrhagbaratoi yn feirnighyd â'r holl athrawon a adaeth ddeifiol ar sawl phrifathrawon a lafuricenhedlaeth o wleidydodd yno dion, yn lleol ac yn Ariennir yn rhannol o'u blaen genedlaethol. am eu gan Lywodraeth Cymru Agorwyd Ysgol Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison Ynyswen yn 1912 ac am gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru dros ganrif darparodd Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
LLYTHYRON
glŷn â’r syniad bondigrybwyll hwn ar yr 11eg o Ebrill, 2014 ac mae’n rhaid dweud ei fod yn cydnabod ffiniau Llydaw. Ond mae pethau wedi newid yn gyfan gwbl ers i lywodraeth Ffrainc gyhoeddi map hurt ar gyfer Ffrainc y dyfodol, ar y 3ydd o Fehefin; ond oherwydd cyfleustra yn unig nid parch. Nid oes gan Ffrainc unrhyw ots o gwbl am deimladau ‘y werin yn y gorllewin’ a ni fydd gan y Llydäwyr fawr o lais yn y mater. Yr unig obaith ydi protest anferth yn Nantes ar 28 Mehefin 2014 – roedd 10 000 wedi bod yn protestio yn Nantes eisioes ar 19 Ebrill 2014. Maent wedi dioddef cymaint dros y blynyddoedd, gyda
Llywodraeth Ffrainc yn gwrthod hawliau, yn rhaffu celwyddau gan droi’r bobl yn erbyn eu gwlad ac yn peryglu traddodiadau. Mae cannoedd wedi aberthu eu bywydau drosti, a cholli’r teimlad hwn o fod yn wlad fydd yr ergyd olaf yn ei herbyn, gwaeth na phan dynnodd Llywodraeth ffasgaidd y Maréchal Pétain Nantes, gyn-brifddinas Llydaw, a’i hardal oddi wrth Lydaw ym 1941. Ond ydych chi’n sylwi y bydd difrod yn cael ei greu yng Nghymru hefyd? Ni fydd gwyliau i ‘Lydaw’ yn bodoli mwyach na chwaith pwrpas i’r gefeillio rhwng trefi Cymru a Llydaw. Byddem ni’n colli un o’n Chwiorydd Celtaidd a beth sydd i ddweud nad y ni fydd nesaf? Y gob-
aith yw ein bod ni’n agosáu at annibyniaeth, ond beth os mai ein tynged ni o dan grafangau San Steffan fydd ‘Lloegr Fawr’? Mae’n ddyletswydd arnom ni, fel cenedl sy’n gyfarwydd â dioddef dan ormes cymydog, i gefnogi’r achos yn Llydaw. Rydym ni’n gwybod pa mor dyngedfennol fyddai penderfyniad felly yng Nghymru, a yw hi’n anoddach credu mai’r un yw’r sefyllfa’n Llydaw? Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans yn poeni bod Ffrainc yn dangos esiampl ddrwg i wledydd mawr eraill. Byddai hynny’n gallu cael effaith ar leiafrifoedd eraill yn Ewrop. Mae’r Llywodraeth eisiau i Senedd Ffrainc ddod i benderfy-
niad terfynol cyn diwedd yr haf, yn slei bach, pan fydd pobl ar eu gwyliau.
Ni allaf i hyd yn oed ystyried na fyddaf i’n medru dweud mai hanner Llydawes ydw i ac rwy’n gobeithio y bydd ‘Llydaw’ yn parhau i fod yn gartref i mi am chwe’ wythnos bob haf. Os hoffech wybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn Llydaw, ewch i Facebook Bretagne Réunie, Support the Reunification of Brittany neu Facebook Dominig Kervegant (kervegant.tregarth@g ooglemail.com). Maiwenn Berry, Dinbych (Disgybl Bl 12, Ysgol Glan Clwyd)
3
RHYS JONES -
ATHLETWR PARALYMPAIDD
[Mae ŵyr Rhys Jones, ŵyr Ray Poulton o Gwm Clydach, wedi datblygu'n athletwr paralympaidd rhyngwladol adnabyddus. Yma mae ei dad-cu'n yn amlinellu ei hynt a'i helynt yn ystod y misoedd diwethaf. Gol.] Bydd darllenwyr Y Gloran yn cofio ein bod wedi bod yn dilyn campau Rhys Jones, yr athletwr paralympaidd o Gwm Clydach, adeg Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Ers hynny, bu Rhys yn gweithio'n galed iawn, yn mynychu sesiynau yn y gampfa yng Ngerddi Sophia, Caerdydd bedair gwaith yr wythnos yn
ATGOF O'R RHYFEL BYD CYNTAF
Yn ddiweddar, mae'r Pwyllor Neuadd y Parc wedi bod yn tacluso ac yn taflu sbwriel ma's o'r neuadd, achos bod Band Pres y Cori wedi cymryd drosodd rhan o'r adeilad. Mewn ystafell lawr llawr, daethpwyd o hyd i hen eitem o Gapel Salem, Cwmparc. Rhôl Er Anrhydedd i'r milwyr a gollwyd yn ystod y Rhyfel Mawr yw hi, ac 4
ogystal â threulio rhai penwythnosau yn Loughborough er mwyn datblygu ei gryfder. Fis Mehefin y llynedd,
cystadlodd yng Ngemau'r Byd yn Lyon, Ffrainc gan lwyddo i ddod yn drydydd yn ei rownd gynderfynol a mynd ymlaen i recordio ei amser personol gorau erioed, sef 11.82 eiliad, yn y rownd derfynol lle y gorffennodd yn y 7fed. safle. Yn anffodus, bu rhaid iddo dderbyn triniaeth lawfeddygol ym mis Ionawr eleni ar gyfer hernia ac ar ben hynny, ar ôl dechrau ymarfer eto, cafodd anaf i'w droed. Felly, hyd yma chafodd e fawr gyfle i redeg!
Dydy ansawdd y rhestr ddim yn dda, oherwydd effaith lleithder dros y blynyddoedd, ond mae'r cyngor Neuadd y Parc yn gobeithio creu copi ffyddlon i'w arddangos yn y pentref. Mae un o'r cyngor wedi bod yn ysgrifennu'r enwau ma's, gan astudio'r rhestr yn ofalus. Mae sawl enw a
LLYTHYRON
arni restr o enwau trigolion Cwmparc - "Y Meirw Gogoneddus" ynghyd â'r "Rhai a Ddaethant Yn Ôl". Mae'n rhestru bron 120 enw, yn cynnwys 16 a gollodd eu bywydau.
Mae Rhys wedi cyrraedd y safon angenrheidiol i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad sydd i'w cynnal yn Glasgow ddiwedd Gorffennaf. Os bydd yn holliach, mae'n benderfynol o redeg a chewch gyfle i'w weld ar Sianel 4 yn rhedeg dros ei wlad. Ble bynnag y byddwch yn gwylio, rhowch floedd o gefnogaeth i Rhys oherwydd mawr obeithiwn y bydd ganddo gyfle i ennill medal. Rydyn ni wedi sicrhau gwesty'n barod ac yn bwriadu hedfan lan i'r Alban i gael penwythnos o sbri! Ac ar ôl hynny bydd y Gemau Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn Abertawe a daw cyfle iddo gystadlu eto. O gofio ei holl afiechyd yn blentyn, mae Rhys wedi llwyddo i wneud y gorau o'i adnoddau. Pob lwc iddo dros yr haf! fydd yn gyfarwydd i bobl Cwmparc, er enghraifft Tomkinson, Butler, Gwilliam, Middleton, Higgon a Hamer. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio ffeindio ma's mwy am y bobl ar y rhestr yn y dyfodol. Nerys Bowen
Annwyl Olygydd, Mae Tystion Jehofa Cymraeg eu hiaith yn estyn gwahoddiad cynnes i ddarllenwyr Y Gloran i ymuno â nhw yn eu Cymanfa Gymraeg i’w chynnal yn yr Arena and Conference Centre, Lerpwl, 22-24 Awst eleni. Disgwylir y bydd rhai cannoedd yn bresennol. Gyda dramâu, dangosiadau, a chyfweliadau diddorol yn pwysleisio gwerthoedd Cristnogaeth ar waith yn y teulu o dan gyfarwyddyd Teyrnas Dduw, fe ddaw’r Gymanfa i’w hanterth fore Sul yn yr Anerchiad trawiadol: “Brenin Newydd y Ddaear – Pwy Sy’n Gymwys?” Bydd pob dim yn y Gymraeg – caneuon mawl yn ogystal. Yn gywir, Hywel Bebb [Bangor]
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Pob dymuniad da i Susan MacMillan, Castleton Avenue, wrth iddi ymddeol o'i gwaith yn diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol De Cymru. Ar ôl dysgu'r iaith ei hun, bu Susan wrthi'n ddyfal yn ysbrydoli eraill i ddilyn yn ei chamre gan roi i eraill y pleser a gafodd hi ei hun wrth siarad Cymraeg. Efallai taw ei llwyddiant pennaf oedd perswadio ei merch-yng-nghyfraith, Julie, i ddysgu Cymraeg ac mae hi bellach yn cael ei chyflogi'n diwtor gan y Brifysgol hefyd. Dymunwn i Susan ymddeoliad hir a hapus ond mawr obeithiwn na fydd yn rhoi'r ffidil yn y to yn llwyr gan ei bod yn athrawes ry dda i'w cholli! Mae Meithrin Tynewydd a chwmni sydd yn hyfforddi cymorth cyntaf wedi ymuno i gymryd drosodd yr hen Ganolfan Addysg Gymunedol yn Dumfries St. Mae’r cyngor wedi rhoi les o ddwy fflynedd iddynt. Difrodwyd hen gatref y Cylch Meithrin ym Mharc Tynewydd gan dân bwriadol yn diweddar . Bydd y safle newydd yn rhoi mwy o le iddynt ehangu eu
gwasanaeth. Pob lwc I’r fenter. Yn y cyfamser mae’r clwb ieuientyd oedd yn y ganolfan wedi ymuno â chlwb Bechgyn a Merched Treherbert yn Stryd yr Orsaf. Gobeithio bydd hyn y sicrhau dyfodol gwasanaethau i bobl ifanc yr ardal. Mae’n dda gweld dwy siop newydd yn agor. Mae Andrew Bebb o'r Gelli wedi agor siop fwyd 'Deli -icious' ar y stryd fawr yn Nhreherbert a Donna Jones o Rheidol Close wedi agor y Village Bakery yn stryd Wyndham (hen siop Waters ) . Pob llwyddiant iddynt ill dau. Mae Tafarn y Bute wedi cael ei enw yn ôl yn swyddogol. Tynnwyd i lawr arwydd “The Village Tavern” a chodwyd arwydd “The Bute” yn ei le. Perderfyno y perchenog, Steve Kooner, newid yr enw’n ôl achos dyna fel mae’r tafarn yn cael ei adnabod gan bawb. Mae’r Bute yn darparu prydau bwyd bob nos yn yr ystafell fwyta lan lloft. Ar 30 Awst yn y prynhawn mae capel Blaenycwm yn cynnal parti yn yr ardd . Mae’r capel wedi bod yn gweithio ar y darn o dir tu ol i’r capel yn teras Blaenycwm i wneud gardd gy-
munedol. Bydd gweithgareddau i’r plant a BBQ . Croeso cynnes i bawb. Mae Eglwys Westlaidd Treherbert yn cynnal ei sioe flodau flynyddol ar ddydd Sul a dydd Llun y 13eg a 14eg o Orffennaf. Bydd cyngerdd ar y nos Lun gyda Chôr Merched Castell Nedd. Mae grwp rhedeg (oedolion) yn cwrdd ar gae rygbi Treherbert am 6 o’r gloch ar nos Lun ac mae dosbarth “circuits” yn cymryd lle bob dydd Mercher am 10.30 yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treherbert. Mae dosbarth celfyddydau creadigol yn cael ei gynnal pob dydd Mercher am 1 o’r gloch yng Nghlwb Llafur Tynewydd Dymunwn wellhad buan i Alex Lloyd o Stryd Miskin sydd yn yr ysbyty ar ôl torri ei goes . Llongyfarchiadau i Howard a Fiona Lazarus o Eileen Place ar enidigaeth eu mab Tomos Ieuan Lazarus - brawd bach I Jessie.
TREORCI
Mae aelodau Pwyllgor Ymchwil i Ganser UK am ddiolch i bawb a gyfrannodd mor hael i'w casgliad stryd ganol Mehefin. O ganlyniad i ymdrechion pawb, ll-
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN wyddwyd i gasglu £997 at yr achos teilwng hwn. Diolch i Adrian Emmett, Tafarn y Lion am ei help ymarferol. Estynnwn ein cydymdeimlad i deulu Nance Davies, Y Stryd Fawr, a fu farw'n ddiweddar. Roedd yn adnabyddus yn yr ardal ac yn weithgar mewn sawl cylch pan oedd yn ifancach. Gwelir ei heisiau'n fawr gan ei theulu a'i ffrindiau.. Gan fod Canolfan Dydd Noddfa bellach wedi cau, bydd cynghorwyr Plaid Cymru'n cynnal eu cymhorthfa fisol yn llyfrgell Treorci ar fore dydd Mawrth cyntaf pob mis rhwng 11-12 a.m. Does dim angen gwneud
parhad ar dudalen 8
5
HYBU'R GYMRAEG YN EWROP
Yn sgil cadw ei sedd yn etholiadau Ewrop yn ddiweddar, mae Jill Evans wedi gofyn i Senedd Ewrop ymdrin â'r Gymraeg yn yr un modd ag y gwneir mewn sefydliadau eraill o fewn yr UE. Ar hyn o bryd, yn sgil llwyddiant ymgyrch Jill i ennill statws cydswyddogol i'r iaith, gellir siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd o Gyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd [UE], Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol ond, am resymau gwleidyddol, mae rhwystrau i'w siarad o fewn Senedd Ewrop. Dywedodd Jill, " Er y gellir siarad Cymraeg yn ystod cyfarfodydd o Gyngor Gweinidogion yr UE a sefydliadau eraill, dyw cyfieithu o'r Gymraeg ddim yn cael ei gynnig
mater hwn i'w sylw'n bersonol ac mae wedi addo i edrych arno. Byddaf yn ei gadw at ei addewid. Os yw'r UE am fod yn berthnasol i holl bobloedd Ewrop, yna pa ffordd well na thrwy adael iddyn nhw ddefnyddiou hieithoedd eu hunain yn holl sefydliadau'r UE?" Mae'r frwydr i ennill statws llawn i'r Gymraeg yn ei gwlad ei hun ac o fewn Ewrop wedi bod yn un hir, ac yn un sy'n parhau. Rhaid llongyfarch Jill Evans ar ei hymdrechion a'i llwyddiant hyd yma gan ddymuno'n dda ar hyn o bryd ar lawr Senedd iddi gyfa'i hymdrechion pellach. Fel y dywedodd, Ewrop. Rhaid i hyn newid." Yn barod, cododd Jill a mater 'Golyga meddu ar y statws hwn gynnydd yn ein proffil o yn uniongyrchol gyda Llywydd Senedd Ewrop, Martin fewn Ewrop ac mae'n helpu Schulz sydd newydd ei ethol. rhoi Cymru ar y map. Ceir buddiannau economaidd Fel y dywedodd hi, "Hoffwn longyfarch Mr Schulz ar gael hefyd i Gymru drwy gael y ei ailethol yn llywydd Senedd staws yma." Ewrop. Rwyf wedi dod â'r
Ydych chi'n credu mewn angylion? Dyna yw cwestiwn Bob Eynon y mis hwn.] Rydw i wedi bod yn darllen am sut y dihangodd San Pedr o garchar Jeriwsalem gyda help angel Duw. Tybed faint o bobl sy'n credu mewn angylion y dyddiau hyn? Yn 1972, fe es i gyda ffrind o'r enw Bernard Whiting, cyn-athro Saesneg yn Ysgol Gyfun Treorci, ar fordaith o Ancona yn yr Eidal i Israel. Pan gyrhaeddon ni Beirut fe aeth Bernard ar drip i weld hen deml Baalbek, ond roedd yn well 'da fi gerdded i mewn i ganol Beirut gyda thri bachgen o Fryste roedden ni wedi cwrdd â nhw ar y llong. Ar ôl awr neu ddwy yn y ddinas, fe benderfynon ni fynd yn ôl i'r harbwr. Yn anffodus, fe gymerais i ffordd wahanol y tro 'ma, gan ddweud wrth y bechgyn taw llwybr tarw oedd e. Ond rwy'n arweinydd anobeithiol a chyn hir roed-
den ni'n sefyll ar domen sbwriel enfawr. Roedden ni'n llwyr ar goll. "Bob...", meddai un o'r bechgyn. Fe droiais i fy mhen a gweld dwsin o lanciau lleol yn ein dilyn ni. Roedden nhw'n edrych yn dlawd ac yn fygythiol iawn. Roedd hi'n amlwg eu bod yn bwriadu ymosod arnon ni. A dweud y gwir, roedd ofn mawr arna' i. Yna, yn sydyn, fe welais i ddyn bach canol oed yn cerdded aton ni o gyfeiriad y domen ysbwriel. Nid gweithiwr oedd e - roedd e'n gwisgo siwt a het trilby. Es i gwrdd â fe a dweud yn
BYD BOB
6
Ffrangeg, "Esgusodwch fi, monsieur. Prydeinwyr ydyn ni ac rydyn ni ar goll. Mae'r llanciau yna yn ein dilyn ni. Ydych chi'n gallu ein helpu? Rydyn ni ar ein ffordd yn ôl i'r harbwr." "Cadwch yn agos ata' i," meddai'n dawel yn Ffrangeg. Esboniais i'n gyflym i fy ffrindiau ac fe aethon ni mewn grŵp trwy ganol y llanciau. Wnaethon nhw ddim byd inni, er fy mod yn disgwyl ergyd unrhyw foment. Yna, yn sydyn, roedden ni'n ôl yn y stryd fawr eto. "Mae bws yr harbwr yn dod," meddai'r dyn bach, "Dyma'r arhosfan." Fe agorais fy waled a thynnu arian allan, ond fe wrthododd e dderbyn dim byd. "Merci, monsieur," dywedais i'n wan, ond roedd e'n cerdded i ffwrdd yn barod fel petai ddim byd wedi digwydd. A dyna pam, pan rwy'n darllen y stori am San Pedr ac angel Duw, rwy'n credu pob gair...!
Efallai bod yr enw MASASHI NEE yn un anghyfarwydd i'r rhan fwyaf o ddarllenwyr "Y Gloran", ond i mi, yn sicr, mae'n dod â chymaint o atgofion yn ôl. Yn bendant, dros y cyfnod o ddiwedd y pumdegau i ddechrau'r chwedegau roedd gan y Rhondda un o'r mudiadau heddwch cryfa' yng Nghymru, sef "CND Rhondda". Fe fues i'n weithgar iawn yn y mudiad fel aelod, ysgrifennydd ac wedyn yn gadeirydd. Roedd yr aelodau wedi cymryd rhan mewn sawl gorymdaith gan gynnwys yr un mwya enwog, sef o Aldermaston i Lundain. Aeth llond bws ohonom yno ac erbyn diwedd y daith ro'n ni i gyd yn gyfarwydd a chaneuon fel "We shall overcome", "Men and Women Stand Together", "Strangest Dream" ac yn y blaen. Rhyfedd faint o ddylanwad oedd gan y diweddar Pete
Peggy Duff
Seeger ar bethau ym maes canu protest. Un orymdaith wahanol oedd yr un ar adeg y Pasg. Y mudiad "Christian CND" oedd wedi'i threfnu. Cerdded o bentre Wallingford i Rydychen. Cynhaliwyd sawl oedfa ar y ffordd gyda gwahanol grefyddau yn cael eu hamlygu a'u parchu. Hyd yn oed nawr dw i'n cofio Vic Davies, Treorci yn gwisgo'r cap bach crwn oedd rhaid ei wisgo er mwyn cael mynediad i synagog yn Rhydychen a phawb yn sylwi mor braf oedd y "ffit"! Peidiwch â gofyn y mha flwyddyn oedd hyn, ond yn bendant dwi'n cofio newyddiadurwraig o Radio Cymru o'r enw Ann Clwyd yn fy holi a fi'n ateb nad peth hawdd oedd troi ma's ar yr orymdaith arbennig honna gan fod fy nhad yn digwydd bod yn arwain Gymanfa'r Pasg ym Methlehem Treorci. Chware teg, mi ges i sêl bendith ganddo i fod yn absennol er mwyn ymuno â'r orymdaith. Ond nôl nawr at Masashi. Cafwyd llythr oddi wrth Peggy Duff, trefnydd CND ym Mhrydain, i ofyn a fydde modd i ni dderbyn ymweliad gan y gŵr hwn oedd yn diodde o leukemia yn sgil effaith y bom niwclear ar Hiroshima lle roedd e'n digwydd byw ar y pryd. Bwriad Masashi oedd teithio'r byd yn yr amser oedd ganddo ar ôl i gyhoeddi neges heddwch. Penderfynom dderbyn y cynnig
Lluniau o Hiroshima ar ôl y bom
YMWELIAD GWR O SIAPAN
Y mis hwn, mae Roger Price yn dwyn ar gof rai o weithgareddau CND Cymru yn y Rhondda.
a'i groesawu ac felly trefnwyd (ar fyr rybydd, os dw'i'n cofio) cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y YMCA yn Y Porth. Er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r cyfarfod, awgrymodd un o'n aelodau, sef y diweddar Gynghorydd Les Tomos o'r Ystrad, y dylen ni drio benthyca corn siarad Glyn James. Es i draw i'w gartref i ofyn am fenthyg y corn. Daeth Glyn i'r drws, ar hanner siafio os cofia'i'n iawn! Wedi i mi esbonio beth o'n i eisiau, dyma Glyn yn ateb "Gret, mi ddwa'i ma's gyda ti nawr!". Felly, heb unrhyw ganiatad o'r awdurdodau dyma ni'n teithio lan a lawr y Cwm. Mae'n rhaid i mi ddweud nad oedd Glyn yn gwybod yn gwmws beth oedd e'n ei gyhoeddi ar y cychwyn a dwi'n ei gofio fe'n gofyn i mi beth oedd enw'r gwr gwadd. Pan atebais i, dyma Glyn ar unwaith yn dod nôl "Jiw, Masashi Nee o Hiroshima cynghanedd o'r cychwyn!". Anghofia'i byth wedyn Glyn yn bloeddio "Come along now on Saturday to Porth YMCA to meet this wonderful personality....." Pwy ond Glyn oedd yn berchen ar y gallu i drosglwyddo gwybodaeth mor bersonol am un nad oedd e erioed wedi cwrdd ag e!
apwyntiad. Mae'r Red Cow bellach wedi ei dymchwel a bydd 12 o fflatiau'n cael eu hadeiladu ar y safle. Yn y cyfamser, gwrthododd Pwyllgr Cynllunio RhCT gais i weddnewid ffrynt tafarn y Cardiff Arms am ei fod yn adeilad o arwyddocad pensaerniol. Pob dymuniad da i'r cyngynghorydd Edward Hancock sydd heb fod yn hwylus yn ddiweddar. Mae wedi bod yn gaeth i'w gartref a gwelir ei eisiau'n fawr yn y cylchoedd lle mae mor weithgar. Brysied i wella. Er gwaethaf gwrthwynebiad gan Fand y Parc a Dâr, cafwyd caniatad i adeiladu 3 thŷ ar safle Capel Tabarnacl yn Stryd Dumfries pan ddaeth y cais datblygu o flaen Pwyllgor Cynllunio RhCT.
8
Bu farw Mr Les Hill, aelod blaenllaw o Glwb Garddio Ynyswen. Roedd Les yn arddwr o fri ac yn weithgar iawn yn trefnu Sioe Arddio Ynyswen ac yn cynnal y sied arddio sy'n gysylltiedig â rhandiroedd Ynyswen. Yn ŵr dymunol a chyfeillgar, gwelir ei eisiau'n fawr. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w deulu oll yn eu galar. Mae perchnogion newydd gan safle'r farchnad yn Nhreorci ac maen nhw'n awyddus iawn i gynyddu maint y farchnad wythnosol trwy ddenu rhagor o stondinau. Mae'r cynghorwyr lleol yn cydweithio â nhw i gyrraedd eu nod gan fod marchnad lewyrchus yn sicr o fod o fudd i'r dref ac yn denu pobl i siopa yno. Mae'n dda croesawu'r
Athro Ceri Lewis, Heol Glyncoli yn ôl i Dreorci dros yr haf ar ôl bod yn treulio amser dros y misoedd diwethaf yn yr Alban yng nghartref ei fab, Huw. Roedd yn syn gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth sydyn Rhys Lewis, Holbrook Close, ac yntau ond yn 22 oed. Roedd Rhys yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ynyswen a'r Cymer yn aelod yng nghapel Gosen ac yn weithgar iawn gyda'r Blaid Lafur yn yr ardal. Roedd yn fachgen hynod o serchus a chymwynasgar a chydymdeimlwn yn fawr iawn â'i deulu yn eu colled. Ddydd Llun, 7 Gorffennaf aeth aelodau Clwb Henoed Treorci ar daith i Weston-super-Mare. Mwynhaodd pawb er nad oedd y tywydd yn
wych. Diolch i'r trefnwyr. Pob dymuniad da i Emrys Vaughan, Stryd Regent sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd yn well cyn hir. Ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf bydd band y Gatrawd Gymreig yn gorymdeithio trwy Dreorci ac yn perfformio mewn cyngerdd yn y Parc a'r Dâr gyda'r nos. Er i law amharu ar yr achlysur a phopeth yn gorfod cael ei gynnal dan do, roedd 'garddwest' Ysgol Gynradd Treorci a gynhaliwyd ddydd Gwener, 4 Gorffennaf yn llwyddiant mawr. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Yn ddiweddar, anafodd Mrs Mair Dance, Stryd Dumfries, ei phenelin o ganlyniad i gwymp. Mae ei ffrindiau'n dymuno
gwellhad llwyr a buan iddi.
CWMPARC
Ar ddiwedd tymor yr haf, bydd Ysgol y Parc yn colli aelod o staff poblogaidd iawn pan fydd Miss Emma Barlow yn ymadael i ddechrau swydd newydd yng Nghile, Abertawe. Mae hi wedi bod yn yr ysgol am 5 mlynedd ac yn dysgu blwyddyn 6 ar hyn o bryd. Mae'r plant, rhieni ac athrawon yn hoff iawn ohoni, ac mae pawb yn yr ysgol yn dymuno iddi bob lwc yn y dyfodol. Ar 4 Mehefin, aeth rhai o ddisgyblion Ysgol y Parc ar wibdaeth i'r Senedd, yng Ng-
haerdydd. Aeth aelodau Cyngor yr Ysgol a'r Cyngor "Eco"gyda dwy o'r athrawon, Miss Jones a Mrs James. Cawson nhw daith o gwmpas yr adeilad, a chafodd y plant gyfle i ddadlau am ailgylchu yn y Siambr Hywel. Cwrddon nhw â Leighton Andrews AC, Llywydd y Cynulliad Y Fonesig Rosemary Butler a'r Comisiynydd Plant, Keith Towler. Dysgodd y plant lawer am eu swyddi, a mwynhaodd pawb eu diwrnod yn y Senedd. Roedd y 'Te Mefus' yn Eglwys San Sior ar 11 Mehefin yn llwyddianus iawn, gan lwyddo i godi £250 at Breast Cancer Care.
Aeth lori fawr yn sownd ar gyffordd Ffordd Chepstow a Ffordd Parc ar 23 Mehefin. Tua 6.30 y bore, trodd y lori i'r dde o'r briffordd, ar y ffordd i Ysgol Gyfun Treorci. Oherwydd ongl y ffordd, a'r graddiant, aeth y lori yn sownd am bron 4 awr, pan ddaeth lori arall i'w thynnu i ffwrdd. Bu farw Mrs Marilyn Mills, Bethel Villa, Ffordd y Parc ar 20 Mehefin. Roedd hi'n arfer gweithio fel nyrs yn Ysbyty Pentwyn, ac yn fwy diweddar yn yr Undeb Credyd, Treorci. Roedd Marilyn yn aelod ffyddlon o Eglwys San Sior ac roedd y
gwasanaeth angladdol yno ar 4 Gorffenaf, cyn mynd i Fynwent Treorci.
Mae'r tymor rygbi wedi gorffen yn llwyddianus iawn i Ysgol y Parc wrth iddyn nhw ennill y "Creunant 7's Invitational Event". Cynhaliwyd y twrnamaint yng Nghlwb Rygbi Creunant mewn tywydd braf, gyda 12 tim cryf yn cymryd rhan. Roedd Ysgol y Parc yn llwyddianus yn eu 3 grwp, gan sgorio bron 30 cais, ac yn ildio ond 7. Yn y gêm derfynol, roedd Parc yn anlwcus yn yr hanner cyntaf, ar ei hôl hi o 5-2. Daethon nhw yn ôl yn gryf yn yr ail hanner, ac ennill o 85 yn erbyn tim Cwmnedd. Cafodd pob
9
chwaraewr ei anrhegu gyda medal, a chafodd tarian y Creunant 7s ei chyflwyno i'r capten, Lewis Lloyd gan seren Y Gweilch a Chymru, Ashley Beck.
Llongyfarchiadau i Amanda Waite ac Andrew Miles am enedigaeth eich merch Millie Jayne, ar 4ydd Mehefin. Chwaer fach i Harrison.
Mae'r offer chwarae newydd wedi cyrraedd Ysgol y Parc. Ar ôl codi arian ers y llynedd, a gyda chyfraniad caredig aelod o'r gymuned, mae'r gwaith wedi dechrau.
Y PENTRE
Roedd dathlu mawr yn Nhŷ'r Pentre ar 6 Gorffennaf wrth i Irene Davies ddathlu ei phenblwydd yn 100 oed. Llongyfarchiadau calonnog iddi a phob cysur a hapusrwydd i'r dyfodol. Pob dymuniad da yn ogystal i William Binding oedd yn dathlu ddydd llun, 7 Gorff. Yn anffodus, torrodd Hannah Phillips, un arall o breswylwyr Tŷ'r Pentre ei chlun o ganlyniad i gwymp. Mae pawb o'i ffrindiau yn dymuno iddi adferiad llwyr a buan. Yn anffodus, bydd siop bapurau Morgan's News yn cau ar 27 Gorffennaf oherwydd amgylchiadau teuluol. Bydd hyn yn golled i'r ardal gyfan, ond mae'r perchen, Nicola Morgan am ddiolch i'w holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth gyson. 10
Rydyn ni hefyd yn ddyledus iddi hi ac yn dymuno'n dda iddi i'r dyfodol. Tristwch i bawb yn llys Siloh oedd derbyn y newyddion am farwolaeth un o'u cyn-gymdogion poblogaidd, Joyce Morley. Pan fethodd ei hiechyd, aeth Joyce i Gartref Gofal Taliesin Tonypandy ac yno y treuliodd ei chyfnod olaf. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w theulu yn eu colled. Cofiwn yn ogystal am deulu Lynne Williams, Stryd Elizabeth a fu farw'n ddiweddar. Roedd Lynne yn un o drigolion hynaf y stryd a gwelir ei heisiau gan bawb. Pen-blwydd Hapus i Des Hughes oddi wrth ei gymdogion yn Llys Siloh gan obeithio iddo gael amser da ar 3 Gorffennaf. Dymunwn iddo iechyd a hapusrwydd. Mae aelodau'r Citadel yn edrych ymlaen at
Eisteddfod genedlaethol llanelli gan y bydd stodnin ar y maes gan Fyddin yr Iachawdwriaeth trwy gydol yr wythnos. Cofiwch alw heibio os ewch i'r Ŵyl. Mae aelodau'r Fyddin am longyfarch Courtney Symonds, Marilyn Jones a Jean Toghill a gafodd eu henwi'n Filwyr Hŷn ddydd Sul, 8 Mehefin, sef y Sulgwyn a hefyd yr Uwch-gapten MariaRosa Kent oedd yn dathlu ei phen-blwydd ar 21 Gorffennaf.
TON PENTRE A’R GELLI
Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i un o gynghorwyr Ton Pentre, Maureen Weaver, Stryd Parry, a dderbyniodd lawdriniaeth i'w chlun yn ddiweddar. Mae hi gartref ebyn hyn ac yn dechrau ailgydio yn ei dyletswyddau er y bydd yn weddol gaeth i'r
tŷ am rai wythnosau. Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mr Sam Griffiths, Stryd Co-op yn 89 oed. Ymunodd Sam â Chôr Meibion Treorci yn 1946 ac am dros 39 o flynyddoedd ef oedd ei unawdydd bas. Roedd ganddo lais cyfoethog a bu'n canu mewn eisteddfodau, cyngherddau a sioeau cerdd ledled y wlad. Cofiwn am ei deulu oll yn eu profedigaeth a rhown ddiolch am un a ddefnyddiodd ei dalent i'n difyrru a'n diwyllio am flynyddoedd lawer. Bu sioe ddiweddaraf Cwmni Act 1, 'Ghost', yn llwyddiant ysgubol yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i'r bobl ifainc a'r cyfarwyddwr ar safon eu gwaith. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Graham Davies-John, ein gohebydd yn y Ton. Cafodd ei daro'n wael tra
fawr i'r Ton. Cafodd Grŵp Theatr y Rhondda hwyl ar gyflwyno'r sioe gerdd 'Annie' yn ddiweddar yn Theatr y Ffenics lle y cafodd llawer y pleser o'u gwylio a'u clywed. Llongyfarchiadau i Graham ac Ivy Higgins, Heol Gelli, ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt yn ddiweddar. Mae 60 mlynedd o fywyd priodasol yn dipyn o gamp. Pob dymuniad da i'r dyfodol. Mae tri chymydog yn Nhŷ Ddewi'n dathlu penblwyddi pwysig y mis hwn sef, Irene Parlour [96 oed], Margaret Thomas [90 oed] a Peter Wills [84 oed]. Pob dymuniad da a llongyfarchiadau i'r tri ohonynt a iechyd a hapusrwydd yn ystod y flwyddyn i ddod.
GWAITH PLANT BODRINGALLT
YGG YNYSWEN BRONLLWYN BODRINGALLT YG TREORCI CYMER RHONDDA
Gweddi Diolch i Dduw am y pili pala lliwgar sy'n hedfan o gwmpas y blodau pert. Diolch am athrawes i helpu ni. Amen Rhianna Chapman Blwyddyn 1
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
YSGOLION
YSGOLION
ar ei wyliau yn Folkstone a bu rhaid iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty. Mae hynny'n parhau ond gobeithiwn y bydd yn teimlo'n well cyn bo hir. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr David Wesley, un o breswylwyr Fflatiau Hebron. Cofiwn am ei deulu a'i ffrindiau yn eu hiraeth. Hefyd, bu farw Mr Dave Woods, un o breswylwyr Tŷ Ddewi. Talwyd teyrnged uchel iddo yn y gwasanaeth angladdol a arweiniwyd gan y Tad Haydn. Ddydd llun, 7 Gorffennaf, agorwyd neuadd gymunedol newydd yr ardal ar safle hen Glwb y Bechgyn. Daeth nifer sylweddol i'r agoriad a chafodd pawb argraff dda o'r cyfleusterau gwych sydd yn yr adeilad. Bydd hwn yn adnodd newydd gwerth-
noson cafodd y brenin parti mawr ac roedd pawb gyda gwahoddiad ond am Seithennyn. "Dydy hi ddim yn deg" meddai Seithennyn. Penderfynnodd mynd i'r parti. Gwelodd y brenin bod storom. Gadawod Seithennyn y drws ar agor led y pen. O na! llithrodd y dwr trwy'r drws. Boddodd llawer o bobl yn y pentref. Aeth Cantre'r Gwaelod o'r golwg dan y dwr. Pan rydych chi'n mynd i Bae Ceredigion rydych chi'n gallu clywed y clychau. Joe Lawthom Blwyddyn 2 Cylchrediad Dwr
Yn gyntaf mae haul yn cynhesu'r mor. Wedyn mae'r dwr yn troi mewn anwedd. Ar ol hynny, mae'r anwedd yn mynd lan i'r awyr las. Dydyn ni ddim yn gallu gweld yr anwedd. Yna mae'r diferion dwr yn ffurfio cwmwl ac wedyn mae'r cwmwl yn symud ar draws y tir. yna mae'n dechrau glawio. Mikey Neale Blwyddyn 2
Merch Arbennig yn Achub y Bobl Merch fach arbennig iawn yw Grace Darling. Roed hi'n byw mewn goleudy, Goleudy Ynys Ffarne. Achubodd hi naw o bobl. Ar un noson stormus gwelodd hi SS Chwedl Cantre'r Gwaelod Forfarshire drwy'r ffenest. Roedd hanner Dyma Cantre'r Gwaelod. Lle y llong wedi torri. Gwelodd hi y bobl braf ydy Cantre'r Gwaelod. ofnus ar y creigiau. "Rhaid i ni achub y Brenin Cantre'r Gwaelod ydy bobl yna" dywedodd Grace. Achubodd Gwyddno, brenin cryf a cyGrace y bobl mewn cwch bitw bach. foethog ydy e. Ond roedd probRhwyfo, rhwyfo, rhwyfo! Achubodd lem. Roedd Cantre'r Gwaelod Grace y 9 o bobl. Cafodd hi wobr o £50 mewn perygl achos roedd y gan y frenhines Fictoria. Cafod hi fedalau mor ar ben y tir. Cafodd y hefyd. brenin syniad. Adeiladodd e wal anferth gyda drws mawr Caden Harris cadarn. Un dydd gofynnodd y brenin i Seithennyn i ofalu am Blwyddyn 2 y drws mawr cadarn. Un 11
Ar ddiwedd y tymor bydd dwy athrawes arbennig yn ymddeol o YGG Bodringallt. Dechreuodd Mrs Diane James yn yr ysgol pan agorwyd hi ym 1979. Ar wahan i'r amser pan oedd ei phlant Iolo a Mia yn fach mae hi wedi bod yn rhan bwysig o staff yr ysgol. Daeth Mrs Joy Glyn i'r ysgol yn ddiweddarach ond, fel Mrs James, mae hi wedi bod yn rhan bwysig o'r staff. Mae'r ddwy wedi br-
wydro'n gadarn dros y blynyddoedd i sicrhau safonau uchel o fewn y dosbarth, ond angerdd arbennig y ddwy oedd sicrhau safonau iaith y plant dan eu gofal. Mae cenedlaethau o blant bach y cwm wedi elwa o'u hymdrechion. Cynhaliwyd parti staff ym mis Gorffennaf i ffarwelio a'r ddwy. Pob lwc i chi Mrs James a Mrs Glyn! Bydd Bodringallt yn dlotach le hebddoch.