Gloranchwef14

Page 1

y gloran

20c

Atgofion Pysgota Afon Rhondda

Llyfrgell Treherbert a Llyfrgell Ton Pentre

[Un o Flaenrhondda yw Islwyn Jones. Am flynyddoedd, bu'n ddeintydd yn Nhonypandy, ond nawr, ar ôl ymddeol mae ganddo amser i ddilyn ei hoff ddiddordeb, sef pysgota. Y mis hwn, mae'n sôn am rai o'i brofiadau cynnar wrth ddysgu'r grefft.] Byddai’n deg dweud bo fe’n anochel y byddwn i’n troi mas I fod yn bysgotwr.Roedd ‘nhad yn bysgotwr brwd a’i dad e o’i flaen.Roedd teulu’n Nhad yn dod o Langeitho yn Nyffryn Aeron,ac yno y dysgon nhw’r grefft. Alla i ddim cofio pryd wnes i ennyn y diddordeb gyntaf. Mae’n rhaid bo fe ar ddechre’r chwedegau.Rwyn cofio, bryd hynny, mynd ‘lawr y wlad’-i Rydlewis yng Ngeredigion.Roedd cefnderwyr Dada yn cadw fferm

parhad ar dud 3

Llyfrgell Ton Pentre

GOLYGYDDOL - EIN HADEILADAU GWAG

Gostyngodd poblogaeth Cwm Rhondda o 162,000 yn 1921 i 59,000 yn 2011 a chafodd hyn effaith fawr ar ein cymunedau. Codwyd llawer o'n hadeiladau cyhoeddus, yn neuaddau, tafarnau a chapeli, pan oedd y boblogaeth ar ei huchaf ac erbyn hyn maen nhw'n llawer rhy fawr. Gan fod nifer y defnyddwyr wedi gostwng yn ddramatig a chostau cynnal a chadw wedi codi, gwelwyd llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu dymchwel neu eu haddasu at bwrpas arall - capeli'n cael eu tro'n garejys neu'n dai annedd a thafarnau'n cael eu haddasu ar gyfer fflatiau. Yn y gorffennol,

Gweler tudalen 2 am barhad

Islwyn yn pysgota ar y 'Rio Gallegos' ym Mhatagonia


golygyddol l bu'r Cyngor yn gyfrwng arbed rhai o'r adeiladau hyn gan droi capel yn Nhreherbert, er enghraifft, yn llyfrgell, cadw hen Ysgol Gynradd Treorci yn ganolfan ieuenctid a chynnal theatr y Parc a'r D芒r. Yn ddiweddar, fodd bynnag, daeth tro ar fyd o ganlyniad i'r toriadau mewn gwasanaethau, ac unwaith eto mae dyfodol rhai o'n hadeiladau yn y fantol. Cyn bo hir bydd Treherbert yn colli ei llyfrgell a'i chanolfan addysg / ieuenctid, Treorci ei chanolfan ieuenctid a bydd Pentre a Thon Pentre yn gweld llyfrgell a chanolfan dydd yn cau. Er bod y gwasanaethau'n dod i ben, bydd yr adeiladau'n aros a rhaid gofyn beth ddaw ohonyn nhw? Pobl gyffredin yr ardal oedd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am godi'r adeiladau hyn a'u cynnal. Yr aelodau gododd y capeli ar eu liwt eu hunain a'r glowyr biau'r clod am godi a chynnal neuaddau'r gweithwyr ac ysbytai fel Pentwyn a Threherbert. Yr awgrym yw y bydd rhaid i ni fynd yn 么l at drefn

2

debyg, gydag elusennau a chymdeithasau lleol yn mynd yn gyfrifol unwaith yn rhagor am yr adeiladau. Yn barod, gwelsom Fand Cory yn cynnig gwaredigaeth i Neuadd y Parc, Cwmparc ac mae s么n y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd yng nghanolfan ieuenctid Treorci os ceir cefnogaeth. A dyna'r 'os' pwysig! Mae derbyn cyfrifoldeb am adeilad mawr yn dipyn o fenter. Gall fod yn gymhleth ac yn gostus yn gyfreithiol ac nid ar chwarae bach y llunnir cynllun busnes derbyniol a chynaladwy. Gan taw diffygion ariannol y Cyngor sy'n peri bod y sefyllfa hon yn codi, teg yw edrych i'r cyfeiriad hwnnw am help gan fod ganddynt yr arbenigedd. A bod yn deg, dywedwyd yn barod y bydd y Cyngor yn barod i ystyried ceisiadau gan grwpiau cymunedol i ysgwyddo cyfrifoldeb yr adeiladau ac y byddant yn barod i hwyluso'r trefniant. Mae Interlink, y corff sy'n cyd-lynnu mentrau gwirfoddol hefyd yn cynnig arbenigedd yn y

y gloran

chwefror 2014

YN Y RHIFYN HWN maes. Does ond gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gweithio, hyd yn oed os taw ond dros dro y byddant mewn grym hyd nes i'r economi gryfhau unwaith yn rhagor. Mae pob un o'r adeiladau o dan fygythiad yn rhan o'n hanes a'n hetifeddiaeth. Yn ogystal, maen nhw'n cyflawni swyddogaeth gymdeithasol bwysig y dylid ceisio sicrhau ei pharhad. Gofynnwn, felly, i'r Cyngor wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi cyrff sy'n barod i fentro trwy gynnig iddynt gymorth ymarferol er mwyn i'r cyhoedd ddal i elwa o'r gwasanaethau gwerthfawr a ddarparwyd ar ein cyfer dros flynyddoedd lawer a hefyd bod rhai o'n hadeiladau pwysig yn cael eu diogelu i'r dyfodol. Golygydd

Golygyddol/Pysgota Afon Rhondda...1-2-3 Byd Bob - Bob Eynon...4 Byd Gwaith - Gyrfa ym Myd y Campau Steffan Davies...4 Newyddion Lleol...5-8 Llythyr Chris Jones Dwr Cymru..8 Troion Yr Yrfa..9 Roger Price...10 Ysgolion...11 Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen...12

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


Atgofion Pysgota Afon Rhondda parhad

wartheg.Rhedai Afon Ceri drwyddi.Roedd gan yr afon fach ddigonedd o frithyll braf. Byddai Nhad yn dal llond bag, mynd a nhw nôl i’r fferm lle bydden ni’n eu taenu â blawd ceirch a’u ffrio mewn menyn. Sai’n credu, hyd heddiw, imi flasu pysgod cystal â’r rheini. Bryd hynny y plannwyd yr hedyn, ac erbyn imi gyrraedd unar-ddeg oed roedd gen i’r ‘bug’ yn wael.

Pysgota'n Lleol Fodd bynnag, roedd 'na gymylau du ar y gorwel wrth i Nhad gael ei daro’n wael gan ‘Emphysema’.Rhaid oedd edrych am bysgota yn agos i gartre a chael rywun i’m trwytho.Yr unig bysgota ar gael, oedd yn y nentydd o gwmpas fy nghartre ym Mlaenrhondda. Ces fenthyg peth o offer pysgota Dada - ei wialen, rîl, bag yn llond bachau a llinyn pysgota ac ati. Ar y pryd roedd Afon Rhondda yn rhedeg yn ddu, oherwydd yr holl byllau glo oedd yn dal i weithio - Tŷ Draw, yr Hook & Eye, Fernhill,

oll o fewn hanner milltir i’m cartref.Roedd ambell i frithyll dewr yn trigo yn ei dyfroedd tywyll yn ôl pob sôn, ond ar y cyfan, yr unig beth a ddalien ni oedd 'crachwns’.Dwedodd f’ewyrth Idwal taw’r enw cywir am rhain oedd ‘gwrachen farfog’(Stone Loach yn Saesneg).Crachwns bydden ni’r plant yn eu galw - hen bysgod bach digon hyll gyda feelers o gwmpas eu cegau fel mwstas.(Roedd yr enw Cymraeg yn eu disgrifio i’r dim) O’n nhw byth yn tyfu llawer mwy na rhyw bedair modfedd o hyd,a chyn belled ag o’n i’n gwybod, doedd dim posib eu bwyta. Felly, ar y pryd,yr unig obaith am ddŵr croyw a brithyll oedd yn y nentydd ar y mynydd uwchben y pyllau glo. Felly, a finnau’n 11oed, dechreuais bysgota’r nentydd o gwmpas Pen Pych y tu cefn i’m cartref.Weithiau byddwn yn mentro ar y bws i Dreorci i bysgota Nant Orci a’r Fforch, tu ôl i’r Abergorci. Fy Mhysgodyn Cyntaf Yn y dyddiau hynny,er

bod Dada’n gallu rhoi cyngor imi, roedd yn dal yn rhy dost i fynd gyda mi, ond yn ffodus roedd un o’m ffrindiau Ken, â diddordeb.Roedd 'da fe frawd mawr, John oedd yn ôl pob tebyg yn feistr ar y grefft.Byddai John yn mynd â ni ma's i gael dangos inni. Felly y bu. Aeth John,Ken a finnau lan i Nant Selsig ym Mlaencwm.Y ‘tunnel field’ o’n ni’n galw’r fan. Roedd e tu ôl i bwll yr Hook & Eye. Er fod y nant mor agos i’r pwll, roedd 'na ddigon o frithyll ynddi, ac yno y dysgais sut i bysgota â mwydyn.Fe fues i sawl gwaith heb ddal dim, a John yn llwyddiannus bob tro. Ond,’dyfal donc’ ac ar ôl rhyw bum gwaith fe lwyddais i ddal fy mrithyll cyntaf. Roedd e’n saith modfedd o hyd. Roedd 'da fi bren mesur yn fy mag.Rhaid oedd dodi pob brithyll dan 7 modfedd nôl i dyfu’n fwy.Roedd hwn yn 7 modfedd yn hollol! Wna i byth anghofio’r wefr honno Rhedais adre bob cam, er mwyn i mam ei goginio.Roedd ‘nhad yn ysbyty Tyntyla, ,yn diode o’r diciau(T.B.) Lapiodd Mam y brithyll mewn ffoil, wedyn ei goginio, a mynd ag e lawr i’r ys-

byty at Nhad.Dwedodd Dada fod y brithyll lawn cystal os nad gwell na’r rhai a fwytodd o Afon Ceri.

Pethau'n Newid Fel y dwedais,yn y dyddiau cynnar fe fyddwn yn pysgota gyda mwydyn yn y nentydd bach,ond roedd pethau’n newid yn Y Rhondda.Roedd y pyllau’n cau.Er bod hyn yn newyddion drwg o ran gwaith a swyddi,roedd yn newyddion da o ran yr afon.Wrth iddi ymlanhau, daeth y brithyll ‘nôl i’w dyfroedd. Roedd 'na lawer o newidiadau yn fy mywyd i hefyd.Bu farw Dada, a symudodd fy hen ffrind Ken I fyw i Wlad yr Haf. Serch hynny âi ei frawd mawr John a fi I bysgota, a bûm yn ffodus i ddysgu oddi wrth un oedd yn bysgotwr arbennig. Dwedodd John ei bod hi’n hen bryd dysgu pysgota â phluen neu fflei.Roedd angen gwialen ac offer gwahanol er mwyn gwneud hyn.Bu f’ewyrth yn garedig iawn,gyda Mam i alluogi i fi brynu’r offer angenrheidiol.Fe fyddwn yn dal i bysgota’r afon ond,wedi ymuno â’r clwb lleol,Yr Upper parhad ar dud 8

3


BYD BOB

[Bob mis bydd yr awdur adnabyddus o Dreorci, Bob Eynon yn bwrw golwg ar y byd o'i gwmpas.]

Y dydd o'r blaen roeddwn yn gwrando ar wraig yn siarad ar y rhaglen 'Desert island Discs' am ei bywyd a'i gyrfa. Wrth sôn am ei hieuenctid, dywedodd hi, "Roedd y chwedegau ym Mhrydain yn ddi-liw." Roedd ei geiriau yn sioc i fi. Fe dreuliais i flynyddoedd cyntaf y chwedegau mewn coleg ar y

BYD GWAITH -

Strand yn Llundain. Fe aeth y blynyddoedd yna heibio mewn fflach. Roedd cymaint i'w wneud - dawnsiau, clybiau nos, goleuadau Soho a hyd yn oed astudio o bryd i'w gilydd! Ar ddiwedd pob tymor byddwn yn dod yn ôl i Dreorci a ffeindio'r tafarnau a'r sinemâu'n llawn yn ogystal â'r eglwysi a'r capeli. Yn 1963 dechreuais i weithio mewn ysgol breifat yn Bedford. Roedd Bedford yn eithaf bach ond yn fywiog iawn. Yn y cyfamser, roedd pethau cyffrous yn

digwydd ym myd miwsig a ffasiwn yn Llundain a dinasoedd eraill. Rwy'n sôn am ganeuon y Beatles a siopau dillad Carnaby Street. Roeddwn i wedi treulio fy arddegau dan ddylanwad roc a rôl America, ond nawr roedd grwpiau roc Prydain yn rheoli byd pop. Fe dreuliais i flynyddoedd canol y chwedegau yn dysgu Saesneg yn Ffrainc ac roedd dylanwad Prydain yn gryf yno hefyd. Roedd y plant yn awyddus i fi gyfieithu caneuon y Rolling Stones a grwpiau eraill iddyn nhw. Roedd Petula Clark wedi mynd i fyw yn Ffrainc ac roedd hi'n seren enfawr yno. Rwy'n cofio gwerthu hen siaced felfed i Ffrancwr ifanc am ddwbl y pris roeddwn i wedi'i dalu amdani yn Llundain flynyddoedd yn gynt. Fel Cymro, roedd croeso i fi ym mhob clwb rygbi yn Ne-Ffrainc, er bod yn synnu bod bachgen fel fi

ymchwilydd yn Adran Chwaraeon Radio Cymru. Ar ôl ymadael ag Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, aeth Strffan i Brifysgol Aberystwyth lle y graddiodd mewn

Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes. Ar ddiwedd ei gwrs yno roedd yn ddigon ffodus i gael swydd dros dro yn ymchwilydd gyda'r BBC yn eu stiwdio ym Mangor.

GYRFA YM MYD Y[YnCAMPAU ystod y misoedd

nesaf byddwn yn siarad â rhai o bobl ifainc yr ardal sy'n dechrau gweithio ac yn eu holi am eu priod feysydd a'u gobeithion i'r dyfodol.]

Mae Steffan Davies o Dreherbert newydd ddechrau gweithio fel 4

o'r cymoedd yn chwarae mor wael! Roedd y ferch ar y radio'n awgrymu yn fwy lliwgar na hanner can mlynedd yn ôl. Wel, dydw i ddim yn cytuno. Y dyddiau hyn mae pobl yn aros gartref. Mae sinemâu wedi cau ar hyd a lled y wlad ac mae'r eglwysi, y capeli a'r tafarnau bron i gyd yn wag. Dydy pobl ddim yn cymdeithasu mewn lleoedd cyhoeddus. Ond mae'r ffôn boced yn profi bod pobl eisiau siarad â'i gilydd. Yn anffodus, mae'n well 'da ni ddefnyddio'r ffôn na siarad â'r person sy'n eistedd nesaf atom ni ar y bws neu gyferbyn â ni yn y caffi. dydyn ni ddim yn gallu gyrru neu gerdded heb ddefnyddio'r ffôn boced. Mae'r ffôn boced yn debygol o ganu unrhyw bryd - hyd yn oed mewn angladdau! Ble rydyn ni'n mynd? Tra oedd e yno cafodd brofiad o weithio ar nifer o raglenni o 'C2', rhaglen i bobl ifainc, i 'Bwrw Golwg' oedd yn trafod pynciau'n ymwneud â chrefydd. Dyna ddechrau ei ddiddordeb mewn darlledu. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, cafodd Steffan gyfle i fynd gyda thîm British Airways i chwarae rygbi yn Las Vegas. Er iddo fwynhau'r trip, colli fu hanes y tîm yn yr unig gêm a chwaraewyd yn erbyn Gwyddelod Las Vegas. Ond tra oedd e yno, gwelodd fod swydd yn mynd yn Adran

Parhad ar dud 10


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Ddechrau'r mis hwn roedd cwmni egni adnewyddol Vattenfall yn dechrau ar y gwaith o godi fferm wynt Pen-ycymoedd, un o'r mwyaf o'i math yn Ewrop. Bwriedir sefydlu cronfa gymunedol i gefnogi gwahanol fentrau yn yr ardal ac mae'r cwmni'n awyddus i glywed am eich syniadau. Cewch fwy o fanylion ar eu gwefan. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth un o drigolion mwyaf adnabyddus Treherbert, sef y Parch D.J.Long, Stryd Taf. Daeth Jeffrey Long i Dreherbert yn 1957 i fod yn weinidog ar gapel Emanuel yn Stryd yr Orsaf ar øl gorffen ei gwrs yng Ngholeg yr Annibynwyr yn Aberhonddu. Yn 1962, priododd ag organyddes y capel, Eileen Rowsell a gwasanaethodd ardal gyfan am dros 50 mlynedd. Bu'n weithgar mewn llawer o fudiadau, yn ysgrifennydd Cyngor yr Eglwysi, trefnydd y gymanfa ganu flynyddol ac yn gaplan i'r Lleng Brydeinig. Yn y swydd honno, ef oedd yn gyfrifol am lywio'r gwasanaethau ar Sul y Cofio yn Nhreherbert ac o gwmpas y gofeb ym Mlaenrhondda. Parch

Cyril Llewelyn oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth angladdol yng Ngharmel a thalwyd teyrnged i Mr Long gan Mr John Evans, ar ran y capel, Chris Bryant A.S. ar ran y Blaid Lafur a Natasha Foster ar ran y gymuned. Cymerwyd ran yn ogystal gan y Parchedigion Marion Ashton ac Ivor Rees. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w weddw, Eileen a'r teulu oll yn eu colled.

Mae Pwyllgor SOS [Save our Services] wedi ei ffurfio yn Nhreherbert i geisio ymladd i gadw rhai o'r gwasanaethau cyhoeddus sydd o dan fygythiad gan doriadau Cyngor RCT. Rhaid gweithredu ar frys gan y gallai'r rhain ddod i rym ddiwedd Mawrth. Y ddau beth sydd o bwys i Dreherbert yw'r llyfrgell a'r Ganolfan Addysg. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r ymgyrch, cysylltwch â'r Cyng. Geraint Davies ar 771850 neu 07712656785.

Cyn bo hir bydd gan Dreherbert dîm rygbi merched. Penodwyd Lisa Lewis yn hyfforddwr a byddan nhw'n cwrdd bob nos Lun ar y cae rygbi i ymarfer. Gobeithir

dechrau chwarae gemau go iawn y tymor nesaf. Cysylltwch â'r Clwb Rygbi os oes gennych ddiddordeb.

Yn anffodus, mae siop fara Ken Waters yn Stryd Wyndham yn cau ar ôl masnachu ar y safle hwn am dros 60 mlynedd. Yn anffodus, mae iechyd Ken yn fregus y dyddiau hyn a phenderfynodd roi'r gorau i'r busnes. Diolchwn iddo am ei wasanaeth hir a ffyddlon i'r gymuned a dymuno'n dda iddo ef a'i staff i'r dyfodol.

TREORCI

Yn anffodus, collodd tîm rygbi dan 16 Ysgol Gyfun Treorci yn drwm, 46 - 5, ym mhedwaredd rownd cystadleuaeth Cwpan Cymru yn erbyn Ysgol Gyfun Gymraeg, Caerdydd. Dangoswyd y gêm ar S4C. Un o'r chwaraewyr a sgoriodd gais ac a oedd yn disgleirio dros Lantaf oedd Aaron Cynan, ŵyr Mary a John Cynan Jones, Stryd Hermon. Cyflwynwyd drama enwog John Galsworthy, 'Strife' yn Theatr y Parc a'r Dâr, 21 - 25 Ionawr gan Players Anonymous. Cafodd y ddrama, sy'n

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN trafod effaith streic, dderbyniad da mewn ardal sy'n gyfarwydd â'r math 'na o sefyllfa. Llongyfarchiadau i Gordon Thomas a'i gwmni am gynhyrchiad diddorol arall. Mae'r cwmni gweithgar hwn yn gobeithio bod nôl yn y theatr fis Mawrth yn cyflwyno 'Twelfth Night' gan William Shakespeare. Mae ceisiadau wedi eu cyflwyno i Gyngor RhCT i droi dau o dafarndai Treorci, sef y Crown a'r Red Cow, yn fflatiau. Does dim penderfyniad wedi ei wneud eto.

Y llynedd, dathlwyd canmlwyddiant trychineb pwll glo Senghennydd 5


pan laddwyd 439 o lowyr - y ddamwain waethaf o'i math yn hanes Prydain. Nos Iau, 27 Chwefror bydd Dr Elin Jones, yr hanesydd o Gwm Rhymni sy'n arbenigwr ar y pwnc, yng Nghymdeithas Gymraeg Treorci yn sôn am y drychineb. Bydd y cyfarfod yn festri Hermon am 7.15 p.m. Croeso i bawb.

Pen-blwydd Hapus iawn i Aled Thomas, Sŵn-yrafon oddi wrth ei deulu a'i ffrindiau. Mae Aled yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Cymer Rhondda sy'n gweithio fel prentis yn BOAC erbyn hyn.

6

CWMPARC

Llongyfarchiadau i Rachel Tresize, Heol Conway ar gipio un o'r prif wobrau Beirniaid Theatr Cymru yn ddiweddar am ei drama gyntaf 'Tonypandymonium' a lwyfannwyd gyntaf yn Theatr y Parc a'r Dâr y llynedd. Yn ogystal, enillodd Siwan Morris, syddd â chysylltiadau â Chwmparc, wobr yr actores orau am ei phortread o'r fam yn y ddrama rannol hunangofiannol hon. Roedd damwain ar gyffordd Parc Road a'r Maendy ar fore dydd Mercher 8fed Ionawr. Roedd gwrthdrawiad rhwng 4x4 a fan Post Brenhinol. Chafodd neb eu hanafu yn difrifol.

Daethpwyd o hyd darn bach o hanes yn Neuadd y Parc yn ddiweddar. Mae'r neuadd yn cael ei chymryd drosodd gan Fand Pres Cory. Y neuadd fydd eu pencadlys newydd. Wrth i aelod o bwyllgor y neuadd waredu sbwriel, daeth e o hyd i ddwy garreg goffa o dan y grisiau. Roedd un yn cofio gwraig aelod o gapel Salem, a'r llail er cof am ŵr a collodd ei fywyd yn yr Almaen adeg y rhyfel, ac un arall a fu farw pan suddwyd llong o'r enw 'The Neptune'. Mae'r pwyllgor yn gobeithio arddangos y cerrig rywle yn y neuadd neu yn y gymuned. Bu farw Don Rees,

Ffordd Chepstow lai na 4 mis ar ôl colli ei annwyl briod, Pat. Roedd Don yn aelod ffyddlon o Gor Meibion Cwm Rhondda. Yn y nawdegau gwnaeth e nifer o deithiau i Rwmania gyda grŵp elusen Wales Aid to Craiova er mwyn gwella adeiladau mewn ysgolion ac amddifatai.

Pen-blwydd hapus i'r cyfnitherod, Ruby a Carys Williams. Bydd Ruby, sy'n byw yn Heol Conway, yn flwydd oed ar 14 Chwefror, Dydd Sant Folant. Bydd Carys, Vicarage Terrace, yn ddwy oed ar 29 Chwefror, ond wrth gwrs fydd dim 29 eleni. Cafodd Carys ei geni yn 2012 blwyddyn naid! Penblwydd hapus i'r ddwy


ohonoch chi!

Mae Beverley Murphy, Railway Terrace wedi ennill gwobr "Cyd-weithiwr y Flwyddyn" yn Asda. Mae hi'n gweithio yn Asda Tonypandy, a chafodd hi ei dewis o 12000 o weithwyr Asda, oherwydd ei hymroddiad, cymwynasgarwch a charedigrwydd yn y gwaith ac yn y gymuned. Mae Bev yn gwneud llawer o waith elusengar yn edrych ar ôl anifeiliaid, a hi oedd yn gyfrifol am sicrhau nawdd ar gyfer y gwaith adeiladu yn eglwys Sant Siôr. Llongyfarchiadau Bev!

Ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror daeth Daniel Evans, yr actorgyfarwyddwr o Gwmparc â'r ddrama 'The Full Monty' i'r New Theatr yng Nghaerdydd cyn symud ymlaen i'r West

End. Mae Daniel oedd yn hynod lwyddiannus fel actor yn prysur wneud enw iddo'i hun fel cyfarwyddwr. Dyma'r tro cyntaf, fodd bynnag, iddo fentro i'r West End. Bu'r ddrama yn llwyddiannus iawn yn Sheffield a rhai o ddinasoedd eraill Lloegr a gobeithiwn y bydd yn profi'r un llwyddiant yn Llundain. Dymunwn bob lwc iddo!

Y PENTRE

Bu farw un o drigolion Stryd Elizabeth yn ddiweddar, sef Raymond Pickford. Roedd Raymond yn un o'r rhai hynaf yn y stryd a gwelir ei eisiau'n fawr. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i deulu a'i gyfeillion oll.

Bydd dau yn dathlu eu

penblwyddi y mis hwn yn Llys Siloh. Anfonwn ein dymuniadau gorau i Phoebe Roberts [14 Chwef.] a Frank Rabaiotti [21 Chwef.] a dymuno iechyd a phob hapusrwydd yn y flwyddyn i ddod.

Eleni mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn dathlu 135 mlynedd yn y Pentre a bydd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal i nodi'r achlysur ar 22 a 23 o Chwef. Gallwch gael rhagor o fanylion am y rhaglen drwy ffonio 441173. Cynhelir Noson Goffi i ddathlu Gŵyl Dewi yn neuadd y Citadel nos Fawrth, 4 Mawrth. Bydd tocynnau ar gael am £350 Croeso i bawb ymuno yn yr hwyl.

Mae aelodau'r fyddin am anfon eu cyfarchion i'r

canlynol sy'n dathlu eu pen-blwydd y mis hwn gan gyflwyno iddynt eu dymuniadau gorau: Millie Langton, Betty a Mary Blockley, Wendy Evans, Haydn Jones, Rhiannon Lee, Chloe Fletcher, Robert Browning a Cassie Lee.

Dros hanner tymor, sef 22 Chwef. - 2 Mawrth mae Chwarae Plant wedi trefnu wythnos o hwyl a chwaraeon i bawb o'r teulu yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad Rhondda. Yn y cyfamser, trefnir gweithgareddau i'r plant ar Barc Pentre. Am fanylion, ffoniwch 493321. Mae ei chyd-aelodau ym Myddin yr Iachawdwriaeth am longyfarch Megan Sass yn galonnog iawn ar lwyddo yn ei harholiad canu Gradd 1 gan ennill rhagoriaeth.

7


Dalier Ati! Bydd y canlynol yn dathlu eu pen-blwydd yn Nhŷ'r Pentre y mis hwn: Marion Roberts [2 Chwef.]; Phyllis Thomas [5 Chwef.] a Dennis Parlour [21 Chwef.] Pob dymuniad da i'r tri ar gyfer y flwyddyn o'u blaen.

Pam nad ymunwch â ni yn y Citadel? Dyma rai o'r digwyddiadau: Gwasanaeth dydd Sul am 10.15am ac Ysgol Sul am 11.30am. Dydd Llun: Cylch Mam

Atgofion Pysgota Afon Rhondda parhad Rhondda Angling Association, roedd 'da nhw hawl i bysgota’r ‘Llyn’(Llyn Fawr wrth waelod Y Rhigos)

8

Helyntion Bodio Erbyn hyn, roedd fy nghefnder Hugh wedi dechrau ymdiddordi. Bydden ni’n dau’n dechrau cerdded y chwe milltir dros y mynydd i’r Llyn, ac wrth gerdded yn trio bodio lifft (’hitchio’) . Ychydig o draffig fyddai ar y ffordd y dyddiau hynny ac anfynych y byddai cerbyd yn pasio. Un dydd, gyda’n bag a’n gwialen ar ein cefnau,a ninnau wedi cerdded ryw ddwy filltir i’r 'double bend', daeth car i’r golwg-a’n calonnau’n llonni wrth weld ‘sports car' MG B G.T. - ‘Y Saint’ fel y galwen ni fe (chi’n cofio Simon Templar!!). Roedd 'na eironi achos roedd y gyrrwr yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Nhŷ Newydd!! Yn

a Phlentyn am 9.15am, J-Team am 5.30pm a Grŵp Ieuenctid am 7pm. Dydd Mawrth: Astudiaeth Feiblaidd am 6pm, canu am 6.15pm a'r Songsters am 7.15pm. Bore Iau cynhelir Bore Coffi am 10.30am.

TON PENTRE A’R GELLI

Cafodd pawb fodd i fyw wrth wylio cyflwyniad cwmni Act 1 o'r pananffodus, aeth hwnnw heibio mewn fflach o wyrdd, yn amlwg ‘heb ein gweld neu, falle heb ddewis gweld y ddau Fethodist ifanc!! Bum munud yn ddiweddarach, stopiodd car a chynnig lifft inni. Gyrrwr y car oedd boi digon garw, oedd yn adnabyddus i’r ddau ohonom. Roedd hwn wedi treulio sawl blwyddyn’At Her Majesty’s pleasure’ ond roedd Hugh a finnau’n ddigon balch o gael derbyn ei garedigrwydd a gosododd ni’n hwylus o fewn pum munud wrth ymyl y lôn garegog a arweiniai at Y Llyn. Pan es adre y diwrnod hwnnw,adroddais y stori wrth Mam a honno’n cael ei hatgoffa o ddameg ‘Y Samariad Trugarog.’Pan gwrddodd hi â’r ‘Saint’nesa fe wnaeth yn siwr ‘bo fe hefyd yn cael ei atgoffa o’r ddameg!!.

Y Clwb Pysgota Yn y blynyddoedd canlynol cyn mynd i’r coleg, fe ddes i ddysgu

tomeim 'Aladdin' yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar. Rhwng y prif actorion a'r côrws, mae dros 50 o bobl ifainc o 6 i 18 oed yn perthyn i'r grŵp ac roedd asbri'r perfformiad yn brawf bod pob un ohonynt wrth eu bodd yn gweithio o dan gyfarwyddyd Peter Radmor, Rhys Williams a'u cynorthwywyr lu. Bellach, mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at eu cynhyrchiad nesaf, sef y sioe gerdd 'Les Miserables'.

llawer gan aelodau’r clwb pysgota. Wy’n teimlo’n ddyledus i lawer ohonyn nhw fel Byron Thomas,Tommy Hayward, Des, Dai Rossitter, Gwyn a Don Guy ac Arthur House sy bellach heb fod gyda ni - dynion fu’n bleser eu 'nabod. Gwnes i ffrindiau da fel Rob Thomas (sy bellach yn frawd yng nghyfraith imi), Steve Lock, Kelvin(mab May Thomas), John Goatson - rhai sy’n dal yn ffrindiau hyd heddiw. Diolch byth hefyd bod John Clatworthy, fy mentor pennaf yn dal i bysgota afon Rhondda a Llyn Fawr hyd heddiw - ac yn dal i fod mor llwyddiannus ag erioed. Fe ges i saith mlynedd yn dysgu fy nghrefft ym mhen ucha’r Cwm.Yn ddeunaw oed es i ddilyn fy ngyrfa fel deintydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ro’n i’n dechre cyfnod cyffrous yn fy hanes mewn cymaint o ffyrdd. O ran Pysgota hefyd, roedd fy nhaith ond, megis ar ddechrau.

Colled i'r ardal gyfan oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Marie Smith, Stryd Wyndham. Roedd Marie'n adnabyddus i bawb gan ei bod, am flynyddoedd lawer, yn gweithio tu ôl i'r cownter yn Swyddfa Bost Ton Pentre ac yn uchel ei pharch gan bawb oherwydd ei pharodrwydd i helpu bob amser a'i gwên siriol. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w theulu a'i ffrindiau a fydd yn gweld ei heisiau'n fawr.

LLYTHYR DŴR CYMRU

Annwyl Olygydd Yn dilyn eich erthygl, ‘Llifogydd Treorci’ a ymddangosodd yn rhifyn diwethaf y Gloran, hoffwn gymryd y cyfle hwn ar ran Dŵr Cymru i ymddiheuro unwaith eto i drigolion a chymuned Treorci am y llanast a’r anghyfleustra a achoswyd gan y llifogydd yno ym mis Rhagfyr.

Fel y gwyddoch, mae’n debyg mai methiant gorsaf bwmpio leol yn ystod glaw trwm iawn a fu’n gyfrifol am achosi’r llifogydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda chwsmeriaid am ein bod yn benderfynol o wneud ein gorau i gywiro unrhyw ddifrod cyn gynted ag y gallwn. Fel cwmni sydd wedi ei berchen ar ran cwsmeriaid, mae Dŵr Cymru’n unigryw yn y diwydiant dŵr ac mae ein holl ffocws ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid. Yn hyn o beth, gwnaethom fethu yn Nhreorci ond hoffwn eich sicrhau ein bod nawr am wneud pob dim sydd yn bosib er mwyn helpu’r trigolion hynny a effeithiwyd tra’n ceisio darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf. Yn gywir, Chris Jones Prif Weithredwr Dŵr Cymru


TON PENTRE A’R GELLI parhad

Tra oedd y Tad Haydn i ffwrdd ar wyliau, daeth y Canon Michael Short i gymryd y gwasanaethau yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr ar 26 Ionawr a 2 Chwefror. Mae'r aelodau am ddiolch yn fawr iddo am ei wasanaeth.

Ar 29 Ionawr dechreuodd aelodau Clwb Cameo ail ran eu rhaglen pan ddaeth Mrs Christine Thomas o Age Concern i sôn am ei gwaith. Mae'r aelodau nawr yn edrych ymlaen at eu dathliad Gŵyl Dewi ar 26 Chwefror pan fydd yr adloniant yng ngofal côr Ysgol Gynradd Ton Pentre.

Yn ddiweddar, cynhaliodd preswylwyr Tŷ Ddewi barti i ffarwelio a rhoi diolch i Mr Chris Ball eu Rheolwr Cynllun sydd yn symud i weithio i sefydliad tebyg dan ofal Wales & West, sef Lys yr Onnen yn Aberpennar. Cyflwynwyd anrheg iddo gan yr hynaf o drigolion y Tŷ, sef Miss Irene Parlour. Cymerir lle Mr Ball gan Mrs Gillian Jones sydd wedi gweithio yno am gyfnod o'r blaen ac felly'n gyfarwydd â llawer o'r bobl. Cynhaliodd Siambr Fasnach Ton Pentre eu cyfarfod blynyddol ddydd Mawrth, 18 Chwefror yn y New Inn. Yr ysgrifennydd yw Melissa BinetFauvel a gellir cysylltu â hi trwy e-bost yn melissa€melissawarren.c o.uk.

TROEON YR YRFA

[Bu Roger Price, gynt o Dreherbert, yn swyddog adloniant gyda Chyngor Ogwr am flynyddoedd lawer. Yn y swydd hon, daeth i gysylltiad â llawer o bobl enwog a diddorol ac yn y gyfres hon bydd yn adrodd rhai o'i brofiadau.]

Wrth i mi fynd ati i grynhoi'r geiriau, mae brawddeg yn dod nôl i 'nghof o wefusau un o'm "ffefryna" i, sef Tony Benn. Flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, mi roedd e'n un o'r panel o westeion ar y rhaglen radio "Any Questions" - a dw i nôl nawr i'r adeg pan oedd Freddie Grisewood yn gadeirydd. Trin oeddyn nhw yr oedran pan fydde plentyn yn gallu gadael yr ysgol yn swyddogol dan y gyfraith. Wrth gwrs mi roedd gwahanol awgrymiadau yn cael eu taflu allan gan y panelwyr - rhai'n awgrymu pump ar hugain (fel roedd hi ar y pryd?) ond Tony Benn yn ateb yn bendant "I have no doubt that the school leaving age ought to be raised to 80 years!" Wrth gwrs, roedd e'n dweud dyle byth fod terfyn ar gyfleoedd i ddysgu ac mae'n diddorol nawr i sylwi ar y frawddyg "Addysg Gydol Oes" sydd i'w chymryd yn hollol dderbyniol, ond eitha cymysg oedd yr

ymateb ar y pryd i sylwadau Tony Benn. Pam dw i'n agor fel hyn te? Wel, digwydd dod ar draws llyfr o'r enw "The King of the Golden River" gan John Ruskin. Tu fewn i'r clawr mae na label bach yn cynnwys, mewn llawysgrifen yr athrawes ar y pryd: ROGER PRICE, TREHERBERT PRIMARY CLASS 1, TOP BOY. Peidiwch meddwl mod i'n tynnu sylw at hyn am unrhyw reswm mwy nag i brofi bod 'na un adeg yn fy mywyd fel myfyriwr pan o'n i'n "eitha bright". Efallai mai ond ychydig gafodd ei 'chwanegu yn y degawdau a ddilynodd! Cofiwch, cyn hyn roedd yn angenrheidiol i fynychu'r nyrseri a dw i'n dal i gofio cael fy nhorfodi gan Miss Cove yr athrawes i fynd i gysgu mewn rhyw wely angyffyrddus iawn. Peth od, ond yn y dyddiau

cynnar doedd na ddim unman i gwato. Tipyn o sioc oedd gweld yr union un Miss Cove yn y capel wedyn yn Horeb ac roedd fy mam yn dweud lawer gwaith bod hi'n cael y neges nol o'r nyrseri mod i'n hoff iawn o ganu ac yn wastad gofyn am "Rule Brittania". Dw i'n gobeithio mai'r alaw hyfryd yn hytrach na'r geiriau oedd yn apelio at grwtyn ryw 4 blwydd oed. Yr Ysgol Gynradd Y cam nesa oedd mynd i Ysgol Gynradd Penyrenglyn. Wrth basio, dyna i chi enw diddorol. Peidiwch gofyn i mi am wraidd yr enw ond dw i'n dal i feddwl mae Pen yr Hen Glyn oedd yr enw yn y cychwyn. Sdim dowt bydd rhywun callach yn gallu esbonio'r cyswllt gyda'r "Englyn"? Athro yno oedd Walter Williams, brawd i Eddie

9


o Heol Cadwgan yn Nhreorci. Hefyd, ffeindies i ma's ond rhai flynyddoedd nôl bod Walter yn perthyn, trwy briodas, i'r nofelydd enwog Rhys Davies. Yn sicr cefais addysg arbennig ym Mhenyrenglyn, er siom i radde oedd bod un o'm hoff ewyrthon, sef Wncl Emlyn, ddim yn fy nysgu!

10

Rhaid i mi sôn am y prifathro, sef Haydn Pugh. Gŵr addfwyn â natur hyfryd a hyd yn oed nawr cofiaf e'n darllen "A Christmas Carol" Dickens i ni. Y frawddeg gynta, os dw i'n iawn oedd "Marley was dead to begin with...." ac o hynny mlaen o ni'n "hooked". Braf wedyn oedd gweld yr un "Mister Pugh" yn canu'r organ yn gyson yn Gymanfa'r Plant y Pasg yng Nghapel Bethlehem, Treorci. Ymlaen i'r Pentre Am ryw rheswm es i 'mlaen i basio'r arholiad "Scholarship" yn ifancach nag oedd i fod. Wedi cael y llwyddiant roedd dewis gen i i fynd i Ysgol Ramadeg y Porth neu i Ysgol y Pentre. Hefyd, roedd 'na opsiwn arall, sef aros nôl am flwyddyn i drio eto. Wrth gwrs doedd hyn ddim yn wir opsiwn o gwbl, a gan fod fy mrawd hyna' yn barod wedi setlo yn Ysgol Ramadeg y Pentre, yn bendant dyna lle o'n i eisiau mynd hefyd. Dw i'n ddigon mawr i gyfadda nawr mai penderfyniad anghywrir wnes i. Nid

mod i ddim am ddilyn Michael fy mrawd, ond bydde'n wir i ddweud 'mod i wedi gwastraffu'm hamser yn yr ysgol honno. Na, nid dim ond y pleser o gael, o bryd yw gilydd, gwmpni'r merched, ond methiant ar fy rhan i fynd ati nes yn rhy hwyr i roi digon o bwyslais ar y gwaith. Dim bai ar yr athrawon/athrawesau (rhaid i mi ddweud hyn oherwydd bydd rhai ohonyn nhw yn siwr o gymryd "Y Gloran"!) ond roedd gen i ormod o ddiddordeb mewn gemau yn enwedig criced. I'r Byd Mawr Ar ôl gadael Ysgol y Pentre a dim ond llond dwrn bychan o bynciau i'w ddangos, roedd pethe'n edrych yn eitha anobeithiol ar gyfer fy'n nyfodol. A dyma eto lle mae geiriau Benn yn dod nôl. Yn naturiol, roedd i'w ddisgwyl y bydde'n rhaid i mi feddwl am ennill fy mywolaeth. Trio arholiad yng Nghaerdydd a digwydd pasio hwnw a chael fy nerbyn am swydd yn y Gwasanaeth Sifil sef yn y "Board of Trade" yn Llundain o bobman! Yn sicr dyna oedd y bwriad ac roedd fy nhad yn barod wedi cysylltu â ffrind teuluol, sef y Parchedig D Hughes Jones yng Nghapel Willesden Green i wneud yn siwr mod i'n derbyn y gofal iawn yn y brifddinas. Ond, (a dyna chi air bwysig yn yr hen iaith), heb i ni wybod mi roedd

un o'r teulu o leia' DDIM am fy ngweld yn symyd mor bell. Sôn ydw'i am fy Modryb Lottie oedd yn byw yn Nhreherbert . Mi roedd hi wedi sylwi bod 'na adran newydd yn cael ei ffurfio yng Nholeg Technoleg yn Nhrefforest ac fe aeth hi ati yn ei hawr ginio fel athrawes yn Ysgol Bronllwyn i bigo lan ffurflen gais o'r Swyddfa yn y Pentre. Ond dim ond hanner y broses oedd hynny. Nawr, oedd yn rhaid iddi hi esbonio'r sefyllfa iddi brawd, sef fy nhad, ac wedodd hi wedyn mor falch oedd hi i gael yr ateb ei bod yn werth i mi ystyried dilyn y cwrs newydd. I'r Coleg Dim troi nol wedyn. Yn bendant hwn oedd yr ail gyfle i mi ac mi es ati am y ddwy flynedd. Gorffen trwy gael llwyddiant ym mhob un o'r arholiadau, a hyd yn oed derbyn gwobr gan "Lord Heycock" am fod yn 'Ddisgybl y Flwyddyn'. Y wobr oedd y llyfr ar Dean Swift "The Pen and the Sword" gan Michael Foot. Yn anffodus benthyciais y llyfr i rywun a dw i byth wedi ei gael e nôl. Mae siwr o fod rhywun erbyn hyn wedi darllen y dystiolaeth tu fewn i'r clawr? Os oes, anfonwch e nôl drwy Swyddfa'r "Gloran" plis! Un o'r pynciau yn Nhrefforest oedd "y Gyfraith" ac fe ddaeth hyn yn help i mi gael swydd yn y Pentre gyda'r ffyrm o gyfreithwyr, Williams,

Simons & Thomas. Bues gyda nhw am bron deg mlynedd, ond pan symudon nhw fi lawr i'r gangen ym Mhen-y-bont doedd pethe dim yr un peth. Trwy siawns, tra yn gweithio yn y swyddfa honno, des i wybod am swydd, eto ym maes y Gyfraith, gyda Chyngor Trefol Ogwr & Garw a'r Cylch. Arhosais gyda nhw tan yr ad-drefnu (1974?) pan ddaeth y cyfle i fynd am swydd hollol wahanol gyda Chyngor Bwrdeistref Ogwr ym Mhen-y-bont. Mwy am honno y tro nesaf.

BYD GWAITH GYRFA YM MYD Y CAMPAUparhad o 4

Chwaraeon y BBC a fyddai'n ei daro i'r dim gan ei bod yn cyfuno darlledu ac un o'i brif ddiddordebau, sef chwaraeon. Cynnig amdani a chael cyfweliad ond cael siom ar yr un pryd wrth ddarganfod bod y cyfweliad ar yr union ddiwrnod roedd e wedi gobeithio teithio i Wlad Belg i gefnogi peldroedwyr Cymru. Doedd dim amdani ond colli'r gêm, fel y gwnaeth Cymru! Ond fel math o iawndâl am hyn, cafodd e gynnig y swydd. Oherwydd hynny, erbyn hyn mae e'n gweithio yng Nghaerdydd. Byd y Campau Pêl-droed, rygbi, tennis a chriced yw hoff gampau Steffan ac yn ei swydd newydd caiff gyfle i ymwneud â'r rhain i gyd, yn ogystal â chwaraeon mwy dieithr iddo, fel saethu, bocsio a bowlio. Mae e wrth ei fodd gyda'r amrywiaeth fawr a'r cyfle i gwrdd â rhai o'i


Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen

Y tro ‘ma gwaith Ysgol G G Ynyswen sydd yn ymddangos yn Y Gloran

Croeso mawr i Marion Roberts, cynbrifathrawes YGG Bodringallt, a fydd o hyn ymlaen yn gyfrifol am newyddion yr ysgolion bob mis. Bu Marion, bob amser, yn gefnogol iawn i'r papur hwn ac rydyn ni'n siwr y bydd athrawon a phrifathrawon yr ardal yn gefnogol iddi hi.

YSGOLION

YSGOLION

arwyr fel y sylwebydd rygbi, Jonathan Davies a chwaraewyr a hyfforddwyr fel Ryan Jones a Simon Easterby. I'w gymhwyso ar gyfer ei waith newydd, mae e'n derbyn hyfforddiant. Yn ddiweddar, er enghraifft, debyniodd hyfforddiant llais gan y ddarlledwraig brofiadol, Bethan Parry Jones, gan ganolbwyntio ar grefft darllen sgriptiau. Bu ar gwrs wedyn yng nghanolfan newydd y BBC yn Salford ac ymwelodd â'r Scarlets a'r Gweilch yng nghwmni Adran Wasg y BBC. Rhan o'i waith yw torri clipiau i rai raglenni ond yr hyn sy'n apelio mwyaf iddo yw amrywiaeth y swydd. Bydd hyn yn cynyddu wrth i Gemau'r Gymanwlad yn yr Alban nesau pan fydd angen iddo ef a'i gyd-weithwyr ymdrin â champau o bob math. Ers iddo adael y coleg, cafodd Steffan lawer o brofiadau diddorol wrth weithio ym Mangor a nawr yn y brifddinas ac mae'n gobeithio y bydd y rhain yn gefn iddo wrth iddo geisio ymsefydlu ym myd darlledu. Dymunwn iddo bob llwyddiant i'r dyfodol.

Diwrnod 78 Yn canol y nos tarodd storm enfawr yr ynys. Pan deffrais y bore ma clywais i swn fyddarol yn dod o’r goedwig. Es i am dro i’r goedwig a gwelais i ddau llew mawr cas. Archwiliais i am fwyd yn y goedwig ond gwelodd un o’r llewod fi yn rhedeg o gwmpas gyda ffrwyth. Mae’r tywydd yn boeth fel tân gwyllt. Es i’r môr i cwlo lawr oherwydd roeddwn i yn poeth. Bwytais i y ffrwythau ond doedd dim digon i wneud fi dyfu. Wedyn, palais o dan yr ynys i ceisio dal anifail i fwyta am ginio. Prynhawn yma nofiais yn y pwll mawr o ddwr. Ffeindiais i nadroedd yn uchel yn y goeden a bwytais i nhw. Gwelais i olion traed pobl yn y goedwig. Rhedais i nerth fy nhraed i weld pwy oedd yna. Pan gwelais i pen rhywun rhedais i mas i gweld pwy oedd e. “Aha!” gwaeddais ond pan gwelais i nhw. “Aaaaaa, môr ladron”!!! gwaeddais . Rhedais i nerth fy nhraed i fynd i ffwrdd o’r môr ladron. Roedd un o’r môr ladron bron wedi torri fi mewn hanner ond yn lwcus roeddwn i yn gyflym iawn, 32 milltir yr awr. “Ewch i ffwrdd o fi môr ladron neu byddwn i yn torri ti mewn hanner gyda dy gleddyf” “Iawn, iawn byddwn ni yn stopio trio hollti ti mewn hanner”, dywedodd y môr leidr. “Ewch! Ewch! Nawr! Nawr!” dywedais i. Roedd y môr ladron yn mynd yn ôl yn y môr yn eu cwch. Y noson yma es i nofio yn y môr ond roedd tonnau enfawr yn dod oherwydd y storm yn tasgu ar y môr. Yfory, rydw i yn mynd i hela am lewod i fwyta os dydy hi ddim yn bwrw glaw. Rydw i’n teimlo’n drist ar yr ynys ond mae rhywun yn dod â fi adref am 23.30. Dylan Owen Blwyddyn 3

Helo Lloyd, Rydw i’n ysgrifennu atoch chi o St Lucia. Mae’r tywydd yn arbennig o dda. Mae’r haul yn euraidd ac y môr yn ddisglair fel crisial. Mae y tywod yn euraidd fel yr haul ond roedd e yn glawio unwaith ac wedyn death…enfys amryliw hyfryd trwy’r awyr. Mae’r bwyd yn blasus tu hwnt yn y bwytai lleol. Roeddwn i’n gallu trio te a coffi! Aethom ni gyd i disgos ac roeddwn i wedi cwrdd â ffrindaiu newydd a’u henwau nhw oedd Carys, Seren a Lowri. Dywedodd fy mam roeddwn i yn gllu mynd ar cruise a prynu anrhegion i bawb a losin. Mae’n wych yn St Lucia! Dwi yn dod yn ôl ar yr unfed ar hugain o Ragfyr. Hwyl am y tro, Millie

Millie Cayford Blwyddyn 4

11


Pethau Da Da gan y glust Swn adar bach Yn canu’n afreal yn y goeden.

Da gan y llygaid Gweld ffrindiau Ffarus yn yr ysgol a thu fas.

Da gan y genau Blas hufen iâ Hyfrydaith yn toddi yn eich ceg.

Da gan y dwylo Teimlo ci Caredig yn symud ei gynffon. Da gan fy nghalon Teulu caredig Gwerth y byd i gyd er bod yn tristiog.

Da gan y meddwl Cysgu yn Coeth mewn gwely ystwyth. Eleri Kinsey Blwyddyn 5

100% Ydych chi wedi clywed am Super Attender? Mae ef wedi bod yn helpu codi canran presenoldeb YGG Ynyswen. Penodwyd swyddogion presenoldeb; Rachel, Lloyd, Eilir, Daniel a Lowri, er mwyn hysbysu pwysigrwydd mynychu’r ysgol. Ynghyd â’r Cymer a’n clwstwr o ysgolion cynradd, rydym wedi dathlu diwrnodau 100% lle mae pob plentyn yn ymdrechu i ddod i’r ysgol. Ar y diwrnod 100% cyntaf penderfynodd y Llywodraethwyr i gynnal diwrnod dim peniau ac ar yr ail dewisodd y rhieni i blant wisgo siwmperi Nadoligaidd i’r ysgol. O gymharu â’r un diwrnodau llynedd, cododd ein presenoldeb 4.7% ar y Diwrnod 100% cyntaf ac 13.2% ar yr ail Ddiwrnod 100%. Llwyddodd 3 dosbarth i gyrraedd 100% ar y diwrnod cyntaf a 4 dosbarth ar yr ail ddiwrnod 100%. Llongyfarchiadau i chi! Tybed sut fydd y plant yn penderfynu dathlu ein trydydd diwrnod 100% ar 20fed o Chwefror? Caffi Ynyswen Mae YGG Ynyswen wedi bod yn cynnal caffis er mwyn dathlu strategaethau newydd ac i gyfoethogi’r cyswllt cartref. Cawsom gaffi Rhifedd i rannu adnoddau Numicon gyda rhieni a Chaffi Llythrennedd er mwyn arddangos strategaethau Tric a Chlic. Mwynhaodd y plant ganu rap i’w rhieni a darllen ar goedd i ddathlu eu cynnydd. Rydym yn paratoi’n brysur ar gyfer ein Caffi Rhifedd CA2 yr wythnos nesaf. Gobeithio bod y rhieni wedi bod yn ymarfer eu mathemteg pen yn barod ar gyfer cyflwyniad Rhifau Rhagorol!

Adroddiad Ar nos Iau, Rhagfyr y 19eg, cynhaliwyd cyngerdd gyntaf cor YGG Ynyswen. Perfformiodd dros 40 o blant o flynyddoedd 2 i 6 yn y gyngerdd gorawl ac offerynnol. Cafwyd amrywiaeth o ganeuon traddodiadol gan y cor yn ogystal a nifer o grwpiau ac unawdau offerynnol. Diolch i'r athrawon offerynnol am baratoi'r plant ar gyfer y gyngerdd - Mr Craig Roberts (pres), Mrs. Bethan Roberts (telyn) ac Mr Andrew May (ffidl). Gwisgodd y plant eu siwmperi

12

Nadolig a mwynheon nhw'n berfformio mas draw. Ar ddiwedd y gyngerdd daeth ymwelydd arbennig i ddiolch i'r plant trwy roi anrhegion iddynt. Cafodd y rhieni wledd o fins peis a phice ar y maen. Ffurfiwyd y cor ym mis Medi gan Miss Bethan Ford, dirprwy newydd yr ysgol, Miss Ceri Mair Jones a Mrs Helen Hughes. Maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn ymarfer yn frwd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ym mis Mawrth. Da iawn chi blant!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.