Gloranchwefror17

Page 1

y gloran

20c

Lleoliad mast ffonau symudol yn Nhreorci Mae helynt yn codi yn Nhreorci ynglŷn â lleoliad mast ffonau symudol. Mae Vodaphone wedi cyflwyno cais i Bwyllgor Cynllunio Rh.C.T. i godi mast 18m (59 troedfedd) o uchder ar safle cyfnewidfa ffôn BT yn Nhreorci. Bydd hyn yn effeithio ar drigolion Woodland Vale a Stryd Treasure yn arbennig ac yn barod maen nhw wedi trefnu deiseb sydd wedi cael ei chefnogi'n gryf gan bobl sy'n byw yn y strydoedd o gwmpas.

Bydd y mast o fewn 10m i rai o dai Woodland Vale ac yn amharu â'r olygfa o'r bryniau o gwmpas. Bydd llawer o'r tai yn sefyll yn ei gysgod. Er nad yw colli golygfa o'ch cartref yn ddadl o blaid gwrthod cais, dywedir yn yr achos hwn y bydd codi mast yn amharu ar olwg a dymunoldeb yr ardal o gwmpas. Gwrthododd Rh.C.T gais i agor fferm solar ym Mhen-y-coedcae, Pontypridd, er enghraifft, am yr union reswm hwn gan y byddai'n 'newid cymeriad a golwg y tirlun lleol'. Gan fod yr ardal hon yn barod wedi gorfod derbyn effaith Fferm Wynt Treorci ar yr olygfa i'r dwyrain, mae'n annheg gofyn iddynt nawr golli eu golygfa i'r gorllewin.

Ond y gofid mwyaf yw'r effaith ar iechyd. Ers tro, beiwyd allyriadau o'r mastiau hyn am amrywiol

Mae Mr Trev Ward o Gwmclydach wedi dathlu ei ben-blwydd 103 ar y 6ed o Ionawr eleni. Cafodd ei eni yn Llwynypia yn 1914, ond cafodd ei fagu yng Nghwmclydach, pan symudodd ei deulu i Stryd y Parc pan oedd e’n ifanc.

Dyn yn Dathlu ei ben-blwydd 103 Eleni

Dechreuodd e weithio ym mwll pwll glo Cambrian, pan oedd e’n laslanc, a gweithiodd dan ddaear am 38 o flynyddoedd. Wedyn gweithiodd e yn ffatri Porth Textiles cyn iddo ymddeol.

Mae e’n hoffi mynd i ddawnsio bob nos Sadwrn , chwarae bingo bob nos Fawrth a cherdded o gwmpas y llyn uchaf yng Nghwmclydach bob dydd.

Llun 1 Chwarae bingo yng Nghlwb Gweithwyr Canol Rhondda Llun 2 Cyfle i gael hoe a sgwrs ar y fainc ar lan y llyn

afiechydon. Mae paragraff 78 o TAN 19: Teleathrebu yn nodi bod pobl yn poeni bod cyswllt cyson â lefelau isel o EMF (Electromotive Force) yn gallu achosi pen tost, diffyg cwsg, iselder ac, o bosib, canser, yn y tymor hir. Gan nad ydym yn gwybod digon ar hyn o bryd am yr effeithiau hyn, y cyngor i bwyllgorau datblygu yw bod yn ofalus wrth ganiatâu ceisiadau. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd y datblygiad yn gallu Parhad ar 3


golygyddol

MILIWN O SIARADWYR CYMRAEG ERBYN 2050 Dyma yw nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru erbyn 2050 a bwriad Alun Davies, y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, yw gosod nod i bob awdurdod lleol ac edrych ar y cynnydd neu'r diffyg cynnydd bob 5 mlynedd. Rhaid croesawu ei uchelgais gan dderbyn bod y targed mae'n

2

ei osod yn mynd i fod yn dipyn o her inni. Prif ffynhonnell siaradwyr newydd fydd y system addysg, er bod Cymraeg i Oedolion hefyd yn faes pwysig iawn. Yn barod, mae Cyngor Rh.C.T. wedi nodi eu bod am weld cynnydd o 3% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ystod y 5

Cynllun gan High Street Media

2017

y gloran

YN Y RHIFYN HWN

Mast ffon/Trev yn 103..1/3 Golygyddol...2 Siopwyr Cymraeg Treorci....4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Byd Bob/H T Jacob..6-7 Help i Sioe Flodau...9 Ysgolion...10 Ysgol Gyfun Cymer Rhondda-11 Ysgolion...-12

mlynedd nesaf. Mewn termau amrwd, golyga hyn sicrhau 833 mwy o siaradwyr erbyn 2021. Gan fod y sir yn bwriadu cynyddu nifer y plant a dder-

bynnir yn ysgolion Llwyncelyn a Thonyrefail o 160 y flwyddyn, gallai hyn olygu 800 o siaradwyr newydd dros 5 mlynedd. Ond gan na fwriedir agor un ysgol newydd, golyga ein bod yn dal i bysgota yn yr un pyllau a hynny ar adeg pan yw nifer y genedigaethau yn y sir wedi gostwng o 14%. Hefyd, wrth gwrs, rhaid gwneud i fyny am golli siaradwyr trwy farwolaeth a phobl yn symud. I wrthbwyso hyn, bydd rhaid i Rh.C.T. ystyried agor ysgolion mewn ardaloedd newydd fel Aberpennar a chanol Rhondda. Gorau po gyntaf y gwneir hyn. Yn rhan uchaf y Rhondda, dyma yw'r sefyllfa

’


Cymuned

Poblogaeth dros 3 oed

NIfer o siaradwyr Cymraeg

% o siaradwyr Cymraeg

7,465

1,085

14.5%

Treherbert

5,503

Pentre

5,035

Treorci Ystrad

5,652

857 610 692

15.6%t 12.1% 12.2%

Golyga cynnydd o 3% 97 o siaradwyr newydd yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, yn bwysicach na phopeth yw cynyddu'r defnydd a wneir o'r iaith a gobeithia'r Gloran helpu'r broses hon trwy nodi cyfleoedd i siarad Cymraeg yn yr ardal. Gobeithio y bydd pawb yn manteisio ar y wybodaeth ac yn achub ar bob cyfle sydd ar gael.

MAST FFON YN NHREORCI

effeithio ar blant a phobl fregus.

Rhaid derbyn, fodd bynnag, bod sicrhau signal ffôn dibynadwy yn bwysig, yn enwedig pan yw pobl am gysylltu â'r gwasanaethau brys. O fewn ward Treorci mae llawer o fannau lle mae'r signal naill ai'n wael neu ddim yn bodoli o gwbl. Mae

Cwmparc, er enghraifft, yn dioddef yn ddrwg yn y cyswllt hwn. Er, mae'n siwr, y byddai'n costio mwy i Vodaphone, oni fyddai'n well iddynt chilio am safle heb fod yn agos at dai a fyddai'n cynnig signal i ardal ehangach. Dyma fyddai'r ateb gorau, ond os mynnir mynd ymlaen â'r cais presennol, bydd rhaid i'r pwyllgor benderfynnu rhwng hawliau trigolion lleol a hawliau busnes pwerus, rhwng iechyd a lles pobl leol ac elw cwmni a rhwng amharu ar y tirlun a'i ddiogelu. Gobeithiwn y dewisant yn ddoeth. 3


SIOPWYR CYMRAEG TREORCI

(Mae Nerys Bowen, Cwmparc, wedi bod wrth'n darganfod faint o siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio yn siopau Stryd Fawr Treorci. Daeth o hyd i dros hanner cant a chawn gyfle i gyflwyno rhai ohonynt ichi o dro i dro yn Y Gloran. Cyn bo hir, ae Nerys yn gobeithio y bydd Cyngor Rh.C.T. yn darparu arwyddion yn nodi ym mha siopau y mae siaradwyr Cymraeg yn gweithio.)

Un o ferched Fferm y Fforch, Treorci yw Aneira Jones. Ers ei phlentyndod, bu diddordeb gan Aneira mewn coginio. "Gyda Mam a Dad yn gweithio'n llawn amser, roedd rhaid i ni'r plant droi ein llaw at wneud bwyd," meddai. Er gwaethaf hynny,

mynd i fyd arian wnaeth hi i ddechrau gan dreulio cyfnod yn gweithio yn adran gyllid Bwrdd yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Ond roedd coginio'n dal i'w diddori a bachodd ar gyfle i fynd i weithio fel prif gogyddes yn Nice, Ffrainc yn

nhŷ bwyta 'Ma Nolan's' Bu yno am rai blynyddoedd. Bu hefyd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio ar y teledu, 'Casa Dudley' a olygodd treulio cyfnod y Sbaen gyda'r cogydd Julie Godfrey

Aneira Jones

Dudley Newbury. Ond pan ddaeth cyfle i ddychwelyd i weithio nôl yn ei chynefin, roedd hi wrth ei bodd. Aneira bellach sy'n rheoli bwyty newydd Treorci Social ar Sgwâr y Stag ac o fewn byr amser mae e wedi datblygu'n fan cyfarfod poblogaidd i bobl yr ardal. Cewch yno brydau ysgafn, cinio mwy sylweddol neu goffi ac yn ogystal trefnir nosweithiau arbennig fel Noson Burns, dathliadau Gŵyl Ddewi a Santes Dwynwen. Cofiwch alw heibio ac mae Aneira bob amser yn barod i gael sgwrs yn Gymraeg. Un arall sy'n fwy na pharod i siarad Cymraeg

4

Parhad ar dudalen 6


newyddion lleol

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT

Ar ôl i aelod o'r cyhoedd gwympo o’r “Pixie Bridge” i Nant Saerbren ger gorsaf rheilffordd Treherbert mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod canllawiau metal o amgylch y bont. Mae llawer o drigolion yn ddig am fod y weithred wedi dinistrio prydferthwch y lle. Mae’r cynghorwyr lleol wedi ysgrifennu at yr awdurdod i gwyno fod y canllawiau yn hyll ac i ofyn am welliannau.

Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

Ar ôl misoedd o fod ar gau mae’r llwybr sy’n mynd ar draws y cae ar waelod y Rhigos wedi ail agor. Mae dwy gamfa newydd wedi eu hadeiladu gyda grisiau sy’n gwella’r mynediad.

TREORCI

Croeso gartref i Nyda Jeffries o St Mary’s Close sy wedi bod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg am sawl wythnos.

Mae’r cyflwr y New Bridge yn Nhynewydd wedi gwaethygu ac o ganlyniad mae bariau wedi eu gosod wrth ochrau'r bont i rwystro unrhyw gerbyd rhag ei bwrw. O ganlyniad mae’r safle bysys wedi ei symud 400 llath.

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Lluniau - 1 Pixie Bridge wreiddiol a 2 Pixie Bridge ar ôl y newid 3 Camfa newydd

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Val Wood, Stryd Herbert. Roedd Val yn aelod brwd o gangen Treorci o Blaid Cymru. Er i'w hiechyd ddirywio yn ystod ei blynyddoedd olaf, roedd hi'n ffigwr adnabyddus ar y stryd fawr yn mynd o gwmpas ei dyletswyddau ar ei sgwter anabl. Bu Val fyw yn Awstralia am rai blynyddoedd lle roedd hi'n bennaeth diogelwch Banc ANZ. Teithiodd yn helaeth ar hyd a lled y byd yn y swydd honno cyn dychwelyd i Dreorci. Cydymdeimlwn â'r teulu yn eu colled. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y

PARHAD ar dudalen 8

5


â'i chwsmeriaid yw Julie Godfrey sy'n gwithio yn siop Pet & Garden Supplies ar y Stryd Fawr. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio yno gan ei bod yn gyfle iddi gyfuno ei hoffter o anifeiliaid a garddio. Mae ganddi gi 'boxer' ac mae hi a'i gŵr yn gofalu am randir ar ochrau Pentwyn lle maen nhw'n tyfu bob math o lysiau.

wyddyd Julie a Sue McMillan yn Uned Gymraeg Prifysgol De Cymru. Erbyn hyn mae hi wedi cyrraedd safon uchel ac wrth ei bodd yn

siarad yr iaith ar bob cyfle. Julie sy nawr yn gyfrifol am ddosbarthu'r Gloran yng Nghwmparc. Mae hyn yn rhoi cyfle i fynd â'i chi am dro a

bachu ar y cyfle ar yr un pryd i gael sgwrs. Dyna ffordd dda o ladd dau aderyn ag un ergyd!

dweud y byddai Brexit yn drychineb mawr. Yn y refferendwm cyntaf yn y saithdegau, roeddwn i wedi pleidleisio dros fynd i mewn i Ewrop, achos doeddwn i ddim yn gweld unrhyw gyfeiriad na phwrpas yng ngwleidyddiaeth Prydain. Roedd y ceidwadwyr a'r sosialwyr (Ydych chi'n cofio'r gair?) yn chwarae yr un hen gêm tennis ddiflas ar lawr y Senedd yn Llundain. Yn y cyfamser, ar y cyfandir roedd pethau cyffrous yn digwydd - roedd problemau yn codi ond yn cael eu datrys hefyd. Roedd arweinyddion gwledydd Ewrop yn ceisio cydweithredu yn lle taflu mwd at ei gilydd fel Harold Wilson a Ted Heath.

poeni am y dyfodol, rwy'n cofio am sefyllfa fy rhieni ym mlynyddoedd cynnar eu priodas. Roedd Prydain wedi colli cysylltiad ag Ewrop, nid oherwydd refferendwm ond achos bod lluoedd Hitler wedi taflu ein byddin allan o Ffrainc, Gwlad Belg a Norwy. Roedd fy mam yn byw mewn ystafell fach yn Wyndham St, Tynewydd ac roedd baban bach gyda hi (minnau!). Roedd fy nhad gant a hanner o filltiroedd i ffwrdd yn Llundain yn gweithio ar y rheilffordd. Bob nos, roedd awyrennau Hermann Goering yn gollwng bomiau ar ddinasoedd Prydain ac yn enwedig ar y brifddinas er mwyn torri ysbryd y trigolion. Roedden ni i gyd yn dibynnu ar ar

longau ein llynges fasnachol am fwyd a defnyddiau crai o dramor, ond roedd ein morwyr yn wynebu peryglon ofnadwy gan longau danfor yr Almaen. O'i gymharu â'r adeg yna, does dim problemau dwfn gyda ni heddiw, Does dim gelyn wrth y drws nac uwch ein pennau ni. Er gwaethaf hynny, rwy'n dal i boeni am y dyfodol ac rwy'n siwr 'mod i ddim ar fy mhen fy hun. Rydyn ni wedi byw trwy gyfnod cyfforddus hir iawn, felly mae unrhyw ansicrwydd fel Brexit yn sioc inni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd doedd gan fy rhieni ddim teledu, dim cyfrifiadur, dim ffôn boced. Ond roedd ganddyn nhw a'u ffrindiau rywbeth sydd yn brin iawn heddiw -

Ers rhai blynyddoedd bellach, bu Julie, sy'n hanu o Dreorci, yn dysgu Cymraeg o dan gyfar-

BYD BOB

6

[Cymharu ein byd ni heddiw a byd ei rieni adeg ar Ail Ryfel Byd y mae Bob y mis hwn.] Y noson o'r blaen, roeddwn i gartref yn eistedd o flaen y tân ac yn meddwl am y Farchnad Gyffredin. A dweud y gwir, roeddwn i'n poeni am sefyllfa Cymru ar ôl refferendwm yr haf a'r penderfyniad i adael Ewrop cyn gynted â phosibl. Fe bleidleisiais innau dros aros yn Ewrop. Roeddwn i'n cytuno â'r gwleidyddion oedd yn

Weithiau, pan rwy'n


ATGOFION H.T. JACOB

[Mab i of cyntaf Treorci oedd Henry Thomas Jacob [1864 - 1957]. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Aberdâr, Caerfyrddin ac Abergwaun. Yn y lle olaf y bu'n gweinidogaethu hiraf a daeth pwyd i'w 'nabod ar lawr gwlad fel Jacob Abergwaun. Roedd yn llenor, pregethwr a darlithydd hynod o boblogaidd yn ei ddydd a'i hanesion am gymeriadau Cwm Rhondda adeg ei ieuenctid yn difyrru cynulleidfaoedd ledled Cymru. Daw'r darn hwn o'i gyfrol, 'Atgofion H.T.Jacob' (Gwasg John Penry, 1960)}

Syml oedd y bywyd, a'r capel oedd prif ffynhonnell pleser pawb. Tu allan i wasanaeth crefyddol y capel y prif sefydliadau oedd y y Cyfarfod Cystadleuol, yr Eisteddfod a'r "Penny Reading", y buont yn foddion i feithrin a diwyllio llawer o dalentau. Cynnyrch y pethau hyn oedd arweinwyr boreaf y

gweithwyr. Dynion fel Mabon, Daronwy Isaac a Dafydd Morgan (Dai o'r Nant). Yr oeddynt yn ddieithriad yn llenorion ac yn wŷr y capel.

Edrychid ar y ddrama fel peth y dylai pob crefyddwr ymgadw rhagddi. Yr oedd mynd i weld 'play' yn achos disgyblaeth eglwysig. Byddai ambell gwmni crwydrol yn dod i'r lle pan ow'n i'n ifanc, cwmni Saesneg bob amser. "The Maid of Cefn Ydfa" oedd un o'i brif weithiau. Yr oedd piwritaniaeth yr egwysi yn wrthwynebol i'r eithaf yn ei erbyn, ac un tro trawyd y lle â syndod brawychus oherwydd i fab perchennog y chwaraedy teithiol hwn briodi merch o Gymraes o'r lle! Ond clywais hefyd iddynt byw bywyd glân a dedwydd.

Yn nyddiau fy maboed cynhelid Ffair yn Nhreorci. Ffair wagedd, dim ond cyfle i blesera. Dylifai miloedd lawer o bobl i'r lle a gwelid llawer o

feddwon ar hyd yr heolydd. Y Sul cyn y ffair yr oedd ym mhob capel yn y lle, ddwys gynghori'r bobl i beidio â chefnogi'r sefydliad pechadurus, a chofiaf y cawn i fel rheol. fynd am dro i'r Porth at fy modryb Siân, chwaer fy mam.,er mwyn osgoi'r demtasiwn. Yr un oedd ymagwedd yr eglwysi at 'Syrcas' ond cyniateid inni fynd i "Shew Greaduriaid" (Menagerie) am mai dim ond gwaith y Creawdwr a ddangosid yno!

Mae sôn am Syrcas yn dwyn ar gof i mi un tro y cefais y trechaf ar fy nhad mewn dadl fach. Ywelai syrcas fawr Lord George Sanger â'r lle, a gosodent eu pebyll i lawr ar y cae yn ymyl capel Bethania, cyn codi'r tai sydd yno nawr. Deuai nifer fawr o geffylau'r syrcas i'n hefail ni i'w pedoli, a gwnaem lawer o waith aral i atgyweirio'r wagenni. Ar ddiwedd y dydd myfi gâi'r gorchwyl o fynd â'r bil am y

gwaith i'w offis. Mrs Sanger a dalai, ac wrth dalu, rhoes docyn rhad i mi, i fynd i mewn i'r syrcas. Dychwelais â'r arian gartref, a gofynnais i 'nhad a oedd yn fodlon i mi fynd i'r syrcas y noson honno, fy mod wedi cael tocyn yn rhodd. Atebodd, "Gwyddost nad wyf fi ddim am i ti fynd i le o'r fath, fy mod i yn ei herbyn." "Wel," ebe fi, "yr ych cyn derbyn eu harian nhw!" Aeth yn fud am funud, ac yna dywedodd. "O'r gore, cer di, a phaid â bod yn hwyr." Bobol annwyl, dyna fwynhad. Y ceffylau a'r marchogion a âi â'm bryd i yn bennaf a chofiaf i mi gadw nhad a mam i lawr yn hwyrach na'u harfer y noson honno wrth adrodd a darlunio'r rhyfeddodau a welais yn cael eu cyflawni gan ddynion a chreaduriaid. A'r hyn a gododd fy nghalon yn fawr oedd gweld cynifer o bobl ein capel ni yno - a rhai, hyd yn oed, o'r swyddogion!


newyddion am farwolaeth Mr Doug Pearce, Y Stryd Fawr. Roedd Doug, a hanai o Gwmparc yn wreiddiol, yn aelod brwd o Glwb Rygbi Treorci. Yn ystod ei oes, wynebodd sawl profedigaeth. Collodd ei fab, Robert ddwy flynedd yn ôl ac adeg y cyrch awyr ar Stryd Treharne, Cwmparc yn 1941, lladdwyd ei fam, ei frawd a'i chwaer. Cydymdeimlwn â'i ferchyng-nghyfraith Milwyn a'r teulu oll yn eu colled.

Mae Clwb Garddio Ynyswen wedi derbyn £500 o Gronfa Gymunedol cynghorwyr Plaid Cymru, Treorci. Bydd yr arian yn mynd at gostau cynnal sioe flynyddol y Clwb yn Neuadd Les Ynyswen. Cafodd aelodau Cymdeithas Gymraeg

8

Treorci fodd i fyw yn gwrando ar Walter Ariel Brooks o'r Cyngor Prydeinig yn sôn am Batagonia yn eu cyfarfod mis Ionawr. Tynnodd Walter, sy'n frodor o Ariannin, ddarlun byw o orffennol a phresennol y Wladfa a dangosodd cymeradwyaeth a chwestiynau niferus y gynulleidfa gymaint roedd pawb wedi mwynhau ei sgwrs ddiddorol ac addysgol.

CWMPARC

Penblwydd Hapus i Liz Bowen, Parc Crescent, a fydd yn dathlu ei 93 penblwydd ar Chwefror 24. Mae hi wedi bod yn sal yn ddiweddar, felly mae ei ffrindiau'n gobeithio y bydd hi'n teimlo'n well cyn bo hir.

Mae Swyddfa'r Post yn Heol y Parc yn gobeithio symud i leoliad newydd,

sef i Siop S&N sydd yn nes i lawr at Dreorci. Bydd hyn yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus ac yn rhano raglen foderneiddio sy'n digwydd ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post Cyf. Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau a chynhyrchion yn dal i fod ar gael ac un o'r manteision yw y bydd oriau agor hirach. Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd rhwng 31 Ionawr - 14 Mawrth, ac os cytunir â'r bwriad, daw'r gangen newydd i fod Mai / Mehefin 2017. Gallwch roi eich barn trwy'r we, postofficeviews.co.uk, trwy e-bost: comments@postoffice.co.uk ; trwy ffonio 03457 22 33 55 neu Ffôn Testun 03457 22 33 55.

Y PENTRE

Cynhelir cyngerdd i ddathlu Gŵyl Ddewi yn Eglwys San Pedr nos Sul, 26 Chwefror gan

ddechrau am 7pm. Cyflwynir y noson gan Shelley Rees-Owen ac ymhlith yr artistiaid fydd yn cymryd rhan mae Luke McCall, Clare Hingott, Llewelyn Ifan Jones (telynor), Lee Gilbert a Chôr Ysgol Gyfun Treorci. Tocynnau ar gael am £10. Am 7pm, nos Wener, 24 Mawrth bydd Rowan Cancer Care yn cynnal disgo i godi arian at yr achos telwng hwn yn neuadd y Lleng Brydeinig, Pentre. Bydd Zac Connors hefyd yn cymryd rhan.

TON PENTRE

Roedd pawb yn falch o glywed bod Band y Cory yn mynd i dderbyn rhyddid Bwrdeistref Sirol Rh.C.T. yn gydnabyddiaeth am eu camp yn ennill pencampwriaethau Cymru, Prydain ac Ewrop yn yr un flwyddyn. Llongyfarchiadau iddynt ar gyflawni tipyn o gamp.


Llongyfarchiadau i'r peldroediwr, ifanc, lleol Josh Evans a chwaraeodd yn ddiweddar mewn gêm brawf ar gyfer lle yn nhîm ieuenctid Cymru.Pob lwc iddo. Gobeithio y caiff ei haeddiant.

Croeso adre i Gordon Seeley, Tŷ Ddewi sy newydd ddychwelyd ar ôl treulio cyfnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a phob dymuniad da i May Devonald sydd yn dal i fod yn yr un ysbyty. Pob dymuniad da iddi am wellhad llwyr a buan.

Ddiwedd Ionawr cafwyd perfformiad o 'Peter Pan'

Help i Sioe Flodau

gan Grŵp Theatr Act 1 yn Theatr y Ffenics. Unwaith eto, cafwyd gwledd o ganu ac o ddawnsio. Mae'r cwmni'n cynnwys plant o dan 18 oed a da yw gweld y fenter hon yn llwyddo gymaint. Dyma'r ugeinfed sioe iddynt ei pherfformio. Rhaid llongyfarch y grŵp ar safon eu gwaith a dweud diolch i'r cyfarwyddwyr am roi cyfle i ieuenctid yr ardal ddatblygu eu doniau.

A sôn am hynny, da oedd gweld Callum Howell, un o gyn-aelodau Act 1 yn cymryd rhan yn y sioe 'Let it Shine' ar y

Ivor Mace yn derbyn siec am £500 ar ran Clwb Garddio Ynyswen oddi wrth gynghorwyr Treorci. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal sioe flodau a llysiau'r clwb a gynhelir bob blwyddyn.

teledu yn ddiweddar. Ar hyn o bryd mae Callum yn rhan o gast y sioe 'She Loves Me' sy'n ymddangos yn Llundain ar hyn o bryd.

Rhwng 22-25 Chwefror, sef hanner tymor, bydd Grŵp Theatr y Rhondda'n perfformio 'Cinderella' yn Theatr Y Ffenics. Bydd perfformiadau am 7.15pm o ddydd Mercher a dydd Gwener a hefyd am 2pm ddydd Sadwrn.Tocynnau £10 i oedolion ac £8 i blant. Hefyd gellir cael tocyn teulu ar gyfer dau oedolyn a dau blentyn am £32.

Mae newidiadau wedi digwydd neu ar fin digwydd ar heolydd Ton Pentre. Yn dilyn cwynion gan y cyhoedd, bydd y cylchdro gyferbyn â safle'r hen lyfrgell yn diflannu. Bydd twmpathau i arafu sbid traffig yn cael eu rhoi ym Mharc Dinam a bydd y llinellau melyn dwbl yn cael eu byrhau yn strydoedd Crawshaw ac Augusta er mwyn creu mwy o fannau parcio. Gobaith y Cyg. Maureen Weaver a Shelley Rees-Owen oedd y byddai'r gwelliannau hyn yn hwyluso llif y traffig ac yn gwella diogelwch.

Yn y llun (o'r chwith) Ivor Mace, Cennard Davies, Emyr Webster Alison Chapman a Sêra Evans-Fear. drosodd

9


YSGOLION

Mae dechrau blwyddyn 2017 wedi bod yn un brysur i ddisgyblion Ysgol Cymer Rhondda- dyma ychydig o’u gweithgareddau

Ymweliadau

Cyngor-Eco Y Cymer yn ymweld â safle Trident Cafodd ein disgyblion gyfle gwych i ymweld â safle ailgylchu Trident yn ddiweddar i ddysgu am brosesau ail-gylchu Rhondda Cynon Taf.

Hacio’n Holi S4C

Roedd disgyblion y Chweched Dosbarth yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y cynhyrchiad byw o ‘Hacio’n Holi’ S4C wedi ei gynnal yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.

10


YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Ymweliadau

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

Daeth aelodau o’r British Red Cross i’r ysgol er mwyn rhoi gwersi Cymorth Cyntaf i aelodau’r chweched dosbarth. Gwersi diogelwch ffordd oddi wrth aelodau Heddlu De Cymru

Gweithgareddau 11


Etholiad Swyddogion

Chwaraeon

Llongyfarchiadau i Iestyn Williams Pencampwr Ifanc Cymru mewn Bowlio a hefyd i Dîm Pêl droed ac i Dîm Nofio’r Ysgol am eu campau yn nofio a phêl droed

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12

YSGOLION


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.