y gloran
20c
1984 - 2014
Gweler tud. 3 am hanes Carpets ‘n’ Carpets
golygyddol l TORRI GWASANAETHAU A NEWID Y DREFN
ADDYSG
Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd ein cynghorau'n derbyn £192 miliwn yn llai y flwyddyn nesaf [sef gostyngiad o 4.1%] roedd hi'n anorfod y byddai rhaid i'n hawdurdodau lleol gyhoeddi trydedd rownd o doriadau. Er gwaethaf cau llyfrgelloedd, canolfannau dydd, y Miwni ac Amgueddfa Cwm Cynon yn barod, bydd rhaid arbed £30 miliwn arall yn 2015-16 a £70 miliwn dros y pedair blynedd nesaf. Golyga hyn y bydd toriadau yn cael eu hystyried ym maes addysg feithrin, gwersi cerddoriaeth, safonau
cynnal a chadw ein strydoedd a'n parciau, CCTV, cost y gwahanol wasanaethau i'r cwsmer, digwyddiadau yn ein trefi a gofal cwsmeriaid ymhlith pethau eraill. Yn sicr, bydd y gwasanaethau hynny nad oes rhaid i gynghorau eu cynnig i gyd mewn perygl o ddiflannu a rhaid inni ddisgwyl gostyngiad sylweddol yn ein gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf. Hyd yn oed os newidir lliw'r llywodraeth y flwyddyn nesaf, mae Ed Balls, ar ran y Blaid Lafur, wedi addo'n barod na fydd yn newid y mesurau sydd eisoes mewn grym. Roedd doethineb cyhoeddiad Cameron yng nghynhadledd y Toriaid ei fod yn bwriad gostwng treth incwm i rai grwpiau hefyd yn Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru cael ei amau yn y Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison wasg o gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru gofio ein Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 2
y gloran
hydref 2014 bod yn wynebu diffyg o £37 biliwn. "O ble daw'r arian?" oedd eu cwestiwn amlwg. Yr unig sicrwydd yw ein bod yn wynebu cyfnod anodd ac ansicr. Yr ail gyhoeddiad a wnaed gan Gyngor RhCT oedd eu bod yn ystyried cyflwyno newidiadau mawr yn ein hysgolion. Yn y Rhondda, bydd ysgolion cyfun Tonypandy, Porth a Ferndale yn colli eu chweched dosbarth gyda'r dysgu i gyd yn cael ei ganoli yn Nhreorci. Yn yr ardaloedd hyn, bwriedir cau'r ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg a chreu ysgolion mawr fydd yn derbyn plant oed 3-16. Ar hyn o bryd, ymddengys y bydd Ysgol Cymer Rhondda'n cadw chweched dosbarth gan gydweithio o fewn consortiwm gyda Gartholwg, Rhyd-ywaun a Llanhari, er bod lleoliad gwasgaredig y pedair ysgol yn rhwystr i gydweithio agos. Yn y sector cynradd, bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn cael 100 lle ychwanegol trwy feddiannu'r adeilad drws nesaf - cam a fydd yn lleihau problem diffyg lle yn sylweddol. Rhwng popeth, bydd y patrwm addysg y daethom yn gyfarwydd a
YN Y RHIFYN HWN Carpets ‘n’ Carpets...1 Golygyddol/...2 Llongyfarchiadau i Carpets ‘n’ Carpets...3 FfrinDiaith...3 Jill Evans...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Shelley Rees Owen...6 Byd Bob ...7 Newyddion Lleol parhad...8-10 Ysbyty Llwynypia..10 Ysgolion...11 ..12
hi yn cael ei chwalu gyda'r unedau llai yn diflannu. Yn sicr, bydd colli dylanwad y plant hŷn yn ergyd fawr i'r ysgolion cyfun a bydd llawer o'n pobl ifainc yn colli cysylltiad â'u cynefin. Rhwng y toriadau a'r ad-drefnu ysgolion, rydym yn wynebu cyfnod cythryblus ac ansicr a fydd yn galw am arweiniad cryf a chadarn gan ein Cyngor. Does ond gobeithio y digwydd hynny!
Golygydd
CARPETS ‘n’ CARPETS YN 30 OED Gyda thair cenhedlaeth o deulu Malcolm Thomas yn gweithio yn y busnes, ynghyd â rhai o'i dylwyth a thimau ffitio sy'n cynnwys tadau a meibion yn cael eu cyflogi, gall Carpets & Carpets honni'n hollol eirwir ei fod yn fusnes teuluol. Dechreuodd y busnes ym mis Medi 1984 gyda staff o 4 yn gwasanaethu ardal Treorci'n bennaf, datblygodd i wasanaethu cwsmeriaid ledled de Cymru gan werthu carpedi a lloriau ar gyfer tai preifat a'r maes diwydiannol. Erbyn hyn, cyflogir 22 o bobl leol. Dywedodd Malcolm Thomas, "Bu datblygu
FfrinDiaith – Beth yw hyn?
Oes awr fach sbâr ‘da chi mewn wythnos? Amser cinio falle, neu hyd yn oed ar y ffordd nôl o’r gwaith? Hoffech chi gwrdd â rhywun i gael dysglaid neu beint, neu hoffech chi gael cwmni i fynd i weld drama falle? Ydych chi’n teimlo’r hoffech chi wneud rhywbeth i helpu tyfiant y Gymraeg yn y gymuned? Ydych chi newydd ymddeol falle ac yn chwilio am rywbeth i’w wneud? Wel, mae ‘da fi’r ateb i chi i gyd!! Beth am wirfoddoli i fod yn ffrinDiaith? Mae hi’n gallu bod yn anodd i ddysgwyr y Gymraeg ddod o hyd i gyfle i ymarfer siarad, mae hefyd
perthynas sefydlog â'n staff, ein cwsmeriaid a'n cyflenwyr yn allweddol wrth fasnachu ar draws tair cenhedlaeth tra ar yr un pryd yn gofalu darparu gwasanaeth da, gonest ac agored." Yn ogystal â chynnig gwaith sefydlog i'w staf llwyddodd y cwmni i gefnogi llawer o achosion da yn yr ardal. Ac yntau'n gefnogwr chwaraeon brwd, bu Mal Thomas yn gefn i nifer o dimau lleol a mentrau o bob math, gan gynnwys Y Gloran. Ymhlith eraill, cyfranogodd Clwb Bechgyn a Merched Treherbert, timau pêl droed Rhydfelin a Thon Pentre, tîm rygbi Treherbert, grwpiau theatr a chylchoedd meithrin yr ardal o'i garedigrwydd. Ers 10 mlynedd Carpets & Car-
pets yw prif noddwr Personoliaeth Chwaraeon y Rhondda. Yn ddiweddar, ymunodd y cwmni â Busnes yn y Gymuned sy'n hybu cynaladwyedd trwy ddatblygu busnesau mewn ffordd gyfrifol. Dywedodd Malcolm Thomas, "Wrth i'r busnes gyrraedd carreg filltir 30 mlynedd o fasnach, dyma enghraifft o gynaladwyedd ar waith. Llwyddasom trwy trwy ofalu am ein staff a'n cwsmeriad gan gymryd agwedd hirdymor ac ymaddasu i amgylchiadau, yn hytrach na chwilio am atebion slic, cyflym. Mae'r cyfryngau cymdeithasol newydd a gwerthu ar-lein yn newydd i fi. Taflenni, y ffôn a hysbysebu mewn papurau newydd oedd ein ffyrdd o gyfathrebu.
Er ein bod yn defnyddio Twitter a Facebook bellach, rwy'n barod iawn i adael y rheiny i'r to iau tra 'mod i'n hapus i siarad â chwsmeriaid a gwneud gwaith diflas mynd ar ôl rhai sy heb dalu!" I ddathlu'r achlysur arbennig hwn, bydd Carpets & Carpets yn trefnu gwahanol gystadleuthau i'w gwsmeriaid ac yn cyfrannu at achos lleol a enwebir gan gwsmeriaid. Ceir manylion ar dudalen Facebook y cwmni. Yn y cyfamser, mae David a Rachel Thomas, dau o gyfarwyddwyr y cwmni, yn edrych ymlaen yn eiddgar ac yn hyderus at wasanaethu'r gymdogaeth am y 30 mlynedd nesaf!
yn gallu bod yn anodd ymdoddi i’r gymuned Gymraeg. Ydych chi’n fodlon helpu? Mae’r dysgwyr yma wedi bod yn gweithio’n galed ers o leia tair blynedd, mwy na hynny i nifer ohonynt, i geisio dysgu iaith ry’n ni (os y’n ni’n siaradwyr iaith gynta) â’r fraint o’i chael yn rhwydd. Byddan nhw wedi dysgu sut mae siarad iaith ddeheuol yn y dosbarth, ond nawr maen nhw’n barod i ddysgu’r dafodiaith leol, a dyna ble byddai’n wych gallu manteisio ar eich arbenigedd chi. Y cyfan sydd angen i chi ‘neud yw siarad â nhw. Does dim angen cywiro, nag esbonio, ac yn bendant does dim angen mynd ar ôl gramadeg –
mae hyn, fel bo’r angen, yn cael ei drin yn y dosbarth; y cyfan sydd angen arnyn nhw yw ffrind. Ffrind, falle ‘naiff fynd â nhw i ryw gymdeithas sy’n cwrdd yn y Gymraeg, neu eu cyflwyno i ambell siaradwr arall, neu jyst cwrdd i sgwrsio. Rhywun fydd yn annog ac yn helpu datblygu hyder ynddynt. Gall fod yn syniad i ddau ohonoch fabwysiadu dau ddysgwr gyda’ch gilydd, mae hyn yn aml yn gallu helpu rhediad sgwrs. Ond, mae pob math o bosibiliadau; mae gen i ddau ddysgwr dw i’n cwrdd a nhw’n wythnosol am ginio. Os oes amser, gallech chi fabwysiadu sawl dysgwr â chwrdd nhw gyda’i gilydd, neu ar wahân. Chi sy’ i benderfynu.
Gallwch barhau a’r cyfeillgarwch mor hir ag sy’n addas i chi. Mae nifer fawr o barau ffrinDiaith o gwmpas y lle erbyn hyn, ac mae’n drefniant sy’n gweithio’n hwylus iawn fel arfer. Yn aml, mae’r siaradwyr rhugl ar eu hennill hefyd, boed hynny trwy wybodaeth neu arbenigedd gwahanol sydd gan y dysgwr, neu trwy ennill ffrind newydd. Felly, os hoffech chi ymuno a ni, rhowch alwad i Lowri ar 01792 642294 neu e bostiwch ar l.gwenllian@abertawe.ac. uk Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych. Diolch yn fawr.
ASE o'r Rhondda i bwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg i'r Comisiwn newydd Cyhoeddodd Jill Evans ASE wedi'r etholiadau fis Mai mai un o'i blaenoriaethau fyddai ennill statws swyddogol llawn i'r iaith Gymraeg yn yr Undeb Ewropeaidd. Er gwaethaf penderfyniad Llywydd y Comisiwn i beidio 창 phenodi Comisynydd penodol dros Amlieithrwydd, mae digon o le i wella ymwybyddiaeth a statws ieithoedd llai eu defnydd. Bydd Jill Evans yn codi'r mater yn ystod gwrandawiadau cadarnhau aelodau'r Comisiwn Ewropeaidd newydd wythnos nesaf. Roedd Jill Evans yn flaenllaw yn yr ymgyrch i ennill statws 4
cyd-swyddogol i'r Gymraeg yn Ewrop sy'n golygu bod yr UE yn darparu rhai gwasanaethau trwy'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys gallu gohebu 창'r sefydliadau Ewropeaidd drwy'r Gymraeg a chyfieithu mewn rhai cyfarfodydd. Ond cytunwyd y cymal ar gyfieithu ar y pryd gyda'r Cyngor, Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol yn unig. Nid yw mewn grym yn y Senedd Ewropeaidd o hyd ac mae Jill Evans wedi gofyn am ail gyfarfod gyda llywydd y Senedd, Martin Schultz er mwyn gweithredu hyn
yn y Senedd. Dywedodd Jill, "Nawr mwy nac erioed, mae angen i Ewrop ymgysylltu 창 phobl, a'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy gyfrwng eu hieithoedd eu hunain. Rwy'n ymgyrchu dros statws swyddogol llawn i'r Gymraeg fel un o ieithoedd swyddogol yr UE. Rwy'n gobeithio bydd Llywodraeth y DG yn cofnodi ei Llywyddiaeth o'r UE yn 2017 trwy wneud cais am hyn, fel wnaeth Llywodraeth Iwerddon. Yr hyn sy'n bwysig yn awr yw bod y Comisiwn newydd yn hyrwyddo ieithoedd llai eu defnydd. Bellach nid
oes gennym Gomisiynydd penodol dros Amlieithrwydd, ond trwy gynlluniau fel Erasmus+ a Creative Europe gallwn sicrhau bod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth. Byddaf yn holi cwestiwn i'r darpar Gomisynwyr ar hyn." Esboniodd Jill Evans ymhellach, "Mae polisiau addysg Plaid Cymru yn hyrwyddo amlieithrwydd. Mae hyn yn bwysig am resymau cyflogaeth ond am resymau cymdeithasol a diwylliannol hefyd. Nid oes ffordd fwy effeithiol i'r Undeb Ewropeaidd gyfathrebu 창 phobl nac yn eu hiaith eu hunain. Byddaf yn gofyn i Mr Juncker fabwysiadu strategaeth gadarnhaol ac effeithiol ar ieithoedd."
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Llongyfarchiadau i Jane Ludlow o Dreherbert am gael ei hapwntio yn rheolwraig tîm pêl droed merched Cymru. Treuliodd Jane 13 mlynedd yn chwarae dros dîm merched Arsenal lle sgoriodd dros 200 gôl. Yn ystod ei hamser yno enillodd Arsenal y gynghrair naw waith, cwpan yr FA chwe waith a’r cwpan Ewropeaidd yn 2007. Yn ystod ei gyrfa derbyniodd chwaraewr FA y flwyddyn dair gwaith. Dechreuodd chwarae dros Gymru pan oedd hi’n 17 a sgoriodd 19 gol mewn 61 gêm cyn ymddeol yn 2012. Ar hyn o bryd mae hi’n rheolwraig tîm merched Reading. Mae Jane wrth ei bodd yn cael y swydd ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddychweled I Gymru. Mae hi’n llawn hyder y gall tîm Cymru fod ymlith y gorau yn y byd. Pob lwc iiddi. Ar Ddydd Sul, 28 Medi ymwelodd cyn-weinidog Capel Blaenycwm y Parchedig Denis Young a’i wraig Arvonia â’r Capel i ddathu 60 mlynedd yn y weinidogaeth. Cafodd Mr Young
ei ordeinio ar 29 Medi 1954 ac roedd yn weinidog ar y capel am 6 blynedd cyn symud ymlaen. Yn ystod ei gyfnod yma roedd 19 o gapeli ac eglwysi yn yr ardal a bron pob un â gweinidog. Hefyd roedd 3 phwll glo ym Mlaenrhondda a Blaencwm, sef Tŷ-draw, Glenrhondda(Hook and Eye) a Fernhill. Ar ôl gadael aeth Mr Young i weinidogeithu yn Llaneli, Cwm Twrch a Chaergybi. Am gyfnod roedd yn warden yng Ngholeg Bedyddwyr Bangor. Blaenoriaeth gweinidogaeth Mr Young oedd efengylu a gwnaeth hyn ar hyd a lled Cymru a hefyd dros y mor ym Mrazil. Daeth nifer o aelodau’r capel ynghyd i ddaltu’r achlysur. Cynhaliwyd cwrdd diolchgarwch yn y bore gyda gwasanaeth cymun dan arweiniad Mr Young yn dilyn. Yn yr hwyr roedd Mr Young yn sôn am ei brofiadau dros y 60 mlynedd mewn gwasanaeth ar ffurf cwestiwn ac ateb. Roedd yn dda gweld aelodau hyna'r capel yn presennol sef Mrs Elenor Jones a Mrs Maud Jones a braf oedd cael croe-
sawu merch Mr a Mrs Young, Llinos, ei gwr Dilwyn a’u mab Tomos.Ar ôl y gwasanaeth roedd pawb yn rhannu paned o de a theisen I ddathlu'r penblwydd arbennig hwn. Cynhaliwyd swper cynhaeaf yn festri Blaenycwm ar y 26 Medi. Darparwyd bwyd gan Gillian a Tony Ryan a Carol Upton. Cafodd pawb noson hyfryd. Mae dosbarth dawsio ballroom yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Treherbert yn Stryd Wyndham am 7 o’r gloch ar nos Fercher. Trefnir y dosbarth gan Glwstwr Cymunedau Cyntaf pen ucha’r Rhondda Fawr. Croeso cynnes i bawb. Lansiwyd cynllun “flying start” yn Ysgol Pen Pych ddechrau mis Medi. Mae’r fenter yn darparu gofal i blant dros ddwy flwydd oed mewn ardaloedd difreintiedig. Cynhelir y dosbarth yn ddyddiol yn Ysgol Pen Pych. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Margaret Phillips, Stryd Glenrhondda, Blaen-ycwm. Bu Margaret yn weithgar yn rhengoedd y Blaid Lafur gan ddal
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN nifer o swyddi cyfrifol yn y mudiad. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w gŵr, Haydn a'r teulu oll yn eu colled.
TREORCI
Y siaradwr yng nghyfarfod agoriadol Cymdeithas Gymraeg Treorci ar 25 Medi oedd Betsan Powys, golygydd Radio Cymru. Soniodd am yr heriau oedd yn ei hwynebu yn ei swydd newydd a'r ymdrech i ddenu rhagor o wrandawyr. Ar ddiwedd ei sgwrs, cafodd gyfle i PARHAD ar dudalen 8
5
SHELLEY REES-OWEN
YR ACTORES O DON PENTRE
Yn y rhifyn hwn a'r rhai nesaf bydd Shelley ReesOwen yn rhannu ei phrofiadau wrth iddi ddilyn gyrfa ym myd y theatr a'r teledu. Ganed Shelley Rees-Owen yn Ysbyty Llwynypia yn ail o dair merch i Karen a Geoff Rees o Don Pentre. Roedd ei thad yn gweithio mewn ffatri ar y pryd ac yn aelod brwd o'r Fyddin Diriogaethol (T.A.) a olygai ei fod i ffwrdd gryn dipyn yn ystod ei phlentyndod. Yn ddiweddarach, hyfforddodd i fod yn ffisiotherapydd, gwaith mae e'n dal i'w wneud hyd heddiw. Roedd cerddoriaeth yn bwysig i ddwy ochr y teulu ond bu Irene Richards, mam-gu Shelley ar ochr ei mam, yn ddylanwad arbennig o bwysig arni. Yn ei dydd roedd Irene yn adnabyddus iawn yng nghylchoedd y cwmniau operatig lleol. Yn wraig drawiadol a chanddi lais canu ardderchog, bu galw mawr am ei gwasanaeth gan gwmniau ar hyd a lled y cymoedd a chafodd Shelley ei thynnu i mewn i'r byd hwnnw yn ifanc iawn wrth iddi weld ei mam-gu'n paratoi ar gyfer perfformiadau ac yn cael cyfle weithiau i'w helpu i ddysgu ei llinellau a'i chaneuon. Yn 7 oed, trwy anogaeth ei mam-gu, cafodd gymryd rhan mewn cynhyrchiad o 'Cinderella' ar lwyfan y Parc a'r D책r. Er taw dim ond llygoden oedd hi yn y corws ac nid yn y brif ran fel y dymunai, gadawodd y profiad argraff arhosol arni. Roedd hi wedi dwlu ar y gwisgoedd, y goleuadau a holl awyrgylch y theatr. O'r funud honno, roedd hi wedi ei bachu gan fyd newydd cyffrous y llwyfan. Yn ddiweddarach, cafodd gyfle i ymuno 책 Chwmni Spotlight mewn sioeau fel 'Oliver' ac 'Annie' a pherfformio mor bell i ffwrdd 책 Theatr y Grand yn Aberd책r. Ysgol Simon, brawd ei mam oedd y cyntaf o'r teulu i dderbyn addysg Gymraeg pan laciwyd y rheol bod angen un rhiant oedd yn siarad Cymraeg cyn i blant gael eu derbyn i Ynyswen. Er na chafodd mam Shelley y cyfle hwnnw, roedd yn awyddus i sicrhau bod ei phlant yn siarad Cymraeg ac o ganlyniad aeth y tair chwaer, Heidi, Lindsey a Shelley i Ysgol Gymraeg Ynyswen. Mae gan Shelley atgofion melys o'i chyfnod yno yn yr hen ysgol bren a'r goeden fawr yn
tyfu yng nghanol yr iard. Cafodd bob cefnogaeth gan y prifathro, Meirion Lewis a chyfle i ddysgu canu'r delyn yn ogystal. Dywed, 'Roedd gadael awyrgylch agosatoch Ynyswen am ysgol fawr Rhydfelen yn dipyn o sioc a chymerodd sbel i ddod yn gyfarwydd â'r siwrnai hir ar y bws bob bore. Chwaraeon oedd fy mhrif ddiddordeb yno. Chwerthin mae fy ngŵr a'm merch pan ddyweda' i wrthyn nhw nawr taw fi unwaith oedd yn dal record ysgolion de Cymru am redeg 200m, ond mae'n wir!' Roedd Shelley hefyd yn gapten ar dîm hoci'r ysgol a chafodd ei dewis i gynrychioli Cymru mewn pêl rwyd. I Fyd y Theatr Y tu fa's i'r ysgol, fodd bynnag, roedd ei diddordeb yn y theatr yn parhau. Cafodd wahoddiad i ymuno â Gweithdy Theatr HTV a chyfle i gymryd rhan yn 'In Sunshine and in Shadow' gan Allan Osborne oedd yn cael ei pherfformio yn Llundain am 10 wythnos ac wedyn am 4 wythnos yng Nghaerdydd. Roedd hwn
yn brofiad cyffrous i Shelley am ei bod wedi cael carden Equity am y tro cyntaf ond eto'n gyfnod digon anodd oedd hi am ei bod yn sefyll ei arholiadau TGAU tua'r un adeg. Dywed, 'Fodd bynnag, ces i bob cefnogaeth gan y cyfarwyddwr, Dorian Thomas. Roedd e'n wirioneddol wych ac rwy'n ddyledus iawn iddo am ei help a'i gyngor.' Doedd pethau ddim yn hawdd iddi yn Rhydfelen yn y cyfnod hwn a phenderfynodd ymuno â'r chweched dosbarth yn Ysgol Llanhari. Tra oedd hi yno, fe'i gwelwyd yn perfformi yn un o sioeau'r ysgol gan Glenda Jones, un o gynhyrchwyr 'Pobol y Cwm' ac esgorodd hynny ar gyfleoedd ym myd teledu. Ymddangosodd Shelley yn y gyfres 'Glan Hafren' a chael ei derbyn ar gwrs Theatr Genedlaethol Cymru a'r National Youth Music Theatre. Fel y dywedwyd, roedd ganddi garden Equity ac asiant a gyrfa yn y theatr nawr yn ymagor o'i blaen.
BYD BOB
Sôn am rai o'i hoff ddarlledwyr mae Bob Eynon y mis hwn a hefyd yn ychwanegu jôc! Rydw i wedi treulio llawer o fy mywyd yn byw i ffwrdd mewn fflatiau un ystafell. Fel arfer, roeddwn i'n dibynnu ar radio transistor am wybodaeth ac adloniant. Hyd yn oed nawr, er bod teledu 'da fi, y radio sy ymlaen yn rheolaidd yn fy nhŷ i. Dros y blynyddoedd rydw i wedi mwynhau llawer o raglenni, ond mae tair seren radio yn sefyll allan yn fy nghof. Y cyntaf yw Alistair Cooke oedd yn darlledu llythyr o America bob nos Sul am flynyddoedd maith. Fe arweiniodd e fi trwy argyfwng Ciwba yn 1962, pan oeddwn i'n
byw yn Kentish Town, Llundain, ac yna drwy farwolaeth Kennedy y flwyddyn ganlynol, pan oeddwn i wedi symud i Bedford i weithio. Am fy mod yn gweithio mewn ysgolion neu golegau, roedd gwyliau hir 'da fi. Ar ddiwedd pob tymor byddwn i'n dod yn ôl i Gwm Rhondda i weld fy rhieni a'm ffrindiau. Roedd un ffrind, Mike Crabb o Dreorci, yn gyrru lorri ar hyd a lled Lloegr, a byddwn yn mynd gyda fe'n aml. Rwy'n cofio inni
wrando ar sioe Jimmy Young ar y radio yn y cab yn y bore. Er bod Jimmyn trafod testunau dwfn, roedd synnwyr digrifwch hefyd gyda fe ac rwy'n cofio Mike a minnau'n chwerthin yn uchel tra oedd y lorri'n rholio ymlaen trwy gaeau a phentrefi. Ers i fi ddychwelyd i fyw yng Nghymru, rydw i wedi setlo i lawr mewn cadair freichiau bob nos Sul i wrando ar 'String of Pearls'. Mae cyflwynydd y rhaglen, Dewi Griffiths, o Don Pentre, wedi
cymryd lle Alistair Cooke a Jimmy Young yn fy mywyd i. Nawr, mae Dewi wedi penderfynu rhoi'r ffidil yn y to ar ôl mwy na thri deg o flynyddoedd. Wel, pob lwc, Dewi. Bydda' i'n gweld dy eisiau. ******************** ******************** ******************** Roeddwn i ar fy ffordd yn ôl o dafarn y Griffin y noson o'r blaen pan glywais i sŵn ofnadwy yn dod o'r gwli. Er gwaethaf y tywyllwch, fe fentrais i mewn i'r gwli i weld beth oedd yn digwydd. Dychmygwch fy syndod pan welais ddraenog a llygoden fawr yn ymladd yn ffyrnig ar y glaswellt. Roeddwn i'n ofni y byddai'r llygoden fawr yn lladd y draenog, ond yn y diwedd, y draenog a enillodd ... ar bwyntiau!
ymateb i nifer o gwestiynau gan y gynulleidfa. Bydd y cyfarfod nesaf ar 23 Hydref a'r siaradwr gwadd fydd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Cofiwn am ddau o'n darllenwyr sydd ar hyn o bryd y dost yn eu cartrefi sef Miss Marion Gardner, Heol Ynyswen a Miss Brenda Summerhill, Y Stryd Fawr. Pob dymuniad da am adferiad buan i'r ddwy, yn arbennig oddi wrth aelodau Hermon lle gwelir eu heisiau'n fawr. Yn ogystal, dymunwn yn dda i Brenda fydd yn dathlu ei phen blwydd yn 80 oed ar 11 Hydref. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i deul Mrs Pauline Thomas, Druids' Close a fu farw yn Ysbyty Dorchester tra ar ei
8
gwyliau gyda'i mab, Huw a'i bartner. Bu Pauline, gweddw'r diweddar Malcolm Thomas, yn gaeth i'r tŷ ers rhai blynyddoedd. Cofiwn am ei meibion, Huw a Teifion yn eu hiraeth. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Mrs Beryl Bowen, Teras Tynybedw sydd newydd ddathlu ei phen blwydd yn 90 oed. Roedd Carol a Haydn Williams, hefyd o Deras Tynybedw, yn dathlu eu Priodas Ruddem yn ddiweddar. Llongyfarchiadau iddyn nhw a phob hapusrwydd i'r dyfodol. Nos Iau, 2 Hydref, cafodd aelodau WI Treorci noson wrth eu bodd yng nghwmni Meic Jones oedd yn trafod rhai o ffilmiau Hollywood. Dyw aelodau Clwb Henoed Treorci byth yn gwrthod cyfle i fynd ar
drip ac ar 15 Hydref bydd llond bws ohonynt yn mynd am dro i Gaerfyrddin. Gobeithio y cânt ddiwrnod i'r brenin. Llwyddodd Pwyllgor Ymchwil i Gancr UK Treorci i godi dros £300 at yr achos da hwn trwy gynnal cwis dan ofal Noel Henry yn nhafarn RAFA Treorci yn ddiweddar. Mae'r Pwyllgor yn ddyledus iawn i Noel am ei barodrwydd i'w cefnogi ac i'r criw o bobl sy'n dod i'r achlysuron hyn yn gyson Gobeithio i bawb gael noson hwyliog a buddiol. Mae ffrindiau a chymdogion Marion Morgan, Stryd Dumfries yn dymuno gwellhad buan a phob cysur iddi. Mae Marion wedi bod yn gaeth i'w chartref am sbel ond ar hyn o bryd mae hi yn yr ysbyty. Hen fam-gu a thad-cu di-
weddaraf Treorci yw Meirion a Diane John, Stryd Dumfries wrth i'w gor-ŵyr, Rhion, ddod i'r byd. Llongyfarchiadau i'r ddau ac i'r teulu oll. Os prynwch chi galendr y WI am 2015, gwelwch ei fod yn cynnwys lluniau a dynnwyd gan dri o aelodau Treorci a oedd yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth ar y thema 'Tafarnau Blodeuog'. Y tair dawnus oedd Beth Phillips, Christine Jones a Nan Jones. Llongyfarchiadau ar eich camp.
CWMPARC
Croeso cynnes i Mr Neil Arthur, athro newydd yn Ysgol y Parc. Mae Mr Arthur wedi dod o ysgol ym Mhen y Bont, ac yn dysgu blwyddyn 6. Pob
dymuniad da iddo yn ei swydd newydd. Mae Mr Glan Powell, Vicarage Terrace, wedi bod yn dost yn yr ysbyty yn ddiweddar. Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan. Cynhaliodd Eglwys San Siôr ociswn yn neuadd yr eglwys ar 29 Medi. Arwerthwyd llysiau a ffrwythau'r cynheuaf, yn ogystal â chynnal cwis a sesiwn bingo a mwynhau caws a glasaid o win. Cododd y noson £155 tuag at apêl y DEC i helpu pobl yn Gaza.
Y PENTRE
Colled i'r ardal gyfan oedd marwolaeth annisgwyl Mair [Mairy] Pritchard Jones, Stryd Llywelyn, ym mis Awst. Yn aelod o hen deulu yn y dre, roedd hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd yno. Canolog i'w bywyd, yn sicr, oedd rhoi help llaw i'w chymdogion mewn trafferthion mawr a bach, ac mae'n nodweddiadol iddi fod wrthi'n glanhau tŷ ffrind difrifol o wael pan gwrddon ni gyntaf. Yn nes ymlaen, bues i'n ddigon ffodus i fyw drws nesaf i Mairy a derbyn cant a mil o gymwynasau ganddi yn fy nhro. Pan es i nôl i Virginia y llynedd, anfonai hi becyn wythnosol
o fy mhost ataf ynghyd â llythyr yn llawn o newyddion lleol. Sôn am gyfeillgarwch! Ond un yn unig ydw i o'r bobl sydd wedi elwa ar garedigrwydd Mairy a'i gofal drostynt yn ystod ei bywyd. Nid oes rhyfedd bod y gynulleidfa yn ei gwasanaeth angladdol yn llenwi Eglwys San Pedr yn llwyr. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i Bethan a leigh a'i theulu oll yn eu profedigaeth. [Anne Brooke] Roedd yn ddrwg gan bawb yn Nhŷ'r Pentre dderbyn y newyddion am farwolaeth un o'r preswylwyr, sef Emma Jenkins. Roedd Emma yn byw yn Stryd Albert cyn mynd i'r cartref ac
yn uchel iawn ei pharch yn yr ardal. Cydymdeimlwn â'r teulu yn eu colled. Pen-blwydd Hapus y mis hwn i Pat Edwards a Diane Collison, Tŷ Siloh ac i Raymond Goodwin, Tŷ'r Pentre a phob hwyl i'r dyfodol. Tristwch mawr i drigolion y Moel oedd clywed am farwolaeth sydyn Mr Haydn Hart. Roedd Haydn yn boblogaidd yn yr ardal a gwelir ei eisiau'n fawr. Cydymdeimlwn â'i wraig, Gwyneth, a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Mae dwy o arweinwyr y Sgowtiaid yn yr ardal wedi rhoi'r gorau i'w dyetswyddau yn ddiweddar.Mae Shellagh Bennett a Janette Jones wedi
Llongyfarchiadau i JANE LUDLOW rheolwraig newydd tîm pêl droed merched Cymru (gweler newyddion lleol Treherbert)
9
bod wrth y llyw am dros 25 mlynedd ond daeth yr amser i roi'r twls ar y bar. Gweithiodd y ddwy yn ddygn dros y blynyddoedd yn trefnu cyfarfodydd wythnosol yn Neuadd yr Eglwys a threfnu ar ben hynny nifer o wersylloedd i'r aelodau gan gynnwys y 'Beavers' a'r 'Cybiaid'. Roedd yn chwith iawn gan yr aelodau ffarwelio â'r ddwy ond hefyd yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth mawr dros y blynyddoedd. Cofiwch fod cyfarfod PACT yr ardal yn cael ei gynnal ar y nos Fercher cyntaf o bob mis am 6pm yn Llys Nasareth. Cewch gyfle i holi eich plismon cynorthwyol lleol a hefyd eich cynghorwyr. Croeso i bawb.
TON PENTRE A GELLI
Yn ddiweddar, cynhaliwyd noson gwis lwyddiannus gan 'New Horizons' yng Nghlwb Pêl Droed Ton Pentre. Y cwisfeistr oedd y digrifwr teledu, Lloyd Clack. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mrs Beti Evans, Stryd Dewi Sant ar ôl iddi dorri ei choes yn dilyn damwain yn ei chartref. Mae hi'n aelod ffyddlon yng nghapel Hebron lle y gwelir ei heisiau'n fawr. 10
Roedd Côr Tenovus yn cyflwyno cyngerdd yn Theatr y Ffenics, nos Sadwrn, 11 Hydref. Teitl y cyflwyniad oedd 'Does dim un dydd ond heddiw!' Pobl sy wedi dioddef o canser yw aelodau'r côr a'u thema'n pwysleisio eu bod am fyw pob munud o bob dydd i'r eithaf. Mae modd cysylltu â Chanolfan Cefnogi Gwirfoddolwyr y Rhondda nawr unrhyw ddydd Mercher yn y Ffenics o 10.30am ymlaen. Cofiwch alw heibio.. Cynhaliwyd Te Hydref Clwb y Cameo ar 24 Medi yn Nghafarn Fagin ac maen nhw yn barod yn trefnu digwyddiad olaf y flwyddyn hon, sef cinio Nadolig yn Fagins unwaith yn rhagor ar 10 Rhagfyr. Da oedd gweld tîm pêldroed Ton nôl yn ei gmal wrth iddynt guro Pontardawe'd gyfforddus o 4-1 gyda Jaymie Weam yn sgorio tair. Gêm gwpan fydd yr un nesaf pan fyddant yn herio Mynwy ar Barc Pen-y-pownd, Y Fenni. Pob dymuniad da iddynt ar gyfer y gêm honno. Bu fferyllydd poblogaidd y Gelli, Masoud, yn brysur iawn yn ddiweddar wrth iddo nid yn unig lwyddo i gwblhau hanner marathon Caerdydd ond trwy wneud hynny hefyd gasglu swm sylweddol o arian at Elusen MacMillan sy'n cynnig
gofal nyrsio i ddioddefwyr canser. Llongyfarchiadau a llawer o ddiolch! Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i Mrs Janet Hanley, Y Parêd wrth iddi ymddeol o fod yn athrawes yn Ysgol Gynradd Ton Pentre a hefyd
ar enedigaeth wyres sydd hefyd yn or-wyres i Beti a Gwyn Evans, Stryd Dewi Sant. Yn ddiweddar, bu farw Mrs Margaret Grist, Stryd llanfoist. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w theulu yn eu profedigaeth.
Ward Gymraeg Arloesol i Gleifion yn Llwynypia Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi dewis ward benodol yn un o’i ysbytai i ofalu am gleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cleifion ar Ward B2 yn Ysbyty Cwm Rhondda yn gallu derbyn eu gofal a’u triniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, nawr, o ganlyniad i gynllun peilot i helpu cleifion sy’n dymuno cael eu gofal drwy’r Gymraeg. Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo ledled Cwm Taf gyda staff yn cael cynnig hyfforddiant Cymraeg ac yn cael eu hannog i ddefnyddio geiriau syml, bob dydd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad y Gymraeg yn rhugl, i helpu cleifion deimlo’n gartrefol. Dynodwyd tîm o’r staff gan Uned Iaith Gymraeg y Bwrdd Iechyd Prifysgol i gymryd rhan yn y cynllun i helpu cleifion siarad Cymraeg ar y ward. O ganlyniad i hyn, gwneir ymdrech ymwybodol wrth dderbyn cleifion i ofyn i gleifion sy’n siarad Cymraeg a hoffen nhw fod ar Ward B2. Dywedodd Rebecca Aylward, Uwch Nyrs yn Ysbyty Cwm Rhondda: “Mae’r gwaith yma’n hanfodol os ydym i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio o ddifrif ar y claf. Mae’r buddion i gleifion a staff yn caniatáu cyfathrebu gwell ac mae’n datgloi cyfleoedd i fwyhau gofal cleifion oedd yn anodd eu rheoli gynt wrth i’r claf adnabod ac felly ymateb i ymyriadau gofal.”
Newyddion YGG Bodringallt ac YGG Bronllwyn y tro yma. BORE COFFI BODRINGALLT
YSGOLION
YSGOLION
Dyma Fore Coffi Macmillan cynhaliwyd gan rhieni BODRINGALLT yn ddiweddar, Casglodd £200 ar gyfer yr elusen.
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
PROSIECT HANES BLWYDDYN 3 BRONLLWYN
11
Gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig
Dyma blant newydd Bronllwyn. Bydd rhagor o luniau disgyblion newydd ein hysgolion yn rhifyn nesaf Y Gloran.