y gloran
20c
BETHAN DARWIN YN YMWELD Â HIGH ST SOCIAL TREORCI 30 mlynedd yn ol, roedd yna dros 60 o gaffis Eidalaidd yn y Rhondda. “Bracchis” roedd pawb yn eu galw, ar ôl y teulu Bracchi a sefydlodd y caffi cynta yn y Rhondda, ond roedd yna lwyth o deuluoedd gwahanol yn rhedeg y caffis
Un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ynyswen yw Bethan sy'n gyfreithwraig yng Nghaerdydd. Mae hi hefyd yn golofnydd cyson i'r Western Mail.
– Rabaiotti, Berni, Carpanini, Sidoli- a’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o’r un ardal yn yr Eidal, sef Bardi. Yn ystod yr ail ryfel byd, cafodd llawer o’r Eidalwyr yma eu carcharu ar Ynys Wyth (lsle of Wight) fel gelynion es-
tron ond fe ddychwelon nhw i’r Rhondda ar ôl 'ny ac ailgydio yn y broses o werthu coffi a the a hufen iâ a sglodion i drigolion y Rhondda. Roedd y caffis yn rhan bwysig o fywyd y Rhondda – llefydd i gwrdd â ffrindiau, yfed
coffi frothy, a sgwrsio.
Ond yn y trigain mlynedd diwetha mae niferoedd y caffis 'di lleihau am nifer o resymau – arferion pobl yn newid, cystadleuath oddi wrth siopau coffi newydd fel Costa a Starbucks, a
golygyddol l Newidiwyd tirlun rhan uchaf y Rhondda Fawr yn sylweddol dros yr haf wrth i fwyfwy o dwrbeini gwynt gael eu codi ar ben Mynydd Rhigos. Erbyn hyn amgylchynnir pen ucha'r cwm gan fyddin o felinau gwynt anferth sydd yn arbennig o amlwg o'r gwaelodion gan eu bod wedi eu lleoli ar grib y bryniau. Yn ôl y sôn, dyma'r fferm wynt fwyaf ar dir mawr Prydain a dim ond nawr mae pobl leol yn dechrau amgyffred maint ymelinau a sylweddoli cymaint o
2
wahaniaeth maen nhw'n ei wneud i'r olygfa. Vattenfall, cwmni o Sweden yn wreiddiol, sy'n gyfrifol am y datblygiad ac felly cwmni o dramor fydd yn elwa'n bennaf ar y prosiect. Sonnir llawer am am y budd a gaiff y cymunedau ym mlaenau'r cymoedd o'r cronfeydd lleol a sefydlir, ond canran fach iawn o'r elw yw hwn. Fel yn achos y diwydiant glo, y gymdeithas leol fydd yn dioddef yr holl anfanteision tra bo
Cynllun gan High Street Media
2016
y gloran
YN Y RHIFYN HWN Bethan yn High St Social..1 Golygyddol...2 Paul Kirner’s Music Palace...4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Englyn/Cartwn/ Cymdeithas Gymraeg/ Byd Bob ..6-7 Music Palace parhad...10 Ysgolion...11-12
dieithriaid yn pocedi mwyafrif yr elw. Cynhyrchir y twrbeini eu hunain dramor ac felly ni ellir dadlau eu bod yn creu gwaith i bobl Cymru a phan fydd y cwbl yn eu lle, ychydig o
weithwyr y bydd eu hangen i'w cynnal. Un o brif ddiffygion y ffermydd gwynt hyn yw nad oes unrhyw reolaeth gan y cymunedau lleol arnynt. Mewn byd delfrydol, byddai'r berchnogaeth yn nwylo pobl leol a hwythau fyddai'n elwa'n ariannol. Yn achos Pen y Cymoedd, llywodraeth Llundain oedd yn penderfynu a gelent eu codi ac nid oedd barn gwleidyddion Caerdydd yn cyfrif o gwbl. Rhaid i hyn newid, i roi i bobl Cymru reolaeth ar eu hadnoddau naturiol, megis ynni gwynt a dŵr. Wrth gwrs, mae i ynni gwynt ei fanteision. Mae sicrhau nad ydym yn ddibynnol ar ffynnonellau ynni tramor a allai fod yn nwylo gwlad elyni-
HIGH STREET SOCIAL parhad
phlant y teuluoedd Eidalaidd yn dewis gyrfa wahanol i’w rhieni. Pan glywodd Geraint Hughes a’i wraig Catherine bod Carpaninis yn High Street Treorci yn debygol o gau, penderfynon nhw alw ar eu ffrindiau a’u teulu i gadw’r caffi ar agor. Pan oedd Geraint yn yr ysgol yn Nhreorci, i Carpaninis roedd e a’i deulu a’I ffrindiau yn mynd. Er roeddent am aros yn ddilys i wreiddiau Eiaethus. Hefyd, mae'n lân gan nad yw'n cynhyrchu CO2. Ar y llaw arall, oherwydd natur y gwynt, mae llif yr ynni'n anghyson ac o'i gymharu a ffynnonellau ynni eraill, yn ddrud iawn i'w gynhyrchu. Yn fwy na dim, ym marn y cyhoedd mae'r datblygiadau hyn yn anharddu'r dirwedd ac yn newid yr olygfa'n llwyr. Ond beth bynnag yw eich barn, naill ai o blaid neu yn erbyn ffermydd gwynt, mae'n amlwg ein bod bellach wedi cyrraedd pwynt yn yr ardal hon pan fydd yn rhaid dweud, "Digon yw digon". Nid da rhy o ddim, medd yr hen air, ac o safbwynt twrbeini gwynt, byddai'r rhan fwyaf o drigolion blaenau'r Rhondda'n cytuno.
dalaidd y caffi, maent wedi ei ail enwi'n High Street Social, yn adlewyrchu nid yn unig y lleoliad ond hefyd ei natur gymunedol a chymdeithasol. Maent wedi adnewyddu’r adeilad sydd bellach yn fodern o ran golwg ac yn llawn golau ond heb anghofio hanes y lle. Mae yna bosteri ar y waliau yn hysbysebu Corona a gorymdaith y glowyr, “Red Sunday in Rhondda” i Lundain yn 1927. Mae yna bwyslais ar fwyd a diod ffres a lleol,
yn cynnwys Cwm Rhondda Ales, cacenni gan Kim and Flo o Stryd Bute, Treorci ac maent yn pobi bara eu hun bob dydd. Mae’r caffi yn ffodus bod Scott Davis, chef profiadol sydd wedi gweithio hefo Marco Pierre White ac ym mwyty Siapanaidd Nobu wedi cytuno i sefydlu’r gegin. Mae’r fwydlen yn syml ond o safon uchel ac yn rhesymol o ran pris. Rydw i bellach 'di trio’r Croque Monsiuer a’r afocado ar dost a 'di mwynhau’r ddau yn fawr.
Mae’r ffa coffi yn dod o El Salvador ac yn cael ei rhostio’n ffresh ac yn ogystal â flat whites a cappucino’s mae na frothy coffee gwreiddiol ar gael. Rhaid gofyn am“Mrs C.” Mae High Street Social yn cynnal nosweithiau arbennig hefyd – fel Leanne Wood yn dod i drafod hanes “Red Sunday in Rhondda” a oedd yn noson ddiddorol dros ben a nosweithiau “pop up” fel un i gofnodi bywyd Paul Robeson gyda bwydlen Americanaidd ac un arall gyda
parhad drosodd
Golygydd
3
HIGH STREET SOCIAL parhad
pizza artisan a cherddoriaeth fyw. High Street Social yw’r union fath o le mae pobl y Rhondda yn haeddu. Gyda golwg i’r dyfodol ond â pharch at ein hanes, lle i gwrdd a thrafod a mwynhau, dros
fwyd da a lleol, gyda choffi neu lasiad o win neu gwrw. Byddaf yn ymweld eto yn gyson. A dyma farn Siân a Gill Davies, Treorci ar ôl ymweld â'r caffi newydd. 'Aethon ni am ginio i ddathlu penblwydd arbennig Hilary Reynish heddi. Croeso bendi-
gedig a bwyd hyfryd. Os nad ydych chi wedi bod yno eto, ewch - fyddwch chi ddim yn siomedig. Mae’r dewis o enwau lleol ar gyfer y bwyd yn wych ac mae’n braf i weld eu bod nhw’n defnyddio cynnyrch lleol hefyd. Pob lwc i'r fenter newydd. SD High Street Social
Awyrgylch 5* Bwyd 5* Gwasanaeth 5* Braf gweld sefydliad o'r fath ar stryd fawr Treorci. Bwyd syml o'r safon uchaf, a phrydiau amrywiol ar y nosweithiau themaol. Pob llwyddiant i'r fenter! "Sgwrs Bwrdd", gan Gill (nid 'A. A.'!)
Cefais fy ordeinio yn weinidog i Iesu Grist a’m sefydlu yn eglwysi Annibynnol Ebeneser Tylorstown a Saron Ynyshir. Roedd hynny ym mis Medi 1965. Dyma fi, dros hanner can mlynedd yn ddiwed-
darach yn dod yn ôl i Saron ar bnawn Sul. Beth fydd wedi newid tybed?Gallai fod hanner cant yn oedfa’r Sul bryd hynny, a minnu’n eu nabod i gyd. Roedd cant a hanner yno’r tro yma; pob un yn ddiarth i mi,
Diflannodd yr hysbysfwrdd y tu fas oedd yn nodi mai Capel Saron yw hwn, ac yn ei le mae ysgrifen neon yn cyhoeddi mai dyma’r Music Palace.
betrusgar, a cherdded drwy’r bar sydd yn yr hen festri ac i mewn i’r capel. Mae’r llofft a’r pileri yn dal yno, a’r sêt fawr, ond bod llwyfan drosti. Mae rhyw ddeg o
YMWELD Â PAUL KIRNER’S MUSIC PALACE
4
Dyma fentro i mewn yn
Parhad ar dud 10
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Derbyniwyd cadarnhad bod pont St Alban (New Bridge) yn mynd i gael ei hadnewyddu yn llwyr. Bwriad gwreiddiol y Cyngor oedd i edrych ar nifer o bosibiliadau yn cynnwys dymchwel y bont yn gyfangwbl a gweneud y bont ar gyfer cerddwyr yn unig. Mae’r Cyngor yn mynd i ddechrau ar y gwaith sylfaen ym mis Hydref ac adeiladu'r bont newydd ym mlwyddyn 2017/18. Mae hyn yn newyddion da iawn i bobl Tynewydd, Blaenrhondda a Blaencwm. Ar ôl trafodaeth gyda swyddogion Cyngor Rhondda Cynon Taf, mae perchennog y cae ar waelod y Rhigos wedi cytuno i adfer yr hawl tramwy ar draws ei dir. Adeiladir dwy gamfa newydd a grisiau o’r heol i’w cyrhaedd o fewn yr wythnosau nesaf. Mae Adran Cadwraeth Llywodraeth Cymru (CADW) yn paratoi cais i’r Loteri Cenedlaethol am brosiect i godi ymwybyddiaeth am hanes pentref Blaenrhondda ac yn arbennig pwll Fernhill. Crewyd y cynllun trwy ymgynhori gyda ieuenctid o “Valleys Kids”, hen drigolion y strydoedd a oedd yn ymyl y pwll sef Caroline a Fernhill a hen lowyr. Bwriadir creu cyflesterau ar gyfer
ymwelwyr a chynllun digidol o’r pwll. Mae cyrsiau newydd yn dechrau yn y Feddygfa Celfydyddau (Arts Surgery) ar bwys capel Blaenycwm. Ar nos Lun o 5 i 6 mae clwb crefftiau i blant (llawn ar hyn o pryd). Ar y diwrnodau eraill mae cyrsiau ar gyfer oedolion. Ar ddydd Mawrth 10-12 mae arddurno gwydr, ar ddydd Mercher rhwng 1 a 3 mae crefftiau gwahanol, ar ddydd Iau mae gwau a crochet ac ar ddydd Gwener o 1 i 3mae
gwnïo a chlytwaith (patchwork). Croeso cynnes i unrhyw oedolyn sy eisiau ymuno Mae'n lin gennym gofnodi marwolaeth sydyn Julian Smith o Brook St Blaenrhondda yn 41mlwydd oed Cydyndeimlwn â’i holl deulu yn eu galar.
TREORCI
Llongyfarchiadau mawr i Cerian a Rhodri Jones ar eu priodas, 3 Medi yng
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
PARHAD ar dudalen 8
5
ENGLYNION CWM RHONDDA - 3 Roedd Parch J. J. Williams (1869 - 1954) yn aelod o deulu symudodd o Sir Aberteifi i Gwm Cynon a thra yn lowr yn Ynys-y-bwl, dechreuodd farddoni a phregethu cyn mynd i Goleg Coffa Aberhonddu. Daeth yn weinidog ar Siloh, Pentre yn 1903 ac yn 1906 enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl boblogaidd 'Y Lloer'. Cyhoeddodd farddoniaeth a nifer o storiau yn nhafodiaeth Cwm Rhondda. Mae'r englyn hwn i'w weld ar garreg fedd Brynfab [Thomas Williams], y bardd a'r llenor a fu'n ffermio'r Fforch, Treorci, ym mynwent Eglwysilan, yn ymyl Pontypridd. Os nad ydych chi wedi ymweld å'r pentref bach gwasgaredig hwn rhwng Cwm Taf a Chwm Aber, gwnewch ar bob cyfrif. Mae bedd Brynfab tu ôl i'r eglwys ar yr ochr dde wrth edrych o glwyd y fynwent.
AR FEDD BRYNFAB Oedd athro beirdd, a thra bo - odli cân Deil cenedl i'w gofio; Er rhoi trist farmor trosto Difarw ei wawd a'i fri o. [Sôn am y newid a ddaeth ym maint y traffig ar ein strydoedd mae Bob Eynon y mis hwn ac yn enwedig y problemau a gawn i barcio.]
BYD BOB
6
Pan oeddwn i'n wyth neu naw mlwydd oed, fe brynodd fy nhad feic modur a seicar oddi wrth ddyn o Dreorci. Doedd y beic ddim wedi ei drethu, felly roedd rhaid i ffrind fy nhad dynnu'r beic o Dreorci i Dynewydd y tu ôl i'w fan. Rwy'n cofio aros iddyn nhw gyrraedd ein tŷ yn Blaencwm Terrace.
Pan ddaeth y lorri rownd y gornel ar waelod y bryn, doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun yn y stryd. Roedd ein cymdogion wedi clywed y newyddion ac roedd llawer ohonyn nhw'n sefyl o flaen eu drysau ffrynt i gael cipolwg ar y beic a'r seicar. Wrth gwrs, fyddai neb yn cymryd diddordeb mewn beic modur ail-law y dyddiau hyn. Ond ar ddiwedd y pedwardegau dim ond un car oedd yn y teras i gyd. Roedd y car yn perthyn i deulu o'r enw Hadrell. Roedd y brodyr Hadrell wedi bod yn gyfrifol am gasglu sbwriel y tai a'r strydoedd am flynyddoedd. ond ar ôl yr Ail Ryfel byd roedd Cyngor Cwm Rhondda wedi cymryd y busnes drosodd fel ym mhobman arall ym Mhrydain. Roedd teulu Hadrell wedi derbyn iawndal am
golli eu busnes a hefyd roedden nhw i gyd wedi dod o hyd i waith fel gyrwyr loriau sbwriel gyda'r Cyngor. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn ystod gwyliau'r haf, fe ddes i adnabod y brodyr yn well pan oeddwn i'n gweithio fel casglwr sbwriel dros dro gyda'r Cyngor ar ddiwedd pob blwyddyn yn y brifysgol Roedd y tri ohonyn nhw, Ivor, Walter a Cyril yn fechgyn dymunol iawn ac fe ddysgais i lawer am y bywyd oddi wrthyn nhw. A dweud y gwir, doedd dim llawer o gerbydau o gwbl ar y strydoedd y dyddiau hynny. Dyna pam roedd pob un ohonyn nhw'n gwneud argraff arna' i, efallai. Er enghraifft, y bws unllawr oedd yn teithio trwy'r teras ar ei ffordd i hen gymuned Fernhill ar lethrau Mynydd Rhigos;
y bysiau deulawr oedd yn mynd â fi a'm ffrindiau i Ysgol Ramadeg y Porth. Rwy'n cofio cyflymder drychynllyd y bysiau 'na pan oedd y gyrwyr mewn brys i gyrraedd y depo. Wrth lwc, roedd y strydoedd yn wag, hyd yn oed y priffyrdd. Gymaint mae'r sefyllfa wedi newid yn y cyfamser! Roeddwn i'n siarad â hen ffrindiau, bert a Christine Rabaiotti y dydd o'r blaen. Fe symudon nhw o Dreorci i Banbury rai blynyddoedd yn ôl. Pan fyddan nhw'n ymweld â Threorci o bryd i'w gilydd, mae'n nhw'n synnu gweld pa mor gyflym mae'r problemau parcio'n tyfu yn ein strydoedd. Wrth gwrs, mae Bert a Chrisina'n gallu dianc i Banbury. Ond beth am y gweddill ohonon ni.T
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI A'R CYLCH
Nghapel Bethlehem, Treorci, a'r dathlu yn dilyn ar fferm Llwynbedw, Cwmgïedd. Er gwaetha'r glaw mawr cafwyd amser bythgofiadwy yng nghwmni'r teulu a ffrindiau - pawb yn eu dillad priodas a'u 'wellies'. Diolch i bawb a wnaeth i'r diwrnod fod yn un arbennig.
Tristwch i bawb oedd clywed am farwolaeth Miss Gwyneth Wright, gynt o Stryd Regent, a fu farw ddechrau mis Medi yn 93 oed. Am flynyddoedd, bu'n gyfrifol am siop Owen Thomas yr adeiladydd ac roedd hi a'i chwaer, Olwen a'i brawd, Eilir yn adnabyddus iawn yn yr ardal. Am nifer o
8
flynyddoedd bu hi ac Olwen yng nghartref Ystradfechan cyn bod angen mwy o ofal nyrsio arnynt. Cydymdeimlwn â'i nai, Dr Iwan Ball a'r teulu yn eu profedigaeth.
Donnie Joe's American Swing oedd yn difyrru aelodau Clwb Jazz y Rhondda, nos Fawrth, 27 Medi yng Nghlwb Rygbi Treorci a chafodd pawb hwyl fawr yn eu cwmni.
Llongyfarchiadau i Kay a Roger Thomas, Stryd Regent, ar ddathlu eu Priodas Aur yn ddiweddar. Pob dymuniad da iddynt i'r dyfodol. . Mae pwyllgor yn y broses o gael ei ffurfio
i wella'r adnoddau ym mharc Treorci. Enw'r grŵp yw Cyfeillion Parc Treorci a chynhelir cyfarfod i ethol swyddogion ac aelodau o'r pwyllgor yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci, nos Fawrth, 1 Tach am 6.30 pm. Os oes gennych ddiddordeb, dewch i'r cyfarfod.
Pen-blwydd Hapus iawn i Mrs Doris Merriman, gynt o Stryd Hermon, ond sydd bellach yng Nghartref Gofal Ystradfechan, ar gyrraedd 100 oed ddydd Sadwrn, 24 Medi. Mae Doris yn dal yn effro iawn i bopeth sy'n digwydd o'i chwmpas ac yn ffraeth ei thafod a dymunwn iddi bob ben-
dith i'r dyfodol.
Nos Sadwrn, 1 Hydref y siaradwr gwadd yn theatr y Parc a'r Dâr oedd Al Worden, peilot ar y llong ofod Apollo 15. Rhannodd ei brofiadau ar y daith â'r gynulleidfa.
Llongyfarchiadau i Mr Gareth Evans, Stryd Luton a ddathlodd ei ben-blwydd yn 80 oed yn ddiweddar. Roedd Gareth yn ei ddydd yn chwaraewr rybi a pheldroediwr brwd i glwb rygbi a chlwb bechgyn Treorci. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol. Yn ddiweddar cyfarfu cynghorwyr Treorci a nifer o rieni ag Ann Crimmins, yr aelod
cabinet sy'n gyfrifol am barciau ym mharc Treorci i drafod nifer o welliannau posib. Gobeithiwn y gwelir rhai o'r rhain mewn bodolaeth erbyn yr haf nesaf.
Pob dymuniad da am adferiad buan i John Davies, Stryd Dunraven sydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd a hefyd i Mrs Margaret Haskins sydd yn Ysbyty Cwm Rhondda.
Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Betty Hughes, Wodland Vale. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w gŵr, Elfed yn ei hiraeth.
Mae ei ffrindiau a chymdogion am anfon eu dymuniadau gorau at Mrs Betty Luscombe, Stryd Rees ac i Mrs Betty Rees, Stryd Regent sydd ill dwy yn gaeth i'w cartrefi ar hyn o bryd oherwydd afiechyd.
Prynhawn dydd Mawrth, 11 Hydref, cynhaliodd Radio Rhondda ddawns te yn y Clwb Rygbi gyda'r elw'n mynd at gynnal yr orsaf radio. Bu'r Cyng. Emyr Webster a grŵp o wirfoddolwyr wrthi'n ddiweddar yn codi sbwriel yn yr ardal o
gwmpas Low-cost a'r orsaf.
CWMPARC
Bydd Gwyl Coed Nadolig yn Eglwys San Sior, Cwmparc rhwng 12 -14 mis Rhagfyr. Bydd y rhaglen yn cynnwys carolau a gwesteion o ysgolion lleol. Rhagor o fanylion y mis nesaf.
Y PENTRE
Nos Sadwrn, 1 Hydref, cynhaliodd Cymdeithas Twnnel Cwm Rhondda ddawns yn Neuadd y Lleng Brydeinig gyda'r elw yn mynd i gronfa'r gymdeithas.
Da yw gweld Mr Gwyn Davies, Stryd Elizabeth gartref ac o gwmpas y lle ar ôl iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty.. Mae Gwyn yn gyn-bennaeth Saesneg yn Ysgol Gyfun Treorci.
Chwawyd breuddwyd Cadetiau Môr Cwm Rhondda i brynu Barics y Pentre pan werthwyd yr adeilad i brynwr preifat lleol am £126,000. Roedd Chris Bryant AS wedi sgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn yn
cefnogi cais y cadetiaid, ond ofer fu ei ymdrechion. Er bod y cadetiaid sy â'u pencadlys yn Llwynypia, eu bwriad nawr yw ceisio codi gwell adeilad ar ysafle presennol. YN 2011, ar ôl bod ar agor am 108 o flynyddoedd, caeodd Clwb Ceiwadwyr Ton Pentre sydd yn 50 Heol Ystrad. Nawr mae cais i droi'r adeilad yn unedau preswyl.
Ers 5 mlynedd bu Clwb Crefftau Lemon Blues yn cwrdd yn gyson, ond bellach cymerir ei le gan glwb misol fydd yn dysgu pob math o grefftau yn ymwneud â thecstilau. Am ragor o fanylion cysylltwch â Melissa Warren, 73 Stryd Llewellyn.
TON PENTRE
Yn dawel ar 4 Medi, bu farw Mrs Gwen Gough, Queen St, yn 96 oed, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yn adnabyddus iawn yn y Ton, bu Gwen yn weithgar iawn gyda'r WI a mudiadau eraill yn yr ardal. Cydymdeimlwn A'i meibion, David a Richard a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Bydd preswylwyr Tŷ Ddewi yn cynnal Bwffe Cartre, 21 Hydref am
1.30pm i godi arian at elusen 'Giving to Pink'. Nod y grŵp yw tynnu sylw at yr angen am ofal canser arbenigol o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Yn dilyn y bwffe bydd cwis a raffl a'r holl elw'n mynd at 'Giving to Pink'. Llongyfarchiadau i Dr Masoud Ahmadi, fferyllydd y Gelli ar gwblhau Hanner Marathon Caerdydd yn llwyddiannus a chodi arian at elusen Nyrsys Macmillan.
Blin yw cofnodi marwolaethau Mrs Lizzie Bronwen Griffiths, Stryd Bailey a Mrs Jinney Hendy, Stryd Albion. Cofiwn am eu teuluoedd yn eu profedigaeth.
Yn ddiweddar cynhaliwyd bore coffi llwyddiannus iawn yn yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg gyda'r holl elw yn mynd at elusen Nyrsys Macmillan. Braf clywed bod Mr John Weston, Stryd Parry bellach yn well ac adre o'r ysbyty. Pob dymuniad da iddo.
Cafwyd gwledd o ganu a dawnsio yn Theatr y Ffenics pan berfformiwyd y sioe 'Back to the 80s' gan Grŵp Theatr y Rhondda. Da oedd gweld bod plant anabl yn cael cyfle i gymryd rhan.
9
PAUL KIRNER’S MUSIC PALACE parhad o 4
organau ar ddwy ochr y capel. Wedi edrych ar bob un, a’r nodiadau yn dweud amdanynt, cawn ddewis seddau ac aros am ddechrau’r Cyngerdd i Ddathlu agoriad Mawreddog Organ Theatr Christie.Pan ddaeth yr amser dechrau, cododd clawr y sedd fawr a dyrchafodd organ odidog Christie a’r organydd i’r golwg o’r gwaelodion. Bu Paul Kirner, sefydlydd y fenter, wrthi am awr gyfan yn ei chanu yn feistrolgar dros ben. Roedd yn amlwg ei fod yn organydd medrus iawn, a bod yr organ yn un hynod. Yn ail hanner y cyngerdd John Mann oedd wrth y llyw, gŵr a dreuliodd ei oes ar lwyfannau uchaf sioeau cerddorol. Roedd ei berf10
formiad, awr o hyd, yn ardderchog. Roedd yn bnawn i’w gofio, a phawb, mae’n rhaid, yn troi am adre yn hapus iawn, a rhai yn mynd cyn belled â Nottingham a Leicester, pobl a ddisgrifiwyd fel “organ nutters”-pobl wedi ffoli ar sain yr organ theatr! Roedd y cwbl yn wahanol iawn i’r hyn ydoedd hanner canrif yn ôl, ond roeddwn yn falch bod Saron yn dal yn fan lle mae pobl yn cyfarfod, ac wrth eu bodd. Adeiladwyd yr organ yn wreiddiol gan Hill,Norman and Baird yn Llundain yn 1934. Dyma’r pedwerydd offeryn Christie i’w llunio, a’r olaf.Teithiodd o gartre i gartre dros y blynyddoedd gan gynnwys cyfnod yn Neuadd
Goffa, y Barri(19852010)Wrth i gyngherddau a dawnsfeydd fynd yn brinnach rhoed hi o’r neilltu,a’i dyfodol yn fregus iawn. Bu Paul Kirner y organydd proffesiynol ers 1964, gan berfformio mewn theatrau ar hyd a lled Lloegr. Yn y saith degau agorodd ef a’i wraig, Hazel ganolfan Compton Lodge yn ymyl Caerlyr, lle cynhaliant gyngherddau a dawnsfeydd a chabaret. Cyfarfu Paul â Ben Snowdon o Gaerdydd rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Roedd yntau wedi ffoli ar organau. Daeth y ddau yn ffrindiau. Deallodd Ben fod Saron wedi cau, ac wedi llawer o drafod penderfynodd Paul y byddai yn lle campus i osod yr organ
Christie ac yn gartref i’r organau theatr eraill y gellid eu dangos i’r cyhoedd. Yn y man, daw organ fawr arall, Compton, i rannu’r sedd fawr gyda’r Christie, a bydd lifft yn cael ei gosod iddi hithau hefyd i ddyrchafu o’r gwaelodion i olwg y gynulleidfa. Bu tro ar fyd mewn hanner canrif. Mae hiraeth, a galar hyd yn oed, am yr hen oleuni a gafodd ei ddifodd a’r oedfa a wthiwyd i’r ochr. Ac eto, gan taw felly y bu, tybiaf y byddai llawer o’r hen ffyddloniaid yn ddigon cyfforddus gyda’r datblygiadau hyn. Mae llawenydd a chân yn para. Dewi M. Hughes.
.
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
BETH
BETH YN RHAN O SGWAD Y GLEISION Llongyfarchiadau mawr i Beth Huntley o Flwyddyn 10 ar gael ei dewis yn aelod o garfan dan 18 Y Gleision ar gyfer eleni – camp arbennig iawn, yn enwedig o ystyried ei bod dim ond yn bymtheg mlwydd oed. Gwych Beth, pob hwyl i ti!
BECHGYN Y CYMER YN CWRDD Â SÊR RYGBI CYMRU
FFION
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
FFION YN SERENNU AR Y CWT PEL-RWYD Llongyfarchiadau mawr i Ffion Kelland o flwyddyn 10 ar gael ei dewis i gynrychioli tim Pêl-rwyd y sir (Cymoedd Morgannwg) eleni. Ry'n ni i gyd yn falch iawn ohonot, Ffion!
JESSICA
JESSICA YN CYNRYCHIOLI CYMRU Llongyfarchiadau mawr iawn i Jessica Clayton o Flwyddyn 11, ar gael ei dewis yn un o 10 person ifanc sydd wedi’u dewis i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol trwy waith Guides Cymru. Roedd 2000 o bobl ifanc wedi ymgeisio, felly mae llwyddiant Jessica wir yn arbennig iawn. Gwn y byddi yn llysgennad gwych Jess!
Cafodd rhai o fechgyn y Cymer sy’n aelodau o garfan Rygbi Ysgolion Y Rhondda gyfle bythgofiadwy yr wythnos hon wrth iddynt gwrdd â chwaraewyr Rygbi Cymru a chael cyfle i ymarfer gyda’r sgwad ar y cae. Dyma rai o fechgyn Bl 9 gyda Dan Lydiate! 11
CYMER YN CEFNOGI ELUSEN HAFAL
YSGOLION
Cawsom y fraint o gyflwyno siec anrhydeddus am £2000 i Dr Elin Jones a ddaeth atom ar ran yr elsusen Hafal yr wythnos ddiwethaf. Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn cefnogi’r elusen a chodi ymwybyddiaeth disgyblion a staff o bwysigrwydd iechyd meddwl, dan arweiniad ein Pennaeth Cynorthwyol, Mr Osian Griffith. Ers mis Gorffennaf mae Mr Griffith wedi cystadlu mewn 3 treiathon ac un hanner ‘Dyn Haearn’ ac mae cymuned yr ysgol wedi ei noddi. Yn ogystal, trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau i ddisgyblion a staff gan gynnwys cystadleuaeth Tynnu Rhaff. Ar ran yr elusen holl bwysig hon, dyweddodd Dr Jones “Diolch o waelod calon i ddisgyblion a staff Ysgol Gyfun Cymer Rhondda am weithio mor galed i godi arian i Hafal, ac am godi swm mor anrhydeddus hefyd. Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd ar ran aelodau a staff Hafal. Diolch am yr arian, a diolch hefyd am godi ymwybyddiaeth o waith Hafal ac o broblemau iechyd meddwl. Mae gwybod am eich cefnogaeth yn hwb i’r ysbryd!” Diolch yn fawr a llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cefnogi’r elusen ac i Mr Griffith am arwain yr ymgyrch. Diolch yn fawr iawn i'r chweched Dosbarth am drefnu bore coffi/Cacennau Macmillan gan godi swm anrhydeddus o dros £300 i’r Elusen Macmillan. Ymdrech wych!
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12
YSGOLION