y gloran CF 42
20c
gweler dud 3
TROI RHEDYN YN DANWYDD
TROI RHEDYN YN DANWYDD. MENTER GYFFROUS NEWYDD
fod yn waredigaeth mewn mwy nag un ffordd. Ers tro, dangoswyd bod modd troi'r rhedyn yn danwydd, ac yn barod Mae rhedyn yn tysefydlwyd cwmni yng fu'n rhemp ar y bry- Ngwlad yr Haf i gynniau sy'n hyrchu'r hyn a elwir amgylchynnu Cwm ganddynt yn 'brackRhondda. Gyda'r hy- ettes' [o 'bracken / dref yn dod, byddant rhedyn]. Ar ôl iddynt yn troi'n frown ac yn farw, torrir y rhedyn, aml yn y gwanwyn eu malu a'u cywasyn troi'n elyn wrth i gu'n friciau i'w bobl eu rhoi ar dân llosgi. Honnir bod y ac anharddu ein gwres a gynhyrchir hamgylchedd. Nawr yn fwy nag y ceir mae menter newydd wrth losgi coed derw yn cael ei hystyried a'i fod yn para'n gan y Cyngor a all hirach. Y rheswm,
golygyddol
2
Cynllun gan High Street Media
mae'n debyg, yw bod i'r rhedyn werth caloriffig uwch a'u bod yn yn cynnwys llai o leithder. Wrth eu llosgi hefyd cynhyrchir potash y gellir ei ddefnyddio'n wrtaith. Un o'r anawsterau yn y gorffennol yw eu bod yn tyfu ar lethrau serth sy'n ei gwneud yn anodd i'w torri, ond yn ddiweddar, bu cwmni yn yr ardal hon yn arddangos peiriannau sy'n gallu gweithredu ar oleddf o 60%.
Byddai cynaeafu'r rhedyn a gwneud defnydd ohonynt yn
fendith mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, byddai'n cael gwared ar y tanau costus a pheryglus sy'n gymaint o bla yn y Rhondda. Yn ail, byddai'n arbed defnyddio coed ac yn rhoi cyfle i rywiogaethau eraill o blanhigion i dyfu. Yn drydydd, byddai'n creu swyddi sydd yn fawr eu hangen yn yr ardal ac yn creu biotanwydd newydd. Unwaith eto, fodd bynnag, gwelwn taw gwmni o Ewrop sy'n dangos diddordeb yn adnoddau naturiol ein cwm. Gwelsom pobl o'r tu allan yn
elwa ar ein glo yn y blynyddoedd gynt ac yn fwy diweddar wrth harneisio ynni gwynt. Er ei bod yn braf gweld ffynonellau ynni adnewyddol yn cael eu datblygu, mae'n drueni na allem sycrhau perchnogaeth leol arnynt. Yn yr achos diweddaraf hwn, oni fyddai'n braf gweld Cyngor Rh.C.T. yn mynd ati i sefydlu cwmni i ddatblygu'r fenter hon rhag i'r holl elw yn y pen-draw adael y Cwm a mynd i goffrau dieithriaid.
Golygydd
2017
y gloran
YN Y RHIFYN HWN
CF42..1/3 Golygyddol...2 CF42..3/4 Newyddion Lleol ...5 ac 7-8 Byd Bob/Cartwn/ Cymdeithas Gymraeg...6-7 John Pearce...9-10 Chwaraewyr Rhyngwladol Clwb Bechgyn Treorci...11 Ysgolion...12
CF 42
CAFFI NEWYDD TREHERBERT
Mae'n dda bob amser i estyn croeso i fusnesau newydd sy'n cael eu sefydlu yn Rhondda Uchaf a thro caffi eithaf gwahanol yw hi'r mis hwn. Agorwyd Caffi CF42 yn gynharach eleni yn Stryd Baglan, Treherbert mewn adeilad ac iddo hanes diddorol. Bydd trigolion hŷn yn ei gofio fel siop groser Oliver gynt, ond cyn hynny
dyma safle tafarn o'r enw'r Royal Exchange. Perchnogion y fenter newydd yw Glenn Jones a'i bartner Matthew Mortimore. Mae Glenn yn hanu o ogledd-orllewin Cymru a Matthew o ardal Caerffili. Actor a darlledwr oedd Glenn wrth ei alwedigaeth oedd hefyd yn troi ei law at grefft creu canhwyllau ac ailgylchu hen
gelfi. Ar ôl byw yng Nghaerdydd am beth amser, ymsefydlodd y ddau am rai blynddoedd yn y Porth cyn mentro i flaenau Cwm Rhondda Fawr. Dywedodd Matthew, "Mae mwy o ymdeimlad o gymdeithas
yma yn Nhreherbert ac mae'r bryniau prydferth o gwmpas hefyd yn atyniad." Yn ogystal â rhedeg y caffi, mae Glenn yn dal i weithio ym maes darlledu yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Radio Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro, ond gan fod y stiwdio yn y Bont-faen mae hynny'n ddigon cyfleus. Y Caffi
Mae'r caffi'n gallu derbyn rhwng 25 - 30 o bobl ac fel mae ei enw 'CF42' yn awgrymu, mae'r ddau berchennog am iddo ddatblygu'n ganolfan gymdeithasol
drosodd i dud 4
3
CF 42 - CAFFI NEWYDD TREHERBERT yn yr ardal. Mae'r lle wedi ei ddodrefnu'n chwaethus ac yn cynnig coffi, te a lluniaeth ysgafn. Un o'r pethau sy'n plesio Glenn yw gweld y bobl oedd yn arfer prynu nwyddau yn siop Oliver nawr yn dod â'u plant a'u hwyrion i'r adeilad. Nid pawb sy am dreulio eu nosweithiau mewn tafarn, meddai, ac mae CF42, fel arfer, ar agor tan
4
8pm i alluogi pobl i alw heibio i fwynhau sgwrs a dysglaid o goffi gyda'r nos. Trwy 'Facebook' mae llawer wedi dod i wybod am y lle a rhai wedi teithio yno o Fryste ac Abertawe. Bu nifer o'r ymwelwyr hyn yn hael eu canmoliaeth. Dyma, er enghraifft a ddywedodd Samantha Davies ar 29 Gorff, 'Y lle gorau imi ymweld ag ef ers tro. Mor
gynnes a chraesawgar, dysglaid ragorol o goffi ac yn wych i blant!! Roedd y dewis o deisien yn wych hefyd!! Nid dyma oeddwn i'n ei ddisgwyl - gwerth arian - prisiau rhesymol. Yr union beth sydd ei angen ar yr ardal a'r gymuned hon gydag oriau agor sy'n gyfleus i bawb." Cafodd y caffi newyddion da yn ddiweddar pan glywon hw
fod eu cais am arian i fferm wynt Penycymoedd i ychwanegu toiledau wedi bod yn llwyddiannus. Bydd hyn yn eu galluogi i ehangu eu gweithgareddau a rhoi'r lle at wasanaeth grwpiau. Gweithgareddau
Oherwydd ei ddiddordeb mewn gwahanol grefftau, mae Glenn yn cynnig sesiynau crefft o dro i dro gan gynnwys gwneud canhwyllau a 'draenogod llyfrau' Y mis hwn hefyd trefnir parti Noson Calan Gaeaf i'r plant. Cysylltwch am ragor o fanylion. Rhywbeth arall maen nhw'n awyddus i'w datblygu yw sesiynau sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg a sesiynau cerddorol. Rhwng popeth, mae gan CF42 amrywiaeth o weithgareddau ar y gweill ac mae'r Gloran yn dymuno rhwydd hynt i'r fenter newydd, ddiddorol hon. Galwch heibio i brofi'r awyrgylch drosoch eich hunain. Mae'n siwr y derbyniwch chi groeso cynnes.
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN
Fe agorwyd fferm wynt Pen y Cymoedd yn swyddogol ar 28 Medi gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Treorci: MARY PRICE
TREHERBERT
Gyda 76 melin, Pen y Cymoedd yw’r fferm wynt fwyaf ar y tir yng Nghymru ac yn creu digon o drydan ar gyfer un tŷ mewn chwech yng Nghymru.
Cynhaliwyd gwasanaeth cynhaeaf yng Nghapel Blaen-y -Cwm ar yr 1Hydref lle casglwyd tuniau ar gyfer ein banc bwyd. Diolch i eglwys Sant Matthew Treorci am ei rhoddion. Mae banc bwyd ar agor rhwng 2 - 3 o'r gloch bob prynhawn Gwener yn festri’r capel.
Mae gwaith ar fin dechrau ar uwchraddio gorsaf trenau Treherbert. Bydd y gwaith yn gwella cyflwr y platform.
Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Norma Spiller o Stryd Gwendoline. Roedd Norma yn berson hoffus dros ben a wastad gyda gwên ar ei hwyneb. Cydymdeimlwn gyda’r holl deulu Mae'n ddrwg gennym hefyd gofnodi mar-
wolaeth Tom Brunker o Michaels Road Blaencwm. Cyn ymddeol roedd Tom yn gweithio yn y pwll glo ac yn yr hen Co-op yn Stryd Abertonllwyd. Cydymdeimlwn gyda’i wraig Pat a'r teulu i gyd yn eu profedigaeth.
Yn drychinebus bu farw Susan French, yn wreiddiol o Stryd Miskin ond wedi byw yn Plymouth ers amser. Dim ond wythnos wedyn bu farw ei thad Eddie French. Cydymdeimlwn gyda’i wraig Gwladys ei ferch Tracy a'i gŵr Celyn.
TREORCI
Mae ei holl ffrindiau'n dymuno gwellhad llwyr a buan i Mrs Kathleen Evans, Stryd Luton, sydd newydd ddod ma's o'r ysbyty ar ôl derbyn llawdriniaeth. Mae Kathleen yn aelod gweithgar o'r WI ac o Eglwys Hope, Y Gelli. Pen-blwydd Hapus i Mrs Kathleen Davies, Stryd Colum a oedd yn 85 oed ar 15 Hydref. Dathlodd yr
achlysur gyda'i theulu a ffrindiau yn Hot Gossip brynhawn dydd Iau, 13 Hydref. Pob dymuniad da iddi i'r dyfodol.
Flin cofnodi marwolaeth Julie Williams, Stryd Clark. Mae Julie wedi dioddef yn ddewr iawn dros nifer o flynyddoedd. Roedd hi'n adnabyddus drwy'r ardal a bydd ei theulu a'i ffrindiau'n gweld ei heisiau'n fawr. Cydymdeimlwn â'i mab Ross a'i merch, Julie yn eu colled.
Cynhaliwyd cyngerdd nos Sadwrn, 21 HFforwm 50+. Yr artist gwadd oedd y mro twymgalon ac yn boblogaidd iawn gan bawb oedd yn ei adnabod. Cydcanwr Dave Ritchie.
Yn ddiweddar, aeth aelodau'r Henoed am dro i Theatr y Grandydref yn nhafarn y RAFA o dan nawdd y , Abertawe i weld y sioe, 'Wedding Singer' Diolch i Eira am drefnu prynhawn difyr iawn. Eira hefyd oedd yn gyfrifol am y tref-
Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN niadau ar gyfer trip i Gaerfyrddin ddydd Mercher, 11 Hydref. Cafodd pawb gyfle i wneud tipyn o siopa a chael pryd o fwyd yng nghwmni ei gilydd. Cynhaliodd Pwyllgor Cancr UK Treorci cwis o dan arweiniad Noel Henry yng Nghlwb Rygbi Treorci, nos Lun, 25 Medi. Dyma'r tro cyntaf i'r cwis gael ei gynnal yn y Clwb Rygbi ac mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i'r clwb am gael iws y lle yn rhad ac am ddim. Diolch i Noel am ei wasanaeth
PARHAD ar dudalen 8
5
Yemen!
BYD BOB
[Beth yw ystyr dewrder? Dyna bwnc BOB EYNON y mis hwn]
Yn ddiweddar, roeddwn i'n meddwl am ystyr y gair dewrder. Ar unwaith, meddyliais i am hen ffrind, Ian McLeod o Flaenrhondda. Rydw i wedi sôn am Ian o'r blaen; roedden ni yn yr un dosbarth yn Ysgol Gynradd Dunraven ac wedyn yn Ysgol Ramadeg y Porth. Hefyd, roedden ni gyda'n gilydd yng nghorfflu cadetiaid y Pentre.
Ar ôl dwy flynedd yn y chweched dosbarth, fe benderfynais i ddilyn cwrs ym Mhrifysgol
Llundain. Ond roedd gan Ian syniadau eraill. Fe ymunodd e â'r fyddin ac aeth i astudio yng ngholeg Sandhurst er mwyn mynd yn swyddog. Fe gollais i gysylltiad â fe am sbel, ond yna, tra oeddwn i'n gweithio fel athro yn Bedford, fe ddarllenais i mewn papur newydd fod rhyw Lifftenant Ian McLeod wedi cael ei anafu yn yr Yemen. Roedd e wedi bod yn hedfan mewn hofrennydd ac roedd bwled terfysgwr wedi ei dari yn ei fraich. Fe enillodd Ian fedal MC am ei ran yn y frwydr, ond doeddwn i ddim yn eiddigeddus o gwbl. Roedd yn well 'da fi fod mewn ysgol yn Bedford na mewn hofrennydd yn yr
Rydw i wedi cwrdd ag Ian ambell waith ers hynny. Brigadwr ydy e erbyn hyn, ond dydy e ddim yn dweud llawer am ei brofiadau gyda'r Parasiwtwyr yn Iwerddon a rhannau eraill o'r byd.
Yn y cyfamser, rydw i wedi cael bywyd eithaf tawel. Ond rydw i'n cofio un achlysurpan oedd pobl yn fy ystyried yn arwr. Roeddwn i'n gyrru o gwmpas yr Alban ar fy mhen fy hun. Un noson, roeddwn i'n aros mewn gwesty ieuenctid yn Ullapool, neu Oban, efallai - dydw i ddim yn siwr pa un. Roeddwn i wedi mynd allan i gael pryd o fwyd. Pan ddes i yn ôl i'r gwesty roedden nhw bron â chau. Ond cyn i'r warden allu cloi'r drws ffrynt, fe ddaeth tramp enfawr i mewn i'r lolfa a setlo i lawr mewn cadair freichiau. Fe geisiodd y warden ei berswadio i adael, ond doedd y tramp ddim yn fodlon. Doedd
EIN CARTWN Y MIS GAN SIÔN TOMOS OWEN
6
neb yn gwybod beth i'w wneud.
Yna, fe godais i a mynd at y tramp. Fe roddais fy llaw ar ei fraich a dweud yn dawel, "Amser i fynd." Ar unwaith, fe gododd a cherdded allan o'r gwesty. Cododd pawb ar eu traed a dweud "Llongyfarchiadau!" wrtho i, yn enwedig y warden. Fe dderbyniais i eu llongyfarchiadau'n wylaidd. Roeddwn i'n arwr yn eu barn nhw. Drannoeth roedden nhw'n dal i sôn amdana' i. Ond doeddwn i ddim yn arwr o gwbl. Yn gynharach yn y noson, roeddwn i wedi gweld barman yn arwain y tramp 'na allan o dafarn gan roi ei law ar ei fraich a siarad yn dawel ag ef. Fe ddylwn i fod wedi dweud y gwir wrth y warden a'r lleill yn lle derbyn eu llongyfarchiadau. Ond ddywedais i ddim gair. Doeddwn i ddim yn ddigon dewr!
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI HERMON, TREORCI 7.15pm
Siaradwyr:
26 Hyd. Y PRIFARDD ROBAT [Abertawe]
30 Tach.
RICHARD REES [Cwmni Teledu Telesgôp]
25 Ion.
ELIN JONES [Llywydd y Senedd]
Tocyn Aelodaeth - £5
POWEL
arferol ac i bawb am eu cefnogaeth a'u haelioni.
Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mr Colin Lecras, Heol Glyncoli yn dilyn cystudd hir a phoenus a ddioddefodd yn ddewr ac yn galonnog. Cyn ymddeol, bu Colin yn atro mathemateg yn ysgol Sant Cennydd, Caerffili ac yn aelod brwd a gweithgar o gangen Treorci o Blaid Cymru. Roedd yn Gyymdeimlwn yn gywir iawn â'i wraig Linda a'i ddau fab a'u teuluoedd yn eu colled.
Pob dymuniad da i Catherine Greenslade sy newydd agor siop
8
flodau newydd, 'Lili Wen' yn Stryd Bute. Cyn hynny, bu gan Catherine siop debyg yn y Pentre. Pob llwyddiant iddi yn ei menter newydd.
Trist yw cofnodi marwolaeth Mrs Kathleen Read Davies, Heol Gethin. Fe'i magwyd gyda'i brodyr a chwiorydd David, Basil a Margaret yn Stryd Regent. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu hiraeth.
CWMPARC
Mae Ysgol y Parc yn rhedeg Clwb Wedi'r Ysgol, ac mae croeso i blant y gymuned
ehangach, yn ogystal â phlant yr ysgol ei hun ymuno. Mae’r clwb yn darparu gofal plant yn yr ysgol tan 5:15 (Llun-Iau, £5.50 y sesiwn) ac i 4:45 (Gwener, £4.50 y sesiwn). Mae gonstyngiad o 50c os bydd mwy nag un plentyn o’r un teulu’n mynychu. Mae croeso i blant o dair oed, ac mae’n bosib i staff gwrdd â phlant o fysiau ysgolion eraill. Darperir bwyd iach, ynghyd â digwyddiadau dan do ac yn yr iard, gemau bwrdd a fflimiau. Rhedir y clwb gan Hayley Watkins a Leanne Gough, sy’n dal cymwysterau Cymorth Cyntaf, Diogelu Plant a Hylendid Bwyd. Cysylltwch a nhw ar 07759 971936, neu ffoniwch yr ysgol ar 776601.
Cynhelir disgo dan 14 oed yn Neuadd Eglwys San Sior, bob yn ail nos Fercher, mynediad £1. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Tracy Grenter – 773262
Cynhailwyd gwasanaeth gynhaeaf yn Ysgol y Parc ar 13 Hydref. Casglwyd llawer o lysiau a ffrwythau, a aethpwyd at bobl hŷn y gymuned gan blant ac athrawon yr ysgol.
Y PENTRE
Mae croeso yn eich aros yn Citadel Byddin yr Iachawdwriaeth -
Gwasanaethau dydd Sul am 10.15 a 4.30; Ysgol Sul, 11 o'r gloch. Mam a Phram, fore Llun 9.1511am; Bore Coffi, fore Iau 10.30-12am. Galwch heibio i'n gweld!
TON PENTRE
Cynhaliwyd cyfarfod misol Clwb Cameo yn yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg pan werthwyd te a theisennau gyda'r holl elw yn mynd at elusen Nyrsys MacMillan. Roedd yr achlysur yn un o gyfres o rai tebyg a gynhaliwyd yn
yr ardal i godi arian at yr achos da hwn.
Cafwyd gwledd o gerddoriaeth yn Theatr y Ffenics wrth i Gwmni Theatr y Rhondda gyflwyno noson o gân a dawns. Da yw gweld y cwmni bywiog hwn yn llwyddo. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.
Blin gennym gofnodi marwolaeth Mr David Davies, Stryd Wyndham. Cydymdeimlwn yn gywir iawn ag aelodau ei deulu yn eu profedigaeth.
Cynhelir rhywbeth hollol newydd yn Theatr y Ffenics ar 1 Tachwedd
John Pearce Dechreuodd diddordeb John Pearce yn y sinema yn 1945 pan gafodd swydd ran-amser ac yntau'n dal yn yr ysgol. Ei waith oedd cludo rholiau o ffilm newyddion Pathe rhwng sinema'r Abergorci a'r Pavilion y Nhreorci. Mae John,
sydd bellach yn 85 oed, yn dal i chwerthin wrth feddwl am y sefyllfa pan oedd rhaid i'r ddwy sinema rannu'r rîl newyddion. Y Pavilion oedd â'r hawl cyntaf, gan ddechrau am 5 o'r gloch ond roedd rhaid sicrhau ei bod y cyrraedd nôl yn
pan fydd Syrcas Cartŵn yn perfformio yno. Tocynnau ar gael yn y theatr.
Llongyfarchiadau i Mr Masoud Ahmadi, y fferllydd poblogaidd o'r Gelli, ar gymryd rhan ym marathon Caerdydd a llwyddo i'w gwblhau. Nid dyma'r tro cyntaf iddo gymryd rhan, a thrwy redeg, lwyddo i godi swm sylweddol o arian at ymchwil i gancr ac at elusen Nyrsys MacMillan. Mae Masoud am ddiolch o galon i bawb am eu haelioni wrth ei noddi ac yn barod mae e'n edrych ymlaen at farathon y flwyddyn nesaf.
yr Abergorci erbyn 6.30 i'w dangos rhwng y ffilm gyntaf a'r brif ffilm. Cyfrifoldeb John Peglar, bachgen y Pavilion, oedd hyn, ond wedyn byddai'n ofynnol i John Pearce ei dychwelyd i'r Pavilion erbyn 7.30 ar gyfer yr ail dŷ. Am 8.30 roedd hi nôl yn yr Abergorci am yr ail waith a byddai'r un drefn yn cael ei dilyn unwaith
Roedd llawer o bobl leol yn falch o'r cyfle i gysylltu â Leanne Wood, ein haelod Cynulliad pan drefnodd hi gymhorthfa stryd ddydd Gwener, 6 Hydref yn Nhon Pentre a'r Gelli. Roedd hyn yn galluogi pawb oedd angen cyngor ganddi wneud hynny yn eu cartrefi eu hunain. Anfonwn ein dymuniadau gorau at Betty Jones, 'Barics' sydd bellach wedi ymgartrefu yn ei chynefin newydd yn Warwick. Er ei bod yn chwith ei cholli o'r ardal gobeithiwn y bydd yn hapus yn ei chartref newydd sy'n agos at ei mab, David a'i deulu.
eto drannoeth a thrwy gydol yr wythnos. Wrth gwrs, roedd hyn yn gyfrifoldeb mawr ar John a'i ffrind gan fod rhediad esmwyth y ddwy sinema y dibynnu'n llwyr arnynt a phawb yn eiddgar i weld newyddion Pathe yn y dyddiau cyn-deledu. Am yr holl waith hyn, cyflog wyth-
drosodd 9
John Pearce
nosol John oedd 8/6c!
Tro ar Fyd Yn fuan wedyn, cafodd ei swydd lawn-amser gyntaf, yn ail dafluniwr yn yr Abergorci o dan gyfarwyddyd y prif ddyn, Reg Davies ac yno y bu tan 1950 pan ymadawodd i wneud ei wasanaeth milwrol yn y fyddin. Erbyn 1952, roedd e nôl yn y Rhondda ac wedi cael swydd tafluniwr yn y Plaza, Tonypandy, un o sinemâu William Elias Willis, a drigai yn Dany-deri, Ystrad, ond a oedd yn perchen neu yn rhentu 18 o sinemâu i gyd, yng Nghaerdydd a'r cymoedd, gan gynnwys yr Abergorci. Erbyn 1954 cafodd John Pearce ei drosglwyddo i fod yn brif dafluniwr yn y sinema honno yn ei dref enedigol. Yn y pedwardegau talai Willis £10 yr wythnos o rent am sinema'r Aber10
gorci, gan gynnwys trydan, nwy a glo, ond gan nad oedd yn berchen ar yr adeilad roedd yn amharod i wario ar ddiweddaru'r offer taflunio. Ar ben hyn, gan fod cyflwr economaidd y wlad yn fregus yn sgil y rhyfel, mynnai'r llywodraeth fod rhaid i sinemâu ddangos 40% o ffilmiau Prydeinig tra yn codi treth o 30% ar rai Americanaidd. Y canlyniad oedd bod yr Abergorci'n dioddef yn y cyfnod hwn gan na châi'r ffilmiau gorau a mwyaf poblogaidd, ond wrth i'r dreth gael ei diddymu yn y pumdegau, daeth tro ar fyd.
Dyma oedd oes aur yr Abergorci gan fod Willis yn gallu denu'r ffilmiau gorau am fod ganddo gymaint o sinemâu ledled y de-ddwyrain. Ymhlith y ffefrynnau, mae John yn cofio 'The Jolson Story'. 'Calamity Jane' a 'Seven Brides for Seven Broth-
ers' ond y ffilm a ddenodd y cynulleidfaoedd mwyaf i"r Abergorci oedd 'The Great Caruso' gyda'r tenor, Mario Lanza'n serennu. A sôn am denoriaid, un arall y cofia John ei weld yn y cnawd oedd yn yr Abergorci oedd Richard Tauber. Yn ogystal â dangos ffilmiau, byddai'r Abergorci'n cael ei defnyddio gan gwmni opera Zion o dan arweiniad Madam Danford George a rywfodd neu'i gilydd roedd hi wedi llwyddo i gael Tauber yn Llywydd Anrhydeddus i'r cwmni. Pan oedden nhw'n llwyfannu "Lilac Time', daeth i'r rihyrsal dydd Sul a chofia John ei weld yn ysgubo i mewn i gyntedd y sinema'n gwisgo clogyn du! Troeon Trwstan Doedd gwith tafluniwr ddim yn hawdd gan taw tuag ugain munud oedd hyd rholyn o ffilm a bod rhaid sicrhau rhediad
llyfn, di-dor rhwng y gwahanol sbwliau. Weithiau byddai pethau'n mynd o chwith a riliau o wahanol ffilmiau'n cael eu cymysgu. Unwaith, dywedodd John eu bod yn dangos ffilm gydag Allan Ladd ynddi, ond pan aed at y rîl nesaf, pwy ymddangosodd ar y sgrîn on Gene Autry ar ei geffyl! Dro arall, ymddangosodd actor oedd wedi cael ei ladd yn y rhan gyntaf, yn fyw yn ail ran y ffilm!
Mae gan John Pearce atgofion melys o'i gyfnod rhwng 1954-64 yn yr Abergorci ond gorffennodd ei waith fel tafluniwr yn y Parc a Dâr. Aeth yno yn 1964 i weithio dan y rheolwr lym yr enwog Tom Watkins. Arhosodd yno tan 1974 pan ddaeth Cyngor y Rhondda'n berchen ar y theatr ac aeth yntau i weithio yn ffatri Everest. Ond mae ffilmiau wedi bod yn rhan bwysig o'i fywyd ac mae e wrth ei fodd yn sôn am ei waith yn y gwahanol sinemâu wrth wahanol gymdeithasau yn yr ardal. Erbyn hyn, mae holl natur y sinema wedi newid a'r dechnoleg newydd wedi disodli'r hen offer amrwd a nodweddai'r dyddiau cynnar, ond mae'n dda bod John yn dal yn ein plith i roi inni flas o'r dyddiau a fu.
Treorchy and Cwmparc Boys’ Club. Honours List Season 1949-50
STANLEY HUGHES General Secretary
RAY WILLIAMS Rugby & Soccer Boys’ Club International
KEITH LEWIS Boys’ Club and Youth Rugby International
GARETH GRIFFITHS Schoolboys, Secondary Schools & Boys Club Rugby International
KEN ELLIOTT Schoolboys and Boys’ Club Rugby International, Welsh and British Boys’ Clubs Soccer International
C. EXELL Trainer, Soccer and Rugby Welsh and British Boys’ Clubs International Teams
CHWARAEWYR RHYNGWLADOL CLWB BECHGYN TREORCI Ray Williams, Heol Gethin, Treorci, sy yn y llun, roddodd y llun hwn a dynnwyd ar ddiwedd tymor 1949-50 i'w ychwanegu at gasgliad Clwb Rygbi Treorci. Ray yw'r unig un o'r pedwar sy'n dal yn fyw. Yn ogystal â chwarae dros Gymru,
roedd Ray, Keith Lewis [Ton Pentre], Gareth Griffiths [Penygraig] a Ken Elliot [Treorci] i gyd wedi cynrychioli clwb Rygbi Treorci. Yn ogystal â chwarae rygbi dros Glybiau Bechgyn Cymru, cynrychiolodd Ray a Ken eu gwlad hefyd mewn pêl-droed,
a chafodd Ken ei ddewis i chwarae dros Glybiau Bechgyn Prydain. Wrth gwrs, aeth Gareth Griffiths ymlaen i chwarae 12 gwaith dros Gymru a theithio i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig. Gweithiodd Stanley Hughes yn ddiflino dros
y Clwb Bechgyn am flynyddoedd lawer a bu Colin Excell yn gofalu am y 'sbwng hudol' gyda thimau Cymru a Phrydain yn y ddwy gamp.
11
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
GWAITH MAES YN YR HAUL Cafodd griw Daearyddiaeth TGAU hwyl yn yr haul ar eu taith gwaith maes yr wythnos hon.
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12