y gloran LLIFOGYDD TREORCI
Cafodd trigolion Stryd Fawr Treorci dipyn o sioc tua 6.30 pm nos Sadwrn, 14 Rhagfyr pan fethodd yr orsaf bwmpio gyfagos yn ystod cawodydd o law eithriadol o drwm. Sylwon nhw nad oedd y draeniau yn gallu ymdopi â chymaint o ddŵr a bod llyn yn prysur ymffurfio rhwng tafarn y Red Cow a Stryd Hermon. Cyn pen dim roedd y dŵr wedi dechrau llifo i mewn i'r tai ar un ochr o'r stryd ac yn bygwth y tai gyferbyn sydd ychydig yn uwch. Yn anffodus, roedd aelodau'r Gwasanaeth Tân lleol ar streic rhwng 6-10
o'r gloch, sef union adeg y llifogydd ac araf iawn oedd ymateb gwasanaethau brys Cyn-
gor Rhondda Cynon Taf. Yn ffodus, roedd yr heddlu ar gael a llwyddon nhw i rwystro cerby-
20c dau rhag mentro drwy'r llif a gwaethygu sefyllfa oedd eisoes yn ddrwg iawn. Pan agorwyd yr orsaf bwmpio ar waelod Stryd Regent i ddechrau, roedd aelod o staff sefydlog yn gyfrifol am ofalu amdani, ond ers tro byd mae'r pympiau wedi eu rheoli'n awtomatig. O ganlyniad, roedd rhaid aros i help gyrraedd cyn y gellid gwneud unrhyw beth. Roedd hi'n amlwg nad oedd yr aelod cyntaf o Ddŵr Cymru a gyrhaeddodd yn gyfarwydd â gweithio'r sys-
drosodd i dudalen 3
golygyddol l TORIADAU! TORIADAU A RHAGOR O DORIADAU!
Mae'n amser anodd iawn ar bob adran o awdurdodau lleol gyda'r lleihad yn y grant sy'n dod o Lundain i Gaerdydd ac o Gaerdydd i awdurdodau lleol Cymru yn golygu bod rhaid i bob cyngor yn y wlad arbed arian. Clywsom cyn y Nadolig am y toriadau oedd yn yr arfaeth oedd yn cynnwys darpariaeth addysg gynnar, prydau ar glud, llyfrgelloedd, canolfannau dydd a'r gwasanaeth ieuenctid. Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor a gynhaliwyd ddydd Mercher, 8 Ionawr, cadarnhawyd y toriadau hyn gyda rhai newidiadau. Bu protestio brwd gan rieni yn erbyn y toriadau mewn addysg feithrin a phenderfynwyd gohirio eu dechrau o fis Ebrill i fis Medi 2014. O hyn ymlaen, bydd plant yn gallu dechrau ar eu haddysg 2
lawn-amser yn y tymor ar ôl cyrraedd 4 oed. Disgwylir i hyn arbed £3.7 miliwn i'r Cyngor mewn blwyddyn. Cadarnhawyd y rhan fwyaf o'r toriadau eraill ond bod y Porth nawr yn cadw ei llyfrgell ar draul Tylorstown a fydd yn cau. Golyga hyn y bydd Treherbert a'r Ton yn colli eu llyfrgelloedd, Treorci a'r Pentre yn colli eu canolfannau dydd a Threherbert a Threorci eu clybiau ieuenctid.
Mwy i ddod Ar yr un diwrnod cyhoeddodd y Cabinet y byddai rhaid ystyried rownd arall o doriadau. Y pethau a fydd dan ystyrieth y tro hwn fydd cost gofal yn y gymuned i oedolion, y gwasanaethau treftadaeth, fydd yn cynnwys amgueddfeydd, y celfyddydau a diwylliant, gwasanaethau bysys a sybsideiddir gan y Cyngor, pyllau padlo mewn parciau, y gwasanaethau hamdden a goleuadau strydoedd.
Bydd cyfnod o ymgyng-
y gloran
ionawr 2014
YN Y RHIFYN HWN
hori yn dechrau cyn bo hir i ystyried yr holl bethau hyn cyn cymryd y penderfyniad terfynol. Fesul tipyn mae ansawdd ein bywydau yn gwaethygu ac wrth i ardaloedd blaenau'r cymoedd golli cyfleusterau sylfaenol, mae'n anorfod y byddwn yn colli poblogaeth, yn enwedig y rhai ifanc. Bydd gwrthod talu cludiant i blant sydd am fynych ysgolion Cymraeg ac ysgolion ffydd yn sicr o effeithio ar yr ysgolion hyn a gellir disgwyl y bydd pwyso o du rhieni ac o du Comisiynydd y Gymraeg a'r Comisiynydd Plant ar sail trin rhai grwpiau yn annheg. Yn ôl Cynllun Datblygu Lleol Cyngor RhCT, eu bwriad yw ceisio adfywio blaenau'r cymoedd. Dyna'r bwriad ar bapur, ond tanseilio cymunedau mae eu gweithredoedd ar hyn o bryd. golygydd
Llifogydd Treorci...1 Golygyddol...2 Llifogydd parhad...3 Radio Rhondda...4 Newyddion Lleol...5-8 Gobaith i Neuadd y Parc ...8 Yr Adeiladau Coll ...9 Neuadd y Parc parhad...10 Ysgolion...11 Ysgol y Cymer...12 Gwaith Elusennol yr Ysgol Annie! Sioe Nadolig yr Ysgol Canolfan y Mileniwm Ymweliad Leanne Wood i’r Ysgol
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
LLIFOGYDD TREORCI parhad
tem a bu rhaid aros nes i ail aelod o staff gyrraedd cyn gweld unrhyw welliant yn y sefyllfa. Yn y cyfamser, roedd rhaid i gymdogion y stryd helpu ei gilydd a gwelwyd yr ysbryd cymdogol ar ei orau wrth i bobl iau fynd ati i helpu rhai hŷn a llai abl. Er enghraiff, cariwyd Florence Henderson, 89 oed, oedd gartref ar ei phen ei hunan, i dŷ cymydog a gwelwyd llawer o gymwynasgarwch tebyg. Roedd perchnogion rhai o'r tai i ffwrdd ar y pryd ond gwnaeth eu cymdogion eu gorau glas i arbed eu cartrefi a'u heiddo rhag y llifogydd. Wrth i'r dŵr
godi yn y Stryd Fawr, effeithiwyd ar y draeniau yng nghefn y tai ac o ganlyniad llifodd budreddi drwy rhai cartrefi. Roedd hi'n amlwg yn fuan y byddai colledion mawr o ran carpedi, celfi ac eiddo ac wrth i'r dŵr raddol gilio pentyrwyd y rhain tu fa's ar y pafin. Yn naturiol, roedd pobl yn grac bod hyn wedi digwydd am yr ail dro o fewn deuddeng mlynedd ac yn gofyn am atebion gan Ddŵr Cymru. Er tegwch i'r cwmni hwnnw, syrthion nhw ar eu bai ar unwaith a gwneud popeth o fewn eu gallu i gywiro'r cam. Cafodd pawb swm o arian cychwynnol i
brynu angenrheidiau ac addewid y byddai Dŵr Cymru yn eu digolledu'n llawn. O fewn dim, sefydlwyd swyddfa yn y stryd a bu aelodau staff ar gael drwy'r amser i ymateb i ymholiadau a gofynion y trigolion. Mae pawb yn cyfaddef bod Dŵr Cymru. o dan amgylchiadau anodd, wedi gweithredu yn gwbl anrhydeddus. Ond mae gwersi i'w dysgu os ydym yn mynd i arbed sefyllfa debyg rhag codi eto yn y dyfodol. Rhaid derbyn ei bod yn bosib i'r peirianwaith mwyaf soffistigedig fethu'n ddirybydd. Digwyddodd ddwywaith o fewn 12 mlynedd yn achos yr
orsaf bwmpio hon ac o ganlyniad mae rhaid wrth gynllun wrth gefn. Rhaid bod rhywun syn deall sut i reoli'r system â llaw fod ar gael mewn argyfwng. Mae Dŵr Cymru yn deall hyn ac wedi addo i'r cynghorwyr lleol y byddant yn adolygu ac yn diwygio eu presesau gweithredu yn sgil digwyddiad anffodus Treorci, yn enwedig o gofio bod patrymau tywydd yn newid - a hynny er gwaeth. Dysgwyd gwersi pwysig o'r llifogydd diweddar. Does ond gobeithio na fydd colledion a gofid trigolion y Stryd Fawr yn gwbl ofer ac na welwn y fath lifogydd yn yr ardal hon eto.
3
RADIO RHONDDA LLAIS Y BOBL
rhaid i Radio Rhondda symud bump o weithiau i wahanol leoliadau yn ardal Treherbert. Menter wirfoddol Mae'r gwaith yn dibynnu'n llwyr ar dîm bach o wirfoddolwyr brwd gyda Lee Cole, Rheolwr yr Orsaf, yn angor i'r cyfan. Byddant yn darlledu am 24 awr y dydd gan ddibynnu ar feddalwedd MYRIAD i lenwi'r bylchau rhwng rhaglenni'r cyfranwyr cyson. Mae'r orsaf yn ffodus bod ganddi nifer o'r rhain sy'n gallu cynnig i'r gwrandawyr arlwy amrywiol a diddorol. Gaynor Webster o Dreorci sy'n gyfrifol am raglen Gymraeg Radio Rhondda a bob wythnos bydd yn cyflwyno detholiad o gerddoriaeth Gymraeg. Cerddoriaeth jazz sydd at ddant ei ffrind Madge Simcox o'r Pentre tra bod David Brownnutt, Treherbert yn gwahodd rhai o'r ardal i mewn i'r stiwdio i drafod eu daliadau a mynegi eu barn. Mae pliswraig gynorthwyol ardal Treherbert , Natasha Foster yn defnyddio ei slot i sôn am rai o broblemau'r ardal ac i rybuddio'r trgolion o unrhyw sgam sydd ar gerdded . Fe fyddwch yn casMenter gymunedol a redir gan wirfoddolwyr yw glu o hyn fod Radio Rhondda yn anelu at addysgu, Radio Rhondda. Ei theitl i ddechrau oedd Radio hysbysu yn ogystal â difyrru ei gwrandawyr. Mae CwmNi oherwydd cafodd ei sefydlu yn Nhreherbert hefyd yn rhoi cyfle i rai sydd â diddordeb mewn daryn 2007 yn un o dair gorsaf radio gymunedol yn RhCT a gafodd eu noddi ar y cyd gan y Cyngor a Lly- lledu i feithrin eu doniau ac fe aeth un o gyflwynwyr cynnar yr orsaf, Simon Collins, ymlaen i ennill ei fywodraeth Ewrop. Erbyn hyn, mae'r orsaf i'w chlywed woliaeth trwy gyflwyno rhaglenni ar orsaf GTFM. ar y rhyngrwyd yn unig, ond i ddechrau câi ddarlledu Yn weithgar yn yr ardal am ddau fis o'r flwyddyn ar donfedd FM oedd yn ei O dro i dro, pan fydd rhyw ddigwyddiad arbennig ar galluogi i gyrraedd cyniulleidfa ehangach. Yn anffodroed yn yr ardal, byddwch yn ymwybodol o bredus, mae'r gost yn rhwystro'r cwmni rhag darlledu ar FM drwy gydol y flwyddyn, ond mae'r ffaith ei fod yn senoldeb Radio Rhondda. Roedden nhw wrthi yn ddiweddar ar noson cynnau goleuadau Nadolig Treorci ac dal i weithredu yn deyrnged i'r criw bychan sy'n ei yn hybu Gŵyl Gerdd y dref nôl yn yr haf. Maen nhw gynnal gan fod rhai o'r cwmniau a sefydlwyd yr un pryd ag e, megis Radio Rhys ar Ben-rhys, wedi peidio hefyd yn trefnu sesiynau disgo i blant yn Nhreherbert â bod ers tro byd. Serch hynny, dyw'r daith ddim wedi ac mae Lee Cole yn gweithredu'n gyson fel troellwr ar yr achlysuron hyn. Rydyn ni'n ffodus fod gwasanaeth bod yn hawdd, yn enwedig y frwydr i ddod o hyd i gartref sefydlog. Ar hyn o bryd mae'r orsaf wedi ei lle- o'r fath ar gael yn yr ardal ac yn ddyledus i bawb sy'n rhoi o'u hamser a'u doniau i'w gynnal. Ond mae'r staff oli yng Nghlwb Llafur Tynewydd a'r gobaith yw y bob amser yn chwilio am syniadau newydd ac yn bydd yn gallu aros yno oherwydd ers ei sefydlu bu barod i roi cyfle i gyflwynwyr newydd yn ogystal. Felly os oes gennych awydd i roi cynnig arni o flaen meic a diddordeb mewn darlledu, cysylltwch â Radio Rhondda trwy sgrifennu i'r stiwdio yn Labour Club, Stryd Margaret, Tynewydd, Treherbert neu trwy e-bost i studio@rhonddaradio.com neu ffoniwch (01443) 524776. Byddwch yn sicr o dderbyn croeso cynnes 59 Stryd Gwendoline, Treherbert iawn.
Geraint Davies (Fferyllydd) BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB
4
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau y bydd y llyfrgell a'r ganolfan addysg gymunedol yn Nhreherbert yn cau. Mae hyn yn digwydd er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan bobl leol. Yn ôl pob tebyg, bydd hyn yn digwydd ym mis Ebrill. Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi dechrau ar broses o ymgynghori ar y rhestr nesaf o doriadau sy'n cynnwys cau'r pyllau padlo yn holl barciau'r sir, gan gynnwys Treherbert. Bob blwyddyn, mae Ralph Upton, gweinidog Capel Blaencwm yn mynd ar daith ddyngarol i Ethiopia. Bydd e'n mynd yn nes ymlaen yn y mis hwn yn bennaf i helpu adeiladu cartref i blant sydd â'u mamau yn y carchar. Dymunwn iddo bob bendith ar ei daith. Mae Heddlu'r Rheilffordd yn chwilio am ddyn oedd yn ymddwyn yn anweddus o flaen gwraig ifanc ar y trên rhwng Caerdydd a Threherbert. Byddant yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth gan rai oedd yn teithio ar drên 5.06 pm o Gaerdydd. Ymddengys fod y dyn wedi disgyn o'r trên yn Nhreorci.
Gorffennodd tîm rygbi Treherbert yr hen flwyddyn ar nodyn uchel wrth iddynt guro Dinas Powys 22-10 er eu bod yn chwarae oddi cartref. Gwych iawn a hir y parhaed y llwyddiant i'r flwyddyn newydd. Yn 1883 bu trychineb pan foddwyd 24 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt o Dreherbert, tra ar drip ysgol Sul i Bort Talbot. Mentron nhw ma's i'r bae ar fad, ond fe suddodd, am fod gormod o bobl ynddo, yn ôl pob tebyg. Beth bynnag, mae gŵr o'r enw Damon Owen, hanesydd lleol o Bort Talbot, wedi cyhoeddi taflen 15 tudalen yn sôn am yr hanes. Mae e ar gael am £3, gan gynnwys cludiant post. Os oes gennych ddiddordeb, cewch fwy o fanylion trwy fynd at www.historicalporttalbot.com Os oes gennych ddiddordeb mewn darlledu neu helpu ar Radio Rhondda sydd â stiwdio yng Nghlwb Llafur Tynewydd, ffoniwch y stiwdio ar 778181neu gysylltwch â Sharon ar 07925 440 939.
TREORCI
Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Elwyn
Lewis, Woodland Vale ac yntau wedi cyrraedd ei 92 oed. Ar ôl treulio cyfnod yn lowr, roedd Elwyn, oedd yn aelod o deulu adnabyddus yng Nghwmparc, wedi gweithio hyd ei ymddeoliad i gwmni yswiriant y Prudential. Bun ddiacon yn Ramah ac wedi hynny ym Methania a Hermon lle y bu hefyd yn drysorydd am rai blynyddoedd. Treuliodd ei fisoedd olaf yng Nghartref Tŷ Pentwyn lle y cafodd ofal tyner a charedig. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd i'w wasanaeth angladdol yn Hermon o dan ofal y Parch Cyril Llewelyn a'r Parch Hadn Simon England. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w blant Ann Cole a Gwyn Lewis ynghyd â'i chware Megan Foxall a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Cynhaliwyd gwasanaeth ar Noswyl y Nadolig yn Eglwys San Matthew o dan ofal y Canon Michael Short. Wedyn, am 9.30 fore'r Nadolig arweiniad gwasanaeth ym Methlehem gany Parch Cyril Llewellyn a chafwyd Gwasanaeth Carolau a Darlleniadau yn Hermon ar y Sul blaenorol gydag aelodau yn cymryd at y darlleniadau. Dechreuodd merched WI
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Treorci eu rhaglen am y flwyddyn gyda cwis, nos Iau,9 Ionawr. Y siaradwr yng nghyfarfod mis Chwefror ar nos Iau 6ed. fydd Cennard Davies. Pob dymuniad da i Edward Hancock, Stryd Bute, a fu yn yr ysbyty am ychydig ar ôl y Nadolig. Deallwn ei fod yn gwella erbyn hyn yng ngofal ei deulu a mawr obeithiwn yn bydd yn ôl yn ein plith yn fuan, mor weithgar ag erioed. Yn ôl pob adroddiad, bu pantomeim y Parc a'r Dâr yn arbennig o lwyddiannus eleni. Cafwyd cynhyrchiad proffesiynol, caboledig a phawb yn cael modd i fyw. Roedd Frank Vickery, yn ôl ei arfer, ymhlith y sêr. 5
Daeth cynulleidfa luosog ynghyd i wasanaeth Mrs Betty Morgan, Stryd Caerdydd. Yn wraig i Eddie Morgan, codwyd Betty yn un o dri o blant ar y Stryd Fawr ac roedd yn gymeriad adnabyddus yn yr ardal. Cydymdeimlwn yn gywir iawn ag Eddie a'i fab Wayne a'r teulu yn eu profedigaeth. Cafodd Eddie ergyd bellach pan fu farw ei efell, George ar ôl treulio cyfnod hir yng nghartref gopfal Tyntyla. Bydd Pwyllgor Cancr UK Teorci yn cynnal cwis yn Nhafarn y RAFA, nos Lun, 17 Chwefror. Bydd y noson yng ngofal Mr Noel Henry, Ynyswen gyda'r holl elw yn mynd at ymchwil i gancr. Tocynnau
6
ar gael gan aelodau'r pwyllgor. Cofiwn am deulu Mr Dereck Fitzpatrick, Stryd Caerdydd a fu farw'n ddiweddar. Cydymdeimlwn â'i blant Helen, Sharon a Neil. Yn fuan ar ôl marwolaeth ei thad, ganwyd mab, Jacob, i Helen a Dean, bron fel sumbol o obaith a goleuni yng nghanol eu tristwch. Pob bendith i'r teulu oll.
CWMPARC
Bydd bore coffi yn Neuadd y Parc wythnos nesaf, 6ed Ionawr, 10 11. Gobeithio gwelai chi yno. Dyma newyddion mis Rhagfyr eto:
Yn ddiweddar, mae grwp o fechgyn wedi bod yn cnocio drysau yng Nghwmparc a Treorci, yn gofyn am nawdd ar rhan prosiect pobl ifanc Alison House yng Nghwmparc. Dydyn nhw DDIM yn casglu ar rhan y prosiect. Cymeron nhw ffurflenni noddi o Alison House heb ganiatad, ac mae'r heddlu wedi cael eu rhybuddio. Mae wedi bod yn mis prysur yn Ysgol y Parc. Roedd Ffair Nadolig ar ddiwedd mis Tachwedd a wedi codi dros £650 tua partiau Nadolig y plant ac offer chwarae ar gyfer y maes chwarae. Mae Cor yr Ysgol wedi bod yn prsur. Ar y 9fed Rhagfyr, aethon nhw i ymweld ag Ysbyty
George Thomas i adlonni cleifion a staff. Y noson wedyn, roedden nhw'n canu yn "A Night of Music" yn yr ysgol, gyda'r band pres a sawl unawdwyr. Dangosodd y plant eu talent yn canu, canu offer pres a phiano. Hefyd, gwnaet pob dosbarth cyngerdd ar gyfer rhieni.
Mae Canolfan Cymuned Cwmparc wedi bod yn llwyddiannus yng Nghronfa'r Fferm Wynt. Maen nhw wedi ennill £2500 tua gwaithgareddau newydd yn 2014. Maen nhw'n gobithio darparu nifer o waithgareddau i gadw'n heini, gwaithgareddau yn addas i'r teulu, i'r plant a phobl sy'n ifanc yn y bon (young at heart?) Hefyd
yn llwydiannus gan ennill £2500 oedd Ysgol y Parc, sydd yn rhoi'r arian tua'r offer chwarae newydd. Roedd yn ddrwg iawn gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr George Morgan, Stryd Treharne. Roedd yn gymeriad adnabyddus yn yr ardal, yn Ynad Heddwch ac yn aelod o deulu oedd yn selog iawn yng nghapel Soar gynt. Cydymdeimlwn å'i weddw a'i efell, Eddie Morgan yn eu profedigaeth.
Y PENTRE
Dymunwn adferiad llwyr a buan i Tesni Powell, un o'n gohebwyr lleol, a gwympodd yn ddiweddar a thorri ei harddwrn. Roedd trigolion Llys
Siloh yn falch iawn o gael Margaret Morris yn ôl yn eu plith ar ôl iddi orfod treulio cyfnod yn ddiweddar yn ysbytai Brenhinol Morgannwg a Chwm Rhondda. Roedd yn dda ei bod wedi cyrraedd adre mewn pryd i ddathlu ei phenblwydd ar 6 Rhagfyr. Gobeithio iddi gael amser da. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus iawn i un arall or Llys, Pat Vaughan, oedd hefyd yn dathlu ar 11 Ionawr. Roedd yn flin iawn gan breswylwyr Llys Nasareth dderbyn y newyddion am farwolaeth sydyn ac annisgwyl Roy Smith. Roedd Roy wedi byw yn yr ardal trwy gydol ei oes ac yn adnabyddus iawn i bawb. Am flynyddoedd lawer bu'n gweithio yn ffatri Stelco Hardy ac yn uchel ei barch ymhlith ei
gyd-weithwyr. Cydymdeimlwn â'i deulu a'i ffrindiau oll. Mae nifer o breswylwyr Tŷ'r Pentre yn dathlu eu pen-blwydd y mis hwn. Felly dymunwn 'Penblwydd Hapus Iawn' i Nora Wales a Daisy Davies sy'n dathlu ar yr un diwrnod [16 Ion.] ac i Margaret Davies [26 Ion.], Cofiwch fod cyfarfodydd PACT yn cael eu cynnal yn Llys Nasareth ar y dydd Mawrth cyntaf yn y mis rhwng 6-7pm. Mae eich cynghorwyr lleol, Maureen Weaver a Shelley Rees-Owen ar gael yno bob amser ac mae ystafell breifat ar gael ar gyfer trafod materion preifat. Bydd cynllun Chwarae Plant yn ailgychwyn ar 17 Ionawr pan drefnir gweithgareddau o bob math i blant yr ardal rhwng 3.30 - 5.15pm ar
Barc Pentre. Cofiwch wisgo hen ddillad addas. Am ragor o fanylion, galwch 01443 493321 or www.chwaraeplant.org neu edrychwch ar Face book Chwarae Plant.
Mae'r Uwchgapten MariRosa am ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd eitemau crefft i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn ddiweddar. Does dim angen rhagor arni ar hyn o bryd. Yn y flwyddyn newydd bydd y Fyddin mor weithgar ag erioed a'r rhaglen yn cynnwys: Gwasanaeth dydd Sul am 10.15am ac Ysgol Sul am 11.30am. Dydd Llun: Cylch Mam a Phlentyn am 9.15am, J-Team am 5.30pm a Grŵp Ieuenctid am 7pm. Dydd Mawrth: Astudiaeth Feiblaidd am 6pm, canu am 6.15pm a'r Songsters am 7.15pm.
7
Bore Iau cynhelir Bore Coffi am 10.30am.
Mae aelodau'r Fyddin am ddymuno Penblwydd Hapus iJanet Smith a Margaret Morris sy'n dathlu ar 6 Ionawr ac i Tracey Hocking fydd yn dathlu ar yr 8fed. Llongyfarchiadau ichi i gyd.
TON PENTRE A’R GELLI
Daeth rhaglen y Clwb Cameo i ben ar 19 Rhagfyr pan gafodd yr aelodau eu difyrru gan gôr plant Ysgol Gynradd Ton Pentre a ganodd nifer o garolau hen a newydd. Roedd yr achlysur hefyd yn nodi diwedd cyfnod Crinllys Davies fel ysgrifenyddes. Ar ôl llenwi'r swydd am nifer o flynyddoedd, mae Crinllys wedi penderfynu ei
CYFRIFYDDION SIARTREDIG ARCHWILWYR COFRESTREDIG
bod yn bryd iddi roi'r twls ar y bar. Mae pawb o'r gymdeithas am ddiolch o galon iddi am ei gwaith trywyr a chydwybodol dros gyfnod maith. Cymerir ei lle fel ysgrifennydd cofnodion gan Mrs Mair John. Aelodau eraill y pwyllgor fydd: llywydd - Rita Lewis; Ysgrifennydd Mona Howells; Ysgrifennydd Cynorthwyol - Pam Pugh; Trysorydd Gail Williams; Trefnyddion Lluniaeth - Gwen Goughj a Pam Pugh.
Cynhelir cyfarfod PACT yr ardal ar 7 Ioanswr yn Llys Nasareth, Y Pentre. Gallwch gysylltu a PCSO Stephen Pike trwy ei ffonio ar 07805301092. Os oes gennych ddiddordeb mewn canu, mae côr Faith Hope and Harmony yn awyddus iawn i ddod o hyd i aelodau
CYFRIFYDDION SIARTREDIG ARCHWILWYR COFRESTREDIG
YOUNG AND PHILLIPS 77 STRYD BUTE TREORCI RHONDDA CF42 6AH FFÔN: 01443 772225 FFACS: 01443 776928 E-BOST: yandp@lineone.net
8
BLWYDDYN NEWYDD DDA
newydd ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Does dim rhaid sefyll prawf a chroesewir cantorion o bob gradd o allu ac oedran. Gallwch gysylltu â Faith , yr arweinydd ar (01443) 776195 neu 07790152226.
Cafwyd gwledd o ganu carolau yng nghapwl Hebron pan ddaeth holl gapeli'r ardal ynghyd i ganu yng nghwmni côr plant Byddin yr Iachawdwriaeth - ffordd wych o ddathlu'r Nadolig.
Cynhaliwyd cyngerdd Nadolig lwyddiannus iawn hefyd yn Theatr Ffenics. Cymerwyd rhan gan blant Ysgol Ddrama'r Rhondda a gyflwynodd stori'r Nadolig, Cwmni Act 1 a hefyd Côr y Rhondda. Ymunodd y gynulleidfa yn ysbryd yr Ŵyl wrth ganu carolau. Diolch yn
fawr i Peter Radmore a drefnodd y rhaglen ac i Christine Tucket a gyflwynodd yr eitemau yn ei ffordd ddihafal.
Yn anffodus, bu nifer fawr o deuluoedd mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd y canlynol: Mrs Patricia Owen, Stryd Wyndham; Mrs Doreen Johnson, Heol Alexander; Mrs June Latten, Heol Bronllwyn; Mrs Elizabeth Dwyer, Stryd Wyndham; Mr Glanville Williams, Stryd Clarece; Mr Thomas Rees, Heol Gelli; Mr David Davies, Hel y Maendy; Mr David Rees, Heol Bronllwyn a Mr Howard Jones, Old Court House, Heol y Maendy.
GOBAITH I NEUADD Y PARC
Ers peth amser bellach, bu dyfodol Canolfan Gymunedol Cwmparc o dan fygythiad wrth i ffynonellau ariannu o du'r Cyngor a mannau eraill ddod i ben. Collwyd gwasanaeth y staff cyflogedig a rhaid oedd dibynnu ar dîm o wirfoddolwyr parod sydd wedi gweithio'n ddyfal yn y cyfamser yn ceisio sicrhau dyfodol i'r adeilad gwerthfawr hwn sy'n ganolbwynt i'r pentref. Agorwyd Neuadd y Parc yn 1908 yn neuadd bentref oedd hefyd yn gartref i lyfrgell. Talwyd am gynnal y lle gan lowyr pyllau'r Parc a'r Dâr a chawsant nawdd yn ogystal gan deulu Davies, Llandinam oedd wedi sefydlu'r ddau bwll yn y pentref. Ymhlith pethau eraill, ceir yn yr adeilad gofeb i'r 29 o bobl a laddwyd yn ystod cyrch awyr ar Gwmparc 29/30 Ebrill,
parhad ar dudalen 10
YR ADEILADAU COLL
Wrth i bentrefi Cwm Rhondda dyfu a datblygu, cafodd rhai adeiladau nodedig eu dymchwel. Yn aml iawn roedd iddynt le pwysig yn ein hanes. O dro i dro byddwn yn tynnu sylw at yr adeiladau hyn a gaollwyd gan adrodd peth o'u hanes. Dechreuwn y mis hwn gyda 'Gilnockie', Treorci. [ [ [ drosodd Hwn oedd cartref yr enwog Dr Fergus Armstrong a'i frawd John oedd hefyd yn feddyg pwll glo. Tan tua 1970, safai'r tŷ lle mae Llyfrgell Treorci heddiw a chafodd ei enwi ar ôl cartref clan Armstrong yn yr Alban. Daeth Dr John Armstrong i wasanaethu pyllau glo'r Parc a'r Dâr fel meddyg ac ymunodd ei frawd, Fergus, ag ef y ddiweddarach ar ôl cael profiadau diddorol a chyffrous ac yntau'n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth Fergus yn enwog fel llawfeddyg llwyddiannus ac wedyn fel meddyg teulu yn Nhreorci. Gydag ef yn y tŷ hwn yr arhosai artistiaid enwog a berfformiai yn yr ardal ac mewn rhan o'r tŷ â'i ochr at Stryd Dyfodwg y cynhaliai ei syrjyri. 9
GOBAITH I NEUADD Y PARC
parhad
1941 a darn o waith gan y cerflunydd, Robert Thomas a hanai o'r pentref. Mae'r cerflun y dwyn y teitl, 'Bachgen a Llyfr', sumbol efallai o'r addysg a arbedodd llawer o fechgyn yr ardal rhag gorfod mynd i lawr y pwll glo. Dyw'r neuadd ddim wedi bod heb ei phroblemau. Rai blynyddoedd yn 么l, aeth y lle ar d芒n a gweithiodd pwyllgor lleol yn galed iawn i'w hadfer i'w chyflwr presennol. Llwyddwyd i sefydlu nifer o ddosbarthiadau yno ac mae rhai o'r rhain yn dal i weithredu. Defnyddir yr adeilad yn ogystal gan yr heddlu ar gyfer cyfarfodydd PACT a gan y cynghorwyr lleol ar gyfer eu cymorthfeydd misol a phan fydd unrhyw faterion o bwys yn codi o fewn y gymuned, yn y neuadd hon y cynhelir cyfarfodydd i'w trafod. Daeth Neuadd y Parc i'w hystyried yn ganolbwynt y pentref ac mae pawb yn gytun ei bod yn bwysig ei chadw. Pan gynhaliwyd cyfarfod i drafod argyfwng dyfodol y neuadd, un o'r mudiadau lleol a gynrychiolwyd
10
oedd Band Cory a ddywedodd fod ganddynt ddiddordeb mewn defnyddio'r lle fel man ymarfer a hefyd ar gyfer perfformiadau cyhoeddus. Yn swyddogol, mae Band Cory yn cael ei ystyried y band pres gorau yn Ewrop ar 么l cipio'r bencampwriaeth Ewropeaidd eleni. Nhw hefyd yw pencampwyr Prydain ac yn ogystal cipion nhw deitl 'Brass in Concert', eto yn 2013 o dan arweiniad Philip Harper. Bu 2013 yn flwyddyn dra llwyddiannus iddynt ac ar ben eu llwyddiant mewn cystadleuthau aethon nhw ar daith i Awstralia am 10 wythnos a pherfformio mewn gwahanol ddinasoedd ar draws y cyfandir. Y gobaith yw y bydd y cysylltiad newydd 芒 Chwmparc yn cyflawni dau amcan, Yn y lle cyntaf bydd y band yn cael cartref sefydlog gyda neuadd lle y gallant ymarfer a pherfformio. Ar yr un pryd, bydd hynny'n galluogi gweithgareddau eraill i gael eu cynnal yn rhan arall yr adeilad. Mae'n ymddangos yn briodas berffaith. Hir y parhaed!
ANNIE! - SIOE NADOLIG YSGOL GYFUN Y CYMER.
GWAITH ELUSENNOL YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Mae wedi bod yn dymor llwyddiannus iawn o ran ein hygyrchoedd i godi arian i helpu eraill. Casglwyd dros gan punt ar gyfer Cymorth Cristnogol, ac wedi ymweliad gan Mr Wil Morus Jones, sefydlydd “Bangla Cymru” ac arbenigydd meddygol o Bangladesh, fe roddwyd £50 gan ddisgyblion o flwyddyn 7 a oedd am sicrhau bod plant yn medru cael llaw driniaeth angenrheidiol. Mae ein chweched dosbarth yn arbennig o dda am godi ymwybyddiaeth ein disgyblion am anghenion eraill. Fe drefnodd y disgyblion fore coffi ar gyfer ymgyrch lleddfu cancr Macmillan. Bwytawyd llawer o gacennau a danfonwyd siec am £450 at ymgyrch elusennol y Maer. Treuliodd y disgyblion un prynhawn yn trafod y gwaith yma gyda’r Maer. Cyn Nadolig, fe gafwyd dau ymgyrch pwysig. Yn gyntaf, fe lansiwyd ymgyrch Operation Christmas Child i’r ysgol gyfan. Ymatebodd y disgyblion yn wych i hyn ac fe gasglwyd 150 o focsys i’w danfon i blant mewn gwledydd eraill. Yn ogystal a hyn, fe gafwyd ymgyrch hyfryd cyn Nadolig i godi arian tuag at Gronfa Achub y Plant. Gofynnwyd i bawb i wisgo eu siwmperi Nadolig am y dydd yn yr ysgol. Casglwyd dros £550 gan ein disgyblion a’n staff. Dyma lun o’r staff yn eu siwmperi! Gwasanaeth Carolau Gwahanol ! Cynhaliwyd Gwasanaeth Carolau blynyddol Ysgol Gyfun Cymer Rhondda eleni ar nos Fawrth Rhagfyr 17eg yn Eglwys Santes Anne Ynyshir. Cafwyd cyflwyniadau gwych gan ddisgyblion yr Ysgol – ar lafar ac yn gerddorol.
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
[Mae Seren MacMillan, Treherbert, un o gast y sioe 'Annie' yn sôn am y profiad o gyflwynor sioe gerdd yn Theatr y Parc a'r Dâr] Ym mis Tachwedd, cafodd Ysgol Gyfun Cymer Rhondda lwyddiant ysgubol wrth berfformio ANNIE yn Theatr Y Parc a’r Dâr. Y flwyddyn hon, mae’r ysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed ac yn ôl rhai, dyna oedd y sioe orau mae’r ysgol erioed wedi ei gwneud! Roeddwn i’n rhan o’r cynhyrchiad, yn chwarae Tessie, un o’r plant amddifad sy’n ddeng mlwydd oed. Roedd clywed canmoliaeth yr holl athrawon ac yn enwedig aelodau’r gynulleidfa yn hyfryd ac, yn bendant, yn werth yr holl oriau o ymarfer! Nia Rees oedd yn chwarae’r rôl, Annie. Mae Nia o Don Pentre yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 sy’n sefyll ei harholiadau TGAU eleni. Mae hi’n aelod brwd o Gôr y Cwm a Bro Tâf ac yn hoff o ganu, actio a dawnsio, yn enwedig clocsio! Dwedodd “Roedd hi’n ffab gweld y cynhyrchiad yn datblygu o fod yn sgript ar bapur i berfformiad gweledol”. Dylan Davies o Dreorci oedd yn chwarae Dadi Warbucks, a chwaraeir y rhan hon yn y ffilm wreiddiol (1982) gan Albert Finney. Profiad cyntaf Dylan o berfformio ar lwyfan oedd yn 2005 gyda ‘Rhondda Theatr Group’, lle oedd yn rhan o ‘Fagin’s Gang’ yn eu cynhyrchiad o Oliver. Mae Dylan ym mlwyddyn 12 ac yn astudio’r Gymraeg, Drama a Chyfrifiadureg. Yn ôl Dylan, “Roedd perfformio rhan Dadi Warbucks yn gwbl wahanol i’r rhannau eraill dw i wedi chwarae oherwydd mae chwarae rôl dyn yn rhywbeth newydd i mi ac yn her i bortreadu rhywun o statws mor uchel”. Roedd y sioe yn un anferth, o ran caneuon ac yn enwedig y set, ond wnaeth yr holl ymarferion dalu ffrwyth. Yn ogystal â phob disgybl ar y llwyfan, roedd yr athrawon eto wedi ymroi 110%. Rhaid diolch i Miss Delyth Caffrey, Mrs Catrin Williams, Mr
11
ANNIE! parhad o dud 11
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA CANOLFAN Y MILENIWM – ail gartref Côr yr Ysgol!
Derbyniodd Côr yr Ysgol wahoddiad i ganu yng nghanolfan y Mileniwm tair gwaith yn ystod y tymor diwethaf! Roedd y côr yn rhan fawr o ddathliadau "It's My Shout" - gwŷl oedd yn dathlu ffilmiau byr Cymreig ym Mis Tachwedd. Derbyniwyd gwahoddiad i ganu mewn cynhadledd yn trafod cydraddoldeb addysgol yng nghwmni'r Weinidog Addysg Huw Lewis yn Nhachwedd, ac eto i ganu rhaglen Nadoligaidd fel rhan o ddathliadau'r Nadolig yn y Ganolfan.
Owain Harris, Mrs Emma Gray a Miss Catrin Davies am eu hymrwymiad a’u gwaith caled, eto eleni. Un a oedd wrth ei bodd oedd Miss Rhian Morgan Ellis, Prif Athrawes Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Dwedodd ar ôl y sioe," Llongyfarchiadau gwresog i bawb a oedd ynghlwm gyda’n cynhyrchiad blynyddol gwefreiddiol yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda! I aelodau’r cast, staff, rhieni a theuluoedd – diolch, unwaith eto, am eich cefnogaeth. Pleser oedd cael dathlu talentau ein pobl ifanc ar lwyfan y Parc a’r Dar, Llongyfarchiadau mawr i chi gyd!" Erbyn hyn, mae stori Annie yn un adnabyddus sy’n dilyn y ferch un ar ddeg mlwydd ar oed ar ei thaith o garpiau i gyfoeth. ¬¬¬¬Stori am obaith a’r cyferbyniad rhwng ewyllys da a drwg. Ar ddiwedd ein perfformiad olaf, braf oedd gweld y theatr gyfan ar eu traed yn cymeradwyo. Hyfryd oedd perfformio Annie am ddwy noson yn y Parc a’r Dâr, (theatr sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 100 eleni) a’i pherfformio i’r ysgolion cynradd yn ystod y prynhawn. Pleserus iawn oedd gweld plant blwyddyn 5 a 6 yn mwynhau, ac yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cynyrchiadau blynyddol pan ddeuant nhw i’r Cymer. S H MacMillan
YMWELIAD LEANNE WOOD
12
Roedd yn bleser croesawu Leanne Wood AC ac arweinydd Plaid Cymru i'r ysgol yn ddiweddar. Daeth Ms Wood i siarad gyda myfyrywr y Chweched fel rhan o'u gwaith ar gyfer y modiwl Cymru, Ewrop a'r Byd sy'n rhan o'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Cafwyd cyflwyniad diddorol ganddi am sefyllfa'r Cwm, gyda chwestiynau gan aelodau'r chweched Dosbarth yn tanio trafodaethau difyr iawn. Diolch yn fawr iawn iddi am roi o'i hamser i ymweld â ni. Rhian Morgan Ellis Pennaeth Ysgol Gyfun Cymer Rhondda