Gloranionawr17

Page 1

y gloran

20c

'MACBETH' YN NHREORCI, MIS HYDREF 1940

DRAMA DYWYLL AR GYFER CYFNOD TYWYLL Dod o hyd i hen raglen ddrama ym marchnad Resolfen a sbardunodd Huw Davies i fynd ar ôl yr hanes diddorol a geir yma. Parhad ar dud 3 a 4


golygyddol l Y BLANED A'R IAITH

Ar ddechrau blwyddyn newydd bydd llawer o bobl yn gwneud addunedau - ac fel arfer yn methu'n lân â'u cadw ar ôl ychydig o wythnosau. Mae'r bwriad yn dda ond yr ewyllys yn wan, ond nid drwg o beth yw rhoi cynnig arni, beth bynnag. Yn ystod 1916 cawsom ganolfan ailgylchu newydd ysblennydd ym Mhenyrenglyn i wasanaethu rhan ucha'r cwm. Rhaid llongyfarch y Cyngor am gyflawni ei addewid o'r diwedd er inni orfod aros yn hir ers cau canolfan Heol y

2

Fynwent, Treorci. Mawr obeithiwn y bydd y ganolfan wych hon yn ein hysbrydoli i fynd ati o ddifrif i ailgylchu popeth a allwn. Nid yn unig y byddwn yn arbed llawer o arian i drethdalwyr yr ardal ond hefyd yn chwarae ein rhan wrth sicrhau dyfodol i blaned sy'n fwyfwy o dan fygythiad oherwydd ein camdriniaeth ohoni. Felly, ewch ati i ailgylchu cymaint ag y medrwch a phwyswch ar eich ffrindiau a'ch cymdogion i weithredu yn yr un modd.

Adnodd arall mae'n rhaid i ni ei warchod yw ein

Cynllun gan High Street Media

2017

y gloran

YN Y RHIFYN HWN

Macbeth yn Nhreorci.1/4 Golygyddol...2 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Swyddfa’r Post/Cae 3G/Cartwn/ Byd Bob ..6-7 Cymry Byd Busnes...10 Gwyl Shakespeare -11 Ysgolion...-12

hiaith. Mae hi wedi bod o dan fygythiad ers cyn cof, ac fel pob sgil arall, oni chaiff ei ddefnyddio, fe'i collir am byth. Yn aml iawn, y rhai sydd wedi gorfod gwneud ymdrech i ddysgu Cymraeg yn oedolion yw'r rhai sy'n ei gwerthfawrogi fwyaf am eu bod wedi cael y profiad o fyw hebddi. Wrth gwrs, gallwch

fodoli hebddi, ond fel y dywedodd y Llew a'r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Billy Raybould, "Roeddwn yn gallu dilyn snwcer ar deledu du a gwyn, ond cymaint gwell yw ei wylio mewn lliw!" Eleni, gadewch inni addunedu i ddefnyddio ein Cymraeg ar bob achlysur posib ac i'n helpu yn hyn o beth rydyn ni'n ddyledus i Nerys Bowen am ei gwaith yn rhestru siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio yn siopau Treorci. O dro i dro, mae'r Gloran wedi tynnu sylw at fusnesau sy'n defnyddio'r Gymraeg, ond dyma'r to cyntaf i unrhyw un ganolbwyntio ar ardal gyfan. Gobeithio y gwnawn ni i gyd fanteisio ar waith Nerys yn 2017. Blwyddyn Newydd Dda i'n holl ddarllenwyr.

Golygydd


rhyfel. Golygai hyn gyflwyno 59 o berfformiadau gan ddechrau yng Nghasnewydd ar 24 Medi a gorffen yn Llanelli ar 30 Tachwedd.

Cymerwyd rhan Macbeth a Lady Macbeth gan ddau o sêr mawr y cyfnod, sef Sybil Thorndyke a'i gŵr, Lewis [yn ddiweddarach Syr Lewis] Casson. Roedd eu merch, Ann Casson, hefyd yn aelod o'r cast ac yn chwarae mab Banquo, Fleance, a Lady Macduff. Cyfarwyddwyr y cynhyrchiad oedd un o gyfarwyddwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif, Tyrone Guthrie ynghyd â Lewis Casson ei hun. Roedd hwn yn gyfnd gwironeddol dywyll yn hanes Treorci, Prydain ac, yn wir, Ewrop i gyd. Erbyd mis Hydref 1940, roedd byddin Hitler wedi ymosod ar Tsiecoslofacia, Gwlad Pwyl, Denmarc, Norwy, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg a Ffrainc a ddeuddydd cyn y perfformiad yn Ddydd Mercher, 30 Hydref 1940, perfformiodd Cwmni Nhreorci roedd cynghreiriad yr Almaen, yr Eidal, wedi dechrau ymosod ar Wlad Groeg. Byddai blwyddyn arall Drama'r Old Vic drasiedi Shakespeare, 'Macbeth' yn yn mynd heibio cyn i America ymuno yn y rhyfel ac Nhreorci yn rhan o daith hir trwy dde Cymru adeg y roedd yr Undeb Sofietaidd, na fyddai yn rhan o'r frwydr yn erbyn y wlad honno tan Fehefin 1941, wedi arwyddo cytundebau gwleidyddol ac economaidd gyda Reich Hitler Fodd bynnag, roedd y Llu Awyr wedi ennill Brwydr Prydain gan wneud i Hitler ohirio'i benderfyniad i ymosod ar yr ynysoedd hyn. Daliai bomiau i gwympo ar drefi a dinasoedd wrth i'r Almaen eu targedu yn hytrach na meysydd awyr a ffatriYn wir, ar noson oedd. 59 Stryd Gwendoline, Treherbert gyntaf y daith yng Nghasnewydd cafodd tŷ

MACBETH YN NHREORCI MIS HYDREF 1940

Geraint Davies (Fferyllydd) BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB

drosodd

3


rheolwr y theatr, lle roedd Lewis Casson a Sybil Thorndye i fod i aros, ei ddinistrio mewn cyrch awyr.

Pwrpas y Daith Pam roedd yr Old Vic yn perfformio yng nghymoedd de Cymru ar yr adeg anodd hon?. Yn ystod y blitz, cafodd y cwmni ei symud o Lundain i Burnley a pherfformiodd mewn nifer o ardaloedd diwydiannol o dan nawdd CEMA, Council for the Encouragement of Music and the Arts (rhagflaenydd Cyngor y Celfyddydau). Credid y byddai gweld cwmni enwog yn perfformio dramâu o safon yn hyrwyddo gwerthoedd diwylliannol Prydain ac yn codi ysbryd pobol. Cwestiwn arall i'w ofyn yw pam perfformio drama sydd mor dywyll a threisgar ar yr adeg hon? Codwyd y cwestiwn gan rywun a adolygodd cynhyrchiad o'r ddrama ym Mhontypridd. Yn rhifyn 2 Tachwedd, 1940 o'r Free Press and Rhondda Leader, mae e neu hi'n gofyn, "Pam 'Macbeth', y mwyaf didostur o holl weithiau Shakespeare, yn nyddiau tywyll a heriol y rhyfel pan fo angen adloniant hwyliog ar bobol gyffredin, yn ôl rhai? Cawsom yr ateb yn y prolog dyfeisgar pan ddaeth yr actorion i'r llwyfan mewn gwisgoedd Elizabethaidd, yn gwmni o actorion crwydrol, a thrafod pa ddrama y dylen nhw ei pherfformio. Mae Sybil Thorndyke ei hun yn gweld y tebygrwydd rhwng y ddrama hon am chwedloniaeth yr Alban a'r ddrama sy'n cael ei chwarae ar lwyfan ehangach heddiw . Mae hi'n ein hatgoffa bod Macbeth, filwr yng ngwasanaeth y Brenin Duncan, yn llofruddio er mwyn cipio grym ac yn para i ladd er mwyn ei gadw, bod ei ewyllys dilyffethair yn rhuthro ym4

laen i ddinistrio ei hun, hyd yn oed yn drech na rheolaeth ei wraig oergalon, anhrugarog, gynllwyngar a ysbrydolodd ei fwriad drwg. Mae hefyd debygrwydd rhwng y tair gwrach annaearol y dylanwadodd eu mwmial goruwchnaturiol cymaint ar Macbeth a rhai astrolegwyr yn yr Almaen heddiw. "A dyw dynion ddim yn newid mewn mil o flynyddoedd." meddai Ac wrth gwrs, ar ddiwedd y ddrama, gorchfygir y gormeswr a daw trefn newydd i fod o dan fab Duncan, Malcolm, sydd yn ei sgwrs â Macduff a achosodd gwymp Macbeth yn mynd i drafferth i danlinellu'r gwerthoedd moesol y mae e'n eu coleddu. Gwelid cwymp y gormeswr, Hitler yn rhywbeth 'devoutly to be wished' yn Nhreorci fis Hydref 1940.

Anawsterau'r Daith Roedd amgylchiadau ar y daith yn anodd i'r cwmni. Thorndyke. Mae'n adrodd Dro arall, pan ofynnwyd iddi oedd hi erioed wedi Roedden nhw'n cludo'r se- ei bod wedi cael ei chyflwyno gan wron lleol ystyried ymadael â'i gŵr, tiau a'r celfi ar un lori a cyn siarad â grŵp addysg- dywedodd, "Ysgariad, theithiai'r actorion gyda'i gilydd mewn bws. Doedd wyr fel 'aelod enwog o byth! lofrddiaeth, yn diffyg cyfleusterau ddim broffesiwn hynaf y byd". aml!" yn rhwystro Sybil Thorndyke rhag gwerthfawrogi ymateb cynulleidfaoedd de Cymru. CYFRIFYDDION CYFRIFYDDION Dywed mewn SIARTREDIG SIARTREDIG llythyr a sgrifenARCHWILWYR ARCHWILWYR nwyd ar y pryd, "Dyn ni erioed wedi COFRESTREDIG COFRESTREDIG perfformio o flaen y fath gynulleidfaoedd. Dydyn nhw ddim yn cyffro o gwbl wrth inni berfformio, ond ar y diwedd maen nhw'n mynd yn wallgo' ac yn codi'r to â'u 77 STRYD BUTE cymeradwyaeth. TREORCI RHONDDA Dyma'r theatr rydyn CF42 6AH ni'n ei hoffi orau mynd reit i blith y FFÔN: 01443 772225 bobol. Wedyn maen FFACS: 01443 776928 nhw i gyd yn dod i siarad â ni." E-BOST: yandp@lineone.net

YOUNG AND PHILLIPS

Roedd synwyr digrifwch gan Sybil

BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB


newyddion lleol

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth un o drigolion mwya adnabyddus Tynewydd, sef Jean Lawrence o Blaencwm Rd. Cyn ei hymddeoliad roedd Mrs Lawrence yn gweithio i Heddlu De Cymru. Roedd hi'n flaenllaw mewn llawer o achosion lleol, ac wedi ei hanrhydeddu fel aelod benywaidd o Gôr Meibion Treorci. Cynhellir y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Blaenycwm lle roedd hi'n aelod a'i diweddar ŵr, Ieuan yn ddiacon. Cydymdeimlwn â'i phlant, Stephen, Ann a Kevin.

Llongyfarchiadau i Clive Sheridan o Dumfries St. am ddod yn ail yng ngystadleuaeth y BBC "Unsung Heroes”. Roedd Clive a'i wraig Christine yn westeion yn noson gwobrwyo Chwaraewyr y Flwyddyn. Mae Clive wedi adfywio clwb bowls Treherbert a wedi cyflwyno bowls i genhedlaeth o blant wrth weithio gydag ysgolion Penpych a Phenyrenglyn. Cynhaliwyd Ffair Nadolig ar ddechdrau’r mis yng nghapel Blaenycwm. Daeth torf o bobl i fwynhau’r diwnod a phrynu gwaith celf a

wnaethpwyd yn y Meddygfa Celf sydd nesaf at y capel. Roedd Sion Corn yn boblogaidd iawn! Diolch i bawb am eu cyfraniad.

Trefnodd Mrs Jane Brownnutt noson gymdeithasol yng nghanolfan yr henoed yn Nhreherbert. Roedd nifer o berfformwyr lleol yn cymryd rhan, yn cynnwys Band Arian Treherbert, cantorion, siwglwyr a chafwyd arddangosiad o goginio Nadoligaidd gan y cogydd, y Parchedig Phil Vickery.

Cynheliwyd cinio Nadolig eto eleni yng nghapel Blaenycwn ar ddydd Nadolig. Roedd y cinio yn dechrau ar ôl y gwasanaeth boreol (10.45 ). Doedd dim tal.

Cynhaliwyd cyfarfod i lawnsio Cronfa Cymunedol Fferm Gwynt Pen y Cymoedd ym mrosiect Penyrenglyn ar y 5ed o Rhagfyr. Daeth llawer o gynrichiolwyr mudiadau lleol at ei gilydd a gwahoddodd cadeirydd y pwyllgor, Mr Marc Phillips , gynigion hyd at £5,000. Bydd rhaid i'r cynhigion

cyrraedd erbyn y 13ed o Chwefror a bydd y rhai llwyddianus yn gwybod erbyn diwedd

mis Mawrth. Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am ddosbarthu £1.8 miliwn y flwyddyn am 20 mlynedd.

Mae Dŵr Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi dod i gytundeb i ddatrys problem bygythiad llifogydd yn ymyl canolfan trin dŵr Tyn y Waun. Mae'r broblem wedi bodoli am dair mlynedd ac mae trigolion Sŵn yr Adar a Blaencwm Terrace yn teimlo rhyddhad fod y roblem wedi ei datrys o’r diwedd. Yn drychinebus bu fawr Stephen Lewis mewn damwain wrth yrru ei fan ym Mriste ar y 14 o

Dachwedd. Daeth torf mawr i'r angladd a gynhaliwyd yn arlosgfa Llwydcoed. Cydymdeimlwn a’r holl deulu.

TREORCI

Ddydd Mawrth, 31 Ionawr bydd 10 o aelodau Cyngor Ysgol Gynradd Treorci ynghyd ag aelodau staff yn ymweld â'r Senedd yng Nghaerdydd lle maen nhw'n gobeithio cwrdd â'u haelod cynulliad lleol, Leanne Wood ac aelodau eraill o'r corff. Yn ogystal, cânt gyfle i fynd o gwmpas yr adeilad sy'n un o adeiladau

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN mwyaf arbennig Cymru.

Nos Fawrth, 20 Rhagfyr, cynhaliodd aelodau Mudiad y Merched [WI] Treorci eu gwasanaeth carlau a darlleniadau yn Eglwys San Matthew.Cymerwyd rhan gan gôr y Wi o dan arweiniad Mary Price gyda Sioned Dutfield yn cyfeilio a chafwyd darlleniadau gan nifer o'r aelodau. Llywyddwyd gan y ficer, Parch Philip Leyshon.

Llongyfarchiadau i Arfon Evans, gynt o Cardiff St ar ddathlu ei ben blwydd yn 80 oed. Ers blynyddoedd, mae Arfon yn byw yn Seland Newydd a chafodd syrpreis

PARHAD ar dudalen 8

5


SWYDDFA'R POST Bu dyfodol Adran Ddosbarthu a Didoli Treorci yn y fantol ers rhai blynyddoedd. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus pan awgrymodd y Post Brenhinol symud yr adran i Flaenclydach ac yn sgil gwrthwynebiad y cyhoedd a rhesymau eraill, gwrthodwyd y cynllun hwnnw. Fodd bynnag, mae'n ymddagos y bydd gwaith yn cael ei symud o Dreorci yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ond y tro 'ma i Ferndale. Y rheswm a roddir am hyn

BYD BOB

Y mis hwn mae Bob yn sôn am ddau fardd a fu farw'n ifanc iawn, y naill o Sbaen a'r llall o Dreorci. Y dydd o'r blaen, roeddwn i'n siarad â hen ffrind ar y ffôn. Roger Boore yw ei enw e, rheolwr Gwasg y Dref Wen yng Nghaerdydd. Roedd Roger yn awyddus i sôn wrtho i am drip roedd e wedi'i wneud gyda'i wraig Ann i Granada yn ne Sbaen. "Fe aethon ni i weld yr ystafell lle cafodd Lorca ei restio gan y Guardia Civil

6

yw bod yr adeilad yn Nhreorci'n rhy fach ac ar ddau lawr. Dywedwyd wrth gynghorwyr Treorci fod y gweithwyr o blaid y penderfyniad hwn, er ei bod yn amlwg wrth siarad ag unigolion, nad oedd y farn hon yn unfrydol. Cafwyd sicrwydd na fyddai symud yn effeithio mewn unrhyw fodd ar safon y gwasanaeth a dywedwyd y byddai cwsmeriaid gasglu parseli o Swyddfa'r Post unrhyw bryd yn ystod oriau agor. Y gofid yn yr ardal, fodd

bynnag, yw a fydd perchnogion Swyddfa'r Post yn gallu fforddio cynnal yr adeilad presennol ar ôl colli'r rhent a gânt gan y Post Brenhinol. Ychydig cyn y Nadolig, ymwelodd Aelod Cynulliad y Rhondda, Leanne Wood â'r swyddfa pan oedd holl brysurdeb y Nadolig yn ei anterth. Gwelodd dros 20 o bostmyn yn didoli llythyron a pharseli a'u trefnu yn ôl ardalaoedd a strydoedd. Erbyn y Nadolig nesaf bydd y gwaith, yn ôl pob tebyg, wedi ei symud i

Ferndale. Bydd hyn yn golled fawr i ardal y Rhondda uchaf, yn llawer mwy anghyfleus i lawer o'r gweithwyr ac yn rhoi dyfodol yr adeilad, o bosib, yn y fantol. Mae addewid na fyddwn yn gweld unrhyw wahaniaeth yn safon y gwasanaeth o ran ansawdd nac amseru, ond amser yn unig a ddengys pa mor wir fydd hynny.

(heddlu arfog)," meddai Roger. "Roedd yn brofiad bythgofiadwy."

giaeth.

Weithiau rwy'n meddwl am Garcia Lorca pan rwy'n galw ar fy ffrind, John Dee yn High St, Treorci. Mae John yn byw yn nhŷ Ben Bowen, bardd a fu farw'n ifanc iawn oherwydd afiechyd ddechrau'r garif ddiwethaf. Yn ôl Cennard Davies, roedd Bowen yn fardd addawol iawn, ond tipyn o rebel ynerbyn y sefydliad, fel y Sbaenwr Lorca. Roedd e'n fwy na deng mlynedd yn ifancach na Lorca hefyd pan fu farw. Yn ôl y plac ar wal y tŷ, roedd Ben Bowen yn 'un o'r tannau a dorrwyd yn gynnar.' Ond dydw i ddim yn cytuno. Mae llenyddiaeth y ddau awdur yn bodoli o hyd. Er eu bod nhw wedi marw yn gynnar, bydd tân eu llenyddiaeth yn llosgi am byth.

Fel fi, mae Roger wedi darllen barddoniaeth a dramâu Garcia Lorca, oedd yn sgrifennu yn y dauddegau a'r tridegau, sef jyst cyn rhyfel cartref Sbaen (1936-39). Yn ei lyfrau, roedd Lorca'n beirniadu'r Guardia Civil am eu hagwedd tuag at sipsiwn Granada oedd yn dioddef fel y duon yn yr Unol Daleithiau. Pan gododd Franco a'r fyddin yn erbyn y llywodraeth sosialaidd, roedd rhaid i lawer o awduron asgell chwith ffoi dramor am eu bywydau. Roedd y rhyfel yn ffyrnig a bu farw cannoedd o filoedd o bobl ynddo, gan gynnwys rhai o Gwm Rhondda a aeth i Sbaen i ymladd yn erbyn Ffas-

Unwaith yn nwylo'r Guardia Civil, doedd dim siawns gan Lorca. Cafodd ei saethu heb dreial. Roedd ei farwolaeth yn golled fawr i lenyddiaeth Sbaen am fod Lorca ond yn dri deg wyth oed. Yn ffodus, roedd e wedi cyhoeddi nifer o lyfrau'n barod a chyn hir byddai ei waith yn adnabyddus dros y byd i gyd. Gan ei fod e'n gwybod ei fod e mewn perygl, fe roddodd e lawysgrifau newydd i ffrind ifanc o'r enw Nadal cyn cael ei restio. Fe aeth nadal â nhw i Lundain. Fe ddaeth Nadal yn ddarlithydd yng Ngjoleg y Brenin yn y Strand lle roedd yn diwtor arna' i ar ddechrau'r chwedegau.


CAE 3G NEWYDD I DON PENTRE

Ym mis Rhagfyr, daeth y cyn-beldroediwr rhyngwladol Nathan Blake i agor cae 3G pob tywydd ar ddarn o dir diffaith ger Canolfan Gymunedol Ton Pentre a'r Gelli. Sicrhawyd y cae trwy grant o £124,000 a ddyfarnwyd i'r Ganolfan gan Lywodraeth Cymru. Agorodd y Ganolfan ar safle hen Glwb Bechgyn Ton Pentre ac ers hynny cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau gan dîm

o wirfoddolwyr brwd. Bydd y cae 5 bob-ochr at wasanaeth y gymuned gyfan ac yn barod mae nifer o glybiau'r ardal yn manteisio arno, gan gynnwys tîm pêl-droed yr anabl yn yr ardal, clybiau rygbi Ystrad a Threorci ac aelodau Clwb Bechgyn a Merched Ton Pentre. Daeth nifer ynghyd i'r seremoni agoriadol a da oedd cael presenodeb Nathan Blake a arhosodd i sgwrsio â'r trigolion lleol am dros 3 awr. Yno hefyd oedd yr Aelod Cynulliad Leanne Wood a'r cynghorwyr lleol

Maureen Weaver a Shelley Rees-Owen a chafwyd eitemau addas gan gôr Ysgol Gynradd a babanod Ton Pentre. Dywedodd Shelley ReesOwen fod diolch yn ddyledus i Nathan Blake am roi mor barod o'i amser i gefnogi'r fenter. Roedd Shelley ac yntau yn cydweithio hefyd dros elusen 'It's My Shout' ond dywedodd hefyd bod ar yr ardal ddyled fawr i'r gwirfoddolwyr hynny sy'n cynnal holl weithgareddau'r Ganolfan o wythnos i wythnos. Dywedodd y Cyng. Maureen Weaver,

'Bydd y cae hwn yn trawsffurfio'r modd y bydd timau lleol yn gallu paratoi at ornestau yn y dyfodol er gwaethaf ein tywydd gwlyb ac mae'r fenter hon yn dangos beth sy'n bosib ei gyflawni pan ddaw'r gymuned at ei gilydd." Mae'r cae ar gael i bawb yn yr ardal ac mae modd bwcio amser arno trwy dudalen Gweplyfr / Facebook y Ganolfan Gymunedol. Llongyfarchiadau i bawb a weithiodd mor galed i ddod â'r fenter uchelgeisiol hon i fwcwl.


hyfryd pan aeth ei chwaer Ray fynd draw i gyfranogi o'r dathliadau.

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Kevin Jones, Stryd Herbert, yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Roedd Kevin yn aelod selog o'r Clwb Busnes ac yn chwaraewr snwcer brwd. Cydymdeimlwn â'i weddw, Betty, ei blant, Beverley ac Anthony, ei chwaer, Enid Bowen ynghyd â'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i dri o aelodau Hermon, Mrs Menna Smith, Pont-y-clun a drawyd yn wael tra yn ymweld â Llundain, Miss Barbara Hickerton, Stryd Stuart a Miss Brenda Summerhayes, Y Stryd Fawr sydd hefyd

8

wedi bod yn yr ysbyty dros wyliau'r Nadolig.

Trwy ymdrechion gwahanol fudiadau lleol, mae diffibrilwyr [difibrillators] nawr ar gael at iws y cyhoedd mewn argyfwng yn Neuadd Les Ynyswen, Clwb Rygbi Treorci, tafarn y Pengelli, Treorci a thafarn y Tremains, Cwmparc.

Mae pawb yn WI Treorci'n dymuno adferiad llwyr a buan i Mrs Eira Richards, Stryd Dumfries, sydd gartref erbyn hyn ar ôl bod yn yr ysbyty am rai wythnosau. Da yw clywed ei bod yn gwella.

Ar 24 Rhagfyr, tra ar ymweliad â'i rieni yng nghyfraith, Mr a Mrs Elfed Hughes, Heol y Fynwent, bu farw Eilir Williams, gŵr Anna. Roedd Anna ac Eilir yn byw ym Manceinion lle roedd y ddau'n gerddorion, ond

brodor o Ddolwyddelan, Gwynedd oedd Eilir ac ym Mangor y bu'r gwasanaeth angladdol. Cydymdeimlwn â'r teulu oll yn eu colled.

Cynhaliwyd cyfarfod mis Ionawr o'r WI, nos Iau, 5 Ionawr pan fwynhaodd yr aelodau gwis o dan ofal Mrs Ann Barrett a sesiwn o fingo yng nghwmni Mrs Pauline Worman.

CWMPARC

Croeso yn ôl i Ysgol y Parc i Mr Tom Rouse. Mae Mr Rouse yn athro cyflenwi, ac un sy’n boblogaidd iawn gyda’r plant a rhieni. Roedd e’n gweithio yn Ysgol y Parc cyn symud i Ysgol Penpych y llynedd. Mae Mr Rouse yn cymryd lle Mr Robert Taylor sydd wedi cael secondiad i Ysgol Llantwit Faerdre am dymor. Pob lwc i’r ddau

ohonynt.

Y PENTRE

Ddechrau'r mis galwyd hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Sain Tathan i achub dyn oedd wedi cwympo a chael ei anafu ar fynydd Moel Cadwgan uwchben y Pentre. Oherwydd y tywydd gaeafol, bu criw'r hofrennydd yn brysur iawn ddechrau'r flwyddyn.

TON PENTRE

Llongyfarchiadau i gaffi Morgans sydd newydd ddathlu ei ail Nadolig ar ôl blwyddyn lwyddiannus. Tyfodd y caffi yn boblogaidd fel man bwyta a'r siop hefyd yn elwa yn ei sgil. Erbyn hyn, mae Swyddfa'r Post wedi hen ymsefydlu yno a phobol yn ei defnyddio ar gyfer bancio yn ogystal ers i'r banciau lleol


gau. Pob llwyddiant i Morgans i'r dyfodol.

Pob dymuniad da i Mr Ray Devonald, Tŷ Ddewi sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg o ganlyniad i gwympo yn ei gartref. Mae ei holl ffrindiau yn Nhŷ Ddewi'n holliach yn fuan.

Ar hyn o bryd, mae'r Tad Haydn ar wyliau yn Sbaen ac yn ei absenoldeb mae ei blwyfolion wedi cael cyfle i estyn croeso i'r Canon Michael Short, Castell nedd, sy wedi bod yn arwain y gwasanaethau yn yr eglwys yn ei le. Diolch o galon iddo.

Ar ddechrau blwyddyn newydd, dymunwn bob

llwyddiant i'r Clwb Cameo unwaith eto eleni. Bydd y cyfarfodydd yn digwydd ar yr amser arferol yn nhafarn Fagin. Croeso i aelodau newydd.

Llongyfarchiadau i Mr a Mrs Ray Wilshire, Maindy Grove ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt [60 mlynedd] y mis hwn. Tua'r un adeg, mae Ray yn dathlu ei ben-blwydd yn 82 oed. Pob dymuniad da i'r ddau i'r dyfodol.

Yn 1947 pan ailffurfiwyd Côr Meibion Treorci, ymhlith yr aelodau cyntaf roedd dau ŵr o'r ardal, Islwyn Morgan a Norman Martin. Y syndod yw bod y ddau, Islwyn, 89 oed a Norman, 93 oed, o hyd canu

ymhlith tenoriaid y côr. Rhyngddynt, maen nhw wedi rhoi 140 mlynedd o wasanaeth i Gôr Treorci - ac yn dal ati mor frwd ag erioed. Llongyfarchiadau i'r ddau sy bron byth yn colli practis! Bu farw Richard [Dic] Lewis, y cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu yn 78 oed. Yn fab i'r Parch a Mrs Haydn Lewis, gweinidog Jeriwsalem, fe'i maged yn Upper Canning St. Cafodd glod am ei waith ar ddramâu a rhaglenni dogfen yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gynnwys rhai am y diwygiwr, Evan Roberts a'r bardd Dylan Thomas. Cyhoeddodd hunangofiant, 'Out of the Valley' yn 2010 lle y soniodd am ei fagwriaeth yn y Ton a'i addysg yn Ysgol y Bechgyn, Y Porth. Cyn

troi i weithio'n llaw rydd, bu Richard yn Bennaeth Rhaglenni Cyffrednol yn y BBC. Cydymdeimlwn â'i weddw, Bethan a'i blant yn eu profedigaeth.

siarad, neu sy’n dysgu'r Gymraeg. Gyda llawer o bobl o gefndiroedd diGymraeg, ar ôl iddynt adael yr ysgol Gymraeg, does dim llawer o gyfleoedd iddynt siarad yr iaith. Wrth i amser gilio, mae eu hyder yn lleihau, ac maent yn poeni am dreigladau neu eirfa, ac am wneud camgymeriadau.

Yn ogystal, bydd Cyngor RhCT yn cynhyrchu sticeri ffenestr, wedi eu creu yn arbennig i’r dre, i ddangos y siaredir y Gymraeg yno. Efallai taw'r modd gorau o fynd at broblem hyder yw i bawb roi cymorth i’w gilydd. Rydym i gyd yn gwneud gwallau iaith weithiau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond ddylai pobl ddim poeni cymaint i’w rhwystro rhag siarad y Gymraeg. Trwy siarad y Gymraeg rhagor yn y gweithle, bydd yr iaith yn dod yn fwy arferol, a bydd hyder pobl sy’n ei siarad yn cynyddu.

Bydd y Cyng. Shelley Rees-Owen yn ôl ar ein sgrinau teledu y mis hwn pan fydd cyfres arall o 'Gwaith Cartref' yn dechrau ar 11 Ionawr. Hi sy'n chwarae Donna, derbynnydd ysgol yn y cymoedd, gwraig sy'n gorfod wynebu llawer o helyntion ym mywyd ei theulu. Mae tipyn o hiwmor yn y gyfres yn ogystal â thrafod problemau sy'n berthnasol i bobl ifanc a'u teuluoedd. Cofiwch wylio bob nos Fercher - a phob hwyl i Shelley.

CYMRY BYD BUSNES - Nerys Bowen

Nerys Bowen sy wedi bod yn ymchwilio i faint o bobl sy'n gweithio ym musnesau stryd fawr Treorci sy'n gallu siarad Cymraeg. Weithiau, pan ddwedaf mod i’n dysgu’r Gymraeg, mae pobl yn dweud bod nhw ddim yn clywed yr iaith yn ein hardal y dyddiau hyn, neu hyd yn oed, “No-one speaks Welsh any more, it’s gone.”

Ymgymerais gyfnod o ymchwil yn y dre, i ddarganfod cynifer y bobl sy’n medru’r Gymraeg yn y siopau a'r busnesau. Er fy mawr syndod, mae dros 50 ohonhynt. Mae rhai yn dod o deuluoedd

Cymraeg, ond mae rhan fawr sy’n dod o deuluoedd di-Gymraeg. Aeth llawer ohonynt i ysgolion Cymraeg, sef Rhydfelen neu'r Cymer, felly pam na chlywir y Gymraeg mor aml ar ein strydoedd?

Ymwybyddiaeth yw’r peth cyntaf. Heb nabod rhywun yn bersonol, sut fyddwn yn gwybod a fydd rhywun yn siarad y Gymraeg neu beidio? Does dim ‘golwg siaradwr y Gymraeg’ ar bobl, does dim arwydd amlwg. Mae rhaid i ni gael ein cyflwyno iddynt, cyn i ni ddechrau siarad Cymraeg gyda’n gilydd. Mae hyder yn achosi problemau i lawer sy’n

Mae modd gwella problem ‘anweledigrwydd’. Yn 2017 bydd pob person sy’n gweithio mewn siopau a busnesau Treorci yn derbyn bathodyn a phoster, trwy garedigrwydd Comisiynydd y Gymraeg, a fydd yn dangos i bawb bod croeso iddynt siarard y Gymraeg yn y fangre honno.

Un sy’n ddigon parod i siarad y Gymraeg i’w

drosodd

9


CYMRY BYD BUSNES - Nerys Bowen parhad chwsmeriaid yw Charlotte Gibbs. Mae Charlotte, 21, yn gweithio yn siop Co-operative Travel yn y Stryd Fawr, Treorci. Er ei bod hi ddim yn dod o deulu sy’n siarad y Gymraeg, ar ôl gadael Ysgol y Cymer, mae Charlotte yn parhau i ddefnyddio’r iaith. “Rwy’n siarad y Gymraeg gyda fy ffrindiau’n aml, ond nid cymaint yn y gwaith,” meddai hi. “Dydyn ni ddim yn clywed llawer o bobl yn siarad y Gymraeg yn y siop.” Yn ôl Charlotte, weithiau mae pobl YN siarad y Gymraeg â'i gilydd yn y siop heb

Charlotte Gibbs 10

wybod ei bod yn deall yn union beth maen nhw’n ei ddweud, sy’n gallu achosi wynebau coch!

Cyn-ddisgybl arall o YGG Cymer yw Emily Kate Mason, sy’n rhedeg ei boutique ei hun yn Stryd Bute. Aeth hi a’i brawd i YGG Ynyswen, ac wedyn i'r Cymer, ac mae ei mam wedi codi eitha tipyn o’r Gymraeg dros y blynyddoedd hefyd. Mae Emily Kate yn siarad y Gymraeg gyda’i brawd a’i ffrindiau o bryd i’w gilydd, ond ddyddiau hyn, mae hi’n siarad y rhan fwyaf o’r Gymraeg gyda chwsme-

riaid yn y siop. “Weithiau, mae’r cyn-athrawon yn dod i mewn i’r siop, a byddwn i byth yn siarad Saesneg â nhw, felly’r Gymraeg bob tro! Hefyd mae nifer o gwsmeriaid hŷn sy’n hoffi siarad y Gymraeg â fi.” Mae Emily Kate yn credu bod peidio â siarad y Gymraeg cymaint ar ôl gadael yr ysgol yn cael effaith. “Er ein bod yn rhugl, weithiau mae fy ffrindiau a fi’n anghofio geiriau, ac mae rhaid i ni ofyn i’n gilydd beth yw’r gair.” Hoffai Emily Kate siarad rhagor o’r Gymraeg yn ei siop, ac mae hi’n edrych ymlaen at dderbyn ei bathodyn, poster a sticer. “Mae’n

Emily Kate Mason

syniad da i gael sticer neu boster yn y ffenestr, achos bydd pobl yn dod yn gyfardwydd â pha siopau mae pobl yn siarad y Gymraeg ynddyn nhw. Efallai bydd hi’n ysgogi rhagor o bobl i ddefnyddio’r iaith yn y dre.”

Rydym wrthi yn paratoi rhestr gyflawn o'r siaradwyr Cymraeg ym musnesau a siopau Treorci a byddwn yn ei chyhoeddi yn ein rhifynnau nesaf. Gobeithiwn greu rhestrau tebyg ar gyfer cymunedau eraill yr ardal hefyd.


^

Gwyl Shakespeare - Becky Bush

Ro’n i’n newydd ymuno â chwrs yng Ngholeg Y Cymoedd Rhondda ym mis Medi felly roedd yn fraint i mi cymeryd rhan yn ein cynhyrchiad o Titus Andronicus yn Theatr y Parc a Dâr ym mis Tachwedd llynedd. Roedd ein perfformiad yn rhan o’r Wyl Shakespeare Rhondda Cynon Taf perfformiadau o A Midsummer Night’s Dream, Macbeth, Romeo and Juliet, The Tempest a Titus Andronicus gan gwahanol ysgolion o’r sir. Roedd ein perfformiad yn drawiadol ac yn symud yr hanes i'r flwyddyn 4016 AD, yn defnyddio dillad a

lleoliad gwnaeth y cwmni cyflwyno'r stori yn hyfryd gyda dawns ac actio arbennig gan y prif berfformwyr a'r corws. Gan fod Titus yw un o ddramâu Shakespeare mwyaf arw llwyddodd y cwmni i roi perfformiad o safon broffesiynol. Llwyddon nhw lynedd gyda'u perfformiad o Macbeth ar lwyfan y West End ac eleni maen nhw wedi cadw ei enw am waith o safon yn saff. Becky Bush

11


YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Ymgyrch 'Rhoi' Y Cymer

Yn ystod mis Rhagfyr, mae staff a disgyblion yr ysgol wedi bod yn cyfrannu tuag at ymgyrch 'RHOI' yr ysgol, gan gefnogi dwy elusen leol ' Banc Bwyd y Rhondda' ac elusen 'Cefnogi'r Digartref - De Cymru'. Ry'n ni wedi bod yn casglu nwyddau a bwydydd addas fesul dosbarth cofrestru, a braint oedd gallu trosglwyddo'n rhoddion i'r ddwy elusen bwysig hon. Diolch i bawb am eich caredigrwydd.

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

Ymgyrch RHO|I

Siwmperi i Blant

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12

YSGOLION


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.