y gloran PLANT YNYSWEN
YN^DATHLU DYDD GWYL DEWI
Ar ddydd Gŵyl Dewi aeth aelodau o gôr YGG Ynyswen i'r Senedd ym Mae Caerdydd i gymryd rhan yn y dathliadau. Canon nhw chwe chân yn y Senedd a chwrddon nhw â Dewi Draig. Roeddent wrth eu boddau yn yr adeilad a chafon nhw'r cyfle i wneud llawer o weithgareddau celf a chrefft tra eu bod nhw yna. Roedd y disgyblion yn brysur iawn dros y penwythnos yn perfformio mewn cyngerdd yn eglwys St Catherine ym Mhontpridd hefyd ar Chwefror y 27ain. Trefnwyd y cyngerdd hwnnw gan elusen Calonnau Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Roedd yr artistiaid eraill yn cynnwys Jodi Bird, oedd ar Britain's Got Talent y llynedd. Rhagor o luniau tu mewn
Ddydd Llun16 Chwefror, bu farw John Davies, brodor o Dreorci ac un o haneswyr amlycaf Cymru. Fe'i ganed yn Ysbyty Llwynypia yn 1938 ac fe'i maged ef a'i chwaer hŷn, Anne, yn Stryd Dumfries, Treorci. Athrawes [Miss Potter] oedd ei fam yn Ysgol Cwmparc a saer coed oedd Daniel, ei dad. Yn
DR. JOHN DAVIES [1938 - 2015]
20c
ôl yr arfer ar y pryd, bu rhaid i'w fam ymddiswyddo unwaith y priododd ond pan aeth y dynion i'r rhyfel yn 1939, cafodd swydd yn Ysgol Penyrenglyn. Roedd Daniel Davies yn cyflogi dau weithiwr i'w gynorthwyo ond pan aeth y rheina i'r fyddin, syrthiodd yr holl waith ar ei ysgwyddau ef. Tra yn ymladd yn y Dwyrain Canol adeg y Rhyfel Fawr, cafodd faleria, clefyd a effeithiodd ar ei iechyd am weddill ei oes. Pan ddychwelodd y bechgyn o'r rhyfel yn 1945, colloddd Mrs Davies ei swydd unwaith yn rhagor a gyda'r dirywiad yn iechyd ei gŵr, sylweddoloddd y byddai'n rhaid iddi symud i
parhad ar dud 4
golygyddol l Y siaradwraig mewn cyfarfod diweddar o Gymdeithas Gymraeg Treorci oedd Einir Siôn, prif weithredydd diwyd Menter Rhondda Cynon Taf, a amlinellodd gwmpas gwaith y Fenter a sôn am ddatblygiadau posib ym mlaenau'r Rhondda Fawr. Nod y Fenter yw ceisio ymestyn y cyfleoedd i siarad Cymraeg o fewn y gymdeithas a sicrhau bod pawb sy'n medru'r iaith yn cael cyfle i'w defnyddio'n gyson. Yn y gorffennol, bu'r pyllau glo a'r capeli yn ganolfannau lle defnyddid yr iaith yn naturiol, ond wrth inni golli diwydiant a gweld capeli'n cau, lleihaodd y mannau lle y gellid cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwaith y Fenter yw ceisio llenwi'r bwlch a adawyd a sicrhau bod y bobl ifainc sy'n gynnyrch ein hysgolion Cymraeg
llwyddiannus yn cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg y tu fa's i furiau'r ysgol. Mae hyn yn dipyn o dasg gan nad yw llawer o ieuenctid am gyfranogi o weithgareddau a drefnir gan y to hŷn a'r her iddyn nhw yw creu cyfleoedd newydd a fydd yn ateb eu gofynion. Ar hyn o bryd, mae mwy o bobl ifanc yn yr ardal yn siarad Cymraeg nag a fu ers blynyddoedd, ond y gamp fydd sicrhau eu bod yn para'n siaradwyr hyderus sy'n barod i ddefnyddio'r iaith. Fel pob sgil arall, collir y gallu i siarad os na ddernyddir yr iaith yn gyson. Yn fuan, bydd y Fenter yn cyhoeddi cynllun cychwynnol ym mlaenau'r Rhondda a mawr obeithiwn y bydd yn llwyddiannus. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw syniadau y carech eu dwyn i sylw'r Fenter, cysylltwch å'r Prif Weithredydd ar 407570. Golygydd
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 2
y gloran
mawrth-ebrill MENTER IAITH RHONDDA CYNON TAF
Menter Iaith RhCT ar daith – Clwb rygbi Abercwmboi – Nos Fercher 18ed o Fawrth 2015 Os ydych chi â diddordeb i wybod mwy am waith Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac ein cynlluniau cyffrous am y dyfodol dewch i ymuno â ni yng Nghlwb rygbi Abercwmboi ar nos Fercher 18ed o Fawrth am 7:00yh Cyfle arbennig i chi glywed am waith y Fenter, cwrdd a’r staff a mynegi barn. Cyfarfod agored Croeso mawr i bawb! Cyfle Cyffrous Mi fydd 35 o aelodau o’r Fforymau Ieuenctid y Fenter yn mynd am benwythnos preswyl i Langrannog ym Mis Mawrth. Yn ystod y penwythnos byddwn yn ffurfio Fforwm Sirol, bydd modd cael achrediad OCN Lefel 2 mewn cyfranogiad o fewn cyfarfodydd a llawer mwy. Mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth personol a chymunedol o fewn y Sir, a chael tipyn o hwyl yn y broses. Mae’r cyfle hwn ar gael i ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13 yn unig. Parti Ponty 2015 Dyddiad i’ch dyddiaduron…Dewch i Barc Ynysangharad Pontypridd ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11eg eleni am ddiwrnod o hwyl i’r teulu cyfan. Mae pawb yn gyffrous iawn yma yn y Fenter gan fod ni yn y broses o drefnu’r Parti Ponty
YN Y RHIFYN HWN
Ysgol Ynyswen yn y Senedd/Dr John Davies...1 Golygyddol/Menter Iaith...2 Iechyd a Diogelwch...3 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Diwrnod yr Holocost...6 Byd Bob ..7 Lluniau Nerys..7 Bowlwyr...10 Ysgolion...11-12
cyntaf ers 7 mlynedd. Rydym yn gobeithio dilyn llwyddiant Parti Ponty y gorffennol ond ychwanegu llawer mwy. Hwn fydd y Parti Ponty gorau erioed! Cadwch lygaid allan am fwy o fanylion yn ystod y misoedd nesaf. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr hefyd – Cysylltwch â ni am fwy o fanylion. Gwirfoddolwyr trefnu digwyddiadau Clwb y Bont Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn chwilio am wirfoddolwyr 18 oed+ i ymuno a grŵp trefnu digwyddiadau Cymraeg yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’i gilydd o dan arweiniad y Fenter er mwyn trefnu digwyddiadau Cymraeg yn y clwb. Ar hyn o bryd, rydym yn cwrdd bob wythnos yng Nghlwb y Bont. Croeso i bawb! Dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl.Cyfle arbennig i ymarfer eich Cymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth a llawer o hwyl. Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin ar 01443 407570
IECHYD A DIOGELWCH !!!
Y tro hwn mae ISLWYN JONES yn sôn am beryglon pysgota ac yn trafod sut i nofio mewn wellingtons!
nering!’ Y peth gwaetha i’w wneud yw mynd i banic, ceisio cyffwrdd
hanner milltir i ffwrdd. Erbyn cyrraedd yno darganfyddais nad oedd gen
Mae cwympo i mewn yn rhan o’r hyn sy’n digwydd os ych chi’n ddigon dwl i fentro hyd at eich ceseiliau i ganol afon. Nid cwestiwn o OS byddwch chi’n cael trochiad yw hi ond mwy o PRYD byddwch chi’n cael bath cynnar. Gallech ddisgwyl cwympo i mewn o leiaf unwaith bob tymor. At y perwyl hwn, ac o ddilyn arwyddair y sgowtiaid i fod yn barod, mae gen i set sbâr o ddillad yng nghist y car - jest rhag ofn!
Dysgais y wers hon yn dilyn profiad ges i dros ugain mlynedd yn ôl ar afon Teifi. O’n i’n pysgota am samwn ar ddarn o afon ger Llanbed.O’n i ddim yn rhy gyfarwydd â’r darn hwn gan fy mod yn arfer pysgota’n agos i Landysul, ryw 12milltir yn is lawr. Roedd yr afon yn rhedeg yn uchel ac yn dal tipyn o liw ar ol glaw trwm. Penderfynnais beidio â mentro’n rhy ddwfn ac roeddwn yn pysgota fy ffordd i lawr trwy bwll ac yn sefyll mewn tua troedfedd o ddŵr. Yn sydyn diflannodd y geulan oddi tanaf a phlymiais i mewn i ryw 8 troedfedd o ddŵr. Roeddwn yn gwisgo pâr o waders a estynnai hyd at fy mrest. Nawr, dywed y gwybodusion os ych chi’n cwympo i ddŵr dwfn o'r fath - yng ngeiriau Dad’s Army ‘Don’t panic Mr Man-
â’r gwaelod a thaflu’ch breichiau i’r awyr. Os gwnewch chi hynny fe fydd eich waders yn llenwi â dŵr a byddwch yn gostwng fel carreg. Y peth i’w wneud yw gorwedd nôl a symud eich breichiau wrth eich ochr, yna fe fyddwch yn arnofio i’r ochor yn ddiogel ymhellach i lawr y pwll.Drwy ryfedd wyrth dyna wnes i, a diolch byth des ma's o’r dyfroedd fel rhyw hen forlo, ryw ugain llath yn islaw i’r fan lle cwmpais i mewn. Fel y gallwch ddychmygu, wrth imi stryffaglo i’r lan- o’n i’n wlyb diferu. Arllwysais beth o’r dŵr mas o’m waders a cherdded yn swnllyd, gyda squelch, bob cam nôl i’r car, ryw
i’r un dilledyn sych yn y car. Ffeindiais fag sbwriel plastig du, ei ddodi ar sedd flaen y car a gyrru’r ddwy filltir i ganol tref Llanbed. Roedd gen i gynllun allai achub y dydd. Yn Llanbed roedd na siop ddillad ‘Seconds Ahead’. Fel yr awgrymma’r enw, yno gallech brynu dillad â nam bach arnyn nhw, am lawer llai na’u pris gwreiddiol. Estynnais yn ddwfn i boced gwlyb fy nhrowsus a thynnu’r unig arian oedd ‘da fi papur degpunt gwlyb. I mewn a fi i ‘Seconds Ahead’ Tipyn o steil! Edrychodd berchenwraig y siop yn syn arna i wrth imi geisio esbonio iddi
yr hyn a ddigwyddodd.
Yn y cyfamser roedd pwllyn o ddwr yn prysur dyfu ar y leino o’m cwmpas. Dodais y decpunt gwlyb yn ei llaw a thywysodd fi i giwbicl gan fy ngorchymyn i dynnu fy nillad. O fewn chwinciad ymddangosodd par o bants,trosus,sannau fest a siwmper tros lenni’r ciwbicl. Dyma fi o fewn dim mewn dillad sych. Gwir,bydden i ddim ‘di plesio ‘Huw Ffash’, ond doedd fawr o ots gen i. Dododd y berchenwraig y dillad gwlyb i gadw mewn cwdyn a gadewais y siop yn ddiolchgar.
Pan, rai oriau’n ddiweddarach, y cyrhaeddais adre bu na dipyn o esbonio pam y gwisgwn bar o drowsys ’crimpelene’porffor ‘flared’, siwmper werdd lachar acrylig - a phants gyda ‘Made in Wales’ ar eu traws mewn llythrennau breision!! Cefais siars gan Judith i fod yn fwy gofalus,ac i wneud yn siwr bod 'da fi set sbâr o ddillad sych yn y car BOB tro yr awn i bysgota. Hoffwn ddweud 'mod i wedi dysgu’r wers ynglŷn â chwmpo i mewn, ond mewn gwirionedd rwy’n dal i lithro i’r afon ar adegau. Ond wna i fyth fentro i ddarn o afon dieithr heb wybod lle mae’r mannau dwfn. Mae na adegau, fodd bynnag, pan fy mod i wedi neidio i mewn yn fwriadol - ond stori arall yw honno, fel y clywch chi'r tro nesa.!
DR. JOHN DAVIES [1938 - 2015]
parhad
ardal arall er mwyn ennill arian i gynnal y teulu. Yn 1945 symudodd y teulu i Fwlchllan, Sir Aberteifi pan gafodd ei fam ei phenodi'n brifathrawes ysgol y pentref hwnnw. Mae rhyw eironi yn y ffaith i John gael ei adnabod fe John Bwlch-llan er taw yn y Rhondda y bu'n byw tan oedd yn 7 oed. Blynyddoedd Cynnar Treorci Yn ei hunangofiant, 'Fy Hanes I', mae John yn cofio'r blynyddoedd cynnar hyn. 'Dechreuais yn Ysgol y babanod, Treorci, yn 1942 pan oeddwn yn bedair oed. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i a'm cyfeillion yn gwneud wynebau surbwch y tu allan i ffenestri'r tai nad oedd â phiano yn yr ystafell flaen. Byddem hefyd yn cicio'r bwcedi llwch glo a oedd o flaen pob tŷ ac yn cwrso'r defaid a ddeuai o'r mynydd i fwyta unrhyw beth bwytadwy yn y bwcedi. Yr oedd fy chwaer wedi dechrau'r ysgol yn 1940, pan oedd y Rhondda newydd gefnu ar ei pholisi hirhoedlog o sicrhau bod cyfran athrawon - neu, yn fwy tebygol, athrawesau - Ysgol y Babanod yn medru'r Gymraeg. Roedd ambell blentyn uniaith Gymraeg yn cyrraedd ysgolion meithrin y Rhondda cyn hwyred â diwedd y tridegau, ond erbyn 1940 yr athrawon a oedd wedi dod gyda'r efaciwîs o 4
Lundain oedd wrth y llyw. Roedd fy chwaer wedi ei chodi yn Gymraeg ac nid oedd yn gallu deall y cwbl oedd yn mynd ymlaen. Aeth Mam i gwyno a'r ateb a gafodd oedd: 'Don't you know there's a war on, and that England is in danger?' Cyfnod y Rhyfel 'Yr hyn a gofiaf yn arbennig am Ysgol y Babanod oedd y mwgwd nwy 'Mickey Mouse' yr oedd disgwyl i ni ei gario i'r ysgol bob dydd, a'r dos o sudd oren ac olew afu penfras (cod liver oil} a dderbyniem bob bore. Yr oedd y dogni bwyd yn ddiddorol hefyd. Câi pob unigolyn beint o laeth y dydd, ac oherwydd awydd pawb i gael popeth yr oedd ganddynt hawl iddo, yfwyd mwy o laeth yn y Rhondda yn ystod y rhyfel nag yn y degawdau blaenorol. Yn wir, roedd iechyd pobl y cwm yn well yn 1945 nag ydoedd yn 1939. Niwsans i ni'r plant oedd y dogni ar losin, ond roedd
hen ddynion ( ac yr oedd llawer ohonyn nhw yn Nhreorci) yn tueddu i adael eu cwponau mewn siopau losin. Nid oeddynt yn gwneud defnydd ohonynt ac felly roedden ni'n cael mwy na'n siâr o siocled a phethau tebyg. Er bod teithio'n anodd, gwefr oedd mynd i'r Barri i ymdrochi yn y môr ac edmygu'r balwnau amddiffyn a hofrannaiuwchben y dociau. Pan oeddwn yn dair oed, buom am wyliau ym Macroes, ger Sain Dunwyd - y digwyddiad cynharaf i mi ei gofio,' Bachan o'r Rhondda O'r dyddiau cynnar hyn, aeth John Davies ymlaen i gael gyrfa academaidd ddisglair ym mhrifysgolion Caerdydd a Chaergrawnt. Hanes teulu'r Ardalydd Bute a'u cysylltiad â'r Rhondda, a Threorci yn arbennig, oedd testun traethawd ei ddoethuriaeth. Bu'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ac Aberystwyth a chyhoeddodd lu o lyfrau ac erthyglau gyda phawb yn gytûn bod ei
magnum opus Hanes Cymru' yn gampwaith. Roedd yn hoff iawn o deithio a chrwydrodd ar hyd a lled Ewrop, Asia a Gogledd America. Ymddangosodd mewn llawer o raglenni teledu a radio a bu'n darlithio i golegau a chymdeithasau o bob math. Y llynedd daeth nôl i'r Rhondda i sôn am ei flynyddoedd cynnar mewn darlith yn y Parc a'r Dâr a drefnwyd gan Blaid Cymru. Er ei lysenw John Bwlch-llan, dywedai bob amser taw bachan o'r Rhondda ydoedd. Fel hyn y dywed ei hun, 'Yr oedd cyfnod y rhyfel a'n cyfnod ni yn y Rhondda ar fin dod i ben, ond rwy'n gwbl ymwybodol mai fy magwrfa yn y Rhondda sydd wedi fy niffinio am weddill fy oes. Ni ddylem hiraethu am y rhyfel, ond mi wnes i hiraeth am y Rhondda, er bod broydd ac anturiaethau newydd o'm blaen'
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Siwrnai dda i Geraint a Merrill Davies sydd ar eu ffordd i Batagonia. Eleni mae'r Wladfa yno yn dathlu 150 mlynedd ers iddi gael ei sefydlu yn 1865 a bydd Geraint a Merrill yno i gyfranogi o hwyl y dathliad. Llongyfarchiadau i 'r Clwb Bowlio Treherbert am ennill cymhwyster chwaraeon diogel. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r clwb wedi denu llawer o blant o 'r ysgolion lleol ac mae'r cymwyster yma yn sicrhau dyfodol i'r fenter Os oes unrhyw un â diddordeb, cysylltwch a Clive Sheridan, ysgrifenydd y clwb, ar 01443 771869 Maen nhw'n chwarae ar brynhawn Llun yn ystod misoedd yr haf
Ar 17 Chwefror cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas Twnel y Rhondda yng ngwesty'r Twnel ym Mlaengwynfi. Roedd y lle dan ei sang gyda chefnogwyr o'r ddau gwm yn bresennol. Ymlith y bobl roedd Bethan Jenkins AC, Dr Brian Gibbons a Geraint Davies, cyn-aelodau o'r Cynulliad ynghyd ag asiant Steven Kinnock. Roedd pob un yn gefnogol iawn i'r cynllyn a
rhoddodd Bethan Jenkins adroddiad o'r ddadl a gynhaliwyd yn y Cynulliad lle y dangosodd y gweinidog, Edwina Hart, ddiddordeb mawr. Y cam nesaf i'r gymdeithas yw cael astuduaeth ymarferol ( feasibility Study) i ddarganfod a fydd hi'n bosib ail agor y twnel i gerddwyr a beicwyr. Gobeithio bydd Sustrans, y mudiad sy'n annog beicio yn gwneud hyn. Mae'r Gymdeithas wedi cael tipyn o lwyddiant yn barod wrth adnewyddu carreg y twnel a gwerthu pob copi o Galendr y Twnel a gyhoeddwyd.
Bydd heol y Rhigos ar gau ddydd Sadwrn a dydd Sul, 11 a 12 Ebrill wrth i dwrbeini gwynt fferm wynt Pen y Cymoedd gael eu cludo i'w safle ar ben y mynydd. Hon fydd y fferm wynt fwyaf ar y tir mawr yn yr ynysoedd hyn.
Bob bore dydd Mawrth am 10.30, cynhelir bore coffi yng nghapel Carmel gyda'r elw yn mynd at elusen. Yr elusen a ddewiswyd eleni yw Ysbyty Felindre sy'n trin cleifion sy'n dioddef o ganser. Croeso i bawb.
TREORCI
Pob dymuniad da am adferiad llwyr a buan i Wyn Rees, Stryd Dumfries sydd wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar.
Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion trist am farwolaeth sydyn Ralph Cole, Mace Lane, Ynyswen, y perchennog cwmni bysys poblogaidd o Ynyswen, wedi iddo gael ei daro'n dost yn ddiweddar. Roedd Ralph yn ŵr busnes blaenllaw yn yr ardal ac yn gefnogol iawn i bob menter leol. Mynychai gyfarfodydd PACT Ynyswen yn gyson ac yn awyddus i ofalu am yr amgylchedd. Yn ŵr hael iawn, fe welir ei eisiau'n fawr. Cydymdeilwn â'i weddw, Helen a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Llongyfarchiadau i Vic Davies, Prospect Place gynt, oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 98 oed ar 10 Mawrth yng Nghartref Gofal Pentwyn. Roedd Vic yn un o hoelion wyth Plaid Cymru ac yn ymgeisydd y blaid honno yn is-etholiad enwog 1967.
Pob dymuniad da i'r Dr P.G. Gopal fydd yn ymddeol fel meddyg teulu ar
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN ôl gwasanaethu ardal Treorci am 33 o flynyddoedd. Daeth yma yn 1982 ac ers hynny gofalodd yn gydwybodol am ei gleifion. Yn ŵr bonheddig i'r carn, gwelir ei eisiau yn yr ardal ond da yw deall y bydd yn cadw cysylltiad â'r practis yn Syrjeri Horeb. Dymunwn yn dda hefyd i'w bartner Dr Koto a fydd wrth y llyw o 1 Ebrill ymlaen.
Ar ôl cystudd hir, bu farw Mr Chris Kinsey, Stryd Stuart. Roedd yn ŵr hynaws a phoblogaidd ymhlith pawb oedd yn ei adnabod. Cydymdeimlwn â'i weddw, Miriam, ei ddwy ferch a'r teulu oll yn eu hi-
PARHAD ar dudalen 8
5
Diwrnod yr Holocost Hanes Un Teulu
Er mwyn dynodi Diwrnod Coffa’r Holocaust yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, fe gafwyd cyflwyniad ysbrydoledig a theimladwy gan Nona Griffiths-Evans. Y mae Nona yn wyres i Kathe Bosse Griffiths a oedd yn wreiddiol o Wittenberg, Yr Almaen. Fe fu’n rhaid iddi adael yr Almaen pan gollwyd ei swydd o ganlyniad i’w thras Iddewig. Yn dilyn cyfnod yn yr Alban a Llundain, fe dderbyniodd groeso twymgalon gan bobl y Rhondda yn 1939 gan briodi Gwyn Griffiths, a oedd yn fab i'r Parch. Robert Griffiths, a oedd yn weinidog yn y Pentre. Mae stori Nona a’i theulu yn un ddirdynnol o ddioddefaint ac arwriaeth, marwolaeth a goresgyniad. Tuag at ddiwedd ei bywyd, fe wnaeth Kathe gasglu ynghyd lythyron, dyddiaduron a phapurau teuluol er mwyn trosglwyddo hanes ei theulu i sichrau na fyddai’r gwirionedd yn cael ei golli. Roedd rhieni Kathe, Paul Bosse, llawfeddyg,a oedd o
6
dras Almaenig, a Kaethe Bosse, o linach Iddewig yn byw yn yr Almaen. Fe wnaeth teulu Kathe droi at Gristnogaeth cyn y Rhyfel Byd fel sawl teulu Iddewig, ond o dan reolau’r Natsiaid, roedd yn rhaid mynd yn ôl chwech cenhedlaeth i brofi gwaed ‘pur’. Er hyn, oherwydd ffyddlondeb Paul i’r Almaen a’r parch a fu at ei waith, roedd y teulu’n sicr y byddent yn ddiogel. Ond, fel y bu i filiynau o bobl eraill, nid dyma oedd yr achos. Gweler Hitler yn edmygu gwaith meddygol hen dad-cu Nona (ar y chwith) yn 1935 yn Wittenberg. Wyddai'r teulu ddim ar y pryd, wrth gwrs, y byddent yn cael eu herlid yn ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd. Bu farw mam Kathe, a oedd yn Iddewes, yng ngwersyll garchar Ravensbruck yn 1944. Er mor ddirdynnol yr hanes, cafodd disgyblion a staff Ysgol Gyfun Cymer Rhondda brofiad gwych o wrando ar Nona ac o weld ei lluniau a llyfrau personol. Yn wir, roedd yn brofiad bythgofiadwy o boenus i ni i gyd, a mawr yw ein diolch i Nona am fod mor barod i ddod atom. Llinos Rees, Arweinydd Addysg Grefyddol, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda
BYD BOB
Bwganod yw testun Bob y mis hwn, gan gynnwys rhai lleol! Ydych chi'n cofio stori fwgan Islwyn Jones yn Y Gloran jyst cyn y Nadolig? Fe gwrddodd Islwyn â'r bwgan tra oedd e'n pysgota yng ngorllewin Cymru. Wel, dyma stori wir arall am fwgan sy'n byw yn llawer agosach na bwgan Islwyn, sef yn nhafarn y Stag, Treorci. Roeddwn i yn y Stag rai blynyddoedd yn ôlac roedd fy hen ast, Nellie, yn y bar gyda fi.Roedd Ann a Handel Rich yn rheoli'r dafarn ar y pryd. Yn sydyn, dechreodd Ann sôn am ysbrydion oedd yn byw yn y lle. "Mae'r teulu i gyd wedi eu gweld
nhw." meddai hi, "a rhai o'r staff hefyd. Maen nhw'n croesi'r ystafell fel cysgodion - gwragedd, merched, dynion..." "Ydyn nhw'n eich poeni chi?" gofynnais i A dweud y gwir mae llawer o ddiddordeb 'da fi mewn pethau fel yna. "Nac ydyn," atebodd Ann "Dydyn ni ddim yn eu hofni nhw. Dim ond ysbrydion ydyn nhw. Ond fydd ein ci ni, Benji, ddim yn mentro i lawr i'r seler. Fe ddaeth cyfrynwraig seicig i'r dafarn unwaith. Fe ddywedodd hi fod ysbryd anghyfeillgar yn byw yn y seler. Dyna beth sy'n codi ofn ar y ci, siwr o fod." Fe ddaeth syniad i fi. Roedd fy nghi, Nellie, yn wyllt a di-ofn, ac roedd hi'n gorwedd wrth fy nhraed i. "A fyddai'n bosib i mi fynd â Nell i lawr i'r seler un noson, Ann?" "Pam lai?" meddai hi "Mae Handel yn newid casgen ar hyn o bryd. Ewch i lawr," Felly, i lawr â ni i ymweld â'r seler. Fe grwydrodd Nell o gwmpas y lle am rai munudau heb ddangos ofn o gwbl. Yna, fe ddringon ni'r grisiau eto.
"Doedd dim problem, Ann," dywedais i "Wel, mae'n hwyr. Rhaid i ni fynd." Fe benderfynais i ddilyn y lôn ar lan yr afon i fynd adref. Roedd y nos yn dywyll iawn ond roedden ni wedi dilyn yr un lôn yn aml heb brolem. Tra oedden ni'n cerdded, dywedais i wrth y ci, "Dwyt ti ddim yn ofni hen fwganod, wyt ti, Nell? Dwyt ti ddim fel Benji." Yn sydyn, rhoddodd Nell sgrech ofnadwy a rhedodd i guddio y tu ôl i fi. Cododd y gwallt ar fy mhen ac roeddwn i'n rhy ofnus i fynd ymlaen na throi nôl. Pan ddes i allan o'r lôn, roeddwn i'n crynu fel deilen, er nad oeddwn i wedi gweld dim byd. Doedd y ci erioed wedi sgrechian fel yna o'r blaen. oedd hi wedi gweld rhywbeth? Wni ddim. Y dyddiau hyn, mae rheolwr newydd wedi cymryd lle fy ffrindiau, Ann a Handel yn nhafarn y Stag. Sam ydy ei enw e ac mae e'n dod o Bangladesh yn wreiddiol. Mae e'n ddyn cyfeillgar ac mae e'n hapus i groesawu pawb, gan gynnwys unrhyw fwgan sy eisiau galw i mewn!
Cyfres o luniau gan ein ffotograffydd a gohebydd Cwmparc Nerys Bowen Gweler Newyddion Cwmparc ar gyfer hanes y lluniau.
raeth.
Nos Iau, 5 Mawrth, cynhaliodd merched WI Treorci eu swper Gŵyl Dewi yn neuadd Eglwys San Matthew. Yn dilyn y wledd, cafwyd eitemau gan nifer o'r aelodau a mwynhawyd yr achlysur gan bawb.
Yn ddiweddar aeth aelodau Clwb Henoed Treorci i Gaerdydd i weld y sioe lwyfan a seiliwyd ar y gyfres deledu boblogaidd, 'Strictly Come Dancing'
Mae ymarferion Côr Merched y WI wedi ailddechrau ac ar Sul y Blodau byddan nhw'n cymryd rhan meewn gwasanaeth yn Carmel, Treherbert.
Pob dymuniad da i Brian Williams, y cyn-gyngho-
8
rydd o Stryd Treorci sydd bellach wedi ymgartrefu yng nghartref gofal Llys Ben Bowen, Ystrad Rhondda.
Cynhaliwyd cyfarfod i nodi Diwrnod Gweddi Bydeang y Gwragedd gan eglwysi Cymraeg Treorci ym Methlehem ddydd Gwener, 6 Mawrth. Janis Harris oedd â gofal y trefniadau a chymerwyd rhan gan aelodau'r gwahanol gapeli. Cafwyd anerchiad gan Mair Afan (Caerdydd). Yn dilyn yr oedfa darparwyd lluniaeth ysgafn i bawb.
Llongyfarchiadau i Hannah Duncan sydd wedi wedi llwyddo yn ei arholiadau i fod yn fydwraig (midwife). Pob dymuniad da iddi wrth iddi edrych ymlaen at ddechrau yn y swydd.
CWMPARC
Mae ficer newydd wedi dechrau ei waith yng Nghwmparc. Mae'r Tad Philip Leyshon a'i deulu wedi symud i ficerdy San Sior yng Nghwmparc. Cymerodd ei wasanaeth cyntaf yn yr eglwys ar fore dydd Iau, 12 Chwefror. Mae'r gwasanaeth bore Sul nawr yn dechrau ar 10:30 yn lle 11:00.
Bu farw Andrew Thomas, byngalo "Valetta", Parc Crescent, lai na blwyddyn a hanner ar ôl colli ei fam, Jessie. Treuliodd Andrew gyfnod byr yn yr ysbyty cyn ei farwolaeth. Bu farw Glan Powell, Vicarage Terrace, ar ôl cyfnod o salwch. Cydymdeimladau i'w wraig Bunny (Berenice), ei ferched Jill a Ceri, a
gweddill y teulu.
Mae grŵp o disgyblion ysgolion y Rhondda wedi cael y fraint i chwarae mewn cyngerdd gyda Band Pres Cory. Roedd band Cory, band pres gorau'r byd ar hyn o bryd, yn cynnal cyngerdd Dydd Gwyl Dewi yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Gaeth plant y 'Cory Academy' gyfle i ymuno â nhw ar y llwyfan o flaen 400 o bobl. Perfformiodd y plant ar eu pennau eu hunain, ac wedyn gyda band Cory. Roedd Côr Orpheus Treforys yn perfformio ar y llwyfan hefyd, yn canu nifer o emynau a chaneuon Cymraeg. Mae Caffi Neuadd y Parc yn mynd o nerth i nerth. Mae'r caffi wedi bod mor boblogaidd,
maen nhw wedi ymestyn eu horiau agor. Mae'r caffi ar agor 9:00 - 2:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10:00 - 1:00 ar ddydd Sadwrn. Mae cynnig arbennig bob dydd. Dydd Llun - pastai corned beef , pys, sglodion a grefi, Dydd Mawrth - 2 selsig, pys, tatws stwnsh a grefi winwns, Dydd Mercher pastai briwgig eidion, pys, sglodion a grefi, Dydd Iau - Diwrnod Rhyngwladol, e.e. lasagne, ffagodau, cyri, Dydd Gwener - Pysgod, pys a sglodion. Mae dosbarthiadau yn bosib, ond yn yr ardal gaeedig. Ffoniwch 772044 i archebu pryd o fwyd..
Y PENTRE
Pob dymuLLYS SILOH, STRYD LLEWELLYN, niad da am adferiad llwyr Y PENTRE [Cym.Tai Aelwyd Cyf.] a buan i'n gohebydd Mike Flatiau helaeth o ansawdd uche i bobl dros 55 oed Powell sydd mewn man canolog am rent rhesymol a wedi dod adre gwasanaeth rheolwr rhan-amser. Addas i unigolion o'r ysbyty ar neu gyplau. Ffoniwch Marie ar (029) 20481203 ôl derbyn www.aelwyd.co.uk llawdriniaeth yn ddiweddar. Mae pawb o'i yn cael ei symud yn y at yr eglwys. gyd-breswylwyr yn Llys dyfodol agos i safle o Siloh yn ei annog i frysio flaen Llys Siloh. i wella. Cafodd pawb fodd i fyw TON PENTRE A GELLI Trefnodd Melissa WarCroeso adre' i'n gohemewn cyngerdd ardderren, Lemon Blues weith- chog a gynhaliwyd ar bydd lleol, Graham gareddau yn ddiweddar i Ddydd Gŵyl dewi yn Davies John, Tŷ Ddewi, godi arian at Hosbis Eglwys San Pedr. Yr ac- ar ôl iddo fod yn derbyn Plant Tŷ Hafan. Llwydtores leol, Shelley Rees- triniaeth yn yr ysbyty. dwyd i godi £60 at yr Gobeithio y bydd yn Owen oedd yn achos teilwng hwn. cyflwyno'r noson a llu o teimlo'n well o lawer yn Bydd yr arhosfan bysys artistiaid lleol yn rhoi o'u fuan. [Gol.] sydd ar hyn o bryd Llongyfarchiadau i doniau yn rhad ac am gyferbyn â'r siop elusen ddim er mwyn codi arian Laura Davies sydd wedi
9
TON PENTRE A GELLIparhad
ei dewis i ymddangos yn 'Godspell' sydd yn mynd ar daith trwy Brydain gyda nifer o sêr adnabyddus yn cymryd rhan. Bydd y sioe i'w gweld yng Nghaerdydd ac Abertawe ymhlith nifer o ddinasoedd eraill. Cafodd ymgyrch etholiadao ein cynghorydd lleol Shelley Rees-Owen ac ymgeisydd Plaid Cymru yn yr Etoliad Cyffredinol ei lawnsio nos Iau, !2 Mawrth yng nghanolfan Soar Ffrwdamos, Penygraig am 7
p.m. Daeth dros 40 o aelodau capel Hope ynghyd i ddathlu Gŵyl Dewi. Mwynhaodd pawb gawl, pice ar y maen a bara brith cyn yr adloniant a gyflwynwyd gan y gweinidog, David Morgan. Cafwyd adroddiadau gan Mrs Kathleen Evans a cwis a drefnwyd gan John Wilkins a rhwng popeth, cafodd pawb noson wrth eu bodd. Croeso adre i Dŷ Ddewi i Carol Treeby sydd wedi bod am gyfnod byr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedd ei chym-
dogion i gyd yn falch o'i chael ni yn ôl yn eu plith. Roedd yn flin gan bawb, fodd bynnag, golli cwmni Myra Harries sydd wedi symud i mewn i gartref gofal. Pob dymuniad da iddi yn ei chynefin newydd. Llongyfarchiadau i Gymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin sydd eleni'n dathl 50 mlynedd o godi cartrefi yn ein cymunedau. Byddan nhw'n dathlu'r garreg filltir bwysig hon trwy drefnu lluniaeth ac adloniant yn Nhŷ Ddewi yn ddiweddarach yn y flwyddyn a bydd cartrefi eraill y
Gymdeithas yn y Rhondda, sef Tŷ Ben Bowen, Ystrad Rhondda a Cwrt Constantine, Trewiliam yn ymuno â nhw yn y dathlu. Ymwelodd plant Ysgol y Ton ag aelodau'r Clwb Cameo unwaith yn rhagor eleni i'w cefnogi wrth iddynt ddathlu Gŵyl Dewi. Perfformion nhw amrywiaeth o ganeuon actol a chaneuon addas ar gyfer yr achlysur. Ymhlith yr aelodau oedd yn dathlu oedd tair gwraig yn eu nawdegau, sef Mrs Gayle Gough, Mona Howells a Mair John.
BOWLWYR -
Ydych chi'n nabod rhai o'r bowlwyr hyn? Bayddai Ray Wilshire, Ton Pentre, a anfonodd y llun atom yn falch o gael gwybod. Mae e'n siwr taw'r trydydd o'r dde yw Hubert Griffiths, Stryd Fawr, Treorci a taw Talfryn Emanuel, Treherbert sy ar y chwith. Ond pwy yw'r lleill? Rhowch wybod, os ydych chi'n nabod rhywun.
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA DYDD GWYL DEWI
Roeddem yn falch iawn i groesawu Mr Creighton Lewis a'r Athro Gareth Williams i'r ysgol ar Chwefror 27ain. Ymunodd y ddau aelod o Gôr Pendyrus gyda ni i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ac i gyflwyno Cadair Eisteddfod y Rhondda 1929 i'r ysgol. Yn sicr fe fyddwn fel cymuned yn trysori'r gadair hardd hon ac rydym yn diolch yn ddidwyll i'r ddau ac i aelodau'r côr am eu rhodd hael iawn.
10
YSGOLION Aelodau o Ysgol Gyfun Cymer Rhondda ar Ben y Fan
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
CYMER YN CEFNOGI SEFYDLIAD PRYDEINIG Y GALON
YSGOLION
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Codwyd £830.47 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon/British Heart Foundation ar ddydd Gwener 06/02/15 Diolch i ddisgyblion a staff Ysgol Gyfun Cymer Rhondda am wisgo coch, eu cyfraniadau hael a’r cacennau blasus! (llun drosodd)
PENCAMPWYR PEL-DROED
Llongyfarchiadau mawr i dîm Pêl Rwyd Cyntaf yr ysgol ar ei fuddugoliaeth yn nhwrnament pêl rwyd yr ardal. Enillon nhw saith gem i gyrraedd y rownd cyn derfynol, lle wnaethant guro Treorchy'n gyfforddus ac yna Glynrhedyn 9-3 yn y rownd derfynol. Da iawn i bawb oedd yn cynrychioli'r ysgol yn y twrnament - ymdrech ffantastig gan bawb.
11
Plant Côr Ysgol Ynyswen yn mwynhau eu hymweliad â’r Senedd/ ^ Ysgol Cymer Rhondda yn cyfrannu i Sefydliad Prydeinig y Galon