Gloranmeb14

Page 1

y gloran

HO LL HWYL Y FFAI R Cafodd y plant lleol fodd i fyw YN NHREO RCI pan ddaeth y ffair i Dreorci'n ddiweddar.

golygyddol-Llythyr JillO’r Rhondda i’r DdinasShowcase Selsig- Byd Bob- Roger PriceNewyddion Treherbert Treorci Cwmparc Y Pentre Ton Pentre

mawrth-ebrill 2014 rhifyn 290 2il gyfrol

20c


golygyddol l

y gloran

mawrth-ebrill 2014 YN Y RHIFYN HWN

TYNGED EIN LLYFRGELLOEDD

2

Wrth drafod effaith y toriadau mae llywodraeth leol yn eu gweithredu ar hyn o bryd, mae'n anorfod bod rhai meysydd wedi cael mwy o sylw na'i gilydd. Gellir deall pam mae rhieni'n poeni am doriadau mewn addysg gynnar oherwydd yn ogystal â chael effaith andwyol ar ddatblygiad deallusol eu plant ar adeg allweddol yn eu bywydau, bydd hefyd yn golygu eu bod hwythau naill ai'n gorfod talu'n breifat neu roi'r gorau i swydd er mwyn gofalu amdanynt. Bydd yn anorfod bod addysg ac economi'r teulu'n dioddef. Cafodd agweddau eraill ar y toriadau lai o sylw. Un o'r rhain yw'r bwriad i gau 14 o'r 26 llyfrgell sydd gennym yn RhCT er mwyn arbed £3.1 miliwn. Pan ddylifodd ein cyndadau i'r Rhondda ganol y 19 ganrif, un o'r pethau cyntaf a wnaethant oedd sefydlu llyfrgelloedd yn neuaddau'r gweithwyr a'r capeli. Roedden nhw'n ymwybodol o'u gwerth a'u pwysigrwydd addysgol ac roedden nhw'n

barod i fuddsoddi eu ceiniogau prin mewn casgliadau o lyfrau, papurau newydd a chylchgronau. Tyfodd y llyfrgelloedd yn ganolfannau cymdeithasol yn ogystal â sefydliadau addysgol. Maes o law, mabwysiadwyd eu gweledigaeth gan gynghorau sosialaidd yr ardaloedd hyn a sefydlwyd cadwyn o lyfrgelloedd ardderchog ledled y sir. Cyn bo hir, atgof yn unig fydd yr adnoddau gwerthfawr hyn i lawer o bobl. Yn y Rhondda, pedair llyfrgell yn unig fydd ar ôl, sef Treorci, Tonypandy, Ferndale a'r Porth. O fewn Rhondda Uchaf caeir llyfrgelloedd Treherbert a Thon Pentre. Wrth gwrs, dros y blynyddoedd datblygodd gwasanaethau ein llyfrgelloedd, a bellach mae llawer yn dibynnu arnynt ar gyfer defnyddio technoleg gwybodaeth. Daethon nhw'n bwysig, er enghraifft, i'r di-waith sy'n cael cyfle i ddysgu am y dechnoleg newydd a hefyd cânt gyfle i ddefnyddio'r

cyfrifiaduron i ddod o hyd i swyddi. Beth fydd yn digwydd i'r person diwaith o Flaenrhondda pan gaeir Treherbert o gofio costau teithio i lyfrgell Treorci? Wrth wynebu'r toriadau, dywed y Cyngor eu bod am weld grwpiau gwirfoddol yn ystyried rhedeg rhai o'r gwasanaethau hyn a'u bod yn awyddus i'w helpu i lunio cynlluniau busnes i'r perwyl hwnnw. Mawr obeithiwn y bydd rhai grwpiau'n ystyried ymateb i her dyfodol ein llyfrgelloedd er mwyn sicrhau bod y casgliadau o lyfrau, cyfrifiaduron etc yn cael eu diogelu i'r genhedlaeth nesaf. Os digwydd hyn, bydd yn eironig braidd ein bod yn mynd yn ôl at arferion ein cyndadau. Mae'r rhod, yn wir, wedi troi gylch llawn. Rhyfedd o fyd! Golygydd

Golygyddol...-2 Atgofion Pysgotwr /Llythyr oddi wrth Jill Evans...-3 Showcase-Talent ym mhen uchaf y Cwm... Seren Hâf Macmilan -4 Newyddion Lleol...5-8 Byd Bob Troion Yr Yrfa..9 Roger Price...10 Ysgolion...Ysgol GG Bronllwyn...11 Ysgol Gyfun Cymer Rhondda...12 Plant YGGBronllwyn yn helpu gwneud ffilm animeiddio

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN


ATGOFION PYSGOTWR GAN ISLWYN JONES O’R RHONDDA I’R DDINAS

Roedd Mawrth y cyntaf yn ddiwrnod arbennig i mi wrth dyfu lan yn Y Rhondda. Fe fyddwn yn hoffi dweud wrthych ei fod yn arbennig, oherwydd ei fod yn Ddydd Gŵyl Dewi. I finnau, fodd bynnag, y rheswm pam oedd Mawrth y cynta mor bwysig oedd taw hwn oedd dydd cynta’r tymor pysgota. I ddweud y gwir,roedd mynychu Ysgol Rhydfelen yn anfantais imi ar y pryd.Fe gâi fy ffrindiau oedd yn mynd i’r ysgolion lleol hanner diwrnod bant. A minnau’n ‘Welshie’, rhaid oedd dathlu dydd ein nawddsant yn y ffordd briodol drwy gynnal Eisteddfod. Byddai honno’n para drwy’r dydd.Yn wir,erbyn imi adael Rhydfelen, roedd yr ŵyl wedi cynyddu, nes para am ddeuddydd!.Nawr,peidiwch â’m camddeall i. Rwy’n Gymro i’r carn, ond roedd diwrnod cynta’r tymor, a chael ei dreulio ar yr afon ar ôl nosweithiau hir y gaeaf, yn achlysur arbennig iawn.Achlysur llawer mwy pwysig i fachgen 12 oed na chanu cerdd dant ac adrodd.! Ond, er gwaetha’r ffugio salwch ag ati, ces i fyth mo’r cyfle wrth dyfu lan i dreulio’r dydd cynta o’r tymor ar yr afon. Beth wnawn i oedd hyn. Fe fyddwn yn codi tua 5.30 a.m., rhuthro lawr i’r afon (ryw ganllath o’m cartre).Pysgota tan 7.45. Rhuthro adre i wisgo a llyncu 'mrecwast. Dal bws yr ysgol a adawai’r ‘New Bridge’ toc wedi 8. Er gwaetha’r ffaith taw braidd dwyawr oedd ‘da fi i bysgota, yn ddios,byddai duwiau’r afon yn gwenu arnaf, a byddwn yn llwyddo i demtio o leia un brithyll.Byddai Mam yn coginio hwnnw imi erbyn amser te. Darganfod nant Pan o’n i yn nosbarth 5 yn Rhydfelen, fe ddechreuais wneud tipyn o redeg traws gwlad. Fe fyddwn yn rhedeg lan i Eglwysilan, tu ôl i’r Ysgol,a nôl.Sylwais ar nant fach a redai o’r mynydd.’Sgwn i oes ‘na frithyll ynddi?’ ac aeth fy nghywreinrwydd yn drech na mi. Roedd gan f’ewyrth Idwal’Poachers Rod’.Gwialen oedd hi fyddai’n datgymalu yn ddarnau bach. Gallech ei dodi tu fewn i boced cot ysgol a'i chuddio. Rhododd fenthyg y wialen imi. Rhaid cyfadde,wnes i ddim crybwyll iddo pryd y byddwn yn defnyddio’r teclyn! Bant â fi i’r ysgol gyda’r wialen,ril, bachau –a thin o fwydod ym mhoced fy nghot fawr. Amser cinio,fe sleifiais allan o’r ysgol a physgota’r nant fach.Llwyddais i ddianc i’r nant lawer gwaith, yn enwedig pan o’n i yn Nosbarth 6 gyda digon o wersi rhydd. Bûm yn ffodus i ddal sawl brithyll yn y nant fach.Wedodd neb yr un gair wrtha i.Ma’n rhaid 'mod i wedi bod yn ddigon cyfrwys i

LLYTHYR GAN JILL EVANS ASE

Chwefror 10, 2014 Annwyl Olygydd Cyfleoedd newydd i bobl ifanc Bydd cannoedd o fyfyrwyr o Gymru yn elwa bob blwyddyn wrth fynd i wledydd Ewropeaidd eraill i weithio neu astudio fel rhan o raglen Erasmus yr UE. Ei nod yw helpu pobl ifanc wella eu medrau ac ennill profiadau newydd i’w helpu gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Gwyddwn o’r nifer fawr o bobl sydd wedi dod i Frwsel ar brofiad gwaith yn fy swyddfa, eu bod yn llysgenhadon rhagorol dros Gymru yn ogystal â chael dysgu llawer yn y broses.

Ym mis Ionawr, lledaenwyd cynllun Erasmus er

mwyn caniatáu llawer mwy o grwpiau ieuenctid i gymryd rhan. Mae’n cynnwys grwpiau chwaraeon hefyd am y tro cyntaf. Cefnogais y newidiadau hyn yn Senedd Ewrop oherwydd fy mod yn credu y bydd yn ein helpu i adeiladu ein heconomi a gwneud Cymru’n genedl wirioneddol fodern ac Ewropeaidd. Mae gwir angen arnom i wneud i Ewrop weithio dros Gymru ac mae hyn yn golygu cymryd mantais lawn o bob cyfle i helpu ein pobl ifanc gael swyddi da.

Am fwy o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â fi ar jill.evansoffice@ep.europa.eu neu edrychwch ar wefan Erasmus + y Comisiwn Ewropeaidd ar http://ec.europa.eu/programmes/erasmusplus/index_en.htm Yr Eiddoch yn Ffyddlon Jill Evans Aelod o Senedd Ewrop dros Gymru Plaid Cymru - the Party of Wales www.jillevans.net

osgoi sylw’r athrawon.Wn i ddim hyd heddiw beth oedd enw’r nant. Falle byddai’n syniad dychwelyd un dydd i weld a oes na frithyll yn dal yn ei dyfroedd. Pysgota gyda mwydyn fydden ni ar yr Afon Rhondda, ond abwyd llwyddianus arall oedd caws’Kraft Dairylea’ i fod Parhad ar dud 10 yn fanwl gywir-Am ryw


SHOWCASE - TALENT YM MHEN UCHAF Y CWM

Derbyniodd Cwmni Theatr Selsig ganmoliaeth ragorol ym mis Rhagfyr ar eu perfformiad o SHOWCASE yn theatr hanesyddol, Y Parc a’r Dâr. Cyfuniad o ganeuon gwahanol o’r sioeau a gafodd eu perfformio dros y deng mlynedd diwethaf oedd Showcase. Sioeau megis ‘Footloose’, ‘The Wedding Singer’, ‘Oliver’, ‘All Shook Up’, ‘Jekyll and

Hyde’, ‘The Sound Of Music’, ‘Flashdance’, ‘Fame’, gan orffen ar uchafbwynt gydag encôr o ‘We Will Rock You’. Un gân a berfformiwyd gan ferched y cast oedd ‘Raise Your Voice’ o’r sioe adnabyddus, ‘Sister Act’. Hon oedd yr unig sioe nad yw Selsig wedi ei pherfformio, ond mae’n bleser Parhad ar dudalen 10 Isdeitlau Isdeitlau Subtitles S ubtitles

35 Diwr nod 9..0 0

0 Yn dec 23 Mawhrau rth

Corff, c y stâd o frinachau, a llond amh ddra rama n euon. Cyfres bob diw ewydd lle m ae rnod yn cyfrif.

#35diw s4c.co rnod .uk

4


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Cynhaliwyd diwrnod o hwyl i'r teulu ar y 27ain o Chwefror yng Nghlwb Llafur Tynewydd. Trefnwyd y diwrnod gan Cymunedau Cyntaf Rhondda Fawr Uchaf. Roedd llawer o weithgareddau i bob oedran yn cynnwys gwaith coed, creftiau chwarae drymiau, yn ogystal â gwybodaeth am gweithgareddau yn y gymuned. Roedd y clwb yn llawn gyda phobl o bob oedran yn mwynhau'r diwrnod. Ar 11 Fawrth cyfwelir Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf a Dr Andrew Deardon, trysorydd y B M A ar Radio Rhondda. Dan ofal o Parchedig David Brownnutt bydd y ddau yn trafod dyfodol y gwasanaeth iechyd ac yn enwedig y sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gallwch dderbyn y rhaglen ar y we www.rhondda radio.coma thrwy rhai setiau radio digidol. Mae'r cyngor wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddymchwel hen ysgol Blaenrhondda.Mae'r trigolion yn ddig ynglŷn â'r penderfyniad oherwydd yr ysgol yw'r unig adeilad cymdeithasol ar

ôl yn yr ardal gadwraeth. Mae pryder hefyd ynglŷn â'r codiad yn y nifer o geir yn y pentref gan fod parcio yn hunllef ar hyn o bryd. Cyn dechrau mae rhaid i'r datblygwyr sicrhau fod y bont yn ddigon cryf i ddal y loriau fydd yn ei chroesi yn ystod y datblygiad.

Llongyfarchiadau i Ralph a Carol Upton, gweinidog Capel Blaencwm, ar enedigaeth eu hŵyr Arran Cafodd Arran ei eni yng Ngaeredin yn yr Alban. Llongyfarchiadau i Dr Peter Menon ar achlysur ei ben blwydd yn 80 oed. Daeth Peter Menon , yn wreiddiol o India, i Dreherbert yn 1968 ac roedd e'n byw a gweithio yma am dros 20 mlynedd. Ar ôl ymddeol symudodd Dr Menon i Ton Pentre. Dathlwyd yr achlysur gyda pharti yng nglwb yr Hiberium yn Gelli.

TREORCI

Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i David Daniel Evans, Pengelli sy wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar. Hefyd i'w briod, Ann,

sydd wedi bod yn gaeth i'w chartref am beth amser. Mae eu ffrindiau yn anfon eu dymuniadau gorau atynt.

Cynhaliwyd cyfarfod Dydd Gweddi Bydeang y Chwiorydd yn eglwys Bethlehem, ddydd Gwener, 7 Mawrth. lluniwyd y gwasanaeth eleni gan chwiorydd o'r Aifft ar y thema, "Ffrydiau yn yr Anialwch" Y siaradwraig wadd oedd Miss Eirwen Richards, Pen-y-bont ar Ogwr. Trefnwyd y gwasanaeth gan aelodau Hermon dan lywyddiaeth Mrs Mary Price. Mrs mary Davies oedd yn cyfeilio. Llongyfarchiadau i Hywel Lecrasse a Kyleigh ar eu priodas ar 2 Mawrth. Mae Hywel yn fab i Mr a Mrs Colin Lecrasse, Heol Glyncoli. Pob dymuniad da i'r pår ifanc i'r dyfodol.

Cafodd aelodau Eglwys Sant Matthew y fraint a'r pleser o estyn croeso i Archesgob Cymru. Y Gwir Barchedig Barrie Morgan fore Sul, 16 Mawrth. Pob dymuniad da i Mrs Margaret Beauchamp, Heol Glyncoli sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Rhondda. Mae

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN aelodau eglwys Sant Matthew ynghyd å'i chymdogion a'i ffrindiau yn dymuno iddi wellhad llwyr a buan. Llongyfarchiadau calonnog i Mrs Marilyn Davies, Heol Cadwgan, a ddathlodd ei phenblwydd yn 80 oed yn ddiweddar. Dymunwn iddi bob hapusrwydd i'r dyfodol.

Nos Iau, 6 Mawrth cynhaliodd aelodau Sefydliad y Merched, Treorci [W.I.] swper i ddathlu Gŵyl Dewi yn Neuadd Sant Matthew, achlysur sy'n rhan bwysig o'u calendr blynyddol. Etholwyd Mrs Hilary Clayton, Ton Pentre yn

5


drysorydd newydd Pwyllgor Ymchwil Canser UK, Treorci i olynu Miss Joanna Holland, Bryn Rhodfa a fydd yn priodi ym mis Ebrill. Wrth estyn croeso i Hilary, sydd eisoes yn aelod gweithgar o'r Pwyllgor, mae'r aelodau am ddiolch i Joanna am ei chyfraniad i'r gwaith ac yn dymuno iddi briodas dda a phob hapusrwydd.

Llongyfarchiadau i Noel a Janet Henry, Stryd Jones sy'n dathlu eu priodas aur y mis hwn. Bydd y ddau yn mynd ar wyliau bach i ddathlu'r achlysur. Pob dymuniad da iddynt i'r dyfodol.

Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyd-

6

dion am farwolaeth Mr Cyril Bebb, Heol y Fynwent. Yn ei ieuenctid, bu'n chwarae rygbi dros Dreorci. Cydymdeimlwn â'i fab, David. cadeirydd Côr Meibion Treorci, a'r teulu oll ar yr adeg drist hon yn eu hanes.

CWMPARC

Mae'r tywydd wedi bod yn achosi problemau yn y Rhondda yn ddiweddar. Ar 12 Chwefror cododd gwynt cryf, a chollodd tŷ yn Stryd Tallis ran o'i do. Mae'r perchennog, Julie George, yn gweithio fel nyrs, ac roedd hi yn y gwely ar ôl gweithio trwy'r noson gynt. Mae ei thŷ yn agos iawn i Ysgol y Parc, a digwyddodd hyn tua 2:30 yn y pryn-

hawn, jyst cyn i'r plant adael yr ysgol. Yn ffodus iawn, chafodd neb ei anafu, ac nawr mae'r gwaith o atgyweirio'r tô wedi ei gwblhau.

Derbyniodd eglwys San Siôr ymwelydd arbennig ar 16 Chwefror, pan ddaeth Archesgob Cymru, Dr. Barry Morgan i arwain oedfa. Dathlodd e'r offeren trwy gyfrwng Saesneg a Chymraeg, ac roedd cyfle i bawb gymdeithasu ar ôl y gwasanaeth pan ddarparwyd lluniaeth ysgafn. Mae'r Côr Eglwys San Sior wedi colli dau aelod mewn 4 mis. Bu farw Mrs Beryl Davies o Don Pentre ar ddiwedd mis Chwefror. Roedd hi

wedi bod aelod ffyddlon o'r eglwys, y côr ac Undeb y Mamau am dros 50 mlynedd. Cyn hynnny, bu farw Mrs Pat Rees, aelod ffyddlon arall.

Tristwch i'r ardal oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Barrington [Barrie] Watkins, Morgans Terrace, yn dilyn cystudd hir yng Nghartref Pentwyn lle y derbyniodd ofal tyner a chariadus. Cafodd Barrie ei eni yn Nhreherbert, ond symudodd y teulu i Lundain pan oedd yn 4 oed. Ar ôl gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig a chael ei glwyfo yn y brwydro yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymgartrefodd yn Llundain a sefydlu


busnes llwyddiannus fel ymgynghorydd ariannol. Roedd yn hoff iawn o chwaraeon a bu'n chwarae pêl-droed dros Fulham a Newport County yn ogystal â chwarae rygbi dros Dreorci wedi iddo ymgartrefu nôl yn y Rhondda. Roedd Barrie yn Gymro i'r carn, yn hoff iawn o siarad Cymraeg ac yn gweithio'n gyson dros Blaid Cymru. Gwelir ei eisiau'n fawr. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w weddw, Phyllis a'i fab, ynghyd â'r holl deulu yn eu profedigaeth.

Llongyfarchiadau i Ysgol y Parc ar ennill cystadleuaeth mabolgampau dan do yng Nghanolfan Hamdden Tylorstown yn erbyn saith o ysgolion eraill y sir. Byddant yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf y

mis hwn. Pob lwc iddynt! Llongyfarchiadau hefyd i'r tîm rygbi ar guro Ton Pentre, Penpych a'r Gelli mewn cystadleuaeth ymhlith ysgolion y clwstwr. Dyw Ysgol y Parc heb golli un gêm rygbi y tymor hwn. Da iawn, wir.

Nos Iau, 6 Mawrth cynhaliwyd cyfarfod pregethu Gŵyl Dewi yng Nghapel y Parc. Trefnwyd yr oedfa gan enwad y Bedyddwyr a daeth cynulleidfa lusog ynghyd i wrando ar y gennad, Mr Gwynfryn Morgan, Penderyn. Ar ei bregeth pwysleisiodd Mr Morgan y bwysigrwydd o ddiogelu ein treftadaeth Gristnogol, Gymreig. Ar ddiwedd y gwasanaeth trefnwyd lluniaeth ar gyfer yr ymwelwyr. Estynnwyd croeso i bawb ar ran yr egwys gan Mr David

Lloyd.

Y PENTRE

Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Mike Powell, un o'n gohebwyr yn Y Pentre, sydd wedi bod yn yr ysbyty'n ddiweddar. Llongyfarchiadau hefyd iddo ef a Tesni ar ddathlu 39fed. penblwydd eu priodas y mis hwm. Hir oes i'r ddau.

Mae'r aelodau a ganlyn o Fyddin yr Iachawdwriaeth yn dathlu eu pen-blwydd y mis hwn: Mal Toghill, Sarah Davies, Olivia Jones, Bob Eynon, Meryl Hoskins, Paul Sass a Sheilagh Bennett. Dymuniadau gorau i bob un ohonynt oddi wrth eu cyd-aelodau yn y Citadel. Gair i atgoffa pawb bod

cyfarfod misol PACT yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth cytaf y mis am 6pm yn Llys Nasareth. Cewch gyfle i drafod unrhyw broblemau lleol gyda chynrychiolydd yr heddlu a'ch cynghorwyr lleol, Shelley ReesOwen a Maureen Weaver. Os ydych am drafod unrhyw beth yn breifat, mae modd trefnu hynny. Mae cynllun 'Chwarae Plant' yn dal i gael ei gynnal bob dydd Mercher ar Barc Pentre rhwng 3.30- 5.15pm. Cofiwch ofalu bod y plant yn gwisgo hen ddillad! Am ragor o fanylion, ffoniwch 493321 neu edrychwch ar y wefan www.chwaraeplant.org

Cafodd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth amser prysur yn ddiweddar yn

7


dathlu pen-blwdd sefydlu'r mudiad yn y Pentre 135 o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn maen nhw'n edrych ymlaen at ddathlu Sul y Mamau ar 30 Mawrth yng nghwmni'r Major Derek a Susan Jones. Yn y cyfamser bydd y cyfarfodydd arferol a ganlyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd: Gwasanaeth y Sul 10.15, Ysgol Sul 11.30, Mam a Phlentyn, 9.15am fore Llun, J-Team 5.30pm a Grŵp Ieuenctid 7pm bob nos Lun; Astudiaethau Beiblaidd, nos Fawrth am 6pm a'r Songsters yr un noson am 7.15. Cynhelir bore coffi bob dydd Iau am 10.30am.

TON PENTRE A’R GELLI

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Gwenllian Evans, Stryd Whitfield. Roedd Gwen

BYD BOB

Y dechnoleg newydd yw pwnc Bob Eynon y mis hwn Y dydd o'r blaen roedd rhaid i fi lenwi ffurflen er mwyn cael trwydded yrru newydd. Roedd ystyr un o'r cwestiynau ar y ffurflen yn aneglr i fi ac felly fe alwais i ar ffrind i ofyn am gyngor. Wrth lwc, roedd merch fy ffrind yn ymweld å hi ar y pryd. Lisa yw ei henw, ac mae hi'n athrawes mewn ysgol ger Y Fenni. Edrychodd Lisa ar y ffurflen a dweud, 'Pam rydych chi'n llenwi ffur8

yn aelod ffyddlon yng nghapel Hebron a hefyd yn aelod brwd o dîm bowlio'r merched yn Nhreherbert. Cydymdeimlawn â'i mab, Mark a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Bu nifer o deuluoedd yr ardal mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cofiwn am anwyliaid y canlynol yn eu hiraeth: Mrs Thelma Newman, Stryd Princess, Mrs Lilian Phillips, Stryd Union, Mrs Marion Parry, Stryd Matexa a Mrs Joan John, Dinam Park. Da oedd clywed bod Mr Huw Evans, gynt o Stryd Dewi Sant yn arweinydd y gerddorfa yn y sioe 'Evita' a lwyfannwyd yn ddiweddar yn y Theatr Newydd, Caerdydd. Mae Huw yn ŵyr i'r ddiweddar Gwenllian Evans, Stryd Whitfield. flen? Mae'n well i chi fynd ar lein. Mae'n haws a chyflymach, a does dim rhaid i chi dalu am stamp post." "Does dim cyfrifiadur 'da fi gartref," atebais i "Dim ond hen radio a theledu." [Fe anghofiais i am yr hen feicrodon a'r hen beiriant golchi yn fy nghegin.] "Wel, mae lap-top 'da fi yma," meddai Lisa. "Fe fydd yr holl broses yn cymryd hanner munud ar y mwyaf." Fe aethon ni drwy'r cwestiynau'n gyflym ac roeddwn i'n gallu gweld sut mae technoleg wedi newid dros y blynyddoedd. Yna, daethon ni

Dathlwyd Gŵyl Dewi yn eu ffordd arferol unwaith eto eleni gan breswylwyr Tŷ Ddewi. Mwynheuon nhw fawlaid o gawl a baratowyd gan wragedd y gegin gyda phice ar y maen yn dilyn wedi eu gwneud gan giamstar ar wneud teisen, Marin, merch Lilwen. Dilynwyd hyn gan gwis a drefnwyd gan Mr Graham John.

Agorwyd siop goffi newydd yn y Ffenics yn ddiweddar. Bydd ar agor bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10-12am. Croeso i bawb alw heibio am sgwrs. Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth un o drigolion adnabyddus y cylch, sef Mrs Beryl Davies, Stryd Gordon. Roedd Beryl yn weddw John Davies, cyn-faer y Rhondda. Cydymdeimlwn â'r teulu yn

at gwestiwn arall. "Beth ydy rhf eich trwydded deithio chi?" gofunnodd y ferch. "Dim syniad'" atebais i "Mae fy nhrwydded deithio mewn drør yn y t¥." "O, does dim ots," meddai hi. "Mae'n dweud dydy'r rhif 'na ddim yn hanfodol." Fe wenais i. Dim ond un cwestiwn ar øl... Yn sydyn, trodd Lisa ata' i. "Mae'n ddrwg gen i. Rhaid i ni stopio." "Ond pam?" gofynnais i. "Dydy rhif eich trwydded deithio ddim yn hanfodol," eglurodd hi, "ond heb y rhif 'na allwn ni ddim mynd ymlaen at

eu colled.

Sefydlwyd cymdeithas yn dwyn yr enw 'Make it Happen' gan grŵp o bobl anabl o'r Rhondda. Bydd yn cwrdd yn Nhŷ Ddewi bob yn ail ddydd Iau rhwng 1- 4pm. Prif symbylydd y grŵp yw Denise [Dee] Thorne a gafodd strôc 5 mlynedd yn ôl. Ei gobaith yw y bydd y grŵp yn meithrin cyfeillgarwch, cyflwyno sgiliau newydd a dod â hapusrwydd i fywydau dioddefwyr. Cafodd gryn help i sefydlu'r fenter gan un arall o breswylwyr y Tŷ, Mr John Mann sy'n awyddus i gyflwyno sgiliau garddio a gwaith tŷ gwydr i'r aelodau. Bydd tâl o £2 am ymaelodi a gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun trwy ffonio rheolwraig Tŷ Ddewi, Mrs Gill Jones ar 0800522526.

y cwestiwn nesaf." Hanner awr yn hwyrach, roeddwn i gartref yn llenwi'r ffurflen å beiro ac yn meddwl bod technoleg yn newid yn gyflym, ond dydy biwrocratiaeth ddim yn newid o gwbl! ******************

Ydych chi wedi clywed am y pengwyn a aeth i mewn i dafarn yng Nghaerdydd? Fe aeth at y bar a gofyn i'r rheolwr, "Ydych chi wedi gweld fy mrawd heno?" Syllodd y rheolwr arno am eiliad a dweud, "Wn i ddim. Sut olwg sy arno fe?"


SWYDD NEWYDD

Y mis hwn wrth hel atgofion, mae ROGER PRICE yn sôn am ei waith yn swyddog adloniant a rhai o'r cymeriadau diddorol y daeth e ar eu traws. Fel gweithiodd pethe ma's, roedd y flwyddyn 1971 yn un bwysig iawn i mi. Ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honno daeth Siwan y ferch i mewn i'r byd yn Ysbyty Llwynypia. Fel mae'n digwydd dyma pryd rhoddwyd statws "Gwyl y Banc" yng Nghymru ac yn Lloegr i'r diwrnod hwn, felly dydy Siwan byth wedi cael cerdyn penblwydd trwy'r gwasanaeth post! Wedyn, ym mis Mai yn yr un flwyddyn ffeindies fy hun yn gweithio i'r "Ogmore & Garw Urban District Council" yn yr adran gyfreithiol. Tair blynedd bleserus iawn yno nes yr ad-drefnu yn 1976 pan ffurfiwyd yr "Ogwr Borough Council" lle ffundiais fy hun mewn swydd newydd sbon sef "Principal Officer Social and Cultural

Activities". Fe newydiwyd enw'r swydd sawl gwaith wedyn ac erbyn diwedd y Cyngor - trwy ad-drefnu eto - fy swydd oedd "Assistant Leisure Services Officer (Arts and Entertainment)". Yn fy swydd newydd rown i'n gyfrifol am holl weithgareddau'r Cyngor ym maes adloniant a'r celfyddydau. Cofiwch, nid fi yn bersonol oedd yn rhedeg y sioe o bell ffordd. Roedd gan y brif ganolfannau eu swyddogion oedd yn gyfrifol am beth a alwyd y "day to day running of the premises" ond yn bendant ar ysgwyddau fy adran fach i yn y canol fel petai roedd y cyfrifoldeb am edrych dros yr holl faes ac ee wnes i 'ngorau bob amser i sicrhau tegwch i wahanol rannau'r ardal, sef y tri chwm, Llynfi, Ogwr a'r Garw ac wrth gwrs Porthcawl, Pen-ybont, Mynydd Cynffig, Pen-coed ac yn y blaen fel eu bod nhw i gyd o bryd iw gilydd yn cael eu siâr o'r gwahanol gyngherddau a pherfformiadau. Help gan y BBC Mae'n gwerth nodi bod BBC Radio Wales newydd'i ffurfio tua'r adeg y cychwynais yn y swydd yn Ogwr. Roedd Teleri Bevan yn brif

STAN STENNETT A BETI EI WRAIG

swyddog gyda'r adran hon o'r BBC ac roedd hi'n help ffantastig i mi'n bersonol ar gychwyn fy ngyrfa yn y gwaith. Trwy Teleri daethpwyd â dwsinau o raglenni byw o'n gwahanol ganolfannau. Roedd Wyn Calvin, Alun Williams, Chris Stuart, Anita Morgan ac eraill yn wynebau cyfarwydd iawn. Roedd Alun yn wir gyfaill a bron pob tro i ni gwrdd bydde fe'n dweud mai gyda fy ewythr Richard (brawd fy nhad) y cafodd e, Alun, "my first professional engagement" oherwydd fe oedd yn canu'r organ ym Mhenuel Pontypridd pan briodwyd fy rhieni, ac roedd Wncl Dic wedi talu chweugain iddo am

TROEON YR YRFA

y gwaith! Fel mae'n digwydd, roedd Alun yn hen ffrind i'n nheulu. Roedd fy modryb Bessie (un o chwiorydd 'nhad) yn gofalu am Alun pan oedd yn fabi ac roedd ei rieni

SAMMY PRICE, MISTER BOOGIE WOOGIE

BARRY McGUIGAN A MARY

drosodd i dud 11


SHOWCASE parhad o dudalen 4

iddynt gyhoeddi y byddent yn ei pherfformio yn Ebrill 2015! Yn ogystal â gwaith caled y cast a’r corws, rhaid canmol ymrwymiad y tîm oddi ar y llwyfan a oedd wedi gweithio’r un mor galed er mwyn cydlynu’n sioe. Dale Evans oedd yn gyfrifol am ddewis y gerddoriaeth a’i dysgu i bawb yn yr ymarferion. Mae Dale yn wreiddiol o Dynewydd a’i berfformiad cyntaf gyda Selsig oedd ‘La Vie Parisienne’ pan oedd e’n bum mlwydd oed. Roedd Jaye Lord yn brysur yn dawnslunio’r cynhyrchiad a dawnsluniodd hi dros ugain o ddawnsdrefniadau. Roedd y dawnsluniadau yn anodd ac yn egnïol ond bendant yn werth yr holl ymarferion. Mae Jaye yn darlithio yng Ngholeg Morgannwg, campws y Rhondda a bu’n dawnsio ers yn dair blwydd oed. Hanes y Cwmni Mae Cwmni Theatr Selsig wedi bod yn hynod o adnabyddus dros y blynyddoedd. Fe'i ffurfiwyd ym 1947, yn wreiddiol fel cymdeithas gorawl yn neuadd Glenrhondda, gan grŵp o bobl o Flaencwm a flwyddyn yn ddiweddarach, newidiodd

ATGOFION PYSGOTWR parhad o dudalen 3

reswm,roedd y brithyll yn dwli arno!! Tra ro’n I yn yr ysgol, onibai am y nant fach y soniais amdani,g wnawn y rhan fwyaf o’m pysgota ar Afon Rhondda,a physgota gyda phluen (Fly Fishing) ar Lyn Fawr. Diolch i help llawer o aelodau’r clwb y soniais amdanynt yn f’erthygl flaenorol, roeddwn yn gwneud yn reit dda yn castio pluen .Ches i fyth gyfle i fynd yn bell.Yn anffodus, bu farw’n nhad pan o’n i’n 14. Doedd Mam ddim yn gyrru ac Ewyrth Idwal yn y gwaith y rhan fwyaf o’r amser. Troi am Gaerdydd Pan o’n i’n ddeunaw ces fy nerbyn i Brifysgol Cardydd i astudio deintyddiaeth. Roedd symud I’r ddinas fawr a bywyd coleg yn dipyn o agoriad llygad imi.Fe fyddwn yn treulio llawer o’m hamser yng Nghaerdydd, gydag ambell benwythnos adre.Dechreuais chwarae pêl droed i dim y coleg.Fe fyddwn yn chwarae ddwywaith yr wythnos.Rhwng y gwaith coleg a’r bêl droed, dim ond o bryd i'w gilydd, ar ambell benwythnos, y cawn yr amser i bysgota. Dech reuais holi pa bysgota oedd ar gael yng Nghaerdydd. Ychydig oedd ar gael.Roedd afon Taf yn frwnt iawn (er gwaetha’r ffaith bod afon Rhondda mor lân) Roedd llygredd yn mynd i mewn i’r Taf o’r stad ddiwydiannol yn Nhrefforest.Doedd dim posib i’r un pysgodyn fyw yn ei dyfroedd.Mor wahanol y stori heddiw gydag eogiaid a brithyll yn ffynnu.Ffeindiais ma's bod pysgota ar gael yng nghronfeydd Llanishen a Lisvane, ar gyrion y ddi10

yr enw i ‘Gwmni Operatig Glanselsig’. Y sioe gyntaf a berfformiwyd oedd ‘Maritana’. Cynhaliwyd yr ymarferion yng Nghlwb Rygbi Treherbert ac mae’r cwmni dal yn ymarfer yno hyd heddiw. Yn ddiweddar, cafodd Selsig eu gwobrwyo gyda’r ‘N.O.D.A’ - sioe orau am eu perfformiad o Footloose yn 2010 a’r sioe orau am Flashdance yn 2012 lle gwobrwywyd Emily Kate Jones gyda’r actores orau yn y sioe honno. Ychwanegodd Robert Medcraft, cadeirydd y cwmni “Rydyn ni yn Selsig yn sicr y byddwn yn parhau i adlonni cynulleidfaoedd am nifer o flynyddoedd yn y dyfodol.” Mae’n bleser gan y cwmni gyhoeddi y byddant yn perfformio ‘The Addams Family’ ym mis Hydref a’u cyhoeddiad mwyaf diweddar, maent wedi cynllunio i berfformio ‘Sister Act’ yn Ebrill 2015. Bydd Selsig yn perfformio eu cynhyrchiad nesaf o ‘South Pacific’ yn Theatr Y Parc A’r Dâr’ o’r 29ain o Ebrill hyd at yr 2il o Fai felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu eich tocynnau! Dw i’n siwr y byddech yn cytuno bod gan y gymuned hon dalent arbennig a bydd Selsig yn parhau i gynnig gwledd o adloniant ym mhell iawn yn y dyfodol.

Seren Hâf MacMillan

nas. Prynais feic bach, clymu’r wialen i’r crossbar a seiclo i’r cronfeudd oedd ryw dair milltir o’r neuadd breswyl wrth ysbyty’r Mynydd Bychan(Heath Hospital) Ces amser difyr iawn yn pysgota’r cronfeydd. Byddwn yn dod ag ambell frithyll adre i Neuadd Meirionydd, y neuadd breswyl. Roedd oergell a stof yno,a bydden ni’r myfyrwyr yn aml yn coginio bwyd i’n hunain pan fyddai bwyd y cantîn yn mynd yn drech na ni. Ro’n ni’n griw hapus o ddynion a meched ifainc. Byddai llawer o dynnu coes, ac ati. Un o’m ffrindiau gorau oedd Ieuan a ddeuai o Gasllwchwr. Ieuan Prosser Davies oedd ei enw llawn ‘I.P’ byddai pawb yn ei alw. Wy’n cofio un noson ar ôl dychwelyd o drip pysgota imi ddodi’r brithyll braf a ddaliais ar blat,a’i roi yn yr oergell gan fwriadu’i fwyta y bore canlynol. Drannoeth es i’r oergell er mwyn paratoi’r pysgodyn.Doedd dim sôn amdano! Roedd rhyw ddihiryn wedi’i ddwyn. Doedd dim angen edrych yn rhy bell. Roedd yr hen Ieuan yn dipyn o ‘Night Owl’.Erbyn cyrraedd ei stafell,dyna lle roedd sgerbwd y pysgodyn ar blat ar ei ddesg. Allwn I ddim bod yn rhy gas wrth Ieuan. Roedd e wedi’r cyfan yn ffrind, ac yn canmol blas arbennig y pysgodyn-ond byth er hynny bu I.P. Ieuan PROSSOR Davies yn I.P. Ieuan PYSGOD Davies!!! Hyd y gwn mae’r llysenw yn dal hyd heddiw-ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

Islwyn Jones


SWYDD NEWYDD parhad

am iddi hi symud i fyw gyda'r teulu, ond nid oedd hyn yn bosib ar y pryd. Rywbryd af ati, efallai, i baratoi llyfryn yn ymwneud â'r gwahanol betha ddigwyddodd yn ystod fy ngwaith. Erbyn hyn dw i'n sylwi dylwn i fod wedi cymryd cyngor Mary, fy ngwraig, i gadw pob poster/taflen o'r gwahanol gyngherddau. Wnes i ddim. Wel, cael bod yn onest, cychwynais ar y broses ond gan mae'n hadran ni (sef Adran Hamdden) oedd yr un symudodd i wahanol ganolfannau yn fwy nag unrhyw adran arall, anodd oedd rhoi blaenoriaeth i archifio'r cwbl. Sori Mary, roeddet ti'n iawn a rhyw bryd af ati i chwilio trwy'r hysbysiadau yn y wasg er mwyn paratoi rhestr gyflawn. Cymeriadau Ond mae rhai pethe'n neidio i'r cof wrth fy mod yn taro'r geiriau hyn allan. TEDDY WILSON, un o wir gewri byd Jazz. Roedd e'n ddylanwad mawr yn y blynyddoed o'r pedwar dege' mlaen. Anghofia'i byth y noson, sef Hydref 13, 1976, FY MHENBLWYDD, a chael y fraint o gyflwyno Teddy Wilson i gynulleidfa orlawn yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont. Digon o gyfleoedd o hynny mlaen i "fwcio" artistied o fri yn y maes - Humphrey Lyttelton, Chris Barber, Eddie Thompson, ac wrth gwrs, un arall o'r Unol Dalaethau sef SAMMY PRICE, Mister Boogie Woogie piano. Diddorol nodi mai fe oedd un o'r rhai cynta i ofyn am "En Suite". Dim peth cyffredin ar y pryd, felly ffeindiodd ef ei hyn yng Ngwesty'r Atlantic ym Mhorthcawl! Yn y lluniau, fe welwch Barry McGuigan yn Neuadd y Dre ym Maesteg yn cyflwyno noson arbennig yn sôn am ei hanes ym maes paffio. Gwir ŵr bonheddig. Stan Stennett, wedyn, yn wir gyfaill ac mor brofiadol ym maes adloniant ac yn help mawr i mi. Cofiwch, aeth popeth ddim yn hwylus. Dw i'n dal i gofio'r noson roedd y piannydd byd enwog o Hwngari TAMAS VASARY i chwarae ym Mhen-y-bont. Wrth fod yn y gynylleidfa yn symud i mewn i'r neuadd, dyma fi'n cael neges bod yr artist gwadd am gael sgwrs. Dyma fi'n mynd i'r stafell newid a wedodd wrtho'i "Mr Price, the piano you have provided this evening (Steinway Grand) is a good piano but it is not MY piano, therefore I would prefer NOT to play this evening". Wedi i mi esbonio bod na gytundeb, fe gytunodd i chwarae ond ar yr amod "If anyone is not happy with my performance you will let me know and I shall not come back for the second half". Wrth gwrs fyddwn i byth fod wedi dweud wrtho gan ein bod ni'n talu am "recital" llawn. Ges i rhai yn cwyno? Alla'i ddim dweud! Mae llawer mwy i sôn amdano. Y gwaith gyda Theatr Gorllewin Morgannwg. cwrdd â Wynford Vaughan Thomas ac wrth gwrs, Eisteddfod Glowyr de Cymru. Pwy a ŵyr, falle bydd cyfle rywbryd yn y dyfodol i sôn am yr achlysur arbennig olaf a'r cyswllt gydag Wncl Jac a Chôr Meibion Treorci. Max Boyce? Ryan Davies, Acker Bilk, John Lill, The Chieftains. Rhaid mi fynd ati i chwilio trwy'r hen bapurau yn fuan!

Roger Price

YSGOLION

PLANTOS CWM RHONDDA’N HELPU I GREU ANIMEIDDIAD AM DOILEDAU

Stopio’r Bloc gartref wrth helpu i ddarparu iechydaeth i bobl ym mhedwar ban y byd Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda phlant Ysgol Bronllwyn yn y Rhondda i annog pobl i helpu i Stopio’r Bloc yma yng Nghymru, a hynny wrth sicrhau bod iechydaeth ddiogel ar gael i bobl eraill ym mhedwar ban y byd. Comisiynodd y cwmni animeiddiad arbennig, a gafodd ei leisio gan blant Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yng Nghwm Rhondda. Caiff yr animeiddiad ei ddarlledu ar S4C ar y diwrnod, a chaiff copi ei anfon i bob ysgol yng Nghymru hefyd. Mae rhwystrau mewn carthffosydd yn broblem ddifrifol ar draws Cymru, ac mae Dŵr Cymru’n gorfod gwario dros £7 miliwn y flwyddyn i glirio’r rhwystrau hyn. Mae’n achosi trallod mawr, difrod i gartrefi a busnesau, a gall lygru ein hafonydd a’n traethau prydferth a’r amgylchedd ehangach. Mae’r ffilm fer yn dangos pwysigrwydd helpu i gadw’r 30,000km o garthffosydd yn glir o rwystrau fel clytiau bach, cewynnau a ffyn bach gwlân cotwm. Dywedodd Andrew Harris, Pennaeth Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru; “Nid oes iechydaeth ddiogel ar gael i 2.5 biliwn o bobl ledled y byd. Mae hi’n rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol yma yng Nghymru, ac rydyn ni’n aml yn camddefnyddio’r rhwydwaith carthffosiaeth rydyn ni mor ffodus i’w gael. Dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda Chadw Cymru’n Daclus, Water Aid ac ysgolion ar draws Cymru, er mwyn dangos pa mor bwysig yw hi bod pobl yn ein helpu ni i stopio’r bloc, wrth godi arian i ddarparu iechydaeth ddiogel ar gyfer eraill hefyd. “Pethau pob dydd sy’n cael eu fflysio i lawr y tŷ bach sy’n achosi’r rhan fwyaf o’r rhwystrau rydyn ni’n gorfod eu clirio yng Nghymru, fel clytiau bychain, cadachau mislif, ffyn bach gwlân cotwm ac edau dannedd, ynghyd â’r braster, yr olew a’r saim y mae pobl yn ei arllwys i lawr y draen. Gall hyd yn oed un clwtyn bach achosi llifogydd mewn cartref.

drosodd

11


ysgol gyfun cymer rhondda

Adeg hanner tymor, bu tri o ddisgyblion y Cymer sef Seren Haf MacMillan, ei brawd Elis o Dynewydd ynghyd â Casey Nash yn adolygu llyfrau ar gyfer pobl ifainc ar raglen 'Prynhawn Da' ar S4C. Yn y llun, fe'i gwelir gyda dau gyflwynydd y rhaglen, Rhodri Owen ac Yvonne Evans. “Parhad o dud 11

Bydd unrhyw un sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi am fod draen neu garthffos wedi’i dagu yn gwybod y difrod a’r trallod mae hyn yn ei achosi. “Trwy weithio gydag ysgolion ar yr ymgyrch hon, rydyn ni’n creu miloedd o genhadon bychain a fydd yn mynd â’n neges ar led at eu rhieni, eu ffrindiau a’u perthnasau.” Dywedodd Medi Lloyd, sy’n athrawes yn Ysgol

Gynradd Gymraeg Bronllwyn: “Roedd y plant wrth eu bodd i gymryd rhan yn y gwaith o greu’r animeiddiad hwn. Roedd hi’n fendigedig iddynt gael dysgu am y cylch dŵr a pha mor bwysig yw hi i ni i gyd ofalu am ein hamgylchedd. Bydd y fideo’n ffordd wych i blant o Fôn i Fynwy ddysgu beth maen nhw’n gallu ei wneud i helpu i atal rhwystrau a llifogydd yn eu cymunedau. Maen nhw i gyd yn gyffrous dros ben i weld y fideo’n cael ei ddarlledu ar y teledu.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.