Gloranmedi14

Page 1

y gloran

20c GEMAU'R GYMANWLAD YN GLASGOW Allen (tad Rhys Jones) a Ray Poulton gweler eu hanes ar dud 12)

...A CHYFARFOD CEFNOGWYR ‘IE’ O FLAEN Y SENEDD YNG NGHAERDYDD


golygyddol l Pwnc sy'n llwyddo i rannu cymdeithas bron yn ddi-ffael yw melinau gwynt, ond er da neu ddrwg, maen nhw yma o'n cwmpas a rhai ohonynt wedi sefydlu cronfeydd cymdeithasol i helpu prosiectau yn ein cymunedau. Cafodd pobl Treorci gyfle y llynedd i gynnig am arian o'r fath ac elwodd nifer ar yr ymarfer, gan gynnwys y papur hwn. Bydd £25,000 arall ar gael eleni ac mae cyfle i chi gael siâr ohono ond ichi wneud cais erbyn diwedd y mis hwn. Fodd bynnag, bach iawn yw'r swm hwn o'i gymharu â'r £1.6 miliwn a fydd yn cael ei gynnig yn flynyddol am y 25 mlynedd nesaf gan gwmni Vattelfall, perchnogion fferm wynt Pen y Cymoedd, un o'r ffermydd gwynt mwyaf yn yr ynysoedd hyn. Mae'n wir y bdd yr arian yn cael ei rannu dros ardal eang sy'n cynnwys blaenau cymoedd Afan, Cynon a'r Rhondda, ond bydd y symiau yn uwch o lawer

na'r rhai a gawsom hyd yma. Y gobaith yw defnyddio'r arian hwn i hybu economi, iechyd a diwylliant yr ardaloedd hyn a bydd cyfle i gyflwyno prosiectau uchelgeisiol i'w hystyried. Eisoes clywyd am awydd rhai i ailagor y twnel rhwng Blaen-ycwm a Blaengwynfi er mwyn cysylltu Cwm Rhondda a Chwm Afon unwaith eto gan ddarparu llwybr i gerddwyr a beicwyr; cynllun i ddatblygu canolfan twristiaid ar safle hen bwll glo Fernhill a chynlun uchelgeisiol i adnewyddu Neuadd Abergorci, Treorci sy eisoes yn gwch gwenyn o weithgaredd er gwaethaf y cyfleusterau eilradd. Mae cynlluniau o'r fath i gyd yn werth chweil, ac mewn cyfnod o gyni economaidd yn annhebygol o gael eu hystyried gan Gyngor RHCT. Mae hi'n bwysig, felly, ein bod yn manteisio ar yr arian hwn i wella ein cymunedau. Un pryder yw'r modd y penderfynir sut i ddosbarthu'r arian. Ai yn ôl ansawdd y cais neu a rennir y grantiau'n gyfartal rhwng pob ardal? Pwy wedyn fydd yn penderfynu, Vattenfall neu'r bobl leol. Bu dull Fferm Wynt Treorci o Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru benderfynu'n ddemocArgraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison rataidd gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru iawn gan i Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 2

y gloran

medi 2014

bawb yn yr ardal gael cyfle i bleidleisio. Golygodd hyn dipyn o waith i'r trefnwyr, ond anelon nhw at gael barn eang. Hyd yma, ni chafwyd manylion gan gwmni Vattenfall sut a chan bwy y penderfynir ar deilyngdod ceisiadau unigol neu beth yw'r egwyddorion i'w hystyried wrth gyflwyno cais. Mae'n bwysig bod y manylion hyn yn cael eu gwneud yn hysbys i'r cyhoedd yn fuan ac mae angen canllawiau clir ar bawb os ydym yn mynd i fanteisio'n llawn ar y symiau mawr o arian sy ar gael. Mae'n gyfle rhy dda i'w golli. Golygydd

Llythyr

Annwyl Olygydd, Syndod mawr i mi oedd darllen yn Y Gloran bod Sue MacMillan wedi ymddeol o'i swydd yn diwtor Cymraeg i Oedolion gyda Phrifysgol De Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch Sue am ei gwaith ymroddgar dros sawl blwyddyn yn hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal hon. Cofiaf yn dda cychwyn ar y daith o ddysgu iaith y nefoedd pan ymunais a dosbarth nos Sue yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn. Nid ar chwarae bach y

YN Y RHIFYN HWN

Gemau’r Gymanwlad ...1-12 Golygyddol/Llythyr...2 Pysgota yn Iwerddon...3-4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Cymdeithas GymraegTreorci/Byd Bob ..6 Llun Hynod Diddorol..7 Ysgolion...11 Gymanwlad..12

dysgwch Gymraeg heb air o'r iaith ar yr aelwyd ond o'r wers gyntaf roedd gwersi wythnosol Sue yn drefnus, yn llawn brwdfrydedd ac egni ynghyd ag ymagweddau cwbl gadarnhaol o du'r dysgwyr.

Carwn ddymuno pob hapusrwydd i Sue yn ei hymddeoliad ac, ar ran y cannoedd o ddysgwyr Cymraeg yr ardal, i ddiolch iddi o'r galon am ei chyfraniad fel tiwtor ac fel lladmerydd effeithiol dros y Gymraeg. Yn gywir, David Rogers Porth


Mwy o Iwerddon

Ar ol llwyddiant y trip cyntaf, daeth Iwerddon yn lle y byddwn yn pererindota iddo’n aml. Ar un adeg bûm yn mynd yno bron bob blwyddyn.. Afon Blackwater yn Cork oedd y man yr anelem ato yn y blynyddoedd cynnar. Wedi hynny, bu sawl trip lan i Mayo yn y gogleddorllewin. Fel arfer, fe fyddai pedwar ohonom yn gwneud y daith ar y fferi o Abergwaun. Fe fyddem yn bwcio’r pysgota o flaen llaw gan aros mewn bwthyn gan amla. Mae’n arfer mas yn Iwerddon,a’r Alban ichi gael

gwasanaeth ghillie.sef rhywun i’ch tywys ar yr afon a roi cyngor ichi ba abwyd i’w ddefnyddio er mwyn cael y cyfle gorau o fachu eog. Fe fyddai’r ghillie fel arfer yn derbyn tâl o £100 y diwrnod.(25punt yr un). Gallai hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu dal samwn. Wrth sôn am ghillies mae na ddau gymeriad arbennig-ond tra gwahanol yn dod i gof. Y cyntaf oedd Connie Corcoran . Roedd Connie wedi’i eni ar lan Afon Blackwater ac yn gyfarwydd â phob modfedd

[Islwyn Jones yn adrodd rhagor o'i brofiadau wrth bysgota.]

ohoni. Roedd yn bysgotwr hynod o ddawnus ac yn gallu’ch trwytho a’ch tywys yn gelfydd. Fe fyddech yn talu’ch can punt am ei wasanaeth, ond buan y sylweddolon nad oedd y can punt a wnelo a’r bwyd, ac yn bwysicach,y ddiod roedd ei angen arno! Fel pob Gwyddel gwerth ei halen,Guinness oedd ei foddion e a byddai gofyn i’r sawl a fanteisiai ar ei wybodaeth sicrhau bod olwynion yr ymennydd yn derbyn digon o’Lubricant’ ,trwy dywallt yr ‘olew du’ lawr ei gorn gwddw!!Ar ôl

ychydig ddyddiau sylweddolon ni bod y Guinness yn mynd â’i fryd gymaint â’r pysgota! Serch hynny, fe ddysgon ni lawer am bysgota Blacwater oddi wrth Connie. Hyd y gwn i, mae’n dal i weithio fel ghillie ar Afon Blackwater hyd heddiw.Erbyn hyn mae’n tynnu at ei saith deg. Fe fentra' i un peth fodd bynnag -rwy’n siwr bo fe mor sychedig ag erioed. Daethon ni i nabod ghillie arall. Patrick Devennie a ddeuai o’r gogledd.Roedd tua’r un oed os nad yn Iau na ni. Gwnaeth radd mewn prifysgol yn Lloegr

drosodd


Mwy o Iwerddon parhad

ar ‘Rheolaeth Pysgodfeudd(Fishery Management) Roedd yn foi hynod o wybodus ynglŷn â phob agwedd ar bysgota. Dechrau ar ei yrfa oedd e bryd hynny. Erbyn hyn mae’n rheoli un o bysgodfeydd gorau Iwerddon. Roedd Patrick yn llawer llai sychedig na Connie! ac iddo fe bydden ni’n troi am gyngor yn y diwedd-gymaint er lles ein hiechyd â’n pocedi ni yn y pen draw.

Helyntion Neils Fel y dywedais,byddai pedwar ohonom yn gwneud y daith gan amla i leddfu tipyn ar y costau. Fe fyddai'r rhai a wnâi’r daith yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar haelioni’r gwragedd ac ati. Bûm i’n ffodus bod gen i wraig oedd yn deall fy ngofynion i’r dim,a chawn ganiatâd i fynd ar bob achlysur. Daeth Neils Seaton, mab y diweddar Dr Seaton o Dreorci, gyda ni ar un daith.Nawr, Mae’n deg dweud nad oedd e ymysg y pysgotwyr mwya dawnus. Roedd yn tueddu bod ychydig yn drwsgwl. I danlinellu hyn,ga i ddweud beth ddigwyddodd ddau ddiwrnod i mewn i’w drip cyntaf. Mae glannau’r afon yn gallu bod yn llithrig a rhaid cymeryd gofal.Y n anffodus. nid Neils oedd y person mwyaf 4

Lleian afon. Bachodd eog da Yn Iwerddon mae ac ar ol tipyn o frwydr llawer o’r nyrsys yn yr llwyddodd i lanio’r ysgafn a gofalus ar ei pysgodyn. Roedd yn draed. Dyma’r olygfa. ysbytai yn lleianod. Mae hyn yn f’atgoffa stryffaglu i fyny’r Ro’n ni yng nghanol y o stori arall. Roedd un lan,yn chwys domen wlad ac un o’r rhan (Beat) o’r afon a’r eog yn ei freichiau. bechgyn wedi bachu yn llifo drwy dir un Clywodd lais addfwyn samwn. Aeth Neils â’i o’r lleiandai (nunneryn dweud wrth’Dat’s a rhwyd er mwyn ei ies) niferus sydd fine salmon you have helpu i’w lanio. Yn yno.Enw’r darn o there my son-and anffodus aeth pethau o Afon oedd yr ’Abbey caught in the Holy wachwith. Cwympodd yn Run’. Fe fyddai ters of the Abbey. God bendramwnwgl i’r lleianod yn cerdded Bless You!’ Edychodd afon, ac yn waeth fyth, glannau’r afon i fyJohn ar yr hen leian yn daeth y samwn yn fyrio bob ei gwisg we ,yn geg rhydd,ac i goroni’r pnawn.Roedd boi arall agored ac am unwaith cyfan cafodd Neils ar y trip. John Lewis o roedd na atal dweud anaf cas i gledr ei law Ferndale, cymeriad a arno! wrth iddo ei thorri ar hanner. Roedd stôr anDa o beth na chlygraig wrth geisio hygoel o jocs ‘dag e ar wodd y Chwaer rhai o achub ei hun.Dyna lle bob pwnc tan haul. jocs John,neu falle byroedd Neils druan, yn Pan fyddem yn dynesu ddai wedi’i gyfarch yn wlyb diferu a gwaed at y rhan yma o’r afon, dra gwahanol. Chware yn tywallt o’r clwyf fe fyddai jôc wahanol teg i John, chlywson yn ei law. Rhoddais y bob dydd yn ni ddim rhagor o jocs gorau i bysgota a ymwneud â lleianod. am leianod wedi gyrru Neils ugain Gyda threigl amser, hynny. ’Trwy ddirgel milltir i Mallow lle mae’r jocs wedi’u ffyrdd mae’r uchel Ior roedd yr ysbyty hanghofio. Da o beth yn dwyn ei waith i agosaf. Derbyniodd falle,gan na fyddent ben’ Neils bigiad Tetanus yn ei ben ôl a deuddeg yn addas i’w cyhoeddi Y tro nesa –Cwrdd â ‘Thywysog Cymru’ pwyth am ei drafferth. mewn papur bro! Un diwrnod,diwrnod lan yn Mayo. Rhoddwyd ei fraich hynod o boeth, roedd mewn sling a methodd John yn pysgota bysgota am weddill y mewn man digon daith. Cymerodd lletchwith ar lan yr flwyddyn iddo gael y teimlad nol yn llweyr i’w law. Serch hynny,vchware teg i’r hen Neils. fe ddaeth nôl y flwyddyn ganlynol. Ar y bore cynta, fe faglodd, a bu bron iddo gwympo’r eildro i’r Clwb Bechgyn a Merched Treorci yn derbyn rhodd o £500 i afon.Yn ffodus. y tro hwn ddefnyddio i brynu crysau i'r tîm dan 9 oed. Penderfynodd chafodd ddim grŵp Plaid Cymru ar Gyngor RhCT wrthod derbyn codiad niwed! cyflog o 5% a rhoi'r arian mewn cronfa at achosion da lleol a Bendith

Clwb Bechgyn a Merched Treorci oedd yr achos cyntaf i dderbyn yr arian.


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Ar y dydd Gwener olaf ym mis Awst cynhaliwyd achlysur i ddathlu y cysylltiad rhwng y gymuned leol a’r goedwig sydd o’n cwmpas ni yn Nhreherbert. Enw’r dathliad oedd Croeso i’n Coedwig. Daeth nifer fawr o bobl, er gwaetha’r tywydd, ynghyd yng nghanolfan project Penyrenglyn. Roedd gwahanol weithgarethau yn cael eu cynnal yn cynnwys storiwr, paentio wybebau a choginio a chadw’n heini yn yr awyr agored . Mae mudiad Plant y Cymoedd wedi mabwsiadu rhan o’r goedwig ac ers gwneud hynny nid oes un tan wedi ei gynnau yn fwriadol yn y goedwig. Hefyd mae cynlluniau ar y gweill i ddatplygu coedwig Cwm Saebren i fod yn atuniad twristiaeth Mae mudiad Plant y Cymoedd wedi derbyn grant o £100,000 gan gwmni Tesco i adnewyddu eu canolfan yn Stryd Corbet ym Menyrenglyn. Roedd nifer o fudiadau eraill wedi ceisio am y grant ond Penyrenglyn oedd yn llwyddianus. Cafodd Tesco ei ddylanwadu gan y fordd mae’r mudiad yn gwneud gwahaniaeth i

fywydau pobl ifanc yr ardal. Agorwyd y ganolfan ugain mlynedd yn ôl wrth addasu dau dy cyngor. Nawr mae’r ganolfan ar ei newydd wedd yn barod am yr ugain mlynedd nesaf.

Ar y 30 o Awst cafodd capel Blaenycwm “Arddwest” er mwyn agor yr ardd yng nghefn y capel i’r cyhoedd. Mae’r ardd wedi ei thrawsnewyd o ddarn o dir blêr i ardd tdawel lle mae trigolion yr ardal gallu ymlacio. Mae aelodau’r capel dan arweiniad Maria Ruth Marchl wedi bod yn gweithio ar yr ardd am ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod y dydd roedd BBQ, sioe bypedau castell sboncio, paentio wynebau a gemau gwahanol. O 6 - 8 o’r gloch roedd buffet a gwasanaeth i blant 7 - 11 gyda band roc. O 8 tan yn hwyr roedd gwasanaeth i bobl ifanc. Yn ystod y dydd a'r nos daeth dros gant o bobl i’r “parti” a phawb wedi cael amser da. Yn ddilyn cau Canolfan Addysg Cymunedol yn stryd Dumfries mae’r clwb ieunctyd wedi ei adleoli yn y Clwb Merched a Bechgyn yn Heol yr Orsaf. Mae’r newyddion da hwn wedi bod yn bosibl diolch i

staff ymroddedig y gwasanaeth ieuenctid a gytunodd i barhau â’u gwaith yn wirfoddol. Roedd cefnogaeth y Clwb Bechgyn a Merched hefyd yn hanfodal i lwyddiant y cynllun. Mae’r clwb yn cwrdd ar nos Fercher ac mae presonoldeb y bobl ifanc wedi bod yn wych.

TREORCI

Bu farw Cliff Morgan, Heol Ynyswen, 13 Gorffennaf ac yntau'n 87 oed. Yn frodor o Don Pentre, bu Cliff am flynyddoedd yn llyfrgellydd yn Llyfrgell Treherbert ac yn adnabyddus i lawer yn yr ardal. Yn ei ieuenctid roedd yn chwaraewr snwcer talentog a hefyd bu'n aelod o dîm bowlio Cymru. Chwaraeai dros Barc y Gelli. Yn ŵr cymdeithasol, gwelir ei eisiau yn yr ardal. Cydymdeimlwn â'i weddw, Mair a'i blant, Wynford ac Elisabeth yn eu hiraeth. Ddydd Sadwrn, 19 Gorffennaf gorymdeithiodd seindorf Catrawd Frenhinol Cymru trwy Dreorci cyn cynnal cynerdd ar y cyd â Chôr Meibion Pendyrus yn y Parc a'r

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Dâr gyda'r nos. Trefnwyd yr achlysur gan Fand Parc Dâr yn rhan o raglen cofio dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Adran Ffisiotherapi Ysbyty George Thomas wedi ei chau dros dro oherwydd prinder staff. Am y tro, bydd rhaid i gleifion deithio i Ysbyty Cwm Rhondda ond dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf eu bod yn gwneud eu gorau glas i benodi staff ychwanegol. Y pregethwr yng nghyrddau undebol eglwysi Cymraeg a gynhaliwyd ym Methlehem, ddydd Sul, 14 Medi oedd y Parch W.I.Cynwil Williams, Caerdydd. Mae perchnogion

PARHAD ar dudalen 8

5


CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI

Ydy oes y 'cymeriadau' lleol wedi hen fynd heibio? Dyna'r cwestiwn mae Bob Eynon yn ei godi'r mis hwn. Mae'n amhosibl mynd trwy fywyd heb gwrdd â 'chymeriadau'; maen nhw'n bodoli yn y dinasoedd, y cefn gwlad a hyd yn oed mewn mynachdai. Mae rhai'n dweud nad oes cymeriadau ymysg ein pobl ifanc heddiw, ond dydw i ddim yn cytuno. Mae cymeriadau'n datblygu'n araf fel planhigion, cyn blodeuo ryw ddiwrnod yn y dyfodol. Rwy'n cofio cymeriad mawr, yr athro Ernie Oliver, tad Anne Baik. Pan oeddwn i yn fy arddegau, roeddwn i'n mynychu ei ddosbarth gwerthfawrogi miwsig yng nghlwb ieuenctid Treherbert. Roedd Ernie'n chwarae recordiau clasurol i ni'r plant. A dweud y gwir, roedden ni yno oherwydd bod dawns ar ddiwedd y noson; doedd miwsig clasurol ddim o ddiddordeb i ni o gwbl, ond bydden ni'n gwrando mewn distawrwydd achos roedd pleser ei fiwsig mor amlwg ar wyneb Ernie ac roedd pob plentyn yn ei hffi e'n fawr. 6

Mae rhaglen Cymdeithas Gymraeg Treorci wedi ei threfnu ar gyfer tymor 2014 - 15. Llwyddwyd i ddenu chwech o siaradwyr blaenllaw. Agorir y tymor, nos Iau, 25 Medi pan fydd Betsan Powys, pennaeth newydd Radio Cymru yn wraig wadd. Fe'i dilynir ar 23 Hydref gan Efa Gruffudd-Jones, prif weithredydd Urdd Gobaith Cymru a chloir hanner cyntaf y rhaglen gan Lleucu Siencyn, prif weithredydd Llenyddiaeth Cymru ac un o glofnwyr cyson y Western Mail. Agorir ail ran y tymor gan Heini Gruffudd,

enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012 am ei lyfr ysgytwol yn trafod helyntion ei deulu ar ochr ei fam yn yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd. Einir Siôn, sy'n arwain Menter Rhondda Cynon Taf fydd yn ei dilyn ar 20 Chwefror i son am gynlluniau i hyrwyddo'r iaith yn yr ardal a daw'r tymor i ben yng nghwmni y sylwebydd teledu, Huw llywelyn Davies, un o leisiau mwyaf cyfarwydd S4C. Felly, mae gwledd yn ein haros. Cynhelir y cyfarfodydd y ôl yr arfer yn festri Hermon, Treorci ac mae tocynnau aelodaeth am ar gael am £5 gan y gwerthwyr arferol, neu trwy ffonio 435563 neu 773151.

BYD BOB

Rai blynyddoedd yn hwyrach, pan oeddwn i'n hyfforddi i fod yn athro fy hunan, fe welais i Ernie'n rhoi gwers daearyddiaeth i blant yn Ysgol Uwchradd Fodern Treorci. Roedd testun y wers uwch pennau'r plant ac uwch fy mhen i, er 'mod i newydd ennill gradd ym Mhrifysgol Llundain, ond roedd geiriau Ernie yn ein swyno ni. Doeddwn i ddim mewn dosbarth ysgol ond mewn theatr yn gwrando mewn distawrwydd ar actor mawr yn perfformio ar y llwyfan! Ar ben arall y raddfa, rwy'n cofio bachgen hyfryd o Flaenrhondda oedd yn gweithio ir Cyngor gyda fi yn ystod gwyliau'r haf pan oeddwn i nôl o'r brifysgol. Alan oedd ei enw, os ydw i'n cofio'n iawn. Roedd e'n gwbl wa-

haanol i fi; doedd e ddim yn poeni am ddim! Unwaith, fe aeth e i Lerpwl yn ei gar. Wythnosau wedyn, ymddangosodd darn bach yn y Daily Telegraph. Roedd Alan wedi bod o flaen y llys yn y ddinas 'na am yrru heb drwydded. "Oes esgus 'da chi?" gofynnodd yr ynad. "Rwyn dod o bentre bach yng Nghwm Rhondda." atebodd Alan yn obeithiol "Felly, does dim rhaid i chi gael trwydded yrru yng Nghwm Rhondda?" meddai'r ynad. "Deg punt, os gwelwch yn dda!" Dro arall ar y Cyngor, fe weithiais i gyda

Ernie gyda’i wyres Anna

chymeriad, dyn canol oed oedd yn astudio'r ceffylau yn y papur newydd twy amser cinio bob dydd. "Ydych chi'n lwcus gyda'r ceffylau?" gofynnais iddo un prynhawn. "Lwcus?" meddai e'n ffroenuchel. "a, nid lwcus! Rwy'n ennill bob tro achos rwy'n astudio'r ceffylau fel rwyt ti'n astudio Sbaeneg yn y brifysgol." Roedd e wedi fy rhoi i yn fy lle. "Ydych chi'n betio bob dydd?" gofynnais i ond er mwyn dweud rhywbeth. "Nac ydw, dim ond dros y penwythnos," atebodd. "Allwn i ddim fforddio betio bob dydd!"


LLUN HYNOD DIDDOROL

Diolch i Nerys Bowen, Cwmparc am y llun diddorol hwn o bwyllgor trefnu Undeb yr Annibynwyr yn Noddfa, Treorci yn 1929. Ymhlith y rhai yn y llun mae hen-dad-cu Nerys, D.R.Rees, Stryd Tynybedw, oedd yn brifathro lleol a'i frawd yng nghyfraith, T.D.Griffiths, perchen siop esgidiau lle y saif

Cashino yn Stryd Fawr Treorci heddiw. hefyd yn y llun mae W.P.Thomas, ysgrifennydd Noddfa a Chwmni'r Ocean a Jonah Lewis, sylfeiydd y cwmniau coffinau enwog yn Stryd Dyfodwg. GĹľr adnabyddus arall yn y cyfnod oedd John Samuel, pennaeth y Trefforest School of Mines.


newydd gan Dafarn Tom, sef hen glwb y Ceidwadwyr. Deallwn taw enw newydd y tafarn fydd Y Ddraig Wen a dymunwn bob llwyddiant i'r fenter newydd. Penderfynodd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor RhCT wrthod derbyn codiad cyflog o 5% a rhoi'r arian mew cronfa at achosion da lleol. Y rhai cyntaf i elwa ar hyn yw Clwb Bechgyn a Merched Treorci a dderbyniodd rodd o £500 a ddefnyddir i brynu crysau i'r tîm dan 9 oed. Llongyfarchiadau calonnog i Colin a Mariel Evans, Tan y Fron sydd newydd ddathlu eu Priodas Aur. Pob dymuniad da i'r ddau i'r dyfodol. Wrth i gôr Sefydliad y Merched [WI] Treorci ailymgynull ar ôl y gwyliau mae rhaglen

8

brysur iawn yn eu hwynebu. Y mis hwn byddant yn perfformio yn Gilfach Goch ac eisoes y mis nesaf mae noson wedi ei threfnu i godi arian at Gymorth Cristnogol yn Hope, Y Gelli. Y siaradwr yng nghyfarfod mis medi o'r WI oedd Dean Powell, Llantrisant a siaradodd am fywyd a gyrfa'r actor o Donypandy, Glyn Houston. Erbyn hyn, mae Houston dros 90 oed ond yn dal i actio a newydd sgrifennu hunangofiant sy'n trafod ei fywyd a'i waith. Cafodd aelodau Sefydliad y Merched ddiwrnod diddorol yn ddiweddar wrth ymweld â Chastell Sudeley yn Swydd Caerloyw [Gloucester]. Trefnwyd y daith gan Anna Brown ar ôl i'r gangen dderbyn

grant gan y Loteri Cafodd pawb gyfle i grwydro trwy'r gerddi prydferth oedd yn eu gogoniant yr adeg hon o'r flwyddyn. Diolch i Anna am ei holl waith yn trefnu. Mae'n dda clywed bod Mr Emrys Vaughan, Stryd Regent allan o'r ysbyty ac yn gwella'n dda. Pob dymuniad da iddo i'r dyfodol. Un arall o'r un stryd sy hefyd yn gwella ar ôl bod yn gaeth i'w chartref am sbel yw Mrs Gweneira Lawthom. Mae ei mab, Stuart hefyd wedi dod adre o'r ysbyty ar ôl torri ei goes. Dymunwn wellhad buan i'r ddau. Nos Lun, 22 Medi bydd Pwyllgor Cancer UK Treorci yn cynnal cwis dan ofal Mr Noel Henry, Ynyswen. Mae'r nosweithiau hyn yn boblogaidd iawn ac yn codi arian

sylweddol at yr achos da hwn.

CWMPARC

Llongyfarchiadau i Louise a Mike Chubb, Ffordd Parc, ar enedigaeth eu merch Raya, ar 28 Gorffenaf. Chwaer fach i Tirion a LexieRose.

Mae'r Pencelli wedi agor unwaith eto. Cawson nhw ddwy ŵyl gwrw lwyddianus dros yr haf, un ar ddiwedd mis Gorffenaf, ac un dros ŵy banc mis Awst. Mae nhw'n cael bandiau byw i berfformio bob wythnos, ac maen nhw newydd ddechrau gwneud prydau bwyd hefyd. Llongyfarchiadau i ddis-


gyblion Anna Roberts, Stryd Treharne, sy wedi bod yn llwyddianus yn eu arholiadau piano. Da iawn, chi, Joseph Phillips, Lydia Devinett a David Roberts. Mae Anna wedi bod yn dysgu piano ers 10 mlynedd. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â hi ar 773427 Mae gym Neuadd y Parc ar agor dydd Llun tan dydd Iau, 9:00 - 21:00, dydd Gwener, 9:00 16:00. Mae'n costio £2 yr awr, neu £15 y mis.

Mae Co-op bwyd yn Neuadd y Parc bob bore dydd Mercher, 9:30 10:30. Archebwch a thalwch ymlaen llaw, a chasglu eich ffrwythau, llysiau, salad, neu "stir

fry" yr un amser yr wythnos wedyn. Dim ond £3.

Mae caffi Neuadd y Parc ar agor unwaith eto, yn darparu diodydd, prydau byr, brechdanau a roliau. Galwch i mewn!

Y PENTRE

Pob dymuniad da i Freda Davies oddi wrth bawb yn Nhŷ'r Pentre wrth iddi ddathlu ei phenblwydd yn 88 oed ym mis Awst. Y mis hwnnw hefyd, roedd May, Olwen, Viv ac Esme o Lys Siloh hefyd yn dathlu. Llongyfarchiadau iddynt oll ynghyd â June

Nathaniel sy'n cyrraedd 82 ym mis Medi.!

Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mr John Provis, Stryd Volunteer. Roedd John yn un o drigolion hynaf y stryd a gwellr ei eisiau gan bawb, yn enwedig ei ffrindiau yn nhafarn Y Griffin. Roedd pawb yn Stryd Albert yn drist o dderbyn y newyddion am farwolaeth Lilly Eileen Davies y gwelir ei heisiau'n fawr. Cofiwn am deuluoedd a ffrindiau'r rhain yn eu galar. Mae'n flin gennym hefyd gyhoeddi marwolaeth Muriel Fear, un o gyndrigolion Queen St.

Cofiwn am ei ffrindiau a'i theulu yn eu hiraeth. Cofiwch fod cyfarfod PACT yn cael ei gynnal nos Fercher cyntaf bob mis yn Llys Nazareth rhwng 6-7 pm. Mae eich cynghorwyr lleol Maureen Weaver a Shelley Rees-Owen yno bob amser i ymdrin â'ch problemau.

Da yw gweld bod salon trin gwallt newydd wedi agor yn Stryd Llywelyn. Pob llwyddiant i KLJ HAIR BOUTIQUE. Mae angen adfywhau ein stryd fawr. Agorwyd Canolfan Gymunedol Ton a'r Gelli, sef hen Glwb Bechgyn a Merched Ton yn Dinam Parc Avenue ym mis

9


Gorffennaf. Y gobaith yw darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithgareddau i drigolion yr ardal. Diolch yn fawr i bawb a weithiodd mor ddyfal i wireddu'r fenter bwysig hon.Cewch fanylion am y ganolfan ar www.tonandgellicommunitycentre.co.uk

Cynhaliwyd sesiynau o Chwarae Plant ar Barc y Pentre trwy gydol yr haf a bydd yn parhau yn yr hydref. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Hannah 01443 493321 neu trwy e-bostio hannah@chwaraeplant.org.u k

Estynnir croeso ichi ymuno yng ngweithgareddau Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Citadel: Dydd Sul ceir gwasanaethau am 10.15 am & 4,30pm ac Ysgol Sul am11.30am; Dydd Llun Mam a Phlentyn 9.15am, J Tîm am 5.50pm, Grŵp Ieuenctid am 7.0pm; Dydd Mawrth Astudiaeth Feiblaidd 6.0pm, Cwmni Canu 6.30pm a Chôr 7.15; Dydd Iau Bore Coffi 1030 am. Am fanylion pellach, ffoniwch 01443 436833.

Yn ddiweddar, cyrhaeddodd dwy o foneddigesau hyna'r ardal garreg filltir bwysig iawn yn eu bywydau. Roedd dathlu mawr yn Llys Nasareth ddechrau'r mis hwn wrth i Jane Evans ddathlu ei pen blwydd yn 100 oed ac ar 18 Medi roedd Millie Oliver, gynt o Alma Place ond nawr o Dŷ 10

Pentwyn, hefyd yn cyrraedd yr 100. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'r ddwy i'r dyfodol.

Ar 18 Awst yn y Citadel, llwyddwyd i godi £140 at gartref plant El Radil. Diolch yn arbennig i Eleri Sass a Chloe Fletcher am wneud y trefniadau. Mae croeso i bawb ymuno âr aelodau mewn bore coffi arall a gynhelir fore dydd Iau, 25 Medi. Bydd yr elw y tro hwn yn mynd at Apêl Nyrsys MacMillan.

TON PENTRE A GELLI

Llongyfarchiadau calonnog i Mr a Mrs Gwyn Evans, St David ST a ddathlodd eu Priodas Ddiemwnt yn ddiweddar. Cafwyd dathliad teuluol i nodi'r achlysur. Dymunwn iddynt bob hapusrwydd i'r dyfodol. Cafwyd perfformiad anhygoel or sioe gerdd 'Ghost' gan gwmni Act 1 yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar gyda Mr Rhys Williams a Mr Peter Radmore yn cyfarwyddo. Act 1 yw'r cwmni amatur cyntaf ym Mhrydain a'r trydydd yn y byd i berfformio'r sioe hon. Seiliwyd y sioe ar y ffilm 'Ghost' a sgrifennwyd yn 1990 gan Patrick Swayze ac roedd y cflwyniad yn glod i'r fath gwmni o bobl ifainc. Dymunwn bob lwc iddynt yn eu menter nesaf, sef cyflwyniad o 'Starlight Express' a fydd

yn cael ei berfformio o 9-19 Medi am 7.15pm. Mae tocynnau ar gael am £10 [£8 i bensiynwyr]. Bu nifer o deuluoedd yr ardal mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf Cofiwn yn arbennig am deuluoedd Mr Ellis Payne, Llanfair Hill, Mr Alan Davies, Rock Drive, Mrs Evelyn Vickery, The Orchard, Mrs Virginia [Jean] Lock, Heol Gelli, Mrs Mary Jones, Stryd Victoria a Mrs Margaret Davies, Heol Stanley. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'u holl deulu a ffrindiau yn eu colled.

Yn ddiweddar, dathlwyd 40ydd pen-blwydd Cymdeithas y Rhondda o Glybiau Bechgyn a Merched yng Nghanolfan Chwaraeon y Rhondda. Nôl yn 1974 cafodd Wayne Thomas, Treorci, y syniad o godi arian tuag at y clybiau hyn a hefyd i wobrwyo'r ieuenctid oedd wedi profi llwyddiant yn eu camp arbennig. Enillydd cyntaf y brif wobr yn 1974 oedd Maldwyn Evans, y bowliwr o'r Gelli, ac eleni eto daeth nifer o'r cyn-enillwyr ynghyd i wrando ar Mr Warren Gatland, hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn siarad ac yn cyflwyno'r gwobrau. Steven Jenkins, capten tîm tennis bwrdd Cymru, dderbyniodd y brif wobr. Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Jimmy Reynolds [gweinyddwr pêl rwyd], Nyree Lewis MBE [ am ei chyfraniad

i nofio, Aled Summerhill ac Emily Williams [rygbi dan 18] Tristwch mawr i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth un o drigolion mwyaf adnabyddus Ton Pentre, Mrs Mary Jones, Stryd Vicroria a fu farw 11 Awst yn 83 oed. Ganed Mary yn Nhreorci, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn y Ton. Roedd Mary yn aelod brwd o gôr Faith, Hope and harmony ac o Gymdeithas Cameo. Cydymdeimlwn yn gywir iawn a'i theulu yn eu hiraeth. Pob dymuniad da i Mrs Margaret Thomas sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Dewi Sant yn dilyn cwymp yn ei fflat yn Nhŷ Ddewi. Bu Margaret yn athrawes am nifer o flynyddoedd yn y Porth cyn ymddeol a dod i Dŷ Ddewi lle roedd yn boblogaidd iawn ymhlith ei chyd-breswylwyr. Hi oedd yn gyfrifol am drefnu dosbarth Cymraeg a gweithiodd yn galed i godi arian at elusen Tŷ Hafan. Dymunwn iddi adferiad buan. Bydd Cylch Gweinidogaethu'r Rhondda Uchaf yn cynnal swper diolchgarwch, nos Fawrth 23 medi am 7.15pm yng Nghlwb Pêl Droed Ton Pentre - tocynnau £6. Cynhelir cwrdd diolchgarwch yn Eglwys Ioan Sant am 6.30pm yn syth cyn y swper.


Cardiau post a dathlu 150 o flynyddoedd o gyswllt gyda Chubut

den post ag Eluned, yr athrawes yn byw yn Ariannin os gwelwch yn dda. Mae cylch bach o ysgolion yn y cwm sydd yn derbyn Y Gloran a chyfrannu ato felly ro'n i'n meddwl rhoi pwt i awgrymu'r syniad o gyfnewid cardiau. Gobeithio eich bod chi'n gallu ein helpu ni. Rhaglen ddiddorol gyda llaw!!

27/09/2014 Ymateb y raglen Diolch yn fawr iawn am fod mor barod i gymryd rhan! Dyma'r cyfeiri-

YSGOLION

adau:

Ysgol Gymraeg yr Andes Esquel, Centros Galeses de la Cordillera, Rivadavia 1065, Esquel 9200, Chubut, Patagonia, Argentina. A'r llall:

Ysgol Gymraeg yr Andes Trevelin, Casa de la Capilla Bethel, Trevelin 9203, Chubut,

YSGOLION

Ar ôl gwrando ar ‘Bore Cothi’ un bore cysylltodd Y Gloran â’r raglen er mwyn cael mwy o fanylion am y syniad o gyfnewid cardiau post rhwng plant Cymru a phlant Ariannin. Eluned, athrawes o Gymru sydd yn byw a gweithio yn Chubut sydd wedi cael y syniad a dyma’r ebyst i egluro’r cynllun... 27/09/2014 Helo Ro'n i'n gwrando ar y raglen bore ddoe a hoffwn gael mwy o fanylion am sut i gysylltu trwy gar-

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

Patagonia, Argentina. Cofion cynnes iawn a diolch unwaith eto, Eluned

(Ysgol y Cymer a’r Gymanwlad yn ein rhifyn nesa.)

golygfa ger Trevelin yn Chubut

11


GEMAU'R GYMANWLAD - CAMP FAWR RHYS!

[Mewn rhifynnau blaenorol o'r Gloran, bu Ray Poulton, ei dad-cu yn sôn am hanes Rhys Jones yn cystadlu yn y Gêmau Paralympaidd. Y tro hwn, Gêmau'r Gymanwlad sy dan sylw.] Hedfanon ni fore Sul o Faes Awyr Caerdydd i Gaeredin gan fod cost llety yn Glasgow yn rhy ddrud o lawer. Tipyn bach dros awr gyda City Jet oedd hyd y daith a chyn bo hir roedden ni mewn tacsi'n gyrru heibio i gae rygbi enwog Murryfield. Ar ôl dadbacio, cymryd tacsi i Princess St a gweld y castell ysblennydd yn sefyll ar y bryn uwchben. Roedd torf fyrlymog yn tynnu lluniau o'r cofgolofnau a'r hen adeiladau canrifoedd oed gyda'u pensaerniaeth wych. Fore Llun, a dyma ni'n dal y trên i Glasgow a chwap cael ein hunain mewn tacsi ar ein ffordd i Barc Hamden. Cyrraedd erbyn 9 o'r gloch a gwneud ein ffordd i'n seddau ger llinell derfyn y ras lle'r eisteddai rhieni Rhys. Gan ei fod wedi rhedeg yn wych yng Ngemau Coffa'r Chwaraeon Olympaidd y tu

fa's i Balas Buckingham wythnos ynghynt roedden ni i gyd yn edrych ymlaen at y ras. Y Ras Fawr Cerddodd yr amser yn gyflym wrth inni aros am ras T37, sef y 100m i athletwyr yn dioddef o barlys yr ymennydd. Pan gyhoeddwyd enw Rhys, cododd yr holl dorf i'w gymeradwyo a phan gyfarchodd e'r dorf trwy godi ei freichiau a gwenu o glust i glust, teimlem yn hynod o falch ohono. Hon oedd y rownd gyn-derfynol. A ninnau'n sgrechian fel gwallgofiaid i'w gefnogi, fe wibiodd fel y gwynt a dod yn ail gan recordio'i amser gorau am y tymor, 12.2 eiliad. Roedden ni uwchben ein digon o sylweddoli ei fod yn y rownd derfynol y noson honno a chael gwybod, yn well byth, fod tocynnau ar gael ar ein cyfer! Wrth inni aros yn y gwt i gael mynediad, cawson ni ein synnu i weld cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan a'i wraig, Julie yn dod tuag atom. Roedden nhw wedi gweld llun Rhys

ar gefn ein crysau T a gan fod ganddynt garafan drws nesaf ond dau i ni ym Mwnt, Ceredigion, rydyn ni'n hen gyfarwydd â nhw. Mae'n braf gweld Rhodri bob amser gan ei fod wastad yn siarad Cymraeg â fi. Wrth aros am y ras fawr, cawson ni gyfle i weld Carys Parry, y ferch o Tylorstown yn taflu'r morthwyl, ond yn anffodus, methodd â chyrraedd y rownd derfynol. Ond roedd y gwibwyr yn awr yn barod. Ar daniad y gwn, rhedodd ein hŵyr fel y gwynt. Roedd yn erbyn cyn-ddeiliad record y byd Faniei van De merwe a'i gyd-wladwr o Dde Affrica, Charl Du Toit. Cael a chael oedd hi - dim ond llathen oedd rhwng y tri - ac er mawr lawenydd i bawb ohonom, fe lwyddodd Rhys i gipio'r fedal efydd trwy ddod yn drydydd. Fel y gallwch ddychmygu, roedd ein cwpan yn llawn - Kay, ei fam-gu'n llefain y glaw o lawenydd a negesau ffôn yn ein cyrraedd o bob cyfeiriad. Cawsom wefr arbennig yn ddiweddarach

wrth weld Rhys yn derbyn ei faedal ar y podiwm a'r Ddraig Goch yn codi ochr yn ochr â baner De'r Affrig. Balchder Teimlem yn falch iawn o Rhys wrth ei glywed yn ateb cwestiynau gwŷr y wasg, yn enwedig y rhai o Radio Wales, ac yn wir, ces innau gyfle i ddweud gair amdano ar Radio Cymru. Ychydig o amser oedd ar ôl, ond manteision ni arno i weld mwy o Gaeredin ar y bws agored ar gyfer twristiaid a mentron ni draw i Stirling yn ogystal i weld cofgolofn William Wallace, 'Braveheart' a'r castell mawreddog ar y bryn uwchlaw'r dre. Ar ôl cyrraedd adre, roedd un trêt arall yn ein haros pan alwodd Rhys heibio i ddangos ei fedal inni. Am fraint i gyfranogi o un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous yn ein bywydau hyd yma ac edrychwn ymlaen yn eiddgar nawr at Gêmau Olympaidd Rio, 2016. Rydyn ni wedi dechrau cynilo'n barod!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.