y gloran
20c
YNG NGHAMRE FY HEN DADCU Eleni aeth Nerys Bowen, Cwmparc ar daith i'r gogledd gan ymweld â'r â'r un lleoedd ag y gwnaeth ei hen-dadcu yn 1915. Yma, mae'n adrodd yr hanes.
Rydw i'n siwr bod pawb wedi gweld Michael Portillo ar y teledu, yn cael anturiaeth dros Brydain ac Ewrop ar y trên â hen lyfr 'Bradshaw's Guide' yn ei law. Mae Julia Bradbury wedi dilyn yng nghamre'r awdur Alfred Wainwright, wrth iddi hi gerdded trwy Ardal y Llynnoedd. Yr haf yma, es i i Ogledd Cymru, ac i lawr arfordir y gorllewin yn defnyddio hen lyfr a berthynai i fy hen Dad-cu, David Rhys Rees. Cyhoeddwyd y gyfrol "North Wales, Southern Section" gan Ward Lock & Co dros gan mlynedd yn ôl.
Cafodd David Rhys Rees ei eni ym 1881 yn Nhreorci, yn fab i Edward Rees, dyn llaeth o Stryd Herbert. Yn anarferol y pryd hynny, aeth David ddim i'r pwll glo i weithio. Aeth e i'r brifysgol ym Mangor, a daeth e'n athro, ac yn pen draw, yn brifathro yn Ysgol Cwmparc. Aeth e â'i deulu ar wyliau i'r gogledd ym 1915, pan oedd fy nhad-cu yn saith oed. Penderfynais i ymweld â'r gogledd, gyda'i lyfr yn fy llaw, i gymharu'r llefydd 100 mlynedd ymlaen. Fy lle cyntaf oedd Llanberis, y pentref ar waelod Yr Wyddfa. Mae fy llyfr yn disgrifio Bwlch Llanberis, y ffordd i gyrraedd y pentref. "It may, without exaggeration, be described as the finest carriage mountain road in Wales." Mae'n disgrifio'r bwlch cul, y creigiau, ac afon Seiont, sy'n rhuthro i lawr i Lyn Peris. Hefyd, mae'r Parhad ar dud 3
golygyddol l AILGYLCHU NEWYDDION DA
Daeth newyddion da i'r ardal yn ddiweddar wrth i'r Cyngor gyhoeddi y bydd, o'r diwedd, yn cyflawni ei addewid i agor canolfan ailgylchu newydd ym Mhenyrenglyn, Treherbert i wasanaethu rhan uchaf y Rhondda Fawr. Ym mis Gorffennaf 2009 cyhoeddodd Cyngor Rh.C.T. ei fwriad i gau'r ganolfan yn Heol y Fynwent, Treorci ond addawodd na fyddai hynny'n digwydd cyn bod un newydd yn agor yn ei lle. Erbyn mis Rhagfyr,
2
fodd bynnag, torrodd ei addewid gan ddweud nad oedd arian ar gael i ailagor ar y safle yn Nhreherbert. Yn y cyfamser, bu rhaid i drigolion yr ardal fynd â'u gwastraff i Nant Gwyddon, Y Gelli. Ar adegau prysur, doedd y ganolfan hon ddim yn ddigon mawr i dderbyn holl wastraff ardal a ymestynai o Flaenrhondda i'r Ystrad ac roedd rhai pobol a drigai'n bell o'r safle yn amharod i'w ddefnyddio. Fodd bynag, roedd y Cyngor wedi clustnodi safle yn Nhreherbert, ac
Cynllun gan High Street Media
y gloran
medi
YN Y RHIFYN HWN Yng Nghamre...1-3-4 Golygyddol...2 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Tâp/Byd Bob ..6-7 ...10 Ysgolion...11-12
yn 2013 pasiwyd cynlluniau i'w ddatblygu gan y Pwyllgor Cynllunio. Wrth wneud hynny, un o'r amodau a fynnid oedd bod rhwystrau yn cael eu gosod ar y ffordd sy'n arwain at y safle er mwyn atal sbid traffig. Ond ni chyhoeddwyd bod y cynllun i fynd yn ei flaen tan fis Awst eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod
targedau y disgwylir i bob awdurdod lleol eu cyrraedd gan ddweud bod rhaid i bob un ailgylchu 58% o'u gwastraff erbyn 2016. Ar hyn o bryd mae Rhondda Cynon Taf ymhlith y gwaethaf am fod y ganran a ailgylchwyd y llynedd o dan 50%. Golyga hyn y bydd y Cyngor yn wynebu dirwyon trwm os bydd yn dal i anfon gwastraff i domennydd sbwriel ar yr un raddfa ag y gwneir ar hyn o bryd. Rhaid, felly, groesawu'r cyhoeddiad hwn ar ôl aros mor hir, ond mawr obeithiwn na fydd agor safle Penyrenglyn yn golygu cau un Nantgwyddon. Mae angen y ddwy, yn gyntaf i hyrwyddo a hwyluso ailgylchu ar draws y boblogaeth ond yn ail er mwyn i RCT gyrraedd y nod o ailgylchu 58% o'i gwastraff erbyn y flwyddyn nesaf.
Yng Nghamre...parhad
adnabyddus. Yr un enwocaf yw'r bardd R. S. Thomas, a oedd yn ficer San Hywyn (eglwys y pentref) rhwng 1967 a 1978. Dysgodd e'r Gymraeg pan oedd e'n 30 oed. Rhy hwyr, dwedodd e, i ysgrifennu bardoniaeth yn yr iaith. Wrth gwrs, does dim sôn am R. S. Thomas yn fy llyfr i, achos cyhoeddwyd y llyfr o leiaf 5 mlynedd cyn ei enedigaeth! Dyn oedd ddim mor enwog â R. S. Thomas, ond yr un mor lliwgar oedd Richard Robert Jones, "Dic Aberdaron". Cafodd e ei eni yn Aberdaron yn 1788, Dysgodd e 13 neu 14 iaith, hynafol a modern, ond wnaeth e ddim byd defnyddiol â nhw. Buodd e'n fyw mewn tlodi, yn crwydo strydoedd Lerpwl gyda'i gath.
llyfr yn sôn am y "Cromlech Stone. Resting upon other fragments, it leaves a cavity beneath, which an old woman named Hetty was wont to occupy." Gan mlynedd yn ôl, roedd Llanberis yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr a beicwyr, ac o hyd, mae'r ardal yn eu denu. Yn ogystal â physgota, seiclo a theithiau cwch, mae nawr amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous, yn cynnwys caiaco, dringo, abseilio a 'Zorbing', lle mae pobl yn mynd i mewn i bêl enfawr, a rhedeg ar wyneb y llyn!
Mae fy llyfr yn awgrymu'r Gwely a Brecwast "Idan House - Temperance Hotel. The third house on the left as walking from Carnarvon by road." Ac ydy, y trydydd ty yw e o hyd. Mae teulu'r perchennog, Mrs Roberts, wedi rhedeg y busnes am 50 mlynedd. Mae hi'n cofio straeon ei modryb, bod pobl yn arfer eistedd yn sedd y ffenestr, cael te, a siarad am fusnes y bobl oedd yn pasio! Mae'r hen hysbyseb yn dweud "Families, tourists and cyclists visiting Llanberis will find the above place replete with all that can be desired and will receive the strictest attention." Y pryd hynny, roedd ystafell yn costio 1/6 i 2/, tipyn llai nag yn 2015, dwi'n siwr!
Pen Llŷn Ar ôl cael amser gwych yn Llanberis, teithiais i Ben Llŷn, ardal brydferth, sydd hefyd wedi bod ar ein sgrinau yn ddiweddar, fel rhan o dymor 'Real North Wales' y BBC. Ar ôl gyrru am filltir, cyrrhaeddais i Aberdaron. Mae'n teimlo fel ynys, achos mae'r gorynys yn estyn tua 30 milltir mâ's i Fôr Iwerddon. Mae'r ffyrdd yn gul, ac mae'n teimlo'n anghysbell. Mae fy llyfr yn dweud am Aberdaron, "It is a small and not
very atrractive village, situated on the seashore, but protected by gradually rising cliffs."
Dydw i ddim yn cytuno wrth gwrs! Mae'r pentref yn bert iawn, ac mae'n teimlo fel cymuned clos iawn, lle mae pawb yn siarad Cymraeg. Ar yr un pryd, mae pob lle yn croesawu ymwelwyr, ac mae'n amlwg bod llawer o ymwelwyr yn hoffi'r lle yn fawr iawn. Mae Aberdaron yn nodedig am ddau berson
Ger Aberdaron, mae'r cwch sy'n gadael Porth Meudwy i Ynys Enlli, lle pwysig yn hanes crefyddol Cymru. Mae Colin Evans yn cario teithwyr yn ôl ac ymlaen i'r ynys yn ei gwch, ac mae gan ei deulu gysylltiad â'r ynys sy'n mynd nôl 300 mlynedd. Yn ôl Colin, dim ond 8 o bobl sy'n byw ar yr ynys nawr, (yn cynnwys ei deulu e), 15 yn yr haf. Ar yr ynys, mae olion abaty'r Canoniaid Awgwstiniaidd o'r drydedd ganrif ar ddeg, a godwyd ar hen sylfeini Celtaidd o'r chweched ganrif. Mae'r cynfeirdd yn dweud bod 20,000 o saint wedi'u claddi ar yr
Parhad ar dud 5
3
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Ddydd Sadwrn, 22 Awst daeth dros 100 o bobl i Gapel Blaencwm i fwynhau diwrnod agored. Trefnwyd bd castell neidio, paentio wynebau, gemau a gweithgareddau amrywiol ar gyfer y plant ac ar ddiwedd y prynhawn cafodd yr ardd y tu ôl i'r capel ei hagor yn swyddogol gan y Parch Ddr. D Hugh Matthews. Mae aelodau'r capel, dan arweiniad Maria Marchl wedi gweithio'n galed i droi tir diffaith yn ardd dawel at wasanaeth y gymuned a mawr obeithir y bydd yn cael ei defnyddio gan bobl yr ardal.
Llongyfarchiadau i Carol Upton, Castleton Avenue ar achlysur dathlu ei phen blwydd yn 60 oed. I nodi'r garreg filltir bwysig hon, bydd hi a'i gŵr, Ralph yn mynd ar wyliau i Dde'r Affrig. Pob dymuniad da iddynt.
Llongyfarchiadau hefyd i Ceri Nicholas a Catherine Bonner a briododd yng nghapel Blaencwm ar 15 Awst gyda'r Parch Ralph Upton a Phil Vickery yn gweinyddu. Cynhaliwyd y wledd briodas yng Nghlwb Cymdeithasol [Top Club] Blaenrhondda. Bydd y ddau yn ymgartrefu yn Castleton Avenue. Dymunwn iddynt briodas dda. Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i Julie Spiller, Heol Blaenrhondda sy wedi derbyn 5 4
llawdriniaeth yn ddiweddar a hefyd i Jervaise James, ST. David's St sydd wedi dod adre ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty.
Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Hugh Williams, Bryn Siriol, Stryd Stuart ac yntau wedi dioddef cystudd hir. Cydymdeimlwn â'i fam, Vera a'r teulu oll yn eu galar.
Da oedd croesawu Elen a Hans Marchl, eu tair merch, Maria, Anna a Lucie a'u mab, Leon yn ôl ar ymweliad â'r ardal o'u cartref ger Gratz yn Awstria. Tra oedden nhw yma gyda rhieni Elen yn Stryd yr Eglwys, bu Elen ddwywaith ar Radio Cymru yn sôn am broblem ffoaduriaid yn cyrraedd Awstria. Ei bwriad hi a'i gŵr Hans yw cynnig cartref i rai ffoaduriaid pan ddychwelan nhw.
TREORCI
Llongyfarchiadau calonnog i Emrys Jones, Y Stryd Fawr, ar ddathlu ei ben blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Mae Emrys yn gaeth i'w gartref oherwydd afiechyd ond pob cysur a dymuniad da iddo at y dyfodol.
Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth David Daniel Evans, Tŷ Pengelli yn 90 oed. Roedd Danny yn adnabyddus iawn yn yr
ardal fel dyn busnes, aelod o gapel Hermon ac yn is-lywydd y Clwb Rygbi. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd y Porth a Phrifysgol Aberystwyth lle y graddiodd mewn ffiseg. Wedi cyfnod yn Llundain dychwelodd yn athro i'w hen ysgol cyn mynd ymlaen i reoli meithrinfa Pengelli ac agor siopau yn Nhreorci a Thonypandy. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon gan chwarae rygbi dros Dreorci a Chymry Llundain a bu'n aelod brwd o glybiau golff Llantrisant a Phenrhys. Bu'n weithgar iawn yng nghapel Hermon ac yn ysgrifennydd cymanfa Annibynwyr y cylch am flynyddoedd lawer. Yn gymeriad hoffus, bywiog a brwdfrydig, gwelir ei eisiau yn fawr iawn. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i weddw Ann, ei ferched, Pamela a Susan a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Deallwn fod yr Athro Ceri Lewis, Heol Glyncoli wedi bod yn yr ysbyty yng Nghaeredin yn ddiweddar tra yn aros gyda'i fab, Huw. Pob dymuniad da iddo am adferiad buan. Bydd Pwyllgor Cancer UK Treorci yn cynnal cwis, nos Lun, 21 Medi yn nhafarn y RAFA am 7.30 pm. Y cwisfeistr fydd Noel Henry ac mae tocynnau ar gael gan aelodau'r pwyllgor.
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
Croeso i bawb.
Yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr, bu farw Mary Francis [Curtis gynt], Y Stryd Fawr. Ar ôl gwneud swyddi eraill am rai blynyddoedd, hyfforddwyd Mary yng Ngholeg y Barri i fod yn athrawes a bu am gyfnod ar staff Ysgol Gyfun Treorci. Cydymdeimlwn â'i gŵr, Gordon a'i mab, Michael, yn eu profedigaeth. Siom fawr i blant a rhieni Treorci a'r Pentre oedd clywed nad oedd yr adeiladau newydd yn Ysgol Gynradd Treorci'n barod iddynt erbyn dechrau'r tymor. Bu rhaid anfon plant i ganolfannau chwaraeon Ystrad ac Ynyswen yn ystod yr wythnos gyntaf
PARHAD ar dudalen 8
Yng Nghamre...parhad ynys. Mae'r hyn wedi bod yn gredadwy dros y canrifoedd, achos darganfwyd cymaint o esgyrn ar yr ynys. Mae cyfleon niferus i edrych ar fywyd gwyllt yr ynys, sy'n cynnwys morloi, dolffiniaid, palod ac amrywiaeth eang o adar mor.
Tua'r De Ar ôl gadael Pen Llŷn, gyrrais i lawr yr arfordir, o amgylch Bae Abermaw ac afon Dyfi, i lawr i'r Borth, sy wedi ei disgrifio yn fy llyfr fel "A small watering-place to the north of Aberystwyth." Mae traeth hyfryd yn Y Borth. Gwelais i ddolffiniaid trwynbwl yn nofio heibio, profiad arbennig iawn. I fi, uchafbwynt yr ymweliad â Borth oedd ffeindio lleoliadau ffilmi'r gyfres deledu Y Gwyll / Hinterland. Des i o hyd i dŷ Helen Jenkins, hen berchennog y cartref gofal plant a lofruddiwyd yn y bennod gyntaf, a'r garej lle cafodd ei chyd-droseddwr ei ladd. Hefyd, ymwelais i a'r orsaf trenau yn Y Borth, lle buodd y llofruddiwr Dyfan Richard yn byw, ym mhennod 4. Eithaf ryfedd i rai efallai, ond cyffrous i fi!
ond wrth gwrs, dros y can mlynedd diwethaf, mae rhai wedi diflannu'n llwyr. Mae Cymru a gweddill y byd wedi newid cymaint, gyda gwelliannau i'r ffyrdd, ceir, ffônau, y rhyngrwyd. Lle es i o le i le yn gyflym yn y car, gan mlynedd yn ôl, basai hi wedi cymryd oesodd.
Er gwaethaf y newidau, dw i'n siwr bod Cymru mor brydferth ag erioed ac rwy'n edrych ymlaen at ddarganfod rhagor ohoni.
Cyngor i ddarllenwyr y Gloran sy'n dilyn yr erthyglau hyn. Peidiwch, da chi, â cheisio gwneud un o’r campau a ddisgrifiwyd. Hefyd, ar nodyn bositif, mae’n bosib prynu siacedi buoyancy erbyn hyn. Gresyn nad o'dd rhai ar gael ddeugain mlynedd yn ôl. LLUNIAU Idan House Llanberis Aberdaron Ynys Enlli Morlo Borth
Roedd yn brofiad diddorol a dymunol i ymweld â'r llefydd lle aeth fy nheulu, ond canrif o fy mlaen. Mae nifer o lefydd wedi aros yr un,
5
TAP YNG NGHAERDYDD - PARC BUTE ^
Ym mis Gorffennaf eleni, diolch i fy merch Rosa, fe ges i'r cyfle i ymuno â chriw o artistiaid yng Nghaerdydd oedd yn gweithio ar brosiect TÂP gan NUMEN, grŵp celf o Groatia. Dechreuodd TÂP yn 2009 ac erbyn
6
Dechrau adeiladu’r we corryn - ysgolion mawr ac ar un ochr sgaffald lle roedd ffwrch y goeden yn rhy uchel i ysgol
hyn mae wedi ymweld â nifer fawr o wledydd dros y byd. Eleni ein tro ni oedd e a daeth TÂP i Gymru.
Trefnwyd y prosiect gan RSPB Cymru a Chyngor y Celfyddydau gyda grŵp o enw
Erbyn i ni gwblhau roedd yn edrych yn anferth tu mewn i’r we
‘Migrations’. Gosodiad celf yw TÂP yn bennaf ond y syniad tu ôl i’r prosiect yng Nghymru oedd i ddenu pobl i werthfawrogi ysblander byd natur ac yn arbennig y nifer fawr o hen, hen goed ym Mharc Bute Caerdydd. Syniad arall tu ôl i adeiladu gwe pry copyn wrth gwrs oedd i roi cyfle i bobl ddychmygu eu hunain yn fach iawn iawn lan yn yr awyr tu mewn i we pry copyn go iawn.
Emma sydd y twrio i mewn i ddaearyddeg er mwyn gwneud ei gwaith celf: www.emmaharry.com Caz, artist sydd yn ymchwilio i bosibiliadau gerynnau a pedal power: https://www.youtube.com/
watch?v=B8bxtT-kPWs www.bikesandbuttons.co.uk http://www.recycleopedia.c om/news/2014/090114
gwlad y glaw a’r gwynt am hynny! Er gwaetha’r tywydd roedd y bobl yn dod ac yn ciwio yn y glaw ac erbyn diwedd y prosiect roedd deg mil o bobl wedi dod i fwynhau’r profiad o TÂP. Anne Baik
thiais i ar y bws i weld y gêm ar deledu ffrindiau fy mam, Alby a Lizzie Rogers, Prospect Place, Treorci. Wel, fe enillodd Blackpool a chafodd Stan Matthews ei fedal o'r diwedd. Pan gyrhaeddais i'r ysgol ar ôl y penwythnos, pheidiais i ddim â sôn am Blackpool a rhan Stan Matthews yn eu buddugoliaeth. Cyn hir, "Stan" oeddwn i i bawb yn y dosbarth. A dweud y gwir, llysenw eironig oedd e achos roeddwn i'n chwarae pêl-droed yn wael, ond roedd y llysenw 'na yn fiwsig i'm clustiau. Yn 1999 fe ailymunon ni yng nghlwb rygbi Ystrad Rhondda fel "dosbarth '59" Ysgol Ramadeg Bechgyn y Porth. Wrth gwrs, ar ôl deugain mlynedd roedden ni i gyd wedi newid. Roedden ni'n fwy soff-
istigedig a chwrtais (ac roedden ni wedi colli gwallt a dannedd hefyd). Roedd rhai wedi teithio o Awstralia a Thasmania i fod yno. Fe sylwais i'n fuan doedd neb yn defnyddio hen lysenwau'r bechgyn yn ein sgwrs ac yn arbennig, doedd neb yn fy ngalw i'n "Stan". Er ein bod ni'n hapus i weld ein gilydd eto, roedd popeth mewn ffordd braidd yn ffurfiol. Ar y ffordd yn ôl yng nghar fy ffrind, Peter Jones, Stryd Fawr, Treorci, fe feddyliais i am y bechgyn oedd ddim wedi troi lan y noson honno. Roedd rhai wedi marw, wrth gwrs, ac roedd rhai heb allu dod. Ac roedd rhai, fel "Stan" Eynon druan, wedi cael eu hanghofio'n llwyr!
Roedd Dai a Ianto wedi bod yn yfed yn y dafarn heb sylwi bod yr amser wedi mynd heibio. "Diawl, Ianto," meddai Dai'n sydyn, "mae hi'n bron hanner nos. Rw i wedi colli'r bws." "Doed dim ots, Dai," meddai Ianto. "Rwyt ti'n gallu treulio'r nos gyda ni." "Ond beth fydd Hilda'n ddweud?" gofynnodd Dai, oedd yn ofni gwraig Ianto. "Paid â phoeni am Hilda," meddai Ianto. "Rwy'n gallu ei thrafod hi." Cyrhaeddon nhw'r tŷ a mynd i mewn gan wneud sŵn ofnadwy. Yn sydyn, daeth golau ymlaen lan llofft a dyna Hilda'n sefyll ar ben y grisiau mewn cot nos goch - fel draig enfawr. "Wedi meddwi eto!" gwaeddodd hi'n grac. "Wyt ti?" meddai Ianto'n hapus. "Ni hefyd!"
Dim ond yr ail dro oedd TÂP wedi symud tu fa’s o oriel neu bafiliwn a dewison nhw Gymru -
Roedd y gwaith yn eitha caled ond profiad unigryw oedd i weithio gydag artist/peiriannydd cynllunio y prosiect Sven Jonke a chael atebion diddorol ac annisgwyl i fy ngwestiynau arferol ‘Pam?’ a ‘Sut?”. Roedd y tîm yn llawn o bobl yn gwneud gwaith personol diddorol iawn -
BYD BOB
Roeddwn i'n ddeuddeg mlwydd oed yn 1953 pan gwrddodd timau pêldroed Blackpool a Bolton yn Rownd Derfynol y Cwpan yn Wembley. Cyn y gêm roedd llawer o sôn am yr enwog Stan Matthews o Blackpool oedd wedi ennill pob gwobr yn ystod ei yrfa hir a disglair, ac eithrio medal Cwpan yr F.A. Doedd dim teledu 'da ni yn Blaencwm Terrace, Tynewydd, felly fe dei-
************
8
tan fod yr ysgol yn barod erbyn dydd Llun, 7 Medi. Aeth aelodau Clwb yr Henoed ar wibdaith i Gaerfyrddin ganol mis Awst. Er gwaethaf y tywydd gwlyb, cafodd pawb ddiwrnod dymunol yn siopa a mwynhau pryd o fwyd mewn gwesty cyn dod adre.
Croeso adre i Pat Howard [gynt Hendy] a'i gŵr Robert o Awstralia sydd yn ôl ar ymweliad. Cafodd Pat ei magu ar Y Stryd Fawr ac mae'r ddau yn cael amser hapus yn ymweld â ffrindiau a theulu. Byddant yn dychwelyd ganol mis Medi.
Pob hwyl i Iwan Thomas, Stryd Regent a ddechreuodd ar gwrs dylunio graffig yng ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau'r tymor.
Pob dymuniad da am adferiad buan i Emrys Vaughan, Stryd Regent sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Rhondda.
Bu aelodau Sefydliad y Merched ar ymweliad â'r Amgueddfa Americanaidd yng Nghaerfaddon ym mis Awst. Mwynhaodd pawb ddiwrnod diddorol iawn ac am ddiolch i'r rhai a fu wrthi'n trefnu'r daith. Bydd y Sefydliad yn cynnal ei gyngerdd blynyddol yn Neuadd y Dderwen, nos Iau, 24 Medi am 7pm. Croeso cynnes i bawb.
Yng ngwasanaeth Sul olaf yr haf yng nghapel Bethlehem, llongyfarchodd y Parch Cyril Llewellyn bedair mamgu ar lwyddiant arbennig eu hwyrion ac wyresau mewn arholiadau eleni. Roedd Emily, wyres Alun a Margaret Davies,
Stryd Dyfodwg wedi ennill gradd yn y gyfraith yn Rhydychen, Sara, wyres Marian Nash, Cardiff Place, wedi derbyn MA mewn meddygaeth, Emily, wyres Maureen Fletcher, Heol Glycoli wedi graddio o Brifysgol Bryste a Daniel, ŵyr Mair Searle, Prospect Place wedi ei alw i'r bar yn Llundain a'i dderbyn yn fargyfreithiwr. Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'r dyfodol i'r pedwar.
Mae'n werth ichi daro i mewn i Neuadd y Parc i weld y ganolfan ar ei newydd wedd. Ailgynlluniwyd y llawr cyntaf ac nawr, yn ogystal â'r caffi mae swyddfeydd a stafelloedd dysgu, gwelliant mawr ar yr hen gynllun. Costiodd hyn yn ddrud ac ar ddydd Sadwrn, 5 Medi cynhaliwyd ffair gyda stondinau crefftau, raffl a lluniaeth i godi arian at y fenter. Erbyn hyn mae amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos gan gynnwys dosbarthiadau arlunio, gemwaith, cyfrifiadura a llawysgrifen gain. Mae campfa ardderchog ar gael i'r cyhoedd a grŵp Mam a Phram yn cwrdd yno'n wythnosol. Mawr obeithiwn y bydd pobl leol yn cefnogi'r fenter a phob clod i'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed i sicrhau llwyddiant.
CWMPARC
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio yng Nghwmparc yn ystod mis Gorfennaf. Mae Salix, cwmni biobeirianneg o Abertawe, wedi rhoi darnau mawr o bren yn
Nant Cwmparc, er mwyn adennill cynefin ar gyfer bywyd gwyllt. Yn ogystal, bydd y gwaith yn lleihau perygl llifogydd, gan arafu cyflymder y dwr.Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, does dim cynefin naturiol ar hyn obryd, ac mae'r dwr yn llifo'n gyflym. Mae'r gwaith yn bwriadu creu nodweddion a phyllau i denu bywyd gwyllt, ac arafu cyflymder y dwryr un pryd. Mae hyn wedi bod yn llwyddianus yn yr Afon Rhiw, Powys, Nant Olway yn Sir Fynwy a'r Belford Burn, Northumberland.
Ers ymddeoliad Lyn Thomas, mae ei siop drin gwallt yn Ffordd y Parc wedi bod yn wag. Nawr, mae wedi diflannu! Mae adeiladwyr wedi bod yn brysur, ac nawr, does dim byd yn weddill! Roedd yn ddrwg gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Aileen Jones, Garth, Park Crescent ddechrau'r mis yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Cydymdeimlwn yn gywir iawn â'i phriod, Ken yn ei brofedigaeth.
Y PENTRE
Siom i lawer o bobl yn yr ardal oedd clywed
bod banc y Nat West yn Heol Ystrad yn mynd i gau ym mis Rhagfyr. Mae'r Pentre yn un o nifer o ganghennau'r banc yng Nghymru sydd ar restr i'w cau. Bydd hyn yn ergyd i gwsmeriaid preifat a busnesau'r ardal ac i'r llu o bobl sy'n defnyddio'r 'twll yn y wal' yn gyson. Mae'r Pentre'n prysur droi'n ddiffeithwch wrth i'r ysgol hefyd gloi ei drysau am y tro olaf ym mis Gorffennaf. Pob dymuniad da i ddisgyblion Ysgol y Pentre oedd yn dechrau cyfnod newydd yn eu hanes yn Ysgol Gynradd Treorci ddechrau'r mis.
TON PENTRE
Er gwaethaf y tywydd gwael bu agoriad swyddogol gardd Tŷ Ddewi, ddydd Wener, 16 Awst, yn llwyddiant mawr. Dechreuwyd gyda gair o groeso ar ran y preswylwyr gan Mr Graham John. Estynnodd groeso i deuluoedd y preswylwyr a chynrychiolwyr Wales & West, gan gynnwys eu Prif Weithredwr, Mrs Anne Hinchey. Diolchodd yn arbennig i Sara Wilcox ac Ian Williams 9
am gynllunio'r ardd a diolch yn ogystal i Chris Williams o C.J's am gyfrannu at gost y wobr a'r lluniaeth. Talwyd am y gwelyau uchel gan Gronfa Gwneud Gwahaniaeth tra bod cwmni Jewson [Pen-y-bont ar Ogwr} wedi darparu'r defnyddiau am bris gostyngol. Erbyn hyn, mae'r gwelyau uchel yn cael eu defnyddio ac yn cynhyrchu amrywiaeth o lysiau ar gyfer preswylwyr Tŷ Ddewi. Y gobaith yw y bydd y grŵp yn gallu gwerthu llysiau a'r elw'n mynd at gynnal yr ardd. Arweiniwyd y grŵp hwn a weithiodd yn ddiarbed, gan Dee Thorne a John Mann, gyda Alan Bargewell a Wyndham Rowe yn eu cynorthwyo.
Yn dilyn y seremoni agor, cafodd y preswylwyr a'r ymwelwyr fwynhau lluniaeth ardderchog a hwyliwyd gan wragedd Tŷ Ddewi a daeth y diwrnod i ben gyda raffl a drefnwyd gan Mrs Gillian Jones a'r elw eto yn mynd at Gronfa'r Ardd. Hefyd ym mis Awst dathlodd Wales & West ei 50fed pen-blwydd yn Nhŷ Ddewi ac unwaith eto cafodd yr ymwelwyr a'r preswylwyr buffet ac adloniant gan y canwrddigrifwr, Gary Lavelle. Felly, dyna ichi fis o loddesta a dathlu a phawb wedi cael modd i fyw! Wrth i'r Ffatri Bop yn y Porth gau, collodd Rhondda Rock eu cartref arferol ond daeth Clwb Pêl-droed Ton Pentre i'r
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
10
adwy a mwynhaodd pawb yr achlysur blynyddol hwn a gynhaliwyd ddiwedd Awst yn fawr iawn.
Yng nghyfarfod diweth y Clwb Cameo, y siaradwr gwadd oedd Mrs Janet Martin a roddodd sgwrs ddiddorol ar gadw gwenyn ar ei fferm yn Ynysybwl. Cynhelir y cyfarfodydd misol yn festri'r Capel Cynulleidfaol. Croeso i bawb. Mae Mrs Beti Evans, Stryd Dewi Sant wedi bod yn ôl yn yr ysbyty yn ddiweddar. Mae ei ffrindiau yn Eglwys Hebron yn gweld ei heisiau'n fawr ac yn dymuno gwellhad llwyr a buan iddi. Bu nifer o deuluoedd yn
yr ardal mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf. Cofiwn yn arbennig am deuluoedd Mrs Margaret Evans, Ton Row, Mr Roy Jones Whitefield St a Mr John Bailey, Llanfoist St ac estynnwn iddynt ein cydymdeimlad cywiraf.
CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCI Cynhelir y cyfarfodydd yn Hermon, Treorci, nos Iau am 7.15pm 24 Medi Heini Gruffudd Abertawe Yr Erlid - Hanes un teulu yn yr Holocaust.. Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2013 (Gweddill ein rhaglen yn ein rhifyn nesa)
ARHOLIADAU - Y CANLYNIADAU
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
CANLYNIADAU LEFEL A GWYCH ELENI I DDISGYBLION Y CYMER LLONGYFARCHIADAU IDDYNT!!!
Y TYWYSOG SIARL YN CWRDD Â PHLANT Y CYMER DWYWAITH MEWN WYTHNOS!!!! Tywysog Siarl yn cwrdd â'r Cymer eto! Y tro cyntaf yn ‘Too Good to Miss” ac am yr ail dro cafodd ein disgyblion gyfle unigryw i gwrdd â'r Tywysog ar ei ymweliad ag Eisteddfod Llangollen. Roedd côr yr ysgol wedi teithio yno i berfformio. Roedd cael bod yn rhan o achlysur mor arbennig â'r Eisteddfod yn brofiad bythgofiadwy, ac mae'n siwr roedd y Tywysog wedi mwynhau cwrdd â phobl ifanc y Rhondda am yr ail dro hefyd! 11
TGAU - Y CANLYNIADAU LLONGYFARCHIADAU I’R DISGYBLION I GYD!!!
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12