y gloran
Yr Ynys Werdd-a’i Haelioni!
Rhagor o helyntion Islwyn Jones wrth iddo fentro draw i Iwerddon. Ar ddechre’r wythdegau, Iwerddon oedd Y lle i fynd i bysgota am samwn. Roedd ‘na gymaint o afonydd da,ond un o’r goreuon heb os, oedd afon Blackwater ger Cork. Aed ati i drefnu trip. Roedd fy mrawd yng nghyfraith Rob, a’m ffrind Steve Lock yn bwriadu mynd am bythefnos. Roedd gen i ormod o waith ymlaen,ar ôl newydd ddechre’r busnes yn Nhonypandy. Felly bu rhaid imi fodloni ar wythnos. Roedd hen ffrind arall o’r ysgol (Elidyr) yn dod gyda mi ar y daith. Y bwriad oedd cwrdd â’r ddau arall ma's yn Iwerddon.Trefnwyd yr holl drip fisoedd o flaen llaw.Bwcio llety,pysgota,y fferi ag ati.Ys dywed y Sais, roedd e fel ‘Military Operation’. Rhaid dweud nad oedd Judith, fy ngwraig newydd, yn or-hapus â’r sefyllfa. Roedd y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon yn eu hanterth a ofnau ynglŷn â’r I.R.A. Wedi tipyn o berswad, llwyddwyd i dawelu’r dyfroedd a’i darbwyllo bo’r trafferthion yn Y Gogledd, 200milltir i ffwrdd o Cork a bod pethe’n ddigon diogel yn Y Weriniaeth. I gymhlethu pethe fwyfwy, roedd 'na streic da’r gweithwyr post yn Iwerddon ar y pryd a doedd dim modd ffonio neu ddanfon llythyr. Felly pan aeth Rob a Steve yr wythnos gynt doedd dim posib cysylltu â nhw. Serch hynny, aeth Elidyr a
20c
finnau i Abergwaun i ddal y fferi yn llawn gobaith gyda char wedi’i lwytho i’r ymylon â chesys, gwialennod, rhwydau, waders a phob
math o drugareddau. Dyn a ŵyr sut y llwyddwyd i ddodi popeth i mewn i’r hen gar! Helynt y Porthladd Cyrhaeddon ni’r porthladd.Fel y dywedais roedd 'na sefyllfa ddigon trybinus yn Iwerddon ar y pryd. Wrth fynd trwy glwyd y porthladd, fe’n stopiwyd gan ddau dditectif gwrth -derfysgol (anti Terrorist). Be sy ‘dach chi yn y car? Ble chi’n mynd? Pwrpas y daith? ac ati. Mae’n rhaid bo enw fy ffrind wedi achosi peth amheuaeth.
parhad ar dud. 3
ROGER AR DUDALEN 7 GRAHAM JOHN AR DUDALEN 4 BYD BOB AR DUDALEN 6
golygyddol l YR ETHOLIAD DI-SÔN-AMDANO YN DROBWYNT?
Fe ddaeth etholiadau Ewrop a mynd heb i fawr neb yn y Rhondda sylwi tan i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi. Pe byddech yn cymharu'r canlyniadau â rhai'r etholiad diwethaf yn arwynebol, welech chi ddim gwahaniaeth rhyngddynt gyda Llafur, y Toriaid, UKIP a Phlaid Cymru'n cipio sedd yr un fel y tro o'r blaen. Ond o graffu'n fanylach, gwelech fod yna fyd o wahaniaeth gydag UKIP yn dod o fewn trwch blewyn i ddisodli Llafur fel prif blaid Cymru. Gwnaethon nhw hyn yn Rhondda Cynon Taf heb ymgyrchu bron o gwbl ac eithrio anfon un daflen at bob un ohonom drwy'r post a heb drafferthu i gyflwyno polisiau i'r cyhoedd ar lu o faterion pwysig. Rhaid gofyn sut cafwyd y fath lwyddiant ar seiliau mor simsan ac a ydynt yn debygol o ailadrodd eu camp yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ac yn etholiadau 2016 i Senedd Cymru? Gellid honni taw difrawder oedd gwir fud2
dugwr yr etholiadau Ewropeaidd gydag ond rhyw un o bob tri'n trafferthu i bleidleisio o gwbl. Gwahaniaeth arall oedd nad oedd etholaethau unigol a phob plaid yn yn anelu at ddenu pleidlais genedlaethol yn hytrach nag un etholaethol. Yn yr un modd, doedd yr ymgeiswyr unigol ddim yn amlwg o gwbl. Pleidlais dros blaid ac nid unigolion a gaed. Yn wir, pe byddech yn gofyn i bleidleiswyr enwi hyd yn oed prif ymgeiswyr pob plaid, prin y celech chi ateb. Chafodd y cyhoedd fawr o gyfle i holi ymgeiswyr unigol chwaith, ac yn ddi-os hwylusodd hyn y ffordd i rai ymgeiswyr gwan guddio y tu ôl i enw eu plaid. Yn yr etholiad cyffredinol ac yn yr etholiadau i'r Cynulliad yn 2016, fe fydd etholaethau a bydd cyfle i ddod i adnabod a holi'r ymgeiswyr unigol. Bydd yn ofynnol hefyd i'r pleidiau ddatblygu trefniadaeth leol ar lawr gwlad a bydd hyn yn siwr o greu gwahaniaeth, yn ôl y gwybodusion. Prin y bydd cyfle i ganolbwyntio y tro nesaf ond ar un neu ddau o bynciau emosiynol fel cyfyngu
y gloran
mehefin 2014 YN Y RHIFYN HWN
Pysgota yn Iwerddon ...1-3 Golygyddol ...-2 Dau yn arloesi ym maes teledu/Colli llyfrgell...4
mewnfudwyr a chael gwared ar fiwrocratiaeth Llywodraeth Ewrop. Ac eto, ar ôl dweud hyn oll, rhaid cyfaddef fod Newyddion Lleol UKIP wedi codi pynciau ...5-10 sydd o bwys i bobl gyffredin ac sydd wedi cael Byd Bob ..6 eu hanwybyddu i raddau Roger Price..7 gan y prif bleidiau. Hefyd, llwyddon nhw i danio dychymyg pleiYsgolion...11 dleiswyr ar draws Pry..12 dain. Roedd canlyniadau'r etholiad yn rhybudd clir i'r prif bleidiau na ellir anwybyddu pethau o bwys. Yn yr etholiadau sydd i ddod, bydd rhaid inni ofyn i bob plaid beth sydd ganddynt i'w gynnig i Gwm Rhondda yn arben- addo ac wedyn yn torri nig a sut y bwriedir eu haddewidion. A fydd gwella safonau byw, ad- effaith barhaol i 'ddaeardysg a'r gwasanaeth gryn' y mis diwethaf? iechyd yma yng Cawn yr ateb o fewn Nghymru. Bydd gofyn i blwyddyn i ddwy ar y bleidiau gynnig polisiau mwyaf! positif gan na fydd yr agGolygydd weddau negyddol a amlygwyd y mis diwethaf yn gweithio. A bydd rhaid i atebion gwleidyddion o bob plaid geisio bod yn berthnasol i fywydau pobl gyffredin gan fod pleidlais etholiad Ewrop yn dangos Ariennir yn rhannol ein bod gan Lywodraeth Cymru wedi cael Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison llond bol gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru arnynt yn Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN
Yr Ynys Werdd parhad o tud 1
Elidyr BEASLEY. Roedd ei fam a’i dad yn genedlaetholwyr mawr. Fe gofiwch i Trevor ac Eileen Beasley ymgyrchu’n galed i hawlio statws i’r iaith Gymraeg. I lygaid y Special Branch doedd na ddim gwahaniaeth rhwng cenedlaeholwyr heddychlon a therfysgwyr,mae’n siwr. Tynnon nhw’r car i mewn. Bu rhaid dadlwytho’r cwbwl lot. Aed dros y car yn fanwl a’i harchwylio’n llwyr. Ar ôl oes, a gorfod ail bacio popeth fe’n caniatawyd ni ar y fferi. Doedd y teithwyr eraill ddim yn rhy hapus wrth iddi adael yn hwyr.
Helynt y 'Toby Jug" Ar ôl taith o bedair awr a hanner a thair awr arall o Rosslare, fe gyrhaeddon ni bentre bach Cappoquin. Ro’n ni’n aros mewn gwesty bach o’r enw’The Toby Jug’, gwesty oedd yn arbenigo mewn edrych ar ôl pysgotwyr (Yn ôl yr hysbysiad yn ‘Trout &Salmon' hynny yw!). Roedd y lle fel y bedd a hithau bron yn hanner nos. Dim sôn am Rob a Steve. Er gwaetha canu’r gloch, ddaeth yr un o ‘Geiwaid y llety’ i ateb y drws. Gydag Elidyr a finnau’n paratoi i dreulio noson yn y car, yn
sydyn,ar waelod y stryd gwelwyd ffurf dau berson yn ymlwybro’n go simsan ac igam ogam tuag atom.Yn amlwg, o’r golwg oedd arnyn nhw, roedd 'na sawl gwydriaid o ‘Win Y Gwan’(Guiness) wedi’u hyfed y noson honno. Wel, o leia gallem nawr fynd trwy ddrws digon bler ‘Y Toby Jug’ a mwynhau noson o gwsg! Ond Na! roedd y bechgyn wedi hen syrffedu a’r hyn oedd ‘da’r Toby Jug i’w gynnig. Roedd y lle’n ddiflas, yn oer, a'r bwyd yn wael.Roedd Rob a Steve wedi ffeindio lle arall i aros ac wedi canslo’n booking ni trwy ddweud bod 'na brofedigaeth ‘di bod. Yr unig rheswm o’n nhw’n dal yno oedd achos nad oedd modd rhoi gwybod inni oherwydd y Streic. Roedd Paddy Noonan, perchennog y gwesty, yn byw rhyw 200 llath i ffwrdd.Mae’n amlwg nad oedd y lle’n ddigon da iddo fe-dim ond y pysgotwyr anffodus oedd yn rhaid aros o fewn ei furiau! Felly cafwyd cynllun cyfrwys gan y ddau feddwyn. Fe fydden ni’n mynd i mewn gyda nhwa dyblu lan yn y ddau wely, codi a gadael cyn i Paddy ddod i mewn yn y bore. (Fe fyddai’n dod i mewn cyn 7) Cafwyd noson oer ag anghyfforddus gan
Elidyr a minnau. Cysgodd y ddau feddwyn fel moch, a chwyrnu fel rhai hefyd!! Toc erbyn 6.30 roedden ni nôl yn y car. Cwrddon ni lan yn Fermoy, y dref agosaf erbyn 10 o’r gloch. Roedd y bois wedi’n bwcio ni i mewn i’r ‘Grand Hotel’ Rhaid dweud bod y lle yn ddigon crand hefyd. Ystafelloedd cyfforddus,digon o wres. Gwesty teilwng o’i enw. Aed ati y diwrnod hwnnw i bysgota Afon Blackwater. Roedd y bois wedi bod yno am wythnos heb ddal dim, ond el sy’n digwydd mor aml mewn pysgota, fe laniais fy samwn cyntaf o fewn ugain munud. Wna i ddim â dweud be ces i fy ngalw gan Rob a Steve. Digon yw dweud nad o’n nhw’n eiriau rhy garedig!
Gwyliau rhad! Fel y dywedais, ro’n ni wedi bwcio Gwely a Brecwast. Y noson honno, aethon ni i fwyty’r gwesty i gael swper ’A la Carte’ Daeth y weinyddes draw atom a gofyn, "Are you boys here for the fishing?" "Yes" medden ni.’To be sure you’re in the wrong place! Follow me" Aed â ni i mewn i neuadd fawr gyda byrddau wedi’u gosod a thua chant o ddynion yn eistedd wrthynt. Fe’n tywyswyd i fwrdd gwag. Roedd dewis helaeth o fwydydd, gwin ac ati.
Buom yn sgwrsio gyda rhai o’r pysgotwyr o’n cwmpas. Saeson o’n nhw. Ro’n nhw ar y Blackwater yn pysgota ym mhencampwriaeth’Coarse Fishing’Prydain ac Iwerddon.Roedd Bwrdd Twristiaeth Iwerddon yn talu am bopeth!! Trwy gydol yr wythnos cawsom ein trin fel aelodau o’r teulu brenhinol - stêcs. prawn cocktail ac ati-yn rhad ac am ddim. Rhaid dweud ein bod ni’n teimlo fymryn bach yn euog yn cael mwynhau’r holl ddanteithion heb dalu’r un ddimau goch.Roedd haelionu’r Bwrdd Twristiath yn ddiderfyn! Chware teg i fois y Coarse Fishing, wedodd yr un ohonyn nhw air. Felly am wythnos buon ni’n cynrychiolu Cymru (yn answyddogol) yn y Bencampwriaeth. Hynny yw,cyn belled ag oedd y Bwrdd Twristiaid yn y cwestiwn!! Cawsom wythnos i’w chofio bwyd eithriadol. mwynhau cwmni da, dal samwn i fynd adre i Gymru.Wrth dalu’n bil Gwely a Brecwast,roedd y pedwar ohonom yn disgwyl i reolwr y gwesty ddod â bil mawr ychwanegol inni dalu. Ond ddaeth e ddim ac felly, aed nôl adre i Gymru fach gyda digon o straeon am ein taith gyntaf i’r Ynys Werdd. Roedd llawer mwy i ddilyn yn y degawdau canlynol.
Pysgotwr yn Afon Blackwater 3
DAU O'R RHONDDA A FU'N ARLOESI YM MAES TELEDU
Yn ddiweddar, daeth i'n sylw y rhan amlwg a chwaraeodd dau o frodorion Cwm Rhondda yn natblygiad teledu trwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd marwolaeth un o arloeswyr teledu Cymraeg, Havard Gregory a gafodd ei fagwriaeth gynnar yma yn y Rhondda. Mab y mans oedd Havard. Cafodd ei eni a'i fagu yn Y Cymer, Porth lle roedd ei dad, Parch R.T.Gregory yn weinidog. Wedi gyrfa ddisglair yn Rhydychen, lle y graddiodd mewn ieithoedd modern, aeth yn athro Saesneg yn 1945 i Dinan yn Llydaw cyn symud ymlaen i Brifysgol Rennes a maes o law ddod yn ôl i Brydain. I ddechrau, gweithiai yn gyhoeddwr a chynhyrchydd i'r BBC yn Llundain, ond am gyfnod aeth yn ôl i'r cyfandir i weithio yn y Swistir. Fodd bynnag, yn 1962 penderfynodd fentro ar yrfa gyda chwmni newydd Teledu Cymru lle y bu'n brif gynhyrchydd. Ef gyda llaw, oedd yn gyfrifol am y cartŵn cyntaf a ddangoswyd ar y teledu yn y Gymraeg, sef, 'Ifor yr Injan'. Roedd yn gefnogwr brwd i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen lle y bu'n un o'r arweinwyr llwyfan am nifer o flynyddoedd tan 1980 a hefyd i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bob blwyddyn, yn yr eisteddfod honno, mae ef a'i wraig, Rhiannon yn cyflwyno tlws a gwobr ariannol i diwtor sy wedi
cyfrannu'n sylweddol i faes Cymraeg i Oedolion, maes nad yw'n derbyn y sylw dyladwy, yn ôl y ddau. Os oedd Havard ym mlaen y gad wrth i deledu drwy gyfrwng y Gymraeg ddatblygu, mae gan ferch o Drealaw yr hawl i'w hystyried yn arloeswraig hefyd. Y darllenydd newyddion cyntaf Am flynyddoedd roedd enw Eirwen Davies yn cael ei godi wrth drafod y ferch gyntaf i ddarllen y newyddion yn Gymraeg ar y teledu, ond roedd merch ifanc o'r Rhondda wedi darllen o'i blaen. Yn ystod haf 1959 aeth Megan Davies o Drealaw, mech y gwleidydd ar'r dramodydd, James Kitchener Davies, yn syth o sefyll ei haroliadau Safon A i gyflwyno'r bwletinau newyddion Cymraeg mewn stiwdio deledu yng Nghaerdydd. Roedd yn 17 oed ar y pryd a newydd gael cynnig y gwaith yn stiwdio TWW - Television Wales and the West - ym Mhontcanna. Roedd yn gyfnod cyffrous i ddarlledu Cymraeg a Megan Tudur, a ddaeth wedyn yn berchennog ar Siop y Pethe yn Aberystwyth yn torri tir newydd i ferched ar y cyfryngau. A hithau ond yn
Talodd nifer o driglion Ton Pentre eu hymweliad olaf â Llyfrgell Ton, ddydd Gwener, 30 Mai er mwyn ffarwelio â'r staff a diolch iddynt am eu gwasanaeth dros nifer fawr o flynyddoedd. Bellach, mae'r llyfrgell wedi cau ei drysau am y tro olaf yn sgil toriadau'r Cyngor. Fe'i hagorwyd 29 Tachwedd 1973 a chafodd ei hadnewyddu wedi hynny yn 1995. Yn ystod y cyfnod
hwnnw, darparodd y staff wasanaeth ardderchog i'r ardal gyfan a gwelir eisiau'r ganolfan gan lawer o oedolion a phlant y Ton. Mrs Elaine Walters yw'r llyfrgellydd sydd wedi gwei-
TRISTWCH GWELD LLYFRGELL YN CAU
4
17 oed, fe gafodd sylw yn un o'r papurau mawr Prydeinig. "Roedd yna erthygl yn y Daily Mirror a'm llun i, [a'r pennawd] 'Britain's youngest TV announcer' " Ac yn ddiweddar mae wedi dod o hyd i doriadau papur newydd eraill y cyfnod. Mae un erthygl yn dyfynnu pennaeth TWW, Wyn Roberts, yn dweud eu bod wedi cyfweld nifer o ymgeiswyr am y swydd o ddarllen newyddion yn y Gymraeg "ond pan glywson ni Megan, fe benderfynon ni bod ei llais a'i phersonoliaeth yn ei rhoi ymhell ar y blaen." Wrth drafod y bwletinau newyddion cynnar mae'n dweud bod y cyfan "yn cael ei wneud yn gyflym. Amser hynny roeddech chi'n cael y newyddion ryw dri munud cyn mynd yn fyw ar yr awyr." Yn 1959 doedd dim autocue lle roedd y geiriau yn ymddangos yn lens y camera o'i blaen. Yn hytrach roedd y straeon yn cael eu teipio a'u darllen oddi ar bapur yn fyw o flaen y camera. Byddai Megan Tudur yn teithio ar y bws o'i chartref yn y Rhondda i Gaerdydd er mwyn cyflwyno pum munud o fwletin newyddion cyn y rhaglen Gymraeg ddyddiol oedd i
thio yno hiraf gyda'i gwasanaeth yn ymestyn dros 25 mlynedd. Dechreuodd weithio yno yn 1974 pan oedd Cyngor Bwrdeistref y Rhondda yn gyfrifol am ei rhedeg. Penderfynodd Elaine fod yr adeg wedi dod nawr iddi ymddeol ac mae pawb yn yr ardal yn dymuno iddi ymddeoliad hir a hapus. Roedd pawb oedd yn bresennol hefyd
ddechrau am bedwar y prynhawn. "Roeddwn yn darllen dros ffilmiau nad oeddwn i wedi eu gweld o'r blaen, dim ond yn frysiog. Roedd e'n waith diddorol iawn." Ar ddiwedd haf 1959 fe gafodd gynnig swydd yn cyflwyno'r newyddion yn llawn amser, ond erbyn hynny roedd hi wedi cael ysgoloriaeth i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac i'r fan honno yr aeth hi. "Fues i'n gwneud [y gwaith cyflwyno newyddion] pob gwyliau tra fues i yn y Coleg," cofia'r fam-gu sydd bellach yn 72 oed. Ar ôl graddio, bu'n dysgu Ffrangeg, Lladin a Chymraeg yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ac yn parhau i ddarledu ar Radio Cymru yn ogystal â chadw Siop y Pethe yn Aberystwyth. Cywiro Camargraff Fis Mawrth, bu farw Eirwen Davies ac ailadroddwyd y camargraff mai hi oedd y ferch gyntaf i ddarllen y newyddion yn yr iaith Gymraeg ar deledu, a hynny ar ddechrau'r 1960au. Mae Megan yn awyddus i gywiro camargraf trwy dynnu sylw at y ffaith mae hi oedd y ferch gyntaf i wneud y gwaith. "Beth sy'n bwysig yw bo fi eisiau cywiro'r camargraff mai Eirwen Davies oedd y ferch gyntaf i ddarllen y newyddion yn Gymraeg, pan oeddwn i wedi bod yn gwneud yn ifanc iawn, yn 17, ond nid llawn amser, rydw i'n fodlon cyfadde' hynny" am ddiolch i weddill staff y llyfrgell am sicrhau gwasanaeth effeithiol a chyfeillgar ar hyd y blynyddoedd. O hyn allan bydd llyfrgell symudol yn ymweld â'r ardal bob yn ail dydd Mawrth rhwng 11 a.m. - 3.50 p.m. Bydd y fan yn aros mewn 12 man ar draws y ward. Ceir rhestr o'r mannau aros hyn ar wefan www.rhondda-cynontaff.gov.uk/llyfrgelloedd Graham Davies John
newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA
TREHERBERT
Nid am y tro cyntaf, mae cwmni yn ymgynghori â'r gymuned leol ynglŷn â'i gynllun i ddatblygu hen safle Pwll Glo Fernhill. Y bwriad yw codi 200 o dai a chreu 100 o swyddi ar y safle. Bydd y prosiect yn cynnwys sefydlu fferm bysgod, cynhyrchu llysiau o dan wydr, siopiau, swyddfeydd, meddygfa ac uned ynni adnewyddol. Bwriedir hefyd godi ffordd newydd ar hyd yr hen reilffordd y tu ôl i Brook St a Heol Blaenrhondda er mwyn gwneud y safle'n haws ei gyrraedd. Amcangyfrifir y bydd y gost rhwng £60 - £80 miliwn ond disgwylir cael grantiau trwy Lywodraeth Cymru. Roedd diwrnod olaf Mai yn un trist i'r ardal gyfan wrth i Lyfrgell Treherbert a'r Clwb Ieuenctid gau eu drysau am y tro olaf. O hyn ymlaen bydd llyfrgell symudol yn ymweld â'r ardal. Cyflwynwyd tystysgrifau i aelodau'r Clwb Ieuenctid i gydnabod eu cyfraniad i fywyd y Clwb dros y blynyddoedd. Bwrw pleidleisiau yn yr Etholiad Ewropeaidd oedd y defnydd olaf a gafodd yr adeilad hwnnw cyn cau ond mae pawb yn gobei-
thio y bydd modd ei ailagor maes o law. Yn y cyfamser, bydd y dosbarth Meithrin yn symud i mewn i'r Clwb Ieuenctid yn dilyn y tân diweddar yn y Pafiliwn yn y parc a amddifadodd y plant o'u man cyfarfod. Ddydd Iau, 5 Mehefin, roedd Cwmni Egni Vattenfall yn dathlu gosod y sylfaen ar gyfer y cyntaf o'r 76 twrbein a fydd yn ffurfio fferm wynt Peny-cymoedd. I nodi'r achlysur, daeth nifer o westeion i babell ar gae rygbi Tynewydd i wrando ar araith gan Piers Guy, Cyfarwyddwr Datblygu'r cwmni oedd y pwysleisio pwysigrwydd y fenter i economi'r ardal. Siaradwyd hefyd gan Emyr Roberts, cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol Cymru a bwysleisiodd bwysigrwydd y prosiect i'r amgylchedd. Llongyfarchiadau i Phillip Parsell, gynt o Fryn Heulog, ar ei ddyrchafiad yn Is-swyddog (Petty Officer) yn y llynges. Mae Phillip yn gynddisgybl o Ysgol Gymraeg Ynyswen ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Blin yw cofnodi marwolaeth Harold Hope, Stryd y Capel, Blaencwm. Roedd Harry'n gymeriad unigryw,
yn sosialydd rhonc a siaradai heb flywyn ar dafod. Hanai o ogledd Lloegr ond wedi dod i'r ardal, dysgodd Gymraeg ac ymddiddori ym mhopeth Cymreig. Cydymdeimlwn â'i weddw, Beryl yn ei hiraeth. Daeth newyddion hefyd am farwolaeth Christopher Owen, gynt o Stryd Dumfries ac yntau'n 67 oed. Symudodd Christopher o Dreherbert i'r Barri ac wedyn i Gernyw lle roedd yn Ymgynghorwr Ymarfer Corff. Yn ei ieuenctid roedd yn chwaraewr rygbi a nofiwr penigamp. Cydymdeimlwn â'i wraig, Susan a'i ferched Gale a Sally yn eu colled. Bu farw Gladys Gardner, Stryd gwendoline yn 90 oed. Er gwaethaf ei hoedran, llwyddodd Gladys i chwarae rhan lawn ym mywyd yr ardal. Roedd yn aelod o gôr y WI ac yn nofwraig frwd. Cefnogai'r ymgyrch i gadw Pwll Nofio Treherbert yn frwd. Gwelir ei heisiau mewn sawl cylch. Cofiwn am ei theulu a'i ffrindiau yn eu colled.
TREORCI
Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor Ymchwil i Cancr UK Treorci
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: TESNI POWELL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN noson gaws a gwin yn Neuadd Sant Matthew. Cafodd pawb fodd i fyw yn gwrando ar Mr Tom Phelps, Treherbert yn darllen storiau doniol a hwyl fawr wrth chwarae bingo o dan arweiniad Pauline Worman. Mae'r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn i'r ddau am roi o'u hamser i helpu'r achos teilwng hwn a sicrhau bod y noson yn llwyddiant ysgubol. Cafodd aelodau Clwb yr Henoed ddiwrnod dymunol iawn ar 'daith ddirgel' a drefnwyd gan Eira a Joyce yn ddiweddar. Diwedd y daith Llwydlo / Ludlow lle y cafodd pawb gyfle i grwydro strydoedd y dref hanesyddol hon. Diolch i Eira a Joyce am wneud
PARHAD ar dudalen 8
5
BYD BOB
Trafod ein breuddwydion mae Bob Eynon y mis hwn. Mae pob un ohonom ni'n breuddwydio o bryd i'w gilydd. Rydym yn breuddwydio am fod yn gyfoethog, yn enwog efallai, neu yn bwerus. Fe ddechreuais i freuddwydio am y dyfodol yn gynnar yn fy mywyd - breuddwydio am fynd i'r ysgol ramadeg ac yna ymlaen i'r brifysgol. Roeddwn i'n breuddwydio hefyd am allu prynu pethau neis i fi fy hunan. Rwy'n cofio treulio llawer o amser yn edmygu Sunbeam Rapier coch a gwyn gorliwgar iawn oedd yn yn
sefyll yn ffenest garej yn Cemetery Road, Y Porth a breuddwydio am ei feddu ryw ddiwrnod. Yna, byddai hen fws yr ysgol yn dod i fynd â fi adref i Dreorci. Byddai'n rhaid i fi aros am bedair awr ar hugain i weld fy nghariad eto. Pan ddiflannodd y Sunbeam o'r ffenest un prynhawn, roedd fel colli rhan o'm bywyd. Chwe blynedd yn ddiweddarach, tra oeddwn yn hyfforddi fel athro ifanc yn Llundain, fe syrthiais mewn cariad â Vanden Plas 4 litr. Roedd e'n perthyn i hen athro o'r enw Nelkon oedd wedi gwneud ffortiwn trwy ysgrifennu llyfrau gwyddoniaeth i ddisgyblion. Fe ddaliais i feddwl am y car pwerus yna am ddeng mlynedd nes i bris petrol fynd trwy'r to yng nghanol y saithdegau. Ers y pryd hynny rwy wedi bodloni ar geir bach fel Minis, Novas a Corsas. Dw i ddim eisiau llenwi'r tanc bob yn ail filltir! Tra oeddwn i'n astudio mewn prifysgol yn Sbaen, ymwelais â Santender. Roedd bryniau'r dref yn llawn tai mawr hyfryd oedd yn edrych dros y môr ac a oedd yn
debyg i balasau. Fe addewais y byddai un ohonyn nhw'n perthyn i fi ryw ddiwrnod... Wel, dw i erioed wedi prynu car drud pwerus ac rwy'n dal i fyw yn y tŷ teuluol yn Nhreorci. Ond roedd fy hen freuddwydion i'n ddiniwed ac mae'n well 'da fi fod heb gar drud a phalas na byw heb freuddwydion. Maen nhw'n dweud bod Wayne Rooney, y peldroediwr, yn ennill tri chan mil o bunnau bob wythnos. Fe allai e fforddio prynu Sunbeam Rapier, Vanden Plas 4 litr a thŷ yn Santander bob mis. Tybed beth ydy ei freuddwydion e? Bod yn berchen ar y lleuad efallai! *************************** Roedd twrist yn cerdded mewn parc yn Iwerddon. Sylwodd e ar ddau ddyn yn gweithio wrth ymyl y llwybr. Byddai un ohonyn nhw'n torri twll â rhaw ac yna byddai'r ail ddyn y llenwi'r twll â phridd eto cyn symud ymlaen. "Esgusodwch fi," meddai'r twrist 'Pam rydych chi'n torri twll ac yna'n ei lenwi eto?" "A," meddai'r dyn cyntaf, "mae trydydd aelod ein tîm ni'n sâl. Hwnnw sy'n plannu'r coed!"
n tan r sta Try Trrys Doedd T ddim yn gwybod ad am sut i siarrad G eth. iselder Gar n curo gelyn mwyn Err mwy g,, byddai bod yn drwg drw ninja yn helpu, ond dim d mae Gareth ad siara ond siar eisiau ei wneud.
Trystan Gareth Does dim angen i chi fod yn ninja. Pan fydd gan rywun rydych yn ei adnabod broblem iechyd meddwl, byddwch yn arbennig drwy fod yn ffrind. wybodaeth: bit Rhagor o wybodaeth: bit.ly/byddynffrind .ly y/byddynffrind
ams amserinewidcymru.org.uk erinewidcymru.org.uk
WYNFORD VAUGHAN TOMOS A VAL DOONICAN
Pam y ddau enw hyn? Wel, dim ond oherwydd eu bod nhw'n engraifftiau o sut aeth pethe'n anodd yn ystod fy ngyrfa fel Pennaeth Adloniant gyda Chyngor Ogwr! Mae'n rhaid i mi gyfadde 'mod i wastad wedi bod yn "ffan" o Val Doonican - ac nid oherwydd'i siwmpers lliwgar na'r gadair siglo. Crwner oedd yn perchen ar lais hyfryd o esmwyth a phleserus. Gwerth nodi hefyd bod ganddo draw perffaith neu"perfect pitch" sy ddim ar bob achlysur yn help i ganwr. Ta waeth, nid hawdd oedd ei berswadio fe i ddod i Borthcawl i roi cyngerdd ond yn y diwedd roedd y cytundeb wedi'i arwyddo a'r tocynnau yn gwerthu'n gyflym am y ddau berfformiad. Os dw i'n cofio'n iawn, ym mis Hydref roedd y gyngerdd ac o ni'n disgwyl mlaen yn fawr at noson bleserus iawn. Dychmygwch y sefyllfa. Cynulleidfa lawn i mewn ar gyfer y perfformiad cynta ond dim argoel o Val. O'r diwedd dyma neges ffôn i ddweud'i fod e wedi ei ddal yn y traffig ar Bont Hafren. Noson wyntog iawn a'r bont ar gaeu Aros oedd e i'r bont agor ac yn bwriadu cyrraedd cyn gynted ag oedd yn bosib. Roedd yn rhaid i mi esbonio'r sefyllfa i'r gynulleidfa gan obeithio y byddai Val yn cyrraedd cyn hir oherwydd o fewn rhyw awr a hanner bydde'r gynulleidfa'n dechrau cyrraedd ar gyfer yr ail sioe. Yn y diwedd, roedd hi'n amlwg na fydde'r seren yn gallu troi lan ac felly bu rhaid mynd trwy'r broses o ymddiheurio wrth y bobl a chymryd eu henwau ar gyfer talu'r arian tocynnau yn ôl. Pe baen ni'n gweithio mewn busnes masnachol dw i'n siwr y bydde modd talu nôl ar unwaith trwy arian parod, ond gan ein bod yn awdudrdod cyhoeddus, nid oedd hyn yn bosib. Yn y diwedd, gyda'r dorf y tu allan yn dechrau ffurfio ar gyfer yr ail berf-
formiad, a rhyw gant o bobol ar ôl yn gwneud'u ffordd allan, dyma Val yn troi lan ac yn galw ma's "It's OK, I've arrived!". Teimladau cymysg oedd gen i. Pam na allai e fod wedi cyrraedd rhyw hanner awr yn hwyrach fel bod y "first house" wedi diflannu. Peidiwch â gofyn sut gweithiodd y cwbl allan ond ryw ffordd neu'i gilydd fe aeth yr ail berfformiad ymlaen - er iddo gych-
wyn braidd yn hwyr - a hefyd, rywsut, fe lwyddwyd i ffitio pawb i mewn a phob un, gan gynnwys fi, wedi joio maes draw. Jobyn da na chyraeddodd Val hanner awr ynghynt neu bydde wedi bod yn sefyllfa anodd os nad yn amhosibl i'w datrys. Beth am y gŵr arall, Wynford Vaughan Tomos? Cawr yn sicr yn y maes darlledu. Ces i'r fraint o gwrdd ag e ar sawl achlysur. Fel y soniais yn yr erthygl flaenorol mi roedd e'n westai yn Steddfod y Glowyr. Gwerth nodi fan hyn bod tad Wynford, sef Dr David Vaughan Tomos, yn un o gyfansoddwyr mawr ein gwlad. Gŵr a gafodd siom fawr, o beth rwy'n deall, pan na chafodd y Gadair Gerddoriaeth
Y mis hwn mae Roger Price yn sôn am rai profiadau diddorol gydag enwogion yn ystod ei yrfa ym myd adloniant.
ym Mrifysgol Aberystwyth. Cefais sgwrs â Wynford ynglŷn â rhoi cyngerdd ymlaen dan enw "David Vaughan Thomas - The Man and the Music" ond yn anffodus nid oedd hyn yn bosib oherwydd bod Wynford yn ŵr mor brysur bron tan y diwedd. Ond, fel y dwedais, cwrddes i ag e sawl gwaith yn ystod fy ngwaith. Un adeg pan ddaeth e lawr i Ganolfan y Berwyn gydag Aeronwy, merch Dylan Tomos, a chawsom noson hyfryd yng nghwmni'r dau. Roedd Aeronwy yn ferch ddymunol iawn ac yn briod a bachgen, os dwi'n cofio'n iawn, oedd yn canu gyda Chôr Meibion Pendyrus. Achlysur arall oedd ym Mhorthcawl a Wynford yn un o'r panel "Any Questions" oedd yn cael ei ddarlledu'n fyw o'r Pafiliwn ar yr hen "Home Service". Dyma gwestiwn yn gofyn am farn y panel ar stad y ffenestri ar drenau (adeg British Rail oedd hyn). Ar y panel roedd Neil Kinnock, Isobel Barnet (o "What's my Line"), Ted Moult a wrth gwrs, Wynford. Pan ddaeth amser i Wynford roi'i ateb i'r cwestiwn, dyma fe'n dweud "......I don't know about the state of the windows on the trains but certainly some of the windows in the hotels here in Porthcawl could do with some cleaning!!....". O'n i'n gallu gweld gwaith ein Hadran Dwristiaeth yn cael'i danseilo mewn eiliad ond mae'n rhaid i mi ddweud na ddaeth unrhyw ymateb. 'Falle bod hyn yn dangos cyn lleied o bobl oedd yn gwrando ar y rhaglen, pwy a wyr? Ond engraifft arall sut roedd pethe'n gallu troi'n lletchwith heb unrhyw rybudd.
yr holl drefniadau. Pan fu farw Mrs May Jenkins, Heol Glyncoli, yn 100 oed, collodd yr ardal un o'i chymeriadau hynaf a mwyaf lliwgar. Llwyddodd i aros yn ei chartref hyd y diwedd gyda help gweithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd yn falch iawn o hynny. Yn un o 10 o blant, gwelodd lawer o dlodi yn ei bywyd ar adegau ond roedd yr aelwyd yn gyfoethog o ran crefydd a diwylliant. Fe'i magwyd yng nghapel Hermon a bu ei ffydd yn gynhaliaeth iddi ar hyd ei hoes. Roedd gan Mrs Evans gof ardderchog ac roedd ei gwybodaeth am ddatblygiad Treorci fel tref yn ddi-ail. Cydymdeimlwn â'i phlant, Arwel a Mairwen a'r teulu oll yn eu colled. Daeth torf fawr ynghyd
8
yn Hermon i wasanaeth coffa Mr Robert Webster, Y Stryd Fawr a fu farw 2 Mai ar ôl cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Roedd Bob yn adnabyddus yn yr ardal fel cyn-berchennog siop Decomate. Talwyd teyrnged bersonol ardderchog iddo gan ei frawd yng nghyfraith, Parch Eirian Wyn, Brynaman a lywiodd y gwasanaeth ac roedd maint y gynulleidfa'n ernes o'r parch at Bob yn y gymdogaeth. Cofiwn am ei wraig, Gaynor a'i blant, Helen, June ac Emyr yn eu profedigaeth. Roedd pawb yn flin i dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr John Page, Y Stryd Fawr. Roedd John yn gynaelod o staff Dŵr Cymru lle y gweithiai fel plwmwr. Cofiwn am-
dano hefyd fel arlunydd talentog a gyfrannodd yn helaeth i weithgareddau Cymdeithas Gelf Ystradyfodwg. Bu farw ei wraig, Evelyn, rai blynyddoedd. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn Eglwys Sant Pedr, Y Pentre.Cydymdeimlwn â'i unig ferch, Alyson yn ei cholled. Traddodwyd darlith bwerus i aelodau Cymdeithas Ddinesig Cwm Rhondda gan eu llywydd, Athro Dai Smith yn Neuadd y Dderwen ar 16 Mai. Daeth cynulleidfa deilwng iawn ynghyd i wrando arno'n pledio ar yr awdurdod lleol i wneud defnydd o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol gyfoethog i gryfhau ein bywyd cymdeithasol ac economaidd. Yn dilyn y ddar-
lith, cafwyd trafodaeth fywiog. Yn 57 oed, bu farw Mair, merch Mrs Clarice Lewis a'r diweddar Meirion Lewis, Stryd Senghennydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Trwy gydol ei hoes, cafodd ofal tyner gan ei rhieni, ei chwaer, Menna a'i modrabedd Mary Maud Edwards a Nanna Lewis. Oherwydd hynny, er gwaethaf ei hanabledd, cafodd fywyd llawn a hapus gan fwynhau gwyliau, ymweliadau â ffrindiau a chymdeithas gynnes a chlos cymdogion ac aelodau Capel y Parc. Yn ystod ei blwyddyn neu ddwy olaf, derbyniodd ofal caredig gan staff Cartref Gofal Pentwyn ac Ysbyty Brenhinol Mrgannwg. Cydymdeimlwn â'i mam, Clarice Lewis, ei chwaer,
Menna a'r teulu oll yn eu profedigaeth. Pen-blwydd Hapus i Mary Cynan Jones, Stryd Hermon sy'n dathlu 21 Mehefin ac i'r Cyngh. Emyr Webster o'r un stryd oedd hefyd yn dathlu ddiwedd Mai. Roedd pawb yn drist yn derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Nan Price, Prospect Place. Nan oedd gweddw'r canwr adnabyddus, Harry Price ac yn fam i David a Catherine. Roedd yn aelod brwd o'r WI lle y canai yn y côr ac roedd hefyd yn aelod yn eglwys Bethlehem. Mynychai gyfarfodydd Clwb yr Henoed yn ffyddlon. Fe'i hadnabyddid yn y gymdogaeth fel person cyfeillgar a charedig
a gwelir ei heisiau'n fawr mewn sawl cylch. Cydymdeimlwn â'r plant a'u teuluoedd yn eu profedigaeth. Cafodd pawb hwyl yn y 'Big Gig' a drefnwyd ddechrau Mehefin ar yr Oval gan y Clwb Rygbi. Er na fynychodd gymaint ag arfer, fe gafodd pawb amser da. Bydd y clyweliadau ar gyfer Rhondda's Got Talent' yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn, 21 Mehefin yn Neuadd y Dderwen, Heol y Fynwent. Am ragor o fanylion, ymwelwch â www.rhonddasgottalent.org Mae eglwysi'r ardal yn diolch i bawb a fu'n casgluyn Nhreorci yn ystod wythnos Cymorth
Cristnogol ac i'r cyhoedd am fod mor barod i gyfrannu i'r achos dyngarol hwn. Pob dymuniad da i Mr Ken Davies, Stryd Bute sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Dymunwn iddo adferiad llwyr a buan.
CWMPARC
Llongyfarchiadau i Ysgol y Parc sy wedi bod yn llwyddianus iawn yng Ngwyl Y Gleision ar 16 Mai ar y maes G4 newydd. Fe sgorion nhw 34 cais ac ildio ond 12 pwynt. Pennod arall lwyddianus i dîm rygbi Ysgol y Parc sydd yn ymarfer bob dydd Llun dan arweiniad eu pri-
fathro, Mr. David Williams. Chwaraeodd pawb eu rôl - Jacob a Dylan 6 chais, Ethan, Shay a Diesel 5 cais yr un, Aliyah a Darcey 2 gais yr un, a Lewis, Owen a Cailum gydag 1 yr un.
Daethpwyd o hyd i ddarn arian Celtaidd, gan Phil Wilde, Heol Conway, wrth iddo fe chwilio am fetel ym mis Mawrth. Mae Phil, sy wedi bod yn chwilio am fetel ers 5 mlynedd, yn aelod o'r grŵp Cardiff Scan, sy'n cynnwys tua 30 aelod. Roedden nhw chwilio ar fferm ger Caerwent pan ddaeth e o hyd i'r darn arian. Gwelodd e'r aur yn disgleirio yn y pridd. Ers
9
hynny mae e wedi ffeindio ma's taw darn arian yn perthyn i lwyth Dobunni yw e. Roedd y llwyth 'ma yn byw ym Mhrydain cyn y goresgyniad Rhufeinig. Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys lle mae gogledd Gwlad yr Haf, Byiste a Swydd Caerloyw nawr. "Corinium Dobunnorum" oedd enw eu prifddinas, lle mae Cirencester yn sefyll heddiw. Mae'r darn arian yn grwn ac yn gafniog. Arno fe mae dyluniad o geffyl ac olwyn trol, ac ar y cefn mae rhedyn. Cyn dod o hyd i'r darn hwn, bu Phil yn llwyddianus yn ffeindio modrwyau, sawl darn arian arall ynghyd â bwyell o'r Oes Efydd. Mae rhai o'r rhain yn perthyn i oes Edward I.
Bydd 'Te Mefus' yn neuadd Eglwys San Siôr ar 11 Mehefin (dydd Mercher) am 3:30 y prynhawn. Bydd yr holl elw yn mynd i Ofal Canser y Fron.
Hefyd yn neuadd Eglwys San Siôr bydd Ffair Haf, ddydd Sadwrn, 23 Mehefin am 10:30 y bore. Bydd amrywiaeth o stondinau yn cynnwys stondin cacennau, stondin poteli, bric a 10
brac, chwaraeon a lluniaeth.
Penblwydd Hapus i Denise Smith, Parc Crescent a fydd yn 70 ar 3 Gorffenaf. Mae Denise yn waithgar iawn yn eglwys San Sior, ac yn gwneud lot i helpu pobl eraill yn y gymuned, yn cynnwys ymweliadau i roi'r cymun i hen bobl yn eu cartrefi ac yn yr ysbyty.
Y PENTRE
Siwrnai dda a llawer o ddiolch i'r Dr Anne Brooke am ei chyfraniadau i'r Gloran wrth iddi droi am adre' i'r Unol Daleithiau. Braf oedd cael ei chwmni am fis neu ddau. Dyma'i cholofn olaf am y tro ond mawr obeithiwn y bydd hi nôl yn ein plith cyn bo hir. Braf yw deall bod y CO-OP BWYD newydd yn siop Morgan's News yn Stryd Llywelyn wedi dod yn boblogaidd iawn erbyn hyn. A does dim rhyfedd o ystyried y dewis o fwyd lleol ffres mae Nicola Morgan yn ei gynnig inni bob wythnos, sef llond bocs o lysiau neu ffrwythau neu salad neu 'stir-fry' a hynny am £3 yn unig. Wrth gwrs, mae pob
croeso i bobl archebu'r cwbl lot yr un pryd! Y drefn yw archebu ar ddydd Mercher a chael y bwydydd yn eu tymor y dydd Mercher canlynol. Dyna ichi fargen, heb sôn am yr hwylustod o gael gwasanaeth fel 'na ar stepen y drws. Dylai pob un ohonom fod yn ddiolchgar i Nicola am fentro i faes busnes newydd ar ein rhan yn ystod y dyddiau ariannol gythryblus hyn. Bydd pawb yn falch o glywed bod Mrs Irene Davies, Tŷ'r Pentre yn cyrraedd 100 oed ar 13 Mehefin. Bydd y 'Pentrefwyr' i gyd am ddymuno Pen Blwydd Hapus Iawn i chi, Irene gan obeithio y cewch chi ddiwrnod perffaith o haf ar gyfer eich dathliad gyda'r teulu. Llawer o ddiolch i breswylwyr Llys Nasareth a Llys Siloh am gyfrannu £50 rhyngddynt at gronfa Cymorth Cristnogol yn ystod yr ymgyrch diweddar. A diolch yn arbennig i Pauline Gregory, warden llys Nasareth am roi help mawr gyda'r casglu dim ond ychydig oriau cyn cychwyn ar daith i Israel. Torcalonnus oedd gweld Canolfan Dydd Stryd Llywelyn yn cau ar ddiwedd mis Mai. Ond ar yr un pryd, dyna'r pensiynwyr lleol yn trefnu trip i Weston-super-Mare ar gyfer 18 Mehefin. Gobeithio y bydd modd iddynt drefnu digwyddiadau a gweithgareddau tebyg i'r dyfodol.
TON PENTRE A’R GELLI
Ymddiheuriwn i ohebwyr a darllenwyr y golofn hon am gymysgwch y mis diwethaf. Dyna pam mae rhai o eitemau'r mis hwn yn ymddangos yn hwyr. Gol. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth a chanu yn Theatr y Ffenics yn ddiweddar pan gyflwynwyd dwy sioe gan bobl ifainc yr ardal. Perfformiwyd y sioe liwgar 'Jungle Book' gan blant iau Cwmni Spotlight o dan arweiniad Mrs Pat Evans. Yna, cafwyd perfformiad anhygoel o 'Les Miserables gan bobol ifainc Cwmni Act 1 o dan gyfarwyddyd Mr Rys Williams a Mr Peter Radmore. Llongyfarchiadau i bawb am eu gwaith caboledig. Y siaradwr yng nghyfarfod misol y Clwb Cameo oedd Parch Robin Samuel, aelod o staff Cymorth Cristnogol a amlinellodd y gwaith dyngarol a wneir gan yr elusen honno yn estyn help llaw i dlodion ledled yr Affrig, Syria ac Irac. Bydd cynrychiolydd o Age Concern yn annerch y cyfarfod nesaf. Dros y Grawys, cynhaliwyd boreuau cawl a bara yn y Capel Cynulleidfaol Saesneg gyda'r holl elw yn mynd at gronfa Cymorth Cristnogol. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mr David Davies, Gelli Fron. Roedd David yn adnabyddus yn yr ardal
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
YSGOLION
Ar Ddydd Mawrth, y cyntaf o fis Ebrill cystadlodd Ysgol Gyfun Treorci yng nghystadleuaethau’r Eisteddfod yr Urdd yn Ysgol Gyfun y Cymer. Roeddynt yn canu ac yn adrodd. Alicia Stanton, merch iaith gyntaf o flwyddyn 8 a oedd yn adrodd darn “Capel Celyn,” ar ben ei hun yn erbyn pump o blant Cymer a Rhydywaun. Cafwyd perfformiad brwdfrydig a oedd yn bleser i’w gweld hi yn ôl ar y llwyfan eto eleni. Mi roedd hi’n llawn haeddu y drydedd wobr.Adrodd hefyd a wnaeth disgyblion Blwyddyn Saith ail iaith yr ysgol. Enw’r darn y gystadleuaeth cyd-adrodd eleni oedd “Cym on reff,” Cafwyd arddangosfa egniol a chyffrous gan y disgylbion. Cafwyd perfformiad da gan gôr Merched Blwyddyn 7 i 9 o’r darn Coch Bach y Bala. Braf oedd clywed y côr ifanc yma yn cystadlu ac roedd safon y gystadleuaeth yn uchel. Yn anffodus ni lwyddwyd i gyrraedd y brig y tro hwn. Er na phrofwyd llwyddiant eleni, hoffwn longyfarch yr ysgolion buddugol a dymunwn pob lwc iddynt yn y Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala eleni. Mwynheuodd y disgyblion y profiad yn fawr ac edrychwn ymlaen at gystadlu eto y flwyddyn nesaf.
YGG Bodringallt Wedi gwaith caled y plant a'r staff dyma restr disgyblion Bodringallt fydd yn teithio'r holl ffordd i'r Gogledd yn ystod eu hanner tymor er mwyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Seren Lawthom a Mia Rosser - deuawd Ellie Brown- unawd piano Parti recorders Côr Adran YGG Bodringallt Dymunwn bob lwc iddynt Eisteddfod yr Urdd 2014
Eisteddfod Genedlaethol 2014 Mae plant ac athrawon YGG Ynyswen wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn y Bala. Ar Ddydd Llun bydd Jac Thomas yn adrodd; Ava Plummer yn canu a Xander Evans yn chwarae’r recorder. Yn ogystal â hyn, bydd Shakira Evans, Xander Evans, Eleri Kinsey, Carys Lewis a Kayleigh Lewis yn cystadlu yn y gystadleuaeth ‘Ensemble Offerynnol’. Bydd diwrnod prysur arall ar Ddydd Mawrth gyda Carys Lewis yn canu ac yn cystadlu yn yr unawd pres; Ellie Glover yn chwarae’r ffiidil; band pres Ynyswen yn perfformio a pharti deulais yn canu’n swynol. I orffen y cystadlu, bydd côr adran YGG Ynyswen yn perf-
YGG YNYSWEN BRONLLWYN BODRINGALLT YG TREORCI CYMER RHONDDA
Ffenics gan ddechrau am 7.15pm bob nos. Mae tocynnau ar gael yn y theatr am £9. Bachwch nhw'n gynnar! Yn ddiweddar, cynhaliwyd y gwasanaeth coffa blynyddol i'r glowyr a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Pwll y Cambrian Fel arfer, daeth nifer fawr o bobl i safle'r pwll ym mhen uchaf Cwm Clydach i gofio'r achlysur. Bu farw 31 o ddynion pan ddigwyddodd y ddamwain yn 1965 ac roedd y gwasanaeth yng ngofal un o'u cyd-weithwyr ar y pryd, Mr Bill Richards sydd wedi sgrifennu nifer o gyfrolau yn cofnodi hanes Cwm Clydach. Cymerwyd rhan hefyd gan y Parch Phillip Leyshon, Eglwys Sant Thomas a chafwyd eitemau cerddorol gan blant Ysgol Cwm Clydach a Chôr meibion Cambrian. Gosodwyd blodau ar y garreg goffa i gofio am yr holl lowyr a laddwyd yn y pwll rhwng 1900 - 1965. Llongyfarchiadau i Hannah a Matthew James, Stryd Upper Canning ar enedigaeth eu merch, Maisey Olivia, wyres i Pamela a Cafan Crowley, Y Parêd. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i deulu y ddiweddar Mrs Maisey Lewis, Maindy Crescent, a fu farw'n ddiweddar. Maisey oedd gweddw cyn-brifathro Ysgol Gynradd y Ton, Mr Mel Lewis. Cofiwn am y meibion a'u teuluoedd yn eu profedigaeth.
YSGOLION
fel plismon. Cofiwn am ei deulu yn eu profedigaeth ynghyd â theuluedd Mr Kenneth Nevin, Stryd Rees a Mr Leslie Skym, Stryd Victoria. Pob dymuniad da i Mr Dave Woods sydd newydd symud o Dŷ Ddewi i Dŷ'r Pentre. Brodor o'r Pentre oedd Dave cyn iddo symud i fyw yn Nhŷ Ddewi gyda'i wraig, Irene. Tristwch inni yw cyhoeddi marwolaeth un o drigolion mwya' adnabyddus ac uchel ei pharch yn yr ardal, sef Mrs Elma Roberts a fu farw'n ddiweddar yn 84 oed. Chwaraeodd Elma ran flaenllaw ym mywyd yr ardal yn enwedig fel llywydd y gangen leol o'r WI. Cynhaliwyd y gwasanaeth coffa yn Eglwys Steffan Sant, Ystrad o dan ofal y Parch Peter Gale. Estynnwn ein cydymdeimlad i'w merched Jennifer a Lynne ynghyd â'r teulu oll yn eu hiraeth. Yn dilyn eu Te Gwanwyn llwyddiannus, aeth aelodau'r Clwb Cameo ar wibdaith siopa i Gaerfyrddin a chael amser da yn crwydro'r dre ac yn ymweld â'r farchnad. Mae'r aelodau am ddymuno penblwydd hapus iawn i Crinllys Davies, a ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl ymgymryd â swydd ysgrifennydd y gymdeithas am flynyddoedd lawer. Bydd grŵp theatr Act 1 yn cyflwyno'r sioe gerdd 'Ghost' rhwng 26 - 29 Mehefin yn Theatr y
11
Taith Tag Ar y 21ain o fis Mawrth aeth disgyblion Blwyddyn 8 a 13 Ysgol Gyfun Treorci, i gymryd rhan yn y rhaglen Gymraeg ‘Tag’ , rhaglen sy’n cael ei ffilmio yn stiwdio ‘Boom Plant’ yng Nghaerdydd. Rhaglen gylchgrawn ydy Tag, sy’n cael EISTEDDFOD YR URDD YN Y BALA ei ddarlledu’n fyw bob nos Wener ar Llongyfarchiadau i bawb o'r Rhondda a S4C. Mae’r rhaglen yn croesawu fu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Cipi- gwesteion arbennig ac yn edrych ar odd Seren Haf Macmillan, Ysgol y Cymer ffasiwn, ffilmiau, cerddoriaeth a’r gajets diweddaraf. y wobr gyntaf am Lefaru Unigol Bl. 10 a Cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd ag daeth Parti Merched Bl. 7,8 a 9 o'r un ysgol yn ail. Enillodd Côr y ¸wm ei adran Elin Llwyd a Geraint Hardy a oedd yn cyflwyno’r rhaglen. a daeth côr Bl. 6 Bodringallt yn ail. Ail. Roedd merched Blwyddyn 8 wrth eu hefyd oedd grŵp Dawns Werin Bl. 6 Ysgol bodd yn modeli dillad steil y band ‘LitLlwyncelyn. Cafodd Llwyncelyn lwyddi- tle Mix’ ar y rhaglen. ant mawr yn y cystadleuthau dawnsio gan Mwynheuodd pawb y profiad; ac roedd i Grŵp Bl. 4 ddod yn drydydd hefyd. Yn yn gynhyrfus iawn gan nad oedd hawl olaf, llongyfarchiadau i Carys Lewis, gwneud camgymeriad gan fod y rhaYsgol Gymraeg Ynyswen a ddaeth yn glen yn fyw! ail yn yr unawd pres Bl.
formio ar Ddydd Mercher. Rydym yn croesi ein bysedd y bydd Ynyswen yn cyrraedd y llwyfan ac yn dymuno pob lwc iddynt yn Eisteddfod Genedlaethol Bala 2014. POB LWC Ynyswen!
TAITH TAG TREORCI
GWAITH YNYSWEN