Gloranmehefin15

Page 1

y gloran

TRO I GOREA

20c

Llun - Palas Gyeongbokgung

Adroddiad Rosa Baik o Gwmparc, am ei hymweliad diweddar â Chorea - gwlad ei thad.

Ar ddiwedd mis Ebrill es i Gorea i ymweld â fy chwaer Lucy yn

Seoul. Mae Lucy wedi byw yng Nghorea am dros flwyddyn erbyn hyn. Mae hi’n gweithio fel athrawes Saesneg mewn ysgol gynradd yno. Er bod fy nhad yn dod o Gorea, dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â’r wlad. Tro cyntaf hefyd i mi gwrdd â theulu mawr fy nhad. Roedd Lucy yn jocian bod Corea yn union fel Cymru achos bod mynyddoedd ymhobman ac mae'n bwrw glaw bob dydd - bron! Ond i fi lle cwbl wahanol oedd e... Parhad ar dudalen 3

Gweler tudalen 10 am hanes teulu Nerys Bowen ar ei ymweliad cyntaf i Eisteddfod yr Urdd


golygyddol l YSTYR 'Y GLORAN' Daeth neges i law oddi wrth Mike Ash, Y Pentre yn holi am ystyr enw'r papur hwn, 'Y Gloran'. Dyma gwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml, felly rhaid ceisio ei ateb. Yn ogystal â chodi'r cwestiwn, anfonodd Mr Ash yr adroddiad hwn o waith y newyddiadurwr lliwgar, David Owen [Morien] atom. Ond tybed ai dyma'r gwir esboniad o ysryr 'Gwŷr y Gloran', sef y llysenw oedd ar drigolion gwreiddiol yr ardal? 'Ers tro byd, llysenwid brodorion Ystradyfodwg y 'Wŷr y Gloran (pobol y gwt neu'r gynffon) Pa gwt? Cwt pwy? Sylwiff y darllenydd y defnyddir y fannod - y Gloran. Mae'n amlwg felly taw cwt arbennig a olygir. A minnau ar fynydd Penrhys - man a man i fi esbonio'r hanes am gwt sydd wedi achosi aml i frwydr mewn pentrefi tawel am fod trigolion Ystradyfodwg, o'r hynafgwr llwyd i'r llefnyn ifancaf, unwaith, os nad

ar hyn o bryd, yn barod i bwnio unrhyw un a feiddiai gyfeirio atynt fel '"Y Gloren'. Mae hanes yr ansoddair, fel y'i rhoddwyd i fi flynyddoedd yn ôl gan un o'r hen drigolion fel a ganlyn: Sawl cenhedlaeth yn gynharach prynodd rhywun o le yng nghyffiniau Aberdâr ferlyn gan un o drigolion Ystradyfodwg. Cododd dadl ynghylch yr anifail, a gwrthododd y perchennog ei drosglwyddo. Un noson, daeth y gŵr o Aberdâr a thwr o'i gyfeillion dros y bryniau, ac ar ôl dod o hyd i'r merlyn, roedden nhw ar fin mynd ag ef yn fuddugoliaethus i ben y mynydd, pan ddaeth llu o bobl Ystradyfodwg ar eu traws, a datblygodd frwydr rhwng y ddwy garfan. Cydiodd gŵr ifanc o Ystradyfodwg, oedd yn eithriadiol o gryf, yng nghwt y merlyn a chael help gan ei ffrindiau, Gafaelodd bechgyn Aberdâr ym mlaen y merlyn, a thynnodd y ddwy garfan am y gorau, gan gymryd am funud taw 'polyn bedwen haf' a ddefnyddid i brofi nerth plwyfi cystadleugar. Roedd bloeddiadau'r ddwy blaid i'w clywed yn y cwm islaw, ond ymlaen âi'r frwydr. Yn sydyn, torrodd Ariennir yn rhannol cwt y gan Lywodraeth Cymru merlyn, a roliodd Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gwŷr gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru YstradyCyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 2

y gloran

mehefin

fodwg i lawr y bryn, gyda'u gŵr cryf yn eu mysg a'r 'gloren' yn ei law. Aeth gwŷr Aberdâr i ffwrdd yn fuddugoliaethus gyda'r merlyn, gan adael ond ei gwt yn Ystradyfodwg. O'r adeg honno hyd heddiw, gwawdiwd y brodorion fel 'Gwŷr y Gloren'. Rai blynyddoedd yn ôl dangosodd hen ŵr fedd imi yn ymyl y wal ar ochr chith cyntadd eglwys plwyf Ystradyfodwg, sef bedd y gwron a gipiodd y gwt ar yr achlysur cofiadwy hwnnw'. Cyhoeddwyd y stori hon yn y 'Weekly Mail' ar 30 Awst 1884 ac mae'n deilwng o ddychymyg Iolo Morganwg ei hun, ond tybed ai dyma'r gwir reswm am enw gwaedlyd 'Gwŷr y Gloren'? Er gwaethaf y stori hon, nid dyna'r gwir. Bu llawer yn ceisio esbonio ystyr yr enw. Un esboniad oedd bod Cwm Rhondda yr un siap â chwt neu gynffon, ond byddai hynny yr un mor wir am Gwm Taf neu Gwm Cynon mewn perthynas â gweddill Morgannwg. Yr esboniad mwyaf credadwy yw bod Ystradyfodwg, gan taw 'Y' yw'r llythyren gyntaf yn yr enw, bob amser yn dod ar waelod unrhyw restr o blwyfi Morgannwg - ar ddiwedd y gwt. Ac felly, Gwŷr y Gloran! Hawdd yw esbonio sut yr aeth 'cloren' yn 'cloran', oherwydd yn nhafodiaith Morgannwg bydd '-en' ar ddiwedd gair yn troi'r 'an' e.e. teisen > tishan; bachgen > bachan. Gan taw enw benywaidd yw

YN Y RHIFYN HWN

Tro i Gorea...1 Golygyddol/Llythyron...2 Tro i Gorea parhad...3 Newyddion Lleol /Llythyron...5 ac 8-10 ‘Porth County’ adeg y Ryfel...6 Byd Bob ..7 Newyddion Lleol parhad..7 Tro Cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd...10-12 Ysgolion...11

'cloren', bydd 'y gloren' yn troi'n 'Y Gloran'. Golygydd

Llythyron

Annwyl Bawb, Heulyn ydw i a dw i’n gweithio i’r Gwasanaeth Addysg Oedolion yn Rhondda Cynon Taf. Wedi sgwrs gyda Cennard Davies es i ati i drefnu cwrs yn Llyfrgell Treorci ar ol y Pasg. Dw i’n gobeithio bod y cwrs wedi apelio at rai o ddarllenwyr y Gloran ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dynnu sylw ato yn eich cyhoeddiad. Mae’n gwrs addas i ddysgwyr da a Chymry Cymraeg iaith gyntaf. Mae nifer o gyrsiau cyfrwng Cymraeg yn digwydd ar hyn o bryd yng Nghanolfan Gartholwg, Pentre’r Eglwys ond y gobaith yn y dyfodol yw cynyddu’r ddarpariaeth yng Nghwm Rhondda. Os oes unrhyw awgrymiadau gyda chi byddaf yn fwy na pharod i gymryd cyngor. Hwyl,

Heulyn Rees [Canolfan Gydol Oes, Gartholwg, Pentre'r Eglwys CF38 1DX - Ffôn: 01443 203466]


TRO I GOREA

parhad

Braf iawn oedd gweld hen adeiladau traddodiadol Corea. Roedd palas Gyeongbokgung yn brydferth iawn wedi’i oleuo yn y nos. Lwcus oedden ni hefyd i weld perfformiadau dawnsio traddodiadol lliwgar tu fewn i’r palas. Mae’r celfyddydau yn rhan hanfodol o fywyd Corea sydd yn amlwg wrth weld yr adeiladau a’r gweithiau celf prydferth o gwmpas Seoul.

Tynnais i sawl llun o arwyddion yn Hangul (ysgrifen iaith Gorea). Rhyfedd oedd hi i weld ysgrifen wahanol ar arwyddion ffordd ac ar y siopau.

Ces i groeso cynnes oddi wrth aelodau’r teulu a phryd mawr o fwyd blasus ym mwyty enwog fy modryb yng nghanol Seoul. Diddorol oedd gweld bod sawl aelod o’r teulu fel fi yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth a sawl un ohonynt hefyd yn ennill eu bywoliaeth ym myd graffeg.

drosodd

3


TRO I GOREA

parhad

Mwynheais i fy nhaith i Seoul. Mae’n lle prydferth ac mae wastad rhywyn sy’n barod i helpu os ewch chi ar goll! Lle da i ymweld â fe. Roedd yr wythnos roeddwn i yno yn hedfan heibio ac yn sydyn dyma fi nôl ym maes awyr Inchon ar fy ffordd nôl i Gymru.

Llun o ganol Seoul a dau lun o’r teulu ym mwyty fy modryb a tu fa’s gyda theulu ein ewyrth mewn gerddi yn Seoul.

cariad@iaith 8.00 14–20 Mehefin Bwyta, cysgu, dysgu Cymraeg – her i wyth wyneb cyfarwydd yng nghwmni Wynne Evans a Nia Parry @s4cariad facebook/s4cariad

4


newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERT

Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Pat Evans, gweddw y diweddar Mr Gerald Evans, Ffynnon Las, Llwynypia. Ganed pat yn Nhynewydd, yn ferch i Lilian a John Phelps. Roedd Pat yn adnabyddus yn y cwm am ei gwaith ym myd y theatr. Hi oedd sylfeinydd Cwmni Theatr Spotlight a bu'n gyfrifol am gynhyrchu llawer o sioeau cerdd arbennig yn Theatr y Parc a'r Dâr. Yn ogystal, roedd ganddi gwmni yn gwneud gwisgoedd theatraidd. Gwelir ei heisiau'n fawr a chydymdeimlwn yn gywir iawn â'i theulu yn eu profedigaeth. Daeth torf fawr ynghyd ar orsaf Treherbert pan ddadorchuddiwyd hen garregagor twnel Blaencwm gan gyn-faer RhCt, y Cyng. John Watts. Cwmni Dewi Reynolds, Treorci oedd wedi adnewyddu'r garreg hanesyddol hon a chafwyd areithiau gan y ddau AC, Bethan Jenkins a Leighton Andrews a Geraint Davies. Pwysleisiodd y tri bwysigrwydd menter y twnel i adfywiad yr ardal. Cafwyd eitemau cerddorol gan ddisgyblion Ysgol Penyreng-

lyn. Bydd y garreg yn cael ei chadw ar yr orsaf tan iddi gael ei gosod unwaith eto wrth geg y twnel pan fydd yn ailagor. Ar 21 Mai cynhaliwyd Cymanfa Bedyddwyr De-ddwyrain Cymru yng Nghapel Blaencwm. Yn dilyn y cyfarfod, cynhaliwyd gwasanaeth dan ofal y Parch Phil Vickery o Gapel Blaencwm a phregethwyd gan ysgrifennydd newydd Undeb y Bedyddwyr, Parch Judith Morris. Dechreuwyd gwaith ar adnewyddu tafarn y Castle a fydd yn gartref newydd i Glwb Ceidwadol Treherbert. Bu'r adeilad yn wag am flynyddoedd ac mewn cyflwr truenus. Gobeithir y bydd yn barod ar ei newydd wedd erbyn mis Awst. Mae'r hen glwb yn Station St ar werth. Adeilad arall sydd ar werth yw'r llyfrgell ar y Stryd Bute. Eglwys Presbyteraidd Cymru biau'r cyn-gapel a gofynnir £80,000 amdano. Mae Menter Coed Cwm Saebren ar fin cyflwyno cais cynllunio i'r Cyngor am ganiatad i ddatblygu safle hydro-drydan. Bydd unrhyw elw a ddaw o'r fenter yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned leol. Mae rhai o blant yr ardal

sy'n mynychu Ysgol Gymraeg Ynyswen yn poeni am fwriad y Cyngor i godi tâl am gludo plant syn byw 1.5 -2 filltir o'r ysgol. Awgrymir codi £1.75 y diwrnod i bob disgybl a £1 i'r rheiny sy'n derbyn cinio rhad. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ymgynghori ar y cynllun ac mae'n bwysig iawn i bawb fynegi eu barn. Mae gobaith dechrau busnes gwneud dillad yn Nhreherbert ac mae'r prif hyrwyddwr, Phil Vickery, yn awyddus i gynweithwyr Burberry neu unrhyw un â sgiliau gwnio i gysylltu â fe ar 07814126849. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth Mrs Gwyneth Knowles, Stryd Dumfries oedd yn aelod selog yn Eglwys Sant Alban. Cyflwynwn ein cydymdeimlad i'r teulu. Trefnodd Capel Blaencwm daith gerdded noddedig ar 6 Mehefin i godi arian at apêl trychineb Nepal. Roedd y daith o gwmpas mynyddoedd blaenau'r Rhondda yn para tua 4 awr.

TREORCI

Er ei bod bellach yn byw yn Perth, Gorllewin Awstralia, mae Marilyn

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN

George [Pugh gynt] a arferai fyw ar y Stryd Fawr, yn dal cysylltiad â ffrindiau yn yr ardal ac ac am gael ei chofio'n gynnes iawn at ei chyfeillion yn yr ardal. Cydymdeimlwn â Mr a Mrs Ivor Phillips, River Terrace ar farwolaeth eu merch, Karen [Trembath], a hthau'n wraig ifanc ac yn fam i ddwy o ferched. Cofiwn yn arbennig am ei phriod, Barry a'r merched, Evie a Katy, yn eu galar. Ddechrau Mehefin aeth côr merched y WI i Gilfach Goch i gynnal cyngerdd. Mae hwn wedi dod yn ymweliad blynyddol a'r merched a'u harweinydd yn derbyn croeso tywysogaidd yno

PARHAD ar dudalen 7

5


'PORTH COUNTY' ADEG Y RHYFEL

Rhagor o atgofion Ivor Rees,Treherbert gynt, un o gyn-ddisgyblion yr ysgol Dechreuwydd pob bore gyda gwasanaeth byr yn neuadd yr ysgol o dan lywyddiaeth y prifathro, W. J. Howells M.Sc., dyn byr, tenau, heb unrhyw ymddangosiad o awdurdod nac arweiniad. Diacon gyda’r Bedyddwyr Cymraeg oedd Mr. Howells ond, fel y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn staff, byth yn defnyddio’r iaith yn ein clyw. Barn y bechgyn oedd ei fod yn byw yn ei fyd bach ei hunan. Cymeriad gwahanol iawn oedd ei ddirprwy, sef Frank Hemmings, pennaeth yr adran Mathemateg. Fel nifer o’r lleill, bu’n swyddog byddin yn y Rhyfel Mawr. Cafodd Hemming ei eni gyda dawn dysgu. Ymserchodd yn llwyr yn y gwaith o ddysgu bechgyn ac yr oedd yn 6

edifar nad aeth i ddysgu mewn ysgol breswyl. Soniodd wrthym am ei fagwraeth dosbarth canol Fictoraidd, lle ond y merched oedd yn helpu eu mam yn y gegin ac ond y bechgyn oedd yn glanhau holl esgidiau’r teulu. Hen ffrind iddo oedd yr athro a gymerodd ei le fel dirprwy ar ôl iddo ymddeol, sef T. R. Davies, pennaeth yr Adran Ffiseg. Daethant ar staff y Porth ar yr un bore yn 1910 gan rannu llety. Symudasant yn fuan gan iddynt hen flino ar gael pwdin reis bob dydd a dyma nhw’n postio pwdis reis yn ôl trwy’r blwch llythyrau. Dim ond i un o’r deuddyn hyn gerdded ar hyd y coridor byddai pawb yn symud o’r ffordd fel tonnau o flaen llong fawr. Roedd gan T. R. gansen yn ei law bob amser. Dim ond ar adegau y byddai Hemmings yn cario un.

Ymhen blynyddoedd cawsom T. R. yn arwain gweddiau’r bore, braidd yn filitaraidd ei ffordd: “Hands together, eyes closed, heads reverently bowed, Our Father...” Ni chlywais yr un gair o Gymraeg ar ei wefusau erioed ond yn y ’60 mi glywais gan y Parch. Elwyn Jones, Radnor Walk, nid yn unig iddo fedru’r Gymraeg ond ei fod yn ddiacon yn y Tabernacl, Ynysybwl.

Ar alwad y seiren! Ond cwpl o weithiau'n unig y canodd cyrn y pyllau glo i’n rhybuddio rhag perygl cyrch awyr. Nid oedd unrhyw noddfa yn yr ysgol a rhaid oedd rhedeg i dai penodedig ar waelod y rhiw. Yno y gorfodwyd bachgen arall a minnau i eistedd ar y llawr o dan y ford hyd nes i’r All Clear seinio trwy’r cwm. Yn y cyfamser, aeth y rhyfel ymlaen i mewn i’w

bedwaredd flwyddyn a phawb yn hir ddisgwyl am i rywbeth mawr ddigwydd. Digwyddodd trychineb ofnadwy i un o fechgyn ein dosbarth o Dynewydd, David Abraham. Daeth yntau a’i gyfeillion o hyd i fom yn eiddo i’r milwyr oedd yn gwersyllu yn Nhreherbert. Wrth iddynt gael sbort gyda’r bom, fe frwydrodd, gan ladd un bachgen, gwneud niwed i wyneb disgybl o ysgol y Pentre a darnau ohono yn mewnosod yng nghoesau David. Bu yn ysbyty Treherbert am amser maith, gan ddychwelyd i’r ysgol ar ddechrau’r flwyddyn ganlynol. Aeth criw ohonom i ymweld ag ef yn yr ysbyty – dim mynediad, wrth gwrs, ond agorwyd ffenestr er mwyn cael ymgom â’i gyfeillion. Awgrymodd un o’r criw y dylem, pob un, fynd â’n hoff lyfr i roi benthyg iddo. Ond, ni wnaethom sylweddoli bod yr ysbyty yn bwriadau eu cadw.

Militariaeth remp Yn ystod y flwyddyn honno cynhaliwyd arddangosfa filwrol yng Nghastell Caerdydd . Roedd y fath beth at dant bechgyn ifanc ac aeth rhyw ddeg ohonom ar y trên. Selsig a sglodion mewn caffi ac ymlaen wedyn i'r castell. I’n mawr siom nad oedd plant o dan oedran arbennig yn cael mynd i mewn heb cwmni oedolyn. Rhanwyd ni yn dri grŵp a phob grwp yn perswadio dyn i brynu’r tocynnanu. I mewn â ni yn ei gwmni ac wedyn ffarwelio gan grwydro o gwmpas a rhyfeddu at yr arddangosfa hon o arfau distrywiol.


BYD BOB

Ar ddiwedd mis Mawrth, fe ges i wahoddiad i fod yn feirniad yn eisteddfod Ysgol Gyfun Treorci. Rwyf wedi cael gwahoddiad i feirniadu'r gystadleuaeth ers blynyddoedd ac rwy'n edrych ymlaen at yr achlysur bob blwyddyn. Ond eleni fe ddigwyddodd rhywbeth annisgwyl a bythgofiadwy yn ystod y sioe.

NEWYDDION LLEOL PARHAD

bob amser. Pob dymuniad da i Brian a Margaret Beauchamp, Heol Glyncoli a David ac Anne Evans, Tŷ Pengelli, sydd heb fod yn dda yn ddiweddar. Llwyddodd Pwyllgor Canser UK Treorci i godi £712.90 yn eu Noson Caws a Gwin yn ddiweddar. Cafwyd adloniant yng nghwmni Phil Howe a'i ffrindiau a chafodd pawb noson wrth eu bodd. Mae'r pwyllgor am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth gyson. Cynhaliodd Clwb Rotary y Rhondda noson mewn pabell ar yr Oval ddiwedd Mai i godi arian at wella cyfleusterau med-

Fe ddaeth merch ifanc i'r llwyfan i berfformio yn y gystadleuaeth canu unawd. Fe ddechreuodd hi ganu, ond yn sydyn stopiodd a rhedodd oddi ar y llwyfan. Oedd hi wedi anghofio'r geiriau, neu oedd hi wedi dewis y cywair anghywir? Wn i ddim, ond dyna hi'n sefyll wrth ochr y llwyfan ac athrawes yn ceisio ei pherswadio i ddod nôl at y meic. Ar ôl eiliad neu ddwy o ddistawrwydd tra oedd y ferch yn petruso, dechreuodd rhai o'i ffrindiau guro dwylo i ddangos eu cydymdeimlad a'u cefnogaeth. Cyn hir, roedd mwy a mwy o blant yn dilyn eu hesiampl er mwyn annog y ferch i ailddechrau'r gân. A dyna beth wnaeth hi. Ond y tro hwn, roedd y gynulleidfa wedi pendygol yn y cwm. Cafwyd noson dda gyda Phil Howe a nifer o artistiaid eraill yn cymryd rhan.

CWMPARC

Brysiwch yn wella Mrs Liz Bowen, Parc Crescent! Mae Mrs Bowen wedi bod yn yr ysbyty ar ôl cwympo yn y stryd.

Cafodd y plant a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cor Treorci syrpreis ar ddiwedd mis Mai. Derbynion nhw wahoddiad i Barlwr y Maer ym Mhontypridd, ar ddiwrnod olaf y Maer, John Watts, yn ei swydd. Roedd e eisiau dathlu talent a llwyddiant y plant. Cafon nhw weld yr adeilad, a chael cyfle i ddal brys-

derfynu canu gyda hi a churo dwylo i'r miwsig. Cyn hir, roedd pawb wedi codi ar eu traed plant, athrawon a beirniaid - ac roedd y neuadd fawr yn llawn sŵn, cyffro a hwyl! Doeddwn i erioed wedi gweld y fath beth. Mewn fflach roedd methiant wedi troi yn fuddugoliaeth. Roedd ewyllys da plant yr ysgol tua'r ferch fach wedi ennill y dydd, ac roeddwn i'n teimlo'n falch ohonyn nhw i gyd.

den nhw ac roedden nhw'n awyddus i'w holi am eu trip. "Beth oedd enw eich gwesty yn Jamaica, David?" gofynnodd un o'r dynion yn sydyn. Roedd y peldroediwr mewn penbleth. Roedd e wedi anghofio. "Beth yw enw'r orsaf fawr 'na yn Llundain" gofynnodd i'r dyn. "King's Cross?" atebodd y dyn. "Nage, nid King's Cross.," meddai Beckham. "Un arall" "Euston...Waterlooo... Victoria?" awgrymodd y dyn. "'Na chi," meddai Beckham yn hapus. Yna, trodd at ei wraig a gweiddi. "Victoria...! Beth oedd enw'r gwesty 'na yn Jamaica?"

gyll (mace) y Maer.

Mae'r te i godi arian at Breast Cancer Care. Dewch a chefnogwch!

******************** Cyrhaeddodd David a Victoria Beckham faes awyr Heathrow ar ôl mis o wyliau yn Jamaica. Tra oedden nhw'n gwneud eu ffordd i'w limwsîn, roedd tyrfa o bobl o gwmas David a thyrfa o wragedd o gwmpas 'Posh Spice'. Gohebwyr oed-

Penblwydd Hapus i Lyn (Jaqueline) Thomas, Vicarage Terrace, a oedd yn dathlu ei phenblwydd 80fed ar ddechrau mis Mehefin. Hefyd i Mrs Denise Smith, Parc Crescent, sy'n dathlu ei phenblwydd ar 3 Gorffennaf. Cynhelir Ffair Haf yn neuadd Eglwys San Sior ar ddydd Sadwrn 27 June, 10:00 - 12:30. Bydd llawer o stondinau, yn cynwys cacennau, lluniaeth, llyfrau a CDs, teganau a raffl. Bydd 'Te Mefus' yn neuadd Eglwys San Sior ar brynhawn dydd Mercher 15fed Gorffennaf, 3:00 - 5:00. Bydd amrywiaeth o gacennau, mefus a hufen, hufen iâ, ffynnon siocled a mwy!

Cynhelir gwasanaeth cof yn Ysgol y Parc ar ddydd Iau 25 Mehefin, am 1:30. Bydd y gwasanaeth yn cofio'r bobl a fu farw pan ddisgynodd bomiau ar Gwmparc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd croeso cynnes i bawb.

Y PENTRE

Cofiwch gadw golwg ar wefan http://www.pentre.rhondda.org.uk/ am wybodaeth am yr ardal. Mae Mike Ash yn sicrhau amrywiaeth o eitemau diddorol yn gyson, ynghyd ag amrywiaeth o hen luniau. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Chlwb Crefft Lemon


Blues, mae un neu ddau le ar ôl. Yn ystod tymhorau ysgol, mae'r clwb yn cwrdd ar ddydd Mercher rhwng 10 - 12a.m. a 6 - 8 p.m. Y tâl am ymuno yw £6 sy'n cynnwys lluniaeth ysgafn a'r holl ddefnyddiau y bydd eu hangen arnoch. I gysylltu, ffoniwch 07791906448. Tristwch i bawb yn yr ardal oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Arfon Port, Stryd Elizabeth, yn dilyn cystudd hir. Roedd Arfon yn ŵr hynaws a chymwynasgar. Gweithiai'n ddiflino dros Glwb Rygbi Treorci, tîm y bu ei frawd a'i feibion yn aelodau ohono ar wahanol gyfnodau. Gwelir ei eisiau ar yr Oval, yn gwerthu tocynnau raffl ar ran y clwb, ond ar yr aelwyd y bydd y bwlch mwyaf. Cydymdeimlwn â'i weddw a'i feibion yn eu colled a diolchwn am ei gyfraniad i fywyd yr ardal. Sefydlwyd Siambr Fas-

8

nach Pentre a'r Ton tua dwy flynedd a hanner yn ôl ac mae nifer fach o aelodau wedi gweithio'n galed i'w datblygu. Fodd bynnag, oherwydd ymddiswyddiad tri o'r swyddogion, Richard Offer, Animal Instinct [Cadeirydd], Melissa Binet-Fauvel, Lemon Blues, [[Ysgrifennydd] a Marc Morgan, Swyddfa Bost Ton, [Trysorydd] bu rhaid diddymu'r Siambr dros dro. Penderfynwyd rhannu'r arian oedd mewn llaw [£234] rhwng Eglwys San Pedr a Chanolfan Gymunedol Ton a'r Gelli. Llawer o ddiolch i Mike Ash am ei waith diflino dros Y Pentre. Yn ddiweddar, penderfynodd roi elw gwerthiant ei gardiau post yn Lemon Blues i'r fenter newydd a sefydlwyd gan Melissa Warren, 'Made in the Valleys' a fydd yn hybu datblygiad proffesiynol artistiaid a chrefftwyr yr ardal hon. Cynhaliwyd Ffair Haf

Eglwys San Pedr, ddydd Sadwrn 13 Mehefin. Diolch i bawb a sicrhaodd ei llwyddiant.

TON PENTRE A GELLI

Blin yw cofnodi marwolaethau Mrs Margaret Davies, Queen St, Mrs Violet Jones, Heol Tyisaf a Mrs Jean Price, Stryd Victoria. Estynnwn ein cydymdeimlad i deuluoedd y tair yn eu hiraeth. Mae Grŵp Cymdogaeth y Gelli yn trefnu diwrnod i godi arian i helpu Jayden sy'n dioddef o fath prin o ganser. Bydd y Wledd Fawr fydd yn para o 10a.m. 10p.m. yn cael ei chynnal ar ben Stryd Rees. Trefnir gweithgareddau o bob math ac ar wahân i gryfhau'r yspryd cymdogol, gobeithir codi arian at yr achos teilwng hwn. Rhwng 8-11 Mehefin roedd Theatro Mask yn cyflwyno drama Noel Coward 'Blithe Spirit' yn Theatr y Ffenics. Cynhaliwyd gwasanaeth

coffa i Mrs Beryl Davies yn Nhŷ Ddewi, ddydd Iau, 4 Mehefin. Daeth tyrfa dda o'i chyfeilion ynghyd i'r gwasanaeth a arweiniwd gan ei merch, Natali Churchill. Cyn ei hafiechyd, roedd Beryl yn weithgar ym mywyd cymdeithasol y Tŷ a gwelir ei heisiau gan bawb. Cydymdeimlwn â'i merch Natali a'i mab, Jeff a gweddill y teulu yn eu galar. Gair i'ch atgoffa y bydd Ffair Eglwys Sant Ioan yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf.

COFIO TRYCHINEB PWLL GLO'R CAMBRIAN 1965

Hanner ccanrif yn union yn ôl bu trychineb yng nglofa'r Cambrian, Cwm Clydach pan gollodd 31 o lowyr eu bywydau. Ar fore Sul, 17 mai cynhaliwyd y gwasanaeth blynyddol arferol i


gofio'r dynion hyn a'u teuluoedd. Bu Mr Bill Richards, cyn-lowr ac awdur nifer o erthyglau a chyfrolau yn cofnodi hanes pyllau glo, sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu'r achlysuron hyn, ond dywedodd taw eleni, efallai fydd y tro olaf onibai bod pobl iau yn cymryd yr awennau. Eleni, fel arfer, roedd aelodau teuluoedd y rhai a gollwyd yn bresennol, a rhai cyn-lowyr, gan gynnwys maer RhCT, John Watts a arferai weithio yn y Cambrian. Yn ogystal roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yno ynghyd i gymryd rhan yn y gwasanaeth a arweiniwyd gan y Parch Haydn Simon-England. Canwyd cloch Eglwys Sant Andrew 33 o weithiau i gofio am bob un o'r glowyr ac ar ôl munud o ddistawrwydd, rhoddwyd blodau ar y

garreg goffa. Cafwyd eitemau gan Gôr Meibion Cambrian, Côr Ysgol Cwm Clydach ac unawd gan Miss Lucy Rees. [H.C]

Llythyron

Annwyl Olygydd Efallai bod eich darllenwyr yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DG wedi cyhoeddi pwerau pellach i Gymru y penwythnos diwethaf, yn dilyn trafodaethau trawsbleidiol y cymerais i ran ynddynt fel arweinydd Plaid Cymru. Yr oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DG yn cadarnhau na fydd Cymru yn cael cystal bargen ar bwerau na chyllid â’r Alban neu Ogledd Iwerddon, heb sôn am y newidiadau sydd ar droed yn Lloegr.

Ni fydd Cymru yn cael y cyfrifoldeb dros blismona, cyfiawnder, y rhwydwaith rheilffyrdd, y rhan fwyaf o agweddau ar ein hadnoddau naturiol, treth teithwyr awyr na nifer o feysydd domestig eraill. Mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau hyn yng Nghymru gan mai’r bobl sy’n byw yma ac a ddaeth i fyw yma ŵyr orau am sut i redeg y wlad. Yn dilyn refferendwm yr Alban llynedd, dywedwyd dro ar ôl tro fod y DG yn “deulu o genhedloedd”. Os yw hyn yn wir, does dim cyfiawnhad dros drin Cymru yn wahanol i’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Llynedd, fe welsom elite San Steffan yn gorfod cymryd sylw o’r Alban.

Rhaid oedd iddynt hefyd barchu gwleidyddion yng Ngogledd Iwerddon a wrthododd weithredu diwygiadau lles heb gonsesiynau cyllidol. Fy neges i bobl Cymru heddiw yw bod pwysigrwydd Cymru yn yr etholiad hwn ac ar ôl hynny yn eu dwylo hwy. Os bydd Cymru yn ethol tîm cryf o ASau Plaid Cymru ym mis Mai, yna byddwn mewn sefyllfa i ddod â’n llywodraeth adref a chyflwyno cydraddoldeb i Gymru.

Bwriad Plaid Cymru yw sicrhau Mesur Cymru yn y senedd newydd fydd yn rhoi cydraddoldeb cyfle ac adnoddau i Gymru. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’n cenedl ffynnu fel y gwyddom y gall. Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru

9


TRO CYNTAF YN EISTEDDFOD YR URDD gan NERYS BOWEN

Doeddwn i erioed wedi bod i Eisteddfod. Es i ddim i ysgol Gymraeg, ac ers dysgu Cymraeg fel oedolyn, doeddwn i erioed wedi bod. Penderfynais i fynd eleni, achos dyw Nelson ddim mor bell o'r Rhondda. Es i gyda 3 phlentyn, un 3 oed, sy'n dysgu Cymraeg, ac sy'n hoffi rhaglenni plant S4C, a dau henach, sy'n mynd i ysgol Saesneg a ddim yn siarad Cymraeg.

Doeddwn i ddim yn siwr beth i'w disgwyl. Faswn i'n digon hyderus i siarad Cymraeg â phobl? Fydd y dau blentyn henach yn ddiflas achos eu bod nhw ddim yn siarad Cymraeg? Ron i'n siwr y basai fe'n ddiwrnod diddorol. Efallai, un a fyddai'n herio fy rhagfarnau a rhagdybiaethau. Ro'n i'n disgwyl y byddai'r y sioe yn debyg i'r Sioe Frenhinol yn Llanfair ym Muallt, ond gyda mwy o blant yn dawnsio a llai o dda byw. Paratoiais i - Check List_yn fy mhen. Ro'n i'n disgwyl gweld Mr. Urdd yn cerdded o gwmpas. Ron i'n disgwyl bara brith a phice ar y maen. Ro'n i'n disgwyl gweld ser teledu S4C. Esbonias i'r plant, y byddai'r Eistoddfod yn debyg i'r Sioe Frenhinol, ond yn lle anifeiliad, byddai plant yn canu neu'n actio ar y llwyfan, ac yn cymryd 10

rhan mewn cyngherddau.

Cyn dod o hyd i'r maes parcio, roedd trafodiaeth yn y car ynglŷn â'r Maes_. Roedd rhaid i fi esbonio i blant ysgol Saesneg dyw'r 'Maes' dim byd i ymwneud â

llygod. "There aren't mice at the Eisteddfod. It's got nothing to do with mice. It's a field!"

i fi aros am fwyd, gwelais i fod bwydlenni yn Gymraeg. Pan glywais i'r staff yn siarad, yn Saesneg gydag acen Saesneg, meddyliais i, 'Oh, they're English'. Felly, archebais i yn Saesneg. Ond ar ôl hynny clywais i nhw'n siarad Cymraeg rhugl!

Y Maes Ffeindiais i'r maes parcio, o'r diwedd, ac aethon ni yn syth ar y bws i'r Maes. Yn gyntaf, aethon ni i chwilio am fwyd. Roedd amrywiaeth blasus o fwyd ar gael. Hog roast, pitsa,

pysgod a sglodion, bwyd Tseiniaidd, ac wrth gwrs, hufen iâ. Siaradais i Saesneg ar ddamwain gan ofyn am fwyd. Wrth

Aethon ni ddim i'r Pafiliwn i weld y perfformiadau, ond cerddon ni o awyrgylch y Maes yn edrych ar y stondynau. Roedd llawer o bobl yn siarad gyda'i gilydd mewn grwpiau, ac roedd yn ymddangos bod pawb yn ei nabod pawb. Do_ni ddim yn nabod neb, oni bai am Mr Urdd! ("Why is he a great big egg, Mam?"_gofynodd yr ifancaf.) Cafodd y plant dro ar gefn asyn. ac ar drampolin. Mwynheuon nhw Slush Puppies a hufen iâ yn yr haul. Uchafbwynt y dydd i'r un ifancaf oedd dawnsio a chanu gyda Cyw a'i ffrindiau tu fâ's i adeilad S4C. Peth da am berthyn i genedl fach, fel Cymru, mae'n haws gweld sêr y teledu yn agos. Dychmygwch pa mor anodd fydd hi i gyraedd y rhes flaen i weld sêr CBeebies neu Nickelodeon! Cawson ni gyfle i gael lluniau a siarad â nhw, a ro'n nhw i gyd yn gyfeillgar ac

Parhad ar dudalen 12


YSGOLION

YSGOLION

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

PENCWMPWRAIG ATHLETAU!

Llongyfarchiadau mawr i Ffion Kelland, sy'n ddisgybl yn 8R ar ei llwyddiant anhygoel ym Mhenhampwriaeth Athletau Cymru yn ddiweddar.

SEREN Y BYD SGLEFRIO

Llongyfarchiadau mawr i Cei Evans o Flwyddyn 9 ar ei lwyddiant ysgubol yng nghystadleuaeth Noiya Jam a gynhaliwyd yn Sheffield yn ystod y Sulgwyn.

YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA

11


amyneddgar.

Cerddoriaeth, bwyd a phobl! Roedd cerddoriaeth archerchog ar y llwyfan perfformio. Y profiad mwyaf od oedd bwyta pryd o fwyd Indiaidd hyfryd, wrth wrando ar grŵp Calan yn perfformio cerddoriaeth Cymraeg! Erbyn diwedd y dydd, ro'n i wedi gwario ffortiwn, bwyta gormod, ond mwynhau ma's draw. Doeddwn i ddim yn gallu ffeindio pice ar y maen neu fara brith, ond gwelais i Mr Urdd!

Roedd ciw hir iawn i'r bws nôl i'r maes parcio, ond roedd yn symud yn eithaf cyflym. Yn y ciw, gwelais i Helen Prosser, pennaeth adran Cymraeg i Oedolion yn Nhrefforest, a'i gwr, yr actor Danny Grehan. Hwre! 12

Ro'n i'n nabod rhywun! Ynglŷn â'r Selebs_, yn ogystal a Sali Mali a phawb o raglenni Cyw, gwelais i Rupert Moon, Dafydd Wigley a Carwyn Jones. Gwelais i Heledd Cynwal yn cyfweld â'r enillwyr, Tomos Dafydd o'r

newyddion a Betsan Powys yn chwarae ffrisbi! Dwi ddim yn teimlo fel mod i wedi colli ma_s ar ysbryd yr Eisteddfod trwy beidio mynd i'r pafiliwn. Gwelais i'r uchafbwyntiau a'r canly-

niadau ar y teledu, a dewisiais i fy ffefrynnau! Baswn i'n argymell yr Eisteddfod i bawb. Does dim ots os nad dych chi'n siarad Cymraeg. Mae'n ddiwrnod mâ's pleserus i'r teulu cyfan. Llongyfarchiadau i'r canlynol oedd yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd Carys Lewis, Ysgol Ynyswen [2l ar Unawd Offeryn Pres, Bl4] Ysgol Cymer Rhondda [1af Côr Merched SA Bl. 7-9] Ysgol Cymer Rhondda [3ydd Côr Bechgyn TB 7-9] Ysgol Cymer Rhondda [3ydd Triawd Cerdd Dant dan 19] Nia Rees YGG Cymer Rhondda [2 Dawns Werin Unigol] Sarah Louise Jones [1af Cyflwyniad Theatrig 19-25 a 3ydd am Lefaru Unigol]* Pierra, Seren, Miriam a Jonny [ Ysgol Bronllwyn, Gwaith Creadigol] * Mae Sarah Louise, gynt o Ysgol y Cymer wedi ei dewis yn un o 6 fydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Ardderchog a Phob Lwc!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.