y gloran
20c
ABERFAN
A ninnau eleni'n cofio hanner can mlwyddiant trychineb Aberfan, mae'r Parch Ivor Thomas Rees, a faged yn Nhreherbert, yn bwrw golwg yn ôl i'r digwyddiad tywyll hwnnw yn ein hanes.
Hanner canrif yn ôl bu Delyth a minnau yn Nhreherbert, ryw wythnos ar ôl marwolaeth Mamgu. Aethom gyda’m chwaer Eir-
wen a’m modryb May i Bontypridd i orffen busnes cyfreithiol marwolaeth Mam-gu. Bore diflas a’r cymylau’n isel iawn oedd i Hydref 21, 1966. Wrth ni gyrraedd yn ôl yn Herbert Street, dywedodd cymdo-
ges wrthym yn Saesneg bod “rhywbeth ofnadwy wedi digwydd dros yn mynydd.” Yr oedd lluniau erchyll eisoes i’w gweld ar y teledu. Teimlais fod y byd wedi symud o dan fy nhraed: roeddwn yn fab i löwr a bron pob dyn yn y teulu PARHAD AR DUD 3
golygyddol l AILENWI YSBYTY
A hanner canrif wedi mynd heibio, cafwyd nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru i gofio trychineb Aberfan pryd y
2
collodd 144 o bobl eu bywydautrwy esgeulustod anfaddeuol y Bwrdd Glo Cenedlaethol, y rhan fwyaf yn blant ysgol . Dangoswyd nifer o raglenni teledu gan gynnwys un ysgytwol o dan
Cynllun gan High Street Media
2016
y gloran
YN Y RHIFYN HWN ABERFAN..1 Golygyddol...2 Aberfan parhad..3-4 Newyddion Lleol ...5 ac 8-10 Englyn/Cartwn/ Byd Bob ..6-7 TARW TY NEWYDD...10 Ysgolion...11-12
gyfarwyddyd Iwan England, brodor o Aberfan a gollodd ewythr yn y trychineb. Un o'r pethau a amlygwyd yn y rhaglen oedd ymddygiad gwarthus cadeirydd y Bwrdd Glo, yr Arglwydd
Robens ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, George Thomas a fynnodd bod arian o Gronfa'r Trychineb yn cael ei ddefnyddio i glirio'r tipiau a achosodd y gyflafan. Yn sgil y cofio, daeth symudiad yn y wasg a thrwy'r cyfryngau torfol i newid enwau dau adeilad sy'n dwyn enw George Thomas, sef tafarn y Lord Tonypandy ac Ysbyty George Thomas, Treorci. Yn achos y tafarn, deallwn fod Crown Carveries yn y broses o'i ailagor fel 'Stonehouse Pizza and Carvery' ac wrth ymateb i ddeiseb a drefnwyd gan Leanne Wood A.M., dywedodd llefarydd eu bod yn barod i ystyried newid yr
Parhad drosodd
ABERFAN parhad
wedi gweithio mewn pwll glo, gan fynd yn ôl pedair cenhedlaeth at hen hen dad-cu oedd yn saer glofa yn y Cendl, Sir Frycheiniog (Beaufort, Mon. wedyn). Cafodd ei fab, fy hen dad-cu, yr Albert Medal (ailddosbarth am ei ran yn y gwaith o achub glöwyr Pwll y Tynewydd, Porth yn 1877. Cefais fy magu y drws nesaf i domen pwll glo Ynysyfeio. Cofiaf nifer o achlysuron pan gafodd fy nhad ei gludo adref wedi rhyw “fân ddamwain” yn Fernhill i fod gartref am wythnosau a brawd Mam yn cael ei ladd yn y pwll yn 1943, a minnau’n ddeuddeg oed – cofio hefyd yr Golygyddol parhad enw. Ymhlith yr awgrymiadau a dderbyniwyd hyd yma mae Tommy's Tafarn [i gofio'r paffiwr Tommy Farr], y Naval [ar ôl y pwll glo lleol] a Miners' Next Step [i gofio pamffled polisi goleuedig ar gyfer y diwydiant glo a gyhoeddwyd yn 1912] O ran yr ysbyty, ymddangosodd llythyr yn y Western Mail gan lawfeddyg adnabyddus sy'n hannu o Benygraig, David Anthony Jones, yn galw ar yr awdurdodau i newid enw'r ysbyty hefyd. Dywed, "Fel person a godwyd yn y Rhondda, teimlaf gywilydd dros y rhan a chwaraeodd [George Thomas], ac fel cynlawfeddyg teimlaf ei bod yn iawn i'r anrhydedd hon gael ei dileu a bod yr ysbyty'n cael ei ailenwi." Dywedodd Mike Walsh, prif weithredwr Gofal Hosbis George Thomas fod y corff yn ystyried newid enw'r ysbyty yn dilyn ei gyfarfod cyffredinol ym mis Medi
gan gael enw oedd yn fwy cydnaws â'r ardal ac â phobl ifainc. Mae'r ffaith bod Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ymchwilio i gyhuddiad o gamymddwyn rhywiol yn erbyn George Thomas wedi ychwanegu at y galw i newid yr enw. Gan nad oedd yn gyfaill i'r iaith Gymraeg ac yn ymfalchïo ei fod yn llwyrymwrthodwr, mae rhyw eironi yn y ffaith taw tafarn ac ysbyty'n dwyn enw uniaith Gymraeg sydd yma i'w gofio. Roedd yn anodd i lawer o bobl leol dderbyn enw'r ysbyty yn y lle cyntaf gan nad oedd cysylltiad gan George Thomas â Threorci a bod rhai oedd wedi cyfrannu'n helaeth i ofal meddygol y glöwyr fel y meddygon, John a Fergus Armstrong yn llawer mwy teilwng o'r anrhydedd. Efallai ei bod braidd yn hwyr yn y dydd i achub y cam arbennig hwn, ond gwell hwyr na hwyrach. Golygydd
ymdeimlad ar adegau o ansicrwydd a fyddai Nhad yn dod adref yn ddiogel. Ar ben hynny, cafodd Nhad a’i dad yntau eu geni yn Abercanaid, y pentref nesaf at Aberfan. Dim ond un peth ddaeth i’m meddwl: “Rhaid i mi wneud rhywbeth!” Wedi i ni ddychwelyd i Aberafan, ceisiais ffônio fy nghyfaill, y Parch. Derwyn Morris Jones, oedd newydd symud i Rydaman ond yn dal i fod yn gaplan i Faer Merthyr Tydfil. Deuthum o hyd iddo yn nhŷ ysgrifennydd Horeb, Penydarren, a chynnig fy ngwasanaeth. Daeth yn ôl ataf dros y penwythnos gan ofyn i mi fod yn Aberfan erbyn 8.00 o’r gloch fore dydd Llun.
Cyfres o luniau sy’n aros yn fy nghof erbyn hyn. Y cyntaf oedd troi o‘r briffordd o Gastell Nedd (Blaenau'r Cymoedd yn awr) i’r dde – cyn bo hir, roedd rhaid aros o flaen rhwystr ffordd yr heddlu ac un o ohonynt yn gofyn i ble oeddwn yn mynd. Pan ddywedais fy mod ar fy ffordd i Aberfan ar gais caplan y maer, cefais ganiatâd i fynd ar fy ffordd. Y peth mawr oedd wedi taro pob ymwelydd erbyn hynny oedd llwyr ddistawrwydd y strydoed a bron neb o gwmpas. Safai periannau mawrion o hyd yn agos at leoliad yr ysgol a hwythau’n segur – ond heb yr un plentyn yn agos atynt mewn oes pan taw'r stryd oedd eu man chwarae ar ôl ysgol – a’r tristwch yn hongian fel cwmwl uwchben y pentre Mewn tafarn wedi ei chau dros dro oedd ein swyddfa, gan ei rhannu gyda rhyw hanner dwsin o drefnwyr angladdau o ardal eang o’r cymoedd ac un o Gaerdydd. Hyd y gwn i, nid oes neb wedi talu teyrnged iddynt hyd yn hyn, ond haeddant gael eu cofio yn hanes y trychineb – am wneud eu gwaith yn hollol wirfoddol gyda chydymdeimlad mawr, urddas a charedigrwydd. Eisteddent un ochr i’r ystafell gyda Derwyn a minnau yr ochr arall. Ein gwaith oedd ceisio trefnu’r angladd fawr. Dros y tridiau nesaf daeth y teuluoedd yno i sôn am eu dymuniadau ac i gofrestru enw neu enwau’r ymadwedig. Mae fy nghopi o’r tudalennau gennyf yn awr – rhestr o bob un gafodd ei ladd – enw, cyfeiriad, oedran, eglwys, trefniant (hynny yw, claddu gyda’r lleill neu ar wahån, wrth ochr pwy roedd y plant i orwedd, o ble i gasglu’r corff – llawer ohonynt mewn eglwysi a’r lleill gartref. Yr eithriad oedd Bethania, capel yr Annibynwyr: cafodd hwnnw ei ddefnyddio fel marwdy y trychineb.
drosodd
3
Cafodd ei dynnu i lawr wedyn a chodwyd capel newydd. Mae’n amlwg i mi bod y rhan fwyaf o’r plant yn perthyn i ysgol Sul – collodd Bethania bob plentyn. Yr hyn ddaeth yn glir i mi oedd dewrder y rhieni ochr yn ochr å’u poen.
Lle anodd iawn i hers yw mynwent Aberfan, gydag un tro arbennig o galed. Rhaid oedd dechrau ar y gwaith gyda fflyd o gerbydau am wyth o’r gloch fore’r angladd er mwyn cael popeth yn ei le cyn i’r teuloedd gyrraedd. Y bore hwnnw, aeth Derwyn a minnau i ymweld ag un o’r gweinidogion lleol. Ar ein ffordd yn ôl, gan gerdded ar hen domen glo, daethom at y dibyn ac edrych i lawr ar stryd â thai ar un ochr – roedd yno bum hers. Aeth Derwyn i un tŷ a minnau i un arall. Cefais groeso da yno – paned ar unwaith a chadair freichiau wrth y tân. Dau air Saesneg yn unig, “How many?” Daeth yr ateb tawel gan y wraig: Dau, brawd a chwaer.” Dau allan o dri! “A fy mam hefyd. Hi oedd y gyntaf i’w lladd a hithau'n byw yn y ffermdy ar ochr y mynydd.” Beth oedd dyn yn medru ddweud ar wahån i “Mae’n flin gennyf.” Bu i hynny fy mhoeni am hanner canrif hyd nes i mi gofio geiriau Eseciel (3.15) yng nghyfeithiad William Morgan, “mi eisteddais lle yr oeddent hwy yn eistedd.” Mewn cyfarfod o’r gweinidogion lleol, cyhoeddodd yr offeriad Catholig fod Archesgob Caerdydd yn dod i’r angladd. Ymateb y ficer oedd y byddai Esgob Llandâf yn bresennol hefyd. Y cwestiwn wedyn oedd pwy oedd i gynrychioli’r eglwysi rhyddion ac
4
ond un ateb oedd i’r cwestiwn, sef gweinidog hynaf y pentref, y Parchedig Stanley Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr, ac yntau wedi colli pob plentyn o’r ysgol Sul.
Cynhaliwyd yr angladd fawr ar 27 Hydref, wythnos union wedi’r trychineb. Erbyn 3.00 o’r gloch yr oedd dorf enfawr yn y fynwent a’r teuluoedd yn sefyll o flaen bedd neu feddau eu plant. Cynhaliwyd gwasanaeth byr a syml, yn urddasol a chynnes yr un pryd. Canwyd dau emyn: “Loving Shepherd of thy sheep, keep thy lambs in safety keep” ac un yn y ddwy iaith yr un pryd, sef “Jesu, Lover of my soul” ac “Iesu, Cyfaill f’enaid cu.” Esgob Llandâf, Dr. Glyn Simon, ddarllenodd o’r Ysgrythurau ac Archesgob Caerdydd arweiniodd y weddi, gan gynnwys Salmau 148 a 12 yn cael eu darllen gan bawb. Y Parchedig Stanley Lloyd fu’n gyfrifol am Y Cymundod a’i eiriau yn dangos empathi gyda’r holl bentref y bu’n byw yn eu plith a gofalu amdanynt am gymaint o flynyddoedd. Euthum adref ar ddiwedd y gwasanaeth. Dim ond unwaith euthum yn ôl, ond erys effaith y pedwar diwrnod hynny gyda fi o hyd. Trachwant dyn achosodd ddioddefaint Aberfan a thrachwant dyn yw achos dioddefaint plant a theuluoedd Aleppo a lleoedd tebyg. Bydded i Dduw roddi gras i bawb sy’n fyw, gorffwys i’r ymadawedig tangnefedd i’r byd, a thangnefedd i ni a'i holl blant.
newyddion lleol
CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT
Cynhaliwyd dau wasanaeth coffa ar ddydd Sul y Cofio. Roedd yr un cyntaf wrth y gofgolofn ym Mlaenrhondda cyn gorymdeithio i Barc Treherbert i gynnal yr ail.Roedd y oedfaon dan ofal y Parchedig Marion Ashton o Gwmparc. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddiant yn Nghlwb Rygby Tynewydd i aelodau’r cyhoedd ddysgu sut i ddefnyddio difibulator. Lleolir un tu allan i’r clwb ac un arall tu allan i’r Hendrewen ym Mlaencwm. Yn y dyfodol agos bydd un newydd tu allan i Spar Treherbert. Gobeithio y bydd y peiriannu yma'n gallu achub bywydau rhai sy’n cael trawiad ar y galon. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cais oddi wrth yr Awdurdod Glo i wella’r traeniad ar y tirlithriad ym Mlaenycwm er mwyn sefydlogi’r tir. Cyhelir gwasanaeth arbennig ar 27
Dachwedd yng nghapel Blaenycwm i gofio am y rheiny sy wedi marw yn ystod y flwyddyn. O’r diwedd mae rhywdwaith y reilffyrdd wedi cytuno i dorri’r glaswellt ar y tir rhwng yr orsaf a Station Terrace. Mae trigolion yr ardal wedi bod yn cwyno am gyflwr y safle am amser hir. Bydd y gwaith yn dechrau yng nghanol Rhagfyr. Mae Treherbert wedi colli dau o’i drigolion hynaf sef Mrs Glenys Davies, gwraig y diwedda Selwyn Davies, o Gwendoline St a Mr John Anderson o Bute St. Roedd John wedi bod yn briod â’i wraig Jean am 66 o flynyddoedd. Cydymdeimlwn a’u teuleoedd yn eu profedigaeth.
TREORCI
Cafodd aelodau Cymdeithas yr Henoed amser dymunol iawn ar eu hymweliad â Stratford-Upon-Avon y mis diwethaf. Dymunant roi eu diolch arferol i Eira a oedd,
fel arfer, yn gyfrifol am yr holl drefniadau. Tristwch i awb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Jean Kinsey, Stryd Stuart. Roedd hi'n wraig hynaws, uchel ei pharch. Cydymdeimlwn â'i dwy ferch Janice a Debbie a'r teulu oll yn ei brofedigaeth. Nos Iau, 17 Tach. am 7 o'r gloch bydd Pwyllgor Cancer UK Treorci yn cynnal noson goffi yn Neuadd San Matthew. Tocynnau, £5, i'w cael gan aelodau'r pwyllgor. Croeso i bawb. Mae nifer o rieni ifanc wedi dod ynghyd gyda chefnogaeth y cynghorwyr lleol i ffurfio Ffrindiau Parc Treorci. Lluniwyd cyfansoddiad ac etholwyd swyddogion a'r bwriad nawr yw mynd ati i wella'r cyfleusterau yn y parc. Cynhaliodd Cymdeithas Twnnel Cwm Rhondda gyngerdd, nos Iau, 13 Hydref yn y Parc a'r Dâr. Yn cymryd rhan roedd Côr Meibion Pendyrys, Côr Ysgol Gymraeg Ynyswen, Côr Ysgol Gyfun Tre-
EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE
Cwmparc: NERYS BOWEN DAVID LLOYD Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL ANNE BROOKE
Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN
orci a Band Lewis Merthyr. Cyflwynwyd y noson gan Beverly Humphries a'r unawdydd oedd Sydney Richards. Hefyd, mae'r Gymdeithas wedi agor siop newydd yn Heol yr Orsaf. Cofiwch alw heibio. Roedd cyfarfod misol Sefydliad y Merched [WI] o dan ofal y Dosbarth Crefftau. Cafodd gwaith o safon uchel iawn ei arddangos a chafodd yr aelodau gyfle i'w brynu. Roedd pawb yn ddiolchgar i Enid a'r dosbarth am drefnu noson ddiddorol a buddiol. Mae'r drafferth a
PARHAD ar dudalen 8
5
ENGLYNION CWM RHONDDA - 4 Bardd lleol adnabyddus a fu farw yn 56 oed yn 1928 oedd Joseph Howells o'r Pentre. Fe'i hadnabyddid yn well gan ei enw barddol, Milwyn. Trigai yn rhif 6 Elizabeth St, Pentre a barddonai yn y mesurau rhydd yn ogystal å'r rhai caeth. Gweithio ar y ffordd gyda Chyngor y Rhondda oedd ei waith ond roedd yn gynghaneddwr medrus a bu'n llwyddiannus iawn mewn llawer o eisteddfodau lleol. Bu'n weithgar iawn ar Bwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928, ond yn anffodus, bu farw gwta ddau fis cyn i'r Eisteddfod gael ei chynnal ym mis Awst. Mae ei fedd ym mynwent Treorci. Y DEIGRYN Dihalog, lwythog wlithyn, - i'r golwg Daw'r galon drwy'r deigryn; A llif dwys holl ofid dyn
Fwriodd fôr i ddiferyn.
[Y mis hwn mae Bob yn cofio rhai o'r anifeiliaid anwes a gafodd yn ystod ei fywyd.]
BYD BOB
Mae anifeiliaid anwes wastad wedi bod yn rhan bwysig o'm bywyd. Yn 1941 roeddwn i'n faban bach ac yn byw gyda fy rhieni mewn fflat yn Llundain. Roedd dyddiau gwaethaf y Blitz drosodd, ond roedd awyrennau'r Almaen yn 6
dal i fomio'r brifddinas bob nos. Roedd seiren yn rhoi rhybudd bod y gelynion yn agosáu,ond roedden ni'n cael rhybudd cynnar oddi wrth ein cath. Byddai hi'n cuddio dan y bwrdd rai munudau cyn i'r seiren swnio. Roedd hynny'n caniatáu i ni fod ymhlith y rhai cyntaf i gyrraedd diogelwch y Tiwb bob nos. Wrth gwrs, roeddwn i'n rhy ifanc i gofio'r gath 'na, ond rwy'n cofio cath o'r enw Joseph oedd yn byw gyda ni yn Nhynewydd ar ddiwedd y pedwardegau. Pan oedd Mam yn mynd â fi lan i'r gwely, byddai Joseph yn dod gyda ni. Byddai e'n aros ar droed y gwely fel gwarchodwr nes i fi ddweud wrth fe, "Nos da, Joseph." Yna,
LLOYD GEORGE Ein Llwyd Siôr, llyw ydyw sydd- yn swyno Senedd: brwd wladweinydd; Seraff ei oes, aer y ffydd,
Golud gwlad a'i gweledydd.
byddai Joseph yn mynd i lawr y gwisiau ac allan i'r ardd am y noson. Yn y nawdegau roedd daeargi 'da fi o'r enw Sid. Mwngrel oedd e, Jack Russell a chorgi. Bydd rhai ohonoch chi'n ei gofio fe, efallai, gan ei fod yn cerdded i bobman gyda fi. Roedd gelyn arbennig gyda Sid, sef daeargi West Highland oedd yn perthyn i John ac Ann Bowen sy'n byw yn Heol Glyncoli, Treorci. Roedd Sid yn hoffi sefyll o flaen drws John ac Ann a herio'r Westie i ddod allan i'w wynebu. Un diwrnod fe daflodd Sid ei hun at y drws ond yn anffodus doedd e ddim ar gau. Fe agorodd y drws yn eang a rhuthrodd y Westie allan. Fe geisiodd Sid Ffoi ond doedd e ddim yn ddigon
cyflym Daeth John allan o'r tŷ jest mewn pryd i weld ei gi'n brathu Sid ar ei ben-ôl. Fel fi, roedd John yn chwerthin hyd at ddagrau. Yn ddiweddar, roeddwn i'n eistedd gyda ffrindiau yn nhafarn y Griffin. Roedden ni i gyd yn adrodd storïau am ein hanifeiliaid. "Roedd cath glyfar iawn 'da fi unwaith," meddai Colin Morgan. "Ar ôl gwneud jobyn yn yr ardd, fe fyddai'n gwneud twll yn y ddaear a chladdu'r baw ynddo fe. Roedd hi'n anhygoel." 'Anhygoel," sylwodd ffrind aral. "ond mae pob cath yn gwneud hynny." "Beth," meddai Colin. "Gyda rhaw?" .
gafwydgan gangiau o bobl ifainc rai wthnosau nôl wedi tawelu gryn dipyn yn ddiweddar yn ôl y plismon cynorthwyol leol, Deri Cashel. Bu'r heddlu'n weithgar iawn yn yr ardal ac mae hyn wedi gwella sefyllfa oedd yn bygwth mynd dros ben llestri. Bu farw tri o drigolion Tan-y-fron ddiwedd y mis diwethaf, sef Mrs Myra Rees, Mr Eddie Smith a Mrs Eileen Davies. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w teuluoedd yn eu colled. Bu farw Mrs Gwladys Davies, Llys Glanrhondda a hithau dros ei 100 oed. Bu'n byw yn ei chartref ei hun i'r diwedd. Cydymdeimlwn yn gywir
8
iawn å'i phlant yn eu profedigaeth. Mae angen help gwirfoddol yn siop y Rotary ar stryd fawr Treorci, yn enwedig ar ddydd Iau. Dydyn nhw ddim yn cynnig tâl ond digon o de, coffi a bisgedi yn ogystal â llawer o hwyl. Galwch heibio os oes gennych unrhyw ddiddordeb. Mae Cyngor RhCT wedi cynnig dillad ac offer i'r grŵpiau o wirfoddolwyr sy'n cwrdd o dan arweiniad y Cyng. Emyr Webster i godi sbwriel o gwmpas y dre. Os ydych am ymuno, ffoniwch Emyr ar 07828019431. Bydd aelodau'r WI yn ymweld â Chastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful ddiwedd y mis ac
wedyn yn mwynhau pryd o fwyd yng nghwmni ei gilydd yng ngwesty Tŷ Newydd, Penderyn. Mawr yw eu diolch i Anna Brown am drefnu'r diwrnod.
CWMPARC
Mae'r Nadolig yn dod ac mae'n bryd i ni feddwl am ginio Nadolig! Ond eleni does dim rhaid poeni oherwydd rhwng 12= 22 Rhagfyr bydd modd ichi gael cinio Nadolig 5 cwrs yn Neuadd y Parc am £15. Brysiwch i archebu eich bord! Ddydd Sadwrn, 29 Hydref, cynhaliodd 'Angylion Cwmparc' brynhawn o hwyl gyda'r
elw yn mynd at y gweithgareddau ieuenctid sy'n cael eu cynnal yn Nhŷ Alison. Nos Iau 29Hydref croesawyd Calan Gaeaf gyda noson o adloniant a hwyl yng nghlwb y Lleng Brydeinig. Roedd llawer wedi mynd i drafferth i wisgo gwisgoedd ffansi lliwgar. Mae canolfan Neuadd y Parc yn chwilio am weithwyr gwirfoddal i helpu cynnal y gweithgareddau yno. Eisoes daeth rhai i'r adwy, ond os oes gennych ddiddordeb, galwch heibio i gynnig eich gwasanaeth. Un o weithgareddau newydd Neuadd y Parc yw sesiwn bingo bob prynhawn dydd Llun rhwng 1 - 3 o'r gloch. Profodd y sesiynau hyn, gyda Ceri Lewis yn
galw, yn boblogaidd iawn. Galwch i mewn. Mae plant Ysgol y Parc wedi derbyn hyfforddiant CPR gan Wasanaeth AmbiwlansCymru, fel rhan o'u ymgyrch 'Shoctober'. Dewiswyd yr ysgol fel un o 70 ysgol ledled Cymru i gymryd rhan yn y sesiynau hyfforddu. Yn ogystal â CPR, yn ystod yr awr, dysgon nhw beth i'w wneud pe bai rhywun yn tagu, a'r ystum gwella. Dywedodd y pennaeth, Mr David Williams "Er ein bod yn pwysleisio pwysicrwydd rhifogrwydd a llythrenogrwydd yn yr ysgol, mae iechyd a lles a sgiliau bywyd yn bwysicach". Da iawn bawb.
Bydd llawer o ddigwyddiau yn dod yn fuan yn eglwys San Sior, Cwmparc wrth inni baratoi at y Nadolig:
Dydd Gwener 2 Rhagfyr, Ffair Nadolig, 3:00 5:30 Dydd Llun 12 - Dydd Mercher 14 Rhagfyr, Gŵyl Coed Nadolig, 10:00 - 4:00, yn cynnwys: Dydd Llun 12 Rhag - 9 gwers a charolau, 7:00 Dydd Mawrth 13 Rhag Gwasanaeth coffa golau cariad, 7:00 Dydd Mercher 14 Rhag Gwasanaeth Christingle, 10:30
Cyngerdd, 6:00
-
25 Rhagfyr - Y Cymun, 10:30 1 Ionawr 2017 - Y Cymun 10:30
Dylai bocsys Operation Christmas Child gyrraedd yr eglwys erbyn canol mis Tachwedd.
Y PENTRE
Nos Sadwrn, 29 Hydref cynhaliwyd noson i ddathlu Calan Gaeaf gan Gymdeithas Twnnel Cwm Rhondda yng nghlwb y Lleng Brydeinig yn Stryd Albert gyda'r elw yn mynd i gronfa'r Gymdeithas. Nos Wener, 21 Hydref cynhaliwyd offeren yn Eglwys San Pedr i gofio'r rhai a gollwyd ac a anafwyd yn nhrychineb Aber-fan yn union hanner canrif yn ôl. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Tad Haydn a chynheuwyd 144 o ganhwyllau i gofio pawb a gollwyd, y rhan fwyaf ohonynt yn blant.
TON PENTRE Bu farw Mrs Mary Stinton, gynt o King St,
Gelli, ond nawr o Victoria St yn 91 oed. Roedd yn adnabyddus ac ynuchel ei pharch yn yr ardal. Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf i'w phlant Christine a Wayne a'u teuluoedd yn eu profedigaeth. Ddydd Mawrth, 25 Hydref, cynhaliodd preswylwyr Tŷ Ddewi bwffe, raffl a chwis i godi arian at elusen Binc Canser y Fron. Da oedd gweld y y Cynghorwyr Shelley Rees-Owen a Maureen Weaver yn bresennol yn cefnogi. Llwyddwyd i godi £370 at yr achos teilwng hwn. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng nghapel Hope, Gelli yn ddoweddar pan ddaeth cwmni o bobl o Frasil i ymweldâ'r Parch David Morgan a'i deulu. Cafodd yr aelodau glywed am waith eu heglwys ym Mrasil lle mae cymaint o bobl nad ydynt yn derbyn y ffydd Gristnogol. Tristwch i bawb oedd derbyn y newyddion am farwolaeth Mrs Joan Phillips, Stryd Dewi Sant yn 93 oed. Roedd Joan yn aelod ffyddlon o Eglwys Sant Ioan ac yn uchel ei pharch ymhlith ei chyd-aelodau. Cynhaliwyd y gwasanaeth yn yr eglwys gyda'r Tad Haydn England-Simon yn gweinyddu.CYdymdeimlwn yn ddiffuant â'i phlant Yvonne ac Edward a'u teuluoedd.. Yn ddiweddar, aeth llond
bws o aelodau Deoniaeth y Rhondda ar wibdaith i Henffordd lle yr ymwelon nhw â'r eglwys gadeiriol. Cafodd pawb ddiwrnod diddorol ac addysgol wrth eu bodd ac maen nhw am ddiolch i Mr Paul Young o Eglwys Sant Andrew, Tonypandy oedd yn gyfrifol am y trefniadau. Cafodd y grŵp fynychu gwasanaeth diolchgarwch traddodiadol tra yno a da oedd gweld yr eglwys wedi ei haddurno â blodau, llysiau a ffrwythau o bob math. Yn sgil y digwyddiad, gobeithir y bydd mwy o gyfle yn y dyfodol i aelodau saith eglwys y ddeoniaeth i ddod at ei gilydd i gymdeithasu. Cynhaliwyd cyfarfod mis Hydref o'r Clwb Cameo yn nhafarn Fagin ar 26 Hydref gyda'r aelodau yn mwynhau te gyda'i gilydd ac yn cael cyfle i groesawu'r siaradreg wadd, Angharad Hughes o Age Concern Cymru. Yn ei sgwrs, rhoddodd Ms Hughes awgrymiadau gwerthfawr sut i gadw'n dwym yn ystod tywydd oer y gaeaf, gan bwysleisio gwisgo dillad cynnes a chadw i fod yn weithgar. Mrs Rowlands, Treorci gynigiodd y bleidlais o ddiolch. Hefyd, cynhaliwyd munud o ddistawrwydd i gofio aelod hynaf Cameo, Mrs Gwen Gough a fu farw yn ddiweddar yn 94 oed. 9
TARW TY NEWYDD. ^
[CERI LLEWELYN sy'n mynd ar ôl hanes un o chwaraewyr rygbi mwyaf lliwgar Cwm Rhondda, un o'r ychydig a fu'n aelod o dîm a gurodd Crysau Duon Seland Newydd]
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y tîm rygbi cenedlaethol ar groesffordd. Chwalwyd Cymru gan Loegr yn Blackheath ym 1896. Ar ôl y grasfa o 25-0 bu newid ym meddylfryd y dewiswyr. Yn lle dewis chwaraewyr o’r clybiau traddodiadol roedd yn rhaid chwilio am flaenwyr mwy corfforol. Gyda’r datblygiadau yn y diwydiannau trwm roedd rugby wedi datblygu’n gyflym yn y cymoedd. Ymddangosodd blaenwyr mawr, corfforol, garw a oedd yn gweithio yn y diwydiant glo, haearn, copr a tun. Roeddynt yn chwarae gêm ffyrnig a chyflym. Dechreuodd blaenwyr o’r cymoedd chwarae dros Gymru. Sam Ramsey ( Treorci), Dai Evans ( Penygraig), Dick Hellings a 10
William Alexander (Llwynypia). Bathwyd term newydd, sef ‘Blaenwr o’r Rhondda.’ Blaenwr mawr, caled, garw a chydnerth. Doedd dim rhaid dod o’r Rhondda i fod yn un ohonynt. Doedd neb yn nodweddu’r math yma o chwaraewr yn fwy na David Jones o Dynewydd. Dyma Alun Wyn Jones ei ddydd. Roedd Dai ‘Tarw’ Jones yn dal, yn drwm ac yn daclwr arbennig o gadarn. Chwaraeodd dros glybiau Treherbert ac Aberdâr. Enillodd ei gap cyntaf ym 1902 yn erbyn Lloegr yn Blackheath. Cadwodd ei le yn y tîm yn erbyn Yr Alban ac Iwerddon pan enillodd Cymru y Goron Driphlyg a’r Bencampwriaeth am y trydydd tro. Roedd yn aelod o dîm Cymru enillodd y Goron Driphlyg a’r Bencampwriaeth eto ym 1905 a chwaraeodd yn y tîm a drechodd Seland Newydd yn yr un flwyddyn. Yn hwyrach yn ei yrfa newidiodd i chwarae Rygbi’r Gynghrair i dîm Merthyr Tydfil. Ym 1908 roedd yn aelod o dîm Rygbi’r Gynghrair Cymru a faeddodd Seland Newydd yn Aberdâr. Fe oedd y chwaraewr cyntaf erioed i ennill yn erbyn Seland Newydd yng ngêm yr undeb a gêm y gynghrair. Ganwyd Dai ‘Tarw’ yn Nhynewydd ym 1881 i Griffith a Catherine Jones, yn un o bump o blant. Fel ei dad, aeth i weithio dan ddaear, yna fel plismon ac yna fel tafarnwr, yn cadw Gwesty’r Castell yn Nhreherbert. Ymunodd â’r Gwarchodlu Cymreig yn ystod Y Rhyfel Mawr. Cafodd ei anafu’n ddrwg ym Mrwydr Y Somme, can mlynedd yn ôl. Effeithiodd yr anaf ar ei iechyd gweddill ei fywyd. Bu farw yn Aberdâr ym 1933 yn 52 mlwydd oed. Mae’r Rhondda wedi cynhyrchu nifer o flaenwyr ardderchog ers dyddiau David Jones. Bechgyn fel Eddie Thomas, Adrian Owen, Paul Knight a Steve Evans. Chwaraewyr mawr, cryf, garw yn llinach David Jones. Ond, dim ond un tarw sydd. Dai ‘Tarw’ Jones.
YSGOLION YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com
Cymer yn cefnogi Eisteddfod y Cymoedd
Llongyfarchiadau i’r disgyblion hynny fu’n ein cynrychioli yn Eisteddfod y Cymoedd yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn Eisteddfod lwyddiannus iawn a dymunwn ddiolch i’r trefnwyr am y cyfle i’n disgyblion i rannu eu talentau! Dyma ganlyniadau’r Cymer Morgan James (Bl.13) – 1af yn yr Unawd dros 15 Megan Sass (Bl.11 ) 2il yn yr Unawd dros 15 Dafydd Veck (Bl 9) – 2il yn yr Unawd dan 15 Mia Cradle – (Bl 9) – Cystadlu yn yr Unawd -15 Llongyfarchiadau i chi gyd! 11
YSGOLION
Eisteddfod y Cymoedd
YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA
CYMER YN CYRRAEDD ROWND DERFYNOL CYMRU– SIARAD CYHOEDDUS
Llongyfarchiadau i’n tîm Siarad Cyhoeddus, ar gyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth genedlaethol y Rotari unwaith eto eleni. Fe fydd y tri – Seren Farrup, Evie Connolly ac Elis Macmillan, yn ein cynrychioli yn y rownd derfynol a gynhelir ar 21ain o Dachwedd yn y Senedd yng Nghaerdydd. Ry’n ni’n falch iawn o’r tri ohonoch!
Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru
Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN 12
YSGOLION