Glorantachwedd17

Page 1

y gloran

20c Day , 6 Mehefin, ar ôl hwylio o Gosport. Dilynnodd David nhw rai diwrnodau'n ddiweddarach o ddociau Tilbury, Llundain ac yntau'n rhan o dîm oedd yn gyfrifol am yr holl offer trwm. Cyrhaeddodd Ffrainc rai dyddiau ar ôl 6 Mehefin 1944 ac yn rhyfedd iawn, yn wahanol i'r unedau a laniodd gyntaf, chawson nhw ddim colledion.

Ar dir Ffrainc a Gwlad Belg Ymsefydlodd y milwyr ar y glannau ger Benesavair am 10 niwrnod cyn symud i mewn i'r wlad gan greu nifer o gadarnleoedd cyn lledu ymhellach i mewn i'r berfeddwlad. Dywedodd David na welodd e ryw lawer o Almaenwyr. Un diwrnod, fodd bynnag, bu rhaid iddo fynd ar feic modur i gywiro'r system ffonio gan fod gynnau un uned yn tanio i'r cyfeiriad anghywir. Aeth ar goll a dywedodd y gallai fod wedi gyrru'n syth i diriogaeth ym meddiant yr Almaenwyr onibai bod aelod o'r Heddlu Milwrol wedi ei stopio a'i droi i'r cyfeiriad iawn! Rhyddhawyd Paris, 25 Awst 1944 gan fyddin yr Unol Daleithiau ac ychydig wedyn roedd y Gwarchodlu Cymreig yn rhyddhau Brwsel. Aeth David i Wlad Belg yn eu sgil ac mae'n cofio ofn y bobl gyffredin oedd wedi dioddef yn enbyd o dan law y Natsïaid. Dywedodd un hen ŵr wrtho, "Mae'r bobl 'na (sef y Natsïaid) wedi fy amddifadu o wyth mlynedd o'm bywyd, ac os na chadwch chi lygad arnyn nhw, fe wnân nhw hynny eto." Gan fod llawer o dai wedi eu difrodi a'r cyflenwad o ddŵr a thrydan wedi ei dorri, roedd aelodau o uned David yn teimo'n falch eu bod yn gallu helpu pobl leol trwy eu hailgysylltu â'r gwasanaethau hollbwysig hyn. Ryw bedwar diwrnod ar ôl iddynt ryddhau pentref arbennig, cawson nhw sioc wrth i filwr Prydeinig ymddangos o'i guddfan a dod atynt. Roedd e wedi cael lloches gan deulu lleol a'i cuddiodd am wythnosau lawer er eu bod nhw wedi mentro eu bywydau wrth wneud

DAVID HOWELL Erbyn hyn, mae David Howell o Drerci'n 96 oed ac yn un o'r ychydig sy'n dal yn fyw a ymladodd yn yr Ail Ryfel Byd. Mae ei gof yn glir iawn a da oedd cael cyfle i rannu rhai o'i brofiadau wrth iddo wasanaethu yn Ewrob ac wedyn yn y Dwyrain Canol.

Ddiwedd 1941 roedd David Howell newydd adael Ysgol Ramadeg Pentre ac yn aros am alwad i ymuno â'r fyddin. Yn 19 oed, cafodd ei hun yn mewn gwersyll yn Lincoln, yn derbyn chwe wythnos o hyfforddiant sylfaenol yn y Royal Ordenace Co cyn cael ei symud i Northampton i ddysgu mwy am y defnydd o radar a ddaeth mor bwysig wrth i'r rhyfel fynd yn ei blaen. Oddi yno, fe'i trosglwyddwyd i'r Alban a threuliodd y rhan fwyaf o 1942-3 yno yn ardal Strathclyde. Fodd bynnag, yn gynnar yn 1944 fe'i symudwyd i dde Lloegr i baratoi ar gyfer y cyrch pwysig ar Normandi. Glaniodd yr uned gyntaf ar D-

parhad ar dud 3


HER GOSOD CYLLIDEB Unwaith eto daeth yn amser i Gyngor RhCT ystyried ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelsom y Cyngor yn gorfod torri ei wariant ar nifer o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau dydd a chyfleusterau hamdden. Arweiniodd hyn at grwpiau lleol yn gorfod derbyn y cyfrifoldeb am

gyfleusterau fel pyllau padlo, caeau chwarae a llyfrgelloedd mewn rhai ardaloedd ac mae'n dda dweud bod hyn wedi profi'n llwyddiant mewn sawl achos. Roedd disgwyl y byddai rhaid gwario £18m yn llai y flwyddyn ariannol nesaf, 2018-19, ond oherwydd gwell setliad na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru gallwn ddisgwyl gwneud arbedion llai o tua £3.8m. Er bod hyn yn newyddion da, mae'n mynd

golygyddol

2

Cynllun gan High Street Media

yn fwyfwy anodd arbed arian pan yw'r toriadau a wnaed yn barod bron â chyrraedd yr asgwrn. Bydd dod o hyd i £3.8m eto yn dipyn o gamp a bydd rhaid i bob un ohonom ystyried sut i wneud hynny heb niweidio pobl sydd eisoes wedi dioddef cymaint oherwydd toriadau. Nid mater i gynghorwyr yn unig yw dod o hyd i'r atebion ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cyfle inni i gyd fynegi ein barn. Yn ôl ei arfer, bydd Cyngor RhCT yn ymgyng-

hori â'r cyhoedd mewn sawl ffordd. Yn un peth, bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y sir. Yn ein hardal ni, cynhelir cyfarfod yn y Parc a'r Dâr ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr rhwng 6.30 - 8.30pm a bydd modd inni fynegi ein barn ymhellach trwy alw i mewn i Ganolfan Chwaraeon Ystrad Rhondda, ddydd Mawrth, 28 Tachwedd rhwng 5 - 7pm neu i Lyfrgell Treorci, ddydd Llun, 11 Rhagfyr rhwng 2 4pm. Yn fwy diddorol, mae modd i bawb osod ei gyllideb


ei hun trwy ymweld â https://rctcouncil.budgetsimulator.com/. Trwy wneud hyn bydd modd inni ymgodymu â'r un problemau â'n cynghorydd lleol. Gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn gwneud hyn ac y bydd syniadau newydd yn dod i'r amlwg i ddatrys problem sy'n mynd i effeithio ar bob un ohonom. Rydym yn ddigon beirniadol o'n cynghorwyr ar brydiau. Wel, dyma gyfle i gynnig rhywbeth gwell. Golygydd

2017

y gloran

YN Y RHIFYN HWN

David Howell..1/3 Golygyddol...2 Menter iaith...3 Dirgelwch y Gadair...4 Newyddion Lleol ...5 a 7-8-9 Byd Bob/Cartwn/ Cyw...6-7 Ceri Llywelyn...10 Ysgolion...11 Ysgol GG Bronllwyn...12

David Howell

hynny. Yr Almaen a'r Dwyrain Canol Bwrw ymlaen i mewn i'r Almaen wedyn a synnu at y difrod. Roedd cyflwr y bobl gyffredin yn druenus. Mewn mannau roedd sigarennau wedi cymryd lle arian ac roedd gwragedd y barod i roi unrhyw beth am nodwyddau o bopeth er mwyn trwsio eu hychydig ddillad! Dywedodd

Dathliad 25 mlynedd MENTER IAITH RHONDDA CYNON TAF

Sefydlwyd Menter Taf Elai ym 1992 yng nghartref Guto Roberts. Mae llawer o newidiadau a datblygiadau wedi bod ers y dyddiau cynnar hynny. Newidiodd y fenter i fod yn elusen gofrestredig oedd yn gweithio ledled y Sir ym 1996. Mae wedi newid lleoliad 3 gwaith, wedi cael 4 Prif Weithredwr gwahanol ac wedi sefydlu llawer o wasanaethau a digwyddiadau arloesol dros y chwarter canrif ddiwethaf. Menter Iaith Rhondda Cynon Taf sefydlodd y gwasanaethau plant cyfrwng Cymraeg cyntaf i ddarparu clybiau

David bod ardal afon Rhein yn adfeilion llwyr ond teimlai'n sicr fod ei ryfel ar fin dod i ben pan gafodd ei rif 'demob' ym mis Mehefin 1945. Ond siom a gafodd pan ddywedwyd wrtho bod y rhyfel yn para yn y Dwyrain Canol a'i fod yn ddigon ifanc ac yn ddigon ffit i wasanaethu ymhellach. Cafodd ei hun ar long oedd yn hwylio o Toulon a Alegsandria yn Yr Aifft.. Oddi yno, ymlaen i Balesteina lle y bu'n gwneud gwaith hynod o ddifalas ac undonog, sef gwarchod rhag mewnlifiad o Iddewon oedd am adfeddiannur tir. O'r diwedd, cafodd wybod bod ei gyfnod o wasanaeth wedi dod i ben a rhyddhad oedd cael ei hun yn ôl ar long ym mhorth-

gofal ôl Ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod gwyliau ysgol i blant Cynradd. Mae’r gwasaneth hwn yn dal i fynd o nerth i nerth ac yn awr yn cael ei ddarparu mewn nifer o Siroedd eraill. Mae wedi rhedeg gwasanaeth cyfieithu, gwasanaeth gwirfoddoli, gwasanaeth ieuenctid ac wedi sicrhau digwyddiadau teuluol a chymunedol llwyddianus iawn. Y mwyaf adnabyddus ohonynt wrth gwrs yw Parti Ponty a gafodd ei atgyfodi yn 2015.

Dewch i ddathlu Penblwydd y fenter yn 25ain ar y 10ed o Dachwedd yn y Miwni, Pontypridd. Bydd yn noson o adloniant amrywiol o safon uchel gan gynnwys Côr Godre’r Garth, H a’r

ladd Alegsandria ac ymlaen oddi yno i Aldershot. I ddathlu diwedd eu gwasanaeth milwrol, ar y bore olaf roedd pob milwr yn cael brecwast da, £10 yn ei boced a siwt newydd o ddillad! Teimlai David fel brenin, ond pan gyrhaeddodd Dreorci, ffansïodd ei dad y siwt a chafodd David ddim cyfle i'w gwisgo wedyn!, Yn sicr, erbyn 1946, roedd y milwr ifanc o Dreorci wedi cael profiadau rhyfedd, profi tristwch a hapusrwydd a chyfle i godi nifer o sgiliau technegol newydd. Y rhain a'i galluogodd maes o law i ennill gradd allanol Prifysgol Llundain mewn peirianneg a mynd ymlaen i gael gyrfa fel darlithydd yng Ngholeg Technegol Casnewydd.

band ac eitemau gan glybiau ac ysgolion y Sir. Mae Mei Gwynedd wedi bod yn brysur yn gweithio gyda phob ysgol yn y Sir i greu un cân dorfol a gaiff ei lansio a’i pherffromio ar y noson. Bydd CD o’r gân a chaneuon gwreiddiol ein bandiau ysgolion cyfun ar werth am ddim ond £3 yr un. Os am ddod i ymuno yn y dathlu, archebwch docyn o Swyddfa docynnau y Miwni. Archebu tocynnau £5 y tocyn – Oedolion Plant am ddim – Mae angen rhoi gwybod I’r Miwni am unrhyw blant sy’n mynychu sydd ddim yn perfformio. Ar lein: www.ticketsource.co.uk/date/HEM DIK Ffoniwch y Miwni: 01443 485934 3


Aneira Jones, rheolwraig High Street Social gyfa’r Gadair

DIRGELWCH Y GADAIR

Os ydych chi wedi bod yng nghaffi High St Social, Treorci yn ddiweddar, fe welwch fod yno gadair eisteddfodol newydd. Cadair Eisteddfod Treorci 1951 ydyw,ond sut y cyrhaeddodd yno. Ann Barrett ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig y Rhondda a dderbyniodd alwad gan berson o Bencoed yn holi a fyddai diddordeb gan ryw gymdeithas neu gapel yn Nhreorci mewn rhoi cartref i'r gadair a oedd mewn capel Saesneg ym Mhencoed oedd ar fin cael ei gau. Trosglwyddodd Mrs barrett y neges i'r Parch Cyril Llewelyn ac ef gafodd y 4

syniad o'i roi yn y caffi lle y byddai llawer yn ei gweld. Roedd Eisteddfod flynyddol Treorci yn un o'r rhai mwyaf yn y de ac yn cael ei chynnal am ddau ddiwrnod dros y Sulgwyn. Ond pwy enillodd y gadair? Ar ôl gwneudychydig o ymchwil, cafwyd taw'r bardd buddugol oedd Tegwen Lewis o Lanharan. Merch fferm, 36 oed oedd hi a fedrai'r Gymraeg ond a gyfansoddai fel arfer yn Saesneg. Fe'i ganed yn 1915 a bu farw yn 1988. Roedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd ac yn ystod ei gyrfa dywedir iddi ennill 29 o gadeiriau

a 3 coron. Mae'n bosib felly taw am gerdd Saesneg y cafodd ei gwobrwyo yn Nhreorci. Yn y Rhondda Leader, ceir llun ohoni yn eistedd yn ei chadair yn derbyn llongyfarchiadau W. P. Thomas, oedd wedi bod yn ysgrifennydd yr Eisteddfod ers 73 o flynyddoedd. Hefyd yn llun mae Teify Jones, Treorci a'r Parchedigion Haydn Lewis ac Alban Davies (?), Ton Pentre. Syr Ben Bowen Thomas o Ystrad Rhondda, Ysgrifennydd Adran Gymraeg y Weinyddiaeth Addysg oedd llywydd yr eisteddfod a phlediodd yn ei araith dros sicrhau

cysylltiad agosach rhwng yr eisteddfodau rhanbarthol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Wrth edrych ar y canlyniadau, diddorol oedd gweld y cystadlu brwd rhwn aelwydydd Urdd Gobaith Cymru Treorci a Threherbert. Cyhoeddodd Tegwen Lewis nifer o gyfrolau o farddoniaeth Saesneg ac mae cloc er cof amdani wedi ei osod ar adeilad yr Old Blacksmith's yn Llanharan. Felly, dyna ddirgelwch perchnogaeth y gadair wedi ei datrys. Cofiwch bicio i mewn i'r High St Social i'w gweld.


newyddion lleol

CAFFI'R STAG AR EI NEWYDD DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN WEDD ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA TREHERBERT

Mae Arwydd Nathan Morley wedi colli ei apêl i sefydlu adeiladau fferm ar gyfer hwyaid ac ieir ar domenni Tynewydd. Roedd Arolygaeth Cynllunio'r Cynulliad yn barnu y bysai'r adeiladau tu allan i’r ffin datblygu ac roedd peryg i drafnidiaeth wrth osod y fynedfa ar heol y Rhigos.

Mae Clwb Bowlio Treherbert nawr ar agor trwy’r flwyddyn ym mhafiliwn y parc. Darparir llain bowlio, a llain curling ar olwynion. Hefyd mae lle i blant chwarae gemau bwrdd. Mae’r pafiliwn ar agor i oedolion ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn o 11.30 i 1 o’r gloch ac i blant ar ddydd Mawrth o 4.30 i 6 o’r gloch. Diolch i Clive a Christine Sheridan am eu holl waith dros y clwb. Ar y 29ain o Fedi cafodd dau berson eu bedyddio yng nghapel Blaenycwm, sef Emily Crabbe o Tynewydd a Linda Davies o Flaencwm. Ar ôl y gwasanaeth cynhaliwyd te yn y festri. Mae'n flin gennym gofnodi marwolaeth un o’r trigolion henaf Blaencwm sef Mrs Nancy Jones o Graig y

Ddelw yn 93 oed. Cydymdeimlwn a’i meibion Terry, Mel a Dennis a’r holl deulu. Deallwn fod Dr Owain Greville o Syrjeri Tynewydd wedi cymryd swydd yn Awstralia. Mae'n ddrwg gennym golli meddyg o Gymro Cymraeg ond yn diolch iddo am ei wasanaeth ac yn dymuno'n dda iddo i'r dyfodol.

TREORCI

Mae ei holl ffrindiau'n dymuno gwellhad Llongyfarchiadau i Radio Rhondda sydd newydd glywed gan Offcom eu bod wedi ennill trwydded i ddarlledu ar FM. Mae 'r orsaf wedi ei lleoli yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci. Diolch i Lee Cole a'r Cyng. Emyr Webster am eu holl waith. Bydd Radio Rhondda'n cynnal dawns de i godi arian at yr achos rhwng 1-4pm ar 13 Rhag. yng Nghlwb Rygbi Treorci. Tocynnau £8.

Mae stampiau'r Sgowtiaid ar gael yn y siopau lleol ar gyfer anfon cardiau Nadolig. Y pris eleni yw 20c ond rhaid postio'r car-

diau erbyn 1 Rhagfyr.

Ddydd Sul, 5 Tachwedd, cynhaliwyd arddangosfa Tân gwyllt yng ngorsaf dân Treorci ynghyd â BBQ a stondinau eraill.

Nodwyd Sul y Cofio ar 5 Tachwedd gyda chyngerdd yn y Parc a'r Dâr gyda Band Catrodol y Cymry Brenhinol ynghyd â chôr meibion Urker Zegers o'r Iseldiroedd. Cynhelir dosbarth cadw'n heini ar gyfer pobl hŷn yn Neuadd y Dderwen bob prynhawn dydd Mercher am 2.30pm Am ragor o fanylion, ffoniwch 774209.

Tristwch yw cofnodi marwolaeth Eirwen Morgan, Y Strud Fawr. Roedd Eirwen yn berson hoffus oedd bob amser â gwên ar ei hwyneb. Cydymdeimlwn gyda'r holl deulu yn eu colled. Nos Fawrth, 7 Tachwedd cynhaliwyd cyngerdd yn Parc a Dâr gyda'r elw yn mynd at Gymdeithas Dwnel y Rhondda. Yn cymryd rhan roedd nifer o gorau gan gynnwys Côr Meibion

EICH GOHEBWYR LLEOL: Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi eisiau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN Treherbert: GERAINT a MERRILL DAVIES Treorci: MARY PRICE

Cwmparc: NERYS BOWEN Y Pentre: MELISSA BINET-FAUFEL

Ton Pentre a’r Gelli: HILARY CLAYTON GRAHAM JOHN Pendyrus, Côr y Cwm a Chôr yr Ysgol Gyfun Treorci ynghyd â band pres Lewis Merthyr. Yr unawdydd oedd Sydney Richards a chyflwynwyd yr artistiaid gan Beverley Humphreys.

Clare Hingott a Thriawd Graham Watkins oedd yn difyrru aelodau'r Clwb Jazz ddiwedd Hydref yng Nghlwb Rygbi Treorci.

Cynhaliodd Clwb Rotari'r Rhondda arwerthiant o anrhegion Nadolig a gwaith crefft yn Neuadd Eglwys San Matthew ddiwedd mis Hydref

PARHAD ar dudalen 8

5


fy ng-

BYD BOB

Un o broblemau mawr ein cyfnod yw llygredd o bob math. Y mis hwn, mae BOB EYNON yn sôn am y llygredd yn ein hafonydd a'n moroedd.

Un haf ar ddechrau'r chwedegau roeddwn i'n teithio o gwmpas gogledd Sbaen gyda chariad o Northampton oedd yn astudio Sbaeneg ym Mhrifysgol Madrid. Roedden ni'n bodio ein ffordd o gwmpas mewn ceir a lorïau. Roedd gan

hariad wallt golau ac roedd hi braidd yn dlos ac felly, fel arfer, doedd dim rhaid immi aros yn rhy hir am lifft. Fe gyrhaeddon ni Leon ar brynhawn poeth iawn Roedd afon hyfryd yn llifo drwy'r dre ac fe benderfynon ni aros yno am sbel a nofio ynddi. Fe dreulion ni rai oriau hyfryd ac yna dod o hyd i westy am y nos. Wedyn, ar ôl cymryd tro o gwmpas bariau'r dref, yn ôl â ni i'r gwesty lle roedd y perchenogion yn cael swper. Roedden

nhw'n garedig iawn a chyn hir roedden ni'n rhannu dysglaid o frithyll lleol gyda nhw. Rwy'n cofio manylion y diwrnod hwnnw'n iawn, roeddwn i mor hapus. Ryw ugain mlynedd yn ddiweddarach roeddwn i'n siarad ag athrawes Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Treorci Pan ddywedodd hi ei bod hi wedi trulio rhai blynyddoedd yn Leon, soniais i wrthi am fy ymweliad hyfryd, y nofio a'r brithyll. "Wel, fyddech chi ddim yn nofio yn yr afon nawr," dywedodd hi, "nac yn bwyta ei brithyll chwaith. Mae cwmni cemegol wedi achosi llygredd ym mhobman." Rai blynyddoedd yn ôl, roedd ci o'r enw Sid 'da fi. Un diwrnod fe aeth e'n gloff. Roedd ei bawen y gwaedu, felly fe driniais i e â dŵr hallt am rai dyddiau. Erbyn y penwythnos roedd ei

bawen yn llawer gwell, felly fe benderfynais i fynd ag e i Benarth fel trêt. Roedd hynny'n gamgymeriad. Fe ruthrodd Sid i mewn i'r môr a dechrau nofio. Dim ond y pryd hynny y sylwais i fod y dŵr yn frown ac yn frwnt. Drannoeth, pan godais i, sylweddolais i fod y ci mewn poen a bod gwres arno fe. I ffwrdd â ni at y milfeddyg, jyst mewn pryd i achub coes y ci acos roedd y bawen wedi troi'n heintus. Rydw i newydd glywed ar y radio bod llygredd yn dechrau effeithio ar greaduriaid y môr. Mae gwyddonwyr yn ofni y byddwn ni'n bwyta pysgod afiach. Fydd dim rhaid ichi deithio i Leon neu Benarth i ddod o hyd i lygredd. Fe fydd ar gael yn eich archfarchnad neu yn eich siop bysgod a sglodion leol.

CHWILIO AM ANRHEG NADOLIG WAHANOL? Mae llawer o bobl sydd â'u gwreiddiau yn y Rhondda, ond sydd bellach yn byw ar draws Cymru a Lloegr, yn derbyn Y GLORAN bob mis drwy'r post. Beth am danysgrifio dros ffrind neu aelod o'ch teulu? Gallwch wneud hyn am £10 y flwyddyn trwy ffonio 01443 - 435563

EIN CARTWN Y MIS GAN SIÔN TOMOS OWEN

6


Cyw yn dod â hwyl a hud y Nadolig i Gwm Rhymni! Mae Cyw a'i ffrindiau yn dod i'r ardal cyn hir fel rhan o daith i ddymuno Nadolig Llawen i blant ar hyd a lled Cymru.

Bydd rhai o gyflwynwyr a chymeriadau hoffus S4C - Huw, Elin, Ben Dant a’i ffrind Cadi, Seren o blaned Asra ac, wrth gwrs, Cyw ei hun - yn dod i Goed Duon ar 28 o Dachwedd ac maen nhw'n eich gwahodd chi i ymuno â nhw yn yr hwyl! Bydd dwy sioe yn cael eu cynnal yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Coed Duon, ar 28 o Dachwedd, ac mae’r sioeau yn dechrau am 10.15 neu 1.45. I brynu eich tocyn, dilynwch y ddolen ar wefan s4c.cymru/cyw

Mae'n bosibl archebu tocynnau ar gyfer grwpiau os ydych chi'n dymuno trefnu trip ar gyfer eich ysgol, mudiad meithrin neu grŵp chwarae. Mae croeso mawr i bawb yn Sioe Cyw! Bydd ffi bwcio o £1.00 ar bob archeb sy’n cael ei wneud dros y ffôn neu ar-lein. Cysylltwch â Galeri ar 01286 685 222 os gewch unrhyw anawsterau.

Mae Sioe Nadolig Cyw yn boblogaidd iawn pob blwyddyn a'r tocynnau yn gwerthu'n gyflym, felly peidiwch ag oedi!


gyda'r elw'n mynd at achosion da.

Nos Fercher 8 Rhagfyr bydd Cantorion Richard Williams, a chorau Ysgol Gyfun ac Ysgol Gynradd Treorci yn ymuno a band y Parc a'r Dâr i ddathlu 'Gogoniant y Nadolig yn thear y Parc a'r Dâr gan ddechrau am 7pm.

Da yw gweld bod Mrs Kathleen Evans, Stryd Luton wedi gwella ar ôl ei llawdriniaeth ddiweddar ac wedi ailafael yn ei gweithgareddau gyda'r WI, yr Henoed a chapelvHope, Y Gelli.Cofion gorau at Mrs Anne Evans, Tŷ Pencelli. un o ddarllenwyr selog y Gloran, sydd wedi bod yn gaeth i'w chartref ers

8

tro. Bu Ann yn aelod brwd o'r Inner Wheel a'r Clwb Golff. Pob dymuniad da iddi.

Roedd yn flin gan bawb dderbyn y newyddion am farwolaeth Mr Emrys Vaughan, Stryd Regent ar ôl dioddef cystudd blin iawn dros nifer o flynyddoedd. Bu farw yn Ysbyty Cwm Rhondda lle y derbyniodd ofal tyner a thrylwyr dros ddwy flynedd. Gweithiodd Emrys drwy gydol ei oes i gynghorau'r Rhondda a Morgannwg Ganol. Cydymdeilwn â'i wraig,Phyllis, ei blant Rhian a Geraint a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Cynhaliwyd cwis, nos Wener, 27 Hydref yn

nhafarn y RAFA gan Gymdeithas Ddinesig y Rhondda. Diolch i Ann Barrett am drefnu a chyflwyno noson mor ddymunol a chodi arian at yr achos. Dolch hefyd i siopwyr Treorci am roi gwobrau'r raffl.

CWMPARC

Llongyfarchiadau calonnog i'n gohebydd, Nerys Bowen ar ennill

Gwobr Ann Butler

am wneud y cynnydd mwyaf ymhlith myfyrwyr yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru. Defnyddiodd y wobr o £150 i brynu cliniadur newydd teclyn defnyddiol iawn i ohebydd papur newydd!. Gol. Ar ddydd Calan Gaeaf,

31 Hydref, cynhaliwyd sesiynau o gerfio pwmpenni i blant yn Neuadd y Parc. Wedyn aeth rhai ohonynt â'u gwaith i lawr i Barc Treorci i gystadlu am y bwmpen orau! Mae tîm pêl droed ‘A’ Ysgol y Parc wedi bod yn llwyddianus yn ddiweddar, yn eu gwisgoedd pêl droed eu newydd, a brynwyd gydag arian o Gronfa'r Fferm Wynt. Enillon nhw 7-0 yn erbyn Bodringallt, a 3-1 yn erbyn Tim ‘B’ Treorci. Mae’n ddechrau addawol i’r gynghrair. Mae’r ysgol hefyd wedi bod yn llwyddianus yn rygbi, gan ennill yn rownd derfynnol eu ‘mini twrnamaint’ yn erbyn Ton Pentre. Mae’r ysgol yn falch iawn o dderbyn Gwobr y


Faner Werdd am yr ail dro. Diolch i Miss Helga Lewis a Chyngor Eco’r ysgol am eu gwaith i gadw’r ysgol yn ‘wyrdd’.

Gyda thristwch mae Ysgol y Parc yn dweud ffarwel i Mr. Christian George, sy’n gadael i ddilyn galwedigaeth gydag elusen plant. Mae Mr. George wedi bod yn aelod gwerthfawr a phoblogaidd o staff yr ysgol, Fe'i cydnabyddwyd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru y llynedd, pan enillodd e’r wobr am Hyrwyddo Lles a Chymhwysiant Disgyblion.Dymuna pawb yn yr ysgol bob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.

Bydd Ffair Nadolig yn Neuadd Eglwys San Sior ar ddydd Gwener, 1 Rhagfyr o 3:00pmymlaen.

Ar 13 Hydref cafodd Daphne Wilkes, Teras Vicarage, doriad gwallt ‘dewr’ yn salon Naturelles, Treorci. Eillodd pen Daphne y wobr am godi arian dros Nyrsys Macmillan. Cododd dros £2600. Da iawn Daphne!

Y PENTRE

Brynhawn Mercher, 1 Tachwedd roedd clychau' eglwys San Pedr yn cael eu canu Roedd hi'n braf eu clywed am nad ydynt yn cael eu canu'n aml y dy-

ddiau hyn. Mae aelodau'r eglwys hefyd yn edrych ymlaen at gyngerdd ar y cyd rhwng Band y Cory a Chôr Meibion Treorci a fydd yn cael ei chynnal yn yr eglwys, nos Iau, 7 Rhagfyr. Ocynnau £10 a £12, £6 i blant.

Daeth marwolaeth sydyn Esme Holmes, Tŷ Siloh yn sioc i bawb yn yr ardal. Roedd Esme, oedd yn dod yn wreiddiol o Dreorci, yn aelod gweithgar o'r gangen o'r WI ac o Glwb yrHenoed yno ac yn gyn-warden yn Nhŷ Siloh. Roedd hi'n wraig gymwynasgar a dymunol a oedd yn uchel ei pharch gan bawb. Cydymdeimlwn â'i meibion, Ian ac Anthony a'r teulu oll yn eu profedigaeth.

Ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd gan ddechrau am 11a.m. bydd Eglwys San Pedr yn cynnal ei Marchnad Nadolig. Bydd yno stondinau o bo math a raffl gyda gwobr gyntaf o £50

TON PENTRE

Mae'n flin iawn gennym gofnodi marwolaeth un o breswylwyr mwyaf poblogaidd Tŷ Ddewi, Mrs Carol Freeby yn 60 oed ar ôl dioddef cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr. Bu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg am rai wythnosau cyn marw. Yn berson hynod o hael, gwelir eisiau Carol yn fawr. Fe'i clad-

dwyd ym mynwent Treorci ar 16 Tachwedd gyda'r gwasanaeth yng ngofal y Tad Haydn.

Yn ddiweddar agorwyd siop goffi newydd o'r enw 'The Cottage' yn Stryd yr Eglwys ac yn barod mae'n ennill ei phlwy ymhlith trigolion yr ardal. Yn ogystal â darparu coffi cynigir dewis helaeth o brydau ysgafn a phwdinau. Dymunwn yn dda i'r perchen, Josie Leigh a'i mam, Karen Candie Humphries yn eu menter newydd.

Ddydd Sadwrn, 9 Rhagfyr, rhwng 12 - 4pm bydd Canolfan Gymunedol Ton a'r Gelli yn cynnal ei Ffair Nadolig. Bydd amrywiaeth o stondinau ar gael a bydd Siôn Corn yn dosbarthu anrhegion i'r plant - £2. Bydd hefyd fwyd a diod ar gael. Yn ddiweddar, mwynheuodd aelodau Cameo achlysur dymunol iawn yn nhafarn y Windsor - y tro cyntaf dan ei enw newydd. Bydd y cyfarfod nesaf ar 29 Tach. yn yr Eglwys Gynulleidfaol Saesneg pryd y bydd disgyblion Ysgol Gynradd Ton yn canu carolau. Llongyfarchiadau i Kevin Richards sydd wedi ei benodi'n rheolwr tîm pêl-droed Ton Pentre. Pob llwyddiant iddo a'i dîm am weddill y tymor. Rhwng 6-9 Rhagfyr, bydd cwmni theatr Act 1 yn cyflwyno Elf Jr, sioe

gerdd ar gyfer y Nadolig yn y Ffenics gyda'r perfformiadau yn dechrau am 7.15pm

Ar 8-10 Tachwedd, cafodd cefnogwyr theatr fyw yr ardal gyfle i weld unwaith eto gomedi boblogaidd y dramdydd lleol Frank Vickery, 'One O'clock from the House' yn cael ei chyflwyno gan gwmni Theatremask.

Llongyfarchiadau i Mr Islwyn Morgan, Stryd Matexa ar ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed yn ddiweddar. mae Islwyn, sy'n adnabyddus iawn yn yr ardal, wedi bod yn aelod ffyddlon o Gôr Meibion Treorci am bron 70 mlynedd. Yn ddiweddar, cafodd ei holi gan Cerys Matthews ar y rhaglen deledu nosweithiol. 'The One Show' pan berfformiodd y côr ar y rhaglen o Borthcawl. I ddathlu'r achlysur, trefnwyd noson gan ei ffrindiau a'i gydweithwyr yng nghlwb y Maendy a chafwyd dathlu ymhellach yn y New Inn, Rhigos gydag aelodau ei deulu a ddaeth o bob rhan o Gymru a Lloegr.

Cydymdeimlwn yn gywir iawn â theuluoedd y canlynol a fu farw'n ddiweddar: Mrs Hilary James, Heol Maindy, Mrs Ruby Thomas, Stryd Kennard, Mrs Diane Martin, Stryd yr Eglwys a Mr David Curtis, Heol Gelli. 9


YSTRAD RHONDDA 24 TREORCI 6 Adroddiad Ceri Llewelyn o'r gêm fawr

Ar ddydd Sadwrn 4 Tachwedd cyfarfu tîmau rygbi Ystrad Rhondda a Threorci ym Mharc Gelligaled, Ystrad. Daeth torf fawr ynghyd i wylio dau dîm o’r Rhondda sy’n cystadlu’n gyson ar frîg Adran Gyntaf cynghrair Undeb Rygbi Cymru. Er bod y ddau dîm yn hynod lwyddianus yn yr adran, maent yn dilyn llwybrau gwahanol. Mae Ystrad yn rhoi cyfle i chwaraewyr o bob cwr o’r Rhondda, o glybiau fel Wattstown, Ferndale a Phenygraig a hefyd maent yn denu chwaraewyr disglair o

Goleg y Cymoedd o du allan i’r cwm fel Kurtis Williams i chwarae yn yr Adran Gyntaf. Ar y llaw arall mae Treorci yn dyrchafu chwaraewyr o’u tîmau ieuenctid llwyddianus.

Treorci sgoriodd y pwyntiau cyntaf wrth i’w maswr Jordan Lloyd gicio cic gosb. Ar ôl cyfnod o bwyso lledodd Ystrad y bêl ar hyd y linell gydag Aron Clarke a Kurtis Williams yn cyfuno i greu cais yn y gornel. Sgoriodd Ystrad eto ar ôl ugain munud. Sgarmes rhydd yn agos i’r linell. Â’r hanner yn nesâu dyma Treorci yn

Clybiau Rygbi YSTRAD RHONDDA a THREORCI

10

defnyddio’r blaenwyr i gario mwy o’r bêl ond heb lwyddiant. Yn amlwg, roeddynt yn gweld eisiau rhedwyr cryf fel Rhys Gillard, Robert Jones, Garyn Daniel a Meurig Davies oedd wedi methu chwarae yn y gêm. Y sgôr ar yr hanner oedd 12 i 3 i Ystrad.

Gyda rhediadau cryf gan Hywel Thomas a Cory Dunn ar ddechrau’r ail hanner, dechreuodd Treorci chwarae yn hanner Ystrad. Yn fuan, ciciodd Jordan Lloyd gic gosb arall. Yna, dyma Chris Clayton, cyn chwaraewr Treorci a Phontypridd, yn rhedeg

o’i hanner ei hun a llwyddodd Ystrad i sgorio. Gyda symudiad ola’r gêm dyma blaenwyr y tîm cartref yn sgorio cais wrth iddynt wthio sgarmes rhydd dros y linell. Buddugoliaeth i Ystrad felly o 24 i 6. Ystrad sydd nawr ar frîg yr adran. Bydd y ddau dîm yma yn sicr o fod ar y brîg ar ddiwedd y tymor. Bydd tîmau’r brifddinas, Rhiwbeina, St. Joseph’s a’r Crwydriaid, yn siwr o herio Treorci ac Ystrad i’r bencampwriaeth. Pwy fydd yn ennill yr adran? Pwy a wyr?


YSGOLION CROESO I DDISGYBLION YGG BRONLLWYN!

llawn pobl a staff hyfryd. Rydw i wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol am 8 blynedd cyfan a dechreuais i yn y meithrin pan oeddwn i'n 3 mlwydd oed! Yn fy nheulu i mae yna lawer o Haia! Fy enw i yw bobl ond rwy'n byw efo Rosina ac rydw i'n 10 Dad, Mam, chwaer mlwydd oed. Yn y Cerys a brawd Griff. flwyddyn 2007 roeddwn i wedi cael fy nan- Mae gen i frawd a chwaer bach drygionus fon i'r byd gan storc arwrol o'r enw Bob yn y ond ar y llaw arall gallan nhw fod yn mis Gorffennaf. Rydw gariadus. Yr athrawes i'n byw yn Nhonyhardd a charedig sy'n fy pandy, ond symudais i dŷ fy nai am dipyn pan nysgu i yw Miss oeddwn i'n 2 oherwydd Williams. Mae Miss Williams wedi fy nysgu roedd fy nhŷ i 'di cael i am 2 flynedd ers gwaith arno i fod yn Blwyddyn 5 a nawr 6. mwy modern ac anhygoel! Dyma ffaith. Mae Rydw i'n hoffi dysgu efo hi oherwydd mae fy nhŷ i dros gan mlhi'n neis. wydd oed. Rydw i'n Rosina ddisgybl yn YGG Roberts-Morgan, Bl.6 Bronllwyn sydd yn Amser maith yn ôl roedd tywysog o'r enw Llywelyn ac roedd Llywelyn yn dda yn hela. Yn gynnar

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davison gyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

Mae tudalennau yr ysgolion o dan ofal MARIAN ROBERTS. Anfonwch eich deunyddiau ati hi os gwelwch yn dda marianroberts2@sky.com

un bore aeth i hela a gadael Gelert i warchod y babi. Yn sydyn, agorodd y drws a llamodd blaidd mawr du i fewn. Cododd Gelert ar ei draed a dechreuodd ysgyrnygu at y blaidd. "Paid a meiddio dod mewn yma," dwedodd Gelert. Ond doedd y blaidd mawr du ddim yn malio'r un blewyn. "Does gen i ddim ofn ci bach fel chdi," chwarddodd y blaidd. Y funud honno, cododd y babi a dechrau crio'n uchel. Yn sydyn, neidiodd Gelert am wddw'r blaidd a dechreuodd ymladd ac ymladd. Yn anffodus, disgynnodd y babi allan o'r crud. Mae'n ffodus na chafodd y babi ei frifo

oherwydd mae blanced trwchus drosto. Yn y diwedd, lladdodd Gelert y blaidd mawr. Yn anffodus, cyrhaeddodd Llywelyn adref a gweld y crud yn wag a gwaed coch dros geg Gelert. Gafaelodd Llywelyn yn ei gleddyf a lladd Gelert yn y fan a'r lle. Wedyn gwelodd y babi'n crio dan flanced. Sylwodd Llywelyn ei fod wedi gwneud camsyniad ofnadwy yn y diwedd. Claddwyd corff Gelert, ac yn wir i chi, os ewch chi am dro i bentre Beddgelert a cherdded ar hyd yr afon, byddwch chi'n gweld bedd Gelert. Brodie Davies Bl.4

11


BRONLLWYN

Billy Davies Dosbarth 2 Llun Myfi fy hun

BRONLLWYN

Evan Harries Dosbarth 2 Llun MYfi fy hun

12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.